Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I (testun cyfansawdd)
← | Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I (testun cyfansawdd) gan Robert Owen, Pennal |
→ |
I'w darllen pennod wrth bennod gweler Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I |
Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader]
RHEOLAU.
- Y Llyfrgell i fod at wasanaeth Glanaber a'r canghenau.
- Y Llyfrau i'w benthyca ar ol y Moddion bob nos Lun, a nos Fercher.
- Am bythefnos y caniateir benthyca llyfr.
- Dirwyir y neb a geidw lyfr dros yr amser yn ol tair ceiniog yr wythnos.
- Gellir ail-fenthyca llyfr, oni bydd rhywun arall yn disgwyl am dano.
- Ni roddir yn fenthyg i neb fwy nag un llyfr ar y tro.
HANES METHODISTIAETH
GORLLEWIN MEIRIONYDD,
O'R
DECHREUAD HYD Y FLWYDDYN 1888.
—————————————
(CYFROL CANMLWYDDIANT)
—————————————
GAN
Y PARCH. ROBERT OWEN, M.A., PENNAL.
—————————————
CYFROL I
—————————————
DOLGELLAU:
ARGRAFFWYD A CHYHOEDDWYD GAN E. W. EVANS, SMITHFIELD LANE
—————————————
1889
RHAGYMADRODD
—————————————
CYNHALIAD Gwyl Can'mlwyddiant yr Ysgol Sabbothol yn 1885 fu yr achlysur uniongyrchol i ymddangosiad y gwaith hwn. Syrthiodd i ran yr ysgrifenydd i roddi hanes yr ysgol o'r dechreuad, mewn rhan o'r sir, yn yr wyl a gynhaliwyd yn Aberdyfi. Wrth wneuthur ymchwiliadau ar gyfer y gorchwyl hwnw, daeth rhai pethau i'r golwg, a ddangosent yn bur eglur yr angenrheidrwydd am ysgrifenu mewn trefn hanes dechreuad a chynydd crefydd yn yr eglwysi. Teimlid yn awyddus i gael hanes yr Ysgol Sul yn argraffedig. Ac os hanes yr ysgol, paham na cheid hanes crefydd yn ei holl symudiadau?
Y mae yn perthyn i gylch Cyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd yn awr 60 o eglwysi, ac ni cheir crybwylliad hyd yn nod am enw, o leiaf ddwy ran o dair o honynt yn Methodistiaeth Cymru. Gwir fod llawer o'r cyfryw yn eglwysi lled newyddion, ond y mae amryw hefyd o hen eglwysi heb ddim o'u hanes wedi ei ysgrifenu. Amcan proffesedig yr awdwr yn Methodistiaeth Cymru ydoedd, ysgrifenu HANES CYFFREDINOL, sef prif linellau yr hanes yn y gwahanol siroedd. Ac y mae wedi gwneuthur hyny yn y modd mwyaf canmoladwy. Erys y tair cyfrol a ysgrifenodd yn drysor arhosol o'r fath werthfawrocaf tra parhao crefydd yn Nghymru. Ond gan ei bod yn ymyl deugain mlynedd er pan eu hysgrifenwyd, amlwg ydyw fod llawer o ddigwyddiadau wedi cymeryd lle yn ddiweddarach mewn cysylltiad â chrefydd yn ein plith y dylid eu cadw mewn coffadwriaeth.
Allan o ddeugain o eglwysi oedd yn perthyn i'r rhan Orllewinol o'r sir yn 1850, mae yr hanes am ryw haner dwsin wedi ei gofnodi yn Methodistiaeth Cymru yn lled gyflawn, am y rheswm fod dynion yn perthyn i'r eglwysi hyny ar y pryd, yn fedrus yn y gwaith o ysgrifenu, ac yn cymeryd dyddordeb mawr yn yr hanes a ysgrifenid, y rhai a anfonasant gyflawnder o ddefnyddiau i Mr. Hughes at y gwaith; aethpwyd heibio i leoedd eraill heb gofnodi nemawr ddim am danynt, yn unig oherwydd nad anfonodd pobl y lleoedd ddefnyddiau i'r awdwr.
Cedwid tri pheth mewn golwg wrth ysgrifenu yr hanes hwn.
1. Cofnodi cymaint a ellid gael o hen hanes am yr eglwysi hyny nad oedd dim wedi ei ysgrifenu o'r blaen. I gyraedd yr amcan hwn, gwnaethpwyd llawer o ymchwiliadau gyda hen bobl hynaf pob ardal. Yn ychwanegol hefyd, daethpwyd o hyd i gryn swm o ddefnyddiau yn ysgrifau yr ysgolfeistr hynod, a'r pregethwr zelog, Lewis William, o Lanfachreth. Am y cyfryw ddefnyddiau, gwir yw yr ymadrodd, "Goreu côf, côf llyfr."
2. Crynhoi pob hanes oedd eisoes wedi ei ysgrifenu, a'i ddwyn hyd y gellid i gysylltiad â phob eglwys lle y perthynai. Gwnaethpwyd defnydd helaeth o'r hanesion rhyfedd am y mawrion weithredoedd a amlygwyd yn nechreuad crefydd yn ein gwlad,. gan ystyried y gallai dwyn y cyfryw i gyraedd darllenwyr yr oes-bresenol fod o fendith.
3. Croniclo y prif ffeithiau a'r digwyddiadau a gymerasant le i lawr hyd yr adeg bresenol.
Pe buasai rhywun wedi ymgymeryd ag ysgrifenu yr hanes, gyda gradd o fanylwch, haner can' mlynedd yn ol, buasai y gwaith yn llawer haws i'w gyflawni, oblegid yr oedd rhywrai yn fyw ymhob ardal y pryd hwnw, a allasent roddi gwybodaeth am bob peth, fel y bu o'r dechreuad. O flwyddyn i flwyddyn, mae nifer yr hen bobl yn myned lai lai, a helyntion yr amseroedd gynt yn myned bellach bellach o'r cyraedd. A sicr ydyw, pe na buasid yn achub y cyfle i gasglu y lloffion a ddaethant i'r wyneb yn ystod y flwyddyn gofiadwy 1885, buasai llawer iawn mwy o goffadwriaeth y tadau yn myned am byth ar ddifancoll.
Amcanwyd rhoddi cofnodiad am holl swyddogion yr eglwysi, yn bregethwyr a blaenoriaid. Os gadawyd rhywrai allan, mewn amryfusedd hollol y bu; ni ddaethpwyd o hyd i'w henwau. Galf rhai dybio, drachefn, mai ychydig a ysgrifenwyd am ambell un. Yr unig ateb i hyn ydyw, mai ychydig o ddefnyddiau a gafwyd, ac anmhosibl ydoedd eu creu. Hyd yr oedd yn bosibl, gadawyd allan yr hyn a dybid a fyddai yn esgyrn sychion, sef gormod o fanylion lleol, rhag i'r hanes fyned yn annyddorol. Am yr anmherffeithderau sydd yn y gwaith, nid oes neb yn fwy ymwybodol o honynt na'r ysgrifenydd ei hun. Ac os gwnaed camgymeriadau, ceir eto gyfle i'w cywiro.
Wele y Gyfrol Gyntaf wedi ei chwblhau. Gan rai, buasai yr holl hanes mewn un gyfrol yn fwy dewisol, ond fe'i rhoddwyd yn ddwy yn bwrpasol er mwyn iddo fod yn gyraeddadwy o ran ei bris i'r lliaws. A chalondid mawr ydyw gweled cynifer yn rhoddi eu cefnogaeth trwy ddyfod yn dderbynwyr. Priodol hefyd ydyw cydnabod gyda diolchgarwch cynes y brodyr lawer a roddasant eu cymorth i gasglu defnyddiau o'r gwahanol ardaloedd. "Os yr Arglwydd a'i myn, ac os byddaf byw," bwriedir, mewn amser rhesymol, ddwyn allan yr Ail Gyfrol, yr hon a gynwys y gweddill o hanes eglwysi cylch y Cyfarfod Misol, ynghyd â rhai pethau eraill o ddyddordeb.
Pennal, Rhagfyr, 1888.CYNWYSIAD
RHAN GYNTAF
PENOD I
Sylwadau Arweiniol
PENOD III
Y Deffroad Crefyddol yn Ymledu
PENOD V.
PENOD VI
Yr Ysgol Sabbothol
PENOD VII
Rhai o Flaenoriaid Hynotaf y Dosbarth
PENOD VIII
Byr Hanesion Ychwanegol
—————————————
RHAN AIL
PENOD I
Y Dosbarth a'i Drefniadau
PENOD II
PENOD III
PENOD IV
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
RHAN I
—————————————
DOSBARTH RHWNG Y DDWY-AFON
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
PENOD I.
—————————————
SYLWADAU ARWEINIOL
CYNWYSIAD.—Byr ddarluniad o'r rhan hon o'r Sir—Lleoedd hynod—Hanesion boreuol.
LAIN o wlad ydyw yr hyn a elwir 'Rhwng y Ddwy Afon,' ar gwr De-Orllewinol Sir Feirionydd, oddentu deuddeng milldir o led, a deunaw neu ugain milldir o hyd, rhwng dwy afon, sef yr Afon Mawddach ac Afon Dyfi. Ymestyna o ran ei hyd o Lwyngwril i gwr uchaf Aberllyfeni, a'i lled o Arthog i Bennal. Amgylchynir y rhandir o du y Gorllewin gan ran o'r môr a elwir Cardigan Bay; o du y Dwyrain, gan Gadair Idris, a Llyn Tal-y-llyn; o du y Gogledd, gan yr Afon Mawddach, neu Afon yr Abermaw; o du y De, gan Afon Dyfi. Ac o'r tu arall i Afon Dyfi y mae siroedd Trefaldwyn ac Aberteifi. Oddiwrth y ffaith fod y rhandir yn gorwedd rhwng dwy afon, y Mawddach a'r Dyfi, y tardd yr enw Rhwng y Ddwy Afon." Y mae yn perthyn i arwynebedd y wlad wastadedd a bryniau; mynydd a môr; "dyffrynoedd, glynoedd, a glanau;" tir toreithiog a thir ysgythrog. Yn ddaearyddol saif, fel Mesopotamia, o'r bron ar ei phen ei hun, yn wahanedig oddiwrth y tir oddiamgylch, gyda Chader Idris, brenin mynyddoedd y sir, ar un cŵr, y môr ar y cŵr cyferbyniol, a'r ddwy afon yn rhedeg yn gyfochrog, o bob tu.
Afon arall y gellir ei galw yn drydedd afon, ond sydd yn llai o faintioli, ac yn meddu llai o enwogrwydd, ydyw yr Afon Dysyni. Y mae rhediad hon drachefn yn gyfochrog â'r ddwy arall, ac ymestyna ar ei thaith tua'r môr, gan ranu y parth hwn o'r wlad, o'r bron yn y canol. Bêr yw ei hyd o'i chym— haru â'r ddwy arall. Dechreua ei thaith yn Llyn Tal-y-llyn, a rhed yn hamddenol heibio Abergynolwyn, a Chraig y Deryn, ac yna yn fwy arafaidd fyth, cydrhwng pentrefydd Bryncrug a Llanegryn, heibio i balasdai prydferth Peniarth ac Ynysmaengwyn, gan ymarllwys yn ymyl Tonfanau, ac yn ngolwg tref Towyn, i'r Cardigan Bay.
Yn ol hen raniadau y wlad, cymer i mewn y rhan helaethaf o ddau gwmwd, Ystumaner a Thalybont. Y ddau gwmwd gyda'u gilydd ydynt Cantref Meirionydd. Cynwysa chwech o blwyfi, Towyn, Celynin, Llanegryn, Llanfihangel-y-Penant, Tal-y-Llyn, a Pennal. Er's llai nag ugain mlynedd yn ol, cynhelid llysoedd barn gan yr ustusiaid heddwch yn Towyn, Pennal, ac Aberdyfi bob yn ail. Wedi hyny, cynhelid hwy yn Towyn ac Aberdyfi bob yn ail fis; yn awr cynhelir hwy yn Towyn yn unig. Er pan basiwyd Deddf Addysg 1870, y mae pedwar o Fyrddau Ysgol wedi eu ffurfio, Bwrdd Ysgol Celynin, Bwrdd Ysgol Towyn a Phennal, Bwrdd Ysgol Tal-y- Llyn, Bwrdd Ysgol Llanfihangel-y-Penant. Mewn ystyr grefyddol, ymhlith y Methodistiaid Calfinaidd, mae y rhan yma o'r wlad yn gwneyd i fyny un o bedwar dosbarth Cyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd.
Yn yr amseroedd pell yn ol, yr oedd y ffyrdd i drafaelio, ond eu bod yn dra chyffredin eu cynllun, ac o wneuthuriad cyntefig, yn arwain drwy agos bob dyffryn, a thros agos bob bryn. Ond mewn amseroedd diweddarach, wedi i'r hen ddull cyntefig o deithio ar draed ac ar feirch fyned heibio, a chyn amser y cerbydau tân, yr oedd y brif ffordd i deithio yn arwain o amgylch ogylch i'r rhanbarth hwn, gan adael canol y wlad i'r teithydd i ymlwybro fel cynt. Yn y fl. 1827 y gwnaed y ffordd fawr, y turnpike road o Fachynlleth, trwy Bennal, i lawr i Aberdyfi ac ymlaen i Towyn. Wedi gwneuthur hon, yr oedd ffordd y goach fawr yn arwain i lawr gydag ochr Ogleddol Afon Dyfi, ar hyd glan y môr, ac yna i fyny gydag ochr ddeheuol yr Afon Mawddach i Ddolgellau. Heblaw hyn, yr oedd ffordd gyffelyb yn cydio Machynlleth a Dolgellau a'u gilydd, gan arwain trwy Gorris, igam ogam, o benelin i benelin, i fyny ac i lawr, i lawr ac i fyny. Y lle y rhoddwyd yr ager-beiriant i redeg gyntaf yn Sir Feirionydd, ni debygwn, ydoedd rhwng Aberdyfi a Towyn. Cymerodd hyn le yn 1863 neu 1864. Er y flwyddyn 1867, mae rheilffordd glanau Cymru yn rhedeg ar draws y pen agosaf i'r môr o'r sir, ac yn cysylltu De a Gogledd Cymru a'u gilydd. Pe cymerai dieithr-ddyn ei eisteddle yn ngherbyd y rheilffordd, yn ngorsaf Machynlleth, a myned ymlaen trwy Aberdyfi, Towyn, a Llwyngwril i Barmouth Junction, ac i fyny drachefn i Ddolgellau, byddai wedi amgylchynu llain o wlad ar lun pedol, ond ei bod hi yn bedol o faintioli mwy na phedol ceffyl. Tyned linyn drachefn dros y lle gwag i'r bedol, gan uno y ddau ben a'u gilydd, dyna y rhan o'r wlad sydd yn myned wrth yr enw 'Rhwng y Ddwy Afon.'
