Neidio i'r cynnwys

Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II (testun cyfansawdd)

gan Robert Owen, Pennal

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II (testun cyfansawdd)
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Robert Owen, Pennal
ar Wicipedia




Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader]

HANES METHODISTIAETH

GORLLEWIN MEIRIONYDD,

O'R

DECHREUAD HYD Y FLWYDDYN 1990.


——————♦♦——————

(CYFROL CANMLWYDDIANT.)

——————♦♦——————

GAN

Y PARCH. ROBERT OWEN, M.A., PENNAL,

——————

CYFROL II.

——————


DOLGELLAU:

ARGRAFFWYD A CHYHOEDDWYD GAN E. W. EVANS, SMITHFIELD LANE.

——————

1891.

NODIAD.— Daeth y Gyfrol Gyntaf o hanes yr eglwysi yn

Ngorllewin Meirionydd allan o'r wasg ddwy flynedd yn ol, sef ar ddiwedd 1888. Y mae yn achos o foddlonrwydd na wnaethpwyd ond ychydig o gamgymeriadau mewn ffeithiau hanesyddol yn hono. Yr oedd y nesaf peth i anmhosibilrwydd i fod yn hollol gywir ar bob manylion, mewn hanes a gyrhaeddai dros gynifer o flynyddoedd. Buwyd yn amryfus mewn un peth neu ddau yn yr hanes am Dowyn. Dywedir yno am William Dafydd, un o'r blaenoriaid hynaf, ei fod yn honi perthynas â Catherine Williams, ysgogydd cyntaf y Methodistiaid yn y rhanau yma o'r wlad." gwirionedd ydyw, yr oedd William Dafydd yn fab i Catherine Williams. Anghofiwyd rhoddi enw John Vaughan, fel un a ddechreuodd bregethu yn Nhowyn. Cychwynodd ef ar ei flwyddyn brawf Awst, 1881. Yn yr hanes am Danygrisiau, dywedir mai "brodor o Bethesda, yn Arfon," ydoedd John Pierce, Ty'nllwyn. Yr hyn sydd gywir ydyw, symud o ardal Ffestiniog i Arfon a wnaeth, gan ddychwelyd yn ol, ac ymsefydlu yn Nhanygrisiau. Pe cyrhaeddasai gwybodaeth am unrhyw wall arall cyn cau yr hanes i fyny, gyda phob parodrwydd y buasid yn ei gywiro.

RHAGYMADRODD I'R AIL GYFROL.

——————

NID oes angenrheidrwydd am wneuthur ond ychydig iawn o sylwadau ar orpheniad yr Ail Gyfrol. Y nod y cyrchid ato wrth ei hysgrifenu ydoedd casglu ynghyd hanes gweddill eglwysi y cylch, o'r dechreuad hyd yn awr, a'i osod mewn trefn, goreu gellid, fel y byddo i wybodaeth am waith yr Arglwydd, ac am weithgarwch yr hen grefyddwyr, gael ei gadw mewn coffadwriaeth. O ran cynwys, hyderir fod yr hyn a geir yma rywbeth yn gyffelyb i gynwys y Gyfrol a'i rhagflaenodd.

Oherwydd fod llawer o'r eglwysi yn y rhanbarth hwn yn eglwysi lled newyddion, ofnid y buasai yr hanes yn myned i fesur yn unffurf; ac yr oedd graddau o anhawsder i'w gadw rhag iddo fyned felly, gan mai pethau tebyg oedd i'w hadrodd am bob eglwys fel eu gilydd. Eto, y mae nifer o eglwysi yn Nosbarth y Dyffryn, ac amryw hefyd yn ardaloedd Ffestiniog, ymysg y rhai hynaf yn y sir, ac y mae hanes crefyddol cyntaf ein gwlad oll yn llawn o ddyddordeb. Rhwng pobpeth, llwyddwyd tuhwnt i ddisgwyliad i ddyfod o hyd i hanesion nid ychydig am yr amser gynt, llawer o honynt na welsant oleuni dydd erioed o'r blaen, a daeth y defnyddiau, hen a newydd, i law mewn cyflawnder dibrin.

Gelwir hon hefyd, yn gystal a'r gyntaf, yn Gyfrol Can'mlwyddiant; yn un peth, am mai cynhaliad Gwyl y Can'mlwyddiant, yn 1885, fu yn achlysur i'r hanes gael ei ysgrifenu; heblaw hyny, oddeutu can' mlynedd i'r amser presenol y rhoddwyd cychwyniad i lawer o achosion crefydd yn Sir Feirionydd -nid oedd ond ychydig o eglwysi wedi eu planu yn flaenorol i 1785.

Afreidiol, yn ddiau, ydyw crybwyll ddarfodi'r gwaith beri llafur mawr i'r Awdwr. Y rhan fwyaf arafaidd o'r gorchwyl ydoedd casglu y defnyddiau, a chael allan i sicrwydd beth oedd gywir, a pha beth oedd yn anghywir. Aethpwyd i bedwar cwr byd i geisio y defnyddiau. Chwiliwyd cynifer o hen lyfrau yr eglwysi ag oedd wedi dianc rhag rhaib y llygod, a rhag cael eu bwyta a'u difa gan y gwyfyn a'r rhwd." A defnyddiwyd yn helaeth o'r hyn oedd eisoes wedi ei groniclo am yr hen dadau gynt, Derbyniwyd yr hanes am yr eglwysi a ffurfiwyd ddiweddaraf trwy law, a than gyfarwyddyd swyddogion y lleoedd, ac am lawer o'r cyfryw, anfonwyd yr ysgrifau i bersonau cyfarwydd â'r ffeithiau i edrych drostynt cyn eu rhoddi yn y wasg. Y mae diolchgarwch cynes yn ddyledus i frodyr lawer yn y gwahanol ardaloedd a roddasant gynorthwy i gasglu yr hanes ynghyd. Yr oedd yn y cynllun, o'r dechreu, fwriad i wneuthur crybwylliad, o leiaf, am yr holl swyddogion, yn bregethwyr a blaenoriaid, yn gystal a cheisio dangos y modd y llwyddodd ac y cynyddodd yr eglwysi yn gyffredinol. Ond, gan mai hanes Methodistiaeth, ac nid personau, a ysgrifenid, dywedai rheswm nas gellid bod yn faith gyda'r un rhai. Rhesymol, hefyd, oedd rhoddi lle amlycach a helaethach i'r personau a fuont, oherwydd eu talentau a'u hymroddiad, o wasanaeth arbenig i gyfodi crefydd yn y wlad. Os aethpwyd heibio i rywrai heb eu crybwyll, bu hyny o ddiffyg gwybodaeth am danynt; ac os ceir yma gamwedd o unrhyw natur, camwedd ydyw hollol anfwriadol.

Dichon y bydd rhywrai yn gweled mewn rhanau o'r hanes fesur o ail-adroddiad. Ni bu hyny o gwbl ond yn unig gyda'r amcan o wneuthur yr holl gysylltiadau mor eglur a dealladwy ag oedd bosibl. Y mae pawb a ysgrifena hanes gydag eglurdeb yn gwybod fod graddau o hyn yn angenrheidiol.

Fel rheol, ni fwriedid ysgrifenu coffadwriaeth am neb ond y rhai a orphenasant eu llafur ac a gyraeddasant yr orphwysfa. Yr eithriadau a wnaethpwyd ydoedd, personau wedi bod am flynyddoedd maith yn y gwasanaeth, ac wedi gwneuthur gwaith mawr yn eu hoes, er eu bod "yn aros hyd y dydd hwn."

Y mae amddiffyn vr Arglwydd wedi bod yn fawr dros eglwysi y saint, yn Ngorllewin Meirionydd, yn ystod y pum' ugain mlynedd hyn. Bu pethau chwerwon mewn manau, mae'n wir, anghydfod, cwerylon, a phethau yn ymylu ar ymraniadau. Ond er mwyn heddwch i goffadwriaeth yr hen bererinion, barnwyd yn well myned heibio y cyfryw bethau mor ddistaw ag y gellid.

Ceir cyfran o'r Gyfrol hon wedi ei neillduo i roddi crynhodeb o hanes y Cyfarfod Misol, ynghyd â'i weithrediadau. O'r blaen, ychydig o wybodaeth am hyn oedd yn ysgrifenedig yn unman. Hyderir hefyd y bydd y Mynegair i'r holl hanes, a welir ar y diwedd, o ryw gymaint o fantais i'r darllenydd mewn amser i ddyfod.

Bellach, pan y mae y gwaith wedi ei ddwyn i derfyniad, fy nymuniad cywir ydyw, ar i'r Llyfr Coffadwriaeth hwn fod o fendith i bawb a'i darlleno.

R. O.
Pennal,
Rhagfyr, 1890.

CYNWYSIAD

RHAN I—DOSBARTH FFESTINIOG

PENOD I

PENOD II

PENOD III

PENOD IV

PENOD V

PENOD VI

HANES YR EGLWYSI:—

PENOD VII

PENOD VIII


RHAN II—DOSBARTH Y DYFFRYN

PENOD I

PENOD II

PENOD III


RHAN III—Y CYFARFOD MISOL

PENOD I

PENOD II

PENOD III

PENOD IV

PENOD V

PENOD VI

PENOD VII











RHAN I

DOSBARTH FFESTINIOG.











PENOD I.

——————

AGWEDD Y TRIGOLION YN Y PARTH HWN O'R SIR CYN CYFODIAD METHODISTIAETH

CYNWYSIAD.-Cipdrem ar y wlad—Cynydd y boblogaeth—Vestry Plwyf Ffestiniog—Blynyddau o galedi—Gwrthwynebu cyfleusderau teithio—Darluniad o'r hen frodorion—Yr arferion ar y Sabbath yn Nhrawsfynydd—Y dull gyda chladdu y marw—Mari y Fantell Wen.

  MAE cylch yr hanes y bwriedir ei roddi yn y tudalenau dilynol, yn cynwys rhanau o Sir Feirionydd sydd wedi cario dylanwad mawr ar ei chrefydd hi. O fewn y rhandir hwn o'r sir y mae Penrhyndeudraeth a Maentwrog, dwy ardal yr ymwelodd yr Arglwydd â hwy yn foreu, yn nhrefn ei ragluniaeth a'i ras. Ac fe fydd olrhain y ffordd y cymerodd hyny le, nid yn unig yn ddyddorol ynddo ei hun, ond yn foddion hefyd i weled pa fodd yr ymdaenodd goleuni yr efengyl dros ranau eraill y wlad.

I wneuthur y ffordd yn eglur i'r darllenydd, fe gofir fod yr hyn a adnabyddir gan Fethodistiaid Calfinaidd y sir fel Dosbarth Ffestiniog, yn cymeryd i fewn y wlad, o gwr pellaf ardal Trawsfynydd i waelod isaf ardal Penrhyndeudraeth. Yn yr oll o'r ardaloedd hyn, yn yr adeg bresenol—megis hefyd y mae wedi bod er's amryw flynyddoedd—ceir golwg flodeuog ar deyrnas yr Arglwydd Iesu, ymysg pob enwad crefyddol fel eu gilydd. Er hyny, nid oes le yn y sir, nac ychwaith mae'n debyg yn Nghymru, sydd wedi myned trwy gymaint o gyfnewidiadau, yn wladol a chrefyddol, yn ystod y can' mlynedd diweddaf. Gadawer i ni gymeryd cipdrem ar y rhan yma o'r wlad cyn i grefydd gymeryd meddiant o honi.

Y mae yr ardaloedd hyn wedi cynyddu yn ddirfawr, mewn amser diweddar, yn nifer y boblogaeth. Ac y mae yn rhaid cymeryd hyn i'r cyfrif, mewn trefn i gael syniad gweddol gywir am agwedd y trigolion oddeutu canol a diwedd y ganrif ddiweddaf. Oblegid, ar wahan oddiwrth gynydd gwareiddiad a chrefydd, y mae a wnelo amlder trigolion gwlad lawer â ffurfio ei chymeriad. Ffurfir a newidir y cymeriad yn llawer cyflymach pan fyddo nifer y trigolion yn lliosog, nag mewn gwlad deneu ei phoblogaeth. Plwyf Ffestiniog ydyw y lle pwysicaf yn y cylchoedd hyn. Dibyna y cymydogaethau cyfagos arno ef, nid yn unig am eu cynhaliaeth a'u cynydd, ond am bron yr oll o'u symudiadau cymdeithasol. Fel mai yr un peth, i fesur helaeth, ydyw symudiadau y plwyf hwn a symudiadau yr ardaloedd cylchynol, a'r un peth hefyd yn gymhariaethol ydyw hanes dadblygiad cymeriad yn y naill ag yn y lleill. A chaniatau i ni allu gosod ein hunain ar ben un o fryniau Ffestiniog tua chanol y ganrif ddiweddaf; caem ar unwaith fod pobpeth ond y bryniau a'r mynyddoedd yn dra gwahanol i'r hyn ydynt yn awr. A'r hyn a'n tarawai gyntaf, ond odid, fuasai bychander y lle mewn ystyr fasnachol a chymdeithasol. Mor anaml y pryd hwnw yr anedd-dai! Mor ychydig oedd nifer y trigolion, ac mor hynafol eu harferion! Nid oedd poblogaeth y plwyf yn y flwyddyn 1700 ond o 460 i 470; ac ni bu y cynydd yn ystod y can' mlynedd dilynol ond 240. Felly, yn nechreu y ganrif bresenol, rhif yr holl eneidiau yn y plwyf oedd oddeutu 710. Yr ydys yn cael y cyfrif hwn allan oddiwrth nifer y marwolaethau a'r genedigaethau yn Llyfr Cofrestriad y Plwyf. Hynod mor araf y cynyddai y boblogaeth. "Yn y flwyddyn 1699, ni chymerodd yr un briodas le yn y plwyf. Nulla Matrimona Contracta, — geir yn yr hen Register." Eto, "yn 1704, Conjugata Nulla, —dim priodas. Ac y mae y blynyddoedd 1709 a 1710 hefyd heb yr un briodas wedi ei chofrestru."[1] Caledi yr amseroedd a roddir fel un rheswm dros hyn.

Wrth edrych ar bethau o'r presenol, pa fodd bynag, y mae yn achos o syndod fod y boblogaeth mor deneu gan' mlynedd yn ol. Cyffelyb ydoedd hefyd yn y plwyfi cylchynol i'r plwyf hwn. Dengys y ffugyrau canlynol y modd y cymerodd y cynydd le yn mhlwyf Ffestiniog:—Yn 1821, yr oedd rhif y trigolion yn 1,168; yn 1841, yr oedd yn 3,133; yn 1861, yn 4,553; yn 1871, yn 8,062; ac yn 1881, rhifai y trigolion oddeutu 13,000.

Y mae yn hysbys i bawb sydd wedi sylwi, mai agoriad y llech-chwarelau, a'r llwyddiant a ddilynodd y fasnach mewn llechau, a barodd y cynydd uchod yn y boblogaeth. Dechreuwyd eu hagor ryw adeg rhwng 1750 a 1760. Dywedir, ar awdurdod sicr, fod eu darganfyddiad yn ganlyniad breuddwyd gŵr o Sir Gaernarfon, o'r enw Methusalem Jones, tad y Parch. John Jones, o Edeyrn. Breuddwydiodd y gŵr hwn fod chwarel dda yn Ngheunant y Diffwys; ac ar bwys ei freuddwyd, cerddodd yr holl ffordd o Fynydd y Cilgwyn, yn Sir Gaernarfon, i Ffestiniog. Wedi cloddio ychydig, cafodd fod yno chwarel, yn hollol fel y breuddwydiodd.[2] A'r Diffwys oedd y gyntaf o'r chwarelau a ddarganfyddwyd ac a agorwyd. Araf fu y gweithio ynddynt am yr haner can' mlynedd cyntaf ar ol eu darganfyddiad. Digon yn y lle hwn yw hysbysu, mai rhwng 1818 ac 1825 y dechreuwyd agor y prif chwarelau, y rhai a fu yn foddion neillduol i ychwanegu y boblogaeth, ac i ddwyn y lle i'r fath gyhoeddusrwydd.

Nid annyddorol, i ddangos agwedd yr amserau, fyddai rhoddi dyfyniad neu ddau a gafwyd o Lyfr Vestry Plwyf Ffestiniog. Yr oedd 1815 ac 1816 yn flynyddoedd o gyfyngder, ac yn ngwyneb fod llawer o ddieithriaid yn dyfod i'r ardal i weithio yn y cloddfeydd, a'r treuliau i symud y tlodion o'r naill blwyf i'r llall yn cynyddu, a'r trethi, mewn canlyniad, yn myned yn uchel, gwnaethpwyd ymdrechion egniol gan y plwyfolion i atal ychwaneg o ddieithriaid i ddyfod yma. Yn Vestry Mawrth 19, 1817, penderfynwyd,—"Er mwyn atal hyn hyd y byddo modd, yr ydym ni sydd a'n henwau isod, yn rhwymo ein hunain â'n gilydd i anghefnogi dyfodiad dieithriaid neu estroniaid i'r plwyf, fydd yn debyg o dd'od i ddibynu arno am eu cynhaliaeth. Ond gan ein bod yn ofni na wna y gyfraith orfodi unrhyw berson i beidio gosod ei derfynau (premises), neu unrhyw ran o honynt i'r neb y myno, yr ydym ni yn cytuno fod pob person a osodo ystafelloedd, tŷ, neu dai anedd, neu unrhyw leoedd eraill, o ba ddisgrifiad bynag y byddont, i bersonau neu berson heb fod yn perthyn i'r plwyf hwn yn barod, yn gorfod symud yr unrhyw dlotyn neu dlodion heb unrhyw gymorth gan y plwyf, OND AR EI GYFRIFOLDEB, EI DRAFFERTH, NEU EI DRAUL EI HUN YN UNIG, i'w plwyfau eu hunain, trwy orchymyn yr Ynadon, i'r man y cyfarwyddent hwy.[3]

Eto, penderfynwyd yn Vestry Awst 27ain, 1821,—" Nad oes neb perthynol i'r plwyf hwn i gyflogi gwas neu forwyn i unrhyw wasanaeth bynag am ragor na chwe' mis (calendar), a'r un modd, nad oes un teulu i gael caniatad i aros, nac i wneuthur un esgusawd dros aros, yn y plwyf hwn, os nad ydynt yn perthyn i'r unrhyw, heb drwydded foddhaol oddiwrth eu plwyf neu eu plwyfau eu hunain, er boddlonrwydd i drigolion y plwyf hwn."[3]

Ymddengys y gweithrediadau hyn yn awr yn ddieithriol. Pa mor bell y cariwyd y penderfyniadau uchod allan, nid ydym yn gwybod. Hyn sydd sicr, yn ngwyneb pob penderfyniad a wneid gan y plwyfolion, nid oedd dim yn tycio, ond dylifai y bobl yma trwy y blynyddoedd.

Bu cyfyngdra mawr ar drigolion y parth hwn o'r wlad, amryw droion, yn ystod y rhyfel rhwng Lloegr a Ffrainc, o 1793 i 1815. Blwyddyn felly oedd 1795. Gwnaed casgliad i gynorthwyo y trigolion, yr hwn a amrywiai yn y rhoddion "o geiniog a dimai Peter Jones, Hafod-y-mynydd, i gini W. Oakeley, Ysw., Tanybwlch." Ond ni chyrhaeddodd y casgliad ond 3p. 11s. 10½c. Blynyddoedd o galedi na wyr yr oes hon ddim am danynt oeddynt 1798, 1799, 1800. Cyfododd pris yr ymborth y flwyddyn olaf o'r tair, fel yr oedd y blawd erbyn mis Ebrill yn 8s. 6c. y cibyn, pryd nad oedd yn 1782 ond 1s. 6c. y cibyn. Gwnaed casgliad o 23p. i'r rhai oedd mewn eisiau y flwyddyn hon eto. Llawer o son a glywyd gan yr hen bobl am y prinder ymborth yn 1815, blwyddyn brwydr Waterloo, ac am yr hanesyn canlynol, yr hwn a ysgrifenwyd yn gryno gan y Parch. G. Williams; Talsarnau, ac a geir yn ei ysgrifau ar "Pandy'r Ddwyryd," yn Nghronicl yr Ysgol Sabbothol, am y flwyddyn 1880,—"Aeth Mr. Thomas Williams, Goruchwyliwr y Ddiffwys, i Leyn i chwilio am lwyth o flawd ceirch. Bu yn llwyddianus. Cytunwyd ei fod i'w anfon i Dremadog ar ddydd Gwener, y diwrnod marchnad, ac yr oedd trol o Ffestiniog i fyned yno i'w geisio. Yr oedd llawer o'r trigolion yn disgwyl yn bryderus am y llwyth blawd; ond er eu mawr siomedigaeth, dychwelodd y drol yn wag, a hysbyswyd hwy fod y blawd wedi ei roddi dan glo yn Nhremadog, dan yr esgus nad oedd yno ddigon i ddiwallu angen trigolion y dref. Wedi i'r dynion gyfarfod yn y gwaith dranoeth, a deall agwedd pethau, penderfynasant fyned i Dremadog i ymofyn y blawd. Cychwynasant oll yn fintai gyda'u gilydd. Yr oedd Mr. William Casson (meistr y gwaith) yn eu cyfarfod yn myned tua'r chwarel, a gofynodd, I ba le yr wyt ti yn myn'd bod-y-gun, fel hyn?' Ar ol deall eu neges, anogodd hwy i fyned yn ol at eu gwaith, ac yr anfonai yntau am lwyth o rug iddynt o Lundain. Ond yr oedd newyn yn drech na gorchymyn eu meistr, ac ymlaen â hwy. Anfonasant at Mr. Lloyd, Pen-y-glanau (Llwyd y Twrna), ac at Mr. Oakeley, yr hwn oedd Sirydd y flwyddyn hono, i ymholi pa fodd y gallent weithredu heb fod yn agored i gael eu cosbi. Hysbyswyd. hwy y gallent fynu y blawd, a thori y cloiau os byddai raid, ond erfyniwyd arnynt beidio gwneyd mwstwr. Ar ol cyraedd. 'Cob Madog,' trefnasant eu hunain yn orymdaith fel milwyr, bob yn bedwar, a chryn bellder rhyngddynt, nes yr edrychent. yn fyddin lled fawr. Erbyn cyraedd Tremadog, yr oedd pawb wedi dychrynu, a rhoddwyd yr agoriadau iddynt i gael y blawd. Rhanasant ef yn gyfartal rhwng yr holl ddynion, sef deg pwys ar hugain i bob un. Dychwelasant trwy Lanfrothen. a Bwlch Drws Elen yn llawen, a phawb a'i gydaid blawd ar ei gefn."

Trwy wrthwynebiadau, ac yn erbyn ewyllys y trigolion, yn yr amser aeth heibio, y gwellhawyd cyfleusderau teithio yr ardaloedd. A phenod digon hynod yn eu hanes ydyw hon. Mewn gwlad mor fynyddig, yr oedd cyfleusderau i fasnachu â lleoedd a phobl oedd o'r tuallan, yn anhwylus a thrafferthus. Gwnelai y preswylwyr eu gorchwylion eu hunain mewn ffordd. tra syml. Ac am rai degau o flynyddau ar ol dechreu masnach y cloddfeydd, rhoddid y llechau mewn math o breniau a chewyll, y rhai wedi eu rhwymo a'u gosod ar fulod a cheffylau, a ddygid i lawr trwy lwybrau anhygyrch i le a elwir Congl-y-wal, ac oddiyno dygid hwy trwy lawer o gwmpas i lan afon. Maentwrog. Y mae clod yn ddyledus i S. Holland, Ysw., diweddar Aelod Seneddol dros Meirionydd, yr hwn oedd un o'r rhai cyntaf i anturio i agor prif gloddfeydd Ffestiniog, am ei ymdrechion i wella y ffyrdd i drafaelio. Yn 1832, cafwyd Bill trwy y Senedd i wneuthur y rheilffordd (tram-road) rhwng Porthmadog a chwarelau Ffestiniog. Chwefror 26ain, 1833, gosodwyd y gareg gyntaf i lawr; a dechreuwyd cludo y llechau ar hyd-ddi Ebrill 20fed, 1836. I hon dangoswyd gwrthwynebiad penderfynol gan bobl y wlad. Tybiai y cychwyr ar yr afon y byddai gobaith eu helw oll wedi darfod; y ffermwyr a feddylient na fyddai eisiau gwaith o hyny allan i'r ceffylau; pan y delai hyn i ben, tybid na fyddai eisiau troliau a gwageni, ac am hyny y byddai gwaith y seiri coed wedi darfod am byth; a'r un modd y darfyddai gwaith y gofaint oll am na fyddai eisiau pedoli ceffylau mwyach. Gwnaeth hyn i'r wlad godi fel un gŵr i wrthwynebu y ffordd newydd. Yn Vestry Ffestiniog, Mawrth 23, 1831, penderfynwyd fod deiseb yn cael ei hanfon i'r Senedd, wedi ei llawnodi gan y plwyfolion, yn gwrthwynebu y ffordd. Gwnaethpwyd casgliad i gael hyn o amgylch. Aeth y casglyddion at Robert Morris, Glanypwll, i erfyn ei gynorthwy. "Wel," meddai, "wnaiff hi ddim drwg i mi; 'does gen i ddim gwê yn cario." "Fe wna ddrwg i chwi yn siwr," atebai y casglyddion, "pan ddel y ffordd haiarn, ac i bawb beidio cadw ceffylau, bydd pawb wed'yn yn cadw gwartheg, ac ni chewch chwi ddim cymaint o lawer am y llaeth a'r 'menyn." Pan glywodd yntau hyn, rhoes ugain swllt at y casgliad. Yr oedd yn rhaid i enwau y deisebwyr y pryd hwnw fod wedi eu hysgrifenu ar groen. Un o'r dynion a fu a'r ddeiseb o amgylch y wlad—yntau hefyd yn un o'r crefftwyr—a adroddai wrthym dro yn yn ol am yr helynt fawr gyda y gwrthwynebiad hwn. Yr oedd ef ei hun ar y pryd newydd briodi, ac yn dechreu byw, ac wedi bod yn wael ei iechyd, ac yn cael ei gaethiwo i'w dŷ y dyddiau y dechreuwyd gweithio y ffordd haiarn. "Pan y daethum allan o'r tŷ gyntaf ar ol dechreu gwella," meddai, "gwelwn y bobl wrthi yn gweithio y ffordd, ac aeth hyny yn saeth at fy nghalon Ond yn lle dyrysu bywoliaeth y trigolion, gwnaeth y ffordd haiarn lawer o les iddynt, a dygodd lawer o gyfleusderau i'r wlad. Rhoddwyd ager—beiriant arni, ac agorwyd hi i deithwyr yn niwedd 1863. Yn 1879 agorwyd Rheilffordd y London a North Western, o gyfeiriad Llanrwst, yr hon sydd yn gampwaith celfyddyd. Ac oddeutu 1883, agorwyd llinell y Great Western, o gyfeiriad y Bala.

Ond ein bwriad oedd rhoddi cipolwg ar agwedd y preswylwyr yn mhellach yn ol na'r digwyddiadau a grybwyllwyd yn y tri pharagraff blaenorol, sef cyn i grefydd, trwy sefydliad yr Ysgol Sabbothol a chyfodiad Methodistiaeth, feddianu y wlad, a newid arferion a chymeriad ei thrigolion. Ychydig o ddigwyddiadau a ffeithiau hanesyddol sydd wedi eu cofnodi am yr hen frodorion. Tuag at gael syniad am eu harferion, rhaid dibynu llawer ar draddodiadau sydd wedi disgyn i lawr, o daid i dad, ac o dad i fab. A dengys y cyfryw draddodiadau mai syml a gwladaidd hynod oeddynt yn y pethau a berthyn i'r fuchedd hon, a thywyll iawn am bethau y fuchedd dragwyddol. Heb ddim cyfoeth i ymffrostio ynddo, ni byddent yn byw yn foethus, ac ni byddent yn gwisgo yn wastraffus, oblegid ni byddai gan feibion y prif amaethwyr ond un suit Sabbothol rhwng dau, ac os byddai y naill frawd yn fwy o gorffolaeth na'r llall, ni byddai dim gwell na gwneyd y suit yn ddigon i'r mwyaf. Ar y defaid a'r geifr y dibynai y trigolion am eu cynhaliaeth, a byddai y gwyr a'r gwragedd yn gwneuthur llawer o'u masnach trwy wau hosanau. Hyny o foddion crefyddol a fwynheid ganddynt, ydoedd yn unig yn y llanau ar y Sabbath, er nad oedd moddion i'w cael yno ond anfynych, ac fel trigolion y wlad yn gyffredin, ar ol bod yn y gwasanaeth boreu Sabbath, elent at y chwareuaethau a arferid yr oes hono, dros weddill y dydd.

Rai blynyddau yn ol, pan yn ysgrifenu i'r Traethodydd ar amryw bethau mewn cysylltiad ag ardaloedd Ffestiniog, Mr. Pierce Davies, Cwmllan, Beddgelert, wedi hyny o Borthmadog, yr hwn oedd yn sylwedydd craff, a'r hyddysgaf o bawb yn hanes trigolion y parthau hyn, a anfonodd i ni, ymysg pethau eraill, y crybwyllion canlynol:—"Mewn perthynas i Ffestiniog, rhyw bur ychydig a welais erioed mewn hen lyfrau am y lle, dim ond yn brin ei enw. Yr wyf yn cofio fy mod un dydd Sadwrn, er's blynyddau lawer yn ol, yn myned adref i Nanmor, a H. S. Jones gyda mi; ac yr oedd rhywun wedi rhoddi llythyr i Hugh, i fyned i Beddgelert, ac fe'i collodd yn rhywle ar yr allt yn agos i dŷ Cwmorthin, a throes yn ei ol i chwilio am dano. Aethum inau i lawr at Siôn Jones, Cwmorthin, i'w aros; ac meddai yr hen ŵr, 'Beth yr oedd Hugh yn troi yn ei ol?' Colli llythyr wnaeth, oedd ganddo i fyned i Beddgelert,' meddwn. Yn enw dyn anwyl, onid oes llawer iawn o drafferth efo rhywbeth felly? Yr ydwyf fi yn cofio, wel'di,' meddai, 'nad oedd o fewn i Blwyf Ffestiniog ddim ond tri a fedrai wneyd llythyr,--Humphra Bumphra oedd yn Glanypwll, a rhywun arall yn Plasmeini, a thad John Davies, Cae'rblaidd, oedd y llall. Yr oedd yr hen ŵr hwn yn fyw wedi pasio y flwyddyn 1860. Hen ŵr o synwyr cyffredin cryf, a chanddo gôf rhyfeddol ydoedd. Medrai, yn ei ffordd ei hun, ddwyn 200 o flynyddoedd o fewn ei gof. Yr oedd ef pan fu farw yn agos i 100 oed, ac yr oedd ei dad yn 95, fel y dengys ei gareg-fedd yn mynwent Ffestiniog. Dull Siôn Jones o draddodi hen adgofion fyddai,—'Mi glywais fy nhad yn dweyd, wedi clywed fy nhaid yn dweyd.' A dyma un o'r pethau hyny. Clywais fy nhad yn dweyd, fod gŵr bonheddig yn byw yn mhlas Tanybwlch, a dywedodd y gŵr bonheddig wrth ei was un bore Sabbath,— Rhaid i ti fyn'd i'r eglwys i Ffestiniog heddyw, i edrych a weli di wr Rhiwbryfdir, a pheri iddo ddyfod a thipyn o arian i mı yr wythnos nesaf.' Wedi i'r gwas ddychwelyd, gofynai, A welais ti ŵr y Rhiwbryfdir?' 'Do.' Beth ddywedodd o?' Dywedodd nad oedd ganddo ddim arian, a pheri i chwi dd'od i ymofyn rhai o'r anifeiliaid oedd yno, os oes arnoch eisiau rhywbeth am eich tir.' 'Wel,' meddai yntau, 'thal hyny ddim i mi, rhaid i ti fyn'd yno eto yfory, a pheri iddo dreio d'od a rhywfaint o arian i mi; y mae arnaf eisiau 17 swllt i fyned i Lundain yr wythnos nesaf.'" Yr oedd yr hen ŵr hefyd wedi cyraedd cryn dipyn o wybodaeth am y byd, ymhell ac yn agos, ac yr oedd rhywun wedi dweyd wrtho fod y ddaear yn troi. Un adeg yr oedd y tywydd yn wlyb iawn er's wythnosau; y pryd hwnw yr oedd un a adwaenai yn dda yn pasio heibio ei dŷ, a gwaeddai arno,—"Pierce, mae nhw yn dweyd fod y ddaear yma yn troi; os ydyw hi yn troi, mae hi wedi sefyll rwan mewn lle gwlyb iawn." Llawer o bethau cyffelyb ellid ddweyd am Siôn Jones a'i hynafiaid, a phethau rhyfedd hefyd ellid eu traethu, er dangos ansawdd cymdeithas ymysg y preswylwyr yn yr amseroedd gynt.

Yr oedd cyflwr yr hen frodorion yn y parthau hyn, fel yn y wlad oll, o ran moesoldeb a chrefydd, yn dra isel a thywyll. O berthynas i agwedd gyffredinol y wlad yn ei harferion a'i moesau, cyn toriad gwawr y diwygiad crefyddol yn y ganrif ddiweddaf, ceir darluniad cywir a chyflawn gan y Parch. John Hughes, yn nechreu y gyfrol gyntaf ar Fethodistiaeth Cymru. Yn gyffelyb i'r darluniad pruddaidd a roddir ganddo ef, yr ydym yn cael fod preswylwyr y bröydd hyn, sef trigolion Trawsfynydd, Penrhyndeudraeth, a Ffestiniog. Nid oedd y Sabbath yn cael mwy o barch ganddynt nag un o ddyddiau eraill yr wythnos, ac nid oedd neb i'w gael a allai oleuo ei gymydog am bethau y fuchedd dragwyddol, oblegid nid oes hanes yn y cyfnod hwn am yr un enaid wedi ei oleuo ei hunan. Yn gwbl mewn tywyllwch a dygn anwybodaeth, ac fel rhai yn breuddwydio y treulient eu dyddiau. Y ffeiriau fyddent y prif gynulliadau, ac un nodwedd arbenig ar ffeiriau y dyddiau gynt fyddai cwerylon ac ymladdfeydd. Ni feddylid am i'r un o'r cynulliadau hyn fyned heibio, heb i ryw ynfytyn herio rhyw ynfytyn arall i ymladd âg ef, a chymerai yr ieuenctyd a'r dynion yn gyffredin ran yn yr ymladdfa, rhai yn pleidio hwn, ac eraill y llall, a'r ymladdwyr wedi ymddiosg hyd yn haner noethion. Mynych iawn y cymerai yr ymladdfeydd crybwylledig le ar ddyddiau eraill, yn enwedig ar ddyddiau gwyl, ac yn aml byddai ardal neu gwm yn cytuno i herio ardal neu gwm arall i ymladd. Gwyl-mabsantau hefyd, y rhai a gynhelid bob amser ar y Sabbath, fyddent yn rhan o'u cynulliadau cyhoeddus. I un o'r cynulliadau hyn yr oedd Griffith Ellis, Pen'rallt, Harlech, yn cyrchu yn llanc ieuanc, pan y galwai heibio Pandy'r Ddwyryd, i ymofyn y ffordd, ac y gofynodd Lowri Williams. iddo, "A fyddi di ddim, fy machgen i, yn ymofyn y ffordd i'r bywyd ar y Sul?" Yr hyn a fu yn foddion uniongyrchol ei dröedigaeth. Eu harfer fyddai cymeryd y Sabbath i drafod eu gorchwylion beunyddiol, ac ystyrid ef ganddynt i fesur fel dydd marchnad; deuent a'u negeseuau at eu cwsmeriaid, a chymerent yr eiddo hwythau yn gyfnewid am danynt, ar ddydd yr Arglwydd. "Dywedai un Richard Owen, gôf o ardal Trawsfynydd, y byddai yn arfer pedoli mwy o geffylau ar y Sabbath na thrwy holl ystod yr wythnos. Os byddai ceffyl gan yr amaethwr wedi colli ei bedol, tybiai mai cyfleusdra manteisiol iddo fyddai cymeryd yr anifail hwnw dano i'r addoliad boreu Sabbath; felly hefyd y gwnai ei gymydogion yr un modd; a llawer o geffylau, gan hyny, a ddygid i'r gôf i'w pedoli ar y Sul. Deallodd Richard Owen, trwy ryw foddion—nid trwy offeiriad y plwyf—nad oedd hyn yn ymddygiad teilwng ar ddydd Duw, a gwrthododd gydsynio i bedoli ceffylau ond ar ddyddiau priodol."[4] Dywedir hefyd i John Prichard, Pandy'r Ddwyryd, priod Lowri Williams, o enwog goffadwriaeth, yr hon y ceir ei hanes mewn penod ddilynol, fod yn foddion i roddi i lawr arferiad ddrwg yn yr un ardal, oddeutu canol y ganrif ddiweddaf. Arferai y panwr oedd yn y lle o'i flaen ef gyrchu a danfon brethynau i bentref Trawsfynydd ar y Sabbath. Y Sul cyntaf y daeth John Prichard i'r pentref, cyrchai y bobl o'i amgylch i ymofyn am eu brethynau a'u gwlaneni. "Deuwch yma ddydd Llun, y Sul yw hi heddyw," ebe yntau. Bu hyn yn ddechreuad marchnad Trawsfynydd ar ddydd Llun, yr hon a barhaodd yn hir felly.

Ymhyfrydai yr ieuenctyd mewn chwareu-gampau, a phob drygfoes a ffynent yr amseroedd hyn, megis y bêl, y bêl droed, ymladd ceiliogod, nosweithiau llawen, interliwdiau, y ddawns, cyfeddach a diota, a'r holl ddrygau cyffelyb, y rhai y medrai hyd yn nod cyfrwysdra tywysog y tywyllwch eu llunio i gyfarfod â chwaeth natur lygredig. Ymgyfarfyddai y werin bobl yn nhai eu cymydogion, pob tŷ yn ei dro, i adrodd a gwrando ystraeon, a chwedlau gwag am fwganod ac ysbrydion, a'r tylwyth teg, a'r hwch ddu gwta." Treulid nosweithiau hirion y gauaf, yn arbenig gan yr ieuenctyd, i adrodd a gwrando y cyfryw chwedlau. Arhosodd dylanwad y pethau hyn yn y wlad am o leiaf ddeugain mlynedd ar ol sefydliad yr Ysgol Sabbothol. Yn Ngoleuad Cymru am Mawrth 1827, mewn byrgofiant am Mr. Richard Jarrett, o Drawsfynydd, yr hwn a dreuliodd ddechreu ei oes yn y fyddin ddu, ond a ddaeth wedi hyny yn un o bererinion Seion, dywedir,—"Ymhyfrydai yn fawr mewn dawns, a chardiau, a chwareuyddiaethâu gwageddol, a difyrwch annuwiol ei gydoeswyr. Ond oddeutu y flwyddyn 1778, pan ydoedd ar ei liniau wrth erchwyn ei wely, ar fedr dywedyd Gweddi yr Arglwydd, yr hon a ddysgasid iddo gan ei rieni, ac y dechreuai ddywedyd 'Ein Tad,' &c., ei gydwybod a'i hatebodd yn y geiriau a ddywedodd ein Hiachawdwr wrth yr Iuddewon—'O'ch tad diafol yr ydych chwi,' &c.; cyrhaeddodd y saeth ei galon, a bu y geiriau am ddyddiau yn brif destyn ei fyfyrdodau. A phob tro y cynygiai ddweyd, 'Ein Tad,' &c., deuai y geiriau hyn fel saethau i'w galon, llanwent ei feddwl â dychryn a braw, cauent ei safn, rhwyment ei dafod, a gwnaent ef megis mudan. Ond fel yr oedd efe yn myfyrio ar y geiriau hyny, wrth farchogaeth i Lanllyfni, torodd y wawr ar ei feddwl, ffodd yr amheuon, darfu y dychryniadau, a daeth tafod y mudan i lefaru yn groew, 'Ein Tad,'" &c.

Arferion anfoesol ac annuwiol fyddai gan yr hen bobl, druain, gyda chladdu y marw. Ni ystyrient hwy ef yn beth ddim allan o'i le i berthynasau agosaf y marw foddi eu teimladau hiraethlon trwy yfed i ormodedd, a meddwi. Gwnelai yr oll a ddeuent i dalu y gymwynas olaf i'r trancedig yr un modd, a pheth cyffredin fyddai i'r offeiriad a ddarllenai y gwasanaeth claddu fod yn feddw. Parhaodd yr hyn a elwid shot gladdu yn hir, ond nid ydym yn gwybod pa bryd y terfynodd yr arferiad. "Ar amser claddedigaeth yn y plwyf (Ffestiniog), arferai y rhan fwyaf fyned a chwech neu swllt gyda hwy, er mwyn myned i'r Efail (tafarndy) i dalu y shotri. Rhoddai pawb fyddai yn bresenol chwech neu swllt i lawr, ac yna byddai y ddiod yn rhydd i bawb yfed ei oreu o honi. Yn 1792, rhoddai Harri Jones, Talybont, overseer y tlodion am y flwyddyn hono, fill i'r plwyf am swllt cwrw y shot yn nghladdedigaeth un Ellis Evans, ac yn nghladdedigaeth gwraig un Evan Jones."[5]

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Mari'r Fantell Wen
ar Wicipedia

Ni byddai y sylwadau arweiniol hyn yn gyflawn heb grybwylliad am heresi a gyfododd dros amser byr, yn y rhan hon. o Sir Feirionydd, ar derfyn y ganrif ddiweddaf. Cofus genym, pan yn dra ieuanc, glywed son mynych am ryw dylwyth hynod wedi bod unwaith yn cael sylw mawr yn Ffestiniog, a'r ardaloedd cylchynol, sef teulu "Mari y Fantell Wen." Ei hanes sydd debyg i hyn.—Daeth Mari Evans, "Mari y Fantell Wen," i'r wlad hon o Sir Fôn, oddeutu y flwyddyn 1780. Gelwid hi wrth yr enw hwn, am ei bod hi a'i chanlynwyr yn gwisgo mantelli gwynion ar y Suliau. Honai ei bod wedi gadael ei gŵr, ac wedi priodi Crist. Cafodd gan amryw bobl dywyll yn ardaloedd y Traeth Bach, Ffestiniog, Penmachno, a manau eraill, y rhai y dywedid eu bod o dan ryw argraffiadau crefyddol, gredu ynddi a dyfod yn ddisgyblion iddi. Antinomiaeth ddigymysg oedd ei daliadau. Byddai hi a'i chanlynwyr yn cadw cyfarfodydd dirgelaidd mewn tai lle yr oedd rhai o'i disgyblion yn byw. Ac ar y Sabbothau, gwelid hwy yn myned allan yn fintai, mewn gwisgoedd gwynion, i ben y bryniau a'r mynyddoedd, a chlywid eu swn gan y trigolion islaw, yn llefain mewn lleisiau tebyg i hyn, Pw! Pw! Hwi! Yr oedd un hen Gristion yn fyw yn 1868, yr hon a welodd y fintai yn myned heibio drws yr Hen Gapel, sef capel cyntaf y Methodistiaid yn Llan, Ffestiniog, ac wrth weled rhai yn myned i'r capel, gwaeddai yr hwn oedd yn blaenori y fintai, "Dacw nhw yn myn'd ar eu penau i uffern." Yn mhentref Ffestiniog lluniwyd Neithior Priodas yr Oen gyda rhwysg a llawenydd mawr; anfonwyd anrhegion i'r dwyll-wraig, gwisgwyd hi yn wych â mantell goch gostfawr ar draul ei chanlynwyr, gan fyned i Eglwys y Plwyf, ac oddiyno i'r dafarn i ddiweddu y Sabbath. Yr oedd Mari wedi perswadio ei chanlynwyr na byddai hi ddim marw. Er hyny marw a wnaeth yn dra thruenus, yn ardal Talsarnau. Cadwyd hi yn hir heb ei chladdu, gan ddisgwyl iddi adgyfodi; ond gyda mawr siomedigaeth, cludwyd ei gweddillion i fynwent Llanfihangel, yn nghymydogaeth Talsarnau. Cymerodd hyn le yn y flwyddyn 1789. Felly ni pharhaodd ei thymor ond yn brin ddeng mlynedd. Glynodd ei disgyblion wrth ei daliadau dros ychydig amser wedi iddi hi farw, ond hwy oll a wasgarwyd, a'u twyll a ddiflanodd o flaen goleuni a gallu yr efengyl. [6]

PENOD II.

——————

RHAG-REDEGWYR Y METHODISTIAID.

CYNWYSIAD.—Crybwyllion am rai o offeiriaid yr Eglwys Sefydledig —Ymweliad yr Esgob Baily—Hugh Llwyd, Cynfal—Morgan Llwyd o Wynedd—Edmund Prys.

 RTH y rhag-redegwyr y golygir y rhai a fu fel dysgawdwyr yn arwain y bobl ac yn eu dysgu mewn crefydd, yn flaenorol i'r Methodistiaid. Ni pherthyn i ni yn y benod hon roddi hanes tebyg i fanwl am y cyfryw, ond yn unig grybwyll am y personau a fu, naill ai yn uniongyrchol neu yn anuniongyrchol yn dylanwadu ar y wlad, er ei moesoli a'i chrefyddoli. Pe yr enwid hwy oll, ni byddent, yn sicr, ond ychydig nifer. At yr Eglwys Wladol yr ydym i edrych am danynt gyntaf, oblegid yn ei meddiant hi yr oedd gofal eneidiau y bobl, cyn cyfodiad Ymneillduaeth. Ond hysbys ydyw na ddeffrowyd mohoni hi, hyd nes y deffrowyd y wlad trwy offerynau eraill. Nid oedd dim yn cael ei wneyd ganddi hi, yn ol yr hanes a gawn o bob cyfeiriad, i ymlid y tywyllwch ymaith, ac nid oedd arweinwyr y bobl mewn moesoldeb a chrefydd ddim uwchlaw y bobl eu hunain, ond yn hytrach yr oedd yr un fath bobl ac offeiriaid." Yn y rhestr â geir o offeiriaid plwyf Ffestiniog o 1550 i 1800, ac eithrio Edmund Prys, Archddiacon Meirionydd, nid oes son am yr un o honynt wedi gwneuthur cymaint o ddaioni i'r plwyfolion, fel ag i beri fod eu henwau mewn coffa ymysg eu holynwyr. A mwy na hyn, ymysg yr offeiriaid a ddiswyddwyd trwy Weithred Seneddol yn y plwyf yn 1649, oherwydd eu drwgfuchedd, eu hanghymwysder i'w gwaith, a'u hesgeulusdra, trowyd allan un Henry Thomas, o fywoliaeth Ffestiniog a Maentwrog. Dywedir am yr esgob Humphreys, yr hwn a anwyd yn yr Hendref, Penrhyndeudraeth, Tachwedd 1648, a'r hwn a fu yn beriglor Llanfrothen, ac wedi hyny yn dal bywoliaeth Trawsfynydd, ei fod yn ŵr dysgedig ac enwog, a hynod o grefyddol. Cyfododd enwogion eraill o ardal Trawsfynydd, megis y Parchn. David Llwyd, A.C., a anwyd yn Pantmawr, yn y flwyddyn 1635; Humphrey Llwyd, D.D., a anwyd yn Bod y Fuddau, yn 1610, ac a gysegrwyd yn esgob Bangor yn 1673; Richard Nanney, o Cefndeuddwr, yr hwn a gafodd ficeriaeth Clynog Fawr yn 1732—y rhai oeddynt wyr da, ond ni threuliasant eu hoes yn yr ardaloedd hyn.

Cyhoeddwyd yn yr Archæologia Cambrensis am Hydref 1863, adroddiad o ymweliad a wnaeth Dr. Lewis Baily, esgob Bangor, â gwahanol blwyfydd ei esgobaeth, yn y flwyddyn 1623. Ymhlith y crybwyllion am Sir Feirionydd, ceir a ganlyn:—

LLANDECWYN A LLANFIHANGEL-Y-TRAETHAU.

Ni chafwyd ond un bregeth yn Llanfihangel-y-Traethau, a dim ond dwy neu dair yn Llandecwyn, ac nid yw y person yn cyfranu dim at gynhaliaeth y tlodion.

TRAWSFYNYDD.

Y mae yn arferiad yn y plwyf hwn i osod cyrff i lawr ar y croesffyrdd, wrth eu cymeryd i'w claddu, a dweyd gweddi neu ddwy uwch eu penau. Syr Robert Llwyd yw y person yma. Arferid y gair Syr y pryd hwnw o flaen enw yr offeiriaid yn gyfystyr a'r gair Parchedig yn ein hoes ni. Yr oedd yr arferiad o roddi y cyrff i lawr mewn croesffyrdd, wrth eu dwyn i'r gladdfa, yn cael ei dilyn mewn llawer o ardaloedd yn Nghymru yn yr oesau gynt. Un o ofergoelion yr amseroedd ydoedd. Oddiwrth y cyfeiriad at anamlder y pregethau, gellir casglu mai esgeulus iawn o'u dyledswyddau oedd yr offeiriaid. Ac oddiwrth y dyfyniad mewn perthynas i'r tri phlwyf uchod, tebygol ydyw mai cyffelyb ydoedd yn y plwyfi eraill. Gwnaed yr ymweliad uchod gan yr Esgob Baily, fel y gwelir, flwyddyn cyn marw Archddiacon Meirionydd. Nid oes dim crybwylliad yn yr adroddiad am Ffestiniog a Maentwrog. Y mae lliaws o leoedd eraill hefyd heb ddim crybwylliad am danynt. Y rheswm am hyn, cyn belled ag yr ydym yn deall ydyw, mai wedi myned ar goll yr oedd rhanau o'r adroddiad cyn ei gyflwyno i'r wasg yn 1863.

Y mae enwau tri o wyr enwog wedi disgyn i lawr i'r oes bresenol, y rhai, yn bur sicr, a adawsant eu hol ar eu cydoeswyr, a'r rhai hefyd, yn yr ystyr hwn, a barotoisant y ffordd i'r rhai oedd yn dyfod ar eu hol i addysgu y wlad.

HUW LLWYD, CYNFAL.

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Huw Llwyd
ar Wicipedia

Bardd enwog oedd Huw Llwyd, yn trigianu yn Nghynfal, hen balasdy yn mhlwyf Maentwrog, ond ar derfyn plwyf Ffestiniog. Yr oedd "braint" Cynfal yn hen Eglwys Blwyfol Ffestiniog, ac nid Maentwrog.[7] Ganwyd ef oddeutu 1540, a bu farw yn ei gartref yn 1620, yn 80 mlwydd oed. Derbyniodd ei addysg yn Nolgellau, ac fe ddaeth yn ysgolhaig gwych. Gwasanaethodd fel swyddog yn y fyddin yn Lloegr ac ar y Cyfandir. Ceir cyfeiriadau yn ei farddoniaeth ef ei hun at y gwledydd y bu yn eu teithio. Y mae yn nghanol yr afon a red gerllaw Cynfal, mewn ceunant rhamantus, gruglwyth o graig, pymtheg neu ddeunaw troedfedd o uchder, a adwaenir fel "Pulpud Hugh Llwyd," lle y dywed llafar gwlad yr elai i fyfyrio. Yr oedd Hugh Llwyd, yn sicr, wedi arfer myfyrio, lle bynag y gwnaeth hyny, oblegid yr oedd yn llenor gwych yn gystal a bardd o fri. Cyhoeddwyd rhai o'i weithiau, ond y mae y rhan fwyaf o honynt wedi eu trosglwyddo i lawr i'r oes hon mewn llaw-ysgrifen, ac yn cael eu cadw yn yr Amgueddfa Brydeinig, a lleoedd eraill. Canodd prif feirdd yr oes yn odidog ar ei ol. Gwnaeth Edmund Prys, yr hwn oedd yn cyd-oesi ag ef, yn gyfaill ac yn gymydog agosaf iddo, yr englyn canlynol ar ei farwolaeth:—

"Pen campau doniau a dynwyd—o'n tir,
Maentwrog ysbeiliwyd ;
Ni chleddir, ac ni chladdwyd,
Fyth i'r llawr mo fath Huw Llwyd."

MORGAN LLWYD, O WYNEDD.

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Morgan Llwyd
ar Wicipedia

Yr oedd yntau o deulu Cynfal,—mab, medd rhai, nai neu wyr, medd eraill,—i'r enwog Huw Llwyd. Erys cryn lawer o ansicrwydd ynghylch hyn. Ond fe gyrhaeddodd ei ddylanwad ef er daioni ar ei gydwladwyr yn eangach nag eiddo ei berthynas enwog yn ol y cnawd. Y dystiolaeth gyffredin ydyw, ei fod yn un o ddynion goreu ei oes, ac eto ychydig, mewn cymhariaeth, sy'n wybyddus am helyntion ei fywyd. Y crynhodeb goreu, yn ddiau, ydyw yr hyn a geir yn y Rhagarweiniad gan y Parch. O. Jones, B.A., Liverpool, i Lyfr y Tri Aderyn, a gyhoeddwyd gan Mr. Isaac Foulkes, yn 1889. Ganwyd Morgan Llwyd tua'r flwyddyn 1619, fel y tybir, yn Nghynfal. Gelwir ef gan ysgrifenwyr y Gogledd yn "Morgan Llwyd o Gynfal," a chan ysgrifenwyr y Deheudir, "Morgan Llwyd o Wynedd," am yr ystyrid ef yn brif efengylwr i drigolion Gwynedd, a'r penaf o efengylwyr Ymneillduol y dalaeth Ogleddol. Argyhoeddwyd ef o dan weinidogaeth Walter Cradoc, yn Ngwrecsam, pan yr oedd ef yno yn yr ysgol. Cymerodd hyn le tua'r flwyddyn 1635, tra nad oedd ond 16 oed. Ymroddodd yn fuan i'r weinidogaeth. Yr oedd yn meddu ar alluoedd naturiol cryfion, cafodd addysg dda, ac yr oedd o dueddiadau crefyddol a duwiolfrydig. Treuliodd y rhan fwyaf o'i amser fel gweinidog yn Ngwrecsam, ond elai ar deithiau mynych trwy Ogledd Cymru, a bu yn foddion i sefydlu eglwysi Ymneillduol mewn amryw fanau. Y mae traddodiad y byddai yn ymweled yn fynych â Phwllheli, ac yr arferai fyned trwy y dref ar ddyddiau marchnad, a'r Beibl yn ei law, a golwg hynod o urddasol arno, fel yr effeithiai yn fawr ar y bobl, hyd yn nod yn nghanol eu gorchwylion.

Dywed Robert Jones, Rhoslan (Drych yr Amseroedd)—"Un tro pan oedd yn pregethu yn mhentref Ffestiniog, a bod yno ymysg amryw oedd yn cellwair ac yn gwawdio, un dyn ieuanc yn rhagori arnynt oll mewn ysgafnder a chellwair; wrth sylwi arno nododd ef allan, gan ddywedyd wrtho fel hyn, 'Tydi, y dyn ieuanc, gelli adael heibio dy gellwair; tydi yw y cyntaf a gleddir yn y fynwent yna.' Ac felly y bu." Hysbys ydyw iddo lefaru llawer o bethau tebyg trwy broffwydoliaeth, a daethant i ben fel y llefarodd hwynt. Yr oedd yn bregethwr poblogaidd, ac yr oedd nerth rhyfedd yn ei weinidogaeth. Priodol iawn y gellid cymhwyso ei eiriau yn Llyfr y Tri Aderyn ato ef ei hun,— "Mae rhyw nerth ymysg dynion yr awrhon nad oedd o'r blaen. Mae rhyw ysbryd rhyfedd yn gweithio, er nad yw y bobl yn gweled." Yr oedd yn byw mewn amseroedd cythryblus, a bu yn ffoadur yn Lloegr, o'r lle yr anfonodd lythyrau tra dyddorol at ei berthynasau yn Nghymru. Cytuna ei gydoeswyr a'r rhai a oesent ar ei ol i'w osod allan fel prif efengylwr a chymwynaswr ei wlad. Dywed y Parch. John Evans, o'r Bala, trwy Mr. Charles am dano,— "Gwr tra enwog yn ei oes oedd Morgan Llwyd; o gyneddfau cryfion, dwys fyfyrdod, a symlrwydd duwiol." Bu farw Mehefin 3ydd, 1659, yn 40 mlwydd oed. Claddwyd ef yn mynwent Ymneillduol Rhosddu, gerllaw Wrecsam. Ysgrifena y Parch. John Hughes yn Methodistiaeth Cymru,-" Dywed Robert Jones, Rhoslan, yn Nrych yr Amserosdd, iddo ef weled darn o gareg ei fedd, a'r llythyrenau 'M. Ll.' arni. Gallaf finau dystio yr un peth; cyfeiriwyd fy sylw aml waith at y darn careg, gan yr hen wr fyddai arferol o dori beddau yno." Cyfansoddodd amryw lyfrau. Y penaf a'r hynotaf ydyw Llyfr y Tri Aderyn, yr hwn sydd wedi ei ysgrifenu ar ddull ymddiddan rhwng yr Eryr, y Gigfran, a'r Golomen; y rhai a osodant allan Cromwell, yr Eglwys Sefydledig, a'r Anghydffurfwyr.

Ni welsom yn un man fod haneswyr yn rhoddi ei hanes yn pregethu i'w gyfoedion yn ei ardal enedigol, oddieithr yr un crybwylliad am dano yn pregethu yn mhentref Ffestiniog. Ond diameu i ŵr mor rhagorol ag ef fod yn pregethu yno lawer gwaith heblaw y tro hwnw.

EDMUND PRYS, ARCHDDIACON MEIRIONYDD.

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Edmwnd Prys
ar Wicipedia

Ysgrifenwyd llawer o bryd i bryd am yr Archddiacon, ac am ei weithiau barddonol clodfawr. Ganwyd ef yn y Gerddi Bluog, plwyf Llanfair, ger Harlech, yn y flwyddyn 1511. Gwnaed camgymeriad gan rai ysgrifenwyr, trwy roddi y Gerddi Bluog yn mhlwyf Llandecwyn, ond yn mhlwyf Llanfair y mae. Fel hyn y dywedir yn Llyfrgell Hynafiaethol Tan-y-bwlch: "Yr Archddiacon oedd fab Tyddyndu, Maentwrog, ac a anwyd yn y flwyddyn 1541. Efe a aeth i fyw yn y Gerddi Bluog, yn mhlwyf Llanfair, ar briodas ei ail fab, Morgan Prys, â Margaret Williams, etifeddes y Gerddi Bluog. Fei claddwyd yn Maentwrog, heb unrhyw gof-lech, yn y flwyddyn 1624."

Saif Tyddyn Du, hen gartref yr Archddiacon, yn ymyl y groesffordd, lle y troir i lawr i Maentwrog wrth fyned ar hyd. y ffordd fawr o Drawsfynydd, ac yn agos i Orsaf bresenol Maentwrog Road. Y mae hefyd yn ffinio â Chynfal, o enwog goffadwriaeth. Yr oedd Huw Llwyd a'r Archddiacon yn cyd-oesi, bron yn hollol; ond pump oed oedd Morgan Llwyd pan fu y diweddaf farw. Addysgwyd Edmund Prys yn Ngholeg St. Ioan, Caergrawnt, lle y graddiwyd ef yn A.C. Penodwyd ef i berigloriaeth Ffestiniog a Maentwrog yn y flwyddyn 1572; yn 1576, ordeiniwyd ef yn Archddiacon Meirionydd; yn 1580, cafodd bersonoliaeth Llanddwywe; a Hydref 8fed, 1602, ordeiniwyd ef yn Canon (Canonicus Secundus) Llanelwy. Yr oedd yn un o feirdd Cymreig enwocaf ei oes, ac yn ysgolhaig gwych. Y mae llawer o'i ysgrifeniadau yn awr ar gael, mewn ysgrifen yn unig, er fod llawer o honynt hefyd wedi eu cyhoeddi. Mae yn amlwg, hefyd, ei fod yn ddysgedig, gan y dywedir ei fod yn hyddysg mewn wyth o ieithoedd. Yr oedd yn berthynas-nai, fab cyfyrder, meddir-i William Salsbri, cyfieithydd cyntaf y Beibl i'r iaith Gymraeg. "Dywed Dr. Morgan yn ei lythyr wrth gyflwyno y Beibl i'r Frenhines Elizabeth, nas gallasai ef byth gyfieithu ond pum' llyfr Moses yn unig, oni buasai iddo gael cynorthwy gan Edmund Prys ac eraill. A dyma englyn a wnaeth Edmund Prys ei hun pan fygythid ef gan y Pabyddion am gynorthwyo y Dr. Morgan i gyfieithu y Beibl i'r Gymraeg—

"Nid all diawl, na'r hawl sy'n rheoli—drwg,
Na dreigiau na chyni,
Na dim wneyd niwed imi,
Ag a Duw mawr gyda mi."[8]

Gweithiau barddonol Edmund Prys a roddodd enwogrwydd iddo yn yr oes yr oedd yn byw ynddi. Ysgrifenodd yn agos i 60 o Gywyddau ymryson rhyngddo â William Cynwal. Mor llymion oedd rhai o honynt fel y dywedir iddynt fod yn achos o farwolaeth ei wrthwynebydd. Cyn gynted ag y clywodd yr Archddiacon hyn, cyfansoddodd farwnad i William Cynwal, yn yr hon y dywed:—

"Duw'n ei gofl, da iawn gyflwr
Doe aeth ag ef, doethaf gwr

I eisteddfod Crist a'i noddfa,
Llys deg llawn ewyllys da.
Oddiyno ni ddaw enyd,
Ond teg yw, awn ato i gyd."

Ond campwaith Edmund Prys, a'r hyn a wnaeth ei enw yn glodfawr gan y genedl Gymreig, oedd troi y Salmau ar gân. Y mae ynghylch 20 o wahanol argraffiadau or "Salmau Cân" wedi ymddangos. Yr oedd wedi cael y fath afael ar y genedl fel yr erys rhai o'i ddywediadau yn ddiarhebion ymysg y Cymry, megis y ddwy linell ganlynol o'i "Gywydd ar Helynt y Byd:"-

"Rhaid i'r gwan ddal y ganwyll
I'r dewr i wneuthur ei dwyll."

"Yr oedd Edmund Prys," ebe Mr. Charles, o'r Bala, yn y Drysorfa Ysbrydol, "yn un o'r gwyr mwyaf dysgedig, a'r prydydd hynotaf yn ei oes; ac y mae amryw o'i gyfansoddadau ar gael eto: y mwyaf hynod o honynt yw ei ddadleuaeth brydyddol efo William Cynwal. Ond nid yw ei ymryson prydyddol hwn ddim mor addas i gyfieithydd ardderchog y Salmau ag y byddai yn ddymunol er adeiladaeth."

Y tri wyr hyn, yn ddiamheuol, a adawodd yr argraffiadau dyfnaf, er daioni, ar y rhan yma o Sir Feirionydd, o bawb yn eu hoes. Ac nid ydym yn gwybod am neb arall a fu yn amlwg o blaid rhinwedd a chrefydd cyn dechreuad y diwygiad crefyddol trwy y Methodistiaid.

PENOD III.

PANDY-Y-DDWYRYD.

CYNWYSIAD.—Darluniad o'r fro—Ei hanghenion ysbrydol— Symudiad Lowri Williams o Bandy-Chwilog i Bandy-y-Ddwyryd—Yn foddion troedigaeth Griffith Ellis, Pen'rallt—"Teulu Arch Noah"—Y cyniwair ir Pandy—Lowri Williams yn gweinyddu yr ordinhad—Erlid y crefyddwyr—Llythyr cyfreithiol—Marwolaeth Lowri Williams—Edward Roberts, Vicar Crawgallt.

"Dywedir i lafur un wraig o'r enw Lowri Williams, o Bandy-y-Ddwyryd, fod yn foddion i blanu deunaw o eglwysi yn y rhan hono o Sir Feirionydd, sef yn nghymydogaethan y Penrhyn, Maentwrog, Trawsfynydd, &c., y rhai a gynyddasant yn ei hoes hi, i fil o aelodau."—Methodistiaeth Cymru, I., 293.

 LE anghyfanedd ac anghysbell ydyw Pandy-y-Ddwyryd, a'i safle megis o'r naill du, rhwng Trawsfynydd a Maentwrog. Nid ydyw yn agos i un dramwyfa yn yr oes hon. I ddangos y fan mor eglur ag y gellir; pe yr elai y darllenydd oddeutu dwy filldir oddiwrth Orsaf Maentwrog Road, i gyfeiriad y mynydd rhyngddo â Dyffryn Ardudwy, fe ddeuai wrth odreu y mynydd i'r llecyn y saif Pandy-y-Ddwyryd arno. Nid oedd, saith ugain mlynedd yn ol, yn fwy neillduedig na thyddynod eraill yr ardaloedd hyn, ac nid oedd yn fwy anhawdd cyrchu ato na hwythau; ond yn awr ystyrir ef yn un o'r cilfachau mwyaf anghysbell yn yr amgylchoedd. Nid oes waith i'r panwr ynddo fel yn yr hen amser; nid yw yr ardalwyr yn cyrchu yno am eu brethynau a'u gwlaneni; ac anfynych y mae hyd yn nod y cymydogion agosaf yn croesi y corsydd gwlybyrog tuag at y bwthyn anghyfanedd. Ond y mae hynodrwydd yn perthyn i'r lle er hyny, nas gallodd helyntion y ganrif aeth heibio mo'i wisgo ymaith, ac nis, gall ychwaith holl ddigwyddiadau canrifoedd i ddyfod wneyd hyny. Dyma fan cychwyniad crefydd ymhlith y Methodistiaid Calfinaidd yn y parthau hyn o Sir Feirionydd.

Pan roddwyd y cychwyniad hwn i grefydd, trwy ddyfodiad Lowri Williams i drigianu i Bandy-y-Ddwyryd, yr oedd 131 o flynyddoedd wedi myned heibio er pan fuasai farw Edmund Prys, Archddiacon Meirionydd, a chan' mlynedd ond pedair er amser marwolaeth Morgan Llwyd o Wynedd. Beth oedd cyflwr y wlad yr holl flynyddau hyn? Nid oes ond un ateb i'w roddi, sef fod tywyllwch ac anwybodaeth wedi ei gordoi, a'i thrigolion wedi eu llwyr adael, heb neb yn gwneuthur ymdrech i ddangos iddynt y ffordd i'r bywyd. Nis gallwn lai na choledd y gobaith ddarfod i lawer o wrandawyr gŵr mor rhagorol a'r hwn a drôdd y Salmau ar gân, a chynorthwy-ydd y Dr. Morgan i gyfieithu yr Ysgrythyrau, gael eu dwyn i adnabod y Gwaredwr. Ond ar ol yr Archddiacon, nid ydym yn cael hanes am neb yn y fro hon yn cyfodi bys na llaw, er gwneuthur ymdrech i oleuo y bobl am bethau y fuchedd dragwyddol. Hyn sydd sicr, mai yn y cyfnod hwn, trwy gyfraith Seneddol yn amser Cromwell, y trowyd allan o'r llanau plwyfol yn y dywysogaeth chwech ugain o offeiriaid, "oherwydd anwybodaeth, segurdod, ac anfoes," ac yr oedd offeiriad plwyfi Maentwrog a Ffestiniog yn un o'r chwech ugain. Gellir canfod oddiwrth y pethau yma pa mor isel oedd crefydd yn y plwyfi hyn a'r wlad o amgylch. Heblaw hyny, ceir awgrymiadau pendant yn hanes y wraig ragorol a fu yn foddion yn llaw rhagluniaeth i roddi ysgogiad i'r diwygiad crefyddol, fod arferion pobl y wlad yn yr amgylchoedd yn ei dyddiau hi yn llygredig ac annuwiol. Rhoddwn hanes y cychwyniad yn llawn, fel yr ysgrifenwyd ef oddeutu y flwyddyn 1850:—

"1755. Tua'r amser yma yr ymddengys i ryw gychwyniad bychan gymeryd lle ar Fethodistiaeth yn yr ardaloedd rhwng Penrhyndeudraeth a Thrawsfynydd. Nid wyf yn cael fod un lle yn Sir Feirionydd ond y Bala, wedi achlesu y penau cryniaid yn foreuach na'r fro hon. A gwnaed hyny trwy offerynoldeb gwraig, o sefyllfa gyffredin, ond o ysbryd rhagorol, a duwioldeb nodedig. Yr oedd Methodistiaeth eisoes wedi dechreu ymwreiddio yn Sir Gaernarfon, tuag ardal Brynengan, nid ymhell o Bwllheli. Yn yr ardal hon yr oedd gwr o'r enw John Prichard, yn byw yn Pandy-chwilog, plwyf Llanarmon; yr hwn oedd wr moesol a diachwyn arno, ac i'r hwn yr oedd gwraig wir grefyddol, ac mewn undeb â'r Methodistiaid yn Mrynengan, o'r enw Laura, neu Lowri Williams. Ac er nad oedd John Prichard ei hun mewn undeb eglwysig, eto fe ymddengys ei fod yn arfer gwrando ar y Methodistiaid, ac ni fynai roddi hyny heibio. Y canlyniad fu, iddo orfod ymadael â Phandy-chwilog, oblegid nad ymddiosgai yn llwyr oddiwrthynt. Agorodd rhagluniaeth ddrws i John Prichard a'i wraig i fyned i Bandy-y-ddwyryd, yn mhlwyf Maentwrog, Sir Feirionydd. Yr oedd Lowri Williams, erbyn hyn, mewn lle anfanteisiol iawn i fwynhau y moddion a ystyrid mor werthfawr ganddi, ond yr oedd yn lle, er hyny, a roddai fantais iddi wneuthur llawer iawn o ddaioni. Nid oes hanes am neb o gyffelyb feddwl iddi o fewn llawer iawn o filldiroedd, ar law yn y byd. Yr oedd iddi tua 15 milldir i Frynengan, ar y naill law, a thua 18 milldir i'r Bala ar y llaw arall. Nid hawdd ydyw ffurfio dychymyg teilwng am deimladau meddwl y wraig hon dan y fath amgylchiadau. Llosgai ei henaid gan awydd i ordinhadau Duw, ond nid oeddynt i'w cael o fewn llawer o filldiroedd meithion; sychedig oedd ei hysbryd am gymundeb y saint, ond nid oedd un yn agos ati; dyheai am gyfarwyddyd a chyngor, ond nid oedd un yn y teulu, nac yn y wlad, a allasai ei roddi iddi; eiddigeddai yn achos sefyllfa isel a thruenus chymydogion, ond beth a allai gwraig ei wneuthur? Nid oedd bregethwr yn nes na Lleyn neu y Bala; nid oedd nac Ysgol Sabbothol na llyfr yn mron ar gael i oleuo gradd ar y gaddug dywyll. Yr oedd y rhagfarn, hefyd, yn erbyn y crefyddwyr mor gryf yn yr amgylchoedd hyn ag yn ei bro ei hun; ac os dangosai yn amlwg, trwy ryw gais o eiddo ei hawyddfryd, i ddwyn y penau-cryniaid i'r wlad y daethai hi iddi, ac yn yr hon nid oedd eto ond dieithr a diamddiffyn, pa sarhad ac anfri ni allai ddisgwyl i ddymchwel yn genllif aruthrol arni ac ar ei theulu. Dan y fath amgylchiadau, yr oedd yn dra anhawdd iddi ymarfogi yn ddigon gwrol i wneuthur cais at unrhyw beth yn yr achos; a phe teimlai ei hunan yn ddigon penderfynol ei meddwl i wneuthur cais at hyny, yr oedd yn anhawdd dychymygu pa beth a wnai, a pha. fodd. Ond yn ei sefyllfa hi, fe wirwyd y ddiareb, Wele faint o ddefnydd y mae ychydig dân yn ei enyn!' Trwy ryw foddion neu gilydd, hi a gafodd gan ryw rai ddyfod yn awr ac eilwaith i Bandy-y-ddwyryd i bregethu, a bendithiodd Duw ymddiddanion Lowri Williams, a phregethau achlysurol ei weision, i enill ryw nifer ychwanegol ati. Mae ein hanes yn brin iawn ynghylch y dull a'r modd yr ymosodwyd ar y gwaith da,—pwy oedd y pregethwyr, nac o ba le y daethant;. ond y mae genym hanes am un amgylchiad nodedig y bu y wraig hon yn offeryn i ddychwelyd un llanc ieuanc gwyllt at Dduw, yr hwn a fu ar ol hyny yn nodedig ddefnyddiol, yntau hefyd, yn ei ardal, i rwyddhau mynediad yr achos yn ei flaen.

Yr oedd Lowri Williams yn arfer tori at bawb, y rhoddid cyfleustra iddi i wneyd hyny, am bethau crefydd. Ni adawai lonydd i neb, ac ni ollyngai un cyfleusdra i fyned heibio, heb geisio gwneyd defnydd o hono i'r diben hwn; ac ni ollyngai yn angof, ychwaith, ddyrchafu ei hochenaid at Dduw am fendith ar yr ymddiddanion, i wneuthur lles i eneidiau dynion. Crybwyllasom fwy nag unwaith eisoes am enw un Griffith Ellis, Pen-yr-allt, gerllaw Harlech. Gŵr oedd hwn a fu o wasanaeth arbenig i achos yr efengyl yn ei fro, ac i'r wraig hon, fel moddion, yr oedd yn ddyledus am ei ddychweliad at Dduw. Ryw Sabbath, pan yn ieuanc, ac yn cyrchu, fel ieuenctyd y wlad yn gyffredinol, i ryw gyfarfod llygredig neu gilydd, fe ddaeth heibio Pandy-y-Ddwyryd, ar ei ffordd i'r ymgynulliad; ond gan fod afon yn croesi ei lwybr, ac yntau yn anadnabyddus o'r lle goreu i'w chroesi, troes i dŷ Lowri Williams i ofyn iddi ei gyfarwyddo at y sarn. Hithau, gyda phob parodrwydd, a aeth gydag ef i ddangos iddo y lle, ac wrth fyned a ofynodd iddo,—

"Wel, fy machgen i, a fyddi di ddim yn ymofyn y ffordd i'r bywyd ar y Sul?'

"Na fydda i," meddai yntau, nac yn gofalu am ddim o'r fath beth.' "Tyr'd yma y pryd a'r pryd,' ebe y wraig, 'fe fydd yma ŵr yn dangos y ffordd i'r nef.'

"Na ddeuaf fi yn wir,' ebai yntau;—ac i ffordd ag ef, yn fwy ei fryd am bleser y chwareu-gamp ynfyd, nag oedd ei ofal am ddim o'r pethau hyny. Ar yr un pryd, yr oedd y saeth wedi cyraedd ei gydwybod. Swniai y gofyniad, a fyddi di yn ymofyn am y ffordd i'r bywyd?' yn ei glustiau yn fynych, fynych, ac nid allai gael llwyr lonyddwch oddiwrtho. Parai ymofyniad yn ei fynwes pa ffordd a allai y ffordd i'r bywyd fod; a pha fywyd a allai hwn fod? Yr oedd gweddi Lowri Williams wedi pwyo yr hoel i'w arlais, ac ni pheidiodd ei waedu nes ei ladd trwy argyhoeddiadau. Taflwyd hedyn gwirionedd pwysig yn y modd yma i'w feddwl, a gwlychwyd yr hedyn hwnw â gweddiau y wraig dduwiol, nes iddo wreiddio yn ddwfn a ffrwytho yn helaeth. Dywedasai wrthi hi na ddeuai efe i wrando ar y pregethwr; ac nid oedd ar y pryd yn bwriadu dyfod yn agos at y fath bobl, ac ar y fath neges. Ond nid oedd lonyddwch i'w gael, a pha beth a wneid? Yr oedd ei enaid yn gwaedu gan drallod ac ing, ac yn dyheu am orphwysdra; yr oedd yn rhaid ysgogi yn rhyw gyfeiriad. Penderfynodd, pa fodd bynag, i fyned i wrando pa beth a allai fod gan y gwr i'w ddweyd ynghylch y ffordd i'r bywyd.' Yno hefyd yr aeth, ac nid ofer fu ei fynediad. Goleuwyd ef am ei gyflwr colledig, ac am drefn Duw i gadw y colledig, nes iddo benderfynu llwyr adael ei hen gyfeillion a'i arferion gynt, ac i ymroi i wasanaeth yr Iesu am ei oes. A gwas ffyddlawn yn yr holl dŷ a fu. Hwn oedd y gŵr y dywedasom iddo ollwng y wedd pan yn aredig yn y maes ganol dydd, a myned ugain milldir ar ei draed, i grefu ar bregethwr i ddyfod i'r ardal y Sabbath canlynol; hwn hefyd yw y gŵr y byddai offeiriad anystyriol ei blwyf ofn ei gyfarfod gan amlyced oedd ei dduwioldeb, a chan hallted oedd ei ymadroddion. Fe fu Griffith Ellis yn fendith fawr yn ei ardal ei hun, ac nid yn unig yn ei ardal ei hun, ond yn y rhai cymydogaethol hefyd, ac y mae ei enw yn beraroglaidd hyd heddyw yn ei fro enedigol.

Er fod dychweliad Griffith Ellis ei hun o werth annrhaethol iddo ei hun, ac o ddefnyddioldeb mawr i achos yr efengyl, eto nid hyn oedd yr unig les a ddeilliodd o gynghorion Lowri Williams; ond ymestynodd ei dylanwad yn mhellach, a bendithiwyd ei hymdrechion i raddau llawer mwy. Trwy ei dylanwad crefyddol hi yn ei theulu, y gwnaed ei gŵr yn foddion i dynu i lawr yr halogiad gwrthun oedd ar y Sabbath yn Nhrawsfynydd. Ymhen rhyw amser, casglodd wyth at eu gilydd i ffurfio cymdeithas eglwysig fechan, ac yn ei thŷ hi y cynhelid y moddion hyn. Gelwid y gymdeithas hon Teulu Arch Noah,' oblegid wyth enaid oedd o honynt. Eu henwau oeddynt, Lowri Williams a'i nith Gwladys Jones; Edward. Roberts, y gwehydd (wedi hyny yn bregethwr), a'i wraig ; Robert ei frawd a'i wraig; a John Humphreys, Gwylan, a'i ferch. Chwanegwyd atynt cyn hir bump eraill, yn mysg y rhai yr oedd Griffith Ellis y soniwyd eisoes am dano. Yr oedd. yr ychydig nifer hyn yn preswylio yn mhell oddiwrth eu gilydd,—un gerllaw Harlech; un arall yn mhlwyf Llanfrothen; un arall yn Ffestiniog; ac un arall yn Nhrawsfynydd. Yr oeddynt fel pe gwasgerid hwy yn fwriadol, fel y chwelid perarogl yr efengyl a hyny yn fwy ar led, ac y rhoddid iddynt. gymaint a hyny o fantais i fod yn fwy defnyddiol i ledaenu achos yr efengyl yn y wlad."—Methodistiaeth Cymru, I., 496 499.

Oddiwrth yr hanes uchod, gallwn gasglu yn bur sicr mai i Ffestiniog yr oedd y gwr ieuanc, y bu Lowri Williams yn ei gynghori, yn myned; a chan mai y Sabbath oedd hi, tra thebyg ydyw mai Gwylmabsant a gedwid yno oedd y cyfarfod llygredig y cyrchai y llanc iddo. Yr oedd wedi dyfod y boreu Sabbath hwnw, ar hyd yr hen ffordd, a'r unig ffordd y pryd hwnw, os oedd yno ffordd er hyny, trwy Landecwyn, a phentref Brynbwbach, ac yna heibio i gapel presenol Llenyrch, ac uwchlaw cŵr uchaf Rhaiadr Du, nes yr oedd ar unwaith wrth dy Pandy-y-Ddwyryd. Hono oedd y ffordd unionaf, er mor arw ydoedd, o'i gartref, gerllaw Harlech, i Ffestiniog. Cawn ddychwelyd eto i adrodd hanes y llanc hynod hwn, ac i sylwi ar y personau eraill a ddeuent o bellder ffordd, i wneyd i fyny "deulu yr arch." "Onid yw yr un ffunud a gwaith Duw? Gwelwch fel y mae Efe yn goleuo un ganwyll yn Harlech, un arall yn Llanfrothen, y drydedd yn Nhrawsfynydd, a'r bedwaredd yn Ffestiniog. Yr oedd hyn yn arwydd fod Duw am lanw yr holl ardaloedd hyn âg efengyl Crist."[9] Nid oes dim yn fwy eglur yn yr hanes na bod llaw Rhagluniaeth ddwyfol i'w gweled drwyddo oll. Llai na 150 o flynyddoedd sydd er pan nad oedd yr holl eglwysi lliosog yn y cwmpasoedd hyn ddim ond wyth enaid. "Yn lle wyth o aelodau, yr oedd eu rhif yn 1849 yn 1717, a'r capeli yn 23, o fewn y dosbarth hwn o'r wlad." Erbyn hyn, mae yr aelodau gryn lawer yn fwy na chymaint arall â'r nifer hwn. Ffaith nodedig arall yn profi ffyddlondeb crefyddwyr cyntaf y wlad ydyw, y byddai y brodyr o'r Bala yn dyfod cyn belled â'r lle hwn, i gynorthwyo i gynal cyfarfodydd gweddio ac i ddarllen y Beibl. Adroddai yr hen bregethwr John Evans am dano ei hun, cyn iddo ddechreu pregethu (yn 1765), y byddai ef a dau frawd arall yn cychwyn o'r Bala ar foreu y Sabbath, i gadw cyfarfod gweddi yn Mlaenlliw am naw, a Phandy-y-Ddwyryd am ddau o'r gloch, a dychwelyd yn ol i'r Bala yr un diwrnod, a hyny ar -eu traed; pellder, dybygid, oddeutu 35 milldir. Dywedai yr hen batriarch, wrth adrodd yr hanes, y buasai yn dda ganddynt gael bara a chaws yn Nhrawsfynydd wrth ddychwelyd, "Ond yr oedd yn rhaid i ni," meddai, "gadw ymhell oddiwrth y pentref hwnw."

Ymysg y nifer a ychwanegwyd at yr wyth cyntaf yn Pandy-y-Ddwyryd, heblaw G. Ellis, Pen-yr allt, yr oedd amryw o wragedd, Jane Thomas, Ogof-llochwyn, Llanfrothen; Martha, gwraig J. H., dilledydd, Ffestiniog; Margaret Ellis, Ty'nypant, Llandecwyn; Elizabeth, Tyddyn Sionwyn, Llanfihangel. Yr oedd Margaret Ellis yn analluog i gerdded, ac oblegid hyny byddai yr aelodau crefyddol yn cyfarfod yn fynych yn Ty'nypant, i gynal cyfarfodydd, a dywedir fod Lowri Williams wedi gweinyddu yr ordinhad o Swper yr Arglwydd, gyda bara a dŵr, yn y tŷ hwn lawer gwaith. Y mae Ty'nypant, er's llawer blwyddyn, yn hen furddyn heb neb yn preswylio ynddo. Erys y waliau yn gyfan eto, ond y tô wedi syrthio iddo. Saif hwn ar ben trumell Ceunant Llenyrch, gyda banc bychan, a'r coed gerllaw, yn ei gysgodi rhag gwynt y gorllewin, o fewn rhyw chwarter milldir i ffermdy Llenyrch. Gofaled pob pregethwr a elo i daith Maentwrog, wedi bod yn cael cwpanaid o de gyda theulu caredig Llenyrch, am edrych ar y llaw dde, oddeutu chwarter milldir oddiwrth y tŷ, pan yn myned rhyngddo â Maentwrog Isaf at y nos, ac fe wel ei fod o fewn ergyd careg i'r hen fwthyn cysegredig, lle bu ychydig frodyr a chwiorydd crefyddol, yn y modd mwyaf syml, yn gwneuthur coffa am angau rhyfedd y Gwaredwr. Amlwg ydyw fod yr ychydig grefyddwyr hyn yn crefydda yn dda o dan anfanteision mawrion. Nis gallent fyned i Langeitho i'r Cymundeb, fel y byddai llawer yn myned; ac yr oedd yn well ganddynt gyfranogi o'r Sacrament fel y gallent, na myned i Eglwys y Plwyf yn y stad ddigrefydd yr oedd pethau ynddi y pryd hyn. Ac heblaw hyny, erbyn hyn, yr oedd y llanwyr wedi dyfod yn elynion mawr i "deulu yr arch." Cyfarfuwyd yma hefyd âg erledigaeth chwerw, ac ni ddylid myned heibio heb ei adrodd. Y mae yr hanes yn debyg i hyn,—

Un tro yr oedd Mr. Thomas Foulkes, o'r Bala, wedi hyny o Machynlleth, yntau hefyd yn un o gynghorwyr cyntaf y sir—yn pregethu yn nhŷ John Humphreys, Gwylan, gerllaw Pandy-y-Ddwyryd. Yr oedd John Humphreys yn un o'r "wyth enaid" y cyfeiriwyd atynt, ond gallwn dybio mai ymhen rhai blynyddau wedi dechreu ymgynull yn Pandy-y- Ddwyryd, y traddodwyd y bregeth hon yn ei dŷ. Modd bynag, ymwthiodd yr erlidwyr i mewn i'r tŷ, ymaflasant yn y pregethwr, ac yn Lowri Williams, gan eu taflu i'r afon. "Yn y codwm cafodd Lowri Williams ei niweidio yn drwm, trwy iddi ddisgyn ar gerig yn yr afon, a daeth adref wedi ei llychwino gan waed, ac wedi ei hanafu yn gymaint yn y codwm ag y bu yn gorwedd am enyd o amser." Ei mab, Rowland Jones, pan welodd y cam a wnaethpwyd a'i fam, a benderfynodd geisio amddiffyn y gyfraith, os oedd amddiffyn i'w gael. Anfonodd at ei gefnder, yr hwn oedd gyfreithiwr yn Llundain, i adrodd yr hanes. Cymerodd y gŵr hwn yr achos yn ei law ei hun. Yr oeddis wedi cael ar ddeall mai gwraig foneddig yn y gymydogaeth, yr hon yn fuan ar ol hyny a briododd. berson y plwyf, oedd wedi rhoddi yr erlidwyr ar waith; ac anfonodd y cyfreithiwr lythyr swyddogol yn uniongyrchol at y wraig foneddig, gan ei rhybuddio, os parhai i arfer creulondeb at ddeiliaid heddychol y deyrnas, y rhoddid hi yn ddiatreg yn ngafael y gyfraith, ac y byddai raid iddi ddioddef cosb haeddianol am ei thraha.

Cyrhaeddodd y bygythiad ei amcan. Ymhen rhyw gymaint o amser wedi hyny, bu gan Rowland Jones, mab Lowri Williams, neges i fyned i'r palas, lle yr oedd y wraig foneddig yn byw, a deallodd trwy un o'r gweision fod llythyr wedi dyfod ac wedi achosi braw a dychryn. Ac yn rhagluniaethol iawn, daethpwyd o hyd i gynwys y llythyr. Yr oedd wedi ei adael yn agored yn y parlwr, a thra yr oedd ei feistres allan yn rhodio, cafodd y gwas wybod ei gynwys, yr hyn a wnaethpwyd yn hysbys i deulu Lowri Williams. Dywedir fod y llythyr hwn wedi bod yn foddion i roddi atalfa ar yr erlid o hyny allan, Yr oedd ei gynwys yn debyg i hyn:—

"Mrs. Griffith,—

"Yr ydwyf wedi clywed eich bod yn cyfodi yn erbyn y Llywodraeth, trwy anfon eich gweision i labuddio eich cymydogion; canys nid yw Llywodraeth Lloegr yn caniatau llabuddio neb, fel y gwnaeth eich gweision chwi â Thomas Foulkes a Lowri Williams, yn y Gwylan (yr amser a'r amser). Os myfi a glywaf eto eich bod yn parhau i erlid (na neb arall), myfi a fyddaf yn eich erbyn, ac a'ch cosbaf i'r eithaf, er cymaint gwraig foneddig yr ydych yn tybio eich hun.

Hyn oddiwrth,
ROWLAND JONES, Attorney, &c."[10]

Y mae coffadwriaeth Lowri Williams yn haeddu parch dau- ddyblyg. Y hi fu yn foddion i blanu gwir grefydd yn y parthau hyn gyntaf, a hyny mewn adeg mor foreuol nad oedd dim wedi ei wneuthur yn Sir Feirionydd i oleuo y bobl am eu cyflwr colledig, ond yn y Bala yn unig. Yr oedd gadael ei chartref yn Pandy-Chwilog, a symud i drigianu yn Pandy-y- Ddwyryd, yn ddiau yn brofedigaeth fawr iddi. Ond un o droadau rhyfedd Rhagluniaeth Duw oedd hyn, er bendith ysbrydol a thragwyddol i eneidiau lawer. Yr oedd cuddiad ei chryfder hi yn ei duwioldeb. Yr oedd "wedi gwneyd llwybrau cochion wrth fynych gyrchu at orseddfainc y gras, a chlybuwyd ei llais dan goedydd ac ogofeydd y creigiau. Y mae ar dir Pandy-y-Ddwyryd olion llawer o hen allorau a godwyd ganddi." Ni bu byw ar ol symud i'r sir hon ond 23 o flynyddau. Eto gwelodd lwyddiant mawr ar grefydd cyn i'w haul fachludo. Anturiwn ddatgan ein barn, modd bynag, nas gallasai y cynydd fod fel y dywedir yn Methodistiaeth Cymru, yn "fil o aelodau." Cyrhaeddodd y nifer hwn ar ol ei dydd, mae yn wir, ac y mae y rhif wedi cynyddu erbyn hyn i dros 4000 o aelodau. Bu Lowri Williams farw yn y flwyddyn 1778, yn 74 mlwydd oed. Terfynwn y benod hon trwy wneuthur coffhad am,—

EDWARD ROBERTS, "HEN FICER Y CRAWGALLT."

Yr oedd ef yn un o "deulu yr arch," sef yr "wyth enaid," a gyd-gyfarfyddent yn Mhandy-y-Ddwyryd. Magwyd ef y rhan foreuaf o'i oes yn Wern Bach, ffermdy ar lan afon Eden, neu fel ei gelwir fynychaf, afon Crawgallt, oddeutu tair milldir o bentref Trawsfynydd. Gwehydd ydoedd wrth ei gelfyddyd. Ymhen rhyw gymaint o amser wedi bod yn crefydda gyda y teulu bychan yr ymunodd â hwynt, dechreuodd yntau ar y gwaith o bregethu. Yn ol pob gwybodaeth a ellir gael, cymerodd hyn le oddeutu y flwyddyn 1770. Y mae yn deilwng o sylw mai efe oedd y pregethwr cyntaf oll a gyfododd gyda'r Methodistiaid yn Ngorllewin Meirionydd, ac yr oedd yntau wedi dechreu ar y gwaith tua phymtheng mlynedd cyn i'r un pregethwr arall ddechreu. Y mae ei enw i'w weled fel un o dderbynwyr Pregethau y Parch. Daniel Rowlands, Llangeitho, y rhai a gyhoeddwyd yn 1772. Un enw yn unig sydd o danysgrifwyr am danynt o'r rhan Orllewinol o Sir Feirionydd, sef, "Edward Roberts, Weaver, Trawsfynydd," yn derbyn 12 o honynt. Yr oedd yn Gristion o'r hen stamp, a pherthynai iddo gymeriad yr hen grefyddwyr—dirodres a didderbyn-wyneb. Diameu iddo fod yn foddion i rybuddio a hyfforddi llawer o'i gymydogion tywyll ac anwybodus. Ond un a ystyrid o dymer ddreng ydoedd, a rhy arafaidd i symud ymlaen mewn achosion o ddiwygiadau.

Dywedir yn Methodistiaeth Cymru,—"Adeiladwyd iddo dŷ ar dir Pandy-y-Ddwyryd, tua'r flwyddyn 1772. Yr oedd yn gweithredu fel diacon a phregethwr ar y ddeadell fechan yn y lle hwnw. Ganwyd a magwyd ef mewn tŷ ar gwr mynydd Crawgallt; ac am hyny galwyd ef gan ei wawdwyr, ar ol iddo ddechreu pregethu, yn 'Hen Ficer Crawgallt.'" Bu yn byw am dymor ar ol hyn yn Tynant y Beddau, gerllaw Ffestiniog (daeth yma yn 1806), a threuliodd ran ddiweddaf ei oes yn Nhrawsfynydd. Bu farw Medi 24ain, 1827, yn 81 oed. Daw ei enw i sylw eto mewn cysylltiad â'r lleoedd uchod.

PENOD IV.

DECHREUAD YR ACHOS YN PENRHYNDEUDRAETH

CYNWYSIAD.—Y Penrhyn yn dramwyfa i Sir Gaernarfon—Y dull y cludwyd y tân—Y personau a ysgrifenodd yr hanes— Parch. Daniel Rowlands, Llangeitho, yn pregethu yma——Y ceff— ylau yn yr ardd bytatws—Erlid William Evans, Fedw—arian— Hanes Dafydd Sion James—Helyntion adeiladu y capel—Can— lyniadau brawychus yr erlid—Dal aderyn yn fwyd i'r pregethwr— Yr hynod Catherine Griffith—Cyfryngiad gwyrthiol i gael tal at y tro mis—Penderfynu rhoddi yr achos i fyny—Blaenoriaid cyntaf y Penrhyn.

"Yr oedd Brynengan yn orsaf sefydlog gan y Methodistiaid pan oedd Penrhyndeudraeth yn ei fabandod, er fod y Penrhyn yn un o'r lleoedd hynaf yn Ngwynedd."—Methodistiaeth Cymru, II., 149.

 N unol â'r dystiolaeth uchod, ac yn unol â hanesion eraill sydd ar gael, y mae sicrwydd fod Penrhyndeudraeth yn un o'r ardaloedd cyntaf y sefydlwyd achos crefyddol ynddynt, o fewn chwe sir Gogledd Cymru. Yma yr adeiladwyd yr ail gapel yn Sir Feirionydd. Y Bala yn unig oedd wedi ei ragflaenu. Adeiladwyd capel Penrhyndeudraeth yn y flwyddyn 1777. Dechreuwyd pregethu yn yr ardal lawer o amser yn flaenorol i hyn, ac yr oedd eglwys hefyd wedi ei ffurfio yn y lle yn gynt. Eto, nis gellir nodi yr amser y rhoddwyd cychwyniad ffurfiol i'r achos, gyda dim sicrwydd. Yr ydys yn y benod flaenorol wedi gweled i bregethu ddechreu yn Pandy-y-Ddwyryd o gylch y flwyddyn 1755, a bod y nifer o wyth wedi ymgyfenwi ar enw Crist yn fuan wed'yn, ac fe gymerodd hyn le mewn canlyniad i'r wraig, Lowri Williams, symud yno o Bandy-chwilog, lle yr oedd achos eisoes wedi ei ddechreu. Y mae yn wybyddus fod Methodistiaeth wedi ymwreiddio yn foreu yn Lleyn ac Eifionydd, yn arbenig yn ardaloedd Pwllheli a Brynengan. Bu y Parch. Howell Harries ar daith yn y cymydogaethau hyny yn 1741, a'r Parch. Daniel Rowlands, Llangeitho, yn 1747. Y mae yn naturiol meddwl fod y gŵyr hyn, yn eu ffordd o'r Dehendir i'r parthau yma o Sir Gaernarfon, yn myned trwy Penrhyndeudraeth. Ac y mae yr un mor naturiol casglu iddynt bregethu yn yr ardal, ar eu mynediad neu eu dychweliad, er nad oes dim cofnodiad o hyn wedi ei gadw yn un man. Un peth sydd ddigon hysbys, sef fod y Penrhyn yn dramwyfa rhwng De a Gogledd, a digon tebyg i amryw o'r Deheuwyr, heblaw y ddau ddiwygiwr penaf, fod yn hau yr had da, yn eu ffordd ar draws yr ardal.

Yr hanes cyffredin am y modd yr ymledaenodd crefydd dros Gymru yn amser ein tadau ydoedd, y byddai yr hen grefyddwyr selog, wrth symud o'r naill ardal i'r llall, yn bregethwyr neu heb fod felly, yn cario y gwreichion gyda hwy, a byddai y gwreichion hyny o dan fendith yr Arglwydd, yn enyn ac yn cyneu yn dân mewn cymydogaethau newyddion. Felly y bu pan y symudodd Lowri Williams o Sir Gaernarfon i Bandy-y- Ddwyryd ; ac felly y bu pan yr aeth y wraig, Jane Griffiths, o Garndolbenmaen, yn agos i Frynengan, i gadw ysgol i Ddolgellau. Buont ill dwy yn foddion, yn llaw rhagluniaeth, i gludo y tân o'r naill sir i'r llall. Tra thebyg hefyd ydyw i rai o'r gwreichion cyntaf ddisgyn yn nghymydogaeth y Penrhyn, gan fod cymaint o gyniweirio, yn ol a blaen, trwy y gymydogaeth. Ac yn wir yr ydym yn cael crybwyllion am yr hen wehydd gonest a'r Cristion duwiol, Griffith Siôn, Ynys-y -Pandy,—yr hwn y ceir ei hanes yn helaethach mewn cysylltiad â Thalsarnau—y byddai yn cario tân y diwygiad gydag ef, pan yn croesi y Traeth Mawr a'r Traeth Bach, wrth gyrchu a danfon edafedd ei gwsmeriaid, nes i'r gwreichion oddiwrtho ef fod yn foddion i oddeithio a chyneu y tân yn eu tai hwythau.

Ond er nad oes genym sicrwydd am yr amser a'r modd y rhoddwyd cychwyniad i'r achos yn Mhenrhyndeudraeth, yn rhagluniaethol, y mae llawer mwy o'r hanes yn ystod y blynyddoedd cyntaf ar ol ei gychwyniad wedi ei gadw, nag a geir yn odid yr un ardal arall yn y sir. Yr oedd yr hynafgwr parchedig Daniel Evans, yn fyw pan y casglwyd yr hanes y tro cyntaf, ac iddo ef yr oedd y Parch. John Hughes yn ddyledus am lawer o'r hysbysiadau a dderbyniodd. Cymerodd gwr arall hefyd ddyddordeb mawr mewn casglu ynghyd y ffeithiau, yr hwn oedd yn dra medrus gyda'i ysgrifell, ac a feddai y fantais ddwbl o fod yn enedigol o'r ardal, yn fab i un o'r crefyddwyr cyntaf, ac wedi bod ei hun, am dymor, yn flaenor llafurus yn eglwys y Penrhyn, sef yr hwn a adnabyddid wedi hyny fel John Davies, Penycei, Porthmadog. Yr oedd y ddau wŷr hyn y rhai cymhwysaf ellid gael i anfon yr hanes i awdwr Methodistiaeth Cymru. Arferwyd pob doethineb a phwyll ar y pryd i gasglu ac i gyfleu y ffeithiau yn yr hanes gyda'r fath gywirdeb nad oes le i amheuaeth yn eu cylch. Gan eu bod mor ddyddorol, ac yn cynwys darluniad mor onest o ysbryd, a llafur, ac ymroddiad yr hen grefyddwyr gyda theyrnas yr Arglwydd Iesu, gwneir defnydd helaeth yn y benod hon o'r hyn sydd wedi ei gyhoeddi eisoes.

Nid ydyw yr hanes wedi ei roddi gyda'r fath drefn ac eglurder ag a fuasai yn ddymunol; felly nis gellir dweyd ymha le, nac yn nhŷ pwy y cedwid y moddion y troion cyntaf. Gwneid hyn i ddechreu, weithiau allan ar y cyttir, weithiau mewn gweithdai, bryd arall mewn adeiladau a berthynent i'r anifeiliaid. Y mae gwraig o'r enw Catherine Griffith yn dyfod i sylw yn fynych mewn cysylltiad â'r achos yma yn ei fabandod. Gellid meddwl mai hi oedd blaenffrwyth y llu o waredigion a achubwyd yn yr ardal. Bu hi mewn penbleth rai gweithiau i gael lle i'r pregethwyr i roddi eu traed i lawr i bregethu. Y mae hanes am y Parch. Daniel Rowlands, Llangeitho, unwaith yn pregethu yn y Penrhyn, pa un ai ar ei daith gyntaf i'r Gogledd, ai taith wedi hyny, nid yw yn wybyddus. Catherine Griffith gafodd y fraint i chwilio am le iddo yntau i draddodi y genadwri i'r bobl. Mae yr hanes yn cael ei adrodd i ddangos fod yr Arglwydd yn dwyn ei waith ymlaen trwy foddion hynod o wael a distadl ynddynt eu hunain:—

"Yr oedd Mr. Rowlands, Llangeitho, un tro i ddyfod heibio. Aeth Catherine at ei meistr tir, Mr. D. Llwyd, Tyddyn Isaf, i ofyn iddo am ganiatad i'r gŵr parchedig gael pregethu mewn math o stabl neu feudy agored, i'r hwn y byddai yr anifeiliaid yn arfer troi i mewn i ochel tes neu ddrycin, neu ynte i orwedd pan y mynent. Yr oedd yr adeilad yma, fel y gellid meddwl, yn llawn tom a thail, a thra anmharod i fod yn dy cyfarfod. Pa fodd bynag, wedi cael caniatad i'w ddefnyddio, ymosododd Catrin ar y gorchwyl caled o'i garthu a'i lanhau; a bu ddiwrnod cyfan ymron yn gwneyd hyn. Daeth y gynulleidfa ynghyd, a'r pregethwr a ddaeth hefyd, ond nid oedd modd sefyll yn y beudy, gan drymed oedd y sawyr; ac ar risiau o geryg oddiallan y pregethodd Mr. Rowlands.

"Erbyn darfod yr odfa, yr oedd gŵr a gwraig y tŷ, sef y Tyddyn Isaf, wedi tyneru graddau tuag at y pregethwr, ac anturiasant ei wahodd i'r tŷ i eistedd. Arweiniwyd ef i'r parlwr, a gadawyd ef enyd wrtho ei hun. Ond fe aeth un o'r plant bychain yno ato, Howel Llwyd wrth ei enw. Cymerodd Mr. Rowlands y bychan ar ei liniau, gan ei anwesu mewn modd caredig iawn. Ond wrth iddo wneyd hyn, digwyddodd ganfod pryf bach yn mhen y plentyn; galwodd deulu y tŷ ato, a chan gyfeirio at y pryf bach a dywedyd, 'A welwch chwi beth sydd yn ngwallt y bychan?'-gofynodd iddynt edrych ar y pryfyn, trwy y mwyadyr (microscope) oedd ganddo, ac wele ym- ddangosai fel llyfant mawr, a gwallt y plentyn a ymddangosai fel cyrs ar ei ben. Arweiniodd yr amgylchiad bychan hwn i ymddiddan siriol a rhydd, a rhoddwyd i'r pregethwr ronyn o groesaw. Yr oedd rhagfarn y teulu trwy hyn wedi cael ei ysigo, a phan ddaeth Mr. Rowlands yno eilwaith i bregethu, cafodd gadw yr odfa yn y tŷ; ac nid hir y bu Mrs. Llwyd heb ymuno â'r bobl y buasai ychydig amser yn ol yn arswydo dyfod yn agos atynt. Bu y wraig hon fyw yn hir, a bu farw yn hen, ie, yn hen fam yn Israel."—Methodistiaeth Cymru, I. 526.

Cymerodd y digwyddiad hwn le, gellid tybio, yn un o'r pethau cyntaf mewn cysylltiad â'r achos yma; o leiaf, ymddengys iddo gymeryd lle cyn bod un math o eglwys wedi ei ffurfio. Rhoddir ar ddeall yn y dyfyniad uchod, i'r Parch. Daniel Rowlands fod yma yn pregethu fwy nag unwaith. At yr un wraig, sef Catherine Griffith, y cyfeirir yn yr hanes dilynol, yr hwn sydd i'w weled yn yr un gyfrol, tudalen 302,— "Daeth cyhoeddiad dau bregethwr i Benrhyndeudraeth, ryw amser yn nghychwyniad Methodistiaeth yn y wlad, pryd nad oedd ond ychydig a'u derbynient i dŷ. Nid oedd cyfeillion crefydd yn y Penrhyn ar y pryd ond ychydig a thlawd. Yr oedd gwr a gwraig yno, pa fodd bynag, wedi eu dwyn i hoffi yr efengyl, ac yn barod i wneyd yn ewyllysgar bobpeth a allent i'w chroesawu. Ar eu gwaith yn clywed am ddyfodiad y dieithriaid, ymofynasant yn bryderus iawn am borfa i'w ceffylau dros nos. Nid oedd gan y ddeuddyn eu hunain na maes na pherllan, ond gardd a gauasid i mewn ganddynt o'r cyttir, neu o'r comin fel y dywed llawer Cymro; a'r ardd hon ydoedd yn llawn o bytatws, a'r gwlydd ar y pryd yn eu blodau. Ond er cymaint a fu eu hymdrech gydag amaethwyr y gymydogaeth, ac er iddynt addaw y talent yn llawn am borfa i'r ceffylau, ni allent lwyddo gyda neb i'w cymeryd. Beth oedd i'w wneyd? Ni fynent, er dim, wneuthur cam âg anifeiliaid y gwyr dieithr, y rhai yr edrychent arnynt fel angylion Duw. Penderfynasant, pa fodd bynag, droi y ceffylau i'r ardd, deued a ddelo yn y canlyniad. Erbyn y boreu, yr oeddynt wedi pori y gwlydd hyd at y ddaear; a mawr y chwerthin oedd yn yr ardal am ben ffolineb y gwr a'r wraig, am iddynt roddi eu holl fywyd megis i groesawu y crwydriaid dieithr a ddeuent ar draws y wlad. Ond mawr oedd syndod a llawenydd y ddau grefyddwr pan ddaeth amser codi pytatws, fod yno gnwd llawn cymaint, os nad mwy, nag oedd gan neb yn y fro; a mawr oedd rhyfeddod rhai, a siomedigaeth eraill o'u dirmygwyr, pan ddeallasant na adawyd i'r trueiniaid caredig fod ddim ar eu colled. Daeth yr hanes uchod i law yr ysgrifenydd oddiwrth amrywiol bersonau gwahanol, y rhai a gytunent yn hollol yn mhrif linellau yr amgylchiad."

Nid yn unig yr oedd yn anhawdd cael llety i bregethwyr, a phorfa i'w hanifeiliaid, y pryd hwn, ond ystyrid hi yn fraint i gael tawelwch oddiwrth yr erlidwyr. Y mae yr hanes canlynol, a adroddwyd o enau un o'r hen bregethwyr eu hunain, sef Robert Dafydd o Frynengan, yn ddangosiad fel yr oedd pethau yma cyn bod capel wedi ei adeiladu yn y lle:—

"Crybwyllai Robert Dafydd am dro chwerw o erlid a fu unwaith yn Mhenrhyndeudraeth. William Evans, o'r Fedwarian, oedd yno yn pregethu, a hyny mewn gweithdy cylchwr (cooper). Daeth torf fawr o erlidwyr yno; torasant dyllau yn y tô; ac ymysg y rhai prysuraf o honynt yr oedd dau fab i offeiriad, yn eu crysau, ar ben y tŷ, yn bwrw talpiau mawr o dywyrch ar y bobl; eraill yn curo pob un a ddelai i'r tŷ â gwrysg o goed; cafodd eraill gyrn gwartheg mewn barcdy, a defnyddient y rhai'n yn offer i faeddu y crefydäwyr. Ffaelodd William Evans a phregethu, eto hi a dorodd yn orfoledd ar y trueiniaid rywbryd yn ystod yr odfa, yr hyn, mae'n debyg, a ffyrnigodd yr erlidwyr yn fwy. Canlynent ar ol y crefyddwyr am ysbaid milldir o ffordd, gan eu curo yn gethin â'r cyrn gwartheg. Ac nid oes wybod dros ba faint o ffordd yr ymlidiasid hwy yn y ffordd yma, oni bai i ryw hen ymladdwr adnabyddus eu cyfarfod. Hwn, er mwyn dangos ei nerth a'i wroldeb, feallai, neu ynte, o dosturi dros y rhai a ddioddefent gymaint, a waeddodd, gan godi ei ffon uwch ei ben, myn y gŵr drwg, y mynai efe lonydd i'r bobl, neu y difethai efe hwynt oll. Felly y cafodd y bobl druain ymwared, pan oeddynt leiaf yn ei ddisgwyl."—Methodistiaeth Cymru, II., 266.

1770. Oddeutu yr amser hwn yr oedd cyfarfod eglwysig yn cael ei gynal yma, gyda rhyw fesur o gysondeb. Cynhelid cyfarfodydd eglwysig yn Pandy-y-Ddwyryd fwy na deuddeng mlynedd yn foreuach na hyn. Dichon fod y crefyddwyr yma hefyd wedi dechreu eu cadw yn agos i'r un amser. Ond nid oes sicrwydd am hyny. Yr oeddynt, pa fodd bynag, yn ymgeisio at ryw gymaint o drefn gyda'u cyfarfodydd o gylch y flwyddyn a nodir ar ddechreu y paragraff hwn. Dyma yr amser yr ymunodd Dafydd Siôn James â'r Methodistiaid. Gŵr hynod oedd hwn yn yr ardal, ar gyfrif ei dalent a'i ffraethineb. Meddai ddylanwad mawr ar ei gymydogion, i'w harwain at yr hyn oedd ddrwg, neu yr hyn oedd dda; a chyn ei dröedigaeth, eu harwain at yr hyn oedd ddrwg ac anfoesol, yn ddieithriad, y byddai. Nid oedd ef ei hun, fel y dengys ei ganeuon prydyddol, wedi ymarfer â dim ond anfoes yr amseroedd. Eto, byrlymiai ei dalent allan, a gosodai ei arswyd ar bawb a wnelai gam neu anghyfiawnder. Yr oedd y crefyddwyr yn falch iawn fod un fel hwn wedi ymuno â hwy, yn enwedig pan welsant arwyddion ei fod wedi cael tro. Yr hyn a ychwanegai at eu llawenydd yn fawr oedd, ei fod yn rhagori cymaint arnynt hwy mewn talent a medrusrwydd,— "medrai ddarllen, ysgrifenu, a barddoni." Gwyddent ei fod ar y blaen i'w ardalwyr yn nheyrnas y tywyllwch, ac os oedd yn awr wedi cael gras, credent y gwnelai lawer o ddrwg i achos y diafol o hyny allan. Am hyny, rhoddasant iddo dderbyniad llawen. Ychydig yn flaenorol i'w ddychweliad at grefydd, sef yn y flwyddyn 1767, yr oedd wedi canu cân o wawd ar y Methodistiaid, ac o ganmoliaeth i Eglwys y plwyf. Teitl y gân oedd, "FFLANGELL YSGORPIONOG I'R HERESIAID— gelynion i'r gwirionedd, a alwant eu hunain y METHODISTIAID, ond a elwir yn gyffredin, Penau-Cryniaid, Cariadocs," &c. Darlunia hwy yn y gân hon yn debyg i hyn:—

"Ffeils hudolwyr, treiswyr trawsion
Gwaeth o ryw—y gau athrawon;
Hyll ormeisiaid,—afraid efrau,
O bwdr alwad, yn budr elwa.
Gan dwyllo brodyr mewn dull bradus,

*****

—————————tynu'n anffortunus,
A'u hwylio i ganlyn Howel Harries."

Eto, mewn cân arall,—

"Ymlusgant i deiau, mal deillion i dyllau,
Gan hudo merchedau â'u geiriau, heb eu gwyr,
Ac yno bydd lleisio, gwaedd annuw gweddio,
Ysboncio neidio———————————

Yr engreifftiau hyn a roddant syniad i'r darllenydd y fath un oedd y crefyddwr newydd,—a'r fath a fuasai ei gymeriad a'i arferion blaenorol. Dywedir iddo fod cyn ei ddychweliad mewn cyngrair â'r offeiriad i ymosod ar y crefyddwyr, i'w difrio, a'u gwawdio, a hawdd y gallasai un o'i dalent a'i dueddiadau ef wneuthur llawer o ddrwg iddynt. Pan welwyd ei fod wedi bwrw ei goelbren ymysg y rhai y buasai unwaith yn eu gwawdio, syrthiodd syndod ar bawb, ei hen gyfeillion yn gystal a'r rhai yr ymunasai â hwynt. Yr oedd y syndod yn fwy yn gymaint nad oedd yn wybyddus pa fodd y cymerasai ei dröedigaeth le. Erys tywyllwch hyd yn awr ar y modd y digwyddodd hyn. Er hyny, cafwyd digon o brawf iddo gael tro gwirioneddol. Ymadawodd yn llwyr â'i hen gymdeithion, a daeth o hyny allan yn wasanaethgar gyda theyrnas yr Arglwydd Iesu. "Llosgodd bentwr o'r fath rigymau,- bwriodd yr hen Interludiau & gyfansoddodd gynt i'r tân, ynghyd a'i lyfrau a'i bapyrau, fel na allent halogi neb mwyach; ac o'r braidd y diangodd y darnau uchod heb eu difetha." Wedi troi cefn ar ei hen gyfeillion, nid oedd dim a wnelai â hwy mwyach; ac er fod ol yr hen arferion arno trwy ei oes, daliodd ei dir gyda chrefydd i'r diwedd. Ei ganiadau o hyn allan oeddynt ar bethau crefyddol, oddieithr un rhigwm, yr hwn a gyfansoddodd fel sèn i offeiriaid yr Eglwys Wladol. Dechreua y rhigwm fel hyn:—

"Ow Eglwys Loegr glaiar gloff,
Os buost yn hoff a bywiog,
Ti eist yn awr ----- yn dyrau,
A'th gorpws gwan yn garpiog.

"Fe aeth dy weision duon di,
Yn ddiles iawn meddyliais i,
Ni wna dy offeiriaid am eu ffi
Ond pob direidi a gwaradwydd;
Y gorau am growsio yw'r mwya'u gras,
Neu yfwr harty o'r brecci bras."

Yr achlysur iddo gyfansoddi y rhigwm hwn oedd, gwaith offeiriad meddw—un o'i hen gymdeithion gynt yn lluchio gwydrad o gwrw i'w wyneb, tra yr elai i mewn i dŷ tafarn yn Mhenmorfa, gan edliw iddo ei enciliad oddiwrth y wir Eglwys at y Sismaticiaid.

Cymwynaswr i achos crefydd oedd Dafydd Siôn James; bu yn blaenori y canu yn y Penrhyn, am yr ysbaid maith o haner cant o flynyddoedd. Bu farw yn y flwyddyn 1831, yn 88 mlwydd oed, ac y mae ei feddrod i'w weled o flaen capel Nazareth.

Hanes digon hynod ydyw yr helynt a fu gydag adeiladu y capel cyntaf yn yr ardal hon. Fe geir yr hanes hwnw yn Llyfr Actau y Methodistiaid, ac fel y canlyn y mae:—" 1777. Tua'r pryd hwn yr adeiladwyd yr ail gapel yn y wlad hon, sef capel Penrhyndeudraeth. Adeiladwyd y capel hwn mewn adeg isel, ac mewn amseroedd blinion ar grefydd, sef tua'r flwyddyn 1777. Derbyniwyd ugain punt o'r Deheudir. Yr oedd gwrthwynebiad mawr i'r adeilad hwn gael ei godi; holl foneddwyr y gymydogaeth yn gwgu ar yr amcan; a chytunai lliaws mawr o'r werin â hwynt, a da fuasai ganddynt atal y trueiniaid tlodion a berthynai i grefydd yn yr ardal, i fyned rhagddynt gyda'u gorchwyl. Ond hyn ni allasent ei wneuthur; eto llwyddodd y boneddigion i'w rhwystro i gael llechau i'w doi. Yr oedd cloddfeydd Ffestiniog yn agos, a llechau rhagorol yn ymyl, ond ni cheid hwy i doi yr addoldy bychan. Nid oedd o ran ei faint, gallesid meddwl, prin yn werth i neb sylwi arno. Mae'r adeilad eto i fyny, er na ddefnyddir ef er's blynyddoedd bellach i addoli ynddo; a bwthyn bychan isel a gwael yr olwg arno ydyw; ac oni bai ei fwriadu i'r Methodistiaid addoli ynddo, nid edrychasid prin arno, ac ni chawsai boneddwyr y fro wybod dim am dano. Ond yr oedd y dygasedd a lanwai eu mynwesau, yn rhoddi craffder y barcud yn eu llygaid, a chyfrwysder y llwynog yn eu hystrywiau. Fe fu y muriau, pa fodd bynag, am ryw gymaint wedi eu codi, yn sefyll yn noethion heb dô arnynt, gan yr anhawsder a brofid i gael llechau ato. Cawsant ganiatad, wedi peth gohiriad, oddiwrth oruchwyliwr Syr Watkin, i godi cerig i'w doi, os gallasent eu cael o fewn ffiniau a berchenogid gan y boneddwr hwnw. Nid oedd dim bellach i'w wneyd, ond troi allan i chwilio y bryniau a'r cytiroedd a berthynai i Syr Watkin, am gynifer o lechau ag a roddai dô ar gaban o adeilad o ychydig o latheni o hyd ac o led. Cafwyd, pa fodd bynag, ryw fath o lechau, nid cymwys iawn i'r diben; ond eto, y fath yr oedd yn dda eu cael y pryd hwnw. Mae y llechau yn y golwg eto, yn gryn fodfedd o drwch; a rhaid eu bod yn drymion ac afrosgo iawn; ac yn enwedig, pan y cofiom fod yn rhaid eu cludo o'r mynydd ar gefnau ceffylau, ar hyd ffyrdd na allai na chert na char-llusg redeg ar hyd-ddynt. Eto, er pob rhwystr a llafur, gosodwyd to ar yr adeilad; a bu yn lloches ddiddos rhag gwynt a gwlaw, ac oerni a gwres, am lawer o flynyddoedd. Ie, llawer cyfarfod melus a gafwyd ynddo; llawer pregeth wlithog a draddodwyd o dan gysgod y llechau afrosgo, a llanwodd Duw y lle gwael lawer gwaith â gogoniant ei bresenoldeb, nes oedd cnawd yn methu ymgynal dan y lluchedenau tanbaid. Nid oes dafod,' medd fy hysbysydd parchedig, 'a all draethu am werth na rhif y bendithion a dywalltwyd ar ganoedd, o fewn y capel hwnw.'"-Methodistiaeth Cymru. I., 521.

Ni pheidiodd y gwrthwynebwyr a dangos eu gelyniaeth ar ol cael y capel i fyny. Yr oedd gweled pobl dlodion a di-nod wedi llwyddo yn eu hamcan yn flinder ac yn ddolur llygaid iddynt. Edrych arnynt yn addoli ynddo Sabbath ar ol Sabbath, oedd beth na fynent ei wneuthur. Ffromasant yn ddirfawr, galwasant eu gilydd ynghyd, bwriadasant gyngor, a'r cyngor hwnw oedd tynu y capel i lawr. Nid oedd neb tebyg i Gamaliel, i roddi cyngor iddynt i gilio oddiwrth eu bwriad drygionus, a phe rhoddasid y cyngor, ni wrandewsid arno. Yn eu digter, penderfynasant dynu y capel i lawr; "Ond y noson cyn y diwrnod apwyntiedig, bu farw y boneddwr a gymerai y flaenoriaeth yn y gorchwyl yn ddisymwth. Galwyd ef ar ffrwst i'r byd anweledig, ac o flaen Barnwr yr holl ddaear. Parodd yr amgylchiad disyfyd a galarus hwn, ddyryswch ar amcanion y gwyr ag oeddynt yn y cyngrair, a syrthiodd eu cynlluniau oll i'r llawr."

"Gallesid disgwyl," ebe adroddwr yr hanes, "y buasi yr amgylchiad uchod yn ddigon i arafu ysgogiadau y gwrthwynebwyr oll; ac fe fu yn effeithiol i leithio aidd llawer un yn ei ddygasedd rhagllaw, eto nid heb eithriad gofidus. Hysbysir i ni gan ddynion geirwir, fod un wraig foneddig, a hono yn berthynas i'r gwr a fuasai farw mor ddisymwth, wedi penderfynu, er i'r penau-cryniaid lwyddo i gael capel, y mynai hi eu lluddias i gael pregethu ynddo tra y byddai hi byw. Yn y cyfamser, cafwyd cyhoeddiad gŵr enwog o'r Deheudir i bre- gethu ynddo, ar ei ffordd i Sir Gaernarfon (Griffiths, Nevern, medd rhai). Deallwyd hyn gan y wraig foneddig, ac ymosododd ar y gorchwyl o luddias i'r gwr gael pregethu. I'r diben hwn, cyflogodd nifer o ddynion at y gorchwyl, gan addaw eu gwledda yn helaethwych ar ol ymlid y pregethwr pengrynaidd i ffordd o'r fro. Daeth awr y bregeth, a'r erlid- wyr hefyd fuant ffyddlawn i'w hamod; a thrwy luchio a baeddu y gŵr dieithr, lluddiasant yr odfa, ac ymlidiasant y pregethwr ymaith o'u goror hwynt. Wedi llwyddo yn yr ymgyrch i eithaf boddlonrwydd iddynt eu hunain ac i'r wraig foneddig a'u gosodasai ar waith, dychwelasant i'r palas i eistedd with y ciniaw, ac i ymlawenychu uwchben gorchestion y diwrnod. Ond tra yr oedd pob wyneb yn siriol, a phob llaw yn brysur oddeutu yr arlwy, wele y'darn llaw' yn y golwg, yn peri braw a synedigaeth ymhob calon; oblegid trwy ryw anffawd neu gilydd, ac yn nghanol y ffwdan a'r prysurdeb yn dwyn y ciniaw ymlaen, dymchwelodd rhyw grochan yn llawn o wlybwr berwedig ar y wraig fawr ei hun, ac ymhen ychydig bu farw! Cafwyd llonydd i addoli yn yr ardal hon o hyny allan. Llaesodd dwylaw yr erlidwyr yn mro y Penrhyn, nid gan argyhoeddiad barn, a llai na hyny gan hyfrydwch serch, ond gan wir fraw."

Yr oedd Catherine Griffith, y soniwyd am dani amryw weithiau yn flaenorol, yn byw yn nhŷ y capel, ac arhosai llawer o ofalon yr achos ar ei hysgwyddau hi yn barhaus. Yr oedd hon yn wraig dduwiol ac o ysbryd rhagorol, ond ei bod yn dlawd ei sefyllfa. Llawer o weithredoedd da a wnaeth er mwyn y Gwaredwr a'i deyrnas. Y mae rhai o'i hymdrechion i gael tamaid o fwyd i'r llefarwyr a ddelent heibio ar eu teithiau, mewn coffa yn y wlad hyd y dydd hwn. Un o'r cyfryw ydyw yr hanesyn hynod a ganlyn:—

"Yr oedd cyhoeddiad gwr o'r Deheudir i fod unwaith yn nghapel y Penrhyn am ddeg o'r gloch y boreu. Nid yw tystiolaethau yn cytuno pwy ydoedd gyda sicrwydd, ond ei fod naill ai Mr. Llwyd, o Henllan, neu Mr. Jones, Llangan. Yr oedd rhyw fusgrellni wedi bod ar law rhywun ynghylch darpar tamaid o fwyd i'r gŵr dieithr; neu ynte yr oedd y gair am ei ddyfodiad wedi cyraedd y lle yn rhy ddiweddar i wneuthur y ddarpariaeth a dybid yn angenrheidiol. Tebygol ydyw mai lled ddirybudd oedd cyhoeddiad y gŵr. Parodd hyn brofedigaeth lem i Catherine Griffith, gan nad oedd ganddi o fewn y tŷ ond ychydig o fara lled dywyll ac ymenyn; yr oedd ei phrofedigaeth yn fwy am fod y gŵr a ddisgwylid yn ŵr bonheddig, o sefyllfa a dygiad i fyny gwahanol i lawer o'r cynghorwyr bychain adnabyddus iddi. Gwyddai Catherine yn dda pa mor ddefnyddiol ydoedd gweddi mewn amgylchiad o ddyryswch a chyfyngder; a chan mor gynefin ydoedd â'r gwaith hwn yn ngwahanol amgylchiadau ei hoes, defnyddiai yr un moddion y tro hwn; a gofynai i'r Brenin mawr ei hanrhegu hi ag ychydig arian i arlwy yr hyn a dybiai yn weddus i'r gŵr dieithr yn giniaw. Hi a wnaeth hyn oddiar y syniad fod y Goruchaf wedi gwneuthur pethau cyffelyb dan ryw amgylchiadau o'r blaen; ond er iddi weddio, nid oedd yn dyfod yn y ffordd a dorasai hi allan. Ond pan yr oedd ar fedr myned i'w gwely y noswaith cyn yr odfa, clywodd drwst mawr yn y capel, y fath ag a barodd iddi fyned yno yn ebrwydd. Pa beth a welai ar ei dyfodiad ond aderyn mawr yn ehedeg o gwmpas yn y capel, ac yn ymguro eilwaith yn erbyn y ffenestri. Daliwyd yr aderyn, ac wele cyffylog ydoedd. Parotowyd ef yn giniaw i'r gŵr dieithr; yr hwn a synai gael y fath ddanteithfwyd mewn lle mor dlawd, a bu raid i'r hen wraig adrodd iddo yr holl hanes, er mawr syndod i'r pregethwr. Mae amryw yn fyw eto [1850], a glywodd y chwedl gan Catherine Griffith ei hun, am eirwiredd yr hon ni chafwyd lle i ameu."—Methodistiaeth Cymru. I., 523. Dywed yr awdwr parchedig fod yr hanesyn uchod wedi disgyn i'w law ef mewn dull a thrwy foddion nad oedd dim amheuaeth yn ei feddwl o barthed ei gywirdeb. Ceir yn mhellach yr hyn a ganlyn wedi ei ysgrifenu gan y Parch. John Hughes ar waelod yr un tudalen,—"Mewn ysgrif ddiweddarach, dywedir mai Mr. Jones, o Langan, oedd y gŵr, ac mai yn ddisymwth y daeth i ymofyn llety yn nhŷ Catherine Griffith, ar ei ffordd i Sir Gaernarfon. Dywedir hefyd ei fod wedi cyraedd y lle, ac eisoes yn anedd y wraig dlawd pan y canfu hi yr aderyn, a phan ei gwelodd yn ehedeg o bared bwy gilydd yn y capel, iddi waeddi arno, Beth yw hwn Mr. Jones? a'i fod ef yn cynorthwyo i'w ddal, ac mai i swper y noson hono y bwytawyd ef. 'A mynych (medd yr hanes) y coffai yr hen batriarch o Langan am swper gwyrthiol yr hen Gatherine Griffith o'r Penrhyn.""

Adroddir ffaith arall mewn amser diweddarach, i ddangos yr ysbryd rhagorol oedd wedi meddianu y wraig hon. Dywedodd Robert Dafydd, Brynengan, wrthi rywbryd pan ar ymweliad â'r Penrhyn, ar ol dechreuad yr Ysgol Sabbothol, onid âi hi i'r ysgol i ddysgu darllen y Beibl, yr edrychai ef ar hyny fel diffyg gras ynddi, ac y deuai ef i'r Penrhyn i'w diarddel o'r gymdeithas eglwysig! Ufuddhaodd y wraig i hyn hefyd yn ewyllysgar, er ei bod oddeutu 80 mlwydd oed, oblegid nid oedd dim yn ormod ganddi ei wneyd mewn henaint yn gystal ag yn hoewder ei nerth, i hyrwyddo yr achos mawr yn ei flaen. "Yr wyf yn cofio ei gweled," meddai yr hwn a anfonai yr hanes i'r Parch. John Hughes, "yn yr Ysgol Sul, yn ei llyfr A. B. C., dechreu dysgu pan yn 80 mlwydd oed. Ac yr oedd yn darllen yn ganolig, yn y Testament Newydd, cyn pen blwyddyn wedi dechreu." Mewn cofiant byr i Catherine Griffith, yn y Drysorfa, Tachwedd 1826, dywedir iddi fod yn byw, dros ryw dymnor pan yn wraig ieuanc, yn Nolgellau. Oherwydd ei bod yn gyfyng arni o ran ei hamgylchiadau, hi aeth i werthu bara gwyn, er mwyn cael tamaid i fagu ei phlant. Dydd yr Arglwydd oedd y diwrnod goreu yn yr wythnos i werthu bara gwyn. Ond un tro, wrth wrando Mr. Tamberlain, periglor y plwyf, yn pregethu, ac yn dweyd wrth ei wrandawyr eu bod yn gwneyd dydd yr Arglwydd yn ddydd marchnad, aeth y dywediad i'w chalon i'r fath raddau fel na fedrai werthu bara wedi hyny ar y Sabbath. Yn yr amser hwnw, a hi eto o dan argyhoeddiad, cyfarfu ar y ffordd, tuallan i dref Dolgellau, â dau wr, sef John Pierce a Robert Dafydd [Brynengan], o Sir Gaernarfon, yn myned i Langeitho. Wrth yr olwg ddifrifol oedd arnynt, meddyliodd eu bod yn ddynion duwiol, o ganlyniad nesaodd atynt, a gofynodd a gai hi ymddiddan â hwy. A'r hyn oedd ganddi i'w ofyn iddynt ydoedd, "A oedd yn bosibl iddi fyned i'r nefoedd a gwerthu bara gwyn ar ddydd Sul?" Hwy a roddasant iddi gynghorion, o berthynas i grefydd ac iawn ymddygiad, y rhai ni allai hi, y pryd hwnw, eu deall. Ond glynodd geiriau un o'r ddau yn ddwys yn ei meddwl, sef, oni adawai hi y ffordd ddrygionus yr oedd yn ei dilyn, "Chwi a fyddwch yn uffern mor sicr a bod fy llaw i ar y llidiart yma." Mor onest oedd yr hen bobl, ac mor rhyfedd oedd ffyrdd yr Arglwydd i ddychwelyd eneidiau y dyddiau hyny! Bu Catherine Griffith fyw dros ychydig yn niwedd ei hoes gyda pherthynasau iddi yn Abermaw, a bu farw mewn tangnefedd, yn hen ac yn gyflawn o ddyddiau.

Yn y cyfnod boreuol ar hanes crefydd yn ein gwlad, ceir engreifftiau mynych o egwyddor bur a chydwybodolrwydd nodedig i ddyledswydd yn yr hen grefyddwyr. Yr oedd eu gonestrwydd a'u cywirdeb yn eu nodi allan, tuhwnt i bob amheuaeth, fel saint yr Arglwydd a rhai rhagorol y ddaear. Ac yn yr amgylchiadau lle cyfarfyddid â chywirdeb a chydwybodolrwydd gonest i achos yr efengyl, gwelid mor aml a hyny, ofal rhyfeddol ac hyd yn nod gwyrthiol rhagluniaeth y Goruchaf dros ei bobl. Heblaw y pethau a nodwyd am Catherine Griffith, cyfarfyddwn â phrawf eglur o ddiniweidrwydd Cristionogol ar un llaw, ac o ofal tadol y Llywodraethwr mawr am ei ganlynwyr ar y llaw arall, yn hanes un arall o wragedd crefyddol y Penrhyn:—

"Adwaenwn," meddai yr ysgrifenydd, "un wreigan weddw dlawd, yr hon, er maint ei thlodi, a gyfranai ryw gymaint, yn ol ei gallu, tuag at gynhaliaeth yr achos crefyddol yn ei chartref, ac nid oedd bwlch wedi bod yn ei thaliad am amser maith. Ond yr oedd ar un tro nodedig mewn profedigaeth fawr, am nad oedd ganddi ddim mewn llaw, nac un golwg am ddim i dalu ei hadduned fisol. Yn ei phrofedigaeth, meddyliodd beidio myned i'r cynulliad eglwysig y diwrnod yr oedd y tal i gael ei wneyd, rhag' meddai, 'rhoddi esiampl ddrwg i neb esgeuluso cyflawni eu haddewid.' Ond nid oedd ei chydwybod yn dawel i hyn, gan ei bod yn abl i gerdded; oblegid edrychai ar hyny yn 'esgeulusiad o'r cyd-gynulliad;' felly, rhwng bodd ac anfodd, hi a gychwynodd tua'r lle, a chyn ei bod ond ychydig latheni oddiwrth y tŷ, cyfarfu dau wr bonheddig â hi, gan ofyn iddi, 'Ai dyma y ffordd sydd yn arwain i'r Traeth Bach?' 'Ie,' ebe hithau, 'dyna'r Traeth o'ch blaen-chwi a fyddwch yno yn union.' Rhoes y boneddigion i'r hen wraig ddau swllt, ac i ffordd yr aethant, ac nis gwelodd hwynt mwyach." Mae yr hanes yn dweyd yn mhellach, i'r hen wraig holi llawer am y ddau foneddwr. Nid yw yn annhebyg, ychwaith, iddi barhau i edrych arnynt, oblegid gallasai weled a'i llygaid y fan yr oeddynt i groesi y traeth. Ond er gwneuthur llawer o ymholiad yn eu cylch, methodd a chael allan na siw na miw am eu mynediad na'u dychweliad. Cofnodwyd y digwyddiad, fel ag i roddi ar ddeall fod y wraig ei hun, yn gystal a'i chymydogion, o dan yr argraff fod y ddau foneddwr wedi eu hanfon yn oruwchnaturiol, i estyn cynorthwy iddi i dalu ei hadduned fisol,

Ar gychwyniad yr achos yn y Penrhyn, nid oedd y rhagolygiad am iddo lwyddo ond bychan iawn, yn enwedig wrth edrych ar bethau yn allanol. Yr oedd yr offerynau yn wael a distadl, ac felly y buont am lawer o flynyddau. Y syndod ydyw i'r ychydig grefyddwyr oedd yma allu dal eu tir heb Iwfrhau a digaloni. O ran hyny, y mae crybwyllion yn bod, iddynt ar un adeg fod mewn cryn lawer o betrusder, pa un ai parhau i fyned ymlaen a wnaent, ynte rhoddi yr achos i fyny yn gwbl ac yn hollol. "Y gwir ydyw, fe fu golwg isel a gwedd ddigalon ar yr achos dros lawer o amser, cymaint felly nes oedd ymosodiad ar rai o'r brodyr yno i roi heibio y cyfarfodydd eglwysig yn llwyr; oblegid ni ddaethai neb atynt o'r newydd er's amser maith; ac yr oeddynt hwy eu hunain bellach yn amddifad o'r mwynhad hyfryd a brofid ganddynt gynt .Ar ryw achlysur, pan oeddynt ynghyd, gosodwyd y mater gerbron, a gofynwyd ai nid gwell oedd rhoddi y cwbl i fyny? Cyn rhoddi atebiad cadarnhaol i'r gosodiad, cynygiodd un o'r brodyr ddal yr achos i fyny goreu gellid o'r pryd hwnw hyd Galanmai canlynol. Cefnogwyd hyn gan un arall, a chytunasant yn unllais i sefyll yn ffyddlawn bob un at ei orchwyl hyd yr amser a benodwyd, a chytunasant hefyd y rhoddid dirwy o bum' swllt ar bwy bynag o honynt a dynai yn ol cyn pen y tymor. Cyn Calanmai, pa fodd bynag, yr oedd y demtasiwn o dynu yn ol wedi colli ei grym, oblegid ymwelodd yr Arglwydd yn y cyfamser â'r bobl dlodion, ac a barodd i'w calonau lawenychu. Deffrodd y gogledd-wynt, a chwythodd y deheuwynt ar yr ardd fechan hon, nes oedd ei pheraroglau yn ymwasgaru. Siriolodd yr ymweliad hwn bob mynwes brudd, fel na fu raid dirwyo neb. Ychwanegwyd amryw o aelodau newyddion at eu rhif, a rhoddwyd ysgogiad adnewyddol yn y gwersyll."

Nid priodol ydyw terfynu y benod hon heb wneuthur crybwylliad am flaenoriaid cyntaf y Penrhyn, a'r modd y gosodwyd hwy yn y swydd, neu yn hytrach, y modd yr ymgymerasant hwy eu hunain â'r swydd. Ar ol dyfodiad Mr. Charles i fyw i'r sir, tua 1785, yr amcanwyd gyda dim math o drefn a rheol i osod blaenoriaid ar yr eglwysi. Ond yr oeddynt yn y Penrhyn wedi anturio i ymgymeryd â'r gorchwyl hwn rai blynyddau yn flaenorol i hyny, heb na rheol na threfn. Yr oedd eu hanwybodaeth a'u hanfedrusrwydd gyda'r cyfryw orchwyl, o angenrheidrwydd, yn fawr. Ond at eu plentynrwydd y mae genym ni yn yr oes hon le i synu fwyaf,—

"Gwelwn y cyfryw blentynrwydd," medd yr hanes, "ymysg hen grefyddwyr y Penrhyn, mewn amgylchiad arall. Aeth dau frawd unwaith o'r Penrhyn i Frynengan, yn Sir Gaernarfon, i'r cyfarfod eglwysig. Yr oedd crefydd yno wedi gwreiddio yn ddyfnach, ac wedi ymeangu yn fwy nag oedd yn nghartref y ddau frawd. Cychwynasai yn foreuach yn Brynengan, a chyraeddasai y gymdeithas yno fwy o drefn a chysondeb wrth fyned a'r achos crefyddol ymlaen. Gyda gradd o syndod y deallai y ddau frawd o'r Penrhyn fod yn Mrynengan ryw swyddwyr yn yr eglwys na wyddent hwy gartref ddim am danynt; urdd o ddynion a elwid blaenoriaid. Yr oedd hyn yn ddarganfyddiad newydd iawn i'r ddau frawd dieithr, a theimlent yn y fan yn awyddus i gael y cyffelyb swyddwyr yn eu cartref. Ar eu dychweliad, achubasant y cyfle cyntaf i osod gerbron y ddiadell fechan yr hyn a welsent yn Brynengan, a'r angenrheidrwydd iddynt hwythau gael yr un fath swyddwyr. Gan na wyddai y bobl yn y byd pwy a feddylid wrth yr enw blaenoriaid, na pha beth a ddisgwylid oddiwrthynt, naturiol oedd iddynt ymofyn am eglurhad, yn enwedig gan y canfuant fod y ddau frawd yn gosod pwys mawr ar y peth, ac yn prysuro i'w gael i ben. Gofynent, gan hyny, pa fath oedd y swydd hon i fod? Pa beth oedd ei gwaith,— ac o ba fuddioldeb a fyddai? Ni ellid rhoddi nemawr o eglurhad i'r gofynion caledion hyn, yn unig ail ddywedid na fyddai yr achos yn y Penrhyn ddim yn gyflawn heb eu cael, ac mai swydd gyffelyb i swydd Overseer y tlodion ydoedd. Nid oedd yr awgrym yma ar natur y swydd, yn tueddu mewn un modd i enyn serch tuag ati, gan y gwyddent oll mai swydd ddigysur a di-elw iawn oedd swydd Overseer y tlodion; ac ni allwn feddwl y teimlai pawb radd o betrusder i ymgymeryd â hi. Ond gan y rhoddid ar ddeall iddynt ei bod yn dra angenrheidiol, ac na fyddent yn gyflawn eu trefniadau yn y Penrhyn hebddi, cododd un brawd i fyny, a chan gyfarch brawd arall a ddywedodd, Mi fentra i y swydd, os mentri dithau.' 'Gwnaf,' ebe y llall, 'am flwyddyn, deued a ddelo.' Dywedir mai John Prichard, Hafod-y-mynydd, oedd un o'r ddau a fentrodd y swydd; 'a dyma,' meddai yr hysbysydd, y blaenoriaid cyntaf a fu erioed yn y Penrhyn, os nad hefyd y rhai goreu.'"—Methodistiaeth Cymru, I., 525.

PENOD V.

PENCEARGO A GELLIGWAIL.

CYNWYSIAD.—Desgrifiad o'r ddau fwthyn—Yn gyffelyb i fynydd Ebal a mynydd Garizim—Y cyfarfod eglwysig cyntaf yn Gelli gwiail—Dafydd Siôn James yn dyfod i'r seiat—Imraniad eglwysig yn cael ei gyfanu trwy orfoledd.

 AU fwthyn bychan ydyw Pencaergô a Gelligwiail, yn ardal y Penrhyn; erbyn hyn bron wedi myned i ebargofiant. Ar gyfrif yr hyn a gymerodd le ynddynt yn nghychwyniad Methodistiaeth yn yr ardal, yn unig, y dygir eu henwau i sylw yma. Ychydig o grybwyllion a geir am danynt, ac mae yr ychydig hyny yn gyd-blethedig â'r hanes a roddwyd yn y benod flaenorol; ond ni buasai mor hawdd deall yr hanes, heb roddi peth eglurhad ar y ddau fwthyn, a'r amgylchiadau cysylltiedig â hwy. Nid oes neb yn byw yn y naill na'r llall yn awr, ond y maent wedi eu gadael yn furddynod gwag, yn sefyll arnynt eu hunain, megis yn y distaw-fyd, heb yr un bod dynol byth yn cyrchu tuag atynt. Erys hen dy Gelligwiail ar ei draed hyd y dydd heddyw, a golwg hynafol, oedranus arno; wedi ei adeiladu wrth dalcen bryn bychan, fel pe yn bwrpasol er mwyn i'r bryn dori awch gwynt y gorllewin; y to eto heb syrthio i mewn iddo; gyda dau gorn simdda, un ar bob talcen, top y rhai y gall gŵr gweddol dal yn awr ei gyraedd a'i law. Y mae y tŷ i'w weled i'r teithiwr, wrth fyned i fyny gyda'r gerbydres, o Borthmadog i Ffestiniog, ar y llaw dde, ymhen tua milldir ar ol gadael gorsaf y Penrhyn. Efe ydyw y tŷ uwchaf ar y dde, cyn dyfod i'r anialdir a'r goedwig sydd yn y fro, ac nid ydyw ond ergyd careg da oddiwrth y Rheilffordd. Mewn lleoedd cyffelyb y byddai hen grefyddwyr cyntaf y Methodistiaid, yn gyffredin, yn ymgynull ynghyd i addoli, yn nghychwyniad crefydd yn y wlad,—mor bell ag y gallent oddiwrth gyrchfa pobloedd.

Y mae Pencaergô yn nghysgod bryn yn mhellach drachefn oddiwrth y Rheilffordd, o'r bron mewn llinell union, i gyfeiriad yr afon neu y traeth. Rhwng y ddau fwthyn y mae pantle, trwy yr hwn yr arweinia y ffordd fawr (turnpike road) o Borthmadog i Maentwrog, heibio i Durnpike Cae-Vali. O'r pantle hwn, ymddengys Pencaergô a Gelligwiail megis yn sefyll ar drumau o fryn, y naill ar y llaw dde a'r llall ar y llaw aswy, heb fod nepell oddiwrth eu gilydd, a gallesid yn hawdd glywed canu, nid yn unig o'r pantle yn y canol, ond oddiar y naill fanc i'r llall. Nid yn annhebyg i hyn yr oedd mynydd Ebal a mynydd Garizim, lle y gosodwyd llwythau Israel, chwech ar bob un, i ddywedyd Amen, pan y clywent y bendithion a'r melldithion yn cael eu cyhoeddi gan yr offeiriaid yn y dyffryn rhyngddynt. Mewn rhyw ystyr yn debyg iddynt, fel y ceir gweled eto, yr oedd y brodyr yn Gelligwiail yn clywed canu a molianu gan eu brodyr oedd yn well na hwy yn Mhencaergô.

Yn Gelligwinil y dechreuwyd cynal cyfarfodydd eglwysig yn y Penrhyn, mor bell ag y buwyd yn alluog i gael hyny allan. O leiaf y mae sicrwydd eu bod yn cael eu cynal yn y tŷ hwn yn y flwyddyn 1770, er fod pregethu mewn lleoedd eraill yn yr ardal yn gynt na hyn. Darlunir y tŷ y pryd hwnw fel hen dŷ mynyddig. A'r un modd hefyd ceir darluniad o'r bobl a ymgynullent yn y tŷ i ddibenion crefyddol, fel rhai plaen a hynod gyntefig yn eu ffordd. Nid oes dim hysbysiad pwy oedd yn byw yn y tŷ ar y pryd, yn mhellach na'u bod yn perthyn i'r gymdeithas eglwysig a gyfarfyddent ynddo. Pobl wledig a thlodion oedd y crefyddwyr oll. Un eithriad a allasai fod yn wahanol, sef Mrs. Llwyd, o'r Tyddynisaf, ond mae yn dra thebyg mai ar ol hyn yr ymunodd hi a chrefydd. O berthynas i'w cywirdeb a'u huniondeb, nid oes le i amheuaeth. Ond yr oeddynt yn dra anwybodus ac anfedrus yn y ffordd o gario achos crefydd ymlaen. Nis gallasent fod yn amgen, gan nad oeddynt wedi cael manteision i wybod y nesaf peth i ddim am hyny o drefniadau a feddai y Methodistiaid y pryd hwnw, ac nid oedd neb yn y cyffiniau i'w cyfarwyddo. Oddiwrth eu dull o ddwyn eu cyfarfodydd ymlaen, prin y gellid meddwl fod gweddusrwydd priodol addoliad crefyddol yn eu mysg, a phrin y gellid meddwl weithiau fod eu cynulliadau yn wir addoliad o gwbl. Wedi dyfod ynghyd i'r hen dŷ y rhoddwyd desgrifiad o hon, eisteddent o amgylch y tân, gan ymddiddan â'u gilydd yn rhydd a dirodres, fel y gwnaent ar achlysuron cyffredin eraill, "a rhai o honynt ar y pryd a sugnent y bibell, ac a chwifient y myglus, heb edrych ar hyny yn un trosedd ar weddeidd-dra a threfn." Yn y dull hwn yr oeddynt yn yr hen anedd ddiaddurn pan y daeth Dafydd Siôn James atynt yn ddirybudd, i gymell ei hun i fod yn aelod yn eu mysg. Mae yr adroddiad canlynol am yr amgylchiad hwnw wedi ei ysgrifenu, yr ydym yn tybio, gan ei fab ei hun,-

"Un tro, pan oeddynt wedi ymgyfarfod yn y modd yma, daeth atynt ŵr a adwaenent yn dda, ond un na fuasai gyda hwynt yn eu cyfarfodydd neillduol erioed o'r blaen. Yr oedd yn syn ganddynt ei weled, a pharod oeddynt i dybied naill ai fod ganddo ryw amcan gau, neu ynte ei fod wedi camsynied am natur y cynulliad. Am hyny, ar ei ddyfodiad i mewn, aeth gŵr y tŷ ag ef i ystafell arall o'r neilldu, er mwyn rhoddi hysbysiad iddo mai cyfarfod eglwysig oedd ganddynt; neu ynte, os oedd hyny yn adnabyddus iddo, i ymofyn âg ef pa beth a'i cymhellasai i ddyfod atynt. Wedi cael boddlonrwydd yn yr ymddiddan, dychwelodd at ei frodyr, ac yn llawen iawn a ddywedodd, 'A wyddoch chwi beth, mae Dafydd Siôn James wedi rhoi ei enw i lawr y mynyd hwn.' Felly, debygid, y byddent yn derbyn aelod newydd i mewn, trwy iddo roddi ei enw i lawr, fel y gwneir yn bresenol gyda dirwest."— Methodistiaeth Cymru, I., 499.

Cyfarfyddodd yr achos yn y Penrhyn â llawer tro, er y pryd yr oedd y gymdeithas eglwysig yn cyfarfod yn Gelligwiail, hyd y wedd gysurus a llwyddianus sydd arno yn awr. Er i'r Arglwydd, o bryd i bryd, ymweled â'i bobl yn nhrefn ei ras, a pheri bod eu nifer yn cael ei ychwanegu, deuai pethau blinion drachefn i'w cyfarfod. Gwelodd yr eglwys hon dymhorau gauafaidd ac amseroedd o iselder mawr. Eto ni bu yr Arglwydd, o'r dechreuad yn yr hen dŷ gwael, mynyddig, hyd y pryd hwn, heb rai yn ei geisio. Nid oes dim lladd yn bod, fel y dywedodd rhyw un, ar achos crefydd. Parhaodd y berth i losgi yn dân yma, er pob ystormydd a gwyntoedd croesion, am fod yr Arglwydd ei hun yn nghanol y berth. Diffodd a wnaethai y tân, a darfod yn llwyr, oni bai y gofal a fu am dano gan yr Hwn y dywedir am dano, "Corsen ysig nis tyr, a llin yn mygu nis diffydd." Mewn amseroedd diweddarach bu cwerylon ac ymrafaelion lawer yn y Penrhyn, yn gymaint felly ag y bu raid anfon cenad ar ol cenad dros Gyfarfod Misol y sir, i geisio ei heddychu. Ond unwaith, yn unig, hyd y mae yn wybyddus, y cymerodd ymraniad le yn eu plith, a hyny yn yr hen dy bychan, Gelligwiail. Nid yw yn hysbys pa beth fu yr achos o'r ymraniad, yn unig dywedir iddo gymeryd lle mewn canlyniad i ddadl a gyfododd yn eu plith, ac i'r ddadl hono gyfodi o rywbeth bychan. Fel y canlyn yr adroddir am yr helynt hwn:—

"Unwaith fe gyfododd dadl yn eu plith, ac y mae yn bur debyg mai am rywbeth bychan yr oedd; oblegid am bethau bychain yn gyffredin y mae dadl ymysg brodyr. Aeth y ddadl, pa fodd bynag, mor boeth ag i beri ymraniad yn eu plith. Arosodd un blaid yn Gelligwiail, a chiliodd y blaid arall i dŷ yn y gymydogaeth, o'r enw Pencaergô; a chyfarfyddai y pleidiau yn y ddau dŷ yr un noswaith. Fel yr oedd rhai o'r aelodau yn dychwelyd adref ryw noson o'r Gelligwiail, o gyfarfod eglwysig, clywent swn canu a molianu yn Mhencaergo. Ar hyn, gwaeddai un o honynt yn ddisymwth, 'Holo! Pencaergô a'i pia hi—rhaid mai hwy sydd yn eu lle,- dowch ynо, dowch yno.' Ac yno yn y fan yr aethant, gan ymuno eilwaith â'u gilydd, ac ni bu yno ymraniad mwy."- Methodistiaeth Cymru, I. 501.

Mor syml a chywir ydoedd yr hen grefyddwyr cyntaf, hyd yn nod pan y methent gydweled a'u gilydd. Bron nad ellir dweyd mai da oedd i'r ymraniad hwn gymeryd lle, er mwyn i'r oes bresenol a'r oes a ddel weled mor ebrwydd, a chyda moddion mor onest y cyfanwyd yr ymraniad.

PENOD VI.

HANES YR EGLWYSI.

CYNWYSIAD.—Nazareth—Pant—Minffordd—Gorphwysfa—Llan Ffestiniog—Bethesda—Tanygrisiau—Trawsfynydd—Cumprysor —Eden—Maentwrog Uchaf—Llenyrch—Maentwrog Isaf—Llanfrothen—Croesor—Rhiw—Tabernacl—Garegddu—Engedi—Bowydd—Eglwys Saesneg Blaenau Ffestiniog.

Hyd yma, rhoddwyd bras-ddarluniad o agwedd trigolion y parthau hyn yn y cyfnod a ragflaenai y Diwygiad Methodistaidd, ynghyd a'r modd y cymerodd y cyfnewidiad le trwy ymweliad grasol o eiddo yr Arglwydd a'r wlad yn niwedd y ganrif ddiweddaf. Bellach, amcenir dangos dechreuad a chynydd crefydd yn yr eglwysi, o'u sefydliad hyd yr adeg bresenol. Cyfleir hwy, mewn rhan, yn ol eu trefn amseryddol, ac mewn rhan, fel yr oedd y naill eglwys yn ymganghenu o'r llall.

PENRHYN (NAZARETH).

 HODDWYD eisoes hanes helaeth am ddechreuad yr achos yn Mhenrhyndeudraeth, yn y bedwaredd benod. Gwelwyd, oddiwrth y ffeithiau a'r hanesion sydd ar gael, fod Methodistiaeth wedi dechreu yn yr ardal hon yn gynt nag un man arall yn Ngorllewin Meirionydd, oddieithr Pandy-y-Ddwyryd. Dyma y lle y gwreiddiodd yr achos, ac y daeth pethau i drefn gyntaf o'r holl eglwysi. Adeiladwyd capel yma yn 1777, deng mlynedd yn gynt na Dolgellau. Ceir crybwylliad am flaenoriaid yr eglwys hon o flaen pob eglwys arall. Nid ydyw yr hanes a roddwyd, pa fodd bynag, yn cyraedd ond yn brin i lawr i ddechreu y ganrif hon. Amcenir yn awr roddi crynhodeb o hanes eglwys Nazareth hyd yn bresenol.

Saif yr hen gapel, yr hwn a gyrhaeddodd y fath enwogrwydd hanesyddol, o fewn ergyd careg i Nazareth, ar y llaw chwith wrth fyned i fyny ato o waelod yr ardal. Mae y muriau, a rhan o'r tô, yn aros eto, oddieithr hyny, y mae wedi myned yn gwbl adfeiliedig. Daeth peth cymorth o'r Dehendir tuag at ei adeiladu. Yr unig symiau a welsom wedi dyfod o Gymdeithasfa y Gogledd ydoedd, 1p. yn 1782, a thrachefn o Sasiwn y Bala, yn 1783, 1p. 10s. Mae bychander y symiau hyn yn profi mai bychan a diaddurn oedd y capel. Nid oedd ond math o gaban, gyda muriau diogel o'i amgylch, a thô clyd uwch ei ben. Cofia un chwaer sydd yn awr yn fyw (Miss Ellin Jones, Tanygrisiau) ei mam yn ei chario i'r cyfarfod eglwysig yn y capel hwn, ac yn ei rhoddi i eistedd ar dwr o frigau gleision mewn cwr o'r neilldu ynddo. Yn y dydd y cedwid y seiat bob amser; ac os deuid a phlant yno, byddai raid eu cuddio ymysg brigau gleision neu yn rhywle arall. Defnyddiwyd yr hen gapel hwn hyd y flwyddyn 1815, pryd yr adeiladwyd capel newydd, mewn lle newydd, sef Bethel, yr hwn a elwid gan yr ardalwyr y capel canol. Ar doriad allan y diwygiad dirwestol, cynyddodd yr Ysgol Sul a'r gynulleidfa yn fawr, fel y bu raid adeiladu capel helaethach eto, yr hyn a wnaed yn y lle y mae y capel presenol, ac agorwyd ef Mehefin 8fed, 1839. Oherwydd fod y brwdaniaeth gyda dirwest mor gryf, galwyd y capel yn Nazareth, gan fod bron yr oll o'r trigolion wedi dyfod, neu yn penderfynu dyfod, yn Nazareaid.

Yr oedd Nazareth, pan yr adeiladwyd ef gyntaf, yn cynwys (er heb ddim gallery) lle i 300 i eistedd yn yr eisteddleoedd. Yr oedd yn un o dri chapel mawr yn y sir y perid cryn lawer o bryder ynghylch eu dyled, sef Trawsfynydd, Ffestiniog, a'r Penrhyn. Yn y flwyddyn 1845, cymerwyd sylw o honynt gan y Cyfarfod Misol. Ceir y penderfyniad a basiwyd ganddo o berthynas iddynt, yn hanes Trawsfynydd. Cynwys y penderfyniad oedd, fod i'r lleoedd hyn gasglu cymaint ag a allent at y ddyled, a byddai i'r Cyfarfod Misol roddi punt ymhen pob punt i'w cyfarfod. Ymgymerodd y cyfeillion â chasglu gyda sel, a thrwy ddeheurwydd Mr. John Davies, yr hwn oedd y pryd hwnw wedi symud i fyw i Borthmadog, cafwyd. 20 o'r aelodau yn y Penrhyn i addaw 5p. yr un. Ac ar ddiwedd y flwyddyn, aeth tri o'r brodyr i'r Abermaw, i'r Cyfarfod Misol, i hysbysu eu bod wedi casglu 160p. Yn gweled fod y swm mor fawr, yr oedd y Cyfarfod Misol bellach mewn penbleth yn methu eu cyfarfod, a chyfodai Mr. Humphreys ei ddwylaw i fyny, gan ddywedyd, "Wfft i bobol y Penrhyn, wfft i bobol y Penrhyn!" A dywedir mai 100p a gawsant, yn lle punt ymhen pob punt. Rhoddwyd gallery ar Nazareth yn 1860. Yn y flwyddyn 1880, drachefn, rhoddwyd front newydd i'r capel, ac adnewyddwyd ef drwyddo, fel y mae yn awr yn un o'r capelau harddaf a mwyaf cysurus yn y cwmpasoedd. Aeth y draul gydag ef y tro diweddaf hwn yn 1200p. Yr oedd y gangen i Gorphwysfa newydd ymadael o Nazareth pan yr anturiwyd ar y gorchwyl. Bu cynulleidfa Nazareth yn addoli mewn pabell gerllaw, tra buwyd yn adeiladu, ac y mae yma lawer o son hyd heddyw am yr amser difyr a dreuliwyd yn y babell. Daeth amryw i wrando nad oeddynt yn arfer dyfod i'r capel, ac y mae y rhai hyny yn aelodau er's blynyddoedd bellach. Y personau fu a'r llaw benaf gyda'r adeiladu y tro diweddaf oeddynt, y gweinidog a'r blaenoriaid ar y pryd. Tuag at dalu y ddyled, fisol yn yr Ysgol Sabbothol. Yr oedd y casgliadau cesglir yn hyn y blynyddoedd cyntaf o 8p. i 10p. yn y mis. Hefyd, rhoddid yr elw a dderbynid oddiwrth y cyfarfodydd llenyddol blynyddol i'r un amcan, a bydd hwn yn amrywio o 15p. i 25p. yn flynyddol. Heblaw hyn, yr ydys er's tair blynedd yn casglu ar y dydd diolchgarwch,—casglwyd y llynedd (1889) yn agos i 40p. felly. A gwneir ychydig gyda'r Gymdeithas Arianol.

Rhoddodd hen grefyddwyr y Penrhyn eu gwyneb i'r Ysgol Sabbothol gyda'r rhai cyntaf yn y rhan yma o'r sir. Bernir iddi gael ei chychwyn mewn hen dŷ yn y Pant (yr hwn, erbyn hyn, sydd wedi ei chwalu), yn y flwyddyn 1790. Ei diben ar y cyntaf oedd cael y plant ynghyd rhag halogi dydd yr Arglwydd. Yr oedd y pechod hwn yn uchel ei ben yma ar y pryd. Y ddau a gafodd yr anrhydedd o'i chychwyn oeddynt Evan Thomas, gwehydd, a Dafydd Sion James. Ymhen amser, gosodwyd y cyntaf, yr hwn oedd ŵr dengar a goleuedig, yn arolygwr, neu yn hytrach yn flaenor yr ysgol, a'r olaf i ofalu am y canu. Er fod capel wedi ei adeiladu er's 13eg o flynyddoedd, ni ystyrid yr ysgol ar y dechreu yn ddigon teilwng a chysegredig i gael ei chadw ynddo. Gan y gwelid fod llwyddiant yn ei dilyn, rhoddodd Robert Morris, Joiner, Robert Sion Ismael, a William Ismael eu cynorthwy iddi. Cafodd yr ysgol cyn hir, modd bynag, ddyfod i'r capel, a hysbysir mai ei rhif y pryd hyny oedd 25. Yn y flwyddyn 1807, yr oedd y nifer yn 50, a golwg siriol ar y gwaith; ac erbyn agor yr ail gapel, sef Bethel, yn 1815, yr oedd yn rhifo 112. Gŵr a gymerodd ran flaenllaw gyda hi yn Bethel ydoedd John Williams, Plasnewydd. Bu yn arweinydd gweithgar yn yr ysgol am dymor lled faith, hyd nes y symudodd i Gonwy, lle y terfynodd ei oes yn wasanaethgar gyda theyrnas y Gwaredwr. Un arall hynod ffyddlon gyda dysgu plant bach ydoedd William Edwards, Caegwyn. William Llwyd, Meusyddllydain, hefyd fu Yn llafurus iawn, ac yn un o'r rhai mwyaf llwyddianus i hel rhai i'r ysgol. Byddai yn myned o gwmpas y tai awr cyn y dechreu, a byddai ei arswyd ar y mwyaf anystyriol, ac ni omeddai neb ufuddhau iddo. Oherwydd ei weithgarwch gyda hyn, galwyd ef "y cenhadwr cartrefol.' Disgynodd yr arweiniad wedi hyn ar Mr. John Davies, Pentrwyn-y-garnedd, er nad oedd ond ieuanc ar y pryd. Cyfarfyddwn âg enw y gŵr hwn yn fynych, fel un a fu yn dra gwasanaethgar i'r achos ymhob cysylltiad. Erbyn 1831, rhifai yr ysgol dros ddau gant. Ceir ychwaneg o'i hanes gan Mr. David Evans, Brynhyfryd, yn ei Adroddiad gyda chyfrifon yr Ysgolion am 1867, ac yn Nhraethawd Can'mlwyddiant Mr. David Richard, Penlan.

Y mae cyfarfod pregethu blynyddol yn cael ei gynal yn Nazareth, yn mis Mehefin, yr hwn yr edrychir arno fel sefydliad arhosol, a'r hwn yn lled debyg yw yr hynaf o'r cyfryw yn Nghymru. Dechreuwyd ei gadw, fel y tybir, gan y fintai a elai o Sir Gaernarfon i Gymdeithasfa y Bala. Cymerid mantais o'r achlysur o fynediad y pregethwyr a'r tyrfaoedd trwodd, i'w gadw ar yr adeg hono o'r flwyddyn. Yn hanes mintai a elai o'r Waenfawr i'r Bala, yn y flwyddyn 1806, ceir y cofnodiad canlynol am danynt yn galw heibio yma ar eu ffordd, "Aethom o'r lle hwn (Beddgelert) i'r Penrhyndeudraeth, lle yr oedd cyfarfod pregethu ddydd Llun am ddeg a dau o'r gloch. Yr oedd yma liaws mawr o ddieithriaid, heblaw nyni, wedi dyfod o Eifionydd a Lleyn, a'r athrawiaeth yn hynod nerthol a llewyrchus, a llawer yn tori allan ar y diwedd i ganmol Duw ac i orfoleddu." Yr oedd hyn yn yr hen gapel cyntaf, yr hwn sydd yn awr yn furddyn. Rywbryd wedi i Mr. John Davies symud i fyw i Borthmadog, yr hyn oedd heb fod ymhell o'r amser y diddymwyd Sasiwn flynyddol y Bala, meddyliodd rhywrai am ddiddymu y cyfarfod dechreu yr haf, fel y gelwir ef yn yr ardal, a dygwyd cynygiad ymlaen yn gyhoeddus na byddai yr un cyfarfod o'r fath mwyach. Ond cyfododd W. Ellis, yr hen flaenor selog, ar ei draed a dywedodd, "Mi fydd yma gyfarfod dechreu haf eto yn ei amser, can sicred i chwi a bod craig yn y Briwat."[11] Aeth yr hen flaenor ar ei godiad boreu dranoeth i Borthmadog at John Davies, a dywedai wrtho, "Rhaid i ti ddyfod acw, nos Fercher nesaf, mae nhw wedi gwneyd i ffwrdd a'n hen gyfarfod ni am byth, wel di." "O'r goreu, mi a ddeuaf acw," ebe John Davies. Felly fu, a thrwy ei ddylanwad ef, penderfynwyd iddo gael ei gynal fel cynt. Ac mae y cyfarfod blynyddol hwn wedi ei gadw ar ddechreu haf yn ddifwlch, oddieithr un flwyddyn, sef adeg adgyweiriad y capel, er's 112 o flynyddoedd.

Megis y crybwyllwyd, yr oedd y sel a'r brwdfrydedd gyda Dirwest yma, ar doriad allan y Diwygiad, yn gryfach nag odid fan yn y wlad. Fel hyn y dywedir yn Y Diwygiad Dirwestol, gan y Parch. J. Thomas, D.D., Liverpool, tudalen 95:— "Tachwedd 28ain (1836), cynhaliwyd cyfarfod yn Mhenrhyndeudraeth, pryd yr areithiodd y Parchn. R. Humphreys, Dyffryn, a D. Charles, B.A., Bala, ac ardystiodd 215. Parhaodd i gynyddu, fel erbyn Llun y Pasg, 1838, pan gadwyd gwyl nodedig, yr oedd eu rhif yn 900, pan nad oedd rhif y trigolion ond 1000; ac yr oedd rhif y tafarnau wedi eu tynu i lawer o chwech i ddwy, ac nid oedd elw y cyfryw ond bychan iawn."

Yn hanes eglwys hynafol y Penrhyn, ceir lliaws o engreifftiau o hen gymeriadau tra hynod, ac esiamplau nid ychydig o ddull nodweddiadol yr hen Fethodistiaid o gario yr achos ymlaen, ac yn neillduol eu ffordd blaen, ddirodres, a didderbynwyneb gyda'r ddisgyblaeth eglwysig. Mae enw Catherine Griffith yn adnabyddus, fel un o wragedd hynotaf yr oes o'r blaen. Parhaodd hi i "gadw tŷ capel" yn hir, a pharhaodd yn isel ei hamgylchiadau hefyd ar hyd ei oes. Byddai cynifer o bregethwyr yn galw heibio y Penrhyn yn ei hoes hi, fel y gosodid hi dan orfodaeth yn fynych i redeg i dŷ cymydog i ymofyn benthyg torth ac ymenyn, ac arferai y cymydog hwnw ddweyd y byddai y dorth a'r ymenyn yn d'od yn ol heb fyn'd ddim llai. Daeth John Elias heibio unwaith ar ddamwain, a Chatherine Griffith a ddywedai, "Wel, John bach, beth a wnaf fi? 'does gen i ddim byd ellwch chwi fwyta." "Catherine bach," ebe yntau, "oes genych chwi ddim bara ceirch?" "Oes." "Wel, nid oes dim yn well gen i na shot." Perthynai amryw o hen grefyddwyr Llanfrothen i'r eglwys hon yn yr amser cyntaf, am y rhai y crybwyllir ynglyn â'r eglwys yno. O'r ddwy neu dair sydd eto yn fyw, ac yn cofio addoli yn yr hen gapel, un ydyw Alice Llwyd, yn awr o Borthmadog, yr hon sydd yn Fethodist o'r Methodistiaid, a'r hon fu yn cerdded i Sasiwn y Bala yn ddigoll am ryw gymaint dros ugain mlynedd. Eisteddai hi pan yn ddeg oed, o'r tuallan i'r Hen Gapel yn disgwyl ei nain o'r seiat. Daeth Ellin Thomas, Lluudain, sef gwraig Dafydd Siôn James, allan a gwelodd hi yno, ac wedi deall ei neges, dywedodd, "Dylaset tithau fod yn y seiat," a dyna y tro cyntaf iddi feddwl am ymuno, a glynodd y gair yn ei meddwl nes cael ei hun yn aelod.

Yr oedd yr Ellin Thomas uchod yn sefyll a'i phwys a'r glawdd mynwent Nazareth un tro, yn nghwmni hen ferch grefyddol iawn, o'r enw Siân Thomas, tra yr oedd claddedigaeth dyn pur annuwiol yn cymeryd lle, ac meddai, "Yn eno dyn, y mae nhw yn hel pob siort i'r fan yma." "Na hidia, Neli bach," meddai y llall, "fe gawn ni godi o'u blaen nhw." Hen ŵr hynod grefyddol oedd John Pritchard, Hafodymynydd. Yr oedd pregethwr o'r Deheudir yn yr hen gapel (bernir mai Edward Goslett ydoedd), ar ddiwrnod gwaith; a'i destyn neu ei fater ydoedd, "Yr arch yn ol y portread," a chafodd odfa anarferol, llawer yn gorfoleddu, ac yn eu mysg yr hen ŵr a enwyd. Ar ei ffordd adref, gwelodd Iwdn dafad iddo yn un o erddi y gymydogaeth, daliodd a rhwymodd ef, a chariodd ef tuag adref ar ei gefn. Ond llawer gwaith cyn cyraedd adref yr oedd yn myned i hwyl, ac yn rhoddi y llwdn i lawr, ac yn neidio mewn gorfoledd o'i gwmpas, gan ddiolch am "Iesu Grist yn Arch yn ol y portread,"—a bu ef a'r llwdn dafad am oriau cyn cyraedd adref.