Mae arwynebedd y wlad, a golygfeydd swynol natur yn dra amrywiol a phrydferth, a dyma lle mae "Bryniau Meirionydd i'w gweled harddaf o un rhan o'r sir. Mae copäau y bryniau gan mwyaf yn foelion a llymion, a gwaelodion y gwastadedd yn gynyrchiog, cnydiog, a chynharol. Yn debyg iawn i Mesopotamia, gwlad meibion y dwyrain, y mae Mesopotamia Sir Feirionydd, yn wastadedd yn un pen, ac yn myned yn fwy mynyddig fel yr eir tua'r Gogledd Ddwyrain.
Ar y cwr pellaf oddiwrth y môr, a thu cefn i'r dyffrynoedd a'r bryniau rhwng y Ddwy Afon, y mae CADER IDRIS. Y mynydd hwn, yr hwn sydd 2914 o droedfeddi uwchlaw y môr, a arferid ei ystyried yn uwchaf yn Sir Feirionydd, a'r ail mewn uwchder yn Nghymru. Ond y mae mewn gwirionedd un arall yn uwch na'r Gader, sef Aran Fowddwy, yr hwn sydd yn 2955 o droedfeddi o uchder. Mae Cader Idris wedi cael ei enw oddiwrth Idris Gawr, ser-ddewin nerthol a chyfrwys. Ar grib uwchaf y mynydd yr eisteddai y cawr, "i efrydu cylchdeithiau y llu wybrenol, a dysgu ganddynt dynged a damwain dyn," am ba achos y gelwir y mynydd wrth ei enw—Cader Idris. Yr oedd crediniaeth yn bod am oesau, y byddai i bwy bynag a eisteddai am noswaith yn y gadair ar ben y mynydd gael ei drawsffurfio erbyn y boreu yn fardd, yn gelain farw, neu yn ysbrydoledig! Y mae mwy o berthynas hanesyddol rhwng y mynydd hwn â Dolgellau, am mai oddiyno yn fwyaf cyffredin y cymerir taith i'w ben. Y mae llawer o gyrchu, oes ar ol oes, i ben Cader Idris gan ddieithriaid o bob cwr o'r byd, tra y mae ugeiniau yn treulio eu hoes o gwmpas ei odrau heb fod erioed ar ei ben.
Wrth odreu Cader Idris y mae Llyn Tal-y-llyn yn gorwedd yn dawel yn ei wely hirgrwn, cydrhwng mynyddoedd uchel. Ei faintioli ydyw oddeutu milldir a chwarter o hyd, haner milldir o led, a thair milldir o amgylchedd. Mae cymydogaeth y llyn yn ystod misoedd yr haf yn gyrchfa llawer o ddieithriaid. Cafodd plwyf Tal-y-llyn ei enw oddiwrth y ffaith fod llan neu eglwys y plwyf wrth dalcen y llyn.
Islaw y Llyn a'r Cader, rhyngddynt a'r môr, ar waelod gwastadedd Llanfihangel, y mae "Craig y Deryn," yr hon a elwir felly, yn ddiameu, oddiwrth y nifer mawr o adar, môrfrain, cudylliaid, cyhyrod, ac adar ysglyfaethus eraill, a heigiant o'i hamgylch. Y mae yn y graig ugeiniau o dyllau ac ystafelloedd, lle y nytha yr adar, ac y magant eu cywion. Ac ar adegai o'r flwyddyn, bydd eu sŵn yn fyddarol. Ymddyrchafa y graig yn syth ar i fyny, amryw ganoedd o droedfeddi o uchder, a'r rhan uchaf o honi yn ogwyddedig dros ei throed, nes peri arswyd ar y teithiwr a elo heibio rhag i ddarn o honi gwympo i lawr ar ei ben. Y mae bum' milldir o bellder o Dowyn, ac yn yr haf ymwelir â'r lle gan liaws o ymwelwyr, i gael golwg ar aruthredd y graig, ac ar y llu asgellog. Ar gyffiniau y rhan yma o'r wlad, ar waelod dyffryn Towyn, rhwng y dref hon â'r môr yr oedd Cantref y Gwaelod. Os ydym i gredu traddodiad, fe gollwyd gwastadedd eang, brâs, toreithiog, trwy orlifiad y môr, rhyw bedwar cant ar ddeg o flynyddoedd yn ol. Fel hyn y dywed y Trioedd am yr hanes hwn: "Seithinyn feddw ab Seithinyn Saidi, brenin Dyfed, a ollyngwys yn ei ddiod y môr dros Cantref y Gwaelod, oni chollwyd o dai a daiar y maint ag oedd yno, lle cyn hyny y caed un dinas-dref ar bymtheg, yn oreuon ar holl drefydd a dinasoedd Cymru." Cymerodd y trychineb hwn le, fel y dywedir, oddeutu y flwyddyn 500. Y profion cadarnaf dros gredu fod lle mor fawr, sydd yn awr oll dan ddwfr, unwaith yn wlad eang, yn cael ei phreswylio gan ddynion, ydyw y Sarnau, neu y muriau mawrion sydd yn weledig yn y mor ar ddwfr bas. Ond a chaniatau fod Cantref y Gwaelod wedi bod unwaith yn wlad yn cael ei phreswylio fel y rhanau sydd yn awr ar lan y môr, mae y traddodiad mai trwy esgeulusdra dyn meddw y cymerodd y trychineb le yn anhawdd iawn ei gredu. Mwy tebygol ydyw mai trwy ryw ffordd arall, ac feallai yn raddol, y cymerodd y gorlifiad le.
Amaethyddiaeth ydyw cynyrch a chyfoeth penaf y wlad. Proffwydodd Azariah Zadrach, hen weinidog ffyddlon gyda'r Annibynwyr, fod cyfoeth lawer yn nghrombil bryniau a mynyddoedd y bröydd hyn. Cyfansoddodd gân yn y fl. 1836, yn yr hon y dywed:—
"Y mae yn mynyddau Meirion
Lawer o drysorau mawrion,
Ac fe'u cludir lawr i Dyfi
Yn dunelli dirifedi.
Mae'r mynyddau sy'n dra anial,
'Nawr uwchlaw i bentref Pennal,
Yn llawn trysor maes o'r golwg:
Cyn bo hir fe ddaw i'r golwg.
Fe fydd trefydd ac eglwysi
Cyn b'o hir ar lanau Dyfi,
A hwy fyddant yn fwy hynod
Na hen drefydd Cantref-gwaelod.
Gwneir pont ha'rn dros afon Dyfi,
A bydd miloedd yn ei thramwy,
Wrth dd'od i lawr o Gader Idris.
I'r dref hardd fydd ar Foelynys.
Fe fydd Dyfi yn rhagori
Ymhell ar holl borthladdoedd Cymru;
Bydd ei masnach yn rhyfeddod
Yn yr oesoedd maith i ddyfod."
Y mae haner can' mlynedd er pan y canodd y proffwyd, ond nid oes eto ryw lawer o'r cyfoeth wedi dod i'r golwg. Er hyny ceir arwyddion fod rhai o'i broffwydoliaethau eisoes wedi eu cyflawni. Y mae Chwarelau Llechau wedi troi allan yn llwyddianus mewn dwy ardal. Chwarelau Llechau Corris ac Aberllyfeni ydyw y rhai agosaf o ran maint a phwysigrwydd yn Sir Feirionydd i Chwarelau Ffestiniog, a Chwarel Abergynolwyn, neu Bryneglwys, ydyw y drydedd o ran pwysigrwydd; cyfoeth yr olaf wedi ei dtladblygu o fewn y 30ain mlynedd diweddaf, a'r rhai cyntaf o fewn y 60ain mlynedd diweddaf. Heblaw yn y ddwy ardal hyn, nid oes dim cyfoeth o bwys wedi ei gael o'r ddaear, ond yr hyn a geir ar ei gwyneb. O'r chwe' phlwy sy'n gwneyd i fyny y rhanbarth, plwy' Towyn ydyw y pwysicaf a'r cyfoethocaf. O fewn y plwy' hwn, y mae Aberdyfi, porthladd ac ymdrochle o gryn bwysigrwydd: a phentref tawel Bryncrug ar lan yr afon Dysyni. Poblogaeth y plwy' yn 1871 ydoedd 3307. Yr agosaf ato mewn pwysig- rwydd ydyw plwy' Tal-y-llyn. Poblogaeth yn 1807, 633; ac yn 1861, 1284. Y mae Corris ac Abergynolwyn wedi cynyddu llawer mewn poblogaeth yr haner can' mlynedd diweddaf, ar gyfrif y llech-chwarelau sydd ynddynt; a Thowyn ac Aberdyfi wedi cynyddu, ar gyfrif agoriad Rheilffordd Glanau Cymru. Nid oes cynydd o bwys wedi bod yn un rhan arall o'r wlad; yn hytrach lleihau y mae y rhanau amaethyddol yn barhaus.
Gyda golwg ar hynafiaethau, ac olion brwydrau a rhyfeloedd canrifoedd a aethant heibio, mae y wlad yn gyfoethog mewn dyddordeb. Ond amcan y sylwadau hyn yn unig ydyw rhoddi ychydig grybwyllion cyffredinol. Y mae eglwys y plwyf, Towyn, yn dra hynafol. Tebyg ydyw ddarfod i'r adeiliad presenol gael ei adeiladu yn y ddeuddegfed ganrif, gan ei bod ar yr arddull Normanaidd o adeiladaeth. Ei sefydlydd a'i noddwr ydoedd Sant Cadfan, yr hwn a ddaeth drosodd o Lydaw i Gymru yn nechreuad y chweched ganrif. Sefydlodd hefyd eglwys Llangadfan, yn Sir Drefaldwyn. Yr oedd Sant Cadfan yn Abad yn mynachlog Ynys Enlli, ac fel yr hysbysir yn "Bonedd y Saint," yr oedd ganddo Beriglor o'r enw Hywyn. Y mae un awdwr Cymreig yn tybio y gallai fod enw y dref wedi tarddu oddiwrth enw y periglor Hywyn, a thrwy dreigliad amser fod y gair wedi llygru i "Nhywyn," ac yna i "Tywyn, ac yn olaf i "Towyn."[1] Eraill a ddywedant mai ystyr y gair Towyn ydyw, lle ar fin y môr. Yr enw ar y bryn sydd wrth ymyl tref Towyn, ar yr ochr ddeheuol ydyw, "Bryn y Paderau," oddiwrth y ffaith y byddai yr hen seintiau a fynychent yr eglwys yn syrthio ar eu gliniau ar ben y bryn i ddweyd eu pader; gan mai ar gyrhaeddiad i ben y bryn y cai y rhai a ddeuent o gyfeiriad Aberdyfi a Maethlon yr olwg gyntaf ar yr eglwys, ac yr oedd eu parch yn gymaint iddi fel yr elent ar eu gliniau pan y caent yr olwg gyntaf arni. Yn y flwyddyn 1215, blwyddyn y Freinlen Fawr (Magna Charta), cynhaliwyd cyfarfod mawr o Dywysogion Cymru yn Aberdyfi, i'r diben o hawlio eu rhyddid yn y tiroedd a ddygasid oddiarnynt gan yr arglwyddi. "Yn yr amser hwn, ymddangosodd ymhlith y Cymry dueddiad nodedig a chanmoladwy i gydgymodi er cynal undeb a heddwch rhyngddynt a'u gilydd; ac i'r diben o hyfforddi eu bwriadau, cynhaliwyd cyngor yn Aberdyfi, lle y daeth Llewelyn ap Iorwerth, a holl Dywysogion Cymru, ynghyd â holl ddoethion Gwynedd; a cher bron y Tywysog y gwnaethpwyd rhaniad tiriogaethau rhwng yr ymgeisyddion yn y Deheubarth."—Carnhuanawc.
Yn mhlwyf Llanegryn, y mae ffermdy o'r enw Talybont, yr hwn y tybir a fu unwaith yn breswylfa Tywysogion Gwynedd, yn gymaint ag i'r Tywysog Llewelyn ddyddio un o'i freinleni yno. Ac yn mhlwyf Llanfihangel-y-Penant, y mae gweddillion hen gastell, yr hwn a clwid Castell Teberri, nen Castell y Beri, ac fel y gelwir ef yn awr Castell Caerberllan. Tybia Pennant, yr hanesydd, mai hwn ydoedd Castell Bere, ac mai efe ydoedd amddiffynfa "Llywelyn ein llyw olaf." Y mae ffermdy, neu Plâs Aberllyfeni hefyd yn lle o urddas hynafol, ac ar ei furiau luniau ac arf-beisiau hen wroniaid Cymreig. Dywedir i Counsellor Flutton, awdwr History of Pembrokeshire, fod yn byw ynddo yn hir. Cydrhwng Llanegryn a Llwyngwril, ar ben uchaf y bryn, y mae "Gwastad Meirionydd." Hynodrwydd penaf y lle hwn yn awr ydyw fod yno ysbotyn o le yn cynwys ychydig iawn o amgylchedd, pan yn sefyll ynddo, nis gellir gweled na mynydd na môr o hono, er fod y naill a'r llall yn ymyl. Yn agos i Lanegryn, hefyd, y mae Peniarth Uchaf. Yn y llyfr, Rhyfeddodau y Byd Mawr, a gyhoeddwyd yn Nolgellau, yn y flwyddyn 1827, gwneir y crybwylliad canlynol am y lle hwn: "Y pwys cyntaf o dê a ddaeth i Gymru, am a wyddis, ydoedd anrheg a anfonodd pendefiges o Gaerludd i wraig fonheddig oedd yn byw yn Peniarth Uchaf, Swydd Meirion, yn y flwyddyn 1700."
Gwelir olion amryw helyntion yr oesoedd gynt yn ardal Pennal. Yn agos i'r pentref, y mae amaethdy Cefncaer, yr hwn oedd wersyllfa gadarn gan y Rhufeiniaid yn amser yr Ymerawdwr Honorius. Dywed traddodiad fod ffordd yn arwain oddiyma o tan y ddaear, ac o tan afon Dyfi i dy Owain Glyndwr, yn Machynlleth. Y mae swn gwagder i'w glywed wrth gerdded ar wyneb y ddaear yn agos i'r lle, ac yr oedd hen bobl yn byw yn yr ardal ychydig ddegau o flynyddoedd yn ol, a dystient eu bod wedi gweled pen y ffordd. Credir hefyd, medd haneswyr, fod ffordd Rufeinig yn arwain o Conovium, ger Conway, i Lucarum, ger Abertawe, gan basio heibio Ddolgellau, a thros fraich Cader Idris, heibio i Bennal, ac yna trwodd i'r Garreg, yn Sir Aberteifi. Ymladdwyd brwydr yma rhwng pleidwyr tŷ Lancaster â phleidwyr tŷ Caerefrog, a thybir fod y Domen—las sydd ar dir Talgarth wedi ei chyfodi ar fedd y milwyr a syrthiasant yn y rhyfel hwn, a thybir yn mhellach fod Wtre y Parsel, sef y ffordd fawr rhwng Pennal a phentref y Cwrt, yn llawn o feddau hen filwyr. Y mae llythyr ar gael oddiwrth Owain Glyndwr at frenin Ffrainc, wedi ei ddyddio yn Mhennal. Yn y Darlundraeth o Fachynlleth a'i Hamgylchoedd, gan Ieuan Dyfi, ceir yr hanes canlynol am ddigwyddiad a gymerodd le yma yn 1402—
"Yn y pentref hwn (Pennal), unwaith y trigai yr hawddgaraf a'r decaf o holl wyryfon Gwynedd, Lucy Llwyd. Nis gall ei marwolaeth anhygoel a phruddglwyfus, er yn dra ffafriol i'w theimladau, lai na chynyrchu cydymdeimlad a thosturi. Yr oedd mewn carwriaeth â Llewelyn Goch ap Meurig o Namnau, bardd. Ond ei thad, mewn awr nwydus, ac yn anfoddlawn ir briodas, a gymerodd fantais oddiwrth absenoldeb ei chariad yn Nehendir Cymru, ac a geisiodd dori yr ymlyniad, a chyda'r diben hwn, dywedodd wrthi fod Llewelyn wedi ei gadael hi a phriodi un arall. Yr oedd yr ergyd yn fwy nag a allai gynal; syrthiodd i lawr a bu farw yn y fan, Llewelyn wrth ddychwelyd, ddiwrnod neu ddau wedi hyn, a frysiodd at anwylyd ei galon; ond y syndod disymwth o'i gweled wedi ei rhoddi yn ei harch, a effeithiodd gymaint ar ei synwyr, fel y syrthiodd yn farw ar y llawr. Pa fodd bynag, adfywiodd drachefn, a chyfansoddodd alargan, ymha un y darlunir gyda theimladau dyn wedi cael cam, â meddwl trallodedig, gymeriad y ragoraf ymhlith merched, ymha un y dywed fel y canlyn—
"Llyma hâf llwm i hoew fardd,
Llyma hâf llwm i fardd;
Nid oes yn Ngwynedd heddiw
Na lloer, na lewyrch, na lliw;
Er pan rodded trwydded trwch
Dan lawr dygn, dyn loer degweh.'"
PENOD II
——————
ANSAWDD FOESOL A CHREFYDDOL Y WLAD CYN Y FL. 1785.
——————
CYNWYSIAD—Cyfnewidiadau can' mlynedd—Y ddau wr a ddeffrowyd gyntaf—Profion allanol a thufewnol—Arferion y gwahanol ardaloedd Gwyl Mabsantan—Troedigaeth John Vanghan, Tonfanau Interludiau—Dr. Pugh, Pennal—Ymladd Ceiliogod—Tystiolaeth y Ficar Pritchard—Llyfr y Chwareuon"—Siol Gladdu.
MAE y flwyddyn 1785 yn flwyddyn arbenig yn hanes y rhan yma o'r wlad, yn gystal a phob rhan arall, am mai hi ydyw blwyddyn dechreuad yr Ysgol Sabbothol yn Nghymru. Mewn cysylltiad â chrefydd Cymru, bydd y flwyddyn hon yn llythyren goch yn ei hanes ymhlith holl flynyddau yr oesoedd. Yr ydys yn ei chymeryd hi yn y benod hon fel y terfyn-gylch sydd yn gwahanu rhwng tywyllwch a goleuni: y goleuni i gyd y tu yma i'r terfyn-gylch, a'r tywyllwch y tu draw iddo. Y ffordd i werthfawrogi goleuni y dydd ydyw, ei ddal ar gyfer a'i gymharu â thywyllwch y nos sydd newydd fyned heibio. Felly, mewn trefn i weled y daioni a wnaeth crefydd i'n gwlad, mae yn angenrheidiol i ni gofio am y tywyllwch, a'r anwybodaeth, a'r annhrefn mawr oedd ynddi, a hyny mor ddiweddar a chan' mlynedd yn ol. I lawer o bobl, nid ydyw prydferthion y greadigaeth, a golygfeydd swynol natur yn meddu ond ychydig at-dyniad, ac nid ydyw hynafiaethau, ychwaith, yn meddu unrhyw swyn iddynt amgen na bod yr haul a'r lleuad wedi cyfodi a machludo yn eu tro, a bod trigolion y wlad wedi eu geni, wedi byw, ac wedi marw, a dyna ddarfod am danynt. Ond a chaniatau mai ychydig ydyw nifer y rhai a fedrant gymeryd dyddordeb mewn pethau fel hyn, y mae y lliaws yn gwybod gwahaniaeth rhwng drwg a da, rhwng annhrefn a threfn, rhwng gwlad anwaraidd a gwlad wedi ei gwareiddio, rhwng gwlad heb neb ynddi yn ofni Duw a gwlad wedi ei llenwi â chrefyddwyr. Gwnaeth dylanwad pregethu yr efengyl a sefydliad yr Ysgol Sabbothol y gwahaniaeth hwn mor amlwg fel y gall y byraf ei ddeall ei ganfod. Ac mewn mor lleied o amser y gwnaed y fath wahaniaeth! Rhyfedd y cyfnewidiadau a ddygwyd o amgylch yn arferion ac agwedd foesol y trigolion mewn can' mlynedd Gan' mlynedd yn ol, yr un oedd terfynau ac amgylchoedd daearyddol y wlad yn hollol ag ydynt yn awr. Pe buasai i un o'r hen frodorion gyfodi o'r bedd, a sefyll ar ben un o fryniau y fro eleni, gallasai adnabod y wlad oll fel yr adnabyddid hi y pryd hwnw. A phe na buasai yn sylwi ar ddim ond y golygfeydd allanol, diau mai ei leferydd fuasent, "Y mae pob peth yn aros yr un fath er pan hunodd y tadau; mae nefoedd a daear yr un fath; mae yr haul y dydd, a'r lloer a'r sêr y nos yn hollol fel yr oeddynt gynt; mae yr afonydd sydd yn rhedeg i'r môr yr un fath; y bryniau llyfnion a'u penau moelion yr un fath; y banciau a'r dolydd, y coedwigoedd a'r meusydd yr ochrau a'r llechweddau yn aros yr un fath a phan yr oeddwn i a'm cyfoedion yn fyw ar y ddaear." Ond y mae can' mlynedd o amser wedi dwyn cyfnewidiadau mawrion i mewn, yn arferion y trigolion, ac yn agwedd foesol a chrefyddol y wlad. Arferion ofer y byd, a gwasanaeth difudd yr un drwg oedd yn myn'd a sylw tlawd a chyfoethog, gwreng a bonheddig; treulio y Sabbothau mewn ofer-gampau, chwareu cardiau, interludiau, y bel droed, rhedegfeydd, ac ymladdfeydd-dyma y pethau oedd mewn bri hyd ddiwedd y ganrif ddiweddaf yn yr ardaloedd hyn, ac nid oeddynt yn ol ynddynt i unrhyw ran o. Gymru.
Yn y flwyddyn 1749 y ganwyd William Hugh, Llechwedd, yn agos i bentref Llanfihangel-y-Penant. Pan ydoedd yn llanc yn bugeilio defaid ei dad ar hyd llechweddau Cader Idris, meddianid ei feddwl ag ystyriaeth am fawredd y Creawdwr, ac â golygiadau arswydlawn am hollbresenoldeb a hollwybodaeth Duw. Byddai yn cymeryd gydag ef i'r mynydd Lyfr y Weddi Gyffredin, a darllenai y Salmau a'r Llithau wrtho ei hun, ac am nad oedd ganddo neb i'w gynghori a'i gyfarwyddo yn y pethau a ddarllenai, collodd yr argraffiadau hyny, a dechreuodd ddilyn cwmpeini drwg. Dilynodd arferion llygredig oeddynt ar y pryd yn arferedig, a daeth yn enwog yn yr arferion hyny ymhlith ieuenctyd gwylltion y fro. Yr oedd uwchlaw 30 oed cyn bod dim pregethu gan neb o'r Ymneillduwyr yn yr un o'r ardaloedd yn agos ato. Ar yr 2il o Fehefin, 1760, yn Nghoed-y-gweddill, ar y llechwedd uwchlaw pentref Llwyngwril, y ganwyd Lewis Morris. Fel hyn y dywed ef am ei ardal enedigol, a'r ardaloedd cylchynol yn more ei oes: Yr oedd agwedd dywyll ac annuwiol iawn ar y wlad y pryd hwnn. Campau llygredig, gwylmabsantau, nosweithiau canu a dawnsio, cwrw cyfeddach, chwareu cardiau, y bel droed ar y Sabbothau, ymladd ceiliogod, a rhedegfeydd ceffylau—pethau fel hyn oeddynt gynulliad hen ac ieuanc; ac wrth ymarfer â hwy, byddai dynion yn gyffredin yn ymladd ac yn curo eu gilydd, Gyda yr arferion annuwiol hyn y treuliais inau ddyddiau gwerthfawr fy ieuenctid, yn hollol ddifeddwl am Dduw, ac enaid, a marw, a barn, a byd arall; ac fel hyn y parheais hyd onid oeddwn yn naw mlwydd ar hugain oed; a rhyfedd rhyfedd na buaswn wedi fy nhori i lawr yn fy annuwioldeb!" Dyna y ddau wr a ddeffrowyd o'u cysgadrwydd ysbrydol gyda'r rhai cyntaf yn y cyfnod hwn, yn yr holl wlad rhwng afon Abermaw ac afon Dyfi. Daeth y ddau yn bregethwyr gyda'r Methodistiaid, a buont fyw yn hir. Eu tystiolaeth hwy, yn ddiau, yw y bwysicaf am agwedd y wlad yn moreuddydd eu hoes, ac am yr hyn a wnaeth yr Arglwydd yn ystod eu bywyd. Ac mae yn bur sicr, hefyd, fod eu hanes hwy eu hunain yn hanes y wlad o amgylch yn gyffredinol y pryd hwnw.
Ychydig iawn o hanes y cymydogaethau hyn yn bellach na chan mlynedd yn ol, sydd ar gael yn un man. Ychydig o ddim hanes sydd yn argraffedig yn flaenorol i'r Diwygiad Methodistaidd, hyny ydyw, y diwygiad Methodistaidd yn yr ardaloedd yma, yr hyn oedd fwy na deugain mlynedd yn ddiweddarach na dechreuad Methodistiaeth yn Nghymru. Mae y defnyddiau felly, o angenrheidrwydd, yn brinion. Nid oes, gan hyny, ddim i'w wneyd, er mwyn cael rhyw syniad am gyflwr y trigolion cyn i grefydd wneuthur ei hôl arnynt, ond ceisio casglu ychydig hanesion a ffeithiau sydd yn wasgaredig yma a thraw ar lafar gwlad. Pe buasid yn amcanu ysgrifenu hanes rhyfeloedd, a gwleidyddiaeth, a beirdd yr amser gynt, yn y rhan yma o'r wlad, ni fuasai y defnyddiau o gwbl yn brinion. Ond gan mai rhoddi hanes crefydd ydyw yr amcan, mae y gwaith yn gyffelyb i wneuthur priddfeini heb ddim gwellt.