Bu yma hen ferch hynod o selog a ffyddlawn, o'r enw Sioned Sion Daniel. Ni chollai yr un moddion o râs, os byddai yn weddol iach. Yr oedd yn nodedig o ffyddlawn i gerdded i Sasiwn y Bala; a phob tro yr elai yno, dodai gareg o Lyn y Bala yn ei phoced, i gadw cyfrif o'r troion y bu yno, a phan fu farw yr oedd ganddi 28 o'r cerig hyn.

Adroddir yn fynych yr hanesyn canlynol am y ddau hen flaenor, Robert Ellis ac Ellis Humphrey, yn yınddiddan â'u gilydd ar ol pregeth effeithiol iawn gan Edward Goslett. Gofynai Robert Ellis i Ellis Humphrey, "Faint rown ni iddo fo, dywed?" 'Wel," meddai y llall, "yr un faint, debyg gen i." "Na, yn wir," meddai Robert Ellis, "mi fentra i roi 6c. (8c. medd rhai, sef mwy o 2c. nag arfer) iddo fo, doed a ddelo." "Wel, edrych di ati hi," meddai Ellis Humphrey, "rhag gwneyd drwg i ti dy hun, a niwed i'r achos." A mentro felly a wnaeth.

Yr oedd yn arferiad yn yr hen amser, i fyned i'r Ceunant (tafarndy o fri) i gyrchu diod i'r llefarwyr. Ac yr oedd y bill am y ddiod, un adeg, wedi rhedeg yn swm pur fawr, a bygythiai y tafarnwr roddi yr achos yn y Penrhyn yn y jail. "Na," ebe gwraig y Tyddynisaf, "nid aiff achos Iesu Grist ddim i'r jail, mi rof fi haner gini i'w gadw rhag myned yno." Diolchodd yr hen flaenoriaid lawer am y waredigaeth hon, rhag i achos yr Arglwydd fyned i "Gwrt Bangor." Yn ddiweddarach na hyn, yr oedd ganddynt le yma yn ymyl y capel, pwrpasol i ddarllaw, yn enwedig ar gyfer pob cyfarfod mawr a chyhoeddus. Ond arferai Richard Jones, y Wern, ddweyd, flynyddoedd cyn i ddirwest ddyfod i'r wlad, "Nid peth fel hyn sydd i fod yn nhŷ y capel; Bibl a choncordance ddylent gael eu darparu ar gyfer y pregethwr."

Yr oedd chwaer wedi ei diarddel o'r eglwys unwaith, ac nid ymostyngai i'r ddisgyblaeth. Daeth i'r seiat y tro cyntaf wedi ei thori allan, ac ar un cyfrif ni ufuddhai i'r swyddogion i fyned allan. Rhoddwyd dau frawd i wylio y drysau erbyn y tro wed'yn, er ei rhwystro i ddyfod i mewn. A bu y wyliadwriaeth yma mewn gweithrediad am amryw wythnosau. Ond un noswaith, pa fodd bynag, cafodd y chwaer anufudd gyfle i redeg y gwarchae, ac i mewn a hi, gan benderfynu mynu buddugoliaeth. Yr oedd y cyfarfod hwn ar nos Sadwrn, a Lewis William, Llanfachreth, wedi dyfod yno at ei gyhoeddiad y Sabbath; a'r peth cyntaf a roddwyd o'i flaen oedd achos y chwaer dan sylw. Adroddwyd iddo yr hanes, a chododd yntau ar ei draed a dywedodd, "Od oes neb a fyn fod yn ymrysongar, nid oes genym ni gyfryw ddefod, na chan eglwysi Duw.' Yn awr, yr ydych chwi, Ann bach, wedi myned i ymryson âg eglwys Dduw—yr ydych wedi tynu mwy na'ch match yn eich pen. Gan hyny, y cyngor goreu a fedraf fi ei roi i chwi ydyw, rhoddi eich arfau i lawr mewn pryd, a myned allan o ufudd-dod i Dduw a'i bobl." Ac, er syndod i bawb yn y lle, cododd ac aeth allan, ac ni flinodd yr eglwys mwy.

Bryd arall, yr oedd y Parch. Robert Griffith, Dolgellau, yma yn disgyblu rhyw berson, a chafwyd y person yn euog. Rhoddwyd gorchymyn iddo fyned allan yn union wedi i'r ddedfryd gael ei chyhoeddi. Ond nid ai y dyn ddim allan, ond ymaflai yn gadarn am un o'r colofnau. "Ewch a'r dyn allan," ebai Robert Griffith. "Mi âf fi ag ef allan," atebai G. P., y blaenor, gan neidio allan ar unwaith o'r sêt fawr. Ac ymladdfa lled arw a fu rhwng y swyddog a'r diarddeledig oddiwrth y golofn at y drws. Bu raid rhoddi gwarchae i gadw y drws y tro hwn hefyd.

Bu disgyblaeth hynod arall ar ferch ddibriod, yr hon oedd wedi addaw priodi dau berson yr un adeg. Y ddau flaenor, Ellis Humphrey a Robert Ellis oedd yn disgyblu y tro hwn fel arfer. Cyfodai Ellis Humphrey ar ei draed gyda bod y cyfarfod eglwysig wedi dechreu, a dywedai, "Y mae hon a hon (gan ei henwi wrth ei henw) yma heno, ac y mae yn galw am ddisgyblaeth. Be wnawn ni iddi hi? Y mae hi wedi addo priodi dau; glywaist ti?" ebai wrth ei gyd-flaenor. "Mi glywais ben gair," ebai Robert Ellis. "Dear me," ebai Ellis Humphrey, drachefn, "priodi dau, priodi dau! Mae priodi un yn beth mawr; dear me, priodi dau! Beth wnawn ni iddi hi?" "Torwch hi allan i'w chrogi," ebai Dafydd Sion James. "Ie, mae hynyna yn air mawr hefyd," ebe R. E. "Hon a hon," dywedai drachefn, "gwell i chwi fyned allan." A dyna y ddisgyblaeth drosodd.

Byddai ymrafaelion beunydd yn eglwys y Penrhyn; yn gymaint felly nes yr oedd wedi enill y cymeriad o fod yn eglwys gwerylgar. Richard Jones, y Wern, a anfonid dros y Cyfarfod Misol y rhan fynychaf i wastadhau y cwerylon yn eu plith. Cyfodai y cyfryw gwerylon gan mwyaf o bethau bach iawn. Wrth drin rhyw achos o'r fath yno ryw dro, dywedai Richard Jones, "Fe welsoch y brain yn crawcian, a'r piogod yn ysgrechian ac yn neidio trwy eu gilydd ar ochr y ffos, uwchben eu hysglyfaeth; gallech feddwl mai tarw oedd y gelain y gwnaent gymaint o dwrw uwch ei ben, ond nid oedd yno wedi'r cwbl ddim ond twrch daear wedi trigo." Dywediad y Parch. Richard Humphreys am danynt ydoedd, "Mae pobl y Penrhyn yn debyg iawn i ŵr a gwraig yn y Dyffryn acw, y maent yn ffraeo bob amser, ond ganddynt hwy y mae mwyaf o blant wedy'n. Felly y maent yn y Penrhyn, er yr holl ffraeo sydd yno, mae rhywrai yn dyfod atynt i'r seiat yn fynych."

Y BLAENORIAID.

ELLIS HUMPHREYS.

John Pritchard, Hafod-y-mynydd, ac un arall na cheir ei enw, oedd y ddau flaenor cyntaf, am y rhai y ceir crybwylliad yn mhenod y bedwaredd. E. H. oedd yr agosaf atynt. Bu ef yn flaenor uwchlaw haner can' mlynedd. Bu farw Mai 14, 1832, yn 89 mlwydd oed. Yr oedd yn y swydd ymhen blwyddyn neu ddwy ar ol adeiladu y capel cyntaf. Treuliodd ddechreu ei oes mewn oferedd, a rhyw bum' mlynedd cyn ei osod yn flaenor y daethai at grefydd. Y noson yr aeth i'r seiat at yr ychydig grefyddwyr, dechreuodd erledigaeth chwerw arno oddiwrth ei deulu ei hun. Ei wraig, wedi iddo gyraedd adref oedd yn wylo o ddigllonedd, gan waeddi yn ei wyneb, "ei fod wedi ei gadael hi am byth, ac mai hyny oedd ei unig ddiben pan feddyliodd am fyned i'r fath le; ïe, ei fod wedi anmharchu ei hun am byth." Un o'i ferched hefyd a ddywedodd "y buasai yn well ganddi ei fod yn euog o ladrata, fel y buasai raid ei garcharu, i'r diben o'i rwystro i'r seiat anmharchus!" Dengys hyn mor gryf ydoedd erledigaeth yn y Penrhyn yn ei amser ef. Ond enillwyd ei deulu at grefydd yn fuan, a bu Ellis Humphreys yn flaenor llafurus a hynod o barchus. Ei air cyffredin pan yr elai i'r llawr i ofyn profiad yn y cyfarfod eglwysig ydoedd, "Wyt ti mewn rhyfel â dy lygredigaethau?"

ROBERT ELLIS.

Daeth at grefydd yn ugain oed, a bu yn flaenor am yr un tymor âg Ellis Humphreys. Yntau a fu farw ymhen chwech wythnos ar ol ei gyd-filwr, sef Mehefin 24, 1832, yn 77 mlwydd oed. Yr oedd ef yn ŵr pwyllog, yn meddu barn dda, a dylanwad mawr. Efe oedd yr hwn a roddodd yr atebiad cyrhaeddgar ynghylch cariad brawdol yn y Penrhyn. Gofynai pregethwr am yr achos yn y lle, "Oes yma gariad brawdol yn eich plith chwi?" "Oes," ebai Robert Ellis, "mae yma barseli o hono," gan olygu fod yr eglwys wedi myned yn llawer o ranau—rhan fan yma a rhan fan acw yn caru eu gilydd, ac heb garu neb arall. Efe fyddai yn myned i'r Cymanfaoedd a'r Cyfarfodydd Misol i ymofyn cyhoeddiadau, ac efe oedd bngail yr eglwys, i rybuddio yr afreolus, ac i ddiddanu y gwan eu meddwl. Y ddau flaenor hyn oeddynt wroniaid gyda'r achos yn eu hoes.

ROBERT WILLIAMS, HENDREHENYD,

Oedd wr da a chrefyddol, a blaenor ffyddlon. Bu o wasanaeth mawr i achos crefydd dros ei oes. Ni chafwyd yr amser y bu ef yn y swydd.

JOHN PETER, MINFFORDD.

Ni bu ef yn y swydd yn hir.

WILLIAM ELLIS, TYUCHAF.

Bu farw Chwefror 22ain, 1858, yn 79 mlwydd oed, wedi bod yn flaenor am 26 mlynedd. Yr oedd yn llawn sêl gyda phob achos da, yn arbenig Dirwest, a chyfarfodydd gweddi; rhagorai ar lawer am gael pob trefniadau, a phobpeth yr achos yn eu hamser ac mewn trefn. Cyfrifid ef yn flaenor o radd dda.

GRIFFITH PARRY, TYCEFN.

Bu farw Medi 14eg, 1858, yn 66 mlwydd oed, yntau hefyd wedi bod yn flaenor am 26 mlynedd. Dyn penderfynol, dirodres, a phlaen, yn cymeryd pwyll gyda materion eglwysig, ac yn bur sicr o siarad i bwrpas ar bob mater. Gŵr mawr yn Israel oedd efe. Bu y ddau hyn, a ddewiswyd gyda'u gilydd, ac a fuont feirw yr un flwyddyn, yn cyd-dynu yn rhagorol gyda'r achos am dymor maith.

JOHN DAVIES, PORTHMADOG.

Bu farw Mehefin 8fed, 1855, yn 53 mlwydd oed, wedi bod yn flaenor am 23 mlynedd. Symudodd ef i Borthmadog yn 1843, ond arferai dros rai blynyddoedd ddyfod yma i'r cyfarfod eglwysig, gan y teimlai ymlyniad mawr wrth yr achos yn y lle. Daeth yn golofn dan yr achos pan yn ddyn lled ieuanc.


Gwnaeth wasanaeth mawr gyda'r Ysgol Sul, a chyda chyfrifon, a holl drefniadau yr eglwys. Yr oedd yn ŵr hynod o ddeheuig gyda phob peth. Efe oedd man of business yr eglwys, a bu colled fawr ar ei ol.

THOMAS PRITCHARD.

Bu farw Chwefror 15fed, 1866, yn 66 mlwydd oed, wedi bod yn flaenor am 18 mlynedd. Goruchwyliwr oedd efe ar ffordd haiarn Ffestiniog a Phorthmadog, ac yr oedd yn meddu. cymhwysderau arbenig i arolygu y gwaith yn ei holl gysylltiadau. Meddai gymeriad disglaer, a safai yn uchel yn nghyfrif pawb a'i hadwaenai, fel Cristion ac fel swyddog eglwysig. Trwy ei gywirdeb a'i symlrwydd, enillodd ymddiried a pharch yn yr eglwys. Mab iddo ef ydyw Mr. T. Lloyd Pritchard, Brithwernydd.

Derbyniwyd pedwar eraill yr un adeg a'r diweddaf, yn Nghyfarfod Misol Rhagfyr, 1848.--Evan Lloyd, yr hwn oedd yn dra defnyddiol, ac yn llawn bywyd a gweithgarwch gyda'r achos yma, hyd nes y symudodd i Minffordd, pan sefydlwyd eglwys yno. David Williams, yr hwn sydd er's blynyddoedd wedi ymadael i'r Eglwys Sefydledig. A Thomas Jones, Penygraig, a Henry Owen (yn awr yn station master), a ddewiswyd yn flaenoriaid y môr, fel eu gelwid, oblegid capteniaid oedd y ddau.

JOHN WILLIAMS, YSGOLFEISTR.

A ddewiswyd yn flaenor yn 1859. Symudodd yn 1864 i Borthmadog, ac oddiyno i Dremadog, lle hefyd yr oedd yn swyddog. Bu farw yn 1885. Brawd ydoedd ef i'r Parch. David Williams, Tremadog.

DANIEL ROWLANDS.

A ddewiswyd yn 1862. Bu yn y swydd am 18 mlynedd. Ymadawodd â'r byd Mawrth 5ed, 1880, yn 82 mlwydd oed. Dyn plaen, a chrefyddwr cydwybodol, yn tueddu yn ei ddull at arferion yr hen bobl. Yn y diwygiad, ugain mlynedd cyn ei farw, cafodd ei drwytho mewn crefydd, yn enwedig mewn ysbryd gweddi.

ELLIS ROBERTS.

Yr oedd efe yn swyddog yn Bethania, Beddgelert, i ddechreu. Symudodd i'r Penrhyn i fyw, a dewiswyd ef yn swyddog yn Nazareth yn 1880. Parhaodd yn ei swydd hyd ei farwolaeth yn nechreu 1888. Yr oedd yn ŵr rhadlawn, yn Gristion da, ac yn swyddog ffyddlawn.

ROBERT WILLIAMS.

Neillduwyd ef yn flaenor Tachwedd, 1885; bu farw Mai 31ain, 1890. Yr oedd yn ddyn cywir, gonest, a chydwybodol yn ei holl gysylltiadau; yn ddarllenwr cyson, ac yn ŵr o farn. Dioddefodd gystudd yn dawel, a bu farw yn hyderus. Bu yma eraill yn gwasanaethu y swydd, ond a symudasant yn ystod eu bywyd, o ba rai y mae amryw yn fyw eto. Mr. Hugh Jones, Bryngwilym, a ddewiswyd yn flaenor yn 1866, ac a fu o wasanaeth mawr i'r achos am dros ugain mlynedd, hyd oni symudodd o'r ardal i fyw. Robert Williams, Bryntirion, a ddewiswyd yr un adeg, ac a symudodd i Minffordd. John Williams, High Street, yr hwn a symudodd gyda'r eglwys i Gorphwysfa. Mr. Hughes, Post Office, hefyd a symudodd i Gorphwysfa. Mri. O. Owen, a H. J. Hughes a symudasant o Dalsarnau yn 1873, ac a ddewiswyd yn swyddogion yma yr un flwyddyn. Ymadawsant hwythau hefyd, gyda'r eglwys i Gorphwysfa.

Y blaenoriaid yn awr ydynt-Mri. Henry Owen, T. Lloyd Pritchard (er 1880), a Thomas Williams (er 1885).

Y PARCH. DANIEL EVANS.

Y mae enw Daniel Evans wedi bod yn hysbys yn Sir Feirionydd, er yn gynar yn y ganrif bresenol. Gweddus, gan hyny, ydyw rhoddi braslinelliad o'i hanes mewn cysylltiad â'r eglwys y bu yn ei gwasanaethu mor hir. Brodor ydoedd o Langower, ger y Bala. Ganwyd ef Awst 20fed, 1788. Yr oodd ei rieni yn aelodau eglwysig gyda'r Annibynwyr. Ond trwy ryw gysylltiad neu gilydd, ymunodd ef âg eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn y Bala, pan yn un ar bymtheg oed. Yn yr ugeinfed flwyddyn o'i oedran, dechreuodd gadw ysgol o dan Mr. Charles, a thrwy ei arolygiaeth ef. Wedi bod yn myned ar gylch gyda'r gorchwyl hwnw, yn y flwyddyn 1813 y daeth gyntaf i Penrhyndeudraeth i gadw ysgol. Bu ei lafur yn fendithiol iawn gyda'r plant. Enillodd eu serch yn gymaint, fel yr oeddynt oll yn wylo wrth iddo ymadael, ac aeth yntau i wylo i'w canlyn: ac mewn dagrau y torwyd yr ysgol i fyny. Yn y Penrhyn y dechreuodd bregethu, yn y flwyddyn 1814, a hyny yn bur ddiseremoni. Un nos Sabbath, wedi iddo ef fyned i'r cyfarfod gweddi, daeth y ddau hen flaenor, Ellis Humphreys a Robert Ellis, ato, a dywedasant,- "Mae yn rhaid i ti bregethu i ni heno, Daniel." Cafodd gryn dipyn o hwyl y tro cyntaf, a thorodd allan yn orfoledd. Ar y diwedd, cyfododd Ellis Humphreys i gyhoeddi, a'r peth cyntaf a ddywedodd oedd, "Bydd Daniel yn pregethu yma eto y Sabbath nesaf." Yr oedd yn dda iawn ganddo, yn ol ei dystiolaeth ei hun, glywed yr hen flaenor yn ei gyhoeddi. Bu yn ddiwyd ar hyd yr wythnos yn parotoi; ac erbyn nos Sadwrn, yr oedd yn tybio fod y bregeth wedi ei gorphen. Wedi cymeryd ei destyn y tro hwn, modd bynag, a gwneuthur ychydig o ragymadrodd, collodd y cyfan, ac aeth yn hollol dywyll arno, ac nid oedd dim i'w wneyd ond gofyn gyda llais crynedig i'r blaenoriaid enwi rhai o'r brodyr i fyned i weddi. Aeth yntau yn syth o'r capel i'w wely. "Dyna y tro mwyaf bendithiol i mi," arferai ddweyd, "o holl ddigwyddiadau fy mywyd." Bu am dymor byr yn yr Ysgol yn Ngwrecsam, gyda y Parch. John Hughes, yr un adeg & Dafydd Rolant, y Bala. Ar ol hyny aeth i'r Dyffryn i gadw ysgol yr ail waith. Tra yno y tro hwn aeth i'r stad briodasol, a Mr. Humphreys oedd ei was priodas. Trwy ei briodas aeth i drigianu i Benycerig, ger Harlech, ac ymhen amser i dŷ y capel yn yr un lle. Ac wrth yr enw Daniel Evans, Harlech, yr adnabyddid ef fynychaf yn ystod ei fywyd. Symudodd oddiyno i'r Penrhyn, i gadw shop; ac yma y treuliodd yr ugain mlynedd olaf ei oes. Yn yr hen lyfrau gwelir fod rhyw fath o gysylltiad rhyngddo â'r eglwys yma ryw ddeng mlynedd cyn ei farw, gan ei fod yn derbyn swm bychan o gydnabyddiaeth am ei lafur. Treuliodd lawer o fore a chanol ei oes gyda Chyfarfodydd Ysgolion Dosbarth y Dyffryn. O 1840 i 1846 bu yn ysgrifenydd Cyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd. Safai yn uchel yn y sir fel gŵr tra chrefyddol, pwyllog, a doeth, ac yr oedd yn anwyl iawn gan y saint yn gyffredinol. Bu yn dilyn ac yn lled flaenllaw gyda phrif symudiadau yr achos ar hyd ei fywyd. Nid oedd yn nerthol na grymus yn ei weinidogaeth. Yn hytrach, arafaidd a thyner fyddai yn wastadol, fel y gwlith, ac nid fel y gwlaw mawr. Bu yn llesg a methedig yn niwedd ei oes. Yn yr adeg hon yr oedd ar brydiau yn llwfr ac ofnus. Un diwrnod dywedai wrth ei briod, "Mae arnaf ofn fy nghrefydd, Margaret fach; ac yr wyf yn ofni mai yn uffern y byddaf wedi'r cwbl." Trodd ei briod arno, a dywedodd mewn tôn geryddol, "Sut na bae arnoch chwi gywilydd, Daniel Evans, wedi crefydda ar hyd eich oes, ac yn y diwedd yn ofni eich crefydd Hen weinidog fel chwi yn ofni nad oes genych ddim crefydd, ac mai i uffern yr ewch! I uffern yn wir ! beth a wnewch chwi yn y fan hono? Pe baech chwi yn myn'd yno, mi'ch ciciai rhyw gythraul chwi oddiyno yn bur fuan, 'rwy'n siwr o hyny." Gwnaeth y wers hon les iddo. Bu yr hen weinidog farw mewn tangnefedd. Ar ei fedd-faen, o flaen capel Nazareth, mae yr hyn a ganlyn yn gerfiedig,- "Er côf am y Parch. Daniel Evans, Penrhyn, yr hwn a fu farw Tachwedd 7, 1868, yn 80 mlwydd oed."

Y pregethwyr a gyfododd yn yr eglwys hon hyd y mae yn wybyddus ydynt, y Parch. David Evans, M.A., yn awr o'r Abermaw; y Parch. Richard Thomas, sydd yn awr yn weinidog yn Glyn Ceiriog, yr hwn a ddechreuodd ar ei flwyddyn brawf, Mai 1880; y Parch. Daniel Evans Jones, wŷr i'r hen weinidog Daniel Evans, sydd yn awr yn America dechreuodd ei flwyddyn brawf Chwefror, 1884. Bu y Parch. Thomas Williams, gŵr a ddaeth yma o Sir Benfro, yn byw yn yr ardal am bump neu chwe' blynedd. Bu farw yn nechreu 1875. Yr oedd yn ŵr serchog ac yn bregethwr cymeradwy.

Bu y Parch. N. Cynhafal Jones, D.D., mewn cysylltiad gweinidogaethol â'r eglwys o ddechreu 1867 hyd 1875, pryd y symudodd i Lanidloes. Wedi hyny y Parch. William Jones, Penmachno, o ddiwedd 1875 hyd ddiwedd 1885, pryd y symudodd i Liverpool. Yn Ionawr 1887, symudodd y Parch. D. Davies, Abermaw, yma i fyw. Bu farw yn hynod o sydyn ymhen ychydig wythnosau. Y gweinidog presenol ydyw y Parch. E. J. Evans, yr hwn a ymsefydlodd yma Ionawr 1889.

Yr eglwys hon oedd un o'r rhai cyntaf yn y Sir i gyfodi tŷ i'r gweinidog fyw ynddo. Adeiladwyd ef yn y flwyddyn 1868, ac y mae yn dy da a chyfleus.

Nifer y gwrandawyr, 425; cymunwyr, 263; Ysgol Sabbothol, 250.

PANT.

Er fod y Pant yn un o'r "Lleoedd Gweiniaid," mae hanes yr achos yno, pe gallesid ei gael yn fanwl, yn ddyddorol ddigon. Lle ydyw, fel yr arwydda yr enw, yn ngwaelod ardal Penrhyndeudraeth, lle y preswyliai gynt, ac y preswylia eto, bobl dlotaf y gymydogaeth. O ran pellder, gallai yr holl

drigolion roddi eu presenoldeb yn nghapeli eraill y gymydogaeth, ond fe sefydlwyd Ysgol Sul yma i ddechreu er mwyn y bobl, ac yn fwyaf arbenig y plant a esgeulusent bob moddion o ras, amcan mewn rhan, y parheir i gario yr achos ymlaen trwy y ac i'r un blynyddoedd.

Mewn tŷ yn agos i'r Griffin y dechreuwyd yr Ysgol sydd yn awr yn y Pant. Aeth wedi hyny i Dyrnpike Caerfali, lle y preswyliai William Ismael, yr hwn a fu yn dra defnyddiol gyda hi. Ymhen ychydig symudwyd hi oddiyma, a chafwyd caniatad gan Morris Nanney a'i briod i'w chynal yn ffermdy Trwyn-y-garnedd, yr oedd ar y pryd gryn nifer o bobl yn byw yn Mhen Trwyn-y-garnedd, gan fod llawer o waith yn cael ei gario ymlaen gyda'r cychod ar yr afon. Oddiyno drachefn daeth i'r Pant, o gylch y flwyddyn 1849. Cynhelid hi yn Llofft y Tŷ Talcen, am yr hon y telid 1p. 10s. yn y flwyddyn. Cyn hyn yr oedd y trigolion yn nodedig am eu hesgeulusdra o foddion gras. "Yr oedd y Sabbath yn mhell o gael ei dreulio yn gyfaddas gan y rhieni; ond am y plant, yr ydoedd yn eu golwg hwy yn gwbl yr un fath a diwrnod arall—yn cael ei ddefnyddio o foreu hyd y nos i ddilyn y gamp a'r chwareuyddiaeth yn ddiwarafun. Ofer ydoedd cymell y naill na'r llall i ddyfod i'r moddion yn y capelau. Yr oedd eu tlodi yn rhwystro iddynt feddianu y wisg a ddymunent gael, a'u balchder yn eu hatal i ddefnyddio yr hyn oedd ganddynt, i ymddangos ymysg eu cymydogion. Oherwydd hyn, yr oedd yn canlyn yn naturiol fod y plant yn tyfu i fyny yn anwybodus, yn ddrygionus, ac anwaraidd."[12] Yr hyn fu yn achlysur uniongyrchol i gychwyn ysgol yn y Pant, oedd i foneddwr o ymddangosiad boneddigaidd ddyfod trwy ardal y Penrhyn mewn cerbyd, yn y flwyddyn a grybwyllwyd, ac yn ol eu harfer, rhedai plant y Pant ar ol cerbyd y boneddwr. Cymerodd yntau sylw o honynt, ac aeth at Mr. John Williams, yr ysgolfeistr, i wneuthur ymholiad a oedd ysgol ddyddiol, neu. Ragged School yn y gymydogaeth. Atebodd John Williams. fod dwy ysgol ddyddiol yn yr ardal, ond fod rhieni y plant mor dlodion nas gallent hyfforddio i roddi addysg iddynt. Mewn canlyniad i'r ymddiddan hwn, gwahoddwyd y gwahanol enwadau crefyddol ynghyd i ymgynghori beth ellid wneyd, a'r penderfyniad y daethpwyd iddo oedd cychwyn Ysgol Sul yn y Pant, a bod i frodyr oddiwrth y gwahanol enwadau fyned yno i'w chario ymlaen. Ond ni buont yn cydweithio gyda'u gilydd ond am ychydig Sabbothau; gadawyd yr achos yn hollol i ofal y Methodistiaid Calfinaidd. Y Sabbath cyntaf yr agorwyd yr ysgol, cafwyd 40 o aelodau i fewn, ac yn fuan yr oedd y nifer wedi cynyddu i 80. Dewiswyd John Jones, Hendrehenyd, yn arweinydd yr ysgol, a gweinyddodd ei swydd gyda ffyddlondeb mawr. Bu Edward Williams, Brynbach, hefyd yn ymdrechgar a llwyddianus i gael y plant i'r ysgol. Elai o amgylch dan ganu i'w gwahodd, ac ymunent hwythau yn orymdaith ag ef, rhai o'u tai, a rhai oddiwrth eu chwareuon, fel y llenwid yr ystafell gan arabiaid bychain, Sabbath ar ol Sabbath. Bu Samuel Holland, Ysw., diweddar A.S., dros Feirionydd, yn gefnogydd i'r ysgol hon trwy gyfranu tuag at ei chynal. A chyfranodd Cadben John Evans, Bwlchgoleu, lawer o lyfrau at wasanaeth yr ysgol. William Ellis, Tŷ-uchaf, hefyd fu yn hynod ymdrechgar o'i phlaid.

Ar ddiwedd yr ysgol, yn enwedig yn y tymor hâf, byddid yn arfer myned allan o'r tai lle y cynhelid hi, ac yn cyfarfod yn yr awyr agored, a'r holwr yn myned i ben y clawdd i holwyddori, a'r ysgolheigion o'i amgylch yn ateb, nes tynu sylw neillduol yr holl ardal. Wrth weled yr ysgol yn cynyddu ac yn myned yn llawer mwy na llon'd y tai lle y cynhelid hi, penderfynwyd cael ysgoldy i'w chynal. Dygwyd hyn oddiamgylch trwy wneuthur casgliad yn Ysgolion Sabbothol Dosbarth Ffestiniog tuag at ddwyn y draul. Gwnaed y casgliad cyntaf o 3p. 6s. yn Bethesda. Agorwyd yr ysgoldy ddydd Nadolig 1856. Yn ystod y dydd cyfarfyddodd deiliaid yr ysgol i gyd-yfed tê, ac yn yr hwyr pregethwyd gan y Parch. Daniel Evans. Yr oedd y pryd hwn ynghylch 200 yn ei dilyn yn gyson, a chynyrchodd yr amgylchiad adfywiad cyffredinol gyda'r Ysgol Sul trwy yr ardal oll. Y prif ysgogydd gyda'r symudiad oedd Edward Williams, y crybwyllwyd am dano eisoes. Ar ei dir ef, yn gyfranog â rhyw frawd arall, yr adeiladwyd yr ysgoldy, ac nid oedd terfyn ar ei sel a'i ymdrech gyda'r achos yn y lle. Proffwydai er's amser y byddai capel ac achos yn y Pant, yr hyn hefyd a ddaeth i ben. Gorphenaf 1867, yr ydym yn cael fod y tir yn cael ei gyflwyno i'r Cyfundeb gan Mri. Holland ac E. Williams, am bum' swllt ar hugain, a'r weithred yn cael ei chyflwyno i'r gist haiarn yn Nolgellau.

Am y deng mlynedd cyntaf ar ol adeiladu yr ysgoldy, defnyddid ef yn unig, neu o leiaf yn benaf, at wasanaeth yr Ysgol Sul, a pherthynai yr aelodau oedd yn byw yn y gymydogaeth i eglwys Nazareth. Ond yn 1867 ffurfiwyd yma eglwys reolaidd. Yn Nghofnodion Cyfarfod Misol Trawsfynydd, mis Medi y flwyddyn hono, cawn yr hanes a'r penderfyniad canlynol,—"Daeth cenadwri o'r Penrhyn yn hysbysu fod yr eglwys yno, wrth ystyried sefyllfa bresenol yr achos yn y lle, yn barnu mai doethach fyddai i'r achos yn y Pant (capel mewn cysylltiad â'r Penrhyn) gael ei sefydlu yn eglwys, ac i foddion rheolaidd gael eu cynal yno. Wedi gwrando ar adroddiad y cyfeillion, yr oedd y Cyfarfod Misol yn cyd-olygu â hwy, ac yn barod i gydsynio â'r cais, ar yr amod i William Jones a Henry Owen, y rhai sydd yn flaenoriaid yn y Penrhyn, fyned o hyn allan i'r Pant, yn flaenoriaid yr eglwys yno. Penodwyd y Parchn. Robert Parry ac Owen Jones, B.A., i fyned yno gyda golwg ar hyn." Ar y cyntaf yr oedd yr eglwys mewn cysylltiad â Nazareth, ac yn cael pregeth ddau o'r gloch. Yn niwedd 1870, trefnwyd y Pant a Minffordd yn daith Sabbothol. Am rhyw dair blynedd a haner y parhaodd y cysylltiad hwn, oblegid yn nghanol y flwyddyn 1874 aeth y ddau le yn ddwy daith. Ar hyn o bryd, oherwydd gwendid a bychander y nifer, mae y Pant eto yn daith gyda Nazareth, ac ambell i Sabbath yn cael pregethwr trwy y dydd ei hunan. Pan sefydlwyd yr eglwys yma yn 1867, rhifai y gwrandawyr 206, yr Ysgol Sul 200, y cymunwyr 39.

Gŵr oedd William Jones, y cyfeirir ato yn y penderfyniad a grybwyllwyd, a ddaethai i fyw yma o Namor, Beddgelert, a chan fod ei breswylfod yn nghymydogaeth y Pant, a chanddo dai yno o'i eiddo ei hun, anogwyd ef i flaenori yn y gangen eglwys newydd, yr hyn hefyd a wnaeth. Ac efe oedd blaenor cyntaf y Pant. Oherwydd rhyw amgylchiadau, nid aeth Henry Owen yno fel y penodasid. Bu W. Jones yn ffyddlawn gyda'r achos tra parhaodd yn y gymydogaeth. Ond cyn hir dychwelodd yn ol i Sir Gaernarfon, ac y mae, er's amser bellach, wedi myned oddiwrth ei waith, fel yr hyderir, i fwynhau ei wobr. Oddeutu canol y flwyddyn 1868 neillduwyd Hugh Williams, Pencaergô, yn flaenor; ac ar ol ymadawiad W. Jones i Sir Gaernarfon, bu dros beth amser yn unig flaenor yr eglwys. Symudodd yntau o'r Pant, ac y mae yn awr yn flaenor yn Gorphwysfa.

HUGH OWEN.

Symudodd y gŵr da hwn i fyw i'r Penrhyn o Maethlon. Yn mis Mai 1872, neillduwyd ef yn flaenor ar eglwys y Pant. Yr oedd ef yn flaenor o ddylanwad yn ei gylch cartrefol, a meddai gymhwysder arbenig i fod yn y swydd yn y lle hwn. Bu yn gwasanaethu y swydd yn anrhydeddus am flynyddoedd cyn symud yma. Bu farw yn orfoleddus yn 1875. Rhoddwyd hanes cyflawn am dano eisoes (Cyf. I., tudal. 310).

STEPHEN OWEN

Mab oedd ef i Hugh Owen, a daeth i'r ardal hon yr un amser a'i dad. Neillduwyd yntau yn flaenor yma Medi 1875. Yr oedd wedi ei fagu yn ngeiriau y ffydd, ar aelwyd lle yr oedd crefydd bob amser yn uchaf, a throes allan yn wr dichlynaidd a chrefyddol, a bu yn ffyddlawn i wneuthur yr hyn a allai. Ond torwyd ef i lawr yn ieuanc mewn dyddiau. Bu farw yn niwedd 1876.

David Davies, Ysguborgoch, a fu yn flaenor defnyddiol yn y Pant am dymor. Ymadawodd i fyw i Blaenau Ffestiniog. David Davies, ei fab, hefyd a fu yn gwasanaethu y swydd o flaenor yma hyd nes y symudodd i Minffordd, lle y mae eto wedi ei ddewis i'r swydd. Ar ol colli yr hen flaenoriaid, bu Richard Jones yn flaenor llafurus a gweithgar yn y Pant am flynyddoedd; byddai yn pregethu yn achlysurol, ac yr oedd yn dra gwasanaethgar a defnyddiol gyda'r achos yn ei holl gysylltiadau. Rhyw bum mlynedd yn ol ymfudodd i'r America, ac ar ol myned yno y mae wedi myned i'r weinidogaeth. Bu David Roberts yn gwasanaethu swydd blaenor am dymor. Ac y mae amryw frodyr eraill wedi bod yn dra ffyddlawn, y rhai, ynghyd a holl frodyr a chwiorydd yr eglwys, ydynt yn ddiamheuol yn llafurio gyda gwaith yr Arglwydd. Y blaenoriaid yn bresenol ydynt John Roberts a John Morgan.

Rhoddodd y gweinidogion a fu mewn cysylltiad â Nazareth lawer o'u gwasanaeth yma, sef y Parchn. N. C. Jones, D.D., W. Jones, yn awr o Liverpool, a'r gweinidog presenol, y Parch. E. J. Evans. Bu Mr. Richard Thomas, yn awr y Parch. Richard Thomas, Glynceiriog, yn llafurio yn y Pant yn unig am ychydig amser, a'r Cyfarfod Misol yn rhoddi rhyw gymaint o gynorthwy arianol.

Bu adeg unwaith pan yr oedd y trigolion yn lliosog a'r eglwys yn weithgar, a meddyliwyd am adeiladu capel newydd mewn lle yn uwch i fyny. Ond llesteiriwyd y bwriad hwnw trwy nad oedd rhagolygon am gynydd yn y boblogaeth. Wedi hyn, gwaethygodd masnach, lleihaodd y trigolion, collwyd dynion gweithgar o'r eglwys, a daeth yr achos yn fwy adfeiliedig. Galwyd sylw at y lle nifer mawr o weithiau yn y Cyfarfod Misol y blynyddoedd diweddaf, ac mewn graddau o benbleth, yn methu gwybod pa beth i'w wneyd, tueddid rhai weithiau i roddi yr achos i fyny. Ond y mae yn sicr fod llawer iawn o waith da wedi ei wneuthur yn y Pant, ac er's peth amser, y mae mesur o adfywiad eto ar yr achos. Rhifa y gwrandawyr yn awr 131; yr Ysgol Sul 80; y cymunwyr 76.

MINFFORDD.

Mis Mawrth, 1870, y rhoddwyd cymeradwyaeth gan y Cyfarfod Misol i adeiladu capel yn Minffordd, a'r flwyddyn ganlynol y sefydlwyd eglwys ynddo. Y symudiadau gyda'r Ysgol Sul ydyw hanes crefyddol yr ardal yn flaenorol i'r dyddiad hwn. Sefydlwyd Ysgol Sabbothol yn y parth hwn o'r Penrhyn yn y flwyddyn 1843, mewn tŷ anedd o'r enw Tŷ'n-y-ffordd-fawr. Ymhen tair blynedd, symudwyd hi i'r Workhouse, a bu yn cyfaneddu yno am 25 mlynedd cyn adeiladu y capel. Ymhlith eraill, enwir tri brawd a fuont yn flaenllaw gyda hi yn ei dechreuad yn y lleoedd hyn,—David Angel, Cadben Simeon Roberts, Glandon, Thomas Roberts, Plas-yn-Penrhyn. Ceir hanes yr ysgol am y cyfnod hwn yn gyflawn yn yr Adroddiad argraffedig am y flwyddyn 1877, gan Mr. Griffith Williams, Bryntirion. Bu ymdrafodaeth dros rai blynyddoedd i gael ysgoldy i gynal yr ysgol, a rhoddwyd anogaeth ddwywaith gan y Cyfarfod Misol yn niwedd 1865, i anturio ymlaen gyda hyny. Ond yr oedd Mr. Morgan, Dyffryn, gyda'i graffder a'i ffydd arferol, yn eu hanog i'w wneuthur yn gapel ar unwaith. Am ychydig amser yr adeg yma, bu y Parch. John Owen, gynt o Dy'nllwyn, yn preswylio yn y

gymydogaeth. Yr oedd yntau hefyd yn gryf dros wneuthur capel, a hwnw yn gapel da. Achosid yr oediad oherwydd y methid a chydweled am y lle goreu i adeiladu. O'r diwedd, cafwyd tir gan G. A. Huddart, Ysw., Brynkir, ar brydles o 99 mlynedd, gydag ardreth o 5s.

Gadawodd Thomas Roberts, hen arolygwr yr ysgol, trwy ffydd wrth farw, 5p. yn ei ewyllys tuag at adeiladu ysgoldy, yr hyn a fu yn symbyliad i'r ysgol yn y Workhouse ddechreu casglu. Yr oedd ganddynt erbyn amser adeiladu 50p. wedi eu casglu. Costiodd y capel rhwng pobpeth tua 750p. Cynhaliwyd cyfarfod yr agoriad Sul a Llun y Pasg, 1871. Mai 11eg, yr un flwyddyn, bu y Parchn. Robert Parry, a Griffith Williams, dros y Cyfarfod Misol, yma yn sefydlu yr eglwys. Nifer y cyflawn aelodau a symudasant o Nazareth oedd 69. Yn eu plith yr oedd tri o flaenoriaid, Evan Lloyd, Plasnewydd, Cadben Thomas Jones, Penygraig, a Robert Williams, Bryntirion, y ddau gyntaf wedi bod yn y swydd am dros ugain mlynedd, a'r olaf am bump. Yr oedd y lle ar y cyntaf yn daith Sabbath gyda'r Pant—dwy bregeth bob yn ail Sul yn y naill a'r llall. Ond yn 1874, aeth pob un yn daith ar ei ben ei hun. Yn niwedd 1873, cyfarfyddodd yr eglwys â phrofedigaeth fawr, trwy golli, oblegid rhyw amgylchiadau, un o'i phrif arweinwyr, sef Evan Lloyd, Plasnewydd.

Y PARCH, THOMAS WILLIAMS.

Yn y cyfnod hwn ar yr eglwys, gofynwyd i'r Parch. Thomas Williams, yr hwn oedd wedi symud yn ddiweddar i'r Penrhyn o Hwlffordd, i ddilyn ei alwedigaeth fel druggist, i ddyfod i Minffordd i gadw seiat bob wythnos, am yr hyn yr addawyd iddo 3p. yn y flwyddyn. Bu yntau yn hynod o ddiwyd i gyflawni ei ymrwymiad; ni adawai ddim i'w rwystro i ddyfod i'r cyfarfod eglwysig. Ond er gofid i'r eglwys, bu farw yn dra sydyn, Mawrth 24, 1875. Bu y cysylltiad hwn yn hapus a dedwydd pawb yn meddwl yn dda am dano ef, ac yntau yn meddwl nad oedd neb tebyg yn unman i bobl Minffordd. Daeth y parch oedd iddo i'r golwg yn amlwg foreu ei gladdedigaeth, yn y nifer mawr a ymgasglodd ar awr blygeiniol, i'w hebrwng i'r orsaf, pryd y dygwyd ef i'w hen gartref i'w gladdu.

GRIFFITH SOLOMON JONES.

Symudodd i'r gymydogaeth i fyw yn mis Tachwedd, 1873, a bu yn aelod gwerthfawr iawn o'r eglwys. Lletyai nifer mawr o bregethwyr yn wastad yn ei dŷ. Gwnaeth lawer o wasanaeth i'r achos y tymor y bu yma. Bu farw Ionawr 8, 1878.

ROBERT WILLIAMS, BRYNTIRION.

Bu farw Mawrth 23, 1878, yn 42 mlwydd oed, wedi bod yn flaenor am ddeuddeng mlynedd, pump o honynt yn Nazareth a saith yn Minffordd. Yr oedd ef yn hynod am ei ffyddlondeb gyda'r gwaith; byddai achos y capel yn cael llawer mwy o'i sylw na'i amgylchiadau ei hun. Nid oedd dim gormod o drafferth ganddo i'w gymeryd mewn trefnu o gwmpas y capel, heb dâl na diolch gan neb ar y ddaear. Yn Rhagfyr 1877 y cynhaliwyd y Cyfarfod Misol cyntaf yn y capel, am yr hwn yr oedd ei bryder yn fawr, er ei fod yn wael iawn ei iechyd ar y pryd. Ac er ei fod wedi ei gaethiwo i'w dŷ am y tri mis dilynol, byddai yn trefnu pobpeth perthynol i'r achos. Yr wythnos olaf y bu fyw, trefnai yn ei wely i'r ordinhad o Swper yr Arglwydd gael ei gweinyddu y Sabbath dilynol. Ond tra yr oedd yr eglwys yn gwneuthur coffa am angau y Gwaredwr, cymerwyd ef i'w weled wyneb yn wyneb, ac i dderbyn cyfarchiad ei Arglwydd, "Da was, da a ffyddlawn; buost ffyddlawn ar ychydig, mi a'th osodaf ar lawer; dos i mewn i lawenydd dy Arglwydd."

Ar ol ei farwolaeth ef, gan nad oedd ond un blaenor ar yr eglwys, anfonwyd am genhadon o'r Cyfarfod Misol i gymeryd llais yr eglwys mewn galw ychwaneg o swyddogion, ac Ebrill 16, 1878, gwnaed y dewisiad cyntaf yn Minffordd, pryd yr etholwyd David Williams, Cae-Ednyfed, W. Solomon Jones, Caecanol, a W. Williams, Llwyncelyn.

HELAETHU Y CAPEL.

Ymhen chwech neu saith mlynedd ar ol adeiladu y capel yr oedd yn llenwi yn brysur, a dechreuwyd parotoi at ei helaethu. Mewn cyfarfod o'r brodyr, pasiwyd y byddai raid i'r helaethiad gynwys lle i 200 yn ychwaneg i eistedd. Bu cryn lawer o wahanol farnau o barth yr helaethiad, rhai yn dadleu dros y cynllun hwn, eraill yn dadleu dros y cynllun arall. Yn y diwedd, penderfynwyd yn unfrydol tynu ei ben i lawr a'i godi yn uwch, estyn pedair llath yn ei hyd, a rhoi oriel arno. Ac mewn cyfarfod brodyr, wrth weled y fath unfrydedd, cynygiodd John Williams, Ystentyr, fod i'r penill hwnw gael ei ganu, yn y fan a'r lle,—

"Wele, fod brodyr yn byw 'nghyd,
Mor dda, mor hyfryd ydoedd !"

A chanwyd ef gyda blas ar ganol y cynllunio gyda helaethu y capel. Mr. O. M. Roberts oedd y cynllunydd, a Mr. John Parry Jones, Penrhyn, y contractor. Aeth yr holl draul y waith hon yn 818p. Yn ystod yr amser y buwyd yn adeiladu, yr oedd y gynulleidfa yn addoli mewn pabell a gyfodwyd ar y draul o 1p. 12s. 6c., am yr hon yr oeddis yn ddyledus i dri o'r brodyr yn neillduol, Solomon Owen, Boston Lodge; Griffith Williams, Bryntirion; ac M. E. Morris. Mae y capel yn awr yn un o'r rhai harddaf a mwyaf cyfleus. Cynhaliwyd cyfarfod yr ail-agoriad Hydref 21ain, 1879, pryd y pregethwyd gan y Parchn. Dr. Parry, Aberystwyth; Dr. Hughes, Liverpool; a J. Wyndham Lewis, Caerfyrddin. Gwnaethpwyd casgliad neillduol flwyddyn yr adeiladu, yr hwn a gyrhaeddodd, yn annibynol ar gasgliad rheolaidd yr Ysgol Sul, y swm o 193p. 19s. 4c. Derbyniwyd yr un flwyddyn yn y Gymdeithas Arianol, o arian dilôg, 605p. 19s.

CADBEN THOMAS JONES, PENYGRAIG.

Bu farw Mawrth 4ydd, 1879, yn 75 mlwydd oed, wedi bod yn flaenor am dros 30 mlynedd. Un o'r dynion mwyaf siriol, Cristion cywir, swyddog heddychol. Teimlid colled fawr ar ei ol; byddai yn wastad yn y capel, a hyny yn brydlon, a bu congl y sêt fawr yn ymddangos yn wag yn hir ar ei ol.

DAVID WILLIAMS, CAE-EDNYFED.

Bu farw Awst 29ain, 1882, er galar cyffredinol i'r eglwys. Bu yn gwasanaethu swydd blaenor am bedair blynedd, ac yn drysorydd dyled y capel o'r dechreu. Dangosodd ffyddlondeb mawr gyda'r capel, ac yr oedd yn un o'r rhai mwyaf haelionus i dalu ei ddyled. Yr oedd yn anhawdd cael neb mwy diymhongar. Profedigaeth fawr iddo oedd cael ei alw i'r swydd o flaenor, nid am nad oedd yn caru y gwaith, ond oblegid ei feddwl bychan o hono ei hun. Byddai ei brofiad yn y cyfarfod eglwysig yn felus, ac amlwg ydoedd ei fod yn cael ei addfedu i'r wlad well. Ei ddiwedd oedd dangnefeddus. Tachwedd 13eg, 1882, galwyd yr eglwys yr ail waith i ddewis blaenoriaid; a'r waith hon neillduwyd tri, John Williams, Ystentyr; M. E. Morris; a Griffith Williams, Bryntirion. A Rhagfyr 26ain, 1889, y bu y neillduad diweddaf. pryd y dewiswyd Charles Beardsell, a David Davies, Rhos.

Y LLYFRGELL.

Yn y flwyddyn 1883, sefydlwyd Llyfrgell mewn cysylltiad a'r capel. Yr hyn fu yn achlysur uniongyrchol ei sefydliad oedd, ymweliad boneddwr o Sais â'r gymydogaeth, o'r enw Mr. Spark Evans, o Bristol. Talodd ymweliad â'r Ysgol Sabbothol, ac mewn anerchiad a gafwyd ganddo, dywedai, mai dau beth oedd yn ei weled ar ol yn y lle, sef yagoldy i gynal yr ysgol, a llyfrgell. Cymerwyd y syniad o gael llyfrgell i fyny ar unwaith. Addawodd y boneddwr 2p. ar y pryd at yr amcan, a rhoddodd yr un swm drachefn. Traddododd y Parch. W. Jones, y gweinidog, ddarlith, oddiwrth yr hon y cafwyd elw da i gychwyn y symudiad. Cafwyd symiau gan foneddwyr eraill, a nifer o lyfrau o bell ac agos. Ac yn ddiweddaf oll, cafwyd 7p. 10s. oddiwrth ewyllys y diweddar Mr. David Jones, Liverpool, trwy ei gymun-weinyddwyr. Y mae ynddi yn bresenol dros 700 o gyfrolau. Mr. M. E. Morris ydyw y llyfrgellydd o'r dechreu.

TALU DYLED Y CAPEL.

Yn 1887 gwnaed ymdrechion neillduol i dynu i lawr ddyled y capel. Wedi gweled hysbysiad fod y diweddar Mr. David Jones, Liverpool, wedi gadael arian yn ei ewyllys at dalu dyled capelau, apeliwyd ar unwaith at y cymun-weinyddwyr am ran o honynt, ac yn rhwydd caniatasant y cais. Derbyniwyd ganddynt 25p., yr hyn a'u galluogodd i dalu y flwyddyn hono 119p. 4s. Y ddyled ar ddechreu y flwyddyn hon (1890) oedd 364p. 13s. 5c.

JOHN WILLIAMS, YSTENTYR.

Bu farw Tachwedd 27ain, 1889, wedi bod yn flaenor yr eglwys am saith mlynedd, ac wedi bod a llaw bwysig gyda'r achos o'r dechreuad. Efe, ar adeg ei farwolaeth, oedd yr unig un oedd yn aros o sylfaenwyr yr Ysgol Sabbothol yn y gymydogaeth, gyda'r hon y gweithiai yn egniol hyd y diwedd, er wedi myned yn hen mewn dyddiau. Symudai ymlaen gyda'r oes, a byddai yn selog o blaid pob symudiad newydd, er llwyddiant yr achos. Ni bu neb yn fwy cefnogol i'r weinidogaeth a bugeiliaeth eglwysig. Credai yn sicr fod yr Ysbryd Glan yn arwain yr eglwysi gyda'r mater hwn. Teimlir chwithdod ar ei ol yn hir gan y rhai mwyaf adnabyddus o hono.

Yn y flwyddyn 1881, dechreuodd Mr. M. E. Morris bregethu; pregethodd ei bregeth gyntaf Mai 11eg. Ymhen amser, aed a'r achos i'r cyfarfod dosbarth, ac oddiyno i'r Cyfarfod Misol, lle y derbyniwyd ef fel pregethwr. Yn hâf y flwyddyn 1875, cydunodd yr eglwys gyda Nazareth i alw gweinidog; a Mehefin 21ain, dewiswyd yn unfrydol y Parch. William Jones (y pryd hwnw o Benmachno). Yn niwedd 1885, torwyd y cysylltiad hwn—"cysylltiad," yn ol tystiolaeth y swyddogion, "a fu yn un o'r rhai hapusaf o'r naill ochr a'r llall," trwy symudiad Mr. Jones i Liverpool. Hydref 18fed, 1888, cymerwyd llais yr eglwys drachefn, pryd y galwyd yn unfrydol y Parch. Robert Roberts, Tyldesley, i fod yn weinidog rhwng yma a Gorphwysfa, a dechreuodd yntau ar ei waith yn nechreu 1889.

Mae yr eglwys erbyn hyn (Mai 1890) yn yr ugeinfed flwyddyn o'i hoedran. Mae y prif arweinwyr oedd ynddi yn y dechreuad oll wedi myned. O'r 69 oedd yn ffurfio yr eglwys ar y cyntaf, nid oes yn aros yn awr ond 26: mae 28 wedi meirw, a'r gweddill wedi symud i leoedd eraill. Rhif y cyflawn aelodau ddechreu y flwyddyn hon (1890) oedd 156, y gwrandawyr 256, Ysgol Sul 183.

Y blaenoriaid yn awr,—Mri. William Williams, Griffith Williams, Charles Beardsell, David Davies.

GORPHWYSFA.

Gan fod capel Nazareth yn annigonol gogyfer â chynydd cyflym poblogaeth y Penrhyn, yn enwedig y cwr isaf o'r pentref, yn y blynyddoedd 1870-80, teimlai y brodyr fod yn ddyledswydd arnynt naill ai helaethu y capel, neu ei symud i fan mwy canolog, neu ynte adeiladu yn ngwaelod y pentref, lle yr ydoedd cangen o'r Ysgol Sul yn gweithio yn llwyddianus er 1877, yn yr Ysgoldy Brutanaidd. Wedi dwys ymgynghor- iad, penderfynwyd adeiladu capel newydd yn yr Adwy-ddu, ar safle gyfleus a manteisiol, a roddwyd gan Mrs. A. L. L. Williams, Castelldeudraeth, gweddw y diweddar David Williams, Ysw., A.S., ar brydles o 999 mlynedd, am ardreth o swllt yn y flwyddyn. Yn Nghyfarfod Misol Mehefin, 1878, rhoddwyd cymeradwyaeth i gynlluniau yr architect, Mr. R. Owen, Liverpool. Gosodwyd y gwaith am 2200p. i Mr. Robert Jones, Adwy-ddu. Cynwysa y capel eisteddleoedd i bum' cant,- ysgoldy o'r tucefn 40 troedfedd wrth 30, class-room a Vestry- oll wedi eu gorphen yn y modd mwyaf cyfleus. Gosodwyd y gareg sylfaen gan A. Osmond Williams, Ysw., Castelldeudraeth, ac ar yr achlysur, cafwyd anerchiadau dyddorol gan y diweddar Mr. Edward Breese, Porthmadog; Mr. Robert Rowland, U.H., Banker; y Parch. Griffith Williams, Talsarnau; a Samuel Holland, Ysw., A.S. Galwyd yr addoldy wrth yr enw Gorphwysfa;' mae yr eglwys ymgynulledig ynddo yn drydedd a heidiodd o'r fam-eglwys yn Nazareth (ac os rhoddir Llanfrothen yn y cyfrif, y mae yn bedwaredd). Traddodwyd y bregeth gyntaf ynddo gan y gweinidog, y Parch. W. Jones, yn awr David Street, Liverpool, oddiar y geiriau, "Nid oes yma onid tŷ i Dduw, a dyma borth y nefoedd." Yn ddilynol, Mehefin 7-9, 1880, cynhaliwyd cyfarfod agoriadol, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn. Edward Matthews, David Lloyd Jones, M.A.; John Hughes, D.D.; a'r diweddar Joseph Thomas, Carno. Yn Nghyfarfod Misol Chwefror yr un flwyddyn, penodwyd y Parchn. D. Roberts, Rhiw, S. Owen, a Mr. William Williams, Tanygrisiau, i gynorthwyo yn sefydliad yr eglwys. Y rhif ar ddiwedd blwyddyn gyntaf ei sefydliad: gwrandawyr, 286; Ysgol Sul, 220; cymunwyr, 144.

Y swyddogion a ddaethant yma o Nazareth oeddynt, Mri. Owen Owen, Castle House, Hugh Hughes, Post Office, John Williams, Shoe Warehouse, a Hugh J. Hughes (yr hwn a symudodd yn fuan i Ffestiniog). Yn gynar ar ol hyn, etholwyd Mri. Hugh Williams (blaenor gynt yn y Pant), a R. Rowland, ysgolfeistr. Ac yn 1887, neillduwyd y personau canlynol, Mri. Ellis Edwards (gynt o Maenen, ger Llanrwst); Griffith Prichard a R. G. Prichard (y ddau wedi bod yn flaenoriaid yn flaenorol yn Maentwrog); W. R. Jones, Chemist; John Evans Humphreys, Adwy-ddu; a John Griffith Jones, High Street. Ac ar hyn o bryd mae yma ddeg o flaenoriaid rheolaidd. Ar y dechreu yr oedd yr eglwys dan ofal y Parch. W. Jones, hyd ei symudiad ef i Liverpool Yn Ionawr, 89, ymgymerodd y Parch. Robert Roberts, gynt o Tyldesley, â bugeiliaeth eglwysi Gorphwysfa a Minffordd. Dywedir fod yr eglwys yn awr yn dra chysurus o ran ei gwedd ysbrydol, addysgol, ac arianol. Yn ystod y saith mlynedd diweddaf, cliriwyd dros 500p. o'r ddyled, a thynwyd y llogau i lawr o 60p. i 30p. Rhif y gwrandawyr yn awr (1890), 312; Ysgol Sul, 240; cymunwyr, 182.

JOHN WILLIAMS, SHOE WAREHOUSE.

Neillduwyd ef yn flaenor gyntaf yn 1862. Parhaodd yn y swydd hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le Mawrth 22ain, 1887, yn 64 mlwydd oed. Bu yn flaenor y gân yn Nazareth am 30 mlynedd. Yr oedd yn ŵr tawel, heddychlon, cyson, a ffyddlon yn y cylchoedd y bu yn troi ynddynt.

HANNAH JONES

a fu farw yn 1887, yn 84 mlwydd oed. Pan yn ieuanc bu yn gweini llawer ar yr hen bregethwyr, yn enwedig John Elias, yr hwn a letyai yn ei thŷ. Yr oedd hi yn briod i'r diweddar J. R. Jones, Bangor, ysgrifenydd Cyfarfod Misol Sir Gaernarfon, ac yn fam i Mr. W. R. Jones, Chemist, swyddog yn Gorphwysfa yn awr.

CATHERINE OWEN

a fu farw oddeutu yr un adeg â'r chwaer uchod. Yr oedd hi 90 yn briod i Hugh Owen, a fu yn flaenor yn y Pant, Maethlon, ac Abertrinant. Bu hithau, hefyd, yn gweini gyda gwir ffyddlondeb i weinidogion y gair dros lawer o flynyddoedd yn nhŷ capel Maethlon.

O. Y.--O Gorphwysfa a Nazareth y cychwynodd y symudiad Safonol o addysgu yn yr Ysgol Sul. Ar ol bod ar waith gyda llwyddiant yn nosbarth Penrhyndeudraeth am o dair i bedair blynedd, mabwysiadwyd eu tafleni o Safonau gan Gyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd yn 1885, a hwn yn sylweddol a fabwysiadwyd yn 1888 gan Undeb Ysgolion Sul y Methodistiaid Calfinaidd. [Mabwysiadwyd cynllun o Safonau gan Gymanfa Ysgolion dosbarth y Ddwy Afon hefyd oddeutu yr un amser â dosbarth Penrhyndeudraeth.]

LLAN FFESTINIOG (PENIEL)

Yn Llan neu Bentref Ffestiniog y sefydlwyd yr eglwys Ymneillduol gyntaf yn y plwyf. Nid oes sicrwydd hollol am yr amser y cymerodd hyn le. Yr oedd un oddiyma yn perthyn i'r eglwys foreuol a ymgyfarfyddai yn Mhandy-y-ddwyryd, a'r tebygolrwydd ydyw na sefydlwyd yr un eglwys yn y pentref hwn ar wahan i'r lle hwnw, am o leiaf bymtheng mlynedd. Yr hyn y gellir bod yn sicr o hono ydyw, fod pregethu yn Ffestiniog gan y Methodistiaid, gyda rhyw fesur o gysondeb, rhwng 1770 a 1780. Rhai a ddywedant mai Hugh Evans, o'r Sarnau, a bregethodd gyntaf yn y plwyf, ac mai yn Tŷ'nycefn, yn nhŷ Robert Richard, y cymerodd hyny le. Yr oedd William Evans, o'r Fedw Arian, modd bynag, yn un o'r efengylwyr cyntaf a ymwelai â'r ardal. Dioddefodd ef ac eraill lawer o erledigaeth yr amseroedd. Hysbysir am un tro neillduol felly a gymerodd le, yn agos i'r hen dolldŷ, neu orsaf bresenol y Rheilffordd. Crybwyllir yn Nrych yr Amseroedd hefyd am derfysg ac erlid mawr a fu mewn Cyfarfod Misol yn Ffestiniog. Ataliwyd y pregethu, curwyd a baeddwyd rhai yn dra chreulawn. Yn hanes bywyd y Parch. John Ellis, Abermaw, adroddir fod ei dad ef wedi ymddwyn yn dra. chwerw tuag ato, oblegid iddo fyned i wrando ar y Methodistiaid yn pregethu, yr hyn sydd yn cyfateb mewn hanesiaeth i'r blynyddoedd a grybwyllir uchod. Yn yr awyr agored y pregethid fynychaf y pryd hwn. Enillwyd amryw o ddisgyblion, yn enwedig o blith y chwiorydd.

Y tŷ cyntaf a roddodd ddrws agored i'r Methodistiaid i bregethu ynddo oedd y Tŷ Uchaf, yr hwn oedd dafarndy. Cynhaliwyd Cyfarfod Misol yn y tŷ hwn. Ond nid oedd Cyfarfod Misol y sir yr adeg yma ond cyffelyb i un o'r pwyllgorau lleiaf yn awr. Wedi hyn buwyd yn cynal cyfarfod eglwysig rheolaidd, a hyny, cyn belled ag y gellir casglu, ryw ychydig yn flaenorol i'r flwyddyn 1780. Enwir y personau canlynol fel rhai a gafodd y fraint o ffurfio yr eglwys Ymneillduol gyntaf yn Ffestiniog,—Martha, Penstryd; Ann Sion Andrew; Robert, Gwen, ac Ann Roberts, o'r Cymerau ; Sian Ellis, Tŷ Uchaf; Ann ac Owen Roberts, Bwlchiocyn; Ellin Williams, Hafodysbytty. Nid yw y rhestr yn gyflawn, ac nid oes ond ychydig o'u hanes yn y cyfnod hwn ar gael. Yr helyntion nesaf sydd yn wybyddus am danynt ydynt, helyntion adeiladu y capel. Fel hyn yr adroddir am hyny. Y chwiorydd oedd ar y blaen yma, fel mewn llawer man arall, i gychwyn yr achos. Aeth nifer o honynt hwy at eu gilydd i weddio, ac yn union ar ol y cyfarfod gweddi hwnw, agorwyd y drws iddynt gael tir i adeiladu capel arno. Rhoddodd Mr. John Williams, Lledwigan, Môn, le cyfleus ar ffarm Bwlchowa, ar fin yr hen ffordd sydd yn arwain o bentref Ffestiniog i Benmachno. "A'r hyn sydd yn hynod yn yr amgylchiad ydyw, fod y tir wedi ei gael, fel y dywedir, ar y llanerch bu y chwiorydd duwiol ar eu gliniau yn gweddio am dano." Dywed un hysbysydd fod y tir wedi ei gael trwy offerynoliaeth gwraig Hafodysbytty, yr hon oedd chwaer i berchenog yr etifeddiaeth; a dywedir hefyd yn ychwanegol, fod cae wedi ei gael yn ymyl y capel, fel y gellid cael porthiant i geffylau y pregethwyr. Adeiladwyd y capel hwn yn 1784. Dyma y cyntaf yn y plwyf. Bychan a diaddurn ydoedd, ac ychydig yn ddiau oedd y draul i'w adeiladu. Yr unig beth y daethpwyd o hyd iddo o berthynas i'r ddyled ydyw, fod swm bychan wedi dyfod o'r casgliad dimau yn yr wythnos a wneid y blynyddoedd hyn trwy yr holl siroedd tuag at adeiladu capelau. Yn Nghymdeithasfa Llansanan, Rhagfyr 1785, "talwyd i Ffestiniog 11p. 19s." Gan nad yw yr arian hyn yn union gyfrif, tybir fod y swm yn cael ei roddi i orphen clirio y ddyled. Hysbysir mai nifer yr aelodau eglwysig yn y plwyf yr amser yr adeiladwyd y capel hwn oedd, o ddeg i bymtheg. Mae y capel er's blynyddau wedi ei droi yn dŷ anedd, yr hwn a elwir hyd heddyw yr Hen Gapel. Gelwid ef gan drigolion yr ardal yn yr oes yr addolid ynddo, "Capel y Rhos," am ei fod wedi ei adeiladu ar ros-dir perthynol i Bwlchowa.

Flynyddau yn ol, byddai yr hen bobl yn hoff o adrodd y pethau a welsant ac a glywsant yn yr Hen Gapel. Er mai pethau cyffredin a adroddid weithiau, eto ceid cipolwg trwy y pethau hyny, ar agwedd y wlad yn yr amser pell yn ol. Un o'r hen chwiorydd a ddywedai iddi fod yn gwrando y Parch. Owen Jones, y Gelli, yn pregethu yno, ac ar ol iddo ddyfod i lawr o'r pulpud, gofynodd i bawb oedd yn bresenol a gymerent benod neu Salm i'w dysgu a'i hadrodd allan; yna rhoddodd gyfran benodol o'r Ysgrythyr i bob un fel tasg i'w ddysgu a'i adrodd yn gyhoeddus. Un arall a ddywedai iddi ddyfod o bellder ffordd ar geffyl i wrando Mr. Charles yn pregethu. Ceisid cyhoeddiad y gŵr parchedig i gadw odfa yn yr ardal lle yr oedd hi yn byw, yr hyn, oherwydd rhyw resymau, a omeddai. Wrth weled nad oedd taerineb y bobl mewn oed yn tycio, casglasant y plant ynghyd i ofyn ei gyhoeddiad, a'r plant a lwyddasant, trwy orchfygu teimladau Mr. Charles. Yr hynafgwr a'r henadur adnabyddus sydd yn awr yn fyw, Mr. Robert Griffith, Melbourne House, a ddywed mai yn yr Hen Gapel y bu ef yn gwrando y bregeth gyntaf erioed. Lewis Morris oedd yno yn pregethu, ar y geiriau, "A'r Arglwydd a agorodd galon Lydia." Yr oedd Mr. Griffith mewn ofn a dychryn annisgrifiadwy yn ystod yr odfa Credai fod Lewis Morris y dyn mwyaf a welsai erioed, a dychymygai fod yr Arglwydd yn berson mawr tebyg iddo, a chan fod y pregethwr yn erfyn yn fynych am i'r Arglwydd ddyfod i agor calon pawb yn y lle, elai aethau trwy ei deimladau ar hyd y cyfarfod, gan ofn gweled y gŵr yn dyfod a chyllell yn ei law i wneuthur yn ol erfyniadau y pregethwr. Yr oedd ei lawenydd yn anrhaethadwy i gael myned allan o'r capel heb i ddim o'r oruchwyliaeth erchyll ddigwydd iddo ef ei hun na neb o'r gwrandawyr. "Ond," ychwanega, "gellwch feddwl fy mod yn bur ieuanc ar y pryd."

Yr oedd yr achos wedi dechreu yma dipyn o amser cyn bod son am Ysgol Sul; y capel wedi ei adeiladu er's pedair blynedd ar ddeg cyn iddi gael ei chynal ynddo yr unwaith. Heblaw hyny, yr oedd y crefyddwyr yn hynod o wrthwynebol iddi. Aeth deng mlynedd ar hugain heibio cyn i'r eglwys hon brofi nemawr o gynorthwy yr ysgol Sul. "Yr hanes cyntaf a gawn am dani mewn unrhyw ffurf yn Ffestiniog ydyw, ymhen isaf Tynant, a phenty Tynewydd, lle yr ymgrynhoai nifer o blant, ac y deuai tri o wyr cyfrifol o'r ardal i'w haddysgu." Credir mai y tri hyn oeddynt, Morgan Prys, o'r Garth, John Hughes, Penstryd, a Morris Pierce, Llety'r Fadog. Yn y pentref felly y cychwynwyd hi, tua'r flwyddyn 1796. Ymhen dwy flynedd, symudwyd hi i'r hen gapel. Bedair blynedd ar hugain yn ol, dywedai un ei fod yn ei chofio heb ddim ond dau grefyddwr yn perthyn iddi—un yn ei dechreu a'r llall yn ei diweddu yn wastad,—sef Morgan Prys a John Hughes. Plant a berthynai iddi bron yn gwbl y pryd hwn. Elai y bobl mewn oed i ganlyn y pregethwr ar y Sabbath i Drawsfynydd a Maentwrog. Ond yn fuan wedi dechreu y ganrif bresenol, cafodd yr ysgol adfywiad, trwy ymweliadau brodyr o'r Ysbytty. Dywedir y byddai chwech neu wyth yn achlysurol yn dyfod yr holl ffordd dros y mynydd hirfaith i ymweled â'r ysgol hon, i'w hyfforddi mewn darllen, egwyddori, a chanu. Gwnaeth y cyfarfod mawr hefyd, a gynhaliwyd yn haf y flwyddyn 1808, ar fynydd Migneint, lawer o les iddi, trwy ei chryfhau a'i lliosogi. Ceir hanes y cyfarfod hwnw yn gyflawn yn y benod ar yr Ysgol Sabbothol. Y mae llawer o wybodaeth am Ysgol Sabbothol Peniel a'i changhenau i'w gael yn yr Adroddiad a ysgrifenwyd gan Mr. David Owen, Highgate, ac a gyhoeddwyd mewn cysylltiad â chyfrifon y Dosbarth am 1866.

Yn ystod blynyddoedd llwyddiant mawr Sasiynau y Bala, byddai tyrfaoedd lliosog yn myned ol a blaen trwy Ffestiniog bob haf o Leyn ac Arfon. A sicr ydyw i'r cyfryw dyrfaoedd adael argraff ddaionus ar grefyddwyr yr ardal. Byddai llawer o son am danynt yn yr amser gynt. Nid oes dim yn hanes ein gwlad yn fwy bendithiol na hyny o wybodaeth sydd ar gael am y minteoedd a gyrchent i'r Bala a Llangeitho. A da fuasai pe cawsid ychwaneg o honynt wedi eu croniclo. Y mae hanes dwy o'r teithiau hyn trwy Ffestiniog ar gael. Un ydyw, pan yr oedd y Parch. John Elias o Fôn yn llanc ieuanc, ddwy flynedd cyn iddo ddechreu pregethu, a phan nad oedd eto yn aelod eglwysig, yn myned gyda'r fintai o Leyn am y tro cyntaf i Sasiwn y Bala, yn y flwyddyn 1792. "Yn Ffestiniog, ar eu ffordd tua'r Bala, fe benderfynwyd cael cyfarfod gweddi. Gofynwyd a oedd Beibl gan rywun. Ond nid oedd yr un yn digwydd bod gan neb, o leiaf nid oedd neb yn ateb fod ganddo un. O'r diwedd, dyma ŵr ieuanc, sobr, distaw, dieithr i bawb, a dillad pur lwydaidd am dano, yn dywedyd fod ganddo ef Feibl, ac yn ei dynu allan o'i logell. Gan fod y Beibl ganddo ef, fe'i hanogwyd ef i ddarllen penod. 'Yr hyn a wnaeth,' ebe hen flaenor oedd yn y fintai, 'nes oedd y benod yn newydd i ni gyd.' Anogwyd ef i fyned i weddi. 'Ac os oedd y darllen,' meddai, 'yn rhyfedd, yr oedd y weddi yn rhyfeddach. Nid wyf yn meddwl i mi glywed y fath weddio na chynt nac wedi hyny.'"[13] Ar yr heol yn Ffestiniog y cymerodd hyn le. Yr hanes arall ydyw, "Am daith o'r Waenfawr i Gymdeithasfa y Bala, yn y flwyddyn 1806," a ysgrifenwyd gan Mr. Evan Richards, Conwy, ac a yınddangosodd yn y Drysorfa, Rhagfyr 1855. "Oddiyma (Penrhyndeudraeth) aethom ymlaen tua Ffestiniog (a'r rhai oedd ar geffylau i Drawsfynydd), dan gerdded yn rhwydd a diflin, gan adroddiad o'r pethau a glywsom, gyda blas a hyfrydwch nid bychan. Cawsom ddwy bregeth hynod lewyrchus ar y lawnt, neu yr heol, yn Ffestiniog, gan y diweddar Barch. Michael Roberts, a'i dad, y Parch. John Roberts, Llangwm. Lletyasom y noson hono gyda hen fam grefyddol, gerllaw Ffestiniog. Wedi swpera, cadwyd dyledswydd, ar ddiwedd yr hyn y torodd allan yn orfoledd tanllyd, yn ganu, canmol, a neidio, nes oeddym yn teimlo megis y nefoedd ar y ddaear. Yr oeddwn braidd yn barnu mai parhau i orfoleddu felly a wnaent hyd y boreu; ond wedi ychydig blethu dwylaw i gysgu, cyfodasom yn foreu ddydd Mawrth; ac wedi cymeryd ein lluniaeth mewn llawenydd, ac addoli, eychwynasom tua Mynydd Migneint, yr hwn oedd ar y pryd wedi ei ordoi â niwl, ac ychydig wlithwlaw yn diferu arnom. Fel yr oeddym yn teithio ymlaen, clywem ryw adsain beraidd, megis yn ehedfan gyda'r awel i'n cyfarfod, yr hyn a fu yn effeithiol i'n cyflymu tuag at oddiweddyd rhyw fintai oedd wedi ein blaenu, nes y daethom o'r diwedd i ddeall y geiriau, ac i allu eu canfod. Y penill ydoedd,—

'Unwaith am byth oedd ddigon
I ddiodde'r bicell fain.'


Ymhen ychydig daethom i'w golwg, pan yn troi ychydig o'r ffordd, ac wedi i un o honynt ddarllen ychydig o adnodau o'r Beibl, a myned i weddi, rhoddwyd penill allan i'w ganu, ac aethom ymlaen gyda hwy, dan ganu, ac ymddiddan am y pregethau, ac adrodd ein teimladau o dan eu heffeithiau, nes cyraedd at dý cyhoeddus, a elwid y Tai hirion, ac yma gorphwysasom ychydig i gymeryd lluniaeth. Wedi darllen yma, drachefn, ychydig o air yr Arglwydd, a myned i weddi, aethom ymlaen dan ganu, hyd nes y cyrhaeddasom dŷ cyhoeddus arall, a elwid Bwlch-y-buarth, lle y goddiweddasom fintai arall, wedi bod yn cymeryd lluniaeth, ac yn addoli. Oddi yma, aethom ymlaen, yn dyrfa lled liosog erbyn hyn, tua Mynydd Nodol. Tra bwy byw mi gofia'r lle." Mae y daith ymlaen i'r Bala, a'r pethau a gymerasant le yno, yn hynod ddyddorol ac addysgiadol.

Ystyrir hanes yr achos yn Mhentref Ffestiniog, gan y pentrefwyr hynaf, fel yn perthyn i dri chyfnod. Y Cyfnod Cyntaf yn yr Hen Gapel, o 1784 i 1814. Gwneid yr eglwys i fyny y tymor hwn o nifer o hen frodyr a chwiorydd duwiol, heb ddim yn neillduol i'w gofnodi am danynt, ond eu bod yn meddu sel a ffyddlondeb dihafal yr oes yr oeddynt yn byw ynddi. Morgan Prys, o'r Garth, oedd noddwr penaf yr Ysgol Sul. Yr oedd ef o linach yr enwog Archddiacon Prys, o'r Tyddyndu. Bu farw oddeutu 1811, yn 51 mlwydd oed, a mawr oedd y golled ar ei ol. Bu ei goffadwriaeth yn barchus yn yr ardal o hyny hyd yn awr. Gŵr o'r enw Robert Ellis, Tycerig, hefyd a fu yn weithgar gyda'r achos y tymor hwn. Wrth wneuthur ymchwiliad tuag ugain mlynedd yn ol, methasom a chael allan y bu mwy na dau flaenor yn yr Hen Gapel, sef,

OWEN ROBERTS, BWLCHIOCYN, A JOHN HUGHES—

gŵr yn gweithio yn y chwarel. Anhawdd yw gwybod gan bwy na pha fodd y dewiswyd hwy; ac ymddengys mai y prif gymhwysder ynddynt i'r swydd ydoedd gonestrwydd a duwioldeb, oblegid dywedir am y cyntaf o'r ddau nas gallai ddarllen gair ar lyfr. Owen Rhobert oedd y blaenor cyntaf yn Mhlwyf Ffestiniog. Symudodd o Bwlchiocyn i fyw i Neuadd-ddu yn y flwyddyn 1809. Yr oedd hyn ddeng mlynedd cyn bod un eglwys wedi ei sefydlu yn y Blaenau. Ganddo ef yr oedd y prif lywodraeth yn yr hen gapel, oblegid ceir hanes am dano yn talu i'r pregethwyr, a'r tâl, fel yr hysbyswyd gan ddau weinidog, ydoedd chwe' cheiniog. Efe hefyd fyddai yn cyhoeddi, a'i ddull yn cyhoeddi moddion yn y Blaenau oedd,— "Cyfarfod gweddi i fod yn ein tŷ ni rhwng t'wllu a th'wllu." Bu farw yn y flwyddyn 1818. John Hughes a fu yn dysgu y plant yn yr Ysgol Sul gyda ffyddlondeb am ddeugain mlynedd, ac a fu farw, wedi bod yn fendith i ganoedd, yn 1834, yn 96 mlwydd oed.

Yr ail gyfnod ydyw yn y Capel Gwyn, o 1814 i 1839. Yr oedd yr Hen Gapel oddeutu milldir oddiwrth y pentref i gyfeiriad Penmachno. Yn awr, gan fod y boblogaeth yn cynyddu, aeth yr hen adeilad yn rhy fach, ac adeiladwyd un arall yn ei le ar dir Plasmeini, yn nghongl cae a elwid Caegwyn; oddiwrth hyn yr enw cyntaf ar y capel oedd Pencaegwyn, ac ymhen amser daeth i gael ei alw yn Gapel Gwyn. O ran maint ac addurn nid oedd fawr o ragoriaeth yn hwn ar yr hen. Yr oedd yn ddeg llath o hyd, ac wyth lath o led. Fel hyn y dywedir yn y Traethodydd am 1868, tudalen 45,—"Gofynai Mr. Charles wrth fesur y tir am hyd coed yn ychwaneg, oblegid yr oedd ei ffydd ef yn lletach na'r ychydig latheni hyn. Ond yr oedd Edward Robert, y pregethwr, yn chwyrnu ac yn chwythu bygythion rhag y fath beth. 'A oes arnoch ddim ofn i'r capel mawr yna fyn'd yn ysgubor?' meddai, nid oes arnoch ddim mwy o'i eisiau na gwaew yn eich talcen.' Costiodd 300p." Hanes arall a ddywed mai John Evans, y Bala, ac un arall, a anfonwyd dros y Cyfarfod Misol i fesur y tir, ac i rywun eu cyfarfod wrth ddychwelyd adref, a gofyn iddynt, "Pa le y buoch chwi?" "Ni a fuom yn Ffestiniog," oedd yr ateb, "yn cymeryd lle i'r Methodistiaid i adeiladu capel, digon o faint iddynt am gan' mlynedd." Tra yn gwneuthur y gwaith coed, dywedodd un hen frawd, "Yn siwr, mi gwelwn i chwi yn gwneyd yn ddoeth, pe gwnaech bulpud yn y ffenestr ar gyfer Sasiwn y Bala." Y pryd hyn yr oedd tramwy mawr trwodd o Sir Gaernarfon i'r Wyl i'r Bala. Gwnaed pulpud felly, i'w roddi ar achlysuron neillduol yn y ffenestr, a "phulpud Edward Hughes" y gelwid ef. Rhoddwyd oriel drachefn ar ddau ben y capel yn y flwyddyn 1826.

Y Daith Sabbath yn 1816 oedd, Capel Gwyn, Cwmprysor, Trawsfynydd. Deuent i'r capel hwn o'r holl blwyf. Llawer coffa a wnaed am ychydig ffyddloniaid yn dyfod i lawr yma o Rhiwbryfdir. Dywed hen wraig sydd yn awr yn fyw, y byddai hi pan yn eneth yn dyfod o Glanypwll Bach i'r Capel Gwyn, ac y byddai yn cario ei hesgidiau a'i hosanau o dan ei chesail at Plasmeini, ac yno yn eu gwisgo i fyned i'r capel. Er rhagored crefyddwyr oedd yr hen bobl, perthynai iddynt un diffyg mawr i feithrin crefydd. Am y deugain mlynedd cyntaf, ni chai plant fod yn perthyn i'r cyfarfod eglwysig o gwbl. Cofus genym glywed un yn adrodd ugain mlynedd yn ol, iddo ef gael ei droi allan pan yn chwech oed-yr hyn a gymerodd le yn 1806-am fod yr hen bobl yn tybio ei fod yn fachgen dewr, craff ei sylw ar yr hyn a wneid ac a ddywedid, ac 'ofnent iddo gario dim allan o'r seiat. Ond yn raddol daethant i ddeall eu camgymeriad. "Oddeutu 1814, dechreu- wyd cadw society rydd, wrth yr hyn y meddylid fod rhyddid i aros yn ol am y tro yn unig." Canlyniad gofalu yn y modd hwn am had yr eglwys oedd dechreuad cynydd yr achos. Ymhen pump a chwe' blynedd ar ol myned i'r Capel Gwyn, bu yma gynydd ar yr holl waith. Nodir tri o bethau fu yn foddion i beri y cynydd,—Diwygiad mawr 1818; sefydliad Cyfarfodydd Ysgolion y Dosbarth y flwyddyn ddilynol; dyfodiad John Ellis, Llanrwst, i'r fro i ddysgu cerddoriaeth y flwyddyn ddilynol i hono. Cynyrchodd y pethau hyn ysbryd cenhadol yn yr eglwys, a ffurfiwyd canghenau ysgolion. Y mae pentref Ffestiniog wedi bod yn llawn llygad yn yr ystyr hwn. Perthyna i'r lle dair cangen ysgol lled bwysig, a thybiwn mai yn awr yw yr adeg oreu i wneyd crybwylliad am danynt.

Y BABELL.

Sefydlwyd Ysgol Sabbothol i breswylwyr Cwm Cynfal yn Cae Iago, yn 1820. Ei sefydlwyr yn benaf oeddynt William a Robert Griffith, Bryn yr Odyn, dau oeddynt wedi eu bedyddio yn dra helaeth gan ysbryd y diwygiad ddwy flynedd yn flaenorol. Bu ddau wedi hyn yn ddiaconiaid gweithgar— Robert yn agos i'r Bala, a William yn Dolyddelen, ac wedi hyny yn Llanfachreth. Symudwyd yr ysgol saith o weithiau, ac ar y seithfed tro daeth i'r Coed bach, lle bu gan yr Annibynwyr eglwys flodeuog gynt. Ac yn 1861, adeiladwyd yr ysgoldy a elwir y Babell, ar y draul o 120p.

TEILIA MAWR.

Sefydlwyd ysgol yma yn mis Mai 1821, ar gyfer ardalwyr Cwm Teigil. Adeiladwyd ysgoldy yn y flwyddyn 1839, yn werth 50p. Er's rhai blynyddau bellach, mae ysgoldy eangach a harddach wedi ei adeiladu, yr hwn a elwir Horeb.

RHYDSARN.

Sefydlwyd Ysgol Sabbothol yma yn y Frondirion, tŷ William Williams, yn y flwyddyn 1843. Trwy garedigrwydd David Ll. Lloyd, Ysw., Plasmeini, yn gwerthu tir am bris rhesymol, yn y flwyddyn 1859, adeiladwyd ysgoldy dymunol, mewn lle hynod o brydferth, yn werth agos i 120p., yr hwn sydd yn feddiant i'r Cyfundeb.

Yr hyn sydd i'w adrodd yn mhellach am y Capel Gwyn ydyw, gair am y ffyddloniaid fu yn llafurio ynddo. Y penaf o honynt oedd Edward Robert, "Hen Vicar y Crawcallt." Efe, fel yr hysbyswyd yn y benod ar Pandy-y-ddwyryd, oedd y pregethwr cyntaf a ddechreuodd bregethu yn Ngorllewin Meirionydd. Daeth i fyw i Tynant y Beddau; ac yn ystod ei arosiad yno, bu o wasanaeth mawr i'r achos yn Ffestiniog. Symudodd yn niwedd ei oes i Drawsfynydd, a bu farw yno yn orfoleddus. Gwydd ydoedd wrth ei gelfyddyd. Gwnaeth ymdrech bron angrhedadwy i ddysgu darllen ac i gyraedd gwybodaeth. Gwnaeth lawer hefyd i hyfforddi crefyddwyr a ddaethant at grefydd yn amser y diwygiad, trwy ddysgu iddynt weddio, ac arfer geiriau priodol mewn gweddi. Gyrai lyfr Gurnal ar gylch trwy dai ei gymydogion, er mantais iddynt ei ddarllen. Cychwynodd ddosbarth o grefyddwyr da yn yr ardal hon. Er hyny, yr oedd o dymer hynod o ddreng, a phigog, a chroes. Mewn seiat yn y Capel Gwyn unwaith, dywedai y Parch. R. Jones, y Wern, wrtho, "Edward Robert, yr ydych yn rhy anodd eich trin: yr ydych yr un fath a draenog, yn bigau i gyd." Yn y seiat gyntaf wedi hyny, dywedai Edward Robert, "Yr oedd y gŵr yn ddigon creulon y buasai yn fy mlingo, pe gallasai, ac yr oedd llawer o honoch chwithau yn barod i ddal fy nhraed iddo wneyd hyny." Y blaenoriaid y tymor hwn oeddynt Robert William, Tŷ'nycefn, ac Edward Jones, Ysgol Newydd. Symudodd y ddau i Bethesda, ac i America wedi hyny. Bu David Jones, saer, a Morris Jones, Llety-Fadog, yn flaenoriaid am dymor. John Williams, Hen Gapel, a fu yn arolygwr yr Ysgol Sul am dymor maith, a chadwai rif y presenoldeb a'r llafur ar lechau a ddygai o'r chwarel. Dywed rhai hefyd iddo fod yn gwasanaethu y swydd o flaenor. Oddeutu y pryd hwn yr ymunodd yr hen frawd duwiol, Evan Thomas, y Pandy, â chrefydd, ac y dywedodd un o'r blaenoriaid wrtho, "Wel, Evan bach, y mae genyt waith i gredu bob dydd." Yr oedd yn syn ganddo glywed hyn. "Ond," meddai, "mi welais lawer gwaith wedi hyny ei fod yn wir." Llety y pregethwyr ar y cyntaf oedd Llety Fadog, lle a fu yn llawer o nodded i'r achos; wedi hyny buont yn lletya yn nhŷ David Jones, saer. Oherwydd anghydfod, bu yr eglwys dros amser y pryd hwn heb yr un swyddog ynddi, a byddai Owen Thomas, Fucheswen, yn dyfod i lawr i gadw y cyfarfod eglwysig. Ac wrth ymadael o'r Capel Gwyn, gallasai yr eglwys ddweyd ei bod wedi dyfod trwy "leoedd geirwon, enbyd iawn."

Yn 1839 symudwyd i Peniel, y capel presenol. A dyma y trydydd cyfnod. Dyddiad gweithred y capel hwn ydyw Mai 1838; prydles, 99 mlynedd; ardreth, 5p. 12s. Edrychid arno ar y pryd yn gapel o faintioli anferth, wedi ei adeiladu mewn lle cyfleus, ei olwg yn urddasol, tŷ capel mewn cysylltiad ag ef, ac ysgoldy uwch ei ben i gadw ysgol ddyddiol. Y Methodistiaid oedd noddwyr yr ysgol ddyddiol y blynyddoedd hyn. Bu y capel eang hwn am ugain mlynedd heb oriel arno, a'r pulpud wedi ei grogi i fyny, o leiaf, haner y ffordd i'r ceiling, fel pe buasai wedi ei roddi yno yn bwrpasol i ddysgu y pregethwr i waeddi, er mwyn i'r bobl ar hyd y gwaelod ei glywed. Ond pan ddaeth diwygiad ar grefydd (1859, 1860), daeth diwygiad hefyd i ostwng pulpudau capelau y wlad, a Ffestiniog yn eu plith. Yr oedd y brodyr yn meddu ffydd aruthrol i anturio adeiladu adeilad mor fawr, a daroganid mai suddo a wnaent hwy a'r achos. Ac o dan faich gorlethol y buont hyd 1845, pryd y rhoddodd y Cyfarfod Misol ryw gymaint o gynorthwy i gyfarfod eu hymdrech hwy eu hunain. Ar ddymuniad y Cyfarfod Misol, hefyd, rhoddodd Bethesda iddynt 40p. y pryd hwn i helpu talu dyled y capel. Gwelir oddiwrth y llyfrau, modd bynag, nad oedd ond 350p. o'r ddyled yn aros yn 1850. Yn y flwyddyn 1879, adgyweiriwyd y capel yn drwyadl, a gwnaed ef yn gysurus a phrydferth o'r tufewn. Aeth y draul yn 1000p. Pregethwyd ar ei ail-agoriad gan y diweddar Barch. Joseph Thomas, Carno. Y mae hefyd yn awr yn rhydd-feddiant i'r Cyfundeb. Y ddyled ar ddiwedd 1889 oedd 639p. 15s. 7c.

Cynhaliwyd Cymdeithasfa Flynyddol y sir yn y capel hwn, Hydref 2il a'r 3ydd, 1844, yr hon a gofiwyd ac a gofir gan ganoedd, ar gyfrif mai ynddi hi y cafodd y Parch. John Jones, Talsarn, un o'r odfeuon hynotaf, os nad yr hynotaf oll yn ei oes. Yr oedd y Gymdeithasfa hono, y tro hwnw, yn cymeryd lle y Gymdeithasfa a gynhelid yn flynyddol yn Nolgellau. Gwnaethid parotoadau i bregethu allan ar y maes, ond trodd y tywydd yn anffafriol, fel y bu raid pregethu yn y capeli. Yn nghapel Peniel, am ddeg o'r gloch, pregethodd Mr. Daniel Jones, Llanllechid, yn gyntaf, a Mr. John Jones ar ei ol. "Yr oedd y capel eang wedi ei orlenwi â gwrandawyr, pob congl o hono dan sang." Geiriau testyn Mr. John Jones oeddynt, "Mor werthfawr yw dy drugaredd, O Dduw! am hyny yr ymddiried meibion dynion dan gysgod dy adenydd." "Yr oeddwn," meddai y Parch. Robert Parry, "ar risiau y pulpud, ac mewn lle manteisiol i ganfod y cwbl; ni welais y fath olygfa yn fy holl fywyd, ac nid wyf yn gallu disgwyl ei chyffelyb byth. Pan y darluniai Drugaredd yn dywedyd, 'y cai y nefoedd fod yn wag o'r Mab, cyn y cai dim angenrheidiol er sicrhau iachawdwriaeth i bechadur fod heb ei gwblhau,' disgynodd rhywbeth ar y gynulleidfa nad ydyw ond ofer ceisio ei ddesgrifio, oedd, yn wir, yn annisgrifiadwy. Rhoddwyd un lef gyffredinol gan yr holl dorf, fel pe buasai wedi ei tharo gan fellten; a chafodd pawb ryddhad i'w teimladau-rhai trwy waeddi, llawer trwy wylo, a rhai trwy wylo a gorfoleddu. Ac ni therfynodd effeithiau y bregeth yn y capel, ond bu yn dwyn ffrwyth am flynyddoedd. Bu rhai yn dyfod i'r eglwysi, yn y cymydogaethau hyn, am amser maith, wedi eu deffro yn ddifrifol am y tro cyntaf erioed, trwy y bregeth hon."[14] Parhau i gynyddu a chryfhau wnaeth yr achos yn Mhentref Ffestiniog ar ol adeiladu capel Peniel, ac ar ol y Gymdeithasfa hon.

Bu amryw o bregethwyr a gweinidogion yn dal cysylltiadi â'r eglwys hon, rhai a ddaethant yma i drigianu, ac eraill a ddechreuasant ar eu gweinidogaeth. Hugh Edwards, yr hwn. a aeth i'r America, Ebrill 1841; Edward Rees, aeth yntau hefyd i'r America, Ebrill 1842; Robert Thomas a fu yn byw yn nhŷ y capel yma, cyn ei fynediad i Lidiardau; Robert Lewis, wedi hyny o Gaernarfon, a fu yma am dymor yn cadw ysgol ddyddiol. Yn Peniel y dechreuodd y Parch. James Donne, Llangefni, bregethu. Cyflwynwyd ef gan y Cyfarfod Misol i'w dderbyn yn aelod o'r Gymdeithasfa, Mai 1, 1843. Yma y magwyd y Parch. E. Stephen, Tanymarian. Yma hefyd y cychwynodd y Parch. James Jarrett, yn awr o Nefyn. Yn Nghyfarfod Misol Awst 3, 1848, "caniatawyd iddo gael arfer ei ddawn i bregethu, a myned hefyd i Athrofa y Bala." Y Parch. R. J. Williams, Aberllyfeni, ei flwyddyn brawf yn diweddu Mai 1878; Parch. O. Lloyd Owen, Cymdy, ei flwyddyn brawf yn dechreu Mai 1880; Mr. Robert Morris, yn dechreu ar ei flwyddyn brawf Gorphenaf 1883.

Yn Nghyfarfod Misol Rhagfyr 1840, "Ymddiddanwyd â David Davies, David Evans, ac Humphrey Williams, y tri o Ffestiniog, gyda golwg arnynt i flaenori." Dyma y tri y gosodwyd y gwaith ar eu hysgwyddau ar ol yr ymrysonau a gymerasant le yn y Capel Gwyn, a'r cyfwng mewn canlyniad y bu yr eglwys heb flaenoriaid. Dechreuodd yr olaf yn fuan bregethu. David Davies, Pantlluryd.—Bu ef yn flaenor ffyddlon a gweithgar am hir amser mewn cyfwng pwysig ar yr eglwys. Efe oedd un o sefydlwyr ysgol Rhydsarn. "Dywedir na chollodd ond dau Sabbath yn ysbaid y deng mlynedd y bu yn blaenori ynddi. Yr ydoedd yn ddihareb am ei benderfyniad, a'i ffyddlondeb, a'i gywirdeb gyda phob rhan o waith yr Arglwydd." Gwr o farn, a phwysau yn ei gymeriad. Bu farw Medi 2, 1859, a theimlid colled ar ei ol. David Evans.-Gwasanaethodd ei swydd gyda ffyddlondeb tuhwnt i'r cyffredin am tua 40 mlynedd. Yr oedd yn hynod ryddfrydig ei syniadau, a byddai ar flaen pob diwygiad er llesoli yr achos mawr. Yr oedd yn hynod hefyd am ei hyddysgrwydd yn yr Ysgrythyrau; ei hyfrydwch oedd myfyrio ar athrawiaethau mawr crefydd. Bu yn cyhoeddi y moddion am 40 mlynedd, a chyhoeddwr hyglyw heb ei ail ydoedd. Cerddodd lawer i Gyfarfodydd Misol. Teilynga gael ei restru fel un o flaenoriaid ffyddlonaf plwyf Ffestiniog er dechreuad Methodistiaeth. Bu yntau farw Medi 21, 1879. Dewiswyd Mr. Robert Griffith ar ei ddyfodiad yma o Bethesda. Evan Thomas, Robert Davies, Hafodfawr; Hugh Jones, Post Office; Ellis Lloyd, a W. Jones (Ffestinfab), fuont yn flaenoriaid yina, ond a symudasant i leoedd eraill. Y blaenoriaid yn awr ydynt,- Mri. Robert Griffith, W. Jones, David Owen, Richard Jones, W. Davies.

Yn y flwyddyn 1880, adeiladwyd capel Engedi yn nghwr arall y pentref, a symudodd nifer fawr i ymffurfio yn eglwys yno. Cyn yr ymadawiad hwnw, rhifai cynulleidfa Peniel yn wrandawyr, 870; cymunwyr, 443; Ysgol Sul, 658. Gwasanaethodd y Parchn. Robert Parry ac Humphrey Williams yr eglwys am flynyddoedd lawer, er nad oeddynt wedi eu galw yn ffurfiol. Yn awr y mae Mr. D. D. Williams, gynt o Croesor, wedi ei alw yn weinidog yr eglwys. Ar ddiwedd 1889, rhif y gwrandawyr, 400; cymunwyr 248; Ysgol Sul, 342.

Y PARCH. HUMPHREY WILLIAMS.

Ganwyd ef yn Tomen y Mur, Medi 10fed, 1810. Bugeilio defaid oedd ei waith boreuol; daeth wedi hyny i weithio i chwarelau Ffestiniog. Ymunodd â chrefydd yn eglwys Bethesda, yn 1830, pan yn 20 oed. Dewiswyd ef yn flaenor yn Peniel yn 1840. Awst 1843, anfonwyd y Parch. Robert Griffith, Dolgellau; Morris Lloyd, Cefngellewin; a W. Ellis, Maentwrog, dros y Cyfarfod Misol, i Ffestiniog i gymeryd llais yr eglwys o berthynas iddo gael dechreu pregethu ; ac yn Medi yr un flwyddyn, "caniatawyd i Humphrey Williams ddechreu llefaru yn ol y plan a basiwyd yn Nghymdeithasfa Pwllheli." Yn Nhymdeithasfa Amlwch, 1872, ordeiniwyd ef i gyflawn waith yr efengyl. Bu farw mewn tangnefedd, Rhagfyr 6ed, 1883, yn 73 mlwydd oed. Aeth trwy holl gylchoedd ei fywyd gyda llawer o ffyddlondeb a dewrder. Cyn ei ddewis yn flaenor, bu yn arolygwr gweithgar yn yr Ysgol Sabbothol. Felly dringodd yn rheolaidd ar hyd pob gris o ddefnyddioldeb. Meddai ar fesur helaeth o athrylith; ac yn ol y manteision a gafodd, gweithiodd yn dda ymhob cylch y bu yn troi ynddo. Nis gallwn roddi gwell darluniad o hono na thrwy ddyfynu ychydig o'r sylwadau a wnaed ar ei gymeriad a'i waith, y rhai a ymddangosasant yn y Goleuad, yr wythnos ar ol ei farw. Yr oedd hynodion yn perthyn iddo, dywediadau hynod, brawddegau hynod, a chymhariaethau hynod. Gyda'r cwbl, yr oedd yn was ffyddlon i Iesu Grist, ac fel y cyfryw, mae ei goffadwriaeth yn haeddu parch. Un o'r hen gymeriadau ydoedd, o blith yr hen bobl, wedi ei wneuthur y peth oedd trwy oruchwyliaeth natur a gras. Delw yr hen bobl oedd arno, a delw y wlad y magwyd ef ynddi. Fel engraifft o'i ymadroddion digrifol mewn cymdeithas, dyma un:—Yr oedd yn marchogaeth ar geffyl benthyg unwaith, ymhell oddicartref. Nid oedd dim myn'd yn yr anifail, ni chlywai lais y marchogwr, ac ni theimlai oddiwrth y pastwn yn ei law. Gwaeddai yntau ar ei gydymaith, anifail yr hwn oedd yn cario y blaen arno,—"Nid yw yn bosibl marchogaeth yr anifail hwn yn ysbryd Mab y dyn." Rhagoriaeth neillduol ynddo oedd ei barodrwydd i wasanaethu ei gyd-ddynion yn mhob peth y gallai; i gynghori yn erbyn drygau yr oes; i geisio y rhai tarfedig; i bregethu yn nheithiau pell a mynyddig Sir Feirionydd. Yr elfen fwyaf amlwg ynddo fel pregethwr oedd yr elfen ymosodol. Rhyfelwr oedd, ymosodwr ar bob drwg, yn enwedig ar yr Un drwg. Ymosodai yn ddiarbed bron ymhob pregeth ar y "black prince." Tynai ei gymhariaethau o dair ffynhonell,—y Beibl, Gurnal, a'r Chwarelau. Cynyrchai fywyd ar unwaith yn y Cyfarfodydd Misol pan y codai i fyny i siarad. Anaml y ceid neb a allasai fel efe, trwy ei ddamhegion a'i ffraeth-eiriau, roddi hergwd i'r hyn fyddai dan sylw yn ei ol neu yn ei flaen. Yr oedd mewn dau beth yn fwy na llawer, sef fel dirwestwr ac fel gweddiwr. Da y gwyddai ei gydoeswyr am ei ymdrechion dihafal gyda dirwest ac yn erbyn meddwdod, ac am ei weddiau gafaelgar ac effeithiol.

"Mor nodweddiadol o hono ef ei hun oedd ei eiriau diweddaf. Cefais lythyr boreu heddyw oddiwrth y Gwr, a'i gynwys oedd, Mewn ing y byddaf fi gyda thi.' ' Golygfa fendigedig ar ddydd ei angladd oedd gweled tyrfa mor fawr— o gylch 2000—yn talu parch i'w goffadwriaeth, y bobl y bu trwy ei oes yn eu dysgu a'u hyfforddi, yn canu emynau mor rymus, ar hyd y ffordd o'r capel i'r fynwent, a swyddogion yr eglwys y bu yn cyd-lafurio gyda hwy, o dan bedair congl yr elor yn ei gario i lan y bedd."

Y PARCH. ROBERT PARRY.

Brodor ydoedd ef o Lanllyfni, wedi ei eni mewn lle o'r enw Felingerig. Daeth i Ffestiniog pan o gylch 20 oed, i weithio fel chwarelwr. Yr oedd yn ddyn ieuanc syml a diargyhoedd, a rhagorai ar y cyffredin trwy ei awydd i brynu a darllen llyfrau, a hynodid ef fel dadleuwr selog dros yr athrawiaeth Galfinaidd. Ymhen o gylch tair blynedd wedi iddo symud yma, ymunodd â chrefydd yn eglwys y Methodistiaid yn Nhanygrisiau. Ymaflodd ar unwaith yn nyledswyddau crefydd: bu yn ffyddlon gyda'r cyfarfodydd egwyddori; byddai eneiniad ar ei weddiau ar ei doriad cyntaf allan. "Daliwch chwi sylw," ebe un brawd, wrth fyned adref o gyfarfod gweddi, mae defnydd pregethwr yn y dyn ieuanc yna sydd newydd ddyfod atom." A dywedai ef ei hun wedi hyny ei fod wedi cyfansoddi rhai pregethau cyn bod yn aelod eglwysig. Ymhen o gylch blwyddyn ar ol ymuno â'r eglwys, aeth i Athrofa y Bala; ond nis gallodd aros yno ond am dymor byr. Dychwelodd yn ol drachefn at ei orchwyl yn y chwarel. Y pryd hwn darfu i'r blaenor duwiol, Mr. Jacob Jones, Bala, anfon llythyr at swyddogion eglwys Tanygrisiau, yn eu hanog i gymell y gŵr ieuanc fu yn y Bala i ddechreu pregethu. Ac felly y gwnaethant. Bu yn gweithio yn y chwarel am gryn amser ar ol dechreu pregethu. Aeth i'r Athrofa eilwaith, a bu yno am o gylch tair blynedd. Ymdrechodd yn ganmoladwy iawn yr adeg yma i gael addysg athrofaol i'w gymhwyso i fod yn ddefnyddiol, ac aeth trwy galedi mawr. Ar ol bod yn y Bala am yr amser arferol, gwnaeth ei feddwl i fyny, er mwyn cael moddion cynhaliaeth, i fyned i gadw ysgol ddyddiol; a thuag at gyfaddasu ei hun at y gwaith hwnw, aeth i'r Borough Road, Llundain. Ymgymerodd â gofal yr Ysgol Frutanaidd yn Ffestiniog, a bu yr ysgol yn llwyddianus o dan ei ofal am o gylch wyth mlynedd. Ymsefydlodd yma bellach, trwy briodi Miss Catherine Thomas, Tryfal. Er mwyn bod yn fwy rhydd i ddilyn ei gyhoeddiadau Sabbothol a'r Cyfarfodydd Misol, rhoddodd y swydd o ysgolfeistr i fyny, ac ymgymerodd â masnach, er mwyn, fel y dywedai, ceisio gwneyd ychydig i'w gynorthwyo i fyw i bregethu. Bu ei fynediad i Ffestiniog o fendith fawr i achos y Methodistiaid yn y lle. Gwasanaethodd fel bugail i eglwys liosog Peniel am amser maith; meddai ar gynhwysder neillduol i gadw cyfarfodydd eglwysig, ac i hyfforddi y bobl ieuainc. Yr oedd ei ddawn ef, a dawn y Parch. Humphrey Williams, pob un yn ei ffordd ei hun, yn peri i'r cyfarfodydd eglwysig fod yn dra adeiladol ac effeithiol. Ei gyfaill, y Parch. G. Williams, Talsarnau, yr hwn a ysgrifenodd gofiant byr iddo i'r Drysorfa, Tachwedd 1881, a ddywed ei fod yn meddu anfantais i fod yn boblogaidd, am nad oedd yn feddianol ar lais soniarus, ond y byddai y dosbarth mwyaf deallus o'r gwrandawyr yn ei werthfawrogi. Ac mewn cysylltiad ag ef y gwnaeth G. W. y sylw canlynol, "Clywsom am un wraig yn myned heibio i gapel pan oedd y gwasanaeth newydd ddechreu; a phan y gofynwyd iddi a oedd hi ddim yn myned i wrando y gŵr dieithr, dywedai, Mae arnaf eisiau myned i'r shop yn gyntaf, ond deuaf yn ol erbyn y bydd y pregethwr yn dechreu gwaeddi.'" Y lleoedd y rhagorai Mr. Parry ynddynt oeddynt, y cyfarfodydd eglwysig, y cyfarfodydd ysgolion, a'r Cyfarfodydd Misol. Bu am dymor maith yn gofalu yn dra llwyddianus am gyfarfodydd ysgolion y dosbarth. Byddai yn fynych yn cael ei benodi i wneuthur cymwynasau dros y Cyfarfod Misol, ac nid oedd neb yn fwy medrus at achosion felly. Yr oedd yn ŵr o argraffiadau crefyddol dyfnion trwy ei oes, a chadwodd ei hun yn ddifrycheulyd oddiwrth y byd, a bu yn ffyddlon yn ngwasanaeth ei Arglwydd hyd y diwedd. Bu farw ar y 7fed o Ionawr, 1880, yn nhŷ ei fab, Dr. Parry, Harlech y pryd hwnw, a chymerodd ei angladd le yn Mhentref Ffestiniog, pan y daeth tyrfa fawr i ddangos eu parch iddo.

BETHESDA.

Hon ydyw yr eglwys gyntaf a ffurfiwyd gan y Methodistiaid Calfinaidd yn Mlaenau Ffestiniog, a hi ydyw mam yr holl eglwysi eraill sydd yn y fro yn awr. Sefydlwyd hi, cyn belled ag y gellir cyraedd sicrwydd, yn y flwyddyn 1819. Un capel oedd yn y plwyf yn flaenorol i hyny, sef y Capel Gwyn yn y Llan. Yn yr amser gynt, ystyrid y Blaenau a'r Llan yn un ardal, i bob pwrpas crefyddol a gwladol. Ac mewn amser cymhariaethol ddiweddar, ni ystyrid myned i lawr o'r Blaenau i'r Llan ond mater o angenrheidrwydd dyddiol, a chan lawer edrychid ar hyn yn fraint. I lawr i'r Hen Gapel, a'r Capel Gwyn ar ol hyny, yr elai trigolion y Blaenau i addoli, dros ysbaid o agos i ddeugain mlynedd. Nid yw yn annhebyg nad oedd oddeutu haner y rhai a wnai i fyny gynulleidfa y Llan yn dyfod o'r Blaenau. I fyny y preswyliai un o'r ddau flaenor, a thros rai blynyddau yr unig flaenor yn y plwyf. Y mae ychydig bersonau eto yn fyw, yn cofio Robert Morris a Betty Rhisiart, Glanypwll, yn dyfod i lawr i'r Llan i bob moddion o ras, yn marchogaeth ar ferlod, a chynffonau llaes hyd y llawr.

Trwy gynal Ysgol Sabbothol y dechreuwyd yr achos yn sefydlog yn y Blaenau. Dywedir mai yn y flwyddyn 1810 y sefydlwyd hi gyntaf, yn Penybryn, ac mai William Evans, Cwmbowydd, a John Hughes, Bertheos, Dolyddelen, fuont yr offerynau i'w sefydlu. Symudwyd hi oddiyma i'r Tycoch, ac oddiyno i Neuadd-ddu, lle y bu hyd nes yr adeiladwyd capel Bethesda. Yn y flwyddyn 1818, ymunodd y Methodistiaid a'r Annibynwyr gyda'u gilydd i gadw ysgol. Cynhelid hi yn Tanymanod a'r ysgubor oedd yn agos i'r tŷ, a rhifai tua 120. Ond cyfododd anghydwelediad rhwng y ddau enwad yn lled. fuan, ac yna ymranasant. Nid oedd yr un crefyddwr yn rhoddi ei bresenoldeb yn yr ysgol ar y cychwyn, ond tua'r adeg y bu y Methodistiaid a'r Annibynwyr yn cynal yr ysgol gyda'u gilydd, ymunodd llawer â chrefydd trwy y diwygiad mawr oedd yn y wlad, ac o hyny allan yr oedd yn llawer haws ei chario ymlaen. Yn 1819, y sefydlwyd Cyfarfod Ysgolion Dosbarth Ffestiniog, a bu hyny drachefn yn foddion symbyliad i'r ysgol hon fel i holl ysgolion y cylch. Gorphenaf 17eg, 1825, cynhaliwyd Cyfarfod Ysgolion cyntaf Blaenau Ffestiniog yn Neuadd-ddu. Hysbysir mai y Parch. Robert Griffith, Dolgellau, oedd y gofalwr neu holwyddorwr. Rhifai yr ysgol 80; yr oedd dwy ysgol arall, sef Teilia Mawr a Thanygrisiau, wedi d'od ynghyd i'r cynulliad, a chan ei bod yn Sabbath teg o haf, cynhaliwyd y cyfarfod yn y tŷ a'r cwrt o'i flaen. Erbyn yr ail Gyfarfod Ysgol, yr oedd capel Bethesda wedi ei adeiladu, a chynhaliwyd ef ynddo ar y trydydd Sabbath yn Medi 1826. Cymerwyd rhan yn hwn gan y Parchn Richard Jones, Wern; Richard Jones, Trawsfynydd; a John Jones, Tremadog. Dygwyd cynygiad dipyn yn ddieithr i'r cyfarfod hwn gan W. Williams (Gwilym Peris), gŵr oedd yn flaenllaw gydag ysgol fechan Monachlog, Rhiwbryfdir, sef y priodoldeb o ddysgu gramadeg yn yr Ysgol Sabbothol. "Yr oedd y Parch. Richard Jones, Wern, yn bleidiol i hyn, ond cadw mewn cylch gweddeidd-dra. Ond yr oedd John Jones yn gryf yn ei erbyn, gan ddweyd fod hyn yn doriad uniongyrchol ar y Sabbath, a rhag bod neb yn cael ei dramgwyddo, rhoddwyd heibio ei ddysgu." Rhif yr ysgol hon adeg y cyfarfod hwn oedd 136. Ceir ychwaneg am ysgol Bethesda mewn cysylltiad ag Adroddiad Ysgolion y Dosbarth am 1869, gan Richard Owen, Neuadd ddu.

Gellir, gyda phriodoldeb, ofyn y cwestiwn, gan fod achos wedi ei sefydlu, a chapel wedi ei adeiladu yn y Llan, er's deugain mlynedd, paham y buwyd cyhyd heb wneyd hyny yn y Blaenau? Yn gyntaf oll, rhaid cofio mai teneu iawn oedd poblogaeth yr ardal y pryd hyny. Rhoddir 40 fel amcan gyfrif o'r rhai a elent i lawr i'r Llan i addoli o holl gylchoedd y Blaenau? Araf, fel rheol, fyddai yr hen bobl bob amser i gychwyn achos newydd. Tybiwn fod y rheswm dros yr hwyrfrydigrwydd hwn i'w gael i fesur o ddau gyfeiriad,— diffyg sel yn y Blaenau am sefydlu achos, a gormod cyndynrwydd yn y brodyr i lawr i adael i'r cyfeillion i fyny ymadael oddiwrthynt hwy. Y mae tystiolaeth bendant, modd bynag, ar gael ddarfod i'r eglwys yn yr Hen Gapel a'r Capel Gwyn, nid yn unig ddangos hwyrfrydigrwydd, ond gwrthwynebiad hollol i'r cyfeillion sefydlu achos yn y Blaenau. Fel hyn yr adroddir yr hanes,—"Yr oedd William Evans, Cwmbowydd, yn awyddus i gael pregethu cyson i'w dŷ, ac addawodd roddi bwyd a llety i'r pregethwyr ei hunan, os byddai i ychydig gyfeillion eraill eu cydnabod am eu llafur. Gwnaed hyn yn hysbys i'r blaenor (Owen Robert, Neuadd-ddu) yr unig flaenor yn y gymydogaeth y pryd hyny. Aeth y blaenor a'r achos yn galonog i'w roddi gerbron yr eglwys yn y pentref, gan feddwl yn sicr y llwyddai gyda'r cais. Ond Edward Robert, y pregethwr, a'i gwrthwynebai, gan ddweyd yn ffyrnig yn ei wyneb, Beth ydi'r diogi sydd arnoch chwi tua'r Blaenau acw, Owen? Taw, gynted ag y medri, ti wyddost ein bod yn methu myn'd a'r achos yn ei flaen fel yr ydym.' "[15] Digalonodd hyn y gŵr oedd wedi dangos parodrwydd i gynal yr achos; ac oherwydd rhyw gysylltiadau, llwyddodd i gael brodyr o enwad arall i ddyfod dros y mynydd o Ddolyddelen i'w dŷ i bregethu. A dyma y modd y dechreuodd yr Annibynwyr ymsefydlu yn yr ardal. Adroddwyd yr hanes uchod laweroedd o weithiau gan un oedd ei hun yn cofio yr holl amgylchiadau. Rhoddir adroddiad arall am y modd y dechreuodd yr Annibynwyr achos yn yr ardal. Ond nid yw yr adroddiad hwnw yn gwahaniaethu llawer, nac yn yr amser, nac yn y manylion. Modd bynag, ffurfiwyd eglwys gan yr Annibynwyr yn y flwyddyn 1817, a'r flwyddyn ganlynol adeiladwyd capel Bethania, ac yr oedd hyn wyth mlynedd cyn bod yr un capel arall yn y Blaenau gan unrhyw enwad. Mae y brodyr teilwng yr Annibynwyr erbyn hyn wedi lledu eu canghenau dros yr holl blwyf.

Dechreuwyd pregethu yn rheolaidd yn Neuadd-ddu yn nghanol y flwyddyn 1819, ac oddiwrth y ffaith eu bod yn talu i'r pregethwyr, tybir mai y pryd hwn y darfu iddynt ymffurfio yn eglwys ar wahan i Ffestiniog. Cawsant ddeuddeg o bregethau y mis cyntaf, a thalwyd 14s. 6c. am y cyfan. Fel hyn y mae llyfr taliadau yr eglwys i'r pregethwyr yn dechreu:—

s. c.
"Mehefin 27, 1819 Robert Griffith (Dolgellau) 1. 0.
— 4 Hugh Jones 2. 0.
— 9 John Peters 1. 6.
— 10 Richard Roberts 2. 0.
— 11 Eto 1. 0.
— 12 Owen Williams 1. 0.
— 17 Mr. Lloyd (Bala) 1. 0.
— 17 John David 1. 0.
— 18 Mr. Lloyd 1. 0.
— 18 John David 1. 0.
— 23 William Roberts 1. 0.
— 25 David Rowland 1. 0.
— 29 John Peters 1. 0.

Yn flaenorol i hyn, yn yr Hen Gapel a'r Capel Gwyn, ymddengys oddiwrth yr hanesyn canlynol mai chwe' cheiniog fyddai tâl y pregethwr. Byddai y Parch. John Jones, o Edeyrn, yn dyfod yno i bregethu yn fynych, ac yr oedd ef ac Owen Rhobert y blaenor yn wastad ar delerau da. Arferid yn y parthau hyn, pan y byddai person wedi cael cam oddiar law person arall, ddywedyd o'r person fyddai wedi cael y cam, "Mi a dalaf i ti yr hen chwech." Un tro pan y rhoddid rhywbeth yn llaw John Jones, syrthiodd i'r llawr, a chafwyd golwg arno, ac nid oedd ond dernyn bychan gwyn ei liw. "Nid wyt ti a fi ddim yn ffrindia, Owen," meddai John Jones. Ydym yn siwr," John Jones bach," oedd yr ateb, "pa beth a welsoch yn amgenach?" "Dy wel'd yr ydwyf," ebe John Jones, "bob tro y deuaf yma, yn rhoddi i mi yr hen chwech." Cynhelid pob moddion yn y Neuadd—ddu hyd Medi 17eg, 1826, pryd yr agorwyd capel Bethesda. Un o'r teulu a adroddai, amser yn ol, y byddai pethau digrifol yn cymeryd lle yno weithiau. Cedwid y cyfarfod eglwysig wythnosol ar noson waith, a digwyddai tipyn o ddyryswch ambell dro. Yr oedd yno un yn lletya dros yr wythnos, yr hwn nad oedd yn perthyn i'r gyfeillach; ac yn hytrach na gadael iddo fyned allan i ganol yr oerni, gadewid iddo fyned i'r gwely, ar yr amod iddo gadw ei ben o dan y dillad nes y byddai y cyfarfod eglwysig drosodd.

PENOD Y TIR A'R ADEILADAU.

Adeiladwyd y capel cyntaf ar dir Tanymanod, yn y fan lle mae hen gapel presenol Bethesda, ar brydles, a thelid ardreth o 2p. yn y flwyddyn. Y draul i'w adeiladu oedd 274p. 10s. 4c. Dywedir i ddau bregethwr dieithr o'r Deheudir ddyfod heibio tra yr oedd y bobl wrthi yn adeiladu, y rhai a ddywedent,— "Ha wyr bach, shwd yr ych chi'n buildo capel yn y fath le a hyn? Beth ych chi'n ddisgwyl gael i'w lanw—defaid a geifr?" Agorwyd ef Medi 17eg, 1826. Gwasanaethwyd gan y Parchn. John Roberts, Llangwm; John Peters, Bala; Richard Jones (Wern neu Trawsfynydd). Rhoddodd John Roberts, Llangwm, yr enw Bethesda iddo yn gyhoeddus ddiwrnod ei agor. Yr oedd cantorion wedi dyfod i fyny o'r Capel Gwyn, i ganu ar yr amgylchiad. Rhif yr eglwys ar y pryd, fel y tybir, oedd o 40 i 50. Ymhen saith mlynedd, sef yn 1833, bu raid rhoddi gallery ar y ddau dalcen, ar y draul o 57p. 13s. 11c. Adeiladwyd tŷ yn llety i'r pregethwyr, ac ystabl i'r ceffylau, yn 1837, am 150p. William a Catherine Owen ddaethant i fyw iddo gyntaf, yn 1838. Coffa da am danynt. Y cytundeb cyntaf i lawr yn llyfr yr eglwys a wnaed â hwy oedd,—" William Owen i gael at y tân, 2p.; at drin y ceffylau, 10s.; at lanhau y capel, 10s." Ymhen un mlynedd ar hugain ar ol adeiladu y tro cyntaf, bu raid helaethu ac ailadeiladu y capel, ac yr oedd hyn yn waith anhawdd, canys yr oedd deddf wedi ei phasio yn Nghymdeithasfa y Gogledd ar y pryd, yn gwahardd i bob gweinidog a phregethwr i bregethu yn yr un capel a adeiledid neu a helaethid o'r newydd, os na byddai yr oll o'r ddyled wedi ei thalu. Pa beth oedd i'w wneyd? Ymwregysu ac ymwroli. Gorphenaf 5ed, 1847, daeth y Parch. John Parry, wedi hyny Dr. Parry, o'r Bala, yma i areithio a chymell i haelioni, ac i gasglu addewidion at y capel newydd. Ymhen y flwyddyn, yr oedd cyfanswm y derbyniadau, rhwng y casgliad, arian yr eisteddleoedd, a'r hyn a dderbyniwyd am ddefnyddiau yr hen gapel, yn 386p. 2s. 6c. Yr holl draul yn 385p. 3s. 11c. Felly talwyd yr holl ddyled cyn ei agor, er mai cael a chael ydoedd. Onid hwn oedd y capel cyntaf i'w agor yn ddiddyled o dan y ddeddf hon? Dydd yr agoriad oedd Medi 10fed, 1848. Pregethwyd gan y Parchn. R. Humphreys; David Lewis, Rhuthyn; John Hughes, Pontrobert; a Robert Roberts. Rhif yr eglwys yr adeg yma, 151. Cofrestrwyd y capel i briodi ynddo yn 1853. Hwn yw yr hen gapel sydd ar ei draed yn bresenol. Y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn, oedd y cynllunydd.

Yn 1856, prynwyd y gladdfa, a'r tir yr oedd yr adeiladau yn sefyll arno am y swm o 150p. Y cyfanswm rhwng talu am y Weithred a chau o amgylch y tir yn 210p. Talwyd y swm hwn trwy gasglu yn fisol, arian yr eisteddleoedd, a'r tâl a godid am le beddau.

Yn nechreu 1864, agorwyd y Tabernacl. Rhifai yr eglwys yn Bethesda cyn yr ymraniad hwn 332; ymadawodd i'r Tabernacl, 170; felly yr oedd yn aros yma 162. Casglwyd yn Bethesda, a chan gyfeillion uwchlaw 500p. erbyn dydd agoriad y Tabernacl, a chyflwynasant y swm i'r frawdoliaeth ar eu hymadawiad, ynghyd ag o 1300p. i 1500p., sef yr holl swm oedd yn y Gymdeithas Arianol ar y pryd, fel nad oedd yn rhaid iddynt dalu dim llog ar y ddyled oedd yn aros ar y capel. Adeiladwyd tŷ Bronygraig i'r gweinidog yn 1864,- y ddwy eglwys i dalu haner y draul bob un. Talodd Bethesda rhwng ei rhan o draul yr adeilad a'r ychwanegiad a wnaed ato, 245p. 10s. 6c.

Yr anturiaeth fawr nesaf oedd adeiladu y capel hardd presenol, yr hwn a agorwyd y Pasg 1870. Cynllunydd hwn oedd Mr. Richard Owen, Liverpool; adeiladydd Mr. J. Rhydwen Jones, Rhyl. Heblaw y gweinidog, y Parch. Owen Jones, B.A., a'r blaenoriaid, ffurfiwyd pwyllgor adeiladu i ddwyn y gwaith o amgylch, a gosodwyd Mr. Owen Jones, Fronwen, yn ysgrifenydd, a Mr. Thomas Edwards yn drysorydd. Gwnaeth y pwyllgor ynghyd a'r eglwys oll waith ardderchog. Yr oedd yr holl draul yn 2447p. Os. 11c., ac ar ddiwedd y flwyddyn 1875, cyhoeddwyd fod yr oll o'r ddyled wedi ei thalu. Adeiladwyd ysgoldy Congl-y-Wal, ac agorwyd ef Mai 29, 1880. Y draul, 487p. 8s. 10c. Yn ddiweddarach, adeiladwyd tŷ ar dir yr hen gapel, a phrynwyd darn o dir at y capel newydd. Gwelir yr holl dreuliadau yn y daflen isod:—


Taflen o'r Adeiladau o 1826 hyd 1890.
Blwyddyn £ s. c
Y capel cyntaf 1826 ... ... 274 10 4
Oriel (gallery) 1833 ... ... 57 13 11
Tŷ y capel 1838 ... ... 250 0 0
Ailadeiladu y capell 1848 ... ... 386 2 6
Y Gladdfa, &c, 1856 ... ... 210 0 0
At y Tabernacl 1863 ... ... 500 0 0
Tŷ i'r Gweinidog " ... ... 206 4 3
Darn ynddo 1868 ... ... 59 5 4
Y Capel Newydd, 1869 ... ... 2447 0 11
Ysgoldy Conglywal 1880 ... ... 487 8 10
Tŷ Newydd (contract) 1882 ... ... 281 10 0
Repairio y capel a'r tai " ... ... 142 9 9
Darn o dir ychwanegol " ... ... 31 17 6
... ... ... ... ... ... ...
Cyfanswm ... ... ... 5334 4 4
Dywed ein hysbysydd, "Y mae canoedd ar ganoedd wedi eu talu yn ychwaneg na'r swm uchod."

Y GYMDEITHAS ARIANOL.

Bethesda oedd y cyntaf o gapelau y Methodistiaid yn Ffestiniog i gychwyn Cymdeithas Arianol. Sefydlwyd hi noswaith Chwefror 20, 1854. Rhif yr aelodau y noson gyntaf oedd 36. Yr arian a dderbyniwyd 22p. 5s. Yr ysgrifenydd cyntaf oedd Mr. Robert Owen, British School. Ar ei ol ef, bu Mri. Thomas Williams, Croesor; Richard Owen, Neuadd-ddu; G. G. Davies, Rhiw; ac Evan Davies, Glanaber, yn ysgrifenyddion. Y trysorydd cyntaf oedd Mr. Morris Roberts, Brynhyfryd, Congl- y-wal. Bu yn ei swydd am bymtheng mlynedd-hyd ei farwolaeth, Mawrth 11, 1869, ac ni bu trysorydd erioed yn fwy ffyddlon, na'r un dyn y bu gan yr ardal fwy o ymddiried ynddo. Gwnaeth wasanaeth mawr i'r Gymdeithas, a bu ei briod yn llawer o help iddo gyda'r gorchwyl hwn. Ei olynydd teilwng fel trysorydd am yr ugain mlynedd diweddaf ydyw Mr. Thomas Edwards, Bryneifion.

Bu y Gymdeithas yn fendith fawr i lawer o bobl ieuainc a phenau teuluoedd, i "gadw eu hafraid at eu rhaid." Y mae hefyd wedi bod yn help mawr i gynal yr achos yn Bethesda. Ni thalwyd dim llogau ond 4p, 7s. 6c., er y flwyddyn 1854. Ond derbyniwyd yn llogau o'r banc oddiwrth arian y Gymdeithas, 433p. 7s. Arbedwyd talu llogau gan arian y Gymdeithas (yn ol pedair punt y cant) 595p. 10s. Wrth roddi y ddau swm gyda'u gilydd—y llogau a dderbyniwyd o'r banc a'r hyn a arbedwyd rhag talu llogau—fe enillwyd i'r achos trwy y Gymdeithas y swm o 1028p. 17s. Y mae swm yr arian yn y Gymdeithas, fel rheol, yn amrywio o 300p. i 1500p.

YR ACHOS DIRWESTOL.

Cynhaliwyd y cyfarfod dirwestol cyntaf yn Mlaenau Ffestiniog, yn nghapel Bethesda, Hydref 25ain, 1836. Llywyddwyd gan y Parch. Thomas Williams; a'r prif siaradwr oedd Mr. W. Ellis Edwards, Penrhos (y Parch. W. Edwards, Aberdâr, wedi hyny). Ardystiodd 104 ar ddiwedd y cyfarfod. "Rhagfyr 2lain, y flwyddyn hono, cafwyd gwyl ddirwestol yn y lle, pryd y rhoddwyd diwrnod cyfan i'r gwaith, gan ddechreu gyda chyfarfod gweddi am chwech o'r gloch yn y boreu...... ......... Yr oedd y nifer Ionawr 12fed, 1837, yn y Blaenau yn 803; Llan Ffestiniog, 278; Coed Bach, 40—cyfanrif, 1,121. Bu dirwest yn flodeuog iawn yn y lle am lawer o flynyddoedd, ac ni bu unrhyw adeg o'r dechreuad, er pob dirywiad, nad oedd yma lawer o ddirwestwyr cywir; ac ar adegau o fywhad neillduol, cyfrifwyd hwy wrth y canoedd."[16] Y mae llwyrymwrthodiad wedi bod bob amser yn yr eglwys hon a'r eglwysi cylchynol yn amod aelodaeth eglwysig. Yn niwedd Hydref, 1886, cynhaliwyd yn y Blaenau Jiwbili Ddirwestol, pryd y rhoddwyd hanes y dechreuad gan ddau o frodorion yr ardal, Mri. Edward Evans, Fourcrosses, a John Hughes, Draper. Y tri enw cyntaf ar lyfr dirwest yn Ffestiniog oeddynt, Griffith Ellis, Pantyryn; Gwen Jones, Neuadd-ddu; a Dafydd Williams, Coedybleiddia. Ardystiodd rhai am dri mis "i dreio;" eraill am chwe' mis, eraill am flwyddyn. Ond yr oedd Samuel Jones, Tanygraig, ac un neu ddau eraill, yn ddigon gwrol i' ardystio am byth. Diwrnod yr wyl y cyfeiriwyd ati, sef Rhagfyr, 1836, dywedir i bob copa walltog fyned o'r Blaenau i'r Llan, lle cynhelid cyfarfod cyhoeddus yn yr awyr agored, ganol gauaf. Yr oedd yr achos yn llwyddo trwy ganu,—canu, canu, a chanu oedd pob peth ar y pryd. Rhoddwyd y penill canlynol allan i'w ganu wrth Blaenddol, pan oedd yr orymdaith ar gyraedd i'r pentref:—

"Elias y Thesbiad a deithiodd fel gwr,
Ar deisen o fara a dysglaid o ddwr;
Fe'i porthwyd gan gigfran-mae'n hynod o syn,
Ac yfodd o'r afon, mae'n siwr y pryd hyn."

Crybwyllwyd yn nghyfarfod y jiwbili am Dr. Charles, o'r Bala, yn dyfod trwy y wlad i areithio ar ddrygedd "alcohol," a'r modd y byddai yn ei losgi i ddangos y gwenwyn oedd ynddo, ac am y gwrthwynebiad cryf a ddangosid iddo gan rai, yn enwedig gan rai hen feddwon. Yn Nhrawsfynydd, yr oedd hen lanhawr clociau yn byw, o'r enw "John Hislyn," yr hwn a elai o amgylch gyda'i orchwyl. Yr oedd y cymeriad hynod hwn yn bur hoff o'i "lasiad," ac ystyrid ef yn wastad fel bwgan y plant; pan wnelai y plant rhyw ddrwg, ni byddai dim mor gyffredin a bygwth "John Hislyn" arnynt. Gwnaethai Dr. Charles ei gynhyrfu nid ychydig wrth ddweyd yn erbyn y glasiad, ac meddai yr hen "John Hislyn" am y Doctor, "Yr hen ysgogyn balch yna o'r Coleg yn dweyd fod hyn a hyn o wenwyn mewn glasiad; ond peidied o a meddw!, y mae acw, yn Nhrawsfynydd, rai all wneyd sums cystal ag yntau. Dyna i chwi yr hen Sion Pritchard, Trawsfynydd, acw-y mae ef wedi yfed galwyni lawer o gwrw, ac yn ol system yr ysgogyn balch yna o'r Bala, y mae ysgolheigion Trawsfynydd yn cael allan fod Sion Pritchard wedi llyncu dros 15 pwys o wenwyn. Dyna i chwi gelwydd goleu, fod yr un dyn wedi byw ar ol llyncu 15 pwys o wenwyn." Engraifft eithafol yr amseroedd hyny o ymresymu ydoedd hyn. Gwnaeth dirwest les dirfawr yn yr eglwysi, trwy drawsnewid y rhai a arferent slotian gyda'r ddiod. Trwy lwyrymwrthod daeth llawer yn ddynion o ymddiried yn yr eglwys a'r byd. Bu yr eglwys yn arosol yn Neuadd-ddu am y saith mlynedd cyntaf. Byddai nifer y pregethwyr a bregethent yno yn fisol yn amrywio o 7 i 17. Yn 1820 bu yno 154 o bregethwyr. Y swm a dalwyd i'r nifer hwn oedd 10p. 6s. Yr oedd Owen Robert, gŵr y tŷ, a'r blaenor cyntaf erioed yn y plwyf, wedi marw flwyddyn cyn symudiad yr eglwys yno o'r Llan. Ei fab, Robert Owen, yn llanc 19 oed, heb na thad na mam, na brawd na chwaer, a breswyliai yn Neuadd-ddu, flwyddyn ei sefydliad, sef 1819. Ymhen rhyw gymaint o amser, digwyddodd tro hynod mewn cysylltiadau teuluaidd. Nid oedd tenant a phreswylydd y tŷ yn briod, ond cadwai house-keeper, fel y gwna eraill yn yr un amgylchiadau. Ofnai yr hen frodyr crefyddol i rywbeth allan o le ddigwydd, gan mai y tŷ hwn oedd cartref yr achos yn ei holl ranau. Ac yn eu gorfanylwch a'u gorofal, wedi rhoddi eu penau ynghyd, trefnasant i William Owen (llanc arall dibriod) fyned yno i letya, gan gwbl gredu y cadwai ef lywodraeth ar y tŷ. Paham yr anfonasant ef yno nid yw yn hysbys, ond fe ddichon mai am y rheswm eu bod yn gweled ynddo fwy o arwyddion sadrwydd. Modd bynag, cyn pen ychydig, fe briododd William Owen ei hun Catherine Owen, yr house-keeper. Mor debyg i droion meibion a merched dynion!

Y Cyfarfod Misol cyntaf, yn ol llyfrau yr eglwys, a gynhaliwyd yma ydoedd ymhen pum' mlynedd wedi iddynt ymsefydlu yn y capel, sef ar Hydref 27, 1831. Yr oedd un ar ddeg o bregethwyr ynddo. Talwyd i'r un ar ddeg 14s. 6c. Yn y Cyfarfod Misol cyntaf ar ei ol yma yr oedd pedwar ar ddeg o bregethwyr y sir yn bresenol, ac yn cael eu talu oll gyda'r swm o 15s. 6c. Cyfarfod pregethu y Pasg cyntaf a gynhaliwyd ydoedd yn 1837. Y rhai a wasanaethent ynddo oeddynt y Parchn. Hugh Edwards, Robert Owen, Evan Roberts, Thomas Williams, Bethesda. Y mae wedi ei gynal yn gyson ar Sabbath a Llun y Pasg o hyny hyd yn awr. Yn 1861, darfu i'r frawdoliaeth yn Ffestiniog ymuno â'r eglwys hon i'w gadw, a'r Tabernacl yn 1864. Dywed Mr. Robert Jones, Cae Du- yr hwn a gasglodd lawer o'r hanes hwn-fod holl draul y weinidogaeth yn Bethesda o'r dechreuad, sef o 1819 i ddiwedd 1889, yn 6233p. 5s. 1½c.

Y mae disgyblaeth eglwysig wedi bod yn yr eglwys hon o'r dechreuad, nid yn unig ar ei thraed, ond yn sefyll yn uchel. Byddai yr hen bobl yn orfanwl ac yn ymylu ar greulondeb gyda disgyblaeth. Rhoddir engraifft neu ddwy fel esiampl o'u dull o ddisgyblu. Gofelid am i'r troseddwr fod yn bresenol pan y trinid ei achos, ac os diarddelid ef, elai allan o'r cynulliad yn uniongyrchol. Y mae genym gôf plentyn am un amgylchiad felly; nis gallwn gofio dim ond am y diarddeledig yn galw am ei het i fyned allan, ac am ocheneidiau, yn enwedig y chwiorydd, tra yr ydoedd hyn yn cymeryd lle. Y mae argraff ar ein meddwl fod yno le anarferol o ddifrifol, a bod tori allan o'r eglwys y peth pwysicaf ar y ddaear. Dafydd Walter oedd yr un a ddisgyblid, gŵr a lediaeth y Deheuwyr arno Yr oedd un o'r blaenoriaid yn llym iawn wrtho, a gwingai yntau yn erbyn y symbylau. O'r diwedd dywedai, "Paid ti a meddwl R-W-dy fod di fel papyr gwyn; mi wn i yn abal da be wyt ti; nid wyt ti na llawer o honoch fawr gwell na fina gyda'r grefydd yma, beth bynag. Ddof fi byth dan eich cronglwyd chwi eto, yr hen llyffantod; lle ma' ffet i?" Ac allan yr aeth. Ond daeth yn ol wedi hyny, a bu farw ac arwyddion amlwg o Gristion arno.

Daethai gŵr o Lanllyfni i fyw i Ffestiniog, ac ymhen amser ymwelodd cyfeillion o'i hen ardal âg ef. Aeth ef a hwythau ar brydnhawn Sul i ben rhai o'r bryniau cyfagos tra yr oedd moddion yn y capel. Ac yn herwydd ei drosedd, daeth ei achos o flaen yr eglwys yn Bethesda. Trodd yr achos yn ei erbyn yn y ddisgyblaeth, a gorchymynwyd iddo fyned allan. Wedi myned at y drws, trodd yn ei ol, a chan sefyll ar ganol y capel, ac ymaflyd â'i ddwy law yn ei het, dywedai mewn llais toddedig, "Frodyr a chwiorydd anwyl, gweddiwch drosta i." Tynodd y deisyfiad ddagrau o ugeiniau o lygaid, ond ni feiddiai neb ddweyd, "tyred yn ol," rhag anmharu min y ddisgyblaeth. Arweiniodd y cyfaill fywyd pell oddiwrth grefydd am ugain mlynedd, ond daeth yn ol, a pharhaodd hyd henaint yn dirf ac iraidd. Dichon fod ymddygiad y brawd yn galw am gerydd, ond a oedd angen am dori allan yn yr amgylchiad hwn?

Dro arall, barnai y brodyr fod yn rhaid disgyblu Sion Evan, gŵr oedd wedi colli ei olwg yn y chwarel. Yr oedd Dafydd Rolant, y Bala, yn bresenol yn y cyfarfod eglwysig ar nos Sadwrn. Enillai y gŵr hwn ei fywoliaeth trwy gario nwyddau gyda cheffyl a throl, a'r trosedd oedd ei fod wedi cario jiariad o win o Borthmadog i un o'r Hotels yn y Llan. "Beth ydi'r mater arno fo?" gofynai Dafydd Rolant i'r blaenoriaid. "Wel," ebai y blaenor, "y mae yn sobr o beth pan y mae aelodau eglwysig wedi myned i wasanaethu y diafol fel—" "Wel," ebai Dafydd Rolant, "y dyn dall hwnw ydyw Sion Evan, onite? Ac y mae yn ceisio enill ei damaid trwy gario efo ceffyl a throl?" "Ydyw siwr." "Wel, fyddai waeth ganddo gario jiariad o ddŵr na jiariad o win—cael tâl yw y pwnc." "Ond," ebai Samuel Jones, gan ofni erbyn hyn fod yr hen weinidog am gymeryd plaid y troseddwr, "beth a atebwn ni i'r byd annuwiol, Dafydd Rolant?" "Samuel," atebai Dafydd Rolant yn ol, "os daw y byd annuwiol i ofyn rhywbeth ynghylch Sion Evan, deudwch wrth y byd annuwiol, Mind your own business.'"

Yr oedd hen grefyddwyr Bethesda yn bererinion Sion mewn gwirionedd. Faint bynag o golliadau a berthynent iddynt, yn eu sel, eu ffyddlondeb, a'u hymgais i rodio yn ol rheol y gair, rhoddent argraff ar, feddwl byd ac eglwys mai crefydd oedd eu peth penaf. Yn yr hen gapel cyntaf yr oedd pulpud bach wedi ei gyfodi i uchder haner y ffordd oddiwrth y llawr at y pulpud mawr. Yn hwnw yr eisteddai y blaenoriaid, ac yr oedd mor fach nad oedd le i ond tri neu bedwar ynddo. Gosodid y blaenoriaid gymaint a hyny yn nes at y pregethwr, ac yn bellach oddiwrth y bobl. Felly y disgwylid iddynt fod, ac felly yr oeddynt, yn eu crefydd a'u dylanwad. Hwy o'r pulpud bach fyddai yn trin holl achosion ysbrydol yr eglwys, yn gystal a'i hamgylchiadau allanol. O bob tu i'r pulpud yr oedd tair o eisteddleoedd, yn y rhai yr eisteddai yr hynafgwyr a'r hynafwragedd. Y rhai a lanwent y rhai hyn, yn wyr ac yn wragedd, oeddynt bigion yr eglwys mewn duwioldeb; a phwy allasai ameu gwirioneddolrwydd eu crefydd? Nid rhyfedd i'r hen bregethwyr gael odfeuon a myn'd ynddynt, gyda'r fath nifer o saint, fel Aaron a Hur, yn cynal eu breichiau, ac yn rhoddi eu hamen cynes gyda eu gweinidogaeth.

Nis gellir yma ond yn brin roddi enwau rhai o hynafgwyr a gwragedd penaf yr eglwys. Griffith Ellis, Pantyryn; Robert Richards, Tŷ'nycefn; Evan Jones, Tanyclogwyn, oeddynt grefyddol iawn, ac yn "halen y ddaear." Richard Griffith, Plasyndre, oedd yn nofiwr rhagorol pan gyfodai y dwfr i dipyn o uchder. Mewn cyfarfod gweddi un nos Sabbath, wrth ganu y penill, "Ni bydd yno gofio beiau," &c., cafodd afael yn y ddwy linell olaf, fel y buwyd am faith amser yn dyblu a threblu y gân. Abram Jones a roddai fywyd yn y moddion gyda'i Amen cynes; a phan elwid yr enwau i dalu y tro mis, gyda'i lais bloesg a waeddai dros y capel, "Croesa." Ni wyddai y plant y pryd hwnw ddim mai rhoddi croes ei fod yn dyfod i dalu ei gasgliad a feddyliai. Hynodid Samuel Jones, Tanygraig, fel un fyddai beunydd yn cyfodi ei lais yn groch yn erbyn drwg arferion, ac fel gweddiwr gafaelgar. Llanwodd ei gylch ei hun yn gystal a neb o'i frodyr. Canmolai lawer ar draethawd John Elias ar Gyfiawnhad, ac yr oedd ganddo ddwfn barch i lyfr arall, yr hwn a elwid ganddo ef ei hun, "Yr hen Gyffes anwyl." William Owen, Tŷ Capel, oedd wr llawn o sel a llawn o waith. Ni bu ei gymhwysach i gadw tŷ capel erioed. Hynodid ef am ei barodrwydd i wneuthur pob gwaith gydag achos crefydd. Pan y gwrthodai rhyw frawd wneyd unrhyw orchwyl, byddai ef ar ei draed yn ebrwydd yn gofyn a gai ef ei wneuthur. Buasai W. Owen yn un o'r blaenoriaid goreu yn yr oes hon. Lewis Jones, Bryneithin, oedd un o'r meddylwyr cryfaf a fu yn perthyn i'r eglwys. Yr Ysgol Sul, athrawiaeth a phwnc, oedd ei faes neillduol ef. Bu yn athraw ar gyfarfod darllen, yr hwn a gynhelid, fynychaf, wyth o'r gloch boreu Sabbath, am ragor nag 20 mlynedd. Cofir gan y bobl hynaf yn arbenig am ddau ŵr ieuanc a roddasant amlygrwydd o dduwioldeb nodedig, ac addfedrwydd i'r nefoedd, lawer tuhwnt i'r cyffredin, sef William Thomas, Fucheswen, a Robert Jones, Peniel. Ymhlith chwiorydd yr eglwys, Catherine Owen, Tŷ'r Capel, oedd un o'r rhai amlycaf fel canlynwyr yr Iesu. Ei harafwch, ei thymer grefyddol wastad, a'i gofal am weinidogion y gair, oeddynt yn hysbys i bawb yn ei dydd. Gwraig ddeallus, bwyllus, uchel ei chyrhaeddiadau mewn gwybodaeth a chrefydd, oedd Laura Jones, priod y diacon gweithgar Pierce Jones; mor awyddus a medrus fyddai i hyrwyddo pob rhan o achos yr Arglwydd yn ei flaen. Duwioldeb Mari Rhys oedd yn amlwg. Ryw adeg, yr oedd perchenogion un o'r chwarelau wedi rhoddi swm anferth o bowdwr o dan fanc y Brynpoeth, a rhoddwyd gorchymyn i'r holl drigolion yn y cyffiniau i fyned yn ddigon pell y diwrnod yr oeddis yn myned i'w chwythu i fyny. Mewn ufudd-dod, ciliodd pawb o'u tai i ben y bryniau a'r mynyddoedd; ond y lle yr aeth Mari Rhys iddo i lechu oedd i gapel Bethesda, gan gredu y byddai yno yn ddiogel rhag pob peryglon. Y fath ffyddlondeb a ddangosid gan Anne Owen ac Ellin Jones, Pengwern, hyd yn nod yn eu henaint, . yn dyfod yr holl ffordd i fyny i'r capel i bob moddion o ras, a byddent yno fel y cloc at y fynyd. Mrs. Vaughan, Tanymanod, a ddeuai i'r capel yn gyson ar ei cheffyl—nis gallai gerdded a byddai yn un o'r rhai cyntaf i dori allan mewn gorfoledd ar adegau neillduol. Dichon yr esgusodir yr ysgrifenydd yn crybwyll am ei fam ei hun, yr hon oedd yn un o'r rhai mwyaf diddrwg a diabsen o honynt oll. Ni chlywodd ei lliaws plant mohoni erioed yn dweyd gair bach am na chymydog, na chrefyddwr, na blaenor, na phregethwr. Nid crefydd mewn gair yn unig oedd ei chrefydd hi, ond mewn gweithred ac esiampl. Hen bererinion hoff!

"Gan nad oedd pregethu yn yr ardal (Tanygrisiau), byddai y rhai mewn oed yn cyrchu i gapel Bethesda yn lled aml i gael pregeth (o 1830 i 1840). Ac fel y tyfasom ninau y plant i fyny, dechreuasom ddilyn ein rhieni ambell waith ar y Sabbothau teg yn yr hâf, a da yr ydym yn cofio preswylwyr y Cwm, yn rhieni ac yn blant, yn myned yn fintai dros y Bwlch Llydan, ar draws Cwm Bowydd, tua chapel Bethesda. Cyrchasom lawer i'r hen gapel hwn gyda sel a brwdfrydedd mawr, a byddem yn ei hystyried yn fraint fawr cael dweyd adnod yn y seiat cyn dechreu y bregeth boreu Sabbath. Ac y mae darlun o'r "Pulpud Bach," lle y byddai yr hen flaenoriaid, Robert Owen, Neuadd-ddu; Robert William, Penybryn; ac Owen Thomas, Fucheswen, yn eglur o flaen fy meddwl hyd heddyw. Yr oedd y tri fel angylion Duw yn ein golwg ni y plant, ac yr oedd iddynt le parchus yn meddyliau rhai mewn oed hefyd. Ond yr oeddym ni, y plant, yn gallu canfod gwahaniaeth rhyngddynt. Yr oedd Robert William yn benderfynol iawn, ac yn lled lym ar bob mater, a Robert Owen, i raddau, yr un fath, tra yr oedd Owen Thomas, fel "Daniel, ŵr anwyl," yn feddianol ar lawer o dynerwch a sirioldeb. Yr oedd o ddoniau naturiol hwylus, dros ben, a chanddo lais dwys, peraidd, toddedig, fel yr oedd pob peth a ddywedai yn effeithiol. Medrai fod yn ddifrifol a siriol ar unwaith. Cofiwyf yn dda am nifer o hen frodyr eraill oedd yn hen gapel Bethesda. William Walter oedd yn dechreu canu, a byddai yn sefyll ar risiau y pulpud bob amser; a'r hen frawd Samuel Jones, Tanygraig, yn agos iddo, a'i lygaid yn llawn dagrau, ac yn gwaeddi 'O diolch' wrth wrando y weinidogaeth ac wrth ganu."[17]

Y Parch. Thomas Williams oedd frodor o Sir Fon. Ymsefydlodd yn yr ardal hon trwy briodi merch i Griffith Ellis, Pantyryn. Dewiswyd ef yn flaenor yn Bethesda, ac yn fuan dechreuodd bregethu. Y tro cyntaf y mae ei enw i lawr yn pregethu yma ydyw Mawrth 3ydd, 1837. Yr oedd yn bregethwr gwlithog a chymeradwy iawn, ac yn meddu ar ddawn poblogaidd. Gan fod ei deulu yn dyfod yn lliosog, ymfudodd i America yn 1845, a rhoddwyd iddo gan yr eglwys wrth gychwyn 5p. 12s. 6c., ynghyd a llythyr cymeradwyaeth at y brodyr yr ochr draw i'r môr. Ymsefydlodd yn Swydd Oneida, talaeth New York. Ordeiniwyd ef ymhen y flwyddyn wedi iddo gyraedd i'r America, a bu yn pregethu yn yr Unol Dalaethau gyda chymeradwyaeth mawr, hyd y flwyddyn 1872, pan yr hunodd yn llawn o dangnefedd yr efengyl, gan dystiolaethu wrth ei gyfeillion nad oedd arno ddim mwy o ofn marw na phe buasai yn symud o'r naill ystafell i'r llall. Ymfudodd un arall o feibion goreu eglwys Bethesda i America, yn y flwyddyn 1850, Mr. Owen Owens, yr hwn oedd fab i Robert Owen, Tai Newyddion, Diphwys. Magwyd ef yn "ngeiriau y ffydd," ond ciliodd o'r eglwys yn nhymor ieuenctid. Er hyny, yr oedd yn wr ieuanc dichlynaidd, meddylgar, a llafurus am wybodaeth. Yn Chwefror, 1846, ar noswaith waith, bu John Hughes, Llangollen, yn pregethu yn yr ardal yn hynod o effeithiol. Yr wythnosau canlynol ychwanegwyd llawer at yr eglwys, ac yn eu plith Owen Owens, R. Jones (Caedu yn awr), a G. Pritchard (Gorphwysfa yn awr). Wedi ymfudo i'r America, ymsefydlodd yn Fair Haven, Vt. Llwyddodd yn fawr mewn pethau bydol, ac mewn crefydd. Efe oedd y dyn mwyaf ei ddylanwad yn ei ardal. Bu yn flaenor eglwysig am tua 35 mlynedd. Bu farw mewn tangnefedd llawn, Ionawr 2il, 1886, yn 71 mlwydd oed.

Y Parch. Owen Roberts a ddaeth yma o Bettws-y-coed yn 1854, ac wedi bod yn llafurus a chymeradwy am dros bedair blynedd, ymadawodd i fod yn weinidog yn Rhiwspardyn, yn 1858. Dechreuodd Mr. Robert J. Williams, Caegwyn, bregethu yn 1874. Yn haf 1859, daeth y Parch. Francis Jones yma yn weinidog, ar orpheniad ei dymor yn Athrofa y Bala. Ordeiniwyd ef yn 1860, ac yn niwedd y flwyddyn hono, ymadawodd i'w gartref yn Sir Drefaldwyn, oherwydd -cysylltiadau teuluaidd. Cafodd lygad a heulwen y Diwygiad tra bu yma, ac yr oedd ei wasanaeth yn gymeradwy. Daeth y Parch. Owen Jones, B.A., yma yn Ionawr, 1864; ymadawodd i Liverpool Mehefin 1872. Bu yntau yn ddefnyddiol a chymeradwy yn eglwysi y Tabernacl a Bethesda am wyth mlynedd a haner. Y mae y Parch. T. J. Wheldon, B.A., yn weinidog y ddwy eglwys er Ionawr 1874, ac yn gweithio a'i holl egni ymhob cylch.

Y BLAENORIAID.

ROBERT WILLIAM, PENYBRYN.

Dywedir ei fod ef yn swyddog yn Ffestiniog, a'i fod yn dyfod gyda'r eglwys ar ei hymsefydliad yn Neuadd-ddu, yn 1819. Dyn hallt yn erbyn pechod oedd ef, a disgyblwr llym. Pan y deuai achos troseddwr gerbron yr eglwys, arferai ddweyd, "ddiodda i byth mohono, frodyr bach." Un o'r sect fanylaf o'r hen flaenoriaid oedd. Dywedai Mr. Humphreys, o'r Dyffryn, wrtho ryw adeg, "Robert, yr wyt tithau wedi bod yn llawer mwy gofalus i fod yn onest yn dy oes, nac i fod yn ddoeth." Er hyny, yr oedd yn gymeriad a phwysau ynddo, ac yn flaenor o gryn werth. Ymfudodd ef a'i deulu i America yn 1845, ac yr oedd y golled ar ei ol yn cael ei theimlo yn fawr, gan fod ei deulu yn lliosog, a'i fab hynaf yn arweinydd y canu. Dewiswyd ef yn ddiacon yn America.

OWEN THOMAS, FUCHESWEN.

Yr oedd ef yn flaenor yn Penmachno yn 1825. Daeth i fyw i Ffestiniog yn 1830, a dewiswyd ef yn flaenor yn Bethesda ar unwaith. Dywedir i'r eglwys hon ei gymeryd yn fater gweddi am i'r Arglwydd anfon blaenor iddi, ac i O. T. symud o Benmachno yr adeg y cymerodd hyn le. Gwr o dymer naturiol dyner ac addfwyn oedd ef; darllenwr mawr, meddyliwr lled alluog, a meddai ddawn i draethu ei feddwl yn oleu. "Cynysgaeddwyd ef â doniau naturiol helaeth, a byddai rhyw eneiniaid ar ei bethau, yn enwedig ei weddiau, bob amser. Byddai ganddo gynghorion priodol ar bob achos, a rhoddai y rhai hyny gyda'r fath addfwynder ag oedd yn sicrhau lle iddynt yn mynwes yr un y cyfeirid ato. Dywedai wrth bregethwr ieuanc unwaith am beidio rhoddi llawer o benau ar ei bregeth, am y rheswm nad oedd ond ychydig o gig ar ben." Yr oedd yn ffraeth a chyrhaeddgar ei ddywediadau. Ond trwy ei dynerwch, ei dduwioldeb, a'i ysbryd addfwyn, yr enillodd y lle a'r parch a roddid iddo. Yr oedd yn un o'r rhai goreu yn yr holl wlad am gadw y cyfarfod eglwysig. Bu farw Rhagfyr 2, 1855, yn 57 oed, wedi bod yn gwasanaethu swydd blaenor gyda graddau neillduol o ffyddlondeb am ddeng mlynedd ar hugain. Yr oedd ef yn dad i'r blaenor adnabyddus Mr. Thomas Williams, Croesor.

ROBERT OWEN, NEUADD-DDU.

Ganwyd ef yn 1800 yn Bwlchiocyn, a symudodd y teulu i Neuadd-ddu pan oedd ef yn naw oed. Ei dad, fel y crybwyllwyd, oedd y blaenor cyntaf yn mhlwyf Ffestiniog, a phan yn 19 oed, rhoddodd yntau ei dy i sefydlu eglwys Bethesda ynddo, a bu yno am saith mlynedd. Neillduwyd ef yn flaenor oddeutu 1835. Dygodd deulu lliosog i fyny gyda chrefydd. Cyfarfyddodd â llawer o dreialon y byd, ac aeth trwyddynt gyda gwroldeb, a gorphenodd ei yrfa ddaearol, Mawrth 4, 1871. Fel hyn y dywed rhai o'i gyfeillion am dano,-"Pe buasai ychydig o'r un feddwl ag ef ymhob eglwys, buasai llawer o bethau yn mhellach ymlaen. Byddai yn arfer a dweyd ei fod haner cant o flynyddoedd o'n blaenau ni oll. Yr ydoedd felly mewn gwirionedd." "Darllenai lawer ar y cyfnodolion, yn grefyddol a gwladol; dilynai ysbryd yr oes yn ei holl ddiwygiadau, a meddai farn addfed ar bynciau y dydd." "Parod ei air a'i gyngor bob amser; selog iawn gyda phob moddion. Mewn ffydd ac ewyllys i waith, yr ydoedd o flaen pawb yn y wlad " "Meddai ar graffder mawr i ddeall cyfeiriad ac arwyddion yr amserau; ei fywiogrwydd, a'i weithgarwch, a'i haelioni oeddynt yn nodedig."

Y tri blaenor hyn oeddynt golofnau cyntaf yr eglwys, ac y mae un a'u hadwaenai wedi crynhoi eu nodweddion i dri gair, Llymder, Tynerwch, a Gwaith.

EDWARD JONES, YSGOLNEWYDD,

a fu yn y swydd yma am ychydig cyn ei fynediad i America, oddeutu 1840. John Pierce-A fu yn flaenor yn Bethesda ; symudodd gyda'r eglwys i Tanygrisiau yn 1838. Thomas Williams hefyd a fu yn ddiacon am ychydig cyn iddo ddechreu pregethu.

JOHN ABRAM JONES.

Derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol fel blaenor yr eglwys hon yn Nghyfarfod. Misol Siloam, Mai 1847, pryd yr oedd Lewis Morris yn gymedrolwr. Dyn darllengar a myfyrgar, athrawaidd, ac yn gofalu llawer am yr athrawiaeth. Ymadawodd oddiyma i Drefriw, a bu yn ddiacon yno. Symudodd drachefn i Lanrwst, lle y diweddodd ei ddyddiau. Gwasanaethodd swydd blaenor yno hefyd.

OWEN OWENS, BETHESDA.

Mab ydoedd ef i William Owen, selog a charuaidd, yr hwn y crybwyllwyd eisoes am dano. Neillduwyd Owen Owens a Robert Griffith, yn awr o Ffestiniog, yr un noswaith, yn niwedd y flwyddyn 1851. Gŵr ieuanc o feddwl cryf a ffrwythlon oedd ef, a'i gynydd mewn gwybodaeth a phrofiad o bethau crefydd yn eglur i bawb. Arferai gymeryd adnod, wrth fyned at ei waith yn y boreu, i fod yn destyn myfyrdod ar hyd y dydd. O'r holl flaenoriaid a fu yn perthyn i'r eglwys hon o'r dechreu, O. Owens oedd yr ymadroddwr penaf. Wedi derbyn bendith trwy gystudd maith, bu farw Mehefin 18fed, 1858, yn 34 mlwydd oed.

PIERCE JONES, PENYGROES.

Derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol, Gorphenaf, 1857, a Mr. Thomas Williams, Croesor yn awr, yr un adeg. Gŵr oedd ef a fedyddiwyd yn y rhan olaf o'i oes yn nodedig gan ysbryd crefydd. Wedi ei neillduo i'r swydd, ymroddodd i bob gwaith crefyddol i raddau uchel iawn, ac anfynych y gwelwyd neb yn fwy yn ei elfen yn gwasanaethu achos yr Arglwydd Iesu. Yn amser y diwygiad, noson gyntaf Cyfarfod Misol Dolgellau, Ionawr 1860, yr oedd wedi tori allan yn orfoledd cyffredinol. Yr oedd Pierce Jones yn un o'r rhai penaf yn y gorfoledd y noswaith nono. Cafodd afael yn yr adnod yn y bumed benod o Rhufeiniaid,-"Trwy yr Hwn hefyd y cawsom ddyfodfa trwy ffydd i'r gras hwn, yn yr hwn yr ydym yn sefyll." Safai ar ei draed, mewn eisteddle heb fod ymhell oddiwrth y pulpud, gan adrodd yr adnod laweroedd a llaweroedd o weithiau, gyda'i freichiau yn ymrwyfo yn hamddenol, yn debyg i ddyn yn nofio, a'r olwg arno yn nefolaidd dros ben. Golygfa oedd hon i'w chofio. Dywedai y Parch. E. Morgan, wrth wneuthur coffhad am Pierce Jones, ar ol ei farw, na byddai byth yn darllen yr adnod heb gofio am dano yn ei hadrodd yn y gorfoledd mawr hwnw yn Nolgellau. Yr oedd y cyfryw sel a bywyd ynddo gyda chrefydd hyd y diwedd. Bu farw Gorphenaf 4ydd, 1863, yn 46 mlwydd oed.

RICHARD OWEN, NEUADD-DDU.

Dewiswyd ef yn swyddog yn 1864, newydd i'r ymadawiad i'r Tabernacl gymeryd lle, a chafodd fyw i weithio am dros bymtheng mlynedd. Un o'i gyd-flaenoriaid a ddywedai am dano, "Dyn gwylaidd, am ymguddio hyd y gallai ydoedd. Gwnaeth ddefnydd da o'i amser, i ddarllen a diwyllio ei feddwl, ac yr oedd wedi cyraedd mesur da o wybodaeth. Meddai farn glir ar y pethau ddeuai dan sylw; yr oedd yn gryf iawn pan y credai o ddifrif mewn unrhyw beth." Un arall a ddywed, "Bu yn ysgrifenydd y gymdeithas arianol yn eglwys Bethesda am un mlynedd ar bymtheg, a llanwodd y swydd o flaenor am bymtheng mlynedd yn yr un eglwys. Ië, llanwodd y swydd, nid cael ei ddewis yn unig i'r swydd, a'r swydd yn addurn iddo, ond llanwodd a chyflawnodd y gwaith a ymddiriedwyd iddo. Nid oedd yn siaradus, ond pan y siaradai, fe wnai hyny i bwrpas." "Yr oedd yn un o'r rhai mwyaf pur ei gymeriad, fel mai ychydig oedd yn meddu ar fwy o ddylanwad nag ef. Hanai o hen gyff Methodistaidd. Ei daid oedd un o flaenoriaid hynaf plwyf Ffestiniog. A thra bu Richard Owen byw, yr oedd hen grefydd y teulu yn disgleirio mor loew ynddo ef ag y bu erioed." Bu farw Hydref 27ain, 1879, yn 41 mlwydd oed.

DAVID DAVIES, GLASFRYN,

a neillduwyd yn flaenor yr un noswaith a'r diweddaf, ond bu farw cyn ei dderbyn i'r Cyfarfod Misol. Yr oedd yn ŵr o gymeriad rhagorol.

ROBERT WILLIAMS, CAEGWYN,

a ddewiswyd yn flaenor gan yr eglwys yn unfryd unfarn, Ebrill 27, 1868. Dywedir ei fod yn uwch o'i ysgwyddau i fyny na neb o aelodau yr eglwys ar y pryd, a chredir ei fod o flaen pawb yn yr ardal mewn gwybodaeth o "Athrawiaeth yr Iawn." Meddai gymeriad crefyddol o'r fath ddisgleiriaf, a phe cawsai fyw, buasai yn debyg iawn o wneyd ei ôl ar yr eglwys. Cyfarfyddodd â damwain a derfynodd yn angeuol, Hydref 11, 1869, pan nad oedd ond 34 oed.

Neillduwyd y personau canlynol hefyd yn flaenoriaid yn yr eglwys hon,-Mri. David W. Owen, Bethesda, a John Hughes, Tanygraig—ymadawodd y ddau i'r Tabernacl pan ddechreuwyd yr achos yno; Owen Jones, yn awr o Erwfair; Evan Griffith, yn awr o Aberllyfeni; D. G. Davies, yn awr yn Maentwrog; G. G. Davies, yn awr yn y Rhiw.

Ni bydd hanes eglwys Bethesda yn gyflawn heb wneuthur crybwylliad am swyddog arall, yr hwn sydd yn aros hyd y dydd hwn," sef Mr. Robert Jones, Cae Du. Neillduwyd ef yn flaenor Gorphenaf 5ed, 1854, a derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol Medi 5ed, yr un flwyddyn. Y mae ef wedi bod yn dra llafurus dros dymor maith, ac wedi gwneuthur gwasanaeth mawr i'r eglwys ac i'r ardal. Anhawdd ydyw rhoddi bys ar neb a weithiodd yn rhagorach. Tra yr oedd Pierce Jones, a Thomas Williams ac yntau yn flaenoriaid gyda'u gilydd y gwnaeth yr eglwys y symudiadau cyflymaf mewn haelioni a threfn.

Y blaenoriaid yn bresenol,—Mri. Robert Jones, Thomas Edwards, Evan Davies, ac Evan R. Jones. Rhif yr aelodau, 352; y gwrandawyr, 630; yr Ysgol Sul, 524.

O. Y.-Ysgrifenwyd yn helaethach am yr eglwys hon nag y gellir gwneyd am y mwyafrif o'r eglwysi eraill, am fod yn perthyn iddi fwy o ffeithiau hanesyddol.

TANYGRISIAU.

Ugain mlynedd yn ol, darfu i'r blaenor haeddbarch, Mr. William Mona Williams, ysgrifenu hanes yr achos yn Nhanygrisiau, o'i gychwyniad hyd 1844, sylwedd yr hwn a ymddangosodd gydag Adroddiad Ysgolion y Dosbarth am y flwyddyn 1870. Cafodd yntau lawer o'r ffeithiau o enau William Jones, Pantyrhedydd, ac Ann James, dau o'r hen frodorion. Gwneir defnydd o'r hanes hwnw yn y tudalenau hyn.

Nid oedd yn Nghwm Tanygrisiau yn y flwyddyn 1809 ond ychydig iawn o drigolion. Gwneid y rhai hyny i fyny o ryw haner dwsin o deuluoedd, wedi eu geni a'u magu mewn dygn dywyllwch ac anwybodaeth, heb allor i'r Arglwydd wedi ei chodi yn yr un o honynt, nac un math o foddion wedi ei sefydlu yn eu plith. Ond yn yr adeg yma, cafodd dau neu dri o'r teuluoedd ar eu meddwl i gyfarfod â'u gilydd ar y Sabbath i ddysgu darllen gair Duw. Ymddengys mai Owen Evan, Tŷ'nddol, a ysgogodd gyntaf gyda'r symudiad newydd. Yr oedd ef wedi bod yn gwrando ar y Parch. Thomas Charles, o'r Bala, yn cefnogi yr Ysgol Sabbothol. Teimlodd yn ddwys dros ei deulu ei hun a'r teuluoedd eraill yn y Cwm, a phenderfynodd ar unwaith i wneuthur ymdrech i sefydlu ysgol yn Nhanygrisiau. Peth digon rhesymol ydyw clywed am yr ysgogiad yn cymeryd lle yr adeg yma, oblegid dyma y blynyddoedd, fel y cofir, yr oedd Cymanfaoedd Ysgolion cyntaf Cymru yn eu gogoniant. Dechreuodd teulu Tŷ'nddol, a theulu Tynewydd, lle yr oedd John Williams, a'i wraig Catherine Richard, a'u plant yn byw, gyfarfod ynghyd ar y Sabbath yn hen ffermdy Tanygrisiau. Felly yr oedd yno dri theulu wedi ymgynull, er nad oedd yr un o honynt yn proffesu crefydd. Enw y penteulu yn Tanygrisiau oedd Catherine Cadwaladr. Yr arolygwr oedd Owen Evan, Tŷ'nddol, a phawb yn ufudd iddo. Ymdaenodd cwmwl o dristwch, modd bynag, dros yr ysgol yn lled fuan yn y lle hwn, trwy i un o feibion Catherine Cadwaladr briodi yn groes i ewyllys y teulu, ac achlysurodd y fath derfysg, fel y barnodd y cyfeillion nad oedd y teulu na'r tŷ yn gyfaddas i ymgynull ynddo hyd nes y deuai yr awyrgylch yn fwy tangnefeddus. A'r canlyniad fu i Owen Evan symud yr ysgol i'w dŷ ei hun, sef Tŷ'nddol. Digwyddodd rhyw rwystr eto i beri rhoddi yr ysgol i fyny, a bu yr ardal am ychydig heb yr un ysgol. Ond erbyn y flwyddyn 1818, yr ydym yn ei chael yn yr un fan ag y dechreuodd-yn ffermdy Tanygrisiau. Y tenant y pryd hwn oedd un o'r enw John Jones; nid oedd ef yn proffesu. Cynhelid yr ysgol yma am fod y tŷ yn helaethach na'r un tŷ arall yn y Cwm.