Ond er mai ychydig sydd wedi ei ysgrifenu yn un man am ffordd y trigolion o fyw, a'u cyflwr yn gymdeithasol a moesol, yn y Dosbarth Rhwng y Ddwy Afon, y mae cryn dipyn o hanes y rhanau eraill o'r sir a'r siroedd cylchynol ar gael. Rhydd hyny ryw gymaint o wybodaeth i ni pa fodd yr oedd yma, oblegid yr hyn oedd cyflwr un ran o Gymru, yr un peth, fel rheol, oedd cyflwr pob rhan o honi. Nid oedd y cyfleusderau. i dramwyo o'r naill fan i'r llall ond anhwylus ac anniben o'u cymharu â'r hyn ydynt yn awr; ond hynod mor gyflym yr ymledai arferion drwg a llygredig. Alaethus a thrwm ydyw yr hanes sydd wedi cael ei roddi lawer gwaith am yr hyn oedd yn cael ei wneyd yn Nghymru yn nyddiau ein tadau. Feallai mai y darluniad mwyaf cyffrous a disgrifiadol ydyw yr hyn sydd i'w gael yn yr ymddiddan rhwng Mr. Charles a'r hybarch John Evans, o'r Bala. Yr oedd John Evans wedi dyfod i fyw i'r Bala yn 1742, ac felly medrai roddi hanes yr hyn a welsai â'i lygaid ei hun. Mae ei dystiolaeth ef am gyflwr y wlad yn y cyfnod uniongyrchol o flaen y flwyddyn 1785 yn bwysig. Fel hyn yr adrodda :"Ie, yr oedd tywyllwch mawr yn y wlad. Beiblau oeddynt yn dra anaml; ychydig iawn o'r bobl gyffredin a fedrent air ar lyfr; ac arferion y wlad oeddynt yn dra llygredig ac anfoesol. Yr oedd bonedd a gwreng, gwyr llen a gwyr lleyg, yn gyffelyb i'w gilydd; y rhan fwyaf yn byw yn anghymedrol, yn ddibarch i orchymynion sanctaidd Duw, ac yn dra esgeulus o'r addoliad. Glythineb, meddwdod, ac anlladrwydd oeddynt fel ffrydiau llifeiriol wedi gorchuddio'r wlad. Ac nid oedd yr athrawiaeth a'r addysgiadau yn y llanau, yn gyffredin, ond yn dywyll a dirym iawn i wrthsefyll a diwygio oddiwrth y pechodau gwaeddfawr hyn. Nid oedd ynddynt nemawr o son am drueni gwreiddiol dyn, am ffydd yn Nghrist er cyfiawnhad pechadur, ac adnewyddiad gan yr Ysbryd Glân." Dywedai John Evans fod pob rhan o'r wlad yn debyg yr amser hwn, ac adroddodd yr hanes am ddechreuad crefydd yn y Bala, Dolgellau, a'r Abermaw, ond dyma y lleoedd agosaf i Ddosbarth y Ddwy Afon y cyrhaedda ei adroddiad. Dosberthir profion o wirionedd hanesiaeth, yn gyffredin, i ddwy ran,—profion allanol a phrofion tufewnol. Y profion allanol ydynt, y pethau a geir y tuallan i faes yr hanesiaeth, yr hyn a ddywed eraill am dano, hanesiaeth gyffelyb mewn manau eraill yn yr un cyfnod, tystiolaeth dynion oeddynt yn byw yn yr un amser, megis y dystiolaeth uchod gan yr hybarch John Evans, o'r Bala. Y profion tumewnol ydynt y pethau a geir yn yr hanes ei hun, enwau personau a lleoedd, a digwyddiadau, y rhai a arhosant yn barhaus yn dystiolaeth fod y peth a'r peth wedi digwydd yn y lle a'r lle, yr amser a'r amser. A rhwng profion allanol a phrofion tufewnol, denir yn lled gyffredin o hyd i'r gwirionedd. Pe buasai llawer llanerch o'r gongl hon o'r greadigaeth, ar gwr de-orllewinol Sir Feirionydd, yn meddu tafod i lefaru, llawer o bethau rhyfedd a fuasai ganddynt i'w traethu am yr hyn a gymerasant le ymhlith y trigolion gan mlynedd yn ol. Yn wir, y mae tafodau amryw i'w cael yn yr enwau sydd ar leoedd yma ac acw, wedi cael eu bodolaeth oddiwrth hen arferion yr oes o'r blaen. Y mae llawer o enwau hyd heddyw yn Nghymru yn profi fod yr hen Rufeiniaid wedi bod yma yn byw. Y mae enwau hefyd i'w cael yn profi fod rhyfeloedd blinion wedi bod yn ngwahanol ranau y wlad. Gellir casglu llawer o wybodaeth oddiwrth yr amrywiol enwau hyn sydd ar leoedd. A deuir o hyd i wybod, fel hyn, ymha gyfnod y cymerodd y prif ddigwyddiadau yn hanes y wlad le; a pha rai oeddynt flynyddoedd yr anwybodaeth a'r caethiwed. Dyma y profion tumewnol sydd yn cadarnhau gwirionedd ffeithiau a digwyddiadau. Tra nad yw dynion i'w cael yn meddu lleferydd byw, i adrodd hanes eu hoes, mae y pethau a wnaethant—fel graian mân y nentydd yn dangos lle unwaith y bu y llifeiriant yn meddu tafodau byw, y rhai sydd, wedi iddynt hwy feirw, yn llefaru eto. I brofi hyn, cawn nodi rhai lleoedd fel esiamplau. Yn Nghwm y Dyffryn Gwyn, neu Cwm Maethlon, y mae gweirglodd wastad sydd yn cael ei galw hyd heddyw "gweirglodd chwareu." Saif mewn dyffryn bychan, prydferth, tawel, neillduedig, y tu cefn i Aberdyfi, o fewn tair milldir i Dowyn, a phum' milldir i Bennal. Yn y weirglodd hon y cyfarfyddai trigolion yr ardaloedd a'r pentrefi cylchynol ar y Sabbath i chwareu y bêl droed, ymladd ceiliogod, a chwareuon cyffelyb. Yma hefyd yr ymgasglai amaethwyr yr ardaloedd, ac ar ol gorphen y chwaren, edrychent i wahanol achosion y plwyf. Byddai y cyngor hwn, i raddau, yn gwneyd i fyny waith yr overseers presenol. Os byddai rhywrai heb dalu y dreth, neu os digwyddai ymrafaelion yn rhyw ranau o'r plwyf, y ffordd arferol fyddai cyhoeddi fod cockin i gael ei gynal yn y "werglodd chwareu" ar y Sabbath ar Sabbath, benderfynu y pethau hyn, yn gystal âg er mwyn difyrwch y chwareu. A phwy bynag a anufuddhai, penodai y cyngor ryw bersonau i roddi curfa dda iddynt.
Yr un arferiad a ffynai yn rhanau uchaf y wlad, yn mhlwyf Talyllyn, fel y dangosir yn yr hanesyn a adroddai yr hen flaenor Rowland Evans, Aberllyfeni, o berthynas i neges y bugail yn myned i eglwys y plwyf ar y Sabbath. Clywsai Rowland Evans a'i glustiau ei hun yr hanes yn cael ei adrodd gan yr hen bobl. Fel hyn yr adroddir ef yn Hanes Methodistiaeth Corris—"Wrth efail y gôf yn Nghorris, un tro, gofynai bugail Aberllyfeni i gyfaill, A ydych chwi yn myned i'r llan y Sul nesaf? Na,' meddai yntau, 'dydw i ddim yn gwybod am ddim neillduol yn galw y Sul nesa'.' Byddai yn dda iawn gen i, meddai y bugail, wybod am rywun yn myn'd, oblegid mae yn Tyrau Hirion lwdwn yn perthyn i Rywogo, ac y mae arna i ofn garw iddo fyn'd oddiyno cyn iddyn nhw glywed am dano fo.' 'O, wel,' meddai ei gyfaill defosiynol a charedig, 'Os oes rhyw achos fel yna yn galw, mi äi yno, a chroeso.' Ac nid ymddengys y teimlai neb fod neges o'r fath mewn un modd yn anghyson âg amcan y gwasanaeth, nac a sancteiddrwydd y dydd, canys yr oedd yn arferiad cyson i gyhoeddi arwerthiadau, ac i wneuthur hysbysiadau amaethyddol yn hysbys ar y fynwent ar ol y gwasanaeth, cyn i'r gynulleidfa ymwasgaru. Dywedir mai Richard Anthony, yr hwn a wasanaethai ar y pryd fel clochydd yr eglwys, a roddodd derfyn bythol ar yr arferiad" Nid yn unig yr oedd y pethau hyn yn cael eu gwneuthur ar y fynwent ar y Sabbothau trwy oddefiad, ond gwnelid hwy trwy orchymyn, a byddai offeiriad y plwyf yn cymeryd y rhan fwyaf blaenllaw ynddynt, ac yr oedd yntau drachefn yn eu gwneuthur trwy orchymyn cyfraith y wlad yr amseroedd hyny.
Yn nghwr uchaf ardal Corris, y mae lle a elwir "Pencareg- Celwydd." I'r lle hwn yr ymgasglai plant ac ieuenctyd i fyned trwy eu chwareuon a'u campau ar y Sabbothau. Elai eu rhieni gyda hwy i edrych arnynt yn myned trwy eu gwahanol gampau. Ymdyrent ac eisteddent ar y glaswellt, ar hir-ddydd heulog haf—y plant i chwareu a'u rhieni i'w cefnogi. Mawr fyddai y taeru a'r dadleu plant pwy fyddai yn enill yn y chwareuon. Gwaeddai rhai, hwi gyda'r plant yma, gwaeddai eraill, hwi gyda'r plant eraill. Hwi, a hai, a dal ati hi, ebe pob un gyda'i blentyn ei hun. Y goreu daero fyddai hi wedyn, a'r chwareu yn y diwedd yn troi yn chwerw. Y rhai hyn yn taeru mai eu plant hwy a enillodd; y rhai acw yn taeru mai eu plant hwythau a enillodd. Byddai felly, mewn canlyniad, lawer o gelwyddau yn ystod un dydd, heb son am lawer o ddyddiau. Oddiwrth yr arferiad hwn o ddweyd celwyddau, yn ddiameu, y cafodd lle yr enw sydd arno hyd heddyw—"Pencareg-Celwydd." Mawnog Ystradgwyn oedd le enwog am chwareuon a chwerylon ar ddydd yr Arglwydd. Wrth fyned heibio yr ardal hon, sydd wrth droed y Gader, y gofynai Mr. Charles, o'r Bala, i'w gydymaith Dafydd Humphrey, o Gorris, "A oes yma geiliog yn canu yn y fan yma, Dafydd?" Wrth geiliog yn canu y golygai Mr. Charles yr Ysgol Sul. Yn ol atebiad Dafydd Humphrey, nid oedd yno yr un y pryd hwnw wedi ei sefydlu. Oddeutu y flwyddyn 1806, yn ol pob hanes, y dechreuwyd cadw Ysgol Sul yn Ystradgwyn. Y cynulliad lliosog ar y Sul yno cyn hyn oedd, bechgyn Corris a bechgyn Ystradgwyn, yn llafnau mawr, yn myned trwy eu campau ar y Fawnog. Nid chwareu plant fyddai ar Fawnog Ystradgwyn, ond pobl gryfion yn ymlafnio ac yn ymryson a'u gilydd i gyflawni gwrhydri, trwy nerth braich ac ysgwydd. Rhoddid prawf hefyd ar nerth traed a choesau, oblegid rhan bwysig o chwareuon y lle oedd ymryson rhedeg round o gwmpas llyn Talyllyn. Byddai rhedegfeydd o amgylch y llyn ar y Suliau y blynyddoedd hyn mewn bri mawr, fel rhedegfeydd y Groegiaid yn ngwlad Groeg. Sŵn ymrysonau o'r fath hyn a glywodd creigiau Cader Idris, hyd nes y daeth yr Ysgol Sul a phregethu y gair i'w hymlid ymaith.
Yn mis Medi, 1784, yn mhentref Bryncrug, yn mhlwyf Towyn, y ganwyd Owen William, yr hen bregethwr, yr hwn a adnabyddid yn gyffredin wrth yr enw Owen William, Towyn. Ysgrifenodd ef ychydig o hanes ei fywyd ei hun. A chan ei fod yn dechreu ei oes ar derfyn dyfodiad crefydd i'r wlad, ac yntau yn wr craffus a chofus, mae yr hyn a ysgrifenodd yn taflu rhyw gymaint o oleuni ar gyflwr y wlad. Ei dystiolaeth ef am yr ardal hon, yn moreuddydd ei fywyd, ydyw yr hyn a ganlyn,—"Yr oedd ardal Bryncrug yn llawn iawn o annuwioldeb a llygredigaethau—ymladd ceiliogod, chwareu cardiau, y delyn a'r ddawns, pitchio, coctio, a chwareu y bêl; a'r Sabbothau fyddent y prif ddyddiau i gario y rhan fwyaf o'r pethau hyn ymlaen. Byddai yr holl ardal yn ymgasglu ar y Sabbothau i'r pentref i chwareu eu campau, a'r hen bobl, na allent chwareu eu hunain, yn dyfod yno i ymddifyru wrth edrych ar eraill, ac yn gwaeddi 'hai' gyda'r naill, a 'hwi' gyda'r llall. A mynych iawn y gwaeddent, 'Hai Owen,' ac 'Mi wrantaf fi Owen.' Fy mhrif bechod yn fy ieuenctid ydoedd dibrisdod o'r Sabbath. Nid oeddwn yn teimlo dim o awdurdod Duw yn y pedwerydd gorchymyn, ac yr oedd hyny yn achlysur o lawer o bechodau eraill." Eto, dywed am y nosweithiau llawen,— "Ni ddysgais fawr o lun ar ddawnsio erioed, ond byddwn yn hoff iawn o fod gyda'r bobl ieuainc fyddent yn difyru eu hunain. a'u gilydd gyda'r delyn, a'r ddawns, a chanu maswedd. Y noson ddiweddaf y bum gyda'r gynghanedd a'r ddawns yn ysgubor Bach-yr-henllysg (yn ardal Bryncrug), cefais ddifyrwch mwy nag arfer. Dywedais wrth un o'r bechgyn oedd yno wrth ddyfod adref yn y bore, y gwnawn i noswaith lawen yn fuan wedi hyny. 'Gwna di,' ebe yntau, 'os wyt ti yn dewis, ond ni wnaf fi yr un byth ond hyny, i dynu euogrwydd ar fy nghydwybod wrth wahodd pobl iddi ar ddydd Sul.' Cyn i mi gael un noswaith lawen ar ol hono, cefais lawer o nosweithiau, ac wythnosau, a misoedd, o dristwch a thrallod mawr. Gwelais fy mod wedi dinystrio fy hun am byth, a'm bod yn ddyn colledig, a'r truenusaf o bawb yn y byd; ac ofnais yn fawr na welwn na noswaith, na diwrnod, nac un amser llawen byth mwy." Ar ol hyn â ymlaen i roddi darluniad o'i argyhoeddiad. Dywed hefyd mai y cof cyntaf oedd ganddo am dano ei hun ydoedd, cofio ei fod yn dyfod adref gyda'i dad a'i fam ar ddydd Sabbath o dŷ ei nain, ar ol bod yn Ngwylmabsant Llanegryn, pan oedd rhwng tair a phedair mlwydd oed. Yr oedd hyn felly oddeutu y flwyddyn 1788.
Un o'r gwyliau neillduol y byddai llawer o gyrchu iddi yn yr ardaloedd hyn yr adeg yma oedd yr Wyl-mab-sant. Y Sabbath oedd y dydd y cynhelid yr wyl, ac ar hyd y dydd byddai gloddesta, a meddwi, a phob rhysedd yn cymeryd lle; a pharhai y gymdeithas lawen hyd drymder y nos, ac yn fynych hyd oleuni dydd dranoeth. Adroddir am dro digrifol a ddigwyddodd i ddau amaethwr cyfrifol, yn ardal Llaenrchgoediog, wrth ddyfod adref o Wylmabsant Llanfihangel-y-Pennant. Y llan hwnw oedd yr agosaf i'w cartref, ac yr oedd y ddau amaethwr, sef Harry Sion, Nanymynach, a William Sion, Tyddynyberllan, wedi cytuno i fyned yno gyda'u gilydd, ac aros y naill am y Hall. Ond pallodd amynedd William Sion, cychwynodd er's hir amser cyn i'w gymydog, Harry Sion, ddyfod heibio ei dŷ. Pan welodd y diweddaf hyn aeth i ystabl ei gymydog, W. Sion, cyfrwyodd ei farch, ac ymaith ag ef yn farchogwr tua'r wyl i'r llan, ond ni oddiweddodd ei gyfaill er hyny. Cychwynent gyda'u gilydd tuag adref, gefn trymder y nos. "Mae genyf fi geffyl," ebe Harry Sion. "A wnaiff o gario ei ddwbwl?" gofynai y llall. "Gwnaiff" oedd yr ateb. Felly aethant tuag adref, y cymydog yn farchogwr, a'r perchenog wrth ei sgil. Wedi cyraedd Tyddynyberllan disgynodd y perchenog, heb wybod dim hyd yn hyn mai ar ei geffyl ei hun yr oedd wedi dyfod, a disgynodd ei gymydog hefyd, a dywedai, "Cymer ofal o dy geffyl." "Yr andros o honot ti," ebe W. Sion," wrth dy sgil di ar gefn fy ngheffyl fy hun!" Y pryd hyny y gwybu mai ei anifail ef ei hun oedd yr anifail. Digon tebyg fod y ddau o dan ddylanwad y gloddesta oedd wedi bod yn yr wyl. Yn fuan wedi hyn daeth Harry Sion at grefydd, a dewiswyd ef yn flaenor yn Bryncrug, a daeth yn un o'r dynion goreu yn y rhan yna o'r wlad. Ceir coffâd am dano eto yn mhellach ymlaen.
Yn hanes tröedigaeth Lewis Morris, Coedygweddill, Llwyngwril, yr ydym yn cael fod Gwylmabsant Machynlleth yn un o'r rhai penaf yn y wlad, ac yr oedd yn arfer cael ei chynal yn flynyddol, yn mis Awst, rhwng y ddau gynhauaf. Yr oedd hefyd redegfa ceffylau enwog wedi ei chysylltu â'r wyl hon, er mwyn bod yn fwy o gyrchfa pobl, ac i fod yn brif ddigwyddiad y flwyddyn. "Yn mhen blwyddyn wedi hyn," adroddai Lewis Morris, yn hanes ei fywyd ganddo ef ei hun, "sef yn mis Awst, 1789, aethum i Fachynlleth, i'r Wylmabsant a'r rhedegfa ceffylau a gynhelid yno yn flynyddol; a dyma y pryd y cyfarfum â thro digyffelyb, ie, tro a gofiaf byth." Cyfeirio y mae y "tro digyffelyb" at ei dröedigaeth. Yr oedd yn dyfod i lawr heol y Maengwyn, pryd y clywai sŵn canu gwresog. Diweddu odfa yr oeddynt mewn tŷ yn y fan hono, a Dafydd Morris oedd y pregethwr. Aeth saeth lem i galon. Lewis Morris wrth glywed y canu, yr hyn a fu yn ddechreuad ei dröedigaeth. Yr ydym yn gweled fod gwylmabsantau yn bethau cyffredin yr adeg yma, a byddai hen ac ienainc yn eu mynychu. Yr oedd amaethwyr penaf Llanerchgoediog yn myned iddynt; yr oedd rhieni Owen Williams yn myned iddynt, a'u plant gyda hwy. Ac ni feddai rhieni well esiampl i'w roddi i'w plant na'r hyn oedd yn peri y difyrwch penaf iddynt hwy eu hunain.
Hen arferiad fu yn flodeuog a phoblogaidd yn yr hen amser oedd rhedegfeydd ceffylau. Cynhelid y cyfryw redegfeydd bob blwyddyn ar wastadedd, a elwir Morfa Towyn. Byddai llawer o gyrchu iddynt, llawer o greulondeb yn cael ei arfer at geffylau druain, a llawer o annuwioldeb ymhlith y cynulliad a ymgynullai ynghyd ar y cyfryw amseroedd. Parhaodd yr arferiad flynyddol hon i oroesi llawer o arferion creulon a thywyll yr oes o'r blaen. Y mae llawer yn fyw yn y wlad yn awr yn cofio yn dda y rhedegfeydd ceffylau ar Forfa Towyn, ac ar wastadedd Aberdyfi. Cymerodd digwyddiad le yn un o'r rhedegfeydd hyn, sydd yn werth ei gadw mewn coffadwriaeth, sef tröedigaeth hynod John Vaughan, Ysw., Tonfanau, neu Tryfana, wedi hyny o Cefncamberth. Yr oedd ef yn uchelwr, yn un o'r rhai mwyaf ei barch yn yr ardaloedd, yn ŵr o gyngor, ac yn fedrus i drin y byd ac i enill cyfoeth. Yr oedd yn gampus am redeg ceffyl mewn rhedegfa, ac yn hoff iawn o hyny. Ni byddai yr un flwyddyn yn myned heibio heb fod ganddo geffyl yn rhedeg. Nid yw hyn yn rhyfedd, oblegid y mae Tonfanau, y lle yr oedd yn byw, yn un o'r manau agosaf at y rhedfa, yr ochr arall i'r Afon Dysyni i Forfa Towyn, ar lan yr afon. Fel hyn y dywed Methodistiaeth Cymru am y tro: "Pan oedd ar ganol y rhedfa, efe a glywai y ceffyl oedd tano yn gruddfan yn dost, ac yn ddisymwth daeth y geiriau hyn i'w feddwl:—
Bydd gruddfanau rhai'n ryw ddiwrnod,
O'th flaen i'th boeni yn benaf penod.""
Ond y gwir ydyw, yr oedd ef wedi clywed y geiriau hyn yn cael eu hadrodd wrtho y diwrnod cynt, gan fachgen ieuanc oedd yn byw yn y Castell fawr, yr hwn a adnabyddid wedi hyny fel William Dafydd, Llechlwyd. Nid ydyw y geiriau, ychwaith, yn hollol gywir yn Methodistiaeth Cymru. Yr oedd Mr. Vaughan yn y Castell y diwrnod cynt yn prynu gwartheg, ac yn dweyd wrth y bachgen na allai ddyfod i'w ceisio dranoeth, ei fod yn myned i'r races. "Ydych chwi yn mynd i'r races?" ebe y bachgen. "Ydwyf, be sy' genyt ti yn erbyn, Will?" Ydych chwi ddim yn cofio," ebe yntau, "be ddeudodd y bardd,—
"Gwae a yro'r nifail gwirion
I ferwi o chwys heb fawr achosion,
Bydd gruddfanau rhai'n ryw ddiwrnod
Yn dyst i'w poeni'n dosta penod."
Modd bynag, mae yn sicr i'r geiriau hyn ddyfod i feddwl y gwr ar ganol y rhedfa, ac fe ddywedir iddo ymatal rhag curo yr anifail, a gadawodd iddo fyned i'r pen mor araf ag y mynai. Gadawodd yntau yr arferiad o redeg ceffylau am byth, a daeth yn fuan yn grefyddwr da, ac yn un o'r rhai goreu fel rhedegwr am goron y bywyd. Cymerodd yr amgylchiad hwn le yn bur agos yr un amser ag yr argyhoeddwyd Lewis Morris yn Ngwylmabsant Machynlleth, o gylch y flwyddyn 1789.
"Yn nhymor fy ieuenctid," ebe gwr oedd wedi ei eni oddeutu 1780, yn y parthau o Sir Feirionydd (o Harlech i Aberdyfi), "lle yr oeddwn yn byw, yr oedd gwylmabsantau a nosweithiau llawen yn fawr iawn eu rhwysg. Yn y cyfarfodydd hyn, yr oedd dawnsiau, canu gyda'r tànau, y cardiau, a meddwi yn ffynu; a dibenai y cwbl yn gyffredin mewn ymrysonau ac ymladdau." Am yr un cyfnod yr ysgrifena John Davies, Nantglyn, yn y geiriau canlynol: "Interludiau oedd yn fawr eu cymeradwyad y pryd hwn; byddai llawer o bobl yn myned ymhell o ffordd i weled a chlywed y rhai hyn, a byddid yn eu cyhoeddi ar ol y gwasanaeth gan y clochydd yn y llan; a chyhoeddid y campau yr un fath! Byddai y bobl ieuainc yn cyflogi fiddler i ganu ynddynt am y tymor, ac yn rhoddi iddo lawer o arian am ei wasanaeth. Cyfarfyddent yn y nos i ddweyd rhyw storiau a chwedlau celwyddog, ynghyd â hanes eu cymydogion yn agos ac ymhell. Sonid llawer am ymddangosiad ysbrydion, a thylwythau teg, a chredid pob math ar goelion, swynion, a dewiniaeth." Byddai y nosweithiau llawen yn cael eu cyhoeddi ymlaen llaw, a byddent yn myned ar gylch trwy y gymydogaeth, yn debyg fel y mae y peiriant dyrnu yn y blynyddoedd hyn, yn symud o ffarm i ffarm, ond fod y naill beiriant yn dyrnu yr yd, a'r peiriant arall yn dyrnu eneidiau dynion. Y lle yr oedd y nosweithiau llawen yn y cymydogaethau hyn yn fawr eu bri ydoedd ardal Bryncrug Yr oedd un o'r tai ar dop y graig, yn agos i'r lle y saif y Board School yn awr, yn dy tafarn. Cedwid nosweithiau llawen yn y dafarn hon yn fynych, a chyflogid fiddler i wneuthur y gwyddfodolwyr yn fwyaf llawen ag y gellid. Adroddir am dro rhyfedd ar un o'r nosweithiau hyn. Rywbryd yn y nos, aeth y fiddler allan, ac yn ebrwydd wedi iddo fyned allan, clywai y bobl oddimewn ryw leisiau anhyfryd iawn; aethant allan bob un. Erbyn hyn, yr oedd wedi ei godi uwch eu penau, ac yn ysgrechian fel mochyn, ac yn fuan, clywent rywbeth yn disgyn yn glwt ar y llawr. Rhedasant i'r fan, a dyna lle yr oedd mewn llesmair ar domen o ludw, ac yr oedd yn drugaredd mai ar domen o ludw y disgyn- odd, ac nid ar y graig. Yr oedd yno rywbeth neu rywun wedi bod yno yn ei godi i fyny i'r uchelder, ac am enyd, yn ei sgytian fel babi. Bu yr amgylchiad yn atalfa am dymor ar y nosweithiau llawen. Credid yr hanes hwn yn ddiamheuol, oblegid ewythr i Griffith Pugh, Berthlwyd, brawd ei dad, oedd y fiddler.
Am ysbrydion, a straeon, a chwedlau am y tylwyth teg, &c., ni ddeuid i ben a'u hadrodd. "Credid pob math ar goelion, swynion, a dewiniaeth." Nid oedd hyn yn beth i synu ato lle nad oedd goleuni yr efengyl ond prin wedi gwawrio. Yr oedd traddodiad yn ardal Pennal, fod crochan a'i lonaid o arian yn guddiedig yn rhywle ar dyddyn Cefncaer, a mawr fyddai yr awydd am dd'od o hyd iddo. Bu amaethwr cyfrifol o'r gymydogaeth mor ffol a rhoddi y swm o 20p. i ddywedwyr tesni am ddweyd ymha le yr ydoedd. Yr oedd hefyd yn byw yn ardal Pennal ŵr yn arfer dewiniaeth, "cunger" (conjurer) proffesedig, yr hwn oedd yn meddu dylanwad mawr ar ddosbarth liosog o bobl trwy yr holl wlad. Honai ei hun yn feddyg, ac yr oedd oblegid hyny yn gallu tynu mwy o bobl ato. Gelwid ef Dr. Pugh, ond nid oedd mewn gwirionedd yn ddim ond quack doctor. Adnabyddid ef ymhob man trwy y cylchoedd o amgylch fel cunger llwyddianus, a byddai cyrchu mawr ato am feddyginiaeth i'r corff a gwellhad i'r meddwl, ac ato ef yr elid am gyfarwyddyd os byddai unrhyw anhwyldeb ar anifeiliaid neu anhap wedi digwydd i eiddo a meddianau. Rhoddai yntau iddynt ryw bapyryn a llythyrenau arno fel moddion anffaeledig rhag pob anhwyldeb, a chlwy, ac anhap. Byddai ganddo nifer o bobl loerig ac anmhwyllus yn eu cadw o dan ei ofal, rhai yn ei dŷ ei hun, a rhai yn nhai cymydogion, a dygid y rhai hyn ato o bellder ffordd. Adroddir am un o'r enw M——D——, oedd yn byw yn C——fn——rh——s, yn myned a'i fam ato, yr hon oedd yn ngafael rhyw afiechyd nad oedd yn gwella o hono, a dywedai wrth fyn'd a hi at Dr. Pugh, "Dydyw yr ysbryd drwg yn gwybod dim am dani, a chymer Duw mohoni, ac yr wyf yn myn'd a hi at Dr. Pugh, i Bennal, i edrych a all ef wneyd rhywbeth o honi." Yr oedd y Dr. Pagh hwn yn elyniaethus iawn i grefydd ac yn erlidiwr penaf yn yr holl wlad. Yr oedd yn haner brawd i William Hugh, Llechwedd, yr hen bregethwr cyntaf gan y Methodistiaid rhwng y Ddwy Afon. Ar gyfrif y berthynas hon, ac oherwydd fod y wlad yn dyfod a dynion lloerig ato i'w gwella, byddai yn arfer dweyd, "fagodd yr un fam erioed ddau frawd yr un fath a Will a minau—un yn gyru dynion o'u coëau, a'r llall yn dyfod a hwy i'w coëau." Cael eu twyllo y byddai y bobl druain a ddeuent at y quack doctor. "O ble mae'r bobl yn d'od yma," gofynai Hugh Rolant, y tailiwr, iddo un tro; "wedi eu witchio y maent?" "Huwcyn bach," ebe yntau, "nid oes dim o'r fath beth a witchio mewn bod." "I beth ynte yr ydych yn eu twyllo?" "Y nhw sydd yn dyfod ataf fi, y ffyliaid, fe ânt at rywun arall os na roddaf fi beth iddynt." Cafodd Hugh Rolant wybod llawer am ddirgelion y grefft gan ei gâr a'i gymydog Dr. Pugh, fel y daeth i ffieiddio y grefft o eigion ei galon, a gresynai hyd ddiwedd ei oes fod neb mor ffol i'w gael ag i roddi crediniaeth mewn dywedyd tesni. Ond yr oedd y fath anwybodaeth dwfn a'r fath dywyllwch teimladwy ag oedd yn y wlad y pryd hwnw yn peri fod twyllwyr, a rhai yn cael eu twyllo yn aml iawn. Yr oedd crediniaeth mewn swynion a dewiniaeth mor gryf a chyffredinol gan' mlynedd yn ol, fel y mae olion y cyfryw bethau i'w gweled hyd y dydd hwn. Er nad oes, hyd y gwyddis, yr un cunger proffesedig yn byw yn awr yn y parth hwn o Sir Feirionydd, y mae eto yn yr "oes oleu hon," fel mae gwaetha'r modd, rai yn credu mewn dywedyd tesni, ac a ânt filldiroedd o ffordd i siroedd eraill i ymgynghori â'r gwr sydd yn cymeryd arno ei fod yn medru dewiniaeth. Mor hir o amser raid gael i yru hen arferiad ddrwg allan o'r wlad! Yn Methodistiaeth Cymru adroddir yr hanesyn canlynol a gymerodd le yn yr un cyfnod. "Un tro, yr oedd y person a'r clochydd yn myned i roddi y cymun i ffermwr oedd yn glaf. Daeth y clochydd i'r tŷ o flaen y person, a gofynodd yr hen wraig iddo, "Pa beth sydd genych chwi Tomos yn y cŵd gwyrdd yna?" "Beibl a Chommon Prayer" ebai yntau. "Rhoddwch wel'd y Beibl Tomos?" Dyma fo modryb" ebai Tomos. "Wel, moliant i'r gŵr goreu," ebai yr hen wraig, "ni bu yma yr un o'r blaen erioed yn ein tŷ ni, nac angen am dano erioed o'r blaen, moliant i Dduw am hyny."