Erbyn hyn, yr oedd brodyr eraill wedi dyfod i gynorthwyo gyda'r ysgol, sef Edmund Lloyd, Ddolwen; Robert Williams, a Robert Richard, Tŷ'nycefn; ac yr oedd Owen Evan hefyd wedi ymuno â'r eglwys yn yr Hen Gapel yn agos i bentref Ffestiniog. Efe oedd yr arolygwr eto, ac arno ef y gorphwysai y gofal ar fod pobpeth yn cael ei ddwyn ymlaen yn rheolaidd, megis dechreu a diweddu yr ysgol yn brydlawn. Gwladaidd a chyntefig hynod oedd eu dull o gario y gwaith ymlaen; yr arwydd i derfynu yr ysgol yn y gauaf fyddai dyfodiad y gwartheg at y tŷ i'w rhwymo. Pan y deuent, rhoddai yr arolygwr yr hysbysrwydd gan ddywedyd, "Mae yn bryd dibenu, mae'r gwartheg yn tynu at y beudy." Cyfarfu y brodyr â phrofedigaeth eto gyda'r ysgol yn ffermdy Tanygrisiau. Nid oedd John Jones, gŵr y tŷ, yn proffesu crefydd, nac ychwaith wedi ymuno â hwy yn yr ysgol, ond yn unig wedi cydsynio i roddi benthyg ei dy i'w chynal; byddai ef ei hun yn troi allan i fugeilio y defaid, ar yr amser y cedwid yr ysgol yn ei dŷ. Gan hyny, daethant i'r penderfyniad nad oedd dyn a ymddygasai felly ar ddydd yr Arglwydd, ddim yn deilwng i gael yr ysgol o dan ei gronglwyd, a threfnwyd i'w symud ar unwaith i'r Tŷ'nddol yr ail waith, er fod yr anghyfleusderau yn fwy i'w chynal yno. Yr oedd y gŵr a'r wraig bellach yn proffesu, a chroesaw calon i'r ysgol ddyfod i'w tŷ, ac yno y bu hyd nes y cafwyd ysgoldy i'w chynal yn 1833. Cynyddodd ei disgyblion, ond collodd ei noddwyr o un i un, trwy farwolaeth a symudiadau, a bu farw yr arolygwr, Owen Evan, a'i ddymuniad olaf wrth ei briod a'i blant oedd, am iddynt gadw croesaw i'r ysgol yno hyd nes y caent le gwell i'w chadw. Ni bu llafurus gariad y gŵr hwn yn ofer: y mae tri o'i wyrion yn weinidogion yr efengyl. Dywed yr hanes, "Yr oedd yn Tŷ'nddol y pryd hwn bedwar neu bump o ddosbarthiadau, un wrth y drws i gael goleu oddiallan; un wrth y bwrdd, i gael goleu trwy'r ffenestr; un ar yr aelwyd, i gael goleu trwy y simdda; ac un neu ddan o ddosbarthiadau'r plant yn y siamber, i gael goleu trwy ffenestr arall."

Ar ol colli arolygwr cyntaf yr ysgol trwy farwolaeth, daeth brodyr ffyddion eraill i fyw i'r ardal,—John Pierce, Tŷ'nllwyn, yr hwn, oherwydd ei fod ar y blaen i bawb arall, a osodwyd ar unwaith yn arolygwr; William Morris, a fu yn ffyddlon gyda'r canu; W. Williams (Gwilym Peris), Griffith Prys, Pierce Davies (wed ihyny o Borthmadog), a William Rowland. Yr oedd y diweddaf yn dad i'r blaenor adnabyddus, Mr. R. Rowlands, U.H., Plasheulog, Pwllheli. Efe oedd y mwyaf ei sel o'r brodyr y cyfnod hwn. Yr oedd yn oruchwyliwr ar chwarel Mr. S. Holland, diweddar A.S. dros Feirionydd. Eto, gwnelai ei hun yn bobpeth i bawb, er mwyn bod yn wasanaethgar i'w gyd-ddynion, ac i achos yr Arglwydd Iesu. Yr oedd mor selog, ebe ei hen gyfaill, William Morris, fel y dechreuodd yr ysgol y Sabbath cyntaf ar ol iddo ymuno â chrefydd, heb i neb ei gymell; wedi darllen rhoddodd benill allan, a dechreuodd ei ganu ei hun, ond yn anffodus, fe fethodd y dôn, er cynyg fwy nag unwaith. O'r diwedd, dywedai, "Ddaw o ddim, treia di o, Will Morris;" ac felly fu, cafwyd hyd i'r dôn, ac yna aeth pob peth ymlaen yn eithaf hwylus. Yr oedd yn llawn gweithgarwch gydag adeiladu yr ysgoldy a'r capel cyntaf; ond cyn 1840, yr oedd wedi ei gymeryd yn sydyn i'r orphwysfa, a dywedir na "bu y fath angladd o'r blaen yn myned o gwm mynyddig Tanygrisiau, er dechreu'r byd." William Owen, wedi hyny o Bethesda, a Thomas Williams, wedi hyny y Parchedig Thos. Williams, Remsen, America, fuont o fendith yma fel dynion ieuainc y pryd hwn.

Oddeutu 1832 yr oedd y boblogaeth yn cynyddu, a daeth sibrwd ymhlith y brodyr am gael ysgoldy yn lle tŷ anedd i gadw yr Ysgol Sul. Mae yr hanes am hyn mor ddyddorol fel y rhoddir ef yma yn llawn. Galwyd cyfarfod athrawon ar ol yr ysgol, i gael sylw ar y mater: ond bu raid tori y cyfarfod i fyny heb ddyfod i ddim penderfyniad, am fod yr achos yn rhy gysegredig i'w drafod ar y Sabbath. Gohiriwyd hyd noswaith benodol, pryd yr oedd yr ysgoldy yr unig fater i ddyfod dan sylw. Yr arolygwr, John Pierce, oedd llywydd y cyfarfod. "Wel," meddai, "y peth cyntaf sydd i fod dan sylw yma heno ydyw, a oes arnom ni eisiau ysgoldy." "Wel," atebai W. Rowland, "beth wyt ti yn gofyn cwestiwn mor wirion, yn 'dwyr pawb fod arnom ei eisiau." *Wel aros di," dywedai y llywydd, "rhaid i ni fyn'd ymlaen yn rheolaidd gyda'r achos." Yna distawodd yntau am ychydig, er fod sel at yr achos yn ei ysu. A phenderfynodd y frawdoliaeth yn unfrydol fod eisiau ysgoldy. "Wel, yn ail," ebe y llywydd, "ymha le y bydd o?" Gyda hyny, dyma W. Rowland ar ei draed eilwaith, gan ddweyd, Onid ydym ni wedi penderfynu ei le, o dan y clogwyn, wrth dy William Morris?" "Wel ie," atebai y llywydd, "fan hono 'rwyt ti a minau am iddo fod, ond gad i ni gael llais y brodyr eraill hefyd ar y mater." "Wel, o'r goreu," meddai yntau, "rydw i yn siwr mai dyna'r lle goreu, ond deudwch chwi eich barn i gyd." Ac felly fu, troes pawb yr un ffordd â W. Rowland.

"Wel," ebe'r llywydd drachefn, "dyna ddau beth wedi eu penderfynu, y peth nesaf i fod o dan sylw ydyw, beth fydd ei faint o?" Atebodd W. R. eto, "Yr ydw i yn cynyg iddo fod yn chwe' llath wrth saith." "Yr wyf finau," ebe y llywydd, yn cynyg iddo fod yn bump wrth chwech," ac yna troes at y brodyr eraill, "Beth ydach chi yn ddeud yna, fechgyn, i gyd?" Atebodd Evan Robert, Glan-y-pwll-bach, "Wel, yr ydwyf fi wedi pwyso y peth yn fy meddwl mor fanwl ag y gallwn, a rhyw ochri at fesur W. Rowland yr ydwyf fi." "O'r goreu," ebe'r llywydd, "beth ydach chi yn ddeud i gyd? Mae hwn yn fater na ddylid ei benderfynu yn fyrbwyll." Atebodd pawb yn unfrydol o blaid cynygiad W. Rowland. "Wel," ebe yntau, "dyma fi wedi fy nghoncro yn deg; ni a'i gwnawn ef yn chwe' llath wrth saith; ac mi fydd yn ddigon o faint i'r oes yma." Felly y terfynodd y cyfarfod, a phawb yn selog am adeiladu yr ysgoldy.

Tua'r pryd hwn yr oedd W. Rowland yn siarad â'i feistr, Samuel Holland, Ysw., a phwnc yr ymddiddan oedd ynghylch cael digon o le i'r gweithwyr letya, yr hyn beth oedd yn brin iawn oherwydd anamledd y tai; dywedai y boneddwr wrth ei oruchwyliwr, "Yr wyf fi, William, am adeiladu capel yn Nhanygrisiau, oherwydd yr wyf fi yn gweled pobl yn dyfod i fyw, ac i adeiladu tai ymhob man lle y bydd capel, a phe caem ninau gapel yn Nhanygrisiau, ni byddai prinder lle i letya ar ein gweithwyr." Achubodd W. Rowland y cyfleusdra pan glywodd hyn, ac a ofynodd a gai efe y cynyg cyntaf i adeiladu ysgoldy yn Nhanygrisiau. "Beth wyt ti, William?" gofynai yntau. "Methodist, Syr," oedd yr ateb. Ac yn y fan y boneddwr a ganiataodd le i adeiladu ar y llecyn yr oedd y brodyr wedi penderfynu arno. Cyfododd un rhwystr eto ar eu ffordd. Aelodau o eglwys Bethesda oedd hyny o grefyddwyr a breswylient yma. A oedd pobl Bethesda yn foddlawn iddynt adeiladu ysgoldy? Na, ni allent ganiatau, am fod eu colli o'r moddion yno yn golled iddynt hwy. Megis y darfu i bobl y Llan daflu rhwystrau ar eu ffordd hwy bymtheng mlynedd yn flaenorol, yr oeddynt hwythau yn awr am daflu rhwystrau ar ffordd pobl Tanygrisiau. Dadleuai John Pierce bellder y ffordd, a henaint a llesgedd rhai o'r brodyr a'r chwiorydd. Robert William, Penybryn, a gyfodai ei fraich i fyny gan ddywedyd, "Nid oes dim ond diogi ar eich ffordd i ddyfod i Bethesda." "Mae yr achos yn deilwng," ebai W. Rowland, "y mae angen am ysgoldy. Rhoddwch chwi i ni 5p., mi fentrwn ni ein siawns am y costau." Mentro a wnaethant, ac yr oedd pawb, gorff ac enaid wedi ymroddi at y gwaith; rhai yn tori sylfaen, eraill yn codi ceryg, fel y cwblhawyd y gwaith mewn ychydig iawn o amser. Agorwyd yr Ysgoldy ar Sabbath yn niwedd haf 1833. Gŵr dieithr o'r Deheudir oedd yn pregethu y boreu, a'r Parch. Daniel Evans, Harlech, y prydnhawn.

Rhif yr ysgol yn 1819—ddeng mlynedd ar ol ei dechreu—oedd 30. Y rhifedi cyntaf wedi myned i'r ysgoldy ydyw 90. Wrth gychwyn yr ysgol yn ei chartref newydd, cynbaliwyd cyfarfod brodyr i neillduo swyddogion, a neillduwyd John Pierce yn arolygwr; Griffith Prys ac Humphrey Dafydd i wrando adnodau y plant; John Pierce ac Evan Roberts, Glanpwllbach, i holwyddori bob yn ail; W. Rowland i wrando y Deg Gorchymyn; a William Morris i ddechreu canu. Y mae arweiniad y canu, gydag ychydig eithriadau, yn aros yn nheulu y diweddaf hyd heddyw. Byddid yn cael yn yr ysgoldy, heblaw yr ysgol, gyfarfod gweddi unwaith neu ddwy y Sabbath, pregeth ambell nos Sadwrn, seiat y plant nos Wener, cyfarfod athrawon ganol yr wythnos ar ol pob Cyfarfod Ysgolion.

Yn lled fuan yr oedd yr ysgoldy 6 wrth 7 wedi myned yn rhy gyfyng, a dechreuwyd son am gael capel, a'r blaenaf yn yr ysgogiad hwn eto oedd W. Rowland. Yr oedd fel tân gwyllt am gael ei gynllun ymlaen, ond yr oedd John Pierce yn fwy pryderus a hwyrfrydig, canys yr oedd erbyn hyn wedi ei neillduo yn flaenor yn Bethesda. Ond capel oedd raid gael. A'r canlyniad fu, i frodyr ddyfod o Bethesda i edrych beth oedd y teimlad gyda golwg ar hyn, ac wedi cael fod y teimlad yn gryf, anfonwyd y mater i'r Cyfarfod Misol, lle cafwyd cydsyniad rhwydd. Wedi dyfod adref o'r Cyfarfod Misol, aeth John Pierce a W. Rowland at Mr. Holland eto i ofyn am le i adeiladu capel, ac yntau yn rhwydd a ganiataodd iddynt eu dewis le ar ei dir, gan ychwanegu na byddai yr ardreth ond deg swllt yn y flwyddyn. Darfu i'r chwarelwyr wneyd digon o geryg i doi y capel hwn am ddim, trwy gael caniatad i gasglu y defnyddiau yn y chwarel.

Felly yn mis Chwefror, 1838, gorphenwyd ef, a symudodd y frawdoliaeth yn gwbl o Bethesda, a ffurfiwyd cangen eglwys yn Tanygrisiau ar ei phen ei hun. Rhifedi yr ysgol yn ei chychwyniad yn y capel newydd oedd 136, a nifer yr aelodau eglwysig yn 36. Gwelir fod yr ysgol wedi dechreu er's deng mlynedd ar hugain cyn bod yma eglwys. Yn ystod y deng mlynedd cyntaf o'r cyfryw, i'r Hen Gapel a'r Capel Gwyn yr oedd yn rhaid myned i gael pregeth a chyfarfod eglwysig, ac am yr ugain mlynedd arall i'r Neuadd-ddu a Bethesda. Cafodd y crefyddwyr cyntaf, y rhai a elent i'r Capel Gwyn, brofi yn helaeth o anhawsderau gyda chrefydd. Byddent yn myned dros Cefntrwsgwl, trwy goed y Cymerau, a thrwy Geunant Sych, lle tywyll, garw, am bedair milldir o bellder. Eu cynllun i ymlwybro ar noson dywyll yn y coed fyddai, diosg un esgid oddiam y troed, er mwyn teimlo yn y tywyllwch pa le byddai y llwybr. Dywediad mynych un chwaer— Margaret Williams, gwraig Owen Evan, Tŷ'nddol,—fyddai, "ei bod lawer gwaith wedi methu cychwyn i'r capel, ond na fethodd erioed a dyfod adref ar ol cychwyn." "Gwerthfawr oedd gair yr Arglwydd y dyddiau hyny" yn Mlaenau Ffestiniog. Byddai odfa ambell dro ar ganol dydd gwaith yn hen ffermdy Rhiwbryfdir, gan ryw ŵr dieithr ar ei daith i Dolyddelen. William Jones, Pant yr Ehedydd, a ddywedai y byddent yn gadael eu gwaith yn chwarel y Diphwys ar ganol dydd, ac yn myned i Riwbryfdir i wrando Lewis Morris yn pregethu, ac yn dychwelyd i weithio ar ol yr odfa, a byddai cymaint o geryg wedi eu gwneyd erbyn nos y diwrnod hwnw a rhyw ddiwrnod arall. Yn ystod tymor yr Ysgoldy yn Nhanygrisiau, 1833-1838, byddent yn cynal cyfarfod gweddi, fel rheol, am chwech o'r gloch boreu Sabbath, yna i Bethesda erbyn wyth i'r cyfarfod eglwysig, a'r bregeth am ddeg; a dychwelent i Tanygrisiau i gael ysgol am ddau, a chyfarfod gweddi y nos. Ar ol adeiladu y capel ac ymsefydlu yn eglwys, y daith Sabbath am lawer o flynyddoedd ydoedd Bethesda a Thanygrisiau, y pregethwr ddwywaith yn un lle un Sabbath, a dwywaith yn y llall y Sabbath arall. Parhaodd yr arferiad o fyned o Danygrisiau i Bethesda gyda'r pregethwr ddau o'r gloch am fwy na deng mlynedd, ac ar ambell Sul teg yn yr haf gwelid preswylwyr y Cwm, yn rhieni ac yn blant, yn myned yn fintai dros y Bwlch llydan, ar draws Cwmbowydd, tua chapel Bethesda. A phan fyddai pregethwr poblogaidd, megis Dafydd Rolant, y Bala, yn y daith, duid y llwybr gan deithwyr.

Yn y flwyddyn 1840, ymhen llai na dwy flynedd ar ol adeiladu y capel cyntaf, yr oedd nifer yr eglwys, yn lle bod yn 36, wedi cynyddu i 100; a'r ysgol, yn lle 136, wedi cynyddu i 199; a'r capel yn rhy gyfyng i gynwys y gynulleidfa. Aeth John Pierce a'r achos eto i'r Cyfarfod Misol; ac yr oedd y brodyr yn edrych yn syn fod eisiau capel newydd yn Nhanygrisiau, y lle, ddwy flynedd yn flaenorol, oedd heb yr un capel. Ond dywedodd y genad, "Fod rhagluniaeth yn dyfod a'r bobl at y drws i'r Methodistiaid, a'u bod hwy yn teimlo eu cyfrifoldeb i wneyd pob ymdrech i gael digon o le i bawb oedd yn ewyllysio dyfod atynt." "Dyledswydd y brodyr yn Nhanygrisiau," ebe y Parch. Richard Jones, y Bala, "ydyw dechreu adeiladu heb golli dim amser." Hyny a wnaed; ac erbyn y Nadolig canlynol, yr oedd ganddynt gapel newydd yr ail waith, yn mesur deuddeg llath wrth bymtheg; a'r eglwys wedi cynyddu yn ei rhif erbyn dyfod yn ol iddo oddeutu 30. Yn y cyfamser daeth gŵr da i berthyn i'r eglwys, sef William Owen, Dinas, yr hwn oedd wedi dyfod yn lle W. Rowland, yn oruchwyliwr i Mr. Holland. Bu yn noddwr a chyfarwyddwr ffyddlon i'r achos. Efe a'r Parch. Richard Humphreys oeddynt gynllunwyr y capel newydd. Bu yr eglwys yn addoli yn y capel hwn o 1840 i 1864. Nid yw yn wybyddus beth oedd traul adeiladu yr ysgoldy cyntaf, na'r ddau gapel cyntaf, ond gorphenwyd clirio y ddyled yn 1862.

Nadolig, 1864, agorwyd y capel presenol, yr hwn sydd mewn lle cyfleus, ac yn mesur dwy lath ar bymtheg wrth ddwy ar hugain. Perthyna i'r Ysgol Sabbothol yma ganghenau: Cumorthin, yr hon a sefydlwyd tua 1855, ac a gynhelid i ddechreu yn hen ffermdy Cwmorthin Uchaf. Dair blynedd ar hugain yn ol, adeiladwyd ysgoldy cyfleus i'w chynal. Wrth gyhoeddi y moddion ar agoriad hwn y dywedodd y blaenor gwreiddiol, Thomas Jones, fel y canlyn: "Dyma y tro cyntaf i gyhoeddi yn Cwmorthin; heb fyn'd i gwmpasu, bydd yma bregethu bellach bob Sabbath hyd ddiwedd y byd." Dolrhedyn, lle oddeutu haner y ffordd rhwng Tanygrisiau a Chwmorthin. Adeiladwyd yma ysgoldy prydferth yn ddiweddar, ac y mae ynddo yn awr Ysgol Sul yn rhifo 140. Bu cangen ysgol hefyd lawer gwaith, o dro i bro, yn Tŷ'nycefn. Y draul gyda'r adeiladau hyn sydd fel y canlyn -

Bethel (adeiladwyd yn 1864)--£1700

Y Tŷ, &c.---£275

Railings, Frontage, a thoi yr ochr---£160

Cwmorthin (adeiladwyd yn 1867)---£250

Dolrhedyn (adeiladwyd yn 1882)---£350

Newid y Festri, a'r Heating Aparatus---164

Cyfanswm---2899

Nid oes o ddyled yn aros ar ddechreu 1890, ond 473p. 12s. Agorwyd yr ail gapel, fel y crybwyllwyd, ar ddydd Nadolig 1840, a bu hyny yn ddechreuad cyfarfod pregethu y Nadolig, a gynhelid yma am lawer iawn o flynyddoedd.

Cynwysa hanes mewnol yr eglwys hon lawer o bethau lled hynod. Yn ddibetrus, y mae wedi bod yn eglwys weithgar a. ffrwythlon o'r cychwyn cyntaf, ac y mae nifer mawr wedi eu darparu ynddi o bobl briodol ir Arglwydd. Gellir nodi, o leiaf, ddau beth a fu yn foddion arbenig i beri llwyddiant a chryfder yr eglwys trwy y blynyddoedd. Yn gyntaf, dylanwad yr hen grefyddwyr cyntaf, y rhai oeddynt Gristionogion aiddgar, cydwybodol, selog, ymroddedig, ac wedi eu meddianu i raddau uchel âg ysbryd gwir genhadol. Fel tòn fawr yn taflu ymhell i'r tir, mae ol cymeriad yr hen grefyddwyr yn aros. eto. Yn ail, bu yma flaenoriaid ac arweinwyr rhagorol o'r dechreu. Nid llawer o eglwysi y sir sydd yn fwy rhwymedig i'w blaenoriaid na'r eglwys hon. Yn ychwanegol, ac yn benaf, mae bendith yr Arglwydd wedi bod yn amlwg ar ei bobl. Yn fuan wedi adeiladu yr ail gapel, dechreuwyd cynal cyfarfod egwyddori, ar noson ganol yr wythnos, yr hwn a gariwyd ymlaen am oddeutu ugain mlynedd. Yr arweinwyr cyntaf yn y cyfarfod hwn oeddynt, Griffith Evans a Robert Parry (wedi hyny y Parch. Robert Parry). "Dyma y cyfarfod," ebe y Parch. O. R. Morris, America, "a brofwyd yn fwyaf bendithiol i mi fy hun o un cyfarfod y bum yn ei fynychu erioed." Tystiolaeth yr hen flaenor parchus, W. Mona Williams, hefyd ydoedd, "fod chwech o weinidogion yr efengyl, heblaw nifer o ddynion defnyddiol mewn cylchoedd eraill, wedi cyfodi o gyfarfod egwyddori Tanygrisiau." Perthynai i'r gymydogaeth gymeriadau tra hynod, a cheid yn eu plith hen ddywediadau Cymroaidd, ac arferion cartrefol, nodweddiadol o ardaloedd gwledig Cymru. William Sion, y Cribau, a John Jones, Tai-isaf, oeddynt yn afaelgar mewn gweddi, a byddai Edward Parry yn wastad mewn hwyl. Ond yr hynotaf oedd Griffith Prys. Daeth awydd angerddol arno ef am fyned i bregethu. Byddai yn bur barod ei sylw yn yr Ysgol Sul a'r cyfarfod eglwysig, ac yr oedd ganddo rai areithiau ar ddirwest, ac yn fynych gwnai sylwadau buddiol yn y cylchoedd hyny. Ond nid oedd dim a'i boddlonai ond myned i bregethu, yr hyn a fynegodd i un o'r brodyr, gyda dymuniad i'r peth gael ei wneyd yn hysbys i'r ddau hen flaenor. "Wel," ebe John Pierce, "ydi o yn siwr a fedar o bregethu." "Medru," meddai Owen Pierce, "na fedar o ddim, o ble medar o mwy na mina!" "Rhaid iddo gael treio, wel di," atebai John. Pierce drachefn, "onte chawn ni ddim llonydd ganddo fo." "Wel," meddai yr hen frawd arall eilwaith, "rhowch chi o i dreio pan fynoch, gewch chi wel'd y bydd yn 'difar gynoch chi." Ymhen ychydig torodd rhyw bregethwr ei gyhoeddiad ar ganol dydd gwaith, ac achubwyd y cyfle i anog G. P. ddechreu y cyfarfod gweddi, ac i ddweyd tipyn ar y benod. Yntau a ufuddhaodd yn ebrwydd, fel un wedi cael rhyddid i ddechreu ar ei hoff waith. Agorodd y Beibl, dechreuodd ddarllen; ond wedi myned ymlaen ychydig o adnodau, safai heb ddweyd dim, gan gau ei lygaid, a symud ei draed yn ol ac ymlaen, a'r gynulleidfa wedi ei tharo a syndod, ac yn ceisio dyfalu beth allasai achosi y gosteg. Er y cwbl, gomedd dyfod yr oedd y sylwadau, ac o'r diwedd, trwy fawr helbul, cyrhaeddwyd diwedd y benod, a hyny mewn dirfawr dywyllwch i'r llefarwr a'r gwrandawyr. Pan y gofynwyd paham na buasai yn gwneuthur sylwadau ar y benod yn ol y cynllun, ei ateb oedd, "Ni fuaswn yn fy myw yn medru cofio dim na gweled dim; 'roedd hi yn dywyll fel y fagddu arnaf." Yn fuan wedi hyn, hysbysodd G. P. wrth un o'r brodyr "fod yr ysbryd wedi marw," ac nad oedd eisiau son am dano byth mwyach: Boddlonodd yr hen Gristion ar hyny, a daeth i'r tresi i weithio yn ei hen gylch fel o'r blaen.

Digwyddodd llawer tro hynod yn yr hen Gyfarfodydd Eglwysig. Nis gellir coffhau ond am un neu ddau. Gofynai y blaenor yn y seiat ar ol rhyw nos Sabbath, "A oes yma neb wedi aros ar ol yma heno?" Ar ol mynyd o ddistawrwydd, cododd dyn canol oed ar ei draed, a dywedodd yn uchel, "Oes, W. W., yr ydw' i yma." Gofynwyd i'r gweinidog fyned i ymddiddan âg ef, ond nid allai hwnw fyned, gan fod y dull anghyffredin hwn wedi ei daro. Yr oedd yn gymeriad adnabyddus, ac ychydig yn flaenorol yr oedd wedi colli un o'i blant trwy farwolaeth, yr hyn a effeithiodd yn fawr ar y tad. Wedi i'r gweinidog wrthod myned i ymddiddan âg ef, disgynodd ar W. W., y blaenor i fyned, yr hwn oedd yn dra chydnabyddus âg ef, ac yn gwybod ei holl hanes. Aeth y blaenor ymlaen dan siarad fel hyn:—"Wel J. R. bach, y mae yn dda iawn gen i dy wel'd di wedi troi dy wyneb i dŷ yr Arglwydd, ac yr wyf wedi meddwl llawer am danat yn dy brofedigaeth fawr, ac yr wyf wedi bod yn ceisio gweddio drostat ti lawer gwaith am i'r Arglwydd fendithio y brofedigaeth lem a'th gyfarfyddodd di a'th deulu." Yr oedd yr ymgeisydd yn sefyll ar ei draed yn ei eisteddle, a phan ddywedodd y blaenor ei fod wedi bod yn gweddio drosto, gofynai yntau gyda phwyslais oedd yn dynodi syndod, "Trosta i, W.?" "Ie, drosta ti." Ar hyn, taflodd yr ymgeisydd ei fraich allan yn ei llawn hyd, a dywedodd, "Wel, tafl dy bump, machgen anwyl i" (ymadrodd a ddefnyddir yn y parthau hyn am ysgwyd llaw), a dyna lle y bu y ddau yn ymaflyd yn' dyn yn nwylaw eu gilydd. Yr oedd llawenydd mawr, a chyffro nid bychan wedi meddianu yr eglwys ar y pryd. Parhaodd y gŵr yn ffyddlawn, a chafwyd arwyddion amlwg ei fod wedi cael gwir crefydd. Tro hynod arall oedd pan y daeth y Parch. Lewis William, Llanfachreth, yma i gadw cyfarfod eglwysig, ychydig cyn diwedd ei oes. Yr oedd yr hen bererin mor iraidd ei ysbryd wrth ymddiddan â'r brodyr a'r chwiorydd, fel y gwaeddodd rhyw frawd-y dyn mwyaf o gorphorolaeth o neb oedd yn y cyfarfod,—"L. W., a fedrwch chwi ddim rhoi fy sodlau i ar y graig?" "Dy sodla' di," meddai yntau, "mi rho i di i gyd, yn dy grynswth, ar y graig, ond i ti ddwad at Iesu Grist. Rhyw afael slip iawn ydi gafael sowdwl; tyr'd di at Iesu Grist, a dyro, nid dy sodlau, ond dy hunan, gorff ac enaid, am amser a byth, i orwedd yn dawel arno, ac mi â i yn feichia i ti, na bydd dim perygl arnat byth." Ymadawodd y brawd hwnw a'r byd ac arwyddion sicr arno ei fod wedi cael ei draed ar y graig. Wedi myned i dŷ y capel, dywedai un o'r brodyr, "Yr oeddwn i yn meddwl wrth glywed L. W. yn dweyd mor dda am Iesu Grist, y gwnawn fy ngwaetha i'r diafol, trwy ddweyd yn ddrwg am dano ymhob man." "O, yr wyt ti yn misio yn arw," ebe L. W., "nid dweyd yn ddrwg am y diafol ydi'r goreu, ond dweyd yn dda am Iesu Grist; dyna fel y vexi di fwya ar y diafol o lawer, 'deill o ddim diodda clywed son am Iesu Grist—mi wneiff wadna arni hi i ffwrdd yn union wed'yn."

Nis gallwn fod yn sicr am restr y pregethwyr a gyfododd yn yr eglwys hon. Daeth y personau canlynol i'r weinidogaeth o'r rhai a ddilynent y cyfarfod egwyddori cyntaf:—Parchn. Robert Parry, Griffith Williams, Talsarnau; Owen R. Morris, Bristol Grove, Minesota, America; David Davies, Rhiw (Corris wedi hyny); a W. Edmund Evans, Ballarat, Awstralia. Yn ddiweddarach, y Parchn. Elias Jones, Talsarnau; a Richard Rowlands, Llwyngwril. Y Parchn. W. O. Evans, Nefyn; ac M. O. Evans (A.), Bangor, hefyd, a fagwyd yn Nhanygrisiau. A ganlyn ydyw y rhestr o'r blaenoriaid.

JOHN PIERCE, TYNLLWYN.

Brodor ydoedd o Bethesda yn Arfon. Ymsefydlodd yn Nhanygrisiau ymhell cyn bod yma gapel. Efe oedd yr unig swyddog a ddaeth drosodd, fel y dywedwyd yn barod, gyda y ddiadell hon o eglwys Bethesda. Ei nodwedd arbenig ydoedd ei fod yn hollol ddidwyll a di-dderbynwyneb gyda holl ranau yr achos. Llawer gwaith yr adroddodd W. W., yr hanesyn canlynol am dano. Yr oedd unwaith wedi syrthio allan â'i frawd crefyddol Edward Parry. Tranoeth y ffrwgwd, yr oedd J. Pierce yn myned i'r Cyfarfod Misol, ac er ei fod yn cychwyn yn foreu, nis gallai fyned i'w daith heb yn gyntaf gymodi â'i frawd, a galwodd heibio'r tŷ pan yr oedd ei gyfaill ar ei liniau yn cadw dyledswydd, cyn cychwyn i'r chwarel. Aeth i fewn ar derfyn y weddi, a dywedodd ei neges mewn teimlad dwys, ac mewn mynydyn wele y ddau yn ysgwyd llaw â'r dagrau ar eu gruddiau. Un hynod ydoedd am fugeilio a gofalu am ieuenctyd yr eglwys. Arferai hwynt i weddio yn gynar iawn ar eu hoes, a'r lle cyntaf i'w profi fyddai trwy ddiweddu y seiat. Pan ddaeth W. W. i'r ardal i ddechreu, yr oedd dau fachgen dan yr oruchwyliaeth yma gan John Pierce, un i ledio penill a'r llall i weddio, ac ar ddiwedd y seiat dywedai, "Wel, fechgyn, mae yn amser terfynu, pwy sydd i ledio penill a'r llall fyned i weddi." Bu farw yn gymharol ieuanc, Chwefror 23. 1844. Efe ydoedd prif sylfaenydd yr achos yn Nhanygrisiau.

OWEN PIERCE.

Daeth ef yma yn flaenor o Lanfrothen, a gosodwyd ef yn y swydd ar unwaith gan yr eglwys hon. Gŵr cadarn yn yr Ysgrythyrau, llawn o ysbryd yr oes yr oedd yn byw ynddi, a dadleuwr mawr ar y pum' pwnc. Yr oedd mor llawn o hyn fel y byddai yn dadleu yn ddiddiwedd âg ef ei hun ar y ffordd, wrth ei waith, a phan yn eistedd wrth y tân gartref. Yr oedd ei allu i lywodraethu yn gystal ag i athrawiaethu yn lled gryf. Rhoddodd derfyn ar ryfyg dyn yn Llanfrothen a godai o'i le yn yr addoldy, os byddai rhywun neillduol yn cymeryd rhan yn y moddion. Bu yn ŵr o gyngor ac awdurdod yma hefyd, ac wedi bod yn swyddog yr eglwys am tua chwe' blynedd, bu farw oddeutu yr un amser a'i gydflaenor, John Pierce. W. W. oedd y blaenor nesaf a etholwyd.

GRIFFITH EVANS.

Mewn Cyfarfod Misol a gynhaliwyd yma Mai 1842, Lewis Morris yn gymedrolwr, "ymddiddanwyd â thri brawd, Evan Roberts, Thomas Jones, a Griffith Evans, a dewiswyd hwynt yn aelodau o'r Cyfarfod Misol." Brodor oedd Griffith Evans o Leyn. Ei brif ragoriaeth ydoedd ei fod yn ŵr cryf mewn egwyddorion, ac yn athrawus. Bu yn athraw a thad i lu o ieuenctyd yr eglwys, a gwelir ei ôl yma hyd y dydd hwn. Efe, fel y gwelwyd, oedd athraw cyntaf y 'Cyfarfod Egwyddori,' a daliodd yn arweinydd galluog iddo hyd nes y lluddiwyd ef gan afiechyd. "A bendigedig," ebai W. W., "ydyw coffadwriaeth y brawd anwyl hwn mewn cysylltiad âg achos crefydd yn Nhanygrisiau." Bu farw yn Lleyn, Mawrth 24, 1863, yn 52 mlwydd oed.

WILLIAM OWEN, DINAS.

Daeth ef yn oruchwyliwr i Mr. Holland, yn lle Mr. W. Rowland. Ymunodd yn fuan & chrefydd, a dewiswyd ef cyn hir yn flaenor. Derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol Ebrill 1848. Yr oedd ynddo lawer o gymwysderau i fod yn swyddog eglwysig. Byddai W. W. yn arfer a dweyd ei fod yn esiampl ragorol o flaenor. Ni welodd ef erioed mohono yn dyfod yn ysbryd y slewart i'r sêt fawr at ei frodyr. Gwaelodd ei iechyd, a symudodd i fyw i'r Borthwen, Penrhyndeudraeth, lle bu farw yn ŵr cymharol ieuanc.

THOMAS JONES, CWMORTHIN.

Daeth yma yn ŵr ieuanc o Benmachno. Bu am dymor yn dwyn ymlaen fasnach, heblaw gweithio yn y chwarel. Ar ol hyny gosodwyd ef yn oruchwyliwr ar Chwarel y Rhosydd, a bu yn preswylio yn Mhlas Cwmorthin am bum' mlynedd ar hugain. Treuliodd oes ddefnyddiol gyda chrefydd mwy na deugain mlynedd o honi yn gwasanaethu swydd blaenor. Perthynai iddo amryw hynodion, a llawer o ragoriaethau, ac ar gyfrif y naill a'r llall yr oedd yn adnabyddus i gylch eang y tuallan i'w gartref. Gwreiddioldeb meddwl, tanbeidrwydd ysbryd, halltrwydd yn erbyn pechod, mwynhau gweinidogaeth yr efengyl, llawenhau yn llwyddiant achos y Cyfryngwr, oeddynt nodau amlwg yn ei gymeriad. "Nis gwn a fu yn perthyn i'r eglwys hon flaenor a ddarllenodd fwy. Yr oedd yn rhagori ar bob un a adnabum o'r urdd mewn dawn ymadrodd. Yr oedd ei power of speech yn rhyfeddol. Byddai ei anerchiadau yn newydd bob tro, a hyny nid am ei fod yn cofio yr hyn a ddarllenai. Yn wir, nis gallai adrodd dim a ddarllenasai. Byddai ei dymherau, a'r chwedlau a glywai, yn ei gludo ymhell o'r ffordd dda yn lled fynych. Ond pan y byddai ar brif ffordd y Brenin, ni byddai 'neb a hoffwn ei glywed yn well. A byddai felly yn fynych yn y seiat yn Nghwmorthin. Nid llosgi a ffaglu ei hunan y byddai ychwaith y prydiau hyn. Na, byddai pawb o'i wrandawyr mewn hwyl pan fyddai Thomas Jones yn morio. Gallai efe, nid yn unig beri i gynulleidfa wenu o dan yr athrawiaeth, ond parai iddi wylo dagrau ar un tarawiad."[18] Adroddir hanesyn am dano ef a'i gyd-flaenor, Griffith Evans. Amser y diwygiad, 1859, oedd, ac yn y gauaf, y ddaear wedi ei chloi i fyny gan eira a luwch, pawb yn chwarel y Rhosydd wedi myned adref, a T. J. a'i gyfaill wedi aros ar ol. Yr oeddynt ill dau yn y barracks, neu yr office, yn eistedd wrth y tân ar ben y mynydd felly. Dywedodd G. E. ai ni fyddai yn well iddynt fyned ar eu gliniau, ac i'r ddau fyned i weddi. Ac yn rhywle yn y weddi dywedodd, "Diolch i ti, O Arglwydd, fod ein llinynau wedi disgyn i ni mewn lleoedd hyfryd, a bod i ni etifeddiaeth deg." Wedi iddynt gyfodi oddiar eu gliniau, gofynodd T. J., gan ostwng ei wâr, i G. E., "Beth wyt ti yn ei wel'd, dywed, yn hyfryd ac yn deg mewn lle fel hyn?" Gwelodd ei gyfaill mai tewi oedd hawddaf ar y pryd, ac felly y gwnaeth. Byddai gan Thomas Jones ddull hollol ar ei ben ei hun o ddysgu a rhybuddio. Ei ffordd yn gyffredin fyddai tynu darlun o'r pechadur, a dweyd rhyw air y byddai y troseddwr yn arfer ddweyd, neu ddynwared ystum y troseddwr, fel y gallai pawb oedd yn gydnabyddus â'r amgylchiadau adnabod y cyfeiriad yn ddios. Yna byddai yr holl fwledi yn cael eu saethu at y troseddwr gyda nerth. Nid dyna y ffordd i lwyddo i wella dynion yn gyffredin, ond hono a gymerai ef gyda phechodau fyddent yn codi eu penau yn yr ardal. Llawer gwaith y bu yn ofn i weithredoedd drwg. Anaml y byddai y troseddwr heb ddeall yr ergydion, ond digwyddai felly weithiau. Yr oedd yno ddyn yn arfer meddwi yn lled fynych yn perthyn i'r gynulleidfa yn Mhenmorfa, lle y bu T. J. yn byw ddiweddaf; ac ar ddiwedd y cyfarfod ar nos Sabbath, anogwyd Thos. Jones i roddi cyngor. Gwelodd yntau y cyfle i argyhoeddi y gŵr hwnw o'i bechod, canys yr oedd yn bresenol. A dyma ei ddarlun yn cael ei dynu yn fanwl gan y cynghorwr, ac yn ol ei arfer, taflai ei olwg i edrych a oedd y pechadur yn sylwi a gwladeiddio; ond nid oedd yn amgyffred dim o'i sefyllfa na'i berygl—edrychai yn ddifraw o'i amgylch. Ar hyn pallodd amynedd y llefarwr, ac mor ddisymwth a mellten cyfeiriai ato trwy waeddi, "Da chwi, hwn a hwn, a wnewch chwi beidio a meddwi dim ychwaneg."

Yr oedd yn dra eiddigeddus dros gapel bychan Cwmorthin, yr hwn yr oedd efe wedi bod yn brif offeryn i'w godi. Ond nid oedd y tir o gwmpas y capel (yr hwn oedd wedi ei roddi gan Arglwydd Harlech) wedi ei gau i fewn, a mynegwyd rywbryd i Thomas Jones fod rhywrai yn y Cyfarfod Misol, gan enwi y Parch. G. Williams, Talsarnau, am ddwyn yr achos i sylw. Daeth Cyfarfod Misol i Danygrisiau tua'r pryd hwnw, a phwy a roddwyd i holi am hanes yr achos ond Mr. G. Williams, yr hwn, ar ddiwedd yr ymddiddan â T. J., a ddywedai, "Fe wna efe ddweyd ychydig pa fodd y mae yr achos yn Nghwmorthin," gan hysbysu y Cyfarfod Misol nad oedd yno eglwys, ond cangen ysgol. Ar hyn dyma T. J. yn dechreu, "Yr oeddych yn dweyd nad oedd acw eglwys. Y mae acw ysgol boreu Sabbath, a phregeth am ddau, a chyfarfod gweddi ar nos Fawrth, a seiat bob yn ail, ac mi fyddai i yn meddwl fod acw rywbeth heblaw hovel lloiau. Dydan ni ddim wedi cau o gwmpas y capel? Nag ydan. Yr oeddwn i yn meddwl am y gair hwnw sydd gan y Proffwyd am y gŵr ac yn ei law linyn mesur,' ac yr oedd y llanc wrth ben y llinyn, yn myn'd yn ei flaen, ac yna yn stopio, ac y mae rhywun yn gwaeddi, Rhed, llefara wrth y llanc hwn, gan ddywedyd, Jerusalem a gyfaneddir fel maesdrefi (trefi heb gaerau).' Ie, machgen i, dos a'r llinyn yn dy law, dos ymlaen gyda phen y tâp, ymestyn, cerdda, dos yn mhellach eto—dos yn dy flaen! Felly, wn inau yn y byd lle i stopio. Ac mi ddaeth yr hen benill i fy meddwl,-

'Yr Arglwydd bia'r ddaiar lawn,
A'i llawnder mawr sydd eiddo.'

Yr ydw i'n gwel'd, felly, mai'r Arglwydd Iesu pia hi o glawdd i glawdd, ac wn i ddim lle i roi clawdd i lawr." Yr oedd y cyfarfod wedi ei haner syfrdanu, yn enwedig gan y darluniad eirias-boeth o'r bachgen a'r tâp yn ei law. Collwyd llawer o seiadau gwlithog a grymus wedi colli T. J., a chollwyd blaenor oedd wedi gwneuthur ei farc ar y wlad.

Rai blynyddau cyn ei farwolaeth, rhoddodd i fyny bob cysylltiad â'r Gloddfa yn y Rhosydd, ac aeth i fyw am beth amser i Borthmadog, ac wedi hyny i Benmorfa, lle y gwasanaethodd fel blaenor am y rhan ddiweddaf o'i oes. Cyflwynwyd iddo anerchiad a thysteb gan yr eglwys yn Nhanygrisiau ar ei ymadawiad. Cafodd weled y rhan fwyaf o'i blant wedi ymsefydlu yn hynod ddedwydd yn y byd, ac yn dilyn yn llwybrau crefydd a rhinwedd eu tad a'u mam.

Daw coffhad am Evan Roberts mewn cysylltiad â'r Rhiw. Bu un William Roberts hefyd yn gwasanaethu fel blaenor yma am dymor byr; ymfudodd ef a'i deulu i'r America.

GRIFFITH DAFYDD, CEFNBYCHAN.

Dewiswyd ef yn flaenor yn 1848, ymhen pum' mlynedd ar ol ei dderbyn yn aelod eglwysig. Dychwelwyd ef dan weinidogaeth y Parch. D. Rees, Capel Garmon. Er ei fod yn ŵr heb bron ddim addysg ddyddiol, llwyddodd i fynu dysgu darllen ac ysgrifenu Cymraeg yn dda, ac yr oedd yn naturiol yn un o'r rhai cyflawnaf o synwyr. Gallai arfer y synwyr hwnw pan fyddai eraill bron colli eu penau. Yr oedd yn hynod o dawedog hyd nes y gofynid ei farn, ac nid ar unwaith na phob amser y byddai yn barod i ddweyd ei farn. Ond pan y dywedai hi, byddai yn eglur a di-dderbynwyneb, a dyma un o'i ragoriaethau. Gŵr ydoedd yn meddu y cymeriad o fod "yn gyd-ostyngedig â'r rhai isel-radd." Hoff gan ei frodyr fyddai gwrando arno yn dweyd ei brofiad. Safai yn gryf dros ei farn, er hyny ni chyfodai byth wrthwynebiad, ond yr oedd yn hynod foneddigaidd ei ysbryd. Yr oedd dylanwad yn cydfyned â'i eiriau, gan y byddai bob amser fin arnynt. Un o'r rhai mwyaf defnyddiol gyda'r Ysgol Sabbothol. Gwasanaethodd fel trysorydd yr eglwys am flynyddau, a thrysorydd clwb adeiladu y capel yn yr adeg bwysicaf fu arno. Terfynodd ei oes mewn heddwch oddeutu naw mis o flaen ei gyfaill anwyl W. Williams.

WILLIAM MONA WILLIAMS

Efe oedd y mwyaf adnabyddus o'r holl swyddogion, a'r mwyaf dylanwadol, a'r enwocaf ymhob ystyr. Genedigol ydoedd, fel y dynoda yr enw, o Sir Fon. Daeth i Sir Feirionydd i weithio ar Reilffordd Porthmadog a Ffestiniog, ar adeg ei gwneuthuriad, ac yn ol ei eiriau ef ei hun, treuliodd y Sabbath cyntaf ar ol ei ddyfodiad mewn unigrwydd a hiraeth yn agos i Orsaf bresenol Tanybwlch. Yr oedd wedi ymuno â chrefydd cyn gadael Sir Fon. Ymhen rhyw gymaint o amser, ymsefydlodd yn Nhanygrisiau, a rhoddwyd ef ar unwaith mewn gwaith trwy ei ethol yn flaenor. Fel hyn yr ysgrifena ef ei hun, mewn Nodiadau ar hanes crefydd yn yr ardal, na fuont erioed yn argraffedig,-"Yn y flwyddyn 1839, ymhen tua blwyddyn ar ol adeiladu y capel, ychwanegwyd at y ddau hen frawd oedd yn blaenori, frawd arall-dyn ieuanc y pryd hwnw, o Sir Fon-o'r enw William Williams, yr hwn, 'trwy ras Duw,' sydd yn aros hyd y dydd heddyw." Derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol yn Mhenmachno, pan oedd Dwyrain a Gorllewin Meirionydd yn un. Y Parch. Owen R. Morris, Minesota, a ddywed, "Nid wyf yn gallu nodi y flwyddyn y daeth W. Mona Williams i gartrefu yn Nhanygrisiau, ond yr wyf yn cofio yr adeg yn dda; cyfododd i sylw yn fuan, a chafodd ei ddewis yn flaenor, ac yr oeddwn yn teimlo yn ddrwg nad allaswn roddi pleidlais drosto, oherwydd fy ieuenctid; yr oeddwn yn meddwl y byd o hono, am y byddai mor gyfeillgar a siriol gyda ni y plant." Un felly ydoedd, nodedig o gyfeillgar a siriol gyda phawb, cefnogol i bobl ieuainc, a medrus hefyd i'w meithrin a'u dwyn ymlaen mewn crefydd. Bu yn America am dymor byr ar ol hyn. Yn Nghyfarfod Misol Talsarnau, Tachwedd 1846, ceir cyfeiriad at ei ddychweliad. "Coffhawyd fod y brodyr Edward Rees a Thomas Williams—pregethwyr a aeth oddiwrthym yn ddiweddar i'r America, yn cofio atom fel Cyfarfod Misol, trwy gyfrwng William Williams, blaenor o Danygrisiau, yr hwn sydd newydd ddychwelyd oddiyno."

Yn Llangefni yr ymunodd â chrefydd. Yr oedd yn gwasanaethu yn Lledwigan, ac mewn odfa wlithog yn y capel eisteddai brawd crefyddol a meddylgar yn ei ymyl, o'r enw William Edwards, yr hwn a wyddai am argraffiadau crefyddol ei feddwl, ac yn gweled ei fod yn teimlo yn ddwys o dan y weinidogaeth y tro hwnw, a ddywedai ynddo ei hun, "Wel, fe erys W. W. ar ol heno." Ond chwilio am ei het i fyned allan yr oedd. Cydiodd yntau yn nghwr ei goat, a gwnaeth iddo eistedd. Felly y noswaith hono, ac yn y dull hwnw y bwriodd ei goelbren gyda phobl yr Arglwydd. "Lawer gwaith," ebai y Parch. James Donne, yr hwn a adroddai am yr amgylchiad ar ddydd ei angladd, "y bum yn myned o Langefni i Danygrisiau i bregethu, a'r cwestiwn cyntaf a ofynai W. W. i mi fyddai, Sut y mae William Edwards?' Ac nid unwaith na dwywaith y rhoddodd yn fy llaw haner sovereign i'w rhoddi i W. Edwards." Dyna beth tâl i'r gwr roddodd help iddo i ymuno â chrefydd, drwy gydio yn ymyl ei wisg.

Treuliodd W. Williams oes ddefnyddiol o'r dydd hwnw allan. Gwnaeth gymwynasau cyffelyb i laweroedd, trwy roddi help llaw iddynt ddyfod at grefydd, ac i lynu wrth eu crefydd. Yr oedd yn grefyddol, yn addfwyn, yn ddoeth, ac yn gefnogol i bawb a phobpeth fyned yn ei flaen. Rhoddodd help i liaws o bererinion ar eu ffordd i'r nefoedd. Deallai faterion eglwysig yn ol y Testament Newydd yn well na llawer, ac fe wnaeth waith mawr gyda theyrnas yr Arglwydd Iesu, mewn adeiladu y saint, a hyfforddi eglwysi y sir y perthynai iddi. Yr oedd yn meddu ar synwyr cyffredin tuhwnt i'r cyffredin, ac yr oedd yn hynod am ei graffder a'i allu i adnabod dynion, ac am ei gydwybodolrwydd dwfn i grefydd. Fel blaenor, ystyrid ef heb ddim petrusder yn un o rai blaenaf ei oes; cymerodd ei le, a chadwodd ei le fel gŵr o gyngor yn y Cyfarfod Misol ac yn y Gymdeithasfa, a llanwodd y lleoedd uchaf a berthynai i'w swydd ef yn y Cyfundeb. Symudodd ymlaen gyda'r oes yr oedd yn byw ynddi gyda phob mater o bwys. A mwy na hyny, cymerodd ran neillduol mewn arwain y Methodistiaid yn Nghymru gyda golwg ar rai symudiadau pwysig. Bu yn un o'r rhai cryfaf i bleidio bugeiliaeth eglwysig ar hyd ei oes. Yn ei sir ei hun, efe a osodid fynychaf, ar gyfrif ei bwyll a'i fedrusrwydd, i wastadhau cwerylon ac anghydfod mewn eglwysi. Bu hefyd amryw weithiau yn traddodi anerchiadau i flaenoriaid ar eu derbyniad yn aelodau o'r Cyfarfod Misol. Ac un o'r pethau diweddaf a wnaeth cyn myned i'w wely i beidio codi mwy, oedd parotoi cyngor i nifer o frodyr ar eu neillduad i'r swydd, yr hwn a ddarllenwyd wedi hyny yn y Cyfarfod Misol.

Bu yn addurn i grefydd yn ei wlad, ac yn golofn gref yn yr eglwys yn Nhanygrisiau. Cofir yn hir am ei ddull astud, serchog, calonogol, yn gwrando'r efengyl. Byddai ei Amen cynes yn llon'a y capel, ac yn llawn peroriaeth, am y cynwysai wir deimlad y Cristion addolgar. Un o'r engreifftiau mwyaf tebyg ydoedd yn ei ddull o wrando i'r darluniad a rydd y bardd o Bantycelyn am Mrs. Grace Price, o Watford, yn gwrando ar y Parch. David Jones, o Langan:—

"Yn Llangan o dan y pulpud,
'Roedd ei hysbryd, 'roedd ei thref,
Tra fai Dafydd yno'n chwaren
'N beraidd ar delynau'r nef.
Iesu'r text a Iesu'r bregeth
Iesu'r ddeddf, a Iesu'r ffydd,—
Meddai Jones, a hithau'n ateb,—
Felly mae, ac felly bydd!"

Pwy yn yr oes hon a gafwyd yn debyg i William Williams am fod yn gareg ateb i'r pregethwr, ac i ddweyd dan y weini dogaeth, "Felly mae, ac felly bydd?" Bu yn flaenor am haner can mlynedd, a therfynodd ei yrfa faith mewn llawenydd mawr, ar y 23ain o Ebrill, 1889, yn 80 mlwydd oed, a chladdwyd ef y Sadwrn canlynol yn ymyl capel Bethesda. Bendigedig yn sicr fydd ei goffadwriaeth ef am amser hir i ddyfod, yn Nhanygrisiau ac yn Ngorllewin Meirionydd. Y blaenoriaid yn bresenol ydynt, Mri. W. W. Morris, Andreas Roberts, John Thomas, R. Williams, Board School; Robert Roberts (1890). Mae y Parch. S. Owen wedi bod yn weinidog yr eglwys er 1865; y cysylltiad hwyaf sydd wedi bod hyd yma yn Sir Feirionydd rhwng eglwys a'i gweinidog.

Gwrandawyr, 782; cymunwyr, 386; Ysgol Sul, 571.

TRAWSFYNYDD.

Y mae hen achos gan y Methodistiaid yn Nhrawsfynydd. Nid oes ond pedair neu bump o eglwysi yn Ngorllewin Meirionydd y gellir cael sicrwydd eu bod yn hŷn na'r eglwys yn y lle hwn. Ac eto, ychydig o hanes yr achos yma yn ei ddechreuad sydd i'w gael yn unman. Ychydig grybwyllion yn unig a geir am y lle yn Methodistiaeth Cymru.

Yn y flwyddyn 1887, ysgrifenwyd traethawd helaeth ar Ddechreuad a Chynydd Methodistiaeth yn Nhrawsfynydd, gan Mr. Ellis Williams (Iolo Prysor), Isallt, Trawsfynydd, yr hwn oedd yn draethawd gwobrwyedig mewn Cyfarfod Cystadleuol a gynhaliwyd yn y lle y flwyddyn hono. Cafodd yr awdwr, oherwydd ei gysylltiadau â'r ardal, lawer o fantais i holi yr hen bobl am ddechreuad yr achos, ac y mae mewn modd rhagorol wedi crynhoi ynghyd bron gymaint o ffeithiau ag a allesid gael. Y mae diolchgarwch yn ddyledus iddo ef am ei ddiwydrwydd yn casglu yr hanes. Gwneir defnydd helaeth o'r traethawd hwn yn yr hanes a roddir yma.

Y mae Pandy-y-Ddwyryd, lle mae yn wybyddus fod cymdeithas eglwysig wedi ei sefydlu oddeutu y flwyddyn 1757, trwy offerynoliaeth yr hynod Lowri Williams, bron ar derfynau plwyf Trawsfynydd. Ychwanegwyd yn fuan, at yr wyth enaid a wnelai i fyny y gymdeithas yno, y nifer o bump eraill, ac yr oedd un o'r pump o Drawsfynydd. Gwelwyd hefyd, oddiwrth hanes yr achos yno, fod cysylltiad masnachol agos rhwng John Pritchard, gŵr Lowri Williams, â'r pentref hwn. Ffaith arall ydyw, mai un genedigol o'r ardal hon ydoedd Edward Robert, y pregethwr a'r blaenor a ofalai am yr achos yn Pandy-y- Ddwyryd o'r dechreuad. Magwyd ef y rhan foreuaf o'i oes yn y Wernbach, ffermdy oddeutu tair milldir o'r pentref, ar lan afon Eden, neu afon Crowgallt. Mae y ffeithiau hyn yn gyfryw y gellir dibynu arnynt. Ac oddiwrthynt, tynir casgliad yn y traethawd a grybwyllwyd, fod yr achos Methodistaidd wedi ei gychwyn yn Nhrawsfynydd yn rhwyle rhwng 1757-1760. Ond amlwg ydyw, oddiwrth ffeithiau eraill, fod yr adeg yma gryn lawer yn rhy foreu. Faint bynag o sel a berthynai i'r crefyddwyr cyntaf, nid ar unwaith yr oeddynt yn dechreu achos newydd. Yn hytrach, elent bellder mawr o ffordd er mwyn glynu wrth y frawdoliaeth y perthynent iddi. Ac yn araf hefyd yr oedd y disgyblion yn amlhau y dyddiau hyny. Mae yn wybyddus fod erlid mawr yn Nhrawsfynydd am lawer o flynyddoedd ar ol i'r achos ddechreu yn Mhandy-y-Ddwyryd, yn gymaint felly na feiddiai neb o'r pregethwyr fyned trwy y pentref, heb son am bregethu yno. Yr amser hwn oedd yr adeg y ceir crybwylliad am dano yn Methodistiaeth Cymru: "Adroddai John Evans (Bala) y byddai ef, a dau frawd eraill, yn cychwyn o'r Bala ar foreu Sabbath, i gadw cyfarfod gweddïo yn Mlaen-lliw am naw, a Phandy-y- Ddwyryd am ddau o'r gloch, a dychwelyd yn ol i'r Bala yr un diwrnod, a hyny ar eu traed. Yr oedd hyn, debygid, oddeutu 35 milldir. Dywedai yr hen wr y buasai yn dda ganddynt gael bara a chaws yn Nhrawsfynydd wrth ddychwelyd, ond yr oedd yn rhaid i ni (meddai) gadw ymhell oddiwrth y pentref hwnw.'"

Yn Ngoleuad Cymru am Mawrth, 1827, ceir byr-gofiant am Mr. Richard Jarrett, o Drawsfynydd. Yr oedd y gŵr hwn wedi treulio boreu ei oes mewn oferedd a gwagedd, ond tua'r flwyddyn 1778, cafodd dröedigaeth amlwg iawn. A'i hanes o hyny allan ydyw, "Bu Richard Jarrett yn un o'r prif offerynau i gael pregethu i ardaloedd Trawsfynydd, Maentwrog, Ffestiniog a'r cymydogaethau. Yn ei dy ef y dechreuwyd pregethu gan y Trefnyddion Calfinaidd gyntaf o un man yn mhlwyf Trawsfynydd. Ac yn ei dŷ ef y byddent yn pregethu am amryw flynyddoedd. Efe ydoedd y mwyaf nodedig o bawb yn yr ardaloedd hyn am gael cyhoeddiadau pregethwyr o'r Gogledd a'r Deheudir, i ddyfod yma i gyhoeddi gweinidogaeth y cymod. Llawer o weithiau yr aeth i'r Deheudir i'r perwyl yma ar ei draed." Adroddir hanes hefyd am Richard Jarrett yn myned gyda Griffith Siôn, o Ynysypandy, o Drawsfynydd i Ddolgellau, pryd yr oedd erledigaeth fawr yn y dref hono, yr hwn hanes sydd yn cyfateb i'r blynyddoedd cyntaf ar ol tröedigaeth y blaenaf, amgylchiad sydd yn rhoddi ar ddeall nad oedd neb arall yn Nhrawsfynydd ar y pryd a feddai wroldeb i fyned ar y fath neges. Mae y ddau ddigwyddiad hyn yn hanes Richard Jarrett yn profi yn lled eglur nas gellir casglu fod cychwyniad wedi ei roddi, gyda dim graddau o gysondeb, i'r achos yn Nhrawsfynydd yn flaenorol i 1780. Y crybwylliad cyntaf am yr eglwys, fel y cyfryw, yma, hyd y gwelsom, sydd yn hanes bywyd John Ellis, Abermaw. Cafodd y gŵr hwn ei benodi yn un o'r rhai cyntaf fel ysgolfeistr yr Ysgolion Rhad cylchynol, o dan arolygiaeth y Parch. T. Charles, o'r Bala. Bu peth petrusder ynghylch ei gyflogi, oherwydd ei anfedrusrwydd, a'i ddieithrwch i'r gwaith. "Ond ar daer ddymuniad y brodyr yn eglwysi Ffestiniog a Thrawsfynydd, anturiwyd ei gyflogi." Ymunodd John Ellis â'r ysgolion hyn oddeutu y flwyddyn 1785. Oddiwrth y cyfeiriad hwn, ac amryw ffeithiau eraill, yr ydym yn tueddu i gasglu fod cychwyniad yr achos yn Nhrawsfynydd yn gydamserol a'r cychwyniad yn Llan Ffestiniog, sef yn fuan ar ol y flwyddyn 1780.

"Y tŷ cyntaf," yn ol y traethawd a ysgrifenwyd dair blynedd yn ol, "a roddodd achles i Fethodistiaeth yn yr ardal hon oedd y tŷ isaf yn Stryd Fain." Yn y cofiant a ysgrifenwyd am Mr. Richard Jarrett, yn 1827, dywedir mai yn ei dy ef y pregethwyd gyntaf, ac mai "yno y byddent yn pregethu am amryw flynyddau." Cyn belled ag y gellir gweled oddiwrth y tystiolaethau, yr ydym yn dyfod i'r casgliad mai yn y tŷ hwn yn y pentref y preswyliai Richard Jarrett. Mewn cofiant byr i Edward Roberts, y pregethwr, yn Ngoleuad Cymru 1829, dywedir mai "efe a'i frawd R. Roberts fuont yn foddion i gael lle i bregethu yn mhentref Trawsfynydd." Ond ni hysbysir yr adeg. Mae yn ffaith, pa fodd bynag, mai yn y Stryd Fain yr ymgynullai y frawdoliaeth i addoli am gryn lawer o amser ar y dechreu. Mae yn debyg i'r tŷ hwn gael ei neillduo, fel yr oedd yr achos yn cynyddu, yn gwbl at wasanaeth crefydd. Troed ef, fel y gwnelid yn fynych mewn lleoedd eraill y blynyddoedd hyny, o fod yn dy anedd yn addoldy. Gelwid ef yr "Hen Gapel," neu o'r hyn lleiaf gellir casglu hyny, gan y gelwir y cae tu ol i'r tŷ hyd heddyw, Cae'r Hen Gapel. Yn y capel hwn a gelwid ef yn gapel y pryd hyny-yn rhywle o 1785 i 1790, cafodd y Parch. John Jones, o Edeyrn, odfa effeithiol iawn. Adroddwyd yr hanes gan Robert Jones, Rhoslan, wrth Griffith Solomon. Yr oedd cyhoeddiad Mr. Jones, pan yn ŵr ieuanc, ryw ddydd gwaith ar ganol cynhauaf gwair, yn Nhrawsfynydd. Rhyw amaethwr a ddywedai wrth y rhai oedd ar waith ganddo gyda'r gwair, "Mi a'ch gadawaf chwi am enyd, ac a af i'r capel i wrando pregeth; gwnewch chwithau eich goreu." Ac ymaith ag ef tua'r capel, ond ymhen ychydig troes yn ei ol, a dywedodd, "Yr wyf yn clywed fod rhywbeth anghyffredin yn canlyn y dyn sydd i fod yn y capel heddyw; mi hoffwn i chwi ddyfod i gyd i wrando arno." Felly yr aethant oll, yn chwech o nifer; a sicrheir fod pob un o honynt wedi derbyn bendith gan Dduw, ac wedi eu dychwelyd at grefydd. Prin ugain mlynedd y buwyd yn addoli yn y rhan o'r pentref a elwir Stryd Fain. A'r oll sydd yn wybyddus am yr eglwys y tymor hwn ydyw ychydig o grybwyllion am rai o'r blaenoriaid, yr hyn a welir eto yn mhellach ymlaen.

Yn y flwyddyn 1798 yr adeiladwyd y capel cyntaf. Safai hwn yn yr un man a'r capel presenol, ond nid yn hollol yr un dull. Yr oedd y capel cyntaf a'i dalcen i'r ffordd, a'i wyneb i gefn y tai sydd yn cyd-redeg âg ochr yr un presenol. Nid oedd yn cynwys ar y dechreu ond pulpud a dwy sêt. Llenwid y gweddill o hono â meinciau, ac ni bu yn gapel a'i lon'd o seti am ddeugain mlynedd. Rhifai y gwrandawyr yn y capel hwn yn rhywle o bedwar ugain i bedwar ugain a phymtheg. Dechreuwyd yr Ysgol Sul yn bur foreu yn Nhrawsfynydd, yn foreuach nag un man arall yn Ngorllewin Meirionydd. Bu hefyd yn ysgol lafurus ac effeithiol drwy y blynyddoedd, yr hyn oedd i'w briodoli, yn yr amser a basiodd, i fesur helaeth, i fedrusrwydd ac effeithioldeb ei harolygwyr. Y diweddar Morris Llwyd, Cefngellewm, oedd yr arolygwr, hyd ei farwolaeth yn Medi, 1867; a Mr. Jarrett ar ei ol hyd ei farwolaeth yntau yn Ionawr, 1888. Rhif yr ysgol pan gasglwyd y cyfrif gyntaf yn 1819 oedd 93. O'r flwyddyn hon hyd 1870, amrywiai y rhifedi o 120 i 290. Ar y cyntaf, ni chynhelid ond dau foddion y Sabbath-ysgol y boreu a phregeth y prydnhawn. Y daith yn 1816 oedd, Ffestiniog, Cwmprysor, Trawsfynydd. Anfynych y cynhelid cyfarfod gweddi, elai y bobl i ganlyn y pregethwr i'r lleoedd eraill yn y daith. Ond yr oedd cyfarfod gweddi wedi dyfod yn beth cyffredin cyn ymadael o'r hen gapel, ac yr oedd tri o ddosbarthiadau wedi eu trefnu i gynal cyfarfodydd gweddi yn eu cylch, sef Dosbarth Thomas Hugh, Morris Llwyd, ac Evan Williams. Blaenor y gân ar y cyntaf oedd Robert Roberts, y siopwr; dilynwyd ef gan Benjamin Edwards. Bu diwygiad mawr yn y capel hwn, y fath na chyffyrddodd â'r un o'r ardaloedd cylchynol. Ychwanegwyd y pryd hwnw at rif yr eglwys yn y lle y nifer o bedwar ar ddeg a thriugain. Bu y Moriah cyntaf hwn yn gartref Methodistiaeth am un mlynedd a deugain, sef o'r flwyddyn 1798 i 1839. Prif hyrwyddwyr a blaenoriaid yr achos hyd yr adeg yma oeddynt,-

RICHARD JARRETT.

Crybwyllwyd am dano eisoes fel y prif offeryn i ddwyn pregethwyr i ardal Trawsfynydd. Dywedir yn ei gofiant ei fod yn un o bererinion Sion. Prawf o hyny ydyw ei sel a'i ffyddlondeb mawr gyda'r achos yn ei gychwyniad. Yr oedd ei onestrwydd a'i dduwioldeb yn engraifft deg o'r to cyntaf o grefyddwyr Cymru. Am dano ef, dybygid, yr adroddir yr hyn a ganlyn, pan yr oedd ei amgylchiadau bydol wedi dyrysu, ac y gorfuwyd gwneyd arwerthiant ar ei bethau, "Gwerthwch nhw i gyd (meddai), gwerthwch nhw i gyd; hyd yn nod llwy bren, hyd yn nod llwy bren; talu i bawb sydd arnaf fi eisiau." Oherwydd ei onestrwydd yn y tro hwn, llwyddodd drachefn, a daeth yn berchen eiddo. Bu farw Hydref 5ed, 1826, yn 86 oed.

ROBERT ROBERTS.

Yr oedd yn frawd i Edward Roberts, y pregethwr. Adwaenid ef fel Robert Roberts, y siopwr. Bu yn fasnachwr llwyddianus yn High Street. Un o gewri cyntaf y Methodistiaid oedd ef. Bu farw Ionawr, 1818, yn 69 oed.

WILLIAM JONES, O'R NANTFUDR (wedi hyny o Coedcaedu).

Ganwyd ef yn 1770. Dywedir yn "Hanes Enwogion Swydd Feirion," ei fod yn flaenor gweithgar, ac y byddai yn arfer dechreu o flaen pregethwyr, ac esbonio yn achlysurol oddiar y benod. Yn 1794, symudodd o Drawsfynydd i Fathafarn, Llanwrin, Swydd Drefaldwyn. Yn fuan wedi hyny, dechreuodd bregethu; ac am y rhan ddiweddaf o'i oes, adnabyddid ef fel y Parch. William Jones, Dolyfonddu. Yr oedd yn ŵr o ddylanwad mawr. Bu farw Mawrth 1af, 1837.

THOMAS HUGH (tad y Parch. Thos. Hughes, Machynlleth gynt),

oedd un o flaenoriaid cyntaf yr eglwys. Argyhoeddwyd ef trwy offerynoliaeth Mr. Rees, Llanfynydd, yn y Bermo, yn y flwyddyn 1789. Dywedai y pregethwr "fod yr Arglwydd yn gyffredin yn dechreu gweithredu ar feddwl y rhai ag yr oedd yn meddwl eu hachub, cyn eu bod yn 30 oed." Bachodd y sylw yn ei feddwl, a phenderfynodd ymuno â'r eglwys pan oedd ei hun o gylch 30 oed. Gwnaed ef yn flaenor yn bur fuan. Bu am haner can' mlynedd yn llywio yr achos yma. Yr oedd yn llym a miniog mewn disgyblaeth, a thueddai, fel llawer o'r hen bobl, i wrthwynebu symudiadau ymlaen gyda chrefydd. Ond dyma fel y sieryd y gareg uwchben ei fedd,—"Thomas Hugh, un o henuriaid eglwys y Methodistiaid Calfinaidd, gŵr pwyllog a chywir, anaml ei eiriau, didderbynwyneb, ac nid adwaenai y cyfoethog o flaen y tlawd. Bu farw yn 1840, yn 80 oed."

GRIFFITH RICHARD, TYDDYNGAREG (wedi hyny o Lwynderw).

oedd flaenor, fel y'n hysbysir, yn yr hen gapel, ac am ychydig yn y capel a'i dilynodd. Gŵr pwyllog a chadarn ei gymeriad oedd yntau. Bu farw Awst 1845, yn 71ain oed. PARCH. RICHARD JONES, BALA. Ganwyd ef mewn lle o'r enw Tafarntrip, yn mhlwyf Ffes tiniog. Bu yn cymeryd gofal un o ysgolion Mr. Charles yn Nhrawsfynydd. Yn 1815, dechreuodd bregethu, a thraddododd ei bregeth gyntaf yn nghapel Cwmprysor. Yr oedd yn bregethwr defnyddiol, ac yn ŵr dylanwadol yn y sir. Treuliodd ran olaf ei oes yn y Bala, ac yno y bu farw, Ebrill 17, 1840, yn 55 oed.

PARCH. JOHN PETERS.

Y mae enw y gŵr hwn yn fwy cysylltiedig â Thrawsfynydd na'i gydweinidog a llafurwr, oblegid yma y diweddodd ef ei oes. Coffheir am dano yn fynych yn y wlad yn awr, ymhen agos i driugain mlynedd ar ol ei farw. Brodor ydoedd o Langower, gerllaw y Bala. Argyhoeddwyd ef trwy weinidogaeth y Parch. John Evans, New Inn. Dechreuodd bregethu pan yn 23 mlwydd oed. Yn 1823, ymbriododd â gweddw Mr. Thomas Roberts, o Drawsfynydd, a symudodd yma i fyw. Yn 1827 ordeiniwyd ef, yr un adeg a'r Parch. Henry Rees. Ymben deuddeng mlynedd ar ol ei ddyfodiad i Drawsfynydd, anmharodd ei iechyd, ac ar y 26ain o Ebrill, 1835, bu farw, yn 56 mlwydd oed, yr hyn a barodd alar mawr ymysg lliaws crefyddwyr Sir Feirionydd. Yr oedd John Peters yn ŵr anwyl iawn yn ei wlad, ac yn bregethwr hynod o dderbyniol. "Yr oedd prydferthwch ei wedd, sirioldeb ei dymer, melusder ei ddawn, a phwysigrwydd ei athrawiaeth, yn cyd-wasanaethu i enill iddo wrandawyr a chyfeillion lawer." "Meddyliais," ebai Daniel Evans, Harlech, "am Apolos lawer gwaith wrth ei wrando, ac nid ydwyf yn cofio fy mod un amser yn ei wrando na byddai gwlith yn disgyn ar ryw gwr i'r gynulleidfa." Byddai ganddo ddywediadau byrion, awchlym, yn ei bregethau. Llefarai un tro am undeb â Christ a galwodd sylw y gynulleidfa yn y geiriau canlynol, "Bobl, mae ffordd i uffern o bobman ond o Grist; ond os cewch undeb â Christ, chwi gollwch y ffordd i uffern am byth." Dro arall, pan yn pregethu ar Ddameg y Deng Morwyn, galwodd yn ddeffrous ar ei wrandawyr, "Bobl, edrychwch am fod eich crefydd yn un a ddeil i'w thrwsio." Heblaw bod yn bregethwr hynod o felus, safai mewn parchusrwydd ymysg ei holl frodyr.

Cynyddodd y boblogaeth yn Nhrawsfynydd oddeutu yr un adeg ag y bu y cynydd yn Ffestiniog. Ac yn y flwyddyn 1839, yr ydym yn cael i dri o gapeli newyddion gael eu hadeiladu yn y Dosbarth-Peniel, Ffestiniog; Nazareth, y Penrhyn; a Moriah, Trawsfynydd. Ystyrid y capeli hyn ar y pryd yn rhai anghyffredin o fawr a phrydferth. Cafwyd cryn lawer o wrthwynebiad yn Nhrawsfynydd i ymgymeryd â'r anturiaeth o adeiladu capel mor fawr. Dywediad un o'r hen flaenoriaid goreu yn y lle ydoedd, "Mi gewch wel'd y byddwch mewn trybini." Ond penderfyniad y lliaws a orfu, a dywedir fod tipyn o arian wrth gefn wedi eu casglu yn barod i gychwyn yr anturiaeth. Nid ydyw traul adeiladu y capel hwn ar gael. Ymhen y pum' mlynedd, sef yn Nghyfarfod Misol y Dyffryn, Ionawr 1845, yr ydym yn cael y penderfyniad canlynol yn cael ei basio,-"Sylwyd ar amgylchiadau y capelydd sydd dan ddyled fawr, megis Trawsfynydd, Ffestiniog, a'r Penrhyn. Daeth y brodyr i'r penderfyniad canlynol, sef bod i'r cyfeillion yn y capelydd uchod gasglu a allant yn nghorff y flwyddyn hon, a dyfod a chyfrif teg o'r arian a gasglant i'r Cyfarfod Misol yn nechreu y flwyddyn nesaf, a bydd yr un swm ag a gasglasant hwy yn cael ei roddi iddynt o'r Cyfarfod Misol yn yr ochr ddeheuol o'r sir-swllt at bob swllt, punt at bunt, cant at gant-penderfynwyd hyn trwy godiad deheulaw." Adroddodd Morris Llwyd yr hanes hwn yn y seiat ar ol dyfod adref o'r Cyfarfod Misol. A dywedodd Griffith Richard, Tyddyngareg, yn y fan a'r lle, "Mi rof fi 50p. os gwnewch chwi hwy yn 100p." Y canlyniad fu iddynt gasglu 120p. Erbyn myned i'r Cyfarfod Misol ymhen y flwyddyn, yr oedd y brodyr yno wedi dychrynu, ac nis gallent roddi i'r cyfeillion yn Nhrawsfynydd ond 80p. Yr oedd yn aros o ddyled y capel hwn 180p, yn y flwyddyn 1850, a buwyd ddeunaw mlynedd yn cwbl glirio y swm hwn. Yn 1870, rhoddwyd oriel ar y capel gyda thraul o 262p. 15s. Ac yn 1871 adeiladwyd tŷ da i'r gweinidog, yr hwn a gostiodd 313p. Ss. 2c. Yn 1885, adeiladwyd y capel am y trydydd tro i'r ffurf hardd sydd arno yn bresenol. Aeth y draul i adeiladu y waith hon yn 1836p. 1s. 8c.

Ceir hanes y canghenau eglwysi a gyfododd o Drawsfynydd eto ar eu penau eu hunain, ond mae Ysgoldy Cacadda yn gofyn am sylw byr yma. Sefydlwyd ysgol Sul yn y rhan yma o'r ardal ar y cyntaf mewn tŷ a elwir Tŷ'ntwll, lle y preswyliai un Tudur Thomas, oddeutu y flwyddyn 1790. Ryw ddiwrnod, tarawodd yr adnod hono i feddwl T. T. yn fywiog iawn,- "Hyfforddia blentyn ymhen ei ffordd, a phan heneiddio nid ymedy â hi." Dylanwadodd yr adnod ar ei feddwl mor gryf, fel yr aeth ati ar unwaith i gasglu plant y gymydogaeth i'w dy ar y Sabbath i'w dysgu i ddarllen, a phan ddywedai yr hen wraig wrtho am adael plant pobl yn llonydd, ac addysgu ei blant ei hun, distawai hi trwy alw ei sylw at eiriad yr adnod, "Hyfforddia blentyn," ac nid dy blentyn. Felly y cychwynwyd yr ysgol yma, a bu T. T. yn arolygwr arni tra fu byw. Dygwyd hi ymlaen o'r naill dy i'r llall am agos i driugain mlynedd, pryd y penderfynwyd cael ysgoldy. Cafwyd tir yn rhodd gan John Davies, Ysw., Fronheulog, ac R. Roberts, Ysw., Tŷ'nycoed. Dyddiad y Weithred ydyw 1848. Trwy ymdrech yr ardal, ac elw oddiwrth gyngerdd a roddwyd yn rhad gan gor Bethesda, talwyd y ddyled yn 1849.

Mae y daith wedi ei threfnu fel y mae yn awr, sef Trawsfynydd, Cwmprysor, ac Eden, er y pryd y sefydlwyd achos yn Mlaenau Ffestiniog, yn y flwyddyn 1819. Er fod yr eglwys yn un o'r rhai hynaf, yn gymhariaethol ddiweddar y cynyddodd yn ei rhif. Nifer y cymunwyr yn 1848 oedd 85. Cafodd yr eglwys ymweliad grymus yn y Diwygiad 1858- 1859. Trodd llawer o bechaduriaid at yr Arglwydd y pryd hwn. Ymunodd â'r eglwys yn Nhrawsfynydd y nifer o dri-arddeg a thriugain, ac y mae effeithiau yr ymweliad yn aros hyd y dydd heddyw.

Ar ol yr arweinwyr canu cyntaf y crybwyllwyd am danynt, bu David Roberts, y blaenor ffyddlawn, yn cymeryd gofal caniadaeth y cysegr. Wedi hyn, Griffith Williams, Tŷ'nrhedyn. Ar eu hol hwy daeth William Owen, Muriau, i gymeryd gofal yr adran yma o'r gwaith, a bu llewyrch da ar y canu cynulleidfaol o dan ei arolygiaeth ef. Ond yn yr oes bresenol y mae dadblygiad elfenau cerddoriaeth wedi gwneuthur cynydd mawr rhagor a fu. Ar ol W. O., daeth Robert Jones (Eos Prysor), yn flaenor y gâu, ac efe sydd yn llanw y swydd eto, a dau eraill wedi eu nodi yn gynorthwywyr iddo.

Yn y flwyddyn 1869, daeth yr eglwys i'r penderfyniad o gael gweinidog, a rhoddwyd galwad i'r Parch. William Jones, yr hwn oedd y pryd hyny yn weinidog yn Llanllyfni. Y mae ef wedi bod mewn cysylltiad gweinidogaethol â'r eglwys hyd yn awr.

Y blaenoriaid, heblaw y rhai a nodwyd eisoes, oeddynt,-

EVAN WILLIAM, FACTORY.

Dewiswyd ef i'r swydd, fel y tybiwn, yn yr hen gapel, yn flaenorol i 1839. Edmund Jones, y Shop, hefyd a etholwyd yr un adeg; ond oherwydd rhyw resymau, ni wasanaethodd ef y swydd o flaenor gyda'r Methodistiaid. Gŵr distaw ydoedd Evan William, ond gwastad ei rodiad, a thra defnyddiol gyda'r achos. Yn ei ymadawiad collwyd un o ffyddloniaid Seion. Gadawodd y fuchedd hon Rhagfyr 1853, yn 55 mlwydd oed.

EDWARD HUMPHREY.

Derbyniwyd ef, Mr. Jarrett, a David Roberts, yn aelodau o'r Cyfarfod Misol Rhagfyr 1848. Dyn plaen a di-dderbynwyneb oedd ef. Byddai yn ymylu weithiau ar fod yn gâs a brwnt, ond diameu mai ei onestrwydd a chywirdeb ei amcan oedd wrth wraidd ei ymddygiad. Tymor byr fu iddo ef yn ei swydd. Cymerwyd ef adref Mehefin 1852, yn 71 mlwydd oed.

MORRIS LLWYD, CEFNGELLGWM.

Y gŵr hwn oedd y mwyaf enwog o holl flaenoriaid Trawsfynydd, ar gyfrif meithder yr amser y bu yn y swydd, yn gystal ag oherwydd ei alluoedd a'i ffyddlondeb, bron anghymarol. Yr oedd yn disgyn o deulu hynafol y Llwydiaid o Gynfal, plwyf Maentwrog, sef Hugh Llwyd a Morgan Llwyd. A mab iddo ef ydyw Morgan Lloyd, Ysw., Q.C, diweddar Aelod Seneddol dros Fwrdeisdrefi Môn.

Ganwyd Morris Llwyd yn Cefngellgwm, amaethdy gerllaw pentref Trawsfynydd, yr hwn le oedd yn dreftadaeth i'r teulu. Cafodd ei hyfforddi mewn gwybodaeth Ysgrythyrol yn dra ieuanc, gan un a elwid Tomos y Melinydd, fel y daeth yr un mwyaf hyddysg yn ei wybodaeth o'r Hen Destament o bron bawb yn Nghymru. Bwriadai ei dad ei ddwyn i fyny yn offeiriad yn eglwys Loegr, ac anfonwyd ef i'r ysgol i'r Amwythig gyda golwg ar hyny. Ond oherwydd i wasanaethyddes oedd yn y teulu ddywedyd wrtho nad oedd cymhwysder ynddo i sefyll uwchben pechaduriaid oedd a'u hwynebau ar fyd tragwyddol, ac y byddai eu gwaed yn cael ei ofyn oddiar ei ddwylaw ef, rhoddodd y bwriad heibio am byth. Dywedir y byddai yn arfer myned i wrando pregethu i hen gapel cyntaf y Methodistiaid, yr hwn oedd yn y Stryd Fain, ac mai yno y bachodd y gwirionedd yn ei feddwl. Pan yn ddeunaw oed, rhoddodd ei hun yn gyntaf i'r Arglwydd, ac yna i'w bobl. Ymgymerodd â gweithio gyda chrefydd ar unwaith. Llithrodd i'r swydd o flaenor heb yn wybod iddo ei hun na neb arall. Ni bu dewisiad arno i'r swydd gan yr eglwys, na derbyniad iddo gan y Cyfarfod Misol. Fel y digwyddodd i lawer o'r tadau, tyfodd Morris Llwyd yn ddiacon yn naturiol, ac ni ddarfu i neb erioed lenwi y swydd yn ffyddlonach. Rhan bwysig o'i wasanaeth fel blaenor, trwy gydol ei oes, ydoedd porthi y praidd â gwybodaeth ac â deall, eu cynghori a'u rhybuddio, a dal i fyny burdeb disgyblaeth eglwysig. Mynychai y Cyfarfodydd Misol yn lled gyson, a gwrandewid yn barchus bob amser ar ei gynghorion pwyllog. Yr oedd yn un o'r blaenoriaid a law-arwyddodd Weithred Gyfansoddiadol y Cyfundeb.

Treuliodd oes faith fel un o wyr parchusaf ei ardal, a chan ei fod yn freeholder, rhoddid iddo yn wastad le uwch na'r cyffredin o drigolion y plwyf. Cymerai y blaen gyda symudiadau a chymdeithasau daionus yr oes. Ond yn yr eglwys, a chyda yr Ysgol Sabbothol y rhagorodd fwyaf. Bu yn ysgrifenydd y Cyfarfod Ysgolion am yn agos i haner can' mlynedd; ac mae y gwaith a wnaeth gyda hyn yn gof-golofn goffadwriaethol i'w enw. Ceir ychwaneg am dano yn y cysylltiad hwn yn y benod ar yr Ysgol Sabbothol. Dywedir am dano, "ei fod wedi gosod ei wyneb yn deg tua'r nefoedd, a phe buasai pawb yn y plwyf yn troi yn ol, buasai ef yn myned ymlaen yn debyg fel o'r blaen." Yr oedd yn un o'r blaenoriaid mwyaf defnyddiol a dylanwadol yn y rhan yma o Sir Feirionydd; y mae ei enw i'w gael mewn cysylltiad â phob symudiad o bwys ynglyn a'r Cyfarfod Misol am faith flynyddoedd. Wedi bod am driugain mlynedd yn llenwi cylchoedd o ddefnyddioldeb, bu farw Ebrill 9, 1867, yn 77 mlwydd oed.

JARRETT JARRETT, GLASFRYN.

Yn ddiweddar y cymerwyd ef oddiwrth ei waith at ei wobr, ac felly mae y cof am dano eto yn fwy byw yn y wlad nag unrhyw un o'i gyd-swyddogion a'i rhagflaenodd i ogoniant. Yr oedd yntau yn hanu o un o deuluoedd parchusaf y plwyf. Mae Jarrett yn enw teuluaidd yn yr ardal a'r cylchoedd. Treuliodd ef oes faith a defnyddiol yn y lle, ac yr oedd y bwlch yn fawr ar ei ol. Parhaodd cysylltiad agos rhyngddo a Methodistiaeth am dros driugain mlynedd. Cafodd fantais fawr pan yn ieuanc i ymgydnabyddu a chrefydd yn ei phethau goreu, oblegid lletyai llawer o'r pregethwyr yn ei gartref. Yn y Glasfryn y lletyai yr anfarwol John Elias, pan ar ei deithiau yn a thrwy Feirion. Ysgrifenodd y pregethwr poblogaidd lawer o lythyrau at ei gyfaill i.uane yn Nhrawsfynydd, yn llawn cynghorion doeth a chrefyddol, yr hyn a ddengys fod ganddo feddwl mawr o hono, er ieuenged ydoedd. Parhaodd y cysylltiad hwn rhwng y Glasfryn â gweinidogaeth a gweinidogion yr efengyl ar hyd ei oes.

Llanwodd Mr. Jarrett gylchoedd o ddefnyddioldeb mawr ymysg ei gydoeswyr. Yr oedd yn fasnachydd llwyddianus ac yn amaethwr cyfarwydd. Yn ei gysylltiadau masnachol, meddai gryn wybodaeth ynghylch cyfferiau meddygol, a gwnaeth lawer o ddaioni i'w gyd-ddynion gyda'r cyfryw bethau. Bu yn llanw y swydd o arolygwr yr Ysgol Sabbothol am flynyddoedd meithion. Dewisasid ef yn flaenor eglwysig ddeugain mlynedd union i'r flwyddyn y bu farw. Ac ar ol i'r hen batriarch Morris Llwyd noswylio, arno ef y disgynodd y fantell, a'r rhan drymaf o'r cyfrifoldeb gyda'r gwaith. Cynrychiolai yr eglwys yn fynych yn y Cyfarfodydd Misol a'r Cymanfaoedd. Gwnaeth ei ran i wella yr achos ymhob ystyr, a safodd yn gryf o blaid y weinidogaeth. Yr oedd ei grefydd a nawseidd-dra ei ysbryd yn amlwg iawn yn niwedd ei oes, a theimlai ymlyniad cryf wrth bob peth a berthynai i deyrnas y Cyfryngwr. Bu yntau farw mewn oedran teg, yn mis Ionawr, 1888. Yn y Cyfarfod Misol cyntaf ar ol hyny, "gwnaethpwyd coffhad serchus am Mr. Jarrett, Trawsfynydd, yr hwn a fu yn ŵr cymeradwy ac uchel ei barch yn yr ardal hono ar hyd ei fywyd, a'r hwn hefyd oedd yn dra adnabyddus i gylch eang o Fethodistiaid yr oes hon a'r oes o'r blaen. Hynodid ef fel dyn duwiol, gwybodus, ac ymroddedig gyda theyrnas yr Arglwydd Iesu."

Y mae David Roberts, yr hwn sydd eto yn aros, ac yn awr yn henafgwr, heblaw gwasanaethu yn ffyddlon y swydd o flaenor am dros ddeugain mlynedd, wedi bod yn wasanaethgar hefyd mewn cylchoedd eraill, megis gyda chaniadaeth y cysegr, a lletya gweinidogion y Gair am lawer o flynyddoedd. Bu Mr. Morris Roberts, Brynysguboriau, wedi hyny o Dysefin, ond sydd yn awr wedi ymfudo i'r America, yn flaenor yma.

Y blaenoriaid yn bresenol ydynt,—Mri. David Roberts (er 1848), Cadwaladr Williams (er 1861), David Morris, William Evans, John Williams, a John Jones.

Rhif y gwrandawyr, 506; cymunwyr, 230; Ysgol Sabbothol, 336.

CWMPRYSOR.

Y Cwm sydd yn ymestyn oddiwrth Drawsfynydd, gydag ochr y Rheilffordd i gyfeiriad y Bala, ydyw Cwmprysor. Wrth deithio gyda'r Rueilffordd, mae y capel i'w weled yn y gwastad islaw, gyda thŷ wrth bob talcen iddo, a'i olwg allanol erbyn hyn yn dechreu myned yn henafol. Cwyna y brodyr yn y lle hwn mai ychydig o ffeithiau sydd ar gael i'w croniclo o fewn cylch amseryddiaeth. Y mae sicrwydd, fel y ceir gweled yn y benod ar yr Ysgol Sabbothol, i ysgol gael ei dechreu yn y Bwlchgwyn, yn y gymydogaeth hon, mor foreu a'r flwyddyn 1787. Yn y tŷ hwn y trigianai Hugh Roberts yr hwn a grybwyllodd gyntaf am ddechreu ysgol wrth Edward Roberts, "Vicar y Crawcallt," tra yr elent eu dau i'r moddion crefyddol i Frynygath, ac mewn gweithdy perthynol iddo ef y dywedir ei bod yn cael ei chynal gyntaf. Bu yn symudol o dy i dŷ yn yr ardal hyd nes y daeth i'r capel; ac yno y bu yr hen frodyr ffyddlon Richard Griffith, Glanllafar, a William Dafydd, Bodyfudda, yn arolygwyr iddi am flynyddoedd lawer. Yr oedd hon yn un o'r wyth ysgol a ffurfient y Dosbarth Ysgolion yn 1819. Ei rhif y flwyddyn hono oedd 68, a chadwodd heb fod lawer yn fwy na llai o hyny hyd yn awr. Ei rhif yn 1889, ymhen deng mlynedd a thriugain, ydyw 64.

Adeiladwyd capel Cwmprysor yn 1815. Mehefin y flwyddyn hono ydyw dyddiad y brydles; ei hyd, 999 mlynedd; ardreth flynyddol, 6c. Dau o'r ymddiriedolwyr cyntaf oeddynt, Lewis Morris ac Owen Williams, Towyn. Yr oedd 20p. o ddyled yn aros yn 1850. Y mae un a wrandawai yn y capel hwn 55 mlynedd yn ol, yn cofio y byddai y plant yn dyfod iddo yn yr haf yn droednoeth-goesnoeth, ac yn y gauaf deuid a llwyth o frwyn o'r mynydd, a thaenid ef ar hyd y llawr, fel y byddai y gwrandawyr yn y moddion hyd eu haner mewn brwyn. Ni wnaed byth fawr ddim cyfnewidiad ar y capel yn allanol, ond y mae ychydig flynyddau yn ol wedi ei adnewyddu a'i wneuthur yn gysurus y tufewn. Yn 1867, rhoddodd Mrs. Davies, Fronheulog, dir am ddim, yn ychwanegol at y tir oedd ar brydles, er mwyn adeiladu tŷ arno mewn cysylltiad â'r capel.

Byddai yn arferiad yma flynyddau yn ol i gadw cyfarfodydd gweddio ar gylch yn holl dai y gymydogaeth, ac ar brydiau byddai arddeliad neillduol yn dilyn y cyfarfodydd hyn. Ar adegau cynhelid cyfarfodydd gweddi yn Mlaenycwm, a phan y byddai yno, deuai brodyr o Gapel Celyn i gyfarfod brodyr Cwmprysor i'w gyd-gynal. Llawer gwaith y cyfododd y teimladau crefyddol yn uchel, ac y bu molianu hyfryd ar hyd y Cwm hwn. Mynych y clywid llais Sara Dafydd, Bodyfudda, yn gorfoleddu, o glogwyn i glogwyn, ac o fryn i fryn, trwy holl blwyf Trawsfynydd, weithiau ganol dydd ac weithiau ganol nos. Cofir am un noswaith yn arbenig pan yr oedd John Williams, Llecheiddior, a Robert Owen, Llanrwst, yn pregethu yn y Cwm, a'r ysbryd wedi disgyn mewn modd neillduol ar bawb oedd yn y lle, y gynulleidfa yn ferw gwyllt drwyddi, a'r ddau bregethwr wedi ymuno â'r gwrandawyr yn neidio oddiar y llawr gan ddiolch a molianu. Nid oes neb all ddweyd pa bryd y sefydlwyd yr eglwys yn Nghwmprysor. Dichon ei bod wedi ei sefydlu cyn adeiladu y capel. Mae yr eglwys a'r gynulleidfa wedi cael bob amser yr un manteision gweinidogaethol a Thrawsfynydd. Nid oedd neb wedi eu galw i fod yn flaenoriaid yma hyd Ionawr 1826. A methasom a chael gwybodaeth am neb fu yn gwasanaethu y swydd o hyny hyd yn awr ond y rhai canlynol,-

WILLIAM JARRETT, GLANLLAFAR.

Yr oedd ef yn berthynas agos i'r gŵr a roddodd ei dŷ gyntaf i dderbyn pregethu yn mhlwyf Trawsfynydd, ac yn un o linach y Jarretts sydd yn lliosog yn y wlad hyd heddyw. Heblaw amaethwr, yr oedd William Jarrett yn borthmon, ac felly yn dilyn llawer ar anifeiliaid, a dywediad Dafydd Rolant, y Bala, am dano ydoedd, "ei fod wedi cael gras wrth gynffon y fuwch." Mae yn lled amlwg, pa fodd bynag, ei fod ef wedi cael gras, sut bynag yr oedd wedi ei gael, oblegid tystiolaethai ei gymydogion am dano y byddai yn gofalu dyfod adref i'r Cwm erbyn noson seiat a noson cyfarfod gweddi pen mis o ffeiriau Sir Gaernarfon, a holl ffeiriau y wlad.

WILLIAM DAFYDD, BODYFUDDA.

Yr oedd ef, mae'n debyg, yn un o'r blaenoriaid cyntaf, ac yr oedd yn ŵr gweithgar a defnyddiol iawn gyda'r achos. Yn mis Mai 1841, gosodwyd ef gyda nifer o flaenoriaid eraill y Cyfarfod Misol i olygu ar ryw lwybr tuag at leihau dyled y capelau. Nid oes ddadl ynghylch ei dduwioldeb. Fe ddywedir ar seiliau digonol fod ôl ei benliniau o dan goeden neillduol yn yr ardd lle byddai yn myned i weddïo, i'w weled yn goch am amser hir ar ol iddo farw. Cafodd fyw yn hir i wasanaethu crefydd, a magodd blant fuont yn golofnau cedyrn o dan yr arch ar ei ol.

RICHARD GRIFFITH, GLANLLAFAR.

Dengys y tocyn canlynol yr amser y neillduwyd ef i'r swydd,—

RICHARD GRIFFITH,

Golygwr Cymdeithas

Y Methodistiaid Calfinaidd

Cwmprysor, yn Swydd Feirionydd.

Arwyddwyd gan

Mehefin 13, 1838.................RICHARD JONES.

Gŵr pwyllog, gwastad gyda chrefydd ydoedd ef, ac yn fawr ei ofal am holl amgylchiadau yr achos. Perchid ef yn fawr gan fyd ac eglwys, oherwydd ei ymarweddiad cyson, a'i gariad cryf at achos y Gwaredwr. Ystyrid pobpeth a ddywedai yn ddeddf ar unwaith. Ei briod, Ellin Griffith, hefyd, oedd yn meddu crefydd nodedig o ddisglaer. Cyfodai ei theimladau crefyddol mor uchel weithiau, fel y byddai yn tori allan mewn gorfoledd yn y nos, a dywedir y bu ei phriod yn fynych yn rhoi ei law ar ei genau rhag iddi aflonyddu y teulu. Bu Richard Griffith farw mewn henaint teg, Ionawr, 1873. Glanl'afar bob amser ydoedd cartref y pregethwyr, ac y mae yn parhau i fod felly eto.

DAVID JONES.

Derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol fel blaenor, Medi 1854. Bu farw yn niwedd y flwyddyn 1882. Yr oedd ef yn fab i William Dafydd, Bodyfudda. Cafodd ddygiad i fyny crefyddol, ac yr oedd ôl hyny i'w weled arno bob amser. Crefyddwr da fel ei deulu oedd yntau, a thynodd ei gwys i'r pen mewn heddwch a thangnefedd. Bu Evan Roberts, o Maentwrog Uchaf, yn blaenori yn yr eglwys hon. Y blaenoriaid yma yn awr ydynt, William Jones, Glanllafar, a David Jones, Bryngafolau.

Nifer y gwrandawyr, 77; cymunwyr 36; Ysgol Sul, 64.

EDEN

Megis yr Eden gyntaf, felly y Mae yr Eden yma yn cario gyda'r enw y syniad o bellder, o ran lle ac amser. Er mwyn y rhai na wyddant, dywedwn yn gyntaf fod y capel hwn ar ochr y ffordd fawr sydd yn arwain o Drawsfynydd i Ddolgellau, oddeutu pedair milldir o'r lle cyntaf, a naw o'r olaf. Gelwir yr ardal yn y cylchoedd cyfagos Caeau Cochion. Ar lyfrau y Cyfarfod Misol, mae y capel fel taith Sabbath mewn cysylltiad â Thrawsfynydd, ac mae y tri lle, "Trawsfynydd, Cwmprysor, ac Eden," yn daith Sabbath er pan adeiladwyd y capel. Nid yw y tri yn annhebyg i dri throed trybedd, ond fod un troed yn fyrach na'r traed eraill. Y blynyddoedd diweddaf mae y brodyr yn Nhrawsfynydd yn rhoddi ceffyl a cherbyd i gludo y pregethwr yn ol a blaen i Eden.

Dechreuwyd yr achos yma trwy gychwyn Ysgol Sul, rywbryd o 1819 i 1823, mewn ffermdy o'r enw Graigddu Uchaf. Tebygol ydyw mai Richard Roberts, Hafod-fedw, wedi hyny y Parch. Richard Roberts, Dolgellau, oedd sylfaenydd yr ysgol hon. Gan fod yr ardal yn hynod o wasgarog, cynhelid hi, am lawer o flynyddoedd ar ol. adeiladu y capel, ar hyd gwahanol dai y gymydogaeth. Credir iddi gael ei huno â'r dosbarth tua diwedd 1836, pryd yr oedd ei rhif yn 19. Yn Hydref, 1866, sefydlwyd ysgol arall, fel cangen o ysgol Eden, yn Brynteg; ac yn 1869, symudwyd hi i'r Aber, i ystafell eang a roddwyd at ei gwasanaeth gan Robert Williams. Ceir ychwaneg o fanylion am yr ysgolion hyn yn Adroddiad Mr. E. Vincent Evans, am y flwyddyn 1871.

Adeiladwyd capel Elen yn y flwyddyn 1822, ar brydles o 99 mlynedd, ac ardreth flynyddol o 2s. 6c. O ran ei wedd allanol, erys y capel yn debyg hyd heddyw, eithr gwnaethpwyd rhai cyfnewidiadau tufewn iddo. Mae yn ansicr pa bryd y ffurfiwyd yma eglwys gyntaf, ond ni bu erioed yn lliosog. Ei rhif yn 1840 oedd 13, ac nid oedd ond saith o'r rhai hyny i ddibynu arnynt. Bu y Parch. Humphrey Evans, Maethlon, yn byw yn yr ardal hon pan yn ddyn ieuanc. Yr oedd yma yn y blynyddoedd 1837-8. Rhoddodd ef, ynghyd a'i fam. yn-nghyfraith, Anne Jones, yr hon a breswyliai yn nhŷ y capel, lawer o gynorthwy i'r achos yn yr adeg wanaf arno. Yma hefyd y dechreuodd y Parch. Robert Griffith, Bryncrug, bregethu (bu yn trigianu yn yr ardal am ychydig flynyddau); anfonwyd cenhadon i'r eglwys i'w holi o Gyfarfod Misol Awst, 1846. Dewiswyd brawd i flaenori yr eglwys yn Eden yn niwedd 1840. Owen Griffith, fel y tybir, oedd efe, brodor o Sir Gaernarfon, a brawd i R. Griffith, y pregethwr. Wedi gwasanaethu yr achos yn ffyddlon, ymfudodd i'r America. Hysbysir mai efe oedd blaenor cyntaf yr eglwys. Dafydd Pugh, Cefndeuddwr, a fu yn flaenor yma y tymor hwn. Yr oedd wedi bod yn flaenor yn Llanelltyd, a cheir crybwylliad am dano yno. Nid ymddengys y bu yma fawr neb wrth ei swydd yn blaenori hyd ar ol y diwygiad, 1859. Morris Llwyd, Cefngellgwm, fyddai yn dyfod yma trwy y blynyddoedd i wneuthur gwaith blaenor pan fyddai eisiau, sef adio y llyfrau ar ddiwedd blwyddyn, derbyn rhai yn gyflawn aelodau, disgyblu, gwastadhau anghydfod, derbyn arian y seti, ysgrifenu y cyfrifon. Neillduwyd tri yn flaenoriaid yr un adeg, oddeutu 1863, sef Robert Dafydd, Tŷ capel; John Owen, Ynystomos; ac Owen Evans, Caegwyn.

ROBERT DAFYDD.

Gwasanaethodd ef ei swydd gyda ffyddlondeb. Er nad oedd cyhoeddusrwydd yn perthyn iddo, eto arolygai yr achos gartref gyda gwir ofal calon. Yr hyn a'i nodweddai yn arbenig fel Cristion ac fel swyddog oeddynt, addfwynder, tynerwch, a ffyddlondeb. Bu yn gwasanaethu swydd blaenor am tuag un mlynedd ar hugain, a bu farw yn y flwyddyn 1884.

JOHN OWEN.

Parhaodd yntau yn ei ffyddlondeb, trwy ddilyn y moddion o bellder ffordd, a bu yn wasanaethgar i'r achos tra bu yn aros yma. Symudodd i fyw i Lanelltyd. Bu farw Ebrill 21ain, 1886, yn 84 mlwydd oed.

Symudodd Owen Evans, Caegwyn, ryw bymtheng mlynedd yn ol, i fyw y naill du i Gorwen. Bu ef a'i deulu o wasanaeth mawr i grefydd tra buont yma, ac yr oedd eu colli yn golled fawr. Y maent eto yn para yn eu ffyddlondeb i'r achos goreu. Bu Ellis Williams, Graigddu; David Thomas, a John Jones, Caegwyn; a Cadwaladr Williams, Aber, yn gwasanaethu y swydd, ond y maent yn awr wedi symud o'r ardal. Gwasanaethodd y chwaer Jane Davies, Tŷ Capel, lawer ar yr achos yn Eden. Mae ei thŷ wedi bod yn llety y fforddolion dros lawer o flynyddoedd. Ac yn yr amser gynt, pan oedd y teithio yn gwbl ar draed ac ar feirch, laweroedd o weithiau y troes gweision yr Arglwydd i mewn yma, megis y Meistr mawr wrth ffynon Jacob, i eistedd yn lluddedig, ac i ddiwallu eu hangen, tra nad oedd dim i'w gael yn unman arall.

Y blaenoriaid yn awr ydynt, Robert Williams, Aber, ac Edmund Richards.

Nifer y gwrandawyr, 70; cymunwyr, 34; Ysgol Sul, 56.

MAENTWROG (UCHAF).

Dyma yr eglwys agosaf i Bandy-y-Ddwyryd, lle y planwyd hedyn cyntaf Methodistiaeth yn Ngorllewin Meirionydd. Yn y drydedd benod, rhoddwyd hanes lled fanwl am y digwyddiadau o berthynas i gychwyniad cyntaf crefydd yn y gymydogaeth, hyd farwolaeth Lowri Williams, yr hyn a gymerodd le yn y flwyddyn 1778. Gan i'r hedyn gwreiddiol ddisgyn yn y fro hon, gallesid disgwyl cael ffrwyth toreithiog a didor. Ond fel arall y digwyddodd. Y mae bwlch o fwy na deng mlynedd ar hugain heb i ddim o hanes crefydd yn y gymydogaeth gael ei gofnodi. Nid ydym yn cael ond y nesaf peth i ddim i'w groniclo hyd nes yr adeiladwyd y capel yn 1810, ac nid yw y defnyddiau wedi hyny ond hynod o brinion. Ymdaenodd dylanwad "teulu yr arch" yn fwy dros y cymydogaethau cylchynol, gan adael Maentwrog am flynyddau meithion heb na phroffwyd na phroffwydes o bwys yn cyfodi ar ol marwolaeth Lowri Williams. I wneyd yr hanes i fyny mor gyfan ag y gellir, nis oes genym, gan hyny, ond lloffa ychydig yma ac ychydig acw.

Yn Tafarn-y-trip, ar derfyn plwyf Maentwrog, yn 1784, y ganwyd y Parch. Richard Jones, o'r Bala. Dywed ef, mewn bywgraffiad byr am dano ei hun, nad oedd ei rieni yn nyddiau ei febyd yn grefyddol, a'u bod yn byw mewn cymydogaeth dywyll iawn." Gallwn gasglu oddiwrth ei sylw, nad oedd yn y gymydogaeth ond ychydig o fanteision crefyddol, na dim cyfle i ymuno â chrefyddwyr. Dywed hefyd yn mhellach, yr hyn a rydd radd o oleuni ar amgylchiadau yr amseroedd,- "Yn yr haf y flwyddyn 1790, anfonodd Mr. Charles, o'r Bala, ŵr duwiol i'r gymydogaeth [Hugh Evans, o'r Sarnau, ger y Bala] i gadw ysgol râd Gymreig, yr hon a gedwid mewn tŷ lled wael, a elwid Tŷ'nyfedwen. Ac anfonodd fy rhieni ryw nifer o'u plant i'r ysgol, ac yn un o'r nifer yr oeddwn inau, y pryd hwnw rhwng pump a chwech mlwydd oed." Eto, "Calanmai y flwyddyn 1796, rhoddwyd fi yn egwyddorwas i ddysgu'r gelfyddyd o wneuthur dillad. Ac yn y blynyddoedd hyn torodd diwygiad grymus iawn allan gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Ffestiniog, Maentwrog, a Thrawsfynydd, a byddai gorfoledd mawr gan y bobl. Byddai odfa y boreu yn gyffredin yn Ffestiniog, a dau o'r gloch mewn tŷ a elwir Garth Gwyn, plwyf Maentwrog, a byddai yr holl bobl yn neidio a llemain, ac yn canu a bloeddio ar hyd yr holl ffordd, o'r naill le i'r llall, a minau yn cael pleser mawr yn eu canlyn ac yn gwrando arnynt, ac hefyd yn gwrando ar y pregethwr, os bloeddiai ei oreu, ac onite ni fyddai o fawr werth yn fy ngolwg." Mae y crybwyllion hyn yn cyfateb i'r ffaith a geir mewn hanesiaeth, sef, fod diwygiad grymus mewn amryw o ardaloedd Cymru, yn ystod blynyddoedd olaf y ganrif ddiweddaf. Yr ydym yn gweled, hefyd, oddiwrth y dyfyniad, mai yn Garth Gwyn y cynhelid y moddion crefyddol yn Maentwrog y pryd hwn.

Ysgrifenodd y Parch. Elias Jones hanes dechreuad Ysgol Sabbothol Maentwrog a'i changhenau, ac argraffwyd ef gyda'r Adroddiad am 1873. Cafodd yntau y defnyddiau gan mwyaf gan Mrs. Laura Jones, Tanygraig, Blaenau Ffestiniog, gwraig grefyddol wedi ei magu mewn cysylltiad â'r achos yn Maentwrog. A'r wybodaeth a gasglwyd y flwyddyn hono yw bron yr oll sydd yn aros o helyntion crefydd yr ardal, ar ol yr amser dechreuol, hyd ddiwedd yr haner cyntaf o'r ganrif bresenol. Dywed yr hanes hwnw,"Yr ysgol gyntaf y mae unrhyw fanylion am ei hanes yn aros yw, yr un a sefydlwyd yn Tynant, cartref John Francis, rywbryd yn nechreu y ganrif bresenol. Y personau oeddynt yn cymeryd y rhan fwyaf blaenllaw gyda hi oeddynt, Humphrey Jones, Gwylan; John Richard, a'i frawd Griffith Richard, Tyddynygareg; Edward Jones, Gellilydan, ynghyd a theulu y tŷ. Nifer yr ysgol yn y lle hwn ydoedd o 30 i 40. Yn 1810, adeiladwyd capel uchaf Maentwrog, a symudwyd yr ysgol yno; ac ychwanegwyd at y brodyr a enwyd, Owen Evans, Llechwedd-y-Coed; Meredith Jones, Maentwrog; a William Roberts, Factory." Rywbryd tua 1820, daeth nifer liosocach i fynychu yr ysgol, a dechreuodd diwygiad yn ei dygiad ymlaen, trwy amcanu egluro a deall yr hyn a ddarllenid, oblegid cyn hyny yr hyn yr amcenid ato, bron yn gwbl, oedd dysgu darllen. Ffurfiwyd math o glwb, i'r diben o brynu llyfrau, y rhai a fenthycid i'r ysgolheigion ar gylch. Yn eu plith prynwyd esboniad, a byddai raid gofalu am i'r esboniad gael ei ddychwelyd i'r ysgol erbyn y Sabbath, a dyna lle y byddai ar y bwrdd i ymofyn âg ef os digwyddai i ddadl gyfodi yn rhai o'r dosbarthiadau. Nid oedd ond un dyn ieuanc yn proffesu crefydd yn perthyn i'r ysgol; a chan nad oedd yr hen frodyr ond darllenwyr hynod o wael, os yn wir y medrent ddarllen o gwbl, trefnwyd i'r athrawon nad oeddynt yn proffesu, ddarllen ar ddechreu yr ysgol, ac i'r crefyddwyr weddio. Ymgymerodd yr athrawon, meddir, â'r gwaith hwn yn ewyllysgar, "Ac i brofi nad oedd y gwaith yn faich arnynt, dewisent yn y cyffredin benod lled faith, mor faith fel y gorfodid yr hen frawd Griffith Richard, wrth alw un o'r brodyr anllythyrenog i fyned i weddi, i roddi gorchymyn awgrymiadol, Dos dipyn i weddi yn fyr heb ganu.'" Hysbysir i ddau frawd arall fod o wasanaeth i'r ysgol y tymor hwn, sef Edward Edwards, Pandy, ac Owen Willlams, Gyfynys. Nifer yr ysgol yn 1873 oedd 108.

Oddeutu 1818, sefydlwyd cangen ysgol yn y Dduallt. Am yr ysgol hon y rhed yr hanes,-"Wedi bod yn crwydro e gegin gefn Glanyrafon i Dafarn Trip, Bryn Arthur, Efail Tanybwlch, &c., a gwneyd llawer o ddaioni ymhob lle, dywedai William Ellis nad oedd neb wedi bod ar ei golled o roddi llety i'r ysgol; i bob un o'r teuluoedd y bu ynddynt yn yr ardal hon dderbyn bendithion tymorol ac ysbrydol trwy ei chroesawu, oblegid i gadw fod ar rai i fywyd tragwyddol yn yr holl deuluoedd. Wrth wrando arno yn adrodd hyn, gofynodd un iddo, os oedd yn meddwl fod ———— yn y nefoedd. 'Oh ydyw, yn sicr ddigon, fy machgen i,' meddai yntau; 'welaist ti erioed lai o deimlad da at Iesu Grist a'i achos raid gael i fyn'd i'r nefoedd.'" Sefydlwyd cangen ysgol, hefyd, yn Tyddynygareg, Mehefin 23ain, 1867, yr hon a rifai o 40 i 45. Bu teulu y tŷ hwn yn garedig iawn iddi.

Adeiladwyd y capel cyntaf yn 1810, a thalwyd am y tir 50p. Yr oedd tŷ ac ystabl wrth ei dalcen, yn ol yr hen ddull. Yn yr un flwyddyn, sef 1810, yr adeiladodd yr Annibynwyr gapel Glanywern, "ar ochr y ffordd o Drawsfynydd i Faentwrog, yn y cyfwng rhwng Penyglanau a Phenlan." Deuddeng mlynedd yn flaenorol yr oeddynt hwythau wedi ymffurfio yn eglwys o wyth enaid yn y gymydogaeth, Yr oll a wyddis am ddyled capel cyntaf y Methodistiaid ydyw fod 40p. yn aros heb ei dalu yn 1850. Ac er lleied ydoedd, ceir y penderfyniad canlynol yn cael ei basio yn Nghyfarfod Misol Tachwedd, 1854, "Rhoddwyd caniatad i William Ellis i ddyfod trwy yr eglwysi i gasglu tuag at ddyled capel Maentwrog." Yn 1864, helaethwyd y capel, trwy estyn ei ffrynt yn nes at y ffordd. Ymddengys i'r oes hon mai yr unig gymhwysder i leoliad y capel hwn ydoedd, ei fod wedi ei adeiladu ar ochr y ffordd fawr. Nid oedd yn agos i unman, ond ymhell oddiwrth bron bob preswylfod dynol. syndod ydyw i drigolion y pentref barhau i ddringo i fyny iddo trwy yr holl flynyddoedd. Erys yr hen adeilad ar ei draed eto yn gofgolofn o ffyddlondeb y preswylwyr yn cyrchu iddo bellder ffordd o bob cyfeiriad. Yn 1878, adeiladwyd capel newydd, yn uwch i fyny yn yr ardal, ac yn fwy yn nghanol y boblogaeth. Cafwyd tir i adeiladu yn feddiant gan Mr. Ellis Humphreys, ar delerau tra rhesymol, a chyflwynodd y Cyfarfod Misol ddiolchgarwch iddo am ei garedigrwydd Cristionogol. Yn ol Adroddiad Meddianau y Cyfundeb, gall 188 eistedd yn y capel hwn; y draul i'w adeiladu 774p. 12s. 9c. Yn 1889, prynodd y tair eglwys sydd yn perthyn i'r daith, mewn undeb a'u gilydd, dŷ i'r gweinidog, i fyw ynddo, yr hwn sydd mewn lle hynod o gyfleus.

Yn y Garth Gwyn, fel y crybwyllwyd, y cynhelid y moddion cyn adeiladu y capel cyntaf, ac yr oedd Ffestiniog a Thrawsfynydd gyda'r lle hwn y pryd hyny yn gwneyd i fyny un daith. Yn 1816 y daith oedd, Wern, Penrhyn, a Maentwrog. Bu am dymor maith wedi hyny gyda Ffestiniog, a thrachefn am ychydig gyda Llanfrothen. Y mae yn awr gyda Llenyrch a Maentwrog Isaf, a dau bregethwr y rhan fynychaf yn y daith y Sabbath.

Y mae gofal Rhagluniaeth wedi bod yn fawr am lety i bregethwyr y Methodistiaid yn Sir Feirionydd. Pan fyddai y drws yn cau mewn un man, agorai yn annisgwyliadwy mewn man arall. Felly yn Maentwrog. Y Garth Gwyn oedd lloches yr achos yn agos i gan' mlynedd yn ol. Wedi hyny, bu cartref y pregethwyr yn hir yn Tynant, lle yr oedd John Francis yn byw. Tŷ y capel hefyd fu yn gartref iddynt o dro i dro. Ac amryw eraill a ddangosasant yr un caredigrwydd. Llety dedwydd y fforddolion yn awr er's blynyddoedd ydyw Bryntwrog, gyda Mrs. Jones, a'i mab Mr. W. E. Jones.

Rhoddir yma restr o'r swyddogion mor gyflawn ag y gallwyd ei chael, ond digon tebyg fod ynddi fylchau. Methwyd a chael dim hanes o'r lle. Y blaenoriaid cyntaf oeddynt, Griffith Richard, a John Richard, Tyddynygareg. Yr oedd y ddau yn dda allan yn y byd. Rhoddasant eu dylanwad o blaid yr Ysgol Sabbothol ar y cychwyn cyntaf. Griffith Richard oedd yr arolygwr; meddai ar fesur o dalent, ac ystyrid ef yn ŵr sicr iawn. Dau eraill o flaenoriaid yn yr amser boreuol oeddynt Edward Jones, Gellilydan, a William Richard, Penrhiw. Yn mis Mai 1842, derbyniwyd Edward Edwards, Pandy, yn aelod o'r Cyfarfod Misol fel blaenor. Bu ef dros ryw dymor wedi hyny yn myned i'r addoliad i Drawsfynydd. Yn Nghyfarfod Misol Mai 1851, derbyniwyd Owen Humphreys ac Evan Roberts yn flaenoriaid. Parhaodd y ddau i flaenori gyda'u gilydd yn hir. Yr oedd yr hen flaenor hynod William Ellis wedi dysgu pobl Maentwrog i siarad yn ddistaw, ac wedi gosod llawer o'i ddelw ar yr eglwys, fel mai distawrwydd mawr fyddai gan amlaf yn teyrnasu yn yr hen gapel. Dull arafaidd a distaw oedd gan y ddau frawd hyn. Ar ol gwasanaethu ei swydd yn ddiwyd a ffyddlawn am ugain mlynedd, bu Owen Humphreys farw yn mis Mai 1871. Dangosodd Evan Roberts ffyddlondeb yn ol y gallu a roddwyd iddo yntau, ac ymhen rhyw gymaint o amser ar ol marwolaeth ei gyd-flaenor, symudodd oddiyma i Danygrisiau.

Ganwyd William Ellis yn Bronturnor, yr ochr orllewinol i bentref Maentwrog, yn y flwyddyn 1789, a bu farw yn yr un lle yn 1855, yn 66 mlwydd oed. Treuliodd yr ugain mlynedd cyntaf o'i oes yn ddigrefydd, ac yn hollol estronol i foddion gras. Pan o gylch ugain oed, anfonwyd ef gan ei feistr— gwasanaethu yr oedd ar y pryd—ar neges i Drawsfynydd, ac yno yn ddamweiniol, aeth i wrando John Elias yn pregethu, ar ganol dydd gwaith, lle yr argyhoeddwyd ef. Aeth trwy gwrs o helyntion blinion yn ystod ei argyhoeddiad, yn gymaint felly ag y bu agos iddo golli ei synwyr a rhoddi terfyn ar ei einioes. Penderfynodd gynyg ei hun i eglwys y Methodistiaid yn Maentwrog, ond gan mor ddrwg yr oedd yn gweled ei hun, ofnai na chai mo'i dderbyn. Digwyddodd daro ar y Parch. Daniel Evans, Harlech, a gofynai iddo, "Os na bydd y cyfeillion yn foddlawn i mi ddyfod i'r seiat, gofynwch iddynt a wnant hwy weddio droswyf." Bu mewn cyfyngder mawr dros gryn amser pan yn myned trwy fwlch yr argyhoeddiad, ond manteisiodd lawer ar y cyfyngder, gan iddo fod yn foddion i loewi ei grefydd, ac i flaenllymu ei athrylith. Un o'r pethau hynod yn ei hanes ydyw ei dröedigaeth.

Nid oes wybodaeth pa bryd y dewiswyd William Ellis yn flaenor. A'r tebyg ydyw na bu dewisiad arno o gwbl, ond iddo, fel llawer o flaenoriaid y cyfnod hwnw, ddechreu gweithio gyda'r achos nes cael ei hun yn flaenor yn ddiarwybod. Dechreuodd weithio felly yn fuan ar ol 1815. Arferai ef ei hun ddweyd na ddewiswyd mo hono yn rheolaidd erioed gan yr eglwys. Tra yr oedd Dr. Parry, Bala, yn pregethu yn Maentwrog, ar ryw brydnhawn Sabbath, traethai W. Ellis am ei galon ddrwg, ac nas gallai byth anghofio yr olwg a gawsai arni yn Nhrawsfynydd. Gwrandawai Dr. Parry arno, ac o'r diwedd gofynodd iddo,—

"Os ydych yn ddyn mor ddrwg, pa fodd y dewiswyd chwi yn flaenor?"

"Ddewiswyd erioed mo honof fi yn flaenor, Parry bach," ebai yntau.

"Wel, sut yr aethoch chwi i'r swydd?" gofynai y gweinidog.

"O, mi ddeudaf i chwi yn union deg. Rhyw bobl bach pur ddiniwed sydd yma, a minau yn gryn stwffiwr." Ni ystyrid mo hono gan neb yn stwffiwr; ei ffordd ef ei hun o siarad oedd hyn. Tyfodd yn naturiol i fod yn flaenor o enwogrwydd mawr. Yr oedd yn siaradwr a dynai sylw yn fwy nag odid neb o'r urdd yn ei oes. Perthynai iddo wreiddioldeb, a ffraethineb, a duwioldeb neillduol o arbenig. Rhoddid y lle mwyaf cyhoeddus iddo ymhob cynulliad, o'r Ysgol Sabbothol hyd y Gymdeithasfa, a byddai ar rai adegau yn y cynulliadau hyny yn hyawdl tuhwnt i ddisgrifiad. Canlynai enwogion y Cyfundeb yn fynych yn eu teithiau, a dechreuai yr odfeuon o'u blaen. Gwnaeth lawer o sylwadau ffraeth a tharawiadol yn ei oes, y rhai a gofir yn hir ar hyd a lled y wlad. Ond cuddiad ei gryfder ydoedd, "Ei dduwioldeb, ei athrylith, a'i hynawsedd." Diffyg mawr ynddo i flaenori ydoedd diffyg prydlondeb. Yr oedd tuedd i ymdroi ac ymlusgo ynddo gyda phob peth, y byd a chrefydd yr un ffunud. Gofynai Mr. Humphreys unwaith mewn Cyfarfod Misol, wrth holi am yr achos yn Maentwrog,—"A ydych yn dyfod i'r cyfarfodydd yn lled brydlon yma, William Ellis?" "Wel, Mr. Humphreys bach," atebai yntau, "yr ydym yn myned o bob cyfarfod gyda'n gilydd yn daclus." Ond er y ffaeleddau hyn a berthynent iddo, ystyrid ef yn un o flaenoriaid hynotaf ei oes. Ysgrifenwyd hanes ei fywyd pan y Parch. Griffith Williams, Talsarnau, mewn llyfr bychan a elwir "[[Yr Hynod William Ellis]]."

JOHN JONES, BRYNTWROG.

Derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol Mawrth laf, 1869. Bu farw Ionawr 26ain, 1881. Yr oedd yn adnabyddus i gylch eang o gyfeillion fel brodor o'r ardal, a pherchid ef yn fawr ar gyfrif ei liaws rhagoriaethau. Yr oedd yn ŵr tawel a heddychlon, ac o gymeriad dilychwin. Arno ef y gorphwysai y rhan drymaf o'r gwaith yn y Capel Uchaf am flynyddoedd, ac yr oedd ei golli yn golled drom. Mae ei fab ar ei ol wedi dechreu dwyn yr iau er yn ieuanc.

DAVID HUGHES.

Bu yntau yn ŵr ffyddlon yn ol ei amgylchiadau. Syrthiodd llawer o'r baich ar ei ysgwyddau yntau cyn diwedd ei oes, ac ymgymerodd âg ef yn ewyllysgar. Mawr fyddai y boddhad wrth ei weled yn mwynhau moddion gras, ac yn gofalu am amgylchiadau yr eglwys. Daeth ei yrfa i derfyniad yn lled. annisgwyliadwy ar ddiwedd 1885, tra nad oedd ond cymbarol ieuanc.

Neillduwyd Mr. Evan Nanney Evans yn flaenor yma Medi, 1861, symudodd i Gaernarfon; Mr. Griffith Pritchard, Mawrth, 1869,—symudodd gyda'r eglwys i'r Capel Isaf; Mr. Richard Davies, Mawrth, 1874,—symudodd i Harlech. Bu y tri yn weithgar yma yn ystod tymor eu harosiad. Y blaenoriaid yn awr ydynt, Mri. W. E. Jones, Evan Roberts, Edward Williams, Daniel Jones, John B. Williams, David Davies.

Yma y dechreuodd y Parch. David Williams, Coedybleiddiau, bregethu, yn fuan ar ol 1836. Ymfudodd i America, a diweddodd ei oes ychydig flynyddau yn ol yn Sir Drefaldwyn. Yma hefyd, yn niwedd y flwyddyn 1847, y dechreuodd Mr. David Davies, wedi hyny o'r Rhiw, a thrachefn o Gorris, bregethu.

Bu y Parch. Elias Jones yn weinidog rheolaidd yr eglwys, o 1869 i 1876. Y Parch. G. C. Roberts, o Mehefin, 1877, i Rhagfyr, 1889.

Nifer y gwrandawyr, 154; cymunwyr, 72; Ysgol Sul, 110.

LLENYRCH

Ardal wledig, deneu ei phoblogaeth, ydyw Llenyrch, yn sefyll megis rhwng Talysarnau a Maentwrog, i fyny ar ben y bryniau, ar y dde wrth fyned o'r blaenaf i'r olaf. Terfyna rhan uchaf y gymydogaeth ar Pandy-y-Ddwyryd, ac yr oedd rhai o grefyddwyr cyntaf y wlad yn byw yma. Yn yr hen amser, i eglwys Llandecwyn yr elai y trigolion i addoli. Gwneir crybwylliad i Ysgol Sabbothol gael ei chynal mewn amser boreuol yn Tŷ'nypant, yn yr ardal hon,—y tŷ y bu y gwragedd duwiol yn cyfranogi o Swper yr Arglwydd gyda bara a dwfr ynddo. Tua'r flwyddyn 1830, buwyd yn ei chynal, dros amser byr, mewn annedd dy o'r enw Breichiau, yn yr hwn le flynyddoedd cyn hyny y bu "Mari y Fantell Wen" yn pregethu ei hathrawiaethau cyfeiliornus. Oddeutu 1840— 1845, buwyd yn cynal ysgol mewn lle a elwir Beudy Bach. Anenwadol ydoedd yn y ddau le hyn. Bu y Wesleyaid yn cadw Ysgol Sul wedi hyny yn y Tŷ Newydd, lle rhwng y capel a ffermdy Llenyrch. Ymhen amser, aethant hwy yn llai eu nifer, a rhoddasant yr ysgol i fyny. Yn y cyfwng hwn, daeth y Methodistiaid yn fwy lliosog, ac yn y flwyddyn 1856, yr ydym yn cael Ysgol Sabbothol yn ail ddechreu eto, a'r achos yn cael ei gychwyn yn y ffurf y mae ynddo yn awr. Y brawd ffyddlon Evan Roberts, un o flaenoriaid Maentwrog Uchaf, fu yn offerynol i ddechreu yr ysgol y tro hwn. Gwehydd ydoedd wrth ei alwedigaeth, ac yn ei awydd a'i sel i ddysgu plant i ddarllen, arferai gymeryd llyfr gydag ef wrth fyned o gwmpas y ffermydd i ddanfon adref y gwaith a fyddai wedi ei wau, a lle y cyfarfyddai â phlant, rhoddai wers iddynt. "Un diwrnod, pan yn ffermdy Llenyrch yn rhoddi gwers yn yr A. B. C. i'r plant, gofynodd gwraig y tŷ, sef Mrs. Gwen Evans, a ddeuai ef i'r gymydogaeth i gadw Ysgol Sabbothol, yn gymaint a bod yno lawer o blant yn codi i fyny heb fod dan unrhyw fath o addysg. I'r hyn y cydsyniodd; ac aed ar unwaith at ŵr y Tŷ Newydd, yr hwn oedd yn digwydd bod ar y pryd yn ymyl, i ofyn a geid dyfod i'w dy ef i'w chynal. A chafwyd atebiad cadarnhaol. Dechreuwyd ar y gwaith gyda sel ac ymroddiad, a llwyddwyd i gael oddeutu 35 o ysgolheigion."[19] Cafodd ei sylfaenydd, i'r hwn y perthynai llawer o wreiddioldeb, gynorthwy brodyr eraill, ac yn eu plith, yr hen gymeriad hynod Robert Richard, Hendregerig. Yr oedd ef yn llawn sel gyda'r gwaith bob amser. Byddai ei bresenoldeb yn y moddion, a'i ddull astud yn gwrando, ynghyd a'i sirioldeb a'i gynghorion, yn creu bywyd yn yr holl aelodau. Y prif arweinwyr yma oeddynt, Edmund Roberts, Penbrynpwlldu, a Richard Roberts, Nantpasgen Bach. Cafwyd cynorthwy hefyd gan y brodyr Richard Jones, Canycoed; Simon Roberts, Tŷ Newydd; John Evans, Llenyrch; Ellis Jones, yr Onen; a Morris Ellis, Nantpasgen. Yn yr haf arferid cynal cyfarfod gyda'r plant yn yr awyr agored o flaen y tŷ. Wrth weled y plant, a'u clywed yn ateb, gorchfygwyd teimladau yr hen frawd Robert Richard un Sabbath, a gofynai ar ganol y cyfarfod, "A oes dim adnod felly yn y Beibl, 'Bydd dyrnaid o fd ar y ddaear ymhen y mynyddoedd; ei ffrwyth a ysgwyd fel Libanus.' Beth ydi dy feddwl di o'r adnod yna Evan? Onid y plant yma sydd yn cael eu dysgu fel hyn yn yr Ysgrythyrau ar ben y mynyddoedd ydynt?" "Ie, fe," atebai Evan Roberts, "y boreu haua dy had, a'r prydnhawn nag atal dy law.' Dyna yda ni yn ei wneyd gyda'r plant yma." Diweddwyd y Sabbath hwnw mewn hwyl nefolaidd iawn.

Cynyddodd yr ysgol, a gwelid yn angenrheidiol cael ysgoldy i'w chynal. Cafwyd tir i adeiladu. Dyddiad y weithred ydyw Gorphenaf, 1861; ardreth flynyddol, haner coron. Ebrill y flwyddyn hono, penodwyd y personau canlynol yn ymddiriedolwyr y capel,-y Parchn. Edward Morgan, Robert Parry, William Davies, Griffith Williams, John Griffith (Dolgellau), Mri. Morris Jones, Cefngwyn; Owen Owen, Rhosigol; John Williams, Penrhyn; Owen Humphreys, ac Evan Roberts, Maentwrog; a John Williams, Siloam. Ac yn yr un Cyfarfod Misol, "Penderfynwyd fod eglwys Talsarnau i roddi arian yr eisteddleoedd tuag at dalu am yr ysgoldy uchod." Swyddogion eglwys Talsarnau, mewn cysylltiad â swyddogion Maentwrog Uchaf, ynghyd a'r brodyr John Evans a Richard Jones, o'r ardal hon, a fuont y prif offerynau i gael hyn o amgylch, a thrwy eu cynorthwy hwy, ynghyd a chasgliad a wnaed yn nosbarth ysgolion Ffestiniog, y llwyddwyd i gael y capel wedi talu am dano. Gan fod y gymydogaeth yn agos i'r canol rhwng Talsarnau a Maentwrog, teimlid anhawsder gyda golwg ar gael pregethu yn y capel. Yn Nghyfarfod Misol Medi, 1863, yr ydym yn cael y penderfyniad canlynol yn cael ei basio, "Fod Maentwrog a Thalsarnau i ganiatau odfa bob un, unwaith yn y mis, i gapel Llenyrch, a bod y rhai sydd yn aelodau yn Llenyrch i berthyn, fel cynt, i Dalsarnau a Maentwrog." Medi, 1865, caniatawyd i'r aelodau eglwysig a fynychent y capel hwn gael cynal society yn wythnosol ; ond gan nad oeddynt eto wedi eu ffurfio yn eglwys, ymddiried wyd dygiad ymlaen y cyfarfod eglwysig i swyddogion eglwysi Talsarnau a Maentwrog, a bod iddynt yn eu tro ofalu am fod yn bresenol yn ei gynal.

Oherwydd fod y gofal am yr achos wedi ei osod ar y cyd, rhwng eglwysi Talsarnau a Maentwrog, digon helbulus fyddai hi ar y brodyr a'r chwiorydd crefyddol yma y blynyddoedd hyn, gan y byddent yn fynych rhwng dau yn syrthio yn fyr o gael cynorthwy gan neb. Gan hyny, dygasant ymlaen eu cais am gael bod yn eglwys reolaidd arnynt eu hunain. Ac yn Nghyfarfod Misol y Tabernacl, Rhagfyr, 1866, yr ydym yn cael eu hachos yn cael ei drafod eto,-"Bu sylw ar y gynulleidfa fechan sydd yn arfer addoli yn Llenyrch, gyda golwg ar ganiatau iddynt gael eu gwneyd yn eglwys reolaidd. Yr oedd y cyfarfod hwn yn ystyried fod sefydlu achosion bychain iawn yn eglwysi rheolaidd yn dra niweidiol yn y cyffredin; ond fe farnwyd fod neillduolrwydd amgylchiadau yr achos bychan yn lle hwn yn peri mai doethach ydoedd cydsynio i'w sefydlu yn eglwys, a phenodwyd y Parchn. Robert Parry a Grffiith Williams i fyned yno gyda golwg ar hyn. Penderfynwyd hefyd i'r lle fod mewn cysylltiad â Maentwrog fel taith Sabbothol." Ac o hyny allan, er fod gan Talsarnau law arbenig, os nad y llaw benaf, i gychwyn yr achos yn Llenyrch, gyda Maentwrog y mae wedi bod fel taith, a dau o'r gloch y mae y bregeth yma bob Sabbath. Rhoddir tipyn o brawf ar nerth corfforol y pregethwr, gan y rhaid tynu i fyny, ar draws ceunant rhamantus, a bydd yn dechreu ar y weinidogaeth y prydnhawn, yn dra mynych, naill ai wedi chwysu, neu wedi colli ei wynt, neu wedi cael ei guro gan y ddrycin. Ond mae y bobl yn siriol a ffyddlon iawn, ac yn y cyffredin dilynir yma yr arfer Fethodistaidd dda o anfon anifail i gyrchu y pregethwr. Y flwyddyn gyntaf ar ol sefydlu yr eglwys, sef ar ddiwedd 1867, rhifai y gwrandawyr 84; yr Ysgol Sul, 50; y cymunwyr, 29. Gwnaed ychydig o adgyweiriad a chyfnewidiadau ynglyn â'r capel tuag 1869.

Y ddau flaenor cyntaf a ddewiswyd-a hyny yn ystod y flwyddyn gyntaf ar ol sefydlu yr eglwys-oeddynt Richard Jones, Canycoed, a Rowland Edwards, Tynewydd. Derbyniwyd y naill yn aelod o'r Cyfarfod Misol, Mehefin, a'r llall Medi, 1867. Ymadawodd Rowland Edwards ymhen ychydig o'r ardal y mae yn awr yn flaenor yn eglwys Bowydd. Bu Richard Jones yn flaenor hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le Mawrth 17eg, 1881, yn 72 oed. Gwasanaethodd y swydd yn hynod o ffyddlon. Yr oedd gyda'r achos o'i gychwyniad cyntaf; bu trymder y gwaith yn pwyso ar ei ysgwyddau, gan mai efe oedd unig flaenor yr eglwys dros amryw flynyddau. Rhoddai ei bresenoldeb yn fynych yn y Cyfarfodydd Misol, a gwnaeth ei ran yn ganmoladwy tra parhaodd ei oes. Yn nechreu 1877, dewiswyd Edward Evans, Llenyrch, i'r swydd; ond ymhen tua phum' mlynedd, symudodd i drigianu i ardal y Gwynfryn, ac y mae yn awr yn flaenor yno.

Y blaenoriaid yn bresenol ydynt, Mri. Evan Jones, Canycoed, er y flwyddyn 1881; William Evans, Llenyrch, ac Ellis Jones Ellis, er 1889.

Y mae yn deilwng o goffhad fod teulu caredig Llenyrch Farm wedi bod yn dra chymwynasgar i'r achos o'i gychwyniad cyntaf.

Rhif y gwrandawyr yn awr ydyw 35; Ysgol Sul, 26; cymunwyr, 28.

MAENTWROG ISAF.

Mae yr hanes am Maentwrog Isaf yn gyfyngedig i'r ugain mlynedd diweddaf, yn gymaint nad oes hyny yn llawn er pan adeiladwyd y capel. Mae y symudiadau gyda chrefydd yn yr ardal yn flaenorol i hyny i'w cael mewn cysylltiad â Maentwrog Uchaf. Buwyd am flynyddoedd meithion yn methu cael tir i adeiladu yn y pentref, ac o ganlyniad yr oedd y bobl oddiyma ac o waelod yr ardal, trwy yr holl amser, yn gorfod myned i addoli i'r capel uchaf. Effeithiodd hyny yn naturiol i beri gwanychdod i achos y Methodistiaid yn Maentwrog. Bu yr Annibynwyr yn fwy ffortunus. Yr oedd ganddynt hwy eglwys wedi ei sefydlu yn Mhenyglanau er tua dechreu y ganrif bresenol. Ac yn 1810, adeiladwyd capel Glanywern ar ochr y ffordd o Drawsfynydd i Faentwrog. Yn 1840, trwy offerynoliaeth Mr. a Mrs. Lloyd, Tanybwlch Hotel, "cafwyd lle i wneyd capel newydd yn ymyl y pentref, a galwyd ef Gilgal." Yr oedd ac y mae y capel hwn yn fanteisiol iawn i bobl y pentref.

Y symudiad cyntaf a wnaethpwyd yn effeithiol gan y Methodistiaid tuag at adeiladu capel yn ngwaelod yr ardal ydoedd yn nechreu y flwyddyn 1872. Yn Nghofnodion Cyfarfod Misol y Bontddu, mis Mawrth y flwyddyn hono, ceir y sylw canlynol,-"Llawenychai y cyfarfod wrth ddeall fod drws o'r diwedd wedi agor i gael tir i adeiladu capel arno yn Maentwrog, a phasiwyd penderfyniad yn arwyddo fod y cyfarfod hwn yn dymuno rhoddi bob cefnogaeth i'r cyfeillion yn Maentwrog i sicrhau y tir yn ddioedi." Eto, yn Nghyfarfod Misol Mai yr un flwyddyn, gwnaed penderfyniad drachefn, "Dodwyd gerbron y cyfarfod stad bresenol pethau yn eu perthynas a'r capel newydd a fwriedir ei adeiladu yn Maentwrog, ac er nad oedd pobpeth ar hyn o bryd yn ymddangos yn galonogol, anogwyd hwynt i fyned ymlaen, a chaniatawyd i'r Parch. Elias Jones i fyned o amgylch ein holl gynulleidfaoedd i gasglu tuag at gynorthwyo cyfeillion y lle i ddwyn y draul." Cafwyd y tir i adeiladu gan Mr. Oakeley, Tanybwlch, ar brydles o haner can' mlynedd, ac am 1p. o ardreth flynyddol. Y nifer all eistedd yn y capel yw 176. Aeth y draul o adeiladu yn 701p. 2s, 8c.. O'r swm hwn, casglodd y Parch. Elias Jones, yr hwn oedd y pryd hwnw yn weinidog yn Maentwrog, 200p. yn eglwysi y sir. Adgyweiriwyd rhyw gymaint ar y capel yn fuan ar ol ei adeiladu, fel yr oedd ar ddiwedd 1880, y swm o 841p. 10s.. wedi ei dreulio rhwng yr adeiladu a'r adgyweirio. Mae y capel hwn bellach yn dra chyfleus i bobl y pentref a gwaelodl yr ardal, ac y mae eisoes wedi bod yn fendith fawr i'r lle. Yr hyn a feddylir wrth "nad oedd pobpeth yn galonogol" yn y penderfyniad uchod ydyw, fod hyd y brydles mor fer, ond yr oedd yn dda ei chael yn yr hyd hwnw.

Aethpwyd i'r capel newydd i addoli yn mis Medi, 1873. Yn Nghyfarfod Misol Brynerug, Hydref y flwyddyn hono, gwnaed y penodiad canlynol,-"Rhoddwyd hysbysrwydd fod capel newydd Maentwrog yn awr wedi ei orphen, a'u bod wedi. dechreu addoli ynddo. Penodwyd i fyned yno i'w sefydlu yn eglwys ar eu penau eu hunain, y Parchn. N. Cynhafal Jones, y Penrhyn, a Mr. R. Griffith, Ffestiniog." Eu rhif ar eu mynediad i'r capel ydoedd, gwrandawyr, 92; cymunwyr, 50; Ysgol Sul, 60. Bu y ddau gapel an ddwy flynedd yn un daith. Yn Hydref, 1875, yr ydym yn cael y penderfyniad canlynol yn cael ei wneuthur,-" Hysbyswyd o Maentwrog a Ffestiniog eu bod wedi penderfynu gwneyd rhaniad ar y teithiau, sef rhoddi y Babell gyda Maentwrog Uchaf, a Llenyrch gyda Maentwrog Isaf. Caniatawyd i'r rhaniad yma. gymeryd lle, gan fod Ffestiniog mor garedig a chynorthwyo y Babell i dalu am un bregeth bob Sabbath, ac anogwyd y Cyfeisteddfod Arianol i roddi 28. 6c. y Sabbath i gynorthwyo Llenyrch yn ol eu cais." Pan adeiladwyd Engedi, Ffestiniog, tynwyd y Babell oddiwrth y trefniad hwn, ac mae y tri lle eto yn un daith, sef Maentwrog Uchaf, Llenyrch, a Maentwrog Isaf, a cheir ynddi yn fynych ddau bregethwr.

Un blaenor a ddaeth i lawr gyda'r eglwys o Maentwrog Uchaf i'r capel isaf, sef Mr. Griffith Pritchard, yr hwn sydd yn awr yn flaenor yn Gorphwysfa. Y rhai cyntaf a ddewiswyd ato ef, ac a dderbyniwyd yn aelodau o'r Cyfarfod Misol, Mawrth, 1874, oeddynt Mri. Richard G. Pritchard, John Richards, Shop Isaf, a J. Parry Jones. Symudodd Mr. R. G. Pritchard i Gorphwysfa, Penrhyndeudraeth, ac y mae yn flaenor yno. Symudodd Mr. Jno. Richards Lanbedr,—ceir sylw arno yno. Symudodd Mr. J. Parry Jones i Blaenau Ffestiniog, ac y mae yn awr yn adnabyddus fel blaenor gweithgar yn Garegddu. Ar ol y brodyr hyn, etholwyd Mr. David Roberts, Glan'rafon, i'r swydd. Gwnaed dewisiad hefyd yn yr eglwys hon ar Mr. John Morgan, yr hwn yn awr sydd yn flaenor yn y Pant. Yn Tachwedd, 1886, etholwyd Mri. John Davies, Lodge; David Roberts, Tanybwlch; Edward Jones, Mill; Edward Kyffin, Shop; a Thomas Roberts, Shop Isaf. A hwy eu pump ydyw y blaenoriaid presenol.

Bu y Parch. Elias Jones yn weinidog yr eglwys o'i chychwyniad hyd nes y symudodd oddiyma i Sir Drefaldwyn. Wedi hyny, rhoddwyd galwad i'r Parch. G. Ceidiog Roberts, a bu yntau yma o Mehefin, 1877, hyd Rhagfyr, 1889, pryd y symudodd i Lanllyfni. Mae yr eglwys hon, ynghyd a Llenyrch, wedi ymgymeryd a'u rhan yn mhryniad tŷ i'r gweinidog. Y rhif ar ddechreu y flwyddyn 1890,—Gwrandawyr, 90; cymunwyr, 65; Ysgol Sul, 72.

LLANFROTHEN (SILOAM).

Olrheinir dechreuad cyntaf yr achos yma i "deulu Arch Noah," sef teulu o wyth enaid a gyfarfyddent er ymffurfio yn gymdeithas eglwysig yn Pandy-y-Ddwyryd, yn y flwyddyn 1757. Yr oedd un o'r wyth yn dyfod o'r ardal hon. Rhoddir sail i dybio nad oedd yma ond un crefyddwr, onide paham na buasent yn myned gyda'u gilydd i Bandy-y-Ddwyryd. Ond byddai yr hen bobl yn arfer dweyd iddynt glywed rhai hynach na hwythau yn son am dri neu bedwar o grefyddwyr yn byw yma yr adeg a nodwyd. Dichon y byddai yr ychydig grefyddwyr oedd yn yr ardal yr adeg foreuol hon, yn myned i Penrhyndeudraeth, oblegid ffurfiwyd cymdeithas eglwysig yno oddeutu yr un adeg ag yn Pandy-y-Ddwyryd, neu o leiaf, yn fuan ar ol hyny. Byddai pregethu yn rhai o dai y gymydogaeth yn achlysurol er yn foreu; yn Ynysfor, lle yr oedd John Jones, hen bregethwr cyfrifol, yn byw; yn Hafotty, ffermdy yn agos i odreu y Moelwyn, ac yn Ogof-llochwyn. Dywedir fod maes yn y lle olaf a adnabyddir hyd heddyw wrth yr enw "Cae gwr dieithr," am mai yno yr arferid troi ceffylau y pregethwyr i bori. Trwy y rhan yma o'r gymydogaeth, fel y tybir, yr oedd tramwyfa yr efengylwyr ar eu ffordd o'r Deheudir tua Beddgelert a Chaernarfon. Arferid pregethu fel hyn yn achlysurol yn y gwahanol ffermdai am y tymor maith o driugain mlynedd cyn bod eglwys wedi ei ffurfio yn ardal Llanfrothen.

Yn y flwyddyn 1868, ysgrifenodd Mr. Evan Williams, Rhyd, hanes Ysgolion Sabbothol Llanfrothen a Chroesor, a chyhoeddwyd ef mewn cysylltiad â chyfrifon Ysgolion Dosbarth Ffestiniog y flwyddyn hono. Gan ei fod ef yn dal cysylltiad, trwy berthynas â hen deuluoedd yr ardal, ac yn ysgrifenu fwy nag ugain mlynedd yn ol, yr oedd ganddo fantais arbenig i gael llawer o fanylion nas gellir eu cael yn awr. Yn yr ardal hon, yn fwy nag un man, mae yr achos crefyddol wedi tyfu o'r Ysgol Sul, ac y mae hanes y naill yn gydblethedig a hanes y llall. Er gweled y modd y dechreuodd ac y cynyddodd yr achos, cesglir y prif ffeithiau o'r hanes crybwylledig hyd yr adeg y ffurfiwyd eglwys yma, ychydig o amser cyn ymsefydliad y Parch. Richard Jones, yn y Wern.

Yr hanes cyntaf am yr Ysgol Sul yn Llanfrothen ydyw, ei bod yn cael ei chynal yn yr Hafotty, yn agos i fynydd y Moelwyn, cartref yr hen Gristion selog, ac un o flaenoriaid cyntaf yr eglwys, William Lewis, a hyny mor foreu a'r flwyddyn 1796. Edrychid gyda llygaid drwgdybus ar y sefydliad gan yr ardalwyr yn gyffredin. Preswyliai yr enwog John Jones, o Ramoth, yn Hafotty y pryd hwn, am y mur a'r lle yr oedd yr ysgol. Siaradai lawer yn ei herbyn, nes creu rhagfarn tuag ati. Arferai ddweyd na fuasai ond yr un peth ganddo ef weled y bobl yn myned i'r maes gyda "chaib a rhaw" ar ddydd yr Arglwydd, a'u gweled yn cadw ysgol i ddysgu ar y dydd hwnw. William Lewis a Gwen Jones, Pen'rallt, oeddynt yr offerynau i sefydlu yr ysgol yn y lle hwn. Gan na byddai yr un crefyddwr ond hwy eu dau yn dyfod i'r ysgol, arferai un ei dechreu, a'r llall ei diweddu, bob yn ail. Yr oedd William Lewis yn ddarllenwr lled dda, yn hyddysg yn yr Ysgrythyrau, ac yn llawn sel gyda'r plant. Gwen Jones hefyd oedd wraig ddeallus yn ei dydd. Yr oedd hi yn ferch i'r hen bererin, John Pritchard, Hafod-y-mynydd, y diacon cyntaf fu yn Penrhyndeudraeth. Y nos y cynhelid yr ysgol, oherwydd rhyw resymau; ac weithiau cynhelid hi ar nosweithiau gwaith, a deuai llawer mwy iddi yr adegau hyny.

Cynhelid hi tua'r flwyddyn 1806 yn Brongamedd, preswylfod Morris Pritchard, wedi hyny o Penrhyndeudraeth. Gwr nodedig o ffyddlon oedd ef gyda dysgu y plant. Wedi myned yn hen, a cholli ei olwg, wylai yn hidl, am na allai fod gyda'i hoff waith. Gŵr arall cadarn yn yr Ysgrythyrau, ac yn ymroddgar gyda'r ysgol yr adeg yma, oedd Hugh Llwyd, Gyrddinen, Dolyddelen, yr hwn a ddaeth i fyw i Factory y Parc, a bu ei ddyfodiad yn fendith i'r ardal. Ymhen ychydig wedi hyny, bu yr ysgol yn cael ei chynal yn Ogof-llochwyn. A thros ryw dymor, yn y cyfwng hwn, buwyduyn methu cael lle i'w chynal yn y plwyf. Yn eu penbleth, a chan deimlo eu colled ar ol yr ysgol, aeth yr hen frodyr at offeiriad y plwyf, i ofyn caniatad i'w chynal yn eglwys y plwyf rhwng y gwasanaeth. Yr offeiriad yn garedig a ganiataodd eu dymuniad. Yr oedd yma ddigon o le i bawb, ac ymunodd amryw o'r rhai yn flaenorol a arferent fyned i'r Penrhyn. Yn eu plith yr oedd Robert Hughes, Brynllydan, un o'r rhai ffyddlonaf a mwyaf galluog yn yr ardal. Y pryd hwn y dygwyd Hyfforddwr Mr. Charles i sylw yr ysgol. Cyn bo hir, daeth i glustiau yr offeiriad eu bod yn gweddio yn yr eglwys heb y ffurf apwyntiedig, a rhoddodd rybudd iddynt ymadael yn uniongyrchol. Ond cyn i'r rhybudd gael ei roddi mewn gweithrediad, Huw Llwyd a ddywedai wrth un o'r brodyr, "Wyddost ti beth wnawn ni? Cymerwn y Common Prayer o'n blaen i weddio." Felly fu. Tawelodd hyn yr offeiriad, a chafodd y brodyr dawelwch i fyned ymlaen gyda'r gwaith. Bu yr ysgol yn y lle hwn hyd 1813.

Tua'r flwyddyn 1814, daeth i feddwl amaethwyr y gymydogaeth i gael ysgol ddyddiol yn yr ardal, ac i'r diben hwn, cafwyd caniatad i adgyweirio hen felin oedd yn agos i'r Wern, Bu y Parch. Thomas Hughes (gynt o Fachynlleth), pan yn llanc ieuanc, yn athraw yr ysgol hon am rai blynyddau. Yn fuan wedi dechreu yr ysgol ddyddiol yn y lle hwn, symudwyd yr Ysgol Sabbothol yno. A dyma hi o'r diwedd wedi dyfod i'r fan y dechreuwyd yr achos, ac y ffurfiwyd yr eglwys.

Adnabyddid yr achos, am yr ugain mlynedd dyfodol, wrth yr enw "Y Wern," neu "Felin y Wern." Hynod dlodaidd a llwydaidd yr olwg arni oedd yr hen Felin. Arferid cael llwyth o frwyn bob diwedd blwyddyn i wneyd i fyny yn lle planciau ar y llawr. Dywedir i'r Parch. John Jones, Talsarn, fod yma yn pregethu, ac iddo unwaith ddweyd yn ei weddi ar y dechreu, "Cofia, Arglwydd, yr ardal ddistadl hon." Digiodd un hen chwaer yn arw wrtho am alw yr ardal yn ddistadl. Coffheir am ddau neu dri o frodyr a fu yn dra amlwg gyda gwaith yr Arglwydd yn y lle y tymor hwn. Un oedd Evan Roberts, gŵr a ddaeth i'r Factory ar ymadawiad Huw Llwyd. Brodor oedd ef o Bentrefoelas, a thad i'r Dr. Roberts, Penygroes. Cawsai ef fanteision addysg, yr hyn oedd yn beth anghyffredin yr amseroedd hyny. Er nad oedd yn grefyddwr ar y pryd, ymgysegrodd i waith yr ysgol tra bu yn y gymydogaeth. Efe, fel y dywedir, oedd yr arolygwr cyntaf ar yr ysgol yn Llanfrothen. "Byddai yn gwneyd i'r rhai digrefydd ddarllen ar gylch ar ddechreu yr ysgol, ac un o'r brodyr crefyddol i weddio." Un arall oedd Robert Owen, wedi hyny y Parch. Robert Owen, Rhyl. Daeth i wasanaethu i'r ardal fel gwehydd. Derbyniodd yn helaeth o ysbryd Diwygiad Beddgelert tra bu yma, a bu yn weithiwr medrus gyda'r ysgol, a dywedir y byddai yn myned yn orfoledd yn aml. Gŵr tra ffyddlon arall oedd Griffith Thomas, Garreg isaf. Daeth i'r ardal i fod yn hwsmon gyda'r Parch. Richard Jones, Wern. Dyn effro iawn ydoedd; bu yn myned am flynyddau i Gwm Croesor, i gynorthwyo gyda'r ysgol, pryd nad oedd yn y Cwm yr un crefyddwr. Yn nechreu y flwyddyn 1819, sef y flwyddyn yr anfonwyd y cyfrifon gyntaf i'r Cyfarfod Ysgolion, rhifai yr ysgol hon 127.

Yn fuan wedi sefydlu yr ysgol yn Ysgoldy y Wern, dechreuwyd pregethu yn rheolaidd, a chynhelid cyfarfodydd gweddi, a chyfarfodydd eglwysig. Aelodau yn y Penrhyn oedd yr ychydig grefyddwyr a breswylient yn y fro yn flaenorol. Ac ar y cyntaf, anfonid dau frawd o'r Penrhyn yma i gynorthwyo i gynal y seiat. Gellir casglu yn lled sicr fod yr eglwys wedi ei ffurfio, a'r achos wedi ei sefydlu yn Ysgoldy y Wern yn weddol reolaidd tua'r flwyddyn 1815, oblegid yr ydym yn cael oddiwrth hen ddyddiadur Mr. Gabriel Davies, y Bala, mai y daith Sabbothol y flwyddyn ganlynol oedd, "Wern, Penrhyn, Maentwrog." Nis gallai nifer yr aelodau fod ond o ddeg i ddeuddeg. Yn nhŷ W. Lewis y cedwid y seiat, am fod yno rhy ychydig i fyned i'r capel, sef y Felin. Rhoddai gŵr a gwraig y Wern (cyn amser y Parch. Richard Jones) fwyd i'r pregethwyr. Cyn hir, dechreuodd y brodyr yn y Penrhyn oeri yn eu zel, a deuent yn anamlach i'r Wern, i gynorthwyo gyda'r cyfarfod eglwysig. Parodd hyn i'r ddiadell fechan lwfrhau, a phenderfynwyd mai ly peth doethaf iddynt oedd dychwelyd yn ol i'r Penrhyn, a bod yn aelodau yno fel cynt. Ond y noson wedi gwneyd y penderfyniad hwn, cafodd yr hen frawd William Lewis weledigaeth hynod gysurlawn. Gwelai yn ei freuddwyd ragolygon disglaer i'r eglwys yn y Felin. Cododd yu llawen gyda'r wawr dranoeth, ac aeth i Brynllydan i adrodd ei weledigaeth i Robert Hughes (ei gyd-flaenor). "Ro'wn ni mo'r goreu iddi eto, Robin,' meddai wrth Robert Hughes, 'gei di wel'd y daw gwawr ar ol hyn.' Effeithiodd hyn i'w tawelu i beidio dychwelyd i'r Penrhyn, a chyn pen hir, sylweddolwyd yn llwyr weledigaeth William Lewis yn niwygiad Beddgelert, sef y diwygiad a fu trwy y wlad yn y flwyddyn 1818."[20] Gan fod yr ardal hon yn taro ar ardal Beddgelert, cafodd brofi effeithiau yr ymweliad grymus hwnw yn un o'r manau cyntaf. Cynhelid cyfarfodydd brwd mewn lle o'r enw Talyrni, heb fod ymhell o derfynau y ddau blwyf. Un Sabbath, tra yr oedd ieuenctyd cymydogaeth Llanfrothen wedi ymgynull i fyned trwy y chwareuon arferedig yn y wlad, ebai un o'r chwareuwyr (Dafydd William, Caeglas, mab William Lewis), "Ddowch chwi i'r Llyrni, gael i ni gael eu gweled yn gorfoleddu?" Cyn diwedd y cyfarfod cafodd y gŵr hwn ei argyhoeddi, a bu yn Gristion gloew, ac yn weithiwr ffyddlon gyda chrefydd o hyny allan. Cyn hir ar ol hyn, yr oedd y Parch. Dafydd Rolant, y Bala, yn yr hen Felin yn pregethu pregeth "Y Milgi," a bu gorfoledd a helynt anghyffredin yn y lle. Canlyniad yr ymweliad hwn oddiwrth yr Arglwydd oedd i'r achos crefyddol dderbyn cyfnerthiad mawr, cadarnhawyd y brodyr oedd ychydig yn flaenorol yn ddigalon, a chynyddodd yr eglwys lawer yn ei rhif. Ni soniwyd am fyned yn ol i'r Penrhyn byth wedi hyn. Gwnaethpwyd pethau rhyfedd a grymus trwy yr efengyl, er argyhoeddi pechaduriaid ac adeiladu y saint, yn hen Ysgoldy diaddurn y Wern, ac yn yr "ardal ddistadl hon."

DYFODIAD Y PARCH. RICHARD JONES I FYW I'R WERN.

Yn mhoethder diwygiad Beddgelert, neu feallai yn agos i'w derfyn, sef yn y flwyddyn 1819, y symudodd y gŵr enwog hwn o Sir Gaernarfon, i fyw i'r Wern, Llanfrothen. Rhoddodd enwogrwydd ar y lle, ac fel Richard Jones, y Wern, yr adnabyddir ef hyd heddyw, er na bu ei arosiad yno ond ychydig dros ddeuddeng mlynedd. Yr oedd y Felin, y lle a wnaethid ryw bum' mlynedd yn flaenorol yn ysgoldy, yn ymyl ffermdy enwog y Wern. Llawenydd digymysg i'r frawdoliaeth egwan oedd dyfodiad y fath deulu i fyw yno. Siriolodd a chefnogodd pob peth yr achos ar unwaith. "Ei dŷ," ebai ei fywgraffydd, "dros yr amser y bu yn y Wern, oedd cartref yr achos crefyddol yn yr ardal." Trwy ei gysylltiad eang â'r Cyfundeb, bu yn foddion i gael prif enwogion De a Gogledd yno i bregethu. Ac oddiyma bu yntau yn teithio, tra yn nghyflawnder ei addfedrwydd, i'r Cyfarfod Misol a'r Cymanfaoedd, ac i'w deithiau trwy amrywiol siroedd Cymru. Yr oedd Sir Feirionydd wedi ei chyfoethogi yn fawr trwy ei ddyfodiad ef iddi i fyw. Tra yn aros yma yr ysgrifenodd ac y cyfansoddodd lawer o'i weithiau, ac yn eu plith ei lyfr rhagorol, "Drych y Dadleuwr." Dywedai rhyw hen chwaer pan ddaeth y llyfr hwn allan, "'Doedd ryfedd na ddeuai rhywbeth oddiwrtho, yr oedd yn yr hen lofft yna er's digon o amser." Afreidiol yw dweyd iddo adael argraff ddofn a pharhaol ar y gymydogaeth a'i thrigolion, er eu diwyllo a'u crefyddoli. Laweroedd o weithiau, yn nyddiau ein plentyndod, y gwelsom ein mam (yr hon oedd yn enedigol o Lanfrothen) a Llyfr Hymnau Richard Jones o'i blaen, ac yn hwmian canu ei benillion wrthi ei hun; a darfu ei syniadau uchel hi am dano, a'r mynych sylwadau a glywem yn ein cartref am ei ragoriaethau, ymysg y pethau cyntaf erioed a ddisgynodd ar ein clustiau, beri i ni feddwl nad oedd geiriau yn yr iaith Gymraeg mwy cysegredig na'r "Wern " a "Richard Jones." Ystyrid ef fel tad yr achos crefyddol yn hen Felin y Wern. Diwrnod du i Lanfrothen oedd diwrnod ei symudiad oddiyno. Hyny, modd bynag, a fu, a llawer a geid yn proffwydo, y byddai farw yr achos yn yr ardal wed'yn. Yn rhestr gweinidogion Sir Feirionydd am 1832, ceir ei enw fel Richard Jones, Talsarnau. Symudodd ef a'i deulu i fyw i Rhosigor, yn yr ardal hono, ac ymhen oddeutu wyth mis, sef Chwefror 26ain, 1833, bu farw. Y mae ei feddrod ef a'i briod i'w weled wrth dalcen dwyreiniol eglwys blwyfol Llanfrothen.

Dylid dweyd gair am y brodyr y Bedyddwyr. Cawsant hwy y fraint o ymsefydlu yn yr ardal hon lawer o flynyddoedd o flaen y Methodistiaid. Yr oedd ganddynt achos wedi ei ffurfio, a chapel wedi ei adeiladu, sef Ramoth, Brondanw, er y flwyddyn 1787. Bu gweinidog o'r enw David Hughes, gŵr o'r Deheudir, yn gweinidogaethu yma oddeutu y pryd hwn. Ar ei ol ef y daeth y Parch. John Richard Jones, yr hwn a adnabyddid fel yr enwog "Jones o Ramoth." Neillduwyd ef i'r gwaith Tachwedd 4ydd, 1789. Yr oedd yn bregethwr poblogaidd, yn fardd gwych, ac yn llenor da. Hynodid ef fel arweinydd y Bedyddwyr Albanaidd yn Nghymru. Tua diwedd 1801, galwyd cynhadledd o'r holl siroedd i Ramoth, i benderfynu y dadleuon oeddynt ar y pryd wedi codi yn yr enwad. Wedi yr ymraniad, llafuriodd John Jones yn ddiwyd gyda'i blaid hyd derfyn ei oes, a bu farw Mehefin 27ain, 1822, yn 56 mlwydd oed.[21] Ar gyfrif fod yr ardal yn wasgaredig, a'r boblogaeth yn deneu, ac oherwydd hefyd i'r Bedyddwyr gymeryd meddiant o'r lle, bu y Methodistiaid yn hir cyn enill llawer o nerth yma.

Oddeutu yr amser yr ymadawodd y Parch. Richard Jones o'r Wern, symudodd yr achos o'r hen ysgoldy i le a elwir y Ceunant, a'r lle y mae yr achos ynddo hyd heddyw. Adeiladwyd yma gapel, a galwyd ef wrth yr enw Siloam. Dyddiad y weithred am y capel hwn ydyw Rhagfyr, 1833. Cafwyd y tir gan deulu yr Hengwrt, gerllaw Dolgellau. Talwyd 150p. am dano. Wrth ystyried fod yn y lle dafarndy yn flaenorol, a bod y tir (premises) dipyn yn helaeth, nid yw y pris yn ymddangos yn uchel. Cynwysai y capel hwn eisteddleoedd i 100, ac adeiladwyd dau o dai mewn cysylltiad ag ef. Rhif yr Ysgol Sul pan y symudwyd hi yma oedd 144. Ni wyddis beth oedd cyfrifon eraill yr eglwys ar y pryd. Y blaenoriaid, sef Robert Hughes, Brynllydan; William Rowland, Garth Foel; ac Owen Pierce, oeddynt yn flaenllaw gydag adeiladu y capel hwn. Arosai dyled o 250p. ar y lle, heb ddim yn cael ei wneuthur tuag at ei chlirio trwy y blynyddau. Ymhen amser, helaethwyd y capel, trwy roddi un o'r tai ato, a thuag 1858 dechreuwyd casglu yn yr Ysgol Sul, ac yr oedd y cwbl wedi ei dalu cyn pen saith mlynedd. Prynwyd darn ychwanegol o dir yn 1865, am 12p. Adeiladwyd y capel hardd presenol, yr hwn sydd yn addurn i'r ardal, yn 1866, ac agorwyd ef yn Mehefin y flwyddyn hono, pryd y pregethwyd gan y Parchn. David Davies, Abermaw; Josuah Davies (Birkenhead y pryd hwnw); D. Saunders, D.D.; a Joseph Jones, Borth. Dengys y ffigyrau canlynol ffrwyth yr eglwys yn ei chasgliadau at capel y deng mlynedd ar hugain diweddaf,—

Dyled yr hen gapel — £250 0s 0c
Y capel presenol yn 1866 — £1042 19s 10c
Oriel (gallery) yn 1878 — £547 1 7
Ysgoldy y Rhyd yn 1872 — £190 0 0
— £2030 1 5

Nid oes o'r swm hwn heb ei dalu yn bresenol (1889) ond 150p. Yn y flwyddyn 1888, hefyd, adeiladwyd yma dŷ prydferth a chyfleus i'r gweinidog, ac y mae hyn yn gryfder mawr tuag at sefydlogrwydd a pharhad yr achos. Mae yr hen gapel, yn unol a chaniatad y Cyfarfod Misol, Mehefin, 1866, wedi ei droi yn dri o dai.

Ar ol bod yn daith dros ryw gymaint o amser yn y dechreu gyda'r Penrhyn a Maentwrog, y daith wedi hyny am flynyddau lawer oedd y Penrhyn a Llanfrothen. Am bedair neu bum mlynedd ar ol y diwygiad (1859), bu Llanfrothen a Maentwrog gyda'u gilydd. Ar ddechreu 1864, ymunodd y lle yn daith gyda Chroesor, fel y mae hyd yn bresenol.

Yn ychwanegol at y rhai a enwyd eisoes o ffyddloniaid cyntaf yr eglwys, ac heblaw y rhestr a geir eto o'r blaenoriaid, crybwyllir am eraill a fuont ffyddlon gyda'r achos yma Yn y Felin yr oedd Gwen Edmund yn un o'r rhai amlycaf. Dywedir mai Gwen Jones, Pen'rallt, a Sian Owen, Dinas (Pen'rallt wedi hyny), oedd y ddwy ffyddlonaf o'r chwiorydd. Yr oedd Sian Owen, a Sian Jones, y Llan,—dwy ferch ieuainc ar y pryd gyda'u gilydd ar y maes yn Sasiwn Caernarfon yn gorfoleddu ac yn neidio pan yr oedd Ebenezer Morris yn pregethu y bregeth ar "Y gwaed hwn a wna gymod dros yr enaid," a gorfeleddent yr holl ffordd nes cyraedd adref. Hugh Sion, y Morfa, oedd wr duwiol a ffyddlon. Dafydd Sion, Ysgoldy, tyddai yn goleu canhwyllau yn yr hen Felin, ac yn cadw yr amser yn y Ceunant hyd ei farwolaeth. Byddai yn nhŷ y capel fel y cloc, yn rhoddi y gorchymyn ar y fynyd briodol, "Mae yn amser dechreu." Pan yn dewis blaenoriaid rywbryd, ebai un chwaer, "Mae Dafydd Sion yn ffyddlon iawn, ac y mae yr Arglwydd gyda William Evan." David Williams, Rhyd, tad y brodyr sy'n flaenoriaid yn bresenol, a fu yn dra gwasanaethgar gyda chaniadaeth y cysegr am dymor maith, a bu yn arwain y canu am ddeugain mlynedd, ac yn ffyddlon iawn gyda rhanau eraill y gwaith. Bu Richard Jones, tad y Parch. W. R. Jones, Caergybi, yn arwain y canu o'i flaen; a bu ei fam yn cadw tŷ capel Siloam, ac wedi hyny yn cadw tŷ capel Tanygrisiau. Richard Jones, y Llan, hefyd a'i deulu a fuont yn ffyddlawn iawn i'r achos yma. Y blaenoriaid fuont feirw ydynt:—

WILLIAM LEWIS, HAFOTTY.

Crybwyllwyd am dano eisoes fel cychwynydd yr Ysgol Sul, a'r hwn nad oedd am ildio i roddi yr achos i fyny yn yr hen Felin. Efe oedd blaenor cyntaf yr eglwys. Yr oedd ganddo y llaw benaf hefyd mewn sefydlu yr eglwys. I'w ran ef y disgynodd y gwaith o fod yn gyhoeddwr cyntaf. Gŵr selog ac ymroddgar iawn ydoedd gyda holl ranau y gwaith.

ROBERT HUGHES, BRYNLLYDAN.

Efe oedd y nesaf at W. Lewis, a bu y ddau yn cyd-oesi am beth amser, ond bu R. Hughes fyw yn hir ar ol ei gyd-flaenor, a bu holl bwysau y gwaith arno am ysbaid maith. Daethai yma o Rydyclafdy. Yr oedd yn dad i Morris a William Hughes, Brynllydan. Rhagorai ef ar lawer yn ei amser, gan ei fod yn ddyn egwyddorol a gwybodus, yn meddu ar ddawn yn gystal a gwybodaeth, ac yr oedd yn llawn sel gyda chrefydd. Bu farw yn y flwyddyn 1849.

WILLIAM ROWLAND, GARTH FOEL.

Yr oedd ef yn dad i Manoah Williams, Croesor, ac yn daid i Miss Williams, y genhades i Sylhet. Dywed Alice Llwyd, Porthmadog, iddo ef ac Owen Pierce gael eu dewis yn flaenoriaid y noswaith y bu farw y Parch. Richard Jones, o'r Wern. Dyn plaen oedd W. Rowland, ac ymosodwr llym ar bob drwg. Nis gwyddom pa bryd y bu ef farw.

OWEN PIERCE.

Dyn gwybodus a chydwybodol; yn gymeriad gwreiddiol, ac yn meddu ar alluoedd cryfion. Ymunodd â chrefydd yn yr Hen Felin, yn amser Diwygiad Beddgelert. Yn lled fuan wedi ei ddewis yn flaenor yma, symudodd i Danygrisiau. Ceir ychwaneg o'i hanes yno.

JOHN WILLIAMS, BRYNGOLEU.

Teilynga ef goffhad helaethach nag unrhyw un o flaenoriaid yr eglwys hon. Yr oedd yn gymeriad ardderchog; meddai ddynoliaeth o'r fath oreu, a hono wedi ei sancteiddio gan yr Ysbryd Glân. Cyrhaeddodd barch a dylanwad mawr yn yr eglwys a'r gymydogaeth. Yn Bryngoleu, yn yr ardal hon, y ganwyd ac y magwyd ef, ac yno y treuliodd ei oes, oddieithr y pum' mlynedd olaf, pryd y symudodd i fyw yn nes i'r capel. Ni chafodd ei ddwyn i fyny yn yr eglwys, ond yr oedd yn wr ieuanc hynod o fucheddol, ac ymunodd â chrefydd pan oedd tua 30ain oed, ymhen blwyddyn wedi i'r eglwys ymsefydlu yn Siloam. Ymroddodd i weithio gyda chrefydd ar unwaith wedi iddo ymuno â'r eglwys. Derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol yn Maentwrog, Mai laf, 1845, pryd yr oedd y Parch. Dr. Edwards, Bala, yn llywydd, a'r Parch. Daniel Evans yn ysgrifenydd. Yr oedd ef yn ddiamheuol yn un o'r blaenoriaid goreu a fu yn Sir Feirionydd erioed. Bu holl bwysau y gwaith yn Llanfrothen ar ei ysgwyddau am lawer o flynyddoedd. Yr oedd yn ŵr cadarn yn yr Ysgrythyrau, yn llawn sel ac ymroddiad gyda phob peth. Meddai ar ddoniau neillduol i gadw y cyfarfod eglwysig. Ymosodai yn llym ar bob pechod, ond dangosai gariad at y troseddwr. Yr oedd yn ddyn gwrol a phenderfynol, ac eto yn un o'r rhai addfwynaf y gellid eu cyfarfod. Gair a ddefnyddid am dano ydoedd, ei fod yn ŵr ystwythgryf. Am ei ffyddlondeb i'w gyfeillion ac i achos crefydd, gellir dweyd ei fod heb ei ail. Aberthodd lawer o'i amser mewn gwahanol ffyrdd i wasanaethu achos Mab Duw. Cerddodd lawer i gyfarfodydd. Byddai yn y Cyfarfod Misol blynyddol yn Nolgellau fel y cloc, ac wedi cerdded yno yr holl ffordd ar ei draed, a hyny trwy bob tywydd. Mor foddhaus ac mor rywiog ei dymer fyddai yn wastadol gyda phob peth. Er nad oedd yn hyawdl fel siaradwr, nis gwyddom am neb yn well type o flaenoriaid rhagorol yr oes o'r blaen na John Williams. Prawf o'r parch a enillodd yn ei eglwys a'i ardal ei hun oedd, y dysteb o werth 40p. a gyflwynwyd iddo pan ddechreuodd ei iechyd adfeilio, yn gydnabyddiaeth am ei lafur a'i ffyddlondeb. Bu farw mewn tangnefedd Mai 16eg, 1879, yn 74 mlwydd oed.

RICHARD THOMAS

a neillduwyd yn flaenor yr un adeg â John Williams, a bu gyda'r achos agos cyhyd ag yntau. Nis gellir dweyd fod llawer o hynodrwydd ynddo ef. Yr oedd yn gyson o ran ei fuchedd, ac yn bur ffyddlon o ran ei allu. Bu farw yn y flwyddyn 1877.

ROBERT ROBERTS, ERWFAWR.

Derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol yn Nhraws- fynydd, Medi, 1861. Yr oedd yn dad i'r brodyr adnabyddus, Mri. Rees Roberts, Holland, a Meyrick Roberts, Bryneglwys, Abergynolwyn. Yr oedd yn ŵr ffyddlon gyda'r holl achos. Dyn gwyneb-agored a hollol ddidderbyn wyneb ydoedd. Gwasanaethodd ei swydd yn dda, a bu yntau farw yn y flwyddyn 1877.

DAVID GRIFFITH

a alwyd i'r swydd yn 1875. Bu yntau yn ffyddlawn, yn ol ei allu, gyda'r holl waith. Bu farw yn 1883, wedi gwasanaethu y swydd am wyth mlynedd.

Un arall a fu yn swyddog gweithgar yma am lawer o flynyddoedd ydyw Mr. H. Ll. Jones, sydd yn awr yn flaenor yn y Garth, Porthmadog. Dewiswyd ef i'r swydd yn y flwyddyn 1861. Gweithiodd yn egniol gyda'r achos yn Siloam am ugain mlynedd, hyd nes y symudodd oddiyma i fyw, a theg ydyw hysbysu iddo gyflawni ei swydd gyda medr a ffyddlondeb mawr.

Y blaenoriaid yn bresenol ydynt, Mri. O. D. Williams, yn y swydd er 1875; Morris Roberts, Evan D. Williams, a James Ephraim, eu tri yn y swydd er 1883.

Cyfododd tri a fagwyd yn yr eglwys hon yn bregethwyr. W. M. Evans, mab Edward Evans, Cefndreiniog. Aeth oddiyma yn llane ieuanc i'r cloddfeydd aur yn Awstralia. Wedi llwyddo i raddau gyda'r golud hwnw, ymroddodd i bregethu, a bu yn weinidog cymeradwy yn y wlad hono. Y mae, er's rhai blynyddau bellach, wedi ei symud i'r wlad sydd fil o weithiau yn gyfoethocach nag Awstralia. Un arall oedd William Jones, Bryngoleu, nai i'r blaenor rhagorol o'r un lle y crybwyllwyd am dano. Yr oedd ganddo ddawn neillduol i ddysgu ieuenctyd, a bu yn llafurus yn parotoi ei hun i'r weinidogaeth. Coleddid gobeithion uchel am dano, ond fe welodd yr Arglwydd yn dda ei gymeryd ato ei hun tra yr oedd yn parotoi at y gwaith. Bu farw oddeutu y flwyddyn 1856. Y trydydd ydyw y Parch. W. R. Jones, Caergybi, yntau hefyd yn nai i'r hen flaenor hybarch John Williams, Bryngoleu.

Bu y Parch. Owen Parry, yn awr o Lanidan, Sir Fon, yn weinidog yr eglwys hon o 1876 i 1878. Y Parch. T. E. Roberts, M.A., am yr un tymor ag y bu yn Nghroesor. Mae y Parch. D. O'Brien Owen wedi ymsefydlu yma yn awr, er y flwyddyn 1889. Rhif y gynulleidfa, 390; y cymunwyr, 187; yr Ysgol Sul. 241.

CROESOR.

Yr oedd Cwm Croesor fel allan o'r byd; nid oedd ond ychydig yn gwybod fod y fath ardal yn bod hyd y flwyddyn 1860. Oddeutu y pryd hwnw y daeth y lle i sylw, trwy agoriad y chwarelau yn y fro. Saif y lle ar gŵr eithaf Gorllewin Meirionydd, megis rhwng ceseiliau y mynyddoedd a wynebant ar Borthmadog, ac yn bur agos i bum' milldir o bellder oddiwrth bob un o'r tri lle mwy adnabyddus,-Ffestiniog, Penrhyndeudraeth, a Beddgelert. Bu Ysgol Sabbothol yn cael ei chynal mewn tai yn yr ardal am tua haner can' mlynedd cyn adeiladu capel. Cynhaliwyd hi am chwe' blynedd ar hugain yn Bryngelynen. A'r weithred olaf a gyflawnwyd ar symudiad yr ysgol o'r tŷ hwn i'r capel, Tachwedd 27, 1863, ydoedd cyflwyno Beibl hardd yn anrheg i'r teulu, gyda diolchgarwch holl ddeiliaid yr ysgol. Ceir hanes cyflawn am ei symudiadau yn ei dechreuad, yn yr Adroddiad argraffedig gydag Ysgolion Sabbothol y Dosbarth, am y flwyddyn 1876, gan Mr. Thomas Williams, Bryn.

Gadawodd Diwygiad Beddgelert ei ol ar yr ardal. Cyfododd rhai dynion o'r diwygiad hwnnw, a ddaethant wedi hyny i deimlo yn ddwys yn achos cyflwr anwybodus eu cymydogion. Y Parch. Robert Owen, Rhyl (Apostol y Plant), yr hwn a fu am beth amser, pan yn ieuanc, yn dilyn ei grefft fel gwehydd yn Factory y Park, a ysgrifena yn 1876, gan roddi y disgrifiad canlynol o'r ardal a'i thrigolion:—"Aethum i'r Park tua'r flwyddyn 1818, neu tua dechreu 1819, hyd y gallaf gofio. Nid oedd un capel o'r Penrhyn i Beddgelert, ond capel Brondanw, nac un Ysgol Sul ond yn Talyrni ac yn Hen Felin y Wern. Gwm Croesor i'r Penrhyn, tlawd iawn ydoedd. Nid wyf yn cofio am un o'r Cwm yn Fethodist. Y 'Batus Bach,' fel eu gelwid, oedd yn meddianu yr holl ardal o Groesor i Lanfrothen. Yr oeddynt yn selog ac erlidgar, fel yr oedd yn gofyn cryn sel a gwroldeb i fod yn Fethodist yn yr ardal. Y Parch. John Jones, Ramoth, fyddai yn pregethu iddynt; dyn tâl, syth; hen lanc, yn lodgio yr ochr arall i'r nant o'r Park (Gareg Fawr), mewn lle anial ac unig. Dyn call, ysgolor da, a meddyg galluog; ymresymwr cryf, a phregethwr medrus. Gwisgai gôb werdd led oleu, a botymau melyn mawr arni; yn hynod ymhob peth bron ar bawb arall. Disgyblion iddo ef oedd yr oll yn y plwyf hwn, fel y mae y fynwent yn ymyl ei gartref yn profi."

Yn y flwyddyn 1861, meddyliwyd am adeiladu capel yn ardal Croesor gan y Methodistiaid. Cymeradwywyd cynlluniau y capel gan y Cyfarfod Misol. Prynwyd coed angenrheidiol tuag at adeiladu, ond digalonwyd a gwerthwyd hwy drachefn. Ail benderfynwyd i gael capel yn 1863. Yr oedd dau foneddwr erbyn hyn yn barod i roddi tir. Cafwyd mwyafrif y trigolion o blaid ei gael ar dir D. Williams, Ysw., A.S., Castelldeudraeth, am fod y llecyn hwnw yn fwy canolog i'r gymydogaeth. Cytunwyd am y tir, a'r pris am dano ydoedd 50p. am byth. Pan aed i dalu am dano, ysgrifenodd yr hen foneddwr parchus receipt am y swm, a chyflwynodd hi i Mr. T. Williams gan ddywedyd, "Rhowch yr arian yna yn ol yn eich pocket at dalu am adeiladu y capel." Cyflwynodd y Cyfarfod Misol ddiolchgarwch calonog i'r boneddwr am ei gefnogaeth a'i haelioni. Capel bychan oedd hwn—un llath ar ddeg wrth naw, a thŷ wrth ei ochr. Agorwyd ef Rhagfyr 4, 1863, pryd y pregethwyd gan y Parchn. D. F. Davies, Pwllheli; D. Jones, Llanelltyd; a Thomas Gray. Oherwydd fod y boblogaeth yn cynyddu yn gyflym, aeth y capel yn rhy fychan y flwyddyn gyntaf ar ol ei agor. Aed ati i'w helaethu, a gorphenwyd erbyn Ebrill 1866. Pregethwyd ar yr ail agoriad gan y Parchn. Thomas Charles Edwards, M.A., D.D., a Robert Roberts, Llangeitho. Dangoswyd haelioni arbenig gan y gynulleidfa a'r eglwys hon o'r dechreuad. Costiodd y capel cyntaf a'r tŷ, ynghyd ag adeiladu yr ail waith, a'r adeiladau eraill, yn cynwys yr ysgoldy, 1700p. Talwyd yr oll mewn deng mlynedd, ac ar y 30ain a'r 3lain o Awst, 1873, cynhaliwyd cyfarfod jiwbili, pryd y pregethwyd gan y Parchn. L. Edwards, D.D., Bala; Evan Phillips, Castellnewydd Emlyn; a D. Jones, Llanbedr.

Cafwyd arian y coed a werthwyd ddwy flynedd yn flaenorol, sef 13p. 6s. 4c., fel y ffynhonell gyntaf tuag at dalu y ddyled. Yr unig gasgliad neillduol ydoedd yr un a wneid yn fisol yn yr Ysgol Sabbothol. Derbynid swm da yn y dull hwn o fis i fis, ac yn wir, mae yr ysgol wedi bod yn allu cryf yn yr ardal i gasglu llawer o arian.

Y GYMDEITHAS ARIANOL.

Un ffordd i glirio y ddyled, a hono yn un dra effeithiol, ydoedd trwy gyfrwng y Gymdeithas arianol. Bu y gymdeithas hon yn fendith fawr i'r ardal, ac yn gefn i'r achos hyd heddyw. Mae y trysorydd a'r ymddiriedolwr cyntaf yn para yn ei swydd eto. Amser yn ol, rhoddodd ef ganoedd o bunau ynddi ei hun, a bu yn foddion i gael canoedd gan eraill, a'r oll yn ddilog. Gwnaeth y gymdeithas ddaioni anrhaethol i'r bobl, trwy eu dysgu i gynilo, a thrwy ei hofferynoliaeth hi, talwyd pob gofynion heb dalu yr un ddimai o lôg.

Yn y flwyddyn 1872, adeiladwyd yma ysgoldy dyddiol. Ymgymerodd yr Ysgol Sabbothol â chasglu yn fisol i dalu y rhan fwyaf o ddyled hwn eto, ac i gynal yr ysgol ddyddiol, hyd nes y ffurfiwyd Bwrdd Ysgol yn y plwyf, Hydref, 1877. Parhaodd ffyddlondeb a haelioni yr eglwys drachefn dros rai blynyddau, fel, erbyn 1883, yr oedd ganddi yn y Bank y swm o 220p. 16s. 10c., a hyny wedi dwyn yr achos ymlaen yn anrhydeddus. Ond cwynir erbyn hyn nad yw mor hawdd cael y bobl i gyfranu ag ydoedd amser yn ol.

Pan adeiladwyd y capel yn 1863, ffurfiwyd Croesor yn daith gyda Llanfrothen (Siloam), ac felly mae yn para hyd yn awr. Nifer y cyflawn aelodau ar sefydliad yr eglwys y flwyddyn ddilynol oedd tua 25. Cynyddodd y nifer yn fuan i 100, ac ni fu fawr uwchlaw hyny o gwbl. Anfonwyd cais gan y brodyr i Gyfarfod Misol Ionawr, 1864, am ganiatad i fod yn eglwys arnynt eu hunain, ar wahan i Siloam. Gwrthodwyd rhoddi caniatad yn y cyfarfod hwn, eithr anogwyd hwy i barhau dan aden y fam eglwys; edrychid arnynt yn ychydig o nifer, a chyffelybid hwy ar y pryd i Gwm Nancol. Ond yn Nghyfarfod Misol Ebrill, yr un flwyddyn, wedi cael adroddiad calonogol am agwedd yr achos, a deall fod rhagolygon am gynydd yn yr ardal, "penderfynwyd yn unfrydol fod i'r brodyr yn Nghroesor gael ymffurfio yn eglwys, a chael gweinyddiad o'r holl ordinhadau yn eu mysg." Y mae hanes yr eglwys hon wedi ei gadw yn gyflawn a chryno o'r dechreuad. Perthyna i'r eglwys lyfr, yn yr hwn y ceir crynhodeb o hanes crefydd yn y gymydogaeth yn ysgrifenedig, ynghyd a'r prif symudiadau a'r digwyddiadau am bob blwyddyn, o 1863 i 1883, wedi eu casglu gan Mr. W. T. Williams, yn awr o'r Rhyd-ddu. Pwy bynag a ewyllysia wybod y manylion, byddant i'w cael ond troi i mewn i'r llyfr hwn. Robert Anwyl oedd gymeriad a hynodrwydd mawr yn perthyn iddo. Argyhoeddwyd ef yn amser diwygiad Beddgelert: bu farw Mai 13eg, 1875, yn 88 oed. Ceir bywgraffiad o hono yn y llyfr crybwylledig. Sabbath, yr 16eg o Orphenaf, 1865, y cynhaliwyd y cyfarfod ysgolion cyntaf yn y lle; yr holwyddorwr ydoedd y Parch. Robert Parry, Ffestiniog. Ebrill 2il a'r 3ydd, 1867, y cynhaliwyd yma Gyfarfod Misol am y tro cyntaf, Cludwyd y dieithriaid i fyny o Borthmadog ar hyd y tram-road a'r inclines. Pregethwyd gan y Parchn. D. Evans, M.A., Dolgellau; D. Davies, Abermaw; Francis Jones, Aberdyfi; Edward Morgan, Dyffryn; O. Jones, B.A., Bethesda; N. C. Jones, Penrhyn; Jno. Davies, Bontddu; Wm. Davies, Llanegryn. Elai a gormod o le i gofnodi y pethau a gymerasant le bob blwyddyn yn olynol.

RHESTR O'R SWYDDOGION.

Daeth Mr. Thomas Williams yma o Blaenau Ffestiniog yn niwedd 1862, i fod yn oruchwyliwr ar chwarel Croesor, a symudodd ef a'i deulu i fyw i Fryn Croesor yn Ebrill y flwyddyn ganlynol. Gwasanaethodd swydd blaenor yn Bethesda amryw flynyddoedd cyn dod yma; ymunodd ag eglwys Siloam, a dewiswyd ef yn swyddog yno, ac efe oedd yr unig swyddog a symudodd gyda'r gangen eglwys ar ei dyfodiad i Groesor. Hysbys ydyw ei wasanaeth a'i weithgarwch ef yn ngwersyllfaoedd y Methodistiaid o hyny hyd yn awr. Gan ei fod yn swyddog effro a llygadog, daeth yr eglwys yn ei hieuenctid ar unwaith i gael ei rhestru yn un o'r eglwysi mwyaf gweithgar yn y sir. Bedair blynedd ar ddeg yn ol, sef yn nechreu 1876, cyflwynwyd tysteb iddo ef a'i briod, amcan yr hon, yn ol y geiriau a geir mewn cysylltiad â'i chyflwyniad, ydoedd, "fel cydnabyddiaeth cynulleidfa Croesor iddynt am eu caredigrwydd i weinidogion y gair, trwy roddi ymborth a llety yn rhad am ysbaid o dair blynedd ar ddeg." A'u tŷ hwy ydyw llety y fforddolion hyd heddyw.

Yn Ngorphenaf, 1864, dewiswyd Mr. John Jones, Cae'r-ffynon, yn swyddog. Gwasanaethodd y swydd yn ffyddlon am ddeng mlynedd. Symudodd oddiyma i fyw i Beniel, Nantmor, yn 1874, ac y mae yn parhau i lenwi yr un swydd yno. Rhagfyr 15fed, 1874, yn un o dri, neillduwyd Mr. G. Evans, ysgolfeistr, yn flaenor. Daeth yma ar agoriad yr ysgol ddyddiol, Ionawr 1af, 1873. Wedi bod yn ddefnyddiol gyda'r achos, symudodd i Dalsarnau Ebrill, 1881; ac fel arwydd o barch yr ardalwyr tuag ato cyflwynwyd iddo yntau "anerchiad goreuredig."

BLAENORIAID FUONT FEIRW.

MANOAH WILLIAMS.

Dewiswyd ef yn flaenor Rhagfyr 15, 1874. Bu farw Awst 5, 1883. Yr oedd yn fab i hen flaenor da yn Llanfrothen, William Rolant, Garthfoel. Ganwyd ef yn 1829. Trodd ei gefn ar eglwys Dduw am ychydig, ond nis gallodd fod yn dawel nes y daeth i mewn yn ol. Ymroddodd i wasanaethu crefydd, yn enwedig y rhan olaf o'i oes, a bendithiwyd ef â chrefydd o radd uchel iawn. Yr oedd yn ddarllenwr mawr, yn weddiwr gafaelgar, ac yn un o athrawon ffyddlonaf yr Ysgol Sabbothol. Yr oedd yn un nodedig o'r saint i fod yn ei gymdeithas, gan mor barod ac awyddus fyddai i son am grefydd ac achos yr Arglwydd. Yn y tymor byr y bu yn y swydd o flaenor, dangosodd yn amlwg ei fod yn swyddog a wir ofalai am yr achos; "yr oedd gair da iddo gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun."

ROBERT ANWYL.

Neillduwyd ef yn flaenor Rhagfyr 9, 1883, mewn oedran tra ieuanc; ond ni chafodd lanw y swydd yn hir, oherwydd fod afiechyd wedi gafaelyd yn ei gyfansoddiad. Er na chafodd ond ychydig o fanteision addysg, eto trwy lafur personol cyrhaeddodd wybodaeth lled helaeth, ac yr oedd yn gadarn yn yr Ysgrythyrau. Yr oedd yn siaradwr llithrig, a chymerai ran helaeth ymhob cyfarfod crefyddol. Gweithiodd lawer trwy lawer o wendid, ac nid yn aml y gwelwyd neb wedi cyraedd tir mor uchel mewn sicrwydd ynghylch ei gyflwr. Bu farw Chwefror 18, 1887, yn 29 mlwydd oed.

RICHARD JONES.

Yr oedd ef yn un o'r tri a neillduwyd Rhagfyr 15, 1874, Gwasanaethodd yr achos yn ffyddlawn am flynyddau lawer. Un peth a'i hynodai ydoedd ei sel mewn dyfod i foddion gras Meddai yntau ar ddawn neillduol i siarad ar unrhyw fater, a mynych y gwnelai hyny yn effeithiol yn y cyfarfodydd eglwysig, pan yn cymhwyso pregethau y Sabbath at ei anghenion ei hun a'i gydaelodau. Yr oedd yn hyddysg yn ngair Duw, a byddai yn wastad yn hynod am ei daerni o flaen gorsedd gras. Efe oedd ysgrifenydd yr eglwys yn y blynyddoedd diweddaf o'i oes. Gwnaeth lawer o waith gyda'r Ysgol Sul. Bu yn llywydd y Cyfarfod Ysgolion am rai blynyddau, a dangosodd lawer o sel gyda hyn hefyd. Bu farw Tachwedd 25, 1889, yn 53 mlwydd oed.

Y blaenoriaid presenol ydynt Mri. Thos. Williams, er 1857; Hugh G. Roberts, er 1888; Daniel Jones a Silvanus J. Owen (1890).

Heb fod ymhell o'r ardal hon yr oedd cartref y pregethwr melus a dylanwadol Morris Anwyl. Yr oedd yn fab i Robert Anwyl y soniwyd am dano. Efe a anwyd Ebrill 16, 1814. Bu dros ryw dymor yn Athrofa y Bala. Dilynid ei bregethu âg eneiniad mwy na'r cyffredin, a disgwylid pethau mawrion oddiwrtho. Ond torwyd ef i lawr yn ebrwydd; bu farw Awst 12, 1846, yn 32 oed. Mewn amser diweddar cyfododd dau i bregethu o'r eglwys hon, sef y Parchn. O. T. Williams, Rhyl, a D. D. Williams, Peniel, Ffestiniog. Y mae Miss Williams, yr hon sydd wedi myned allan i'r maes cenhadol yn Sylhet, yn enedigol o Groesor, ac wedi ei magu yn yr eglwys hon. Merch ydyw i Manoah Williams, yr hwn y gwnaethpwyd coffhad am dano uchod fel un o flaenoriaid yr eglwys. Yn y Cyfarfod Misol a gynhaliwyd yn mis Medi, 1889, croesawyd hi gan y frawdoliaeth yn y sir, ar ei hymgysegriad i fod yn un o'r cenhadon dros yr Iesu i'r India. Cychwynodd oddicartref i'w thaith i Sylhet Hydref , 14, 1889. Bu y gweinidogion canlynol mewn cysylltiad gweinidogaethol â'r eglwys:—Parchn. O. T. Williams, 1877-78; T. E. Roberts, M.A., 1886-88; D. D. Williams, 1888-89; D.O'Brien Owen, 1889, hyd yn awr.

Rhif y gwrandawyr, 186; cymunwyr, 102; Ysgol Sul, 138.

RHIWBRYFDIR.

Capel y Rhiw ydoedd y trydydd, o ran trefn ac amser, a adeiladwyd gan y Methodistiaid yn Mlaenau Ffestiniog, a'r eglwys ymgynulledig ynddo ydoedd y drydedd gangen a ffurfiwyd o fewn i'r un cylch. Ymwahanodd y gangen hon oddiwrth eglwys Tanygrisiau yn y flwyddyn 1856, megis yr oedd Tanygrisiau wedi ymwahanu oddiwrth Bethesda, ddeunaw mlynedd yn flaenorol. Perthyna i ardal y Rhiw gryn lawer o hanes, cyn bod eglwys wedi ei ffurfio yn rheolaidd ynddi, yn enwedig mewn cysylltiad â'r Ysgol Sabbothol. Ysgrifenwyd hanes yr ysgol yn dra chyflawn gan Mr. T. J. Roberts, Ael-y- bryn, a chyhoeddwyd ef gydag Adroddiad yr Ysgolion Sabbothol am 1874. Mae y ffeithiau dyddorol a gasglwyd ynghyd y pryd hwnw yn werth eu corffori a'u cadw, fel rhan o weithrediadau yr eglwys hon.

Oddeutu 1820, nid oedd neb yn proffesu crefydd yn y rhan yma o'r ardal gyda'r un enwad, oddieithr un wraig, sef Ellin Williams. Bu Ysgol Sul yn cael ei chynal gan yr Annibynwyr dros ryw ysbaid o amser yn Rhiwfawr; ond, oherwydd colli ei phrif noddwr, bu raid ei rhoddi i fyny. Yn y cyfamser, teimlai ychydig deuluoedd a breswylient yn y Cwm, y rhai oeddynt yn magu plant, awydd cryf am i'w plant gael eu dysgu i ddarllen y Beibl. Yn ngrym yr awydd hwn, aeth William Jones, Griffith Ellis, Owen Dafydd, ac Isaac Edwards, i Neuadd-ddu (yno yn unig y cynhelid pob moddion crefyddol yn y Blaenau y pryd hwn), i gyfarfod athrawon, er gosod y cais gerbron. Yr oedd hyn tua Hydref, 1825. Yr oeddynt yn bur ddigalon ar eu ffordd yno, rhag i'w cais fyn'd yn fethiant. Meddai W. Jones, "Tybed y llwyddwn ni?" "Mae arna' i ofn na wnawn ni ddim," meddai G. Ellis. "Gadewch i ni fyn'd yno i dreio," meddai O. Dafydd, "os na chawn laeth, fe gawn y piser," ac ymlaen yr aethant. Ond derbyniad lled oeraidd a roddwyd i'w cais. Ond digwyddodd fod y Parch. W. Thomas, brawd y Parch. Robert Thomas, Llidiardau, yn y cyfarfod, yr hwn, ar y pryd, oedd yn adeiladu capel Bethesda. "Frodyr bach," ebe y gŵr hwn, "dylech, ar bob cyfrif, wrando ar gais y cyfeillion." Felly, trwy ei gyfryngiad ef, llwyddasant; a'r Sabbath canlynol, daeth dau frawd o'r Neuadd-ddu i sefydlu ysgol yn Rhiwbryfdir, mewn lle a elwid Pant-y-lleidr, yr hwn le sydd er's talm wedi ei gladdu dan rwbel y chwarel. Y flwyddyn y sefydlwyd hi, daeth gwr o'r enw W. Williams (Gwilym Peris), i fyw i Talywaenydd, yr hwn, ynghyd a'i wraig, oeddynt yn proffesu crefydd. Yr oedd ef yn fwy galluog na'r cyffredin, a manteisiodd yr ardalwyr lawer trwy ei ddyfodiad i'w plith. Mewn cysylltiad â Bethesda, ceir ei hanes yn gwneuthur cais i ddysgu Gramadeg Cymraeg yn yr Ysgol Sul. Rhif yr ysgol hon, pan yn cael ei sefydlu, ydoedd 46.

Er mwyn gweled beth oedd ansawdd yr achos yn gyffredinol yr adeg yr oedd yr ysgol yn Pant-y-lleidr, nodir y ffaith, ar sail tystiolaeth un o'r hen frodorion, R. Williams, gynt o Conglywal, nad oedd ond oddeutu 40 o aelodau eglwysig perthynol i'r Methodistiaid yn yr oll o Flaenau Ffestiniog. Bu ysgol lewyrchus, wedi hyn, yn y Mynachlog. Ar ol colli y lle hwn, buwyd gydag un o'r enw Mr. Homfray, yn ymofyn am le i adeiladu ysgoldy, a dywedir i hyny gael ei ganiatau. Aeth y brodyr yr Annibynwyr ato gyda'r un neges, pryd yr atebodd yntau, "Fi wedi rhoi lle. Chi myn'd at eich gilydd. Chi am fod hefo'ch gilydd yn y nefoedd, chi bod gyda'ch gilydd ar y ddaiar hefyd." Ni adeiladwyd ysgoldy, fodd bynag, gan y naill na'r llall. Bu yr ysgol yn crwydro o dŷ i dŷ am yn agos i ugain mlynedd. Nodwedd arbenig yn perthyn i'r Ysgol Sul yn y gymydogaeth hon oedd, y byddai llawer iawn o weddio ar yr Arglwydd ar ei rhan. Bob haf, am flynyddoedd, byddai cyfarfodydd gweddio yn cael eu cynal ar gylch yn y tai, am chwech o'r gloch boreu Sabbath, ac yn ystod y gauaf, ar noson waith. Teimlai yr ychydig broffeswyr oedd yn Cwm y Rhiw, hefyd, yn ddwys dros eu cymydogion dibroffes. Cynhelid cyfarfodydd ganddynt, y rhai y gellid eu galw yn seiat, i'r diben o adrodd eu profiadau gyda gwaith yr ysgol. Yn un o'r rhai hyn, profiad un o'r hen frodyr ydoedd, "O frodyr, gweddiwch drosom." "Wel," meddai yr hen frawd John Jones, o Dolyddelen, "Rhaid i ti weddio dy hun yn gyntaf, Evan. Dydi o ddim diben i ti geisio gan eraill wneyd hyny drosot, heb i ti weddio dy hun yn gyntaf." I hyn yr atebwyd gan y chwaer Ellin Williams. Tai'rfrest, "Mae yn debyg, John Jones, ei fod wedi dechreu gweddio ei hun, cyn y buasai yn ceisio gan eraill i wneyd hyny drosto."[22]

Yn 1842, cafwyd lle pwrpasol i gynal yr ysgol trwy adeiladu Ysgoldy y Dinas. Yr oedd cymydogaeth y Rhiw y pryd hwn o dan nawdd yr achos yn Nhanygrisiau, ac felly arnynt hwy yno y disgynodd y draul o adeiladu. Cynyddodd yr ysgol yn fuan wedi myned i'r adeilad hwn, i 143. Yn Awst 1848, sefydlwyd cangen ysgol drachefn yn Talywaenydd, a G. Williams, ieu., wedi hyny, y Parch. G. Williams, Talsarnau, oedd un o'r rhai a osodwyd i ofalu am yr ysgol hon. Dywediad y gwr parchedig mewn cysylltiad â hyn ydoedd, "Y bydd i bwy bynag a ymgymero â gofalu am gornelau fel y daeth i'w ran ef gyda'r ysgol, wneyd lles i eneidiau anfarwol." Adeiladwyd y capel cyntaf, yr hwn a adnabyddir yn awr fel Hen Gapel y Rhiw, yn 1856, pryd y ffurfiwyd yr eglwys. Ei rhif ar y cychwyn ydoedd 100. Cyn pen pedair blynedd, mae y capel yn cael ei helaethu. A buan drachefn, oherwydd cynydd cyflym y boblogaeth, y mae yn myned yn rhy fychan i'r gynulleidfa, ac mae yr eglwys yn gwylio ei chyfleusdra am le cyfaddas i adeiladu y drydedd waith, ac o'r diwedd yn llwyddo, ond ar delerau tra anffafriol, gyda dim ond 40 mlynedd o brydles. Yn ngwyneb yr anfantais hon, cymhellai y diweddar Barch. E. Morgan, y Dyffryn, yr eglwys i fyned ymlaen "trwy ffydd," ac felly gwnaed. Ac yn Nhachwedd, 1868, agorwyd y capel presenol. Yn y flwyddyn 1887, mae yr eglwys yn llwyddo i brynu y capel a'r tŷ yn freehold am 300p., a gair Mr. Morgan yn cael ei wirio, sef y byddai rhywbeth yn sicr o ddigwydd i beri i'r eglwys gael y capel yn feddiant. Y flwyddyn ganlynol, adeiladwyd ysgoldy eang ynglyn â'r capel, yr hwn a agorwyd Mawrth, 1889. Y draul ynglyn â'r adeiladau sydd fel y canlyn:—

£
Gwerth y capel cyntaf yn 1856 400
Yr helaethiad arno yn 1859 250
Y capel newydd yn 1868, gan gynwys y tŷ 3,800
Capel Talywaenydd yn 1872 180
Pryniad y capel yn freehold yn 1887 300
Yr Ysgoldy Newydd yn 1889 700
£5630

Talwyd y ddyled trwy y moddion canlynol:—(1) Casglu yn fisol yn yr Ysgol Sabbothol; (2) Arian yr eisteddleoedd: (3) Y Gymdeithas Arianol. Pan adeiladwyd y capel presenol, yr oedd y swm o 1100p. wedi ei gasglu erbyn amser ei agoriad. O'r flwyddyn 1868 hyd ddiwedd 1878, casglwyd gan yr Ysgol Sabbothol 1806p., a derbyniwyd o arian yr eisteddleoedd 1112p. A threiglwyd y swm o oddeutu 9000p. trwy y Gymdeithas Arianol, mewn corff 12 mlynedd o amser, trwy yr hyn yr arbedwyd talu llogau.

Ar y cyntaf yr oedd Rhiw a Thanygrisiau yn un daith. Yn Nghyfarfod Misol Medi, 1864, rhoddwyd caniatad iddynt fyned yn ddwy daith.

Prif nodweddion yr hen grefyddwyr yn Nghwm y Rhiw ydoedd, sel, ffyddlondeb, a duwioldeb amlwg. Er i nifer mawr o frodyr, y tu allan i'r swyddogaeth, weithio yn rymus gyda'r achos yma o'r cychwyn, ni chaniata terfynau yr hanes i nodi ond ychydig engreifftiau o'r rhai hynotaf. William Sion, Trai'rfrest, oedd un o'r pedwar a aeth gyntaf i ymofyn am yr ysgol i Neuadd-ddu. Yr oedd cywirdeb a gonestrwydd gyda chrefydd yn amlwg iawn ynddo ef. Coffheir am un Sabbath hynod yn ei hanes, pan yr oedd ef a'i ddosbarth yn darllen yr ail benod yn Llyfr yr Actau yn yr ysgol. Disgynodd rhywbeth hynod arnynt, nes oedd y dagrau yn treiglo i lawr ar hyd gruddiau yr athraw ac amryw o'r disgyblion, a dyna ddywedodd yr hen dad, "Wel, bobl, dyma ni wedi cael yr Esboniwr Mawr ei hun atom heddyw. Pe caem yr esboniwr hwn gyda ni bob amser, gallem yn hawdd esbonio'r Beibl wedy'n." Gŵr duwiol a ffyddlon ydoedd Griffith Williams, tad y Parch. G. Williams, Talsarnau. Dygwyd ef i fyny yn ardal Dolyddelen, ymysg cewri o bregethwyr, sef meibion Tanycastell. Yr oedd ei awyddfryd am lwyddiant y weinidogaeth bob amser yn fawr iawn. Arferai ddweyd nad aeth yr un Sabbath heibio hyd ddiwedd ei oes, byth wedi i'w fab Griffith ddechreu pregethu, na fyddai yn myned a'i achos yn bersonol gerbron gorsedd gras. Hysbysir ei bod yn ffaith yn ei hanes, am yn agos i 50 mlynedd y bu yn gweithio yn y chwarel, nad aeth ond unwaith o'r tŷ yn y boreu heb gadw dyledswydd deuluaidd, ac iddo y tro hwnw, wedi cael hamdden ar ei ben ei hun yn y Machine, gadw dyledswydd ei hunan. Parhaodd yn iraidd ac ieuanc ei ysbryd hyd y diwedd. William Sion, Soar, hefyd, oedd un o hen grefyddwyr disglaer yr ardal, er y byddai yn bur hawdd ganddo achwyn ar ei grefydd ei hun. Un noson seiat, aeth y Parch. Griffith Williams, Talsarnau, yr hwn a ddigwyddai fod yn arwain y cyfarfod, ato, a gofynodd iddo, pa fodd yr oedd yn teimlo gyda'i grefydd erbyn hyn, pryd yr atebodd yr hen frawd, "Yr wyf yn ofni yn fawr, Griffith bach, fy mod hebddi hyd heno." "Onid yw yn beth rhyfedd, fewyrth," ebai G. W., "eich bod wedi dod i'r un farn â ninau am eich crefydd?" Ac meddai yr hen bererin yn ol, "Does genyt ti ddim gwell meddwl na hynyna am fy nghrefydd i, Griffith?" A chyn diwedd yr ymddiddan yr oedd yn grefydd i gyd. Yn ei hen ddyddiau fe wnaeth Mr. Holland ef yn bensioner, ac yr oedd G. Williams, hynaf, wedi ei wneyd felly gan Gwmni y Welsh Slate. Byddai y ddau bensioner ar adegau yn canlyn eu gilydd, ac un tro, pan yr oeddynt yn Pantyrafon, yn cerdded ar hyd y ffordd, meddai G. W. wrth W. S., "Wel di, tyr'd dipyn bach yn mhellach," ac yna hudodd ef o'r ffordd, a gofynodd iddo, "Wel, Wil bach, sut y mae hi arnat ti? A oes genyt ti ddigon o grefydd i fyned oddiyma?" Trodd ei hen gyfaill ato, gan ddywedyd, "Ai dyna dy falais di, Guto, yn dod a fi i'r fan yma, i chwilio fy mhac i, ac i wybod faint o grefydd sydd genyf fi?" Cafodd Griffith Jones, Glanypwll, ac Evan Roberts, eu hargyhoeddi tua'r un adeg. Cyfeiriai y cyntaf bob amser at ryw brydnhawn Sadwrn, pan yn sefyll ar gareg y drws, y daeth yr adnod hono yn rymus i'w feddwl, "Melldith yr Arglwydd sydd yn nhŷ yr annuwiol." Addunedodd gyflwyno ei hun i'r Arglwydd ac i'w bobl, a chyflawnodd ei addewid. A'r Sabbath canlynol ymunodd E. Roberts hefyd â chrefydd. William Jones, Glandwyryd, er heb fod yn swyddog rheolaidd, a wnaeth lawer o waith y swydd. Dywediad un o'r blaenoriaid am dano ydoedd, y byddai yn edrych arno fel dyn wrth gefn. Bu William Jones, Penygroes, yn arwain y canu gyda ffyddlondeb mawr am y chwe' blynedd cyntaf ar ol ffurfiad yr eglwys, ac a fu farw yn anterth ei nerth yn Rhagfyr, 1862. Mab iddo ef ydyw yr arweinydd galluog ac adnabyddus presenol. John Williams, Tŷ Capel, gynt, a wnaeth ei ran fel disgybl ffyddlon, trwy wasanaethu am dymor hir ar y pregethwyr, a thrwy lafurio llawer gyda'r plant.

Amser i'w gofio yn Nghwm y Rhiw ydoedd adeg y diwygiad grymus yn 1859. Byddai cyfarfodydd gweddiau yn cael eu cynal, dros ryw ysbaid yn flaenorol, ar gylch ar hyd y tai, am 4-30 y Sabbath. Bu dau gyfarfod gweddi tra hynod felly yn Llechwedd a Thalywaenydd, nes ydoedd bron a thori allan yn orfoledd. Am chwech yn yr hwyr, yr un Sabbath, cynhelid cyfarfod gweddi yn y capel (pryd nad oedd yno bregeth), a thystiolaeth pawb oedd yn bresenol ydoedd, fod rhyw ddwysder arbenig iawn ynddo, hyd nes yr oedd amryw bron a cholli eu hanadl. Ar ei ol drachefn cynhelid cyfarfod gweddi y bobl ieuainc, ac yn hwn y dywedir y torodd y diwygiad allan, a hyny tra yn canu yr hen benill, "Fel bo'i mhechod gael ei glwyfo a'i wanhau," yr hwn a ganwyd laweroedd a llaweroedd o weithiau. Yr wythnos ganlynol, o'r 9fed i'r 16eg o Hydref, 1859, yr oedd yn wythnos o weddio ddydd a nos. Llwyr adawai y chwarelwyr eu gorchwylion o'r holl chwarelau, yn ystod y dydd, ac ymgynullent yn dyrfaoedd i Ffriddybwlch (llechwedd o fynydd gerllaw) i gynal cyfarfodydd gweddio, a byddai y capelau yn orlawn o bobl hyd yn hwyr y nos, a "sain cân a moliant," a swn gorfoledd mawr oedd i'w glywed ar hyd y gymydogaeth, trwy yr holl wythnos gofiadwy hono. Bu y diwygiad hwnw o fendith annhraethadwy i'r cymydogaethau hyn. Ychwanegwyd at yr eglwys drwyddo yn y Rhiw yn unig o 100 i 150 o aelodau. Un Sabbath yn fuan wedi hyn, yr oedd y Parch. Daniel Evans, y Penrhyn, yn pregethu yn y Rhiw, gyda hwylusdod a dylanwad pur fawr, oddiar y geiriau, "Yr hwn a'n gwnaeth ni yn gymwys i gael rhan o etifeddiaeth y saint yn y goleuni." A'r noson hono, er llawenydd mawr i'r holl fro, arhosodd William Williams, Rhiw House, prif oruchwyliwr cwmni chwarel y Welsh Slate, ar ol yn y cyfarfod eglwysig, a'i ateb i'r gweinidog, yr hwn a aeth i ofyn gair iddo, ydoedd, "Ei fod yntau wedi meddwl am gael rhan yn yr etifeddiaeth." A ganlyn ydyw rhestr o swyddogion yr eglwys:—

EVAN ROBERTS

Derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol, fel blaenor yn Nhanygrisiau, Mai, 1842. Efe oedd yr unig swyddog a symudai gyda'r eglwys oddiyno i'r Rhiw. Bu yn swyddog am 44 mlynedd,-14 yn Nhanygrisiau, a 33 yn y Rhiw. Bu farw yn 1886. Arferai ddweyd ei hun iddo fod o dan Sinai am gryn amser yn nechreu ei oes. Ymunodd â chrefydd yn eglwys Bethesda, a bu yn hynod o ffyddlon ar hyd ei yrfa grefyddol. Y mae yn ffaith yn ei hanes na wnaeth esgeuluso gymnaint ag un moddion crefyddol. Meddai ar fedr neillduol i arwain mewn cyfarfodydd eglwysig, ac yr ydoedd yn dda yn ei gynghorion gyda'r amcan o ddiddanu a chadarnhau y saint; ac os byddai angen ceryddu, meddai ar allu i fod yn llym, ac i ddangos y llywodraethwr, a safai yn dyn dros ddisgyblaeth eglwysig. Bu yn hynod o selog gyda'r Ysgol Sul yn y Cwm yn ei blynyddoedd cyntaf, ac yn athraw ynddi cyn bod yn aelod eglwysig. Llanwodd y swydd o arolygwr yr ysgol am flynyddoedd meithion, a gwasanaethodd yr eglwys yn ffyddlawn mewn dilyn Cyfarfodydd Misol. Cerddodd lawer iddynt amser yn ol, gyda mawr sel. Dioddefodd gystudd maith, a bu farw gan ymorphwys ar y Person y cafodd y fraint o'i wasanaethu dros amser mor faith.

HENRY TREVOR ROBERTS.

Ymhen ychydig amser wedi ffurfio yr eglwys yn y Rhiw, symudodd y brawd ieuanc duwiol hwn o Garmel, Llandwrog, i Ffestiniog, i fod yn gyfrifydd yn chwarel Mr. Holland. Codwyd ef yn flaenor yn Llandwrog pan ydoedd yn ddyn ieuanc 21 oed, ac yn fuan wedi ei ddyfodiad yma, neillduwyd ef i'r swydd gan yr eglwys hon. Bu yn swyddog am 17 mlynedd rhwng y ddau le. Yr oedd yn wr ieuanc gweithgar gyda chrefydd, yn hynod am ei dduwiolfrydedd, ac am ei wybodaeth Ysgrythyrol. Colled fawr i eglwys y Rhiw oedd colli y fath un. Bu farw Ebrill 30, 1871, yn 38 oed.

HUGH DANIEL HUGHES.

Brodor ydoedd ef o Rostryfan. Yr oedd yn arwain y canu yn Nhanygrisiau cyn dyfod i fyny i'r Rhiw. Prif nodwedd ei gymeriad ydoedd manylder. Gwnaeth lawer gyda chaniadaeth y cysegr, yn neillduol gyda'r plant, a mawr oedd ei sel am eu dysgu mewn moesau da. Seren ydoedd yntau a fachludodd yn foreu. Gwasanaethodd swydd blaenor ychydig dros ddwy flynedd, a bu farw Rhagfyr 26, 1859, yn 37 oed.

ROBERT OWEN.

Brodor o Rostryfan oedd yntau. Daeth i Ffestiniog fel goruchwyliwr yn chwarel Mr. Holland. Codwyd ef yn swyddog yn y Rhiw, a derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol, Tachwedd 1857. Gwnaeth lawer o wasanaeth gyda'r achos cyn bod yn swyddog eglwysig, ac yr oedd yn un o'r rhai a gymerodd y rhan fwyaf blaenllaw gydag adeiladu y capel cyntaf yn y Rhiw, a chymerodd lawer o drafferth arno ei hun drachefn i ddwyn oddiamgylch adeiladu y capel presenol. Un yn dewis gweithio o'r golwg ydoedd ef. Er hyny, yr oedd yn wr o synwyr cryf, barn addfed, a phenderfyniad diysgog, yr hyn a roddai iddo ddylanwad nid bychan ymhob cylch o ddefnyddioldeb. Heblaw bod yn ffyddlon i achos crefydd, mawr fu ei wasanaeth hefyd i addysg yr ardal. Bu farw yn 1869.

EVAN THOMAS, LLECHWEDD.

Un o frodorion Ffestiniog ydoedd ef. Dewiswyd ef yn flaenor ar y cyntaf yn Peniel, ac wedi hyny yn Maentwrog; a phan yr ymgymerodd a bod yn oruchwyliwr chwarel Mr. Greaves, symudodd i fyw i'r Llechwedd. Bu yn ddiacon gweithgar a dylanwadol yn eglwys y Rhiw am 20 mlynedd, Gweithredodd fel trysorydd yr eglwys, a hyny yn y cyfnod pwysicaf yn ei hanes, ynglyn â thalu dyled y capel, fel yr aeth rhai miloedd o bunau trwy ei ddwylaw yn y Gymdeithas Arianol. Meddai ar synwyr cryf, cymeriad disglaer, a barn addfed, a gallu i'w thraethu yn glir ac argyhoeddiadol. Meddai hefyd ddawn a deheurwydd arbenig i gynghori pobl ieuainc. Dringodd o sefyllfa gweithiwr i fod yn oruchwyliwr ar un o'r chwarelau mwyaf, sef y Llechwedd, eiddo Mr. Greaves. Enillodd y fath ymddiried, fel y dywedai ei feistr am dano wrth y gweinidog a weinyddai yn ei gladdedigaeth, Yr ydym heddyw yn claddu y dyn goreu yn y wlad." Enillodd yr ymddiried hwn o eiddo ei feistr heb golli ymddiried y gweithwyr. Anhawdd ydyw meddwl am oruchwyliwr, cyfaill, a blaenor ffyddlonach. Hoffai fod o'r golwg, ac nid oes neb dynion, ond ei gyd-swyddogion, a allant ffurfio un math o syniad am ei wasanaeth i'r achos. Bu farw Mawrth, 1887.

Neillduwyd Mr. W. Bleddyn Lloyd i'r swydd, ond symudodd, cyn pen hir, i Lanrwst. Y blaenoriaid yn awr ydynt, Mri. G. Jones, T. J. Roberts, Aelybryn, David G. Jones, a G. G. Davies.

Cychwynodd dau i'r weinidogaeth o'r eglwys hon, sef y Parch. R. V. Griffith, yn awr yn yr America, yn Nhachwedd, 1864; a'r Parch. J. O. Jones, yn awr o Lanberis, yn Mehefin, 1867. Mae y Parch. D. Roberts mewn cysylltiad gweinidogaethol â'r eglwys er y flwyddyn 1868. Nifer y gwrandawyr, 712; cymunwyr, 336; Ysgol Sul, 495.

TABERNACL.

Y Tabernacl ydyw un o'r capelau mwyaf a berthyn i Orllewin Meirionydd, ac ynddo yr ymgynillai y gynulleidfa fwyaf, a'r eglwys liosocaf, yn ystod yr ugain mlynedd o 1870- i 1890. Ac eto mae yn briodol hysbysu ar y dechreu mai Chwefror 14, 1864, yr agorwyd y capel ac y ffurfiwyd achos ynddo gyntaf. Bethesda oedd yn gofalu am grefydd yr oll o'r ochr hon o ardal Ffestiniog yn flaenorol i'r adeg yma... Sefydlwyd Ysgol Sul gan y rhai mwyaf blaenllaw a berthynent i'r achos yn Bethesda, mewn lle a elwid Cloddfa Lord, yn y flwyddyn 1850, ac i hon yr olrheinir dechreuad yr achos yn y Tabernacl.

Mae hanes symudiadau a gweithrediadau yr ysgol hon wedi ei ysgrifenu yn fanwl gan y diweddar John Jones, diacon. ffyddlawn yn eglwys y Tabernacl, ac wedi ei gyhoeddi gan Gyfarfod Ysgolion y Dosbarth am y flwyddyn 1875. Yr oll ellir wneyd yma ydyw crybwyll y prif ffeithiau yn yr hanes, er dangos y modd y daeth y cnewyllyn bychan bob yn ychydig yn eglwys gref a lliosog. Rhif yr ysgol pan yn Lord oedd o 50 i 60, ac yr oedd pawb o drigolion y gymydogaeth yn perthyn iddi oddigerth un neu ddau. Anfonid brodyr o Bethesda i gynorthwyo i'w dwyn ymlaen. Ac nid oes odid yr un o ddynion mwyaf blaenllaw y gymydogaeth yn y cyfnod hwnw na bu ganddo ryw law yn ei hadeiladu. Ond yr un fu ffyddlonaf iddi, y tu allan i gyffiniau uniongyrchol y gymydogaeth, ydoedd John Jones y crybwyllwyd am dano, sef ysgrifenydd hanes yr ysgol. Cynhelid cyfarfodydd gweddio hefyd yn yr un lle ar nos Sul a nosweithiau ganol yr wythnos, a chyfarfodydd eglwysig ar eu hol, a chafodd y bobl flas arnynt, fel y daeth holl ddeiliaid yr ysgol, oddieithr un neu ddau, yn aelodau eglwysig. "Ac yn un o'r cyfarfodydd hyn, yn Plasyndre, y torodd y diwygiad yn y flwyddyn 1859 allan gyntaf yn yr ochr hon i'r gymydogaeth." Gwna John Jones, yn ei ysgrif ar hanes Ysgol Lord, y sylw canlynol:—"Yn yr ysgol hon y cafodd y Parch. R. Owen, M.A., Penal, y cyfle cyntaf neu yr ail i ymarfer ei ddawn fel pregethwr." [Mae y tŷ lle cynhelid y moddion y Sabbath hwnw er's blynyddoedd wedi ei gladdu o dan domenydd y chwarel]. Symudwyd yr ysgol, oherwydd afiechyd yn y tŷ lle y cedwid hi, o Lord i'r Uncorn, yn agos i Fourcrosses. Ac yn yr Uncorn, mewn dau dy o dan yr un tô, sef tŷ Humphrey Jones a thŷ Griffith Jones, y bu yr ysgol hyd nes y symudwyd hi i'r Tabernacl yn 1864.

Y crybwylliad cyntaf o berthynas i fodolaeth y Tabernacl ydoedd mewn ymddiddan a gymerodd le rhwng hyrwyddwyr yr ysgol, pan yn dyfod i lawr o Lord y Sabbath diweddaf y cynhaliwyd hi yno. Meddyliodd y brodyr i ddechreu am gael ysgoldy, naill ai rhwng Trefeini a Chloddfa Lord, neu yn Fourcrosses. O'r diwedd, syrthiodd eu meddwl ar y lle diweddaf. Anfonwyd dau frawd oddiwrth yr eglwys yn Bethesda John Hughes, Tanygraig House, a Robert Evans, Cae Du-yn ddirprwyaeth at oruchwyliwr Arglwydd Newborough, i ofyn am le i adeiladu, ond aflwyddianus fu eu cais. Anfonwyd cais yr ail waith at yr uwch-oruchwyliwr, Mr. Elias, o'r Abbey, ger Llanrwst, yr hwn yn serchog iawn a roddodd bob cefnogaeth i'r symudiad, ac anogodd y cyfeillion i wneyd cais, nid am ysgoldy, ond am gapel ar unwaith, gan yn sicr y byddai ei eisiau, a hyny yn fuan. Wedi disgwyl, pa fodd bynag, yn bryderus am amser, "derbyniwyd atebiad i'r perwyl fod Arglwydd Newborough yn gwrthod y cais." Credid mai teimlad sectaidd oedd wrth wraidd y gwrthodiad. Dyma yr eglurhad paham na buasai y capel wedi ei adeiladu yn Fourcrosses, lle yr oedd llawer yn credu y pryd hwnw mai y fan hono yr oedd ei le. Gwnaed cais y drydedd waith, trwy Mr. John Vaughan, Tanymanod, i gael lle i adeiladu yn y fan agosaf a ellid i Fourcrosses. Aeth y cais hwn drachefn yn fethiant. "Wel," ebe Mr. Vaughan, " yr oll yn ychwaneg a allaf ei wneyd ar eich rhan yw cynyg yr eiddof fi fy hun i chwi yn y cyfeiriad yna." Y canlyniad a fu, derbyn y cynygiad hwn, a sicrhawyd y tir trwy bryniad. Penderfynwyd i'r capel fod yn 63 troedfedd wrth 51 oddifewn. Dewiswyd Mr. Ellis Williams, Porthmadog, yn gynllunydd, a derbyniodd ei gynlluniau gymeradadwyaeth y pwyllgor, a'r Cyfarfod Misol hefyd a gynhaliwyd yn Nhrawsfynydd, Medi, 1861. Wedi cael rhai siomedigaethau ynglyn â'r adeiladu, dygwyd y gwaith i ben, ac megis yn yr anialwch gynt "Codwyd y Tabernacl."

Sabbath, Chwefror 14, 1864, y cynhaliwyd gwasanaeth crefyddol ynddo gyntaf, a'r ysgol am ddau o'r gloch. Dechreuwyd y gwasanaeth gan Mr. Richard Williams, Hafodlas (gynt o Lwynygell). Am chwech yn yr hwyr, daeth cynulleidfa Bethesda oll yma, a phregethwyd gan y Parch. Thomas Gray. Y Sabbath canlynol, pregethwyd ynddo gan y gweinidog, y Parch. Owen Jones, B.A., a'r Parch. Evan Roberts, yn awr o'r Dyffryn. Chwefror 28, cynhaliwyd cyfarfod i agor y capel, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn. Thomas Hughes, Caernarfon, E. Morgan, Dyffryn, a Dr. Parry, Bala. O hyny hyd yn awr, y mae wedi bod yn daith gyda Bethesda, a dau bregethwr yn gwasanaethu bob Sabbath. Ymadawodd o aelodau o Bethesda i'r Tabernacl 170. Ar ddiwedd y flwyddyn 1864, yr oedd eu rhif yn 213; yr Ysgol Sul yn 315; y gwrandawyr yn 420. Bu cynydd cyson ar yr achos hyd 1877, pryd yr ymadawodd rhan o'r gynulleidfa o'r eglwys i Garregddu. Cyn yr ymraniad hwn, rhifai y cymunwyr 560; Ysgol Sul 825; gwrandawyr 1100. Bu Bethesda yn dra charedig wrth eglwys y Tabernacl ar ei chychwyniad. Yr oeddis wedi casglu yr yr Ysgol Sul yno, a chan gyfeillion eraill, uwchlaw 500p., yr hyn a gyflwynwyd i'r Tabernacl tuag at ddechreu byw. Rhoddodd Bethesda, hefyd, yr oll oedd yn y Gymdeithas Arianol i'r frawdoliaeth pan yn ymadael, ac yr oedd ynddi, ar y pryd, o 1300p. i 1500p., fel nad oedd raid iddynt dalu dim llog ar y ddyled oedd ar y capel.

Er cael golwg ar haelioni a gweithgarwch yr eglwys, mae y ffeithiau canlynol wedi eu casglu ynghyd, y rhai ydynt yn dra dyddorol. Costiodd y tir, a'r capel, a'r tai, dros 3700p. Gwariwyd hyn y blynyddoedd cyntaf. Yn 1869, rhoddwyd gallery ar y capel, trwy draul o 550p. Yn 1876, gwariwyd 150p. i wneyd gwelliantau ar y ffordd sydd yn arwain at y capel o gyfeiriad Fourcrosses. Ymhen ychydig wedi hyn, prynwyd darn o dir yn dal cysylltiad â'r ffordd hon gan Gwmni Chwarel y Diphwys, am y swm o 120p. Gan mai eglwys y Tabernacl oedd yn cymeryd y cyfrifoldeb o adeiladu y Garegddu, ac i nifer mawr o'r aelodau symud yno, caniatawyd rhodd arianol iddynt o 300p., yr hyn a dalwyd yn y flwyddyn 1877. Ac ar eu symudiad yno y flwyddyn ganlynol, rhoddwyd 10p. iddynt at y weinidogaeth, a swm cyffelyb i'r eglwys Saesneg yn y Blaenau, oddeutu yr un adeg. Yn y flwyddyn 1881, adeiladwyd ysgoldy at wasanaeth yr Ysgol Sul yn Nhrefeini, a thŷ ynglyn âg ef, ar brydles, ac am ardreth o 1p. 10s. yn y flwyddyn. Y draul gyda hyn, 575p. 17s. 4c. Wedi rhoddi y symiau uchod at eu gilydd, ceir fod dros 5400p. wedi ei wario mewn cysylltiad â'r adeiladu yn y Tabernacl. I gyfarfod â'r ddyled, bu y Gymdeithas Arianol yn fanteisiol iawn i'r achos yma. Nid yn unig arbedwyd talu Hogau drwyddi, "ond caed digon i ffurfio trysorfa wrth gefn, yr hon oedd yn cynyrchu llog er gostwng y ddyled." Y mae clod yn ddyledus i drysorydd y gymdeithas, y diweddar Edward Evans, Fourcrosses, ffyddlondeb a sel yr hwn oedd yn ddiarhebol. Ffordd arall i dalu y ddyled ydoedd gwneuthur casgliad bob Sabbath yn yr Ysgol Sul. Casglwyd, yn y dull hwn, erbyn diwedd 1875, swm yn cyraedd dros 1900p. Mae yr hyn a wnaethpwyd bob blwyddyn i'w weled yn Adroddiad argraffedig Ysgolion Sul y dosbarth am y flwyddyn hono. Mewn canlyniad i'r ymdrechion hyn, ni bu swm y ddyled ond bychan y pymtheng mlynedd diweddaf. Y flwyddyn hon (1890), mae ysgoldy ynglyn â'r capel, ynghyd ag ystafelloedd eraill, yn cael eu hadeiladu, a bernir y bydd y draul oddeutu 1200p. Adeiladwyd tŷ i'r gweinidog oddeutu yr un amser a'r capel-Bethesda a'r Tabernacl yn gyd-gyfranog i ddwyn y draul. Fel y canlyn y mae rhestr y swyddogion. Ymysg y rhai a symudasant o Bethesda i'r Tabernacl yr oedd dau swyddog, sef John Hughes, Tanygraig House, a David W. Owen, Glandwyryd. Ymadawodd yr olaf, ymhen amser, i Liverpool. Y blaenor cyntaf a ddewiswyd gan yr eglwys oedd John Jones, y Tabernacl, ymhen tua blwyddyn ar ol sefydliad yr eglwys, sef yn 1865. Yn 1873, neillduwyd Mri. Owen S. Jones, John Parry Jones, Llanberis, a Hugh Jones, y Bank. Oherwydd rhyw resymau, gwrthododd y diweddaf weithredu fel swyddog. Ceir crybwylliad am enw Mr. J. Parry Jones mewn cysylltiad âg ysgol y Garegddu. Ni bu ond ychydig flynyddau yn swyddog yn y Tabernacl, gan iddo symud i Lanberis, ac wedi hyny i'r America. Mae Mr. O. S. Jones yn aros eto gyda'r achos. Yn nechreu 1877, dewiswyd Mri. David Jones a J. Parry Jones, U.H., y Bank. Y cyntaf yn aros eto, a'r olaf wedi symud gyda'r eglwys i Garegddu. Trachefn, yn 1883, dewiswyd Mri. Edward Edwards, Gelli, a Kichard Williams, Penybryn Terrace; a hwy, gyda Mr. O. S. Jones, a Mr. D. Jones, ydyw blaenoriaid yr eglwys yn bresenol.[23]

Yn yr eglwys hon y dechreuodd y Parch. Robert Hughes, yn awr o'r Lodge, Sir Fflint, a'r Parch. Edward Joseph, yn awr o Williamsburgh, Iowa, America, bregethu. Daeth y Parch. Owen Jones, B.A., yn weinidog ar eglwysi Bethesda a'r Tabernacl yn Ionawr, 1864, mis cyn agoriad y Tabernacl. Ymadawodd i Liverpool Mehefin, 1872. Dechreuodd y Parch. T. J. Wheldon, B.A., ar ei waith fel gweinidog y ddwy eglwys y Sabbath cyntaf yn Ionawr, 1874, ac y mae yn parhau yn yr un cysylltiad mewn llafur a gweithgarwch mawr hyd yn bresenol.

SYLWADAU COFFADWRIAETHOL.

JOHN JONES.

Derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol fel blaenor yn y Tabernacl, Tachwedd 5, 1865; bu farw Mawath 29, 1888. Cyfeiriwyd ato eisoes fel un o'r rhai blaenaf gyda'r Ysgol Sul a fu yn gychwyniad i'r achos yn y lle hwn. Parhaodd a'i ysgwyddau yn dyn o dan yr arch, ac yn swyddog defnyddiol hyd ei farwolaeth. Yr ydoedd yn wr deallus a phwyllog, a mawr ei ofal am yr achos yn ei holl ranau; yn ddarllenwr cyson, ac yn gadarn yn yr Ysgrythyrau. Byddai yn barod bob amser gydag adnod o'r Beibl ar bob amgylchiad. Ei hoff waith fyddai ceisio dadrys cwestiynau dyrus, a chwilio i wirioneddau mawrion y prynedigaeth. Ymadawodd â gwlad y cystudd mawr ag arwyddion amlwg arno ei fod yn myned i'r orphwysfa dragwyddol.

JOHN HUGHES

Daeth ef yma yn swyddog gyda'r eglwys ar ei chychwyniad; bu farw Rhagfyr 7, 1889. Yr oedd yn fab i un o hen gymeriadau mwyaf gwreiddiol a duwiol y gymydogaeth, sef Samuel Jones, Tanygraig. Wedi ei fagu yn un o'r brodorion, ac yn ngeiriau y ffydd, daeth bob yn dipyn yn un o'r colofnau gyda chrefydd. Gwnaeth ymdrech neillduol tra yn ieuanc i gyraedd gwybodaeth. Bu am dymor yn Athrofa y Bala, a chymhwysodd ei hun i fod yn ysgolfeistr. Gwasanaethodd swydd athraw yr Ysgol Frytanaidd yn Ffestiniog ac yn Sir Fon. Wedi hyny ymsefydlodd fel masnachwr yn ei ardal enedigol. Yr oedd yn wr boneddigaidd ei ysbryd, a chadwai ymhell rhag rhoddi tramgwydd i neb. Eto pan gynhyrfid ei ysbryd, byddai yn eiddigus iawn dros achos yr Arglwydd, ac yn hallt yn erbyn pob arferion drwg. Yn ei gystudd diweddaf cafwyd arwyddion amlwg ei fod yn addfedu i'r wlad well, a gadawodd argraff ar feddwl pawb ei fod yn wir Gristion, ac y mae ei goffadwriaeth yn berarogl yn yr eglwys lle yr oedd yn swyddog.

GAREGDDU

Y crybwylliad cyntaf ar lyfrau y Cyfarfod Misol am yr achos yn y Garegddu, ydyw y penderfyniad canlynol a basiwyd yn Aberdyfi, Chwefror 7, 1870:—"Yn gymaint a bod arwyddion cynydd mawr mewn adeiladu yn Ffestiniog, rhwng y Rhiw a'r Tabernacl, barnai y cyfeillion yno yn ddoethineb iddynt sicrhau tir cyfleus i adeiladu capel yn y lle, a gofynent gydsyniad y Cyfarfod Misol i hyny. Rhoddwyd cydsyniad yn ebrwydd, ac amlygwyd llawenydd am fod hyn yn eu calon." Yn yr un Cyfarfod Misol penodwyd deuddeg o bersonau yn ymddiriedolwyr. Ond oherwydd rhyw amgylchiadau bu oediad ynglyn â symud ymlaen i sicrhau y tir. Trwy ymdrech y Parch. T. J. Wheldon, B.A., yn benaf, yr hwn a aeth at y tirfeddianydd yn bersonol, y llwyddwyd o'r diwedd i gael tir mewn man cyfleus, a dechreuwyd casglu yn effeithiol at y capel. Dyddiad y brydles ydyw 1876.

Derbyniwyd adroddiad oddiwrth y swyddogion, cynwys yr hwn ydyw yr hyn a ganlyn. Tua dechreu y flwyddyn 1871, teimlid anesmwythder yn meddyliau rhai brodyr yn y Tabernacl ynghylch y nifer mawr oedd yn esgeuluso yr Ysgol Sabbothol ar hyd y gymydogaeth, a dygwyd y mater i sylw yr athrawon ar ddiwedd yr ysgol, a phenderfynwyd sefydlu cangen ysgol yn nghymydogaeth Dolgaregddu. A'r Sabbath cyntaf o Ebrill, y flwyddyn hono, sefydlwyd hi yn nhŷ Mr. John Evans. Nid dyma y tro cyntaf i'r teulu hwn groesawu yr Ysgol Sabbothol, canys bu eu tŷ yn gartref i gangen ysgol arall, pan oeddynt yn byw yn Tainewyddion, Diphwys. Y brodyr a ymgymerasant a'i sefydlu oeddynt Mr. J. Parry Jones, gynt o Lanberis, a Mr. Richard Hughes, yn awr o Borthmadog. Ei rhif y Sabbath cyntaf oedd deg, ond cynyddodd yn gyflym hyd nes yr aeth y tŷ yn rhy fach i'w chynal. Yn nechreu y flwyddyn 1872, symudwyd hi i Ysgoldy Brytanaidd Dolgaregddu. Ei nifer pan yn symud oedd 48. Bu y symudiad yn foddion i ychwanegu llawer ati, oblegid cynyddodd yn fuan i 140. Dechreuwyd casglu tuag at adeiladu capel, ac yn mis Ebrill 1875, sefydlwyd Cymdeithas Arianol mewn cysylltiad â'r ysgol.

Ebrill, 1876, nodwyd cyfeillion o'r Tabernacl, mewn cysylltiad â brodyr oeddynt yn aelodau o'r Ysgol Sabbothol Dolgaregddu, yn Bwyllgor Adeiladu. Cafwyd addewidion at y capel o yn agos i 200p. Nid oedd y capel i gynwys mwy na 450, nac i gostio mwy na 1600p.; ond aeth y draul o'i adeiladu, gan ei fod yn un o'r adeiladau goreu a harddaf yn yr ardal, yn 2200p. Yn unol â'r gofal yr oedd eglwys y Tabernacl wedi ei gymeryd gyda'r achos newydd o'r cychwyn, rhoddasant 300p. tuag at adeiladu y capel. Rhoddodd eglwys y Rhiw, hefyd, 150p.; Bethesda, 33p., a Thanygrisiau ryw swm at yr un amcan. Ebrill 25, 1878, ffurfiwyd yr eglwys yn y capel newydd, pryd yr oedd yn bresenol, dros y Cyfarfod Misol, y Parchn. T. J. Wheldon, B.A., D. Roberts, Rhiw; a Mri. Evan Roberts, Rhiw, a John Hughes, Tabernacl. Ymunodd â'r eglwys o'r Tabernacl 117; o'r Rhiw 54; Tanygrisiau 2; Peniel 2; y cyfan yn 175; nifer yr ysgol 225. Y Sabbath canlynol, pregethwyd ynddo y tro cyntaf gan y Parch. T. J. Wheldon, B.A. Mai 6ed a'r 7fed, cynhaliwyd Cyfarfod Misol, yr hwn a ystyrid fel cyfarfod ei agoriad, pryd y gweinyddwyd gan y Parchn. Dr. Hughes, Liverpool; R. Roberts, Dolgellau; W. Jones, Trawsfynydd; D. Jones, Llanbedr; W. Jones, Penrhyn; a D. Davies, Abermaw. Costau adeiladu y capel, fel y rhoddwyd hwy mewn cysylltiad â hanes yr achos yn y cyfarfod hwn ydoedd 2500p. Y swm a dderbyniasid erbyn yr un adeg, 1061p., heblaw fod "dodrefn y cysegr" wedi eu rhoddi yn anrhegion gan amryw aelodau o'r Ysgol Sul. Dygwyd treuliau y Cyfarfod Misol hwn gan eglwys y Tabernacl.


Mr. J. Parry Jones, U.H., oedd yr unig flaenor a ddaeth gyda'r gangen eglwys o'r Tabernacl. Neillduwyd ef i'r swydd yno flwyddyn yn flaenorol. Dewiswyd Mr. W. Jones, Melbourne Terrace, i weithredu gydag ef y flwyddyn y sefydlwyd yr eglwys, a Chwefror 18, 1879, dewiswyd Mr. R. Rowland, U.H., N. & S. W. Bank (yn awr o Bwllheli), yn flaenor.

Rhoddodd yr eglwys alwad i'r Parch. D. Jones, Llanbedr. Tachwedd 4, 1880, cynhaliwyd cyfarfod ei groesawiad, pryd yr oedd yn bresenol swyddogion eglwysig yr ardal. Yn 1882, ymadawodd oddeutu 50, heblaw plant, i gapel Bowydd. A Mawrth 22, yr un flwyddyn, dewiswyd yn flaenoriaid, Mri. I. Watkins (yn awr o Griccieth), O. Williams, New Market Square; a W. Evans, Maenofferen. Yn 1883, adeiladwyd tŷ i'r gweinidog, a rhoddwyd darn newydd at y capel, yr hyn a gostiodd 1300p. Costiodd y capel a'r tŷ ynghyd oddeutu 4000p. Yn mis Ebrill, 1883, cafwyd ymweliad grymus oddiwrth yr Arglwydd, trwy weinidogaeth y diweddar Barch. Richard Owen, pryd y rhoddodd 70 eu hunain i fyny i Grist, ac yr ymunodd â'r eglwys yn Garegddu 32. Sabbath, Mawrth 23, 1884, ail agorwyd y capel, pryd y pregethwyd gan y Parchn. D. Jones, a Dr. Edwards, Bala, ac y gweinyddwyd yr Ordinhad o Swper yr Arglwydd am ddau o'r gloch. Hwn oedd y tro diweddaf i Dr. Edwards fod yn Mlaenau Ffestiniog. Cynyddodd yr eglwys yn ystod y flwyddyn hon 39.

Mehefin, 1885, penodwyd Mr. J. Parry Jones, U.H., yn arolygwr Ysgol y Plant, sydd yn ymgynull yn yr ystafell o dan y capel, yr hyn a barodd fywyd o'r newydd i'r ysgol hono. Ymgymerwyd â'r Safonau, dygwyd hi i well trefn, a llwyddwyd, i raddau pell, i roddi argraffiadau llednais a boneddigaidd ar feddyliau y plant. Penderfynwyd i'r casgliad ar ddydd diolchgarwch y flwyddyn hon fod at ddyled y capel, a chyrhaeddodd y swm o 37p. Yn 1886, cyrhaeddodd 40p.; yn 1887, 40p.; yn 1888, 60p. Cesglid yn yr ysgol bob Sabbath, heblaw hyn, gasgliad a gyrhaeddai y blynyddoedd a nodwyd o 75p. i 80p. Swm y ddyled ar ddiwedd 1889 ydoedd 1639p. 4s. 10c. Nifer y gwrandawyr, 636; cymunwyr, 357; Ysgol Sul, 432.

ENGEDI

Capel wedi ei adeiladu yn Llan, Ffestiniog, yn y flwyddyn 1880 ydyw Engedi, ac achos newydd wedi ei ffurfio ynddo y pryd hwnw. Ar ol y rhyfel rhwng Ffrainc a Germani, yn arbenig yn y blynyddoedd 1874—1881, daeth tymor o lwyddiant anghyffredin ar y fasnach lechau, ac mewn canlyniad, bu llawer o adeiladu tai yn Llan, Ffestiniog, megis manau eraill, a chynyddodd y boblogaeth yn fawr yn y cwr agosaf i'r rheilffordd. Y pryd hwn, adgyweiriwyd hen gapel Peniel, ond yn gymaint a'i fod yn lled lawn, ac yn anhawdd cael eisteddle ynddo, cododd awydd yn arbenig ymysg y bobl ieuainc am gael capel yn y rhan o'r gymydogaeth oedd yn myned ar gynydd. Teimlai yr hen frodyr yn gryf yn erbyn codi capel, fel ag i ranu yr eglwys yn Peniel, ond yr oedd y teimlad cyferbyniol yn cryfhau, ac o'r diwedd hwnw a orfyddodd. Wedi cryn lawer o ddadleu, cytunwyd iddo fod yn gapel i gynwys tua 500 i eistedd ynddo. Cymeradwywyd y cynlluniau-eiddo Mr. O. M. Roberts, Porthmadog, gan y Cyfarfod Misol. Gosodwyd y gwaith o adeiladu i Mr. W. Jones, Porthmadog, am oddeutu 2000p. Cynhaliwyd y moddion cyntaf ynddo, Sabbath, Mai 15, 1881. Y nos Lun ganlynol, pregethodd y Parch, Humphrey Williams y bregeth gyntaf ynddo, ac enwyd y capel yn Engedi. Bedyddiwyd hefyd ddau y noswaith hono. Sefydlwyd yr eglwys nos Lun, Mai 23. Daeth 160 o aelodau trosodd o Peniel, o'r rhai yr oedd dau yn flaenoriaid, sef Mri. Ellis Lloyd, a Robert Davies, Hafodfawr. Oherwydd pellder ffordd ac oedran y diweddaf, nis gallai ddyfod ond anaml i'r Llan, fel, yn ymarferol, ni feddai yr eglwys ond un swyddog adeg y symudiad. Bu y fam eglwys yn Peniel, modd bynag, yn garedig i gynorthwyo, hyd nes yr ychwanegwyd y nifer. Nos Iau, Gorphenaf 21, 1881, yn mhresenoldeb y Parch. T. J. Wheldon, B.A., a Mr. Robert Jones, Bethesda, fel cynrychiolwyr y Cyfarfod Misol, neillduwyd pedwar yn flaenoriaid, sef Mri. Owen Hughes, H. J. Hughes, Evan Richards, ac Owen Jones. Ymhen ychydig ddyddiau, ymgyfarfu y swyddogion, er gwneuthur trefniadau i gario y gwaith ymlaen. Dewiswyd Mr. O. Jones yn ysgrifenydd cyffredinol, i gasglu y cyhoeddiadau, ac i gyhoeddi y moddion: Mr. E. Richards yn drysorydd cyffredinol, ac amryw eraill i gyflawni gwahanol swyddau, yr hyn a gadarnhawyd gan yr eglwys. Medi, 1884, ychwanegwyd at nifer y swyddogion trwy ddewis Mr. Robert Jones, relieving officer, yn flaenor, yr hwn oedd wedi bod yn gwasanaethu y swydd yn y Dyffryn yn flaenorol. Cynhaliwyd cyfarfod pregethu, yr hwn a olygid yn gyfarfod agoriad y capel, y Sabbath cyntaf yn Hydref, 1881, a chafwyd gwasanaeth y Parchn. Dr. Edwards, Bala; Joseph Thomas, Carno; a J. Elias Hughes, M.A., Llanelwy.

Cyfrif argraffedig cyntaf yr eglwys, yr hwn a wnaed ar ddiwedd 1881, ydyw: gwrandawyr, 389; cymunwyr, 189; Ysgol Sul, 295. Ar ddiwedd 1884: gwrandawyr, 410; cymunwyr, 213; Ysgol Sul, 313. Ar ddiwedd 1889: gwrandawyr, 370; cymunwyr, 210: Ysgol Sul, 281. Y cyfrif a roddir dros fod y gynulleidfa yn llai ydyw, fod cryn nifer o symudiadau wedi cymeryd lle i'r Blaenau.

Mae yr eglwys wedi profi ei hun yn eglwys hynod o weithgar yn barod, ac un prawf o hyny ydyw yr ymdrech a wnaethpwyd ganddi i dalu dyled y capel. Yr oedd cytundeb wedi ei wneuthur yn Peniel, pan yn penderfynu adeiladu Engedi, ar fod y draul yn cael ei rhanu-2 ran o 5 i ddisgyn ar Peniel, a 3 rhan o 5 ar Engedi; ac hefyd fod llogau yr arian a geid ar log i'w talu yn ol yr un cyfartaledd. Mae y cyfeillion wedi bod yn ddiwyd yn casglu o'r dechreu, a'r flwyddyn ddiweddaf gwnaethpwyd ymdrech neillduol, fel y talwyd dros 300p., a chliriwyd yr holl arian oedd ar log trwy wasanaeth y Gymdeithas Arianol. Ac mae y ddyled ar ddiwedd y flwyddyn 1889 wedi ei thynu i lawr i 854p. 15s. 10c. Canfyddir ffrwyth yr eglwys yn y ffaith fod cyfanswm ei holl gasgliadau, yn ystod yr wyth mlynedd a haner cyntaf o'i hanes, yn cyraedd 2500p.

Daeth y brodyr yn fuan i deimlo en hangen am weinidog, a chyfododd yr ysbrydiaeth gyda hyn i ddechreu oddiwrth y bobl ieuainc. Nos Fercher, Tachwedd 29, 1882, cymerwyd llais yr eglwys yn y mater, pryd y caed fod y teimlad yn unfrydol o blaid y symudiad. Ymhen amser, buwyd mewn yındrafodaeth faith gyda brawd yn y weinidogaeth i ddyfod atynt. Ond wedi hir ddisgwyl, a chyfarfod â siomedigaeth, oerodd y teimlad. Wedi hyn, buwyd mewn rhyw gymaint o drafodaeth â swyddogion eglwys Peniel, gyda golwg ar i'r ddwy eglwys ymuno i gael gweinidog. Aeth y cais hwn drachefn yn fethiant. Ar ddechreu 1886, ail enynodd y sel, a rhoddwyd galwad unfrydol i'r Parch. John Williams, B.A., yr hwn oedd ar y pryd yn efrydydd yn Mhrifysgol Aberystwyth. Nos Lun, Medi 6ed, y flwyddyn hono, cynhaliwyd cyfarfod ei sefydliad. Yr oedd yn bresenol, ac yn cymeryd rhan yn y cyfarfod, y Parch. Joseph Thomas, Carno, a Mr. Richard Humphreys, Llanbrynmair, dros Gyfarfod Misol Trefaldwyn Uchaf, a'r Parch. T. J. Wheldon, B.A., & Mr. Robert Jones, Bethesda, dros Gyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd, ynghyd âg amryw eraill o swyddogion eglwysig. Y mae Mr. Williams yn parhau eto mewn cysylltiad hapus a'r eglwys.

Ag ystyried ieuanged yw yr eglwys, y mae llawer iawn o gyfnewidiadau wedi cymeryd lle eisoes yn ei swyddogion hi. Y mae pedwar o'r blaenoriaid wedi eu symud oddiwrth eu gwaith at eu gwobr, am y rhai y gwneir sylwadau coffadwyiaethol ar y diwedd. Yn Mai, 1888, oherwydd cyfnewidiadau yn y chwarelau, bu raid i Mr. O. Jones symud i fyw i'r Blaenau. Ac yn niwedd 1889, symudodd Superintendent O. Hughes i fyw i gymydogaeth Dimel, gerllaw Corwen. Ba y ddau frawd hyn yn neillduol o weithgar, ac o wasanaeth mawr i'r eglwys yn ei mabandod; a phrawf o serch yr eglwys tuag atynt, a'i chymeradwyaeth o honynt ydoedd, ddarfod i'r frawdoliaeth gyflwyno anrhegion i'r naill a'r llall ar eu hymadawiad. Yn nechreu y flwyddyn 1888, galwyd tri o frodyr ieuainc yn flaenoriaid, sef Mri. H. Jones (yr hwn yw arweinydd y canu er sefydliad yr eglwys), T. R. Jones, Ysgol y Bwrdd, ac E. T. Richards. A hwy eu tri ydyw y swyddogion presenol. Er fod yr eglwys wedi cyfarfod â cholledion trymion, y mae eto yn arddangos llawer o arwyddion bywyd; ac y mae lle i gredu fod yr Arglwydd yn bendithio ei waith yn eu plith.

Y mae un pregethwr wedi cychwyn o'r eglwys, sef Mr. R. H. Evans, yr hwn sydd yn awr yn Athrofa y Bala, ac wedi ei dderbyn yn aelod o'r Cyfarfod Misol er's blwyddyn yn ol. Mae y Babell yn gangen o'r eglwys a'r gynulleidfa hon, le y ceir pregeth bob Sabbath er pan adeiladwyd Engedi. I fyny ac i lawr y mae yr achos wedi bod yno y blynyddoedd diweddaf, a llawer iawn o symudiadau wedi cymeryd lle. Cynhelir cyfarfod eglwysig yn yr wythnos, a chyfarfodydd eraill yn achlysurol. Ac yn bresenol, y mae un neu ddau o frodyr o Engedi yn myned yno i gynorthwyo gyda'r Ysgol Sabbothol.

SYLWADAU COFFADWRIAETHOL.

ELLIS LLWYD.

Genedigol oedd ef o Blwyf Llandecwyn. Treuliodd ei oes yn Ffestiniog, fel un o'i hardalwyr tawel a heddychol. Hysbysir am un ffaith ddyddorol yn ei hanes, sef mai ei briodas ef oedd y briodas ddirwestol gyntaf a gymerodd le yn Ffestiniog. Symudodd i Beniel yn 1854, lle y bu yn cadw tŷ capel am 14 mlynedd. Dewiswyd ef yn flaenor yn 1874, wedi bod yn gwneuthur gwaith blaenor am flynyddoedd yn flaenorol. Cymerodd ei le yn naturiol fel swyddog ar symudiad yr eglwys i Engedi. Bu farw Ionawr 29, 1883, yn 76 mlwydd oed. Un o hen bererinion Sion ydoedd, a'i grefydd yn gloewi at ddiwedd ei oes. Byddai ei sirioldeb yn fawr bob amser yn nhŷ y capel, a'i wrandawiad yn y cysegr yn astud a chalonogol.

H. J. HUGHES.

Ganwyd ef yn mhentref Beddgelert, yn Medi, 1845. Yr oedd yn fab i John Hughes, Oeddwr, blaenor adnabyddus yn Mheniel, Beddgelert. Pan yn 23 oed, priododd Gwen Jones, Glanwern, Talsarnau, ac aeth y ddau drosodd i America. Tra yno, bu yn wasanaethgar gyda'r achos yn Racine, ac anogwyd ef gan y brodyr i ddechreu pregethu, ond cyn i'r bwriad hwnw gael ei roddi mewn gweithrediad, gorfu iddo, oherwydd sefyllfa ei iechyd, ddychwelyd i Gymru. Ymsefydlodd, ar ei ddychweliad, yn Nhalsarnau, a dewiswyd ef yn flaenor yno yn 1872. Bu yn flaenor wedi hyny yn Nazareth, ac yn Gorphwysfa, Penrhyndeudraeth. Symudodd drachefn i fyw i Lan Ffestiniog, a galwyd ef yn un o flaenoriaid cyntaf Engedi. Ond cymerwyd ef yn glaf yn fuan, a gorphenodd ei yrfa yn Nhachwedd, 1882, yn 37 mlwydd oed. Yr oedd yn ŵr o farn addfed, cadarn yn y Gair a'r athrawiaeth, a galluog i gynghori ac arwain yn eglwys Dduw, a cholled fawr, i bob golwg ddynol, oedd ei golli.

ROBERT DAVIES, HAFODFAWR.

Fel un o'r hen frodorion, ac amaethwr cyfrifol, yr oedd yn wladwr a chymydog hawddgar; ei rodiad yn weddaidd, a'i gymdeithas yn llawn diddanwch. Derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol fel blaenor yn Mheniel, yn Medi, 1864. Yr oedd yn un o'r ddau swyddog a symudodd gyda'r eglwys i Engedi. Yr oedd yn nodedig o ffyddlawn yn y Babell, a'r achos yn cael lle mawr ar ei feddwl bob amser. Ymroddodd gyda'r achos yno fel pe buasai yn achos iddo ei hun. Symudwyd yntau o fyd yr anialwch i'r orphwysfa, Ebrill, 1887.

EVAN RICHARDS, GLASFRYN.

Masnachwr parchus ydoedd ef wrth ei alwedigaeth, ac iddo air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun. Efe ydoedd ceidwad un o'r tai masnachol hynaf yn y plwyf: bu yn arhosol yn yr un lle bron ar hyd ei oes, ac yn hynod o lwyddianus, a gellir dweyd fod byd a chrefydd wedi eu huno yn hanes ei fywyd. Yr oedd o dymer naturiol siriol a charuaidd, ac elfenau cyfeillgarwch yn llinellau amlwg yn ei gymeriad. Bu am dros ddeugain mlynedd yn gwasanaethu yr Ysgol Sabbothol fel ysgrifenydd ac arolygwr, yn Llan Ffestiniog, a hyny gyda deheurwydd mawr, a phrofodd ei hun yn un o'r gweithwyr ffyddlonaf yn eglwys Peniel trwy yr holl flynyddoedd. Yr ydoedd yn ddibetrus yn un o'r cymeriadau hoffusaf a mwyaf gwerthfawr mewn cymdeithas. Y disgybl ffyddlonaf o'r ffyddloniaid, a gweithiwr distaw, diwyd, a diymffrost. Yn haeddianol iawn, dewiswyd ef yn un o'r pedwar blaenor cyntaf yn yr eglwys hon. Hunodd mewn tangnefedd heddychol, Medi 10, 1886, yn 68 mlwydd oed.

BOWYDD.

Dechreuad yr achos yn Bowydd ydoedd, i nifer o frodyr perthynol i eglwysi y Rhiw a'r Garegddu gychwyn Ysgol Sabbothol yn yr Assembly Room. Cynhaliwyd yr Ysgol yno y tro cyntaf Medi 14, 1879, trwy gynorthwy un swyddog o bob un o'r ddwy eglwys uchod, sef Mr. Evan Thomas, o'r Rhiw, a Mr. William Jones, o'r Garegddu. Dewiswyd John R. Jones yn arolygwr, John Owen yn ymwelydd, a John Thomas yn ysgrifenydd. Cadwodd yr ysgrifenydd gofnodion am y ddwy flynedd a chwarter cyntaf, yn cynwys pob peth pwysig mewn cysylltiad a'r ysgol, ynghyd â'r holl symudiadau yn dal perthynas âg adeiladu y capel. Ymhen y mis wedi cychwyn yr ysgol, dechreuwyd casglu yn fisol tuag at gael addoldy newydd. Penodwyd Lewis Jones yn drysorydd, a John Thomas yn ysgrifenydd. Ymhlith manylion eraill yn Llyfr y Cofnodion, ceir nodiad i'r perwyl a ganlyn,-"Teimlir yn awyddus i gyfodi addoldy newydd i gyfarfod â'r gymydogaeth newydd sydd yn awr yn cael ei ffurfio, rhag i bobl a phlant fyned yn baganiaid, oherwydd fod y Garegddu yn llawn a'r Rhiw ymhell." Chwefror 1, 1880, derbyniwyd adroddiad y pwyllgor a gyfarfyddodd yn y Garegddu mewn perthynas i gael addoldy newydd ar y Fron Fawr. Sicrhawyd tir i adeiladu, ar brydles o 75 mlynedd, am ardreth flynyddol o 5p., a thalwyd 14p. 14s. am wneyd y weithred. Yn Nghyfarfod Misol Medi 1880, "Cymeradwywyd cynlluniau capel newydd Bowydd. Bwriedir iddo gynwys 700 o wrandawyr, ac i'r draul fod tua 2000p." Dygid y gweithrediadau ymlaen, cyn ffurfiad yr eglwys, trwy gydolygiad swyddogion y Rhiw a'r Garegddu, ynghyd âg arweinwyr yr Ysgol Sabbothol yn yr Assembly Room. Yn yr adeg yma penodwyd Mr. R. Rowland, U.H., y Bank, i fod yn arweinydd yr ysgol, ac i hyrwyddo y gwaith o adeiladu ymlaen. Aeth y capel yn fwy o faint nag a fwriedid ar y cyntaf, a chwyddodd y draul hefyd yn fwy na'r swm a osodid mewn golwg. Cynwysa le i oddeutu 800 eistedd ynddo. A'r dystiolaeth gyffredinol ydyw ei fod yn rhagori ar gapelau y gymydogaeth mewn destlusrwydd a chysur. Y cynllunydd oedd, Mr. O. M. Roberts, Porthmadog; adeiladydd, Mr. W. Owen, Rhiwbryfdir. Swm y contract, 2190p. 10s.; ychwanegol am yr ysgoldy ynghyd â chau y terfynau o'i amgylch, 378p. 11s. 2c. Ond oddiwrth yr ystadegau argraffedig y flwyddyn gyntaf ar ol ei orpheniad, sef ar ddiwedd 1882, gwelir fod y draul, rhwng pobpeth, yn cyraedd 2824p. 3s. 2c. A'r hyn a geir wedi ei dalu o'r swm hwn, ddiwedd y flwyddyn hono, ydyw 341p. 6s. 2c.

Agorwyd y capel Ionawr 1, 1882, pryd y pregethwyd gan y Parchn. Dr. Hughes, Liverpool, a Joseph Thomas, Carno. A phregethodd y Parch. D. Roberts, Rhiw, ynddo yn gyntaf, y nos Wener blaenorol. Ionawr 5, cynhaliwyd cyfarfod i sefydlu yr eglwys yn rheolaidd, ac yr oedd yn bresenol, yn cynrychioli y Cyfarfod Misol, y Parch. T. J. Wheldon, B.A., a Mr. W. Mona Williams, yn nghydag amryw o swyddogion yr eglwysi cymydogaethol. Ceir y nodiad canlynol yn Nghofnodion Cyfarfod Misol Abermaw, Ionawr 1882, "Gwnaed yn hysbys fod eglwys wedi ei sefydlu yn ffurfiol a rheolaidd yn nghapel Bowydd, Blaenau Ffestiniog-yr aelodau yn rhifo 140, a'r Ysgol Sul 179, a theimlai pawb yn llawen glywed am hyn." Yn fuan wedi i'r eglwys a'r gynulleidfa ymgasglu yn y capel newydd, y mae y fasnach lechau yn marweiddio, a'r boblogaeth yn lleihau, ac mae yr eglwys yn myned i gyfyngder. Mae y ddyled yn fawr, a'r llogau yn drymion, ac arian yr eisteddleoedd a'r casgliad bron i gyd yn myned i dalu y llogau. Yn y cyfyngder hwn daeth i feddwl nifer o chwiorydd i gynal dosbarth gwnio, a rhoddi ei gynyrch at y ddyled. O'r diwedd, ymunodd y gwahanol eglwysi ar gyfer Sale of Work, canlyniad yr hyn fu clirio 400p. o'r ddyled. Gyda bod hyn drosodd, cynygiodd brawd o eglwys arall, y rhoddai ef 500p. am 3p. y cant, ond cael y cwbl am hyny. Aed o gwmpas, a chafwyd y gweddill. Ac o hyny allan, telir swm sylweddol o'r ddyled bob blwyddyn. Y ddyled yn bresenol ydyw 1868p, 10s. Oc.

Swyddog cyntaf yr eglwys ydoedd Mr. R. Rowland, U.H., y Bank. Daeth ef yma o Garegddu, ar gais y brodyr yn Bowydd, ac anogaeth y Cyfarfod Misol. Yn mis Mawrth dilynol neillduwyd Mr. Robert E Roberts i'r swydd o flaenor. Cyn diwedd yr ail flwyddyn ar ol ffurfiad yr eglwys symudodd Mr. Rowland i fyw i Bwllheli. Yn y cyfwng hwn. gwnaethpwyd cais drachefn ar i Mr. Isaac Watkins ddyfod yma o Garegddu, a neillduwyd yntau a Mr. John Owen i'r swydd, Wedi hyny ymadawodd Mr. Watkins, gan symud i drigianu yn Nghriccieth. Yn 1887 galwyd Mr. W. Owen yn flaenor; ac yn ddiweddaf oll neillduwyd Mri. John Evans, Station Master, William Jones (Ffestinfab), a Rowland Edwards, tri wedi bod yn gwasanaethu y swydd mewn eglwysi eraill yn flaenorol. Y mae y Parch. D. Roberts, Rhiw, yn gofalu am yr eglwys fel gweinidog, ac wedi bod yn ffyddlon gyda'r achos yn ei holl gysylltiadau o'r cychwyn.

Nifer y gynulleidfa ar ddechreu 1890, ydyw 498; cymunwyr 239; Ysgol Sul 397.

EGLWYS SAESNEG, BLAENAU FFESTINIOG.

Cychwynodd yr achos hwn yn Ysgol Sul y Tabernacl, lle y dechreuwyd cadw dosbarth Saesneg, ac y caed ambell bregeth yn achlysurol. Yna cafwyd cydsyniad a chynorthwy yr eglwysi Cymreig i gynal achos Saesneg yn hen ysgoldy Garegddu, a thelid 2p. y flwyddyn o ardreth am y lle. Cynhaliwyd moddion cyntaf ar y Sabbath, Gorphenaf 9, 1876, pryd y pregethwyd gan y Parch. T. J. Wheldon, B.A. Arhosodd ychydig nifer yn ol ar ddiwedd moddion yr hwyr, y rhai a ffurfiasant gnewyllyn yr achos. Medi 28ain yr un flwyddyn, cynhaliwyd y cyfarfod eglwysig wythnosol cyntaf, a derbyniwyd Mr. Edwards, Dentist, ynghyd â phedwar eraill, yn gyflawn aelodau, a'r Sabbath dilynol gweinyddwyd yr Ordinhad o Swper yr Arglwydd. Yn Nghyfarfod Misol Rhagfyr y flwyddyn hono, penderfynwyd ar yr hyn a ganlyn,-"Fod yr Achos Saesneg yn Mlaenau Ffestiniog i gael ei neillduo yn eglwys, yn ol dymuniad y cyfeillion yno; a bod y personau canlynol i fyned yno i edrych i reoleiddiad y sefydliad, y Parch. T. J. Wheldon, B.A., Mri. R. Griffith, Ffestiniog, John Hughes, Tabernacl, ac Owen Jones, Fronwen." Cyfrifon argraffedig cyntaf yr eglwys, ar ddiwedd 1876, ydynt,-gwrandawyr 75; cymunwyr 20; casgliad at y weinidogaeth mewn 24 o suliau, 27p. 19s. 24c. Yn 1878, dechreuwyd symud ymlaen i gael capel, ac i sicrhau gwasanaeth gweinidog mewn cysylltiad â'r Garegddu. Ond cyfododd rhwystrau ar y ffordd i gael gweinidog i ofalu am y ddwy eglwys, gan i'r cyfeillion Cymraeg gredu y gallent gario ymlaen yr achos fel yr oeddynt. Pa fodd bynag, ymgymerwyd y flwyddyn a nodwyd â darparu i gael capel i'r eglwys a'r gynulleidfa Saesneg, ac ymhen amser casglwyd swm o arian ar gyfer hyny. Sicrhawyd tir mewn lle canolog yn yr ardal, ac adeiladwyd capel hynod o brydferth, yn cynwys lle i oddeutu 250 i eistedd. Y cynllunydd ydoedd Mr. T. G. Williams, Moss Bank, Liverpool, yr hwn yn garedig a roddodd ei wasanaeth yn rhad. Cyrhaeddodd yr holl draul, trwy fod llawer o drafferth wedi ei gael gyda'r sylfaen, dros 1350p., at yr hyn y casglwyd tuag 800p., gan y Parch. T. J. Wheldon, B.A. Cynhaliwyd cyfarfod agoriad y capel yn mis Medi, 1882, pryd y pregethwyd gan y Parch. T. J. Wheldon, B.A., Henry Jones, M.A., Bangor, D. Charles Davies, M.A., ac Ellis Edwards, M.A. Y flwyddyn hon cliriwyd 100p. o ddyled oedd wedi rhedeg gyda dygiad yr achos ymlaen. Yn 1885 penderfynodd yr eglwys wneyd un ymdrech egniol i symud ymaith y ddyled oddiar y capel. Y cynllun a gymerwyd oedd, casglu tanysgrifiadau, a chynal bazaar, yr hyn gyda diwydrwydd a dyfalbarhad di-ildio a droes allan yn llwyddiant, a chliriwyd 600p. Mae y capel o hyny allan yn gwbl ddiddyled. Dangoswyd llawer o garedigrwydd i'r Achos Saesneg gan yr ardal yn gyffredinol yn yr amgylchiad hwn, ond y Parch. T. J. Wheldon, B.A., fu y prif symudydd yn yr ymdrech, ac mae yr achos o'i gychwyniad yn dra rhwymedig iddo ef a Mrs. Wheldon am y dyddordeb a deimlent ynddo, a'u caredigrwydd iddo. Mewn gwirionedd, cariodd Mr. Wheldon holl gyfrifoldeb yr achos ar ei ysgwyddau ei hun, yn ei sefydliad a'i ddygiad ymlaen, hyd nes y talwyd dyled y capel.

Yn y dechreu, buwyd mewn peth anhawsder i gael personau cymwys i arwain yr eglwys. Un o'r rhai cyntaf a ymgymerodd a'r gwaith gydag egni ac ymroddiad tra chanmoladwy ydoedd, Mr. O. P. Jones, is-oruchwyliwr yn chwarel y Welsh Slate, am yr hwn y gwneir sylw coffadwriaethol ar y diwedd. Yn nechreu y flwyddyn 1878, ymunodd Mr. Griffith Griffiths, Slate Quarries School, a thua diwedd yr un flwyddyn Mr. G. J. Williams, F.G.S., Advanced Elementary School, ond y pryd hwnw yn athraw Ysgol y Bwrdd, yn Nhanygrisiau, ynghyd â rhai o athrawon ac athrawesau eraill yr ysgolion dyddiol, â'r achos Saesneg, y rhai a fuont mewn gwirionedd yn asgwrn cefn iddo. Neillduwyd Mri. Griffith Griffiths, a G. J. Williams, yn flaenoriaid yn Chwefror 1880. Mr. Superintendent O. Hughes hefyd, yr hwn am dymor byr fu yn preswylio yn y Blaenau, a wnaeth wasanaeth yma yn y cyfwng hwn. Tuag amser agoriad y capel, ymunodd Mr. E. H. Millward a'i deulu, a Mr. E. H. Jonathan, Fourcrosses, a'r eglwys, trwy symud o'r Tabernacl. Ac yn mis Awst 1876, neillduwyd Mr. Jonathan a Mr. Edwards, Dentist, yn flaenoriaid. Ar ol bod yn ddefnyddiol gyda'r achos, yn neillduol gyda'r plant, symudodd Mr. Edwards i fyw i Borthmadog. Yn y flwyddyn 1883 rhoddwyd galwad i'r Parch. O. E. Williams, yr hwn a fu mewn cysylltiad a'r eglwys, ac yn weithgar yn yr ardal hyd ddiwedd 1886, pan yr ymadawodd i gymeryd gofal eglwys Saesneg Rhosllanerchrugog. Yma y cychwynodd Mr. E. O. Davies, B.Sc., bregethu, yr hwn sydd yn awr yn Mansfield College, Oxford. Y mae gŵr ieuanc addawol arall, sef Mr. John David Jones, yn awr yn myned trwy y dosbarth fel ymgeisydd am y weinidogaeth. Mae yr eglwys yn bresenol mewn sefyllfa lewyrchus, y gwrandawyr yn rhifo 90; y cymunwyr, 40; yr Ysgol Sul, 70; Mri. G. J. Williams, F.G.S., ac E. H. Jonathan, yn parhau yn flaenoriaid gweithgar. Ac ar hyn o bryd, edrychir allan am weinidog mewn cysylltiad ag eglwys Gymraeg Bowydd.

SYLWADAU COFFADWRIAETHOL.

GRIFFITH GRIFFITHS.

Ymunodd â'r eglwys Saesneg, fel y crybwyllwyd, yn 1878, ac ymhen dwy flynedd neillduwyd ef yn flaenor. Bu ef a'i briod merch y diweddar Mr. W. Williams, Bont, Llanbrynmair-o wasanaeth mawr i'r achos, ac yn hynod am eu caredigrwydd i weinidogion y gair. Yr oedd ef yn un o'r gwyr ieuainc mwyaf meddylgar a fagodd Ffestiniog; yn gymeriad noble, disglaer, hawddgar, ac yn dra chrefyddol ei ysbryd. Colled fawr i'r eglwys oedd ei golli. Ymfudodd i Emporia, Kansas, ac anrhegwyd ef a'i briod ag anerchiad goreuredig gan yr eglwys. Ymhen naw mis ar ol ei fynediad i'r America, sef Chwefror 5ed, 1887, bu farw mewn tawelwch a hyder mawr, yn 30 mlwydd oed, gan ddymuno ar i'r geiriau "Gwyn eu byd y meirw y rhai sydd yn marw yn yr Arglwydd" gael eu rhoddi ar gareg ei fedd, ynghyd â'r llinell ganlynol:—

"After life's fitful fever, he sleeps well."

O. P. JONES.

Bu ef mewn cysylltiad â'r eglwys hon am 11 mlynedd; ystyrid ef fel tad yr eglwys, ac efe oedd ei blaenor cyntaf. Bu yn gwasanaethu y swydd dros dymor byr yn Nhalsarnau yn flaenorol. Ymgymerodd â'r swydd yn yr eglwys Saesneg o dan anfanteision mawrion, gan nad oedd ond Cymro uniaith. Ond yr oedd yn ŵr o rym meddwl anarferol, ac o ewyllys mor gref na fynai ei droi yn ol na'i orchfygu gan unrhyw anhawsder, ac felly daeth yn fuan yn alluog i gymeryd rhan yn yr holl wasanaeth. Yr oedd yn ŵr o syniadau eang, ystwythder ysbryd, a barn addfed. Yr oedd hefyd yn prysur ddringo i fyny i fod yn un o ddynion blaenaf ei ardal ymhob cylch. Gwasanaethodd ei swydd yn yr eglwys gyda ffyddlondeb, heb fod yn ail i neb o'i frodyr y diaconiaid. Er galar i gylch eang, bu farw yn sydyn, trwy gyfarfod â damwain, Chwefror 10fed, 1889.

PENOD VII.

YR YSGOL SABBOTHOL.

CYNWYSIAD.—Y modd y cafwyd yr hanes—Dechreuad yr Ysgol Sabbothol yn Nosbarth Ffestiniog—Y rhwystrau a roddid ar ffordd ei dechreuad—Y Cyfarfod Mawr ar Fynydd Migneint yn 1808— Sefydliad y Cyfarfod Ysgolion—Taflen cyfrifon y Dosbarth— Ysgrifenydd y Cyfarfod Ysgolion—Holwyddorwr yr Ysgolion— Jiwbili yr Ysgol Sabbothol—Rhaniad y Dosbarth yn Dri—Gwyl y Can'mlwyddiant yn 1885.

 UM mlynedd ar hugain yn ol, sef yn y flwyddyn 1865, fe ddarfu Dosbarth Ysgolion Ffestiniog benderfynu argraffu taflen yn cynwys crynhodeb o gyfrifon yr ysgolion, yn nghyda hanes byr am yr hyn oedd wybyddus o berthynas i ddechreuad yr Ysgol Sul yn y cylch. Ac am y pymtheng mlynedd dilynol, argraffwyd mewn cysylltiad â'r cyfrifon blynyddol, hanes dechreuad a chynydd un o'r ysgolion yn eu tro, wedi ei gasglu gan berson apwyntiedig cymwys i'r gwaith. Cadwyd mewn coffadwriaeth yn y modd hwn lawer iawn o ddefnyddiau gwerthfawr a fuasent, oni bai hyn, wedi eu llwyr gölli. Yr oedd Morris Llwyd, Cefngellewm, ysgrifenydd cyntaf y Cyfarfod Ysgolion, yn fyw y pryd hwnw, ynghyd â llawer eraill o'r hen frodorion, o enau y rhai y cafwyd hanesion na buasai modd eu cael yn awr. Mae y meddylddrych teilwng o gasglu yr hanes yn y dull hwn, i'w briodoli i'r brodyr ffyddlawn oedd yn flaenllaw gyda'r Cyfarfodydd Ysgolion, ac yn lled debygol yn benaf i arholwr yr ysgolion yn y blynyddoedd hyny, sef y Parch. Robert Parry. Ceir y crybwylliad cyntaf am y cynllun yn Nghyfarfod Ysgolion Croesor, Gorphenaf, 1865, ac yn nghofnodion cyfarfod Tachwedd yr un flwyddyn mae y penderfyniad canlynol:— "Yn y cyfarfod athrawon darllenwyd yr anerchiad a wnaeth y Parch. Robert Parry, gyda golwg ar yr Ysgol Sabbothol yn y Dosbarth, a phenderfynwyd ei argraffu; darllenwyd hefyd ychydig o hanes dechreuad a chynydd yr ysgolion yn y Dosbarth, ynghyd â'r cyfrifon am bob pum' mlynedd er pan ymunodd yr ysgolion yn un cylch." Bu y ffeithiau a gasglwyd, a'r adroddiadau a argraffwyd y blynyddoedd hyny, yn llawer o help i gasglu ynghyd yr hanes presenol. Rhoddwyd eisoes ddyfyniadau o waith yr ysgol yn y gwahanol ardaloedd ynglyn â gweithrediadau yr amrywiol eglwysi, am nas gallesid deall cysylltiadau yr hanes heb hyny. Bwriedir rhoddi eto yn y benod hon y prif linellau o weithrediadau yr ysgol o'i sefydliad hyd yn awr.

DECHREUAD YR YSGOL SABBOTHOL YN NOSBARTH FFESTINIOG.

Y mae Trawsfynydd o fewn rhyw bymtheng milldir i'r Bala, cartref y Parch. Thomas Charles, B.A., sylfaenydd yr Ysgol Sabbothol yn Nghymru. Yr oedd eglwysi wedi eu sefydlu gan y Methodistiaid yma ac yn Ffestiniog, Pandy'rddwyryd, a Phenrhyndeudraeth, cyn y flwyddyn gofiadwy 1785. Gallesid disgwyl, gan hyny, i'r son am yr Ysgol Sul gyrhaeddyd i'r cymydogaethau hyn, a chynyrchu gradd o dueddfryd ati, gyda'r manau cyntaf yn Sir Feirionydd. Felly y bu. Fel y canlyn y cawn yr hanes yn anerchiad y Parch. Robert Parry, yr hwn oedd yntau wedi ei gael o enau Morris Llwyd, a hen bobl eraill:—

"Dechreuodd yn y Dosbarth hwn yn mhlwyfydd Trawsfynydd a Ffestiniog yn agos i'r un amser. Y mae genym hanes sicr ei bod wedi dechreu mewn tŷ a elwir Bwlchgwyn, yn mhlwyf Trawsfynydd, (oddeutu milldir o bentref Trawsfynydd, yr ochr ddwyreiniol iddo), yn y flwyddyn 1787. Y modd y dechreuwyd hi oedd fel y canlyn. Yr oedd pregethwr yn byw yn Nhrawsfynydd, o'r enw Edward Roberts, a elwid gan rai Vicar Crawcallt,' oherwydd mai mewn tŷ yn nghwr y mynydd hwnw yr oedd yn byw yn nechreu ei oes. Rhyw Sabbath yn yr haf yr oedd ei gyhoeddiad i bregethu mewn amaethdy, a elwir Brynygath, yn mhlwyf Trawsfynydd, ac yn agos i derfyn plwyf Llanfachreth; ac aeth cyfaill iddo, a elwid Hugh Roberts, o'r Bwlchgwyn, gydag ef. Ar y ffordd, wrth fyned neu ddychwelyd, dywedodd Hugh Roberts wrtho, 'Mae ar fy meddwl i wneyd ysgol ddydd Sul, i ddysgu plant a phobl ieuainc i ddarllen.' Mae yn debyg nad oedd ef yn gwybod y pryd hwnw fod Ysgol Sul yn y byd. Cymeradwyodd Edward Roberts yr awgrymiad, a'r canlyniad fu cyhoeddi y noson hono yn Hen Gapel Trawsfynydd fod ysgol i ddechreu y Sabbath canlynol yn y Bwlchgwyn. Daeth rhyw nifer at eu gilydd, a dechreuwyd yr ysgol. Ni chafodd Hugh Roberts ond ychydig gynorthwy gan ei frodyr yn y dechreu: yr oedd rhai yn tybied fod dysgu y gelfyddyd o ddarllen ar y Sabbath yn drosedd o'r pedwerydd gorchymyn. Ymhen rhyw ychydig o Sabbothau yr oedd y Parch. Thomas Charles o'r Bala i fod yn pregethu yn Nhrawsfynydd, ac ofnai Hugh Roberts a'i gyfeillion ei gyfarfod, rhag eu bod wedi troseddu trwy gadw'r ysgol ar y Sabbath. Ond pan ddaeth Mr. Charles yno, dywedasant wrtho mewn ofn a phryder yr hyn a wnaethent. Eisteddai yntau yn syn am enyd, a dywedodd, 'Yn wir, bobl, y mae yn waith da, canlynwch arno, ac mi a fyddaf yn bob cynorthwy a allaf i chwi.' Derbyniodd yr awgrym, a chynhyrfodd y wlad; a sefydlwyd Ysgolion Sabbothol drwy y wlad yn gyffredinol. Yn ganlynol tueddwyd rhywrai yn ychwaneg i gynorthwyo gyda'r ysgol yn Nhrawsfynydd, a dechreuwyd ysgol yn yr Hen Gapel yn y pentref. Erbyn hyn yr oedd dwy ysgol yn y gymydogaeth; a dysgu darllen y geiriau yn gywir oedd bron yr unig amcan yn y dyddiau hyny." Mae y dystiolaeth hon wedi dyfod i lawr i ni trwy y moddion mwyaf tebyg i fod yn gredadwy. Ac eto y mae lle cryf i gasglu mai oddiwrth Mr. Charles ei hun trwy ryw ffordd y disgynodd yr hedyn i'r ardaloedd hyn. Yr oedd Edward Roberts, y pregethwr, yn bur debyg o fod yn gydnabyddus â'r hyn a gymerai le yn y Bala y blynyddoedd hyn. Y mae genym dystiolaeth bendant hefyd i eglwysi Trawsfynydd Ffestiniog argymell John Ellis, wedi hyny y Parch. John Ellis, Abermaw, i Mr. Charles, i fod yn un o ysgolfeistriaid yr ysgolion cylchynol, mor foreu a'r flwyddyn 1785. Y casgliad tebygol ydyw iddynt hwythau yn fuan wedi hyny ddyfod, trwy John Ellis neu Mr. Charles, i wybod rhywbeth am yr Ysgol Sul. Dywed yr hanes fod cangen ysgol arall wedi ei sefydlu yn Caeadda, oddeutu y flwyddyn 1790, yn y Penrhyn yr un flwyddyn, yn y Mur Mawr, tyddyn yn agos i Bandy'r- ddwyryd, oddeutu 1787, yn Llanfrothen a Ffestiniog yn 1796. A dyma y wybodaeth gywiraf ellir gael am ei dechreuad yn y cwmpasoedd hyn.

Y RHWYSTRAU A RODDID AR FFORDD YR YSGOL Sul

Mae yn anhawdd i ni yn yr oes hon gael syniad agos i gywir am y rhwystrau mawrion a gafodd y sefydliad yn ei ddechreuad, ac am gryn amser ar ol ei ddechreuad. Cyfodai y rhwystrau oddiwrth grefyddwyr lawn cymaint ag oddiwrth elynion crefydd. Hen bobl oedd corff proffeswyr crefydd ar y dechreu, a buwyd yn hir iawn cyn dyfod i roddi magwraeth briodol i'r ieuainc mewn gwybodaeth a chrefydd. Teimlai llawer o'r hen grefyddwyr yn gryf fod dysgu darllen ar y Sabbath yn doriad pendant o'r pedwerydd gorchymyn. Yr oedd y lleoedd i gynal yr ysgol yn y gwahanol ardaloedd yn hynod o anghyfleus, ac athrawon i addysgu yn nodedig o brinion. Cynhelid ysgol Llanfrothen yn Hafotty, yn nghwr uchaf yr ardal. Yr oedd yno frawd crefyddol a chwaer grefyddol yn selog gyda hi ar ei chychwyniad, ond edrychai yr ardalwyr gyda llygad drwgdybus ar y newyddbeth a ddaethai i'w plith. Yr oedd yr enwog John Jones, o Ramoth, yn byw yn yr Hafotty ar y pryd, am y pared â'r lle y cynhelid yr Ysgol Sul, a llefarai yn arw ac yn chwerw wrth y cymydogion yn ei herbyn. Arferai ddweyd na buasai ond yr un peth ganddo ef eu gweled yn myned i'r maes gyda chaib a rhaw ar ddydd yr Arglwydd, a'u gweled yn cadw ysgol i ddysgu darllen ar y dydd hwnw. Bu ei ddylanwad ef fel gwr o safle uchel yn llawer o rwystr ar ffordd llwyddiant yr ysgol. Cyfarfyddwyd â rhwystrau cyffelyb yn Penrhyn. Er fod capel wedi ei adeiladu yn 1777, dair blynedd ar ddeg cyn dechreuad yr ysgol yn yr ardal, lluddiwyd iddi gael myned iddo, am ei fod yn rhy gysegredig iddi. Adroddai pawb ei chwedl, a gwnaent a allent i ddyrysu y gwaith da. Elai rhai mor bell a dweyd mai prif ddiben cefnogwyr yr ysgol oedd, cael y bechgyn i gyd yn soldiers, a'u hanfon i ffwrdd i ryfel, ac meddent, "Mae yn beth peryglus iawn, a dylem godi fel cymydogaeth yn ei herbyn!"

Y CYFARFOD MAWR AR FYNYDD MIGNEINT YN 1808.

Wedi oddeutu ugain mlynedd o ymladd yn erbyn rhwystrau, a dyfalbarhad gyda gwaith yr ysgol, y dechreuodd ei llwyddiant mawr, ac y daeth i gael ei chynal ymhob ardal trwy Gymru. Yn y flwyddyn 1808 yr oedd y Cymanfaoedd Ysgolion cyntaf mewn bri a gogoniant mawr. Cynhaliwyd y flwyddyn hono, os ydym yn cofio yn iawn, chwech o'r Cymanfaoedd hyn yn yr awyr-agored mewn gwahanol ranau o Gymru, Yn mis Hydref, yr un flwyddyn, cynhaliwyd Cymanfa nodedig iawn yn Mryncrug, gan y Parchn. Robert Jones, Rhoslan; Owen Jones, y Gelli; a William Hugh, Llanfihangel, y rhai oeddynt yn bresenol yn lle Mr. Charles, gan ei fod ef wedi methu cyflawni ei addewid oblegid afiechyd. Ymddengys fod ysgol gref a blodeuog iawn yn Ysbytty yr adeg yma, a deuai chwech neu wyth o'r brodyr selog yn achlysurol dros y mynydd i Ffestiniog (lle nad oedd yr ysgol eto ond bechan a diymgeledd), i hyfforddi mewn darllen, egwyddori, a chanu. Ac yn Sasiwn y Bala, Mehefin, 1808, cynlluniwyd i gadw Cyfarfod Ysgolion ar ben Mynydd Migneint, ar y Sabbath cyntaf yn Ngorphenaf. Yn ol y cynllun yr oedd y ddwy fintai i gyfarfod ar y mynydd -ysgol Ffestiniog i ddyfod at Tynewydd-y-mynydd, ac ysgol Ysbytty at gorlan y Muriau Gwynion. Aeth Robert Williams dros Ysbytty, ac O. T. Owen dros Ffestiniog, o flaen y lluoedd i chwilio am le cyfleus i gadw y Gynhadledd; a chafwyd man hynod briodol ar ben craig yn mhen y Fforddgoch, rhwng Tynewydd a'r Gorlan, ac yr oedd yno ffynon o ddwfr grisialaidd iddynt i'w yfed gyda'r tamaid bwyd oedd ganddynt yn eu llogellau. Arweiniwyd y ddwy fintai ymlaen-oll yn rhifo tua thri chant. Dechreuwyd y moddion am ddeg o'r gloch trwy ganu a gweddio, a chafwyd ysgol ddifyrus iawn, ar gopa y graig, yn mhen y mynyddoedd, dan heulwen desog Gorphenaf. Diweddwyd trwy adrodd amryw benodau gan ysgol Ysbytty. Wedi bwyta bara, ac yfed y dwfr grisialaidd, dechreuwyd eto trwy weddi nodedig a chynghorion buddiol gan yr hen athraw medrus, Evan Roberts, o'r Cyrtiau. Cafodd yn ei weddi oleu newydd ar y gair hwnw, "Duw y mynyddoedd yw yr Arglwydd, ac nid Duw y dyffrynoedd yw efe." Cafodd olwg helaethach na Benhadad ar ardderchowgrwydd Duw Israel. Gwaeddai gyda llais toddedig, ei fod yn Dduw pawb, ac yn Dduw y mynydd a'r dyffryn ar unwaith. Ar ei ol, pregethodd yr hybarch Edward Roberts, Tynant-y-beddau. Ar ol y bregeth, tua dau o'r gloch, dechreuwyd cadw ysgol eilwaith. Wedi mwynhau yr un hyfrydwch yn hon eto, ar ei diwedd canwyd anthemau o waith John Ellis, Llanrwst, ac yn eu plith anthem ar y geiriau, "Arglwydd y lluoedd a wna i'r holl bobloedd yn y mynydd hwn wledd." Mwynhawyd y wledd mewn gwirionedd y Sabbath hynod hwnw yn Mynydd Migneint. Bu y cyfarfod hwn o fendith amlwg i ysgolion y ddwy ardal, a gadawodd goffadwriaeth fendigedig ar ei ol. Cyn hyn, oherwydd bychander a thlodi y trigolion, ni byddai yr ysgol yn cael ei chynal yn Ffestiniog ond yn yr haf yn unig; ond o hyny allan, ni bu haf na gauaf heb iddi gael ei chynal yn gyson. Ar lawer cyfrif, hon oedd y Gymanfa Ysgolion hynotaf a gynhaliwyd yn Sir Feirionydd o'r dechreuad hyd y dydd heddyw.

SEFYDLIAD Y CYFARFOD YSGOLION

Yr oedd Gorllewin Meirionydd wedi ymranu yn bedwar dosbarth mewn cysylltiad â'r Cyfarfodydd Ysgolion o'r dechreuad, hyd o fewn rhyw bymtheng mlynedd yn ol, pryd yr ymranodd Dosbarth Ffestiniog yn dri. Yn Nghymdeithasfa Flynyddol Dolgellau, Medi 24, 1820, y gwnaed y trefniad rheolaidd cyntaf arnynt. Cafwyd y trefniad hwnw yn gyflawn yn mhapyrau Lewis William, Llanfachreth, ac yn ei lawysgrif ef ei hun, yr hwn a gyhoeddwyd yn llawn yn y Gyfrol gyntaf. A ganlyn sydd ddyfyniad o hono:—"Cynygiad ar gael gwell trefn ar y Cyfarfodydd sydd yn perthyn i'r Ysgolion Sabbothol yn y rhan nesaf i'r mor o Sir Feirionydd, sef ar y pedwar dosbarth,-1. Rhwng y Ddwy Afon, Abermaw a Dyfi; 2. Dyffryn; 3. Trawsfynydd; 4. Dolgellau. Y sylw cyntaf ar hyn a fu mewn Cyfarfod Ysgolion ardaloedd Dolgellau, yn Buarthyrê (ffermdy yn agos i Abergeirw), Gorphenaf 20, 1820. Penderfynwyd yno ar yr achos i anfon i'r dosbarthiadau eraill, i ddeisyf arnynt anfon cenhadwr dros eu dosbarth i gyfarfod blynyddol Dolgellau, Medi 24, i fwrw golwg ar gael diwygiad ar y drefn i gadw Cyfarfodydd y Dosbarthiadau." (Cyfrol Gyntaf, tudal, 270). Dosbarth Trawsfynydd y gelwid yr hyn a adnabyddid wedi hyny fel Ddosbarth Ffestiniog, oblegid nad oedd y lle olaf, yn amser yr ymdrafodaeth uchod, ond ardal ddinod a theneu ei phoblogaeth. Y dosbarth hwn oedd yr olaf o'r pedwar i ffurfio Cyfarfod Ysgolion; yr oedd Dosbarth y Ddwy Afon, lle y ffurfiwyd y Cyfarfod Ysgolion cyntaf, wedi ei ragflaenu er's tua phum' mlynedd. Ond cadwyd y cyfrifon yn fwy cyson a threfnus yma o'r cychwyn cyntaf nag yn un man arall, gan yr ysgrifenydd ffyddlawn Morris Llwyd, Cefngellewm. Yn yr anerchiad a gyhoeddwyd gan y Parch. Robert Parry, 25 mlynedd yn ol, ceir gwybodaeth am ddechreuad y Cyfarfod Ysgolion, ynghyd â chrynhodeb o'r cyfrifon, yr hyn sydd fel y canlyn:—"Yn nechreu y flwyddyn 1819, ymunodd yr amrywiol ysgolion gyda'u gilydd yn Ddosbarth. Y cyfarfod cyntaf a gynhaliwyd yn Ffestiniog, y 10fed o Ionawr, y flwyddyn hono. Mae gan yr ysgrifenydd goffadwriaeth o rifedi deiliaid yr ysgolion bob blwyddyn, er pan ffurfiwyd y Dosbarth hyd yr amser presenol (1865); ond rhag myned a gormod o le, heb ateb llawer o ddiben wrth roddi cyfrif pob blwyddyn ar ei ben ei hun, rhoddaf hwynt bob pum' mlynedd, a chyfrif y flwyddyn hon yn ychwanegol:—

Ar ddechreu y flwyddyn 1890, rhif yr ysgolion yn y Dosbarth oedd 35; rhif y deiliaid yn yr ysgolion, 5,602; adnodau a adroddwyd, 791,939. Mae y cyfrifon hyn yn ddyddorol, am eu bod yn dangos cynydd cyson a lled wastad o'r dechreuad. Dangosant hefyd y blynyddoedd yn y rhai yr oedd poblogaeth y wlad yn cynyddu.

YSGRIFENYDD Y CYFARFOD YSGOLION.

Megis y crybwyllwyd, Morris Llwyd, Cefngellewm, Trawsfynydd, tad Morgan Lloyd, Ysw., diweddar Aelod Seneddol dros Fwrdeisdrefi Mon, oedd ysgrifenydd cyntaf y Dosbarth. Ac ni bu swyddog erioed yn ffyddlonach i gyflawni gwaith ei swydd. Yr oedd efe yn flaenor ac yn wr o safle yn ei wlad, fel y gwelir yn hanes yr eglwys yn Nhrawsfynydd. Bu yn ysgrifenydd y Cyfarfod Ysgolion am 48 mlynedd, o 1819 hyd 1866. Ni chollodd ond tri o gyfarfodydd yn yr ysbaid maith o amser y bu yn y swydd, ac y mae cyfrif i'w gael am y troion hyny; un tro, yr oedd wedi tori asgwrn ei goes wrth fyned i Gyfarfod Misol y Bala; yr ail waith, yr oedd afiechyd as angau yn y teulu; a'r trydydd tro, yr oedd llifogydd mawrion yn yr afonydd fel nas gellid myned at y capel lle yr oedd y cyfarfod i fod. Deng mlynedd cyn ei farw, gwnaeth y Dosbarth dysteb iddo, ac anrhegwyd ef â llyfrau, y rhai oeddynt yn dra derbyniol ganddo. Ac ar ol ei farwolaeth, casglodd yr ysgolion 18p. i gyfodi cofadail iddo, yr hon sydd yn gofarwydd i'r oesau a ddél o'i ffyddlondeb, ac o barch y Dosbarth tuag ato. Flwyddyn neu ddwy cyn terfyn ei oes, yr oedd wedi colli ei olwg yn llwyr, a'r fath ydoedd ffyddlondeb dihafal i waith ei swydd, fel y dywedodd wrth ei olynydd, pan yr aeth i Gefngellewm i dderbyn trosglwyddiad o'r llyfrau cyfrifon, "Ni feddyliais am roddi y swydd i fyny, ond yr oeddwn am ddyfod i'r cyfarfodydd, a gadael i'r eneth yma (Miss Lloyd, ei ferch) ysgrifenu y cofnodion wedi i mi ddyfod adref."

Yn Nghyfarfod Ysgolion y Tabernacl, Mawrth 18, 1866, yr apwyntiwyd ei olynydd. Fel hyn y dywed y cofnodion,- "Dewiswyd John Parry Jones, Llechrwd, yn unfrydol iawn yn ysgrifenydd cynorthwyol i Morris Llwyd, gan ddisgwyl iddo ef gael yn fuan ei adferu." Efe ydyw Mr. J. Parry Jones, U.H., Bank, Blaenau Ffestiniog, sydd bellach er's llawer o amser mor adnabyddus fel gweithiwr rhagorol ymhob cylch o ddefnyddioldeb. Cyflawnodd yntau waith ei swydd yn dra ffyddlawn, a chadwodd y cofnodion yn fanwl, hyd nes yr ymranwyd yn dri dosbarth, a pharhaodd wedi hyny yn ysgrifenydd y Gymanfa a berthynai i'r holl gylch, a rhoddodd ei swydd i fyny yn 1880.

HOLWYDDORWR YR YSGOLION.

Yr holwyddorwr apwyntiedig yn 1820 oedd Richard Jones, wedi hyny y Parch. Richard Jones, y Bala, ac efe, yn ol pob tebygolrwydd, oedd holwyddorwr cyntaf y Dosbarth. Nid oes wybodaeth pwy fu yn llenwi y swydd ar ei ol ef. Ond sicr ydyw mai y gŵr a wnaeth fwyaf o waith fel gofalwr a hol- wyddorwr yr ysgolion yn yr holl gylch ydoedd y Parch. Robert Parry, Ffestiniog. Bu ef yn sefydlog yn yr ardal am dros ddeng mlynedd ar hugain, ac yr oedd yma yn ystod y blynydd- oedd y bu cynydd mawr yn y boblogaeth. Yr oedd yn ŵr deallus a hyddysg yn yr Ysgrythyrau, a'i ddawn yn rhedeg yn arbenig yn y ffordd hon. Gellir ei ystyried fel yn ddolen gydiol rhwng yr hen ddull a'r dull diweddaraf o holwyddori. Mae y rhan hon o Sir Feirionydd o dan ddyled i barchu ei goffadwriaeth. Bu farw ddechreu 1880.

JIWBILI YR YSGOL SABBOTHOL.

Pan gyrhaeddodd yr Ysgol Sabbothol ei haner canfed. flwyddyn, cadwyd gwyl mewn amryw o siroedd Cymru er gwneuthur coffa am yr amgylchiad. Gwelir cyfeiriadau mynych yn ngwahanol gyfnodolion y Dywysogaeth y blynyddoedd hyny at yr amgylchiad. Ni ddigwyddodd i ni weled hanes ond am un o'r cyfryw gyfarfodydd yn Ngorllewin Meirionydd, sef yr un a gynhaliwyd yn Mhenrhyndeudraeth, ar y 14eg o Hydref, 1831. Mae yr hanes hwnw i'w weled yn y Drysorfa am 1832, tudalen 99, wedi ei ysgrifenu gan Ioan, Parthfa Llechau, yr hwn yn ddiameu ydoedd Mr. John Davies, blaenor ieuanc yn Mhenrhyndeudraeth, wedi hyny o Benycei, Porthmadog. Nid ydyw yr hanes ond ychydig o linellau, ac y mae fel y canlyn,-"Buom mor ffodus a chael y Parch. John Elias i'n cynorthwyo. Ac am fod torf liosog wedi ymgynull ynghyd, gadawyd y pwnc a barotowyd i'r ysgolheigion erbyn y dydd rhag-grybwylledig, heb ei holi, i'r diben o adael amser i'r gŵr a enwyd i adrodd hanes dechreuwyr a dechreuad yr Ysgolion Sabbothol yn Lloegr a Chymru, a'r gwaith mawr a wnaed gan Dduw trwyddi yn ystod 50 mlynedd o amser. Holwyd y pwnc ar y nos Sabbath canlynol gan y Parch. Cadwaladr Owen, Dolwyddelen." Y pwnc ydoedd, Gwerthfawrowgrwydd a buddiant Addysg Ysgrythyrol.'

RHANIAD Y DOSBARTH YN DRI.

Oherwydd fod poblogaeth y wlad yn cynyddu, a nifer yr ysgolion yn amlhau, teimlid anesmwythder er's tro am gael rhanu y Dosbarth. Ystyrid ef hefyd gan lawer yn anhylaw i gynal y Cyfarfodydd Ysgolion oblegid y pellder rhwng yr ysgolion pellaf a'u gilydd,—cyrhaeddai o gapel Eden, yn nghwr pellaf ardal Trawsfynydd, i Minffordd, yn ngwaelod ardal y Penrhyn. Ar ol llawer o ymdrafodaeth ynghylch y mater, tybid fod yr amser wedi dod i ymranu yn ddwy ran; ac yn Nghyfarfod Misol Mai, 1871, pasiwyd penderfyniad, yn unol â chais a ddaethai i'r cyfarfod hwnw, "Fod caniatad yn cael ei roddi i Ddosbarth Ffestiniog i ymranu, os bydd mwyafrif ysgolion y Dosbarth yn galw am hyny." Ond wedi cymeryd llais yr ysgolion, cafwyd nad oedd addfedrwydd y pryd hwnw i'r ymraniad gymeryd lle. Cymerwyd yr achos i fyny drachefn, nodwyd pwyllgor i dynu allan gynllun yr ad-drefniad; ac wedi cymeryd llais yr ysgolion, yr oedd 18 o blaid a 4 yn erbyn. Felly penderfynwyd i'r rhaniad gymeryd lle, ac i ddyfod i weithrediad ddechreu y flwyddyn 1875. Yn Nghyfarfod Misol Mawrth, y flwyddyn hono, "Cadarnhawyd penderfyniad Cyfarfod Ysgolion Dosbarth Ffestiniog i ranu y Dosbarth yn dair rhan, o dan arolygiaeth un Gymanfa Ysgolion Flynyddol, yn cymeryd i fewn yr oll o'r Dosbarth fel yr oedd o'r blaen, a pherthynas y Dosbarth â'r Cyfarfod Misol i barhau fel cynt." Nifer yr ysgolion y flwyddyn cyn yr ymraniad oedd 29; ysgolheigion, 4,564. Yr adraniadau y flwyddyn gyntaf ar ol y rhaniad, sef yn 1875, oeddynt,—Dosbarth Blaenau Ffestiniog, ysgrifenydd—Mr. Owen Jones, Ffestiniog; Dosbarth Deheuol Ffestiniog, ysgrifenydd—Mr. R. G. Pritchard, Maentwrog'; Dosbarth Penrhyndeudraeth, ysgrifenydd—Mr. Hugh Jones, Bryngwilym. Y swyddogion ar ddechreu y flwyddyn 1890 oeddynt:—Dosbarth Blaenau Ffestiniog: Arholwr-Parch. T. J. Wheldon, B.A.; Llywydd—Mr. J. Parry Jones, U.H.; Ysgrifenydd—Mr. W. P. Evans. Dosbarth Deheuol Ffestiniog: Arholwr—Parch. John Williams, B.A.; Llywydd—Mr. T. R. Jones, Engedi: Ysgrifenydd—Mr. R. O. Ellis, Peniel. Dosbarth Penrhyndeudraeth: Arholwr—Parch. E. J. Evans; Llywydd—Mr. R. G. Pritchard; Ysgrifenydd—Mr. Hugh G. Roberts. Rhoddwyd hanes y rhaniad hwn fel y byddo yn nghadw wrth law pan y delo angen amdano. Nid ydyw y Gymanfa y cyfeirir ati yn para mewn grym, o leiaf yn yr ystyr y bwriedid iddi fod ar y cyntaf. Ymhob ystyr arall y mae y gweddill o'r trefniadau yn aros fel yr oeddynt. Erys un peth ynglyn â Dosbarth Ffestiniog yn ddigyfnewid, fel y trefnwyd ef yn Nghymdeithasfa Dolgellau, ddeng mlynedd a thriugain i'r flwyddyn hon, sef fod y Cyfarfod Ysgolion i'w gynal y trydydd Sabbath yn y mis.

GWYL Y CANMLWYDDIANT YN 1885.

Amgylchiad a dynodd sylw Cymru yn arbenig yn y flwyddyn 1885 ydoedd cynhaliad lliaws mawr o gyfarfodydd ymhob sir, ac ymhob rhan o bob sir, y rhai a olygid yn wyl fawr goffadwriaethol, i gofio am ddechreuad gogoneddus yr Ysgol Sabbothol, trwy offerynoliaeth y Parch. Thomas Charles, o'r Bala. Nid yw hanes y sefydliad yn unrhyw ran o'r wlad yn gyflawn heb grybwylliad am yr amgylchiad hwn. Yn y rhan orllewinol Sir Feirionydd, y mae bron yn sicr mai yn Nolgellau ac Aberdyfi y cynhaliwyd yr Wyl Goffadwriaethol yn ei gwedd odidocaf, oherwydd fod cyfleusderau y dosbarthiadau yn peri fod nifer liosocach o ysgolion wedi ymgynull ynghyd i gynal cyfarfodydd ac i orymdeithio. Ond yr oedd y dosbarth hwn, ddeng mlynedd yn flaenorol, wedi ymranu yn dri; ac heblaw hyny, nid oedd mor hawdd taro ar fan canolog i ddwyn yr holl ysgolion at eu gilydd. Felly cynhaliwyd yma amryw gyfarfodydd yn ol cyfleusdra yr ardaloedd. Yn Mlaenau Ffestiniog cynhaliwyd cyfarfod llwyddianus iawn ar ddydd Sadwrn yn mis Mehefin, lle yr hysbysir fod 3000 o bobl mewn oed, a 1000 arall o blant, yn gorymdeithio. Dydd Sadwrn, yn mhen yr wythnos, cynhaliwyd cyfarfod drachefn yn Llan Festiniog, yn gynwysedig o ddwy ysgol y pentref a'r canghenau, lle yr oedd y gynulleidfa yn rhifo 700. Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf yn Engedi, o dan lywyddiaeth Mr. W. Jones (Ffestinfab), a'r cyfarfod hwyrol yn Peniel, dan lywyddiaeth Mr. W. Davies, Peniel Terrace. Yr un diwrnod yr oedd cyfarfod yn cael ei gynal i'r un perwyl yn Maentwrog, pryd y cymerwyd rhan yn y gweithrediadau gan y gweinidog, y Parch. G. C. Roberts, y Parchn. D. Davies, Abermaw, ac Elias Jones, Talsarnau, a Mr. G. J. Williams, F.G.S., Blaenau Ffestiniog. Ar ddydd Sadwrn, Mai 30ain, cynhaliwyd Cymanfa Ysgolion Dosbarth Penrhyndeudraeth. Ymhlith pethau eraill o weithrediadau y Gymanfa, ceir y sylw a ganlyn,-"Darllenwyd papyr gwir ragorol gan Mr. Thomas Williams, Croesor, ar hanes dechreuad a chynydd yr Ysgol Sabbothol yn y dosbarth hwn. Yr oedd yn treat mewn gwirionedd gwrando ar yr hanes yn cael ei roddi mewn gwedd mor ddifyrus. Mae yn anhawdd meddwl pa lwybr gwell a allesid ei fabwysiadu gan y gymanfa mewn ffordd o ddathliad ar Ganmlwyddiant yr Ysgol Sabbothol." Yn ddiweddarach ar y flwyddyn cynhaliwyd cyfarfod yn y Pen- rhyn, a olygid yn uniongyrchol yn Wyl y Canmlwyddiant. Dichon hefyd i fwy o'r cyfryw gyfarfodydd gael eu cynal yn y cylch nag a grybwyllir yma.

PENOD VIII.

NODIADAU YCHWANEGOL,

Y CYNWYSIAD.—Y Dosbarth yn cael ei gymharu â Dosbarthiadau eraill—Y cynydd o fewn deugain mlynedd—Y Teithiau Sabbothol—Y Gweinidogion a'r Pregethwyr—Y Gymdeithas Arianol—Yr Achos Dirwestol—Cyfarfod Dosbarth Ffestiniog.

 IAMEU mai yr hyn a dyna sylw y darllenydd oddiwrth hanes yr eglwysi yn y tudalenau blaenorol, yn gyntaf oll, ydyw y cynydd dirfawr sydd wedi bod ar achos crefydd yn Nosbarth Ffestiniog yn yr haner can' mlynedd diweddaf. Mae cynydd yr achos yn gyffredinol i'w briodoli i'r cynydd digyffelyb yn y boblogaeth, ynghyd âg i fendith yr Arglwydd ar ymdrechion ei bobl. Er mai yn y rhanbarth hwn y dechreuodd ac y gwreiddiodd Methodistiaeth gyntaf yn y rhan orllewinol o Sir Feirionydd, eto, bu tymor hir, pryd yr oedd rhanau eraill o'r wlad, megis eglwysi Dol- gellau, Dyffryn, Abermaw, Bryncrug, Bwlch, Corris, yn gryfach ac yn fwy blaenllaw. Ac nid oedd y dosbarth hwn fel y cyfryw ond rhyw ganlyn ar ol y dosbarthiadau eraill. Efe a gyfrifid y lleiaf o honynt. Ond fel y cerddodd yr amser, trodd olwynion Rhagluniaeth, a dylifai y bobloedd i ardaloedd Ffestiniog, nes y daeth yr ardaloedd hyn, oherwydd eu cryfder mewn rhif, yn gryfion hefyd i gario achos crefydd ymlaen. Diameu fod gwersi i'w dysgu oddiwrth y cyfnewidiadau mawrion a gymerasant le. Y mae yn bur eglur, pa fodd bynag, fod clod nid ychydig yn ddyledus i arweinwyr crefydd yn y parthau hyn, yn y blynyddoedd a basiodd, gan iddynt ddarparu mor helaeth ac mor brydlon ar gyfer anghenion ysbrydol y bobl. Mewn bod yn effro a llygadog i ddeall arwyddion yr amseroedd, rhagorodd y tô diweddar o grefyddwyr ar grefydd- wyr cyntaf y wlad. Haner can' mlynedd yn ol, sef yn y flwyddyn 1840, pryd yr oedd poblogaeth plwyf Ffestiniog oddeutu 3000, nid ydym yn cael fod rhif yr holl wrandawyr gyda'r Methodistiaid yn cyraedd ond yn brin 800. Yn awr, pan roddir amcangyfrif y boblogaeth oddeutu 13,000, y mae rhif gwrandawyr y Methodistiaid, yn yr ystadegau diweddaf, yn ymyl 5000. Nid ydym yn meddwl wrth ddweyd hyn fod y Methodistiaid wedi gwneuthur yr oll a allasent, na'r oll a ddylasent ei wneuthur. Ond am y modd effro ac anturiaethus y dygwyd ymlaen y gorchwyl o adeiladu capelau newyddion, ac y ffurfiwyd eglwysi newyddion, i ateb i'r cynydd y naill flwyddyn ar ol y llall, nid oes ond canmoliaeth i'w roddi. Mae y symudiadau gyda hyn i'w gweled yn hanes pob eglwys ar ei phen ei hun. Cadwasant i fyny hefyd, i fesur mawr, y rheol Ysgrythyrol, trwy gynorthwyo y gwan mewn achosion o adeiladu capelau newyddion. Fel yr amlhaodd lliaws trigolion y fro, cryfhaodd teyrnas y Gwaredwr ymhlith pob enwad crefyddol, yn gyfatebol. Yr oedd yma nifer o hen frodorion yr ardal yn meddu "crefydd bur, a dihalogedig gerbron Duw a'r Tad," y rhai a roddasant eu delw, i raddau helaeth, ar y dieithriaid a'r dyfodiaid, a bendithiodd yr Arglwydd ymdrechion ei bobl, heb yr hyn ni buasid yn gweled y wedd lwyddianus a welir heddyw ar yr achos yn ei holl gysylltiadau. Dylid cadw mewn côf hefyd, ddarfod i'r Diwygiad 1859-1860, yr hwn a gymerodd le ar ddechreuad y cynydd mawr yn y boblogaeth, wneuthur daioni anrhaethadwy yn y rhan yma o'r wlad.

Y CYNYDD O FEWN DEUGAIN MLYNEDD.

Dengys y daflen ganlynol faint y cynydd, ymhlith y Methodistiaid Calfinaidd, o fewn cylch dosbarth Ffestiniog, yn ystod y deugain mlynedd diweddaf. Gan mai yn 1849 yr argraffwyd y cyfrifon gyntaf, cymerwn y flwyddyn hono i'w chymharu â'r flwyddyn ddiweddaf.

Y TEITHIAU SABBOTHOL YN 1840.

1. Penrhyn, Siloam. 2. Bethesda, Tanygrisiau. 3. Ffestin- iog, Maentwrog. 4. Trawsfynydd, Cwmprysor, Eden.

YN 1890.

1. Nazareth. 2. Gorphwysfa. 3. Minffordd. 4. Pant. 5. Siloam, Croesor. 6. Maentwrog Uchaf, Maentwrog Isaf, Llenyrch. 7. Peniel, Engedi, Rhydsarn, Babell, Teilia mawr (dau bregethwr). 8. Bethesda a'r Tabernacli(dau bregethwr). 11. 9. Tanygrisiau, Cwmorthin. 10. Rhiw, Talywaenydd. Garegddu. 12. Bowydd. 13. Capel Saesneg. 14. Trawsfynydd, Cwmprysor, Eden.

Yn y flwyddyn 1816, dwy daith Sabbath oedd yn yr oll o Ddosbarth Ffestiniog, sef (1) Wern, Penrhyn, Maentwrog; (2) Ffestiniog, Cwmprysor, Trawsfynydd. A 5 oedd nifer y capelau. Yn 1840, rhif y teithiau oedd 4, a rhif y capelau 9. Yn 1890, mae rhif y teithiau yn 14, a rhif y capelau a'r ysgol-dai yn 30.

Y GWEINIDOGION A'R PREGETHWYR.

YN 1840.

Edward Rees, Ffestiniog. 2. Thomas Williams, Bethesda. 3. David Williams, Maentwrog. Nid oedd yr un gweinidog ordeiniedig yn byw o fewn Ddosbarth Ffestiniog yn y flwyddyn 1840. Tri gweinidog yn unig a berthynai i'r Cyfarfod Misol y flwyddyn hon, sef Robert Griffith, Dolgellau; Daniel Evans, Harlech; Richard Humphreys, Dyffryn.

YN 1890.

Gweinidogion, David Jones, Garegddu; William Jones, Trawsfynydd; David Roberts, Rhiw; T. J. Wheldon, B.A., Tabernacl; Samuel Owen, Tanygrisiau; E. J. Evans, Nazareth; David O'Brien Owen, Llanfrothen; Robert Roberts, Minffordd; John Williams, B.A., Ffestiniog (Engedi). Preg- ethwyr, D. D. Williams, Ffestiniog (Peniel); Robert Morris, Ffestiniog; M. E. Morris, Minffordd; E. O. Davies, B.Sc.; R. H. Evans, Ffestiniog.

Y GYMDEITHAS ARIANOL.

Ffestiniog sydd yn teilyngu y clod o gychwyn y Gymdeithas hon; yma y planwyd y planhigyn, ac y daeth yn bren mawr, ffrwythlon, a thoreithiog. Gwnaethpwyd llawer o wasanaeth da drwyddi, a chlywyd llawer o son am dani amser aeth heibio, er nad oes eto lawn ddeugain mlynedd er ei chychwyniad cyntaf. Gwnaeth y Saeson lawer o helynt trwy briodoli iddi ddibenion nad oeddynt gywir, sef mai ei hunig amcan ydoedd dwyn elw i ryw nifer penodol o bersonau. Ond un engraifft ydoedd hyn, o blith miloedd, yn profi fod pob diwygiad, fel rheol, yn cyfarfod âg erledigaeth. Rhoddwyd eisoes grybwyllion, mwy neu lai helaeth, am dani ynglyn â'r gwahanol gapelau. I'r diweddar Mr. David Williams, Cwmbowydd, blaenor yn perthyn i'r Annibynwyr yn Bethania, Blaenau Ffestiniog, y priodolir gweithiad allan gynllun y Gymdeithas Arianol. Sefydlwyd hi gyntaf yn Bethania, ar y 24ain o Dachwedd, 1847, er cynorthwyo i dalu dyled y capel. Y cyntaf o gapeli y Methodistiaid i gychwyn y Gymdeithas oedd Bethesda. Sefydlwyd hi yno Chwefror 20fed, 1854. Rhif yr aelodau y noson gyntaf, megis yr hysbyswyd mewn cysylltiad â hanes eglwys Bethesda, ydoedd 36. Yr arian a dderbyniwyd y noson hono, 22p. 5s. Cynyddodd yn fuan ar ol ei sefydlu, ac amrywiai y swm yn y Gymdeithas hon yn unig o 300p. i 1,500p. Manteisiodd yr achos drwyddi, rhwng y llôg a dderbyniwyd o'r Banc, a'r llôg a arbedwyd, dros 1,000p. Treigl- wyd y swm o oddeutu 9,000p. trwy y Gymdeithas yn y Rhiw mewn corff 12 mlynedd o amser. Ffurfiwyd Cymdeithas hefyd ynglyn â holl gapeli eraill y gymydogaeth. Cyrhaeddid dau amean daionus drwyddi: yr oedd yn gyfle rhagorol i weithwyr a dderbynient eu cyflog yn fisol i roddi o'r neilldu yr hyn fyddai ganddynt yn weddill,—cynyrchodd a meithrinodd hyn ysbryd cynildeb a darbodaeth; yr amcan arall ydoedd, cael arian yn ddi-lôg i dalu dyled y capelau lle y ffurfid y Gymdeithas. Y Parch. Griffith Williams, Talsarnau, wrth wneuthur sylwadau ar hanes yr achos yn y Sir, yn Nghymdeithasfa Penrhyndeudraeth, Tachwedd, 1873, a roddodd grynhodeb o weithrediadau y Gymdeithas Arianol, yr hyn a ddengys ymha oleuni yr edrychid arni y pryd hwnw. Yr oedd dyled y capelau o fewn. cylch y Cyfarfod Misol, y flwyddyn y cynhelid y Gymdeithasfa uchod, ychydig dros 16,000p. Ac ar gyfer hyny cyrhaeddai gwerth ein meddianau yn nosbarth Dolgellau, 6,770p.; yn nosbarth y Dyffryn, 10,355p.; yn nosbarth y Ddwy Afon, 12,581p.; ac yn nosbarth Ffestiniog, 25,655p., yn gwneyd y cyfanswm yn 55,361p. "Pwy," ebai Mr. G. Williams, "na fuasai yn falch o etifeddiaeth o'r gwerth yna, serch fod arni rhyw ddyled o 16,000p.?" Ac elai ymlaen:—

"Y mae haelioni y cynulleidfaoedd yn gweithio mewn dwy ffordd, sef trwy roddi arian, ac hefyd trwy roddi benthyg arian yn ddi-lôg. Yn Ffestiniog y dechreuodd yr arferiad dda hon, tuag ugain mlynedd yn ol, ac yno y mae yn fwyaf llwyddianus hyd heddyw. Rhoddwyd allan yn y modd yma, yn nosbarth Ffestiniog, ac yn neillduol yn nghymydogaeth Ffestiniog ei hun, o bryd i bryd, er pan sefydlwyd y cynllun hwn, y swm o 29,841p. 9s. 2c., ac yn y rhanau eraill o'r sir 2536p. 1s. 7c., sef cyfanswm o 32,377p. 13s. 9c. Y mae yn awr allan yn menthyg y swm o 8943p. 17s. 4c. Y mae rhai o'r capelau mawr a chostus yn nosbarth Ffestiniog heb ddim llôg wedi cael ei dalu arnynt er's llawer o flynyddoedd. Yn y cyffredin y mae mwy mewn llaw na swm y ddyled ar y capel. Yn Nhanygrisiau mae mwy mewn llaw o 182p. 6s. 4c. na'r ddyled, yn Bethesda mwy o 247p. 12s. 33c., yn y Tabernacl mwy o 447p. 8s. 11c., ac yn Croesor y mae 200p. mewn llaw, er fod y ddyled wedi ei thalu er mis Awst diweddaf. Arian di-lôg y gelwir yr arian yma, ond nid wyf yn sicr fod yr enw yn briodol. Mae Duw yn sylwi ar yr hyn a gyfrenir at ei achos, ac yn gwobrwyo. Ni wnaeth y wraig weddw hono o Sarepta ddim a dalodd yn well iddi na'r deisen hono i ŵr Duw. Fe fu yn fortune i Obededom i'r Arch gael ei throi i'w dŷ. Ac ni chafodd Pedr erioed y fath helfa o bysgod a'r diwrnod y rhoddodd fenthyg ei long yn bwlpud i Iesu Grist i bregethu allan o honi. Y mae yn Ffestiniog lawer allant ddwyn tystiol- aeth i'r bendithion a dderbyniasant eu hunain, trwy roddi benthyg eu harian yn y ffordd yma ar gapelau. Y maent wedi dysgu dau beth gyda'u gilydd, sef cynildeb a haelioni. Dywedai y diweddar Barchedig Richard Humphreys, os byddai i ddyn ddysgu enill ac heb ddysgu cynilo, yr elai yn wastraffus. O'r tu arall, os dysgai gynilo heb roddi, elai yn gybydd. Ond yr oeddynt hwy yno wedi dysgu dau beth, cynildeb a haelioni. Mae y cybyddion olaf yn Ffestiniog wedi eu gweithio i ffordd."

YR ACHOS DIRWESTOL.

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Dirwest
ar Wicipedia

Un o neillduolion chwarelwyr ac ardalwyr Ffestiniog ydyw, eu bod wedi dangos mawr sel o blaid achos dirwest o'r cychwyn cyntaf. Cynhaliwyd y cyfarfod dirwest cyntaf erioed yn Ffestiniog yn nghapel Bethesda, Hydref 25, 1836. Llywyddwyd y cyfarfod gan y Parch. Thomas Williams, a'r prif areithiwr oedd Mr. W. Ellis Edwards, Penrhos (wedi hyny y Parch. W. Edwards, Aberdar). Ardystiodd 104 yn y cyfarfod cyntaf. Ymhen llai na thri mis, sef Ionawr 12fed, 1837, yr oedd nifer y dirwestwyr yn y Blaenau yn 803, yn y Llan 278, Coedbach 40—cyfanrif 1121. Safodd y gymydogaeth, o hyny hyd yn awr, mor gryf o blaid achos sobrwydd ag un man yn Nghymru. Y mae llwyrymwrthodiad â diodydd meddwol, fel rheol, wedi bod yn amod aelodaeth eglwysig yn y cylch hwn o'r wlad. "Un o'r pethau cyntaf oll a adawodd argraff ar ein côf," ebe ysgrifenydd mewn erthygl yn y Traethodydd ar "Ymneillduaeth yn Ffestiniog," tuag ugain mlynedd yn ol, "ydoedd gweled cyfarfodydd brwdfrydig yn cael eu cynal, a'r trigolion yn rhodio yn orymdaith, ar nosweithiau goleu leuad, o un cwr i'r fro i'r cwr arall, gan gario baneri sobrwydd i chwifio yn yr awyr, a chanu nes gwneyd i'r creigiau grynu." Ymladdwyd brwydrau, flynyddoedd lawer yn ol, o flaen ustusiaid y dos- barth, er gwneuthur ymdrech i leihau nifer y tafarndai a roddent achlysur i feddwdod, a buwyd i fesur yn llwyddianus. Ac er clod i weinidogion yr Efengyl a gwladgarwyr twymgalon eraill, buont lawer gwaith yn dadleu yr achosion hyn eu hunain o flaen mainc yr ynadon. Mor ddiweddar a dechreu Awst y flwyddyn hon (1890), enillwyd yn y dull hwn, mewn canlyniad i ymdrechion gwrol nifer o wyr da yr ardal, un o'r buddugoliaethau godidocaf yn hanes ymdrechion dirwestol ein gwlad, trwy atal trwyddedau tair o dafarndai yn mhlwyf Ffestiniog.

CYFARFOD DOSBARTH FFESTINIOG.

Y mae y wybodaeth sydd ar gael am ffurfiad y cyfarfodydd dosbarth, ynghyd a'u gweithrediadau yn amser y tadau, yn hynod o brin. Y crynhodeb goreu y llwyddasom i ddyfod o hyd iddo ydoedd, crybwyllion a gasglwyd o ysgrifau a llythyrau Lewis William, Llanfachreth, a John Jones, Penyparc, yr hyn y rhoddwyd eglurhad arno eisoes (cyf. i. 268-272, a 343- 346). Mae dosbarth Ffestiniog, fel y mae yn dal cysylltiad âg amgylchiadau yr eglwysi, ac â'r Cyfarfod Misol, yn aros yr un faint o ran ei gylch, heb dynu dim oddiwrtho na chwanegu dim ato, er y flwyddyn 1820. Ychydig o waith a wnelid ynddo hyd o fewn yr ugain mlynedd diweddaf. Ymgynullai ynghyd yn achlysurol, gan amlaf wrth orchymyn a chyfarwyddyd y Cyfarfod Misol. Ni chedwid dim cofnodion i fod yn arosol. Gosodid rhyw frawd yn llywydd, ac weithiau, fel y digwyddai, ysgrifenid yn y dyddiadur, neu ar ryw ddalen a geid wrth law, unrhyw beth a fu dan sylw. Eithr yn awr gwneir llawer mwy o waith yn y cyfarfod dosbarth, a chedwir pethau mewn gwell trefn. Mewn cyfarfod a gynhaliwyd yn Maentwrog, Hydref 29ain, 1874, penderfynwyd, "Fod llyfr yn cynwys cofnodion holl gyfarfodydd y dosbarth i gael ei gadw, a bod William Davies, Ffestiniog, i fod yn ysgrifenydd." O'r adeg hono hyd yn awr cedwir cofnodion rheolaidd, ac megis y crybwyllwyd, daw llawer mwy o faterion i gael sylw yn y cyfarfodydd. Mawrth 18fed, 1881, rhoddodd Mr. W. Davies ei swydd fel ysgrifenydd i fyny, ac etholwyd Mr. J. Parry Jones, U.H., y Banc, yn ei le. Rhagfyr 12fed, 1884, rhoddodd yntau ei swydd i fyny, ac etholwyd Mr. Owen Jones, yn awr o Erw Fair, i'r swydd. Ac efe ydyw ysgrifenydd a chynullydd Cyfarfod Dosbarth Ffestiniog hyd yn bresenol.



~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~

RHAN II.



DOSBARTH Y DYFFRYN.

~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~



PENOD I.

CRYBWYLLION AM DDYFFRYN ARDUDWY YN FLAENOROL I'R FLWYDDYN 1785.

Y CYNWYSIAD.—Cymeriad ac arferion y trigolion cyn 1785—Y ddau filwr, Griffith Prys Pugh a'r Milwriad Jones—Darluniad o Feirion yn amser Oliver Cromwell—Y Gerddi Bluog—Philipiaid awenyddol Ardudwy—Y Parch. Ellis Wynn, awdwr y 'Bardd Cwsg'—Ysgrifau y Parch. Richard Humphreys—Modryb Lowri—Gwers ar Ryddid ac Anrhydedd o'r Oes ddiweddaf i hon—Y goleuni yn tori trwy ymddangosiad y Pregethwyr Methodistaidd.

 MHOB gwlad y megir glew." Mae y ddihareb wedi ei seilio ar sylwadaeth graff a manwl yr hen Gymry, ac y mae wedi ei gwirio ymhob oes yn gystal ag am bob gwlad. Enwogion gwlad sydd yn gwneyd i fyny ei hanes; yr hyn sydd yn wybyddus am eu gweithredoedd a'u bywyd hwy sydd yn wybyddus am y lliaws oedd yn cydoesi â hwy; ac y mae eu coffadwriaeth hwy, fel pinaclau arhosol, yn parhau i daflu goleuni i'r oes a'r oesau a ddaw ar yr hyn a fu. Am grefydd ac Ymneillduaeth, yn Nyffryn Ardudwy, yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, fe fydd mawr son, am y rheswin fod yma nifer o wyr enwog a dewr wedi bod yn chwareu rhan dda er ffurfio cymeriad yr oes. Pa beth a fu cymeriad a thynged eu tadau a'u teidiau o'u blaen, nid oes genym ond casglu oddiwrth yr hyn sydd wedi rhedeg i lawr hyd atom ni, trwy draddodiad a llafar gwlad. Fe gofir y flwyddyn 1785 gan genedl y Cymry tra bo y genedl a'r iaith mewn bod, fel blwyddyn sefydliad yr Ysgol Sabbothol. Yr ydym wedi cynefino â chlywed am y bendithion fyrdd a ddaeth i'n gwlad trwyddi hi, am y cyfnewidiadau mawrion a gymerasant le, ac am y gwelliantau anhygoel a wnaethpwyd yn arferion a chymeriad pob rhan o'r wlad. Nid ydym yn peidio a rhyfeddu wrth glywed am y pethau hyn, mwy nag yr oedd plant Israel yn peidio a rhyfeddu wrth glywed am y mawrion weithredoedd a wnaeth Duw yn amser eu tadau. Y mae rhyw chwilfrydedd yn y natur ddynol hefyd am wybod cymaint a ellir am y pethau gynt a fu, pe na byddai ond y si a gludir ar adenydd yr awelon. Yr ydym yn hoffi gwybod tipyn o hanes y preswylwyr am y mynydd â ni, er na byddwn bron byth yn eu gweled na'u cyfarfod. Cymydogion agos i ni oedd ein cydgenedl a oesent yn y ganrif ddiweddaf, rhai yn byw am gefnen gul o fynydd â ni, neu yn hytrach ar gwr pellaf yr un gwastadedd, megis yn y golwg o dan y terfyngylch draw. Beth oedd eu sefyllfa hwy? Ymha beth yr oedd eu llawenydd a'u galar yn gynwysedig? Beth oedd eu rhagolygon am hapusrwydd a dedwyddwch-pethau y mae holl blant dynion yn cyrchu atynt? Crybwyllion yn unig sydd genym i'w gwneuthur am y cyfnod tuhwnt i'r hyn a osodir yn derfyn uwchben y benod hon.

Yn amser Oliver Cromwell, ychydig gyda dau can' mlynedd yn ol, yr oedd dau filwr o gryn enwogrwydd yn byw yn y Dyffryn, y rhai oeddynt yn gryf dros werin-lywodraeth, ac a ymladdent yn erbyn Charles yr Ail. Griffith Prys Pugh, etifedd y Benar Fawr, oedd un o honynt. Ymladdodd hwn yn ddewr dros ryddid gwladol a chrefyddol, tra yr oedd y mawrion a phleidwyr y brenin yn ormeswyr creulon. Yn cyd-oesi ag ef yr oedd y Milwriad John Jones, mab Maesygarnedd, yr hwn y mae beddadail iddo yn mynwent Llanenddwyn, ac yn gerfiedig arni, E. J., 1665. Yr oedd yn un o gyfeillion cyfrinachol Cromwell, yn frawd-yn-nghyfraith iddo, ac yn cyd-ymgynghori âg ef mewn achosion pwysig. Bu yn cynrychioli Meirionydd yn y Senedd, ac yn un o lywodraethwyr yr Iwerddon. Llawer fu y son gan y Dyffrynwyr, y naill oes ar ol y llall, am wrhydri a dewrder y ddau filwr yn ymladd dros ryddid ac Ymneillduaeth eu gwlad, pan y galwyd hwynt i fyddin anorchfygol iron-sides Cromwell.[24]

Yn hanes yr olaf, ceir crybwylliad am agwedd foesol y wlad, a'i hanghenion ysbrydol y pryd hwnw:—

"Nid oedd neb yn y fyddin mor dduwiolfrydig ei ysbryd, ac yn teimlo cymaint dros agwedd druenus y wlad, a'r Milwriad Jones, o Faesygarnedd, fel y gwelir oddiwrth yr ohebiaeth ddyddorol a ymddangosodd yn Old Nonconformity of Wrexham, gan Palmer. Yn un o'i lythyrau mae yn gwahodd Morgan Llwyd a Vavasor Powell i ddyfod ato i'r Iwerddon i bregethu yr efengyl fwyn. Mewn un arall, mae yn gofyn beth a ddaw o Feirion dlawd? A ydyw y wlad yma i'w gadael yn hollol amddifad o'r efengyl Onid oes broffwyd neu genad i Grist a ddaw i Ddyffryn Ardudwy? Pa le y mae Morgan Llwyd a Vavasor Powell! Onid ydynt hwy yn teimlo yn fraint gael pregethu yr efengyl i'r tlodion sydd yn llochesu yn mynydd- dir Meirion? Onid ydynt hwy yn ymorchestu rhyfela â thywysog llywodraeth yr awyr? A pha le y ceir dyfod o hyd i fwy o annuwioldeb ac anwybodaeth nag a geir yn Sir Feirionydd!" [25]

Ar un o ystlysau y Dyffryn, tua thair milldir uwchlaw Harlech, yn y Gerddi Bluog, y ganwyd Edmund Prys, Archddiacon Meirionydd, ac nid ychydig yw braint y lle a all hawlio man genedigaeth gwr o'i enwogrwydd ef. Dau o wyr blaenllaw a gydoesent â'r Archddiacon, fel y gellir casglu oddiwrth ganiadau beirdd yr oes hono, oeddynt William Philip a Sion Philip. "Yr ydym yn awr yn nghanol gwlad Philipiaid awenyddol Ardudwy, y rhai oeddynt yn eu blodau oes o flaen Ellis Wynn (awdwr y Bardd Cwsg), William Philip o Hendre Fechan, a Sion Philip o Fochras, a'i feibion Gruffydd, Philip Sion, a Rhisiart. Yr oedd y ddau flaenaf yn enwedig yn feirdd uchelryw. Cyfunai yn William y bardd coeth a'r breningarwr selog, a pharodd ei sel iddo gryn lawer o boen a thrafferth. Yr oedd Sion Philip yn llysieuwr gwych, yn hyddysg mewn tair iaith, yn ddigon o brydydd i dynu'r dorch hefo Edmund Prys, a chyn hired ei wynt ag yntau. Cyfarfu ei ddiwedd Ddy'gwyl Mair, 1620, trwy foddi gerllaw Pwllheli, pan yn agos i 80ain mlwydd oed."[26] Hugh Llwyd, Cynfal, a wnaeth ei feddargraff; ac yn 1858, ar draul y gwladgar Ab Ithel, cerfiwyd ef ar gareg ei fedd, sydd wrth daleen hen eglwys hynafol Llandanwg, yr hwn sydd fel y canlyn:—

"Dyma fedd gwr da oedd gu—Sion Philip,
Sain a philer Cymru;
Cwynwn fyn'd athraw canu,
I garchar y ddaiar ddu."