Ymhlith arferion niweidiol a chreulon y wlad, yn niwedd y ganrif o'r blaen, ac ymhell ymlaen i'r ganrif hon, feallai mai y mwyaf cyffredinol ydoedd ymladd ceiliogod. Un o arferion barbaraidd gwlad heb ei gwareiddio ydoedd hon. Ymddengys ei bod wedi gwreiddio yn ddyfnach yn ein gwlad na'r un o'r ofer-gampau y clywsom y tadau yn son am danynt. Un rheswm am hyn oedd fod pob gradd, o'r boneddwr i lawr at y dyn tlawd, yn cymeryd rhan yn y chwareuon hyn. Ni byddai neb ond y boneddigion a ffermwyr clyd yn meddianu anifeiliaid i redeg yn y rhedegfeydd ceffylau, ond gallai y dyn tlawd fod yn berchen ceiliogod i'w dwyn i'r ymrysonfa. Dywed y rhai sydd wedi bod yn ysgrifenu hanes y wlad am y cyfnod hwn, mai yr adeg ar y flwyddyn y byddai ymladd ceiliogod yn cymeryd lle fyddai Iau Dyrchafael, Gwener y Groglith, a Llun y Pasg. Un sydd yn fyw yn awr, ac wedi gweled llawer o'r arferiad hwn, a ddywed, mai dydd Llun y Pasg oedd y diwrnod mawr yn yr ardaloedd hyn. Adrodda yn mhellach ei fod ef wedi bod ei hun mewn cockin ceiliogod yn Abergynolwyn, ac yn cario ceiliogod ar ei gefn yno i ymladd, pan yr oedd yn fachgen ieuanc. Yr oedd Abergynolwyn yn lle canolog, a byddai ardaloedd Llanegryn a Machynlleth yn cyd-gyfarfod yno i ymryson â'u gilydd, a dywed y gŵr y cyfeiriwyd ato uchod ei fod yn cofio gweled ochr y mynydd yn ddu o bobl yn cyrchu tuag yno o Fachynlleth ar ddydd Llun y Pasg. Nid oedd ardal o Lwyngwril i Gorris heb fod pit ceiliogod ynddi, ond ystyrid ambell i le yn fwy enwog na'i gilydd i gario ymlaen yr ymladdfeydd, megis Abergynolwyn, lle byddai ardal yn cyfarfod yn erbyn ardal, a phlwy yn erbyn plwy. Y gwanwyn oedd yr adeg fwyaf manteisiol o'r flwyddyn i'r gwaith hwn, oblegid dyma yr adeg y byddai y ceiliogod yn y cyflwr goreu i ymladd, yn hoew, yn gryfion, ac yn llawn nerth. Byddai ambell i wr mewn ardal yn flaenllaw iawn gyda'r ymladdfeydd, yn cael ei ystyried yn hero yr ardaloedd o gwmpas; darparai nifer mawr o adar pwrpasol, y rhai a adnabyddid wrth yr enw game cocks, a byddai un yn cael ei gadw iddo ymhob ffermdy yn barod erbyn y tymor ymladd, yn debyg fel y cadwai tenantiaid gwn hela i'w meistriaid tir. Yr oedd offeiriad mewn plwyf yn y sir yn magu ceiliogod i'r amcan hwn, y rhai a gedwid yn barod iddo gan amaethwyr ei blwyf. Yr oedd yn yr un plwyf wr duwiol perthynol i'r Methodistiaid; ar y Sabbath yr elai yr offeiriad i geisio ei geiliogod, gan eu cario dan ei gesail i fod yn barod erbyn boreu Llun, ac os digwyddai iddo gyfarfod y gŵr duwiol, troai yn ei ol gan ei arswyd. Gwisgid y ceiliogod âg arfau pwrpasol i ryfel cyn y gollyngid hwy i'r pit i ymladd; rhwymid yspardynau dur, mawrion, hirion, yn dynion am eu traed, a thynid ymaith y plyf oddiam eu gyddfau, er mwyn iddynt fod yn ysgafn i wynebu y frwydr; ac os digwyddai i'r aderyn daro ei wrthwynebydd yn deg â'r yspardynau llymion oedd am ei goesau, dyna ddiwedd ar yr ymladdfa ar unwaith, a pherchen yr aderyn wedi enill y game. Y mae gan Mr. David Rowlands, Pennal, bâr o'r arfau hyn yn ei feddiant, wedi eu cael ar ol ei hynafiaid, ac y maent yn cael eu cadw yn ofalus er cof am yr hen arferion poblogaidd yn yr amser gynt. Yr oedd yn un o ardaloedd y cylch hwn wr bonheddig dall yn byw, yn berchen un o'r etifeddiaethau mwyaf yn y wlad, yr hwn oedd yn bengampwr mewn ymladd ceiliogod. Er ei fod yn ddall, ymhyfrydai yn y gorchwyl hwn; ymgymysgai â'r bobl gyffredin, a heriai y plwyfydd a'r ardaloedd cyfagos i ymladd yn ei erbyn. Gwiria hyn y ffaith sydd yn hysbys am Gymru, sef, fod y boneddigion a'r werin yn ymgymysgu â'u gilydd gyda'r hen arferiad isel hwn. Gymaint oedd yr arferiad wedi gydio yn y wlad, fel yr oedd boneddig a gwreng, hen. ac ieuainc, penau teuluoedd a phlant, yn eu hafiaeth yn eu dilyn. Yn hanes bywyd Harri Jones, Nantymynach, dywedir fod ei fab hynaf, pan oedd yn 14eg oed, yn dilyn yr arferiad hwn bob cyfle y gallai, a'i fod yn cadw ceiliogod o bwrpas i ymladd yn yr oedran cynharol hwnw. Ceisiai ei dad ganddo ymhob rhyw ffordd i beidio; ond nid oedd dim byd yn tycio, hyd nes y darfu ei dad a'i fam, y rhai oeddynt ill dau yn bobl grefyddol iawn, roddi ei ddewisiad iddo, naill ai iddo ymadael â thy ei dad yn gwbl oll, neu ymadael â'r arferiad. lygredig. Pan y rhoddwyd y bachgen yn y fath gyfyngder, fe ddewisodd adael yr arferiad yn hytrach na gadael tŷ ei dad,. ac fe werthodd yr adar, a bu y tro yn foddion argyhoeddiad iddo.
Yr oedd yr arferion hyn wedi cael llonydd i wreiddio yn y wlad er cyn côf, a mwy na chael llonydd, yr oeddynt wedi cael. pob magwraeth oddiwrth uchelwyr, oddiwrth y Wladwriaeth, ac oddiwrth yr Eglwys Sefydledig. Dywed Ficar Pritchard,. Llanymddyfri, am ei amser ef, "fod yn anhawdd penderfynu. pa un ai yr offeiriad, y ffermwr, y labrwr, y crefftwr, y ceisbwl, y barnwr, neu y boneddwr oedd y mwyaf rhyfygus mewn annuwioldeb." Yn y flwyddyn 1633 y darfu Charles I., trwy ddylanwad yr esgobion, basio cyfraith fod yn rhaid darllen "Llyfr y Chwarenon" yn yr eglwysi ar y Sabbothau. Gwnaed. hyn gyda'r amcan o ddial ar y Puritaniaid, eu cael i ymadael a'r eglwysi, a'u gyru allan o'r wlad, er mwyn paganeiddio y wlad, a'i chadw mewn anwybodaeth, a thywyllwch ac ofergoel- edd. Ni allesid dyfeisio yr un ddyfais well i gyfateb i chwaeth y werin bobl. Ymddengys, yn ol pob hanes sydd ar gael, fod y gyfraith hon wedi dwyn ffrwyth yn y rhanau yma o Sir Feirionydd yn fwy na dim byd arall. Dilynodd ei heffeithiau ymlaen, gan ychwanegu yn ei dylanwad, am 150 o flynydd- oedd.
Yn 1623, deng mlynedd cyn pasio deddf "Llyfr y Chwareuon," talodd Dr. Lewis Baily, Esgob Bangor, ymweliad â phlwyfydd ei esgobaeth. Cyhoeddwyd hyny oedd ar gael o'i adroddiad yn yr Archaeologia Cambrensis, am Hydref, 1863. Crybwyllir am bedwar plwyf yn Sir Feirionydd, a dau o honynt o'r dosbarth hwn:—
LLANEGRYN. "Dim ond dwy bregeth a gafwyd yma."
PENAL. Anfynych y maent yn cael pregethau yma."
Cyffelyb ydoedd, yn ddiameu, yn y plwyfydd eraill. Tebyg i hyn y parhaodd pethau am y ganrif o flaen y Diwygiad Meth- odistaidd.
Dyma fras-ddarluniad o'r wlad cyn i grefydd ei gwneuthur y peth ydyw yn awr. Ac fe gofir nad yw yr hyn a ddywedwyd yn cynwys dim ond rhai o brif arferion y wlad. Yr oedd llawer iawn o ofergoeledd a Phabyddiaeth yn ffynu ynglyn â chladdu y marw. Ystyrid yn anmharch ar y trancedig os na renid diod boeth cyn cychwyn oddiwrth y tŷ, a myned i'r dafarn i yfed wedi gorphen claddu. Byddai tafarn a llan yn ymyl eu gilydd bob amser, ac yn ol geiriau un oedd yn byw yn y cyfnod hwn, "ar ol claddu y marw, byddai y peth a alwent yn siot, sef postio swllt y llaw i gael cwrw." A'r mwyaf ei siot fyddai y mwyaf ei barch. Prawf fod yr arferion hyn wedi gwreiddio yn ddwfn yn y wlad ydoedd, y bu raid cael amser mor faith i'w dadwreiddio. Parhaodd yr arferiad o ymladd ceiliogod hyd yn agos i driugain mlynedd yn ol, ac nid oedd rhanu diod boeth mewn claddedigaethau ond prin wedi darfod pan ddaeth dirwest i'r wlad, haner can mlynedd yn ol.
PENOD III
Y DEFFROAD CREFYDDOL YN YMLEDU.
CYNWYSIAD—Ffynonellau yr hanes am y cyfnod—Y Crynwyr a Vavasor Powell—Hugh Owen, Bronclydwr—Olynwyr Hugh Owen—Hanes Eglwysi Annibynol Cymru—Y deffroad yn hir yn dechreu—Y daith o Leyn i Langeitho—Y tân yn d'od gyntaf i Lanfihangel—Y pregethu cyntaf yn Abergynolwyn—Dechreuad yr achos yn Nghorris—Yr achos yn dechreu yn Llwyngwril a'r Bwlch yn amser Lewis Morris—Y drysau yn agor i'r Efengyl yn Towyn a Bryncrug—Maes-y-Afallen—Ymneillduaeth yn Mhlwyf Towyn—Crybwyllion gan J. Jones, Penyparc—Y rhwystrau ar y ffordd—Proffwydoliaeth Morgan Llwyd o Wynedd—William Hugh a Lewis Morris.
MAE y flwyddyn 1785 yn adeg fanteisiol i edrych ymlaen oddiwrthi i'r dyfodol. Y mae yn gyfnod arbenig yn hanes crefydd y rhan yma o Sir Feirionydd, yn gystal ag yn hanes crefydd Cymru oll. Yn y flwyddyn hon y dechreuodd yr Ysgol Sabbothol yn Nghymru. Yn yr un flwyddyn yr aeth Mr. Charles o'r Bala i Gymdeithasfa Llangeitho, ac y dywedodd yr hen Barchedig Daniel Rowlands am dano, "Rhodd yr Arglwydd i Wynedd ydyw Charles." Yn y flwyddyn hon, hefyd, dywed awdwr Methodistiaeth Cymru, "nad oedd yr un cynghorwr i'w gael o Rhoslan yn sir Gaernarfon hyd Machynlleth yn Sir Drefaldwyn." Nid oedd yr un pregethwr o gwbl o fewn i'r rhan a elwir yn awr Gorllewin Meirionydd, y flwyddyn hon, ond Edward Roberts, Trawsfynydd, yr hwn a elwid gan ei erlidwyr, "Hen Ficer y Crawcaill." Oddeutu yr amser hwn y dechreuwyd pregethu gyntaf gyda dim cysondeb yn yr ardaloedd rhwng y Ddwy Afon. Cyn y flwyddyn 1780, nid oes dim hanes fod neb o'r Methodistiaid wedi pregethu yr un bregeth i dynu sylw, ac i beri ei chofio. Dyma yr adeg y dechreuodd y deffroad crefyddol yn y parth hwn. Dyddorol iawn ydyw hanes y dechreuad, a'r modd y cariwyd yr achos ymlaen yn y gwahanol ardaloedd am y 30ain mlynedd cyntaf, hyd y flwyddyn 1810. Gwnaethpwyd pethau anhygoel trwy gyfrwng Rhagluniaeth a threfn gras yr efengyl, ac yr oedd llaw yr Arglwydd yn amlwg gyda'i bobl. Ond yr anhawsder, erbyn hyn, ydyw gwybod pa bryd y dechreuodd yr achos, a pha fodd y dechreuodd mewn llawer man. Pe buasai yr hanes wedi ei ysgrifenu driugain mlynedd yn ol, buasai yn ddigon hawdd dyfod o hyd i'r holl amgylchiadau ynglŷn â ffurfiad yr eglwysi. Ond, bellach, mae y tô o hen bobl oedd yn gweled yr oll a'u llygaid wedi eu symud oddiar y ddaear. Nis gellir gwneyd dim yn awr ond casglu defnyddiau goreu gellir oddiyma ac oddidraw. Nid yw yr hyn a ysgrifenwyd gan dystion gweledig ond ychydig. Adgofion Hen Bregethwr, a ysgrifenwyd gan Lewis Morris ychydig dros ddeugain mlynedd yn ol, ac a ymddangosodd yn y Traethodydd am Ionawr, 1847, ceir rhai ffeithiau lled gywir. Yn hanes bywyd Mr. W. Hugh, Llechwedd, rhoddir tipyn o oleuni pa fodd yr oedd pethau yn y dechreuad yn nghanolbarth y rhan yma o'r wlad. Ceir rhai ysgrifau, hefyd, yn yr hen Gyhoeddiadau Misol am ddechreuad yr achos yn Nghorris, a manau eraill. Tua deugain mlynedd yn ol, yr oedd y Parch. John Hughes, Liverpool, yn parotoi i ysgrifenu Methodistiaeth Cymru. Anfonwyd yr hanes iddo gan rywun neu rywrai—ni wyddis yn iawn pwy—o'r wlad yma, ac er fod yr hanes yn wasgaredig, y mae wedi ei gasglu gan yr awdwr parchedig yn y modd goreu, yn ol y wybodaeth oedd ganddo ef, ac y mae yr hyn a ysgrifenwyd yn y cyfrolau hyn yn hynod o werthfawr. Y mae yn deilwng o sylw, hefyd, nad oedd yn mwriad Mr. Hughes, nac yn ei gynllun ychwaith, i roddi hanes cyflawn am bob eglwys, ond yn unig roddi hanes dechreuad crefydd, a'r pethau mwyaf hynod yn y cyfnod hwnw yn ngwahanol siroedd Cymru.