Saith mlynedd a deugain wedi marw Edmund Prys, sef yn y flwyddyn 1671, y ganwyd y Parch. Ellis Wynn, awdwr hynod y Bardd Cwsg, yn ffermdy elyd Lasynys, ar ganol Morfa Harlech, ychydig filldiroedd wedi pasio penelin Dyffryn Ardudwy. Sicr ydyw mai efe a gariodd y dylanwad cryfaf er daioni ar ei gymydogion o bawb a gyd-oesent ag ef. Mae chwedl ei fywyd yn cael ei hadrodd mewn ychydig o gwmpas, gan nad oes ond ychydig o'i hanes ar gael, fel llawer o hen enwogion Cymru. Mab ydoedd i Edward Wynn, o'r Glyn Cowarch, yr hwn a briodasai etifeddes y Lasynys. Awdwr y Bardd Cwsg ydoedd yr unig blentyn o'r briodas hon a fu byw i gyraedd oedran. Mae yn sicr iddo dderbyn addysg dda, ond ni wyddis ymha le, gyda'r bwriad feallai o'i ddwyn i fyny yn offeiriad. Ond gwnaeth ei ymddangosiad fel awdwr cyn ei urddo yn offeiriad. Prawf cryf o'i grefyddolder ydyw iddo gyfieithu i'r Gymraeg, pan yn 30 oed, waith defosiynol Jeremy Taylor, Rule and Exercise of Holy Living, o dan y teitl "Rheol Buchedd Sanctaidd," yr hwn a gyflwynodd i'r Esgob Humphreys, o Fangor. Yr un flwyddyn ag y cyhoeddodd y cyfieithiad, darfu i'r esgob, oddiar argyhoeddiad o'i ragoroldeb, fel y credir, berswadio yr awdwr i ymgymeryd â'r weinidogaeth. Urddwyd ef yn ddiacon ac yn offeiriad yr un dydd gan yr Esgob Humphreys, a thranoeth cyflwynwyd iddo berigloriaeth Llanfair, ger Harlech. "Yr oedd efe hefyd yn beriglor Llandanwg a Llanbedr, yn yr un gymydogaeth; ac felly cafodd dreulio cydol ei oes yn dawel, yn awyr ei dreftadaeth ei hun, ac yn mro ei enedigaeth." Wedi bod yn pregethu i'w gymydogion yn y plwyfi hyn—ac nis gallai awdwr y Bardd Cwsg amgen na phregethu yr efengyl i bwrpas—am 33ain o flynyddau, efe a fu farw, ac a gladdwyd o tan fwrdd yr allor yn Eglwys Llanfair, Gorphenaf 1734, dwy flynedd cyn i Howel Harries dori allan i bregethu yn Nhrefecca. Yn y llyfr cofrestrol mae y nodiad canlynol am ei gladdedigaeth:— "Elizaeus Wynne, Cler. nuper Rector dignissimus hujus Ecclesiae, Sepultus est 17mo die Julii, 1734."

Yr oedd efe yn weinidog a ragorai yn fawr ar ei gyd-oeswyr mewn talent a duwioldeb. Dywedai y Parch. Richard Humphreys am dano, "Gwr hynod yn ei oes, a hono yn gyffredinol yn dra llygredig. Credai pawb mai gwr da oedd Ellis Wynn." Profa ei ysgrifeniadau ei fod yn "ganwyll yn llosgi" mewn lle tywyll. Yn y rhai hyn y mae yn rhybuddio ei gyd-oeswyr, trwy ddarluniadau llymion a chryfion o sicrwydd marwolaeth, a'r cosbedigaethau dychrynllyd sydd yn aros gweithredwyr anwiredd. Er lleied o arwyddion crefydd a welid o amgylch maes ei lafur dros lawer o flynyddau ar ol ei ddydd, mae yn sicr er hyny i amcanion mor ddyrchafedig a'r eiddo ef lwyddo i atal llawer ar annuwioldeb ei gyd-ddynion. "Yn 1703, ymddangosodd ei gampwaith llenyddol, a champwaith rhyddiaethol llenyddiaeth Gymreig, sef Gweledigaethau y Bardd Cwsg." "Cydnebydd pob ysgolhaig Cymreig ystwythder, cryfder, a thlysni ieithwedd y Bardd Cwsg ;" ac nid yw yn hawdd dweyd pa un o'r ansoddeiriau hyn sydd yn gosod allan ei brif ragoriaeth. Mae y llyfr wedi myned trwy gynifer ag ugain o argraffiadau. Cyhoeddwyd yr ugeinfed argraffiad gan Mr. Isaac Foulkes, Liverpool, yn 1888, gyda rhagymadrodd yn cynwys crynhodeb cynwysfawr o hanes bywyd yr awdwr. [27]

Nid ydym yn cael i'r un o offeiriaid yr Eglwys Sefydledig yn y cymydogaethau hyn gyfodi i hynodrwydd heblaw awdwr y Bardd Cwsg. Yr oedd yma lawer o eglwysi er's oesau ar gyfer poblogaeth deneu, mewn rhandir gymhariaethol fechan—cynifer a chwech mewn saith milldir i'w gilydd, rhwng Abermaw a Harlech. Y mae fod y fath nifer mewn mor lleied o wlad yn edrych yn hynod, ac nid llai hynod ydyw eu lleoliad, oll o'r bron yn agos iawn i lan y môr. Gallesid disgwyl oddiwrth y fath rif o dai addoliad y buasai y trigolion wedi eu dysgu i fod yn wâr ac addolgar. Ond i'r gwrthwyneb yr ydym yn eu cael, fel y dengys y ffeithiau a ddyfynir yn y tudalenau dilynol, allan o Fethodistiaeth Cymru, gan y Parch. John Hughes.

Ysgrifenodd y doeth-wr a'r hybarch Richard Humphreys rai pethau dyddorol am yr hynafiaid yn Ardudwy, yn flaenorol i ddechreuad Methodistiaeth yn gystal ag wedi hyny. Trwy ei ysgrifau ef y portreadwyd llawer o arferion a dull trigolion y fro, ac y cadwyd nid ychydig o ddywediadau yr hen bobl heb fyned i ebargofiant. Adnabyddir un o'r cyfryw ysgrifau wrth y teitl, "Modryb Lowri." Lowri Williams, o'r Benar Isaf, oedd y chwaer hon, fel y daeth yn hysbys wedi hyny, ac un hynod ydoedd am ei challineb a'i haddfedrwydd barn. Medrai gofio digwyddiadau a hanes ei gwlad enedigol mor bell yn ol, o leiaf, a'r flwyddyn 1750. Un diwrnod cymerodd yr ymddiddan canlynol le rhwng Mr. Humphreys a hithau:—

"Beth debygech chwi am y byd?" gofynai Mr. H., "y mae yn dda gen' i gael eich barn am dano, oblegid yr ydych yn cofio llawer am ei arferion er's pedwar ugain a deg o flynyddoedd. Y mae rhai yn taeru yn wyneb uchel ei fod yn waeth waeth er yr holl bregethu a chadw Ysgolion Sabbothol, a phob moddion i'w wellhau. Ond pa beth dybygech chwi am hyn, canys yr ydych yn dyst llygad o'r hyn sydd, ac o'r hyn a fu!" "Nis gwn yn iawn pa fodd i'ch ateb," ebe hithau, "ond os da yr wy'i yn cofio, drwg iawn oedd y byd y pryd hwnw, sef pan oeddwn i yn enethig fechan. Nosweithiau llawen, canu efo'r tanau,

Yr interlude aelodog,
A'r cardiau dau wynebog,'

y twmpath chware, a chware tenis tô. Fel hy y byddai yr ieuenctyd, a'r hen yn eistedd i edrych arnynt. Diwrnod canu a dawnsio oedd y Sul, pan gyntaf yr wyf fi yn ei gofio. Ac heblaw hyn, yr oedd pawb yr un fath, fel y dywed yr hen air, 'Nid oeddym oll ond moch o'r un wâl, neu

'Adar o'r un lliw
Yn hedeg i'r un lle.'

Nid oedd un cyfiawn i ragori ar ei gymydog."

"Ond, Modryb Lowri," ebe Mr. H. drachefn, "beth meddwch chwi am stâd bresenol y byd, pa un ai gwell ai gwaeth na chynt?"

"Yn siwr," atebai Modryb Lowri, "rhaid cyfaddef fod llawer o wylltineb ac afreolaeth ynddo eto, ynghyd â rhagfarn, llid, a chenfigen; ond y mae rhyw ddau fath o bobl yn ymddangos i mi yn bresenol, rhai yn ymdrechu i wellhau y byd, ac i gadw ei ddrwg arferion i lawr. Y mae y rwan dda a drwg i'w gweled. Nid oedd pan oeddwn i yn ieuanc ond drwg a gwaeth. Y mae bechgyn a genethod yn cael llawer o fanteision y dyddiau hyn rhagor a geid gynt yn more fy oes i. Nid oedd y pryd hwnw nemawr ddim i atal llygredigaeth ond tlodi, cosbi lladron, a chrogi llofruddion."[28]

Mae yr hanesyn canlynol wedi ei ysgrifenu gan yr un awdwr, yn ei ysgrif a elwir, Gwers ar Ryddid ac Anrhydedd o'r Oes ddiweddaf i Hon, ac a roddir yma er mantais i weled cwrs y byd yn y ddwy oes, ac hefyd er cadarnhau gwirionedd hanesyddol hanesyn arall a geir yn mhellach ymlaen, mewn cysylltiad ag eglwys Harlech:—

"Daeth un Gruffydd Evan, o Uwchglan, tua phedwar ugain mlynedd yn ol [sef oddeutu y flwyddyn 1775], at Mr. Evan Fychan, o Gorsygedol, ac a ddywedodd, Y mae eich tenant sydd yn Mhenycerig (y ddau le gerllaw Harlech) wedi myned at y Methodus, ac nid oes dim daioni i'w ddisgwyl oddiwrtho mwyach; hwy a'i gwnant cyn dloted a llygoden eglwys, a pha beth a wna â thir nac â dim arall? Ceir gweled yn fuan na ddaw o hono, fel y dywedais, ond anhwylusdod.' Y mae yn ddrwg genyf glywed,' ebe Mr. Fychan, yr oedd Harri yn burion tenant." 'Oedd o'r goreu,' ebe Gruffydd Evan, ond y mae y cwbl drosodd er pan yr ymunodd â'r bobl yna, oblegid ni wna bellach ddim ond crwydro a gwario ei arian; a chan na wna efe ddim â'i dyddyn, buaswn yn ddiolchgar am eich ewyllys da os gosodwch Benycerig i mi.' 'Wel,' ebe Mr. Fychan, 'nid hwyrach y gelli di ei gael, ond ni osodaf mo hono i ti heddyw,—caf weled Harri cyn bo hir, a chaf wybod pa fodd y mae pethau yn sefyll.' Cyn hir anfonodd y gwr bonheddig at Harri i ddweyd fod arno eisiau ei weled; aeth yntau i Gorsygedol, ond nid heb ofni fod rhyw ddrwg ar droed. Ac wedi i'r meistr a'r tenant gyfarch eu gilydd yn y dull arferedig, torai Mr. Fychan ato, a dywedai, 'Y mae Gruffydd Evan, o Uwchglan, yn dweyd wrthyf dy fod wedi myned at ryw bobl, ac na wnei di mwy na thrin y tir na thalu am dano; a ydyw hyny yn bod?' 'Nac ydyw, Syr; os caf ffafr yn eich golwg, a chael bod yn denant i chwi fel cynt, triniaf ef fel cynt, a thalaf am dano fel rhyw dyddynwr arall; ac os methaf, mi drof fy nghefn, ac a äf ymaith yn ddiddig.' 'Wel, o'r goreu, Harri,' meddai Mr. Fychan, 'ti elli fod yn ddiofal na chaiff neb dy dyddyn tra y triniech di ef, ac y talech am dano, —cymer di dy ffordd dy hun i fyned i'r nefoedd.'"[29] Bu Harri yn denant da i Mr. Fychan, a daeth yn gefnog yn y byd; daeth hefyd yn un o brif golofnau achos y Methodistiaid yn Harlech.

Y mae rhai o eglwysi y Methodistiaid yn Nyffryn Ardudwy yn cael eu cyfrif ymhlith y rhai hynaf yn y sir, er nad oedd yma ddim mwy na thair wedi eu sefydlu yn y flwyddyn 1785, sef Harlech, Abermaw, a'r Dyffryn. Yr oedd pregethu wedi dechreu, ac ychydig nifer, yma ac acw, wedi ymuno â'r grefydd newydd bymtheg neu feallai ugain mlynedd cyn hyny. Nid oedd yma ddim galluoedd nerthol, na'r un ysbryd mawr, oddigerth awdwr y Bardd Cwsg, wedi bod yn arloesi y tir ac yn parotoi y bobl i dderbyn gair yr Arglwydd. Y mae digwyddiadau mawr yn taflu eu cysgodion o'u blaen, fel y cwmwl du yn tywyllu y gymydogaeth ymhell cyn iddo gyraedd yn unionsyth uwchben, neu fel yr heulwen oleu tu cefn i'r cwmwl yn ysgafnhau yr awyrgylch trwy ei hadlewyrchiad. Ond nid oedd llewyrch lloer na haul yn tywynu uwchben y cymydogaethau hyn, dim ond y fagddu dywyll yn eu gordoi pan y dechreuodd pregethwyr y Methodistiaid dramwy trwodd. Digwyddodd yma yn ol rhagfynegiad yr Ysgrythyr, "Cafwyd fi gan y rhai nid oeddynt yn fy ngheisio ; a gwnaed fi yn eglur i'r rhai nid oeddynt yn ymofyn am danaf." Yn y benod nesaf ceir gweled pa fodd y dechreuodd ac y cynyddodd crefydd yn yr eglwysi.

PENOD II.

HANES YR EGLWYSI.

Y CYNWYSIAD.—Harlech—Abermaw-Dyfryn—Gwynfryn—Nancol—Talsarnau-Llanbedr—Llanfair—Eglwys Saesneg Abermaw.

HARLECH

 ARLECH oedd y lle cyntaf yn Nosbarth y Dyffryn i gael y fraint o dderbyn yr efengyl drwy y Methodistiaid Calfinaidd, a'r person fu yn offerynol i ddwyn pregethu gyntaf i'r fro oedd Griffith Ellis, Pen'rallt. Lowri Williams, Pandy'rddwyryd, fu yn foddion ei dröedigaeth ef, am yr hyn y ceir hanes helaeth yn y drydedd benod. Cymerodd yr amgylchiad hwnw le rhwng 1755 a 1760. Enynodd y tân a gyneuwyd yn Mhandy'rddwyryd y blynyddoedd hyny, nes bod yn foddion i blanu amryw eglwysi yn amgylchoedd Ffestiniog. Daeth Griffith Ellis, hefyd, a'r gwreichion oddiyno i gymydogaeth Harlech. Ymhen rhyw gymaint o amser agorodd ei dŷ ei hun i gynal moddion ynddo, a gwnelai ymdrech mawr i gael pregethwyr i bregethu yn achlysurol yn yr ardaloedd o amgylch ei gartref. Ac am yr ysbaid o ugain mlynedd ymddengys ei fod yn unig yn y gorchwyl hwn. "Fe fu Griffith Ellis," ebe Methodistiaeth Cymru, yn fendith fawr yn ei ardal, ac nid yn unig yn ei ardal ei hun, ond yn y rhai cymydogaethol hefyd, ac y mae ei enw yn beraroglaidd hyd heddyw yn ei fro enedigol." Ceir ei hanes yn rhoddi yr hedyn i lawr yn nghymydogaeth Llanfair, ac yn dyfod a phregethwyr i bregethu y troion cyntaf i'r Dyffryn. Byddai yn myned can belled a Lleyn, yn Sir Gaernarfon, ymofyn cyhoeddiadau; a rhag i neb fod yn amheus o'i neges, prynai fuwch, neu ryw anifail arall, i ddyfod gartref gydag ef. "Cafodd y gwr hwn ei gymell, pan oedd yn aredig yn y maes, i fyned ugain milldir o ffordd i geisio gan bregethwr ddyfod y Sabbath canlynol i'w ardal i bregethu. Gollyngodd y wedd yn y fan, a chychwynodd i ffordd ar ei draed. Cafodd y pregethwr gartref, a chafodd ganddo, gan faint ei daerni, gydsynio t'i gais. Y Sabbath a ddaeth a'r pregethwr hefyd; ond nid oedd na chapel na chynulleidfa yn barod iddo. Eithr yr oedd rhyw nifer o bobl yn y llan; disgwyliwyd gan hyny am i'r bobl ddyfod allan, a safodd y pregethwr i fyny ar ryw dwmpath, yn agos i'r ffordd y dychwelent ar hyd-ddi i'w cartrefi i roddi gair o gyngor iddynt. Safodd llawer o honynt wrando, a dwysbigwyd rhai dan y bregeth hono, y rhai a fuont ffyddlon dros Dduw hyd ddiwedd eu hoes."[30] Wedi cael cyhoeddiad pregethwr i bregethu, byddai yn ddiwyd iawn yn myned o dŷ i dŷ i hysbysu i'w gymydogion yr amser y cedwid yr oedfa. Ac yr ydoedd mor gydwybodol ac uniawn yn ei amcan, fel na adawai lonydd i neb heb eu cymell i ddyfod i wrando. "Pan oedd pregeth i fod yn Mhen'rallt ryw dro, digwyddodd i Griffith gyfarfod â gweinidog y plwyf, a gofynodd iddo, yn niniweidrwydd ei galon, a ddeuai efe i wrando ar y gŵr a ddisgwylid? a chwanegai, 'Mai pregethwr da iawn ydoedd; gŵr tebyg i chwi, syr, ydyw—mae yn offeiriad.' Ond nacâd a gafodd oddiwrth y gŵr parchedig. Ryw dro ar ol hyn, cyfarfu â Griffith Ellis yn ffair Harlech; ac mewn anwydau drwg, cododd ei ffon ac a'i tarawodd, am ei wahodd i wrando y fath ysprêd. Ond er y sarhad hwn, Griffith Ellis oedd y parotaf o bawb i wneuthur cymwynas iddo."[31] Yr oedd Griffith Ellis, pa fodd bynag, yn y rhan hon o Sir Feirionydd, fel caniad y ceiliog yn dweyd fod y wawr ar dori. Y mae amryw grybwyllion yn cyfeirio at ei dŷ ef, sef y Tyddyndu, ac wedi hyny Pen'rallt, fel lle yr oedd eglwys wedi ei ffurfio, ac ychydig grefyddwyr yn ymgynull ar enw Crist, am lawer o flynyddoedd cyn bod yr un eglwys arall i'w chael yn y parthau hyn. "Yr oedd brawd a dwy chwaer yn arfer myned i wrando pregethu i Ben'rallt, gerllaw Harlech, sef i dŷ y Griffith Ellis y soniasom fwy nag unwaith am dano, ac wedi ymuno hefyd â'r gymdeithas eglwysig a ffurfiasid yno." Y personau cyntaf a ymunodd â chrefydd yn y Dyffryn oedd y brawd a'r ddwy chwaer hyn. Deuent yr holl ffordd o'r Dyffryn am mai yn Mhen'rallt eto y ceid yr unig gymdeithas eglwysig yn y cyffiniau. Wrth gymeryd i'r cyfrif amser tröedigaeth Griffith Ellis, ac nad oedd ond ieuanc ar y pryd, ynghyd a'r cyfeiriadau at ddechreuad yr achos mewn lleoedd eraill yn y cyffiniau, deuir i'r casgliad fod yr eglwys wedi ei ffurfio yn ei dŷ ef oddeutu y flwyddyn 1770, a hon oedd eglwys Harlech. Yr oedd yma bregethu achlysurol yn ddiameu cyn hyn. Oddeutu yr un adeg felly y dechreuwyd yma ag yn y Penrhyn, ond fe aeth y Penrhyn ymlaen yn fwy cyflym. Bedair blynedd ar ol hyn, sef yn 1774, yr ydym yn cael fod ysbryd erlidgar iawn yn meddianu preswylwyr Harlech, gan iddynt ymddwyn yn greulawn tuag at y fintai o grefyddwyr o Sir Gaernarfon a elai trwy y dref y flwyddyn hono, ar eu ffordd adref o Langeithio. "Tranoeth, ar ein taith tuag adref, fel yr oeddym yn dyfod trwy dref Harlech, cododd y trigolion fel un gŵr i'n hergydio â cherig, fel pe buasent yn tybio mai eu dyledswydd oedd ein llabyddio. Tarawsant rai yn eu penau nes oedd y gwaed yn llifo."[32] Cafodd un ergyd yn ei sawdl, fel y bu yn gloff am wythnosau. Yr oedd y Parch. Robert Jones, Rhoslan, yr hwn a ysgrifenai yr hanes, yn bresenol yn y fintai, ac yn un o'r rhai a dderbyniodd ergyd nes oedd y gwaed yn llifo. Trowyd Griffith Ellis o'r Tyddyndu am ei fod yn noddi y pregethwyr, ond arweiniodd Rhagluniaeth ef yn fuan i Ben'rallt yn yr un plwyf. Ac yma y bu cartref yr achos am 25 mlynedd, er fod y lle gryn bellder oddiwrth Harlech. Nid oes dim sicrwydd y cynhelid moddion yn y dref y tymor hwn, oddieithr yn achlysurol. Mae yr holl wybodaeth hefyd am yr achos yn ystod yr un tymor yn gymlethedig â theulu Pen'rallt, ac eithrio ryw ychydig iawn o bersonau.

Adeiladwyd y capel cyntaf yn Harlech yn y flwyddyn 1794. Dywedir fod careg a'r dyddiad hwn yn gerfiedig arni i'w gweled yn mur y capel, hyd yr adeg yr adeiladwyd ef yn ei ffurf bresenol, chwe' blynedd ar hugain yn ol. Nis gellir rhoddi bron ddim o hanes y capel cyntaf; yn unig hysbysir fod ei gynllun a'i ddiwyg allanol a mewnol yn dra chyntefig, a'i fod wedi ei adeiladu yn yr un llecyn a'r capel presenol. Yr oedd ymlyniad yr hen batriarch o Ben'rallt yn naturiol wrth ei gartref, ac yr ydoedd yn tynu mewn oedran pan adeiladwyd y capel yn y dref. Yr oedd yr achos, modd bynag, yn cael ei adnabod fel "Achos Harlech," o leiaf, chwe' blynedd cyn adeiladu y capel. Y mae gweithred gyfreithiol ar gael, wedi ei dyddio yn y flwyddyn 1788, trwy yr hon y cyflwynai Henry Owen, Penycerig, 60p. yn rhodd tuag at ddwyn traul yr achos yn Harlech. Yr Henry Owen hwn oedd y person y cyfeirir ato yn y benod flaenorol, sef yr hwn yr aeth gŵr Uwchglan i achwyn arno at ei feistr tir, ac i geisio cael ei ffarm oddiarno, oherwydd ei fod wedi myned i berthyn i'r Methodus. Mae ei feddrod i'w weled wrth ochr hen eglwys Llandanwg, ar fin y môr, ac yn gerfiedig ar y gareg, "Henry Owen, 1801." Efe oedd un o gymwynaswyr cyntaf y Methodistiaid yn y parthau hyn, ac yn ddiameu yn un o flaenoriaid cyntaf Harlech. Ymddiriedolwyr y weithred grybwylledig oeddynt bump o nifer, sef y Parchn. Thomas Charles a Dafydd Cadwaladr, Bala; Mri. Henry Roberts, Uwchlaw'r coed; Robert Jones, Harlech; ac Edward Griffith, Tyddyndu. Ceir hysbysrwydd yn llyfrau y Cyfarfod Misol fod y tir y safai y capel cyntaf arno wedi ei brynu yn Mehefin, 1823, am 60p. Y tebygrwydd ydyw mai i brynu y tir hwn yn feddiant yr aeth yr arian a nodir yn y weithred uchod, oblegid meddai yr ymddiriedolwyr hawl i ddefnyddio y llôg a chorff yr hawl fel y gwelent hwy yn oreu. Hysbysir hefyd am dir wedi ei ganiatau yn 1849 gan Robert Jones, a bod pedwar ar ddeg o ymddiriedolwyr wedi eu nodi y flwyddyn hono, ond ni roddir hysbysrwydd am ddim wedi ei dalu am dano.

Ymhen ychydig dros ddeugain mlynedd wedi adeiladu y tro cyntaf, sef oddeutu 1837, adeiladwyd y capel yr ail waith. Ac yn 1864, adeiladwyd ef y drydedd waith, i'r ffurf y mae ynddo yn bresenol. Fel hyn y dywed y penderfyniad a basiwyd yn Ebrill y flwyddyn hono,-"Cyflwynwyd cynlluniau y capel. newydd a fwriedir ei adeiladu yn Harlech gerbron y cyfarfod, ac amlygwyd cymeradwyaeth o honynt. Barnent y byddai y draul tua 350p., ac yr oedd yr addewidion eisoes yn cyraedd tros 150p." Yn 1879, rhoddwyd oriel ar y capel. Yn Adroddiad ar Feddianau y Cyfundeb am 1882 ceir yr hysbysrwydd canlynol. Y nifer all eistedd yn y capel, 365; treuliwyd ar adeiladu ac adgyweirio o ddechreu 1873 i ddiwedd 1880, 420p.; swm y ddyled yn nechreu 1881, 820p.; gwerth y capel a'r eiddo perthynol iddo, 1200p. Y mae, neu yr oedd amryw o dai yn perthyn i'r capel hwn. Y ddyled ar ddiwedd 1889 yw 575p.

Y mae llai o ffeithiau hanesyddol yn perthyn i'r eglwys hon nag odid i un o'r hen eglwysi. Er iddi gael y fantais i gychwyn o flaen holl eglwysi Gorllewin Meirionydd, oddieithr y Penrhyn a Maentwrog, ni bu ei chynydd yn gyfatebol i'w breintiau boreuol. Ymddengys fod dau reswm, o leiaf, i'w roddi dros hyn. Yn un peth, fe'i cadwyd yn rhy hir yn Mhen'rallt, lle megis o'r neilldu oddiwrth y boblogaeth, oddeutu dwy filldir oddiwrth dref Harlech. Y rheswm amlwg arall ydyw, ddarfod i'r Bedyddwyr wneuthur cryn gynydd yn y dref yn niwedd y ganrif ddiweddaf a dechreu yr un bresenol. Oddeutu yr un adeg, mae'n wir, y cyfodwyd y capel cyntaf ganddynt hwy ag y cyfodwyd capel cyntaf y Methodistiaid. Ond cafodd y Bedyddwyr ŵr galluog a dysgedig yn weinidog, yn mherson y Parch. J. R. Jones, o Ramoth, yr hwn a ymsefydlodd yn eu plith tua'r flwyddyn 1790. Gwnaeth llafur gŵr o'i fath ef ei ôl ar y wlad; crynhödd y bobl o'i amgylch, fel y gwenyn yn crynhoi o amgylch y cwch. Tra nad oedd gan y Methodistiaid yr adeg hono yr un gweinidog na phregethwr i lafurio yn sefydlog yn y ihan yma o'r wlad.

Y crybwylliad cyntaf am yr Ysgol Sabbothol yn y dref hon ydyw, iddi gael ei dechreu o gylch y flwyddyn 1792; ond dywedir y byddai yr hen batriarch crybwylledig o Ben'rallt yn arfer myned ar hyd a lled yr ardal i ddysgu adnodau i'r trigolion, flynyddau cyn rhoddi cychwyniad i'r sefydliad yn Nghymru. Robert Jones, yr hwn oedd frawd i'r adnabyddus John Jones, o'r Gwynfryn, oedd yn cymeryd gofal y bobl mewn oed, ar gychwyniad yr ysgol, a Morris Griffith, Llwynhwleyn, oedd y cyntaf i ddysgu y plant; er y dywedir nas gallai yr olaf ddarllen gair ei hun, eto bu o wasanaeth mawr i'r sefydliad. Mr. Rees Roberts, yr hwn a roddodd grynhodeb o hanes yr ysgolion yn Ngwyl y Can'mlwyddiant, 1885, a ddywed mai un anfantais fawr i gynydd yr ysgol yn Harlech yn mlynyddoedd ei mebyd oedd, fod y Bedyddwyr Sandimanaidd yn blaid gref yn y dref, a barnent hwy, yn gydwybodol mae'n ddiameu, fod ymgasglu ynghyd ar y Sabbath i ddysgu darllen yn sarhad ar y pedwerydd gorchymyn, ac yn groes i sancteiddrwydd dydd yr Arglwydd. Ond daeth y brodyr o'r enwad hwnw yn raddol i weled mai sefydliad daionus a buddiol ydyw yr Ysgol Sabbothol, a bellach er's blynyddoedd, rhoddant hwythau, fel yr enwadau eraill, eu gwyneb o'i phlaid.

Ceir cipolwg ar agwedd yr achos crefyddol yma o gylch y flwyddyn 1840, mewn cysylltiad â gŵr a ymfudodd o'r ardal i America, sef y Parch. David Pugh, Rock Hill, Wisconsin. Ganwyd ef mewn tyddyn gerllaw Harlech yn 1821. Yr oedd ei rieni yn grefyddol, a'i fam yn cael ei rhestru ymhlith y merched duwiolaf. Bu ef ar fedr myned i Athrofa y Bala, ond oherwydd ei fod wedi priodi, ymfudodd i America yn 1846. Mr. T. Lloyd Wiliams, Racine, a rydd yr hanes canlynol: "Yn nyddiau fy ieuenctid, yn fy ardal enedigol, sef Dyffryn Ardudwy, yr oedd enw David Pugh, ieuengaf, Morfa, Harlech, yn enw adnabyddus iawn, am y rheswm fod ei weithgarwch ymhlaid cerddoriaeth a'r Ysgol Sabbothol yn cael ei deimlo drwy y rhandir hono o Sir Feirionydd, sef o afon y Traeth Bach i afon y Mawddwy. Byddai ef ar y blaen. gyda'r holl symudiadau daionus hyn, mewn areithio a hyrwyddo eu llwyddiant. Yn moreu oes David Pugh gwan oedd yr achos, ac ychydig oedd nifer y Methodistiaid yn Harlech, am fod y Bedyddwyr Ysgotaidd, neu fel eu gelwid hwy yno, Bedyddwyr Jones Ramoth,' wedi meddianu bron yr holl boblogaeth; ond bu ef yn offerynol i sefydlu un neu ddwy o Ysgolion Sabbothol mewn lleoedd anghysbell, a gwyr pawb o'i gydnabod pa mor ddebeuig a ffyddlawn y bu dros ei oes gyda y rhan hon o waith yr Arglwydd." Bu y gŵr hwn yn ddiacon yn gyntaf yn America, ac wedi hyny daeth yn bregethwr. Bu farw yn ddiweddar mewn cymeradwyaeth mawr.

Mae y gweddill o hanes yr eglwys, gan mwyaf, yn gysylltiedig â'r personau a fu yn swyddogion ynddi. Griffith Ellis, yr hwn y soniwyd am ei enw amryw weithiau eisoes, sydd yn cymeryd y blaen ar ben y rhestr. Nid yn unig fe fu ef yn offerynol i blanu yr eglwys, ond bu hefyd yn swcwr ac yn nerth iddi am hir amser yn ei mabandod. Prin y cyferfydd un â neb o blith hen grefyddwyr ein gwlad a ddangosodd gymaint o ysbryd cenhadol, a gwir ymroddiad didwyll ac unplyg er iachawdwriaeth ei gymydogion, ag a wnaeth y gŵr hwn. Arferai godi yn foreu ar y Sabbothau, a myned allan at dai ei gymydogion i'w rhybuddio o'u perygl ysbrydol, ac i'w gwahodd i ddyfod i foddion gras ac i ddarllen y Beibl. Rhanai adnodau o dŷ i dŷ, gan anog y teuluoedd i'w dysgu. Ymddiddanai â phawb ymron am yr angenrheidrwydd o gael grym crefydd; ac unwaith anturiodd roddi cyngor i offeiriad y plwyf, ond costiodd hyn gryn ofid iddo, gan i'r gŵr eglwysig roddi dyrnod iddo yn ochr ei ben, am ei ryfyg yn meiddio ei ddysgu ef. Yr oedd Catrin ei wraig yn wrthwynebol iawn i'w gŵr ar y dechreu. "Mi a'i clywais yn dweyd," ebe un a'i hadwaenai, "y byddai weithiau yn cael ei lenwi â braw, rhag i'r Arglwydd ei tharo yn farw oherwydd ei gelyniaeth." Ond daeth hi cyn hir i gydweled ac i gydweithredu â'i gŵr, ac i fod yn ymgeledd i bregethwyr ar eu dyfodiad i'r gymydogaeth. Dengys yr hanesyn hynod a ganlyn gydwybodolrwydd a didwylledd Griffith Ellis:—

"Yr oedd wedi ofni, wrth weled fod Mr. Charles yn tewychu ac yn myned yn fwy corffol, nad oedd yn arfer gwyliadwriaeth ddigonol arno ei hun mewn bwyta ac yfed; ac o ganlyniad y byddai yn debyg o golli ei ddefnyddioldeb. Daeth yr adnod 1 Cor. ix. 27, yn rymus i'w gof, Ond yr wyf fi yn cosbi fy nghorff ac yn ei ddwyn yn gaeth, rhag i mi mewn un modd, wedi i mi bregethu i eraill, fod fy hun yn anghymeradwy.' Tybiodd yn ddilai mai cenadwri ydoedd cynwysiad yr adnod a roddid iddo i'w thraethu wrth Mr. Charles. Penderfynodd ufuddhau i'r hyn a dybiai yn alwad arno oddiwrth Dduw, a chychwynodd i'w daith. Cyrhaeddodd y Bala, ugain milldir o ffordd o leiaf, a chafodd y gŵr parchedig yn ei dŷ; ond erbyn cyraedd yno, llaesodd ei feddwl gymaint fel nad oedd ffrwyth ynddo i adrodd ei neges. Ar ol swper, aeth i orphwys am y nos, gan lawn fwriadu traddodi ei genadwri yn y boreu. Ond erbyn y boreu, yr oedd yn wanach nag o'r blaen; ac nid oedd dim i'w wneyd ond dychwelyd adref heb gwblhau ei neges. Cychwynodd tuag adref, ond pan oedd tua haner y ffordd, aeth mor anesmwyth arno, fel un a fuasai anffyddlawn i'r ymddiried a roddasid ynddo, fel na allai fyned yn mhellach. Dychwelodd i'r Bala drachefn, a thraethodd ei genadwri. Derbyniodd Mr. Charles hi gyda hynawsedd, a diolchodd i'r hen ŵr yn wresog a diffuant am ei ffyddlondeb."—Methodistiaeth Cymru, I. 527.

Yr oedd G. Ellis yn hen wr pan y gwnaeth y daith hon i'r Bala. Bu farw, fel y dergys ei gareg fedd yn mynwent Llanfair, Mawrth 30, 1808, yn 74 oed.

Edward Griffith, o'r Tyddyndu, oedd ŵr blaenllaw gyda'r achos yn Harlech y tymor cyntaf, ac yn ol pob tebyg yn un o flaenoriaid yr eglwys. Bu farw Medi 16, 1799, yn 44 oed. Dau eraill a enwir fel blaenoriaid yr un amser ag ef, neu yn fuan ar ei oeddynt Morris Griffith, Llwynhwleyn, a Morris Jones, Fronheulog. Robert Jones, Tŷ Capel, hefyd, yr hwn y crybwyllwyd am dano fel cychwynydd yr Ysgol Sul, oedd yn flaenor y tymor hwn.

EVAN THOMAS, PEN'RALLT

Mab-yn-nghyfraith ydoedd ef i Griffith Ellis; cyrhaeddodd yntau hefyd enwogrwydd fel blaenor. Galwyd ef i'r swydd gan eglwys Harlech, yn y flwyddyn 1826, ac ar ei ysgwyddau ef y gorphwysai bron holl waith yr eglwys am ysbaid o ugain mlynedd. Bu farw Ionawr 18, 1845, yn 75 mlwydd oed. Y Parch. Richard Jones, y Wern, a ddywedai wrth ymddiddan âg ef mewn Cyfarfod Misol yn Harlech,-"Byddai yn dda i'r eglwysi, ie, gwyn eu byd, pe byddai holl flaenoriaid Cymru yn debyg iddo. Er ei fod yn ymddangos yn farwaidd a digalon, er hyny, pa bryd bynag y delwyf fi yma, yma y bydd yntau fel y cloc. Gwelwyd llawer blaenor yn meddu dawn ffraeth, a'r achos o dan warth, ond am Evan Thomas, gwan ac ofnus oedd ddeng mlynedd yn ol, a bu llawer cyngrair yn uffern am ei gael i lawr, eto sefyll y mae heddyw."

JOHN LLOYD, ERW-WEN.

Amaethwr cyfrifol, a blaenor o radd dda yn ei amser. Cafodd argyhoeddiad pur amlwg yn amser y Diwygiad Dirwestol, ac ymunodd â chrefydd y pryd hwnw. Etholwyd ef yn flaenor, a daeth yn aelod o'r Cyfarfod Misol yn 1840. Bu farw Tachwedd 16, 1858, yn 68 mlwydd oed. Yr oedd yn ŵr o gyrhaeddiadau pur eang, yn feddianol ar ddawn helaeth, ac wedi trysori i'w gof lawer o hanesyddiaeth gwladol ac Ysgrythyrol. Safai yn uchel yn ei ardal fel gwladwr, ac yr oedd ar y blaen gyda'r Ysgol Sabbothol, ac fel blaenor eglwysig.

HARRY WILLIAM.

Genedigol oedd ef o Sir Gaernarfon. Bu yn gwasanaethu gyda'r Parch. Richard Jones, o'r Wern. Yr oedd yn Gristion ac yn dduwinydd da. Yr oedd yn gyd-flaenor â John Lloyd, Erw-wen.

EDWARD OWEN A GRIFFITH LEWIS.

Derbyniwyd y ddau yn aelodau o'r Cyfarfod Misol, Rhagfyr, 1845. "Holwyd hwy am eu profiadau, eu hegwyddorion, ynghyd a'u teimladau gyda golwg ar eu galwad i'r swydd. Cafwyd hwy yn glir am eu colledigaeth, ond yn ofnus am eu hawl yn Nghrist, a'r iachawdwriaeth sydd ynddo." Yr oedd G. Lewis yn ŵr wedi cael gras mewn modd amlwg iawn. Ymadawodd â'r byd yn y flwyddyn 1852. Bu pwysau y gwaith ar Edward Owen am flynyddoedd lawer. Yr oedd yn ŵr didwyll a chywir, a gwnaeth ei ran yn ffyddlon gyd a theyrnas yr Arglwydd Iesu. Symudodd i ardal y Gwynfryn, a neillduwyd ef yn flaenor yno. Bu farw Ebrill 24, 1878, yn 79 oed.

Yn Nghyfarfod Misol Trawsfynydd, Medi 1861, derbyniwyd pedwar yn flaenoriaid yn Harlech,-Mri. Rees Roberts, Owen Roberts, John Lloyd, a H. H. Hughes. Mai, 1867, Mr. Ellis Lloyd, yr hwn sydd yn awr yn flaenor yn Llanfair. Bu Owen Hughes, Morfa, ac yn ddiweddarach, Hugh Owen, Lasynys, yn gwasanaethu y swydd yma-symudodd y ddau o'r ardal. Mawrth, 1873, derbyniwyd William Williams a Robert Davies, a Mawrth, ymhen y flwyddyn, Mr. Edw. Griffith. Bu W. Williams farw yn nechreu 1877.

Y blaenoriaid yn bresenol ydynt-Mri. Daniel Jones, Edward Griffith, Richard Davies, Robert Davies, William Humphreys.

Bu y pregethwr mwyn, y Parch. Daniel Evans, yn byw yn Harlech am o gylch 25 mlynedd. Daeth i drigianu i Benycerig trwy ei briodas. Bu yn cadw ysgol ddyddiol yn y dref, a gwnaeth lawer o ddaioni trwy hyny, yn gystal ag i achos crefydd yn gyffredinol. Treuliodd yr ugain mlynedd olaf o'i oes yn Mhenrhyndeudraeth. Yn awr y mae y Parch. Richard Evans yn gweinidogaethu yma, trwy alwad rheolaidd yr eglwys, er y flwyddyn 1871.

Y daith Sabbath yn 1816 oedd, "Talsarnau, Harlech, a'r Gwynfryn." Bu wedi hyny yn hir gyda Thalsarnau yn unig. Mae yn awr, er y flwyddyn 1866, yn daith gyda Llanfair. Oherwydd yr anfanteision a grybwyllwyd yn flaenorol, araf fu cynydd yr achos yn Harlech. Mewn Cyfarfod Misol a gynhaliwyd yma, yn Rhagfyr 1845, dywedir "mai tra gwywedig oedd yr olwg ar yr eglwys, ac mai golwg galed ac anystyriol oedd ar y gwrandawyr a ymgynullent yn y lle." Ond yn awr y mae gwedd fwy siriol ar bethau, a chynydd graddol wedi bod er amser diwygiad 1859. Cangen wedi ymneillduo oddiyma ydyw yr eglwys yn Llanfair. Cynhaliwyd yma un Gymdeithasfa Chwarterol, sef yn mis Ebrill, 1882. Pregethwyd ar hyd y dydd olaf yn y Castell. Swm holl dreuliadau ei dygiad ymlaen oedd 82p. 15s. 10c. Nifer presenol y gwrandawyr, 360; cymunwyr, 138; Ysgol Sul, 219.

ABERMAW

Yr hanes credadwy am ddechreuad crefydd yn Abermaw a roddwyd trwy enau yr Hybarch John Evans, o'r Bala, wrth yr enwog Charles o'r Bala, ac a ymddangosodd yn y Drysorfa Ysbrydol, Rhagfyr, 1810. Y mae fel y canlyn:—"Hysbysais i chwi am hanes dechreuad crefydd yn Nolgellau o'r blaen; rhoddaf yn awr ychydig o hanes am Abermaw. Ynghylch y flwyddyn A. D. 1767, daeth un Henry Richard, gwr o Sir Benfro, i gadw Ysgol Rad Mrs. Bevan, fel y galwent hi, i blwyf Llanaber; ond ni chafodd aros yno ond ychydig o amser oherwydd ei grefydd, ac y bernid ef yn tueddu at Fethodistiaeth. Y rhai cyntaf yr ymwelodd yr Arglwydd â'u meddwl yn Abermaw oedd teulu Robert Griffith. Yn gyntaf â'i wraig, wedi hyny â'u mab-Hugh Griffith, ac â'i dad Robert Griffith, hwn oedd ŵr siriol, tirion, ac i bob tebygolrwydd yn wr duwiol cyn ei farw, yr hyn a ddigwyddodd A. D. 1775. Yr oedd iddynt ferch fechan hefyd, â rhyw arwyddion neillduol o dduwioldeb ynddi yn ei mabandod; bu farw yn naw oed (A. D. 1781) a'i meddwl yn gysurus gan lawenhau yn yr Arglwydd. Eu mab Hugh a fu yn yr ysgol gyda Henry Richard dros yr ychydig amser y goddefwyd ef yno, a glynodd ei gynghorion dwys a'r addysgiadau addas a gafodd, yn hynod yn ei feddwl, ac ymddangosodd arwyddion neillduol o dduwioldeb ynddo tra y bu byw. Er mai bachgenyn ieuanc oedd, eto yn ei symlrwydd, ei ddeall, ei brofiad, a'i ofal am achos yr efengyl, yr oedd yn hynafgwr. Yr oedd yn llafurus iawn. am gael pregethu yr efengyl i'r lle; teithiai yn aml lawer o filldiroedd, i Langeitho neu ryw le arall, i gymell pregethwyr i ddyfod yno. Yr oedd ei holl ymddygiad yn syml ac yn sobr, a'i ymddiddanion yn ddifrifol, ac am bethau ysbrydol. Byddai yn cadw cyfarfodydd i weddio gyda'r ychydig fyddai yno yn caru y cyfryw waith, yn ymddiddan â hwynt am achos eu heneidiau, ac yn eu cynghori yn ddwys ac yn ddifrifol, yn ol y doniau bychain oedd ganddo. Ei ffyddlondeb a'i ddifrifwch oedd fawr, ac yn esiampl hynod i eraill i'w dilyn. * * Achos yr Arglwydd oedd gofal penaf y bachgenyn hwn yn ei holl fywyd; felly yr oedd hefyd ar ei wely angau. Yr oedd yn ei ddyddiau diweddaf yn trefnu gyda'i fam, pa fodd oedd oreu i ddwyn yr achos ymlaen, a gadawodd yr hyn oedd ganddo o arian (yr oedd ganddo ychydig bunau) ag ewyllys arnynt, tuag at adeiladu capel yn y dref; yr hyn a wnaed ychydig flynyddoedd wedi iddo farw. Bu farw A. D. 1776, yn y bymthegfed flwyddyn o'i oed. Fel hyn, yr oedd y dechreuad yno, fel yn llawer man arall, yn fychan iawn, a'r offerynau yn wael, a'r gwrthwynebiadau yn fawrion; eto yr achos, er y pethau hyn oll, yn llwyddo.

SCRUTATOR (Mr. Charles): A fu llawer o wrthwynebiad i bregethu yr efengyl yn Abermaw?

SENEX (John Evans): Do; bu yno gryn wrthwynebiad, ond dim llawer o erlid. Cafodd un llefarwr ei rwystro i bregethu, yr wyf yn meddwl, trwy derfysg a chythrwfl.

SCRUTATOR (Mr. Charles): Pwy fu yno yn pregethu gyntaf, os gwyddoch?

SENEX (John Evans): Nid wyf yn cofio yn neillduol o fanwl am hyny. Byddai brodyr Mrs. Griffith, tri o offeiriaid duwiol, yn dyfod yno ar amserau; tra yr arosent, byddai gweddi deuluaidd yn cael ei chadw hwyr a boreu; a byddai amryw o'r cymydogion yn dyfod yno i wrando y gair yn cael ei ddarllen, a'i eglurhau, ac i ymuno mewn gweddi. Am eu bod yn wyr eglwysig, ac o ddygiad rheolaidd i fyny, hawsach fyddai gan bawb ddyfod i wrando arnynt hwy nag ar y gwŷr diurddau. Byddai Mr. Benjamin Evans, gweinidog yr Ymneillduwyr yn Llanuwchllyn, yn dyfod i bregethu yn lled agos i'r dref yn aml yn y dyddiau hyny. Byddai brodyr crefyddol o Sir Gaernarfon, ar eu teithiau, yn l'etya yno weithiau, ac yn arfer darllen a gweddio yn y tai lle y byddent yn cysgu. Bu hyny yn foddion bendithiol, ac ydynt yn anogaethol i bawb ddilyn yr un esiampl lle bynag y byddont yn digwydd bod. William Evans, o'r Fedw Arian; Mr. John Harries, o'r Deheudir; John Pierce, a Robert Jones, o Roslan, y pryd hwnw oeddynt gyda y rhai cyntaf a fu ynpregethu yno. Hyd ag yr wyf yn cofio, bu William Evans a Robert Jones mor ffyddlawn a llafurus a neb yn eu hymdrechion i bregethu mewn lleoedd tywyll annuwiol ymhen uchaf y sir hon. Gwyr oeddynt wedi eu cynysgaeddu â doniau derbyniol gan y wlad i'w gwrando, a thra defnyddiol er lleshad i eneidiau dynion tywyll ac anystyriol. Fel hyn, o fesur ychydig ac ychydig, yr aeth y gwaith rhagddo yn raddol, heb ddim tywalltiadau neillduol-fel gwynt nerthol yn rhuthro-nac yn Nolgellau na'r Abermaw."

Cafwyd yr hanes uchod o'r ffynhonell oreu, oddiwrth y ddau ŵr mwyaf hyddysg yn hanes crefydd Sir Feirionydd hyd ddiwedd y ganrif ddiweddaf, a'r dong mlynedd cyntaf o'r ganrif bresenol. Ac mae pobpeth a ddiferodd dros wefusau Mr. Charles, a John Evans, o': Bala, mewn ystyr hanesyddol, yn werth ei groniclo. Mor fychan oedd y dechreuad yn Abermaw! Ac eto perthynai yr un a fu yn foddion yn llaw rhagluniaeth i ddechreu yr achos Methodistaidd yma i gysylltiadau enwog. Tad oedd yr Henry Richard a fu, dros dymor byr, yn cadw ysgol rad Mrs. Bevan, i'r Parchn. Ebenezer a Thomas Richards, a thaid i'r apostol heddwch, y diweddar Henry Richard, A.S. Ysgolfeistr gwir grefyddol oedd hwn, fel llawer un arall yn yr oes hono. Dywedir y byddai y fath dywalltiadau weithiau gyda'i weddiau yn yr ysgol dros y plant, "nes y byddai pob un o honynt yn gwaeddi, ac yn wylo fel cawodydd o wlaw." Amlwg ydyw i ddyfodiad y gŵr hwn i blwyf Llanaber ateb diben rhagorol, gan i'r had a syrthiodd i'r ddaear mewn canlyniad i'w lafur ddwyn ffrwyth toreithiog. Y teulu y dywedir i grefydd gyffwrdd â'u meddwl gyntaf ydoedd teulu un Robert Griffith: ei wraig a enillwyd gyntaf, wedi hyny eu mab Hugh Griffith, a thrachefn Robert Griffith ei hun. Glynodd y cynghorion a gafodd y mab, tra yn yr ysgol gyda Henry Richard, gymaint yn ei feddwl nes bod yn foddion i ddwyn pethau rhyfedd oddiamgylch. Nid oedd ond bachgen bychan chwech oed ar y pryd, ac ni fu byw ond naw mlynedd ar ol hyn; ond yn yr ysbaid hwn o amser ymddangosodd arwyddion amlwg o dduwioldeb ynddo. Gwisgodd ei dduwioldeb ffurf o weithgarwch anghyffredin ; elai cyn belled a Llangeitho i chwilio am bregethwr i ddyfod i Abermaw; cynlluniai gyda'i fam i ddwyn yr achos ymlaen; gadawodd arian yn ei ewyllys i adeiladu capel. Ac eto yr oedd yn marw yn bymtheg oed! Buasai yr hanes yn anghredadwy onibai mai John Evans, o'r Bala, a'i hadroddodd, yr hwn yn ddiameu oedd yn ei adnabod yn bersonol yn dda, ac yn gwybod yr holl hanes cysylltiedig âg ef.

Crybwyllir yn yr hanes hwn a ddyry John Evans, o'r Bala, i Mr. Charles, y byddai y Parch. Benjamin Evans, gweinidog yr Ymneillduwyr yn Llanuwchllyn, yn dyfod yn aml i bregethu yn agos i'r Abermaw y dyddiau hyny. Yn ol pob hanes a geir, y gŵr hwn oedd yr Ymneillduwr cyntaf a bregethodd, o leiaf gyda dim cysondeb, yn mhlwyf Llanaber. Fe gofia y rhai a ddarllenodd y gyfrol gyntaf o'r hanes hwn, ddarfod iddo ef drwyddedu Cegin Maesafallen i bregethu yr efengyl ynddi. Mae yr amser y bu ef yn dal y drwydded hon yn ateb yn hollol i'r adeg y bu Henry Richard yn cadw ysgol yn y rhan arall o'r plwyf, sef rhwng 1770 a 1777: Gŵr o Sir Benfro hefyd oedd Cadben Dedwydd, preswylydd a pherchenog Maesafallen, yntau yn Ymneillduwr, ac o dueddiad crefyddol. Diau i ddyfodiad yr efengyl i'r ffermdy neillduedig hwn fod yn foddion i enyn rhyw gymaint ar y tân yn Abermaw. Cadarnheir hefyd, trwy grybwylliad byr, yn yr hanes a ddyfynwyd, un ffaith hanesyddol arall, sef y byddai brodyr crefyddol o Sir Gaernarfon ar eu teithiau yn lletya yn y dref weithiau, ac yn arfer darllen a gweddio yn y tai lle y byddent yn cysgu. Brodyr crefyddol ar eu teithiau yn ol a blaen i Langeitho oedd y. rhai y cyfeirir atynt. Ychydig sydd o hanes y cyfryw finteioedd yn tramwy trwy y parthau hyn heblaw y crybwylliad uchod, ynghyd a'r hanes dyddorol a ddyry Robert Jones, Rhoslan, am y fintai o 45 yn myned trwodd yn y flwyddyn 1774, pryd yr aeth y tŷ y rhwystrwyd iddynt gael llety ynddo ar dân [Cyf. I., tudal. 39]. Trwy ysgolfeistr ac un o'i ysgolheigion, fel y gwelir, y dechreuodd crefydd gyda'r Methodistiaid yn Abermaw, ac yn raddol, trwy gasglu marworyn at farworyn, aeth yr achos yn ei flaen. Cafodd y crefyddwyr cyntaf lawer o rwystrau; ond ni bu yma erlid mor ffyrnig ag a fu yn Nolgellau, na thywalltiadau grymus nerthol megis ag yn y Bala, a manau eraill.

Un hanesyn yn unig o natur gyffrous am erledigaeth, a gymerodd le yn y dref hon, sydd wedi cyraedd i lawr i'n hamser ni. Trwy gyfrwysdra a doethineb, modd bynag, aeth yr erlid heibio heb wneuthur nemawr niwed y tro hwnw. Yr oedd pregethwr, a thybir mai Mr. Benjamin Evans ydoedd, wedi addaw pregethu wrth oleuni dydd, ar y gareg-farch (horse-block), yn ymyl drws y Shopfawr, ac yr oedd son am y bregeth wedi ymdaenu ar led, a'r teulu erledigaethus wedi parotoi i wneuthur ymosodiad penderfynol ar y pregethwr. Ofnid gan y crefyddwyr y byddai i'r moddion gael eu dyrysu, ac y cai y pregethwr ei niweidio. Ond cyn i amser yr odfa ddyfod, galwodd Mrs. Griffiths, gwraig y Siop, ar un o'r meddwon a'r ymladdwyr penaf yn y dref, a gwnaeth gytundeb âg ef i gadw chwareu teg i'r pregethwr. Addawodd ddiod iddo cyn dechreu ac ar ol y cyfarfod os gwnai hyn, ac i eraill hefyd o gyffelyb nerth corfforol. Derbyniwyd y telerau yn union gan yr ymladdwyr cryfion. Diwrnod yr odfa a ddaeth, ond erbyn i'r pregethwr ddyfod allan o'r tŷ, daeth Cadben Dedwydd, preswylydd a pherchenog Maesafallen allan, ac â llais clir, nerthol, gwaeddodd, "Gosteg, fy anwyl gymydogion, diwrnod pwysig iawn yw hwn yn y Bermo, fe fydd trin a chyfrif am bobpeth yma heddyw yn y farn fawr, pan fyddo'r meirw yn dyfod allan yn fyw o'u beddau, a'r ddaear yn wenfflam bob modfedd o honi, ac yn awr y mae gwas yr Arglwydd yn myned i ddweyd wrthym ni pa fodd i fod yn ddiogel yn y diwrnod ofnadwy hwnw.[33] Trwy y moddion hyn o eiddo Mrs. Griffith a'r Cadben Dedwydd, cafodd y pregethwr lonydd i fyned yn ei flaen.

Mae y darllenydd wedi sylwi mai blaenffrwyth yr eglwys hon oedd teulu y Siop fawr-Robert Griffith, ei wraig, a'u mab. Bu y tad farw yn y flwyddyn 1775, a'r mab y flwyddyn ganlynol, a chan y dywedir fod y mab "yn ei ddyddiau diweddaf yn trefnu gyda'i fam pa fodd oedd oreu i ddwyn yr achos ymlaen," gallwn gasglu fod yr achos mewn rhyw ffurf wedi dechreu y flwyddyn uchod. Disgynodd y baich o ddwyn yr achos ymlaen bellach ar ysgwyddau Mrs. Griffith, yr hon oedd yn weddw, a mawr y nodded a fu hi i achos y Cyfryngwr yn y dref. Yr oedd hi yn meddu crefydd o radd uchel, ac yr oedd yn wraig ddoeth a haelionus. Yr oedd hefyd wedi troi mewn awyrgylch grefyddol-ei gŵr, a'i mab, a'i merch, yn grefyddol y pryd hwn, ac yr oedd iddi dri o frodyr duwiol yn weinidogion yn yr Eglwys Sefydledig, y rhai a arferent pan yn ymweled â hi gadw y weddi deuluaidd hwyr a boreu. Ymunai y cymydogion hefyd yn y ddyledswydd deuluaidd. Y symudiad nesaf a gawn yn yr hanes ydyw adeiladu capel. Pa bryd y gwnaed hyn? Effeithiodd cynlluniau rhyfedd y bachgen ieuanc yn ddwys ar feddwl ei fam, a phenderfynodd hi roddi ei ddymuniad mewn gweithrediad. Bu ef farw 1776, a dywedir i'r capel gael ei adeiladu ymhen ychydig flynyddoedd wedi hyny. Adeiladwyd capel Abermaw felly o gylch 1780, ac efe oedd yr ail gapel yn Ngorllewin Meirionydd. Adeiladwyd ef ar dir oedd yn eiddo i Mrs. Griffith, Siop fawr, a'i wyneb tua'r môr, ar fin y lle y mae y rheilffordd yn awr yn myned trwyddo. Mr. Robert Evans, o Drefriw, yr hwn oedd yn byw ar y pryd heb fod nepell o'r Abermaw, mewn nodiadau a ysgrifenwyd ganddo, ac a anfonwyd i'w cyhoeddi yn Methodistiaeth Cymru, a ddywed fel y canlyn am yr amgylchiad, "Pan ddaeth yr amser i adeiladu y capel, daeth y bwriad i glustiau Mr. Wynne, Maesneuadd (gŵr bonheddig yn byw yn y gymydogaeth), a theimlodd yn dramgwyddedig iawn; dywedai wrth Mrs. Griffith os elid ymlaen a'r capel, y collai hi holl gwsmeriaeth Maesneuadd. Yr oedd hyn yn brofedigaeth chwerw i'r wraig weddw, am fod yr hyn oll â äi at wasanaeth y tŷ yn cael ei brynu yn ei siop hi. Ond yr oedd wedi eistedd i lawr a bwrw y draul, a hi a'i hatebodd yn bwyllog ac arafaidd, trwy ddiolch iddo yn fawr am yr holl sirioldeb a gawsai oddiar law y teulu, a dweyd mor ddrwg oedd ganddi golli ei gwsmeriaeth; eto fod yn well ganddi golli hyd yn nod hyny, na cholli ei henaid; ac mai myned ymlaen fyddai raid i'r capel. Ond gofalodd rhagluniaeth am y wraig gydwybodol hon, fel na chollodd hi ddim trwy y tro. Parhaodd y teulu i ddelio â hi yr un fath wedi adeiladu y capel ag o'r blaen. Byddai rhai o'r boneddigesau yno yn dra mynych, ac os digwyddai iddynt ddyfod oddeutu amser y weddi deuluaidd, ni wnai Mrs. Griffith ddim gwahaniaeth, ond elai ymlaen fel arferol. Yr oedd yn olwg tra nodedig gweled y boneddigesau yn foesgar benlinio gyda'r teulu, i wrando ar y wraig dduwiol yn gweddio." Gwraig rinweddol y Siop fawr fu a'r llaw benaf mewn adeiladu capel cyntaf Abermaw. Ar ei thir hi y cyfodwyd ef; ei harian hi, ynghyd ag arian a adawyd trwy ewyllys ei mab ieuanc oedd y rhai cyntaf a fwriwyd i'r Drysorfa tuag at ddwyn y draul. O ba le y caed y gweddill nid yw hysbys. Cyfranwyd y symiau canlynol gan y Gymdeithasfa,—"Cymdeithasfa y Bala, Mehefin, 1785, talwyd i Abermaw 10p." "Cymdeithasfa Llanrwst, Ebrill 1786, talwyd i Abermaw 10p." "Cymdeithasfa y Bala, Mehefin 17, 1789, talwyd i glirio capel yr Abermaw 13p. 13s." Dichon i ychwaneg o symiau gael eu cyfranu o ryw ffynhonellau eraill, y tuallan i'r dref; modd bynag, cliriwyd y capel y flwyddyn grybwyll edig, ac hyd yma y cyrhaedda ei hanes.

PARCH. JOHN ELLIS, ABERMAW.

Yr oedd ef yn oesi yn agos i ddechreuad yr achos yn y dref, gan hyny daw crybwyllion am dano yn fwy rheolaidd yn awr. Ganwyd ef yn mhlwyf Ysbytty, a chafodd ei ddwyn i fyny yn mhentref Capel Garmon, mewn tlodi, oferedd a llygredigaeth, heb neb yn gofalu am dano o ran mater ei enaid, mwy na phe buasai heb un enaid. Pan o gylch deuddeg oed cafodd ychydig ysgol. Wedi hyny dechreuodd ddysgu erefft cylchwr (cooper), a gorphenodd ei dysgu yn Llanrwst. Trwy wrando yno ar un Robert Evans yn pregethu, effeithiodd y bregeth arno nes ei dueddu i fyned i wrando yr efengyl drachefn. Symudodd oddiyno i Ffestiniog i weithio, a bu yn y lle hwn yn dilyn pob oferedd, gan roddi rhaff i'w nwydau pechadurus. Aeth i wrando yr efengyl gydag un o'i gydweithwyr, ac ymwelodd yr Arglwydd âg ef drachefn mewn modd neillduol, trwy ei sobri a'i ddifrifoli yn fawr. Mewn canlyniad i hyn ymddygodd ei dad yn ddigllawn tuag ato. Oherwydd creulondeb ac ymddygiad chwerw ei dad, gadawodd Ffestiniog heb wybod i ba le yr elai. Arweiniwyd ef gan ragluniaeth i Lanbrynmair, lle yr arhosodd dros saith mlynedd yn gweithio ei grefft fel cylchwr. Ymhen y mis wedi cyraedd yno ymunodd â chrefydd gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Yr oedd yr amser hwn mewn trallod mawr ynghylch mater ei enaid, ac wrth wrando ar Mr. Richard Tibbot y llewyrchodd goleuni dwyfol ar ei feddwl, ac y cafodd dawelwch i'w gydwybod. Bu ei arosiad yn Llanbrynmair, mewn ystyr grefyddol, yn fendithiol iawn iddo. Yr oedd crefydd wedi hen wreiddio yn yr ardal hon, a chafodd yntau, am yr ysbaid o saith mlynedd yn nechreu ei oes, y fraint anrhaethol fawr o droi mewn awyrgylch grefyddol. Tra yn aros yma, priododd ferch ieuanc grefyddol oedd yn aelod o'r un eglwys âg ef. Symudodd o Lanbrynmair i Lanrwst drachefn, ac oddiyno yn ol i Ffestiniog. Ac wedi cyfarfod, medd yr hanes, â rhagluniaethau cyfyng, anogwyd ef i fyned i gadw yr ysgol rad deithiol o dan arolygiaeth Mr. Charles, o'r Bala. "Bu peth petrusder ynghylch ei gyflogi i hyny, oherwydd ei ddieithrwch i'r gwaith, a'i anfedrusrwydd oherwydd hyny i'r fath orchwyl. Ond ar daer ddymuniad y brodyr yn eglwysi Ffestiniog a Thrawsfynydd, anturiwyd ei gyflogi, gan obeithio y cai gymorth yn y gwaith, a'i addysgu ei hun tra y byddai yn llafurio i addysgu eraill. Felly y bu. Yr oedd yn ŵr o dymer dirion, serchiog, ac enillgar; yn trin y plant yn dirion, ac yn eu henill trwy gariad." Troes John Ellis allan yn un o ysgolfeistriaid mwyaf llwyddianus Mr. Charles. Yr oedd yn meddu ar y tri pheth hanfodol yr amcenid eu cael yn yr ysgolfeistriaid a gyflogid at y cyfryw orchwyl-duwioldeb, gallu i ddysgu, a chymeriad disglaer i adael argraff dda ar yr ardaloedd lle cynhelid yr ysgol. Y mae lle i feddwl iddo ef fod o fendith fawr yn y gorchwyl hwn, trwy enill ieuenctyd a llawer eraill at grefydd, a chafwyd y bu ei goffadwriaeth yn anwyl dros hir amser mewn llawer ardal y yn aros ynddi. "Nid hir y bu, wedi dechreu cadw yr ysgol, heb gael ei gymell gan y brodyr crefyddol i arfer ei ddawn i gynghori ychydig yn gyhoeddus; ac fel yr oedd ei ddawn yn cynyddu, a'r Arglwydd yn gwneyd arddeliad o hono, rhoddwyd galwad mwy iddo, nes gwedi bod wrth yr ysgol, a symud o le i le yn mharthau uchaf Swydd Meirion dros ddeng mlynedd, ac ar yr un pryd yn pregethu yn aml, rhoddodd heibio yr ysgol yn llwyr, ac ymroddodd i lafurio yn y gair, gan bregethu yn ddyfal trwy holl barthau Deheudir a Gwynedd, hyd ddydd ei farwolaeth. Yr oedd yn ŵr goleu yn yr Ysgrythyrau, cadarn yn athrawiaeth gras yn ei hamrywiol ganghenau; yn ŵr ysbrydol o ran ei brofiad o bethau Duw, syml a diargyhoedd yn ei rodiad."

Pa beth a'i harweiniodd i wneyd ei gartref yn Abermaw, nis gwyddom. Ond daeth yno rywbryd rhwng 1785 a 1787, a dechreuodd bregethu oddeutu yr un adeg. Oddeutu pum mlynedd ar hugain y parhaodd ei oes fel pregethwr; gwnaeth argraff dda ar y wlad yn yr amser hwnw, ac y mae coffa da am dano yn Sir Feirionydd yn awr, ymhen can' mlynedd ar ol ei farw. Dywediad Mr. Humphreys, o'r Dyffryn, am dano ydoedd, "Yr oedd John Ellis, y Bermo, yn HYPER-Calvin mewn athrawiaeth, ac yn moral agent yn ei fuchedd a'i rodiad yn y byd." Oddiwrth amryw o'i lythyrau a'i gynghorion i'w deulu ac i'r eglwys yn ei ddyddiau diweddaf, gwelir yn amlwg ei fod yn meddu crefydd uwch na'r cyffredin o ddynion. Dygodd ei deulu i fyny yn grefyddol; y mae wyr iddo yn flaenor ffyddlawn gyda'r Methodistiaid hyd heddyw, sef Mr. John Timothy, Einion House, Vriog. Bu farw yn Awst, 1810, yn 52 mlwydd oed. Ymddangosodd byr gofiant iddo yn y Drysorfa Ysbrydol, ddwy flynedd cyn marw Mr. Charles. Cafodd John Ellis ei ran o erledigaeth yr oes yr oedd yn byw ynddi, a gorfu iddo gael amddiffyn y gyfraith i'w gadw rhag yr erlidwyr. Mae y drwydded wreiddiol a gafodd, ar gael gan ei deulu yn awr, wedi ei hysgrifenu ar groen, ac wedi ei harwyddo gan y swyddog gwladol yn Llys Sirol y Bala, yn mis Gorphenaf, 1795, blwyddyn fythgofiadwy yr erledigaeth fawr yn Sir Feirionydd. Wele gopi o honi,—

"Thomas A Beckett Sessions.
Merioneth
To wit.:

This is to certify that John Ellis of Barmouth, in the County of Merioneth, hath this seventeenth day of July, One thousand seven hundred and ninty five, in open Court at the General Quarter Sessions of the Peace held at Bala in and for the said County, before Rice Anwyl and Thomas Davies Clerks, being Justices assigned to keep the peace in and for the said County, taken the usual oath and subscribed the Declaration to qualify himself as a Protestant Dissenting Preacher and Teacher according to the Act of Parliament in that case made and provided———

EDWARD ANWYL
Dpt. Clk. of the Peace."

Ymhen rhyw gymaint o amser ar ol y flwyddyn uchod, bu y drwydded hon o wasanaeth mawr i John Ellis, pan y dygwyd ef gan y swyddogion gwladol o flaen maer Croesoswallt. Yr oedd hen chwaer grefyddol a hynod o'r enw Susan yn byw yn Nghroesoswallt. Gwahoddodd hon John Ellis i ddyfod yno i bregethu. Yntau a ufuddhaodd; a phan ddaeth y diwrnod yr oedd canoedd o ddynion, y rhai oeddynt ddyhirwyr cyhoeddus y dref, wedi ymgasglu i wneyd ymosodiad ar y pregethwr. Yn fuan, pa fodd bynag, wedi i'r moddion ddechreu, dyma ddyn yn dyfod i mewn, ac yn myned yn syth at y pregethwr, gan crchymyn iddo yn awdurdodol i ddyfod i lawr, a dyfod gydag ef o flaen maer y dref. Dangosai y pregethwr ar y cyntaf radd o anfoddlonrwydd i ufuddhau i'r cais; ond ar waith y swyddog yn bygwth 'tori ei ben' â'i ffon, oni ddeuai yn y fan, efe a aeth. Ar ei ymddangosiad yn yr heol dan ddwylaw yr heddgeidwad, fel pe buasai leidr neu lofrudd wedi ei ddal, dyma'r floedd fawr o fuddugoliaeth oddiwrth yr haid gynhyrfus ag oeddynt yn disgwyl am dano, a churo padelli ffrio, a phob offer trystfawr o'r fath, i'r diben o roddi hyny o flinder a sarhad ag a allent ar y crefyddwyr.

O flaen y maer yr aed, ac yno y bu yr arholiad a ganlyn:—

'Paham y dygasoch y gŵr yma ataf fi?' gofynai y maer.

'Ni a'i cawsom ef yn pregethu mewn tŷ anedd yn y dref," ebe'r swyddog.

Ar hyn galwyd Susan ymlaen, gan mai yn ei thŷ hi y bu y peth anferth hwn, a gofynwyd iddi,-

Ai yn eich tŷ chwi yr oedd y gŵr hwn yn pregethu?'

'Ie, Syr,' ebe Susan.

A ydyw eich tŷ chwi wedi ei gofrestru i hyny yn ol y gyfraith?'

'Ydyw, Syr.'

A oes gan y pregethwr drwydded i bregethu?'

'Oes, Syr.'

Ar hyn dangoswyd y drwydded i'r maer, a chafwyd boddlonrwydd fod pobpeth wedi ei wneyd yn ol y gyfraith. Yna, gyda gradd o awdurdod a llymder, gorchymynodd i'r swyddog arwain y pregethwr i'r tŷ yn ei ol, a gofalu am ei roddi yn y man y cawsai ef."[34] Y drwydded uchod, fel y gwelir hi heddyw wedi ei hysgrifenu ar groen, a estynwyd o law y pregethwr i law maer y draf, yn ei lys cyfreithiol, yn agos i gan' mlynedd yn ol. Ychwanegir yn yr hanes hefyd, mai hon oedd yr odfa gyntaf erioed gan y Methodistiaid Calfinaidd Cymreig yn nhref Croesoswallt."

BLAENORIAID YR EGLWYS Y CYFNOD CYNTAF.

JOHN GRIFFITH, SIOP FAWR.

Dygwyd ef i fyny mewn teulu crefyddol, yr hwn hefyd, fel y gwelwyd, oedd y prif deulu i gychwyn yr achos yn Abermaw. Yr oedd yn gadwen rhwng y crefyddwyr cyntaf a'r cyfnod llwyddianus a ddilynodd hanes yr eglwys. Fel masnachwr llwyddianus, safai yn y lle parchusaf yn y dref; gadawodd gyfoeth lawer i'w blant, y rhai a fu am flynyddoedd ar ei ol yn haelionus at wahanol achosion. Neillduwyd ef yn flaenor yr eglwys pan yn lled ieuanc, ac efe, yn ol pob tebyg, oedd ei blaenor cyntaf. Bu y Siop fawr yn enwog yn y cyfnod cyntaf fel llety i bregethwyr De a Gogledd Cymru. Yno, fel yr hysbysir, y byddai Mr. Charles yn lletya bob amser ar ei ymweliadau â'r Abermaw. Yr oedd efe fel Cornelius yn gymeradwy iawn gan holl Fethodistiaid y dref a'r wlad, ac yn fawr ei barch ymysg ei gyd-drefwyr oll. Bu farw Hydref 22, 1833.

WILLIAM ROBERTS.

Crydd wrth ei alwedigaeth. Dygwyd ef at grefydd yn mlodeu ei ddyddiau. Cafodd ei argyhoeddi trwy weinidogaeth y Parch. John Ellis. Bu taranau Sinai yn ei frawychu ar y cyntaf, ond cafodd olwg ar ddigon yn Aberth Calfaria. Ceir ei enw yntau yn agos i flaen rhestr aelodau yr eglwys, a neill-duwyd ef yn flaenor yn ŵr canol oed. Dyn dirodres a di-dderbynwyneb ydoedd; dywedai am y bygythion sydd yn aros uwchben yr anedifeiriol, serch iddo fod yn yr eglwys, os heb gredu yn Nghrist. Cyfrifwyd ef ymysg gweithwyr cyntaf yr eglwys. Yr oedd yn dad i'r Parch. Evan Roberts, y pregethwr. Yn ol llyfr yr eglwys, bu farw Mai 1829.

JOHN ELLIS.

Gŵr a berchid yn fawr fel swyddog eglwysig, yn arbenig ar gyfrif ei dduwioldeb amlwg. Yr oedd wedi cyraedd mesur helaethach na'r cyffredin o'i sefyllfa mewn gwybodaeth; ond mewn duwioldeb dwfn a dwys, gwnaeth argraff annileadwy ar Ar gyfrif ei dduwiolfrydedd, rhoddai anrhydedd ar y fan y byddai ynddo yn ngolwg byd ac eglwys. Byddai yn ei oes. cael ymweliadau grymus iawn ar amserau trwy air o'r Beibl. Yr oedd wedi cychwyn unwaith am dro yn hwyr y dydd, a daeth y gair hwnw i'w feddwl, "Os gwasanaetha neb fi, y Tad a'i hanrhydedda ef," ac efe a aeth am filldiroedd o ffordd, gan fyfyrio ar yr adnod, heb ystyried i ba le yr oedd wedi myned. Ni chawsom wybod byd yr amser y bu yn gwasanaethu swydd blaenor, na pha bryd y bu farw.

CADBEN WILLIAM GRIFFITH, Y CEI.

Yr oedd Rhagluniaeth wedi ei godi ef yn uchel o ran cyfoeth a da y byd hwn. Gadawodd y môr tua chanol oed, a bu o wasanaeth mawr i grefydd, nid yn Abermaw yn unig, ond trwy yr oll o gylch Cyfarfod Misol Sir Feirionydd. Bu gofal casgliadau a phethau eraill o bwys mewn cysylltiad â chapeli y sir arno ef am dymor hir. Yr oedd ei gysylltiadau yn fwy adnabyddus na llawer, gan mai merch iddo ef oedd priod gyntaf y Parch. Richard Humphreys, o'r Dyffryn. Yr oedd ynddo gymhwysderau arbenig i'r swydd o flaenor; meddai raddau helaeth o synwyr naturiol fel dyn, ac yr oedd yn un mawr mewn gras a duwioldeb. Byddai yn llawn llygad gyda holl waith yr eglwys; yn gofalu am arian yr eglwys a'r gynulleidfa; yn cadw agoriad y capel, ac yn ofalus am amser dechreu a diweddu; yn cynllunio i roddi pobl ieuainc newydd gael eu derbyn mewn gwaith. Oherwydd ei bwyll a'i ddoethineb, a'i weithgarwch gyda'r holl waith, meddai ddylanwad anghyffredin. Nid oedd ganddo ddawn mawr, ond beth bynag a ddywedai a fyddai yn sicr o fod i'r pwrpas. Ar ddiwedd seiat unwaith gofynai i un Dafydd Evan ddiweddu trwy fyned i weddi. 66 Dydi o ddim wedi ei dderbyn," ebe blaenor arall o natur dipyn yn ddreng. "Fedrwch chwi weddio Dafydd Evan?" ebe Cadben Griffith. "Medraf," ebe Dafydd Evan. "Wel, gweddiwch chwithau yrwan." Mewn ffordd ddigwmpas fel yna gwnelai ei waith yn ddidrwst ac yn ddilol. Yr oedd y Cei yn un o dri neu bedwar o dai a fu yn enwog yn Abermaw fel llety fforddolion. Ychydig dros ddeng mlynedd ar hugain yn ol, yno y cyfarfyddai gweinidogion y gair â'r cartref mwyaf cysurus. Bu Mrs. Griffith yn cadw y tŷ yn agored ar ol dydd ei phriod hyd ddiwedd ei hoes hithau. Yn Nghofnodion Cyfarfod Misol Hydref, 1847, ceir y sylw canlynol:—"Crybwyllwyd am farwolaeth Cadben William Griffith, yr hwn oedd yn flaenor parchus yn Abermaw, a dywedwyd mai mab tangnefedd' ydoedd."

EDWARD EDWARDS.

Genedigol oedd ef o Lanegryn, ond symudodd i fyw i'r Abermaw. Ei hynodrwydd oedd ei ofal a'i ffyddlondeb gyda chrefydd yn ei holl ranau. Cafodd ei ddal gan gystudd am hir amser, a bu farw yn orfoleddus, yn llawn o ddiddanwch yr iachawdwriaeth.

MOSES ELLIS.

Mab ydoedd ef i John Ellis, y pregethwr. Cydgyfarfyddai llawer o'r rhinweddau sydd yn angenrheidiol i lenwi swydd blaenor ynddo. Yr oedd yn ŵr cadarn yn yr Ysgrythyrau. Bu yn Deptford, yn Nockyard y Llywodraeth, pan yn ddyn ieuanc, tra yr oedd y Parch. James Hughes yno, a bu cymdeithas y gweinidog parchedig yn fantais fawr iddo. Daeth adref i'r Abermaw, a chyn hir dewiswyd ef yn flaenor, yr hon swydd a lanwodd gydag anrhydedd. Manteisiodd yr eglwys yn fawr trwy gael dyn o'i fath ef i'w blaenori: yr oedd yn ymresymwr cryf, yn ŵr llariaidd, yn un y gellid ymddiried iddo gyfrinach, a mawr ei hunan-ymwadiad. Byddai ôl bod gyda Duw arno yn y cyfarfod eglwysig, a'r moddion cyhoeddus. Cafodd ei daflu i bair cystudd, ac fel ei dad duwiol, bu yntau farw yn orfoleddus, Mai 4, 1810. Gorphenwyd talu am y capel cyntaf, fel y gwelwyd, yn 1789. Adeiladwyd yr ail gapel heb fod yn neppell oddiwrth y cyntaf, ond yn nes i'r afon, ac fe gofia y rhai a arferai addoli yn hwnw y byddent yn gorfod myned iddo yn aml trwy domenydd o dywod fel trwy luwchfeydd o eira. Dyddiad y weithred am y capel hwn ydyw Tachwedd 1af, 1824. Dywed rhai er hyny ei fod wedi ei adeiladu gryn lawer yn gynt na hyn. Eisteddai ynddo 300, ac yr oedd arian yr eisteddleoedd yn y flwyddyn 1850 yn 17p. 4s. 8c. Nid oes hanes am ei ddyled yn cael ei chasglu na'i thalu. Yn 1845 yr oedd yn gwbl ddiddyled, a'r flwyddyn hono fe ddarfu y brodyr yn y Cyfarfod Misol osod 100p. ar gapel Abermaw, er mwyn cael arian i glirio rhyw gymaint o'r ddyled drom oedd ar gapeli Dosbarth Ffestiniog. Ymhen deng mlynedd wedi hyn, sef yn 1855, prynwyd tir yn Llanaber i adeiladu capel y Parcel arno, am yr hwn y talwyd 10p. Yr oll o'r draul i'w adeiladu oedd oddeutu 100p., ac yn ol cyfrifon yr eglwys talwyd y rhai hyn y flwyddyn ddyfodol. Pregethwyd y bregeth gyntaf ynddo am ddau o'r gloch Sabbath, Mehefin 1af, 1856, gan y Parch. Francis Jones, yn awr o Abergele. Yr oedd moddion yn cael eu cynal yma, sef Ysgol Sul, a chyfarfod gweddi, ac ambell odfa, er's llawer o flynyddoedd cyn adeiladu y capel, yn hen lofft Hendrecoed, a manau eraill. Cangen ydyw y capel hwn, lle cynhelir ysgol boreu Sabbath, pregeth am ddau, a chyfarfod gweddi yn achlysurol ganol yr wythnos. Y trydydd capel, sef yr un presenol, a adeiladwyd yn 1866, ac yr oedd Cyfarfod Misol Mawrth y flwyddyn hono yn gyfarfod ei agoriad. Gall eistedd ynddo 600. Talwyd am y tir i adeiladu 380p. Yr oll o draul yr adeiladaeth oddeutu 2,300p. Trwy offerynoliaeth Mr. Williams, Ivy House, Dolgellau, talodd y Cambrian Railway Company 850p. am yr hen gapel—cytundeb a ddygwyd i derfyniad yn Chwefror, 1870.

Y mae eglwys Abermaw yn un o'r rhai hynaf sydd yn perthyn i gylch y Cyfarfod Misol. Ystyrid hi hefyd yn yr amser gynt yn eglwys barchus, bur, a dylanwadol. Yr oedd yn barchus am y perthynai iddi amryw bobl uwch eu sefyllfa na'r cyffredin; yr oedd yn bur, am y cadwai ddisgyblaeth i fyny, ac "nis gallai oddef y rhai drwg;" yr oedd yn ddylanwadol, am fod ei harswyd hi yn fawr ar y byd annuwiol. Tystiolaethir gan bobl hynaf y wlad fod yno grefyddwyr da, yn wyr ac yn wragedd, yn nechreu y ganrif hon. Er ei bod hi wedi ei ffurfio yn fuan wedi bod Henry Richard, yr ysgolfeistr o Sir Benfro, yn cadw ysgol yn Llanaber, yr amser y ceir rhestr o'r aelodau gyntaf ydyw yn nechreu y flwyddyn 1810. Nifer yr aelodau eglwysig y flwyddyn hono oedd, Meibion, 22, Merched, 50; cyfan, 72. Mae y rhif yn 1820 yn 95; ac yn 1840 yn 116. Araf oedd y cynydd yma fel ymhob man arall y blynyddoedd hyny. Yn y flwyddyn a nodwyd gyntaf, dechreuwyd cadw cof-restr o'r aelodau mewn llyfr pwrpasol, yr hwn a gedwir o hyny hyd yn awr. Yn y llyfr hwn am y blynyddoedd cyntaf, ceir rhai pethau o natur ddigrifol, megis, "I Lewis Morris tuag at bedoli ceffyl 2s. 6c." "William Roberts for mending boots, 5s. 6c." Pan y byddai aelod ieuanc wedi newid ei sefyllfa, ysgrifenid ar gyfer ei enw yn llyfr yr eglwys,-"priodi yn anrhydeddus." Byddai casgliad, yr hwn a elwid yn gasgliad bach, yn cael ei wneuthur ymysg y merched i gynorthwyo pregethwyr a ddelai heibio a fyddent mewn angen. Gwnelid hwn o law i law ymysg gwragedd parchusaf y dref, a llawer dilledyn a roddwyd ar ei bwys i'r llefarwyr y gwelid fod eu gwisg yn llwydach na'r cyffredin. I Moses Ellis y rhoddid y fraint i fyned o gwmpas i hel y casgliad hwn. Ar ol iddo ddychwelyd o'i daith gasglyddol un tro, cymerodd yr ymddiddan canlynol le rhyngddo â Mr. Griffith, Siop fawr:—

"Sut lwyddiant a gawsoch chwi?" ebe Mr. Griffith.

"Llwyddiant da, ond ambell i eithriad," oedd yr ateb.

"Fuoch chwi gyda Mrs. Meredith?"

"Do." "Fuoch chwi gyda hon a hon?"

"Do."

Ac yr oedd yr hen flaenor wedi llwyddo gyda phob un o'r gwragedd a enwyd. Eto yr oedd un eithriad.

"Fuoch chwi gyda hon a hon (gwraig pur gyfoethog?" "Do."

"Be ddeudodd hi?"

"Dweyd nad allai hi roi dim."

"Dear me, ddeudodd hi felly?"

"Do."

"Sut y deudodd hi?" gofynai Mr. Griffith bedair gwaith.

"Dweyd nad allai hi roi dim."

"Dear me, mae y brenin cybydd-dod wedi myned yn bell iawn i'w chalon hi."

Yr oedd cymeriadau hynod yn perthyn i'r eglwys, a chymerodd digwyddiadau le yma, a ystyrid yn awr yn rhyfedd, mewn cysylltiad â dygiad ymlaen yr achos, yn enwedig mewn blynyddoedd pell yn ol. Un o'r chwiorydd a enillasid i garu Iesu Grist yn dra ieuanc wrth wrando ar Mr. Charles yn pregethu-yr hon oedd yn nodedig am ei duwioldeb-a adroddai ei phrofiad wrth un o'r blaenoriaid yn y cyfarfod eglwysig, ymhen amser maith wedi iddi ddyfod at grefydd. Yn yr heol lle y preswyliai, yr oedd gwragedd wedi bod yn cweryla yn arw; ond rhedodd y chwaer hon i'w thŷ, a chlodd y drws, ac felly aeth yr ystorom drosodd heb ddim niwed iddi hi. Y noson ganlynol, yn y seiat, gofynai y blaenor iddi am air o brofiad. Ebai hithau, "Yr adnod hono ddaeth i'm meddwl gyda chryn nerth heddyw, 'Er gorwedd o honoch ymysg y crochanau, byddwch fel esgyll colomenod, wedi eu gwisgo âg arian, a'u hadenydd fel aur melyn.'" "Beth oeddych yn gael yn yr adnod?" ebe y blaenor. "Gweled fod y crochanau hyn yn rhai noble iawn, rhagor y crochanau duon sydd o fy nghwmpas i acw." "Yr wyf yn deall hyny," ebai yntau, "ond a ddarfu i chwi allu cadw yn glir heb daro wrthynt, a phardduo eich gwisg?" "Do, cefais fy nghadw yn rhyfedd; aethum i'm tŷ, a rhoddais glo ar y drws, nes aeth yr ystorom heibio; wedi hyny aethum i edrych fy hun yn 'hen ddrych y cysegr,' yr hwn oedd ar y ford yn y tŷ, ac edrychais fy hun o'm coryn i'm sawdl, a round about, ac ni ellais weled yr un ysmotyn wedi ei splasio o'r helynt fu acw ddoe. Er fy mod, fel mae'r gwaethaf, wedi bod yn rhy agos i grochanau duon lawer gwaith yn fy ngyrfa grefyddol trwy'r byd, yr wyf yn disgwyl gweled boreu pryd na bydd arna i 'na brycheuyn na chrychni, na dim o'r cyfryw.'" Ebai yr hen flaenor, "Ni feddaf ddim i ddweyd wrthych, ond gwyn eich byd."

John Griffith, y gof, a William Griffith, y gwŷdd, oeddynt ddau frawd yn byw yn ardal y Parcel. Ystyrid y ddau yn grefyddol, ac o'r iawn stamp. Ond gan fod y ffordd yn bell, a'r gwaith gôf yn gofyn cadw ato yn gyson, esgeulusai John Griffith y cyfarfod eglwysig ganol yr wythnos. Ac yn ei ddyddiau ef yr oedd yn rheol i ddisgyblu os byddai aelod wedi colli tri thro. Nos Sul yn unig y ceid gafael ynddo. Pan y caed cyfle felly unwaith, cyfodai un o'r hen flaenoriaid i fyny, a dywedai, "Mae John Griffith yma heno; oes genych chwi rywbeth i'w ddweyd, John Griffith, dros eich bod yn esgeuluso y seiat?" "Hawdd iawn i chwi siarad, y rhai sydd yn byw yn y fan yma yn ymyl y capel," ebai yntau. "Yr ydw i yn y fan acw gyda fy ngwaith, a'r bobol yn dyfod a'u ceffylau acw i'w pedoli," &c. Ar ol hyny cyfodai blaenor arall, ac ymosodai yn drwm arno oherwydd esgeuluso y moddion. Yntau a gymerai y drinfa mor dawel ag un o'r ceffylau a arferai bedoli. Yna ar y diwedd denai un o'r blaenoriaid ymlaen a dywedai, "John Griffith i ddibenu." Cyfododd yntau i fyny, a rhoddodd y penill canlynol-yr hwn y methasom a chael ei ddiwedd-allan,-

"Daw gwyr y mulod mân
A'r elor-feirch ymlaen
I Seion fryn," &c.,

ac aeth i weddi mewn llawn hwyl, nes toddi pawb yn y lle. Yr oedd yn y capel sêt bwrpasol i rai fyned iddi os byddent am ddweyd eu profiad, a gelwid hi sêt profiad. Ar ol marw Mr. Griffith, Shop fawr, John Ellis oedd y blaenor hynaf, ac efe wrth ei swydd a arferai ofyn y cwestiwn, "Oes yma neb a ddywed air o barodrwydd meddwl."

Rhoddid disgyblaeth mewn grym i'r graddau manylaf yn yr eglwys hon. Nid yw yn hawdd penderfynu, weithiau, pa un i ryfeddu ato fwyaf, llymder y blaenoriaid yn disgyblu, ynte dioddefgarwch yr aelodau yn cymeryd eu disgyblu mor ddidramgwydd. Nid oedd y radd leiaf o drugaredd i'w chael am ieuo yn anghydmarus. Torid allan ar unwaith os ceid fod aelod yn cyfeillachu gydag un o'r byd; ni roddid amser i weled pa un a fyddai i'r pleidiau droi yn ol cyn myned i'r stât briodasol ai peidio.

Cyn rhoddi rhestr o'r blaenoriaid a'r pregethwyr fuont feirw, y mae nifer o aelodau eraill yr eglwys yn deilwng o goffadwriaeth. Mrs. Meredith oedd wraig a berchid yn fawr yn y dref am flynyddoedd lawer. Yr oedd hi o sefyllfa dda yn y byd; ar gyfer ei henw yn llyfr yr eglwys yn 1810 ceir 28. 6c. yn y mis at y weinidogaeth, sef y swm uchaf ar y rhestr. Yr oedd ei thŷ hi yn un o'r ychydig oedd yma yn enwog am letya pregethwyr. Heblaw bod yn un o'r ffyddloniaid, yr oedd ynddi ysbryd gwrol, a chymerai ran gyhoeddus gyda dygiad ymlaen yr achos. Wele engraifft o hyny.-Yr oedd brawd ieuanc, o dueddiadau uchelfrydig, yn yr eglwys eisiau cael myned i bregethu. Dygwyd ei achos ymlaen yn y cyfarfod eglwysig. "Feallai y gwnewch chwi ddweyd," ebai y blaenor, "beth sydd wedi bod yn eich cymell i feddwl am bregethu." "Wel," ebai y gŵr ieuanc uchelgeisiol, "ofn oedd arnaf rhag cuddio fy nhalent yn y ddaear." Cyfodai Mrs. Meredith ar ei thraed, a dywedai, "Wil, rhaid i ti yn gyntaf ddangos dy fod yn meddu ar dalent." Bu Mrs. Meredith farw Mehefin 23, 1832. Gwen Jones, mam y Parch. Rees Jones, oedd wraig nodedig o grefyddol, a chyfodai ar ei thraed i siarad yn y seiat. Yr oedd y pregethwr unwaith yn pwyso yn lled drwm arni, yn drymach nag y dymunai rhai, am sicrwydd ei chrefydd. Wedi bod yn ddistaw am enyd dywedai, "Yr wyf wedi cael digon o sicrwydd ar y daith na ddemnir mohonof." Gadawodd ei dywediad argraff anarferol ar y seiat. Mary, Betty, Jane, Barbara, a Miriam Ellis, chwiorydd i Moses Ellis, a merched i John Ellis y pregethwr, oeddynt oll tuhwnt i'r cyffredin o grefyddol. Mrs. Griffith, y Cei, gweddw y Cadben Griffith, a fu yn nodedig o ffyddlon mewn lletya pregethwyr. Yr oedd wedi bod yn gwasanaethu pan yn ieuanc mewn lle y lletyai pregethwyr, ac fe'i gwnaeth yn fater gweddi i ofyn i'r Arglwydd am i'w choelbren ddisgyn lle byddent hwy yn aros, a chafodd ei dymuniad. Margaret Lloyd, y Mangle; Ellin Griffith, Margaret Edwards, Jane Morris, Gellfechan; a Mrs. Dedwydd, oeddynt wragedd crefyddol yr eglwys. Thomas Bywater fu yn ŵr defnyddiol i'r achos yma. Genedigol oedd ef o Gaersws, ac ysgolfeistr wrth ei alwedigaeth. Yr oedd yn y Dyffryn yn 1806. Symudodd i'r Abermaw, ac efe a barotodd lyfr Cofnodion cyntaf yr eglwys yn 1810. Dywedir mai efe a ddygodd achos crefydd i drefn gyntaf yn nosbarth y Dyffryn yn nechreu y ganrif. Ymadawodd oddiyma oddeutu 1827 i Ffestiniog neu Drawsfynydd. Sydney Davies oedd yn ddyn nefolaidd ei ysbryd. Cafodd dröedigaeth hynod rymus, yr hyn a'i gwnaeth yn grefyddwr gafaelgar. Cadben Lewis Dedwydd, yn gystal a'i briod, oedd ymysg ffyddloniaid yr eglwys. Thomas Martin, Harbour Master, a gyfrifid yn ŵr parchus yn y dref. Cafodd dröedigaeth amlwg yn niwedd ei ddyddiau, wrth wrando Cadwaladr Owen yn pregethu. Cyflwynodd ei hun i'r eglwys y noswaith yr argyhoeddwyd ef, a dywedai yn gyhoeddus, "Dyma fi yn rhoi fy hun fel yr wyf; mi glywais rywbeth yn dweyd wrthyf, Tyr'd, Thomas Martin, fel yr wyt ti.'" Dywedai cyn ymadael â'r byd, mai pedair oed ydoedd, am mai pedair blynedd a fu yn proffesu crefydd. Yn fwy diweddar, un a fu yn flaenllaw gyda'r achos am flynyddoedd lawer oedd Evan Richards. Mewn cadw cyfrifon, gofalu am yr achos yn allanol, a lletya pregethwyr, gwnaeth lawer o wasanaeth yn ei ddydd. Humphrey Jones, y crydd, er nad oedd yn flaenor, a fu yn flaenllaw gyda'r achos. Efe am flynyddoedd lawer fyddai yn cyhoeddi yn y moddion cyhoeddus. Bu farw Medi 26, 1868, yn 78 oed. John Richards, Hendre-mynach, a gafodd dröedigaeth hynod. Un rough yn ei ffordd ydoedd, ond nodedig o selog, a pharhaodd felly hyd y diwedd. Griffith Edwards, hefyd, oedd un a ddygai fawr sel gyda'r achos, ynghyd a llu mawr eraill o bererinion na chafwyd eu henwau.

Digwyddodd anghydwelediad rhwng y blaenoriaid yma ychydig cyn Diwygiad 1859-60, yr hyn am dymor a filwriodd yn erbyn llwyddiant crefydd yr eglwys. Anfonwyd cenhadon o'r Cyfarfod Misol amryw weithiau i geisio gwastadhau yr anghydfod. Wedi i chwech o frodyr fod yno dros y frawdoliaeth yn gwneuthur y cais olaf at ymheddychu, yn Nghyfarfod Misol Pennal, Chwefror 1858, rhoddodd y brodyr hyn adroddiad o'u hymweliad, yr hyn a gynhwysai eu bod yn cael allan fod pob gonestrwydd wedi ei arfer ymhob amgylchiad mewn dwyn yr achos yn ei flaen. Y penderfyniad y daethpwyd iddo, ac a gadarnhawyd yn y Cyfarfod Misol hwn, oedd, "Mai y prif achos o'r anghydfod presenol oedd pellder y swyddogion oddiwrth eu gilydd, a'r duedd oedd yn y naill i gario pethau ymlaen heb ymgynghori â'i frodyr, ac yr oedd hyn i'w ganfod nid mewn un o honynt, ond ynddynt oll. Yr oeddynt wedi cydfarnu [sef y pwyllgor] mai eu doethineb oedd cynghori y swyddogion i ystyried eu hunain, am dymor o'r hyn lleiaf, ond fel aelodau cyffredin yn unig; a ffurfiwyd pwyllgor gweinyddol, yn cynwys y blaenoriaid ac wyth o bersonau eraill, i arolygu yn y cyfamser holl amgylchiadau yr achos." Bu yr eglwys yn y stat yma, heb neb yn flaenoriaid ffurfiol arni, am dair blynedd.[35]

Y mae un yn awr yn fyw a fu yn blaenori, ac yn weithgar gyda'r achos yma dros dymor hir, sef Mr. John Timothy, blaenor eglwys y Friog. Dewiswyd ef i'r swydd yn Abermaw yn y flwyddyn 1853. Yma y dechreuodd y Parch. H. Barrow Williams, Llandudno, bregethu. Ymddiddanwyd ag ef gyntaf yn Nghyfarfod Misol Chwefror, 1867. Yn haf y flwyddyn 1864, symudodd y Parch. D. Davies yma o Gorwen, ar ei ymsefydliad fel gweinidog rheolaidd yr eglwys. Ac yn mis Mawrth 1874, rhoddodd ei gysylltiad â'r eglwys i fyny. Bu y Parch. R. H. Morgan, M.A., yn weinidog yma o 1875 i 1887, pryd y rhoddodd yntau ei gysylltiad â'r eglwys i fyny. Y Parch. J. Gwynoro Davies yw y gweinidog yn awr er 1887. Y blaenoriaid yn bresenol ydynt, Mri. Owen Griffith, David Williams, William Williams, Lewis Lewis, E. R. Jones, John Jones.

Nifer y gwrandawyr, 650; cymunwyr, 383; Ysgol Sul, 556.

Y BLAENORIAID AR OL Y CYFNOD CYNTAF.

CADBEN EDWARD HUMPHREYS.

"Daeth ef i arddel yr Iesu a'i achos yn hoewder ei ddyddiau." Ei gymeriad oedd, "dyn ymroddgar, prydlawn, a phenderfynol gyda phobpeth yr oedd a wnelai âg ef, pa un bynag ai gwladol ai crefyddol." Yr oedd yn awyddus i wneuthur daioni i'w gyd-ddynion, tra yr oedd ei orchwylion ar y môr. Fe'i neillduwyd yn flaenor i ofalu am y morwyr; gwnaeth yntau hyny gyda ffyddlondeb yn y porthladdoedd a manau eraill y caffai gyfleusdra. Oddeutu 1839, gadawodd y môr, ac arhosodd gartref gyda'i deulu, a bu o wasanaeth i grefydd hyd ddiwedd ei oes. Bu yn gwasanaethu ei gydforwyr yn y Cambrian Union yn Llundain yn ei dro am flynyddoedd. Cynghorai y morwyr ar eu mynediad allan i'r môr am iddynt wneyd eu cartref yn nghysgod yr Hollalluog, ac yna y byddent ddiangol, doed colli llong, doed boddi, ac fel cymhelliad iddynt dywedai yn aml, i Ragluniaeth fawr y nef ei gysgodi ef am y deugain mlynedd y bu yn ymladd â geirwon donau y môr. Mynych yr adroddai am waredigaethau hynod a gafodd yn ei fordeithiau. Yr oedd yn un o ddirwestwyr goreu Cymru. Bu yn llywydd y gymdeithas ddirwestol yn Abermaw hyd ddiwedd ei oes. Bu farw Mehefin 10, 1858, yn 79 mlwydd oed.

GRIFFITH DAVIES.

Yr ydoedd yn wyr i'r hen bregethwr ffyddlawn, Gruffydd Sion, Ynys y Pandy, yn Sir Gaernarfon, wedi hyny o'r Sarnau, Sir Feirionydd, ac yn fab i Sydney Davies, dduwiol, un o aelodau cyntaf eglwys y Methodistiaid yma. Cafodd ei ddwyn i fyny felly mewn teulu crefyddol, a derbyniwyd ef yn gyflawn aelod yn un ar bymtheg oed. Yr oedd yn ddarllenwr mawr, ac yn athraw da yn yr Ysgol Sul, ac efe am dymor mawr oedd arweinydd y canu. Gŵr tyner a llednais ei ysbryd, yn meddu duwioldeb diamheuol, yn amlwg mewn gweddi, ac ymroddgar gyda holl ranau y gwaith. Dewiswyd ef yn flaenor pan yn lled ieuanc, yr hon swydd a wasanaethodd yn ofalus, hyd ei symudiad tua'r flwyddyn 1858, i'r Felinheli, lle y derbyniwyd ef yn groesawgar fel swyddog eglwysig; a'r un modd pan symudodd oddiyno i Fangor Uchaf, gwasanaethodd yr un swydd yn nghapel Twrgwyn hyd derfyn ei oes. Bu farw Tachwedd 30, 1874, yn ei 80fed flwyddyn, a chladdwyd ef yn nghladdfa y teulu yn Llanaber.

EDWARD WILLIAMS, LLWYNGLODDAETH,

a dderbyniwyd yn aelod o'r Cyfarfod Misol fel blaenor, Ionawr 1842. Ceir yn llyfr y cofnodau wrth ei dderbyn, "Er nad oedd y brawd a'i brofiad yn hynod lewyrchus, dewiswyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol, a dangoswyd mai peth mawr iawn i flaenor yw cysondeb gyda phethau crefydd." Tueddu y byddai ef at yr ochr dyner yn gyffredin. Yr oedd yn cario gydag ef gryn nifer o farciau yr oes o'i flaen.

RICHARD MORRIS, EXICEMAN.

Gŵr fu yn ddefnyddiol iawn gyda'r achos yma am lawer o amser. Meddai ar natur dda, a dawn hwylus i siarad yn gyhoeddus. Bu arno awydd myned i bregethu, ond cyd- olygwyd ei fod wedi myned i oedran lled fawr; ac oherwydd hyny mai gwell oedd iddo wasanaethu crefydd mewn ffordd arall. Ymhen amser, symudodd i Fachynlleth, a bu yn barchus iawn yno hyd ddiwedd ei oes. Yr oedd yn flaenor yn y ddau le, ac yn un o'r dynion mwyaf defnyddiol gyda gwaith yr Arglwydd, yn allanol ac ysbrydol.

OWEN WILLIAMS, GWASTADANAS.

Daeth yma yn flaenor o Sir Gaernarfon, a neillduwyd ef yn swyddog drwy godiad llaw. Yr oedd yn ddyn duwiol, ac yn bur ei gymeriad. Cadwai yn gyson at ddechreu a diweddu y moddion, ond tueddai dipyn at ei ffordd ei hun, ac ar amserau rhoddai atebion heb fod yn llariaidd. Bu farw Tachwedd 6, 1860, yn 64 mlwydd oed, wedi bod yn aelod dros ddeugain mlynedd, ac yn ddiacon am ddeng mlynedd ar hugain.

RICHARD JONES.

Neillduwyd ef i'r swydd o flaenor yn 1861, a derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol yn mis Ebrill y flwyddyn hono. Yr oedd ef o gymeriad difrycheulyd, a thynodd ei gwys i'r pen yn uniawn. Gwnaed sylwadau er coffadwriaeth am dano yn Nghyfarfod Misol Mehefin, 1880.

HUGH WILLIAMS, CAMBRIAN HOUSE.

Byr iawn fu ei dymor ef yn y swydd o flaenor. Derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol Mai 4, 1885, ac yn mis Medi yr un flwyddyn yr oeddis yn gwneuthur sylwadau coffadwriaethol am dano. Yr oedd yn weithgar iawn gyda chrefydd rai blynyddoedd cyn ei ddewis yn flaenor. Yr oedd yn wr o farn ac yn ŵr o gyngor, yn gyfaill serchog a llawen, ac yn Gristion disglaer. Pe yr estynesid ei oes, yn ol pob tebyg, buasai yn ddyn tra defnyddiol i'r achos. Yn ei dy ef y blynyddoedd diweddaf y lletyai y pregethwyr, y rhai fyddent, yn ddieithriad, yn hoff o'i gymdeithas.

MORRIS JONES.

Genedigol o'r Dyffryn ydoedd Morris Jones; mab i'r hen flaenor adnabyddus Sion Evan, Caetani. Magwyd ef ar aelwyd grefyddol, a thyfodd i fyny yn ŵr ieuanc dichlynaidd a hardd ei rodiad. Tynai sylw y pryd hwnw fel un tebygol o wneuthur dyn defnyddiol. Bu am flynyddoedd yn arwain y canu cynulleidfaol yn y Dyffryn. Ar gychwyniad yr achos dirwestol daeth allan yn gryf o blaid y symudiad; bu ar daith, oddeutu 1810, gyda'r Hybarch Mr. Humphreys, trwy ranau o'r Deheudir, yn areithio ar ddirwest. Dewiswyd ef yn flaenor yn eglwys y Dyffryn, yn ol ei gyfrifiad ef ei hun, yn y flwyddyn 1838, yn un o chwech a neillduwyd gan yr eglwys hono yr un adeg. Gwasanaethodd yr eglwys yn ffyddlawn hyd nes y symudodd o'r ardal i fyw. Treuliodd yr ugain mlynedd olaf o'i oes yn agos i'r Abermaw, ac yr oedd yn flaenor cymeradwy yno i'r diwedd. Yr oedd yn ŵr heddychlon, tyner, llednais, a hoffus gan bawb. Tynodd ei gwys i'r pen yn uniawn, heb genfigenu wrth neb, ac heb dynu gwg neb yn ei erbyn ei hun. Cymerwyd ef i'r orphwysfa nefol yn mis Chwefror, 1890, pan o gylch 79 oed, a dygwyd y rhan farwol o hono i'r beddrod yn y Dyffryn, ar y 25ain o'r un mis.

Y PARCH. EVAN ROBERTS.

Mab oedd ef i un o flaenoriaid yr eglwys hon. Yma y dygwyd ef i fyny, ac y dechreuodd bregethu; ac wrth yr enw Evan Roberts, y Bermo, yr adwaenid ef bob amser. Symudodd oddiyno i Arthog tua'r flwyddyn 1835; a symudodd o Arthog drachefn i Sir Drefaldwyn yn 1854, ac yno y bu farw.

Y PARCH. REES JONES, FELIN HELI.

Hysbys ydyw mai brodor oedd ef o'r Abermaw. Sonir llawer hyd heddyw am ei fam, Gwen Jones, fel un o wragedd parchusaf a mwyaf crefyddol yr eglwys. Dyn crefyddol a difrifol yr ystyrid yntau er yn ieuanc. Bu am dymor yn yr Amwythig; ac ar ol dychwelyd adref i'r Abermaw, adroddai bregeth o eiddo y Parch. Henry Rees yn y seiat gyda dwysder anghyffredin, a dyma y pryd, ebai un o frodyr hynaf yr eglwys, y daeth i sylw gyntaf. Nid ydym yn sicr pa bryd y dechreuodd bregethu, ond yr oedd yn rhywle o 1835 i 1840. Ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth yn 1844, a bu yn pregethu yn agos i haner can mlynedd. Symudodd i'r Felin Heli, yn Sir Gaernarfon, yn nechreu 1847. Yn Nghofnodion Cyfarfod Misol y Dyffryn, Chwefror 4ydd y flwyddyn hono, ceir y sylw canlynol,-" Coffhawyd am ymadawiad y brawd Rees Jones, o'r Abermaw, i Sir Gaernarfon i fyw-a dangoswyd ein bod yn mawr deimlo yn herwydd hyny." Colled fawr i'r sir hon oedd ei golli, oblegid yr oedd yn ŵr o ddylanwad, a gwnaeth wasanaeth mawr i grefydd o fewn y cylch y troai ynddo, yn mlynyddoedd cyntaf ei weinidogaeth. Parhaodd ar hyd ei oes i lenwi lle pwysig ymhlith y Methodistiaid. "Er nad oedd ei draddodiad o'i bregethau yn cael eu nodweddu gan rwyddineb, eto yn lled fynych, ac yn fwy mynych yn ystod y deng mlynedd diweddaf, byddai ei weinidogaeth mewn nerth mawr. Yr oedd ef yn un o'r colofnau yn ei Gyfarfod Misol. Ymgynghorid ag ef ymhob achos dyrus. Ac nid yn y Cyfarfod Misol y perthynai iddo yn unig yr oedd ei allu a'i werth yn cael ei gydnabod, yr oedd felly yn y Cymanfaoedd." Bu farw mewn modd anghyffredin o sydyn, tra yn y weithred o gyfarch y frawdoliaeth yn Nghyfarfod Misol y Gatehouse, Tachwedd 18, 1885.

Y PARCH. DAVID DAVIES.

Bu y Parch. David Davies yn preswylio yn Abermaw o gylch tair blynedd ar hugain. Llafuriodd yn egniol gyda theyrnas yr Arglwydd Iesu, ac mae ei enw wedi bod yn hysbys fel gweinidog cymeradwy trwy holl gylchoedd y Methodistiaid; oherwydd y naill a'r llall o'r pethau hyn, teilynga goffhad ymysg enwogion crefydd yn y sir. Ganwyd ef yn Mhenmachno, yn y flwyddyn 1815, ac mae ei enw mewn rhai cylchoedd yn fwy cysylitiedig â'r lle hwnw hyd heddyw. Yr oedd ei dad yn ŵr o ddoniau llithrig, a chyrhaeddodd yr oedran teg o 89. Cafodd fam grefyddol, yr hon a gysegrodd ei bachgen yn foreu i'r Arglwydd. Arferai yntau weddio yn dra ieuanc, a thynai ei lais peraidd a soniarus wrth weddio a chanu sylw neillduol er ieuenged vedd. Derbyniwyd ef yn gyflawn aelod yn dra ieuanc, a dywedir iddo deimlo argraffiadau crefyddol dwysion ar ei feddwl y pryd hwnw. Dechreuodd bregethu yn 1834, y flwyddyn y bu farw y Parch. John Roberts, Llangwm, a chwe' blynedd cyn rhanu y sir yn ddau Gyfarfod Misol, ac efe eto ond 19eg oed. Ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth yn 1849. Bu yn bregethwr poblogaidd am 53 mlynedd. Y tebyg ydyw nad oedd yr un dyn mwy cyhoeddus nag ef yn yr oll o Sir Feirionydd am yr holl amser yna, ac nid oedd nemawr neb yn fwy adnabyddus trwy Ogledd a Deheudir Cymru.

Un adeg ar ei oes, bu ganddo ofalon bydol lawer. Cadwai siop yn Mhenmachno, triniai fferm fawr, sef y Bennar, a llanwai hefyd y swydd o steward coed, ac yr oedd y byd yn dyfod gydag ef fel lli yr afon. Eto meddienid ef yn llwyr gan ysbryd pregethu yn nghanol ei drafferthion; pregethwr ydoedd yn y siop, yn y fferm, ac yn y coed. Ond credai bob amser fod gwaith gweinidog yr efengyl yn rhy bwysig iddo i ymrwystro gyda mân orchwylion a negeseuau y bywyd hwn. Felly, er fod ganddo deulu lliosog i ymddibynu arno, yn 1861, rhoddodd yr oll o'i gysylltiadau bydol i fyny er mwyn yr efengyl yn unig, a symudodd i Gorwen, i gymeryd gofal yr achos yno. Ni edifarhaodd am hyn, ac ni edrychodd o'i ol o gwbl, eithr teimlai fel aderyn wedi ei ollwng i ehedeg yn yr awyr, yn berffaith yn ei elfen wrth wasanaethu crefydd a dim ond hyny. Yn 1864, symudodd drachefn o Gorwen, gan ymsefydlu yn Abermaw, a dyma yr adeg y mae yn dyfod gyntaf i gysylltiad uniongyrchol â Chyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd. Yn Nghyfarfod Misol Aberllefeni, Gorphenaf y flwyddyn hono, y darllenwyd llythyr cyflwyniad iddo o'r rhan Ddwyreiniol i'r rhan Orllewinol o'r sir, yr hwn sydd fel y canlyn':—

"Llandrillo, Mehefin 1864,

"Anwyl Frodyr,

Yr ydym yn ystyried mai peth rheolaidd, er nad mor angenrheidiol, ydyw rhoddi llythyr o gyflwyniad i'r brawd anwyl, y Parch. David Davies, ar ei ymadawiad â ni fel Cyfarfod Misol, a'i ymsefydliad yn eich plith chwi. Y mae colli Mr. Davies yn golled y teimlir yn ddwys o'i herwydd genym ni fel Cyfarfod Misol, ac yn arbenig gan yr eglwysi yr oedd ef yn dwyn cysylltiad mwy neillduol â hwy. Nid oes genym ond ymdawelu, a goddef y brofedigaeth, gan geisio credu ei fod dan arweiniad oddiuchod yn y symudiad, a gweddio am ei gysur ef a'i deulu yn eu trigfa newydd, a'i lwyddiant yn ngwaith yr Arglwydd yn eich plith.

Yr eiddoch dros y Cyfarfod Misol,
John Williams, Ysgrifenydd."

O hyny allan, llafuriodd Mr. Davies yn benaf, yn y rhan Orllewinol o'r sir. Bu yn weinidog rheolaidd yr eglwys yn Abermaw hyd 1874, pryd y rhoddodd ei le i fyny, oherwydd llesgedd a deimlai mewn canlyniad i ddamwain a gyfarfyddodd pan ar daith i bregethu yn Lleyn. Er iddo ymneillduo o fod mewn cysylltiad uniongyrchol â'r eglwys, ni pheidiodd a gweithio gyda gwaith yr Arglwydd, ac nis gallai beidio, oblegid fod gweithio yn reddf gynhenid yn ei natur. Gwnaeth a allai i gynorthwyo y Parch. R. H. Morgan, M.A., ei olynydd fel gweinidog yr eglwys. Teimlai fwy o ryddid bellach i wasanaethu y Cyfarfod Misol a'r eglwysi yn gyffredinol o fewn y cylch, a bu ei wasanaeth o fawr werth yn yr holl gylchoedd y troai ynddynt. Parhaodd i breswylio yn Abermaw hyd o fewn tair wythnos i'w farwolaeth, pryd y symudodd y drydedd waith i Benrhyndeudraeth. Cymerodd ei symudiad yma le, yn fwyaf neillduol, oherwydd cyfleusdra i fyw, gan ei fod ar y pryd yn newid ei breswylfod yn Abermaw. Ymddangosai yn ystod y tair wythnos hyn yn llawn o sel ac awyddfryd i weithio gyda phob rhan o deyrnas y Cyfryngwr. Ymaflodd ar unwaith ymhob gwaith, fel dyn ieuanc yn hoewder ei nerth, ac fel pe buasai am ail ddechreu ei oes drosodd drachefn. Yr oedd yn ei gynefin iechyd, ac ar y dydd Mercher y bu farw ymddangosai yn fwy siriol a chryf nag arfer. Gwasanaethai yn y prydnhawn mewn angladd, ac ar ol hyny aeth ef a Mrs. Davies i dŷ cymydog i dê. Wrth ddychwelyd adref cymerwyd ef yn glaf, a chydag anhawsder y cyrhaeddodd i'w dŷ ei hun. Ymhen tua thri chwarter awr wedi cyraedd adref, ehedodd ei ysbryd at Dduw yr hwn a'i rhoes. Parodd yr amgylchiad deimlad dwys trwy holl gylch ei adnabyddiaeth. Teimlid fod ei symudiad, o ran sydynrwydd, yn debyg i symudiad Enoc neu Elias. Yn nghanol bywyd, a hoewder, a nerth yr oedd ei gyfeillion wedi ei weled bob amser hyd y diwedd, ac felly y cawsant yr olwg olaf arno. Tarawodd ei symudiad bawb gyda'r fath syndod, fel mai peth anhawdd oedd credu na chaent weled ei wyneb ef mwy, a mawr fu y chwithdod am dano o'r dydd hwnw hyd yn awr.

Cyrhaeddodd Mr. Davies sefyllfa uchel ymhlith y Methodistiaid fel gweinidog poblogaidd a chymeradwy. Dechreuodd ei weinidogaeth pan oedd goruchwyliaeth y teithio mewn bri, a gellir, gyda phriodoldeb, edrych arno fel dolen gydiol rhwng yr oes aeth heibio o bregethwyr â'r oes bresenol. Yr oedd ei weinidogaeth ar y cychwyn cyntaf yn wresog a thanbaid, ac ar brydiau byddai yn nerthol iawn. Meddai lais peraidd a soniarus, a dawn mor ddihysbydd a'r môr, a gwroldeb i sefyll i fyny yn gryf dros yr hyn a gredai oedd iawn. Derbyniodd yn dra helaeth o ysbryd y Diwygiad 1859-60. Bu yn foddion y pryd hwnw i droi llawer i gyfiawnder. Cofir yn hir am aml un o'i bregethau miniog ac argyhoeddiadol. Yr oedd ei ddawn yn gymwys iawn i'r pulpud; medrai ef gyraedd sylw a dirnadaeth lliaws y bobl gyffredin yn well na'r rhan fwyaf o'i frodyr. Parhaodd ar hyd ei oes yn un o wyr cyhoeddus mwyaf ymarferol a defnyddiol a feddai Cymru.

Heblaw bod yn bregethwr effeithiol, perthynai iddo lawer o ragoriaethau mewn cylchoedd eraill, yn arbenig yn y cyfarfodydd eglwysig. Mynych y cynhyrchai fywyd a gwres yn nghyfarfodydd yr eglwys, megis ar darawiad. Yr oedd gwresogrwydd ei natur ef ei hun, ei ddawn parod, a'i hyddysgrwydd yn yr Ysgrythyrau, yn ei wneuthur yn nodedig o gymwys i arwain yn nghynulliadau y saint. Byddai, mae'n wir, ar adegau yn cael ei gario yn rhy bell gan ei deimladau. Y rhai a'i hadwaenent oreu hefyd a wyddent y byddai yn rhy barod i newid ei gynlluniau, ac na byddai bob amser yn ddoeth. Ond hysbys ydyw, pan y gwnai gamgymeriadau mewn byrbwylldra, y byddai yn edifarhau, a chan gynted ag y gallai yn dychwelyd yn ol i'r ffordd iawn. Er hyn i gyd, gŵr ymroddedig iawn ydoedd gyda phob rhan o waith yr Arglwydd, a'i gyrhaeddiadau a'i amlygrwydd ymhell ar y blaen ymhlith ei gydoeswyr. Cerddodd ymlaen trwy ei fywyd gyda holl symudiadau y Cyfundeb. Byddai yn wastad yn cynllunio gyda rhywbeth neu gilydd, eto mewn taro ar ben yr hoel, a sicrhau yr hoelion y byddai yn fwyaf llwyddianus. Yr oedd yn un o feistriaid y gynulleidfa. Safai yn y ffrynt yn ei oes o ran sel a gwresogrwydd a difrifwch gyda gwaith y weinidogaeth, ac yr oedd yn un o'r gwylwyr mwyaf effro ar furiau Seion. Cymerodd ei farwolaeth le ar y 9fed dydd o Chwefror, 1887, pan ydoedd yn 72 oed.

DYFFRYN.

"Ychydig o leoedd yn Sir Feirionydd sydd yn fwy blodeuog o ran yr achos crefyddol, gyda'r Methodistiaid, na'r ardal hon." Fel yna yr ysgrifenwyd am yr ardal yn y flwyddyn 1850. Yr oedd y sylw yn wir y pryd hwnw, faint bynag o wir all fod ynddo yn awr, a gellir nodi dwy ffaith i brofi gwirionedd y sylw, Yr oedd o'r dechreu cyntaf drefn dda wedi ei chadw ar holl amgylchiadau yr eglwys yn y lle hwn, ac heblaw hyny, bu yma gewri o weinidogion a blaenoriaid yn golofnau o dan yr achos yn yr amser aeth heibio. Hysbys ydyw mai gwlad agored ydyw yr ardal hon, yn gorwedd ar lan y môr, oddeutu haner y ffordd rhwng Abermaw a Harlech, a'i thai a'i thrigolion yn wasgaredig. Nid yw ei phoblogaeth wedi cynyddu yn ystod y deugain mlynedd diweddaf, yn gyffelyb i leoedd eraill, felly y mae ganddi yr anfantais hono, o leiaf, i gadw ar y blaen ymhlith eglwysi y sir. Pa fodd bynag, i Fethodistiaid lliosog Sir Feirionydd fe bery crefyddwyr y Dyffryn yn hir yn "garedigion oblegid y tadau," ac erys y lle byth yn gysegredig yn eu teimlad, oblegid yma y mae Machpelah, lle yr huna amryw o enwogion a fu gynt yn arweinwyr crefydd yn y wlad. Ceir cryn lawer o hanes dyddorol am ddechreuad yr achos yn y Dyffryn yn Methodistiaeth Cymru, ac y mae hyny i'w briodoli yn benaf i'r ffaith fod y Parch. Richard Humphreys yn fyw pan oedd y gwaith hwnw yn cael ei barotoi i'r wasg, a dywed yr awdwr mai i'r gŵr parchedig o'r Faeldref yr oedd yn ddyledus am yr hanes. Nis gallwn wneuthur yn well, yn gyntaf oll, na rhoddi y dyfyniad canlynol yn llawn,—

"Dechreuad achos y Methodistiaid yn y Dyffryn oedd yn debyg i hyn. Yr oedd brawd a dwy chwaer, mab a merched i wr o'r enw Richard Humphrey, yn arfer myned i wrando pregethu i Ben-yr-allt, gerllaw Harlech, sef i dŷ y Griffith Ellis y soniasom fwy nag unwaith am dano, ac wedi ymuno hefyd â'r gymdeithas eglwysig a ffurfiasid yno. Fe fyddai ambell odfa, y pryd hwn, yn cael ei chynal yn y Dyffryn, yr hwn sydd tua phum milldir o Harlech ;-cedwid yr odfeuon allan yn yr awyr agored. Ymddengys mai nid yn yr un fan y cedwid yr odfeuon hyn, ond weithiau yma ac weithiau acw. Mae son, pa fodd bynag, am un yn cael ei chynal mewn lle a elwir Clwt-y-gamfa-wen; gwnaed yr odfa hon yn fwy hynod, oherwydd yr aflonyddu a fu arni.

"Yr oedd yn Nghors-y-gedol, ar y pryd, wr o'r enw Griffith Garnetts, math o ymddihynydd ar y teulu boneddig. Hwn, ynghyd ag un o'r dynion a berthynai i'r helwriaeth, a ddaeth at y gynulleidfa. Nid oedd y teulu Vaughan yn gwneyd dim sylw personol ac uniongyrchol o ysgogiadau y Methodistiaid; ond yr oedd y Garnetts hwn, naill ai wedi cael ei yru yn ddirgel ganddynt, neu ynte, yr hyn hefyd sydd yn fwyaf tebygol, yr oedd o hono ei hun yn prysuro i gyflawni y gorchwyl, a dybid ganddo yn gymeradwy ganddynt, a thrwy hyny enill mwy o'u ffafr. Y gwr ag oedd yn awr yn pregethu oedd William Evans, o'r Fedw-arian. I aflonyddu ar yr odfa, ac i ddyrysu y pregethwr, gorchmynai Garnetts i'r dyn oedd gydag ef chwythu y corn hela ei oreu, fel na chlywid llais y pregethwr. Chwyth yn ei glust o, Sionyn,—Chwyth yn nghlust y dyn â'r llyfr.' Felly y gwnaeth Sionyn, a hyny mor effeithiol, nes y bu raid i'r pregethwr dewi; y bobl hefyd a ymwasgarasant o'r lle, ond ymgynullasant eilwaith ar lan y môr, lle y tybient y gallent honi hawl i sefyll yn ddiwarafun; a lle y cawsant lonyddwch i wrando heb ychwaneg o ymyriad.

"Byddai R. Jones, Rhoslan, yn arfer dyfod y pryd hwn i bregethu i'r Dyffryn. Gwrandewid arno ef yn well nag ar nemawr neb a ddeuai; yn benaf am fod ei ddull o bregethu yn fwy tawel a digyffro, agwedd dra gwahanol i ddull y rhan fwyaf o bregethwyr y dyddiau hyny. Yr oedd hefyd yn arfer dyfod i'r ardal weithiau, i dori llythyrenau ar gerig beddau. Galwyd arno i wneyd hyn, amryw weithiau, i deulu Cors-y-gedol. Unwaith, pan yn llythyrenu yn y modd hwn, ar gareg fedd yn mynwent Llanaber, daeth Garnetts ato, i ddweyd fod yn ddrwg ganddo aflonyddu dim arno ef fel pregethwr, ac yntau yn arfer gweithio i Mr. Fychan, Cors-y-gedol; ond dywedai wrtho, yr un amser, y gwnai ef eto yr un peth, os anturiai Robert Jones bregethu yn y gymydogaeth hono. Ar hyn, ebe Robert Jones, A welwch chwi y bedd yna, Mr. Garnetts? fe fydd pregethu yn y Dyffryn pan fyddwch chwi yn gorwedd mewn lle fel hwnyna."

"Yr oedd y bedd y cyfeiriai Robert Jones ato yn agored ar y pryd, ac yntau yn ddyn yn ei gyflawn nerth. Tybiodd Garnetts ei fod ar fedr ymaflyd ynddo a'i roi yn y bedd y pryd hwnw,—dychrynodd drwy ei galon, a chan y dychryn, neu gan rywbeth o'r fath, fe'i hataliwyd rhag aflonyddu yr odfaon o hyny allan.

"Cymerodd hyn le cyn y flwyddyn 1780. Yn y flwyddyn hono, cymerodd Griffith Richard, sef mab Richard Humphrey, rwym-weithred (lease), ar ddarn o dir gan dad Dafydd Ionawr;[36] adeiladodd dŷ arno, ac i'r tŷ hwn y derbyniodd bregethu, fel na feiddiodd neb, o hyny allan, aflonyddu arnynt mwy. Yn lled fuan ar ol hyn, fe ddechreuwyd cyfarfod eglwysig mewn ystafell fechan yn y tŷ. Y mae un a ymunodd â'r eglwys fechan hon yn y flwyddyn 1785, yn awr yn fyw. Nifer yr aelodau ar y pryd oedd 15. Yn fuan ar ol hyny, adeiladwyd capel bychan gan Griffith Richard, yn benaf os nad yn gwbl, ar ei draul ei hun. Bellach yr oedd pregethu amlach a mwy cyson yn y lle; yr oedd rhagfarn y bobl yn lleihau, a gradd o effaith y pregethau yn aros ar feddyliau amryw. Tua'r cyfnod hwn, ymwelodd yr Arglwydd a'r ardal â diwygiad nerthol, nes yr aeth y capel bychan yn llawer rhy fychan i gynwys y gwrandawyr ag oeddynt bellach yn heidio i'r odfaon; a chwanegwyd amryw at rifedi yr eglwys.

"Y pryd hwn, yr oedd gwr o'r enw Mr. Llwyd yn gurad yn eglwysi Llanenddwyn a Llanddwywe (dau blwyf yn y fro), yr hwn oedd o leiaf yn deall yr efengyl, ac yn ei phregethu yn oleu a nerthol. Nid ydym mor sicr pa faint o ddylanwad yr efengyl a brofid gan ei galon ef ei hun. Bu farw yn Sir Aberteifi, a hyny, meddir, dan yr enw o fod yn gybydd truenus. Yr oedd ei weinidogaeth, pa fodd bynag, yn effeithiol iawn; ymgynullai canoedd i wrando arno, a mynych y byddai y llanau yn adsain gan lais gorfoledd a chân. Ond ni oddefid i'r llanau gael eu halogi (1) yn y modd yma yn hir. Gosododd teulu Cors-y-gedol eu hwynebau yn erbyn Mr. Llwyd, a bu raid i'r Wardeiniaid un Sabbath gyhoeddi yn yr eglwys, mewn ffordd o rybudd i'r gynulleidfa, y byddai raid i bawb aros yn ei blwyf ei hun, a pheidio a heidio yno yn lluoedd, gan eu bod yn difetha yr eglwys. Ond ni chafodd y cyhoeddiad hwn fawr o effaith ar y bobl.

"Yr oedd y curad yn pregethu heb lyfr, yr hyn oedd yn beth newydd iawn yn y llanau y pryd hwnw. 'Yr oedd y rector ei hun,' medd fy hysbysydd,[37] yn offeiriad o'r hen ffasiwn, yn caru byw yn llonydd a diofal, yn darllen y bregeth fel y gwasanaeth; ac y mae yn ddigon tebyg, heb nemawr o law ganddo yn nghyfansoddiad y naill mwy na'r llall. Anfonodd un o'r wardeiniaid unwaith at y rector ar ol darllen y llithoedd, i ddywedyd ei fod yn disgwyl cael pregeth yn y gosber. Yntau a anfonodd yn ol i ddywedyd fod hyny yn anmhosibl, am na ddygasai bregeth gydag ef. Ond ni fynai y warden ei droi heibio, a dywedai fod yn rhaid iddo gael un. Felly, fe drodd y person at y curad gan ddywedyd, 'Tyr'd ti, Llwyd—tyr'd ti, Llwyd, y mae pregeth gen'ti pan mynir, ac felly bu raid i Llwyd bregethu.

"Yr oedd pregethau y curad mor anghymeradwy gan deulu Cors-y-gadol, fel y penderfynasant fynu ei droi ef ymaith. Galwyd Vestry fawr o'r plwyfolion i'r diben hwnw, a gosodwyd yr achos i lawr o'n blaen, heb ameu yn ddiau, nad oedd dylanwad y teulu bonheddig yn ddigon i droi y glorian. Anturiodd un gŵr, pa fodd bynag, o'r enw Harri Roberts, Uwchlaw-y-coed, i ofyn, 'Pa ddrwg y mae Mr. Llwyd wedi ei wneyd?—am ba beth yr ydym yn ei droi ef i ffordd?' Atebodd un o'i wrthwynebwyr, Y mae ê yn curo clustog y pulpud, ac yn ei difetha hi a'r pulpud hefyd.' "Wel,' ebai Harri Roberts, 'mi dalaf fi am glustog newydd yn ei lle, pan dderfydd hi.' Ond ni wnai hyny mo'r tro, er fod y gŵr a addawodd wneuthur y glustog yn dda, yn ŵr cyfrifol a pharchus yn yr ardal;—i ffordd yr oedd yn rhaid i'r curad fyned. A myned ymaith a wnaeth; ac ar ei ymadawiad ef, ymadawodd yr holl rai hyny yn y gynulleidfa ag oedd a dim difrifol ar eu meddyliau, ac ymunasant â'r Methodistiaid: ac yn eu mysg yr oedd Harri Roberts, yr hwn, gyda'i frawd Richard Roberts, a Griffith Richard, a adeiladodd y capel, a gŵr arall o'r enw Sion Evan, oedd yn cyfansoddi y dosbarth cyntaf o flaenoriaid neu ddiaconiaid yr eglwys yn y Dyffryn." —Methodistiaeth Cymru I., 533-535.

Y mae llawer o ddelw yr Hybarch Richard Humphreys ar y pethau a adroddir uchod. Yr oedd ganddo ef fantais nodedig i adrodd yr hanes, gan ei fod yn frodor o'r ardal, ac yn dal perthynas agos â'r rhai a gychwynasant yr achos. Crybwyllir am ddau amgylchiad arall, yn ychwanegol at yr hyn a adroddir uchod, mewn cysylltiad â'r rhai y ceir enw Sidney Dafydd, gŵr a fu wedi hyny yn grefyddwr disglaer yn Abermaw, am yr hwn y coffheir ynglyn â'r eglwys yno. Daeth William Evans, or Fedw-arian, i'r Dyffryn i bregethu, ac ar y traeth yr oedd yr odfa i gymeryd lle. Ymgasglodd haid o lanciau y gymydogaeth ynghyd, gan lwyr fwriadu atlonyddu yr addoliad, a baeddu y pregethwr. Dygent gyda hwy gerig a phethau eraill i'w lluchio ato. Ymhlith y bechgyn gwylltion, ac yn flaenaf o honynt, yr oedd Sidney Dafydd. Ond pan y daeth ef i swn y canu, meddianwyd ef gan ddychryn, a gollyngodd y cerig a ddygasai gydag ef i'r llawr. Ei gyfeillion hefyd, pan welsant hyn, a lwfrhasant, ac ni bu ynddynt galon i aflonyddu ar y cyfarfod.

Y tro arall oedd pan y cedwid noswaith lawen yn Llanenddwyn, ac y digwyddai fod pregeth yr un noswaith yn nhŷ Griffith Richard. Yr oedd nifer o wŷr ieuainc wedi ymgasglu ynghyd i fyned i'r noswaith lawen, ond ofnent y byddai ambell un wedi myned i'r odfa yn lle dod gyda hwy. "Am hyny penderfynwyd ganddynt i Sidney Dafydd alw heibio'r odfa i edrych a oedd neb o'u cymdeithion yno. Pan ddaeth y genad at ddrws y tŷ, yr oedd y pregethwr yn cymeryd ei destyn, sef Ymfendithio o hono yn ei galon ei hun, gan ddywedyd, Heddwch fydd i mi, er i mi rodio yn nghyndynrwydd fy nghalon, i chwanegu meddwdod at syched' (Deut. xxix. 19). Glynodd y geiriau fel saeth yn ei galon;—hoeliodd ef wrth y fan, fel na allai fyned i ffordd at ei gyfeillion. Arhosodd i wrando yr holl bregeth, a chafodd ei hun yn y diwedd yn nghanol y tŷ, wedi ei lwyr orchfygu, ac wedi bod yn gwaeddi allan am ei fywyd, fel un a welsai ei ddirfawr berygl."

Rhoddwyd yr hanes canlynol gan Mr. Robert Evans, Trefriw, tad y Parch. Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd). Yr oedd y gŵr hwn yn enedigol o'r parth hwn o Orllewin Meirionydd, ac yn y sir hon yr ymunodd â chrefydd; bu yn byw am beth amser yn Mhwllheli, ond treuliodd y rhan fwyaf o lawer o'i oes yn Nhrefriw. Meddai graffder neillduol, côf rhagorol, ac ymddifyrai mewn adrodd helyntion boreuol y Cyfundeb. Yn ei hen ddyddiau ysgrifenodd grynhodeb o'r digwyddiadau a gymerasant le yn yr ardaloedd hyn yn nhymor ei ieuenctid. Ond gan na chyraeddasant y Parch. John Hughes yn ddigon prydlon i'w rhoddi gyda hanes Sir Feirionydd, y maent wedi eu cyfleu ar ol hanes Trefriw, yn y drydedd gyfrol o Fethodistiaeth Cymru. Mae yr hanes, fel y gwelir, wedi ei ysgrifenu gan un oedd yn llygad-dyst o'r holl amgylchiadau, ac y mae yn taflu goleuni, nid yn unig ar ddechreuad yr achos yn y Dyffryn, ond hefyd ar sefyllfa yr ardaloedd cylchynol, fel mai prin y byddai yr hanes yn y gyfrol hon yn gyflawn heb roddi y dyfyniad yn ei gyfanrwydd. Mae y ffeithiau yn cytuno ymhob peth o bwys â'r crynhodeb a roddwyd gan y Parch. Richard Humphreys,—

"Megis y crybwyllwyd eisoes, yr oedd pregethu yn Harlech ac Abermaw rai blynyddau cyn bod dim yn y Dyffryn. Y bregeth gyntaf, hyd y gallai Robert Evans wybod, a fu yn y Dyffryn, a draddodwyd gan Robert Jones, Rhoslan, ar y Morfa, dan Llanddwywe. Yr oedd yno dwmpath yn nghanol y gwastad, i ben yr hwn yr esgynai y pregethwr, ac oddiar y topyn gwyrddlas hwn efe a lefarodd yn hynod o ddifrifol ac effeithiol oddiar Gen. xix. 17, 'Dianc am dy einioes; nac edrych ar dy ol, ac na saf yn yr holl wastadedd;' a pheth teilwng i'w grybwyll ydyw na ddangoswyd y duedd leiaf i erlid, er mai dyma yr odfa gyntaf erioed a fu gan Ymneillduwyr o un enwad. Yr oedd Griffith Jones, Ynys-y-pandy, yn dechreu yr odfa o flaen Robert Jones. Ymhen enyd o amser ar ol hyn, daeth Thomas Evans, Waunfawr, i'r ardal; a'r lle y sefydlwyd arno iddo ef bregethu, oedd wrth y gareg filldir, yn y Coedcoch, lle y mae capel y Dyffryn yn sefyll yn awr. Pan glybu Rowland Williams, goruchwyliwr Cors-y-gedol, efe a ddaeth yno ar fedr lluddias Thomas Evans i bregethu; ac yr oedd yn y lle cyn i Thomas Evans gyrhaeddyd yno, ac yn ei ddisgwyl yn awyddus. Pan ganfu ef yn dyfod, efe a dorodd drwy y dorf i'w gyfarfod, a gofynodd iddo yn awdurdodol a llym, Pa beth ydyw eich gwaith yn heleyd ar draws y wlad, i ddyfod yma i beri cynwrf? Yr ydych chwi yn gwneyd llawer o ddrwg drwy beri anghydfod ac amrafaelion mewn teuluoedd; y wraig, feallai, yn myn'd ar eich ol, a'r gŵr yn sefyll yn erbyn.'

"I hyn yr atebodd Thomas Evans yn barchus ac arafaidd, 'Oni ddarllenasoch chwi yn y Beibl, Syr, i'n Hiachawdwr ei hun ragddywedyd mai felly y byddai gyda'i ddilynwyr ef? gan adrodd y geiriau yn Luc xii. 51-53; sef, 'Ydych chwi yn tybied mai heddwch y daethum i i'w roddi ar y ddaear? Nage meddaf i chwi, ond yn hytrach ymrafael, &c.'

"Yr oedd Thomas Evans mor barod yn ei atebion i holl wrthddadleuon y goruchwyliwr, fel y bu raid i'r olaf roddi y goreu iddo, a chyfaddef nad oedd wiw siarad âg ef. Felly fe droes ei gefn, gan orchymyn yn gaeth na ddeuai neb o honynt yno drachefn; a chafwyd llonydd i fyned ymlaen a'r odfa hyd ei diwedd.

"Y drydedd waith, daeth William Evans, Fedwarian, i'r Morfa, yn gyfagos i'r lle y bu Robert Jones y tro cyntaf yn pregethu. Daeth Rowland Williams y Sabbath hwn i'r eglwys, a threfnodd fyned i giniawa i'r Bennar isa', fel y byddai wrth law i atal unrhyw gyfarfod gymeryd lle ar y Morfa. A mawr oedd yr ymffrost ganddo ef a'i gyfeillion ar giniaw, pa orchestion eu maint a gyflawnent ar yr achlysur. Ymdrechai Lowri, gwraig William Bedward, eu llareiddio drwy ddweyd, Dyn, dyn! ni waeth i chwi eu gadael yn llonydd.' 'Na,' atebai Rowland Williams, os cânt lonydd, fe â yr holl wlad ar eu hol.'

"Pan welodd ef, a'r rhai oedd gydag ef, y pregethwr yn dyfod, allan a hwy i'w atal i bregethu yn y fan y bwriadwyd; ond wedi eu lluddias yno, aeth William Evans a'r dorf gynulledig i lan y môr. Yma y cawsant lonydd, gan yr ystyriai yr erlidwyr y traeth fel mynwent, yn llanerch gysegredig. Dro arall y daethai William Evans i'r Coedcoch i bregethu, daeth heliwr Corsygedol i'w ddyrysu trwy chwythu y corn hela, a bu raid i'r pregethwr a'r gynulleidfa gilio o'r lle.

"Y tri cyntaf," meddai Robert Evans, "a ymunasant â'r Methodistiaid yn y Dyffryn oeddynt, Griffith Richard a'i ddwy chwaer, Jane a Gwen Richard. Cafodd Griffith Richard ar ei feddwl adeiladu tŷ, yn y Coed-coch, am y ffordd â'r lle y mae capel y Dyffryn arno, ar gwr y cyttir. Ond fe ddarfu i deulu Cors-y-gedol ameu mai gyda golwg ar roddi lle i bregethu yr oedd ef yn adeiladu, a buont yn bygwth y gwnaent ei chwalu. Bu teulu Griffith Richard, gan hyny, yn gwylio llawer noswaith, rhag y rhoisent eu bygythiad mewn grym. Ond fe lwyddodd y gŵr i gael ei amcan i ben, er yr holl wrthwynebiad. Yr Arglwydd hefyd a'i cofiodd yntau, trwy goroni ei lafur â llwyddiant. Yr oedd Robert Evans, y pryd hyn, wedi ymadael â'r Dyffryn, ac yn aros yn y Penrhyndeudraeth. 'Mae yn gofus iawn genyf,' meddai, 'pan adeiladwyd y tŷ, cyn cael gwydr ar y ffenestri, na'i orphen, iddynt gael cyhoeddiad Robert Jones, Rhoslan, i ddyfod yno i bregethu y Sabbath, ddau o'r gloch; ac er fod ysbaid 58 mlynedd[38] er pan ddigwyddodd hyny, y mae mor gôf genyf a doe yr amgylchiadau rhyfedd a gymerasant le yn gysylltiedig â'r tro hwnw. Y nos Wener a'r dydd Sadwrn o flaen hyny, hi dorodd yn wlaw rhyfeddol. Yr oedd Robert Jones, ddydd Sadwrn, am ddau o'r gloch, yn pregethu yn Hendre-howel, lle yn agos i Dremadog, a'r nos yr oedd i fod yn y Penrhyn; ond yr oedd y traeth wedi llifo i'r fath raddau fel nad oedd obaith myned trwyddo. Gadawsai Robert Jones ei geffyl yn Hendre-howel, a daeth i lawr at y traeth ar ei draed; a phan y daeth i'r golwg, fe ganfyddai un yn parotoi ewch bychan ar fede croesi y Traeth mawr, i fyned i ddiogelu ewch arall oedd ganddo yn y Traeth bach,[39] rhag cael ei niweidio neu ei golli trwy y llifogydd. Hwn a gymerodd Robert Jones gydag ef, ac felly cafodd groesi yn brydlon a dirwystr. "Yr oedd cydweithrediad nodedig yn yr amgylchiad uchod, rhwng ymroddiad penderfynol y pregethwr ac arolygiaeth rhagluniaeth. Hawdd a fuasai i'r pregethwr ymesgusodi, ac edrychasid ar ei esgusawd yn un perffaith resymol o dan yr amgylchiadau; eto nid esgus i beidio oedd arno eisiau, ond rhwydd-deb i gyflawni ei addewid; a chan mai ar neges ei Dduw yr oedd, disgwyliai wrtho am ddrws agored. Gellir canfod pa fodd y mae y fath gyd-darawiad yn bod rhwng penderfyniad y pregethwr a darpariaeth rhagluniaeth, gan mai o'r un ffynon y codent. Ysbryd a rhagluniaeth yr un Duw oedd yma yn gweithio, a rhesymol ydyw disgwyl cyd-gordiad rhyngddynt.

"Cyrhaeddodd Robert Jones y Penrhyn heb ei ddisgwyl, oherwydd gorlifiant y Traeth. Tranoeth, sef y Sabbath, yr oedd ei gyhoeddiad i fod yn Harlech am naw o'r gloch; ond yr oedd y fath lif yn y Traeth bach, drachefn, fel yr oedd yn annichonadwy i neb fyned trwyddo heb gwch; a chwch nid oedd gan neb o'i amgylch; am hyny bwriadwyd iddo bregethu yn y Penrhyn. Ond cyn rhoddi i fyny yn llwyr, aeth Robert Jones, a rhai cyfeillion gydag ef, ac yn eu mysg yr oedd Robert Evans, i olwg y traeth, i edrych a geid unrhyw gyfleusdra i fyned trosodd. Ar eu gwaith yn dynesu at y lan, hwy a welsent gwch yn dyfod oddiwrth Tŷ-gwyn-y-gamlas, i fyny rhyngddo â'r lan arall. Aethant oll i'w gyfarfod, ac erbyn edrych, ewch ydoedd yn perthyn i long o Bwllheli, oedd wrth angor gerllaw y Tŷ-gwyn. Yr oedd myglus (tobacco) un o'r dwylaw ar y llong wedi darfod, a chyrchai tua'r Penrhyn er mwyn gwneyd y diffyg i fyny. Ar ddeisyfiad y brodyr, efe a gludodd yr holl fintai drosodd, a chafodd fodd trwy y wobr a roddwyd iddo i gael mwy o dobacco nag a ddisgwyliasai. "Gwnaethant bob brys bellach i gyraedd Harlech erbyn yr amser crybwylledig, sef naw o'r gloch; ond erbyn cyraedd yno, deallasant mai yn Mhen'rallt yr oedd yr odfa i fod, yn lle yn Harlech. Erbyn hyn, yr oedd wedi myned ymhell ar y diwrnod, a'r bobl a ddaethant ynghyd i Ben'rallt wedi blino yn aros, ac wedi ymwasgaru; rhai wedi myned tua'u cartrefi, ac eraill tuag eglwys y plwyf. Ond wedi eu myned at yr eglwys, digwyddodd fod yr offeiriad yn glaf, ac nad oedd dim gwasanaeth y Sabbath hwnw. Yr oedd Robert Jones a'i gymdeithion erbyn hyn yn neshau at Ben'rallt, ac yn ngolwg yr eglwys; a phan y gwelodd y bobl hwy, daethant yn lluoedd i'w dilyn a llanwyd tŷ Pen'rallt o ben bwy gilydd. Wedi darfod yr odfa yma, yr oedd yn rhy hwyr teithio i'r Dyffryn erbyn dau o'r gloch. Gan mai yr un offeiriad oedd yn darllen yn Llanbedr ac yn Llanfair, yr oedd y rhai a ddaethant at yr eglwys i ddisgwyl gwasanaeth yno wedi cael eu siomi fel y cawsai eu cymydogion yn y plwyf arall. Wrth i'r pregethwr a'i gwmni fyned trwodd, y plwyfolion hyn a'u dilynasant yn finteioedd i'r Dyffryn; a llanwyd tŷ newydd Griffith Richard y waith gyntaf erioed y defnyddiwyd ef i'r perwyl.

"Pan welodd amaethwr cyfrifol o'r plwyf y bobl yn gadael yr eglwys yn Llanfair ac yn myned i Ben'rallt, a'r lleill yn gadael eglwys Llanbedr i fyned i'r Dyffryn, efe a gymerodd ei geffyl ac a aeth nerth y carnau i Lanaber, i geisio y person, Mr. Parry, yr hwn oedd beriglor y ddau blwyf. Fel yr oedd mintai Robert Jones yn dychwelyd o'r Dyffryn, wedi darfod yr odfa, dyma y ddau, sef y person a'r ffermwr, yn dynesu atynt ac yn gyru yn erwin; a'r blaenaf yn gofyn yn gyffrous iawn i'w blwyfolion wrth yru heibio iddynt, A ydych chwi wedi myn'd i ddilyn y ffydd hon?' Un o'r plwyfolion a'i hatebai, 'Y mae yn ddigon rhaid i ni fyned i ddilyn rhyw ffydd; nid oedd acw ffydd yn y byd heddyw.'

"Pan oedd y brodyr crefyddol yn dychwelyd adref ar y Sarn hir tua machludiad haul, yr oedd cloch Llanbedr a Llanwnog yn canu. Yr oedd yr offeiriad yn ei waeledd wedi codi allan, fel y byddai i'r person gadw gosper yn un, a'r offeiriad yn y llall; er na fyddai gosper byth yn yr un o'r ddwy amseroedd eraill. Yr oedd Robert Jones yn dweyd ar ol hyn, ei fod yn meddwl yn sicr fod gan yr Arglwydd waith i'w wneyd yn y Dyffryn, ac na welodd ef dro hynotach un amser. Troes yr holl amgylchiadau i gydweithio fel ag i arwain y bobl i swn efengyl. Y ddau gwch i groesi y traethydd-dyfodiad diweddar y pregethwr yn cyraedd Pen'rallt—afiechyd yr offeiriad, a'r cwbl yn cyd-dueddu i'r un amcan."-Methodistiaeth Cymru, III. 196-199.

Y mae digon o sicrwydd i eglwys gael ei ffurfio yn y Dyffryn ymhen blwyddyn neu ddwy ar ol 1780, ac yn nhŷ Griffith. Richard y dechreuwyd cynal cyfarfodydd eglwysig. Nifer y crefyddwyr ar y pryd oedd pymtheg. Yr oedd rhai o'r aelodau cyntaf o sefyllfa dda yn y byd, ac yn ddiameu yn meddu mesur o ddylanwad yn yr ardal. Ceid yma hefyd, megis y crybwyllwyd eisoes, drefn dda ar yr achos o'r dechreuad. Mor foreu a'r flwyddyn 1787, ceir enwau yr holl aelodau yn ysgrifenedig mewn llyfr perthynol i'r eglwys. Eu nifer y flwyddyn. hon oedd saith ar hugain. Wele eu henwau fel y maent i lawr yn y llyfr-Griffith Richard, Caty Griffith, Owen Morgan, Jane Richards, Richard Roberts, Margaret Ellis, Anna Griffith, Richard Roberts, Richard Davies, Lowri Pugh, Griffith Griffiths, Jane Evan, William Jones, Thomas Roberts, Robert Richard, Evan Williams, Henry Roberts, Jane Roberts, Jane Roberts, Pentra; Jane Jones, Ellin Griffith, Frances Poole, Betty Richards, Lowri Evan, Catherine Williams, Margaret Price, Ellin Harry. Yn y rhestr hon, gwelir fod y meibion yn yr eglwys yn lliosog mewn cymhariaeth i'r hyn a geid yn eglwysi y sir yn y cyfnod hwn, eto, hyd yn nod yma, mae nifer y gwragedd oeddynt wedi ymrestru yn ganlynwyr yr Iesu yn lliosocach na'r meibion. Yr oedd eu casgliad at y weinidogaeth yn dyfod tuag wyth swllt y mis. Yn y flwyddyn 1800 ceir rhif yr aelodau yn y llyfr yn 80. Dengys hyn fod yr eglwys hon y tymor hwn y liosocaf yn Ngorllewin Meirionydd. Y mae yn deilwng o sylw fod cofrestr aelodau yr eglwys wedi ei chadw yn bellach yn ol, o leiaf o ugain mlynedd, na dim y daethpwyd o hyd iddo yn yr un ardal arall. Ac mae y gofrestr wedi ei chadw yn ddifwlch o hyny hyd yn awr. Ymhen llawer o amser ar ol dechreu cadw y cyfrifon cyntaf hyn, cymerodd rhywun y dyddordeb i ail rwymo yr hen lyfr mewn rhwymiad lledr cryf a chadarn, yr hyn a rydd gyfrif dros fod enwau ffyddloniaid yr eglwys hon wedi goroesi cynifer o flynyddoedd heb gael eu difwyno.

Gwnaethpwyd gwaith nid ychydig gan eglwys y Methodistiaid yn y Dyffryn o dro i dro, mewn adeiladu a harddu tŷ yr Arglwydd. Adeiladwyd y capel cyntaf, yr hwn oedd yn gapel bychan, gan Griffith Richard, yn benaf, os nad yn gwbl, ar ei draul ei hun.' Cymerodd hyn le, fel y gellir casglu oddiwrth y gwahanol ddigwyddiadau yn yr hanes, yn y flwyddyn 1790, ymhen rhyw saith neu wyth mlynedd wedi dechreu cynal cyfarfod eglwysig yn nhŷ yr un gŵr. I'r capel hwn, sef yr adeg y gwnaethpwyd ef yn dy y tro cyntaf, y gwnaeth Robert Jones, Rhoslan, yr ymdrech neillduol, y cyfeiriwyd ati yn barod, i ddyfod i bregethu am Sabbath o Sir Gaernarfon, tra yr oedd y gwaith o'i adeiladu ar y canol, sef 'cyn rhoi gwydr ar y ffenestri.' Yn fuan wedi hyn, ymwelodd yr Arglwydd â'r ardal a diwygiad nerthol, ac mewn canlyniad, daeth y gwrandawyr yn, llawer lliosocach, ac ychwanegwyd amryw at yr eglwys. Yn y flwyddyn 1795, helaethwyd y capel dri chymaint ag oedd ar y dechreu; er hyny, mynych y byddai yn llawer rhy lawn i fod yn hapus ynddo,' Ymddengys i'r eglwys gymeryd rhan yn y gwaith o adeiladu y tro hwn, ond yr oll a wyddis am y draul ydyw ddarfod talu y swm o 43p. 15s. 6c. am weithio y capel. Y pryd hwn byddai y Sassiwn yn estyn cymorth i adeiladu capeli yn yr holl siroedd. Ond nid oes hanes i'r Dyffryn dderbyn yr un ddimai o'r ffynhonell hono. Gelwid y capel cyntaf, ac wedi iddo gael ei ail adeiladu yr un modd, Capel Coch, oherwydd iddo gael ei adeiladu ar lanerch o dir oedd yn myned dan yr enw Coed Coch. Safai yn is i lawr na'r capel presenol, heb fod ymhell oddiwrth y Post Office. Capel Coch y geilw hen bobl y Dyffryn y capel cyntaf hwn hyd heddyw.

Yn y flwyddyn 1820 yr adeiladwyd y capel yn y lle y mae yn bresenol. Dyddiad y weithred am hwn ydyw 1823. Cafwyd y tir gan Henry Roberts, Uwchlaw'rcoed, am 18p. Dyled y capel ymhen y flwyddyn ar ol ei adeiladu, yn ol papyrau a gafwyd yn Uwchlaw'rcoed, oedd 476p. Ymhen y deng mlynedd helaethwyd ef drachefn, trwy osod oriel (gallery) arno. Yn y capel hwn y daeth yr eglwys a'r achos yn nodedig o flodenog, yn nyddiau y cewri oedd yn byw yn yr ardal. Yn 1850, yr ydym yn cael fod 100p. o ddyled arno. Ond 100p. oedd hwn, fel y tybir, a osodasid arno rhyw bum' mlynedd yn flaenorol, i dalu dyled y capelau yn nosbarth Ffestiniog. Helaethwyd ac addurnwyd y capel eto, a dygwyd ef i'r wedd allanol y mae ynddo yn bresenol oddeutu y flwyddyn 1863. Mae y ddyled ar ei gyfer yn yr ystadegau ymhen dwy flynedd ar ol hyn yn 1150p., a diameu i'r capel y waith hon gostio llawer mwy, gan eu bod wedi talu swm da o'r ddyled yn flaenorol. Hysbys ydyw i'r Parch. E. Morgan gymeryd rhan helaeth o'r trymwaith gyda'r adeiladu y tro hwn, ac yr oedd ef yn dwyn mawr sel, nid yn unig am i'r capel fod yn adeilad da, ond am iddo edrych yn dda oddimewn ac oddiallan. Y flwyddyn hon (1889), mae y capel yn myned dan gyfnewidiad trwyadl o'r tumewn, ond gadewir y tuallan yn gwbl fel yr oedd o'r blaen. Eir i draul gyda hyn o dros 800p. Adeiladwyd Ysgoldy Egryn, yr hwn sydd tua dwy filldir yn nes i'r Abermaw, oddeutu y flwyddyn 1836. Helaethwyd ac adnewydd wyd ef drachefn yn 1870. Cynhelir yma Ysgol Sul y boreu, a phregeth ddau o'r gloch.

Yn 1816, ceir ymysg rhestr y Teithiau Sabbothol fod Bontddu, Abermaw, a'r Dyffryn yn un daith. Wedi hyny, bu y Dyffryn a'r Gwynfryn yn hir gyda'u gilydd. Ionawr 1854, penderfynwyd, trwy ganiatad y Cyfarfod Misol, i'r Dyffryn ac Ysgoldy Egryn fod yn daith, ac felly y maent hyd yn awr.

YR YSGOL SABBOTHOL.

Yn ol yr hysbysiadau a geir, oddeutu y flwyddyn 1797 y dechreuwyd yr Ysgol Sabbothol yma gyntaf, sef ar lawr pridd yr hen Gapel Coch. Yr oedd trigolion yr ardal y pryd hwn yn ddwfn iawn mewn anwybodaeth o'r Ysgrythyrau; nid oedd nemawr drefn ychwaith ar yr ysgol yn ei dechreuad cyntaf. Yn fuan ar ol ei chychwyniad, cafodd yr ysgol fantais fawr trwy ddyfodiad Mr. Thomas Bywater i'r gymydogaeth i gadw ysgol ddyddiol. Bu ef o wasanaeth mawr i'r brodyr yma, megis y bu yn y Bermo, trwy eu cynorthwyo i drefnu yr ysgol yn ddosbarthiadau o feibion a merched, cymwys o ran cyfartaledd mewn oedran a chyrhaeddiadau. Bu un Mr. Davies, hefyd, hen athraw ysgol ddyddiol, wedi hyn yn help mawr yn yr ystyr yma. Teilynga y rhai canlynol i'w henwau gael eu trosglwyddo i'r oesoedd a ddel mewn cysylltiad a sefydliad a dygiad ymlaen yr Ysgol Sabbothol yn yr ardal:— Sion Evan, Caetani; Harry Roberts, Uwchlaw'rcoed; Robert Sion, Glanrhaiadr; Hugh Evan, Hendre-eirian; Robert Sion, y Felin; Evan Sion, Llwyngwian; Rhisiart Sion, y Ffeltiwr, &c., rhai nad oes betrusder i ddweyd ddarfod iddynt wasanaethu eu cenhedlaeth yn ol ewyllys Duw" cyn cael eu casglu at eu tadau." Bu yr Hybarch Richard Humphreys yn dysgu plant bach i sillebu geiriau unsill yn yr hen Gapel Coch; ac adroddir ambell chwedl ddigrifol am dano yn traethu adnoddau ei feddwl cyfoethog, a'i arabedd yn yr ymarferiad hwn. Wedi symud i'r capel mawr, fel ei gelwid, yn 1820, ac am yr ugain mlynedd dilynol-tymor euraidd yr Ysgol Sabbothol yn Nghymru-dywed y bobl hynaf sydd yn awr yn fyw, fod gwedd flodeuog ac ardderchog ar y sefydliad yn y Dyffryn; y capel eang yn orlawn adeg yr ysgol bob amser; y dosbarthiadau yn drefnus, a phawb yn ufuddhau gyda phob parodrwydd i bob trefniadau a osodid ar yr athrawon a'r deiliaid. Bu Harry Roberts, Uwchlaw'rcoed, a Sion Evan, Caetani, yn ddau gyd-arolygwr tra buont byw. Nid oedd son am newid arolygwyr yn eu hamser hwy, ac yn wir nid arolygwyr oeddynt, ond blaenoriaid yr ysgol, a'r rheol gyffredin fyddai, pan y cyfodai dadl ar unrhyw bwnc ag y methid ei benderfynu yn y dosbarth, galw un o'r ddau arolygwr i'r dosbarth i benderfynu y ddadl. O'r ysgol flodeuog hon y sefydlwyd cangen yn Hendre-cirian, yr hon a symudwyd i Ysgoldy Egryn. Bu cangen hefyd unwaith mewn tŷ wrth droed y Moelfra a elwid Bronyfoel. Bu cangen arall yn Nghoed Ystumgwern. Rhifa ysgol y Dyffryn yn bresenol (1889), gan gynwys y canghenau, 332.

Y COFNODYDD EGLWYSIG.

Llyfr ydyw hwn y dechreuwyd ei gadw Ionawr 1847, lle y ceir hanes yr holl aelodau, cofnodion cyfarfodydd eglwysig, symudiadau, diarddeliadau, &c., enwau y rhai y buwyd yn ymddiddan â hwy; yr hyn fu dan sylw yn y cyfarfodydd eglwysig, darllen cyfrifon, pregethau y Sabbath, &c. Yr oedd y Parch. John Williams, Ysgrifenydd y Cyfarfod Misol, yı hwn a ymfudodd wedi hyny i'r America, yn byw yma dros ryw hyd y tymor hwn. Ei waith ef oedd darparu y llyfr hwn, ac yn ei lawysgrif ef y mae yr holl gofnodion sydd ynddo am ddwy neu dair blynedd. Wele rai engreifftiau o'i gynwys,—Rhag. 8, 1847, y son oedd fod teulu————wedi colli eu lle yn y ffair fu yno; dangoswyd nad oedd y drwg cynddrwg a'r son oedd yn ei gylch." "Cynghorwyd pawb i ymgadw rhag yr ysfa bechadurus o frokio ar hyd glan y môr." "Rhag. 29, ymdriniwyd am bregethau y Sabbath gan Lewis William." Adeg arall, "Am yr ordinhad." Adeg arall, "Am bethau y Cyfarfod Misol," "Talu ein ffordd, a gwneuthur cyfiawnder, yr hyn a achlysurwyd trwy wrthgiliad————" "Anog plant y Society rhag myned i'r ffair." "Hysbyswyd na oddefid neb yn yr eglwys i fyned i briodasau pan fyddai y rhai a briodid yn myned i'r stat hono yn anweddus." "Holi penau tenluoedd ynghylch y ddyledswydd deuluaidd." "Rheolau y Society." "Pregethau y Sabbath, gan D. D., Penmachno." "Erthyglau y Gyffes Ffydd." Engreifftiau yn unig yma ac acw ydyw yr uchod. Pe cadwesid y llyfr fel hyn yn ddifwlch, buasai cyfoeth o hanes yr eglwys ar gael, ond ni wnaed hyny ond ar adegau yn unig.

Y CYMDEITHASFAOEDD.

Ni chedwid Cymdeithasfaoedd yma yn yr hen amser, yr hyn oedd braidd yn hynod, ac ystyried fod yr eglwys y pryd hwnw yn un mor gref ac enwog yn y sir. Ond y tebyg ydyw, mai yr achos o hyn oedd fod yr ardal yn wasgarog, ac ychydig o dai ynddi yn gymwys i letya dieithriaid. Y gyntaf y ceir ei hanes oedd yr un a gynhaliwyd yma yn mis Hydref, 1845. Nid oedd hon yn Gymdeithasfa Chwarterol, ond un sirol a gedwid yn lle y rhai fyddai arferol a bod yn flynyddol yn Nolgellau a Thowyn. Ceir ei hanes yn y Goleuad am Dachwedd 29, 1888. Cynhelid y moddion cyhoeddus yn y maes agored o flaen y capel presenol. Pregethwyd y nos gyntaf gan y Parchn. John Jones, Capel Dewi, a L. Edwards, M.A., Bala. Yr ail noson, gan y Parchn. John Phillips, Bangor, a John Hughes, Liverpool. "Ar ol y bregeth hon," adroddai un o'r dieithriaid oedd wedi dyfod i'r Sassiwn, "Cyhoeddodd Mr. Humphreys ar i bawb dieithriaid oedd eisiau lle i aros ar ol, a phawb cymydogion oedd yn bwriadu cymeryd dieithriaid hefyd i ddyfod i'r llawr ar ei law ddeheu. Erbyn hyn yr oedd ein hofnau am le yn dechreu chwalu, gan y gwelem fod yno fwy yn disgwyl am ddieithriaid nag oedd o ddieithriaid yn disgwyl am le, a Mr. Humphreys yn dod o'r naill ochr i'r llall o hyd tan ofyn, 'Oes yma neb eto eisiau lle? Deued i'r ochr yma.' Rhoddodd un Lewis Evans bedwar o honom-dau o Sir Gaernarfon, a da o Sir Feirionydd-i ofal merch ieuanc, gan addaw i ni lety cysurus, a chawsom ef felly wedi ei gyraedd. Wedi goddiweddyd y teulu, gofynodd y fam i'r ferch faint oedd gyda hi o ddieithriaid? Wedi cael y cyfrif, 'Purion, purion,' atebai yr hen ŵr, 'fe gant fyned i'r daflod neu rywle.' 'Mae Lewis Evans,' ebai hithau, wedi dweyd y cant le pur gysurus.' Ho, y mae Lewis Evans yn un go groesawgar ei hunan, ac y mae yn meddwl fod pawb fel y fo ei hun.' Cawsom, yn ol rhagfynegiad Lewis Evans, le cysurus dros ben, a style uwch nag yn y wlad yn gyffredin. Rhaid i mi goffa yn arbenig am ferch fechan oedd yno, yr ieuangaf yn y teulu. Nid oedd dim modd cael lle digon gwastad ganddi i bobl ddieithr y Sassiwn. Ar ol i bawb ddarfod bwyta, gwaeddodd allan, Rhowch ddigon o fwyd i'r bobl ddieithr, mam.' Boreu dranoeth, am chwech, pregethodd Morris Anwyl, Bala, a Mr. Williams, Carneddi, Sir Gaernarfon. Am wyth, society, pryd yr ymdriniwyd ar ddyledswyddau rhieni tuag at eu plant. Daeth yn gawod o wlaw lled drom, a gollyngwyd y dyrfa oedd yn y cae i'r capel, a throwyd y gweddill o'r seiat yn gyfarfod dirwest. Areithiwyd ar ddirwest gan Mr. Rees. Pregethwyd yn gyntaf am ddeg gan y Parch. John Hughes, oddiar y frawddeg, Ac yn y byd a ddaw,' yn niwedd y 30ain adnod, o'r 10fed benod o Marc. 'Y byd a ddaw' oedd y testyn a'r bregeth. Dadseiniai y pregethwr y frawddeg hon laweroedd o weithiau gyda'i lais addfwyn a nefolaidd, nes yr oedd wedi dwyn y gynulleidfa oll i deimlo fod y byd a ddaw yn agos atynt. Testyn y Parch. Henry Rees ar ei ol oedd, 'Beth fydd diwedd y rhai nid ydynt yn credu i efengyl Duw.' Pregeth effeithiol a nodedig iawn oedd hon. Ar ol trin yn effeithiol am wreiddyn, natur, a llwybrau anghrediniaeth, daeth at y cwestiwn, 'Beth fydd y diwedd?' Gofynai, 'Beth fydd y diwedd?' deirgwaith neu bedair, mewn dull syn a difrifol dros ben, heb gynyg rhoddi yr un atebiad, a chan sefyll yn fud am enyd rhwng pob gofyniad, ac yna gofynai,

Beth fydd y diwedd?' fel pe buasai yn myned i ateb, ond yn lle hyny dywedai, 'Fedra' i ddim ddweyd, wn i ddim.' 'Beth fydd y diwedd?' Fedra' i ddim dweyd, y mae y Beibl yn methu dweyd; 'dydyw y Beibl yn rhoi yr un ateb,' nes yr oedd y sobrwydd hyny y gweddiai ef ei hun mor ddwys am dano wrth fyned i ddweyd am hyn, wedi disgyn i raddau ar y gynulleidfa. Ar ol cyhoeddi pwy oedd i bregethu am ddau, anogai Mr. Humphreys bawb i fod yn groesawus o'r dieithriaid, 'Ac os gwelwch rywun,' meddai, 'a chôt go lwyd am dano, a blewyn go fras ynddi, wnaiff y bwyd ddim colli ei flas wrth ei roddi i hwnw,' Am ddau, pregethodd y Parchn. John Jones, Capel Dewi, a John Hughes, Liverpool. Am chwech, Mr. Phillips a Mr. Rees."

Cynhaliwyd yr ail Gymdeithasfa, yr hon oedd yn un Chwarterol, o dan lywyddiaeth y Parch. W. James, B.A., Manchester, yn y Dyffryn, Rhagfyr 11, 12, 13, 1888. Dygwyd yr holl drefniadau ymlaen ar ran yr eglwys mewn modd hynod o hwylus a didramgwydd.

Cyn rhoddi byr hanes am y swyddogion, buddiol fyddai crybwylliad am rai eraill a fu yn wasanaethgar i'r achos, ymhlith y meibion a'r gwragedd. Lewis Evans o'r Ffactri, a fu yn athraw diwyd, cyson, ac ymroddgar. Dangosodd mewn adeg foreu ar ei oes, a chyn iddo symud i fyw i'r ardal hon ei fod yn ŵr crefyddol, ac yn berchen ar egwyddor sefydlog. Gwnaeth lawer o wasanaeth i grefydd yn ei ddydd. Bu farw Medi 12, 1852. Hugh Evan, o Hendre-eirian, oedd wr rhadlon, cymeradwy gan bawb, a ffyddlon i achos crefydd yn ei holl ranau. Robert Jones, y Felin, oedd frawd selog a brwdfrydig, yn ddarllenwr mawr ar y Beibl, a llyfrau eraill; a thrwy ei sylwadau gadawai i'r frawdoliaeth gael mwynhau yn helaeth o ffrwyth yr hyn a ddarllenai. Un o ddynion mwyaf craffus ac anturiaethus yr ardal oedd Griffith Richard o Ddolgau, "Yr oedd yn proffesu crefydd gyda'r Methodistiaid, ac yn arddangos cryn dipyn o sel ac yni." "Prif arebydd y wlad oedd Rhisiart William o Gors Dolgau; ac yr oedd yn deilwng iawn o'r gadair."

O blith gwragedd a merched rhagorol yr ardal, gellir nodi rhestr faith. "Yr oedd Catherine Pool, o Egryn, yn un hynod mewn synwyr, pwyll, a doethineb." Lowri Williams, o'r Benar Isaf, neu modryb Lowri, fel y cyfeirid ati gyda pharch ac edmygedd gan Mr. Humphreys yn yr ysgrif a ymddangosodd ganddo yn y Methodist yn y flwyddyn 1855, oedd un o gymeriadau amlycaf yr ardal mewn addfedrwydd barn, uniondeb egwyddor, a hynawsedd ysbryd a thymer dda. Gwen Evans, Ffactri, fel ei phriod Lewis Evans, a fendithiwyd â chymeriad crefyddol uchel anghyffredin. Crefydd a son am grefydd oedd ei hyfrydwch penaf hi. Cyrhaeddodd oedran mawr; yr oedd dyddiau blynyddoedd ei heinioes ryw gymaint dros gan' mlynedd; ac yn ei chanfed flwyddyn, arddangosai gymaint o sel grefyddol ag unrhyw un o'i chyd-broffeswyr. Un o wragedd parchusaf yr eglwys oedd Mrs. Gwen Pugh, gweddw Mr. Pugh, blaenor enwog yn eglwys Salem, Dolgellau, a pherthynas agos i Mr. Humphreys. Ar ol myned yn weddw cadwai dŷ capel y Dyffryn, ac yn y sefyllfa hon, lletyodd lu mawr o weision yr Arglwydd, a chyflawnodd eu hangenrheidiau yn rhad am lawer o flynyddoedd. Gan ei bod yn gefnog o ran pethau y byd, cyfranodd lawer at achos y Gwaredwr. Ar lawer cyfrif, ystyrid hi yn un o'r llywodraethwyr yn yr eglwys. Pan yr aeth ei chlyw yn ddrwg, eisteddai ar risiau y pulpud. Yn y seiat o flaen Cyfarfod Misol a gynhelid yn y Dyffryn, gofynai Mr. Humphreys i Mrs. Pugh, medd ein hysbysydd, "Wel modryb, beth sydd arnoch chwi eisiau at y Cyfarfod Misol?" "Mae arnaf eisiau," atebai hithau, "hyn a hyn o wenith, a hyn a hyn o fenyn, a hyn a hyn o bytatws," &c. Yna penderfynid gan yr eglwys fod iddi gael yr hyn a ofynid ganddi, ac weithiau trefnid yn gyhoeddus fod un i dd'od a'r peth yma, a'r llall y peth arall, yn ol fel byddai yr angen, ac yn ol fel byddai cyfleusdra y gwahanol aelodau. Fel hyn yn gyffredin yn y dyddiau hyny, y trefnid tuag at dreuliau allanol y Cyfarfod Misol. Sarah Jones, Llanddwywe, oodd un arall o'r ffyddloniaid. Er ei bod yn cadw tafarn, profodd y wraig hon fod byw yn dduwiol yn beth posibl mewn unrhyw sefyllfa. "Cedwid dyledswydd yn y teulu hwyr a boreu, a gweinyddai hithau yn ei chylch yn y gwasanaeth." Gadawodd ar ei hol gymeriad anrhydeddus; wyr iddi hi ydyw y Parch. W. Davies, Llanegryn, ac wyrion iddi hefyd ydyw Mri. W. Price Jones, Chatham, Liverpool, a Robert Jones, gynt o Werneinion. "Gwraig gynes ei chalon, ac yn galw ar enw yr Arglwydd, ac yn ei garu o galon bur ydoedd Betti Roberts o Uwchlaw'rcoed. Yr oedd yn un o'r rhai tebycaf a ellid dybio a fuasai ymhlith y gwragedd a barotoisant beraroglau i eneinio corff yr Arglwydd Iesu." Mrs. Margaret Davies, Taltreuddyn bach, oedd o gymeriad uchel o ran synwyr a gras. Darllenodd hi, ebai Mr. Humphreys, draethawd Dr. Edwards ar yr Iawn amryw weithiau drosodd, ac yr oedd yn ei ddeall yn lled. drwyadl. Mrs. Humphreys, o'r Faeldref, a deilynga y lle amlycaf ymhlith gwragedd rhagorol y Dyffryn. Y mae ei rhinweddau hi yn hysbys trwy Gymru oherwydd ei chysylltiadau teuluaidd. Yr oedd yn uwch na'r cyffredin o ran gwybodaeth a chwaeth. Llinell amlwg yn ei chymeriad oedd y byddai yn dangos yr un caredigrwydd at y tlawd a'r cyfoethog, ac yn rhoddi yr un parch i bregethwyr o ddoniau bychain a'r rhai o radd uchel yn y Cyfundeb. Duwioldeb a thynerwch oeddynt rinweddau arbenig yn ei chymeriad. Cofnodir yn llyfr yr eglwys iddi huno yn yr Iesu Mehefin 8, 1852.[40] Ei merch, Mrs. Morgan, a ddilynodd yr esiampl odidog a roddwyd iddi gan ei mam. Yn nghofnodion Cyfarfod Misol Gorphenaf, 1888, y Cyfarfod Misol cyntaf ar ol ei marwolaeth-ceir y sylw canlynol am dani,—" Coffhawyd gyda theimlad a pharch am ymadawiad Mrs. Morgan, o'r Faeldref, gweddw y diweddar Barch. E. Morgan. Hysbys i bawb o'r Methodistiaid ydyw y gwasanaeth mawr a wnaeth hi i achos crefydd yn ystod ei bywyd. Yn ei pherthynas â'i thad, y Parch. Richard Humphreys, ac â'i phriod drachefn, llanwodd le pwysig yn hanes crefydd yn Sir Feirionydd. Cymerai ddyddordeb helaeth yn llwyddiant crefydd yn holl gylchoedd y Methodistiaid. Yr oedd yn un o'r gwragedd mwyaf hyddysg yn holl symudiadau y Cyfundeb, a hi a wnaeth wasanaeth mawr i achos yr Arglwydd Iesu, yn arbenig mewn cynal i fyny freichiau ei phriod, yr hwn a weithiodd mor egniol i gyfodi crefydd yn y wlad. Nid oedd dim pall ar ei charedigrwydd tuag at weision yr Arglwydd, a'r gofal am danynt tra yn lletya yn ei thŷ. Mawr yw y parch a deimlir i'w choffadwriaeth yn y sir hon, a thu allan i'r sir." Enwir hefyd Ann Williams, o Dy'nycae, a Mary Hughes, o Lecheiddior, ymysg canlynwyr ffyddlawn yr Iesu. Y gwragedd duwiol hyn a ymgynullent i ymddiddan â'u gilydd am y pethau a berthynent i Iesu o Nazareth, a throent y gyfeillach yn gyfarfod gweddi. John Roberts, a'i briod, Mrs. Roberts, Shop Isaf, mewn amser diweddarach a ddangosasant lawer o garedigrwydd tuag at yr achos yma.

Gallesid, yn ddiameu, chwanegu llawer at y rhestr o ffyddloniaid yr eglwys hon, oni buasai ein bod yn ofni myned yn rhy faith. Rhoddir crynhodeb bywgraffyddol am y pregethwyr a'r blaenoriaid fuont feirw, ond y mae amryw wedi dechreu pregethu yma sydd eto yn fyw. Yn nghofnodion Cyfarfod Misol Trawsfynydd, Hydref 5, 6, 1847, ceir y sylw a ganlyn, -"Coffhawyd am farwolaeth Rowland Davies, Dyffryn, pregethwr oedranus. Crybwyllwyd fod pob lle i feddwl ddarfod iddo farw mewn ffydd a thangnefedd, ac yn nghymeradwyaeth ei gyfeillion yn fawr." Bu y Parch. John Williams yn byw yma dros rai blynyddoedd, cyn ei ymfudiad i'r America, oherwydd cysylltiadau ei briod. Ceir ei hanes ef ynglyn â Salem, Dolgellau. Genedigol oddiyma hefyd oedd y diweddar Dr. Morris Davies, Caernarfon; yn Nolgellau y dechreuodd bregethu. Yma y dechreuodd y Parch. R. H. Morgan, M.A., yn awr o Menai Bridge, bregethu. Y Parch. Edward Jones, Rhydlydan, a ddechreuodd ei flwyddyn brawf Awst 1871; E. V. Humphreys, yn awr o Bontddu, Medi 1879. Mr. John Davies, hefyd, a ddechreuodd bregethu o fewn chwech neu saith mlynedd yn flaenorol i'r tri diweddaf.

Y mae lliaws o ddynion rhagorol wedi symud i'r America, o dro i dro, o ardal y Dyffryn. Y Parch. R. G. Jones, Minnesota, a anwyd yn Caegarw. Pregethodd lawer i'r gwartheg yn y Benar isaf, pan yno mewn gwasanaeth; dechreuodd bregethu i'w gydwladwyr yn Wisconsin. Bu yn llafurus am flynyddau yn Blue Mounds. Mae ganddo un o'r llyfrgelloedd goreu yn y wlad. Thomas Richards, mab Dolgau, oedd un o ragorolion y ddaear. Gwasanaethodd y swydd ddiaconaidd gyda'r Annibynwyr yn Pike Grove dros amryw flynyddau, ac wedi hyny gyda'r Methodistiaid yn ninas Racine tra fu byw. Robert Owen, o Bronyfoel ganol, a fu yn ffyddlawn a gweithgar ymhob cylch yn nghyffiniau Racine, ac yn olynol hyd derfyn ei oes, yn Caledonia, Wisconsin. Thomas Richards, ei frawd-yn-nghyfraith, oedd yn grefyddwr gwresog, a swyddog eglwysig ffyddlon yn America. Griffith Owen, brawd i'r diweddar flaenor, David Owen, sydd wedi bod yn ffyddlon yn ardal Lime Springs, Iowa, a manau eraill, dros oes faith, gyda phob rhan o achos crefydd, yn arbenig yr Ysgol Sul. Mr. John G. Jones a anwyd yn Meifod isaf; preswylia yn awr yn Red Oak, Iowa. Cydnabyddir ef fel un o'r blaenoriaid mwyaf ymdrechgar a ffyddlon yn y Dalaeth. Mr. Thomas Lloyd Williams, Racine, yr hwn a ymfudodd o'r Dyffryn ddeugain mlynedd yn ol, sydd adnabyddus iawn yn yr America, fel un wedi bod yn wasanaethgar i'w gydgenedl mewn llawer o gylchoedd.

Y BLAENORIAID.

GRIFFITH RICHARD, SIOP Y CAPEL.

Efe oedd y blaenor cyntaf; cychwynydd yr achos, ei brif noddwr a'i fagwrydd o'i fabandod; yn ei dy ef y cadwyd y cyfarfod eglwysig cyntaf; efe a roddodd y tir ar yr hwn yr adeiladwyd y capel cyntaf, sef y Capel Coch, ac ar ei draul ef yn benaf yr adeiladwyd ef. Yr oedd yn ewythr i'r Parch. Richard Humphreys, frawd ei dad. Dywedai y doethwr o'r Faeldref am Griffith Richard, "Ei fod yn meddu ar raddau helaeth o foneddigeiddrwydd y Bereaid-yn drwyadl onest ymhob peth, heb ganddo ddim tebyg i ffug-sancteiddrwydd crefyddol yn lled gwta yn ei ddull, ac yn tueddu at fod yn ddreng."

HARRY ROBERTS, UWCHLAW'RCOED.

Amaethwr cyfrifol oedd ef, ac yn sefyll o ran ei alluoedd a'i ddylanwad, uwchlaw ei gydwladwyr yn gyffredin. Mewn achosion o bwys, y rhai y methai ei gymydogion eu penderfynu, eu dywediad fyddai, "Gofynwch i Harri Roberts, y mae efe ond odid yn lled agos i'r line." Yr oedd yn meddu ar ddawn yn gystal a barn, ac uwchlaw'r cwbl, yn ŵr ffyddlawn gyda'r hyn a ymddiriedid iddo. "Efe," ebai Methodistiaeth Cymru, "a fyddai yn gofalu mwyaf am amgylchiadau yr achos crefyddol, a gellid dywedyd am dano fel am Timotheus, 'ei fod yn gwir ofalu.'" Magodd dŷad o blant, y rhai a ddaethant yn dra defnyddiol gyda'r achos goreu mewn amryw ardaloedd yn y sir. Bu farw oddeutu 1842, yn 88 mlwydd oed.

SION EVAN, CAETANI.

Cyd-flaenor & Harri Roberts am flynyddoedd lawer. Dyn cadarn yn yr Ysgrythyrau, diysgog mewn buchedd, a sefydlog mewn barn. "Yr oedd Sion Evan," yn ol yr hyn a ysgrifenwyd am dano gan Mr. Humphreys ddeugain mlynedd yn ol, "yn cael ei ystyried yn golofn yn yr eglwys-yn wastad iawn ei dymer. Nid oedd newidiad yr hin grefyddol yn effeithio nemawr ddim arno. Yr oedd yn meddu graddau helaeth o farn, ac yn gymeriad pwysig yn nghydwybodau y sawl a'i hadwaenai." Yr oedd efe yn dad i Morris Jones, blaenor yn niwedd ei oes yn y Bermo. Bu farw Rhagfyr 16, 1839, yn 88 mlwydd oed, wedi bod yn henadur ffyddlon uwchlaw deugain mlynedd.

Yr uchod oeddynt y set gyntaf o flaenoriaid yr eglwys. "Bu rhai o honynt," ebai Mr. Humphreys, "yn haelionus iawn at yr achos, ond yn ddiffygiol, fel llawer o'u cydswyddogion y dyddiau hyny, i addysgu yr eglwys i fod yn haelionus. Ai yr achos yn fynych i ddyled, ond ni ddywedid hyn un amser wrth yr eglwys, ond gwneid y diffyg i fyny gan un o honynt hwy eu hunain."

WILLIAM EVANS, CAE'RLLWYN.

Dewiswyd ef; yn flaenor yn un o chwech oddeutu y flwyddyn 1837, a bu farw ddiwedd y flwyddyn 1857. Dyn unplyg, cywir, a dihoced. Un o'i ragoriaethau oedd y medrai ddweyd gair yn ei amser, a hwnw yn air i bwrpas. "Yr oedd ganddo halen ynddo ei hun, ac yr oedd ef ei hun yn halen i erail!."

WILLIAM OWEN, BRONYFOEL.

Pan yn fachgen, fel yn hysbysir, elai i gapel y Methodistiaid yn Harlech, a dychwelwyd ef at grefydd yn amser diwygiad Beddgelert. Ymhen ysbaid o amser ar ol ei ddyfodiad i'r Dyffryn, neillduwyd ef yn flaenor, a bu yn cydweithio dros ryw dymor â'r set gyntaf o flaenoriaid yr eglwys. Yr oedd yn ddyn o feddwl uwch na'r cyffredin; ceir ei enw rai gweithiau fel un defnyddiol gyda'r Ysgol Sul yr y cylch. Ond ni byddai yn cydweled â'r brodyr mwyaf blaenllaw gyda symudiadau y Cyfundeb. Bu farw Tach. 20, 1862, yn 61 oed.

JOHN OWEN, BYRLLYSG.

Daeth ef at grefydd yn ieuanc, a gwnaeth ymdrech mawr i ddilyn crefydd trwy lawer o anhawsderau yn nhymor ei ieuenctid. Bu yn byw yn ardal y Gwynfryn, ac yr oedd yn un o flaenoriaid cyntaf yr eglwys yno. Geiriau a ddywedir am dano tra y bu yn y Gwynfryn ydynt, "Yr oedd yn gymeradwy iawn gan yr eglwys, a chanddo brofiad melus bob amser." Neillduwyd ef yn flaenor ar ol ei ddyfodiad i'r Dyffryn, a pharhaodd yn ffyddlon, ac i gynyddu mewn duwioldeb i'r diwedd. Bu farw Mehefin, 1874, yn 77 mlwydd oed, wedi bod yn flaenor am dair blynedd a deugain.

EVAN EVANS, CARLEG.

Oedd ŵr deallus ac ymchwilgar; bu o ddefnydd mawr gyda'r -Ysgol Sul, yn arolygwr, ac yn athraw ar y dosbarthiadau uchaf. Bu farw yn 1883, wedi cyraedd yr oedran teg o 90. Oherwydd rhyw amgylchiadau, yr oedd wedi cilio o'r swydd o flaenor er's blynyddau.

MORGAN OWEN, O EGRYN (wedi hyny o'r Glyn, Talsarnau),

a neillduwyd yn flaenor oddeutu y flwyddyn 1837. Gŵr a berchid yn fawr oedd ef gan fyd ac eglwys. Rhoddai ei sefyllfa yn y byd ddylanwad iddo, ac heblaw hyny yr oedd yn ŵr bucheddol yn llawn ystyr y gair, a'i rodiad bob amser yn wastad ac uniawn. Rhagorai yn fawr fel athraw yn yr Ysgol Sul. Treuliodd ddiwedd ei oes yn Nhalsarnau, lle y neillduwyd ef drachefn yn flaenor; ac yno y bu farw, Gorphenaf 12, 1865, yn 78 mlwydd oed. Mab iddo ef ydyw Mr. Owen Owen, Penrhyndeudraeth.

WILLIAM EVANS, LLECHEIDDIOR.

Treuliodd ddechreu ei oes mewn oferedd, ond cafodd dröedigaeth amlwg iawn. Ar ddechreuad dirwest yn y wlad, daeth yn areithiwr selog o blaid y symudiad. Tra yn myned i areithio gyda Mr. Humphreys un tro, dywedai, "Mae arnaf ofn na wnaiff y bobl ddim gwrando arnaf, am i mi fod yn ddyn mor ofer fy hun." Ebai Mr. Humphreys wrtho, "Tafl garreg atat dy hun yn gyntaf, fe fydd y bobl yn sicr o wrando arnat." Ac felly y gwnaent. Neillduwyd ef yn flaenor yr un adeg a'r ddau frawd a enwyd ddiweddaf, ac ymhen tua deng mlynedd, ymfudodd i America.

EDWARD JONES, HENDREWAELOD.

O'r Gwynfryn y daeth ef i gartrefu i'r Dyffryn. Bu yn flaenor yno, a neillduwyd ef i'r swydd yma yn un o'r chwech yn 1837. Gellir dweyd am dano yntau, fel llawer o'i frodyr y dyddiau hyny, ei fod yn gadarn yn yr Ysgrythyrau. Yr oedd hefyd yn dra hyddysg yn yr hen awduron, megis Baxter a Gurnal.

EDWARD JONES, Y PANDY (wedi hyny o'r Frongoch).

O ran gweithgarwch a dylanwad, safai ef yn uchel, os nad yr uchaf oll yn rhestr faith blaenoriaid eglwys y Dyffryn. Bu yn flaenor pan yn ddyn lled ieuanc yn Salem, Dolgellau; ac wedi symud i drigianu yn y Dyffryn, neillduwyd ef yn flaenor yma. Gwnaeth ddefnydd da o'r ddau fyd: o'r byd hwn, fel yr oedd wedi casglu digon i'w alluogi i fyw arno yn ei henaint; o'r byd arall, fel yr oedd pawb a'i hadwaenai yn ymwybodol ei fod yn sicr o feddianu coron y bywyd. Nodweddid ei holl ymwneyd â chrefydd gan dynerwch a chymedroldeb. Mor batriarchaidd yr eisteddai yn niwedd ei oes yn y sêt fawr, ac mor addolgar fyddai yr olwg arno yn gwrando y weinidogaeth ! A byddai ei sylwadau yn y cyfarfod eglwysig ar nos Sabbath yn hynod o briodol. Bu ef yn cynal breichiau y ddau weinidog enwog, y Parchn. Richard Humphreys ac Edward Morgan, trwy holl gydol eu hoes weinidogaethol, a mawr oedd eu parch hwythau iddo, oblegid y cynorthwy a roddai iddynt, ac a roddai trwy hyny i achos Duw yn yr ardal. Cymerwyd ef oddiar y ddaear Hydref 20, 1876, wedi cyraedd yr oedran teg o 88 mlwydd, ac wedi bod yn ddiacon am bum mlynedd a thriugain.

EVAN WILLIAMS, HENDRE-EIRIAN.

Derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol fel blaenor Ionawr 1857, ac yn Nghyfarfod Misol Dolgellau, Ionawr 1865, "gwnaed crybwylliad parchus am farwolaeth Mr. Evan Williams, Hendre-eirian, yr hwn oedd yn ddiacon nodedig am ei ffyddlondeb a'i weithgarwch yn eglwys y Dyffryn; yr oedd hefyd yn drysorydd y Genhadaeth Sirol, ac yn ei farwolaeth collodd yr achos hwn un a ofalai bob amser am ei gyflawni yn ffyddlon." Dyn rhagorol iawn oedd ef ymhob ystyr; cariai ei farn a'i gymeriad ddylanwad mawr yn yr ardal, ac yn yr eglwys yr oedd yn flaenor ynddi. Dygodd ei blant i fyny yn grefyddol, dau o ba rai sydd yn flaenoriaid yn y Dyffryn yn awr.

DAVID OWEN.

Ganwyd ef yn y Goetre, Bontddu. Bu yn flaenor da yno, fel ei dad o'i flaen. Ymhen amser symudodd i fyw i'r Penrhyn, ar lan afon Abermaw, a bu yn flaenor gweithgar yn eglwys Seion dros lawer o flynyddoedd. Am yr ugain mlynedd diweddaf o'i oes, yr oedd yn byw yn y Dyffryn. Rhwng y tri lle, bu yn gwasanaethu swydd diacon am haner can mlynedd. Dyn o dueddiadau tawel oedd; mab tangnefedd. Yr oedd yn bwyllog a doeth, ac yn meddu craffder tuhwnt i'r cyffredin. Profodd ei hun bob amser yn ŵr o ymddiried. Daeth yn gysurus ei amgylchiadau cyn diwedd ei oes. Ac wedi gorphen ei yrfa ddaearol, cafodd fynediad helaeth i mewn "i deyrnas ein Harglwydd a'n Hachubwr Iesu Grist." Bu farw Mai 3, 1883, yn 84 mlwydd oed. Mae ei goffadwriaeth yn barchus yn yr ardaloedd y bu yn byw ynddynt.

OWEN HUGHES, YNYS.

Yr oedd yn frawd i'r Parch. R. Hughes, Uwchlaw'rffynon. Daeth yma o Harlech. Dewiswyd ef yn flaenor tua 1865, ac ymadawodd yn fuan wedi hyny i Sir Gaernarfon.

RICHARD WILLIAMS, CAE'RFFYNON.

Ymunodd â chrefydd, fel ein hysbyswyd, Awst 30, 1853. Gwasanaethodd swydd blaenor am un mlynedd ar hugain. Bu farw Rhagfyr 11, 1886, yn 65 oed. Efe oedd y blaenor hynaf yn yr eglwys ar y pryd. Er fod ei ffordd ymhell i'r capel, nid oedd neb yn fwy cyson yn y moddion. Yn y cyfarfodydd eglwysig siaradai gyda gwres ac angerddoldeb. Yr oedd yn wastad yn barod, a'i gyngor yn briodol. Dywedodd lawer ar haelioni crefyddol, a chafodd ei erlid ar dafod gan aml un. Enillodd le dwfn yn serch yr eglwys, ac yr oedd iddo barch mawr yn yr ardal yn gyffredinol. Rhoed iddo gladdedigaeth gŵr Duw.

JOHN JONES, YSTUMGWERN.

Mab Nantymynach, gerllaw Bryncrug, ydoedd ef-amaethdy nid anenwog oherwydd ei gysylltiadau crefyddol. Bu yn byw am dymor yn Tŷ mawr, Towyn. Nid oedd ond tair blynedd er pan ddaethai i fyw i'r Dyfiryn; eto yn yr ysbaid byr hwn enillodd le dwfn yn serch yr eglwys. Dewiswyd ef yn flaenor ymhen ychydig wedi iddo ddyfod yma. Yr oedd yn ŵr hynod o gymeradwy ar gyfrif ei addfwynder, a lledneisrwydd ei gymeriad. Cydgyfarfyddai ynddo gyfuniad prydferth o'r boneddwr a'r Cristion. Bu farw Hydref 18, 1882, er galar a cholled i'w deulu ac i'r eglwys.

Y mae eraill sydd eto yn fyw, ond a symudasant o'r ardal, wedi gwasanaethu swydd blaenor yn yr eglwys hon,-Mri. Robert Jones, Caemurpoeth—yn awr yn Ffestiniog; Thomas Lloyd-yn awr yn Nghwm Nancol; R. Williams, Ysgol y Bwrdd yn awr yn Nhanygrisiau; Richard Ellis-yn awr yn America; y Parch. Edward Jones, Rhydlydan, ac eraill.

Y blaenoriaid yn bresenol ydynt,-Mri. Hugh Williams, R. J. Williams, Ellis E. Williams, Robert Jones, Robert Wynne, Lewis Jones, Howell Powell.

Bu y gweinidogion canlynol mewn cysylltiad gweinidogaethol a'r eglwys,-y Parch. Edward Morgan, o'i ymsefydliad yma yn arhosol yn 1849, hyd ei farwolaeth, Mai 9fed, 1871; y Parch. Evan Jones, o 1872 hyd ei symudiad i Foriah, Caernarfon, yn 1875; y Parch. Edward Jones, am oddeutu blwyddyn cyn ei fynediad i Rydlydan; y Parch. William Thomas, o 1879 hyd ei fynediad i Bwllheli yn 1888. Mae y Parch. Evan Roberts, y gweinidog presenol, wedi ymsefydlu yma er y flwyddyn 1888.

Nifer y gwrandawyr, 524: cymunwyr, 297; Ysgol Sul, 330.

Y GWEINIDOGION.

Y PARCH. THOMAS WILLIAMS.

Genedigol ydoedd ef o Sir Gaernarfon. Daeth i'r sir hon i gadw ysgol ddyddiol. A'r crybwylliad cyntaf am dano yn ei gysylltiadau cyhoeddus ydyw yr hyn a geir ynglŷn â Chyfarfod Misol a gynhaliwyd yn Maethlon, Chwefror 22 23, 1843, pryd yr oedd y Parch. Cadwaladr Owen yn Gymedrolwr. Yn y Cyfarfod Misol hwnw y rhoddwyd caniatad iddo i ddechreu pregethu, ac adnabyddid ef yr adeg hono fel "Thomas Williams, Athraw Ysgol yn Corris." Yr oedd yn gymeradwy yn Nghorris, nid yn unig fel athraw ysgol, ond hefyd fel dyn ieuanc gweithgar a defnyddiol gyda chrefydd. Daeth i'r Dyffryn ar y cyntaf i gadw ysgol ddyddiol, a chanmolid ef fel ysgolfeistr da. Heblaw pregethu ar y Sabbath, llafuriodd lawer hefyd, gyda chymeradwyaeth, mewn cysylltiad â chyfarfodydd ysgolion yn ngwahanol ddosbarthiadau y sir, a meddai raddau helaeth o gymhwysderau at y gwaith hwn. Ymhen amser, aeth i gysylltiadau â'r byd, yr hyn fu yn anfantais iddo gyda'r weinidogaeth. Parhaodd i bregethu, modd bynag, tra daliodd ei nerth, a bu farw, mewn llawn sicrwydd gobaith, Hydref 16, 1861. Yn y Cyfarfod Misol cyntaf ar ol hyny, gwnaethpwyd coffa am dano, a dywedid, "Fod ei haul wedi machludo yn bur obeithiol, gan arwyddo fod iddo dranoeth teg wedi yr holl ystormydd yr aethai trwyddynt; a bod y gwirioneddau yr oedd wedi eu proffesu, a'u cymell ar eraill dros amryw flynyddoedd, yn greigiau cedyrn dan ei draed yn yr awr gyfyngaf."

Y PARCHEDIG RICHARD HUMPHREYS.

Cyfarfyddir âg enwau y Parchn. Richard Humphreys ac Edward Morgan yn amlach yn yr hanes hwn na neb arall; y rheswm am hyny ydyw, hwy eu dau fuont brif arweinwyr crefydd, nid yn unig yn y Dyffryn, ond yn holl eglwysi Gorllewin Meirionydd—y cyntaf am dros ddeugain mlynedd, a'r olaf am ddeng mlynedd ar hugain; a hwy eu dau ydynt hyd heddyw y ddwy seren ddisgleiriaf yn ffurfafen yr eglwysi. Ar un olwg, nid oes eisiau adrodd dim o'u hanes hwy, gan ei fod eisoes yn ddigon hysbys. Nis gellir ychwaith mewn ychydig o dudalenau wneuthur cyfiawnder â'r lle a deilyngant, ac â'r gwaith a wnaethant. O'r tu arall, byddai gadael allan y ddau weithiwr penaf, yn peri bwlch a gwagder yn yr hanes. Er mwyn y rhai nad oeddynt yn eu hadnabod, rhoddwn grynhodeb byr o'u hanes, cyffelyb i'r gweinidogion eraill, mewn cysylltiad â'u cartref, gan adael eu gwaith a'u llafur cyffredinol i gael sylw yn mhellach ymlaen, yn y benod ar y Cyfarfod Misol. Ysgrifenwyd Cofiant rhagorol am Mr. Humphreys, gan y Parch. Griffith Williams, Talsarnau, yr hwn a gyhoeddwyd gan Mri. Hughes a'i Fab, Wrecsam, yn y flwyddyn 1873.

Yr oedd y Parch. Richard Humphreys yn Ddyffrynwr trwyad!. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1790, yn Ngwernycanyddion, tyddyn heb fod yn nepell o'r Faeldref, cartref ei dad a'i daid. Yr oedd ei hynafiaid yn bobl barchusaf y gymydogaeth; ei dad a'i fam yn aelodau crefyddol gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, a'i berthynasau ef a roddodd y cychwyniad cyntaf i Ymneillduaeth yn y Dyffryn. Tra yr oedd ef yn ieuanc, symudodd y teulu i drigianu i'r Faeldref, enw a ddaeth, oblegid cyhoeddusrwydd yr enwogion fu yn byw yno, yn adnabyddus trwy Gymru. Gan ei fod o duedd fyfyrgar pan yn blentyn, ni ystyrid ef gan y plant eraill mor galled a hwy. Ymhen amser, gofynai un o'i gyfoedion iddo, "Sut y mae hyn yn bod, Richard Humphreys? Nid oeddym ni yn eich ystyried ehwi mor galled a ni pan yn blant, ond erbyn hyn dyma chwi wedi myned o'n blaen ymhell." "Oni wyddost ti, Morris," ebai yntau, "fod pob llysieuyn mawr yn cymeryd mwy o amser i ymagor." Pan ydoedd o gylch un ar hugain oed, bwriodd ei goelbren gyda phobl yr Arglwydd; ac un o'r rhai a'i derbyniodd i'r eglwys y noson y cyflwynodd ei hun iddi ydoedd y Parch. Daniel Evans, yr hwn oedd yn cadw ysgol ddyddiol yn y gymydogaeth. Ymhen ysbaid o amser, dewiswyd ef yn flaenor. A dechreuodd bregethu yn 1819, pan yn naw ar hugain oed.

Bu cysylltiadau teuluaidd Mr. Humphreys yn hynod o ddedwydd. Priododd Miss Anne Griffith, merch i Cadben William Griffith, Abermaw, un o flaenoriaid mwyaf dylanwadol y sir. Daeth eu cartref yn gartref gweinidogion y gair, ac yn ganolbwynt crefydd y wlad. Yr oedd swyn ac atdyniad yn perthyn i'r Faeldref; cai dieithr a phriodor, gweision a morwynion, ac hyd yn nod yr anifeiliaid direswm bob chwareu teg yno. Yr oedd y pen teulu yn offeiriad, yn broffwyd, ac yn frenin, yn yr ystyr gyflawnaf. Wedi byw yn hapus am ddeng mlynedd ar hugain, collodd ei briod. Bu am rai blynyddau wedi hyn yn byw yn y Faeldref, gyda'i ferch a'i fab-yn-nghyfraith, Mr. Morgan. Yn y flwyddyn 1858, priododd yr ail waith & Mrs. Evans, Gwerniago, Pennal. Ac yn Ngwerniago y treuliodd flynyddoedd olaf ei oes. Bu un ferch o'r briodas hon, sef yr hon a ddaeth yn briod i'r Parch. William Thomas, yn awr o Bwllheli. Yr oedd hithau yn meddu synwyr, a ffraethineb, a chrefydd ei thad.

Yr oedd dylanwad Mr. Humphreys yn fawr iawn yn y Dyffryn ar hyd ei oes. Meddai y ddynoliaeth oreu, a synwyr cyffredin ymhell uwchlaw y cyffredin. Ymgymysgai â'r bobl; siaradai â hwy am eu helyntion; cydymdeimlai â hwy yn eu trallodion; gweinyddai gysur iddynt trwy ei haelioni a'i ymMedrai y ffordd i serchiadau pawb, adroddion diddanus. oblegid yr oedd yn bencampwr am ddeall y natur ddynol. Heblaw hyny, yr oedd pwysau anghyffredin yn ei gymeriad fel Oll yn oll, ni bu yr un dyn yn amdyn crefyddol a duwiol. gylchoedd ei gartref yn meddu mwy o ddylanwad personol. Hynodrwydd mawr ynddo ydoedd ei ffraeth-airiau, ei ddywediadau parod, a'i sylwadau synhwyrlawn, y rhai, pe y cesglid hwy ynghyd, a wnaent gyfrol o gryn faintioli. "Bydd llawer o'ch dywediadau," ebai Dr. Edwards, y Bala, wrtho mewn llythyr, "mewn cof fel diarhebion ymysg y Cymry am oesoedd." Un o frodorion y Dyffryn, sef Mr. Rees Roberts, Harlech, a rydd y desgrifiad canlynol o hono yn ei gartref,-

"Yr oedd yr olwg ar ei berson pan yn ymsymud tua'r capel ar noson seiat, yn deffroi ar unwaith yn y fynwes bob syniad hawddgar a theimlad caruaidd; ei gorff talgryf, y wynebpryd llydan braf, llygaid gloewon mawrion, ei bwyll dihafal, gyda thymer addfwyn a da, fel olew yn peri i wyneb y cyfan ddisgleirio, fel nad oedd fodd peidio ei edmygu a'i garu ar unwaith. Yr oedd yn gyffelyb i long marsiandwr fawr, yn nofio ar fôr âg olew yn dywalltedig ar hyd ei wyneb, gan mor dawel a digyffro yr ymsymudai, a hono yn llwythog o nwyddau gwerthfawrocaf y wlad bell, i gael eu rhanu yn rhad ac yn rhodd i bechaduriaid tlotaf y fro. Teimlwn fod cadeiriau uniondeb, tynerwch, a doethineb, ie, mwyneidd-dra doethineb, yn cael eu llenwi yn deilwng pan y byddai ef yn bresenol yn y cyfarfod eglwysig."

Yn holl gylchoedd cyhoeddus y wlad, ac yn arbenig cylchoedd cyhoeddus y Cyfundeb, safai Mr. Humphreys ymysg y tywysogion. Efe a gyfrifid yn un o gedyrn dirwest Cymru. Rhoddid ef bob amser i areithio yn lleoedd amlaf y bobl, a byth ni fethai a sicrhau yr hoelion. Fel gwladwr, perchid ac edmygid ef gan bob dosbarth o ddynion. Fel cynghorwr ac arweinydd y Cyfarfod Misol a'r Cymanfaoedd, ni chafwyd neb yn ei amser ef, nac wedi hyny, yn fwy medrus a llwyddianus. Ond nesaodd ei ddyddiau yntau i farw. Ar ol pregethu yn felus yn y Dyffryn, ar ryw foreu Sabbath, tua diwedd ei oes, dywedai Edward Jones, y blaenor, wrtho, "Yr ydych chwi yn lwcus iawn, Mr. Humphreys, yr ydych chwi yn sicr o'r nefoedd." "Na, nid ydwyf ddim yn siwr," atebai yntau, "ond yr ydwyf yn siwr o hyn, fy mod yn caru pawb sydd yn caru Duw, ac yn casau pawb sydd yn pechu yn wirfoddol yn ei erbyn, ac yr wyf yn meddwl na rydd fy Nghreawdwr mo honof gyda'r rhai sydd gas genyf." Cyrhaeddodd derfyn ei yrfa ddaearol Chwefror 15fed, 1863, yn 72 mlwydd oed. Gwyr bucheddol" a'i dygasant i'w gladdu i ymyl capel y. Dyffryn, "ac a wnaethant alar mawr am dano ef."

Y PARCHEDIG EDWARD MORGAN.

Ganwyd ef yn y Pentref, treflan fechan yn agos i Lanidloes, Medi 20fed, 1817. Arferai y Methodistiaid gadw Ysgol Sabbothol yn nhŷ ei dad, a chafodd y plant felly y fantais o fod mewn awyrgylch grefyddol, ac i ymgydnabyddu â'r Beibl. Symudodd y teulu, pan oedd Edward tua deuddeg oed, i fyw i Lanidloes, ac yn y dref hono y treuliodd flynyddoedd ei ieuenctid. Dygwyd ef i fyny yn siopwr; ac ar ol treulio ei brentisiaeth, aeth i wasanaeth y Mri. Edmund a William Cleaton. Bu farw ei fam, yr hon oedd yn wraig grefyddol, pan oedd ef yn ieuanc, ac effeithiodd yr amgylchiad yn ddwys arno. Nid hir ar ol hyn ymunodd yntau â'r eglwys. Oddeutu yr un pryd ymunodd, hefyd, â Chymdeithas y Cymreigyddion, yr hon oedd yr adeg hono yn flodeuog yn y dref. Tystiolaeth ei gydnabod oedd, ei fod y blynyddoedd hyn yn dangos syched angerddol am wybodaeth. Treuliai bob mynyd o'i oriau hamddenol, nos a dydd, i ddiwyllo ei hun; byddai ei lyfr yn agored y tu ol i'r counter pan na byddai cwsmeriaid yn y siop; a mynai gael canwyll hir i fyned i'w wely, er mwyn cael darllen cyn rhoddi ei ben i lawr i gysgu. Daeth ei ddoniau cyhoeddus i'r golwg mewn cysylltiad a'r gymdeithas lenyddol, cymdeithas y Cymreigyddion, a'r gymdeithas ddirwestol. Gosodwyd ef hefyd yn ysgrifenydd yr Ysgol Sabbothol, yr hon oedd yn flodeuog iawn yn Llanidloes yn ei amser ef. Yn nechreu y flwyddyn 1839, ac efe yn ychydig dros un ar hugain oed, y mae yn cyfeirio ei gamrau tuag Athrofa y Bala. Ysgrifenodd lyth at lywydd yr Athrofa, y Parch. Dr. Edwards, i ymholi o berthynas i goleg Cheshunt. Anfonodd yr athraw parchedig yn ol, y gallai gael ysgol am ddim yn y Bala, er nad oedd wedi dechreu pregethu, oblegid yn y cyfnod hwnw yr oedd gan lywydd yr athrofa hawl i wneuthur hyn o gymwynas, Wedi bod yn y Bala yn agos i flwyddyn, daeth cais o'r Dyffryn, trwy y Parch. Richard Humphreys, am wr ieuanc i gadw ysgol ddyddiol yn yr ardal. Anogodd Dr. Edwards Edward Morgan i dderbyn y cynygiad. A hyn y cydsyniodd yntau; ac yn nechreu Chwefror, 1840, mae yn dyfod i faes newydd ei lafur fel ysgolfeistr, lle oedd yn hollol ddieithr iddo. Cynhelid yr ysgol yn nghapel y Methodistiaid. Daeth yn fuan yn un o'r ysgolion mwyaf blodeuog yn y wlad, oblegid yr oedd ynddi yn awr ysgolfeistr medrus a meistrolgar.

Yr oedd Mr. Humphreys yn noddwr o'r fath oreu i'r ysgolfeistr. Deallodd ei fod yn meddu talentau; anogodd ef i ddechreu pregethu, a rhoddodd bob cyfleustra iddo i ymbarotoi, yn y cyfarfodydd eglwysig a'r cyfarfodydd gweddi. Ac yn Nghyfarfod Misol Talsarnau, a gynhaliwyd Rhagfyr 1af a'r 2il, 1840, "Penderfynwyd fod i'r Parch. Robert Griffith, Dolgellau; Cadben William Griffith, Abermaw, a William Richard, Gwynfryn, fyned i'r Dyffryn ar gais yr eglwys yno, i ymddiddan â gŵr ieuanc sydd ar ei feddwl fyned i bregethu." Y gŵr ieuanc hwn oedd y Parch. Edward Morgan, yr hwn a ddaeth cyn pen ychydig o flynyddoedd, trwy ei hyawdledd anghymarol, i wefreiddio cynulleidfaoedd. lliosog ei wlad, ac i gael ei gydnabod gan bawb fel un o enwogion penaf Cymru. Yn hen gapel y Gwynfryn y traddododd ei bregeth gyntaf, Rhagfyr 20fed o'r flwyddyn a grybwyllwyd, ymhen tair wythnos ar ol i'r sylw cyntaf fod ar ei achos yn y Cyfarfod Misol. Parhaodd i gadw ysgol, ac i bregethu ar y Sabbothau, hyd ddechreu 1842, pryd yr aeth i'r Bala am dymor eto. Dychwelodd eilwaith, ymhen tua blwyddyn, i'r Dyffryn i ail ymaflyd yn ei waith. Tua diwedd y flwyddyn 1845, aeth i Edinburgh, i Athrofa Dduwinyddol yr Eglwys Rydd, ac arhosodd yno dros dymor neu ddau. Yn Nghymdeithasfa y Bala, 1847, ordeiniwyd ef i holl waith y weinidogaeth. Daeth allan yn rymus fel pregethwr ar y cychwyn. Cafodd genad i fyned i daith y Bontddu a Llanelltyd un o'r Sabbothau cyntaf ar ol dechreu, ac aeth son am dano ar led fel pregethwr rhagorol. Gofynai Lewis Morris yn y Cyfarfod Misol ar ol hyny, "Mi leiciwn i wybod pwy roddodd genad i'r pregethwr ieuanc i dori dros ei derfyn?" "Y ni roes genad iddo," atebai y Parch. R. Griffith, Dolgellau, "ac fe bregetha yn well na chwi na finau bob dydd." Llafuriodd yn galed ac egniol y tymor hwn ar ei oes. Cyfodai yn foreu, ac elai yn hwyr i gysgu, y gauaf fel yr haf. Trwy ddiwydrwydd a dyfal-barhad diail cyfoethogodd ei feddwl, a chymhwysodd ei hun at waith mawr ei fywyd. Yn ychwanegol at hyn, yr oedd wedi ei addurno gan ei Arglwydd â thalentau disglaer i waith y weinidogaeth. Ac ni ddarfu neb erioed ymgysegru yn fwy llwyr i waith ei swydd nag efe. Arferai ef ei hun ddweyd, os oedd rhyw ragoriaeth ynddo ar ei frodyr, fod hyny i'w briodoli i'w lafur a'i ddiwydrwydd, ac nid i'w alluoedd.

Yn mis Awst, 1847, blwyddyn ei ordeiniad, y mae yn ymgymeryd âg eglwys Salem, Dolgellau, fel ei gweinidog—yr engraifft gyntaf o weinidog cyflogedig yn y sir. Wedi llenwi y cylch hwnw gyda llwyddiant mawr am ddwy flynedd, y mae yn dychwelyd i'r Dyffryn, ac yr ydym yn gweled ei enw yn cael ei roddi i lawr yn llyfr yr eglwys yno, Awst 1, 1849. Yr achlysur iddo ddychwelyd i'r Dyffryn yn awr ydoedd, ei fynediad i'r ystad briodasol gyda merch ieuengaf y Parch. Richard Humphreys. Yma yr arhosodd bellach hyd ddiwedd ei oes.

Yr oedd cysylltiad gweinidogaethol rhyngddo âg eglwys y Dyffryn, a phregethai yma un Sabbath yn y mis, ac nid oedd yn fwy poblogaidd yn unman nag yn ei gartref ei hun. Heblaw llafurio yn ei ardal ac ymhlith pobl ei ofal, llafuriodd yn helaethach na'i frodyr oll yn nghylch y Cyfarfod Misol, ac ymhob cylch a berthynai i'r Cyfundeb. Dygwyd oddiamgylch yn ei amser ef, a thrwy ei offerynoliaeth ef, gyfnewidiadau a diwygiadau mawrion, y fath na chlybuwyd am danynt er dechreuad Methodistiaeth yn Ngorllewin Meirionydd. Dau brif orchestwaith ei fywyd, yn ychwanegol at ei waith penaf, sef pregethu efengyl y deyrnas, oeddynt,-casglu cronfa o 26,000p. at Athrofa y Bala, a sefydlu gweinidogion ar eglwysi Sir Feirionydd. Ceir gweled ei lafur yn y cysylltiad hwn yn mhellach ymlaen yn yr hanes. Wedi oes lafurus a nodedig o lwyddianus, cymerwyd ef i dderbyn ei wobr, Mai 9fed, 1871, yn yr oedran cynar o 53. A theimlid drwy holl wersyll y Methodistiaid y dydd hwnw fod "tywysog a gŵr mawr yn Israel" wedi syrthio. Gadawodd ar ei ol weddw-hithau hefyd erbyn hyn wedi ei chymeryd i'r orphwysfa—ac wyth o blant. Mab iddo ef ydyw y Parch. R. H. Morgan, M.A., yn awr o Menai Bridge. Colled fawr, a pheth i ofidio o'i herwydd ydyw, na buasai cofiant i ŵr mor enwog â Mr. Morgan wedi ei ysgrifenu ymhell cyn hyn. Ond "gwell hwyr na hwyrach," hyderir y ceir un cyn hir, fel y mae yr addewid wedi ei rhoddi.

GWYNFRYN.

Er fod y Gwynfryn yn hen achos, nid oes ond y nesaf peth i ddim i'w gael yn argraffedig am dano yn unman. Dwy ffaith yn unig, hyd y gwelsom, a goffheir yn Methodistiaeth Cymru am yr ardal, sef am y bregeth a bregethwyd yn Mhenrhiw-newydd, ac un arall a bregethwyd yn agos i'r Gwynfryn. Dywedir mai y bregeth gyntaf a bregethwyd gan yr Ymneillduwyr yn y gymydogaeth oedd gan Mr. Richard Tibbot, yn Mhenrhiw-newydd, ond nid yw yr amser yn cael ei nodi. Yr hanes am yr odfa arall yw yr hyn a ganlyn:—"Sonir llawer am odfa hynod a ddigwyddodd yn agos i'r Gwynfryn, pryd yr oedd Robert Roberts, Clynog, yn pregethu. Mae yn yr ardal le mewn craig, yr hwn a elwir Pulpud Ffoulk,' am mai gŵr o'r enw hwnw a'i gwnaeth. Yn y lle hwn y safai y pregethwr, ac o'i flaen ef yr oedd torf fawr o wrandawyr. Ar ganol y bregeth, daeth yn wynt a gwlaw anarferol, fel nad oedd modd i neb sefyll allan. Gyda bod y dymhestl yn dechreu, cododd Robert Roberts ei ddwylaw a'i wyneb tua'r nef, a gweddiodd, 'O! fy Nuw, pâr hamdden dros enyd i lefaru a gwrando am dy Fab.' A chyn pen pum' mynyd yr oedd y gwynt wedi llonyddu a'r awyr wedi clirio. Disgynodd syndod aruthrol ar bawb, torodd yn orfoledd ar rai dan y bregeth, a pharodd argraff ddofn ar bawb ag oedd yn y lle mai 'bys Duw oedd hyn.'"

Feallai fod eisiau crybwyll, er mwyn rhywrai, fod y Gwynfryn yn sefyll oddeuta milldir oddiwrth Lanbedr, yn nghyfeiriad Uwch Artro, neu Ddrws Ardudwy, yn ngwaelod cymydogaeth brydferth, ac ar lan yr afon Artro. Yn 1816, yr oedd yn daith Sabbath gyda Harlech a Thalsarnau. Fe fu am flynyddau lawer wedi hyny yn daith gyda'r Dyffryn, cyn bod achos wedi ei sefydlu yn Llanbedr, ond yn nechreu 1854, ymryddhaodd oddiwrth y Dyffryn, ac aeth yn daith gyda Chwm Nancol. Wedi adeiladu capel Llanbedr, cysylltwyd ef fel taith a'r Gwynfryn. Yn 1873 drachefn, aeth y ddau le hyn yn ddwy daith ar eu penau eu hunain, ac felly yr arhosant hyd yn awr.

I wneyd i fyny am mor ychydig o hanes crefydd yn y Gwynfryn oedd yn wybyddus yn flaenorol, gwneir defnydd helaeth o Draethawd a ysgrifenwyd ryw bump neu chwe' blynedd yn ol gan Miss Ellen Davies, Hafodycoed, ar "Hanes yr Achos Methodistaidd yn y Gwynfryn a'r Amgylchoedd." Yr oedd y traethawd hwn yn fuddugol mewn Cyfarfod Cystadleuol a gynhaliwyd yn yr ardal. Casglwyd yr hanes o enau amryw o'r hen bobl hynaf. Gan fod Miss Davies yn ysgrifenu mor ddigwmpas, ac mewn iaith ac arddull mor briodol, rhoddir llawer o hono yma fel yr ysgrifenodd hi ef.

Dechreuodd y Methodistiaid gynal moddion rheolaidd mewn tŷ anedd, o'r enw Rhwng-y-ddwy-bont. Ac yn yr un man, wedi hyny, y dechreuodd y brodyr y Wesleyaid a'r Bedyddwyr gynal moddion. Yr oedd yr hen dŷ yn sefyll hyd yn ddiweddar fel yr ydoedd y pryd hwnw. Yno, hefyd, y cynhaliwyd yr Ysgol Sabbothol gyntaf yn y gymydogaeth. Yr oedd hyn oddeutu y flwyddyn 1800, neu feallai beth yn gynt. Ychydig o enwau y proffeswyr cyntaf yn Rhwng-y-ddwy-bont sydd ar gael, ond mae yr ychydig sydd yn werth eu cadw mewn coffadwriaeth, John Jones, neu fel y gelwid ef, Sion Jones, a'i wraig Sian Dafydd, a'i chwaer hithau, Betti Dafydd. Sion Gruffydd, Tanygraig, a Betti ac Ann Rhobert, Penrhiw-newydd. Yr oedd yr hen chwiorydd hyn yn dduwiol ddiniwed, ac yn caru achos Iesu Grist yn fawr iawn. Byddai Betti Dafydd, ar ol iddi fyned yn hen, a chael ei gosod mewn teulu arall, am gael ei thê heb ddim siwgr ynddo, er mwyn, fel y dywedai, gael ceiniog i'w rhoddi at yr achos goreu erioed." Nid yw yn wybyddus pa bryd y ffurfiwyd yr eglwys yma, ond y brodyr a'r chwiorydd uchod, cyn belled ag y cafwyd yr hanes, oedd y prif rai o aelodau yr eglwys. Yr oedd achos rheolaidd wedi ei sefydlu yn yr ardaloedd o'r ddwy ochr i'r Gwynfryn, sef Harlech a'r Dyffryn, er yn foreu, a diameu mai i'r naill neu y llall o'r eglwysi hyn yr elai hyny o grefyddwyr a breswylient yn yr ardal hon ar y cyntaf. Hyd y gellir cyraedd sicrwydd, oddeutu dechreu y ganrif bresenol y dechreuwyd yr achos yma yn ffurfiol a rheolaidd.

Yn y flwyddyn 1810 yr adeiladwyd y capel cyntaf, yn nghanol pentref y Gwynfryn, ar brydles o driugain mlynedd. Tachwedd y flwyddyn hono y dyddiwyd y weithred, a thelid pum swllt yn flynyddol am y lle. Adeilad bychan diaddurn iawn ydoedd, dim ond un sêt o'i cwmpas, a meinciau ar llawr, a gallery ar y talcen pellaf, gyda grisiau cerig i fyned iddi. Cafodd ei helaethu wedi hyny, a byddai eisteddleoedd newyddion yn cael eu hychwanegu fel y byddai yr angen, Yn 1850, y nifer a allai eistedd ynddynt oedd 120, a gosodid yr oll, am y rhai y talwyd y flwyddyn hono 9p. 17s, 8c. Yr un flwyddyn nid oedd dimai o ddyled arno; a John Lewis a Rees Jones a ofalent am arian yr eisteddleoedd. Cyn i'r capel hwn gyraedd terfyn ei oes, yr oedd golwg mor henafol a dilewyrch arno, fel yr oedd yn ddywediad gan Mr. Morgan, o'r Dyffryn, mai un o'r profion fod yr efengyl yn ddwyfol oedd, ei bod wedi gallu byw cyhyd yn hen gapel y Gwynfryn. Dyddiad y weithred am y capel newydd, sef yr un presenol, ydyw Ionawr, 1861; prydles 999 mlynedd, ardreth deg swllt. Y nifer all eistedd yn hwn yw 200. Adeiladwyd ef pan oedd y diwygiad crefyddol wedi cyraedd llawn llanw, ac efe oedd un o gapeli newyddion cyntaf y wlad y blynyddoedd hyny. Aed i'r hen gapel am ychydig y boreu Sul olaf y buwyd ynddo, a chadwyd cyfarfod gweddi am ychydig amser. Wedi hyny aed yn orymdaith i'r capel newydd. Darllenodd a gweddiodd yr hen flaenor William Evan yn gyntaf ynddo. Y nos, pregethodd y Parchn. E. Morgan, Dyffryn, a T. Phillips, Henffordd.

Cyn rhoddi rhestr o'r blaenoriaid, gwneir crybwylliad am frodyr a chwiorydd eraill, ynghyd a'u dywediadau a'u gweithredoedd, sef y cyfryw rai ag a roddant ddangosiad i fesur mawr o'r hyn oedd crefydd a chrefyddwyr yr oes o'r blaen. Ac yn y Gwynfryn, fel mewn lleoedd ereill, yr oedd y chwiorydd ymysg y rhai blaenaf o ddilynwyr yr Arglwydd Iesu. Margaret Jones, Factory, oedd wraig grefyddol iawn, ac yn rhagori llawer mewn galluoedd naturiol ar y cyffredin. Y hi fyddai yn gofalu am y gweinidogion a fyddent yn y daith, ac yr oedd yn flaenllaw gyda dygiad yr achos ymlaen yn ei holl ranau. Yr oedd merch ieuanc a berthynai i'r eglwys wedi priodi dyn hollol ddigrefydd; ymhen amser daeth yn ol i'r society, ac wedi i'r brodyr siarad llawer â hi, cododd Mrs. Jones ar ei thraed, a dywedodd, "Yr ydwyf yn gobeithio, fy ngeneth i, fod yr Arglwydd wedi maddeu i ti, ond os oes rhywbeth a wnelo Efe a thi, faddeui di byth i ti dy hun am y tro wnest ti." Fe'i dywedodd yn rymus ac effeithiol iawn. Os ydyw y wraig hono ar dir y byw, digon tebyg nad yw eto wedi anghofio y geiriau a ddywedwyd wrthi yn y cyfarfod eglwysig hwnw. Sarah Morris, Dinas, oedd wraig nodedig mewn crefydd. Bu yn cynal yr achos yn ffyddlawn am flynyddau lawer, cyfranai yn haelionus, a meddai ewyllys'a chalon i wneyd hyny. Dioddefasai lawer oddiwrth ei phriod yn nechreuad ei phroffes: y noswaith gyntaf y bu yn y society, clôdd ef y drws arni allan, ac yn y beudy y bu y noswaith hono; ond fe liniarodd bob yn ychydig. Adroddir am un amgylchiad a fu yn foddion i'w dyneru. Gwahoddai Sarah Morris y Parch. Daniel Evans i'r Ddinas i letya un nos Sadwrn. "Pa fodd y bydd gyda John Llwyd?" gofynai Daniel Evans. "Gadewch chwi rhyngof fi a John Llwyd," atebai hithau. Nos Sadwrn aeth Daniel Evans i'r Dinas, eisteddai yn bur agos i'r drws; ni ddeuai ymlaen, ac ni roddai ei het o'i law ar un cyfrif. Ymhen amser daeth John Llwyd i'r tŷ; cododd Daniel Evans a dywedodd, "Fe ddaethum i yma heno, John Llwyd, i edrych a gawn lety genych." "Gwell i chwi gael, debyg gen i," atebai John Llwyd. Aeth yntau ymlaen wedi hyny at y tân. Boreu Sul dywedai John Llwyd y buasai yn well iddo gymeryd y gaseg dano i Dalsarnau (yr oedd Talsarnau y pryd hwnw gyda'r Gwynfryn). Diolchodd Daniel Evans iddo yn fawr am ei garedigrwydd. Wedi i Daniel Evans gychwyn, aeth John Llwyd i ben bryn yn agos i'r tŷ, a llech-orweddai yno yn nghysgod careg, er mwyn gweled a fyddai D. Evans yn gyru y gaseg. Ond nid oedd yn gwneyd iddi roddi un cam yn gynt na'i gilydd. Pan y dychwelodd at yr hwyr, aeth J. Llwyd i'r ystabl i edrych a oedd chwys ar y gaseg. Ond nid oedd dim. Cododd hyny Daniel Evans, a chododd Fethodistiaeth hefyd yn ngolwg John Llwyd. Byddai addoliad teuluaidd yn cael ei gynal yn gyson yn y Dinas,—canu, darllen, a gweddio; ac os na byddai neb yn proffesu yn bresenol, byddai Sarah Morris yn gweinyddu ei hun. Bu yr Ysgol Sul yn cael ei chynal yno am flynyddoedd.

Gwen William, Cwmbychan, oedd wraig dra chrefyddol. Daeth hithau at grefydd flynyddau o flaen ei phriod, a dioddefodd lawer o sarugrwydd oddiwrtho. Ond daeth yntau i wrando yn gyson, ac ymunodd â chrefydd flynyddau cyn diwedd ei oes. Byddai y teulu oll yn y capel yn brydlon erbyn dechreu pob moddion. Pan y byddai gweision y ffermydd yn myned i chwareu ac i hel cnau ar foreu Sul, byddai arnynt fwy o ofn Gwen William na neb arall. Mae rhai o honynt yn byw yn yr ardal eto, ac yn tystio hyny. Byddai Gwen William yn cadw addoliad yn y teulu, ac ar ol i'w gŵr ddyfod i'r society, ceisiai ganddo ef wneyd. Ufuddhaodd yntau, ond ber iawn fyddai y weddi, ac un tro, methodd yn lan a myned ymlaen. "Gwna di," meddai wrth ei wraig, ac felly fu, y hi orphenodd y weddi. Ond er mor syml ydoedd, nid oedd neb yn ameu ei grefydd. Efe oedd wr cywir a pharchus iawn.

Byddai y Parchn. Daniel Evans a Richard Humphreys yn myned i bregethu ar hyd ffermdai Uwch Artro. Un tro yr oedd Mr. Humphreys yn pregethu yn Cwm mawr, a chedwid society ar ol. Yr oedd y wraig, Gaenor Llwyd, yn wraig grefyddol a deallus. Ar ol ymddiddan â hi, aeth Mr. Humphreys i ofyn gair i Sion Llwyd. Ceisiai yn yr ymddiddan arwain ychydig ymlaen. Dywedai "Mae Duw wedi gwneyd y naill beth ar gyfer y llall; lle y mae anfantais mae yno fantais ar gyfer hyny." "Oes yn siwr," atebai Sion Llwyd, "felly y mae hi yma, mae y dŵr yn agos iawn a'r mawn yn bell ryfeddol." "Ie," meddai Mr. Humphreys, "mae yn gynhesach arnom ni i lawr acw, mae genych chwithau gyflawnder o ddefnyddiau tân." "Oes yn siwr," dywedai Sion Llwyd drachefn, "mae yma gyflawnder o fawn eleni, a chynhauaf rhagorol arnynt." Gadawodd Mr. Humphreys ef yn y fan yna, methodd ei godi yn uwch na'r mawn. Hen gymeriad digrif oedd Sion Llwyd. Un tro dywedai wrth gyfaill yn nrws y capel, "Pregeth dda ragorol, onide S———; wyt ti yn myned i'r ffair yfory, dywed?" Yr oedd Methodistiaeth yn uwch o lawer yn Uwch Artro y pryd hyny nag yn awr. Yr oedd llawer o'r penau teuluoedd yn Fethodistiaid da, a phob un yn gymeriad ar ei ben ei hun. Y rhai a enwyd, ynghyd ag Evan Parry, Dolwreiddiog, Ellis William, Cwm bychan, ac Ellis Thomas, Cae-bwlch-wrach, oeddynt y rhai mwyaf blaenllaw. Y mae hen athrawon ac athrawesau yr Ysgol Sul yn deilwng o goffhad. Griffith Sion, Llwynionfychan, a fu yn ffyddlawn yn dysgu plant yn nghongl y sêt fawr am haner can' mlynedd. Nid oedd llawer o ragoriaeth yn yr hen wr, ond perthynai iddo y rhagoriaeth a esyd y Gwaredwr yn uchaf oll, sef ffyddlondeb. Dywedir i William Richard, Tyddyn-y-pandy, hefyd fod yn athraw plant ffyddlon, er na fedrai ddarllen ei hun. William Dafydd, yr Efail, oedd un o'r athrawon ffyddlonaf. Coffheir am un amgylchiad mewn cysylltiad â William Dafydd gwerth ei gadw. Fel y crybwyllwyd, byddai eisteddleoedd newyddion yn cael eu gwneuthur yn yr hen gapel, gwnaed un yn y fan yr arferai William Dafydd eistedd. Digiodd yntau yn aruthr, a bu am ddwy flynedd heb ddyfod i'r capel, ond deuai i'r ysgol yn gyson at ei ddosbarth. O'r diwedd, galwyd cyfarfod brodyr i geisio dwyn yr achos i derfyniad. Ond safai W. D. at ei farn benderfynol ei hun. Dywedai ei fod yn cael gwedd wyneb yr Arglwydd, a bod yn gas ganddo bobl y capel. "Na, yn siwr," dywedai Rees Jones, "nid ydyw hyny ddim yn bod, cael gwedd wyneb Duw, a bod heb garu y brodyr, mae hyny yn armhosibl." Pa fodd bynag, ildiai W. D. ddim. "Wel," ebai Rees Jones, nid yw o un diben i ni fod yma yn ffraeo â'n gilydd," a galwodd ar Sion Griffith, Tanygraig, i ddibenu y cyfarfod. Cododd yr hen ŵr ar ei draed, a rhoddodd y penill canlynol i'w ganu;—

"Yr hwn sydd isel yn ei fryd
Yn caru ei gyd Grist'nogion;
Yr hwn sy'n ofni'r Arglwydd Dduw,
Ac sydd yn byw yn ffyddlon."

Dechreuwyd canu, a chanu y buwyd am amser maith, a chyn y diwedd, yr oedd y dagrau yn treiglo ar hyd gruddiau W. D., ac ni chlywyd byth air o son am yr ymrafael.

Richard Hughes, Tŷ'nyfawnog, oedd athraw y prif ddosbarth. Dywedir nad ydoedd yn rhagori ar y cyffredin mewn gwybodaeth, ond yr oedd yn meddu cymhwysderau athraw. Cadwai ei hun o'r golwg, a rhoddai y dosbarth ar lawn waith; byddai yn hynod fywiog ac effro, ond y dosbarth fyddai yn penderfynu pobpeth. Yr oedd Richard Hughes yn hynod mewn gweddi. Byddai yn dda gan bawb ei weled yn d'od ymlaen i arfer y moddion. Dywedai un chwaer am dano, "Y mae Richard Hughes mor debyg o fyn'd i'r nefoedd pan fydd yn gweddio; bydd arnaf flys a'i ladd ar ei liniau, iddo fod yn sicr o gyraedd y nefoedd yr amser hwnw."

Anne Lewis, Tymawr, merch yr hen flaenor John Jones, a'i chwaer Bridget Ellis, y Felin, a fuont yn athrawesau ffyddlon. Yr oedd Mrs. Lewis yn dra ffyddlon mewn cylchoedd eraill hefyd. Bu ei thŷ yn llety eysurus i'r pregethwyr yn y Gwynfryn, ac wedi hyny yn Tymawr am flynyddoedd lawer, a chyfranai yn haelionus a chyson at yr achos hyd ddiwedd ei hoes faith. Gallem feddwl ei bod yn dwyn llawer o ddelw ei thad; ychydig a ddywedai, ond byddai yr hyn a ddywedai bob amser yn gyflawn o synwyr. Gofynai gweinidog yr eglwys iddi unwaith a fyddai yn gweddio llawer dros yr achos. Atebai hithau, "Ni bydd genyf lawer i'w ddweyd, byddaf yn dweyd 'deled dy deyrnas,' ac yn rhoi fy Amen ar ol hyny." Ni byddai byth bron yn beio ar y bregeth. Un boreu Sabbath, pa fodd bynag, yr oedd wedi bod yn gwrando pregeth ar y geiriau, "Gwthia i'r dwfn," &c. Ar ol myned adref, adroddai y testyn, ac ychwanegai, "Yr oeddwn inau yn dweyd ynof fy hun, wel gwthia dithau i'r dwfn, yn lle laitchio o gwmpas y lan o hyd." Ond anfynych y dywedai ddim fel yna, canmol y byddai fel rheol, ac ni oddefai i neb arall feio. Hi oedd y ddiweddaf oedd yn fyw o'r rhai oedd yn yr Ysgol Sul gyntaf a gynhaliwyd yn Rhwng-y-ddwy-bont.

Tri wyr eraill ffyddlon gyda'r achos oeddynt, Robert Jones, y Coed; Richard Ellis, Penarth; a Robert Wynne, Tyddyn bach. Un o'r athrawon goreu, ac un o'r rhai adawodd fwyaf o'i ol o neb ar Ysgol Sul y Gwynfryn oedd Robert Jones. Dywedir ei fod o dymer naturiol lled bigog, eto meddai galon lawn o gariad, ac yr oedd yn gyfaill y gellid ymddiried ynddo. Yr oedd aelodau ei ddosbarth yn ymlyngar wrtho, a'u parch bron yn ddiderfyn tuag ato. Llewyrchai crefydd hefyd yn ddisglaer yn ei deulu. Coffheir am un cyfarfod nodedig a gynhaliwyd yn y Coed, pryd yr oedd rhyw amhariaeth ar aelod Robert Jones, ac yntau yn methu myn'd i'r capel. Ar ei ddymuniad i gael cyfarfod gweddi, ymgasglodd llon'd y tŷ o bobl. Ymddangosai rhywbeth pur hynod yn y cyfarfod o'r dechreu. Galwyd ar Evan Parry i weddio yn olaf, yr hwn ar ol y brodyr eraill a ofynodd am iddo gael gwella y pryd hwnw "Yrwan, yrwan," dywedai. Yr adeg hono sylwai un o'r brodyr ar Robert Jones yn ceisio codi i edrych a oedd yn gwella; ac y mae yn ffaith ei fod wedi gwella o'r fynyd hono allan. Ar ol terfynu y cyfarfod, dywedai Robert Jones wrth yr ychydig a arhosasant ar ol, a'r dagrau ar ei ruddiau, "Wel, frodyr bach, yr wyf yn gobeithio mai i'r nefoedd yr ewch bob un, lle bynag yr ewch chwi yr âf finau." Byddai yn anhawdd cael gan Richard Ellis wneyd dim yn gyhoeddus, ond pan y gwnai, teimlai pawb mai da oedd bod yn bresenol i wrando. Yn y cyfarfod eglwysig unwaith ewynai fod ei weddiau yn bethau gwaelion iawn. "Ydynt," dywedai John Jones, "y maent yn bethau gwael; dyn yn myned i gongl y cae ac yn dweyd ychydig eiriau, mae yn beth gwael; ond os ydyw Duw yn y nefoedd yn gwrando, nid ydyw hyny yn beth gwael; dyn yn myned i gongl yr ysgubor, ac yn dweyd ychydig eiriau, ac yn meddwl nad ydynt yn myned yn uwch na'i dalcen, mae yn edrych yn beth gwael; ond os ydyw Duw yn y nefoedd yn myned i ateb, nid ydyw hyny yn beth gwael." Robert Wynne Tyddynbach, oedd un hynod mewn gweddi. Cadwai ddyledswydd yn ei deulu trwy lawer o rwystrau. Byddai ei wraig yn dweyd wrtho yn y cynhauaf gwair, "Wel, Robin, darllen di ryw bwt o Salm fach, fach, a dyro bwt o weddi fer, fer, i ni gael myned allan at y gwair yna." A thra byddai ef yn gweddio, byddai hi wedi gyru yr ystôl fyddai ganddi yn eistedd i ymyl y bwrdd, er mwyn cael cydio yn ei gwaith pan ddeuai yr Amen.[41]

Gweithiodd yr eglwys hon ei ffordd heb bresenoldeb gweinidog yn byw yn yr ardal hyd yn lled ddiweddar. Bu y Parch. Daniel Evans yma yn cadw ysgol ddyddiol yn amser Mr. Charles, neu ychydig ar ol ei farw. Byddai y plant yn anarferol o hoff o hono, gan ei fod o dymer mor dyner ac addfwyn; ac yn groes i arferion yr amseroedd hyny, medrai y ffordd i'w dysgu heb eu curo. Un o'i ysgolheigion a rydd yr hanesyn canlynol i brofi hyn. Wedi eu dal ar fai un diwrnod, cymerai D. Evans arno ei fod yn ymadael o'r ardal. Y plant yn gweled hyny a ddechreuasant wylo. Ond nid oedd dim yn tycio, casglodd yr ysgolfeistr wahanol bethau ynghyd ac a'u gwnaeth yn becyn, i osod argraff ar eu meddwl hwy ei fod yn benderfynol o ymadael. Dechreuodd un oedd yno mewn oed, pa fodd bynag, eiriol dros y plant, ac addawodd fyned yn feichiau na byddent ddim yn blant drwg mwyach. Wnai hyny mo'r tro, heb gael dyn arall o'r pentref i roddi ei air drostynt; ac wedi cael dau i ymrwymo yn feichiafon na byddai y plant ddim yn blant drwg mwyach, addawodd aros. Felly, trwy gyfrwysdra a diniweidrwydd yr ysgolfeistr addfwyn, crewyd diwygiad mawr ymhlith y plant wedi hyn. Rhoddodd yr hen efengylwr heddychlon lawer o'i wasanaeth i'r Gwynfryn tra bu yn trigianu dros dymor maith fel eu cymydog yn Harlech.

Cymydog agos, ar yr ochr arall, oedd Mr. Humphreys, hysbys ydyw y gwnelai ef ei hun yn bobpeth i bawb, yn enwedig yn yr ardaloedd cyfagos. Byddai yn y Gwynfryn bob amser ar unrhyw achos o bwys. Yr oedd y Parch. Griffith Hughes, Edeyrn, ar daith trwy Sir Feirionydd rywbryd, a'r Parch. Robert Ellis, Ysgoldy, gydag ef, yn ddyn ieuanc newydd ddechreu pregethu. Yr oeddynt yn Harlech y boreu, Gwynfryn y prydnhawn, a'r Dyffryn y nos. Ebai Mr. Ellis, "Pan yn myned o Harlech tua'r Gwynfryn, mewn trofa ar y brifffordd, pwy welem yn sefyll ar y ffordd draw o'n blaen ond Mr. Humphreys,-corff mawr, un o'r rhai mwyaf esgyrnog, yn tynu at fod yn afrosgo. Ei gyfarchiad cyntaf oedd, 'Wel, mi a ddaethum hyd o'r Faeldref, rhag i chwi gael dweyd na ddaeth neb i droi mo'ch trwyn.'"

Tua'r amser hwn, arferai y Parch. Lewis Jones, Bala, ddyfod yn awr ac yn y man, ar ymweliad â'r Faeldref. Deuai oddiyno weithiau i'r Gwynfryn i gadw seiat. Y Parch. E. Foulkes Jones, Glan Conwy, yn ei adgofion am y Gwynfryn, a rydd y darluniad dyddorol a ganlyn o un o'r cyfarfodydd hyn,-"Yr oedd genyf feddwl mawr am Lewis Jones fel pregethwr, ond nid oeddwn erioed wedi ei glywed yn cadw seiat. Ar ol iddo ddechreu, dywedai un o'r blaenoriaid wrtho am gymeryd y seiat yn ei law ei hun. 'Wel,' meddai, 'ni waeth i mi ddechreu yn y fan yma :' a dechreuodd ar ei law dde yn y sêt fawr, ac aeth ymlaen tua'r pen nesaf i'r afon iddi. Yn y fan hono yr oedd hen ŵr bychan yn dysgu plant bob amser, ac yr oeddwn inau wedi bod yn ddisgybl iddo. Yr oeddwn yn ofni rhag i'r hen athraw fyned yn ddim dan ddwylaw Lewis Jones. Dechreuodd ei holi, a dechreuodd yr hen wr ei ateb, a chyn hir yr oeddwn yn credu fod y ddau yn nghanol y nefoedd, nes yr oeddwn yn synu o ba le yr oedd yr hen ŵr diniwed wedi cael y fath syniadau. Yn bur fuan ar ol hyn, daeth at ŵr arall ag y byddai son am dano pan oeddwn yn fachgen, fod ar ei feddwl ddechreu pregethu. Ei brofiad ef oedd ei fod yn ofni nad oedd wedi marw i'r ddeddf, a chofiais yn y fan mai dyna fyddai ei hoff bwnc bob amser. Wel, meddwn wrthyf fy hun, Lewis Jones o bawb i drin y pwnc yna gyda chwi. Dechreuodd y gŵr parchedig ei holi yn bwyllog ar y mater, a throai o gwmpas y mater, yn ol ac ymlaen, a'r dyn trwy y cwbl yn dangos yr anwybodaeth dyfnaf, a dim i'w gael ganddo ond ei fod yn ofni nad oedd wedi marw i'r ddeddf. Ar hyn, cyfodai Lewis Jones ei olygon at y rhai oedd yn nghorff y capel, a dywedai, 'Yr oeddwn ychydig Sabbothau yn flaenorol yn un o'r teithiau agosaf i'r Bala, lle yr oedd amaethwr cyfrifol wedi aros yn y seiat ar ol yr odfa. Yr oedd yn hen wrandawr, ac wedi cael ar ei feddwl yn ddiweddar i ymuno â phobl yr Arglwydd. Anfonwyd fi ato (ebai Lewis Jones), a dechreuais ymddiddan âg ef, a dyna a ddywedai, ei fod yn ofni nad oedd wedi gwir gredu yn Nghrist. Ceisiais fy ngoreu ddangos iddo gymhwysder Crist croeshoeliedig fel gwrthddrych priodol i bechadur gredu ynddo, ond diengai y dyn o dan fy nwylaw, gyda'r esgus ei fod yn ofni nad oedd wedi gwir gredu yn Nghrist. Aethum o'i gwmpas drachefn, a heliais ef i'r gongl, i olwg Crist croeshoeliedig, ond diangodd eto gyda yr un esgus. Aethum o'i gwmpas y drydedd waith, yn arafach a mwy gofalus, rhag fod rhywbeth yn fy null yn dangos yr Arglwydd Iesu iddo yn ei ddychrynu, ac wedi ei gael megis i adwy y mynydd, fel nad oedd neb ond efe a Christ croeshoeliedig yn y golwg, diangodd eto gyda'r un esgus ei fod yn ofni nad ydoedd wedi gwir gredu yn Nghrist, nes y bu raid i mi ddweyd fy mod inau yn ofni nad ydoedd wedi gwir gredu, onide ni fuasai mor gas ganddo Grist wedi ei groeshoelio.' Ni wnaeth ddim cymhwysiad o'r chwedl at y gŵr yr oedd yn ymddiddan ag ef ar y pryd, ac nid oedd eisiau, gan fod yr ymddiddan blaenorol yn ei chymwyso yn well na dim y gallai ef ei wneyd. Nid wyf yn cofio i mi glywed dim byd mwy gafaelgar yn fy oes; yr oeddwn yn teimlo ar y pryd ei fod yn cario rhywfaint o awdurdod y Barnwr mawr y dydd diweddaf. Yn ddiweddaf oll, daeth at hen frawd oedd wedi bod mewn rhyw ddyryswch ar hyd ei oes. Achwynai yr hen frawd yn dost fod y blaenoriaid wedi gwneyd cam âg ef mewn rhyw achos. Dechreuodd Mr. Jones holi yr hen wr a'r blaenoriaid, ac er yr edrychai yr achos yn dywyll yn y dechreu, daeth yn ddigon amlwg cyn y diwedd pa fodd yr oedd pethau yn bod; dywedai y gweinidog yn ddifloesgni lle yr oedd bai y blaenoriaid a bai yr hen ŵr, a chymerodd pawb ei fai ei hun yn ddigon tawel. Yr wyf yn edrych ar hon yn un o seiadau hynotaf fy oes, un y gwelais amlygiadau digamsyniol o bresenoldeb yr Arglwydd Iesu ynddi."

Yr un gŵr hefyd a rydd hanes un arall o bregethwyr hynod yr oes o'r blaen yn talu ymweliad â'r ardal. "Yr wyf yn cofio pan yn fachgen, fod son mawr drwy yr ardal fod Dafydd Cadwaladr i bregethu yn y Gwynfryn ar foreu Sabbath. Yr oedd y capel yn orlawn o bobl, ac er fy syndod, hen wr gwladaidd, esgyrnog, mewn dillad o frethyn cartref a welwn yn y pulpud, a gwynebpryd garw ganddo. Gyda fy mod i i fewn, dechreuodd weddio, a'i ben i lawr. Nid oeddwn yn fy oes wedi clywed neb yn gweddio yr un fath, ac edrychwn yn awr ac eilwaith i ben y capel, a welwn rywun neu rywbeth yn cario y deisyfiadau rhyfedd a chynwysfawr ar eu hunion o'r nefoedd i'w ben. Yr oeddwn dan yr argraff fod yn rhaid iddynt ddyfod o'r nefoedd rywsut neu gilydd. Nid wyf yn cofio dim o'r bregeth, ond y mae argraff y weddi ddwys, ddifrifol, a'r taerineb gafaelgar a gostyngedig hwnw, yn aros hyd y dydd heddyw."

Ystyrir y Gwynfryn yn eglwys ag y mae llawer iawn o rai rhagorol y ddaear wedi bod yn perthyn iddi. Rhai felly yn arbenig oedd y set gyntaf o grefyddwyr, a magwyd yma do ar ol to o rai cyffelyb iddynt. Bu presenoldeb yr Arglwydd yn amlwg iawn ar adegau yn yr hen gapel. Coffheir am Sabbath nodedig, pan ddaeth y Parch. David Davies, Penmachno, y pryd hwnw, i'r ardal yn annisgwyliadwy. Pregethodd y nos, ar y Salm gyntaf, o dan arddeliad amlwg; daeth deunaw i'r society mewn canlyniad i'r odfa hono. Dro arall, pan oedd y Parch. R. Jones, Llanfair, yn gweinyddu yr ordinhad o Swper yr Arglwydd, dywed y rhai oedd yn bresenol na welsant ddim cyffelyb erioed; nid oedd yno gynwrf, ond teimlad dwfn, distaw; Sabbath a gofir tra byddant byw ydoedd. Cofir, hefyd, am Sabbath cymundeb, pan oedd y Parch. Rees Jones, Felinheli, yn gweinyddu. Yr oedd Mr. Jones wedi dyrysu nas gwyddai pa ffordd i fyned hyd nes yr aeth un o'r brodyr ato. Adegau oedd y rhai hyn y rhoddai yr Arglwydd ei bresenoldeb yn amlwg gyda'i bobl.

Adroddwyd yr hanes canlynol wrth y Parch. D. Jones, yn awr o Garegddu, gan y blaenor adnabyddus William Richard, yr hwn oedd yn llygad-dyst o'r ffeithiau. Digwyddodd ryw dro fod John Elias ar daith trwy y rhan yma o Sir Feirionydd. Cyhoeddid ef i bregethu, yn ol y trefniad, yn y Dyffryn, ar nos Sabbath; yr un Sabbath, yr oedd Robert Dafydd, Brynengan, yn y Gwynfryn, am ddau o'r gloch a'r nos. Wrth gyhoeddi ar ddiwedd yr odfa prydnawn, anogai Robert Dafydd, y neb a ewyllysiai i fyned i'r Dyffryn, i glywed y gŵr enwog yn pregethu, yn hytrach nag aros yn y Gwynfryn i wrando arno ef. Aros, pa fodd bynag, yn y Gwynfryn a wnaeth llawer. A'r noswaith hono, torodd allan yn orfoledd mawr, y fath ag y bu son am dano am amser maith. Yr oedd Humphrey Evans, wedi hyny o Lanfair, a John Davies, tad y Parch. John Davies, gynt o Lanelli, yn llanciau, yn eistedd ar ymyl yr hen gallery; a thra y cynyddai y gorfoledd yn ei rym, neidiasant dros yr ymyl i'r llawr brwyn islaw, gan ymuno â'r gynulleidfa mewn neidio a molianu. Ymysg y gynulleidfa ar y llawr yr oedd priod Richard Owen, wedi hyny o Runcorn, ac yn ddiweddaf o Bennal, yn wraig ieuanc, a baban bychan yn ei breichiau. Hithau hefyd a ddechreuodd neidio a molianu, gan daflu y baban oedd ganddi yn ei breichiau i ffedog ei mam, yr hon a eisteddai yn ei hymyl. Edrychai y ddau hen flaenor o'r sêt fawr ar yr olygfa gyda mwynhad rhyfeddol; ac wrth weled y wraig ieuanc yn taflu ei baban i ffedog ei mam, ebe John Jones wrth William Richard, "Weli di, dyma y broffwydoliaeth yn cael ei chyflawni, A anghofia gwraig ei phlentyn sugno, fei na thosturia wrth fab ei chroth? ïe, hwy a allant anghofio, eto myfi nid anghofiaf di.'" "

Y BLAENORIAID.

JOHN JONES.

Cydgychwynai ef â'r achos ar ei sefydliad. Efe a olygid ei brif sylfaenydd, ac yr ydoedd yn ŵr yr edrychid i fyny ato, nid yn unig yn ei eglwys ei hun, ond yn y Cyfarfod Misol a'r Gymdeithasfa. Fel duwinydd da ac un yn meddu ar synwyr cryf, dichon mai efe oedd y blaenaf a mwyaf ei ddylanwad o holl flaenoriaid y dosbarth yn ystod y deugain mlynedd cyntaf o'r ganrif bresenol, ac hwyrach na bu ei ragorach yn yr ystyr hwn, yn y rhan yma o'r wlad, o'r cychwyn cyntaf hyd yn awr. Ni byddai yn traethu yn faith ar unrhyw fater, ond gwnai sylwadau byrion, cynwysfawr, a phob amser at y pwrpas. Arferai holi yn gyhoeddus oddiar y benod a ddarllenid mewn cyfarfodydd gweddi, ac nid ychydig oedd ei gymhwysder i hyn, gan ei fod mor hyddysg yn yr Ysgrythyr, ac mor alluog fel duwinydd. Nid oes llawer o'i gwestiynau ar gael, ond adroddai un hen chwaer ei fod yn gofyn iddi yn Ysgol Sul y Dinas, "Pa un ai Duw o naturiaeth ai Duw o hanfod ydyw Duw," yr hyn a ddengys y byddai ei gwestiynau allan o'r ffordd gyffredin. Gwr mawr oedd ef, hefyd, mewn gweddi, yn arbenig y weddi ddirgel. Daw hyn i'r golwg yn y chwedl ganlynol a adroddai ei gyfaill a'i gymydog, John Williams, y Dinas. Yr oeddynt ill dau yn cysgu gyda'u gilydd unwaith yn un o ffermdai y gymydogaeth, yn nghanol prysurdeb y cynhauaf gwair. Rywbryd wedi myned i'r gwely, gofynai John Jones i'w gyfaill John Williams, "Wyt ti yn cysgu?" "Nac ydwyf," oedd yr ateb. Gofynai yr ail waith, "Wyt ti yn cysgu?" "Nac ydwyf," ebai y llall. Nis gwyddai yn iawn beth oedd ei amcan yn gofyn y cwestiwn, ond fe benderfynodd, os gofynai drachefn, i ateb ei fod yn cysgu. Ymhen enyd, gofynwyd y cwestiwn y drydedd waith, "Wyt ti yn cysgu?" "Ydwyf," oedd yr ateb y waith hon. Gyda hyny cyfodai John Jones o'i wely, ac aeth ar ei liniau. Ei gyfaill, yr hwn oedd yn ddigon effro, a sylwai arno yn aros ar ei liniau yn hir. O'r diwedd, clywai ef yn dywedyd, "Wel, Arglwydd mawr, gan nad oes genyt ti ddim i'w ddweyd wrthyf, fe af fi i fy ngwely." Felly yr aeth. Rhoddai y tro hwn argraff ar feddwl ei gyfaill mai dyma arfer yr hen Gristion o ddal cymundeb a'r Arglwydd.

Ffaith arall tra hynod i brofi duwioldeb yr hen bererin hwn o'r Gwynfryn ydoedd, yr hyn a adroddwyd gan Griffith Pugh, un o flaenoriaid Llanfachreth. Byddai John Jones arferol a threulio rhan o'i amser gyda'i orchwyl yn nghymydogaeth Dolgellau. Un boreu, yr oedd Griffith Pugh yn cadw dyledswydd deuluaidd yn ei dŷ, yn Llanfachreth, ac yn ei theimlo yn anarferol o galed-mwy o dywyllwch nag arfer wedi meddianu ei feddwl. Ond tra yr oedd ar ganol gweddio, daeth dyn i mewn i'r tŷ, ac ymostyngodd ar ei liniau gyda'r gweddill o'r teulu, heb ddyrysu dim ar y gwasanaeth. Gydag iddo ddod i mewn, teimlai y gweddiwr lawer mwy o ryddid wrth weddio. Gallai fyned yn ei flaen mor rhwydd bellach fel mai anhawdd oedd rhoddi i fyny weddio. Pwy oedd wedi dod i'r tŷ ond John Jones. Teimlai G. Pugh ei bresenoldeb fel presenoldeb angel wedi dyfod i'r tŷ; credai yn sicr mai hyny oedd wedi rhoddi y fath rwyddineb iddo, ac adroddai yr hanes yn fynych wrth ei gyfeillion.

Rhoddwyd eisoes hanes dyddorol am dano yn cadw seiat mewn cysylltiad ag eglwys Llanelltyd. Gwnaeth ei hun yn hynod o gyhoeddus mewn amrywiol gylchoedd eraill. Aeth o'r Gwynfryn unwaith i Harlech, i Gyfarfod y Feibl Gymdeithas. Gŵr eglwysig pur uchel oedd yno ar y pryd dros y Gymdeithas. Rhoddwyd John Jones i ddechreu y cyfarfod trwy ddarllen a gweddio, a galwyd arno i siarad drachefn ar ran y Gymdeithas. Siaradodd yntau mor effeithiol, nes oedd pawb wedi myned i wylo, ac nis gallai y gŵr dieithr dros y Gymdeithas wneuthur dim argraff ar ei ol. Bu son mawr am y cyfarfod hwn.

Gwnaeth hefyd araeth gofiadwy yn Nghymdeithasfa Dolgellau, pan oedd achos yr Ysgol Sul dan sylw. Yr oedd yn bresenol yn y Gymdeithasfa hono, John Elias, Ebenezer Richard, William Morris, Cilgeran, a llawer o enwogion eraill. Eisteddai John Jones ar y gallery; galwyd arno i ddweyd gair. Daeth yntau ymlaen i ymyl y gallery, a dywedai,-"Nid oes gen i fawr i'w ddweyd mewn lle fel hyn. Ond yr ydwyf yn cofio y wlad yma yn wahanol iawn i'r hyn ydyw hi yrwan. Yr ydwyf yn ei chofio heb ddim capelau, heb ddim Ysgolion Sabbothol, ac heb fawr iawn o Feiblau yn y tai. Erbyn hyn y mae ysgol a chapel bron ymhob cwm, a Beibl ymhob tŷ. Ond rhaid i mi gofio, os ydym am ddal ein tir, y rhaid i ni lafurio yn gyson. Byddaf fi yn gweled y gofaint yn y wlad yma yn cael yr haiarn adref yn fariau ac yn sheets, yn ol y maint a'r trwch fo arnynt eisiau. Ond rhaid i'r gof gadw ei dân bach ei hun, onide wnaiff o ddim bywoliaeth. Whawn ninau ddim bywoliaeth os na pharhawn ni i lafurio yn gyson gyda yr Ysgol Sul." Yr oedd enwogion y Gymdeithasfa wedi eu gorchfygu o lawenydd wrth wrando ar y sylwadau hyn. Yn ei hen ddyddiau parhai yn golofn i gynal yr achos. Petrusai y blaenoriaid eraill ynghylch derbyn nifer o rai ieuainc yn gyflawn aelodau oherwydd en bod yn wylltion. "Os ydynt yn wyllt," ebai John Jones, "ni wn i beth ellwch wneyd yn well na rhoi ffrwyn yn eu penau nhw." Bu yr hen batriarch farw yn nghanol parch ac edmygedd yr eglwys.

EDWARD JONES, HENDREWAELOD.

Efe a John Jones oeddynt y ddau flaenor cyntaf. Rhoddodd ef dir i adeiladu capel Cwm Nancol arno ar delerau rhesymol. Yr oedd yn ddyn da a deallus. Y mae rhai o'i deulu yn aros yn golofnau wrth yr achos. Oherwydd rhyw amgylchiadau, modd bynag, ymadawodd o'r Gwynfryn i'r Dyffryn, a neillduwyd ef i'r swydd yno cyn diwedd ei oes.

Rhys Sion, Tynllan (wedi hyny o Talygareg); John Owen, a William Rhisiart, Tanywenallt (Tyddynypandy wedi hyny), a ddewiswyd ar ol y ddau uchod. Symudodd John Owen i'r Dyffryn. Symudodd Rhys Sion a W. Rhisiart gyda'r eglwys ar ei sefydliad cyntaf i Lanbedr. Ceir eu hanes mewn cysylltiad a'r achos yno. William Davies, Dinas, fu yn flaenor am dymor. Ymfudodd i'r America. Griffith Williams, Glanrhaiadr, ac Evan Jones, a neillduwyd oddeutu yr un amser, a buont yn gwasanaethu y swydd yn Nancol.

WILLIAM EVAN, GWYNFRYN.

Derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol Tachwedd, 1841. Wrth ddweyd ei brofiad ar y pryd, tystiai fod gwawr wedi tori ar ei feddwl yn ngwyneb y geiriau, "Mae hwn yn derbyn pechaduriaid." Bu ef yn ffyddlon iawn gyda'r achos. Gwnaeth y goreu o'r ddau fyd, canys yr oedd yn hynod ddiwastraff o'i amser Darllenasai y prif erthyglau yn y Geiriadur, ac yr oedd yn eu deall yn drwyadl. Parchai yn ddiledryw weinidogion yr efengyl; gwnaeth benderfyniad pan oedd ei blant yn ieuainc i beidio dweyd yr un gair bach am yr un pregethwr ar yr aelwyd gartref. Ato ef yn benaf y cyfeiriai Mr. Morgan pan y dywedai unwaith mewn Cyfarfod Misol fod blaenoriaid y Gwynfryn yn esiampl yn eu dull o wrando, ei fod ef yn gwybod eu bod yn gallu gwahaniaethu rhwng y gwych a'r gwael, ond nas gallai neb ddeall hyny oddiwrth eu dull hwy. Gŵr llednais ydoedd, yn caru heddwch ymhlith y brodyr. Yntau hefyd a aeth i dangnefedd, wedi dioddef ei ran o brofedigaethau ei swydd. Bu farw yn niwedd 1873.

JOHN WILLIAMS, DINAS.

Oddeutu y flwyddyn 1857, dewiswyd yntau yn flaenor, ond gwrthododd ddyfod ymlaen i gael ei dderbyn am ei fod, meddai ef, yn rhy hen. Gweithiodd ei ddiwrnod, er hyny, fel un o wyr ffyddlonaf yr eglwys, ac ni byddai hanes yr eglwys mewn un modd yn gyflawn heb air am dano ef. Os byddai gwendid neu ddiffyg, byddai a'i holl egni yn cynal yr achos; ond tra yr elai pobpeth ymlaen yn rhwydd, byddai ef o'r golwg: nid oedd arno eisiau dangos ei hun. Gofalai yn neillduol am y bobl ieuainc, rhoddai waith iddynt, a thynai hwy ymlaen. Yr oedd llawer o hynodion yn perthyn iddo; dywedai ei feddwl yn ddidderbyn-wyneb, ac ni feddyliai neb am dramgwyddo wrtho. Un tro, mewn committee ar ddiwedd y flwyddyn, dywedai Rhys Sion, "Wel, frodyr, yr ydym wedi bod hyd yma gydag amgylchiadau allanol yr achos, oes gan neb yr un gair i'w ddweyd o ddim arall?" Cymhellwyd John Williams i ddweyd gair. "Wel oes, y mae gen i beth i'w ddweyd," atebai yntau, "ond rhyw bregeth ddigon digrif fydd fy mhregeth i heno; fe'i dywedaf i hi, gwnewch chwithau fel y fynoch â hi wed'yn. William Rhisiart, pan godi di i siarad, dywed yr hyn fydd genyt i'w ddweyd unwaith, a gad rhyngom ni a fo-paid a'i ddweyd o ddwywaith. A phaid a dweyd y cogyn aur hwnw o hyd. A thithau, Rhys Sion, rhaid i ti beidio bod mor hir; yr ydym ni wedi bod yn dweyd hyn wrthyt ti lawer gwaith, a dal ati hi wnawn ni nes y gwnei di altro. William Evan, paid tithau a dweyd dest yr un fath a'r neb fydd o dy flaen-dyfeisia rywbeth dy hun i'w ddweyd. A dyma finau, rhyw benbul ydw ina', does i chwi ddim i'w wneyd ond dal i guro arna i. A dyma Sam yn gymaint penbul a mina'-rhaid i ti beidio bod mor stupid Sam. Edward Davies, rhaid i chwi beidio bod mor boethlyd; hwyrach pe bae y peth fyddwch yn ei ddweyd wedi ei daflu i ganol y llawr i oeri, na byddai yn werth hen fagsen."[42] Dywedir fod y cynghorion hyn yn briodol iawn i bob un, ac er na buasai yn talu i neb arall eu dweyd, nid oedd neb yn meddwl tramgwyddo wrtho ef. Rhagorai ar y cyffredin mewn haelioni, ac yr oedd hyn wedi ei ddysgu iddo er yn blentyn gan ei fam. Pan yn fachgen byddai yn canlyn y cwch ar Lyn Penmaen, ger Dolgellau, ac yr oedd ganddo "gadw di gei" i roddi ei bres ynddo. Ceisiai ei fam ganddo roddi peth at y Feibl Gymdeithas, dywedai yntau nad oedd ganddo ddim i'w roddi; gwnaeth hithau iddo edrych faint oedd yn y box yr oedd yno saith a chwech. "Dyro goron," ebai ei fam, "hwyrach y cei di goron i'w rhoddi tra byddi byw." Gwnaeth yntau hyny, a pharhaodd i'w rhoddi tra y bu byw. Byddai yn rhoddi y goron ar ei phen ei hun, er mwyn gair ei fam, a sovereign at hyny. Ei briod hefyd, Elizabeth Williams, oedd wraig hynod am ei haelioni. Pan yn wraig weddw yn Ymwlch, byddai ei thŷ yn agored i'r holl bregethwyr a elent heibio. Hi fyddai yn gofalu am amgylchiadau allanol y Cyfarfod Misol yn Harlech, ac wedi hyny yn y Gwynfryn.

EDWARD OWEN

a fu yn flaenor yma am dymor tra fu byw yn Cefnisa', ond yn Harlech y bu yn gwasanaethu y swydd hwyaf. Bu farw yn nechreu 1878.

ELLIS EDWARDS, HAFODYCOED.

Derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol, Medi 1878, ond yr oedd wedi gweithio llawer gyda'r achos am faith flynyddau cyn hyny. Y lle y deuai ei ragoriaethau ef i'r golwg yn fawr oedd yn yr Ysgol Sabbothol. Yr oedd yn athraw ac yn holwyddorwr da. Bu yn llywydd cyfarfod ysgolion y dosbarth am flynyddau. Dangosodd ffyddlondeb mawr gydag amgylchiadau yr achos, yn enwedig yn ei flynyddau olaf. Yr oedd yn wr ffraeth ei ddywediadau, serchog yn ei gymdeithas, ac yn un o'r cymydogion mwyaf caredig. Yn ei ymadawiad, collodd yr eglwys un o'i phrif golofnau. Bu farw Medi 16eg, 1888.

WILLIAM LEWIS, Y PENTREF.

a fu farw yn bur ddisymwth ddechreu Rhagfyr, 1889. Bu yn wasanaethgar i'r achos yn ol ei allu, ac yr oedd ei dy er's blynyddoedd yn agored i weinidogion yr efengyl. Y mae yr eglwys ar hyn o bryd yn teimlo ei cholled yn fawr ar ei ol.

SAMUEL JONES.

Er colled fawr i'r eglwys, bu yr hen bererin Samuel Jones farw Ebrill 23ain, 1890, yn 81 mlwydd oed, wedi bod yn flaenor rheolaidd er dechreu 1857. Treuliodd ran gyntaf ei oes yn ddyn ofer; ond wedi ei ddychwelyd daeth yn un o ddeiliaid ffyddlonaf y Brenin Iesu. Pan oddeutu pump ar hugain oed, ac yn fuan ar ol ei ddychwelyd at grefydd, gosodwyd ef yn ddechreuwr canu yn y Gwynfryn, a pharhaodd yn y swydd hyd ddiwedd ei oes. Owen Evans, Talygareg, oedd y dechreuwr canu o'i flaen ef; bu tymor y ddau yn y swydd, wedi eu rhoddi ynghyd, oddeutu pedwar ugain a deg o flynyddau. Tystiolaethir am S. Jones ei fod yn un o'r duwinyddion goreu, y dilynwr moddion gras goreu, y gwrandawr goreu, a'i fod yn nodedig o grefyddol ei ysbryd. Hen bererin hoff! mor nefolaidd ei lais, ac mor debyg i sant yr olwg arno! Y nos Sabbath olaf y bu yn y capel, cynghorai yr eglwys i fod yn ffyddlon i'r moddion, yn enwedig i'r Ysgol Sul, a dywedai am yr anhawsderau a gawsai ef ei hun i ddyfod i'r moddion y diwrnod hwnw. "Ond," meddai, "yr ydw i wedi gwneyd hen benderfyniad i fod yn ffyddlon hyd y medrwn, ac mi ddymunwn,—

Rodio'r llwybr cul bob cam,
A meddwl am fy nghartref."

Mr. William Lewis, Tymawr, a fu yn flaenor am dymor maith, ac a weithiodd lawer gyda'r achos yn ei holl gysylltiadau. Mr. Robert Jones, Gwerneinion, a fu yn gwasanaethu y swydd yn ffyddlon yma cyn ei symudiad yn ddiweddar i'r Dyffryn. Un arall ymhlith y chwiorydd a ddangosodd ffyddlondeb mawr i'r achos, ac a groesawodd lawer ar bregethwyr yr oes bresenol, oedd Mrs. Lewis, Pentref y Gwynfryn. Nid oedd dim yn ormod ganddi hi i'w wneyd yn y ffordd hon.

Oherwydd rhyw achos neu gilydd, bu yr eglwys am flwyddyn heb ddim swyddogion; ac am y flwyddyn hono, gosododd y Cyfarfod Misol y Parch. E. J. Evans, Llanbedr, y pryd hwnw, yn ofalwr am yr achos. Wedi ail ddewis y blaenoriaid, pasiwyd y penderfyniad canlynol yn Nghyfarfod Misol Mai, 1884, "Amlygwyd llawenydd fod yr eglwys yn y Gwynfryn wedi dyfod i'r stât y mae ynddi yn bresenol, ar ol bod mewn amgylchiadau pur ddyrys." O hyny hyd yn awr, â pob peth ymlaen yn llwyddianus.

Yn y flwyddyn 1864, galwyd y Parch. D. Jones, yn awr o Garegddu, i fod yn weinidog rheolaidd yr eglwys hon a Llanbedr. Bu yn llafurus ynddynt am bymtheng mlynedd, a'i arhosiad yn fendith i'r achos. Bu y Parch. Hugh Pugh, hefyd, yn preswylio yn yr ardal, ac yn weithgar gyda'r achos, hyd ei ymsefydliad yn Lleyn yn y flwyddyn 1889. Y blaenoriaid presenol ydynt, Griffith Williams, Thomas. Lloyd, Edward Evans.

Aelodau eglwysig, 89; gwrandawyr, 225; Ysgol Sul, 174.

NANCOL.

Gelwir y lle hwn Cwm Nancol. Saif oddeutu dwy filldir yn uwch i fyny na phentref y Gwynfryn, rhwng hyny a Drws Ar Dudwy. Teneu ydyw poblogaeth yr ardal wedi bod, ac felly mae eto. Perthyn i'r Gwynfryn fel taith y mae y lle wedi bod o'r dechreu, er nad yw rhan o'r ardal ymhell iawn o ardal Dyffryn. Dechreuwyd yr achos yma trwy gadw Ysgol Sul mewn ffermdy o'r enw Hendrewaelod, yn y flwyddyn 1816. Edward Jones, Twllnant, a Robert Jones, Glanrhaiadr, oedd yn gofalu yn benaf am yr ysgol, ac yn aelodau yn eglwys y Dyffryn. Bu yn cael ei chynal wedi hyny am ysbaid yn Glanrhaiadr. Symudwyd hi yn ol drachefn i'r Hendrewaelod yn 1818, ac yno y bu dros ysbaid ugain mlynedd, hyd nes yr adeiladwyd y capel. Adeiladwyd capel Nancol yn y flwyddyn 1839. Rhoddwyd y tir yn feddiant gan Edward Jones, Hendrewaelod, am ddeg swllt. Heblaw efe, cymerodd y cyfeillion canlynol ran flaenllaw gyda'r capel, Griffith Williams, Glanrhaiadr; Evan Lloyd, Gareglwyd; Evan Jones, Twllnant; Rees Williams, Maesygarnedd; Moses Hughes, Llanmaria. Rhoddodd Morris Jones, Graig Isaf, arian yn ddilôg tuag at y capel. Yr oedd, yn ol y cyfrifon, 20p. o ddyled arno yn y flwyddyn 1850. Yr oedd y cyfeillion yn y cwm hwn mor awyddus i gael addoli yn y capel, fel y darfu iddynt gynal cyfarfod gweddi ynddo pan oedd y seiri coed ar ganol eu gwaith. John P. Jones, mab Edward Jones, Hendrewaelod, ddechreuodd y cyfarfod, a'r penill cyntaf a ganwyd ynddo oedd:—

"I dŷ yr Arglwydd pan ddywedant awn."

John Thomas, y Bala, a bregethodd gyntaf yn y capel. Moses Hughes, Llanmaria, brawd i'r Parch. Thomas Hughes, gynt o Fachynlleth, oedd y dechreuwr canu cyntaf. Bu Betti Ifan, Hendrewaelod, yn ofalus gyda'r achos bychan yn Nancol, byddai yn arwain y canu pan na byddai neb gwell yn bresenol. Yn 1844, medd ein hysbysydd, y sefydlwyd yr eglwys yno, nid trwy osodiad y Cyfarfod Misol, na thrwy ganiatad eglwys y Gwynfryn, ond trwy fyned a'r ordinhad o Swper yr Arglwydd i'w gweinyddu i Elizabeth Jones, yr hon gan henaint oedd yn methu mynychu moddion gras. Rhif yr aelodau eglwysig y pryd hwn oedd 16.

Hyd eithaf ein gwybodaeth, tri o frodyr fu yn flaenoriaid yn Nancol-Griffith Williams, Glanrhaiadr, Evan Jones, Twllnant, Evan Parry, Cefnuchaf. Y mwyaf hynod o'r tri, o leiaf, y mwyaf gwastad a ffyddlon ymhob peth, oedd Griffith Williams. Yr oedd yn hynod yn y cyfarfod eglwysig, fel gweddiwr, a chynghorwr doeth ac amserol. Dewiswyd ef yn flaenor gyda golwg ar Nancol, yn y flwyddyn 1841. Ofnus oedd ynghylch ei grefydd bersonol, ebai Daniel Evans, pan yn cael ei dderbyn i'r Cyfarfod Misol. Trwy ei ffyddlondeb, enillodd radd dda, a hyfder mawr yn y ffydd sydd yn Nghrist Iesu. Symudodd yn niwedd ei oes i fyw i'r Gwynfryn, ac nid yn fuan yr anghofir ei sylwadau synhwyrgall, a'i weddiau byrion a thaerion yno. Derbyniwyd Evan Parry yn aelod o'r Cyfarfod Misol fel blaenor yn Nancol yn mis Mawrth, 1856. Yr oedd yn gymeriad ar ei ben ei hun. Yr oedd yn ŵr cadarn yn yr Ysgrythyrau, yn deall athrawiaethau crefydd yn dda, yn hoff o ymborthi ar fwyd cryf. Mwynhaodd lawer yn ei flynyddoedd olaf ar bregethau y Parchn. David Charles, Caerfyrddin, a Morgan Howells. Byddai yn bur llawdrwm ar y pregethwyr ieuainc, yn eithafol felly ar adegau. Anwastad y ceid ef o ran ei dymer a'i brofiad crefyddol. Byddai yn gyndyn ar brydiau i ddweyd dim yn y seiat, yn enwedig os trymaidd fyddai y cyfarfod, ond os yn ysgafn, byddai yntau ar uchelfanau y maes. Er hyny, rhoddai Evan Parry brofion ei fod yn ŵr yn dal cymdeithas â Duw, a byddai ei weddiau yn ffrwyth ei brofiad ei hun.

Ymhen amser, gwanychodd yr achos yn Nancol, a theimlid anhawsder i'w gario ymlaen fel eglwys ar ei phen ei hun. Y crybwylliad cyhoeddus cyntaf ydym yn gael ar hyn ydyw, fod brawd o'r eglwys yn rhoddi adroddiad yn Nghyfarfod Misol Mai 1864, o sefyllfa isel yr achos yn y lle, ac yn dymuno cael sylw y Cyfarfod Misol at hyny. Ar ol gwneyd ymchwiliad, y penderfyniad cyntaf y daeth y Cyfarfod Misol iddo oedd, eu cynghori i ffurfio undeb agosach â'r Gwynfryn, ac i ddyfod i lawr yno i gyfranogi o'r ordinhad o Swper yr Arglwydd. Ebrill, 1865, gwnaed sylw helaethach a mwy penderfynol o'r achos drachefn mewn cyfarfod yn y Dyffryn, a cheir y geiriau canlynol, mewn cysylltiad â'r cyfarfod hwnw. "Gwnaed sylw ar y perygl i leoedd bychain fyned yn eglwysi ar eu penau eu hunain, a thrwy hyny fod achos crefydd yn cael ei ddrygu." Yn Nghyfarfod Misol y Dyffryn, Chwefror 1867, wele y diwedd wedi dyfod. "Wedi gwrando adroddiad am agwedd yr achos yn Nancol, penderfynwyd na byddom mwyach yn cydnabod yr achos yn y lle bychan hwnw yn eglwys; ac os bydd y rhai sydd yn aelodau yno yn dewis bod yn aelodau gyda'r Methodistiaid, fod yn rhaid iddynt ymuno â rhyw eglwysi eraill, a phenodwyd y Farchn. D. Davies ac Edward Morgan i fyned yno i roddi y penderfyniad hwn gerbron y cyfeillion." Er mai bechan a gwywedig oedd yr eglwys, ymladdfa fawr a fu ei difodi. O'r pryd hwn allan, pa fodd bynag, nid ydyw Nancol yn bod fel eglwys, ond erys hyd heddyw yn rhan o eglwys y Gwynfryn, ac aiff y pregethwr o'r lle olaf i fyny yno i roddi pregeth bob prydnhawn Sabbath. Rai blynyddau yn ol, adnewyddwyd y capel, ac mae y cyfeillion crefyddol yma er's peth amser yn awr yn dangos graddau o adnewyddiad.

TALSARNAU.

Yn araf y torodd y wawr ac yr ymdaenodd y goleuni dros ardal Talsarnau. Nid oes sicrwydd i gychwyn gael ei roddi i'r achos yma hyd oddeutu terfyn y ganrif ddiweddaf, o leiaf, nis gallai y dechreuad fod ond bychan cyn hyny. Ond yn absenoldeb pob gwybodaeth am y dechreuad, gellir bod yn lled sicr i ryw gymaint o ddylanwadau crefyddol gael eu cario yma gyda'r awelon o Benrhyndeudraeth a Harlech, dau le o bob tu, a gafodd eu breintio gyda'r rhai cyntaf â gweinidogaeth y tadau Methodistaidd. Yr oedd tramwyfa Griffith Ellis, ar ei ymweliadau o Benyrallt i Bandy-y-Ddwyryd, ar hyd cwr uchaf cymydogaeth Talsarnau, a'r tebygolrwydd ydyw iddo ef, yn ol ei arferiad cyffredin o dori at ei gymydogion, fod yn foddion i enill rhai at grefydd yr Iesu yn y fro hon. Hwn yn ddiau oedd y dylanwad anuniongyrchol cyntaf. Y mae hanes arall dyddorol ar gael am Griffith Sion, y gwehydd o Ynysypandy, yr hwn a ddeuai o'i gartref, uwchlaw Tremadog, i anfon yr edafedd adref i ardaloedd y Penrhyn, Talsarnau, a Harlech. Oherwydd ei fod yn ŵr duwiol, ac yn meddu doniau amlwg mewn gweddi, arferai gadw dyledswydd deuluaidd yn y tai yr ymwelai â hwynt. Adroddai ef ei hun yr hanes wrth y Parch. Daniel Evans, gynt o Harlech, yn y modd canlynol:— "Mi a fyddwn yn arfer a myned a'r eiddo adref ar ol ei wau, a chan fod genyf y ddau draeth (y Traeth bach a'r Traeth mawr) i'w croesi wrth fyned i ardal Talsarnau, ni allwn fyned a dychwelyd yr un diwrnod; ond yr oeddwn, gan hyny, dan angenrheidrwydd, y rhan amlaf, o letya dros nos yr ochr draw i'r Traethydd; a gwnawn hyny yn gyffredin yn nhŷ perchenog yr eiddo a ddygid adref genyf. Ar yr achlysuron hyny, gofynwn genad i ddarllen a gweddio yn y teulu y lletywn ynddo. Aeth hyn yn adnabyddus yn fuan trwy y fro, mai y cyfryw oedd fy arfer. Felly, cyn hir amser, pan y ceid lle i ddisgwyl fy mod yn dyfod drosodd, gwahoddai y naill wraig y llall i'w thŷ, gan ddywedyd yn siriol, 'Dowch acw heno,-y mae gwehydd Ynysypandy yn dyfod, a chewch ei glywed ef yn gweddio ar dafod leferydd. Ymhen amser deuent yn lluoedd i'm cyfarfod, yn enwedig y rhai y gweithiwn eu heiddo, a phob amser arosent oll i glywed y weddi hwyrol, ac amryw o honynt a ddeuent drachefn ar yr un neges y boreu dranoeth, a mawr y rhyfeddu a fyddai fy mod yn gallu gweddio heb lyfr. Aethum drosodd yno unwaith ar brydnawn Sadwrn, a methais ddychwelyd y noson hono gan y llanw; ac felly bu gorfod arnaf aros yno dros y Sabbath. Y boreu Sabbath hwn yr oedd gwrandawyr y benod a'r weddi yn lled liosog. Yn y fan y codais oddiar fy ngliniau y tro hwn, wele un yn fy ngwahodd i'w dŷ i giniaw, gan ofyn i mi ddarllen a gweddio yno; ac arall a'm gwahoddai i swper, gan erchi yr un peth. Meddyliais fod llaw Duw yn hyn. Amodais, gan hyny, â'r bobl hyn, i ddyfod a'r eiddo adref ar nos Sadwrn, a threulio y Sabbath gyda hwynt. Dyma'r amser,' ebe yr hen wr, 'y dechreuais bregethu heb wybod i mi fy hun." "-Methodistiaeth Cymru, I., 303.

Gyda y Griffith Sion uchod y bu y Parch. John Elias yn brentis o wehydd. Chwenychai y llanc fyned i'w wasanaeth oherwydd iddo glywed ei fod yn bregethwr, fel y gallai gael mantais i'w grefydd yn gystal ag er dysgu ei grefft, ac aeth ato yn 1792. Ond dywedir yn y paragraff uchod mai wrth arfer darllen penod a gweddio, ar ei ymweliadau â Sir Feirionydd, y dechreuodd yr hen wehydd bregethu. Gallwn telly fod yn lled sicr y cymerai yr ymweliadau hyn â Thalsarnau le ryw gymaint o amser yn flaenorol i'r flwyddyn 1780. O gylch y pryd hwn, gan hyny, y dechreuwyd cynal moddion yn achlysurol. "Ar y cyntaf," ebe Mr. Jones, Ynysgain, "byddai pregethu yn achlysurol mewn amrywiol leoedd yn yr ardal. Byddai odfeuon gerllaw Tyddyndu yn yr Ynys. Clywsom ein mam yn coffau am bregeth wrth y Tyddyndu pan yr oedd Mr. Owen Jones, yr offeiriad, yn dychwelyd o wasanaeth y Llan. Dangosai efe awydd cryf i ymosod arnynt, ond llwyddodd ein taid ar iddo dawelu. Bu pregethu yn Sabbothol yn yr Ynys liaws o flynyddau ar ol yr amser crybwylledig." Ond yn achlysurol y cymerai hyn le yn flaenorol i ffurfiad yr achos. Ysgrifenodd y diweddar Mr. J. Jones, Ynysgain, ychydig o hanes dechreuad yr achos yn Nhalsarnau, a chyhoeddwyd ef yn y Drysorfa, Tachwedd, 1867. Dywed ef i'r offeiriad crybwylledig wneuthur cymaint ag oedd yn ei allu yn erbyn y Methodistiaid, yn yr hyn y ceir graddau o eglurhad ar y ffaith i'r ardal hon fod ar ol yr ardaloedd cymydogaethol yn cychwyn yr achos. "Mr. Owen Jones, o'r Glyn, fel y mae yr hanes yn hysbysu, oedd elyn calon i'r Pengryniaid; ac oddiar ei fod yn oruchwyliwr ar diriogaeth Mr. Ormsby, o Porkington, amcanodd, can belled ag yr oedd ei ddylanwad yn cyraedd, i lyffetheirio pregethiad yr efengyl yn yr ardal." Y gwr a argyhoeddwyd gyntaf ynghylch mater ei enaid yn Nhalsarnau, ac a fu yn foddion i enill eraill at y Gwaredwr, ydoedd Robert Roberts, o'r Tŷ Mawr. Y mae hynodrwydd yn perthyn i ddechreuad ei grefydd ef, ac fel hyn y rhed yr hanes am dano:—"Trwy ryw foddion daliwyd y gwr hwn â dychryn ynghylch mater ei enaid; ac i'r diben i dawelu gradd ar y storm, ymroddai i fyw yn foesol a dichlynaidd iawn. A'i yn gyson i'r eglwysi plwyfol o amgylch iddo i wrando yr offeiriaid. Ond er pob moddion o'r fath a ddefnyddid, nid oedd yn cyraedd gorphwysdra. Yr oedd rhyw eiriau o'r Beibl yn ymdroi yn barhaus yn ei feddwl, megis y rhai hyn,—'Mae un peth eto yn ol i ti,' a'r cyffelyb. Ond yn nghanol ei drallod clywodd fod rhyw offeiriad hynod yn Llanberis, yn Sir Gaernarfon. Codais,' ebe fe, "yn foreu ryw Sabbath, a chyrhaeddais yno erbyn y gwasanaeth boreuol. Pan oedd yn dechreu pregethu daliwyd fi â difrifwch, a deallais yn bur fuan mai gwir a glywswn i yn fy ngwlad am y pregethwr; canys nid oeddwn wedi clywed dim yn debyg erioed o'r blaen. Dangosai y pechadur fel un heb ddim da ynddo, a'i gyflwr yn llawn o drueni; ac O! fel y darluniai barodrwydd a chymhwysder y Gwaredwr, ac mor daer y galwai bechaduriaid ato! Aethum yno amryw Sabbothau olynol; ond unwaith wedi dyfod allan o'r Llan, pan oeddwn eto ar y fynwent, cyfeiriodd yr offeiriad ei gamrau ataf, a gofynodd i mi, o ba le yr oeddwn yn dyfod, a gwahoddodd fi i'w dŷ i gael ciniaw. Minau a aethum. Gofynodd y gwr parchedig i mi lawer o bethau ynghylch fy mater ysbrydol; a gofynodd hefyd paham y deuwn mor bell oddicartref i wrando. Dywedais fy mod i wedi bod yn y llanau o amgylch fy nghartref, ac wedi gwrando mor fanwl ag y gallwn, ond nid oeddwn yn cael dim tawelwch i fy ysbryd; ond fy mod yn cael gradd o hyny wrth wrando ar ei weinidogaeth ef. Gofynai drachefn,—

'A oes dim o'r bobl a elwir Methodistiaid yn pregethu yn yr ardal?"

'Oes,' ebe finau, ond ni fyddaf un amser yn myned i'w gwrando hwy.'

'Paham hyny?" ebe'r offeiriad. 'Wel, Syr,' ebe finau, 'deall a wnaethum mai y gau broffwydi a ddarlunir gan Judas a chan yr apostolion eraill ydynt, y rhai y dylwn ar bob cyfrif eu gochel.'

'Nage,' ebe'r offeiriad, 'ond oddiar ragfarn a gelyniaeth yn unig y darlunir hwy felly. Byddai yn dda genyf fi fy hun gael cyfleusdra i'w gwrando yn fynych. Nid oes dim gwahaniaeth rhyngddynt hwy a minau mewn athrawiaeth; oblegid yr un Beibl ydyw testyn ein pregethau, yr eiddynt hwy a'r eiddof finau. Cynghorwn chwi, druan, gan hyny, i ymuno â hwy.' Ymuno â'r Methodistiaid a wnaeth, yn ol cyngor offeiriad Llanberis, a threuliodd weddill ei oes yn ffyddlawn iawn yn eu plith. Bu ei dŷ o hyn allan yn gartref i arch Duw, ac yn llety clyd i weinidogion y Gair, lle y derbynient hwy a'u hanifeiliaid ymgeledd a chroesaw."-Methodistiaeth Cymru, I., 303.

Robert Roberts fu yn foddion i sefydlu yr achos. Ceisiai ef bregethwyr i ddyfod i'r ardal i bregethu, a chadwai hwy a'u hanifeiliaid ar ei draul ei hun. Arno ef yn bersonol y disgynai cario yr achos ymlaen ymron yn llwyr. Gwellhaodd ei amgylchiadau bydol yn fawr yn fuan wedi iddo ymuno â chrefydd, a phriodolai yntau hyny yn gwbl i'w waith yn derbyn Arch Duw i'w dy, ac yn myned i dipyn o drafferth a thraul gyda'i achos. Adeiladodd neu pwrcasodd dŷ i gynal moddion gras ynddo, yn mhentref Brynybwbach, neu Bryn-y-bwa-bach. Yr oedd yno hefyd ystafell, a bwrdd ac ystol, a gwely i'r llefarwyr aros dros nos, a Catherine Morris, o'r Garthbyr, fyddai yn gofalu am danynt hwyr a boreu. Yn Mrynybwbach y byddai y bregeth y Sabbath, ac yno y cynhelid y cyfarfod eglwysig dros amryw flynyddau ar y cyntaf. Sefydlwyd yr eglwys, fel y dywedwyd, yn rhywle yn agos i ddiwedd y ganrif ddiweddaf. Y mae enwau yr aelodau wedi eu croniclo mewn llyfr, gan Dafydd Sion James, yn y flwyddyn 1803. Wedi i'r achos fod am ryw dymor yn y capel bach, fel ei gelwid, sef yn Brynbwbach, symudodd yn gwbl oll i'r Tymawr, Talsarnau; "ac mewn siamber yno y cynhelid y cyfarfodydd eglwysig. Bu Cyfarfodydd Misol yn Tymawr, a bu Mr. Charles, a John Roberts, Llangwm, yno yn pregethu." Bu Robert Roberts farw yn y flwyddyn 1817, mewn henaint teg, wedi bod yn offerynol yn llaw Rhagluniaeth i gychwyn yr achos yn Nhalsarnau, ac wedi dangos ffyddlondeb tuhwnt i'r cyffredin yn ei ddygiad ymlaen. Brawd arall ffyddlon gyda'r achos yn ei gychwyniad ydoedd William Roberts, Maesycaerau, gwr llym yn erbyn ymddygiadau anfoesol y wlad.

Adeiladwyd y capel cyntaf yn Nhalsarnau yn y flwyddyn 1813, a Dafydd Cadwaladr a lefarodd ynddo ar Sabbath ei agoriad. Prynwyd y tir yn feddiant yn 1827, ond ni ddywedir am ba swm. Chwanegwyd at ei led yn 1839, ac ymhen tua phymtheg mlynedd wedi hyny, rhoddwyd oriel arno. Yn 1865, prynwyd tir yr ochr arall i'r ffordd, am yr hwn y talwyd 74p. 9s., a'r flwyddyn hono adeiladwyd y capel presenol, a gwerthwyd yr hen gapel. Yn ol Meddianau y Cyfundeb am 1882, gwerth y capel a'r eiddo perthynol iddo y flwyddyn hono ydoedd 1700p. Wedi bod dros dymor hir o dan faich trwm o ddyled, lleihawyd hi yn raddol, ac yn 1887, rhoddwyd oriel (gallery) ar y capel, yr hon a gostiodd oddeutu 360p. Y mae yn awr yn gapel hardd a chysurus. Ar ddiwedd 1889 y ddyled oedd 480p. Os. 1½c.

Tua'r flwyddyn 1807, sefydlwyd Ysgol Sabbothol yn yr Ynys, yr hon a hanodd o'r frawdoliaeth Fethodistaidd a ymgynullai yn mhentref bychan, mynyddig, Brynbwbach. Prif offerynau ei sefydliad oeddynt Sion William, y Carpenter, a Mrs. Jennett Jones, o'r Tycerig. Dywedir i'r ysgol hon ymgartrefu, byw, a chynyddu mewn adeiladau perthynol i deulu Tycerig am ysbaid o 61 o flynyddau. Yn y flwyddyn 1868, adeiladwyd ysgoldy yn yr Ynys, lle, er y pryd hwnw, y cynhelir yr ysgol, ac y ceir pregeth unwaith y Sabbath mewn cysylltiad â Thalsarnau. Ar ddiwedd 1889, rhifai yr ysgol hon 68.

Y PARCH. DAVID WILLIAMS.

Treuliodd ef ei oes, a hono yn oes hir, bron yn gwbl mewn cysylltiad â'r achos yn Nhalsarnau. Efe a anwyd yn Hendreadyfrgi, gerllaw Harlech. Ymunodd â'r eglwys yn y Dyffryn, a phan yn cael ei dderbyn yno, cynghorai Harry Roberts ef ar iddo wylio rhag cyfarfod â'r hyn a ddigwyddodd i lawer-peri rhoddi bar du ar draws ei enw. Symudodd i wasanaethu i'r Tymawr yn yr ardal hon yn 1804. Yn fuan, oddiar anogaeth Mr. Charles, dechreuodd gadw Ysgol Sul yn y capel bach, Brynbwbach. Dechreuodd bregethu o gylch 1814. Bu farw yn lled sydyn yn Gwyddelfynydd, tra yn aros am wythnos i gadw cyfarfodydd eglwysig yn nghymydogaeth Towyn, Rhagfyr 7, 1854, wedi bod yn proffesu Mab Duw am 55 o flynyddoedd, ac yn ei bregethu am o gwmpas 40 mlynedd. Gŵr cydnerth o ran lluniad ei gorff ydoedd, ac o edrychiad dipyn yn sarug. Ni chafodd gymaint o dalentau, na rhai mor ddisglaer â rhai o'i frodyr, ond treuliodd ei oes yn ffyddlawn a diwastraff yn ngwinllan ei'Arglwydd. Yr oedd ei gymeradwyaeth fel pregethwr yn cynyddu yn hytrach na lleihau hyd ddiwedd ei oes, a'r rhai mwyaf cymeradwy o hono oeddynt eglwys a chynulleidfa Talsarnau.

Robert Roberts, fel y crybwyllwyd, a roddodd gychwyniad i'r achos; ar ol ei farwolaeth ef yn 1817, bu llecyn trymaidd dros yr eglwys am dymor; graddau o gam-olygiad am bethau allanol. Nid oedd yma ar y pryd yr un blaenor o osodiad rheolaidd, na'r un wedi bod o gwbl. Yn y cyfwng hwn, ymgymerodd Richard Jones, Tyceryg, ar gais ei frodyr, i ofalu ar gael pregethwyr i'r daith. Bu ef yn ddiwyd hyd ei fedd gyda darparu ymhob modd ar gyfer yr achcs. Ei briod hefyd oedd wraig o dymer arafaidd, ddwys, a phrofiadol, a thra ymroddgar i ddilyn moddion gras hyd ei marwolaeth yn 1838. Ni ymwelwyd â Thalsarnau yn gymaint a llawer lle âg adfywiadau nerthol a chyffrous, oddigerth yn 1817. Yn hytrach, enillai y gwirionedd galonau y bobl yn raddol. Yn ystod y deng mlynedd, o 1830 i 1840, lliosogwyd rhif yr eglwys o ddeugain i gant. Yma, yn y tymor hwn, fel y cofir, y dibenodd y Parch. Richard Jones, y Wern, ei lafur yn ngwasanaeth ei Arglwydd. Ymhen ysbaid o amser drachefn, sef oddeutu 1849, symudodd Mr. Morgan Owen a'i deulu o'r Dyffryn i fyw i'r Glyn. Y mae rhai o'r teulu wedi bod yn cyfaneddu yno am dymor, ac yn Rhosigor drachefn, o hyny hyd yn awr, ac wedi bod bob amser yn gynorthwy mawr i ddygiad yr achos ymlaen yn Nhalsarnau yn ei holl gysylltiadau. Ceir rhestr o'r swyddogion yn mhellach ymlaen. Bu amryw yn ddiameu o wasanaeth i grefydd heblaw hwy, er na ddaeth i'n llaw enwau dim ond rhyw ddau neu dri yn ychwanegol at y rhai a grybwyllwyd. Lawer o amser yn ol, bu un Hugh Williams, genedigol o Rostryfan, o gryn wasanaeth mewn addysgu yr ieuenctyd gyda chaniadaeth y cysegr. Ymfudodd o'r ardal i America. Y mae yn deilwng o goffhad hefyd fod yr arweinydd canu presenol, Mr. Owen Roberts, wedi bod yn wasanaethgar a ffyddlon yn ei swydd am 50 mlynedd. Arferai y Parch. G. Williams adrodd hanesyn am grefyddolder Ann Williams, priod y pregethwr adnabyddus, David Williams. Pan yr aeth ef i dŷ yr hen chwaer weddw ryw ddiwrnod, yn agos i ddiwedd ei hoes, yr oedd yn eistedd ei hunan a'r Beibl yn agored ar y ford o'i blaen, a dywedai wrth G. Williams ar ei fynediad i'r tŷ, "Wyddoch chi beth oeddwn i yn ei wneyd cyn i chi ddod i'r tŷ? Hel twr o adnodau at eu gilydd, a cheisio dyfalu uwch eu penau pa un o honynt fyddai fwyaf tebyg o weinyddu cysur i mi wrth fyned trwy yr hen Iorddonen, ac yr ydw i yn meddwl yn bur siwr mai yr adnod hono fydd hi—Cyfamod tragwyddol a wnaeth efe â mi, wedi ei luniaethu yn hollol ac yn sicr: canys fy holl iachawdwriaeth a'm holl ddymuniad yw.'" Catherine Jones, priod y blaenor Richard Jones, Brynbwbach, oedd engraifft ragorol o wragedd crefyddol yr oes o'r blaen. Byddai hi yn fynych yn gorfoleddu o dan weinidogaeth y Gair. Un adeg, ar amser cyfarfod pregethu blynyddol y Penrhyn, yr oedd ei choes yn ddrwg fel ag i'w hanghymwyso yn hollol i fyned o'r tŷ, a cheisiai ei gŵr ei pherswadio i aros gartref. Mynu myn'd, modd bynag, i'r Penrhyn a wnaeth. Aeth ei gŵr yno ar ei hol, ac erbyn iddo gyraedd, yr oedd yn orfoledd mawr yn y lle, ac ar fynediad i'r capel, pwy a welai yn neidio can uwched a neb oddiwrth y llawr, ond Catherine, ei wraig ei hun gyda'i choes ddrwg. Yn hanes yr eglwysi eraill yr ydys wedi gweled i'r eglwys hon fod yn daith am hir amser gyda Harlech, a chyda Harlech a'r Gwynfryn yn flaenorol. Er y flwyddyn 1866, mae Talsarnau yn daith ar ei phen ei hun, a chyfrifir hi y 30 mlynedd diweddaf yn eglwys gymhariaethol gref. Yma y cychwynodd y Parch. Hugh Roberts, y Graig, Sir Aberteifi, i'r weinidogaeth; ei flwyddyn brawf yn dechreu Mai, 1876.

A ganlyn ydyw rhestr y blaenoriaid:—

JOHN JONES, TYMAWR.

Efe oedd y blaenor cyntaf a alwyd yn ol y dull arferol o ddewis blaenoriaid. Cymerodd hyn le yn rhywle o gylch 1825. Genedigol ydoedd ef o Lanfrothen. Ymunodd â chrefydd yn Harlech, tra yn gwasanaethu yn Tyddynyfelin. Ar ol marw Robert Roberts, daeth yn was at ei weddw, Catherine Roberts, ac ymhen pum mlynedd priodasant. Treuliodd y rhan ddiweddaf o'i oes yn y Tycerig. Ar ei ysgwyddau ef y gorphwysai yr achos am dymor, ac ymgymerai yntau â'r oll yn dra ffyddlon. Yr oedd ei dŷ yn westy fforddolion, a'i ystabl wedi ei chysegru i ddibenion yr efengyl. Profodd argyhoeddiad grymus yn nechreuad ei grefydd. Y rhai a'i hadwaenent a ddywedent ei fod yn hynod mewn duwioldeb, a'i gymeriad yn wywdra i ryfyg annuwiolion yr ardal. Cyfrifir ef hyd heddyw fel un o wyr urddasol eglwys Talsarnau. Bu farw yn niwedd y flwyddyn 1859.

JOHN JONES, YSW., YNYSGAIN.

Ganwyd ef yn Plas Uchaf, Ionawr 5, 1803. Perthynai ei rieni i'r Eglwys Sefydledig, ac yno y dygwyd yntau i fyny hyd nes oedd yn 27 oed, er yr elai pan yn ieuanc i Ysgol Sul y Methodistiaid. Yn y flwyddyn 1830, wedi cryn ymrysonfa yn ei feddwl, oddiar argyhoeddiad cydwybod oleuedig, gadawodd y Llan, ys dywedai, a bwriodd ei goelbren yn llwyr ac yn hollol gyda'r Trefnyddion Calfinaidd. Oherwydd ei fod o deulu cyfrifol, ac yn wr boneddigaidd a chrefyddol, ac yn llawn o ysbryd gwaith, gosodwyd ef ar unwaith mewn amryw swyddi. Mai 13, 1834, dewiswyd ef yn flaenor yn eglwys Talsarnau. Am ddeng mlynedd o amser o'i ymuniad a'r Ymneillduwyr, llanwodd le pwysig yn ei ardal, a'r ardaloedd cylchynol, ac yn y sir. Bu yn ysgrifenydd Cyfarfod Ysgolion Dosbarth y Dyffryn am wyth mlynedd. Pan ranwyd y sir yn ddau Gyfarfod Misol dewiswyd ef yn ysgrifenydd Cyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd, a'i enw ef sydd wrth y cofnodion cyntaf. Ond yn mis Tachwedd, 1840, symudodd Mr. Jones o'r Plas Uchaf i Ynysgain. Dewiswyd ef yn swyddog drachefn yn eglwys Criccieth, lle y parhaodd i weithio hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le Tachwedd 30, 1875, yn 72 oed.

MORRIS JONES, CEFNGWYN.

Efe a dderbyniwyd yn aelod o'r Cyfarfod Misol fel blaenor yr eglwys hon Rhag 6, 1843. Mab Tycerig ydoedd, lle a fu yn gefn i'r Ysgol Sabbothol yn yr Ynys o'i chychwyniad, ac i'r achos yn gyffredinol yn Nhalsarnau, a chafodd y mab awyrgylch grefyddol i droi ynddi o'i ieuenctid, a gadawodd y yfryw awyrgylch ei hôl arno. Yr oedd yn wr cywir, ffyddlon, a chrefyddol, a'i gymeriad yn uchel ymysg ei gymydogion, yn gystal ag yn yr eglwys yr oedd yn swyddog ynddi. Wedi gwasanaethu y swydd yn anrhydeddus am ugain mlynedd, bu farw Tachwedd 29, 1862. Dilynodd ei blant oll yn llwybrau crefydd ar ei ol. Mab iddo ef oedd y blaenor gweithgar ac ymroddedig Mr. Richard Jones, Shop Newydd, Dolgellau, ac y mae y mab arall, Mr. John Jones, yn flaenor defnyddiol yn Nhalsarnau yn awr. Merched iddo ef ydyw priod y Parch. Robert Thomas, Llanerchymedd, a phriod y Parch. O. T. Williams, Rhyl.

RICHARD JONES, BRYNBWBACH.

Galwyd yntau yn flaenor yr un amser a Morris Jones, Cefngwyn, a bu fyw o gylch tair blynedd ar ei ol. Yr oedd ef yn ysgrythyrwr a duwinydd da, ac yn un o'r hen grefyddwyr a gasglasant eu holl wybodaeth c'r Beibl. Trwy wasanaethu y swydd yn dda, enillodd "radd dda, a hyfder mawr yn y ffydd sydd yn Nghrist Iesu." Bu farw Awst 13, 1865. Bu yma amryw yn gwasanaethu y swydd heblaw yr uchod, rhai am dymor byr, a rhai wedi symud i gysylltiad ag eglwysi eraill, lle y gwelir coff had am danynt. Morgan Owen, y Glyn, a fu yn ddiacon parchus yma am 15 mlynedd,—coffheir am dano mewn cysylltiad â'r Dyffryn. Bennett Jones, a dderbyniwyd i'r Cyfarfod Misol Mawrth, 1866,-bu farw cyn pen hir wedi hyn. D. Jones, Glanywern, a fu yn flaenor, ond ymadawodd at y Bedyddwyr. Evan Roberts, a neillduwyd yn 1874,bu farw ymhen tair blynedd; Owen Jones a neillduwyd yr un amser, ac a symudodd i Ffestiniog; H. J. Hughes a ddewiswyd yn 1872, ac a symudodd i'r Penrhyn; Mr. R. Rowland, ysgolfeistr, ymadawodd i'r Penrhyn; G. Evans, ysgolfeistr, ymfudodd i America; Richard Lloyd,-ymadawodd i Borthmadog. Y mae un arall wedi bod mewn cysylltiad hwy a'r eglwys na'r brodyr a enwyd, sef Mr. O. Owen, gynt o'r Glyn. Neillduwyd ef yn flaenor yn nechreu y flwyddyn 1857. Bu ei wasanaeth yn dra chymeradwy ac o werth mawr i'r eglwys tra bu yn trigianu yn yr ardal. Ac fel prawf o hyny, yn y flwyddyn 1867, sef yn fuan ar ol gorphen adeiladu y capel presenol, cyflwynodd yr eglwys anrheg o 45p. iddo ef a'i briod. Symudodd i fyw i'r Penrhyn yn 1873. Y mae ei wasanaeth wedi bod yn fawr hefyd mewn amryw gylchoedd yn y Cyfarfod Misol, yn enwedig ei ffyddlondeb yn y swydd o Drysorydd y Genhadaeth Sirol am ysbaid o ugain mlynedd. Y blaenoriaid yn bresenol ydynt Mri. W. Jones, Cadben Ed.. Williams, Thomas Davies, John Jones, a Robert Jason.

Y PARCH. GRIFFITH WILLIAMS.

Yn Nhalsarnau y treuliodd ef ei oes gyhoeddus bron yn gwbl, ac enillodd y cymeriad o fod yn un o golofnau yr eglwys gymaint a neb yn ystod amser ei ymdeithiad yn yr ardal. Tuag at i'r hanes fod yn gyflawn, gosodir i lawr yma y prif ffeithiau yn amgylchiadau ei fywyd, er fod Cofiant iddo wedi ei gyhoeddi ryw bedair blynedd yn ol. Efe a anwyd yn mhentref Dolwyddelen, yn y flwyddyn 1824. Ei rieni, y rhai oeddynt bobl wir grefyddol, a symudasant, tra yr oedd ef yn bur ieuanc, i fyw i Rhiwbryfdir, Ffestiniog, ac yn yr ardal hono y tyfodd i fyny, ac y ffurfiodd ei gymeriad. Gan nad oedd yn ei elfen gyda phethau y bywyd hwn, rhoddodd ei fryd ar fyned i bregethu, a thraddododd ei bregeth gyntaf yn hen gapel Tanygrisiau, Mawrth 13, 1848. Bu yn Athrofa y Bala am bedair blynedd. Ar ol gorphen ei amser yno, aeth i Lanarmon Dyffryn Ceiriog, i gadw ysgol ddyddiol. Aeth trwy amgylchiadau boreuol ei fywyd gan gadw ei gymeriad yn bur a dilychwin, a thrwy ei elfen gymdeithasgar, ynghyd â llawer iawn o naturioldeb, enillodd iddo ei hun y tymor hwn lawer o gyfeillion.

Yn y flwyddyn 1855, ymsefydlodd yn Nhalsarnau, ac yn yr un flwyddyn, priododd gyda Miss Sarah Jones, merch y diweddar Barch. Isaac Jones, o Nantglyn, Sir Ddinbych. Ar ei ymsefydliad yma, dechreuodd gario ymlaen fasnach, er enill bywoliaeth iddo ei hun a'i deulu. Nid oedd, yr amser hwnw, yr un ffordd i bregethwr gyda'r Methodistiaid fyw ond trwy ymgymeryd â chelfyddyd neu fasnach fydol. Parhaodd i gario ymlaen y fasnach hyd ddiwedd ei oes, tymor o chwe' blynedd ar hugain. Bu Rhagluniaeth yn dda wrth eglwys Talsarnau, trwy anfon pregethwr yma i fyw ymhob cyfnod o'i hanes bron o'r cychwyn cyntaf. Y flwyddyn cyn ymsefydliad Mr. Griffith Williams yma y bu farw yr hen bregethwr adnabyddus, Mr. David Williams. Gwnaed y bwlch i fyny felly ar unwaith. Er mai ymddibynu ar ei fasnach yr oedd Mr. G. Williams am ei fywoliaeth, eto, gwasanaethodd yr eglwys trwy yr holl amser gyda ffyddlondeb mawr. Yr ydoedd, mae'n wir, yn ystod blynyddoedd diweddaf ei oes yn derbyn swm bychan o gydnabyddiaeth am y gwasanaeth hwn. Gwnaeth waith efengylwr, ac ymgymerodd â rhan helaeth o bwysau yr achos, mewn adeg yr oedd dyled drom yn aros ar y capel. Nid oes neb ond y rhai oedd yn cydoesi âg ef a all wybod am ei bryder, ei ofal, ei gynlluniau, a'i ymdrechion i beri i achos crefydd, yn ei gymydogaeth ei hun, fyned ar gynydd i gyfateb i freintiau a manteision yr oes.

Yn ei gysylltiadau teuluaidd, yr oedd bob amser yn ddedwydd. Daeth yn adnabyddus fel un yn dwyn i fyny liaws mawr o deulu, ac fel Abraham, gorchymynodd i'w blant a thylwyth ei dŷ i rodio yn ffordd yr Arglwydd. Cawsant oll gychwyniad crefyddol o'r fath oreu. Mae ei fab hynaf, y Parch. Isaac Jones Williams, yn weinidog yn Llandderfel er's amryw flynyddau. Yr oedd yn ŵr cyfeillgar, pwyllog, a hollol ddidwyll yn ei gysylltiadau bydol a chrefyddol. Ffraethineb a humour oeddynt linellau amlycaf ei gymeriad mewn cymdeithas. Deuai yr awydd cryf oedd ynddo i lesoli ei gyd-ddynion i'r golwg yn ei waith yn wastad yn cynllunio rhyw symudiadau newyddion. Yr oedd yn un o wyr amlycaf Sir Feirionydd gyda Dirwest. Gwnaeth ei ran yn dda gyda llenyddiaeth ei oes. Ysgrifenodd amryw lyfrau, heblaw llawer i'r cylchgronau. Ac yr oedd ei arddull yn rhwydd, eglur, chwaethus, a phoblogaidd. Yr oedd ei ddawn i siarad yn gyhoeddus yn afrwydd a thrymaidd, ond enillodd ei weinidogaeth gymeradwyaeth graddol trwy ei oes, a chynyddai ei boblogrwydd a'i ddylanwad yn fwy tua'r diwedd. Wedi treulio ei oes yn wir ddefnyddiol, bu farw yn serch ei frodyr a'i wlad, Hydref 23, 1881, yn 57 mlwydd oed. Cyhoeddwyd Cofiant iddo yn 1886, yn Swyddfa Mri. Davies ac Evans, y Bala.

Yn 1883, rhoddodd eglwys Talsarnau alwad i'r Parch. Elias: Jones, cysylltiad sydd wedi para yn hapus hyd yn bresenol, pryd y mae ar symud i'r Drefnewydd, trwy alwad yr eglwys. yno.

Nifer y gwrandawyr, 464; cymunwyr, 176; Ysgol Sul, 248.

LLANBEDR.

Deunaw mlynedd ar hugain i'r flwyddyn hon (1890) y dechreuwyd yr achos yn Llanbedr, yn ei wedd gyntaf oll. Rhan o gynulleidfa y Gwynfryn ydoedd trigolion y pentref a'r gymydogaeth yn flaenorol. Ond fel yr oedd y plant tua Llanbedr yn lliosogi, aeth y brodyr oeddynt yn eiddigeddus dros addysg foesol y genhedlaeth ieuanc i deimlo yn bryderus rhag ofa yr esgeulusid anfon y plant yn gyson i'r Gwynfryn, a theimlent awydd cryf am gael Ysgol Sabbothol i Lanbedr. Cafwyd lle mewn tŷ, eiddo Mr. Riveley, Brynygwin, trwy fod y teulu a breswylient ynddo (Mr. John Evans, Gwyndy House), yn symud i dŷ newydd. Yn yr hen dŷ hwn y buwyd yn ei chynal am bedair blynedd. Pregethid hefyd ynddo yn achlysurol: y bregeth gyntaf a gafwyd yma oedd gan y Parch. Owen Roberts, Llanfachreth, ar nos Sadwrn. Y prif ddynion fu yn flaenllaw gyda'r ysgol yn ei chychwyniad oeddynt William Rhisiart, Rees Jones (Rhys Sion), Robert Griffith, Evan Evans, John Evans, John Lewis (Tŷ Mawr), a Griffith Sion. Cynyddodd yr ysgol yn lled fuan i tuag 80 mewn nifer. Oherwydd fod yr ysgol yn cynyddu, a'r pregethu yn dyfod yn amlach, cytunwyd i anfon dau frawd at Mr. Poole, boneddwr oedd yn byw yn Cae Nest, palasdy gerllaw Llanbedr, a'r hwn ar y pryd a berchenogai y rhan fwyaf o'r gymydogaeth, i ofyn caniatad i adeiladu ysgoldy i gadw Ysgol Sul ynddo, er mwyn sicrhau addysg Feiblaidd i'r plant a'r bobl ieuainc. Atebodd Mrs. Poole yn benderfynol, "fod digon o le yn eglwys y plwyf, y dylent oll fyned yno; ac na roddid lle arall i neb i'r diben yma tra y byddai hi byw." Mae yn iawn i ni dybied fod boneddigion y wlad, yn yr amser gynt o leiaf, wrth wrthwynebu unrhyw symudiad o eiddo Ymneillduwyr, yn credu eu bod yn gwneuthur gwasanaeth i Dduw. Bu y foneddiges hon farw, modd bynag, y flwyddyn y gwnaed y cais hwn, a bu farw ei phriod hefyd yn fuan wedi hyny. Ymhen ychydig amser daeth Mr. Poole, hynaf, tad y rhag-ddywededig R. Poole, i drigianu i Gae Nest. Yr oedd ef yn adnabyddus i'r bobl fel gwr caredig a gwir foneddwr. Anfonwyd dau o frodyr ato yntau drachefn gyda'r un genadwri, sef i ofyn caniatad i adeiladu ysgoldy bychan. (Dywedir mai Rees Jones a Robert Griffith a anfonwyd dros y cyfeillion y ddau dro). Rhoddodd y boneddwr calon-agored eu dymuniad i'r cyfeillion ar ben gair. Caniataodd iddynt y lle mwyaf cyfleus, a dywedodd am iddynt beidio ei wneyd yn rhy fychan, ond yn gapel cysurus i bregethu ynddo, y byddai felly yn fwy cyfleus a manteisiol i gynal Ysgol Sul ynddo hefyd, ac ychwanegai, "y cymerai ef sët ynddo, os dewisent." Addawodd y tir ar brydles o 99 mlynedd, gyda'r hysbysiad, os na byddai yr ardal wedi ei henill iddo erbyn hyny, y byddai yn well i ryw bobl eraill geisio ei henill. Ac yn ychwanegol rhoddodd 5p. ei hun tuag at y draul. Arhosed bendith ar ei goffadwriaeth. Y mae gweithred fel hon yn teilyngu cael ei chroniclo.

Dyddiad y brydles ydyw Gorphenaf, 1856. Ardreth flynyddol 1p. 10s. Mae tir y fynwent o'r tucefn i'r capel yn gynwysedig yn hwn. Yr hysbysiad cyntaf am yr achos yn Llanbedr ar lyfrau y Cyfarfod Misol ydyw, y penderfyniad canlynol a wnaed yn Nghyfarfod Misol Abermaw, Mawrth 3, 1856, "Gofynwyd caniatad gan gyfeillion y Gwynfryn i adeiladu capel yn Llanbedr. Dywedent eu bod yn barnu y gallent gasglu digon o arian tuag at ei adeiladu yn y gymydogaeth, fel na byddai raid iddynt ddyfod at y Cyfarfod Misol i ofyn am ddim cymorth tuag at hyny. Cydsyniwyd â'r cais." Agorwyd y capel Rhagfyr 3, a'r 4, 1856. Pregethwyd ar yr achlysur gan y Parchn. Robert Williams, Aberdyfi, Joseph Thomas, Carno, a John Jones, Talsarn. Casglwyd ddiwrnod ei agor, 5p. 10s. Oherwydd fod y ddeddf mewn grym, nad oedd yr un capel i gael ei agor a dyled arno, gwnaeth y cyfeillion yma ymdrech arbenig at ddwyn y draul, a chan na cheir dim dyled ar gyfer cyfrifon y capel y blynyddoedd dilynol, cymerir yn ganiataol iddo gael ei agor yn ddiddyled. Yr holl draul, yn ol cof y rhai sydd yn fyw yn awr oedd ychydig dros 300p. Ymhen y flwyddyn ar ol agor y capel, sef ar ddiwedd 1857, y cyfrifon ydynt: cymunwyr, 62; gwrandawyr, 180; Ysgol Sul, 135; cyfanswm y casgliadau, 38p. 19s. 1c. Ymhen deng mlynedd aeth y capel yn rhy fach, a bu raid rhoddi darn ato, trwy ei estyn yn nes i'r ffordd. Felly, yn mis Chwefror, 1867, yr ydym yn cael y Cyfarfod Misol yn pasio penderfyniad drachefn, "Cydsyniwyd i eglwys Llanbedr gael helaethu eu capel yn ol y cynlluniau a ddodwyd gerbron y cyfarfod." Ar ei ail agoriad, pregethwyd ynddo yn gyntaf gan y gweinidog, y Parch. D. Jones, ar y geiriau, "Bydd mwy gogoniant y tŷ diweddaf hwn na'r cyntaf." Aeth y draul y waith hon yn 463p. 14s. 103c. Dodrefniad y capel, 47p. 17s. 4c. Casglwyd mewn arian, 163p. 14s. 103c., ynghyd â'r swm uchod at ddodrefnu, gan adael y gweddill, ar y pryd, heb ei dalu. Mewn Cyfarfod Misol a gynhaliwyd yn Llanbedr, Tachwedd, 1874, ceir yr hysbysiad canlynol yn y cofnodion,"Yr oedd yr eglwys wedi ymgymeryd â thalu dyled y capel, sef 300p. oedd yn aros, ac mewn pedwar mis o amser, ddiwedd y flwyddyn ddiweddaf (1873), cliriwyd y swm hwn oll, fel y mae y capel yn awr yn hollol glir, a gwedd lewyrchus ac addawol ar bob rhan o'r achos yn y lle." Y mae Llanbedr yn daith arni ei hun er y flwyddyn 1873.

Yr hyn sydd yn ngweddill i'w groniclo am yr eglwys hon ydyw crynhodeb o hanes ei swyddogion. Pan sefydlwyd hi gyntaf, yr oedd dau o hen swyddogion y Gwynfryn yn dyfod yma gyda hi, sef Rees Jones a William Rhisiart, ac ar eu hysgwyddau hwy, yn benaf, y bu y gwaith yn gorphwys am rai blynyddoedd. A ganlyn ydyw ychydig o'u hanes hwy, a'r rhai a'u dilynasant:—

REES JONES (RHYS SION)

Yr oedd ef yn un o flaenoriaid cyntaf y Gwynfryn. Edrychid arno fel cymeriad tra adnabyddus, ac y mae coffa mynych am dano hyd heddyw fel un o'r rhai ffyddlonaf gyda'r achos. Coffheir am dano fel gwrandawr rhagorol; cerddodd lawer i wrando hen bregethwyr Cymru; gwyddai lawer o'u hanes, a byddai yn teimlo yn ddwys o dan eu gweinidogaeth. Efe oedd un o'r rhai penaf a wnaeth ymdrech i gael capel yn Llanbedr, ac yr oedd yn arbenig yn ei sel yn casglu tuag ato. Ond ar ol ei ymdrech gydag ef, rhyw dair blynedd fu ei oes ynddo. Bu farw Rhagfyr 29, 1859, yn 75 mlwydd oed. Pregethodd y Parch. E. Morgan yn ei angladd ar "Hanes Lazarus." Dywedid pethau lled ddigrifol am dano yn ystod ei fywyd. Ond yr adnod ar gareg ei fedd, yr hon, debygid, a fwriedid fel arwyddair o'i gymeriad ydyw, "Wele Israeliad yn wir, yn yr hwn nid oes dwyll."

WILLIAM RHISIART.

Mae yr hyn a ganlyn yn gerfiedig ar gareg ei fedd, y tucefn i'r capel: "William Richard, Tyddynypandy, yr hwn a fu farw Ebrill 7, 1868, yn 86 mlwydd oed. Yr oedd yn Gristion cywir, ac yn un a berchid gan bawb; treuliodd oes ddifwlch o broffes grefyddol, a gwasanaethodd y swydd o ddiacon am yr ysbaid o 60 mlynedd gyda ffyddlondeb mawr." Elizabeth ei wraig a fu farw Mawrth 21, 1879, yn 90 oed. Yr oedd hi yn wraig nodedig o grefyddol, a gadawodd argraff er daioni ar ei gŵr. Er o ddoniau bychain, cydnabyddid William Rhisiart yn ŵr crefyddol, duwiol, ac o ansawdd dyner ei ysbryd. Yr olwg arno yn niwedd ei oes oedd yn batriarchaidd. Perthynai i'w fywyd ddau ddigwyddiad arbenig. Efe a arweiniodd y Parch. Richard Humphreys i'r seiat y tro cyntaf. Efe, hefyd, yn un o dri, a anfonwyd dros y Cyfarfod Misol, a gynhaliwyd Rhagfyr 1 a'r 2, 1840, i'r Dyffryn i gymeryd llais yr eglwys ar gychwyniad y Parch. Edward Morgan i bregethu. Ymffrostiai yr hen bererin yn hyn, ac arferai ddweyd mewn cwmni lle byddai Mr. Morgan yn bresenol, "Y fi fu yn rhoi tenyn yn ei ben o."

ROWLAND JONES. Rhestrir yntau yn arbenig yn un o wyr urddasol eglwys Llanbedr. Yma y daeth ei grefydd i'r golwg, ac yma y bu o ddefnyddioldeb mawr. Yr oedd yn enedigol o'r Tyddynbach, Dyffryn. Dygwyd ef i fyny yn fasnachwr; a phan o gylch un ar hugain oed agorodd fasnachdy yn Llanbedr. Dechreuodd haul llwyddiant yn fuan dywynu arno, a pharhaodd i lwyddo nes y daeth i droi mewn cylch eang iawn fel masnachwr. Llwyddodd ei grefydd hefyd yr un modd a'r un pryd a'i amgylchiadau bydol. Yr oedd wedi derbyn argraffiadau crefyddol er yn fachgen, ac ni fu enill cyfoeth yn un atalfa ar ei grefydd. Byddai ei ofal yn fawr am achos yr Arglwydd yn wastad. Yn ei dy ef y lletyai llawer o weinidogion a phregethwyr ar y Sabbothau, ac ni theimlent yn fwy cartrefol yn unman. Dewiswyd ef yn flaenor yn eglwys Llanbedr yn y flwyddyn 1860. Trwy ddiwydrwydd ac ymroad bu yn "ffyddlawn yn yr holl dŷ." Nid un o'r rhai trystfawr ydoedd, ond gweithiwr distaw a chyson, un yr ymddiriedai ei frodyr unrhyw beth iddo, ac yr oedd pwysau a dylanwad mwy na chyffredin yn ei gymeriad. Ymaflodd afiechyd ynddo gryn amser cyn iddo gael ei gymeryd ymaith; yn yr amser hwn dangosai dawelwch mawr. Bu farw yn Llandrindod, lle yr aethai i ymofyn am leshad, Awst 13eg, 1872, yn 48 mlwydd oed. Gorphwysa yn dawel, gyda llawer o ragorolion y ddaear, y tu cefn i'r capel.

JOHN LLOYD

Prin ddeng mlynedd gafodd ef wasanaethu yn y swydd o flaenor. Yr oedd yn ŵr duwiol, selog, a ffyddlawn, a chrefydd yn y rhan olaf o'i oes fel wedi ei feddianu yn llwyr. Byddai graddau helaeth o deimlad yn ei feddianu wrth wrando yr efengyl. Bu farw ar ol ychydig o gystudd, Chwefror 3ydd, 1881, yn 63 mlwydd oed.

CADBEN GRIFFITH, TYDDYN Y PANDY.

Mawrth 3, 1873, y derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol fel blaenor yn yr eglwys hon. Treuliodd lawer o'i amser gyda'i orchwylion ar y môr, ac felly nid oedd wedi cael y fantais i ymarfer llawer â phethau cyhoeddus crefydd. Yr oedd, modd bynag, wedi cyraedd sefyllfa gyfrifol gyda'r byd a chrefydd. Bu o lawer o wasanaeth i achos yr Arglwydd yma, yn enwedig mewn pethau arianol. Ei barodrwydd a'i ewyllysgarwch i bob achos da oeddynt ganmoladwy. Bu farw yn ei long ar y môr, ddechreu Mawrth, 1883, a dygwyd ef i dir i'w gladdu.

JOHN RICHARDS.

Symudodd yma o Faentwrog, lle yr oedd yn swyddog defnyddiol yn flaenorol. Ychydig fu byw ar ol ei symudiad. Dewiswyd ef yn flaenor yma yn Gorphenaf, 1881, ac yn Nghyfarfod Misol Ionawr, 1882, yr oedd sylwadau coffadwriaethol yn cael eu gwneuthur am dano. Teimlid colled fawr ar ei ol, oblegid yr oedd yn ŵr o farn ac o allu.

Heblaw y rhai blaenorol, dewiswyd Mri. W. Prise Jones, Gwerneinion, a Robert Roberts, Llanbedr, yn flaenoriaid yma, y rhai wedi gwasanaethu am dymor, a symudasant o'r ardal.

Y blaenoriaid yn bresenol ydynt, Mri. John Evans, Hugh Evans, a J. R. Jones.

Rhif y gwrandawyr, 185; cymunwyr, 91; Ysgol Sul, 114.

Bu Mr. Robert Griffith, Siop, yn weithgar iawn gyda'r achos yn ei holl ranau o'r cychwyn, yn enwedig gydag adeiladu y capel a thalu ei ddyled, ac mewn cyfranu yn haelionus trwy y blynyddau; ei deulu oll yr un modd a fuont yn golofnau hardd gyda chrefydd yn y lle. Mr. Evan Evans, Glanartro, a fu yn weithgar iawn gyda'r gwaith yn ei holl gysylltiadau. A gellid enwi amryw o denluoedd eraill a wnaethant yn gyffelyb. Yma y dechreuodd y Parch. J. R. Evans, yn awr o Tyldesley, bregethu; ei flwyddyn brawf yn diweddu Ionawr, 1879. Y Parchn. E. J. Evans a W. Lloyd Griffith, a fuont yn gwasanaethu yr achos am flynyddau, er nad oeddynt mewn cysylltiad ffurfiol â'r eglwys. Yn 1864, rhoddodd yr eglwys alwad i'r Parch. D. Jones i'w gwasanaethu mewn undeb â'r Gwynfryn, a bu yn llafurus a chymeradwy ynddynt am bymtheng mlynedd, hyd nes y symudodd i Garegddu. Bu y Parch. O. Parry-Owen yn weinidog yr eglwys hon a'r Gwynfryn am oddeutu pum' mis, hyd ei farwolaeth, Mai y flwyddyn hon (1890). Yn awr. ar ddiwedd yr un flwyddyn, mae y Parch. J. Wilson Roberts wedi ymsefydlu yma trwy alwad y ddwy eglwys.

Y PARCH. O. PARRY-OWEN.

Cafodd ef ei fagu yn Abermaw. Wedi colli ei dad a'i fam, symudodd at ei frawd i Rostryfan, ac yno y dechreuodd bregethu. Bu o dan addysg yn Nghlynog am dymor byr, ac yna aeth i Athrofa y Bala. Ar ol gorphen ei amser yno, ymsefydlodd yn Abermaw trwy ymbriodi â Miss Jones, o Porkington Terrace, ac yn fuan, ymgymerodd â bod yn weinidog yr eglwys Saesneg yn y lle. Bu am flwyddyn drachefn yn weinidog ar eglwys Tregynon a Beulah, Trefaldwyn Isaf. Dychwelodd yn ol i Orllewin Meirionydd trwy dderbyn galwad eglwysi Llanbedr a'r Gwynfryn. Rhoddodd brofion eglur ei fod yn meddu talent i bregethu yn y ddwy iaith. Yr oedd yr elfen weithgar yn dra amlwg ynddo, ac yr oedd yn llenor da. Ond er galar i'w deulu a'i liaws cyfeillion, nos Lun, Mai 19eg, 1890, bu farw yn yr oedran cynar o 29.

LLANFAIR.

Yn ddiweddar, mewn cymhariaeth, y dechreuwyd achos rheolaidd yn Llanfair. Adeiladwyd y capel yn y flwyddyn 1866, ac ymhen dwy flynedd corfforwyd eglwys yn ffurfiol ynddo. Ond cynhelid moddion crefyddol yn yr ardal er yn bur foreu. Yn y Tyddyn-du, yn y plwyf hwn, ac yn Pen'rallt. wedi hyny, yr oedd Griffith Ellis yn byw. Efe, fel y ceir yr hanes mewn cysylltiad â Harlech, a fu yn offeryn i ddwyn pregethu gyntaf i ddosbarth y Dyffryn; ac yn ei dŷ ef, yn mhlwyf Llanfair, yn ol pob hanes, y bu y Methodistiaid yn pregethu gyntaf erioed yn y wlad hon. Yr oedd hyn, gellir tybio, heb fod ymhell oddiwrth y flwyddyn 1770. Yn fuan wedi iddo agor ei ddrws yn y Tyddyn-du i noddi y pregethwyr, derbyniodd rybudd i ymadael. Ond rhoddodd ei feistr tir iddo ei ddewisiad, "Yr un a fynai, ai peidio coledd y fath bobl, ai ymadael o'r Tyddyn-du." Yr ateb a roddodd Griffith Ellis i'w feistr tir oedd, "Bod yn well ganddo golli ei dyddyn. na cholli ei enaid." Cafodd crefyddwyr Llanfair felly esiampl ragorol yn eu rhag-flaenor, sef yn y Methodist Calfinaidd cyntaf erioed yn y plwyf.

Harlech oedd cartref yr achos yn amser yr hen batriarch Griffith Ellis. Ac hyd y flwyddyn grybwylledig yn y paragraff blaenorol, rhan o eglwys a chynulleidfa Harlech oedd Methodistiaid ardal Llanfair. Yr oedd Ysgol Sabbothol yn cael ei chynal yn y gymydogaeth er tua'r flwyddyn 1812. Mewn ffermdy o'r enw Ymwlch y dechreuwyd ei chadw, ac yno y bu am rai blynyddau yn nechreuad ei hoes. Preswyliai yn Ymwlch y pryd hwn, medd yr hen bobl, Ellin Edwards a'i gŵr, Rhys Evan. Enwir y wraig yn gyntaf am mai hi oedd fwyaf selog gyda'r ysgol. Yr oedd yn aelod o eglwys y Gwynfryn. Yr oedd i'r ddeuddyn hyn ddau neu dri o feibion, a phedair o ferched; un o ba rai, fe'n hysbysir, ydoedd gwraig y Parch. Morris Roberts, o Brynllin, pregethwr poblogaidd, yr hwn gyda'i deulu a ymfudodd i'r America, yn rhywle oddeutu y flwyddyn 1830. Dywed yr hen bobl eto mai cyfeillion o'r Gwynfryn a ddechreuasant yr ysgol yn Ymwlch, ymhlith pa rai yr enwir fel athrawon ac athrawesau,-Owen Evan, o Dalygareg; William Dafydd, y gof, Llanbedr; William Rhisiart, Tyddynypandy; a Mrs. Anne Lewis, Tymawr.

Oherwydd ymadawiad y teulu, ac anghyfleusdra y lle, symudwyd yr ysgol o Ymwlch i bentref Llanfair. Cynhelid hi am ysbaid mewn gweithdy crydd, perthynol i Mr. Owen Richards, Tŷ'nllan. Un o'r hen weithwyr yn y gweithdy hwn ar hyd y chwe diwrnod ydoedd Samuel Griffith, yr hwn hefyd a fu yn weithiwr ffyddlon gyda'r Ysgol Sul a gedwid yno. Perthynai ef fel aelod i eglwys y Gwynfryn. Gan mai ar ol moddion y boreu yn y Gwynfryn y byddai yr ysgol yn cael ei chadw yn Llanfair, byddai helynt flin yn aros cyfeillion y lle cyntaf i gasglu y plant ynghyd, y rhai a aent erbyn hyn ar wasgar i bob cwr, rhai cyn belled a Morfa Harlech, ac eraill i bob cyfeiriad, fel defaid ar wasgar. Yn y flwyddyn 1818, symudodd Mr. Humphrey Evans o Danywenallt i fyw i Lanfair, a chafodd yr ysgol fantais fawr ar hyny. Adeiladodd y gŵr hwn dai yno, ac yn llofft un o honynt y cynhaliwyd hi nes yr adeiladwyd y capel presenol yn 1866. Dodrefnwyd y llofft â meinciau pwrpasol i gadw yr ysgol, ac yr oedd grisiau i fyned iddi oddiallan. Y pryd hwn trosglwyddwyd yr ysgol oddiar ysgwyddau cyfeillion y Gwynfryn, a daeth bellach i orphwys yn gwbl ar ysgwyddau pobl Llanfair eu hunain. Humphrey Evans, ynghyd ag Evan Thomas, Pen'rallt, blaenor ffyddlawn yn Harlech, fu y ddau mwyaf blaenllaw yn ei chynal. Cynhelid ambell bregeth a chyfarfod gweddi yn yr hen lofft hefyd. Yr oedd hwn yn gyfnod llewyrchus ar yr Ysgol Sabbothol yn Llanfair. Eraill a deilyngant gael cofrestru eu henwau a'u coffadwriaeth yn gysylltiedig â'r achos yn yr ardal ydynt,-Morris Griffith, Llwynhwleyn; Sion a Betty William, Ymwlch; Harri William, Talarocyn; Rhisiart William, Griffith Lewis. Griffith Jones, Bronygadair, oedd ŵr ieuanc gweithgar, ac a fu am dymor yn ysgrifenydd yr ysgol.

Bu Humphrey Evans yn nodedig o garedigol i achos crefydd yn yr ardal hon am dros ugain mlynedd. Ond rywbryd tua'r flwyddyn 1842, ymfudodd oddiyma i America. Merch iddo ef a gymerodd y Parch. Robert Ellis, Ysgoldy, Arfon, iddo ei hun yn wraig. Fel hyn y rhydd y gŵr parchedig ei hun yr hanes: "Ar y 23ain dydd o Fawrth, 1842, ymunais mewn priodas â Jane Evans, merch Mr. Humphrey Evans, Caerffynon, ger Harlech. Yr oedd hi eisoes er yn lodes wedi arfer â siop. Dyma oedd ei helfen. Profodd yn wraig ac yn fam deilwng o'r enw. Gwnaeth bobpeth a allai yn fy ffordd fel pregethwr. Gweithiai yn galed yn y siop er mwyn fy arbed. Hwyliai fi bob amser yn siriol i'm cyhoeddiadau. Gwnai bobpeth mor bleasant ag y gallai i'm derbyn adref yn ol. Profodd yn ymgeledd gymwys i eithaf y gair. Ar ol ymadawiad Humphrey Evans i'r America,[43] syrthiodd yr achos, a'r ysgol ar ysgwyddau Evan Thomas, Pen'rallt, ond nid hir y bu yntau heb gael ei alw oddiwrth ei waith at ei wobr. Wedi hyn syrthiodd gofal yr ysgol yn benaf i ddwylaw Owen Roberts, Rhiwcenglau, yr hwn fel y mae yn hysbys oedd yn flaenor yr eglwys hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le ganol y flwyddyn 1888. Yr oedd ef yn ddolen gydiol rhwng dyddiau mabandod yr achos a'i ddyddiau presenol, ac nid yw yn ormod dweyd mai efe oedd tad yr achos yn y lle. Yr adeg y daeth y gofal arno ef, trwy lawer o symudiadau o'r ardal, gwanhaodd yr ysgol yn fawr. Cawsant gymorth dros ryw dymor eto oddiallan i gario yr achos ymlaen; bu Mr. W. Lewis, Tymawr, yn rhoddi llawer o wasanaeth gwerthfawr yma y pryd hwn. Ond er derbyn cymorth oddiallan, ni buasai yr un achos Methodistaidd yma oni bai i'r ardalwyr eu hunain ymaflyd o ddifrif yn y gwaith o'i gychwyn.