Ychydig iawn oedd wedi ei wneuthur cyn y cyfnod crybwylledig i foesoli a chrefyddoli y rhan yma o'r wlad gan neb arall, mwy na'r Methodistiaid. Bu achos gan y Crynwyr mewn rhai manau yn foreuach na hyn. "Yr oedd nifer o Grynwyr, ac amryw Annibynwyr," meddai un awdwr, "oddeutu Dolgellau a godreu Cader Idris, a yrwyd i, ac a adawyd ar lan y môr dros y nos, yn rhywle o Abermaw i Aberdyfi." Rhoddir hanes dioddefiadau y bobl hyn gan Vavasor Powell, yr hwn oedd ei hun yn dioddef yn gyffelyb, yn y geiriau canlynol:—"Eraill yn Swydd Feirionydd, fel pe buasent anifeiliaid, a yrwyd i frad-byllau, neu i ffaldau, lle y cedwid hwy am oriau lawer, tra fyddai eu gelynion yn yfed mewn tafarndy, ac yn eu gorfodi i dalu am y gwirod, er nad oeddynt wedi eu profi eu hunain. Yna, dygid hwy i lan y môr, a gadewid hwynt yno dros y nos, mewn perygl i gael eu llyncu i fyny ganddo. Traddodwyd eraill i garchar, lle y cawsant eu cadw am fisoedd; cymerwyd eu hanifeiliaid, a'u defaid, yn rhifo dros chwe' chant, oddiwrthynt, ac fe'u gwerthwyd. Gorfodwyd eraill pan elwid hwynt i'r Sesiwn Chwarterol, i gerdded mewn cadwynau, yr hyn ni ddylesid yn gyfreithiol osod arnynt, oddigerth eu bod wedi cynyg dianc, neu dori allan o'r carchar. Eraill ag oeddynt wedi ymgynull ynghyd yn dawel, yn ol eu dull arferol am flynyddau lawer i addoli Duw, ac i adeiladu y naill a'r llall, a fwriwyd i garcharau heb unrhyw arholiad, yn groes i gyfreithiau y genedl hon, a chenhedloedd eraill" (Powell's Bird in the Cage). Cymerodd hyn le rhwng 1660 a 1662. Darfyddodd y Crynwyr o'r wlad cyn hir, ac nid oes dim o ôl eu harosiad, oddieithr yn Llwyngwril, ac mewn ardal o'r naill du i Ddolgellau.
Blwyddyn y mae digwyddiadau anfarwol yn gysylltiedig â hi ydoedd y flwyddyn 1662. Dyma y flwyddyn y pasiwyd Deddf Unffurfiaeth, ac y gadawodd dwy fil o weinidogion eu bywiolaethau er mwyn cydwybod. Ymhlith y llu anrhydeddus, yr oedd cant a chwech o weinidogion Cymreig. Nid oedd ond un gweinidog Anghydffurfiol yn Sir Feirionydd yr adeg yma, yr hwn, er nad oedd ei hun wedi cymeryd urddau, a ddewisoedd ymneillduo gyda'r ddwy fil o wroniaid. A gellir olrhain Ymneillduaeth y sir i'r flwyddyn hon. Yn agos i'r Rheilffordd, pan yr elir o Dowyn i Lwyngwril, yn union wedi croesi afon Dysyni, oddeutu haner y ffordd rhwng palasdy Cefncamberth â chapel y Bwlch, y mae ffermdy clyd yr olwg arno yn nghesail y bryn, yn wynebu tua'r môr, ac yn cael ei gysgodi gan wyntoedd oer y gogledd. Dyna Bronclydwr, lle genedigol Hugh Owen, yr hwn oedd yn nai, fab cyfyrder, i Dr. Owen, tywysog y duwinyddion, a'r hwn hefyd a elwir hyd heddyw gan yr Anghydffurfwyr yn "Apostol y Gogledd." Teilynga y lle hwn sylw am fod seren oleu wedi bod yn llewyrchu ynddo am ddeugain mlynedd, a hyny ddeugain mlynedd cyn i Seren y Diwygiad Methodistiaidd yn Nghymru gyfodi. Ni bydd hanes crefydd yn Sir Feirionydd yn gyflawn heb gynwys hanes Hugh Owen, Bronclydwr.
Ganwyd ef yn y flwyddyn 1637, ac felly yr oedd yn 25ain oed amser y chwyldroad mawr 1662. Yr oedd y pryd hwn ar orphen ei addysg yn Rhydychain, a chan nas gallai gydffurfio â'r deddfau caeth oedd Charles II. yn eu gosod ar bawb a gymerent urddau eglwysig, ymwrthododd â hwy cyn eu cymeryd, dychwelodd adref i'w sir enedigol, ac ymsefydlodd ar ei etifeddiaeth yn Bronclydwr. Sefydlodd eglwys yn ei dy ei hun, gan wahodd deiliaid plwyfydd Celynin, Llanegryn, a Towyn i ddyfod yn wrandawyr. Yr oedd ei gariad at ei gymydogion a'i gydwladwyr mor gryf fel y darfu iddo dreulio ac ymdreulio i'w rhybuddio, eu cynghori, a'u cyfarwyddo yn mhethau teyrnas nefoedd. Teithiai o amgylch, bellder o ffordd oddiwrth ei gartref, i bregethu efengyl y deyrnas. Un lle y byddai yn pregethu ynddo oedd Pantphylip, uwchlaw Arthog; lle arall oedd Dolgellau; lle arall oedd y Bala. Y mae tŷ yn Nolgellau, yr hwn a adnabyddir eto wrth yr enw "Tŷ Cyfarfod," lle y pregethai Hugh Owen ynddo. Yr oedd ganddo ddeuddeg, meddir, o eglwysi wedi eu sefydlu, chwech yn ei sir ei hun a chwech mewn siroedd eraill. Elai o amgylch i ymweled â'r rhai hyn ar gylch bob tri mis. Wedi dychwelyd adref cychwynai drachefn, ac yn ei waith apostolaidd, dioddefodd yn y modd hwn galedi mawr, a dangosodd ffyddlondeb tuhwnt i'r cyffredin.
Yr oedd yn ŵr duwiol, ac o ysbryd llonydd a heddychlon, a thrwy hyny cafodd lonydd i fesur mawr, oddiwrth erledigaeth yr amseroedd. Daeth Is-sirydd Meirionydd i'w dy un adeg, yn amser Charles II., a gwarant i'w ddal am bregethu yr efengyl. Cydsyniodd yntau yn rhwydd i fyned gyda'r swyddog, ond gofynodd am ganiatad i weddio unwaith gyda'i deulu cyn en gadael. Caniatawyd ei gais, ac erbyn iddo orphen ei weddi, yr oedd y swyddog mewn ofn; nid oedd ganddo wroldeb i fyned ag ef ymaith, a gadawodd ef yn wr rhydd. Adroddir hefyd iddo gael ei garcharu unwaith yn y Castell Coch, gan Arglwydd Powys. Enillodd gymeradwyaeth yno yn bur fuan. Gwrandawodd ceidwad y carchar ef yn gweddio, a'i dystiolaeth am dano oedd, "Diau Cristion da yw y dyn." Wrth ei ryddhau, mynodd Arglwydd Powys ganddo ddyfod yno bob Nadolig i edrych am dano.
Y mae yn rhaid fod cariad y gŵr hwn at y Gwaredwr yn fawr, a'i ymroddiad i'w wasanaethu yr esiampl oreu o ddyn yn byw er lles llaweroedd. Yn ol pob tebyg, gallasai fyw mewn tawelwch a hapusrwydd gyda'i deulu yn Bronclydwr. Yn lle hyny, aeth trwy galedi dirfawr, gan ei fod yn teithio nos a dydd, ar rew ac eira, gwlawogydd a stormydd mawrion, a'i lety yn dlawd, a'i ymborth yn wael. Byw y byddai ar laeth a bara, a chysgu ar wely o wellt. Adroddir y ddau hanesyn canlynol am dano, y rhai a ddangosant y modd yr elai trwy enbydrwydd mawr, ac fel y cyfryngai Rhagluniaeth yn rhyfedd ar ei ran: "Un tro, wrth ddychwelyd adref ar noswaith dywyll iawn, fe gollodd ei ffordd, ac a wybu ei fod mewn lle peryglus. Yn ei drallod mawr, fe ddisgynodd oddiar ei geffyl, ac a weddiodd ar yr Arglwydd. Erbyn darfod y weddi, yr oedd yr wybr yn oleu uwchben; gwelai yntau ei ffordd yn eglur, a diangodd o'i berygl. Dro arall, wrth fyned i bregethu yn nyfnder gauaf, y nos a'i goddiweddodd, ystorm ddisymwth a gododd, a'r eiria a luchiodd i'w wyneb, fel na allai yr anifail oedd dano fyned rhagddo. Yn y cyfwng hwn, gadawodd i'r ceffyl fyned y ffordd a fynai, hyd oni ddeallodd ei fod mewn perygl gan ffosydd a mawnogydd. Nid oedd ganddo bellach ond galw yn lew ar Dduw, yr hwn ni throisai ei weddiau draw mewn cyffelyb amgylchiadau. Disgynodd oddiar ei farch, a cherddodd mewn eira dwfn hyd ganol nos, nes oedd oerni a lludded wedi dwys effeithio arno, ac iddo anobeithio bron yn llwyr am ei fywyd. Ond yn y cyfwng yma, trefnodd Rhagluniaeth iddo gyraedd at feudy; ond ar ei gais yn ceisio myned i fewn iddo, cafodd fod y drws wedi ei fario o'i fewn. Bu am awr neu ychwaneg yn ymgripio yn lluddedig, ac ymron wedi fferu, o amgylch yr adeilad, heb allu cael un fynedfa i mewn. Ond o'r diwedd, wedi llawn ddiffygio, cafodd dwll yn nhalcen y beudy, a thrwy gryn orthrech, efe a ymwthiodd i mewn; ac yno y gorweddodd rhwng y gwartheg hyd doriad y dydd. Wedi ymlusgo allan, gwelai dŷ yn agos; ac aeth ato, a churodd wrth y drws. Erbyn i wr y ty gyfodi, ac agoryd iddo, efe a'i cafodd a'i wallt a'i farf wedi rhewi, ei ddwylaw yn ddideimlad gan fferdod, ei ddillad wedi sythu, ac yntau o'r braidd yn medru siarad. Gwnaed iddo dân da, rhoddwyd llaeth twymn iddo i'w yfed, a chafodd orwedd mewn gwely cynes. Mewn ychydig oriau, yr oedd wedi cwbl ddadebru, ac aeth y boregwaith hwnw i'r lle cyfarfod, a phregethodd fel arferol, heb deimlo nemawr niwaid." Nid yw yn hysbys ymha le y digwyddodd hyn—da iawn fuasai cael gwybodaeth am y lle—ond sicr ydyw iddo ef ei hun adrodd yr hanes wrth ei gydnabod; oblegid fe'i coffheir gan ei holl fywgraffwyr, ymhlith yr ychydig ffeithiau sydd ar gael o hanes ei fywyd. Ymddengys, hefyd, fod y gŵr da o Fronclydwr wrtho ei hunan yn llafurio gydag achos yr Arglwydd yn Sir Feirionydd am lawer o flynyddoedd. Yr oedd yn seren oleu eglur yn Siroedd Meirionydd, Trefaldwyn, a Chaernarfon, yn niwedd yr unfed ganrif ar bymtheg, Bu farw yn y flwyddyn 1699, yn 62 oed, ac y mae ei feddrod ef yn aros yn mynwent Llanegryn. Yr oedd hyn gan' mlynedd union cyn bod Lewis Williams, Llanfachreth, yn yr ardal hono yn dechreu Ysgol Sul, heb fedru y llythyrenau ei hun.
Ar ei ol daeth ei fab, John Owen, i drigianu yn Bronclydwr, ac i gymeryd gofal yr eglwysi yr oedd ei dad wedi eu sefydlu. Ond ychydig barhaodd ei oes ef, bu farw yn 30ain oed. Yn nyddlyfr Matthew Henry, yr hwn a bregethodd bregeth angladdol iddo, dywedir "fod Cymru wedi colli canwyll oleu, yr hon a lewyrchai yn nghanol tywyllwch."