Y crybwylliad cyntaf a welsom o berthynas i ysgogi tuag at gael capel yn y gymydogaeth ydyw y penderfyniad canlynol a geir yn Nghofnodion Cyfarfod Misol Harlech, Ebrill, 1861, "Bu ymddiddan am ardal Llanfair, a'r angen sydd am gapel yno; penodwyd y Parch. Edward Morgan i geisio cael lle i adeiladu un." Hyd y flwyddyn 1866, yr oedd Talsarnau a Harlech yn un daith Sabbothol. Y flwyddyn hon aeth Talsarnau yn daith arni ei hun, gan adael Harlech a Llanfair gyda'u gilydd. Bu hyn yn foddion i symbylu y cyfeillion ymlaen. Teimlid fod y lloft yn lle anfanteisiol i bregethu, a meddyliwyd yn uniongyrchol am adeiladu capel. Prynwyd tir gan Mr. John Owen, Tymawr. Talwyd am dano 24p. 5s. Nid oedd y Cyfarfod Misol a'r brodyr yn y lle yn cydweled ar y ffurf i'w roddi ar y capel. Anogai y Cyfarfod Misol roddi meinciau ynddo yn lle eisteddleoedd; teimlai cyfeillion y lle yn gryf dros gael eisteddleoedd, a'r olaf aeth a'r maen i'r wal. Yn y cyfnod rhwng y symudiad o'r hen lofft i'r capel newydd, buwyd yn cynal y moddion yn Ysgubor Llanfair Uchaf, trwy garedigrwydd Mr. a Mrs. Pugh, y rhai y pryd hyny a breswylient yno. Blwyddyn fuwyd yn pregethu yn y capel cyn ffurfio eglwys yn rheolaidd ynddo. Yn Nghyfarfod Misol Siloam, Ebrill 1868, "Penodwyd y Parch. Edward Morgan, a Mr. Owen Owen, Glyn, i fyned i Lanfair, ger Harlech, gyda golwg ar sefydliad yr achos yn y lle hwnw yn eglwys ar ei phen ei hun." Oddeutu 120 oedd nifer eglwys Harlech cyn yr ymraniad. Ymadawodd deugain i Lanfair, a rhoddwyd iddynt un ran o dair o Drysorfa y fam-eglwys i fyned gyda hwy i ddechreu byw. Yn yr ystadegau cyntaf y ceir cyfrifon eglwys Llanfair ynddynt, sef am y flwyddyn 1868, ei sefyllfa ydyw,-mewn cymundeb, 40; Ysgol Sul, 120; gwrandawyr, 187; blaenoriaid 2; casgliad y weinidogaeth, 20p. 10s. 71c.; dyled y capel, 240p.-casglwyd at y ddyled y flwyddyn hono, 14p. 12s. 5c. Traul adeiladu y capel felly oedd oddeutu 250p. Bu yr eglwys wrthi yn ddiwyd a chyson yn talu y ddyled. Nid oedd ar ddiwedd 1888 ond 20p. yn aros. Yr oedd dau o flaenoriaid Harlech yn byw yn Llanfair, sef Owen Roberts ac Ellis Lloyd, a bu pwysau yr achos yn ei bethau allanol ac ysbrydol, ar eu hysgwyddau hwy am y blynyddoedd cyntaf. Ond bob yn dipyn, magwyd yn yr eglwys weithwyr da gyda'r holl waith.

Yn y flwyddyn 1871, rhoddodd yr eglwys hon a Harlech alwad i'r Parch. Richard Evans yn weinidog iddynt, yr hwn sydd wedi eu gwasanaethu yn gyson hyd yn bresenol. Blaenoriaid yr eglwys yn awr ydynt, Mri. Ellis Lloyd, Robert Williams, Griffith Thomas, Robert Richards.

Rhif y gwrandawyr, 142; cymunwyr, 78; Ysgol Sul, 97.

OWEN ROBERTS, RHIWCENGLAU.

Dygwyd ef i fyny yn yr ardal hon. Yr oedd yn blentyn wyth oed pan y dechreuwyd cynal Ysgol Sul yn Mhentref Llanfair. Yn ol ei adroddiad ef ei hun, byddai yn arfer pan yn fachgen lled ieuanc, aros ar ol y moddion yn Harlech i fod yn gwmpeini adref i Evan Thomas, Pen'rallt, yr hen flaenor selog. Diameu i'r dyddordeb a gymerai mewn crefydd ar hyd ei oes, wreiddio ynddo y pryd hwnw. Pan oedd tua 32 oed, fel y gwelwyd, disgynodd gofal yr Ysgol Sul yn Llanfair arno ef, a daliodd yn ffyddlon gyda hi dros faith flynyddoedd, yn ngwyneb llawer o dywyllwch, ac ond ychydig o argoelion llwyddiant. Gweithiai yn ddiwyd gyda'r achos yn Harlech, er fod ganddo gryn ffordd o'i gartref yno; dewiswyd ef yn flaenor gan yr eglwys yno, a derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol yn Medi 1861. Symudodd gyda'r gangen eglwys i Lanfair, ac efe oedd ei phrif arweinydd o'r cychwyn cyntaf. Er nad oedd ganddo ond gweithio yn ddiwyd ar hyd ei oes i enill ei fywoliaeth, gwnaeth wasanaeth mawr i grefydd yn yr ardal hon. Bu yn noddwr o'r fath oreu i eglwys Llanfair am yr ugain mlynedd cyntaf o'i heinioes. Bu ei ffyddlondeb fel blaenor eglwysig yn amlwg i bawb. Yn ychwanegol at hyny, yr oedd ganddo fedr neillduol i roddi pobl ieuainc mewn gwaith, ac i'w tynu allan i weithio. Bu farw a'i goron ar ei ben, Mehefin 25, 1888, yn 78 oed, a chladdwyd ef yn mynwent y Methodistiaid Calfinaidd yn Harlech.

EGLWYS SAESNEG ABERMAW.

Amryw flynyddau cyn sefydlu achos rheolaidd, arferid cynal moddion Saesneg, yn misoedd yr haf, yn y capel Cymraeg, am un ar ddeg yn y boreu ac am bedwar o'r gloch yn y prydnhawn. Ond nid oedd y drefn yma yn gyfleus i'r cyfeillion Cymreig nac i'r dieithriaid. Felly, yn y flwyddyn 1876, dechreuwyd cynal y moddion Saesneg yn yr ystafell gyhoeddus. Yn Mai, 1877, ceir fod cais wedi ei wneuthur trwy y Cyfarfod Misol at y Gymdeithasfa, am grant o 8p. 1s. 3c. at gynal pregethu yma. Yn Nghyfarfod Misol Hydref, yr un flwyddyn, y mae dau benderfyniad yn cael eu mabwysiadu,"(1). Ein bod yn llawenhau fod cyfeillion yr Abermaw wedi symud ymlaen i sicrhau lle i adeiladu capel Saesneg. (2). Ein bod yn rhoddi caniatad i'r cyfeillion sydd yn dal cysylltiad â'r achos Saesneg i ymffurfio yn eglwys, a phenodwyd y Parchn. D. Davies, a J. Davies, Bontddu, a Dr. Edward Jones, Dolgellau, i gynorthwyo yn ei sefydliad." Ymunodd amryw o'r cyfeillion Cymreig, ac yn eu plith Mr. John Evans, un o flaenoriaid y capel Cymraeg. Y mae ef wedi parhau yn ffyddlon a gweithgar gyda'r achos Saesneg o'r dechreu.

Y cam nesaf ydoedd adeiladu capel, ac ymgymerodd y cyfeillion â'r anturiaeth fawr hon yn ngwyneb llawer o anhawsderau Trwy offerynoliaeth Mr. R. Rowland, U.H., yn awr o Bwllheli, yr hwn ar y pryd oedd yn y Bank yn y dref hon, sicrhawyd tir mewn man canolog a chyfleus, heb fod ymhell o Orsaf y Rheilffordd. Ar y pedwerydd dydd o Fawrth, 1878, ar yr achlysur o ymweliad y Cyfarfod Misol a'r dref, gosodwyd i lawr gareg sylfaen y capel, gan John Roberts, Ysw., A.S., Bryngwenallt, Abergele, yr hwn a gyflwynodd 25p. tuag at yr adeilad. Llywyddwyd gan y Parch. D. Davies. Rhoddwyd penill allan i'w ganu gan y Parch. R. H. Morgan, M.A., a darllenwyd rhan o'r Ysgrythyr gan y Parch. T. J. Wheldon, B.A. Wedi hyny, ymneillduwyd i'r Assembly Room gerllaw, a chymerwyd rhan yn y cyfarfod yno gan y personau uchod, a chan Mri. R. Rowland, U.H., ac E. Griffith, U.H., a Dr. Edward Jones, U.H., Dolgellau, a'r Parch. Dr. Hughes, Liverpool. Pregethwyd yn gyntaf yn y capel newydd gan y diweddar Barch. Dr. Harries Jones, ar Sabbath yr 20fed o Hydref y flwyddyn uchod. Tachwedd 5ed a'r 6ed, cynhaliwyd y cyfarfod agoriadol, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn. Dr. O. Thomas Liverpool; D. C. Davies, M.A., Llundain; a Joseph Jones, Menai Bridge. Dywedwyd ar ddydd gosodiad y sylfaen fod y capel i gynwys 250, ac y byddai y draul o 1100p. i 1200p. Ond ymddengys i'r capel a'r tir gostio dros 1850p. Cliriwyd dros 200p. y flwyddyn gyntaf. Yn 1886 gorfu i'r eglwys brynu y tir y tu ol i'r capel, yr hwn a gostiodd 300p. yn ychwanegol. Ond gyda rhodd o 100p. gan y Cyfarfod Misol, a chymorth y cyfeillion Cymreig, talwyd yr oll am y tir yn ystod y flwyddyn hono. Gwasanaethodd y Parch. R. H. Morgan, M.A., yr eglwys yn ffyddlon o'i sefydliad hyd ei ymadawiad o'r dref i Dowyn yn nechreu 1887. Yn Medi 1887, rhoddwyd galwad i'r Parch. O. Parry-Owen, yr hwn oedd yn enedigol o'r lle, a bu yn gweithio yn ffyddlon ac egniol hyd ei ymadawiad i Sir Drefaldwyn yn Ionawr 1889. Yn Mehefin 1888, daeth y Parch. D. Evans, M.A., a'r teulu, o Gelligaer, i fyw i'r gymydogaeth, y rhai a ymunasant â'r eglwys, a'r hyn a fu yn gaffaeliad mawr iddi. Cymer Mr. Evans ran flaenllaw yn y cyfarfodydd ganol yr wythnos.

Yn mis Mawrth 1879, galwyd Mri. G. O. Jones a G. Griffiths, Chemist, yn flaenoriaid i gynorthwyo Mr. Evans. Derbyniwyd hwy yn aelodau o'r Cyfarfod Misol yn y Dyffryn yr un flwyddyn. Yn y flwyddyn ganlynol, neillduwyd Mr. Jos. Thomas, Ysgol y Bwrdd, yr hwn a dderbyniwyd yn Nghyfarfod Misol Abermaw. Y tri diweddaf ydyw blaenoriaid yr eglwys yn awr; ac y mae y tri wedi gweithio yn rhagorol, gan mai i fyny y rhiw y bu yr achos yn cerdded hyd yma. Mae y ddyled eto yn drom ag ystyried mai bechan ydyw yr eglwys. Er's blwyddyn neu ddwy, pa fodd bynag, mae y cyfeillion Cymreig a'r Cyfarfod Misol hefyd wedi rhoddi cynorthwy ychwanegol, a'r flwyddyn nesaf (1891), bwriedir gwneuthur ymdrech arbenig i symud ymaith y baich. Fel, rhwng pobpeth, y mae y wawr yn dyfod yn oleuach. Rhaid ydyw, yn ol cwrs yr amseroedd, i'r eglwys hon gynyddu yn y blynyddoedd sydd i ddyfod.

Gwrandawyr yn bresenol 75; cymunwyr 29; Ysgol Sul 42.

PENOD III.

YR YSGOL SABBOTHOL YN NOSBARTH Y DYFFRYN.

CYNWYSIAD. Nodau gwahaniaethol y Dosbarth—Yr ysgolion a ddechreuwyd gyntaf—Thomas Bywater—Ysgol Hendre-cirian—Y Cyfarfod Ysgolion cyntaf—Y cyfrifon cyntaf-Cofnodion Hugh Evan, Hendre-cirian, a John Jones, Plasucha—Ysgrifenyddion eraill y Cyfarfod Ysgolion—Y Parch. Daniel Evans—Holwyddorwyr eraill—Llywyddion—Y Gymanfa Ysgolion—Gwyl Can'mlwyddiant 1885.

 EDI gweled dechreuad a chynydd yr Ysgol Sabbothol mewn tri dosbarth o fewn cylch Cyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd, yr ydys yn awr yn dyfod at y pedwerydd, sef dosbarth y Dyffryn. Un nod gwahaniaethol ar yr hanes yn y rhanbarth hwn ydyw, fod y prif eglwysi wedi eu planu yn flaenorol i sefydliad yr Ysgol Sul; cafodd yr ysgol ei dechreu yma ar ol yr eglwysi, tra yr ydys yn gweled mewn llawer o fanau fod yr eglwysi yn dyfiant o honi hi. Erys graddau o dywyllwch ar y modd y cychwynwyd hi mewn cysylltiad â'r eglwysi hynaf, am nad oes neb yn fyw yn awr i adrodd yr hanes. Yn ol yr adroddiad a roddwyd ar ddydd Can'mlwyddiant yr Ysgol Sabbothol, yn 1885, gan Mr. Rees Roberts, Harlech, y lleoedd a roddodd y cychwyniad cyntaf iddi oeddynt Harlech, Abermaw, a'r Dyffryn. Nis gellir olrhain yr hynaf o'r ysgolion, sef yr un a gychwynwyd gan Griffith Ellis, Pen'rallt, gerllaw Harlech, yn bellach yn ol na'r flwyddyn 1792. Hawlia un neu ddwy arall yn y dosbarth eu dechreuad ychydig flwyddi yn flaenorol i 1800. Nid oedd felly ond ychydig wedi ei wneuthur yn yr ardaloedd hyn gyda'r gangen hon o deyrnas yr Arglwydd Iesu cyn dechreu y ganrif bresenol, a thra thebyg ydyw y dosbarth hwn i'r dosbarthiadau eraill gyda golwg ar yr amser y rhoddwyd y cychwyniad cyntaf i'r ysgolion. Ac o amser cychwyniad cyntaf y sefydliad trwy offerynoliaeth Mr. Charles yn 1785, araf a graddol fu y cynydd am ysbaid o oddeutu ugain mlynedd.

Ychydig yw y ffeithiau hanesyddol sydd i'w hadrodd am ddosbarth y Dyffryn mewn cysylltiad â'r Ysgol Sul, o leiaf, hyd amser sefydliad y Cyfarfodydd Ysgolion. Nid oes yma yr un Lewis William i groniclo ei hanes, fel yn nosbarth Dolgellau; na'r un John Jones, Penyparc, fel yn nosbarth y Ddwy Afon; na'r un Morris Llwyd, fel yn nosbarth Ffestiniog. Mae yr ychydig grybwyllion sydd yn wybyddus am yr ysgolion, bob yn un ac un, yn ystod y deng mlynedd ar hugain cyntaf, wedi eu rhoddi eisoes yn y benod ar hanes Eglwysi y Dosbarth.

Y mae enw Thomas Bywater wedi ei grybwyll genym rai gweithiau. Bu ef yn cadw ysgol ddyddiol am hir amser yn Abermaw a'r Dyffryn. Yr oedd yn ŵr medrus a gweithgar, ac iddo ef, fel yr hysbysir, y priodolir dygiad yr Ysgolion Sabbothol yn nosbarth y Dyffryn i drefn gyntaf, ar ddechreuad y ganrif bresenol. Oddeutu y flwyddyn 1818 yr ydym yn cael y cofnodion ysgrifenedig cyntaf am yr ysgolion. Yn ddamweiniol, fe gafwyd ychydig o hen lyfrau yn llawysgrifen Hugh Evan, Hendre-eirian, heb fyned ar ddifancoll. A'r hen lyfrau hyn ydynt y tystion hynaf a chywiraf am weithrediadau yr Ysgol Sul yn y dosbarth. Dechreuwyd ysgol yn ei dŷ ef ei hun Mehefin 28ain, 1818, a chadwodd yntau gyfrif manwl am yr ysgol yn y cyfnod hwn, sef enwau y rhai fyddent yn dechreu a diweddu yr ysgol, ei rhif, ei hagwedd o ran cynydd neu leihad, ynghyd a manylion eraill, megis y pethau canlynol, "Yr ysgol erbyn hyn yn ddeg o glasses; rhanwyd y drydedd benod o Lyfr Egwyddorion i'w dysgu allan." "Cawsom y fraint o gael Daniel Evans yn bresenol yn yr ysgol; pob peth yn bur gysurus; fe roes Daniel olwg yn fyr ar bob dosbarth."—"Heb yr un ysgol, oblegid bod John Elias yn y Bermo yn cadw odfa."-"Richard Humphreys yn dechreu yr ysgol; yn myned ymlaen yn bur siriol; ymwelodd Richard Humphreys â phob class yn fyr, a da oedd gan bawb ei weled." "Dim ysgol; Dafydd Rolant yn y Dyffryn yn cadw odfa." Amrywiai rhif yr ysgol hon yr adeg yma, sef yn 1818 a'r pedair neu bum mlynedd dilynol, o 60 i 76.

Y cyfarfod ysgolion cyntaf a gynhaliwyd, yn ol ysgrifau Hugh Evan, Hendre-eirian, ydoedd yn y Dyffryn, Chwefror 28ain, 1819. Y Parch. Robert Griffith, Dolgellau, oedd yn ei gadw. Mae hyn yn cyfateb yn lled agos i'r amser y dechreuwyd y cyfarfodydd ysgolion mewn rhanau eraill o'r wlad. Mewn llythyr a anfonodd Lewis William, Llanfachreth, at frodyr Penllyn, dyddiedig, Dolgellau, Mai 12fed, 1818, dywed mai yn Llanfachreth, ar y 25ain o Fai, 1817, y cynhaliwyd cyfarfod ysgolion cyntaf dosbarth Dolgellau. Dywed, hefyd, yn yr un llythyr, "Fe ganiatawyd, os byddai y Bermo, Dyffryn, a'r Gwynfryn yn dewis, y caent ddod o fewn i'r cylch, ond gwrthod y maent hyd yn hyn, oherwydd eu bod yn cadw cyfarfodydd mewn modd arall." Wrth gadw cyfarfodydd mewn modd arall, y meddylid, yn ddiameu, eu bod bwriadu ymffurfio yn ddosbarth ysgolion arnynt eu hunain. Am ychydig yn y dechreu, Cyfarfod Chwech wythnosol' ydyw yr enw sydd ar y cyfarfodydd; ond cyn diwedd 1820, gelwir hwy yn Gyfarfod Daufisol.' Ffurfid rheolau manwl gan arweinwyr yr Ysgol Sabbothol y pryd hyn, a dangosid ffyddlondeb tra mawr gan yr athrawon a'r deiliaid. Un o'u rheolau ydoedd, fod yr athrawon i gyfarfod ynghyd nos Sadwrn cyntaf o bob mis, i ymgynghori gyda golwg ar gario gwaith yr ysgol ymlaen. Un arall ydoedd, fod dau olygwr i berthyn i bob ysgol. Un arall, fod i'r athrawon ddyfod i'r ysgol bob Sabbath, oni byddai i ryw beth neillduol eurhwystro; neu ofalu am anfon rhywun yn eu lle. Yr oedd yn arferiad, hefyd, i gynal society nos Sadwrn o flaen Sul y cyfarfod ysgolion, yn y lle y cynhelid ef, i gael ymdrafodaeth gyda phroffeswyr crefydd o berthynas i waith yr Ysgol Sabbothol. Y cyfrifon cyflawn cyntaf am yr ysgolion ydyw yr hyn a gafwyd yn llawysgrifen Hugh Evan, Hendre-eirian, yn yr hen lyfr cofnodion y cyfeiriwyd ato,"Cyfrif o'r ysgolion, o'r Bermo i Dalsarnau, am y flwyddyn yn dechreu Gorphenaf 16, 1820, hyd Gorphenaf 8, 1821. Pum' ysgol, ynghyd â'u canghenau, sef un yn perthyn i'r Bermo; dwy yn perthyn i'r Dyffryn; dwy i'r Gwynfryn; un i Harlech; a dwy yn perthyn i Dalsarnau-tair ar ddeg o ysgolion i gyd.

Rhifedi yr ysgolion i gyd yn un swm 1147. Y cyfrif hwn yn cael ei anfon i Ddolgellau i'r Cyfarfod Daufisol, a'i ddelifro i Richard Jones, o'r Wern, Gorphenaf 29, 1821." Hugh Evan, Hendre-eirian, oedd ysgrifenydd cyntaf y Cyfarfod Ysgolion. Yr oedd efe ar y blaen gyda phob gwelliant, yn wladol a chrefyddol. Ystyrid Hendre-eirian yn ei ddyddiau ef fel math o athrofa deuluaidd; llawer a gawsant eu meithrin a'u haddysgu ynddi. Gŵr rhadlawn, tirion, awyddus i wneuthur daioni i bawb oedd Hugh Evan. Yr oedd yn dad i'r diweddar Evan Williams, o Hendre-eirian, ac yn daid i Mri. Hugh Williams, Liverpool House, a R. J. Williams, y Llythyrdy. Yr ysgrifenydd nesaf ar ei ol ef ydoedd John Jones, Plas Uchaf, wedi hyny o Ynysgain, yr hwn a fu yn y swydd am y blynyddau 1832-1840. Cedwid ganddo ef gofnodion manwl o'r materion y traethid arnynt yn yr holl gyfarfodydd. Yn yr ystyr hwn mae ei gofnodion yn hynod o werthfawr. Gwelir oddiwrthynt y byddai dan bregethwr yn bresenol ymhob cyfarfod ysgol; a'r ddau sydd a'u henwan i lawr yn llyfr y cofnodion amlaf ydynt, Daniel Evans a Richard Humphreys, ond byddai pregethwr arall o'r sir, neu y tuallan i'r sir, ymhob cyfarfod gydag un o'r ddau hyn. Traethid gan y gwyr parchedig bethau newydd a hen, ar faterion yn dwyn cysylltiad uniongyrchol âg addysg a chrefydd y wlad. Ac y mae yn syndod gymaint a draethwyd, a chymaint o ymdrechion a wnaethpwyd gan arweinwyr yr Ysgol Sabbothol y dyddiau gynt, er planu egwyddorion crefydd a moesoldeb yn meddyliau yr ieuenctyd, ac er dadwreiddio drwg arferion allan o'r tir. Yr un cwynion yn union a glywid y pryd hwnw am y rhwystrau ar ffordd cynydd crefydd ag a glywir y dyddiau hyn,-diffyg gofal priodol o du y rhieni i addysgu y plant yn eu cartrefi, diffyg ymroad yn yr athrawon i lafurio ar gyfer eu gwaith, a diffyg ystyriaeth ddyladwy o'r rhwymedigaeth sydd yn orphwysedig ar broffeswyr crefydd i fyw yn dduwiol eu hunain, ac i rybuddio a chynghori pawb ei gymydog, bob dydd tra y gelwir hi heddyw. Ceir lliaws mawr yn y llyfr cofnodion hwn o eiddo yr uchelwr o'r Plas Uchaf, o sylwadan treiddgar a miniog, wedi en hysgrifenu yn gyflawn ar y materion crybwylledig. Yn niwedd 1840, rhoddodd ef ei swydd i fyny, oherwydd ei fod yn ymadael o'r sir. Wedi hyny y mae bwlch o ddeng mlynedd ar hugain heb ddim cofnodion yn ganfyddadwy, er gwneuthur pob ymchwiliad am danynt. Yn nechreu y cyfnod hwn, fel yr hysbysir, bu David Pugh, Morfa, Harlech, a John Llwyd, Erw-wen, yn flaenllaw gyda gwaith yr ysgol. Gwasanaethodd Evan Williams, Hendre-eirian, yn y swydd o ysgrifenydd am dymor hir. Yn ddiweddarach yn y cyfnod, bu Lewis Jones, ysgolfeistr y Dyffryn, gŵr crefyddol ac ymroddgar, yn ysgrifenydd y cyfarfod ysgolion am flynyddoedd; ac ar ei ol yntau Mr. R. Rowlands, ysgolfeistr, Talsarnau, yn awr o Benrhyndeudraeth. O ddechreu y flwyddyn 1871 hyd yn awr y mae cofnodion rheolaidd wedi eu cadw. Ac yn ystod y blynyddoedd diweddaf, bu Mr. R. J. Williams, Llythyrdy, y Dyffryn, yn ysgrifenydd. Ar ei ol ef gwasanaethodd Mr. Robert Williams, Ysgol y Bwrdd, y swydd yn ffyddlawn am ddeuddeng mlynedd, hyd ei symudiad i fod yn ysgolfeistr yn Nhanygrisiau yn nechreu y flwyddyn 1887. Ac ar nos Wener, y 15fed o Fai y flwyddyn hono, cyflwynwyd iddo "anerchiad addurniadol" gan eglwys a chynulleidfa y Dyffryn, ac "oriawr aur, ar ran cyfarfod ysgolion y dosbarth, yn gydnabyddiaeth o'i lafur diflino fel ysgrifenydd am oddeutu deuddeng mlynedd." Mae yr ysgrifenydd presenol, Mr. Rees Evans, Gwyndy House, Llanbedr, yn y swydd er 1887.

Yn Nghymdeithasfa Flynyddol Sir Feirionydd yn Nolgellau, Medi, 1820, y Parch. Richard Humphreys a osodwyd yn ofalwr am gyfarfod ysgolion dosbarth y Dyffryn. Yr ydoedd hyn ymhen oddeutu dwy flynedd ar ol sefydlu cyfarfod ysgolion y cylch. Ond y mae digon o sicrwydd mai y Parch. Daniel Evans oedd y gofalwr cyntaf, a'r prif ofalwr, am ysgolion y dosbarth hwn dros yn agos i haner canrif. Ei enw ef a'r Parch. R. Humphreys sydd i'w gweled amlaf yn llyfr y cofnodion y cyfnod sydd yn blaenori 1840. Yn y Drysorfa am fis Hydref, 1855, ceir yr hanes canlynol am Anrhegiad Gweinidog,—"Mewn cyfarfod daufisol Ysgolion Sabbothol dosbarth Abermaw, Dyffryn, Gwynfryn, Harlech, a Thalsarnau, a gynhaliwyd yn y Gwynfryn, Medi 2il y flwyddyn hon, cyflwynwyd i'r Parch. Daniel Evans, Penrhyn, gan Mr. E. Richards, Abermaw, a Mr. E. Pugh, Argoed, holl waith y Parch. John Howe, ac Esboniad y Parch. Matthew Henry ar y Beibl, ynghyd a 5p. 6s. o arian, fel arwydd o gydnabyddiaeth ddiolchgar y gwahanol ysgolion i Mr. Evans am ei lafur a'i ffyddlondeb yn y dosbarth uchod gydag achos yr Ysgol Sabbothol. Derbyniwyd yr anrheg gan ein hen gyfaill parchedig gyda theimladau diolchgar; a chymerodd fantais ar y pryd i adrodd ychydig o hanes llwyddiant yr Ysgolion Sabbothol yn y dosbarth hwn o'r wlad, am fwy na deugain mlynedd, yn y rhai y bu efe, i fesur mwy neu lai, mewn cysylltiad â hwy." Yr oedd ef wedi dechreu pregethu cyn ffurfiad ysgolion y cylch yn ddosbarth, ac yr oedd wedi bod yn wasanaethgar yn y rhan yma o'r wlad yn flaenorol i hyny, pan oedd yn cadw yr Ysgol Ddyddiol Râd o dan arolygiaeth Mr. Charles. Parhaodd hefyd i fod yn ofalwr am ysgolion y dosbarth am rai blynyddau ar ol symud i fyw o Harlech i'r Penrhyn. Dywed yr adroddiad am y cyfarfod crybwylledig yn mhellach, "Gallwn dystio fod y gydnabyddiaeth uchod o lafur a ffyddlondeb ein hybarch frawd a thad, wedi bod yn foddion i ail enyn y teimlad cysurus ag ydoedd bob amser yn aros rhwng swyddogion ac aelodau yr ysgolion ag ef, a bod, trwy hyny, y naill yn ddiarwybod yn cael eu dwyn i ymgysuro yn y llall; fel y sylwai ef ei hun, nad ydoedd erioed wedi dychmygu gweled y fath beth, eto yr oedd yn canfod ffrwyth addfed yn dyfod oddiar y pren y bu efe—os nad yn ei blanu-yn ei ddyfrhau pan yn impyn tyner, yn ffrwyth hyfryd mewn gwirionedd iddo."

Un arall a fu yn dra gwasanaethgar fel holwyddorwr a gofalwr am ysgolion y cylch ydoedd y Parch. Thomas Williams, Dyffryn. Bu ef yn cadw ysgol ddyddiol, ac yr oedd ynddo lawer o gymhwysderau at waith yr Ysgol Sabbothol. Hysbys ydyw mai yn y cyfnod o 1841 i 1871 yr oedd y Parch. Edward Morgan yn byw yn y Dyffryn. Cyrhaeddai ei ddylanwad ef ymhell, a chreai fywyd ymhob peth y gosodai ei law wrtho. Ond gan fod ei boblogrwydd fel pregethwr mor fawr, a chymaint o alwadau arno i lenwi teithiau y wlad ar y Sabbothau, nis gallai roddi cymaint o'i amser ag eraill o'i frodyr gyda'r Cyfarfodydd Ysgolion. Eto, tystiolaeth y rhai sydd yn cofio y blynyddoedd hyny ydyw, nad oedd neb tebyg iddo ef am gael y bobl i ateb pan y byddai yn holwyddori yn y cyfarfodydd hyn. Yn y flwyddyn 1855 yr ymsefydlodd y Parch. Griffith Williams yn Nhalsarnau. Ac am o leiaf ddeng mlynedd, bu gofal y Cyfarfodydd Ysgolion bron yn hollol arno ef. Yn ystod y pum' mlynedd ar hugain diweddaf, wedi i gysylltiad gweinidogaethol rhwng y gweinidogion â'r eglwysi ddyfod yn fwy cyffredinol, y mae nifer y rhai a breswylient yn y dosbarth yn fwy, ac y mae wedi bod yn arferiad i'w hethol oll yn eu cylch, bob rhyw un, neu ddwy, neu dair blynedd, i fod yn ofalwyr am y Cyfarfodydd Ysgolion.

Yn yr amser aeth heibio, y gweinidog a ofalai am ysgolion y cylch oedd llywydd y Cyfarfod Ysgolion wrth ei swydd. Y mae un eithriad hefyd, o leiaf, i hyn. Bu Mr. Owen Owen, gynt o'r Glynn, yn llywydd am saith mlynedd, yn amser y Parch. Daniel Evans. Ddeng mlynedd yn ol, penderfynwyd i ethol llywydd yn rheolaidd ar wahan i'r gofalwr a'r holwyddorwr. Mae y personau canlynol wedi bod yn llywyddion yn ol y drefn hon,—Mr. Ellis Edwards, Hafodycoed, o 1880 i 1884; Mr. R. J. Williams, Llythyrdy, Dyffryn, o 1884 i 1890. Y llywydd etholedig eleni (1890), ydyw Mr. E. R. Jones, Llythyrdy, Abermaw. Y Gymanfa Ysgolion gyntaf a gynhaliwyd yn y Dosbarth, yn ol cynllun y blynyddoedd diweddaf o'u cynal, ydoedd yn y Dyffryn, yn y flwyddyn 1870. Y Parchn. D. Charles Davies, M.A., a Joseph Jones, Menai Bridge, oeddynt yr holwyddorwyr ynddi. Yr oedd y Parch. E. Morgan hefyd yn bresenol yn hon. Dywedir mai hi oedd y Gymanfa oreu a fu erioed yn y cylch, ac un rheswm a roddir dros hyny ydyw fod Mr. Morgan, yn ol ei arfer, yn gweithio yn egnïol o'i phlaid, ac yn dra awyddus am iddi droi allan yn llwyddiant. Cynhelid hi yn flynyddol wedi hyny, ond nid heb fylchau, a theimlai ei chefnogwyr na bu mor llwyddianus ag y dylasai fod. Y mae yn awr, pa fodd bynag, raddau helaeth o adfywiad arni. Ymunodd y cylch hwn â phob rhan arall o Sir Feirionydd a Chymru oll, mewn cadw Gwyl Canmlwyddiant yr Ysgol Sabbothol, yn mis Mehefin, 1885. Cadwyd yr Wyl yn Abermaw; cafwyd trên rhad ar linell y Cambrian i gludo deiliaid yr Ysgol Sul o Dalsarnau a'r cymydogaethau, fel yr oedd tyrfa fawr wedi ymgynull ynghyd ar yr amgylchiad. Cynhaliwyd dau gyfarfod cyhoeddus, un am ddau o'r gloch, yr hwn a lywyddid gan Mr. Williams, Ysgol y Bwrdd, Dyffryn; a'r llall am bump o'r gloch, ac a lywyddid gan y Parch. E. J. Evans, y pryd hwnw o Lanbedr. Yr oedd materion wedi en tynu allan yn flaenorol i draethu arnynt, a chymerwyd rhan yn ngweithrediadau y dydd gan y gweinidogion oeddynt y flwyddyn hono yn preswylio yn y Dosbarth, sef y Parchn. D. Davies (yn hynod o hwyliog); R. Evans, Harlech; E. J. Evans, Llanbedr; W. Thomas, Dyffryn; R. H. Morgan, M.A., Abermaw; Elias Jones, Talsarnau; a W. Lloyd Griffith, Llanbedr. Rhoddodd Mr. Rees Roberts, Harlech, hanes dyddorol am ysgolion y cylch o'r dechreuad hyd y flwyddyn hono. Canwyd anthemau pwrpasol i'r amgylchiad gan gorau o'r gwahanol ysgolion. Yr oedd yn Wyl ardderchog, a'r olygfa yn un i'w chofio. Ni bu y fath arddangosiad o nerth yr Ysgol Sabbothol o fewn y Dosbarth na chynt nac wed'yn. Cyfrifid fod nifer y bobl a'r plant yn yr orymdaith yn Abermaw y diwrnod hwnw o leiaf yn 1000.





~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~

RHAN III.

Y CYFARFOD MISOL.

~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~




RHAN III.

Y CYFARFOD MISOL. PENOD I.

BYR HANES AM Y CYFARFOD MISOL O YMUNIAD MR. CHARLES A'R CYFUNDEB YN Y FLWYDDYN 1785, HYD RANIAD Y SIR YN 1840.

CYNWYSIAD.—Amser ei ddechreuad—Hanes Lewis Morris yn dechreu pregethu—Sul y Cymundeb yn v Bala yn gwneyd y tro yn lle Cyfarfod Misol—Gosod blaenoriaid ar yr eglwysi—Mr. Charles a John Evans, y Bala, y ddau arweinydd cyntaf—John Roberts, Llangwm—Richard Jones, y Wern—John Peters, Trawsfynydd—Richard Jones, y Bala—Y dull o deithio i'r Cyfarfodydd Misol—Y gwaith a wnelid—Trefnlen y Cyfarfodydd Misol—Rhaniad y Sir.

 YMUNOL fuasai cael hanes Cyfarfod Misol Sir Feirionydd, ynghyd â'r gwyr enwog, yn bregethwyr a blaenoriaid, fu yn cymeryd rhan yn ei weithrediadau o'r dechreuad; ond a chaniatau fod y defnyddiau i'w cael, nis gellir o fewn terfynau y benod hon roddi ond ychydig o le i'r cyfryw hanes. Rhaid boddloni ar grybwyllion byr yn unig, o leiaf, hyd nes y deuwn at weithrediadau y Rhan Orllewinol. Nid mor hawdd ydyw nodi yr amser y dechreuwyd cynal Cyfarfodydd Misol y sir. Gellir bod yn lled sicr o hyn, modd bynag, nad oeddynt ond cynulliadau bychain iawn yma, fel yn siroedd eraill y Gogledd, hyd nes yr oedd wedi rhedeg yn agos i ddiwedd y ganrif ddiweddaf. Pa bryd bynag y cawsant eu sefydlu yn Meirionydd, yr adeg y dygwyd hwy i drefn ydoedd oddeutu yr amser yr ymunodd Mr. Charles A'r Methodistiaid, ac yr ymsefydlodd yn y Bala, sef yn y flwyddyn 1785. John Evans, y Bala, oedd y mwyaf deallus a synhwyrol, a'r mwyaf ei ddylanwad hefyd o'r tô cyntaf o bregethwyr y sir. Ond ni ystyrid mohono yn bregethwr poblogaidd; ni feddai ddawn gynhyrfus, na llais melodaidd i effeithio ar y tymherau, fel llawer o bregethwyr ei oes ef. Oblegid hyny, tybiai rhai o'i gymydogion unplyg a difeddwl-ddrwg, nad oedd wedi ei alw gan yr Arglwydd i'r gwaith, ac anfonasant genadwri ato i'w hysbysu mai doeth fyddai iddo roddi heibio bregethu. I hyn atebodd yntau, yn ei ddull ei hun, "Ho! mi glywaf; hwn a hwn," ebai, gan gyfarch y genad, "ewch chwithau yn ol atynt hwythau, a dywedwch wrthynt y pregethaf fi nes y gwelaf yma ryw un a fedro bregethu yn well na fi yn dechreu." "Yr oedd byn, debygid," ebai Methodistiaeth Cymru, "cyn bod Cyfarfod Misol yn y sir, a chyn dyfodiad Mr. Charles i fyw i'r Bala." Awgrymir yn y dyfyniad hwn fod dyfodiad Mr. Charles i'r Bala a sefydliad Cyfarfodydd Misol yn y Sir bron yn gyfamserol a'u gilydd. Nid oedd ond ychydig o angen am danynt yn flaenorol i'r adeg yma. Rhyw chwech neu saith oedd nifer yr eglwysi yn y rhan Orllewinol y flwyddyn yr ymunodd Mr. Charles â'r Methodistiaid; ac nid oedd o fewn yr un cylch ond un pregethwr, neu gynghorwr, sef Edward Roberts, Trawsfynydd. Ar ol hyn hefyd y dechreuwyd gosod blaenoriaid yn rheolaidd ar yr eglwysi. Felly, nid oedd ond ychydig o waith i'w wneuthur yn y Cyfarfodydd Misol. Ar yr un pryd, mae yn bosibl y cynhelid hwy ar raddfa fechan rai blynyddau yn flaenorol i'r adeg y cyfeirir ati.

Yn y flwyddyn 1791 y dechreuodd Lewis Morris bregethu. Cyfarfyddwn yn ei hanes ef â chyfeiriadau at y Cyfarfod Misol fel sefydliad oedd yn meddu tipyn o awdurdod cyn y flwyddyn hon. "Yr oeddwn," meddai, gan gyfeirio at y flwyddyn cyn iddo ddechreu pregethu, "er's peth amser wedi cael caniatad i fyned i'r Cyfarfod Misol, fel un oedd yn gofalu am achos yr Arglwydd yn fy ardal; ac yn lled fuan wedi i mi ddechreu cynghori, dywedodd un brawd yn y Cyfarfod Misol fy mod yn myned at y gwaith o bregethu. 'Na,' meddwn inau, 'nid pregethu y byddaf, ac nid wyf yn meddwl am fyned yn bregethwr; ac ni byddaf byth yn darllen testyn o'r Beibl yn flaenorol i'm cynghorion.' Gofynwyd i mi pa fodd y byddwn yn arfer gwneyd; ac atebais, y byddwn yn dweyd wrth y bobl eu bod wrth naturiaeth yn blant digofaint, ac nad oedd un llwybr i'w cadw ond trwy gredu yn y Crist a groeshoeliwyd ar Galfaria, a bod iawn gredu yn Nghrist yn dyfod â dynion i adael eu pechodau, ac i fyw yn dduwiol. 'Wel,' meddai y brodyr, 'pregethu yw hyna.' Am fy mod yn ieuanc mewn crefydd, ac wedi bod mor anwar a chyhoeddus yn myddin y diafol, yr oedd arnynt lawer o ofn rhoddi caniatad i mi i bregethu." Dechreuodd bregethu pan yn 31 oed, ymhen dwy flynedd wedi iddo ymuno â chrefydd. Ymddengys iddo gyfarfod â rhwystrau i ddechreu ar y gwaith oddiwrth y brodyr crefyddol, am y rheswm a nodir ganddo yn y dyfyniad uchod. Aeth i Ddolgellau i bregethu ar ryw nos Sabbath, ar gais hen frawd oedd yn blaenori yno, a chymerodd destyn y tro hwn, sef Act. ii 47. "Bu brodyr Dolgellau," ebai, "yn gefnogaethol i mi yn y Cyfarfod Misol ar ol yr odfa hon. Yr hynafgwr parchus, John Evans, o'r Bala, hefyd, a ddywedodd mewn Cyfarfod Misol, Y mae genyf fi fansi yn y dyn ieuanc [sef Lewis Morris], yr wyf yn meddwl fod yn ei galon wneyd drwg i deyrnas y tywyllwch; ac yr wyf yn credu y gwna efe hyny hefyd.' Cefais lawer o diriondeb a meithriniad hefyd gan yr enwog Mr. Charles, o'r un lle, a'i gyfeillach ostyngedig a sanctaidd a fu yn llawer o les i mi." Oddiwrth y cyfeiriadau uchod, yr ydym yn gweled fod y Cyfarfod Misol yn bod, ac yr ydym hefyd yn cael rhyw gip-olwg ar ei weithrediadau yn y flwyddyn 1790.

Y Bala oedd cartrefle Methodistiaid Sir Feirionydd dros dymor maith yn y dechreuad. "Yn y Bala," dywed y Parch. Jno. Hughes, "yr oedd yr holl bregethwyr a feddai y sir Yn byw, oddieithr un neu ddau, pan ychwanegwyd Mr. Charles at eu rhif." Fe fu Sul y Cymundeb unwaith yn y mis yno yn meddu at-dyniad mawr, lle y cyrchai tyrfaoedd o bob parth o'r sir, yn gystal ag o siroedd eraill, megis y cyrchai yr holl dywysogaeth cyn hyny i Langeitho. "Yno hefyd y deuai llawer un o lawer cyfeiriad i ymofyn am gyhoeddiadau y cynghorwyr, y rhai, hyd y gallent, a arosent adref ar Sul pen mis. Yn y modd yma yr oedd Sabbath y Cymundeb yn ateb dros ryw dymor yn lle Cyfarfod Misol i'r sir, neu yn lle Cymdeithasfa i Wynedd." Mewn cyfeiriad at yr amser hwn, dywed hen bregethwr yn mhellach, "Cedwid Cyfarfod Misol Sir Feirionydd yn y pen gorllewinol i'r sir yn unig. Yr oedd Mr. Charles yn cyfranu bod mis yn y Bala, ac ar y Sabbath hwnw byddai cyrchu yno o bob rhan o'r wlad, a'r cyfarfod hwn, sef cynulliad pen mis yn y Bala, oedd yn ateb diben Cyfarfod Misol i'r pen dwyreiniol o'r sir." Parhaodd yr arferiad yma, mae'n debyg, i raddau mwy neu lai, hyd amser ordeiniad cyntaf y gweinidogion, yn y flwyddyn 1811. Hysbysir i Gyfarfod Misol gael ei gynal mewn tafarndy unwaith yn Ffestiniog. Nid yw hyn o gwbl yn rhyfedd erbyn ystyried amgylchiadau yr amseroedd, sef prinder y cyfleusderau i gynal y cyfarfodydd, bychander nifer y capelau, a lleied oedd y gwaith oedd i'w wneyd ynddynt. Dywed Robert Jones, Rhoslan, y byddai amryw o Gyfarfodydd Misol Sir Gaernarfon, yn y cyfnod boreuol, yn cael eu cynal mewn tafarndai, oblegid yr un rhesymau. Deuai y pregethwyr ynghyd, ebai yr un gŵr, i drefnu eu cyhoeddiadau am y mis, ac ar ddiwedd y gwaith hwn pregethai un o honynt i ychydig nifer o wrandawyr.

Nid oedd yn Sir Feirionydd, yr amser y cyfeiriwn ato, neb wedi eu gosod yn flaenoriaid, neu yn ddiaconiaid, ar yr eglwysi, mewn trefn reolaidd. Y dynion a alwent am bregethu i'w tai a aent i geisio pregethwyr i unrhyw fan y gallent eu cael, a hwy fyddai yn cynal cyfarfodydd eglwysig yn eu tai. Gwelir oddiwrth y dyfyniad canlynol, o waith y Parch. J. Hughes, Liverpool, y modd a'r pryd y dechreuwyd cael pethau i drefn gyda hyn: "Ymhen rhyw gymaint o amser, dywedodd Mr. Charles mewn Cyfarfod Misol, fod y Testament Newydd yn datgan fod gan yr eglwysi lais i fod yn newisiad eu swyddogion, a bod cymwysderau y cyfryw swyddogion wedi eu gosod i lawr; mai nid swyddogion priodol oedd neb ond a ddewisid; nid y rhai a ddamweiniai fod, neu y rhai a ymwthiai iddi, oedd i fod yn henuriaid, ond y sawl a ddewisid, ac a elwid iddi, ac a osodid ynddi oddiar olwg ar eu bod yn blaenori yn y cymwysderau gofynol. Hyd yn hyn, yr oedd rhai dynion wedi eu harwain at y gwaith oherwydd angenrheidrwydd, ac wedi ymaflyd yn y gorchwyl am nad oedd neb arall a wnai, neu am nad oedd neb arall i wneyd. Yr oedd llawer o'r gwyr hyn yn ddynion rhagorol eu hysbryd, ac egniol eu diwydrwydd, mawr eu sel, a mawr eu ffyddlondeb; ond oherwydd eu galw trwy ras Duw o wasanaeth y diafol, pan. mewn oedran, ac heb erioed gael nemawr fanteision, yr oedd eu dawn a'u gwybodaeth yn fychan, ie, yr oedd rhai o honynt heb fedru darllen, ac felly dan anfantais fawr i allu cynyddu mewn gwybodaeth, i gyfateb i gynydd rhai eraill. Yr oeddynt, er hyny, yn effro a ffyddlawn iawn i wneuthur a allent, trwy fyned i'r cyrddau misol i ymofyn am bregethwyr i ddyfod i'w hardaloedd, ac ymhob modd yn ddyfal a gofalus yn ceisio hyrwyddo achos Duw ymlaen. Yn y Cyfarfod Misol y cyfeiriwn ato, penderfynwyd, yn ol cynygiad Mr. Charles, fod wlad i gael ei rhanu yn ddosbarthiadau; a bod i bregethwr gael ei anfon i bob un, i gynorthwyo yr eglwysi yn newisiad y swyddogion hyn. Angenrhaid oedd gwneuthur hyn, gan leied o sylw a wnaethai y cynulliadau eglwysig bychain ac ieuainc eto, ar gymwysderau henuriaid, neu ddiaconiaid. Yr oedd gwir angenrheidrwydd, gan hyny, am eu dysgu, a'u cyfarwyddo, mewn ysgogiad ag oedd mor hanfodol i lwyddiant a chysur y cymdeithasau. Cyfarwyddwyd y cenhadon hyn i ddysgu yr eglwysi i beidio dewis neb, heb o leiaf fedru darllen. Ac am y rhai ag oeddynt yn gweithredu yn ffyddlawn fel diaconiaid, er yn ddiffygiol mewn rhyw gymwysderau, bernid mai dewis cynorthwywyr iddynt a fyddai oreu, ac nid rhai yn eu lle, modd y cyflenwid, trwy y swyddogion newyddion, ddiffygion yr hen swyddogion. Wedi i'r dewisiad yn yr eglwysi fyned heibio, daeth y rhai a ddewisasid i'r Cyfarfod Misol er mwyn adchwilio eu cymwysderau, a'u cynghori a'u cyfarwyddo yn eu gwaith."—Methodistiaeth Cymru I., 574. Cymerodd yr hyn y cyfeirir ato le rywbryd ar ol y flwyddyn 1790, ac mae y drefn a fabwysiadwyd y pryd hwnw gyda dewis blaenoriaid, i fesur, yn cael ei dilyn hyd heddyw. Y ddau brif arweinydd gyda holl symudiadau crefyddol y sir, hyd ddydd eu marwolaeth oeddynt, Mr. Charles a John Evans, o'r Bala. Y flwyddyn yr ymunodd y cyntaf a'r Methodistiaid, sef yn 1785, y dywedodd yr hen barchedig Daniel Rowlands, Llangeitho, am dano-yntau ei hun o fewn pum' mlynedd i derfyn ei oes pan y gwnaeth y sylw—" Rhodd yr Arglwydd i'r Gogledd ydyw Mr. Charles." Cafodd Sir Feirionydd, yr hon sydd wedi bod yn enwog am ei harweinwyr mewn crefydd, y rhodd hon yn gyntaf ac yn benaf. Dyddiad ei farwolaeth ydyw Hydref 5ed, 1814. Bu yr Hybarch John Evans farw, mewn henaint teg, ymhen oddeutu tair blynedd ar ol Mr. Charles. Dywedir am dano ef iddo gyd-gerdded â thair oes o grefyddwyr, a'i fod "o flaen ei oes mewn craffder, gwybodaeth, "Bu y gŵr hwn yn sefyll yn dyst ffyddlawn o blaid y gwirionedd mewn athrawiaeth a disgyblaeth, ynghylch triugain mlynedd. Nid yn fynych y gwelir y cyffelyb." Mewn hen Ddyddiadur i Mr. Gabriel Davies, y Bala, ceir y sylwadau canlynol o eiddo John Evans, y rhai na fuont yn argraffedig a chyngor." o'r blaen,—"Hydref 1af, 1816, galwodd [yn nhŷ Mr. G. Davies] yr hen John Evans, oedran 95. Gofynodd a oeddwn yn myned i'r Association i Gaernarfon, a chyda mwy bywiogrwydd nag arferol, archodd i mi ddywedyd, na bo i lefarwyr fyned allan ar draws y wlad heb eu galw, a phan y delont, ddyfod bob yn un, ac nid bob yn ddau. Dywedodd fel hyn, Mae arnaf ofn fod pobl yn meddwl mai pregethu a gwrando yw gwir grefydd. Mae'r corff yn lliosog iawn, ac eisiau trefn a disgyblaeth.' Gofynais, pa fodd yr oedd adnabod y rhai yr oedd yr Arglwydd yn eu galw? Ateb, Tystiolaeth eu cymydogaeth gartrefol am eu buchedd."

Gŵr a ddaeth yn arweinydd crefydd yn y sir cyn symudiad Mr. Charles a John Evans, oedd y Parch. John Roberts, Llangwm. Adnabyddid ef yn nechreu ei oes fel John Roberts, Llanllyfni. Dechreuodd bregethu yr un adeg a Mr. Evan Richardson, Caernarfon, ac ystyrid ef yn un o ser disgleiriaf ei wlad yn ei ddydd. Efe ydoedd ysgrifenydd Cyfarfod Misol Sir Gaernarfon. Mae y cyfrifon a gadwodd o gasgliad capeli y sir hono, am ddeuddeng mlynedd, ac a gyhoeddwyd mewn cysylltiad a byr hanes o'i fywyd, yn Nghofiant ei fab, y Parch. Michael Roberts, Pwllheli, yn profi ei fod yn ŵr medrus a deheuig mewn dwyn ymlaen faterion amgylchiadol yr achos. Symudodd, trwy briodi, o Sir Gaernarfon i Langwm, yn Sir Feirionydd, yn y flwyddyn 1809. Ac am y pum' mlynedd ar hugain dilynol, efe oedd Ysgrifenydd Cyfarfod Misol Sir Feirionydd, hyd ei farwolaeth, Tachwedd 3, 1834. Dygir tystiolaeth i hyny gan y rhai sydd yn fyw yn awr, a phrofir yr un peth oddiwrth y ffaith fod ei enw i'w weled, yr holl gyfnod yma, ar y tocynau a roddid i'r blaenoriaid pan y derbynid hwy i swydd. Ond mae ei holl gofnodau, fel y mae gwaetha'r modd, wedi myned ar goll.

Y Parch, Richard Jones, y Wern, oedd wr o ddylanwad uwch na'r cyffredin yn y sir. Daeth yntau yma o Sir Gaernarfon, ar derfyn Diwygiad Beddgelert, ac ymhen rhyw bedair blynedd ar ddeg, sef yn mis Chwefror, 1833, cymerwyd ef oddiwrth ei waith at ei wobr. Yn ystod y tymor yna, efe oedd arweinydd ei frodyr, a'r trymaf o honynt ar bob pwnc o ddadl, ac mewn amgylchiadau o ddyryswch. Yr oedd yn alluog iawn fel ysgrifenwr a dadleuwr; cymerai yr ochr oleu ar bobpeth tra y byddai eraill yn ofnus a chwynfanus; safai yn gryf dros ddisgyblaeth eglwysig; cariai y cwbl o'i flaen pan fyddai wedi ei gynhyrfu a'i wresogi. Cymharai Mr. Charles ef i wagen fawr yn dyfod i mewn i'r dref yn llwythog o nwyddau i'r preswylwyr. Am dano fel pregethwr, dywed y Parch. Dr. O. Thomas: "Er holl afrwyddineb a hwyrdrymedd ei ddawn, tynai ddesgrifiadau mor fywiog a naturiol o'r amgylchiadau neu y digwyddiadau Ysgrythyrol a fyddent ganddo o dan sylw, nes eu gwneuthur yn hollol bresenol gerbron ei wrandawyr, a gwefreiddio eu meddyliau yn gwbl ganddynt; fel y gwelsom ef laweroedd o weithiau, yn cael buddugoliaeth mor deg, mor lwyr, ac mor gyffredinol, ar deimladau ei gynulleidfa ag un pregethwr a glywsom erioed."

Un o'r pregethwyr mwyaf cymeradwy yn yr un cyfnod ydoedd y Parch. John Peters, Trawsfynydd. Daeth ef i breswylio i'r rhan Orllewinol o'r sir, fel y ceir ei hanes ynglŷn âg eglwys Trawsfynydd, oddeutu deuddeng mlynedd cyn diwedd ei oes, a bu farw Ebrill 26, 1835. Yr oedd yn gymeradwy iawn ymysg lliaws ei frodyr, a'i weinidogaeth bob amser mor felus a diddanus, nes peri galar a cholled cyffredinol ar ei ol. Prawf o hyn oedd y sylw a wnaeth y Parch. Ebenezer Richards ar Green y Bala, ymhen ychydig ar ol ei farwolaeth. Yn ei bregeth coffai Mr. Richards am amryw bregethwyr oeddynt yn ddiweddar wedi eu cymeryd i'r orphwysfa o Sir Feirionydd, ac yn eu mysg dywedai ar dop ei lais, "a John Peters anwyl o Drawsfynydd."

Y Parch. Richard Jones, y Bala, oedd weinidog o gyraeddiadau amlwg a defnyddioldeb mawr yn ei ddydd. Yr oedd ef ar y cyntaf yn un o'r ysgolfeistriaid blaenaf a gyflogid gan Mr. Charles. Bu yn cadw ysgol yn Nhrawsfynydd, ac yn preswylio yno am bymtheng mlynedd. Yn 1829, symudodd ar gais y brcdyr, i fyw i'r Bala, ac yn y flwyddyn 1840 bu farw, pan nad oedd yn llawn 56 mlwydd oed. Cyfrifid ef yn un o'r colofnau gyda holl symudiadau yr achos yn y sir. "Nid yn fynych y gwelwyd neb llai ei frychau, ac amlach ei rinweddau." Meddai farn glir a doethineb y doeth; ceid ef hefyd yn ŵr o ymddiried ac o ymroddiad mwy na'r cyffredin. Cyn belled ag y gellir casglu oddiwrth amgylchiadau cydgyfarfyddol, efe a ddaeth yn ysgrifenydd y Cyfarfod Misol am y chwe' blynedd dilynol i farwolaeth John Roberts, Llangwm. Nid oes dim cofnodion i'w cael i brofi y ffaith, a methasom a chael tystiolaeth ar air i'w sicrhau, ond mae ei enw i'w weled yn fynych, lle y disgwylid cael enw ysgrifenydd y Cyfarfod Misol.

Y gwyr a nodwyd oeddynt brif arweinwyr y Cyfarfod Misol tra yr oedd yr holl sir yn un. Bu amryw bregethwyr heblaw hwy yn dra gwasanaethgar gyda gwaith yr Arglwydd yn ei holl ranau; rhai yn llai amlwg ac adnabyddus, eraill yn amlwg iawn yn y pulpud, ond heb fod mor flaenllaw gyda'r gwaith yn allanol. Yr oedd nifer o bregethwyr hefyd a breswylient yn y rhan Orllewinol, ac a fuont byw yn hir ar ol rhaniad y Cyfarfod Misol, wedi bod yn flaenllaw gyda'r gwaith cyn y rhaniad, am y rhai y gwneir coffhad yn mhellach ymlaen. Mae yr amgylchiadau dan ba rai y cynhelir y Cyfarfodydd Misol yn awr yn dra gwahanol i'r peth oeddynt driugain mlynedd yn ol. Pan oedd y ddau ben i'r sir yn un, cyrhaeddai y cylch o Aberdyfi i Gapel Curig ar y naill law, ac o Benrhyndeudraeth i Lanarmon Dyffryn Ceiriog ar y llaw arall. Clywsom yr hy barch flaenor, Mr. Owen Williams, Aberdyfi, yn dweyd iddo ef fyned yr holl ffordd oddicartref i Gyfarfod Misol Dolyddelen, yn y flwyddyn 1827, i ofyn am ganiatad i adeiladu y capel cyntaf erioed a adeiladwyd yn Aberdyfi. Bu raid iddo letya noson ar y ffordd yn ol a blaen; yn Nolgellau wrth fyn'd, ac yn Nhrawsfynydd wrth ddychwelyd. Yr oedd y gras o letygarwch yn uchel iawn yn y wlad y pryd hwnw, gan y byddai raid i lawer o bregethwyr a blaenoriaid gael llety noswaith ar eu ffordd i ac o'r Cyfarfod Misol, heblaw y teithio mawr a fyddai i bregethu yn Sabbothol ac wythnosol. Pe buasai yr hen bobl yn fyw i adrodd helyntion y myned a'r dyfod i'r cyfarfodydd crefyddol gynt, dyddorol dros ben i'r oes hon fuasai gwrando yr hanes. Ond y maent hwy oll wedi myned, felly rhaid boddloni ar a feddwn. Angenrhaid oedd i bob pregethwr, ac un blaenor o bob taith, o leiaf, os nad o bob eglwys, roddi eu presenoldeb yn y Cyfartod Misol, oblegid yr cedd galw enwau yn bod y pryd hwnw. Yn y Cyfarfod Misol y rhoddid yr holl gyhoeddiadau am y mis dilynol, ac os na ofelid am fod yn bresenol, faint bynag fyddai pellder y ffordd, boed hi wlaw neu hindda, prysurdeb cynhauaf neu amser holidays, byddai y teithiau yn weigion, a'r pregethwyr heb ddim gwaith y mis hwnw. A phan y digwyddai afiechyd neu amgylchiadau anorfod, arferai y pregethwyr anfon gair trwy lythyr at y Cymedrolwr, i hysbysu y frawdoliaeth trwyddo ef, pa Sabbothau a addawsid, a pha rai fyddent yn weigion yn eu dyddiaduron. Yn y dyddiau gynt yn arbenig, ystyrid cysondeb i ddilyn y Cyfarfodydd Misol o du y llefarwyr, ac o du y diaconiaid, yn arwydd o ddiogelwch eu credo, ac yn brawf o faint eu hawydd i wneuthur daioni. Yr henadur parchus a'r cofiadur rhagorol, Mr. Bleddyn Llwyd, Gyrddinan, Dolyddelen, a ddywed ei fod ef yn bresenol mewn Cyfarfod Misol yn Nhrawsfynydd cyn rhaniad y sir, pryd yr oedd siarad ar y mater hwn. Rywbryd yn ystod y cyfarfod, rhoddai John Griffith, Capel Curig, blaenor adnabyddus a dylanwadol yr amser hwnw, gynghorion i bawb, yn bregethwyr a blaenoriaid, i fod yn ffyddlon i ddilyn y Cyfarfodydd Misol, a'r pwysigrwydd o hyny. Ar ei ol, cyfododd yr hynod bregethwr, Owen William, Towyn, ar ei draed, a dywedodd, "Ni waeth i rai o honom heb ddyfod iddynt, nid oes neb yn gofyn pa beth ydym dda wedi i ni ddyfod." Ac aeth yn dipyn o ymdderu rhwng y ddau. O'r diwedd, cyfododd Lewis Jones, y Bala, i fyny i gyfryngu rhyngddynt mewn ysbryd addfwyn a hawddgar, a dywedai am yr angenrheidrwydd i ddilyn y cyfarfodydd, nid yn unig er rhoddi help i gario y gwaith ymlaen, ond hefyd i dderbyn lles a bendith, ac i loewi bob un ei grefydd ei hun, drwy gyffyrddiad â phethau mawr y deyrnas yn nghynulliad y brodyr ynghyd. Ond er ymgasglu ynghyd o eithafion pella'r sir i'r eithafion arall, ychydig iawn fyddai swm y gwaith allanol a wnelid gan y tadau. Ni osodid hwy o dan yr angenrheidrwydd i fyned trwy ond ychydig mewn cymhariaeth o waith amgylchiadol; y cyhoeddiadau, y casgliadau, a hanes yr achos,-dyna swm y gwaith. Yn Nyddiadur Mr. Gabriel Davies, y Bala, am y flwyddyn 1816, yr hwn y cyfeiriwyd ato amryw weithiau o'r blaen, ceir y rhaglen ganlynol a ddodid i'r llywydd ar ddechreu y cyfarfod, ac os nad ydym yn camgymeryd, yr un un fyddai y rhaglen trwy y flwyddyn round. Y rhai a ddywedant fod gormod o gasgliadau yn y cynulliadau misol yn y blynyddoedd hyn, a sylwant, ond odid, fod y mater hwn yn ail ar drefnlen y tadau, bedwar ugain mlynedd yn ol:—

GORCHWYL Y CYMEDROLWR YN Y CYFARFOD MISOL...

1. Darllen y cyhoeddiadau.

2. Casgliadau.

3. Sefydlu y Cyfarfod Misol nesaf.

4. Enwau'r Teithiau Sabbothol-a oes gobaith am eu llenwi y mis canlynol.

5. Galw enwau'r llefarwyr, i wybod pa le y byddont dros y mis.

6. Hanes yr Ysgolion Rhad, a'r rhai Sabbothol.

Yn y flwyddyn 1840 y rhanwyd y sir yn ddau Gyfarfod Misol. Nid oes dim cofnodion i'w cael yn mhellach yn ol na'r flwyddyn hon, yn y pen Dwyreiniol na'r pen Gorllewinol. Dichon eu bod yn llechu yn rhywle, mewn hen gistiau, yn yr hen deuluoedd. Ond methwyd a dyfod o hyd i ddim o honynt, er gwneuthur llawer o ymchwiliad, tros rai blynyddoedd, trwy yr oll o'r sir, ac er gwneuthur ymofynion yn gyhoeddus trwy y newyddiaduron. Y mae hyn yn rhyfedd hefyd, a cholled fawr ydyw fod y cwbl wedi ei golli. Gan fod y cofnodion yn ngholl, nid oes genym ddim o hanes y drafodaeth a arweiniodd i ranu y sir, na gwybodaeth am y rhesymau a ddygid o blaid ac yn erbyn y rhaniad. Ac er nad oes ond haner can mlynedd er pan gymerodd hyn le, anhawdd ydyw dibynu am sicrwydd ar gôf y rhai sydd yn awr yn fyw. Yr oedd y diweddar Mr. W. Mona Williams, Tanygrisiau, wedi ei dderbyn yn swyddog yn y sir flwyddyn cyn y rhaniad. Rhyw dri mis cyn ei farw, ysgrifenodd ef y nodiadau canlynol, "Am y Cyfarfod Misol yn Sir Feirionydd cyn y rhaniad, nid oes genyf fawr iawn o'r hanes. Yr wyf yn cofio dadl frwd yn Nghyfarfod Misol y Bala. Yr oedd Lewis Jones, y Bala, yn dadleu yn gryf dros y rhaniad, a Mr. Humphreys, y Dyffryn, yn llawn mor gryf dros beidio. Yr oedd Mr. Humphreys yn bryderus iawn rhag y buasai yr arweiniad yn dyfod yn fwy uniongyrchol ar ei ysgwyddau ef. Y gweinidogion fyddai yn cymeryd mwyaf o ran yn arweiniad y Cyfarfod Misol y pryd hwnw oeddynt,-y Parchn. Lewis Morris, Robert Griffith, Dolgellau; Daniel Evans, Harlech; Richard Humphreys, Robert Williams, Llanuwchllyn; Richard Jones a Lewis Jones, y Bala; a Dafydd Rolant. Yr oedd Dr. Edwards heb ddyfod fawr i'r golwg eto. Y blaenoriaid oeddynt, John Griffith, Capel Curig; Robert Ellis, Ty Mawr; William Jones, Rhiw-waedog; Hugh Thomas, Llanfihangel; a Richard Jones, Tanycastell."

PENOD II.

O RANIAD Y SIR YN 1840 HYD Y FLWYDDYN 1890.

CYNWYSIAD.— Y personau gymerant ran yn ngwaith y Cyfarfod Misol— Lewis Morris—Robert Griffith, Dolgellau—Owen William, Tocyn—Daniel Evans—Hugh Jones, Towyn—Richard Humphreys—Edward Morgan— Robert Williams, Aberdyfi—Robert Parry, Ffestiniog—Griffith Williams, Talsarnau—David Davies, Abermaw—Robert Roberts, Dolgellau—Lewis William Richard Roberts—Humphrey Evans—William Jones, Maethlon—David Williams, Talsarnau—Humphrey Williams—Robert Griffith, Bryncrug—Griffith Erans, Aberdyfi—Owen Roberts, Llwyngwril—Owen Roberts, Llanfachreth—Hugh Roberts, Corris—Brodyr eraill o blith y Blaenoriaid, megis Morris Llwyd, Cefngellgwm—William Ellis, Maentwrrog—Humphrey Davies, Corris—Mr. Williams, Ivy House—W. Rees, Towyn—Thomas Jones. Corris—William Mona Williams. Tanygrisiau.

  MAE amryw o wŷr enwog ac anwyl wedi bod yn arwain yn mhethau crefydd yn y rhan Orllewinol o Feirionydd, o'r adeg yr aeth y sir yn ddau Gyfarfod Misol hyd yn awr, y rhai ydynt fel y ser yn eu graddau, ambell i seren yn ddisglaer iawn, ac ambell un arall yn llai disglaer, ac eto yn para i lewyrchu ymhlith y ser disgleiriaf. Y mae hanes y Cyfarfod Misol yn gyd—blethedig â hanes y dynion sydd wedi bod yn fwyaf blaenllaw ynddo. Rhoddwyd eisoes goffhad byr am yr holl swyddogion mewn cysylltiad â'r eglwysi yn eu cartrefi. Oddiwrth y sylwadau sydd yn dilyn, ceir rhyw ychydig o syniad am y gwaith a wnaethant yn y sir, a'r rhan a gymerasant yn nygiad cyffredinol y gwaith ymlaen. Dymunir, ar yr un pryd, i'r darllenydd gofio nad oes yma ond amlinelliad yn unig o'r dynion, ac o'u gwaith. Mae y ffigyrau a welir ar ol enw pob un o'r personau a nodir, yn dangos y blynyddoedd y bu yn aelod o'r Cyfarfod Misol.

Y PARCH. LEWIS MORRIS (A. D. 1791-1855).Efe oedd y cyntaf a ddaeth i sylw o bregethwyr y pen gorllewinol i'r sir, a bu ei enw yn gyhoeddus gyda'r gwaith am amser meithach na'r un pregethwr arall. Perthynai iddo lawer o hynodrwydd; yr oedd yn ddyn mwy o gorffolaeth nag odid neb yn y wlad; yn more ei oes efe fyddai yn arwain yn chwareuon a champau drygionus y wlad; cafodd dröedigaeth hynod wrth ddychwelyd o races ceffylau yn Machynlleth. Ond wedi ei dröedigaeth, daeth yn un o'r rhai blaenaf o ddilynwyr yr Iesu; ac arbenigrwydd yn ei hanes hyd derfyn ei oes faith ydoedd, ei fod yn drwyadl grefyddol. Yr oedd ei hanes boreuol, mewn llawer ystyr, yn debyg i hanes Paul ymysg yr apostolion. Allan o law, ar ol ei droi o'r fyddin ddu, chwedl yntau, ymroddodd i gynghori ei gyd-bechaduriaid. Aeth i Frynygath, Trawsfynydd, at John Ellis, Abermaw, yr hwn oedd yno ar y pryd yn athraw ar un o'r ysgolion rhad cylchynol, ac yno yn y flwyddyn 1790, pan yn 30 oed, y dysgodd ddarllen ei Feibl. Ac ymhen dwy flynedd ar ol ei dröedigaeth, yr oedd yn pregethu yn y sir hon a siroedd eraill. Daeth hefyd yn lled fuan yn bregethwr a chryn lawer o alw am dano. Gallesid meddwl, oddiwrth ei hanes a'i ymddangosiad personol, ei fod yn ddyn perffaith wrol, a dangosodd lawer o wroldeb lawer gwaith; ond byddai ei nerth a'i wroldeb yntau ar amserau yn pallu. "Dywedodd y cyfaill anwyl a pharchus, Mr. Charles, o'r Bala, wrthyf," meddai ef ei hun yn ei hanes, "pan yr oeddwn un tro yn myned at yr esgynlawr i bregethu mewn Cymdeithasfa yn Nghaerfyrddin, oddiar ddeall fy mod yn ofnus ac isel fy meddwl, 'Cofiwch na bydd neb yn gwrando arnoch ond pechaduriaid; ac y bydd y gwirionedd a fydd genych yn fwy na phawb a fydd yn gwrando arnoch.' Ei ddywediad synwyrlawn a gododd fy meddwl i fyny o iselder mawr, ac a fu yn gymorth i mi lawer gwaith wedi hyny."

Yr oedd Lewis Morris yn un a reolai gryn lawer yn y Cyfarfod Misol. Byddai yn eu dilyn gyda chysondeb, yn ol ei dystiolaeth ef ei hun, o'r dechreuad. "Dywedodd hen frawd wrthyf," meddai, "yn nechreu fy ngyrfa weinidogaethol, na welodd ef ddim llwyddiant ar un pregethwr Methodistaidd ond a fyddai yn ymdrechu i ddilyn yn gyson Gyfarfodydd Misol ei sir, a Chymdeithasfaoedd Chwarterol y Corff. Glynodd ei sylw yn ddwfn yn fy meddwl, a chefais y fraint yn fy oes o fod yn lled ddigoll yn hyn yma." Heblaw eu dilyn, cymerai ran hefyd, a hono heb fod yn rhan fechan, yn eu gweithrediadau. Byddai ar lawer ei ofn, gan ei fod mor fawr, ac yn gyffredin yn ymosod ar bobpeth; a thua diwedd ei oes, nid oedd fawr neb yn cofio y Cyfarfod Misol heb ei fod ef yn rhan bwysig o hono. Ystyriai yntau ei hun, yn ddigon naturiol, oherwydd mai efe ydoedd tad pawb oll, y dylasai arfer mwy o awdurdod na neb arall. Yn Llanelltyd un tro, pan oedd Mr. Humphrey Davies, Corris, yn llywyddu, ceryddai L. M. yn llym aelodau y Cyfarfod Misol am eu hanffyddlondeb iddo. Ar ol iddo orphen ceryddu, cyfododd y llywydd ar ei draed, a dywedodd, yn ei ddull hamddenol ei hun, "A wyt ti, y Cyfarfod Misol, yn clywed beth y mae Lewis Morris yn ei ddweyd am danat!" Dro arall, yn Nhrawsfynydd, llywyddai Mr. Humphreys, o'r Dyffryn. Ac yn y seiat gyffredinol, wyth o'r gloch y boreu, eisteddai Lewis Morris ar risiau y pulpud, a'i ffon yn ei law. Ar ddechreu y cyfarfod hwnw, yr oedd pobl y sêt fawr yn bur hwyrfrydig, ac anufudd hefyd i godi i fyny i siarad ar y mater. Gwrthodent o un i un. O'r diwedd, trodd y llywydd at yr hen batriarch ar risiau y pulpud, gan ddywedyd, "Lewis Morris, lle mae'r ffon?" Ar y gair deffrôdd pawb, a dechreuasant ufuddhau, trwy gyfodi yn ebrwydd y naill ar ol y llall i siarad.

Ond os oedd Lewis Morris yn arfer llawer o awdurdod, awdurdod ddigon di-ddrwg ydoedd. Perthynai i'r hen batriarch fesur mawr o symlrwydd a diniweidrwydd. Adroddir hanesyn tra digrifol am dano mewn cysylltiad â chais Owen William, Towyn, i fyned i fyw i dy capel Maethlon. Flwyddyn yn ol, adroddai y Parch. Dr. O. Thomas, Liverpool, yr hanesyn fel yr oedd wedi ei glywed o enau y Parch. Morris Roberts, gynt o Frynllin. Yr oedd y gŵr hwnw yn llygad-dyst o'r drafodaeth. Mewn Cyfarfod Misol yn Nolgellau (a rhaid fod y cyfarfod hwnw cyn 1830, oblegid aeth Morris Roberts i America oddeutu y pryd hwnw), lle yr oedd y frawdoliaeth o'r holl sir ynghyd, ac yn eu mysg John Roberts, Llangwm, Richard Jones, y Wern, a'r oll o'r prif ddynion, ar ddiwedd un o'r cyfarfodydd, dywedodd Owen William, Towyn, "Yr ydw' i wedi meddwl myned i fyw i dŷ capel Maethlon." Nid oedd dim cysylltiad rhwng hyn a'r hyn fuasai dan sylw yn flaenorol, ac yr oedd yr holl waith wedi ei orphen. Felly arhosai pawb yn fud, heb wybod beth i'w ddweyd, gan na pherthynai hyn ddim o gwbl i'r materion oeddynt wedi bod gerbron. Yn y distawrwydd, gofynodd Lewis Morris i Owen William, "Ydych chwi wedi meddwl myned yno Owen?" "Ydwyf," oedd yr ateb, "yr ydw' i wedi meddwl myn'd yno." "Wel, dyna ydyw eich bai chwi, Owen William," ebai Lewis Morris, "eich bod yn meddwl pobpeth cyn siarad." Ar hyn, torodd yn chwerthin anferth trwy y cyfarfod, y cyfryw ag yr oedd yn anhawdd cael terfyn arno. Meddyliodd Lewis Morris mai chwerthin yr oeddynt o gymeradwyaeth i'w sylw ef, ac meddai drachefn, "Ië, dyna ydyw bai mawr yr oes yma, fod pawb yn meddwl cyn siarad!"

Yr oedd y Parch. Robert Griffith, Dolgellau, yr hwn oedd ŵr rhadlon a llawn o natur dda, yn feistr hollol ar Lewis Morris. Ymffrostiai yr hen ŵr rywbryd mewn cyfarfod cyhoeddus, fel y gwnai yn fynych, yn ei oedran, a'r hyn oedd wedi ei wneyd gyda'r achos. Rydw i wedi bod yn pregethu i dair oes," meddai, ac atebai Robert Griffith ef, "Yr oeddwn i yn meddwl mai yn yr oes yma yr oeddych chwi yn byw." "Fe fum i yn dioddef erledigaeth," ebai L. M. adeg arall. "Ie," ebai R. G., "dianc i'r Deheudir wnaethoch chwi, onide, Lewis Morris," gan gyfeirio at yr amser y ffödd i Sir Benfro, yn amser erledigaeth fawr 1795. Tua diwedd ei oes, yr oedd golwg wirioneddol batriarchaidd ar yr hen bererin, a pherchid ef gan bawb fel pentewyn amlwg wedi ei achub mewn oes annuwiol, ac fel un o'r tystion cywiraf dros y gwirionedd. Pregethodd lawer trwy yr oll o'r dywysogaeth, a phregethai yn olaf yn y Cyfarfod Misol bob amser, ac yn ei weddi ar y diwedd arferai goffau yr holl destynau, a gofyn am fendith arnynt. Cadwodd ei barchedigaeth a'i ddefnyddioldeb, "o genhedlaeth i genhedlaeth." Yn niwedd ei oes, oherwydd ei lesgedd a'i henaint, pregethai ar ei eistedd yn ei dŷ ardrethol ei hun yn Arthog, a deuai y cymydogion ynghyd i wrando arno. Un o'r cyfarfodydd olaf iddo fod ynddo ydoedd Cyfarfod Misol Dolgellau. Yr oedd wedi anfon at Mr. Williams, yn amlygu dymuniad cryf am gael dyfod, a gwahoddiad caredig wedi ei anfon ato o Ivy House. A boreu y diwrnod cyntaf, wele yr hen dad yn dyfod mewn trol, wedi ei lapio i fyny, a bron cael ei guddio gan wellt. Wedi iddo ddyfod, pryderai teulu Ivy House yn fawr pa fodd y gellid ei gael i'w wely. Yr oedd ystafell yn mhen uchaf y tŷ, ymha un y cysgai pan ar ymweliad â'r dref trwy y blynyddoedd, a gelwir yr ystafell hyd heddyw yn "llofft Lewis Morris." Cofir yn hir am y drafferth a gafwyd i'w gael i'w wely y tro hwn, Mr. Morgan yn dal y ganwyll o'i flaen, a Mr. Humphreys o'r tu ol, a'i freichiau o dan L. M.; a phob cam ar i fyny yr oedd y pwysau yn myned yn drymach, a'r hen dad yn tuchan. O'r diwedd, ebai Mr. Humphreys, "Wel, Lewis, Lewis, y chwi sydd yn tuchan, ond arnaf fi y mae y pwysau." Tua'r amser hwn ysgrifenodd y llythyr sydd yn dilyn at ei frodyr i Gyfarfod Misol y Bwlch, ac un peth yn hynodi y llythyr ydyw, fod. Lewis Morris yn cael ei flwydd yn 91 oed y diwrnod yr ysgrifenid ef. Ymhen pedair blynedd wedi hyn, casglwyd. ef at ei dadau, ac mae ei feddrod wrth gape! Salem, Dolgellau.. Dyma ei eiriau ef ei hun yn ei lythyr,—

Gefnir, Mehefin, 2, 1851.

Anwyl Frodyr,

Yr wyf yn anfon yr ychydig linellau hyn atoch i hysbysu i chwi y buasai yn dda iawn genyf allu dyfod unwaith eto i'ch plith, a chael mwynhau eich cymdeithas; ond y mae yn debyg y rhaid i mi ffarwelio am hyny mwyach oherwydd fy henaint a'm gwaeledd, er mor hyfryd fuasai genyf allu dyfod. Fy nymuniad a'm gweddi yw am i'r Arglwydd lewyrchu ei wyneb arnoch a thywallt ei Ysbryd yn helaeth ar eich cynulliadau fel y gogonedder yr Arglwydd Iesu Grist. Efe yw Haul y cyfiawnder a gogoniant ei holl waith.—Yr wyf yn methu a dysgu bod yn foddlon, ond yr wyf yn meddwl mai dyna'r peth sydd yn fy anfoddloni fwyaf ydyw fy mod yn methu myned i'r addoliad ac i blith fy mrodyr, lle y cefais lawer o bleser a diddanwch lawer gwaith, ac y mae cofio hyny yn codi hiraeth arnaf am danynt eto. Ond y mae yn dda genyf wedi methu myned i dŷ Dduw, y gallaf inau ddywedyd fel ag y dywedodd y Parch. Philip Henry, y caf finau fyned at Dduw y tŷ o'r fan lle yr wyf.—Yr wyf yn weddol iach heb na chur na gwaew yn gyffredin, ac yn cyfrif hyn yn drugaredd fawr.Yr wyf yn gallu darllen y Beibl yn bur fynych, a gallaf ddywedyd ei fod yntau yn fy narllen inau, ac ynddo y mae fy hyfrydwch penaf. Yr wyf yn gweddio llawer am i'r Ysbryd Glan fy sancteiddio yn gwbl oll—yn yr olwg ar y colledig yr wyf fi yn cael yr olwg gliria ar y Ceidwad, a'm gwaith y dyddiau yma yw cyflwyno fy hunan iddo yn bechadur truenus fel yr wyf, "ac y mae yn ddiameu genyf ei fod ef yn abli gadw yr hyn a roddais ato erbyn y dydd hwnw." Yr wyf yn hiraethu llawer am fyned i wlad well nag yma, ac yr wyf yn meddwl mai hyn yw fy sail am hyny, fy mod yn rhoddi fy hun i'r Crist a all fy ngwneyd yn barod. Y mae yn dda genyf feddwl am lawer hen adnod yn y Beibl. "I obaith bywyd tragwyddol, yr hon a addawodd y digelwyddog Dduw cyn dechreu y byd."—"A'r bywyd hwn sydd yn ei Fab ef."—

—"Parhaed brawdgarwch." Dymunaf ran yn eich gweddiau. Eich anheilwng frawd,

LEWIS MORRIS.

Y PARCH. ROBERT GRIFFITH, DOLGELLAU (A. D. 1793—1844). Yr oedd Robert Griffith, megis y crybwyllwyd, yn ŵr rhadlon a charuaidd, ac o uchel barchedigaeth trwy y wlad yn gyffredinol. O ran y rhagoriaethau a berthynent iddo fel dyn, a'i ymddygiad boneddigaidd ymhob cymdeithas, rhagorai ar y rhan fwyaf o bregethwyr ei oes. Ysgrifenodd ychydig o fywgraffiad iddo ei hun, sef am y rhan foreuol o'i oes, yr hwn a ymddangosodd yn y Drysorfa am y flwyddyn 1847, a cheir ynddo fras olwg ar sefyllfa y wlad y pryd hwnw. Efe oedd y cyntaf o bregethwyr y sir a ordeiniwyd i weinyddu y sacramentau, yr hyn a wnaed yn Mehefin, 1814, sef yr ail ordeiniad yn y Gogledd, a'r olaf i Mr. Charles fod yn bresenol. Mae y ffaith iddo gael ei neillduo i gyflawn waith y weinidogaeth mor gynar yn dangos y lle uchel y safai ynddo ymysg ei frodyr. Cadwodd yr un safle barchus hyd ddiwedd ei oes. Er nad oes digwyddiadau hynod a rhamantus yn ei fywyd, eto prin y cyfrifid neb yn fwy ei ddylanwad yn ei sir ei hun, yn gystal ag o'r tu allan iddi. Crybwylla ei fywgraffydd un peth hynod hefyd, sef ei fod wedi llafurio yn y weinidogaeth am haner can' mlynedd ymron yn hollol rad, "o leiaf heb dderbyn digon i gadw ei geffyl." Yr oedd yn fwy cysurus ei amgylchiadau bydol na llawer o'i frodyr, a chymerai yr eglwysi fantais oddiwrth hyny i fod yn brin yn eu cydnabyddiaeth iddo. Dywed y Parch John Hughes am dano,-"Yr oedd Robert Griffith yn rhydd iawn oddiwrth bob rhodres a chymendod; eto yr oedd yn ŵr hardd ei berson, trwsiadus ei wisg, a boneddigaidd ei ymddygiad. Nid oedd yn dangos parodrwydd gormodol i siarad, ond pan y siaradai dangosai fod ganddo feddwl; byddai ei atebion yn fynych yn fyrion ac i'r pwrpas. Mewn gair, nid yn fynych y ceid pregethwr ymysg y Methodistiaid yn meddu mwy o gymhwysderau a llai o frychau. Gŵr da, ac yn haeddu parch dau-ddyblyg." Ceir ychwaneg: o hanes am dano, heblaw y bywgraffiad y cyfeiriwyd ato, yn. Meth. Cym., I., 591, ac yn y gyfrol gyntaf o'r hanes hwn, tudal. 392.

Y PARCH. OWEN WILLIAM, TOWYN. (A. D. 1811—1859).—Yn Mryncrug y ganwyd ef, ac y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes, ac mewn cysylltiad â'r eglwys yno y ceir ei hanes. Hynodrwydd Owen William yn fwy na'i wasanaethgarwch i'r achos a barodd i'w enw fod mor adnabyddus; ond yr oedd yr hynodrwydd hwnw mor amrywiol, ac yn parhau dros gymaint o amser, fel na byddai hanes Cyfarfodydd Misol ei amseroedd. ddim yn gyflawn heb grybwylliad am dano. Mae yn wir fod ynddo lawer o allu; cydnabyddid ef gan ei gydoeswyr fel dyn meddylgar. Cyfansoddodd a chyhoeddodd amryw lyfrau ar hanesiaeth, proffwydoliaeth, a duwinyddiaeth. Y tri hyn oedd y thai pwysicaf: 1. "Golwg ar gyflwr dyn, (1) Yn ei greadigaeth; (2) Yn ei gwymp trwy Adda; (3) Yn ei gyfodiad trwy Grist." 2. "Eiriolaeth Iesu Grist." 3. "Traethawd ar Waed Crist." Y rhai hyn a mân lyfrau eraill a gyfansoddodd, a ddangosant ei fod yn berchen meddwl llawer mwy galluog na'r cyffredin. Byddai hefyd yn ei bregethau yn treiddio i ddyfnion bethau yr iachawdwriaeth, ac ar rai adegau o'i oes bu yn bregethwr tra phoblogaidd. Cyfodai ei boblogrwydd yn hollol o feiddgarwch ei feddyliau, a'i allu i drin pynciau; oblegid ni feddai lais na pheirianau llafar hyfryd i'r gwrandawyr. Siaradai o waelod ei wddf, ac ymestynai ymlaen wrth ddweyd rhywbeth o bwys, fel pe buasai yn rhoddi hwth i'r ymadrodd oddiwrtho. Byddai yn teithio llawer i bregethu i siroedd y Deheudir, ac yn afreolaidd hefyd, oblegid ni byddai ei gyfeillion gartref yn aml yn gwybod dim o'i hanes. Yn Nghyfarfod Misol Towyn, Tachwedd, 1844, gwnaeth y brodyr y sylw canlynol am dano, "Yn y cyfarfod hwn, barnwyd mai yn Sir Aberteifi neu Sir Benfro y dylai y brawd Owen William fod yn aelod o'r Cyfarfod Misol, oherwydd ei ddieithrwch i ni, ac anfonwyd llythyr oddiwrth y Cyfarfod Misol at Mr. Edward Jones, Aberystwyth, ynghylch y peth, a rhoddwyd y brawd uchod i'w ofal."

Helbulus fu ei oes gydag amgylchiadau y bywyd hwn. Ond efe ei hun, oherwydd aflerwch ac annoethineb, a dynai yr helbul arno ei hun. Yr oedd rhyw duedd anesboniadwy ynddo i gloddio i'r ddaear, i chwilio am fŵn a meteloedd. Cynyddodd yr ysfa hon gymaint, nes y daeth yn ail natur ynddo; cariai lympiau o lô, a darnau o fŵn yn ei bocedau, a danghosai hwy yn nhai y capelau, a pherswadiai rai pobl i roi benthyg arian iddo i gloddio am danynt, ac i gymeryd shares mewn anturiaethau nad oedd un gobaith iddynt dalu. Yn y dull hwn, tynai ddyledion trymion arno ei hun. Dygwyd ei achos laweroedd a llaweroedd o weithiau gerbron y Cyfarfod Misol a'r Gymdeithasfa, oblegid ei ddyledion. Ataliwyd ef o bregethu, a gwnaeth ei gyfeillion, mewn gwahanol siroedd, lawer o ymdrech i gasglu arian i'w helpu i dalu ei ddyledion. Y mae llyfr y Cyfarfod Misol wedi ei fritho, dros lawer o flynyddoedd, a rhyw grybwylliad neu gilydd ar ei achos yn y cysylltiadau hyn. Yr oedd ei achos gerbron yn Nghyfarfod Misol Corris, i'r diben o'i adferu i bregethu, am y tro olaf, fel yr hysbysir. Rhoddai hwn a'r llall gynghorion iddo, a dywedid yn lled ddifrif am iddo beidio dilyn yr un llwybrau mwyach. Mr. Humphreys oedd yr olaf i siarad, yr hwn a ddywedai: "Cofiwch chwi, Owen, mai nid eisiau eich gyru chwi i'r ddaear sydd arnom ni, ond eisiau eich cadw chwi allan o'r ddaear." "Wir, Mr. Humphreys, bach," ebe yntau, "yr ydwyf fi yn cael llawer o anwiredd yn amal; pan wel rhywun fi a chaib a rhaw ar fy ysgwydd, dywedant yn union fy mod yn myn'd i chwilio am fŵn." "Ho," atebai Mr. Humphreys, "mi fyddaf inau yn cario caib a rhaw ar fy ysgwydd yn aml tua'r Dyffryn acw, ond chlywais i neb erioed yn dweyd fy mod i yn myn'd i chwilio am fwn." Parhaodd Owen William, modd bynag, i lynu wrth yr achos, ac i bregethu hyd ddiwedd ei oes.

Y PARCH. DANIEL EVANS (A. D. 1814—1868). —Gwr anwyl iawn oedd Daniel Evans, tra defnyddiol yn ei ddydd, ac yn llenwi lle pwysig yn mysg ei frodyr. Dechreuodd ei yrfa fel ysgolfeistr o dan arolygiaeth Mr. Charles, a diameu i'r gŵr da hwnw osod cryn lawer o'i ddelw arno. Bu cadw ysgol yn nechreu ei oes yn sylfaen i'w ddefnyddioldeb. Gweithiodd lawer yn bur llwyddianus gyda'r Ysgol Sabbothol. Rhagorai ar lawer i dynu plant ac ieuenctyd ymlaen yn y cyfarfodydd eglwysig; elai atynt, a gofynai gwestiynau bach iddynt i ddechreu, yna elai at gwestiynau mwy wedi hyny, nes gwneyd y plant yn fwy nag oeddynt. Cafwyd mwyneidd-dra doethineb ynddo ef i raddau helaethach nag odid neb a fu o'i flaen nac ar ei ol. Dilynodd yr achos yn ei holl gysylltiadau gyda ffyddlondeb mawr, a bu ei ysgwyddau yn dyn dan yr arch pan nad oedd nifer y gweinidogion ordeiniedig yn Ngorllewin Meirionydd ond bychan. Prawf fod ei frodyr yn edrych arno fel gwr o farn ydyw y lle a'r ymddiried a roddent ynddo. Bu yn ysgrifenydd y Cyfarfod Misol am y chwe' blynedd cyntaf ar ol rhaniad y sir yn 1840.

Fel pregethwr, ni ystyrid ef yn fawr, ac ar un cyfrif ni honai yntau ei hun unrhyw fawredd. Eto yr oedd yn gymeradwy iawn gan y saint. Perthynai rhyw swyn i'w lais nas gellir yn hawdd roddi cyfrif am dano. Byddai ei don fechan leddf yn gwneyd i'r gwrandawyr deimlo ei bod yn dyfod o fynwes gŵr oedd wedi ei heddychu â Duw. Byddai yn arferiad ganddo yn wastad ar ddiwedd bron bob paragraff yn ei bregeth wneuthur y sylw,-"rhyw bethau plaen fel ene fydd gen i." Ceir engraifft o'i ddull hamddenol o bregethu, yn ei bregeth ar y geiriau, "Cred yn yr Arglwydd Iesu Grist, a chadwedig fyddi." "Y mae rhai," meddai, "yn ymrwystro gydag anhawsderau crefydd, yn digio am na fedrant ddeall ei phethau mawr hi, ac felly ni fynant ddim o'r pethau hawdd sy'n perthyn iddi. Yr un fath ag y gwelwch chwi ambell un yn ceisio myned trwy y traeth yna i'r ochr draw. Mae yna ryd hwylus, pwrpasol i fyned trwodd: ond y mae yna lynau a phyllau peryglus hefyd. Mae ambell un wedi dyfod at yr afon yn dychrynu, a digaloni, ac yn troi yn ei ol, pe buasai ond myned ychydig bach o latheni yn mlaen, fe ddaethai at y rhyd. Felly y mae llawer yn ymrwystro gydag etholedigaeth, a chyfiawnhad, a sancteiddhad. Ond enaid anwyl, dyma i ti ryd sych yn ymyl dy draed i fyned trwyddo, cred yn yr Arglwydd Iesu Grist."

"Un rhinwedd neillduol yn Daniel Evans fel pregethwr," ebe y Parch. Griffith Williams, Talsarnau, "ac feallai mai hwnw oedd y gwerthfawrocaf gan lawer. Ni byddai un amser yn faith. Nis gwyddom ond am ddau beth ag y mae y lliaws yn caru cael mesur byr o honynt, sef milldir fèr, a phregeth fèr; a byddent yn cael pregeth fèr ganddo ef bob amser."

Nid oes gan yr ysgrifenydd ddim côf am dano yn cymeryd rhan yn ngwaith y Cyfarfod Misol ond unwaith, sef yn llywyddu yn Llanelltyd. Eisteddai ar ol myned i fewn ar eisteddle yn ochr y capel. Ar ol myned trwy y gwasanaeth dechreuol, cynygiodd rhyw frawd fod i Daniel Evans lywyddu. Aeth yntau ymlaen yn arafaidd i'r sêt fawr, a'r geiriau cyntaf a ddywedodd yn ei ddull tawel, gyda'i ben crynedig, a'i aceniad addfwyn oeddynt, "Yr ydych wedi fy ngosod i yn y lle hwn, nid am fod ynwyf ddim cymhwysder, ond oblegid fod fy mhen i yn wyn." Prawf oedd y dywediad ei fod yn cyfrif ei frodyr yn well nag ef ei hun. Ni adawodd yr un o bregethwyr Sir Feirionydd goffadwriaeth mwy hawddgar ar ei ol na Daniel Evans.

Y PARCH. HUGH JONES, TOWYN. (A.D. 1814—1873)—Pan ddechreuodd y to hynaf o weinidogion sydd yn awr ar y maes ar eu gwaith, yr oedd dyddiau Hugh Jones yn tynu at y terfyn. Arosai ef y pryd hwnw, fel deilen ysgwydedig yn Hydref, heb gwbl syrthio oddiwrth y pren. Yr oedd yr olwg arno yn barchedig a phatriarchaidd. Dilynai y Cyfarfodydd Misol wrth ei ffon, a dechreuai yr odfeuon trwy adrodd Salmau a hymnau o'i gof, gan fod ei olwg ymron wedi llwyr ballu. Yn wir, byddai yr olwg arno yn foneddigaidd ac urddasol trwy ei oes. Bu yn cario ymlaen fasnach eang am ran o'i fywyd, ac ni welwyd yr un cymeriad cywirach a gonestach erioed yn rhodio'r ddaear. Pregethwr o ddoniau bychain ydoedd, ond nid oedd yn ail i neb am ei ffyddlondeb, a thrwy hyny enillodd gymeradwyaeth gan ei Arglwydd, a pharch gan ddynion. Symlrwydd a diniweidrwydd oeddynt nodau amlwg yn ei gymeriad. Pregethodd lawer ar y bregeth, Cadw y Sabbath.' Pregethai hi unwaith yn Nolgellau ar nos Lun, sef ar y 30ain o Ragfyr, 1839. Yr oedd yn eistedd yn ymyl eu gilydd, mewn rhan o'r capel, y noswaith hono, ddau bregethwr ieuainc, y Parchn. Roger Edwards, D.D., a John Williams, wedi hyny o Waukesha, America. Er mai nos Lun ydoedd, rhoddodd y pregethwr yr hen benill dyddorol allan i'w ganu ar ddiwedd yr odfa,-

"Melus yw dydd y Sabbath llon."

Ac yn y fan a'r lle, ar darawiad amrant, trodd Mr. Roger Edwards at ei gyfaill a eisteddai yn ei ymyl, gan sibrwd y penill wrtho fel hyn:—

"Nos Lun flinderus ydyw hon,
A gofal byd yn blino 'mron;
Pa fodd y gallaf fod mewn hwyl,
Pan nad yw na Sul na gwyl?"

Adroddir hanesyn arall am dano i ddangos ei ddiniweidrwydd. Yr oedd wedi bod yn pregethu mewn man yn y sir, lle y cwynai y bobl oherwydd i bregethwr ieuanc fod yn eu taith ychydig yn flaenorol, yn holi yr Ysgol Sul, yr hwn a ofynai gwestiynau anfuddiol iawn yn eu tyb hwy, ac un o'r cwestiynau ydoedd, "A yw y diafol yn berson?" Tybiai Hugh Jones fod gofyn cwestiynau felly, nid yn unig yn anfuddiol, ond yn dra phechadurus, ac addawodd pan y clywodd, ddwyn yr achos gerbron y Cyfarfod Misol. Y cyfle cyntaf a gafodd, sef yn Nghyfarfod Misol y Dyffryn, safai yr hen bererin ar ei draed, a chyfodai ei ddwy law i fyny, a'u cledrau i waered, fel y byddai arfer, a dywedai, "Gyfeillion tirion, mae pobl yrwân yn myn'd i ofyn cwestiynau anfuddiol iawn-maent yn gofyn a ydyw y diafol yn berson, a phethau felly." "Hugh bach," ebe Mr. Humphreys, gan godi i fyny i'w ateb, "nis gwn i yn iawn pa un ai person ai clochydd y dylid ei alw; un digon drwg ydi o, beth bynag."

Ni byddai Hugh Jones yn cymeryd llawer o ran yn nygiad ymlaen y gwaith yn y sir. Eto, ceid ef yn un o'r rhai goreu am ddilyn y rhai blaenllaw, ac am waeddi hwi gyda hwy. Nis gellir byth roddi gormod o bris ar ei wasanaeth ef a'i briod i'r achos yn ei gartref yn Nhowyn, ac yn amgylchoedd ei gartref. Dywediad un o flaenoriaid y cylch yn Nghyfarfod Misol Bryncrug, Hydref, 1873, wrth wneuthur coffa am dano ydoedd, "Ni buasai yr achos yn nosbarth rhwng y Ddwy Afon y peth ydyw heddyw oni bai i Hugh Jones fod yn byw yn y dosbarth."

Y PARCH. RICHARD HUMPHREYS (1819—1863).-Yr ydym yn awr wedi dyfod at un o'r tywysogion, ac un a gaiff ei ystyried bob amser fel gŵr anrhydeddus ymysg lliaws ei frodyr. Y mae pob peth yn hanes Mr. Humphreys yn ei osod yn naturiol uwchlaw y cyffredin. Cyfarfyddir â'i sylwadau beunydd, mewn gwahanol gysylltiadau, yn y tudalenau hyn, y rhai a ddangosant, pe na buasai genym ddim gwybodaeth ychwanegol am dano, ei fod yn sefyll mewn uwch lle na neb arall. Gwir a ddywedodd y Parch. Dr. Edwards wrtho, "Bydd llawer o'ch dywediadau mewn côf, fel diarebion ymysg y Cymry am oesoedd." Felly yr ydym yn eu cael, yn yr holl gylchoedd cymdeithasol a chyhoeddus y bu yn troi ynddynt. Wedi bod yn pregethu am dair blynedd ar ddeg, ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth, yn Nghymdeithasfa y Bala, yn 1833, y flwyddyn y bu farw y Parch. Richard Jones, y Wern, ac ar ol colli y gŵr enwog hwnw, arno ef y disgynodd yr arweiniad yn Ngorllewin Meirionydd. Yr oedd yr Arglwydd yn amlwg, yn yr amgylchiad hwn, yn gosod y naill beth ar gyfer y llall; yn cymeryd un gweinidog enwog ymaith, ac yn gosod un arall yn ei le. Bu y ddau ben i'r sir yn un, mae'n wir, dros rai blynyddau wedi hyn, ac yr oedd rhai dynion blaenllaw eto yn aros yn y pen arall, a chyd-weithiai Mr. Humphreys yn y modd hapusaf gyda hwy. Yr oedd wedi tyfu yn raddol i gymeryd y lle a barotoisai Rhagluniaeth iddo, ac erbyn yr amser y rhanwyd y sir yr oedd wedi dyfod lawer mwy i'r golwg nag y buasai cyn ei ordeinio. Fel hyn y dywed ei fywgraffydd am dano: "Feallai nad ellid ei ystyried ef yn ddiwygiwr mawr, can belled ag y mae dwyn allan gynlluniau newyddion yn perthyn i ddiwygiwr; nid oedd ganddo flas ar wneuthur rheolau a deddfau newyddion. Braidd na thybiwn mai goruchwyliaeth debyg i oruchwyliaeth y Barnwyr a fuasai yn fwyaf cydweddol ag ansawdd ei feddwl ef-eistedd mewn barn ymhob achos fel y digwyddai. Byddai yn arfer dweyd fod llawer yn gwneyd deddfau o bwrpas i'w tori. Ond os nad oedd yn ddiwygiwr mawr, yr oedd yn weithiwr heb ei ail, ac yn gwir ofalu am bob peth yr achos gartref a thrwy y sir; a byddai yn un o'r rhai blaenaf i gefnogi pob ysgogiad a farnai efe a thuedd ynddo i lesoli y 'deyrnas nad yw o'r byd hwn.'"

Rhan helaeth o'i waith gyda'r achos allanol, y tuallan i'w gartref, ydoedd mewn adeiladu ac adgyweirio capelau. Gelwid am ei wasanaeth, trwy y sir, i gynllunio capelau, ac efe fyddai yn eu gosod i'r gweithwyr, ac yn arolygu y gwaith nes y gorphenid hwy. Ymunai hefyd â'r gweithwyr i weithio â'i ddwylaw, gan ei fod mor hyddysg mewn saerniaeth coed a maen. Gwelwyd ef, wedi cael benthyg dillad gwaith, yn adgyweirio to capel Llanuwchllyn, ar fore dydd Llun, cyn cychwyn adref o'i daith. Gweithiai a'i ddwylaw yn ngwneuthuriad amryw gapelau, a phregethai ynddynt ar eu hagoriad. Heblaw gofalu am amgylchiadau allanol yr achos, rhodiai fel athraw ac athronydd ymysg ei frodyr. Rhoddai ei ddeall cryf, ei synwyr cyffredin anghyffredin, a'i ddywediadau pert a pharod, y fantais oreu iddo i fod yn arweinydd hyd yn nod ymysg doethion, ac o dan y cwbl yr oedd ynddo ddynoliaeth o'r fath ardderchocaf. Ganwyd ef yn Feirionwr, a bu fyw yn y sir ar hyd ei oes, a deallai ei hamgylchiadau a'i phobl yn well na phawb. Er iddo deithio llawer, yn ol arferiad ei oes, eto gwasanaethodd ef ei sir ei hun yn fwy na'r rhan liosocaf o'r brodyr oedd ar y maes yr un pryd ag ef. Efe a benodid bob amser i wastadhau amgylchiadau dyrus mewn eglwysi, ac fel sylwedydd craff, a barnwr mawr ei wybodaeth, efe a'u penderfynai os gwnai neb. Cariai gydag ef, hefyd, fel y Meistr mawr ei hun, olew i dawelu y dyfroedd pan y cyfodai yn ystormydd. Taflai ei ddylanwad o blaid pob symudiad gwladol a chrefyddol-rhyddfrydiaeth, dirwest, ac arolygiaeth yr eglwysi. Mewn gair, yr oedd yn allu mawr yn Nghyfarfodydd Misol y sir. Byddai mor hamddenol a chartrefol gyda'r holl frawdoliaeth yn y cynadleddau, ag yr arferai fod ar yr aelwyd gartref. Ni chafodd yr un o wledydd Cymru arweinydd i gario gwaith yr eglwysi ymlaen mor ddidrwst a diberygl.

Yn ychwanegol at y pethau a nodwyd, yr oedd Mr. Humphreys yn ŵr crefyddol iawn. Y mae cynifer o'i ddywediadau digrifol wedi cael eu hadrodd eisoes mewn gwahanol gysylltiadau yn yr hanes hwn, fel na raid eu crybwyll yma. Ond fe ganfydda y darllenydd fod y rhai hyny oll yn llawn o synwyr ac adeiladaeth. Cyfunwyd y difyrus a'r adeiladol ynddo ef i raddau helaethach yn ddiameu na neb arall o bregethwyr y sir. Yr oedd yn athronydd Cristionogol, a'i ysbryd yn efengylaidd. Deuai dyfnder ei grefydd i'r golwg yn ei fawr barchedigaeth i Dduw. Yn ei weddiau hynod rhedai ei feddyliau a'i ddeisyfiadau at yr orsedd gyda "gwylder a pharchedig ofn," a mynych y clywodd ei wrandawyr ef yn terfynu gyda dymuniad taer am i'r Duw mawr hwn fod yn Dduw iddynt byth. Cyrhaeddai ei ddylanwad ymhell ac yn agos-ymhlith ei gymydogion gartref, a chyda goreuwyr y Cyfundeb yn y cylchoedd uwchaf; pan gyfodai dyryswch yn y Cymdeithasfaoedd Chwarterol, y lle yr edrychid iddo am help i'w ddad-ddyrysu ydoedd at y doeth wr o'r Dyffryn. Ond ymataliwn rhag ymhelaethu, gan fod ei hanes i'w gael yn gyflawn yn ei gofiant.

Y PARCH. EDWARD MORGAN (1841—1871).—Ymhen tua blwyddyn wedi i Gyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd ymffurfio yn sefydliad arno ei hun ar wahan i'r pen arall, y dechreuodd Mr. Morgan bregethu. Y mae hanes y naill a'r llall felly am y deng mlynedd ar hugain dilynol yn cydredeg. Daeth ef allan ar unwaith, fel y mae yn hysbys, yn bregethwr galluog a phoblogaidd. Nid hir y bu-dim ond yr ychydig flynyddoedd a gymerodd i berffeithio ei addysg-cyn iddo ddechreu gweithio yn egniol a phenderfynol ymhob cylch. Pregethai, hyd yn nod cyn gorphen cwrs ei addysg, gyda'r fath amlygrwydd ac effeithiolrwydd, fel y daeth yn ebrwydd i gael ei gyfrif yn un o brif bregethwyr y Cyfundeb. Ni wnaeth neb le iddo, ac nid oedd eisiau ychwaith. Dywedodd ef ei hun noson ei sefydliad yn weinidog yn Nolgellau, "Peidied neb a gwneyd lle i mi. Yr wyf yn bwriadu gwneyd lle i mi fy hun; ac wedi i mi wneyd fy lle fy hun, odid fawr na fedraf lenwi hwnw." Gwnaeth le mawr iddo ei hun mewn llawer o gylchoedd, a llanwodd ei le ymhob cylch yn drwyadl.

Nid mor hawdd ydyw nodi allan ei ragoriaethau, gan ei fod, fel gwyneb yr haul, yn disgleirio ymhob cwr. Gellir dweyd heb ddim petrusder iddo ymgodi fel pregethwr yn fuan ymhell uwchlaw ei holl frodyr yn Ngorllewin Meirionydd. Yr oedd yr engraifft oreu a welwyd mewn unrhyw oes o ddyn wedi llwyr ymgysegru i waith y weinidogaeth. Mawrhaodd ei swydd, a gosododd urddas arni gerbron pob graddau o ddynion. Nid oedd ei gorff ond gwanaidd, a bu mewn nychdod lled fawr amryw weithiau yn ystod ei oes fer, a'r syndod bron anesboniadwy ydyw iddo allu cyflawni yr holl waith a wnaeth trwy gymaint o wendid. Cafodd ei ddonio, mae'n sicr, â doniau uchel iawn i'r weinidogaeth; ac os derbyniodd ddeg talent gan ei Arglwydd, enillodd yntau, trwy lafur dybryd, ddeg talent eraill atynt. Byddai ei bregethau wedi eu cyfansoddi yn fanwl a gorphenedig cyn esgyn o hono i'r pulpud, a thraddodai y pregethwr hwy gyda'r fath egni a gwres, a chyda'r fath areithyddiaeth aruchel, nes peri i'w wrandawyr synu ac addoli, a byddent yn cael eu cario i fyny gan nerth ei areithyddiaeth, fel y cariwyd Ioan i fyny yn Llyfr y Datguddiad, i weled gogoniant trefn gras Duw. Rhoddid ef i bregethu ymhob Cyfarfod Misol ddwy waith y rhan fynychaf, y nos gyntaf ac am ddeg o'r gloch dranoeth. Disgwylid am wledd pan ddelai y lliaws ynghyd i wrando arno, ac ni chai neb ei siomi. Bu ei bregethau ef, noson gyntaf y Cyfarfod Misol, dros faith flynyddau, y gallu cryfaf yn ddiameu i godi Methodistiaeth a chrefydd yn y wlad. "Byddwn i yn disgwyl i Mr. Morgan fod yn dda," meddai y Parch. Rees Jones, Felinheli, yn ei anerchiad ar lan ei fedd, "pan yr elwn i wrando arno yn pregethu, ond bob amser elai tuhwnt i'm disgwyliad." Ni ddywedwyd gwell gwir erioed, rhagori y byddai ar ddisgwyliadau pawb, pa mor uchel bynag fyddai eu disgwyliad wrtho. Yn wahanol i lawer o ddynion mawr, rhagorai Mr. Morgan yn gyfatebol ymhob gwaith yr ymaflai ei law ynddo i'w wneuthur. Wrth wrando arno yn pregethu, teimlai ei wrandawyr fod yn anmhosibl i neb bregethu yn well; pan yn arwain y cynhadleddau yn y Cyfarfod Misol a'r Gymdeithasfa, rhoddai argraff ar feddwl pawb ei fod yn gwneuthur hyny yn y modd rhagoraf; pan yn cynghori yn y cyfarfod eglwysig, yn gweinyddu mewn angladd, yn arholi yn y Cyfarfod Ysgolion, yn traddodi anerchiad ar yr hustings yn amser etholiad-elai drwy ei waith yn yr holl gylchoedd hyn yn y modd mwyaf meistrolgar. Yr oedd y business man goreu y gellid ei gyfarfod, a phan esgynai y pulpud o ganol helyntion amgylchiadol yr achos, byddai fel angel yn ehedeg yn nghanol y nef. Pa waith bynag a gymerai mewn llaw, fe'i gwnelai mor berffaith na fedrai neb feddwl am gynyg ei wella ar ei ol. Mor hyfryd fyddai edrych arno yn llywyddu mewn unrhyw gyfarfod, yn chwipio trwy y pethau bychain a dibwys, gan feddu llygaid eryr i wybod pa bryd i roddi amser i'r pethau a ofynent am amser. Pwy bynag arall a geid yn ffyddlon ac yn selog, efe, yn ei ddydd, fyddai yn cynllunio ac yn ysgogi gyda phobpeth. Rhoddodd gychwyniad i lawer o gynlluniau, a chydag yni dyn wedi ei feddianu gorff ac enaid gan ysbryd gwaith, cariodd hwy allan, i raddau pell, er cyfarfod â llu o wrthwynebiadau cryfion. I ddefnyddio cymhariaeth o'i eiddo ef ei hun, edrychai yn myw llygaid pob llew a'i cyfarfyddai, nes ei wanychu, a pheri iddo gilio o'r ffordd. Efe ydoedd bywyd a phen-rheolwr y Cyfarfod Misol. Engraifft o hyny ydyw dywediad brawd o flaenor yn y sir, yr hwn oedd yn ymgynghori ag of o berthynas i ryw fater yn yr eglwys y perthynai iddi. "Deuwch ag ef i'r Cyfarfod Misol," ebe Mr. Morgan. "I ba beth y gwnawn ni hyny?" atebai y blaenor, "ond y chwi ydyw y Cyfarfod Misol." Mae y sylw yn arwyddo mai dyna syniad y wlad, yr hyn oedd wir. Cymerai yr arweiniad, yn un peth, am fod arwain yn gynhenid yn ei natur, ac hefyd oddiar wir ofal am achos yr Arglwydd yn yr holl eglwysi. Eiddigeddai âg eiddigedd mawr dros lwyddiant yr achos, a hiraethai o eigion ei galon am weled diwygiad yn yr eglwysi, yn enwedig diwygiad mewn cynhaliaeth briodol i'r weinidogaeth. Baich mawr ei fywyd oedd llafurio i ddeffro y wlad tuag at ei dyledswydd i osod arolygiaeth a bugeiliaeth ar yr eglwysi. Ceir ychwaneg ar hyn mewn penod sydd yn dilyn. Tybid gan rai, mae'n wir, y byddai yn gyru yn rhy chwyrn, ac yn cario pethau ymlaen a llaw uchel, a thynai y bobl a dybient felly yn ei ben yn fynych. Ond y gwir am hyn ydyw mai gŵr am fyned yn ei flaen oedd Mr. Morgan, a thuag at fod yn ddiwygiwr trwyadl, byddai raid iddo yn aml ymddangos fel yn cerdded o flaen ei oes. Nid mewn dim yr argyhoeddid ei gyfeillion agosaf, a'r rhai a'i hadwaenent oreu, yn gryfach, nag yn eu crediniaeth yn ei gydwybodolrwydd. Iddo ef, yn anad undyn, reality a safai y tucefn i'w holl weithrediadau. Er ei fod mor nodedig o flaenllaw ei hun, llawenhai yn fawr weled ei frodyr yn gweithio, rhoddai le dyladwy iddynt oll, ac amddiffynai hwy, fel penteulu yn amddiffyn tylwyth ei dŷ.

Fel prawf o'r gwaith mawr a wnaeth y gweinidog da a llafurus hwn, ac o'r parch a enillodd yn mysg eglwysi ei wlad, rhyw chwe' blynedd cyn terfyn ei oes, cyflwynodd Cyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd dysteb iddo; yr hyn a wnaed i fyny o bwrs yn cynwys 220 gini, ynghyd â llestri tê a choffi, gwerth 52p. Cyflwynwyd y dysteb yn Nghyfarfod Misol y Dyffryn, Ebrill 1865. Cynhaliwyd cyfarfod arbenig i'r amcan nos Lun. Llywyddwyd gan W. Williams, Ysw., Ivy House, Dolgellau. Cymerwyd rhan yn y cyfarfod gan y Parchn. Joseph Thomas, Carno; David Davies, Abermaw; Robert Parry, Ffestiniog; Griffith Williams, Talsarnau; D. Evans, M.A.; William James, B.A.; Owen Jones, B.A.; a D. Jones, Llanelltyd. Cyflwynwyd anerchiad gyda y rhodd, yn yr hon y cyfeirir at wasanaeth effeithiol Mr. Morgan i'r Cyfundeb yn gyffredinol, ac i eglwysi Gorllewin Meirionydd yn arbenig. Pan y cymerwyd ef oddiwrth ei lafur i dderbyn ei wobr, yn 1871, cynyrchwyd teimlad dwys a galar cyffredinol yn y wlad, ac nid rhyfedd hyny, oblegid yr oedd y blaned ddisgleiriaf wedi machludo.

Y PARCH. ROBERT WILLIAMS, ABERDYFI. (A.D. 1842—1862).—Daeth ef i fyw i Aberdyfi y flwyddyn a nodir, a bu am ugain mlynedd yn weinidog llafurus a defnyddiol yn y sir. Nid oedd yn ail i'r penaf yn y Cyfarfod Misol mewn llafur gyda'r weinidogaeth, ac ymroddiad i'r gwaith yn gyffredinol. Cymeriad disglaer, duwiolfrydedd dwfn, diwydrwydd ac ymroddiad i bregethu efengyl y deyrnas, a roddodd iddo ef safle uchel fel gweinidog i Grist. Gwnaeth lawer o waith hefyd mewn adeiladu y saint ac ymgeleddu yr eglwysi, a bu yn gyfrwng neillduol o arbenig yn llaw yr Arglwydd i ddyrchafu crefydd yn ei wlad. Angenrhaid a osodwyd arno er enill bywoliaeth i'w deulu, i fod mewn cysylltiad â masnach ar hyd ei oes, ond o'r dosbarth o weinidogion y bu raid iddynt ymdrafferthu gyda'r byd, anhawdd ydyw cyfeirio at neb a gyfodwyd yn gymaint uwchlaw y byd ag efe.

Bu ar fedr, unwaith neu ddwy, symud i Ddolgellau, i gymeryd gofal eglwys barchus Salem, ac y mae gohebiaeth ar gael a fu rhyngddo â swyddogion yr eglwys i'r amcan hwnw, ond oherwydd rhyw amgylchiadau neu gilydd, syrthiodd y bwriad i'r llawr. Rhydd y Parch Dr. Edwards, y Bala, ei syniad am dano mewn llythyr at Mr. Williams, Ivy House. Gan eu bod mewn angen am weinidog yn Nolgellau ar y pryd, ac mewn ymchwiliad am un, enwa Dr. Edwards yn ei lythyr un o wyr blaenaf y Cyfundeb fel y cymhwysaf y gwyddai am dano, ac yna dywed,—"Next to him I would place Mr. Robert Williams, Aberdovey. In some respects I would place Mr. Williams first. In weight of character, piety, wisdom, and general usefulness, I doubt whether you could have any one to equal him. But as preaching talent is an essential qualification at Dolgelley, for this reason, and for this alone, I place him second on the list."

Cafodd Mr. Robert Williams ei fedyddio mewn modd arbenig iawn gan ysbryd y Diwygiad yn 1859—60. Yn y tymor hwnw yr oedd ei weinidogaeth yn anarferol o rymus, a thrwyddi hi dychwelwyd lliaws mawr o bechaduriaid at y Gwaredwr. Yr amser hwn, gwnelai sylwadau ar yr Ystadegau yn Nghyfarfod Misol y Dyffryn, ac wrth weled fod nifer mawr o ddychweledigion wedi eu hychwanegu at yr eglwysi, a bod gofal am danynt ar ol eu dychweliad, dywedai rywbeth i'r perwyl a ganlyn—Er fod Iesu Grist yn ddirmygus pan oedd yma yn y byd, yr oedd ganddo ddillad gwerthfawr. Ni wnaeth y milwyr gyfrif yn y byd o ddillad y lladron, ond wedi croeshoelio, Iesu Grist, fe aethant i ranu ei ddillad ef. Mae yn dda iawn gen i feddwl fod miloedd rhwng bryniau Meirion nad ydynt ddim am adael i'r Iesu fod mewn dillad gwael.

Pregethai mewn Cyfarfod Misol yn Mhennal, pan oedd y Diwygiad yn ei bwynt uchaf, ac y mae hanes y bregeth hono yn dangos pa mor nefolaidd oedd ysbryd y pregethwr, a pha mor uchel yr oedd teimladau y gwrandawyr yn amser y diwygiad hwn. Yr oedd y gorfoledd mor gyffredinol fel mai trwy anhawsder mawr y gallai y pregethwr gael myned ymlaen i bregethu. Wedi i'r bregeth gyntaf fyned trosodd, ac i Mr. Williams gymeryd ei destyn, dywedai yn debyg i hyn:—"Da chwi, ceisiwch ymlonyddu am ychydig; mae yn dda iawn gen i weled y teimladau uchel yma, ond phery rhain ddim yn hir. Rhaid i ni gael rhywbeth fydd yn aros gyda ni-rhywbeth fyddo yn adeiladaeth i ni wedi i'r teimladau yma fyned heibio. Mi fyddai yn dda gen i pe gallech ymdawelu, i mi gael myned ymlaen i ddweyd tipyn o'r gwirionedd." "O'r gora," ebe hen gymeriad hynod oedd wedi dyfod bellder o ffordd i'r cyfarfod, o'r enw Dic Pugh, Llanwrin, yr hwn a safai yn yr alley yn agos i ganol y capel-"o'r gora, mi gymra i ofal y patch yma, i'w cadw nhw 'n ddistaw." Ac yn ol ei air, pan y digwyddai i'r bobl roddi ymollyngiad i'w teimladau, gwnai ei oreu i'w cadw yn ddistaw, dywedai wrth hwn am dewi, rhoddai ysgydwad i un arall, a chauai ei ddwrn ar y lleill. Ond bob yn dipyn yr oedd ysbryd y pregethwr yn gwresogi, a chyda'i lais nefolaidd dywedai yn gynes am y Gwaredwr, a'r groes, a'r gwaed, fel na ellid cadw y bobl rhag tori allan i waeddi eto. "O ho!" ebe Dic Pugh, "os ewch chwi ymlaen y ffordd yna yn y pulpud, fedra i ddim cyflawni fy addewid i gadw y bobl yn ddistaw."

Y PARCH. ROBERT PARRY, FFESTINIOG (A.D. 1845—1880).—Rhoddwyd crynhodeb o'i hanes eisoes mewn cysylltiad âg eglwys Peniel, lle bu yn llafurio gyda chysondeb a llwyddiant am flynyddau lawer. Yr oedd efe yn wr deallus, yn ddiwylliedig ei feddwl, a thrwy fawr ymdrech wedi cael addysg Athrofaol. Yn fuan wedi iddo ddechreu pregethu ac ymsefydlu yn Ffestiniog, daeth i gymeryd rhan flaenllaw gydag achosion yr eglwysi yn y sir. Perthynai iddo lawer o ddeheurwydd gyda phob gwaith a gymerai mewn llaw. Gwnaeth lawer mewn holwyddori yr ysgolion-lle y rhedai ei dalent yn fwyaf amlwg-mewn holi blaenoriaid, mewn ymweled â'r eglwysi, ac mewn cyflawni yr holl orchwylion a berthynent i'r Cyfarfod Misol. Elai i gynal cyfarfodydd eglwysig i'r ardaloedd o amgylch ei gartref, cyn i weinidogion gael eu gosod ar yr eglwysi. Gweithiodd yn ddiwyd a ffyddlon, mewn amser yr oedd y gweithwyr yn anaml yn y sir.

Y PARCH. GRIFFITH WILLIAMS, TALSARNAU (A. D. 1848 —1881).—Ni bydd rhestr y gweithwyr a'r gofalwyr am eglwysi Gorllewin Meirionydd, mewn un modd yn gyflawn heb i Mr. G. Williams fod ynddi. Yr oedd yntau, fel ei gyfaill eu, a'i gyd-lafurwr, Mr. Robert Parry, yn ddeallus a diwylliedig, ac yn wr wedi ei ddysgu yn mhethau teyrnas nefoedd. Dygwyd ef i fyny o'i febyd yn sŵn gweinidogaeth pregethwyr Sir Feirionydd, a phreswyliai yn ystod ei oes gyhoeddus, o fewn llai na deng milldir i gartref y Diwygiwr mawr o'r Dyffryn. Yr oedd wedi yfed yn helaeth o'i ysbryd, a theimlai gymaint ar ol ei golli, nas gallai wneuthur dim am lawer o amser ond hiraethu am dano. Clywsom ef yn dweyd yr adeg hono, "ei fod yn teimlo fod darn mawr o'r byd wedi ei gymeryd i ffordd. pan gymerwyd Mr. Morgan o hono." Rhedai ei ddefnyddioldeb yntau, i fesur mawr, yn yr un cyfeiriad a gweinidog enwog y Dyffryn. Efe a Mr. Robert Parry, ar ol colli y gweinidogion hynaf, fyddent yn cynal i fyny freichiau Mr. Morgan. Yr oedd yn Mr. Griffith Williams raddau helaeth iawn o gymhwysderau i ofalu am yr eglwysi-"arafwch, a phwyll, a gwelediad gwyliedydd." Yr oedd ynddo ddigrifwch ac arabedd, a byddai ei arabedd ef fel eiddo Mr. Humphreys, yn gwasanaethu er adeiladaeth. Ei nôd a'i uchelgais oedd bod yn ddefnyddiol a gwasanaethgar gydag achos yr Arglwydd. A chyrhaeddodd y nod hwn i foddlonrwydd mawr. Byddai yn meddwl, yn cynllunio, ac yn trefnu rhyw ddiwygiadau yn wastadol. Llafuriodd yn ddiwyd mewn amryw gylchoedd, ac yn raddol cyrhaeddodd amlygrwydd a dylanwad, fel y teimlwyd fod ei golli yn golled fawr i'r achos yn gyffredinol. Nid oes le i ymhelaethu; cyfeiriwn y darllenydd at ei Gofiant, yr hwn a gyhoeddwyd yn y flwyddyn 1886.

Y PARCH. DAVID DAVIES, ABERMAW (A. D. 1834—1887).—Perthynai ef i Sir Feirionydd fel pregethwr a gweinidog o'r dechreu, ond ychydig dros ugain mlynedd y bu yn preswylio yn y rhan Orllewinol, ac am y deuddeng mlynedd olaf o'i oes, gwasanaethai yr eglwysi a'r achos yn gyffredinol, gan ei fod wedi cwbl ymryddhau oddiwrth bob gofalon eraill. Y tymor hwn, a phob amser ar ei oes, safai ymhlith y rhai blaenaf gyda. phob gwaith cyhoeddus-efe fyddai yr ymadroddwr penaf yn. wastad lle bynag y byddai. Gwnaethpwyd rhai nodiadau am dano mewn cysylltiad â'r Abermaw, a dywedwyd ddarfod i'w weinidogaeth ar rai adegau o'i fywyd fod yn danbaid iawn, ac: iddo fod yn foddion i droi llawer o bechaduriaid i gyfiawnder.. Parhaodd y tanbeidrwydd a'r gwresogrwydd hwnw ynddo hyd ddiwedd ei ddyddiau. Cariai wres gydag ef i dymheru yr hinsawdd, boed hi mor oer ag y byddo. Teimlodd ei hun hefyd, megis y crybwyllwyd, yn berffaith yn ei elfen, byth wedi ymryddhau oddiwrth ofalon bydol yn Mhenmachno.. Pregethu yr efengyl, darllen llyfrau newyddion, a gwasanaethu yr eglwysi, fyddai ei hoff waith. Byddai ef yn rhan o'r Cyfarfod Misol mor hanfodol ag ydyw y coed yn rhan o'r capel. Dacw ef i'w weled ymhob un o honynt. Eistedda yn nghongl y sêt fawr, ac ni feddylia neb am i'r un drafodaeth gael ei chario ymlaen heb iddo ef siarad. Dacw ef yn codi i fyny, ac yn hwbian ymlaen a'i ffon, byth wedi ei gloffni trwy y ddamwain a gafodd, ac ar ol y frawddeg gyntaf, rhydd nôd sydyn ymlaen i'w ben. Mae ei lais fel cloch, ar darawiad, yn cyraedd cwr pellaf y cynulliad, ac mae pawb ar y gair cyntaf yn deffro. Pawb yn gwrando bellach â'u clustiau a'u geneuau, ac y mae ffrwd o ddawn yn dylifo allan fel yr afon ar li, ac nid oes neb. a wyr ymha le y terfyna y siaradwr. O un peth y mae sicrwydd, y bydd y cyfarfod wedi cael ysgydwad drwyddo cyn Fel John Jones, Tremadog, mewn y gorphena ei araith. ymadroddi y rhagorai ef yn fwy na dim arall. Nid ydys, ar un cyfrif, i dybio ei fod yn ddiallu; yn hytrach, yr oedd ganddo feddwl treiddgar, gafaelgar, a dychymyg cryf a bywiog. "Mi fedraf fi," ebai wrth y Parch. R. H. Morgan, M.A., "ddesgrifio pethau yn well nag y medraf wneyd dim arall. Mi fyddaf yn gweled peth o'm blaen, ac ni fydd byth ball am air i'w ddarlunio." Dyna yn union ddarluniad o hono. Ond elai weithiau i ganol yr anialwch gyda'i ddesgrifiadau. Clywyd ef mewn lle cyhoeddus yn darlunio y march yn rhedeg. Dilynai y gymhariaeth yn bur bell, trwy ddweyd fod y march yn galpio ymlaen, yn chwyrnellu myn'd, i fyny y rhiwiau, heibio'r cornelau, trwy ddanedd y llidiardau, ac i ble yr aeth o yn y diwedd ond at ei dòr i'r mwd. Cipid yntau ar ei hynt weithiau, nid yn annhebyg i'r march wedi ei gynhyrfu gan swn y gerbydres, ac odid fawr na byddai wedi myned dros y cloddiau cyn y dychwelai. Gwelwyd ef ryw dro wedi cael llosgi ei fysedd gyda'i gyhoeddiadau Sabbothol. Ymhen. rhai blynyddau wedi hyny yr oedd ymdrafodaeth ynghylch peidio rhoddi cyhoeddiadau gymaint o amser ymlaen llaw. Teimlai llawer yn gryf oherwydd afresymoldeb y peth, a dadleuai rhai brodyr dros beidio rhoi cyhoeddiadau ond hyd ddiwedd y flwyddyn oedd yn cerdded ar y pryd. Yr oedd Mr. Davies ar y fynyd yn erbyn y cynygiad hwnw. "Na," meddai, "mi wnes i gytundeb i beidio eu rhoi pan fu hyn dan sylw flynyddoedd yn ol, ac fe wnaeth pawb o honoch chwi gytundeb, i beidio gofyn na rhoi cyhoeddiad hyd nes y deuai y Dyddiadur allan yn mis Tachwedd; ac erbyn i'r mis hwnw ddyfod, yr oeddych chwi y blaenoriaid yma wedi llenwi eich dyddiaduron, a 'doedd gen i unlle i fyn'd; a'r flwyddyn hono, mi fu raid i mi fyn'd i Cwmystwyth, a Chwm Penmachno, a Chwmpenanar, a Chwmeisian, a 'dwn i sawl cwm y bum i ynddynt; a'r flwyddyn hono yr eis i Leyn ac Eifionydd, ac y torais i fy nghoes."

Fe fu Mr. Davies, modd bynag, o wasanaeth mawr i achos crefydd trwy ei oes faith. Byddai fel castell i lechu yn ei gysgod mewn achosion o ddisgyblaeth yn yr eglwysi, a phan y cyfodai anghydwelediad yn nghynadleddau y Cyfarfod Misol. Arosai yn y cyfarfodydd trwy y dydd dranoeth, ac, fel rheol, efe fyddai un o'r ddau i bregethu y nos olaf, a byddai yn wrandawr astud, a chyda'i amen, rhoddai lawer o gynorthwy, oddigerth y byddai wedi cymeryd rhyw syniad yn erbyn y pregethwr. Ar ddau amgylchiad neillduol yn nghynadleddau y Cyfarfodydd Misol, deuai ei ragoriaeth i'r golwg tuhwnt i bawb, sef wrth ymddiddan â'r blaenoriaid, ac yn y cyfarfod eglwysig cyhoeddus boreu yr ail ddydd. Ni bu neb yn y sir, yr oes hon beth bynag, yn debyg iddo yn myned trwy y gwasanaeth hwn. Yr oedd yn ddiguro am ei sylwadau parod a phwrpasol ar y cyfryw achlysuron. Wele rai engreifftiau o honynt. Mewn Cyfarfod Misol yn Aberllefeni, gwrandawai ar yr hen bererin Rowland Evans yn adrodd ei brofiad, a gofynai, "Sut mae'r achos yma?" "Wel, 'does yma ddim byd neillduol i'w ddweyd am dano," oedd yr ateb; "mae pob peth yn myn'd ymlaen yn eithaf tawel yma!" "O, yr ydych yn cytuno a'ch gilydd, ynte?" meddai Mr. Davies. "Ydym," atebai R. E., "ond y mae arna' i ofn ein bod ni yn cytuno i gysgu." A dangosai yr hen flaenor ei fod yn ambeus ac ofnus am ei fater tragwyddol. "Wel," meddai Mr. Davies drachefn, "pur anniben ydyw yr hen Fethodistiaid yma yn gwneyd sum bywyd tragwyddol. Mae rhai yn ei gorphen hi mewn mynyd, a dyna'r pryder i gyd trosodd; ond am yr hen Fethodistiaid, rhyw ffigiwr yrwan a ffigiwr yn y man y mae nhw yn ei roi; ond yn y diwedd, mae nhw yn bur siwr o gael y total yn iawn—bywyd tragwyddol."

Yn yr un gymydogaeth, yr oedd nifer y capelau wedi amlhau, a'r boblogaeth wedi cynyddu, yr hyn a alwai am wneuthur cyfnewidiad yn y Teithiau Sabbothol, a dygwyd y mater gerbron y Cyfarfod Misol, i geisio ei benderfynu. Ond methu dyfod i gydwelediad yr oeddis, er dwyn cynygion lawer ymlaen, gan fod rhwystrau yn cyfodi o'r fan yma, a rhwystrau o'r fan draw. O'r diwedd cyfodai Mr. Davies i fyny, a dywedai, "Dydyw hyn yn ddim byd ond bachgen wedi myn'd yn fwy na llon'd ei ddillad. Mi welsoch y bachgen wedi tyfu trwy ei ddillad; ei dad wedi rhoddi dillad nwddion iddo, ond mae'r bachgen wedi tyfu trwy ei ddillad—ei freichiau a'i goesau wedi tyfu trwyddynt, ac mae'n rhywyr cael dillad nwddion iddo eto, ac mae'r tad yn llawenhau drwyddo fod y bachgen wedi tyfu trwy yr hen ddillad. Yr un peth yn union sydd yma—y teithiau wedi tyfu trwy eu dillad. Fe fu yr hen dadau wrthi yn yr ardaloedd hyn, yn ceisio gwneyd dillad i ffitio'r teithiau. Ond bellach, y maent wedi tyfu trwy'r hen ddillad, ac mae eisiau dillad nwddion. Testyn i lawenhau sy' genym ni, fod eisian i ni wneyd dillad nwddion i'r teithiau yma sy' wedi tyfu trwy yr hen ddillad."

Bu y Cyfamod Gras yn fater seiat am wyth o'r gloch yr ail ddydd fwy nag unwaith, a chofir i Mr. Davies wneuthur sylwadau godidog wrth siarad ar y pwnc. Gwnaeth sylwadau tebyg mewn mwy nag un cyfarfod. "Dyma lle mae cadernid y Cristion," meddai, "o'r fan yma mae'r cwbl yn dyfod iddo; o'r cyfamod mae'n derbyn ei gynhaliaeth ar hyd ei fywyd, ac i gysgod y cyfamod y mae'n rhedeg i lechu am noddfa tua'r diwedd. Yn debyg iawn fel y byddwch chwi yn gweled y geifr tua'r creigiau yna. Oddeutu'r graig y mae'r bwch yn troi trwy'r dydd, ac i dop y graig y mae'n myn'd i orwedd at y nos. O'r graig y mae'n cael ei fwyd-deilen o'r fan yma a deilen o'r fan acw rhwng agenau y graig, ac y mae yn ymgripio rhwng ei danedd hi o foreu hyd y nos. Ac wedi delo'r nos, mae o'n gorwedd i lawr ar y graig. Ac mae'n nhw yn dweyd mai ar y graig noeth y myn o fod, heb yr un blewyn na'r un gwelltyn rhyngddo â hi; a dacw fo, yn gorwedd fel brenin ar dop y graig, yn edrych i lawr ar y byd i gyd odditano, uwchlaw y coed a'r ceunant, a'r llynoedd a'r afonydd—mae o yn ei gartref ar dop y graig. Felly mae'r Cristion, ymhob storom y mae creigiau'r cyfamod o dan ei draed o. Mi fu Mr. Charles mewn tipyn o drallod, pan y rhewodd ei fawd o, wrth groesi Migneint yna, yn y flwyddyn 1799, ond dacw yntau yn myn'd i dop y graig, ac yn y fan hono yn cyfansoddi ac yn canu yr hen benill,-

Syfled iechyd, syfled bywyd,
Cnawd a chalon yn gytun,
Byth ni syfla amod heddwch
Hen gytundeb Tri yn Un.'"

Ar lawer adeg, gyda sylwadau o'r natur yma, cariai gydag ef gynulleidfaoedd cyfain. Y mae dwfn hiraeth yn nheimlad ei frodyr ar ei ol hyd heddyw.

Y PARCH. ROBERT ROBERTS, DOLGELLAU (A. D. 1875—1889). Efe yw yr olaf hyd yn bresenol o'r cedyrn a gwympodd. Ychydig gyda phymtheng mlynedd fu ei arosiad yn y sir hon, ond yr oedd yn ŵr amlwg a blaenllaw yn y Cyfundeb er's llawer o amser, wedi ei ordeinio yn gyflawn weinidog yn y flwyddyn 1853. Feallai mai y crynhodeb goreu ellir ei roddi o'i hanes ydyw yr hyn a ymddangosodd yn y Dyddiadur am y flwyddyn hon. Yr oedd efe yn enedigol o Sir Ddinbych. Oddeutu yr adeg y dechreuodd bregethu, aeth i Athrofa y Bala, a ffurfiodd yno gylch o adnabyddiaeth eang. Yr oedd ganddo ymlyniad mawr wrth yr athrofa, ac efe oedd ei hysgrifenydd am dymor ar ol marwolaeth y Parch. E. Morgan. Ar ol gorphen ei addysg, ymsefydlodd dros ychydig yn y Rhyl. Rhoddwyd galwad iddo oddiyno i fod yn weinidog yn eglwys Seion, Llanrwst. Wedi bod yn gweinidogaethu yno am rai blynyddau, bu yn preswylio yn Abergele. Yn y flwyddyn 1875, derbyniodd alwad oddiwrth eglwys Salem, Dolgellau, ac mewn canlyniad, symudodd i dreulio gweddill ei oes o fewn cylch Cyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd. Ymhen y ddwy flynedd wedi ei ddyfodiad i Ddolgellau, adeiladwyd capel Bethel, ac yr oedd efe o hyny allan yn weinidog ar y ddwy eglwys. Yn Sir Feirionydd, yn gystal ag yn Sir Ddinbych cyn hyny, yr ydoedd yn weithgar a defnyddiol gyda theyrnas yr Arglwydd Iesu, ac ar y blaen gyda holl symudiadau yr achos. Rhedai cwrs ei feddwl yn gryf gyda threfniadaeth eglwysig. Gwnaeth lawer, ac feallai fwy na'r un gweinidog arall, i gael pethau i drefn yn y Cyfundeb, yn enwedig gyda'r Ysgol Sabbothol a chyfrifon eglwysig. Mae ei lyfr a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar Elfenau Methodistiaeth yn gofgolofn o'i allu, a'i fedr, a'i lafur gyda threfniadaeth eglwysig. Yn y gwasanaeth hwn a wnaeth i'w wlad, safai yn uwchaf ymysg lliaws ei frodyr. Yr oedd yn ŵr pwyllog, a doeth, a nodedig o gymdeithasgar; ei gymeriad yn bur a difrycheulyd; ei weinidogaeth yn ymarferol a gafaelgar; ei ysbryd bob amser wedi ei drwytho yn yr hyn oedd gywir, a dihoced, a chrefyddol; ei farn yn addfed ar bob mater, a holl amcan ei fywyd wedi ei gysegru yn erbyn pechod a drygioni, yn ei holl agweddau. Ar gyfrif ei fywyd diargyhoedd, ei ymroddiad diball, a'r gwasanaeth a wnaeth i'r Methodistiaid mewn llawer cylch, bydd ei goffadwriaeth yn barchus dros amser hir i ddyfod. Bu farw Hydref 23ain, 1889, yn 71 mlwydd oed.

Y gweinidogion y rhoddwyd ychydig ddarluniad o honynt oeddynt arweinwyr y Cyfarfod Misol o'i sefydliad hyd yn awr. Heblaw hwy, bu amryw weinidogion a phregethwyr eraill yn dra gwasanaethgar yn eu dydd. Lewis William, Llanfachreth, yn ddiameu oedd y ffyddlonaf o holl lefarwyr Sir Feirionydd. Dyn ydoedd a gyfodwyd gan yr Arglwydd, i wneuthur gwaith ardderchog, mewn amser o dywyllwch ac anwybodaeth mawr. Mae y gyfrol gyntaf o'r hanes hwn wedi ei britho â chyfeiriadau at y gwaith a wnaeth. Richard Roberts, Dolgellau, a wnaeth lawer o wasanaeth gyda'r Ysgol Sabbothol, ac mewn pregethu yn lleoedd bychain y sir, yr un adeg a dyddiau Lewis William. Bu hefyd dros hir amser yn bregethwr adnabyddus a chymeradwy drwy ranau helaeth o'r wlad. Parhaodd yn ffyddlon ar y maes hyd yr amser yr oedd y to presenol o bregethwyr yn dechreu ar eu gwaith. Oddeutu yr un amser y terfynodd oes Humphrey Evans, Maethlon. Gwr ffraeth a diddanus oedd efe, ac un yn meddu, fel y dywedir, gryn lawer o asgwrn. Rhoddai i'r gwrandawyr "ddidwyll laeth y gair," a byddai ar brydiau o dan yr eneiniad, yn enwedig wrth weinyddu yr ordinhad o Swper yr Arglwydd. Un o feibion natur ydoedd, ac wedi derbyn ei addysg yn ysgol natur. William Jones, Maethlon, a gymerwyd i'r orphwysfa rhyw ddeng mlynedd o'i flaen yntau. Cofir am dano fel un hyfryd iawn i'w wrando. Meddai lais a dawn mwy poblogaidd na llawer o'i gyd-oeswyr, natur gymdeithasgar, a dull enillgar. Dechreuodd ei yrfa grefyddol yn niwygiad Beddgelert, a bu graddau o ôl yr amser hwnw arno ar hyd ei oes. Pregethwr melus a chymeradwy iawn y cyfrifid ef gan bawb. Cyd-oesai Dafydd Williams, Talsarnau, â'r brodyr a enwyd. Yr oedd ef yn fwy sylweddol na rhai o honynt, ond ei ddawn yn llai poblogaidd. Dilynodd Humphrey Williams, Ffestiniog, lawer ar y Cyfarfodydd Misol am ddeugain mlynedd, a chlywid ei leferydd ynddynt yn fynych. Defnyddiai gymhariaethau a gwnai sylwadau tarawiadol; a chan ei fod yn meddu graddau o ffraethineb a dawn ymadrodd lled helaeth, gwnai argraff ar y cynadleddau pan y byddai eraill wedi methu. Ac am ei ymdrechion yn gwasanaethu crefydd yn y sir trwy lawer o anhawsderau, mae yn sicr o fod yn haeddu clod. Yr oedd Robert Griffith, Bryncrug, yn hen was i Mr. Humphreys. Gŵr serchog, crefyddol, hawdd ei drin, a pherffaith ddidwyll yn ei holl ymwneyd a phethau y ddau fyd. Yr oedd Griffith Evans, Bryncrug, wedi hyny o Aberdyfi, yn fwy deallus na llawer, yn foneddigaidd ei ymddygiad, yn ddiargyhoedd ei rodiad, ac yn perchen argyhoeddiadau dyfnion. Cyfrifid Owen Roberts, Llwyngwril, gan y gwrandawyr yn bregethwr o radd uchel, a bu am ran o'i oes yn gymeradwy, a llawer o alwad am dano. Gwasanaethodd Owen Roberts, Llanfachreth, ardaloedd ei gartref gyda ffyddlondeb a chymeradwyaeth mwy na'r cyffredin, ond daeth ei oes i'r pen cyn iddo ddyfod yn adnabyddus mewn cylch eangach. Bu Hugh Roberts, Corris, hefyd yn llafurus a defnyddiol yn ei weinidogaeth dros dymor hir.

Y mae rhai o'r blaenoriaid wedi llenwi lle amlwg gyda'r achos yn y sir yn ystod yr haner can' mlynedd diweddaf. Bu llu mawr o honynt, yn wir, yn nodedig o ddefnyddiol yn eu cartrefi, am y rhai y gwnaethpwyd coffhad ynglŷn â'r lleoedd yr oeddynt yn byw. Nid oes a fynom yn awr ond ag ychydig nifer a fuont fwyaf blaenllaw gyda gwaith y Cyfarfod Misol. Morris Llwyd, Cefngellcwm, a dreuliodd ran helaeth o'i oes yn dilyn y cyfarfodydd pan oedd dau pen y sir yn un, ac am dros bum' mlynedd ar hugain wedi hyny. Cafodd ef addysg yn moreu ei oes, ac yr oedd yn ŵr pwyllog, ac yn perchen barn gywir. Iddo ef yr ymddiriedid y cyfrifon, a'r arian, ac ato ef yr apelid am gyngor mewn achosion dyrus. Pe gofynasid pwy oedd y llareiddiaf o'r tô o hen flaenoriaid y sir, tebyg iawn mai yr ateb fuasai, Morris Llwyd, Cefngellewm. Cyfrifid William Ellis, Maentwrog, yn rhan hanfodol o'r Cyfarfod Misol yn ei amser. Ond llefaru y byddai ef, nid trefnu. Ystyrid ef y lleiaf o'r trefnyddion, a'r llefarwr penaf o'i urdd. Mewn cynghori, ymweled â'r eglwysi, trin materion pwysig yn yr eglwysi, safai ochr yn ochr â'r pregethwyr. Byddai Humphrey Davies, Corris, yn trefnu ac yn llefaru. Yr oedd ef yn wr meddylgar, hirben, medrus mewn gyru gwaith ymlaen. Efe yn fynych fyddai llywydd y Cyfarfod Misol. Perthynai iddo awdurdod a threfnusrwydd. Mr. Williams, Ivy House, Dolgellau, oedd un o'r tywysogion ymysg y blaenoriaid. Gwelir oddiwrth y cofnodion y byddai yntau yn fynych yn llywydd y Cyfarfod Misol. A bu yn cael ei anfon drosto i'r Gymdeithasfa a chyfarfodydd pwysig eraill, hyd yn nod cyn ei dderbyn yn aelod rheolaidd o hono fel blaenor. Cymerai ddyddordeb mawr yn yr achos yn allanol ac ysbrydol, fel y byddai yn trefnu ac yn ymdrafferthu, ac yn gwneuthur rhyw waith beunydd gyda rhyw ran neu gilydd o'r deyrnas. Mae eglwysi Gorllewin Meirionydd o dan ddyled fawr i'r boneddwr hybarch o Ivy House. Mr. W. Rees, Towyn, oedd ŵr o ymddangosiad boneddigaidd, a theimlad ystwyth; gosodai urddas ar y cyfarfodydd, a phan y cyfodai i siarad ynddynt, gyda'i sel danbaid a gwresogrwydd ei natur, cadarnhai ei frodyr. Yr oedd Thomas Jones, Corris, er's cryn amser cyn diwedd ei oes, wedi dyfod yn un o'r blaenoriaid mwyaf gweithgar ac ymroddedig a fu erioed yn y sir. Y mae pawb sydd eto yn fyw yn cofio William Mona Williams, Tanygrisiau, yn ŵr o safle anrhydeddus. Ar gyfrif yr amser maith y bu yn y swydd, ei ymroddiad llwyr i bob gwaith, ei gynghorion synhwyrlawn, a'i gyfarwyddiadau tadol, ni bu yr un blaenor gan y Cyfundeb yn haeddu parch dau—ddyblyg yn fwy nag efe. Wrth gofio am y llu mawr o'r dynion hyn a fuont yn wyr enwog gynt, onid oes gwir yn ngeiriau Zechariah—"Eich tadau, pa le y maent hwy? A'r proffwydi, ydynt hwy yn fyw byth?"

PENOD III. YR AMRYWIOL SYMUDIADAU O 1840 I 1890.

CYNWYSIAD.—Cyfrifon cyntaf y Cyfarfod Misol—Yr Ysgrifenyddion cyntaf—Engreifftiau o'r Cofnodion—Ymdrafodaeth ynghylch ail uno dau ben y sir—Y Parch. John Williams yn Ysgrifenydd, ac yn ymadad i'r America—Darluniad o'r Cyfarfod Misol yn 1849—Cymedrolwr y Cyfarfod Misol, a'r dull presenol o ethol llywyddion—Trefniad y Cyfarfodydd Misol i fyned ar gylch—Cofnodiadau pellach o'r Cof-lyfr—Eiddo y Cyfarfod Misol.

 AN ranwyd y sir yn 1840, dechreuwyd cadw cofnodion rheolaidd o weithrediadau y Cyfarfodydd Misol. Nid oedd y pryd hwn ond ychydig o gyfrifon yr eglwysi yn cael eu casglu; ymhen naw mlynedd wedi hyn yr argraffwyd hwy am y waith gyntaf. Un o'r pethau cyntaf ydym yn gael yn y Cof-lyfr ydyw enwau y llefarwyr, a rhestr o'r teithiau yn y Pen Gorllewinol o'r sir. Nifer y Teithiau Sabbothol ydyw 16; gweinidogion 3; pregethwyr 18. Ar ddiwedd yr un flwyddyn, yr oll o gyfrifon a gofnodir sydd fel y canlyn:—Gwrandawyr, 8344; aelodau mewn cymundeb, 2923; rhif y plant, 1404; derbyniwyd 587; ar brawf, 254; gwrthgiliodd, 20; diarddelwyd, 32; bu farw, 40. Yr oedd nifer yr aelodau eglwysig y flwyddyn hon yn fwy nag y gwelir hwy dros rai blynyddoedd wedi hyn. Dywed Methodistiaeth Cymru, "Bu chwanegiadau mawrion at yr eglwysi yn Sir Feirionydd yn y blynyddoedd 1839-40, er nad oedd rhyw gyffroad a gorfoledd nerthol yn eu dilyn; ond yr oedd arwyddion o bresenoldeb Duw yn y llef ddistaw fain,' " Y tebyg ydyw i'r cyfrif uchod gael ei wneuthur ar dop llanw y diwygiad hwn, ac i nifer o flynyddau o drai ddilyn ar ol y llanw, oblegid yn hanes dynion, fel yn hanes y môr, fe geir fod trai a llanw, a llanw a thrai, yn dilyn y naill ar ol y llall.

Y cyntaf a osodwyd yn Ysgrifenydd Cyfarfod Misol y rhan Orllewinol oedd Mr. John Jones, Plasucha', Talsarnau, wedi hyny o Ynysgain, gŵr medrus ac ymroddgar gyda phob gwaith crefyddol. Yn ei lawysgrifen ef y ceir y cofnodion am yr haner blwyddyn cyntaf, ond cyn i'r flwyddyn y gosodwyd ef yn ei swydd fyned allan, symudodd i Sir Gaernarfon i fyw. Y Parch. Daniel Evans, y pryd hwnw o Harlech, a gymerodd y gwaith ar ei ol, a bu yn ysgrifenydd dros ysbaid o chwe' blynedd. Byr ydyw y cofnodion y tymor hwn-gwaith pob cyfarfod yn myned i un tudalen o'r llyfr, a gwaith pob un yr un faint a'r llall, mis Ionawr yr un fath a mis Awst. Eu cynwys fel rheol ydyw, sylw ar y materion yr ymdrinid â hwy, ynghyd a phrofiad blaenoriaid y lle a'r rhai a dderbynid o newydd, a'r cynghorion a roddid iddynt. Un o'r penderfyniadau yn Nghyfarfod Misol Mai 6, 1810, ydyw,-"Penderfynwyd yn unllais ar i bob taith Sabbothol ofalu am anfon cenad i bob Cyfarfod Misol a chwarterol, a bod i bob Hefarwr ddyfod yno, neu anfon gair o'i hanes gyda brawd arall." Oes y teithio ydoedd, ac elai llawer o'u hamser i drefnu cyhoeddiadau rhai a ddelent i'r sir, ac i ganiatau i eraill fyned allan o honi. Byddai llawer o ddyfod i mewn a llawer o fyned allan y pryd hwnw. Rhoddir yr engreifftiau canlynol er dangos y gwaith fyddai gan y tadau i'w wneuthur, yn gystal ag o'u dull syml, ac weithiau lled ddigrifol o fyned trwy eu gorchwylion. Yn Nghyfarfod Misol Ystradgwyn, yn y flwyddyn 1840,Penderfynwyd i'r brodyr 'canlynol fyned allan o'r sir: Richard Roberts i Sir Fon; Richard Humphreys i Sir Drefaldwyn; a Robert Griffith, Dolgellau, heb benderfynu i ba le." Eto, "Dolgellau, Mawrth, 1841: rhoddwyd caniatad i Owen William fyned i Sir Aberteifi am naw diornod." Eto, "Seion, Mai, 1841: rhoddwyd caniatad i John Williams, Llanfachreth, fyned i'r Deheudir; David Williams, Talsarnau, i Sir Drefaldwyn; a Robert Griffith i ryw fan." Oddiwrth y penderfyniadau hyn, gwelir fod Robert Griffith, Dolgellau, yn sefyll mor uchel yn nghyfrif y brodyr fel y rhoddent ganiatad iddo fyned i'r fan y mynai, tra y gofelid dweyd wrth eraill pa bryd y disgwylid hwy i ddyfod yn ol. Blinid y teithiau gyda'r drefn o roddi cyhoeddiadau ymhell ymlaen, mor. bell yn ol a'r tymor hwn. Cawn y mater yn cael ei drafod yn Nghyfarfod Misol y Cwrt, Medi, 1844; ac anogwyd yma i syrthio yn ol ar yr hen drefn, sef "peidio rhoddi rhagor na dau fis."

Pan yr ymwahanodd y ddau ben i'r sir yn y flwyddyn grybwylledig, yr oedd dealltwriaeth yn bod i'r holl sir fod yn un yn y Cyfarfod Misol Chwarterol. Ac am rai blynyddoedd, bu rhai brodyr yn teimlo yn anesmwyth eisiau dychwelyd yn ol at yr hen drefn, i fod yn un yn gwbl oll fel cynt. Cwynid yn fynych oherwydd dieithrwch dau ben y sir i'w gilydd. A bu cynygiad gerbron fwy nag unwaith i ail ymuno. Ond yn mis Tachwedd, 1846, yr ydym yn cael y crybwylliad olaf ar hyn, "Rhoddwyd pleidlais yma yn gytun, mai bod fel yr ydym, yn ddau Gyfarfod Misol, sydd oreu i ni eto rhagllaw." Buwyd, pa fodd bynag, am flynyddoedd wedi hyn yn ystyried y Cyfarfod Chwarterol yn un. Byddai ystadegau blynyddol y ddau ben yn cael eu cyhoeddi yn un hyd o fewn deng mlynedd yn ol. Ac erys yr arferiad dda o gyd-gynorthwyo i ddwyn traul y Cymdeithasfaoedd trwy yr holl sir yn gwlwm effeithiol yr undeb hyd heddyw.

Yn Nghyfarfod Misol Tanygrisiau, Mai 7fed a'r 8fed, 1846 y mae olynydd i'r Parch. Daniel Evans yn cael ei benodi, a'r penderfyniad cyntaf a ysgrifenir gan yr ysgrifenydd newydd. ydyw yr un a ganlyn,—"Fod John Williams, Dyffryn (gynt o Ddolgellau), yn cael ei alw a'i osod i fod yn ysgrifenydd i'r Cyfarfodydd Misol yn mhen Gorllewinol Sir Feirionydd, yn lle y Parch. Daniel Evans, Penrhyn, yr hwn, oblegid ei lesgedd a'i fynych wendid, sydd wedi rhoddi i fyny y swydd; ac mai tâl y dywededig John Williams am y cyfryw lafur fydd pedair punt yn y flwyddyn, ynghyd a'r offeri a fo'n eisiau arno tuag at gyflawni y gwaith, megis papyr, llyfrau, &c., a bod iddo gael ei gynhaliaeth a'i lety yn y Cyfarfodydd Misol, fel rhyw swyddog eglwysig arall." Ysgrifenydd deallus a manwl oedd y Parch. John Williams. Cymerodd lawer o drafferth, am yr wyth mlynedd y bu yn y swydd, i gasglu swm mawr o fanylion am yr achos yn amgylchiadol, a'u dodi yn y cof-lyfr; ac nid yw yn ormod dweyd mai efe oedd y goreu a fu yn y swydd o'r dechreu. Er cael syniad o'i fanylwch, yn gystal a chipolwg ar y gweithrediadau yn ei amser ef, rhoddir i mewn yn y tudalen dilynol daflen o'i waith. Anfonwyd hi ganddo ar y pryd i'r Parch. Roger Edwards; ac wedi dyfod o hyd iddi ymhlith papyrau y gweinidog parchedig o'r Wyddgrug, trwy hynawsedd y Proffeswr Ellis Edwards, M.A., Bala, anfonwyd hi i wneuthur defnydd o honi ynglyn â'r hanes hwn:—

Daeth tymor y Parch. John Williams fel ysgrifenydd i fyny yn 1854, gan iddo yn y flwyddyn hono ymfudo i'r America. Yn Nghyfarfod Misol Abermaw, y 7fed dydd o Fawrth, y mae yn ffarwelio â'i hen gyfeillion, a llythyr o gyflwyniad iddo at y brodyr yr ochr draw i'r môr yn cael ei ddarllen yn un o'r cyfarfodydd cyhoeddus, wedi ei ysgrifenu gan Mr. Morgan, a'i arwyddo gan naw o weinidogion a thri o flaenoriaid y sir. Ac fel arwydd pellach o barch y brodyr tuag ato, rhoddwyd gorchymyn i'r trysorydd i'w anrhegu âg wyth bunt o bwrs y Cyfarfod Misol. Bu yn wasanaethgar iawn i grefydd ar ol ei fynediad i America, ac yn weinidog rheolaidd ar amryw eglwysi, a bu farw yn Waukesha, Wisconsin, Ebrill 30ain, 1887, yn 81 mlwydd oed. Yn y Cyfarfod Misol uchod, anogwyd y Parch. Robert Williams, Aberdyfi, i ymgymeryd â bod yn ysgrifenydd rhagllaw; ond ni wnaeth efe hyny. Mr. Morgan, fel y gwelir oddiwrth y llawysgrif, ydyw yr ysgrifenydd hyd ddiwedd y flwyddyn hono. Ar ddechreu 1855, penodwyd y Parch. William Davies, yn awr o Lanegryn, i'r swydd. Mae yntau, oherwydd amledd gorchwylion eraill, yn rhoddi ei swydd i fyny yn Nghyfarfod Misol Ionawr, 1873, a phleidlais unfrydol o ddiolchgarwch yn cael ei chyflwyno iddo am ei wasanaeth medrus a ffyddlon dros dymor maith. Yn yr un cyfarfod, etholwyd trwy bleidlais ddirgel, yr ysgrifenydd presenol, ac ail etholir ef bob blwyddyn o hyny hyd yn awr. Yr enw sydd i'w gael yn y cofnodion ar y llywydd, neu y cadeirydd, hyd oddeutu y flwyddyn 1860, ydyw Cymedrolwr. Mae yr enw, fel y cydnebydd pawb, yn hynod o arwyddocaol, ac ar lawer ystyr yn well na'r enwau a ddefnyddir yn bresenol. Ni byddai etholiad na dewisiad ar y cymedrolwr yn yr amser gynt; penodid rhyw frawd i'r swydd yn y fan a'r lle, ar ymgynulliad y brodyr ynghyd, trwy gynygiad a chefnogiad, a chyfodiad llaw y frawdoliaeth. Gwnaethpwyd cyfnewidiad yn y drefn hon drwy i Mr. Morgan ddwyn cynygiad ymlaen yn Nghyfarfod Misol Ionawr, 1869, i ddewis llywydd am flwyddyn, trwy bleidleisiad dirgel o'r holl weinidogion a'r pregethwyr, ynghyd âg un blaenor o bob eglwys a fyddo yn bresenol. Ar ol cryn lawer o ddadleu ynghylch hyd yr amser—rhai eisiau i'r llywydd fod yn ei swydd am chwe' mis, ac eraill yn dadleu dros dymor o dri mis—etholwyd Mr. Morgan yn llywydd am yr oll o'r flwyddyn hono. Wedi cael prawf ar y cynllun hwn am ddwy flynedd, ail ystyriwyd y mater, a mabwysiadwyd y cynllun o ethol dau lywydd yn mis Ionawr bob blwyddyn, pob un i lywyddu am chwe' mis.

Ar y dechreu, ni byddai unrhyw drefn na rheol gyda golwg ar amser a lle y Cyfarfodydd Misol. Byddai yn rhan o waith pob un i drefnu pa le y byddai y nesaf i fod. Agorai y brodyr blaenaf eu llyfrau, i weled pa le y digwyddai eu cyhoeddiadau fod, ac wedi rhyw gymaint o gyfnewid geiriau ar y mater, penderfynid i'r cyfarfod dilynol fod yn y lle ac ar yr amser fyddai yn cyfarfod â chyfleusdra y brodyr hyn. Mae y cynyg cyntaf tuag at drefn i'w gael ar ddiwedd 1847, pryd y dywedir i ymddiddan gymeryd lle ynghylch sefydlu y Cyfarfodydd Misol mewn plan, "ond gwrthwynebwyd hyny, a barnwyd mai gwell ydyw i ni barhau megis ag y byddid o'r blaen." Ond yn Nghyfarfod Misol Pennal, Mawrth, 1852, "rhoddwyd ar y Parch. Mr. Morgan i ffurfio cynllun o drefn ac amser y Cyfarfodydd Misol rhagllaw." Ac yn mis Hydref yr un flwyddyn, dygwyd ymlaen gynllun am bum' mlynedd, a phenderfynwyd ei argraffu ar gerdyn, a golygid iddo fod yn anghyfnewidiol, "oddieithr mewn amgylchiadau o Wyl neu Ffair." Yr oeddynt i gael eu cynal o hyn allan ar y Mawrth a Mercher cyntaf ymhob mis. Yn Nghyfarfod Misol Ionawr, 1856, penderfynwyd i gynal y Cyfarfodydd Misol ar y Llun a Mawrth cyntaf yn y mis. Dyna amser dechreuad y drefn hon. Bu rhai o'r hen bregethwyr yn cwyno yn arw yn erbyn i'r cyfarfodydd ddechreu ar ddydd Llun, gan y byddent yn flinedig ar ol teithio bellder ffordd o'u taith y Sabbath blaenorol. Dadleuid, modd bynag, yn gryf a llwyddianus, fod y drefn o'u dechreu ddydd Llun yn bwyta llai o amser y gweinidogion a'r pregethwyr. Cofir gan rai eto fel y dadleuid yn bybyr y blynyddoedd cyntaf yn erbyn newid y cynllun mabwysiedig, oblegid byddai gan hwn a'r llall eu gwahanol resymau tuag at gyfarfod eu hamcanion personol eu hunain. Digwyddai dros ryw dymor fod Cyfarfod Misol Arthog yn disgyn bob tro ar yr wythnos gyntaf yn Mai. A phan yr hysbysid amser hwn yn y cyfarfod y mis blaenorol, byddai John Lewis, blaenor Seion, bob amser ar ei draed, ac yn dywedyd, "Tawlwch o bythefnos yn mhellach, wir; fe fydd y gwair wedi darfod, a'r borfa heb godi." Golygai yr hen flaenor didwyll fod eisiau gwneuthur chwareu teg â'r ceffylau, y rhai yr amser hwnw a wnelent i fyny ran bwysig o'r Cyfarfod Misol. Wrth ei weled yn son am yr un peth bob tro, cyfodai Mr. Morgan i fyny un adeg a dywedai, "John Lewis, gadewch i'r Cyfarfod Misol fod yn ei amser; mi af fi a fy ngheffyl adref, ac fe ddeuwn yn ol acw dranoeth." Yr ydym yn cyfarfod â phethau lled hynod ynglyn â dygiad y gwaith ymlaen ddeugain mlynedd yn ol, megis y cofnodiadau canlynol: "Derbyniwyd 6c. o arian drwg mewn casgliad;" "daeth dymuniad o Abertrinant am gael maddeu pum' tro o'r casgliad bach;" "maddeuwyd wyth tro i Maethlon oblegid eu camgymeriad;" "anghofiodd yr hen dad Lewis Morris dalu y tro mis dros Seion (swllt); oblegid ei oedran maddeuwyd y tro iddo." Ceir hefyd oddeutu yr un pryd lawer o benderfyniadau pwysig wedi eu mabwysiadu, "Mai diangenrhaid yw gweinyddu y Sacrament i rai cleifion, ac ar farw, a bod eisiau athrawiaeth ar hyn yn yr eglwysi." Penderfynwyd fod y Cyfarfod Misol yn anog swyddogion y gwahanol eglwysi i gyd-gyfarfod-unwaith yn y mis neu rywbeth o'r fath-i drafod achosion yr eglwys, ac os na bydd ganddynt ddim achos neillduol i'w drafod, ar iddynt dreulio y cyfarfod mewn cyd-weddio." "Fod rhybudd cyffredinol i gael ei roddi ymhob eglwys, na byddo i neb arfer esgeuluso dyfod i'r society yn wythnosol: ac os na etyb hyn y diben, fod cenadwri bersonol i'w hanfon at y cyfryw a fyddo felly deirgwaith, oddiar esgeulusdra, am iddynt ddyfod i'r society, ac yna ymddiddan â hwy yn gyhoeddus ar hyn yn unig; ac os na etyb hyn y diben i'w diwygio, yna eu bod i'w tori allan, a'u diarddel o'r eglwys." Yn Nghyfarfod Misol Mai, 1846, mabwysiadwyd y ddau benderfyniad canlynol,—1. "Nad oes yr un capel newydd i'w adeiladu, na'r un hen, ychwaith, i gael ei adgyweirio, heb barotoad arian at hyny yn flaenorol, yn ol penderfyniad Cymdeithasfa Chwarterol y Drefnewydd." 2. "Fod arian yr eisteddleoedd a dderbynir oddiwrth gapelau diddyled, yn of barn y cyfarfod hwn, i gael eu traianu fel y canlyn,—(1) Un rhan i fyned at adgyweirio yr addoldai; (2) yr ail ran tuag at gynal yr Athrofa; (3) y drydedd ran at gynorthwyo y weinidogaeth." Ymhen y chwe blynedd ar ol hyn, yn y cynulliad yn Llanelltyd, ceir penderfyniad arall yn cael ei fabwysiadu ar y mater olaf, "Fod arian eisteddleoedd pob lle i gael eu defnyddio gan bob eglwys at yr achos yn y lle hwnw, ond bod y Cyfarfod Misol i anfon arolygwr yno bob blwyddyn, i edrych pa fodd y defnyddir hwynt." "Ni ddylai neb ostwng na chyfnewid dim yn mhrisiau yr eisteddleoedd, na gwneuthur dim cyfnewidiadau, ychwaith, perthynol i'r capel, yr ystabl, &c., heb ofyn a chael caniatad y Cyfarfod Misol i hyny yn gyntaf." Ac unwaith ceir y penderfyniad, "na thelir mwyach ddim o ddyledion neb." Gwaith a gymerodd lawer o amser y Cyfarfod Misol am bum' mlynedd ar hugain ydoedd, arolygiaeth yr eglwysi, sef gosod gweinidogion i ofalu am danynt. Ond gan mai hyn yw mater y benod nesaf, awn heibio. Treuliwyd llawer o amser, hefyd, trwy yr holl flynyddoedd, i drefnu rhyw foddion i gynorthwyo llefarwyr methedig, a'u gweddwon, a'u plant. Flynyddoedd yn ol casglwyd rhyw gymaint o arian at wahanol achosion, llôg y rhai a ddefnyddir hyd heddyw i gynorthwyo yr achos mewn amrywiol ffyrdd. Yn Nghyfarfod Misol Ionawr, 1890, darllenodd y trysorydd, Mr. E. Griffith, U.H., Dolgellau, yr adroddiad canlynol o'r Drysorfa a elwir Eiddo y Cyfarfod Misol,- Yn y Gymdeithasfa a gynhaliwyd yn Nolgellau, Medi, 1841, cytunwyd ar amryw benderfyniadau mewn cysylltiad â'r Athrofa yn y Bala; ac yn.un peth, penodwyd y swm oedd yn disgyn ar bob Cyfarfod Misol at gynal yr Athrofa: a'r rhan oedd yn disgyn ar Sir Feirionydd, yn ol y trefniant yma, oedd 45p. yn flynyddol, sef 22p. 10s. ar y pen dwyreiniol, a'r un swm ar y rhan orllewinol. Hefyd, yr un adeg, penderfynwyd fod yr holl siroedd i wneyd ymdrech i sicrhau cronfa, fel y byddai y llogau yn ddigon i gyfarfod â hyn. Mae yn debyg i'r Cyfarfod Misol benodi Mr. Humphreys a Mr. Williams, Dolgellau, i gyflawni y gorchwyl yma, o'r hyn lleiaf, maent hwy yn ymgymeryd â'r gwaith, ac yn dechreu yn Nolgellauyn gynar y flwyddyn ganlynol, 1842.

£ s. c.
Mrs. Jones, Warehouse, 100p.; Mrs. Owen, 10p.; Mr. Wm. Jones, Shop Newydd, 20p.; Mrs. Griffith, 5p.; Mrs. Jane Jones, 5p.; Mr. Lewis Pugh, 5p.; Lewis Morris, 1p.; Mrs. Williams, Tŷ'nycelyn, 10p.; gŵr dieithr o Fanchester, 5p.; llogau, &c.
163 16 0
Eto, yn ol y list heb enwau, 88p. 17s. 6c.; Lewis Williams, 5p.; Jane Pugh, Caecrwth, 5p.; Sylfanus Jones, Abergeirw, 2p.; Abermaw, 12p. 3s.; o'r Gwynfryn, 6p. 3s.; o Harlech, 3p. 4s.; Talsarnau, 11s. 6c.; Bethesda, 8p.; Trawsfynydd, 1p.: Cwmprysor, 1p.; Tanygrisiau, 3p. 15s. 6c.; Maentwrog, 5p.; llogau, &c
141 17 0
305 13 0
Yn Awst, 1843, mae 300p. yn cael eu sicrhau ar lôg, yn ol 4 y cant. Bu y Cyfarfod Misol yn derbyn oddiwrth yr arian yma 13p. 10s. bob blwyddyn am 36 mlynedd, hyd y flwyddyn 1879. Derbyniwyd rhodd o 20p. i'r Drysorfa yma oddiwrth Gymdeithas Dorcas Salem, yn 1849. Yn y flwyddyn 1878, cymerwyd gwerth 350p. o shares yn y Chatham Building Society. Yn y flwyddyn 1889, trwy fod y llogau yn dyfod i lawr i 4p. y cant, penderfynwyd eu codi oddiyno, a dyna yw hanes y 350p. sydd yn llaw y trysorydd. Bu y Cyfarfod Misol yn talu at gyflogau yr athrawon, sef y 22p. 10s., o'r flwyddyn 1841 hyd y flwyddyn 1854, pryd y penderfynwyd gan y Gymdeithasfa, yn ychwanegol at hyn, fod 11p. yn flynyddol i gael eu talu at gynal y myfyrwyr; ac yn y flwyddyn 1857, maent eto yn codi cyflogau yr athrawon, fel y mae yn disgyn ar y Cyfarfod Misol 37p. 10s., heblaw yr 11p. at y myfyrwyr. Tuag at wneyd y swm yma y mae y Cyfarfod Misol yn trethu yr holl eglwysi yn ol eu rhif, a bod yr arian i ddyfod o arian yr eisteddleoedd. Bu y trefniant hwn yn cael ei gario allan hyd y flwyddyn 1862; yn y flwyddyn hon y cwblhawyd y casgliad gan Mr. Morgan yn swm y gall y Cyfarfod Misol ymffrostio ynddo, sef 2786p. 5s. 11c., ac ar ol cael y swm yma i mewn y manna a beidiodd. Mae y Drysorfa yn ddigon ar gyfer pob gofyn; ond er na wnaed yr un casgliad at yr Athrofa, yr oedd y llogau ar y 300p. yn dyfod yn flynyddol, ac yn 1864, daeth rhenti Llanfachreth i'w cynorthwyo, ac yr oedd hon yn Drysorfa ar ei phen ei hun, er cynorthwyo lleoedd gweiniaid, sef achos Saesneg Towyn, Saron, Llanfachreth. Cafodd Hermon 10p. saith o weithiau, ond yr oedd mwy yn dyfod i mewn nag oedd yn myned allan, ac erbyn y flwyddyn 1875, mae mewn llaw yn y banc, 139p. 17s. 4c., a'r flwyddyn hon y mae cymunrodd o 120p. yn cael ei adael gan Mr. Williams, Ivy House, i'r Cyfarfod Misol, a phenderfynwyd gan y Cyfarfod Misol fod yr arian yna, sef 150p., yn cael eu sicrhau yn Nghymdeithas Adeiladu Pwllheli, a dyna ydyw hanes yr arian sydd yn Mhwllheli; ac yn ystod y pymtheng mlynedd diweddaf yr ydym wedi derbyn dros 200p. yn llogau o'r gymdeithas hon.

Mae yr hen dadau yn haeddu bythol glod am eu llafur a'u hymdrech yn casglu yr arian hyn. Buont laweroedd o weithiau yn gysur mawr i'r Cyfarfod Misol, er ei alluogi i estyn cynorthwy i'r eglwysi gweiniaid mewn amgylchiadau o gyfyngder.

PENOD IV.

Y FUGEILIAETH EGLWYSIG YN Y SIR.

CYNWYSIAD.—Parotoadau i gychwyn gyda'r fugeiliaeth—Y cychwyniad cyntaf yn Ngorllewin Meirionydd—Penderfyniadau Cyfarfod Llanrust—Dyfyniadau o Lyfr y Cofnodion—Y cynllun cyntaf yn cyfarfod & rhwystrau—Towyn a'r Gwynfryn fel Waterloo a Trafalgar—Araeth Mr. Morgan yn Nghyfarfod Misol Harlech—Yr holl eglwysi dan ofal gweinidogion yn 1853—Mr. Morgan y moving power—Y Genhadaeth Sirol—Anerchiad Mr. Morgan yn 1870—Adroddiad y Parch. Grigith Williams yn Nghymdeithasfe y Penrhyn—Y gweinidogion a'r eglesai dan eu gofal yn 1870 ac 1890.

 YWEDWYD mai rhan bwysig o waith y Cyfarfod Misol, am o leiaf y pum mlynedd ar hugain cyntaf yn ei hanes, ydoedd yr ymdrechion a wnaethpwyd i osod gweinidogion i ofalu am yr eglwysi. Haner can mlynedd yn ol, nid oedd yn y rhan hon o'r sir ond tri gweinidog ordeiniedig, yn meddu awdurdod rheolaidd i weini yr ordinhadau, ac nid oedd dim cysylltiad rhwng yr un o'r tri â'r un eglwys mwy na'i gilydd. Disgynai y gwaith o arwain ac o addysgu yn yr eglwysi ar y blaenoriaid y rhan fynychaf. Mae yn sicr i lawer o honynt hwy wneuthur gwasanaeth mawr, yn yr amser aeth heibio, trwy weini i gyfreidiau y saint mewn pethau ysbrydol; ac y mae mor sicr a hyny, fod yr Arglwydd wedi cyfodi llawer o ddynion cymwys i'r gwaith o blith dosbarth hwn o swyddogion eglwysig. Nis gellir rhoddi gormod bris ar y gwasanaeth a wnaethant yn yr amser gynt, yn gystal a'r gwasanaeth a wnant yn yr amser presenol. Mae cwrs yr amseroedd a theimlad y wlad yn profi erbyn hyn, modd bynag, nas gall yr eglwysi ddim llwyddo heb fod o dan arolygiaeth gweinidogion o'u galwad eu hunain, ac o osodiad rheolaidd. Nid felly yr oedd yr amser y cyfeirir ato, a gwaith mawr, aruthrol fawr, oedd newid pethau o'r hen ddull i'r dull presenol. Amcenir yn y benod hon roddi ychydig o hanes y gwahanol symudiadau gydag arolygiaeth yr eglwysi. Ac wrth ymdrin â'r mater, bydd yn rhaid i un o weinidogion y sir, uwchlaw pawb oll, gael y lle amlycaf yn yr ymdrafodaeth, sef y Parchedig Edward Morgan, y Dyffryn, oblegid trwy ei offerynoliaeth ef y rhoddwyd ysgogiad i'r symudiad, y dygwyd ef ymlaen, ac y cariwyd ef allan i fuddugoliaeth. Efe ei hun oedd y gweinidog cyflogedig cyntaf yn y rhan orllewinol o Feirionydd. Bu yn weinidog yn Nolgellau, trwy alwad reolaidd yr eglwys yno, am ddwy flynedd, o ganol y flwyddyn 1847 i ganol 1849. A rhyw ddau neu dri, fe ddywedir, o weinidogion a fu mewn cysylltiad rheolaidd âg eglwysi o'i flaen ef, ymhlith y Methodistiaid yn Ngogledd Cymru.

Y crybwylliad cyntaf a gawn am y symudiad a elwir wrth yr enw "bugeiliaeth eglwysig," yn y sir hon, ydyw yn mis Mai, 1846. Mae'n wir i'r Parch. Richard Humphreys ddweyd geiriau cryfion ar y mater wrth draethu ar "Natur Eglwys" yn Nghymdeithasfa y Bala yn 1841. Traethodd y Parch. John Hughes, Pontrobert, hefyd, yn bendant yn yr un lle, ac wrth gyflawni yr un gwasanaeth, yn 1845, am ddyledswydd yr eglwysi i alw ar weinidogion i ymryddhau oddiwrth ofalon bydol i'w gwasanaethu yn yr efengyl. "Gellwch ddeall," meddai, "nad wyf fi yn traethu ar y pwnc hwn er fy mwyn fy hun. Pe buasai rhywbeth yn cymeryd lle ddeng mlynedd ar hugain yn ol, buasai hyny, feallai, yn rhyw fantais i mi; ond er mwyn y gwaith a'r achos ynddo ei hun, ystyriwch y peth." Yr oedd yr hen batriarch o Bontrobert uwchlaw deg a thriugain mlwydd oed pan yn traethu yr araeth hon, felly nid oedd lle i neb allu dweyd mai ei fantais bersonol ei hun oedd ganddo mewn golwg. Ond y sylw cyntaf a wnaethpwyd ar y mater yn Ngorllewin Meirionydd ydoedd, yr hyn sydd i'w gael yn nghofnodion Cyfarfod Misol Tanygrisiau, Mai y flwyddyn grybwylledig, "Fod y cyfarfod hwn yn cymeradwyo ac yn cefnogi, ar fod i ryw gynllun priodol gael ei ffurfio, i alw a chynal rhyw nifer o'r llefarwyr yn y pen yma i'r sir i fod yn hollol gyda gwaith y weinidogaeth, ac ymofynir eto yn mis Mehefin, a fydd neb wedi cael allan lwybr deheuig ac effeithiol i ddyfod a hyn oddiamgylch." Gwnaed ymholiad ynghylch y mater yn y cyfarfod dilynol fel y trefnwyd, "a gofynwyd yn bersonol i bob blaenor oedd yn bresenol am ei olygiad ar byn, a chytunwyd yn unfryd ar fod i geiniog yn nghyfer pob aelod gael ei gyfranu gan yr eglwysi bob mis, a dechreu ar hyny yn ddioed, er cynal dau frawd yn ol y cynllun allan o law." Ymhen y ddeufis, drachefn, "Ymddiddanwyd ynghylch y peth a fu dan sylw yn y ddau Gyfarfod Misol blaenorol, sef cael allan lwybr esmwyth ac effeithiol i gynal dau frawd, sef y Parchn. Rees Jones, Abermaw, ac Edward Morgan, Dyffryn, i fod yn ymroddgar hollol gyda gwaith y weinidogaeth. Ond barnwyd nad oedd y cynllun y penodwyd arno yn foddhaol gan yr eglwysi." Anghredadwy o fychan ydoedd y tâl am wasanaeth Sabbothol yn y sir y pryd hwn, hyd yn nod yn y teithiau cryfaf, a gwaith anhawdd ydoedd symud oddiwrth yr hen derfynau. Gwaith hefyd megis symud mynyddoedd ydoedd ysgogi ymlaen i osod gweinidogion cyflogedig ar yr eglwysi Yn nghladdedigaeth Mr. Morgan, adroddodd y Parch. Rees Jones, Felinheli, am ymddiddan a gymerodd le rhyngddynt ill dau ar y ffordd i Ffestiniog at y Sabbath, pan oeddynt yn bregethwyr lled ieuainc. "Rhaid i ni ddysgu yr eglwysi i gyfranu," meddai Mr. Morgan. "Wel," atebai Mr. Jones, os gwnawn ni hyny, ni a roddwn ein hunain yn agored i gyhuddiadau ein bod yn fydol ac ariangar." "Gadewch i hyny fod," meddai yntau, drachefn, "ni a gawn y fraint o ddioddef er mwyn crefydd." Yn nechreu 1847, y mae Mr. Jones yn symud i'r Felinheli, i ddilyn ei alwedigaeth fel llong-adeiladydd; ac oddeutu canol yr un flwyddyn, y mae Mr. Morgan yn dechreu ar ei weinidogaeth fel gweinidog galwedig yr eglwys yn Nolgellau.

Yn mis Mawrth, 1848, cynhaliwyd cyfarfod o gynrychiolwyr y siroedd yn Llanrwst, yn unol â threfniad y Gymdeithasfa y flwyddyn flaenorol, gyda'r amcan o ystyried y mater o gael arolygiaeth ar yr eglwysi. Y Parch. Richard Humphreys, a William Ellis, Maentwrog, oeddynt y cenhadon dros Orllewin Meirionydd i'r cyfarfod hwn. Yn Nghyfarfod Misol Dolgellau, yn Ebrill dilynol, rhoddodd y cenhadon adroddiad o'r ymdrafodaeth a fu yn nghyfarfod Llanrwst, gan hysbysu i'r penderfyniadau canlynol gael eu mabwysiadu yno: 1 Rhoddi cefnogaeth Gymanfaol i eglwys neu eglwysi i alw gweinidog neu bregethwr i lafurio yn eu plith trwy gydsyniad y Cyfarfod Misol. 2 Anog pob sir i feddwl am ffordd i ryddhau rhyw nifer o bregethwyr oddiwrth eu gorchwylion bydol i ryw raddau, fel y gallont ymgyflwyno yn llwyrach i gynorthwyo eglwysi gweiniaid, ac i deithio pan fyddo yn angenrheidiol i siroedd eraill. 3 Nad oes i neb gael rhyddid i fyned o'r sir, heb lythyr oddiwrth ysgrifenydd y sir at ba un y mae yn myned, yn gofyn am hyny. "Cynygiwyd y pethau hyn (yn Nghyfarfod Misol Dolgellau), a chefnogwyd hwy, a rhoddwyd arwydd o foddlonrwydd a chymeradwyaeth y cyfarfod iddynt trwy godiad llaw."

Ymhen pedair blynedd ar ol hyn y mae y symudiad nesaf yn cymeryd lle, ac o hyny ymlaen y mae cynygion lawer yn cael eu rhoddi ar droed, a brwydrau poethion yn cael eu hymladd, am o leiaf ddeng mlynedd. Er rhoddi mantais i weled y gwahanol symudiadau yn y tymor hwn, mor oleu ag y gellir, y mae yn rhaid dyfynu cryn lawer o Lyfr y Cofnodau. Yn Nghyfarfod Misol Abermaw, Ebrill, 1852, ceir y mater yn dyfod dan sylw. Rhoddid adroddiad yn y cyfarfod hwnw o ymweliad a wnaethid a'r holl eglwysi, ac mewn canlyniad i'r ymweliad mae y sylw canlynol yn cael ei wneuthur:—"Gyda golwg ar eglwysi Abergeirw, Bontddu, Llanelltyd, ac eraill, dywedwyd fod yn rhaid i'r eglwysi cryfion ddyfod allan i gynorthwyo y rhai hyn a'u cyffelyb, a bod mawr eisiau anfon brodyr o ddawn yno i ymweled â hwy yn awr ac eilwaith." Oddeutu yr un dyddiau, cynhelid Cymdeithasfa yn y Trallwm, lle y bu ymdrafodaeth bwysig ar yr un mater. Ac yn Nghyfarfod Misol Penrhyndeudraeth, ar y 3ydd a'r 4ydd o Fai, cymerwyd ef i fyny gyda'r un difrifwch drachefn,—"Gwnaed sylw ar ddymuniad Cymdeithasfa y Trallwm ar yr angen am ryw lwybr i fugeilio y mân eglwysi sydd ar hyd y wlad. Mynegwyd am gynllun yr oeddid newydd ysgogi gydag ef ymhen draw ein sir, sef fod i bob eglwys geisio cymorth un pregethwr atynt un society o bob mis, ac yn amlach os dewisir; fod iddynt ddewis y neb a fynont hwy, ond fod y neb a ddewisir i barhau yn y swydd am flwyddyn. Cydsyniwyd i dreio cael hyn yn y pen yma." Yn y Cyfarfod Misol dilynol. yn Llanegryn cofnodir,—"Gwnaed sylw ar y mater a nodwyd yn Nghyfarfod Misol y Penrhyn, ynghylch bugeiliaeth yr eglwysi, sef fod i bob eglwys alw rhyw frawd i'w chynorthwyo i gadw society, ac i lygadu ar sefyllfa yr achos yn gyffredinol yn y lle. Dangoswyd yr angenrheidrwydd mawr sydd am hyn yn y dyddiau presenol, yn ngwyneb ymosodiad grymus ar y wlad gan Babyddion, Puseyaid," &c. Bu sylw drachefn ar yr achos yn Nghymdeithasfa Llangefni yr un flwyddyn, ac ar ol hono, sef yn Nghyfarfod Misol Maentwrog, ar yr 2il a'r 3ydd o Awst, y mae Gorllewin Meirionydd yn mentro trwy y tew a'r teneu i ddwyn cynllun ymlaen,—"Gwnaed sylw ar gynygiad Cyfeisteddfod Cymdeithasfa Llangefni ynghylch y modd i ddefnyddio arian eisteddleoedd y capeli diddyled. Dygodd y Parchedig Edward Morgan ei gynllun gyda golwg ar y pen yma i'r sir i sylw, sef, Fod 3p. i gael eu rhoddi ar gyfer pob eglwys fel eu gilydd i'r pregethwr a elwir ganddynt i'w bugeilio, a bod yr arian hyn i ddyfod oddiwrth eisteddleoedd y gwahanol gapeli, rhai fwy a rhai lai, yn ol eu maintioli a'u cryfder,—yr eglwysi cryfaf i roddi 5p. yr un i'r Fund, eraill 4p., eraill 3p., eraill 2p., a rhai 1p. 10s., neu lai, yn ol fel y cytanid ar hyn rhagllaw; fod yr eglwysi cryfion yn y wedd hon i gynorthwyo y rhai gweiniaid. A phenderfynwyd myned a hyn i Bwllheli, yn fynegiad o'r modd y bwriadwn ni weithredu y ffordd hyn." Bellach dyma ddechreu gweithio, ac mor sicr a hyny mae y frwydr hefyd yn dechreu. Yn Nghyfarfod Misol Medi, yn Nghorris: "Holwyd y gwahanol eglwysi rhwng y Ddwy Afon ynghylch y modd yr oeddynt yn gweithredu gyda golwg ar y Fugeiliaeth Eglwysig. Dangoswyd y pwys sydd yn hyn gyda golwg ar yr eglwysi eu hunain, yn gystal a chyda golwg ar y rhai a elwir gan yr eglwysi i ofalu am danynt, o dan yr enw o fugeiliaid. Gadawyd y peth i fod dan ystyriaeth yr eglwysi hyd y Cyfarfodydd Misol dilynol." Erbyn Cyfarfod Misol Hydref, yn Ffestiniog, yr oedd y gwrthwynebiadau wedi cyfodi, oblegid yr anhawsder i ddyfod o hyd i'r arian, ond "boddlonodd pawb yn y cyfarfod hwn i roddi prawf arno." Cyffelyba Mr. Morgan Towyn a'r Gwynfryn i Waterloo a Thrafalgar, ar gyfrif y brwydro fu yno mewn cysylltiad â bugeiliaeth eglwysig. Swm yr hyn a gofnodir am y ddadl Nhowyn ydyw, i'r mater fod yn hir dan sylw yno, a methwyd a chytuno yn ei gylch. Yn y Cyfarfod Misol dilynol, yn Harlech, ddiwedd Tachwedd, bu trafodaeth helaethach:— "Dywedai y Parch. Edward Morgan yn egniol ar hyn, i'r perwyl a ganlyn, Mai efengylwyr ydym ni yn awr heb gysylltiad iawn rhyngom & neb. Egwyddor y Testament Newydd ydyw, gosod rhai yn apostolion yn gystal a rhai yn efengylwyr. Yr oedd Pedr yn apostol i'r enwaediaid, a Phaul yn apostol i'r cenhedloedd. Nid rhyw fyned a dyfod o hyd, fel pe bai o Gaergybi i Gaerdydd. Nage, eithr bu Paul un flwyddyn yn Antiochia; blwyddyn a haner yn Ephesus; a dwy flynedd yn Corinth. Ac felly yr oedd yn nechreuad Methodistiaeth yn Nghymru, yn amser Rowlands, a Harries, ac Ebenezer Morris. Ac ond darllen y Testament Newydd, ceir gweled nad oes gan yr un eglwys hawl i dderbyn aelod nac i dori allan ychwaith, heb fod yr oll o'r eglwys yno, sef y gweinidog, y blaenoriaid, a'r aelodau, 'a fy ysbryd inau,' medd yr apostol. Ond wedi'r cwbl, rhyw led ddyrus oedd hi yma gyda'r cynllun. Cwynid gan amryw oblegid maint y dreth a osodid arnynt; ac ymwrthodai cyfeillion Ffestiniog a'r rhwymau a osodid arnynt hwy o estyn 2p. i gynorthwyo yr eglwysi gweiniaid, eithr dywedent y gwnaent gasgliad yn eu plith i unrhyw eglwys a ddeuai a'i chwyn atynt. Ni ymddangosai eu bod am roddi y 3p. eraill ychwaith i'r tri phregethwr sydd yn eu plith yn byw—y rhai, meddynt hwy, oeddynt yn ddewis i arolygu arnynt. Felly, rhwng pobpeth, edrych yn dywyll yr oedd hi ar y peth hyd yma; a'r diwedd fu penderfynu fod Cyfeisteddfod i gyfarfod yn Nolgellau i ystyried y mater."

Y brodyr a benodwyd yn gyfeisteddfod oeddynt, y Parch. E. Morgan, Mri. John Lloyd, Harlech; Morgan Owen, Glynn; Morris Llwyd, Trawsfynydd; Humphrey Davies, Corris; Griffith Jones, Gwyddelfynydd; William Rees, Towyn; a'r Ysgrifenydd (y Parch. John Williams). Penderfyniadau y Cyfeisteddfod, y rhai a gymeradwywyd gan y Cyfarfod Misol oeddynt:"1 Fod gan bob eglwys hawl i ddewis y neb a ewyllysio i'w bugeilio. 2 Fod y bugail i arolygu holl achos yr eglwys, ac i fod yn gyfrifol i'r Cyfarfod Misol am yr oll a drinir yno. 3 Disgwylir iddo fod yn bresenol yno, o leiaf, unwaith yn y mis, a gwneuthur ymdrech i fod yn amlach os bydd modd. 4 Fod i'r eglwys dalu swm blynyddol iddo am ei lafur. 5 Fod y cyfarfod hwn yn rhoddi hawl i bob eglwys i ddefnyddio y swm a farnont hwy yn angenrheidiol o arian yr eisteddleoedd at ddwyn traul y fugeiliaeth. 6 Fod y lleoedd canlynol...i roddi punt yn flynyddol i gynorthwyo y lleoedd canlynol............[Yma enwir deuddeg o leoedd cryfion i gynorthwyo deuddeg o leoedd gweiniaid]. A bod pob un o'r lleoedd gweiniaid a nodwyd i dderbyn y bunt pan y ceir eu bod wedi dewis bugail." Yn Nghyfarfod Misol y Dyffryn, Mawrth, 1853, y mae hysbysiad yn cael ei wneuthur gan yr holl eglwysi am y personau yr oeddynt wedi eu dewis yn arolygwyr iddynt. Yna mae yn canlyn restr o'r holl eglwysi, fach a mawr, ac ar gyfer pob eglwys enw y gofalwr oedd i ofalu am dani. Dyma ddechreuad Bugeiliaeth Eglwysig yn Ngorllewin Meirionydd: ac ar y pryd y mae yn edrych yn gyflawn, gan fod pob un o'r eglwysi wedi eu gosod o dan ofal gweinidog neu bregethwr. Ni pharhaodd y drefn hon, pa fodd bynag, yn hir. Mae yn amlwg oddiwrth yr ymdrafodaeth ei bod yn nesaf peth i anmhosibl i syrthio ar gynllun cyffredinol, i gyfarfod â syniad a theimlad yr holl eglwysi gyda symudiad o'r fath bwysigrwydd a hwn. Nid oedd dim i'w wneyd ond gweithio pob cynllun allan i'r graddau y gellid, gan ddisgwyl cyfle, mewn amser cyfaddas, i'w berffeithio. Ac y mae y brodyr gweithgar oedd wrth y llyw y blynyddoedd hyn yn haeddu clod nid bychan am eu dewrder a'u dyfalbarhad yn gweithio ymlaen trwy y fath anhawsderau. Hysbys ydyw mai Mr. Morgan oedd yn rhoddi ysgogiad i bob diwygiad —efe oedd y moving power gyda phob gwaith er peri llwyddiant y deyrnas nad yw o'r byd hwn. Oblegid hyn, dygwyd cyhuddiadau yn ei erbyn laweroedd o weithiau, ei fod yn uchelgeisiol ac ariangar. Anghyfiawnder o'r mwyaf oedd dwyn y fath gyhuddiadau; ni bu dyn erioed mwy disglaer ei gymeriad a mwy clir oddiwrth bobpeth gwael ac isel. Mewn llythyr o'i eiddo at Mr. Williams, Ivy House, pryd yr oedd mewn gwaeledd mawr yn niwedd y flwyddyn 1854, ceir cipolwg ar y pethau a ddywedid am dano, ac ar dystiolaeth ei gydwybod ef ei hun yn ngwyneb y pethau hyny. "As far as I understand the New Testament," ebai ar ol rhyw ystorom a gymerasai le yn Nghyfarfod Misol Llanelltyd ar ryw fater, "I do not see that anything calls upon me to make sacrifices in every sense of tranquility of mind—domestic comfort—health-money, &c., and then to have all attributed to the lowest and most grovelling of motives. To have it repeated for ever after all our Monthly Meetings, that we think of nothing but of money, as I heard it was the case after Llanelltyd, when the Lord knows that I do not Iook upon this money question but in its moral bearings, as it is connected with the success of the great cause amongst us. And it is my firm conviction, after no small amount of thinking upon the matter, that if the churches persevere in this present course, the cause will be blighted, will soon wither and decay." Ymddengys i bedwar o bethau filwrio yn erbyn llwyddiant y cynllun uchod o arolygiaeth yr eglwysi.—1. Pellder yr arolygwyr yn byw oddiwrth yr eglwysi yr ymwelent â hwy, ac aneffeithioldeb eu hymweliad—dim ond unwaith yn fisol. 2. Dewisai y rhan liosocaf o'r eglwysi ryw dri o'r gweinidogion, tra na byddai ond ychydig nifer yn galw y gweinidogion a'r pregethwyr eraill. 3. Cymerai y dewisiad le bob blwyddyn, ac achosai hyny lawer o chwilfrydedd a dadleuon diangenrhaid ymysg yr aelodau. 4. Annibendod yr arian, er lleied y swm, yn dyfod i mewn. Gwneid ymofyniad yn yr eglwysi ar ddiwedd pob blwyddyn, a oeddynt yn dymuno parhau ymlaen gyda'r cynllun. Yr oedd y Parch. Daniel Evans, yr hwn oedd y llareiddiaf o'r brodyr, wedi ei anfon i'r Abermaw i ymweled â'r eglwys; ac un o'r pethau a ymddiriedwyd i'w ofal ydoedd, gwneuthur ymholiad ynghylch parhad y fugeiliaeth. Yntau wedi traddodi ei genadwri yn nghlywedigaeth yr eglwys, a ofynodd y cwestiwn cyn y diwedd, "Mae y fugeiliaeth wedi bod yn eich plith y flwyddyn ddiweddaf, ac mae y Cyfarfod Misol yn dewis gwybod a ydych am barhau y flwyddyn ddyfodol fel cynt?" "Nac ydwyf fi, o'm rhan i," ebai un o'r blaenoriaid; "nid wyf fi yn gweled mo'ni yn ddim byd ond twll i wneyd poced." "Hwn a hwn," ebai Daniel Evans, gan gau ei ddwrn, "mi'ch cyfarfyddaf fi chwi yn y farn yn dyst nad gwneuthur arian sydd genym ni y gweinidogion mewn golwg, ond lles yr eglwysi." Creodd hyn gryn lawer o deimlad ar y pryd, a byddai Mr. Morgan yn arfer dweyd "mai dwy eglwys. oedd yn Ngorllewin Meirionydd yn agos i drigo, sef y Bwlch a'r Bermo." Felly syrthiodd y cynllun i'r llawr ymhen ychydig flynyddau. Dywed Mr. Morgan i frwydr fawr arall gymeryd lle yn y Gwynfryn; digwyddodd hono Mawrth 31ain, 1856. Y cofnodion am dani yn y Cof-lyfr ydyw,—"Bu ymddiddan maith ar y cynllun a gynygiwyd yn Nghyfarfodydd Misol Dolgellau a'r Abermaw, tuag at wneyd fund er cynorthwyo cynhaliaeth y weinidogaeth; ond oblegid diffyg cydwelediad, ni ddaethpwyd i unrhyw benderfyniad." Nid ydyw yr hen dadau dewr yn digaloni dim, er cyfarfod â "duon ragluniaethau." Yn nechreu 1858, cychwynwyd y Genhadaeth Sirol, yr hon a fu yn dra llwyddianus hyd sefydliad y drefn bresenol, a adnabyddir wrth y Drysorfa Gynorthwyol, perthynol i holl siroedd y Gogledd. Y Parch. Owen Roberts, Rhiwspardyn, oedd y cyntaf a alwyd o dan y Genhadaeth Sirol. Daeth ef i faes ei lafur yn yr eglwys hono, a'r eglwysi cylchynol, ar y 23ain o fis Chwefror, 1858. Mae y cytundeb a wnaed ag ef i'w weled mewn cysylltiad a Rhiwspardyn (Gyf. I., 461).

Bu y Genhadaeth Sirol yn sefydliad pwysig yn y rhan Orllewinol o Sir Feirionydd am ugain mlynedd lawn. Ei hamcan ydoedd cynorthwyo eglwysi gweiniaid y sir i gynal gweinidogion. Yn y flwyddyn 1862 y rhoddwyd cychwyniad ffurfiol a rheolaidd i'r symudiad hwn. Yr oedd nifer mawr wedi eu hychwanegu at yr eglwysi trwy y Diwygiad, a theimlai yr eglwysi yn barod ac awyddus bellach i gael rhywrai i ymgeleddu y dychweledigion. Erbyn hyn hefyd yr oedd Cronfa Athrofa y Bala wedi ei chwblhau, ac mwyach nid oedd eisiau y gyfran o arian yr eisteddleoedd a roddid yn flynyddol tuag at gynal yr Athrofa; a'r drychfeddwl cyntaf oedd, parhau y gyfran hon o arian yr eisteddleoedd, "a'i chymhwyso er sefydlu pregethwyr mewn lleoedd gweiniaid." Cerddodd y symudiad hwn ymlaen yn esmwyth a didramgwydd. Cyfarfyddodd y cyfeisteddfod a benodasid i dynu allan reolau y Genhadaeth Sirol yn y Faeldref, ac yno yr ysgrifenwyd hwy; ac wedi eu cyflwyno gerbron y Cyfarfod Misol bob yn un ac un, cawsant eu mabwysiadu yn galonog. Fel y canlyn y maent, 1. Fod y Genhadaeth hon i barhau am bum' mlynedd. 2. Na ddisgwylir i'r eglwysi sydd o dan driugain o nifer gyfranu dim tuag ati hi. 3. Disgwylir swm yn cyfateb i ddwy geiniog, o'r hyn lleiaf, oddiwrth bob eglwys arall. 4. Mae yr arian hyn i gael eu talu bob blwyddyn yn Nghyfarfodydd Misol Medi a Hydref. 5. Fod y Parch. William Davies, Llanegryn, a Mr. Evan Williams, Dyffryn, i weithredu, y naill yn ysgrifenydd, a'r llall yn drysorydd. 6. Fod i'r eglwysi a fydd yn cael cynorthwy oddiwrth y Genhadaeth, i ddyfod a'r gyfran ddyledus oddiwrthynt hwy tuag at dalu i'w gweinidogion i'r cyfeisteddfod; ac y mae y gweinidog i dderbyn ei dal trwy y cyfeisteddfod yn Nghyfarfodydd Misol Medi a Hydref bob blwyddyn. 7. Mae y swm a gyfrenir i gynorthwyo unrhyw eglwys neu daith Sabbothol i fod o 12p. i 16p. 8. Ni wrandewir ar gais unrhyw daith am gynorthwy, heb iddi wneuthur 10p., o leiaf, i gyfarfod â'r swm a addewir gan y cyfeisteddfod : ac os bydd yr amgylchiadau yn caniatau, disgwylir ychwaneg na hyny. 9. Pan y gwrandewir ar gais unrhyw daith gan y cyfeisteddfod, bydd apwyntiad y gweinidog i'w wneuthur gan y cyfeisteddfod, mewn undeb â chynrychiolwyr y daith hono, wedi cael boddlonrwydd cyffredinol yr eglwysi iddo.—Y gwaith a ddisgwylir oddiwrtho fydd, (1) Pregethu deuddeg Sabbath yn y flwyddyn yn y daith. (2) Pregethu unwaith yn y mis yn yr wythnos, ymhob un o'r capelau a berthynant i'r daith. (3) Cadw society ymhob un o'r capelau bob wythnos, oddieithr ei fod yn pregethu yno; ond os bydd tri lle yn y daith, ni ddisgwylir iddo fyned ond i ddau o honynt wythnos y Cyfarfod Misol. (4) Disgwylir iddo lafurio hyd y gall gyda'r plant, trwy egwyddori o flaen pregeth, neu mewn unrhyw ddull arall a farno efe, a chyfeillion y lle, a fyddo yn fuddiol. (5) Disgwylir adroddiad manwl oddiwrtho ymhen y flwyddyn, yn rhoddi hanes ei weithrediadau a'i lwyddiant.

Yr uchod oeddynt y rheolau cyntaf, ond gwnaed cyfnewidiadau ynddynt rai gweithiau, yn ystod yr ugain mlynedd. Am rai o'r blynyddoedd cyntaf wedi cychwyn y symudiad hwn, rhan ddyddorol o'r Cyfarfod Misol blynyddol fyddai gwrando ar y gweinidogion oeddynt yn dal cysylltiad â'r Genhadaeth Sirol, yn adrodd hanes eu gweithrediadau a'u llwyddiant. Ond ymhen amser darfyddodd yr arferiad hon, gan y teimlai rhai wrthwynebiad iddi, oddiar yr ystyriaeth fod.. gormod o wahaniaeth yn cael ei wneuthur rhwng y gweinidogion a lafurient mewn cysylltiad â'r eglwysi gweiniaid a'r gweinidogion eraill. Darfyddodd y Genhadaeth Sirol, hefyd, pan y daeth y cynllun mwy cyffredinol, sef y Drysorfa Gynorthwyol, i gymeryd ei lle. Yn Nghymdeithasfa Dolgellau, Mehefin, 1870, traddodwyd anerchiad gan y Parch. E. Morgan, ar sefyllfa yr achos yn y rhan hon o'r sir. Trefnwyd mewn Cyfarfod Misol blaenorol fod hyn i gymeryd lle. A dyma ddechreuad yr arfer bresenol, yn Nghymdeithasfa y Gogledd, i roddi adroddiad o hanes yr achos yn y sir, pan yr ymwelo y Gymdeithasfa â hi. Yn nechreu ei anerchiad y mae Mr. Morgan yn cymharu sefyllfa yr achos y flwyddyn hono â'r hyn ydoedd yn y flwyddyn 1850, sef ugain mlynedd yn flaenorol, o ran rhif yr eglwysi a'r aelodau ynddynt, yn gystal a gweithgarwch yr eglwysi yn eu casgliadau, er gweled y cynydd mawr oedd wedi cymeryd lle; ac y mae y rhan fwyaf o lawer o'r anerchiad yn cynwys hanes y fugeiliaeth eglwysig. Nis gellir cael dim byd rydd well oleuni ar sefyllfa pethau fel yr oeddynt y pryd hwnw, felly rhoddwn ef yma yn llawn, -oddieithr ychydig fanylion am y rhifedi a'r casgliadau:—

ANERCHIAD

Ar Sefyllfa yr Achos Methodistaidd yn y Rhan Orllewinol o Sir Feirionydd, Mehefin, 1870.

GAN Y PARCH. E. MORGAN.

"Yr ydwyf, ar gais Cyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd, yn codi i roddi ychydig o hanes yr achos yn yr eglwysi a berthynant i'r Cyfarfod Misol hwn. Y mae hyn yn cael ei wneuthur yn fynych, os nad bob amser, yn Nghymdeithasfaoedd y Deheudir; ac nid anfuddiol i ninau a fyddai dilyn ein brodyr yn yr arfer dda hon. Yr wyf yn credu fod genym rai ffeithiau mewn cysylltiad â'r achos yn y rhan hon o'r sir y byddai yn dda i'r wlad eu gwybod............. Y mae y fugeiliaeth yma er's ugain mlynedd a mwy; a chyda chaniatad y Gymdeithasfa, dymunwn ddweyd gair am ei hansawdd yn ein plith, fel y galler gosod y llwyddiant a'r fugeiliaeth y naill ar gyfer y llall. Y mae yn perthyn i'r Cyfarfod Misol wyth ar hugain o deithiau Sabbothol, o ba rai y mae ugain o dan ofal bugeiliaid cyflogedig. Y mae gweinidogion yn byw mewn pump o'r teithiau eraill, ac y mae yn dda genyf fedru dwyn tystiolaeth am fy mrodyr; er nad ydynt yn derbyn tâl fel y bugeiliaid, eto y maent yn cyflawni eu gwaith mor ffyddlawn, hyd y goddef eu hamgylchiadau, a'r rhai sydd yn derbyn cyflog sefydlog. A ydyw eu heglwysi yn ymddwyn yn deilwng tuag atynt, sydd gwestiwn na pherthyn i mi yn y fan hon geisio ei ateb. Tra nad ydwyf yn awgrymu y buasai dim diffyg ffyddlondeb yn fy mrodyr hyn, rhaid i mi gael dweyd hyn, fod bugeiliaeth wedi enill y fath safle yn y sir, ac wedi unioni syniadau yr eglwysi am gysylltiad gweinidog a'r eglwys, a'i ddyledswydd tuag ati, fel nad all unrhyw bregethwr sydd yn dilyn masnach aros yn ei siop neu yn ei feusydd ar noswaith y cyfarfod eglwysig heb fod ymholiad manwl yn cael ei wneuthur yn ei gylch; a phe digwyddai iddo fod yn absenol am dri chyfarfod eglwysig, nid diberygl a fyddai i'r eglwys yn y pedwerydd ei alw i gyfrif, os nad son am ei ddiarddel. Y mae yma ddeunaw o fugeiliaid cyflogedig, a rhai o honynt er's llawer o flynyddoedd. Y mae yma dair ar ddeg o eglwysi gweiniaid o dan ofal bugeiliaid. Y mae y cryf a'r gwan yn cael eu diwallu, ond ni buasai modd diwallu y gweiniaid oni bai fod yr eglwysi cryfion wedi cael bugeiliaid. Yn nghysgod yr eglwysi cryfion y mae yr eglwysi gweiniaid yn cael byd da, helaethwych beunydd. Ni oddef amser i mi ond yn unig hysbysu y ffaith, heb egluro dim pa fodd y mae y cymorth yn cael ei roddi. Goddefer i mi ddweyd yma, er calonogi lleoedd eraill, mai nid am nad oedd rhwystrau ar y ffordd y llwyddodd bugeiliaeth yn Sir Feirionydd. O'r pen Dwyreiniol i'r sir y daeth y goleuni ar hyn, fel ar lawer peth arall, i'r pen Gorllewinol. Ac yr oedd y gwrthddadleuon a ddygir mewn siroedd eraill ymlaen yn awr yn erbyn bugeiliaeth yn cael eu dwyn ymlaen yma er's ugain mlynedd; ond siaredid a dadleuid y pwnc yn ein plith yn y Cyfarfodydd Misol, ac nid rhedeg gyhoeddi pob mympwy a syniad amrwd arno yn y papyrau newyddion, fel y gwneir gan lawer o rai yn awr, na wyddant bron ddim am yr hyn y maent yn dadleu yn ei gylch. Bu genym ninau frwydrau yn achos y fugeiliaeth, na anghofir yn fuan y manau yr ymladdwyd hwynt. Fel y mae Waterloo a Trafalgar yn cael eu cofio ynglyn â'r brwydrau a fu yno, felly fe gofir am Dowyn a'r Gwynfryn, a manau eraill, ynglyn â brwydrau y fugeiliaeth. Ac er fod drwg deimlad yn cael ei gynyrchu am ychydig yn y brwydrau hyn, eto gan mai brodyr oedd yn dadleu, a chan mai chwilio am wirionedd yr oeddis, buan iawn y collid y teimlad yna yn y llawenydd cyffredinol am ddarganfyddiad y gwirionedd hwnw.

"Dechreuodd achos y fugeiliaeth yn wanaidd iawn yn ein plith, ond ymledodd yn raddol, a llwyddodd, nes enill ei sefyllfa bresenol. Gadawyd rhyddid perffaith i'r eglwysi i ddewis y neb a fynent, a bu agos i hyn fod yn fagl iddi, am i'r eglwysi ddewis rhy ychydig o bersonau, ac felly feichio y rhai hyny â mwy o waith nag y gallent ei gyflawni; ond gadawyd iddynt, gan gwbl gredu y deuai pethau yn fuan i'w lle os na roddid troed ar yr un egwyddor,-ac felly y bu. Erbyn heddyw, ni raid i'r fugeiliaeth yn y sir hon wrth lythyrau canmoliaeth gan neb. Y mae llawer iawn o draethu ac ysgrifenu yn ei herbyn hi yn awr, ond y mae pob gwrthddadl a ddygir yn ei herbyn yn cael eu hateb gan ffeithiau yn hanes bugeiliaeth y sir hon. Un peth a roddir yn ei herbyn ydyw, ei bod hi yn newid Methodistiaeth. Ond ai felly y mae y peth? Os Methodistiaeth ydyw cydymdeimlo a chydweithredu yna nid oes dim gwell Methodistiaid mewn un rhan o Gymru nag sydd yn Sir Feirionydd. Fel prawf o hyn, edrycher ar lafur yr eglwysi. Nid oedd ond chwech o eglwysi bychain heb wneyd casgliad tuag at Drysorfa y Gweinidogion; ond mewn sir arall oedd yn lled wrthwynebol i'r fugeiliaeth, yr oedd cynifer ag wyth ar hugain o eglwysi nad oeddynt wedi gwneyd casgliad at y Drysorfa hono. Nid ydoedd ond un eglwys yn Sir Feirionydd heb wneyd casgliad at yr achosion cenhadol; ond mewn un sir yn Ngogledd Cymru, lle nad oedd y fugeiliaeth mor flodeuog, yr oedd tair a deugain heb wneyd casgliad at y Genhadaeth Dramor, a phedair ar bymtheg ar hugain heb wneyd casgliad at y Genhadaeth Gartrefol. Ond y mae yn rhaid cofio mai er pan ddaeth y fugeiliaeth i'r sir hon y mae hithau wedi bod mor weithgar gyda'r cenhadaethau. Ugain mlynedd yn ol, yr oedd yma ddwy ar bymtheg o eglwysi heb wneuthur y casgliad cenhadol.

"Peth arall a roddir yn erbyn bugeiliaeth ydyw, ei bod hi yn difa arian yr eglwysi, fel na bydd ganddynt ddim at bethau eraill. Camgymeriad ydyw hyn eto. Y gwirionedd ydyw, mai y fugeiliaeth sydd wedi dysgu yr eglwysi i fod yn hael at bobpeth. Ugain mlynedd yn ol, nid oedd yma 'na chyflog i ddyn na llôg am anifail.' Gellwch chwi wenu wrth fy nghlywed i yn dywedyd hyn, ond geiriau gwirionedd a sobrwydd ydynt. Pam' swllt y Sabbath oedd y swm mwyaf a gefais i gan ein heglwysi cryfaf cyn i fugeiliaeth gychwyn, a llai na hyny yn aml. Bum yn dyfod i Ddolgellau am rai blynyddoedd am bum' swllt y Sabbath. Yr oedd hyny, wrth gwrs, o dan yr hen oruchwyliaeth; ac yr wyf yn rhyfeddu weithiau wrth glywed am frodyr yn rhoddi hyn yn erbyn y fugeiliaeth sydd wedi medi llawer o'i ffrwyth hi yn hyn o beth: 'A gasgl rhai rawnwin oddiar ddrain?' Ac a gaf fi ofyn yn y fan hon, a ydyw pob lle sydd heb fugeiliaeth yn enwog am eu cyfraniadau i weinidogion? Y mae rhywbeth heblaw y fugeiliaeth yn difa arian rhai o honynt. Gwn am un gweinidog wedi bod mewn Cymdeithasfa yn un o'r lleoedd nad oes fugail iddynt. Diacon neu ddiaconiaid oedd yn llywodraethu; ac er i'r gweinidog wneuthur yr oll a allai, eto am nad oedd ei allu yn cyfateb i ddymuniadau y llywodraethwyr, bu raid iddo dalu 25s. am ddyfod yno!

"Y mae bugeiliaeth wedi creu cymaint o haelioni, fel y goddef eglwysi gwlad fynyddig a thlawd, ar lawer cyfrif, fel Meirionydd, ei chymharu âg eglwysi mawrion a chyfoethog y Corff. Nifer aelodau Liverpool ydyw, 4,160; swm y casgliadau oedd 5330p. 12s.; y mae hyn dros 25s. yr aelod. Nifer aelodau Gorllewin Meirionydd ydyw 5513; cyfanswm y casgliadau oedd 7708p. 12s.; y mae hyn dros 27s. Nid wyf yn sicr a ydyw yr eisteddleoedd a'r tai i lawr yn nghyfrif Liverpool; os felly, rhaid eu tynu allan o gyfrif Meirionydd. Bydd hyny yn tynu y swm i lawr o 27s. yr aelod i 23s. Ond os ychwanegir at hyn y swm a wneir at Gymdeithas y Beiblau (fe gyfrifir y casgliad hwn gan Liverpool), bydd cyfraniadau Meirionydd dros 24s. yr aelod. Pe cymerid y gwrandawyr yn lle yr aelodau, tynai hyny y swm ychydig i lawr. Nid er mwyn gwag ymffrost yr wyf yn nodi y pethau hyn, ond i ddangos fod eglwysi y sir yn cael eu gwneuthur yn ffrwythlawn gan rywbeth. Pe dywedwn i gan beth, gwyddoch oll beth fyddai hwnw. Ond mi ddywedaf yn hytrach, bydded y gwrthwynebwyr yn farnwyr, a rhoddent hwy yr achos.

"Peth arall a roddir yn erbyn bugeiliaeth ydyw, ei bod yn cymeryd yr awdurdod o ddwylaw y blaenoriaid. Ond nid felly y mae yn y sir hon. Ni bu blaenoriaid erioed yn fwy eu gallu a'u dylanwad yma nag ydynt yn awr, ie, ni buont erioed fel dosbarth mor barchus ag ydynt yn awr, nac ychwaith mor weithgar. Chwanegu eu gwaith, ac nid ei leihau, a wnaeth bugeiliaeth. Ond y mae hyn yn bod, nis gall neb o hyn allan ddyfod yn ben blaenor yn y Cyfarfod Misol. Y maent oll yn gydradd o ran awdurdod; ac nis gall neb o'r bugeiliaid fyned yn esgob yno. Fe gaiff y blaenor galluog a'r pregethwr galluog eu lle eu hunain yn yr eglwys ac yn y Cyfarfod Misol; ond nis gall y naill na'r llall o honynt fod yn ddictator. Y mae y llywodraeth yn un gonstitutional. Dichon fod ambell flaenor yn ein mysg eto heb gydymdeimlo â'r fugeiliaeth, ond nis gwn pwy ydynt; a phe byddai i mi felly ddweyd gair yn eu herbyn, ai teg ei barnu hi wrth opiniwn un dyn, ac nid wrth y ffeithiau a nodais eisoes?

"Y mae bugeiliaeth yn y sir hon wedi profi y gall dau beth gyd-hanfodi y tybid nad ydoedd yn bosibl i hyny fod, sef annibyniaeth pob eglwys, a'r berthynas a'r undeb agosaf rhwng yr eglwysi hyn â'u gilydd. Mewn rhai siroedd, lle nad oes bugeiliaeth, mae'r eglwysi mor annibynol fel nad ymostyngant i unrhyw benderfyniad o eiddo'r Cyfarfod Misol, os na bydd yn gydnaws â'u teimlad. Mewn siroedd eraill, y mae'r eglwys unigol yn cael ei cholli yn y lliaws, ac felly collir y teimlad o gyfrifoldeb personol yr eglwysi, a chollir dylanwad cymhelliad cryf iawn i weithgarwch. Yn y sir hon y mae'r eglwysi, heb bron eithriad, yn cario allan benderfyniadau y Cyfarfod Misol a'r Gymdeithasfa, er eu bod yn gyfrifol eu hunain am eu dyledion, ac am bob peth angenrheidiol i gario yr achos ymlaen yn eu plith. Os gofynir i ni pa fodd y dygwyd bugeiliaeth i'w stâd bresenol, a pha gynllun oedd genym, fy ateb ydyw, nad oedd genym yr un o'r eiddom ein hunain. Y gwirionedd ydoedd, er, feallai, ei fod yn ychydig o ddarostyngiad i ni ei gyfaddef, nad oedd genym nemawr o ddynion original—o ddynion gwreiddiol—yn ein plith ugain mlynedd yn ol. Oblegid hyn, bu raid i ni fabwysiadu cynllun y digwyddodd i ni daro wrtho mewn hen Lyfr a ysgrifenwyd er's tua 1800 o flynyddoedd yn ol. Yr wyf wedi clywed fod rhai digon gwreiddiol mewn rhai siroedd i ddyfeisio cynllun newydd, ond rhaid i mi gyfaddef mai lladrata ein cynllun a wnaethom ni. Ac er fod y plan yn hen, nid ydoedd yn rhy hen i weithio; ac y mae yn debyg mai boddloni ar hwn a wnawn tra y pery i weithio mor rhagorol. Nodaf un neu ddwy o'i hegwyddorion.

"Yn gyntaf,—Nad ydoedd y fugeiliaeth yn cael ei sefydlu er mwyn un dyn, nac er mwyn un dosbarth o ddynion. Ni sefydlwyd mo honi er mwyn hen bregethwyr, nac er mwyn pregethwyr ienainc, ond yn unig er mwyn ymgeleddu yr eglwysi. Ein cred ni ydyw, fod y pregethwyr wedi eu gwneuthur er mwyn yr eglwysi, ac nid yr eglwysi er mwyn y pregethwyr, a chariwyd hona allan yn llythyrenol.

"Yr ail egwyddor ydoedd, Fod hawl gan bob eglwys i ddewis ei bugail ei hunan. Un o ragorfreintiau mwyaf gwerthfawr eglwys ydyw hon, a dylai wylio yn ddyfal rhag i neb ei hysbeilio o honi. Ac nid heb synu y byddaf yn darllen llythyrau ambell ddiacon yn y papyrau newyddion, sydd newydd gael ei ddewis ei hun felly i'w swydd, ond a fynai ysbeilio yr eglwys o'r hawl i ddewis ei bugail, gan haeru ei bod yn rhy ddibrofiad a digrefydd i gael y fath ymddiried. Gobeithio yr wyf mai nid yn ei etholiad ef ei hun i swydd y cafodd ef y prawf o hyn. Ein cred ni ydyw, nad oes a fyno y Cyfarfod Misol ddim â hyn, ond yn unig arolygu ei symudiad, i edrych fod pob peth yn cael ei ddwyn ymlaen yn deg. Felly y mae y Cyfarfod Misol hwn wedi ymddwyn, heb ymyryd dim â rhyddid yr eglwysi i wrthod bugeiliaeth o gwbl, os mynent, neu i ddewis y neb a ewyllysiant i'r gwaith. Y mae ein bugeiliaid presenol ni yn brawf o'r hyn yr wyf yn ei ddweyd. Dewiswyd wyth o honynt o'r Cyfarfod Misol hwn, pump o'r parth arall o'r sir, dau o Sir Drefaldwyn, dau o Sir Gaernarfon, ac un o Sir Fflint.

"Peth arall a effeithiodd er llwyddiant bugeiliaeth yn ein plith ydoedd, na sefydlwyd yma yr un Divorce Court. Sefydlwyd y cyfryw lys yn Ffrainc tua diwedd y ganrif ddiweddaf, i wrando ar bob achwyniad mympwyol a allai fod gan y gŵr yn erbyn ei wraig, &c.; a'r canlyniad oedd, fod cymaint o ysgariadau mewn blwyddyn ag ydoedd o briodasau. Ond nid oedd y llys hwnw ddim wedi ei agor eto yn Sir Feirionydd, onidê y mae yn debyg y buasai wedi cael ychydig o waith. Yr wyf yn gwybod fod y bugeiliaid yn gwneyd aml gamgymeriad; onid ydyw pawb yn eu gwneyd? Pan ddaw bugail gyntaf i'r eglwys, fe ddisgwylir iddo wneuthur gwyrthiau; ond y mae y cariad cyntaf yn oeri ychydig pan y deuir i deimlo nad ydyw y bugail ond dyn ar y goreu; a phe buasai genym Lys Ysgariaeth yn y cyfwng yna, y mae yn debyg y buasai ambell briodas yn cael ei datod. Ond ni phery y teimlad yna ond am amser byr. Cyfyd cariad o burach natur, ac ar seiliau gwell, rhwng yr eglwys a'r bugail, yr hwn a ffurfia undeb a bery hyd angau. Peth arall sydd a fyno â'n heddwch ydyw, nad oes dim hawkers yn cael eu cadw yma i gario chwedleuon am fugeiliaid. Y maent yn dyfod atom o leoedd eraill weithiau, ond yn dianc yn fuan, onidê cymerid hwynt i fyny yma fel terfysgwyr.

"Gwn fod llawer o gablu ar fugeiliaeth, ac yn wir ar fugeiliaid; dywedir ei bod hi yn fethiant, &c.; ond nid ydyw felly yma. A pha beth bynag a ddywedir am fugeiliaeth, y mae y ffeithiau a nodwyd yn parhau. Y mae Sir Feirionydd yr hyn ydyw hi heddyw, naill ai oherwydd bugeiliaeth, neu er gwaethaf bugeiliaeth: os o'i herwydd hi, yna rhaid ei bod hi yn beth da iawn; os er ei gweithaf hi, rhaid nad ydyw hi ddim yn beth drwg iawn, onidê nis gallasai cymaint o lwyddiant fod mewn sir sydd mor llawn o honi. Cymerwch yr olwg a fynoch ar y pwnc, daw bugeiliaeth allan yn fuddugoliaethus. Os wyf wedi amlygu gormod o frwdfrydedd wrth roddi yr achos ger eich bron, maddeuwch i mi. Y mae fy sel drosto yn codi oddiar fy nghariad at Fethodistiaeth. Nid canmol fy hun a'm brodyr oedd fy amcan. Mi ddymunwn ddweyd, a diau mai hyny ydyw eu teimlad hwythau, Nid i ni, O Arglwydd, ond i'th enw dy hun dod ogoniant.' Ond fy amcan ydoedd i'r siroedd eraill, oddiwrth yr hyn a fu yn y sir hon, weled nad oes achos iddynt ofni bugeiliaeth. A dymunwn ddweyd, hefyd, na ddaw neb i'w deall hi yn dda ond trwy edrych arni yn gweithio. Fe siaradwyd, ac fe ddadleuwyd rhyw gymaint yn ei chylch hi yma, ond fe ddechreuwyd ei hymarfer hi yn hir cyn penderfynu y pynciau mewn dadl, a hyny a ddygodd ei barn hi allan i fuddugoliaeth. Bu cryn ddadleu ynghylch gallu ager i yru llongau tua dechreu y ganrif. Ysgrifenwyd llawer i brofi fod y peth yn anmhosibl; " ond tra yr oedd ysgrifenydd medrus yn parotoi llyfr yn erbyn hyn, aeth engineer i geisio gwneyd y peiriant; a phan oedd y llyfr yn cael ei gyhoeddi i brofi anmhosibilrwydd y peth, yr oedd agerlong fechan yn paddlo ar y Clyde, er gwaethaf logic y llyfr. Ysgrifened y neb a fyno yn erbyn bugeiliaeth, y mae hi yn paddlo yn ei blaen yn Meirionydd, tra y mae y bobl ddysgedig yn ysgrifenu i brofi nad oes modd iddi weithio. Os mynech ei deall, rhoddwch brawf arni; a phrawf, cofiwch, ar y gwir beth, ac nid ar rywbeth a gamenwir yn fugeiliaeth."

Traddodwyd yr anerchiad ar ddechreu gweithrediadau y Gymdeithasfa, y peth cyntaf ar ol derbyn y cenadwriaethau o'r siroedd, a gadawodd argraff ddofn ar feddwl pawb a'i gwrandawai, a phenderfynwyd yn Nghyfeisteddfod y Blaenor- iaid dranoeth, yr hyn a gymeradwywyd drachefn gan yr holl frawdoliaeth, fod iddo gael ei argraffu gyda chylch-lythyrau y Gymdeithasfa. Yn yr adroddiad am y cyfarfod hwn dywedir, "Derbyniwyd araeth Mr. Morgan gyda brwdfrydedd. anghyffredin, a thraddodwyd hi gyda nerth mawr iawn."

Ymhen tair blynedd a haner ar ol traddodiad yr anerchiad uchod, yr oedd y Parch. Griffith Williams, Talsarnau, yn rhoddi hanes yr achos yn y sir, yn Nghymdeithasfa Penrhyndeudraeth, yr hon a gynhaliwyd Tachwedd 4, 5, 6, 1873. Cyfeiria rhan o'i adroddiad yntau at yr un mater. "Nid ydwyf am ddweyd llawer ynghylch y fugeiliaeth," meddai, "gan mai dyna ydoedd. baich yr anerchiad a draddodwyd dair blynedd yn ol. Ond gallaf ddweyd fod y fugeiliaeth o'r pryd hwnw hyd yn awr yn parhau i fyned ymlaen. Fe deimlir gan fwyafrif eglwysi ein sir fod hyn yn un o'r pethau anhebgorol i lwyddiant a pharhad yr achos yn ein plith. Edrychir ar y sir, a gelwir hi gan rai yn wlad y bugeiliaid. Ac fe ellid meddwl fod rhyw briodoldeb yn yr enw, gan mai i'r gorlan hon y maent yn edrych pan y maent mewn angen am fugeiliaid. Fe fydd rhywrai yn siarad am lwyddiant y fugeiliaeth yn ein sir fel pe bai yma rywbeth mwy ffafriol nag sydd mewn unrhyw sir arall. Pa beth ydyw y rhywbeth hwnw, nid oes neb yn dweyd. Ond fe ddywed pawb fod yma rywbeth. Rhaid ynte, mai rhywbeth yn ei hawyrgylch ydyw, neu yn ei mynyddoedd, neu yn ei chymoedd culion. Nid dim yn yr eglwysi ydyw. Y mae genym ni yn y sir hon yr un anhawsderau i fyned drostynt ag sydd yn awr i'w cael mewn siroedd eraill. Ond os dymunir cael mewn un gair ddirgelwch llwyddiant y sefydliad hwn, dyna fe, y diweddar Barch. E. Morgan. Cafodd hyn ei gydnabod ar lan ei fedd. Dioddefodd Mr. Morgan lawer, ac fe gawsai ddioddef mwy o'r haner onibai ei fod yn bregethwr mor dda. Ni fuasai llawer blaenor byth yn gofyn ei gyhoeddiad pe buasai yn gwybod pa fodd i fyw gyda'r gynulleidfa heb wneyd. Y mae yn wir fod y diweddar Barch. Robert Williams, Aberdyfi, a'r Parch. Richard Humphreys wedi rhoddi llawer o gynorthwy iddo, ond efe oedd raid fyned i'r dwfr. Efe fyddai yn llabyddio y gwrthddadleuon, a byddent hwythau yn dal ei ddillad."

Pethau a fu ydyw y pethau a ddywedwyd, ac fe gyfaddefa pawb fod y pethau y sydd yn dra gwahanol. Mae yr hyn oedd unwaith yn deimlad ychydig nifer, erbyn hyn wedi dyfod yn deimlad gwlad, a'r eglwysi o fach i fawr wedi eu hargyhoeddi mai y ffordd i ddisgwyl llwyddiant yn y pethau a berthyn i deyrnas nefoedd ydyw trwy fod dan arolygiaeth gweinidogion o'u galwad eu hunain, ac o osodiad rheolaidd, yn ol dysgeidiaeth y Testament Newydd. Cyfodai gynt wrthwynebiad cryf i'r fugeiliaeth eglwysig o bob cwr, ac fel y dengys y penderfyniadau yn y tudalenau blaenorol, gorchfygwyd llu ar ol llu o anhawsderau, er dyfod a phethau i'r sefyllfa y gwelir hwy y dydd heddyw. "Er cryfed y gwrthwynebiad i'r drefn hon," ebai Mr. Morgan yn ei ddydd, "y mae yn dyfod fel llanw'r môr." Ac megis y rhag-ddywedodd, felly y daeth. Cafodd ef fyw i weled y llanw wedi cyfodi yn lled uchel, ac y 506 mae wedi cyfodi yn llawer uwch, ar ol iddo ef gyraedd yr orphwysfa. Terfynwn y benod hon, trwy roddi dwy restr o'r gweinidogion, ynghyd a maes eu llafur, un yn 1870, y flwyddyn. y traddodwyd yr anerchiad hir-gofiadwy gan Mr. Morgan, a'r llall ar ddiwedd 1890.

GWEINIDOGION AC EGLWYSI DAN EU GOFAL YN 1870
Enw .... Maes eu Llafur .... Blwyddyn
sefydliad
Parch. Edward Morgan Dyffryn 1850
" David Davies Abermaw 1864
" David Evans M.A. Dolgellau 1864
" Owen Jones, B.A. Bethesda, Tabernacl 1864
" Owen Roberts Seion, Llwyngwril, Bwlch 1864
" David Jones Llanbedr, Gwynfryn 1864
" Robert Owen, M.A. Pennal, Maethlon 1865
" John Davies Bontddu, Llanelltyd 1865
" Samuel Owen Tanygrisiau 1865
" Francis Jones Aberdyfi 1866
" N. C. Jones Penrhyn, Pant 1866
" J. Eiddon Jones Silo, Rhiwspardyn 1866
" Evan Jones Corris, Bethania, Aberllefeni, Esgairgeiliog 1867
" Owen Roberts Abergeirw, Hermon 1867
" David Roberts Rhiwbryfdir 1868
" Griffith Williams Harlech 1869
" William Jones Trawsfynydd, Cwmprysor, Eden 1869

GWEINIDOGION AC EGLWYSI DAN EU GOFAL YN 1890
Enw .... Maes eu Llafur .... Blwyddyn
sefydliad
Parch. Samuel Owen Tanygrisiau 1865
" David Roberts Rhiwbryfdir 1868
" William Jones Trawsfynydd, Cwmprysor 1869
" Hugh Roberts Siloh, Rhiwspardyn, Carmel 1870
" Rd. Evans Harlech, Llanfair 1871
" T.J. Wheldon, B.A. Bethesda, Tabernacl 1874
" J.H. Symond Towyn (Cymraeg) 1876
" David Jones Garegddu 1880
" R. Rowlands Llwyngwril, Bwlch, Saron 1882
" Elias Jones Talsarnau 1883
" John Owen Abergynolwyn 1885
" E. V. Humphreys Bontddu, Llanelltyd 1885
" John Owen Aberdyfi (Cym. a Saes.) 1886
" R.J. Williams Aberllefeni 1887
" J. Gwynoro Davies Abermaw (Cymraeg) 1887
" Evan Roberts Dyffryn 1888
" D. Hoskins, M.A. Bethania, Ystradgwyn 1888
" E.J. Evans Nazareth, Pant 1889
" R. Roberts Minffordd, Gorphwysfa. 1889
" D. O'Brien Owen Siloam, Croesor 1889
" John Roberts Corris, Esgairgeiliog 1889
" R. Williams, B.A. Dolgellau (Saesneg) 1889
" J J. Evans Llanfachreth, Hermon, Abergeirw 1889
" D. D. Williams Ffestiniog (Peniel) 1890
" John Williams, B.A. Dolgellau (Salem) 1890[44]
" Hugh Ellis Maentwrog Uchaf ac Isaf a Llenyrch 1890[44]
" J Willson Roberts Llanbedr Gwynfryn 1890[44]
" J Daniell Evans Towyn (Saesneg) 1890[44]

Nodiad,—Barnwyd yn fwy priodol i ddefnyddio y gair gweinidog y rhan fynychaf yn y benod hon, yn hytrach na'r gair bugail, oddieithr yn anerchiadau Mr. Morgan a Mr. G. Williams.

PENOD V.

ARHOLIAD SIROL YR YSGOL SABBOTHOL

CYNWYSIAD.—Yr amser y dechreuodd yr Arholiad—Rhodd mewn ewyllys at yr Ysgol Sul—Cadben Henry Edwards—Y pwyllgor cyntaf—Y Rheolau cyntaf—Rhestr o'r buddugwyr yn yr Arholiad.

 YMUDIAD wedi cychwyn yn ddiweddar yn ein plith ydyw yr arholiad mewn cysylltiad â'r Ysgol Sabbothol. Nid oedd son am dano ugain mlynedd yn ol. Ond erbyn hyn, y mae arwyddion fod holl siroedd Cymru wedi ymgymeryd âg ef, i fesur mwy neu lai. Wedi ei weled yn myned gymaint ar gynydd, a hyny gyda chamrau breision mewn rhai manau, diameu y bydd gwybod hanes dechreuad y symudiad yn fanteisiol yn yr amser a ddaw. Cynhaliwyd yr Arholiad cyntaf, yn y wedd yma, o fewn cylch Cyfarfod Misol Trefaldwyn Isaf, oddeutu y flwyddyn 1873. Yn 1875, ffurfiwyd Undeb Ysgolion Sabbothol Môn. Gorllewin Meirionydd oedd y nesaf o'r Cyfarfodydd Misol i ymgymeryd â'r anturiaeth. Yr oedd cynlluniau wedi eu rhoddi ar droed yma gyda'r symudiad ddwy neu dair blynedd cyn dechreu yn weithredol ar y gwaith. Yn 1877 y cynhaliwyd yr arholiad cyntaf yn y rhan hon o'r sir, ac fe ddechreuodd dwy o'r siroedd eraill yn union ar ol hyny.

Yr achlysur i roddi cychwyniad i'r symudiad yn Ngorllewin Meirionydd ydoedd, i swm o arian gael ei adael mewn ewyllys, tuag at achos crefydd ymhlith y Methodistiaid, mewn cysylltiad â'r Ysgol Sabbothol. Y gwr a'u gadawodd oedd Cadben Henry Edwards, mab i John ac Ann Edwards, o Arthog. Cafodd ei ddwyn i fyny gyda'i rieni yn eglwys y Methodistiaid yn yr ardal hono. Aeth i'r môr pan yn ieuanc, a thueddai, fel llawer o fechgyn wedi myned oddicartref, i bellhau oddiwrth grefydd. Ond yr oedd yr argraffiadau a dderbyniasai yn ei febyd yn para heb eu dileu, a glynasant wrtho ar hyd y blynyddoedd. Wedi iddo adael y môr, dywedai wrth gyfaill iddo ei fod yn awyddus iawn i gael ymuno â'r eglwys drachefn, ac i wneuthur rhywbeth oedd yn ei allu tuag at yr achos mawr mewn cysylltiad â'r Methodistiaid. A'r canlyniad fu iddo adael yn ei ewyllys 150p., yn ngofal Mri. Elias Pierce, Birkenhead, a John Lloyd Jones, Liverpool, i'w defnyddio yn y modd y barnent hwy yn oreu. Cyn hir wedi hyn, gwaelodd ei iechyd; ac ar ol rhai wythnosau o gystudd, bu farw, yn nhŷ ei chwaer hynaf, yn y Lodge, Arthog, a chladdwyd ef yn mynwent Llwyngwril.

Trosglwyddodd Mr. Elias Pierce yr arian drosodd i ofal Cyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd, a gynhaliwyd yn Nolgellau, Ionawr, 1875. Rhoddwyd receipt am danynt, wedi ei arwyddo gan y trysorydd, a chyflwynwyd diolchgarwch cynes y cyfarfod i Mr. Pierce am ei ewyllys da tuag at y Cyfarfod Misol, ac am ei ffyddlondeb yn dyfod o Birkenhead yn bwrpasol i gyflwyno yr arian, ynghyd a 5p. o lôg a dderbyniasai oddiwrthynt hyd y pryd hwnw. Gan fod y Legacy Duty wedi ei dalu allan o'r swm gwreiddiol, rhoddwyd yr arian ar lôg yn enw trysorydd y Cyfarfod Misol, hyd nes iddynt gyraedd y swm llawn o 150p. Yn mis Ebrill, yr un flwyddyn, penododd y Cyfarfod Misol bedwar o bersonau—un o bob Dosbarth Ysgol,—sef y Parchn. D. Roberts, Rhiw; D. Jones, Llanbedr; J. Davies, Bontddu; R. Owen, M.A., Pennal, ynghyd a Mr. Elias Pierce, Birkenhead, yn bwyllgor i ystyried y ffordd oreu i ddefnyddio yr arian at wasanaeth yr Ysgol Sabbothol. Ac un o'r rheolau cyntaf oedd, fod dau o aelodau y pwyllgor i fyned allan o'u swydd bob blwyddyn, a dau eraill i gael eu penodi yn eu lle. Wedi i'r pwyllgor gyfarfod amryw weithiau, cyflwynwyd i'r Cyfarfod Misol, a gynhaliwyd yn Maentwrog Uchaf, Medi 4ydd a'r 5ed, 1876, y penderfyniadau canlynol, y rhai a fabwysiadwyd yn unfrydol.

ARHOLIAD

Mewn cysylltiad a'r Ysgol Sabbothol o fewn cylch Cyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd.

1. Fod Arholiad Cyffredinol, perthynol i'r Cyfarfod Misol, i gael ei gynal unwaith yn y flwyddyn, ar un o Bynciau Athrawiaethol crefydd. 2. Fod yr Arholiad hwn i gael ei ddwyn ymlaen mewn ysgrifen, ar ddull yr Arholiad Cymdeithasfaol. 3. Fod arholwr i gael ei benodi bob blwyddyn gan y Cyfarfod Misol. 4. Fod yr arholwr i anfon copiau o'r cwestiynau i bob lle yr anfonir amdanynt. 5. Fod gofal yr arholiad yn y lle ar y gweinidog ac un o'r diaconiaid, pa rai sydd i ofalu am anfon yr atebion i'r arholwr. 6. Fod y mater yn cael ei hysbysu yn Nghyfarfod Misol Awst; yr atebion i fod yn llaw yr arholwr y dydd cyntaf o Ebrill; ac enwau y buddugwyr i'w cyhoeddi yn Nghyfarfod Misol Mai. 7. Fod yr arholiad i gael ei gynal ymhob lle ar yr un dydd, a bod hyd yr eisteddiad i'w benodi gan yr arholwr. 8. Fod 5p. o wobr i'r goreu; 2p. i'r ail; 1p. i'r trydydd. Mater yr arholiad y flwyddyn gyntaf ydoedd, "Cyfiawnhad." Y Parch. R. Roberts, Dolgellau, yn arholwr.

Argraffwyd y penderfyniadau hyn yn slips, ac anfonwyd hwy i arolygwyr, athrawon, ac athrawesau yr ysgolion. Dyma ddechreuad yr arholiad blynyddol sydd erbyn hyn wedi dyfod yn sefydliad mor bwysig yn y sir, ac yn y wlad yn gyffredinol. Gwnaethpwyd amryw o gyfnewidiadau yn y rheolau o bryd i bryd, y rhai a gyhoeddir gyda'r materion yn flynyddol. Rhoddwyd y rhai cyntaf i mewn yma, er mantais i weled pa fodd yr oedd pethau yn y cychwyn gyda hyn. Swm y gwobrwyon ar y cyntaf oedd yr hyn a dderbynid yn llogau oddiwrth yr arian crybwylledig adawsid at wasanaeth yr Ysgol Sabbothol. Ond cynyddodd y treuliau yn fuan gryn lawer yn fwy na'r derbyniadau. Ac i'r amcan o chwyddo y 150p. a dderbyniasid ar y cyntaf, gwnaethpwyd ymdrech amser yn ol, trwy lafur ysgrifenydd y Pwyllgor, y Parch. G. C. Roberts, y pryd hwnw o Faentwrog, i gasglu swm ychwanegol o arian. Er hyny, prin y cyrhaedda y swm a dderbynir yn flynyddol i haner y treuliadau yr eir iddynt gyda'r arholiad, ac hyd yma gwneir y gweddill i fyny o 'drysorfa y Cyfarfod Misol. Y mae nifer Pwyllgor Sirol yr Ysgol Sabbothol gryn lawer yn lliosocach nag yr oedd yn y dechreu. Cyfaddasir yr arholiad y blynyddoedd diweddaf i gyfateb i'r Meusydd Llafur a drefnir gan Bwyllgor Undeb yr Ysgolion Sabbothol. Hyd yn ddiweddar, defnyddiai yr holl ymgeiswyr yn yr arholiad ffugenwau wrth eu cynyrchion. Nid oedd pawb yn cydweled am y priodoldeb o wneuthur felly, a bu cryn lawer o ddadleu o berthynas i newid y drefn. Yn awr rhydd pawb eu henwau priodol eu hunain wrth eu hatebion. Wedi mabwysiadu y drefn hon, penodir arholwyr o'r tuallan i gylch y Cyfarfod Misol, tra y gwnelid y gwaith yn flaenorol yn rhad gan weinidogion ac eraill o'r sir ei hun. Yn ddiweddar, hefyd, mae y gwobrwyon wedi myned trwy gwrs o gyfnewidiad, fel ag i gyraedd i nifer liosocach. Ac er nad yw rhif yr ymgeiswyr yn yr arholiadau hyn yn fawr, y mae wedi cynyddu llawer rhagor y bu. A ganlyn ydyw rhestr y buddugwyr ynghyd â'r gwobrau o'r dechreuad hyd eleni:—

1877.

1. Mr. Hugh Pugh, Llanegryn, 5p. 2. Miss Ellen Davies, Hafodycoed, Gwynfryn, 2p. 3. Mr. Griffith Evans, Croesor, 1p.

1878

1. Mr. Evan Griffith, Aberllyfeni, 5p. 2. Mr. John Thomas, Tanygrisiau, 2p. 3. Mr. Hugh Roberts, Dolgellau, 1p.

1879.

1. Mr. Hugh Roberts, Dolgellau, 5p. 2. Mr. J. T. Williams, Croesor, 2p. 3. Mr. Evan Williams, Rhyd, Llanfrothen, 1p.

1880.

1. Mr. M. E. Morris, Minffordd, 5p. 2. Miss Davies, Hafodycoed, Gwynfryn, 2p 3 Mr. J. Solomon Jones, Minffordd, 1p.

1881.

1. Mr. John Pritchard, Brithwernydd, Penrhyndeudraeth, 5p. 2. Mr. David Owen, Ystradgwyn, 2p. 3. Mr. David Davies, Tan'rallt, 1p.

1882.

Yn y flwyddyn hon gwnaed rhai rhwng 15eg ac 21ain oed yn ddosbarth arnynt eu hunain, a rhai dan 15eg i ffurfio trydydd dosbarth. Y buddugwyr yn y Dosbarth I.—1. Mr. J. Solomon Jones, Minffordd, 3p. 2. Miss Davies, Hafodycoed, 1p. 10s. Dosbarth II.—1. Richard Jones, Tabernacl. 2. Miss Elizabeth Williams, Croesor; Miss Mary Thomas, Llanfair, cyfartal, 1p. i bob un. Dosbarth III. —Jane Griffiths, Salem, Dolgellau; John Edwards, Llanelltyd, yn gyfartal, 15s. bob un.

1883.

Dos. I.(1). Mr. Robert Morris, Peniel, Ffestiniog, 3p. (2). Mr. David Owen, Ystradgwyn, 1p. 10s. Dos. II —(1).William Evans, Llanfair, 2p. (2). E. Lloyd Richards, Maentwrog Isaf, 1p. Dos. III.—(1). Mary Ann Blunt, Maentwrog Uchaf, 1p. (2). John Williams, Bowydd, 10s.

1884.

Dos. I.—(1). Mr. David Roberts, Corris, 3p. (2). Miss Janet Jones, Tanygrisiau, 1p. 10s.

Dosbarth II.—(1) Robert Williams, Bowydd, 2p. (2). Miss Mary Thomas, Llanfair, 1p.

Dosbarth III.—(1) John Ellis Hughes, Engedi, ip. (2). Laura Ellen Jones, Tanygrisiau, 10s.

1885.

Yn y flwyddyn hon ychwanegwyd Dosbarth IV., sef rhai dan 12eg mlwydd oed. Am nad oedd ond nifer fechan yn cynyg, rhoddwyd ef i fyny.

Dosbarth I.—(1) Mr. Robert Evans, Bethania, 3p. (2). Mr. William Evans, Garegddu, 1p. 10s.

Dosbarth II.—(1) John Griffith Hughes, Tanygrisiau, 2p. (2). John D. Jones, Bethesda, 1p.

Dosbarth III.—(1) Alice Jones, Bethania, a Mary Lumley, Corris, cyfartal 10s. bob un. (2). Edward Evans, a Lizzie Evans, Bethania, cyfartal, 5s. bob un.

Dosbarth IV. (1) Catherine Jones, Llanegryn. (2). Thomas Williams, Garegddu.

1886.

Dosbarth I.—(1) Mr. Hugh Roberts, Dolgellau, 3p. (2). Mr. W. P. Roberts, Garegddu, 1p. 10s.

Dosbarth II.—(1) Mr. John Jones, Nazareth, Penrhyn, 2p. (2). Mr. John D. Jones, Bethesda, 1p.

Dosbarth III.—(1) Jennie Roberts, Bethel, Dolgellau, a Hugh John Hughes, Bethesda, yn gyfartal, 10s. bob un. (2). John D. Evans, Bethania, a Charles H. Jones, Bethesda, cyfartal, 5s. bob un.

1887.

Dosbarth I.—(1) Miss Davies, Llanegryn, 3p. (2). Mr. H. S. Roberts, Bethania, 1p. 10s. (3). Mr. W. Pugh, Siloh, 1p.

Dosbarth II.—(1) Miss Margaret Ellen Owen, Gorphwysfa, 2p. (2). Miss Mary Hannah Davies, Corris, 1p.

Dosbarth III.—(1) John R. Jones, Bethesda, 1p. (2). Robert Vaughan Humphreys, Engedi, a Susanah Owen, Aberllyfeni, cyfartal, 5s. bob un.

1888.

Dosbarth I.—(1) Mr. John Disley, Aberllyfeni, 3p. (2), Mr. David Roberts, Corris, a Mr. J. R. Jones, Abergynolwyn, cyfartal 15s. bob un.

Dosbarth II.—(1) Owen Ellis, Peniel, 2p. (2), Moses Henry Hughes, Garegddu, 1p.

Dosbarth III.—(1) Susanah Owen, Aberllyfeni, 1p. (2). Robert Vaughan Humphreys, Engedi, 10s.

1889.

Dosbarth I.—(1) Mr. H. S. Roberts, Bethania. 3p. (2). Mr. H. C. Evans, Bethania, 1p. 10s.

Dosbarth II.—(1) Mr. D. Lloyd Humphreys, Bethesda, 2p. (2). Miss M. E. Owen, Gorphwysfa, lp.

Dosbarth III.—(1) R. D. Evans, Bethania. (2). Thomas Williams, Corris. (3). Owen D. Jones, Bethesda.

1890.

Dosbarth I.—(1) Mr. R. R. Williams, Bethel, Dolgellau, 2p. (2). Mr. John Jones, Aberllyfeni, 1p.

Dosbarth II.—(1) Mr. Owen Evans, Peniel, 1p. (2). Miss Mary Lumley, Corris, a Miss M. Vaughan, Abergynolwyn, 15s. (3). Mr. Owen Edwards, Corris, 10s.

Dosbarth III.—(1) Owen D. Jones, Bethesda, 15s. (2). Thomas Williams, Corris, 10s. (3). Griffith Lewis Griffith, Minffordd, 7s. 6c. (4). D. J. Lewis, Garegddu, 5s.

Hyfforddwr.—(1) Mr. R. R. Williams, Bethel, Dolgellau, 1p. (2). Miss Mary Lumley, Corris, 15s. (3). Mr. Owen Davies, Peniel, 10s.

PENOD VI.

CYNHADLEDD CAN'MLWYDDIANT YR YSGOL SABBOTHOL YN NOLGELLAU, 1885.

CYNWYSIAD—Aelodau y Gynhadledd—Y Pwyllgor yn cael ei gryfhau—Y Safonau yn dyfod i weithrediad—Y Can'mlwyddiant yn foddion deffroad gyda gwaith yr Ysgol Sul—Pethau ymarferol yn cael eu dwyn i sylw—Amcan y Gynhadledd—Trefnlen y Gynhadledd—Y pethau a barodd ei llwyddiant—Rhan gerddorol y Gynhadledd—Adroddiad o Weithrediadau yr Wyl.

 R oedd dydd Gwener, Mai 22ain, 1885, yn ddydd o gryn bwysigrwydd yn Sir Feirionydd, oblegid y diwrnod hwnw cynhelid Cynhadledd arbenig o bregethwyr, blaenoriaid, swyddogion, athrawon ac athrawesau, a chynrychiolwyr yr Ysgolion Sabbothol, ynghyd â phawb oedd yn teimlo dyddordeb yn y sefydliad o fewn cylch Cyfarfod Misol y rhan orllewinol o'r sir. Ganol haf, y flwyddyn hono, cynhaliwyd Cymanfaoedd lliosog yn y gwahanol ddosbarthiadau, er gwneuthur coffa am ddechreuad y sefydliad yn Nghymru, am yr oll o ba rai y rhoddwyd adroddiad mwy neu lai helaeth mewn cysylltiad â phob dosbarth ar ei ben ei hun. Yr oedd i'r Gynhadledd, yr hon a gynwysai y goreuwyr o bob rhan o'r cylch, amcan mwy cyffredinol. A phe yr elid heibio, heb wneuthur crybwylliad byr am dani, byddai un linc bwysig yn nghadwen yr hanes yn ngholl. Gwnaeth y deffroad a gymerodd le yn amser y Can'mlwyddiant les dirfawr mewn llawer ffordd. Y flwyddyn flaenorol, cryfhawyd Pwyllgor yr Ysgol Sabbothol yn y sir hon trwy chwanegu at ei nifer, fel y byddai iddo wneuthur trefniadau ar gyfer yr amgylchiad. A'r canlyniad a fu i'r dynion a roddwyd yn y swydd dori allan lawer o waith i ateb i'r amseroedd. Y pryd hwn y trefnwyd ac y mabwysiadwyd y Safonau yn yr ysgolion. Yn ol yr hen drefn, yr oedd pawb yn benrhydd, ac at eu dewisiad i gymeryd eu cynllun eu hunain i addysgu y plant, ac yn fynych iawn ni chymerid cynllun yn y byd, ond elid ymlaen wrth synwyr y fawd, mewn llawer o aflerwch a difaterwch. Gwelliant ydyw y cynllun, sydd wedi dyfod i arferiad yn ddiweddar, ar yr hen beirianwaith oedd yn bod yn Nghymru er's can' mlynedd, trwy yr hwn y credir y daw y naill dô ieuanc ar ol y llall ymlaen yn gyflymach mewn gwybodaeth, ac y gwreiddir hwy yn fwy trwyadl yn yr hyn a ddysgant. Cymerodd Pwyllgor yr Ysgol Sabbothol, y flwyddyn a nodwyd, lawer o drafferth ac amser i berffeithio y cynllun hwn. Cymerwyd mantais ar y Can'mlwyddiant i ledaenu nifer o Eiriadur Ysgrythyrol Mr. Charles ymysg deiliaid yr ysgolion. Sefydlwyd llyfrgelloedd, mewn rhai manau, yn gysylltiedig â'r capeli. Bu ymgais mwy neu lai llwyddianus i wella y Cyfarfodydd Ysgolion. Rhoddwyd anogaethau i ffurfio cyfarfod arbenig ymhob ardal, er mwyn disgyblu a chymhwyso yr athrawon i gyflawni eu gwaith yn briodol. Dygwyd i sylw, a chafwyd trafodaeth gyhoeddus yn yr Ysgolion Sul ar amryw bynciau ymarferol, megis "Cadw y Sabbath," Iawn ymddygiad yn moddion gras, "Geirwiredd," "Gonestrwydd," "Iaith anweddus," &c. Helaethwyd y gwobrwyon yn yr arholiadau, a phenderfynwyd rhoddi tystysgrifau i bawb fyddo wedi enill haner y marciau yn y gwahanol ddosbarthiadau yn yr Arholiad Sirol. Ffrwyth wedi tyfu o'r Can'mlwyddiant ydyw "Undeb Ysgolion Sabbothol Methodistiaid Gogledd a Deheudir Cymru."

Ond yr hyn y gofynir sylw arno yn y fan hon ydyw, Cynhadledd Ysgolion Sabbothol Gorllewin Meirionydd, a gynhaliwyd yn Nolgellau. Yn ol trefniad y Pwyllgor bwriedid y Gynhadledd er cael ymgynghoriad rhwng cynrychiolwyr a swyddogion yr Ysgolion Sabbothol yn y cylch ar wahanol faterion yn dwyn cysylltiad â llwyddiant y sefydliad, gan gymeryd mantais ar y brwdfrydedd oedd yn y wlad yn y flwyddyn 1885 i sylwi ar ragoriaethau a diffygion y gorphenol, ac i ystyried pa beth a ellid ei wneuthur tuag at ymgyraedd at fwy o lwyddiant yn y dyfodol. Yr oedd y drefnlen ganlynol wedi ei pharotoi y flwyddyn flaenorol, yn cynwys y materion a ddygid gerbron, ynghyd â'r personau a fwriedid i gymeryd rhan yn ngweithrediadau y dydd.

Fod Trefn Cyfarfodydd y Gynhadledd i fod fel y canlyn:—

CYFARFOD Y BOREU AM 10 O'R GLOCH.

LLYWYDD E. GRIFFITH, YSW., U.H., DOLGELLAU.

1. Darllen papyr gan y Parch. D. Roberts, Rhiw, ar "Y lle ddylai athrawiaethau crefydd gael yn addysg yr Ysgol Sabbothol." I wneyd sylwadau pellach ar yr un mater, y Parchn. J. Davies, Bontddu; W. Thomas, a J. H. Symmond.

2. Darllen papyr gan y Parch. W. Williams, Corris, ar "Pa fodd i ychwanegu effeithiolrwydd y Cyfarfodydd Ysgolion." I wneyd sylwadau pellach Mri. R. Jones, New Shop, Dolgellau; D Rowland, Pennal; a'r Parch. R. Owen, M.A.

CYFARFOD Y PRYDNAWN AM 2 O'R GLOCH.

LLYWYDD MR. G. JONES, TYMAWR, TOWYN.

1. Darllen papyr gan y Parch. E. J. Evans, Llanbedr, ar "Yr holwyddori yn yr Ysgol Sabbothol." I wneyd sylwadau pellach Parchn. W. Davies, Llanegryn; H. Roberts, Siloh; a Mr. W. Williams, Tanygrisiau.

2. Darllen papyr gan Mr. Rowland, Board School, Penrhyndeudraeth, ar "Y ffordd fwyaf effeithiol i gyfranu addysg yn yr Ysgol Sabbothol." I wneyd sylwadau pellach Parchn. G. Ceidiog Roberts, R. H. Morgan, M.A., ac Elias Jones.

CYFARFOD YR HWYR AM 6 O'R GLOCH.

LLYWYDD PARCH. R. ROBERTS, DOLGELLAU.

Traddodwyd anerchiadau ar y materion canlynol:—

1. "Y gwersi y gellir eu dysgu oddiwrth hanes cychwyniad yr Ysgol Sabbothol," gan y Parchn. D. Jones, Garegddu, a W. Jones, Trawsfynydd.

2. "Perthynas yr Ysgol Sabbothol a moesau ein gwlad," gan y Parchn. W. Jones, Penrhyn, a S. Owen, Tanygrisiau.

3. "Y cysylltiad sydd rhwng yr addysg deuluaidd a'r Ysgol Sabbothol," gan y Parchn. D. Davies, Abermaw, a T. J. Wheldon, B.A.

Cynhaliwyd y cyfarfodydd yn ol y drefn uchod, a chan y personau a nodwyd, oddieithr ychydig o eithriadau. Gwahoddid dau gynrychiolydd o bob ysgol yn y cylch, ac yr oedd cynrychiolaeth gyflawn yn bresenol, heblaw lliaws o weinidogion, a blaenoriaid, a charedigion yr Ysgol Sul o bob parth o'r sir. Gwnaeth cwmnïau y rheilffyrdd drefniadau cyfleus, er hwylusdod i'r dieithriaid; ac yn ol caredigrwydd arferol cyfeillion Dolgellau, yr oedd ymborth wedi ei ddarparu yn rhad gan ysgolion y Methodistiaid yn y dref, yn yr ystafelloedd cysylltiedig â chapel Salem.

Cytunai pawb a roddodd eu presenoldeb yn y Gynhadledd i ddwyn tystiolaeth i'w llwyddiant a'i heffeithiolrwydd, ac i ddywedyd mai da oedd bod ynddi. Trodd y trefniadau allan yn rhai hwylus a dehenig, a chafwyd arwyddion fod cryn lawer o ddylanwad yn dilyn pobpeth a ddywedid ar y materion fuont dan sylw yn ystod y dydd. Cydgyfarfyddai lliaws o bethau i beri fod cyfarfodydd y Gynhadledd yn rhai mwy arbenig na chyfarfodydd cyffredin. Gwnaethid darpariadau helaeth a phrydlon ymlaen llaw; daeth ynghyd liaws o bobl oreu y wlad, yn feibion a merched; crewyd disgwyliadau uchel yn meddyliau pawb, oherwydd fod yr amgylchiadau a roisant fôd i'r cyfarfodydd yn rhai na ddigwyddant ond unwaith mewn oes; yr oedd lliaws y gwrandawyr wedi eu meddianu, fwy neu lai, gan fyfyrdodau ar y pethau a fu ymhell yn ol, ac ar y pethau a fydd ymhell ymlaen. Tueddai pobpeth allanol yn ffafriol i gael cyfarfodydd llwyddianus. Yr oedd yr holl faterion hefyd y cafwyd trafodaeth arnynt, yn y cyntaf, yr ail, a thrydydd eisteddiad y Gynhadledd, y rhai mwyaf pwrpasol y gallesid meddwl am danynt, gan eu bod yn cyffwrdd â bywyd yr ysgol, ac â bywyd crefydd yn y wlad. Rhoddwyd diwrnod cyfan i draethu ar y pynciau canlynol-athrawiaethau crefydd, y Cyfarfodydd Ysgolion, yr holwyddori cyhoeddus, y ffordd fwyaf effeithiol i gyfranu addysg, y gwersi oddiwrth hanes cychwyniad yr Ysgol Sabbothol, y cysylltiad rhwng yr ysgol â moesau y wlad, ac âg addysg deuluaidd; a diameu na threuliwyd diwrnod yn y sir erioed gyda materion mwy pwysig. Cafwyd prawf fod y gwirioneddau yn cydio yn y siaradwyr, a'u bod hwythau, mewn canlyniad, yn cydio yn y gwrandawyr. Yr oedd rhai o'r areithiau yn cael eu nodweddu gan "feddyliau yn anadlu a geiriau yn llosgi." Byddai yr hen dadan yn cael eu meddianu gan sel angerddol gyda gwaith yr Arglwydd, Yr oedd y sel a amlygid y diwrnod hwnw yn Nolgellau, beth bynag arall ellid ddweyd am dano, yn sel yn tarddu oddiar wybodaeth, ac oddiar awyddfryd pur i wneuthur coffa am waith y tadau. Rhedai ysbrydiaeth lawer uwchlaw y cyffredin trwy yr oll o'r cyfarfodydd. Gwneid cyfeiriadau mynych at Mr. Charles, a Lewis William, Llanfachreth, fel y rhai fu yn offerynau penaf yn llaw yr Arglwydd i gychwyn yr Ysgol Sabbothol yn Sir Feirionydd, ac nid ychydig o help a roddai y coffhad am eu henwau hwy, i enyn mwy ar y sel a'r brwdfrydedd. Er nad oedd gorymdeithio cyhoeddus yn cymeryd lle y diwrnod hwnw fel yn y Cymanfaoedd a gynhaliwyd y mis dilynol, eto, cynyrchodd cyfarfodydd y Gynhadledd deimlad cryf a pharhaus o blaid yr Ysgol Sabbothol. A bydd yr hyn a wnaed drwyddi hi yn aros yn hwy na dim arall er coffhad am flwyddyn gofiadwy y Can'mlwyddiant.

Yn ystod gweithrediadau y dydd canwyd emynau allan o gasgliad oedd wedi ei ddarparu ar gyfer y gynhadledd, o dan arweiniad Mr. Humphrey Jones, arweinydd y canu yn nghapel Salem, Dolgellau. Chwareuwyd ar yr Harmonium, yn nghyfarfod y boreu, gan Mr. R. R. Williams, Tremhyfryd; yn nghyfarfod y prydnhawn, gan Miss Roberts, Frondirion; ac yn nghyfarfod yr hwyr, gan Mr. Hughie Jones, Plasucha. Trwy gyfarwyddyd, a than nawdd y Cyfarfod Misol cyhoeddwyd adroddiad cyflawn o weithrediadau y Gynhadledd, yn cynwys y papyrau a ddarllenwyd, a'r areithiau a draddodwyd, yn bamphlet arno ei hun, am y pris bychan o dair ceiniog. Y mae amryw ganoedd o hono eto ar law, heb eu gwerthu. Nid yw yn ormod dweyd fod mwy o wybodaeth fuddiol ynddo am waith yr Ysgol Sul, ac am agwedd pethau fel yr oeddynt yn y flwyddyn 1885, nag a geir yn unman arall, mewn can lleied o le. Ni ddylai yr un tŷ yn y sir fod hebddo.

PENOD VII.—SYLWADAU TERFYNOL.

CYNWYSIAD.—Wyth enaid wedi myned yn 8000—Ymweliadau a'r eglwysi—Ymweliad yn 1817—Ymweliad y Parchn. Dafydd Cadwaladr a Richard Jones, Bala, yn 1826—Ymweliad cyffredinol yn 1851—Dechreuad yr Achosion Saesneg—Cynhadledd Achosion Saesneg Gogledd Cymru yn Nolgellau yn 1887—Cyfrifon yr eglwysi yn 1849 ac 1889—Y Casgliad Cenhadol cyntaf yn Sir Feirionydd—Casgliad y Jiwbili—Brodyr fuont feirw er 1888—Golwg gyffredinol ar yr hanes—Gwasanaeth gwragedd crefyddol i'r achos—Rhagoroldeb yr hen grefyddwyr—Y pethau y rhagora yr oes hon ynddynt—Yr Arglwydd yn adeiladu y tŷ.

 YNIR yn awr at y terfyn. Prin y gellir disgwyl fod yr hanes wedi ei orphen, oblegid nid oes dim yn orphenedig mewn byd y mae cynifer o bethau newyddion yn cymeryd lle ynddo yn wastadol. Anorphenedig ydyw pob peth ymhlith dynion. Y mae hanes, fel y dywedir, yn ail adrodd hun. Y pethau a fu, a fydd; a'r pethau a welwyd, a welir; a'r digwyddiadau a gymerasant le mewn un oes, a gymerant le mewn oes arall. Y mae goleuni fel y cerdda ymlaen yn gwneuthur y llwybr o'i ol yn oleuach. Ac y mae y pethau a berthynant i'r deyrnas nad yw o'r byd hwn oll yn newydd bob amser. Wrth ddechreu ysgrifenu hanes Eglwysi Gorllewin Meirionydd, nid oeddis yn meddwl y buasai yn bosibl casglu ynghyd gynifer o ffeithiau ag sydd wedi eu cofnodi yn y tudalenau blaenorol. Y mae yn ddigon posibl, er hyny, y daw llawer o bethau i oleuni eto wedi rhoddi cyhoeddusrwydd i'r hanes hwn. Gallesid yn hawdd ymhelaethu ond myned ar ol manylion. Ond barnwyd yn well yn y ddwy gyfrol ymgadw rhag yr hyn a fuasai yn tynu oddiwrth y dyddordeb cyffredinol a pharhaol, tra yr amcenid peidio esgeuluso dim oedd a phwysigrwydd ynddo. Ar un olwg y mae yn syndod fod cymaint o waith wedi ei wneuthur, a bod cynifer o hanesion i'w hadrodd am un blaid grefyddol, mewn rhan o sir, yn ystod can lleied o amser. Nid oes eto yn llawn saith ugain mlynedd er pan ffurfiwyd yr eglwys gyntaf gan y Methodistiaid yn Ngorllewin Meirionydd, pan y cyfarfyddodd yr wyth enaid yn Mhandy'rddwyryd, ac y cyfenwyd hwy oherwydd eu bod yn wyth o nifer, yn "deulu arch Noah." Ac y mae bron yr oll o'r gweithgarwch a'r cynydd a gofnodir yma wedi cymeryd lle o fewn y can' mlynedd diweddaf. Erbyn dechreu y flwyddyn hon (1890) yr oedd yr wyth enaid wedi cynyddu nes cyraedd o fewn chwech i wyth mil (8000) o eneidiau. Y mae yn gweddu i ni ddweyd yn ngwyneb y fath gynydd fel y genedl gynt, "O'r Arglwydd y daeth hyn; hyn oedd ryfedd yn ein golwg ni."

Y mae ychydig o bethau eto yn teilyngu sylw na ddaethant o fewn cylch yr hanes yn y penodau blaenorol. Un peth ydyw yr ymweliadau â'r eglwysi. Rhan arbenig o waith y Cyfarfod Misol wy y blynyddoedd ydoedd trefnu ar gyfer anghenion yr eglwysi, a gosod ymwelwyr i ymweled â hwy. Dyma yr arferiad ymhlith eglwysi y saint er dechreuad Cristionogaeth. Un o'r pethau a gyfarfyddwn yn fynych yn Llyfr yr Actau ydyw fod yr apostolion yn anfon brodyr o'u plith eu hunain i ymweled â'r eglwysi oedd wedi eu planu yn y gwahanol wledydd. Wedi clywed daarfod i nifer mawr gredu a throi at yr Arglwydd, anfonodd yr eglwys yn Jerusalem Barnabas i fyned hyd Antiochia: "Yr hwn pan ddaeth, a gweled gras Duw, a fu lawen ganddo, ac a gynghorodd bawb oll, trwy lwyr-fryd calon, i lynu wrth yr Arglwydd." Yr ydym yn darllen yn llythyrau ein brodyr, y cenhadon ar Fryniau Cassia, eu bod hwythau yn myned yn fynych ar deithiau i ymweled â'r eglwysi, ac i gadarnhau y dychweledigion yn nghrefydd Crist. Bu adeg ar eglwysi Sir Feirionydd pan yr oeddynt oll o'r bron yn weiniaid ac egwan. Yn ddiweddar daeth i oleuni hanes byr a gafwyd mewn hen Gof-lyfr[45] o eiddo y diacon gweithgar, Mr. Gabriel Davies, y Bala, am ymweliad a wnaethpwyd âg eglwysi y sir pan oedd crefydd yn bur isel ynddi. Fel hyn y dywedir am drefniad y cytunwyd arno gan y brodyr mewn Cyfarfod Misol a gynhaliwyd yn Harlech, Mai, 1817:—

"Barn wyd yn angenrheidiol i ryw frodyr fyned oddiamgylch, i ymweled â holl gymdeithasau y sir, i edrych pa fodd y maent hwy,' oherwydd y cyfnewidiadau sydd wedi cymeryd lle yn nhrefn Rhagluniaeth ar amgylchiadau a bywoliaethau llawer o'r brodyr.-I ymofyn a ydyw yr aelodau, yn yr amser isel, cyfyng hwn, yn glynu wrth yr Arglwydd, yn peidio esgeuluso eu cydgynulliad, yn glynu wrth bob moddion o ras, &c., ac yn dyfod i Swper yr Arglwydd, yn ffyddlawn yn eu cyfraniadau at yr achos yn ol eu gallu: a oes llyfr cyfrif eglur yn cael ei gadw; a ydyw'r achos mewn dyled, a pha beth sy'n peri hyny; a oes dim costau afreidiol; a ydynt yn cadw register o'r rhai a fedyddir; a ydynt yn cadw undeb yr Ysbryd yn nghwlwm tangnefedd. A oes brawd yn barod i ymgyfreithio A brawd,-a ydynt yn ystyried achos y gofynwr a'r dyledwr yn eu plith eu hunain. A oes dim pechodau gwybodus yn cael eu goddef yn neb heb eu disgyblu yn ol y Gair. A ydyw rheolau y society yn cael eu darllen a'u hystyried? A ydyw yr aelodau oll yn gynorthwy i'r Ysgol Sabbothol? A ydynt o gydwybod yn ufuddhau i'r Llywodraeth; 'toll, i'r hwn y mae toll; ofn, i'r hwn y mae ofn; parch, i'r hwn y mae parch yn ddyledus!' A ydynt yn agweddu yn grefyddol wrth dalu treth a degwm, heb sarugrwydd a bryntni. I'r diben o gyflawni y gorchwyl crybwylledig, rhanwyd y sir yn bedwar dosbarth."

Yn Nghyfarfod Misol Ffestiniog, Medi, 1818,—"Barnwyd yn angenrheidiol bod ail ymweliad â'r Cymdeithasau, yn gyffelyb fel y gwnaed y flwyddyn o'r blaen. Y mae yn awr angen i ymweled â'r manau sydd wedi eu deffro."

Nid ydyw y brodyr a benodwyd i wneuthur yr ymweliad yn cael eu hysbysu, oddieithr Mr. Gabriel Davies ei hun, a'r hybarch bregethwr Dafydd Cadwaladr, y rhai oeddynt i gymeryd gofal eglwysi Penllyn. Ac un o'r pethau a grybwyllir yn eu hadroddiad hwy am bob eglwys ydyw, hysbysu enwau y blaenoriaid neu y golygwyr oedd ar bob eglwys, ac nid oeddynt ond un neu ddau, fel rheol, ymhob lle. Dengys y dyfyniad uchod fod gwedd Iwydaidd ar yr eglwysi y pryd hwnw. Mae y cyfeiriad a wneir hefyd at amgylchiadau gwasgedig a chyfyng yr aelodau yn eu hamgylchiadau tymhorol, yn cael ei gadarnhau gan y ffaith fod y ddwy flynedd y cymerodd yr ymweliadau crybwylledig le, yn flynyddoedd o galedi mawr ar drigolion y wlad yn gyffredinol. Mae y crybwylliad yn niwedd yr ail baragraff am y manau sydd wedi eu deffro," yn egluro fod y diwygiad mawr, yr hwn a adnabyddid wrth "Ddiwygiad Beddgelert," yn cymeryd lle yn Nghymru yn y flwyddyn 1818.

Ychydig flynyddau yn ol, daeth i feddiant y Parch. Francis Jones, o Abergele, ymysg pentwr o hen lyfrau Cymreig, gofnodiad am ymweliad arall a wnaethpwyd âg eglwysi y rhan yma o'r sir, ac yn garedig anfonodd ef y cofnodiad i fod at wasanaeth yr hanes yn y gyfrol hon. Er nad oes ynddo ryw lawer o wybodaeth, mae ei hynafiaeth yn meddu pwysigrwydd, ac y mae hefyd yn dangos "mor gadarn y cynyddodd Gair yr Arglwydd, ac y cryfhaodd," gan fod yr achosion mor isel y pryd hwnw, yn y manau a nodir. Y brif genadwri gan yr ymwelwyr, mae'n amlwg, ydoedd anogaeth i gasglu at ddyled y capelau. Mae y cofnodiad fel y canlyn:—

"Ymweliad â nifer o eglwysi Meirionydd gan y Parchn. Richard Jones a Dafydd Cadwaladr, Bala, yn Ionawr, 1826.Allan o Gofnod—lyfr y Parch. Richard Jones." Dechreuasom yn Llanfachreth. Cawsom ychydig nifer ynghyd; cryn lawer heb fod yn bresenol. Y mae yma bob ffyddlondeb. Meddyliem eu bod yn bwriadu gwneuthur ychydig at y capelau y flwyddyn hon, yn yr un drefn ag y llynedd; ond, er y cwbl, go isel ydyw yr achos yno. Gallasai fod yn well, oni buasai am ryw ychydig o sarugrwydd ac anghydfod rhwng rhywrai â'u gilydd. Ysu y mae peth felly fel cancr.

Bryn-y-gath.—Cawsom yr ychydig gyfeillion yn y lle bychan hwn yn gynes iawn, ac yn siriol iawn: pob cydfod a thangnefedd yn eu mysg, a phob ymddangosiad o'u bod yn ymglymu yn hynod barod â'r gocheliadau, y rhybuddion, a'r anogaethau oeddym yn roddi iddynt. [Anedd-dy oedd Bryn-y-gath, lle cynhelid yr achos sydd yn awr yn cael ei gynal yn Abergeirw. Yr oedd hyn ddeng mlynedd cyn adeiladu y capel cyntaf yn yr ardal.]

Cwmprysor.—Cawsom yma ychydig gyfeillion. Nid oes yn eu plith neb wedi eu henwi fel blaenoriaid. Diepilaidd iawn ydyw Seion yma. Eto, y maent yn frawdol, ac yr oeddynt yn ymddangos yn cymeradwyo ein cenadwri dros y Cyfarfod Misol atynt.

Ffestiniog.—Cawsom y cyfeillion yn y lle hwn yn llawer gwell nag yr oeddym yn eu disgwyl. Yr oeddym yn meddwl eu bod yn cymeradwyo ein neges atynt. Y maent hwy wedi newid eu ffordd i gasglu at y capelau; sef i wneyd casgliad cyhoeddus bob chwarter yn unig; a'r gymdeithas [aelodau eglwysig] i roddi wrth y drws fel eraill.

Maentwrog.—Yr oedd yr ychydig gyfeillion tlodion yno yn cymeradwyo y genadwri oedd genym atynt yn fawr; ac yn meddwl am fyned ymlaen gyda'r casgliad ar ryw lwybr tebyg i'r llynedd. Y maent yn ychydig iawn o nifer, ac yn ddiepil er's llawer dydd; ac nid heb radd o genfigen ac ymryson rhwng rhai personau, yr hyn sydd yn rhwystr i'w cysur a'u cynydd.

Gwynfryn.—Cawsom lawer o gymorth i ddweyd ein cenadwri yn y lle hwn, a llawer o ddifrifwch yn y cyfeillion wrth ein gwrando. Y mae rhywbeth anghysurus wedi bod rhwng rhai â'u gilydd yno; ond yr oeddym yn cael lle i obeithio ei fod ar wellhau. Gobeithiwn y gwnant gasgliad y flwyddyn hon, er nas gwyddom yn iawn ymha ddull.

Dyffryn.—Nis gwyddom ond ychydig am y lle hwn. Yr oedd y ddau flaenor sydd yn gweithredu fwyaf gyda'r gwaith heb fod yn y cyfarfod. Traethasom ein cenadwri i glywedigaeth hyny oedd yno; ac yr oeddynt yn ymddangos fel pe buasent yn cymeradwyo yn fawr y diben yr oeddym yn cyrchu ato; gan dystio nad oedd dim o bwys mawr yn ofidus yn eu plith, nac mewn diota, nac mewn anghydfod chwaith. Ychydig yw cynydd y gwaith yn y lle hwn. Y maent yn meddwl am gasgliad eleni eto.

Bermo. Ychydig sydd genym i'w ddweyd am y lle hwn, oherwydd yr oeddynt wedi cyhoeddi odfa i bregethu, yn lle cyfarfod neillduol; a thrwy hyny, ni chawsom ddim bron o'u hanes. Ond meddyliem mai isel a digalon ydyw yr achos yn eu plith.

Tachwedd, y flwyddyn 1851, penderfynwyd cael ymweliad drachefn ag eglwysi y pen gorllewinol i'r sir, ac ordeiniwyd y Parchn. E. Morgan, Dyffryn, a Robert Williams, Aberdyfi, i fyned trwy Ddosbarth y Ddwy Afon; a'r Parchn. Richard Humphreys a Daniel Evans i fyned trwy y gweddill o'r cylch. Yn Nghyfarfod Misol Ebrill, y flwyddyn ganlynol, rhoddasant adroddiad o'u gwaith, o'r hwn adroddiad y mae y dyfyniadau canlynol wedi eu cadw:—

Penrhyn.—Cystal a disgwyliad—rhai go dda, a'r lleill yn lled anwadal.

Siloam.—Golwg bur gynhesol ar yr achos yn y lle hwn.

Bethel (Tanygrisiau).—Caria y lle hwn y blaen arnom yn y pen yma yn gyffredin; ac un gamp arnynt ydyw, eu bod fel gwlad ac achos yn tyru at dalu am bobpeth wrth ei gael.

Bethesda.—Yn dal i weithio yn dda—yn tynu ymlaen—yn gorphen eu capel yn daclus yn raddol.

Ffestiniog.—Dim yn debyg i'r hen amser. Er eu bod mewn cysylltiad ag eglwys fechan yn daith Sabbath, eto ânt ymlaen yn selog a gweithgar, gan gymeryd y pen trymaf i'r ferfa eu hunain. Anogwyd hwy yma i ddal ati, ac i fynu digon o ddwylaw i drin yr achos arianol.

Maentwrog. Yr helynt fu dan sylw mewn committee yn Nghyfarfod Misol Dolgellau oedd eto yma.

Trawsfynydd.—Golwg lled siriol, ond cwynant yn fawr eu bod yn colli y plant o'r society pan yr ânt tua 16 mlwydd oed, ac yn cael eu gofidio yn fawr oherwydd aniweirdeb.

Abergeirw. Eisiau mwy o gydweithredu.

Llanfachreth.—Dim yn neillduol, heblaw eu bod wedi cael gofid oddiwrth aniweirdeb ac anghyfiawnder.

Carmel.—Golwg pur isel a digalon—y pechod o aniweirdeb yno yn brwydro.

Llanelltyd.—Diffygiol yn nygiad eu plant i fyny, ac mewn cydymgynull ynghyd.

Bontddu.—Cyffelyb.

Abermaw.—Golwg lled siriol, ond byddai yn dda fod yno fwy o undeb a chydweithrediad.

Dyffryn.—Yn rhyw led fywiog, ond cwynir yno oblegid aniweirdeb.

Gwynfryn.—Dirwest yn isel, a'r pechod o aniweirdeb yno yn fawr. Teimlant lawer o eisiau help arnynt i fyned a'r achos ymlaen.

Harlech.—Yr un plâ yno. Cwynant oherwydd colli cyfeillion oddiyno i fyw, ond y maent yn lled siriol gyda'u gilydd.

Talsarnau—Yn lled siriol a gweithgar—yn meddwl am gallery ar y capel. Eisiau mwy o undeb rhwng yr hen a'r ieuainc yma.

Seion.— Cwyno oherwydd esgeulusiad o foddion gras—rhai yn hynod o ddiog i gyfranu at yr achos trwy y blynyddoeddyn ddirwestwyr bron oll—defnyddir arian y seats at dalu dyled y capel—mae yno rai heb dalu am y seats un amser, ac nid ânt hwy ddim o honynt ychwaith.

Dolgellau.—Cwyno oblegid esgeuluso. Rhai yn ffyddławn iawn mewn cyfranu, a rhai yn fusgrell. Oll yn ffyddlon gyda'r ysgol. Amryw heb fod yn ddirwestwyr. Y rhan allanol o'r achos yn cael ei ddwyn ymlaen yn dda.

Ceir adroddiad am ddosbarth rhwng y Ddwy Afon yn y Gyfrol Gyntaf, tudalen 334. Y mae i'r ymweliad a wnaethpwyd y flwyddyn hon bwysigrwydd mwy na'r cyffredin; oblegid bu hwn yn achlysur i alw sylw arbenig at sefyllfa yr eglwysi gweiniaid, ac arweiniodd hyny yn ganlynol i'r ymdrechion mawrion a wnaethpwyd i osod arolygiaeth weinidogaethol ar yr eglwysi. Yn awr, er's deng mlynedd, neu fwy, pan y cymer ymweliad le, ysgrifenir yr adroddiad ar dafleni pwrpasol, y rhai a drosglwyddir i'w cadw yn ngofal ysgrifenydd y Cyfarfod Misol.

Bum mlynedd ar hugain i'r flwyddyn hon (1890) y gwnaethpwyd y symudiad cyntaf gyda'r Achosion Saesneg yn y rhan Orllewinol o Feirionydd. Ac o hyny hyd yn awr, y mae trefnu ar eu cyfer hwynt wedi bod yn rhan lled bwysig o weithrediadau y Cyfarfod Misol. Ffurfiwyd yr eglwys gyntaf yn Nhowyn. Adeiladwyd y capel Saesneg cyntaf yn y sir yno, yn y flwyddyn 1870; yr oedd cychwyniad yr achos wedi cymeryd lle ddwy flynedd yn flaenorol. Gan fod yr hanes wedi ei roddi yn gyflawn mewn cysylltiad â'r eglwys yn Nhowyn, ni raid ymhelaethu yma. Y mae yn perthyn i'r Cyfarfod Misol yn awr bedwar o gapeli Saesneg, a phump o eglwysi. Y capeli, yn ol eu trefn a'u hamseryddiaeth, ydynt Towyn, Dolgellau, Abermaw, a Blaenau Ffestiniog. Yr achos diweddaf a sefydlwyd ydoedd yn Aberdyfi, Mai 15, 1881. Nid oes yno eto gapel wedi ei adeiladu.

Cynhaliwyd Cynhadledd Achosion Saesneg Gogledd Cymru yn Nolgellau, dyddiau Mawrth a Mercher, y 18fed a'r 19eg o Hydref, 1887. Ac nid digwyddiad dibwys oedd hwn, oblegid dyma y Gynhadledd Saesneg gyntaf a gynhaliwyd yn Sir Feirionydd. Mae y cynulliad blynyddol hwn i'n brodyr y Sheson yn gyfystyr mewn llawer o bethau â Chymdeithasfa i'r Achosion Cymraeg, er nad ydyw, wrth reswm, yn meddu yr un awdurdod. Daeth nifer dda o'r gweinidogion perthynol i'r eglwysi Saesneg yn y Dalaeth Ogleddol ynghyd i Ddolgellau. A gall yr ysgrifenydd, gan ei fod yn bresenol, gyd-ddwyn. tystiolaeth bendant â phawb oedd yn wyddfodol i ragoroldeb cyfarfodydd y Gynhadledd. Mewn uniawngrededd, catholigrwydd, a brwdfrydedd, safai y cyfarfodydd hyn ysgwydd wrth ysgwydd ag unrhyw gyfarfodydd crefyddol a gynhelir yn iaith frodorol y wlad unrhyw amser. Yr oedd y tân Cymreig yn gwreichioni yn yr holl areithiau a'r trafodaethau. Am dri o'r gloch prydnawn y dydd cyntaf, mewn ffordd o agor y Gynhadledd, traddododd Parch. D. C. Davies, M.A., bregeth ar y geiriau, "Una fy nghalon i ofni dy enw." Yn yr hwyr dan lywyddiaeth Dr. Edward Jones, U.H., cynhaliwyd cyfarfod. cyhoeddus i ymdrin ar y wedd genhadol sydd yn perthyn i eglwysi Crist. Cymerwyd rhan ynddo gan y Parchn. D. Lloyd Jones, M.A., Llandinam; John Williams, Caer; a Dr. Charles Edwards, Aberystwyth. Llywyddwyd y cyfarfodydd dranoeth gan y Parch. O. Jones, B.A., Liverpool, llywydd y Gymdeithasfa am y flwyddyn; a chan Mri. H. B. Price, U.H., Porthaethwy, ac E. Griffith, U.H., Springfield. Darllenwyd papyrau, traddodwyd anerchiadau, a chymerwyd rhan yn ngweithrediadau y Gynhadledd gan amryw o weinidogion a diaconiaid.

Y mae cynydd mawr wedi bod yn yr holl eglwysi, oddigerth ychydig o'r rhai lleiaf yn yr ardaloedd gwledig, lle mae y boblogaeth wedi lleihau. Cymerodd y cynydd cyflymaf le yn ystod y deugain mlynedd diweddaf. Dangoswyd y cynydd mewn rhan eisoes yn Ffestiniog, ac yn eglwysi rhwng y Ddwy Afon. Rhoddir isod ychydig o dafleni yn ychwanegol, er dangos y cynydd yn yr holl gylch, gan gymeryd y cyfrifon yn 1849, y waith gyntaf y cyhoeddwyd hwy, i'w cymharu â'r rhai diweddaf a gasglwyd yn 1889.

Dylid cofio fod canghenau wedi myned allan o amryw o'r eglwysi uchod, ar ol gwneuthur y cyfrif yn 1849, megis o Gorris, Aberdyfi, Towyn, Salem, Abergeirw, Penrhyn, Ffestiniog. Oni bai hyny, buasai rhai o honynt yn llawer lliosocach yn awr. Cymerwyd y prif golofnau yn unig i'w cymharu â'u gilydd, a gwelir fod cynydd dirfawr ynddynt oll, yn arbenig colofnau y casgliadau. Cyfartaledd casgliad y weinidogaeth ar gyfer pob aelod yn 1849 oedd 4s. 7½c; cyfartaledd yr holl gasgliadau ar gyfer pob aelod, 10s. 2½c. Yn 1889 mae cyfartaledd casgliad y weinidogaeth ar gyfer pob aelod yn 11s. 1½c.; a chyfartaledd yr holl gasgliadau yn 1p. 1s. 9c. Gwneir amryw gasgliadau yn awr na wneid mo honynt ddeugain mlynedd yn ol, megis y casgliad at y Drysorfa Gynorthwyol, a'r casgliad at yr achosion Saesneg. Eto, dengys y colofnau fod yr eglwysi oll yn rhoddi y pwysigrwydd mwyaf ar y casgliad at y weinidogaeth gartrefol, a'r casgliad at yr Achos Cenhadol. Mae yr olaf yn profi yn amlwg fod ffrwyth lawer yn cael ei gynyrchu rhwng bryniau Meirion yn flynyddol tuag at anfon yr efengyl i blith y paganiaid. Y casgliad cenhadol cyntaf, hyd y mae yn wybyddus, a wnaethpwyd yn Sir Feirionydd ydoedd yn 1799. Chwech o eglwysi y sir a wnaeth y casgliad y flwyddyn hono, y Bala ac Ysbytty o'r pen Dwyreiniol, a'r pedair eraill o'r rhan Orllewinol, ac anfonwyd y casgliad i ofal Mr. Charles, tuag at gynorthwyo Cymdeithas Genhadol Llundain, a chydnabyddwyd ei dderbyniad yn y Drysorfa Ysbrydol am Mehefin y flwyddyn uchod. Y pedair eglwys yn y pen yma i'r sir a wnaeth y casgliad oeddynt,-Dolgellau, 16p. 12s. 6c.; Bermo, 10p. 3s. 7c.; Dyffryn, 5p. 11s. 4½c.; Harlech, 1p. 4s. 0½c. Dywedir ar ddiwedd yr adroddiad, "Ni a obeithiwn eu bod fel blaenffrwyth offrymau helaethach, at y gorchwyl mwyaf pwysfawr, mwyaf angenrheidiol, mwyaf sancteiddiol a gogoneddus ar a wyr ein byd ni am dano." Eleni (1890), ydyw blwyddyn Jiwbili ein Cymdeithas Genhadol Dramor ar Fryniau Khasia, ac mae y casgliad a wneir o fewn y Cyfarfod Misol hwn, er gwneuthur coffa am yr amgylchiad, yn debyg o gyraedd dros 3000p. Ac y mae yn cael ei gredu mai haelioni rhai o eglwysi rhwng y Ddwy Afon, y rhai a ddaethant allan yn gryf gyda'r casgliad hwn yn gynar yn y flwyddyn, a fu yn achlysur iddo lwyddo mor fawr yn y wlad yn gyffredinol. Yn ychwanegol at yr holl frodyr y coffheir am danynt, cymerwyd y rhai canlynol oddiwrth eu gwaith at eu gwobr er pan ysgrifenwyd y Gyfrol Gyntaf.

Y PARCH. GRIFFITH EVANS, ABERDYFI.—Bu farw Tachwedd 6, 1889, yn 62 mlwydd oed. Ganwyd ef yn Botalog, ger Towyn. Yr oedd yn hanu o un o'r teuluoedd parchusaf yn y wlad, a nodweddid ef a'i hynafiaid gan raddau helaeth o gariad at ryddid a lleshad eu cydgenedl. Dygwyd ef i fyny mewn cysylltiad a masnach, a bu yn egwyddorwas yn Llanfyllin. Trwy ei briodas gyntaf, aeth i drigianu i'r Borth, Sir Aberteifi. Yno y dechreuodd bregethu. Daeth trosodd oddiyno ac ymsefydlodd yn Cynfal, gan ddilyn ei alwedigaeth fel amaethwr. Tra yn preswylio yno, bu yn wasanaethgar a defnyddiol gyda'r achos yn Brynerug. Ordeiniwyd ef yn 1872. Ychydig cyn diwedd ei oes rhoddodd i fyny amaethu, a chymerodd daith i America. Cymerai ddyddordeb mawr y tymor hwn yn y Cymry ar wasgar, a gwnaeth ei oreu i'w llesoli. Yr oedd yn ŵr deallus, a boneddigaidd ei ymddygiad, ac yn marn ei gydnabod yn ddidwyll a chrefyddol. Dygodd ei blant i fyny yn grefyddol, a chafodd fyw i'w gweled wedi ymsefydlu yn gysnrus yn y byd. Aeth i'r ystad briodasol yr ail waith, gan symud ei drigfan i Aberdyfi.

MR. EDWARD BELL, ABERDYFI—Yr oedd ef yn un o flaenoriaid cyntaf yr eglwys Saesneg yn Aberdyfi. Ymunodd â'r achos hwn ar ei ddechreuad. Ymroddodd gyda phob ufudddod a pharodrwydd i fod yn noddwr iddo, ac nid oedd neb cymhwysach yn y lle i wneuthur hyny. Bu ei ddeheurwydd gyda phob rhan o'r gwaith, a'i ymddygiad boneddigaidd ac enillgar gyda y dieithriaid a ymwelent âg Aberdyfi, o wasanaeth mawr y blynyddoedd cyntaf y rhoddwyd cychwyniad i'r achos. Dewiswyd ef yn flaenor yn mis Ionawr, 1887; bu farw yn hynod o sydyn, ganol haf y flwyddyn ganlynol.

MR. RICHARD JONES, SIOP NEWYDD, DOLGELLAU.—Yr oedd efe yn enedigol o Dalsarnau, ac yn fab i'r blaenor parchus, Mr. Morris Jones, Cefngwyn. Treuliodd y rhan fwyaf o'i oes yn Nolgellau, fel un o brif fasnachwyr y dref. Daeth i sefyllfa o bwysigrwydd mawr yn y cysylltiad hwn; enillodd ymddiried gwlad a thref, a bu yn llwyddianus yn ei fasnach. Gwnaeth lawer o wasanaeth, yn wladol, cymdeithasol, a chrefyddol, i'r dref a'r ardaloedd cylchynol. Bu yn llenwi y lleoedd uchaf ymysg ei gyd-drefwyr, ac ni cheid neb mwy defnyddiol a galluocach i gyflawni pob gwaith. Bu yn flaenor am rai blynyddoedd yn eglwys Salem; yn llywydd Cyfarfod Ysgolion Dosbarth Dolgellau dros amser maith; yn llenwi swyddi o ymddiried yn y Cyfarfod Misol a'r Cyfundeb. Gwnelai lawer o wasanaeth i'w gymydogion a'i gyd-ddynion, a hyny gyda'r parodrwydd mwyaf. Yr oedd yr esiampl oreu o ddyn ieuanc yn gweithio â'i holl egni gyda phob peth yr ymaflai ei law ynddo. A'r hyn a goronai y cwbl yn ei hanes ydoedd, ei fod yn ymadael â'r byd hwn mewn tawelwch mawr, ac mewn mwynhad llawn o dangnefedd yr efengyl. Bu farw ar yr 22ain o Chwefror, 1890, yn 47 mlwydd oed.

MR. WILLIAM LEWIS, ABERLLYFENI.—Bu ef mewn cysylltiad â chrefydd er yn ieuanc. Llafuriodd lawer i gyraedd gwybodaeth yn nhymor ei ieuenctid, yr hyn a fu yn sylfaen ei ddefnyddioldeb. Gwasanaethodd y swydd o flaenor eglwysig am tua pum mlynedd ar hugain, yn gyntaf yn Esgairgeiliog, ac wedi hyny yn Aberllyfeni. Treuliodd fywyd gwastad: cadwodd ei hun yn ddifrycheulyd oddiwrth y byd; trwy ymroddiad gyda chrefydd enillodd gymeriad cadarn. Bu farw mewn llawenydd, Hydref 5ed, 1890.

MR. HUGH HUGHES, LLYTHYRDY, PENRHYNDEUDRAETH.— Dygwyd ef i fyny yn yr ardal hon, fel is—athraw yn yr Ysgol Frytanaidd. Daeth cyn hir yn athraw trwyddedig. Wedi bod yn llwyddianus yn y swydd hon am dros bymtheng. mlynedd, ymgymerodd â masnach ar raddfa eang yn ei ardal enedigol. Nodweddid ef fel gŵr unplyg a geirwir, a'i onestrwydd a'i uniondeb uwchlaw cael eu hameu. Yr oedd yn un o flaenoriaid eglwys Gorphwysfa. Safai mewn cymeradwyaeth uchel ymysg ei gymydogion fel gwladwr, crefyddwr, a swyddog eglwysig. Daeth ei yrfa i'r pen yn lled sydyn, y 27ain o fis Tachwedd, 1890, pan nad oedd ond 50 mlwydd oed.

Yn awr, y mae y terfynau a osodwyd i'r gyfrol hon wedi dyfod i'r pen. Nis gellir ymhelaethu heb chwyddo y gwaith yn ormodol, ac mewn canlyniad fyned tuhwnt i'r terfynau gosodedig. Wrth daflu golwg dros yr holl hanes, y mae ynddo addysgiadau lawer, y gallesid ar y diwedd gyfeirio atynt; ond gwell gadael i bawb a'i darlleno dynu y casgliadau a welont hwy yn oreu. Pan ystyriom leied oedd nifer yr eglwysi, a pha mor eiddil oeddynt gan mlynedd yn ol, oni allwn gyda hyder ddweyd fod y broffwydoliaeth wedi ei chyflawni, "Y bychan a fydd yn fil, a'r gwael yn genedl gref." Megis y defnyddiwyd cyrn hyrddod i dynu muriau Jericho i lawr, gwnaeth yr Arglwydd bethau mawrion yn Sir Feirionydd trwy offerynau gwael a distadl. Yn y cyfnod cyntaf, pan y deffrowyd gwahanol ardaloedd y rhan orllewinol o'r sir o'u cysgadrwydd, rhoddwyd cychwyniad i'r achosion crefyddol, bron yn ddieithriad, trwy foddion hynod o ddistadl. Mae y darllenydd wedi sylwi, ond odid, ar y rhan flaenllaw a gymerodd amryw o wragedd crefyddol i beri y cychwyniad cyntaf mewn llawer cymydogaeth. Y gwragedd crefyddol oedd y rhai ffyddlonaf i ddilyn yr Arglwydd Iesu pan ar y ddaear, a hwy oedd y rhai cyntaf at y bedd, foreu y trydydd dydd. Felly y cawn eu hanes yn y dechreuad yn Sir Feirionydd. Pwy, bellach, sydd heb wybod am wrhydri Lowri Williams, yn Mhandy-y-Ddwyryd? am ffyddlondeb Catherine Griffith yn y Penrhyn ! am benderfyniad Jane Griffith a Catherine Owen yn erbyn erledigaeth yn Nolgellau ? Catherine Williams oedd un o'r rhai cyntaf i ysgogi gyda moddion crefyddol yn ardaloedd Towyn; Jane Roberts, Rugog, fu yn offerynol i ddwyn yr efengyl i Gorris. Mae yn hysbys mai y merched a'r gwragedd fu yn cario yr achos ymlaen, bron yn hollol, yn Aberdyfi, am dros ugain mlynedd o amser. Mrs. Griffith, ynghyd a'i mab, a roddodd y cychwyniad cyntaf i'r achos yn Abermaw; dwy chwaer ac un brawd a wnelai i fyny dri chrefyddwr cyntaf y Dyffryn; gwragedd crefyddol fu yn offerynol i gael tir i adeiladu yr hen gapel, sef y cyntaf yn mhlwyf Ffestiniog. Y mae yn ffaith, hefyd, mai hwy oedd yn gwneuthur i fyny fwyafrif mawr proffeswyr crefydd ac aelodau yr eglwysi, yn yr holl ardaloedd dros lawer o amser, yn mlynyddoedd cyntaf y diwygiad crefyddol yn y wlad.

Peth arall sydd i'w weled yn bur amlwg yn hanes yr eglwysi ydyw, fod y crefyddwyr cyntaf yn ddosbarth o bobl yn meddu crefydd o radd uchel iawn. Yr oeddynt wedi eu dwyn at grefydd o ganol dwfn anwybodaeth, ac oddiwrth arferion drwg ac annuwiol, a llawer o honynt wedi myned trwy argyhoeddiad llym a thrwyad!. Sylweddolent, gan hyny, y gwahaniaeth rhwng bywyd crefyddol a bywyd digrefydd; a theimlent yn ddwys rym y gorchymyn dwyfol, Dewch allan o'u canol hwynt, ac ymddidolwch, medd yr Arglwydd." Yr oedd y llinell derfyn rhwng byd ac eglwys mor eglur a haul haner dydd yn eu hamser hwy. Adwaenai pawb y crefyddwyr, nid oddiwrth eu proffes yn unig, ond oddiwrth eu bywyd diargyhoedd, a'u hymroddiad i wasanaethu yr Arglwydd.


Heblaw hyny, nodwedd neillduol yn eu crefydd ydoedd, hunanymwadiad a hunanaberthiad. Pwy a all adrodd pa bethau eu maint a ddioddefodd hen grefyddwyr cyntaf Cymru, er mwyn enw yr Arglwydd Iesu? Yr oeddynt yn hynod, hefyd, am eu rhinweddau Cristionogol, megis diniweidrwydd, gonestrwydd, cywirdeb, brawdgarwch, ymostyngiad i ddisgyblaeth, dwyn beichiau eu gilydd.

O'r tu arall, perthynai iddynt hwythau eu diffygion. Er nad ydyw tôn crefydd lliaws o broffeswyr yr amseroedd hyn yn agos mor uchel ag eiddo yr hen grefyddwyr, eto y mae rhagoriaethau i'w cael yn awr nad oeddynt ddim i'w cael gynt. Gwneir llawer mwy o ymdrech i ddwyn y plant a ieuenctyd yr eglwysi i fyny yn grefyddol yn ein dyddiau ni nag a wneid yn amser y tadan. Gosodir yn awr arolygiaeth fwy trwyadl ar yr eglwysi, a phorthir y saint â gwybodaeth ac à deall. Parheir yn yr oes hon i gyfodi addoldai cyfleus a manteisiol i'r holl bobl addoli ynddynt, tra yr oedd yr hen dadau yn arafaidd a gochelgar, i raddau gormodol, gyda hyn. Mae y gras o haelioni hefyd wedi myned ar gynydd yn ddirfawr yn ystod y deng mlynedd ar hugain diweddaf. Mae yn wir fod yr hen bobl yn meddu gwybodaeth eang o'r Ysgrythyr Lân, ac o'r pynciau hanfodol er iachawdwriaeth, ond y mae gwybodaeth yn ei holk ganghenau yn cyniweirio ac yn ymhelaethu yn fawr yn y blynyddoedd hyn. Ac yn ddiddadl, y mae llu mawr eto yn aros yn yr eglwysi sydd yn caru yr Arglwydd Iesu a'i achos "o galon bur yn helaeth." Ni ddylid ewyno yn ormodol ychwaith oherwydd iselder crefydd yn y dyddiau presenol. Wrth edrych yn ol ar hanes y can' mlynedd diweddaf, yr ydym yn gweled amryw gyfnodau pryd yr oedd crefydd yn wywedig yn yr eglwysi, a Seion yn ddi-epil, a chaledwch ac anystyriaeth yn fawr yn y byd y tuallan i'r eglwysi; er hyn i gyd, bron na theimlem yn barod i ddweyd, gwyn fyd na byddai bosibl cyfodi yr hen grefyddwyr selog, a hen gewri y dyddiau gynt, eto o'u beddau.


Priodol yn yr holl waith-y gwaith o alw pechaduriaid o dywyllwch i ras Duw, a'r gwaith o adeiladu yr eglwysi trwy yr holl genhedlaethau-ydyw cydnabod llaw a goruwch-reolaeth rhagluniaeth fawr y nef. Iddo Ef, yr hwn sydd yn cynal pob peth trwy air ei nerth," y mae cyfodiad teyrnas yr Emmanuel yn Ngorllewin Meirionydd i'w briodoli. Y mae y rhestr o weithwyr da a dewr yn llu mawr iawn; ond er i'w llafur hwy fod yn fawr, yr Arglwydd a adeiladodd y tŷ. A'i ras a'i ogoniant Ef a welir yn amlwg yn yr holl adeilad."Canys o hono ef, a thrwyddo ef, ac iddo ef y mae pob peth."

"Fe sy'n dwyn yr holl fforddolion
Cywir, sanctaidd, pur ymlaen:
Cyfarwyddwr
Pererinion, arwain fi."


RHESTR O'R TANYSGRIFWYR AM YR AIL GYFROL.

ABERDYFI.

Jones, Mr. William, Corn Merchant
Owen, Parch. John
Thomas, Mr. W. V., Chemist

ABERGYNOLWYN.

Hughes, Mr. Albert H., Cwrt
Jones, Mr. David, Tanybryn Street
Jones, Mr. John, Mriafal Fach
Owen, Mr. Edward, Water Street
Owen, Parch. J.
Roberts, Mr. Meyrick, Bryneglwys Hall
Roberts, Mr. Hugh M.
Roberts, Mr. John, Shop
Rowlands, Mr. John D., Cwrt

ABERLLYFENI.

Davies, Mr. John, Tycornel
Disley, Mr. John, Rock Cottages
Ellis, Mr. William, Pensarn
Evans, Mr. John, Ty'rcapel...
Evans, Mr. Hugh, Aberllyfeni Farm
Griffith, Mr. E., Ratgoed Quarries
Jones, Mr. Hugh, Foelfriog....
Thomas, Mr. D., Aberllyfeni Farm
Williams, Parch. R. J., Trem Avon
Williams, Mr. E. R., Board School

ABERMAW.

Davies, Parch. J. Gwynoro...
Edwards, Mr. Griffith, Glanmorgan
Edwards, Mr. Lewis, 2, Morfin terrace
Evans, Mr. H. Barrow, St. Georges


Evans, Mr. John, Manchester House
Evans, Mr. Thomas, Fronfelen Castle
Jones, Mr. Evan Lewis, Penycei
Jones, Mr. Evan R., Post Office
Jones, Mr. Hugh, 2, Porkington terrace
Jones, Mrs. Jane, 3, Porkington terrace
Jones, Miss Ruth, Penycei...
Jones, Mrs. Susan, 9. Porkington terrace
Jones, Mr. William, Victoria Place
Lewis, Mr. Lewis, Hill Side
Owen, Mr. John, Church street
Owen, Mrs. Parry, Gareglwyd
Pritchard, Mr. David, Cambrian street ...
Pugh, Mr. Griffith, Beulah Hill
Richards, Mr. Evan, Bwlch
Roberts, Mr. Ellis, Penygraig
Roberts, Mr. Richard, Morfa Lodge
Thomas, Mr. Robert, Doctor's Buildings
Williams, Mr. David, Brynymor
Williams, Mrs., Cambrian House
Williams, Mr. Owen, Beulah Hill
Williams, Mr. Robert, Fronfelen terrace
Williams, Mr. Robert, Ty'nycoed buildings
Williams, Mr. William, 4, Porkington terrace
ABERMAW-EGLWYS SAESNEG.
Evans, Parch. David, M,A., Talarfor
Evans, Mr. John, Glanymor House
Griffiths, Mr. G., Chemist
Owen, Mr. O., Builder
Thomas, Mr. J., Board School
BETHESDA, FFESTINIOG.
Davies, Mr. David, Bronygarth
Davies, Mr. Evan, Glanaber
Davies, Mr. Robert, Conglywal
Edwards, Mr. Thomas, Bryneifion
Griffith, Mr. William, Llechid House
Griffith, Mr. Griffith W., Llechid House
Hughes, Mr. Evan D., Glasfryn

Humphreys, Mr. David Lloyd, 155, Manod road ...
Jones, Mr. David, Bronygarth
Jones, Mr. David G., Bronymaes
Jones, Mr. E. P., U.H., Cefnymaes
Jones, Mrs., Cefnymaes
Jones, Mr. Evan R., Glanaber
Jones, Mr. Henry, St. Martha terrace.
Jones, Mrs. Jane, Peniel
Jones, Mr. Matthew, Glasfryn
Jones, Mr. Morris, Caegwyn
Jones, Mr. Pierce, Bryneithin
Jones, Mr. John E., Bethesda
Jones, Mr. John H., Caeclyd
Jones, Mr. John H., Penfforddnewydd
Jones, Mr. Robert R., Bethesda terrace
Jones, Mr. Rowland R., Tyddyngwyn
Jones, Mr. William L., Bethesda terrace
Jones, Mr. William, Ty'reapel, Bethesda
Jones, Mr. William W., Caecoch
Lloyd, Mr. Edward, 152, Manod road
Morris, Mr. John, Penfforddnewydd.
Morris, Mr. Robert, Penfforddnewydd.
Owen, Miss Ellen Jane, Glasfryn
Owen, Miss Jane, Neuadd-ddu
Owen, Mr. John, Mindwyryd
Pugh, Mr. John, Penygarth
Roberts, Mr. Griffith, Glanaber
Roberts, Mr. Robert, St. Martha terrace
Roberts, Mr. Thomas, Bethesda terrace...
Roberts, Mr. Thomas, Caeclyd
Williams, Mr. John, Bronymaes
Williams, Mr. Robert R., Bethesda
CONGLYWAL (Ysgol Sul).
Davies, Mr. Evan, Conglywal
Hughes, Mr. John, Conglywal
Jones, Mr. Evan G., Police
Jones, Mr. Evan H., Caeclyd
Jones, Mr. John Ed., Caeclyd

Jones, Mr. John Thomas, Caeclyd
Jones, Mr. John W., Caeclyd
Jones, Mr. Robert, Caedu
Pugh, Mr. David, Penygarth
Roberts, Mrs. Elizabeth, Brynhyfryd
Roberts, Mr. R. M., Bronffynon
Williams, Mrs. Anne, Bronmanod
Williams, Mr. David, Smith
Williams, Mr. Ellis, Minffordd
Willians, Mr. Thomas, Caedu

BOWYDD, FFESTINIOG.

Davies, Mr. John, Mills row
Davies, Mrs. Margaret
Edwards, Mr. Robert Rowland
Griffith, Mr. John, Wakefield House
Hughes, Mr. John Anthony, Oxford street
Jones, Mr. John H., Brynbowydd
Jones, Mr. John H., Dorfil street
Jones, Mr. William (Ffestinfab)
Jones, Mr. William, Church street
Lloyd, Mr. E., Watchmaker
Lloyd, Mr. John, Brynbowydd.
Lloyd, Mr. Richard, Brynbowydd
Owen, Mr. David, Maenofferen
Owen, Mr. John D.

BRYNCRUG.

Hughes, Mr. Daniel, Tynllwynhen.
Jones, Mrs. H. Richard, Pandy
Morgan, Mr. John, Ynys Mill
Owen, Mr. William; Isallt
Parry, Mr. Henry, Penybont
Parry, Mrs. Thomas, Dorfil street
Roberts, Mr. Hugh, Market square.
Roberts, Mr. John, Benar view
Roberts, Mr. Robert, Dorfil street
Roberts, Mr. Robert, Market square.
Thomas, Mr. John, 2, Market place.
Williams, Mr. Robert O., Market square

Pugh, Mr. H. J., Berthlwyd
Richards, Mr. William, Penowern
Roberts, Mr. William, Bodlondeb
Roberts, Mr. William, Brynglas
Williams, Mr. Edward, Pandy

CORRIS.

Evans, Mr. Robert, Mount Pleasant
Jones, Mr. H. Lloyd, Board School
Jones, Mr. Richard, Frondeg
Roberts, Parch. J.
Thomas, Mr. Morris, Chemist
Williams, Mr. W. R., Brynderwen

CROESOR.

Davies, Mr. David W., Cae'rffynon.
Griffiths, Mr. Griffith, Chapel street
Jones, Mr. John, Hafoduchaf
Jones, Mr. Owen, Brynhyfryd
Jones, Mr. Richard
Jones, Mr. William, Tynewydd
Lewis, Mr. Ellis, Chapel House
Lewis, Mr. Lewis, Cae'rffynon
Owen, Mr. S. J., Board School
Owen, Mr. William Pierce, Brynhyfryd
Roberts, Mr. Evan, Chapel House
Roberts, Mr. Hugh G., Brynhyfryd.
Roberts, Mr. Owen G., Tanlan, Llanfrothen
Thomas, Mr. David, Gatehouse
Williams, Mr. Robert R., Bodunig
Williams, Mr. William Anwyl, Croesor uchaf
Williams, Mr. Thomas, Bryn Croesor
Williams, Mr. W. T., Brongwyrfai, Rhyd-ddu.
Williams, Parch. O. T., Rhyl
Williams, Mr. J. T., Ynysybwl
Williams, Mr. T. A., Bryn Croesor
Williams, Miss, Llundain
Williams, Miss, Beach Mount School, Criccieth
Williams, Miss, Sylhet, Assam
Thomas, Mr. John, B.A., Normal College, Bangor

DOLGELLAU.

Edwards, Miss, Bridge street
Ellis, Mrs., Bro Arran
Evans, Mr. E. W., Swyddfa'r Goleuad
Evans, Mr. R. C., Swyddfa'r Goleuad
Griffith, Mr. E., U.H., Springfield
Griffith, Mr. R. J., Coedcymer
Jones, Parch. Cadwaladr
Jones, Mr. Morris, U.H., Plasucha
Mills, Mr. R., Grocer
Thomas, Mr. John, Mason
Williams, Mr. John, Bethel
Williams, Mr. R., Argoed
Williams, Mr. W., Swyddfa'r Goleuad
Williams, Mr. W. O., Bethel

DYFFRYN.

Davies, Mr. John, Corsygedol.
Evans, Mr. Benjamin, Islaw'rffordd
Evans, Mr. Evan, Pentreuchaf
Evans, Mr. E. H., Meirion House
Evans, Mr. Hugh, Penybont
Evans, Mr. Robert, Ty'nyclawdd
Griffith, Mr. Thomas, Carleg isaf
Humphreys, Mr. John, Faeldref
Jones, Mr. Charles Hewitt, Ardudwy House
Jones, Mr. Hugh, Llwyngwian
Jones, Mr. John, Brew House
Jones, Mr. John, Roe wen
Jones, Mr. Lewis, Tyddyn
Jones, Mr. Robert, Carleg uchaf
Jones, Mr. Robert, Ystumgwern
Morgans, Mr. Owen, Pentrebach
Morris, Mr. William, Caemurpocth
Owen, Mr. Henry, Tygwyn
Owen, Mr. John R., Bronfoel uchaf
Owens, Mr. Owen, Pentre uchaf
Powell, Mr. Howell, Sarnfaen
Pugh, Mr. Hugh, Faeldref

Pugh, Mr. John, Gates
Roberts, Pareh. Evan, Broneirian
Roberts, Mr. D. M., Post Office
Roberts, Mr. Griffith, Gornant
Roberts, Miss Gwen, Froneirian
Roberts, Mr. James, Dalar
Roberts, Mr. John, Horeb
Roberts, Miss, Llanenddwyn
Roberts, Mr. Owen, Factory
Williams, Mr. Ellis E., Hendre-eirian
Williams, Mr. Hugh, Liverpool House
Williams, Mr. R. J., Post Office
Williams, Mr. William, Cambrian Villa
Wynne, Mr. Robert, Meifod Isaf

ENGEDI, FFESTINIOG

Davies, Miss Ann, Penrhiw
Hughes, Mr. William (Alaw Manod)
Jones, Mr. Hugh, Belle Vue
Jones, Mr. John E., Station road
Jones, Mr. Robert, Bryngoleu
Jones, Mr. T. R., Board School
Richards, Mr. Evan T., Fronhaul
Williams, Parch. J., B.A.

GAREGDDU, FFESTINIOG.

Brymer, Miss, Bank Place
Ellis, Mr. William, Dolgaregddu
Evans, Mr. John R., Cromwell street
Evans, Mr. William, Newborough street
Griffiths, Mr. Rees, Bowydd road
Jones, Parch. David, Bodefryd
Jones, Mr. David, Bowydd road
Jones, Mr. J. Parry, U.H., Bank
Jones, Mr. Owen Williams, Pork Shop.
Jones, Mr. Richard, Cromwell street
Jones, Mr. Robert, Oxford street
Jones, Mr. William, Melbourne terrace
Lloyd, Mr. William, Leeds street
Owen, Mr. E. M., Bank Place

Owen, Mr. H. G., Gladstone House
Owen, Mr. Thomas, Bowydd road
Roberts, Mr. W. Lloyd, Brynawel
Roberts, Mr. William, Leeds street
Thomas, Mr. R. J., Bookseller
Williams, Mr. D. G., Bryngwyn
Williams, Mr. Griffith, Bryngwyn
Williams, Mr. Griffith R., Bowydd street
Williams, Mrs., Cocoa House
Williams, Mr. Owen, New Market square.
Williams, Mr. Richard, Draper, Church street

GWYNFRYN.

Davies, Miss, Hafodycoed
Ellis, Mr. Griffith, Penarth
Ellis, Mr. Richard, Nebraska, America
Ellis, Mr. William, Gareglwyd
Evans, Miss Anne, Coed
Evans, Mr. Edward, Tyddynyfelin
Jones, Mr. Morris, Llwynhwleyn
Lloyd, Mr. Thomas, Pwllymarch
Morris, Miss Elizabeth, Cefn uchaf
Pugh, Mr. John, Tyddynllidiart
Thomas, Mr. Evan, Tyddyndu
Williams, Mr. Griffith, Llwynionfychan

HARLECH.

Davies, Mr. D., Cefnymine
Davies, Mr. R., Lasynys ...
Evans, Parch. R., Terrace ...
Griffith, Mrs., Penybryn
Griffith, Mr. Edward, Penybryn
Griffith, Mr. William
Jones, Dr., Penygarth
Jones, Mr. Daniel, Shop
Roberts, Mr. Rees.

LLANBEDR.

Ellis, Miss, Mill
Evans, Mr. Hugh, Brongwynedd
Evans, Mr. John, and Son, Booksellers

Jones, Mr. J. R., Taltreuddyn
Jones, Mr. Richard, Assembly Room
Owen, Mrs., Bakehouse
Parry, Mr. William, Builder
Roberts, Parch. J. Wilson ...
Vaughan, Mr. John, Moelfra Terrace
Williams, Mr. John, Ty'nyllan

LLANFAIR.

Evans, Mr. G., Uwchglan.
Hughes, Mr. H., Hengaeau
Jones, Miss Jane, Llanfairisaf
Jones, Mrs., Brynymor
Lloyd, Mr. E., Caegwyn
Lloyd, Mr. E., Talarocyn
Pugh, Mr. R. H., Brynymor
Pugh, Mr. W., Garth
Richards, Mr. Robert, Pensarn
Roberts, Miss Mary, Rhiweenglau
Roberts, Mr. R., Penyfoel
Thomas, Miss, Pen'rallt
Williams, Miss Anne, Argoed
Williams, Mr. R., Bronfair

LLANFROTHEN.

Owen, Parch. D. O'Brien
Ephraim, Mr. James
Roberts, Mr. Morris

MAENTWROG ISAF.

Davies, Mr. D. G., Llystwrog
Ellis, Parch. Hugh
Jones, Mr. Edward, Felin, Tanybwlch
Jones, Mr. Thomas, Penlan
Jones, Mr. William E., Cemlyn
Richards, Mr. Robert, Penlan
Roberts, Mr. Thomas, Shop
Williams, Mr. William, Penybryn

MINFFORDD.

Beardsell, Mr. Charles

Davies, Mr. David, Rhos
Griffiths, Mr. Richard, Tyddynllwyn terrace
Jones, Mr. Morgan, ieu., Plasnewydd
Morris, Parch. M. E.
Owen, Mr. John W.
Pierce, Mr. John M.
Roderick, Miss S.
Roberts, Parch. R.
Roberts, Mr. Robert J., Borthwen.
Thomas, Mrs. M., Vron
Williams, Mr. G., Bryntirion
Williams, Mrs., Cae Ednyfed
Williams, Mr. Robert, ieu., Plasnewydd
Williams, Mr. Robert, Syentic Cottage
Williams, Mr. William, Llwyncelyn
Y Llyfrgell

PENNAL.

Davies, Mr. D., Builder
Jones, Mr. Owen, Rees Terrace
Rowland, Mr. David, Llwynteg
Rowland, Mr. Edward, Draper
...
PENIEL, FFESTINIOG.
Davies, Mr. William, Highgate
Edwards, Mr. Thomas, Post Office
Ellis, Mr. David, Highgate
Ellis, Mr. Richard O., Highgate
Griffith, Mr. John, Cynfal Fawr
Griffith, Mr. Robert, Melbourne House
Hughes, Mr. Ellis, Peniel terrace.
Jones, Mr. Hugh, Penybryn
Jones, Mr. Owen, Penybryn
Jones, Mr. Richard, Ty'nymaes
Jones, Mr. William, Peniel terrace.
Roberts, Mr. John, Ty'nymaes
Roberts, Mr. Morris, Peniel House
Roberts, Mr. William, Ty'nymaes
Williams, Parch. D. D.

PENRHYN-NAZARETH.

Davies, Mr. Evan, Tanybanc
Ellis, Mr. Ellis, Bryn y Berthen
Evans, Parch. E. J., Llys Ivor
Evans, Mr. Daniel, Pensarn
Griffith, Mr. G. P., Penlan...
Jones, Mr. D. R., Mount Hazel
Jones, Mr. Edward, Tyfry terrace
Jones, Mr. Hugh, Maesyfallen.
Jones, Miss Jane, Frongoch
Jones, Mr. John, Rhiwgoch
Owen, Mrs. Ellen, Tyfry terrace
Owen, Mr. Henry, Shop Newydd
Owen, Mr. John, Blaenddol
Owen, Mr. Owen, Tygwyn
Pritchard, Mr. T. Ll., Brithwernydd
Pugh, Mr. Hugh, Penlan..
Richard, Mr. David, Penlan
Williams, Mr. O. R., Rhiw Bethel

GORPHWYSFA.

Daniel, Mr. Rees, Griffin terrace
Edwards, Mr. W. J., Church Place
Hughes, Mr. R. John, Post Office
Humphreys, Mr. J. E., Shop Fawr
Jones, Mr. David, Cambrian View
Jones, Mr. Morris Owen, Market square
Jones, Mr. W. R., Druggist
Lloyd, Mr. Owen P., Hendre Ellis
Owen, Mrs. Jane, High street
Owen, Mr. Owen, Bank place
Pritchard, Mr. R. G., Castle House
Rowlands, Mr. J. P., Police Station
Rowlands, Mr. R., Board School

PANT.

Jones, Mr. David, Tymain
Jones, Gaynor
Jones, Mr. Henry, Tanybwlch
Jones, Jane, Penysilff

Jones, Mr. Richard, Tan y Banc
Jones, Mr. William, Tanybwlch
Phillips, Mr. William, Ty'nyberllan
Roberts, Mr. David, Penybwlch
Roberts, Mr. John, Gwilym terrace
Williams, Mr. Morris, Glandwr

RHIW, FFESTINIOG.

Davies, Mr. G. G., Rock terrace
Evans, Mr. Samuel, Bronygors
Evans, Mr. W. P., Church street
Hughes, Mr. Richard, Blaenycae
Jenkins, Mr. John, Cambrian House
Jenkins, Mr. Lewis, Cambrian House
Jones, Mr. D. G., Glasgow House
Jones, Mr. H. (Bryfdir), Gwyndy
Jones, Mr. Hugh, Blaenycac
Jones, Mr. J. Griffith, Llwynygell
Jones, Mr. Owen, Erw Fair
Jones, Mr. Richard, Glan Rhiw
Jones, Mr. Robert, Glandwr
Jones, Mr. W. P., Hen Dy'r Capel
Jones, Mr. William, Penygroes
Lewis, Mr. David, Glandwr
Lloyd, Mr. Richard, Salem Cottage
Morgans, Mr. John, Llechwedd
Owen, Mr. Evan, Glasfryn
Owen, Mr. O. G.
Pierce, Mr. John, Llwynygell
Roberts, Parch. D.
Roberts, Mr. D. John, Glan Dulyn.
Roberts, Mrs, G., Glanypwll Cottage
Roberts, Mr. Humphrey, Blaenyddol
Roberts, Mr. Moses, Bowydd street.
Roberts, Mr. Rees, Llys Dorfil
Roberts, Mr. T. J., Aelybryn.
Thomas, Mr. Robert, Dinas road
Thomas, Mr. William
Williams, Mr. David, Tanybwlch terrace

Williams, Mr. David, Salem Place
Williams, Mr. Hugh, Glandon
Williams, Mr. John, Glanypwll Villa
Y Llyfrgell

TALYWAENYDD (Ysgol Sul).

Davies, Mr. Robert J. (Barlwydon)
Davies, Mr. Robert, Bryngwaenydd
Hughes, Mr. David
Jenkins, Mr. Lewis, Llwynygell
Jones, Mr. John, Bryngwaenydd
Jones, Mr. Thomas, Tai'rfrest
Owen, Mr. Ellis, Glanypwll
Thomas, Mr. Robert, Gloddfa Ganol.
Williams, Mr. J. W.

RHYD (Ysgol Sul).

James, Mr. Edward, Ty'nddol
Jones, Mr. Evan, Tanymarian
Jones, Mr. John, Hafod-y-mynydd
Jones, Mr. Owen, Bronyfoel
Jones, Mr. Owen, Pen'rallt
Parry, Mr. David, Brynhyfryd
Parry, Mr. John, Ty uchaf...
Parry, Mr. Robert, Penybryn
Williams, Mr. Cadwaladr, Brynhyfryd
Williams, Mr. Edward, Blaenycae
Williams, Mr. Ephraim, Penybryn
Williams, Mr. Evan, Bryntirion
Williams, Mr. Griffith, Tanymarian
Williams, Mr. William, Bryngoleu

TABERNACL, FFESTINIOG.

Edwards, Mr. Daniel, Gelli
Griffith, Mr. John, Tabernacle terrace
Hughes, Mrs., Tanygraig House
Hughes, Miss, Tanygraig House
Hughes, Mr. Robert, 10, Tabernacle terrace
Jones, Mr. David, Manod View
Jones, Mr. J. Morgan, Manod Cottage
Jones, Mrs. W., 119, High street

Jones, Mr. William E., Meirion terrace
Owen, Mr. Robert, Trefeini
Parry, Mr. Wheldon, Penygarth House
Roberts, Mr. Hugh, Edmund street.
Thomas, Mr. Robert, Bethania
Wheldon, Parch. T. J., B.A.
Williams, Mr. O. D., Grocer, High street
Williams, Mr. Richard, Penybryn terrace

TREFEINI (Ysgol Sul).

Griffith, Mr. Thomas, Casson terrace
Jones, Mr. Benjamin, Lord street
Jones, Mr. Owen S., Pembroke House
Jones, Mr. William, 15, Lord street
Owen, Mr. Cadwaladr, Bryntegai

TALSARNAU.

Davies, Mr. Thomas, Penybryn
Evans, Mr. Griffith, Bryneirin
Evans, Mary, Fucheswen
Evans, Mr. Maurice J.
Hughes, Mr. William, Fron Eve
Jones, Anne, Ty'rcapel
Jones, Mr. Bennett, Brynyfelin
Jones, Mr. Charles, Talsarnau
Jones, Gwen
Jones, Mr. Richard, Baron Hill
Jones, Mr. William, Pensarn
Jones, Mr. William, Talsarnau
Owen, Mr. John, Rhosigor
Roberts, Mr. John, Cefntrevorfawr
Roberts, Mr. Owen, Joiner
Roberts, Mr. Robert, Tanybwlch
Williams, Janet, Board School

YNYS (Ysgol Sul).

Davies, Mrs., Gwyndy
Edwards, Mr. Evan, Tygwyn
Evans, Mr. E. L., Llechollwyn
Jason, Mr. Robert, Tainewyddion

Jones, Mr. John, Glanllyn
Jones, Mr. J. B., Brynyfelin
Roberts, Mr. Griffith, Bryntirion
Williams, Mr. David, Glanywern
Williams, Mr. Hugh, Glanywern

TANYGRISIAU.

Edwards, Mr. William, Ddol
Hughes, Mr. Richard, Wrysgan Fawr
Jones, Mr. John, Maesyneuadd
Jones, Mr. John C., Fronwen
Morris, Mr. W. W., Plas Cwmorthin
Owen, Parch. Samuel
Parry, Mr. Hugh, Brynffynon
Pierce, Mr. Thomas, Ddol ...
Roberts, Mr. John, Cambrian terrace
Roberts, Mr. Tudur, Ysgoldy
Roberts, Mr. R. O., Cae'rffridd
Williams, Mr. Daniel Doleu las
Williams, Mr. Robert, Manchester House

TOWYN.

Jones, Parch. R. W.
Jones, Mr. Meredith, Caethle
James, Mr. J. Maethlon
Hughes, Mr. P. H.
Symond, Parch. J. H.

TRAWSFYNYDD.

Davies, Mrs. Jane, Eden
Evans, Mr. William, Meirion House
Hughes, Mr. Robert, Bronygwyndy
Jarrett, Mrs., Glasfryn..
Jones, Mr. D., Ty'ngriafolen
Jones, Parch. William, Fron
Jones, Mr. William, Llainwen
Josepli, Mr. Edward, Eden
Morris, Mr. David, Frongaled
Roberts, Mr. Robert, Berthddu
Williams, Mr. Evan, Isallt...
Williams, Mr. John, Hendrefawr

EGLWYS SAESNEG, BLAENAU FFESTINIOG.

Jonathan. Mr. E. H.
Roberts, Mr. Andreas
Williams, Mr. G. J., F.G.S.

VRIOG.

Davies, Mr. W., Gyfanedd Mines
Jones, Mr. John, Sea View
Stevens, Mr. T. J., Henddol
Timothy, Mr. J., Einion House
Williams, Mr. Ellis, Bwlchgwyn

RHESTR GYFFREDINOL.

Davies, Parch. J., Bontddu
Davies, Parch. W., Llanegryn
Davies, Mr. J., Leicester terrace, 3, Lord street, Broughton, Manchester
Edwards, Proffeswr Ellis, M.A., Bala
Edwards, Parch. T. C., D.D., Aberystwyth
Edwards, Mr. John, 100, Bolton road, Pendleton, Manchester
Edwards, Mr., Dentist, Porthmadog
Ellis, Parch. Griffith, M.A., Bootle
Ellis, Mr. Griffith, 105, Stretford road, Manchester...
Ellis, Parch. R. Pryse, Glasgoed, Caernarfon
Evans, Mr. David, 8, Friars terrace, Stafford
Evans, Mr. David, Cae-cinion
Evans, Parch. J. J., Llanfachreth
Evans, Parch. John, Llanfairenereinion...
Evans, Parch. J. R., 121, Astley street, Tyldesley
Evans, Mr. John T., Aberayron, Cardiganshire
Evans, Mr. John, Esgairgeiliog
Griffith, Parch. Edward, Meifod
Hall, Mr., Cambrian News Office, Aberystwyth
Hoskins, Parch. D., M.A., Corris
Hughes, Parch. D., Corwen
Hughes, Mr. Superintendent, Dimel, Corwen
Humphreys, Parch. E. V., Bontddu
Hughes, Parch. Henry, Brynkir Station, Garn, R.S.O 1
Hughes, Mr. H. H., Caergwrley, nr. Wrexham

James, Mr. Evan, Maethlon
Jerman, Parch. Edward, Wrexham
Jones, Mrs. Cadben, 12, Bank Place, Porthmadog
Jones, Parch. D., Wyddgrug
Jones, Parch. Elias, Newtown
Jones, Parch. Edward, Rhydlydan
Jones, Mr. Edward, 7, Brynteg terrace, Bangor
Jones, Parch. Evan, Caernarfon
Jones, Parch. E. F., Glan Conwy
Jones, Parch. Francis, Abergele
Jones, Mrs. Foulkes, Machynlleth
Jones, Mr. G., Tyddyn, Pencoed, Chwilog
Jones, Mr. H. Llewelyn, Corn Merchant, Porthmadog
Jones, Parch. J. Eiddon, Llanrug
Jones, Parch. J. O., Llanberis
Jones, Mr. John, Tycapel, Namor
Jones, Parch. W. R.. Caergybi
Lloyd, Mr. Isaac T., 393, Commercial road, East London
Morgan, Parch. R. H., M.A., Menai Bridge
Morgan, Mr. W., Pant, Dowlais
Morris, Parch. O. R., Bristol Grove, Fillmore Co.,Minesota, U.S., America
Moss, Mr. T., Berwyn Station, Llangollen
Owen, Mr. Griffith, Bryndinas, Caernarfon
Owen, Mrs. J. M., Craigwen, Caernarfon
Owen, Parch. Lewis, Aberangell
Owen, Parch. O. Lloyd, Cymdu, Llansilin, Oswestry
Owen, Mr. Richard, Noulyn, Machynlleth
Parry, Mr. D. R., Henblas, Llwyngwrii
Peters, Mr. John, Henllan, Denbigh
Pugh, Parch. Hugh, Penygraig, Pwllheli
Pugh, Mr. H. W.. 40; Thurnham Street, Liverpool
Roberts, Parch. Hugh, Graig, Glandovey
Roberts, Parch. Hugh, Rhydymain
Roberts, Mr. H. S., Bethania, Corris
Roberts, Mr. J. P., Ynystowyn, Porthmadog
Roberts, Mr. Lewis H., 8, Willow Bridge road, Canonbury, London, N.

Roberts, Parch. Thomas, Bethesda, Bangor
Rowlands, Parch. Richard, Llwyngwril...
Rowland, Mr. R., J.P., Bank, Pwllheli.
Ryder, Mr. W., 54, Rathfern rd., Catford, London, S.E.
Thomas, Parch. T. J., Machynlleth
Thomas, Parch. W., Pwllheli
Williams, Proffeswr Hugh, M.A., Bala
Williams, Parch. H. Barrow, Llandudno
Williams, Parch. Isaac Jones, Llandderfel
Williams, Parch. John, Llandrindod
Williams, Mr. J. D., 12, Russell street, Swansea
Williams, Miss, 8, High street, Porthmadog
Williams, Mr. T. Lloyd, 731, College Avenue, Racine, Wisconsin, U.S., America
Williams, Parch. W., Talsarn

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.

 
  1. Hanes Plwyf Ffestiniog, gan Mr. G. J. Williams, F.G.S., tudalen 66.
  2. Traethodydd 1868, tudal. 368.
  3. 3.0 3.1 Hanes Plwyf Ffestiniog, Mr. G. J. W., tudal. 135.
  4. Methodistiaeth Cymru, I., tudalen 55.
  5. Hanes Plwyf Ffestiniog, G. J. W., tudal. 72.
  6. Traethodydd, 1858, tudal. 42. Drych yr Amseroedd, Argrafflad diweddaf, 91.
  7. Hanes Plwyf Ffestiniog, G. J. W., tudal. 222,
  8. Enwogion Swydd Feirionydd, Mr. Edward Davies, 40.
  9. "Pandy-y-Ddwyryd" yn Nghronicl yr Ysgol Sabbothol, 1880), 85. Parch. G. W., Talsarnau.
  10. Methodistiaeth Cymru, I., 529, a Pandy-y-Ddwyryd, Parch. G. Williams.
  11. Lle creigiog ar lan y môr.
  12. Drysorfa, Chwefror 1857; tudal. 63.
  13. Cofiant y Parch. John Jones, Talsarn, tudal. 818.
  14. Cofiant y Parch. J. Jones, Talsarn, tudal. 632.
  15. Traethodydd, 1868, tudal. 45
  16. Y Diwygiad Dirwestol, Parch. J. Thomas, D.D., tudal. 91.
  17. Adgofion y Parch. Owen R.. Morris, Minesota, America.
  18. Sylwadau y Parch. S. Owen. Ganddo ef y cafwyd llawer o hanes y blynyddoedd diweddaf.
  19. Adroddiad yr Ysgolion Sabbothol 1873, gan y Parch. Elias Jones, Talsarnau.
  20. Yr Adroddiad am yr Ysgol Sabbothol, gan Mr. E. Williams.
  21. Ysgrif yn y Traethodydd, Medi, 1889, gan y Parch. E. Roberts, Dyffryn.
  22. Adroddiad yr Ysgol Sabbothol, gan Mr. T. J. Roberts, Ael-y-bryn.
  23. "Galwyd Mr. J. Morgan Jones yn swyddog, a derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol, Gorphenaf, 1890.
  24. Enwogion Dyffryn Ardudwy yn nyddiau Cromwell—cynt a chwedi. Methodist, Chwefror, 1855.
  25. Y Geninen, Ebrill, 1890.
  26. Rhagymadrodd y Bardd Cwsg, ugeinfed argraffiad, Mr. Isaac Foulkes, 1888.
  27. Cymru, Cyf. II., gan y Parch. Owen Jones. Enwogion Swydd Feirion, Mr. Edward Davies. Bardd Cwsg, argraffiad 1888, Mr. Isaac Foulkes.
  28. Methodist, Mawrth, 1856.
  29. Methodist, 1855, tudal. 87.
  30. Methodistiaeth Cymru, I. 291.
  31. Methodistiaeth Cymru, III. 195.
  32. Cyf. I., tudalen 40.
  33. Hanes Eglwysi Annibynol Cymru, I., 470.
  34. Methodistiaeth Cymru, I., 375
  35. Y mae yr eglwys wedi bod yn ffyddlawn gyda holl achosion y Cyfundeb, ac yn enwedig i gynal Cyfarfodydd Misol y sir. Bu yma un Gymdeithasfa Chwarterol, yr hon a gynhaliwyd Ebrill, 1877.
  36. Tad y bardd a elwid Dafydd Ionawr.
  37. Y Parch. Richard Humphreys.
  38. Ysgrifena R. Evans hyn, fel y tybir, yn y flwyddyn 1838, oblegid ymhen un mlynedd ar ddeg wedi hyny y bu farw. Felly cymerodd y digwyddiad a grybwyllir le yn y flwyddyn 1780.
  39. Mae y Penrhyndeudraeth, fel yr arwydda ei enw, yn ymestyn tua'r mor, rhwng y ddau draeth y Traeth mawr sydd nesaf i Dremadog, a'r Traeth bach yn ochr Sir Feirionydd. [Rhaid cofio hefyd fod hyn wedi digwydd lawer o flynyddoedd cyn gwneuthur y Cob rhwng Porthmadog a Phenrhyndeudraeth.]
  40. Yr ydym yn ddyledus am lawer o'r sylwadau uchod, yn gystal a'r crynhodeb a roddwyd am yr Ysgol Sul, i Mr. Rees Roberts, Harlech.
  41. Traethawd Miss Davies.
  42. Traethawd Miss Davies.
  43. Gwnaeth Humphrey Evans wasanaeth mawr gydag achos crefydd yn America. Yr oedd yn un o'r rhai a gychwynodd yr achos Methodistaidd yn Racine. Yn ei dŷ ef y cynhaliwyd y cyfarfod gweddi a'r Ysgol Sul Gymreig gyntaf yno, ac efe a roddodd y tir at adeilad y capel. Bu farw yn Nghymru, yn nhŷ ei fab-yn-nghyfraith, y Parch. Robert Ellis.
  44. 44.0 44.1 44.2 44.3 Cadarnhawyd yr alwad yn Nghyfarfod Misol Hydref
  45. Y mae diolchgarwch yn ddyledus i Mr. J. Jones, U.H., Corner Shop, Llanfyllin, am roddi caniatad i ddefnyddio cynwys yr hen Gof-lyfr hwn.