Tra yr ydoedd Hugh Owen yn preswylio yn Bronelydwr, ac yn llafurio yn yr efengyl o fewn cyffiniau ei ardal, byddai ychydig o wyr da, y rhai oeddynt yr amseroedd hyny mor anaml yn y wlad, megis ymweliadau angylion, yn "few and far between," yn talu ymweliad ag ef yno ac yn cael nodded rhag erlidwyr. Ceir fod y Parchn. Henry Maurice a James Owen wedi bod yno, dau wr a ymroddasant i deithio ac i bregethu yr efengyl yn y lleoedd tywyllaf yn Nghymru yn y cyfnod hwn. A dywedir mai James Owen a bregethodd bregeth angladdol i'r hybarch Hugh Owen, o Fronclydwr. Yr oedd pregethu pregeth angladdol i wyr enwog yn beth cyffredin yn yr oes hono. Ar ol marwolaeth John Owen, yr hwn, am ychydig amser, a fu yn olynydd i'w dad, y nesaf a ddaeth i gymeryd gofal yr eglwysi oedd Edward Kenrick, ei fab-yn- nghyfraith. Gan ei fod ef wedi priodi merch Hugh Owen, daeth Bronclydwr yn etifeddiaeth iddo gyda'i wraig. Ordeiniwyd ef Awst 17eg, 1702, gan Matthew Henry a James Owen. Nid ydym wedi cael yr hanes ymha le yr ordeiniwyd ef, pa un ai yn nhŷ Bronclydwr ai yn rhyw le arall. Nid ymddengys fod dim o enwogrwydd ei dad-yn-nghyfraith yn perthyn iddo ef, ac nid oes cymaint o'i hanes yn wybyddus ychwaith, er ei fod yn byw yn ddiweddarach. Dywedir iddo fod yn gwasanaethu eglwysi y cylch am 40 mlynedd. Os felly, yr oedd yn gofalu am danynt pan y torodd y Diwygiad Methodistaidd allan trwy Howell Harries. Dichon iddo fod yn llwyddianus mewn rhanau eraill o Sir Feirionydd, ac yn y siroedd cylchynol; ond nid oes hanes am yr un eglwys yn Bronclydwr, nac yn un man arall yn Nosbarth y Ddwy Afon, ar ol ei farwolaeth. Yr oedd deugain mlynedd o amser wedi myned heibio ar ol ei farw ef cyn bod dechreu pregethu gan y Methodistiaid o amgylch ardal Bronclydwr; a'r pryd hwnw, teulu o'r enw Walis oedd yn byw yn y lle. Fel hyn, mae yn amlwg ddigon, dybygid, mai dau Ymneillduwr enwog a fu yn llafurio yn Sir Feirionydd yn ystod y ganrif o 1600 i 1700, Morgan Llwyd, o Gynfal, Ffestiniog, y rhan gyntaf o'r ganrif, a Hugh Owen, Bronclydwr, y rhan olaf o honi. Yr Annibynwyr, felly, a lafuriodd gyntaf yn y sir. Ac o'r flwyddyn 1700, nid ydym yn cael fawr ddim o hanes crefydd rhwng y Ddwy Afon, hyd nes y dechreuodd pregethwyr y Methodistiaid bregethu yma—tymor o bedwar ugain mlynedd. Yn Methodistiaeth Cymru, ceir y paragraph canlynol,—"Er engraifft, i ddangos pa mor llwyr yr oedd gweinidogaeth Hugh Owen wedi diflanu o'i gymydogaeth ef ei hun, gellir nodi yr amgylchiad a ganlyn,—Yr oedd y Parch. Robert Griffith, Dolgellau, yn arfer, pan yn ieuanc, feallai tuag ugain oed, o leiaf cyn iddo ddechreu pregethu, o fyned gyda chyfaill crefyddol arall, i ardal Bronclydwr, i gynal cyfarfodydd gweddiau ar brydnhawn Sabbath. Pan oeddynt yn ymgynyg at hynyma, cawsant mai nid hawdd oedd cael neb a'u derbynient hwy i dy; a thrwy dalu swllt bob Sabbath i ryw amaethwr y cawsant ddrws agored i gynal y fath gyfarfod yma."
Yn Hanes Eglwysi Annibynol Cymru, gan y Doctoriaid Rees a Thomas, dywedir: "Bu y rhan yma o'r wlad, rhwng y Ddwy Afon, Mawddach a Dyfi, yn hwy heb ei darostwng tan ddylanwad yr efengyl na'r rhan fwyaf o Sir Feirionydd. Mae yn wir fod Bronclydwr o fewn llai na phedair milldir i'r Towyn, ac nid oes dim yn fwy sicr na bod yr efengylwr llafurus, Hugh Owen, wedi pregethu llawer trwy yr holl ardaloedd hyn; ond nid oes yma, er hyny, gymaint ag un eglwys ag y gellir ei holrhain hyd ei ddyddiau ef. Nis gall yr eglwysi Annibynol yma ddilyn eu hanes yn ddim pellach na dechreuad y ganrif bresenol, ac ni chafodd y Methodistiaid Calfinaidd ond ychydig o flaen arnynt." Rhyw bymtheg, neu ugain mlynedd o bellaf, oedd y blaen a gawsant. Mae yr hyn a ddywedir yn y dyfyniad uchod yn eithaf cywir, sef fod y rhan yma o'r wlad wedi bod yn hwy heb gael ei darostwng tan ddylanwad yr efengyl na'r rhanau eraill o'r wlad o amgylch.
Yr ydys yn gallu nodi yn lled sicr fod y deffroad crefyddol, trwy y Diwygiad Methodistaidd, wedi dechreu yma oddeutu y flwyddyn 1785. Nid yn hollol y flwyddyn hono y dechreuwyd pregethu, fel y ceir gweled eto, ond oddeutu y flwyddyn hono y dechreuodd y pregethu amlhau yn y gwahanol ardaloedd. Mae y dechreuad yn cyfateb i'r prif ddigwyddiad hanesyddol mewn cysylltiad a chrefydd yn ein gwlad—blwyddyn dechreuad yr Ysgol Sabbothol yn Nghymru. Cwestiwn i'w ofyn yn naturiol yn y fan yma ydyw, Pa fodd y bu rhan gyfan o wlad Meirion mor hir heb ei deffro trwy y Diwygiad? Yr oedd dros ddeugain mlynedd wedi myned heibio er pan yr oedd Howell Harries wedi dechreu cynhyrfu Cymru. Yr oedd wedi bod yn pregethu yn Sir Drefaldwyn a'r Bala yn union ar ol iddo ddechreu; bu ef a Daniel Rowlands, Llangeitho, ar ymweliad a'r Gogledd amryw weithiau; yr oedd teithio mawr wedi bod gan enwogion y Methodistiaid o'r De i'r Gogledd; nid oedd yr un sir yn Nghymru heb deimlo nerth yr efengyl cyn pen ychydig wedi i'r tân ddechreu cyneu yn Nhrefecca a Llangeitho. Yr oedd rhanau helaeth o Sir Feirionydd ei hun wedi ei goddeithio, a phump o gapelau wedi eu hadeiladu ynddi cyn y flwyddyn 1785. Ac eto, dyma y rhan agosaf i'r Deheudir heb i'r tân wneuthur dim o'i ôl arni, a buasid yn meddwl mai trwy y rhan yma yr oedd y dramwyfa barhaus o'r naill dalaeth i'r llall. Gymaint, hefyd, o dramwyo oedd o'r Gogledd i Langeitho, i wrando Rowlands, ar Sul pen mis; elent yno yn finteioedd o'r Bala, o Sir Fon, a Sir Gaernarfon, a hyny er's yr holl flynyddoedd yn flaenorol i 1785; a buasem ni, yn yr oes hon, yn tybio mai trwy y rhan yma o'r wlad y buasai yr holl dyrfaoedd yn tramwyo, yn ol a blaen. Pa fodd, gan hyny, y bu y tân Dwyfol mor hir heb gyffwrdd â'r rhan hon o'r sir? Buom yn cael ein dyrysu gryn lawer gan y mater hwn, ac yr ydym i fesur eto yn y dyryswch. Modd bynag, mae rhyw gymaint o eglurhad i'w roddi dros y ffaith mai fel hyn yr oedd. Yn un peth, mae yn bur eglur mai trwy gyfeiriad arall yr oedd y rhan fwyaf o'r teithio rhwng De a Gogledd, gan' mlynedd yn ol, sef trwy Mallwyd a Dinas Mawddwy, a thros Fwlchygroes i'r Bala. Prawf o'r ffaith hon ydyw, fod y lleoedd hyn wedi profi nerth y diwygiad gyda'r manau cyntaf yn y Gogledd. Peth arall a all fod yn rheswm ydyw, yr erledigaeth greulawn a fu dros faith flynyddau yn Machynlleth a Dolgellau. Am Ddolgellau, dywed Robert Jones, Rhoslan, "Gorfu dros rai blynyddoedd fyned yn ddistaw i'r dref yn y nos, a chadw yr odfäon cyn dydd, a myned ymaith ar doriad y wawr, cyn i'r llewod godi o'u gorweddfäoedd." Nid oedd nemawr gwell, na chystal, yn Machynlleth. Yr oedd wedi rhedeg yn agos i ddiwedd y ganrif ddiweddaf cyn i'r erlid mawr liniaru yn y naill na'r llall o'r lleoedd hyn. Gan fod y ddwy dref, un ar bob congl i'r wlad rhwng y Ddwy Afon, bu yr erledigaeth chwerw fu ynddynt yn foddion i beri i'r pregethwyr gilio oddiwrthynt, ac oddiwrth y wlad cydrhyngddynt. Y mae yn aros eto i wybod pa ffordd yr elai trigolion Lleyn ac Eifionydd i Langeitho. Am drigolion y parthau hyn,, dywedir mewn dyfyniad a geir yn Nghofiant y Parch. Daniel Rowlands, Llangeitho, gan Mr. Morris Davies, Bangor: "Os byddai yr hin yn ffafriol, hurient gwch pysgota i'w trosglwyddo o Bwllheli i Aberystwyth, gan gychwyn i'w taith ddydd Gwener. Os amgen, cychwynent ddydd Iau ar eu traed dros y tir trwy Abermaw, a chytunent ag eraill i gyfarfod am naw o'r gloch foreu Sadwrn, wrth ryw ffynon yn Llangwyryfon." Wrth hyn, gwelir fod yn rhaid iddynt fyned ar draws y wlad o Abermaw i Aberdyfi. Erys rhyw gymaint o draddodiad, hefyd, rhwng y ddau le hyn, y byddent yn dychwelyd yr un ffordd, ac y byddent yn gorphwyso i fwyta eu tamaid bwyd wrth ffynon Pantgwyn, uwchlaw i Lanegryn, yn agos i "Wastad Meirionydd." Os oeddynt yn arfer myned, yn ol a blaen, y ffordd hon, y mae yn beth rhyfedd na buasent, fel llwynogod Samson, wedi rhoddi rhyw gymaint o'r wlad ar dân.
Y mae un ffaith am danynt yn teithio trwodd yn hollol sicr. Adroddir yr hanes yn Nrych yr Amseroedd, ac yr oedd yr awdwr, Robert Jones, Rhoslan, ymhlith y fintai ei hun. Fel hyn yr adrodda efe yr hanes:—"Yr oedd, ryw bryd, ryw nifer mawr o bobl, nid llai na phump a deugain, wedi myned mewn llestr i'r Deheudir, o Sir Gaernarfon, i'r cyfarfod mawr yn Llangeitho. Cyn dyfod yn ol, trodd y gwynt, fel y gorfu i ni ddyfod adref ar hyd y tir. Wrth weled y fath rifedi o honom, cawsom ein dirmygu a'n gwawdio i'r eithaf yn Aberdyfi; ac o'r braidd y gadawsant i ni ddyfod trwy dref Towyn heb ein herlid yn dra llidus. Erbyn dyfod i'r Abermaw, yr oedd hi yn dechreu nosi, ac yn dymestl fawr o wynt a gwlaw. Lled gynhyrfus oedd y pentref ar ein dyfodiad yno; ond bu llawer o'r trigolion mor dirion a lletya cynifer ag a arosasant yno. Aethai rhai ymlaen i ymofyn llety yn y wlad. Felly cafodd pawb y ffafr o le i orphwys y noson hono. Yr oedd yno un wraig, yr hon, pan ofynwyd iddi am le i letya, a safodd ar y drws, ac a ddywedodd yn haerllug: Na chewch yma gymaint a dafn o ddwfr; nid wyf yn ameu na roddech fy nhŷ ar dân cyn y boreu, pe gollyngwn chwi i mewn.' Ond buan y cyrhaeddodd llaw Duw hi am ei thraha a'i chreulondeb, canys cyn y boreu yr oedd y tŷ yn wenfflam, a braidd gymaint ag oedd ynddo yn lludw. Yr oedd y tŷ yn y pen nesaf i'r afon o res o dai oeddynt i gyd yn gydiol a'u gilydd. Troes y gwynt yn y cyfamser i chwythu ymaith y tân a'r gwreichion oddiwrth y tai eraill; pe amgen, buasai y rhai hyny yn debyg o gael eu llosgi oll. Dychwelodd y gwynt yn ol cyn y boreu i'r lle y buasai am lawer o ddyddiau cyn hyny, a lle yr arhosodd lawer o ddyddiau ar ol hyny hefyd.
Dranoeth, ar ein taith tuag adref, fel yr oeddym yn dyfod trwy dref Harlech, cododd y trigolion fel un gwr i'n hergydio â cherig, fel pe buasent yn tybio mai eu dyledswydd oedd ein llabyddio. Tarawsant rai yn eu penau nes oedd y gwaed yn llifo. Cafodd un ergyd yn ei sawdl, fel y bu yn gloff am wythnosau."
Digwyddodd hyn, yn ol pob tebyg, cyn y flwyddyn 1780.[2] Yr ydym yn gweled oddiwrth yr hanes fod ysbryd erlidgar iawn yn meddianu y preswylwyr, mewn gwlad a thref. Cadarnha hyn, hefyd, y dybiaeth fod erledigaethau y rhan yma o'r wlad yn un achos i gadw yr efengylwyr draw oddiwrthi. Er ei bod yn lled sicr yr elai y pererinion o Leyn ac Eifionydd y ffordd hon i Langeitho, nid yw yn debyg y byddai eu nifer gyda'u gilydd mor fawr a phump a deugain. Awgrymir yn y dyfyniad uchod mai nifer mawr y fintai a barodd i'r erlidwyr gyfodi mor ffyrnig yn eu herbyn. Gallwn gasglu, pan y byddai nifer y pererinion o Leyn yn lliosog, mai mewn llong neu gychod yr elent. Modd bynag, nid oedd na dieithriaid na dyfodiaid wedi bod hyd yma yn abl i ddychrynu nac efengyleiddio dim ar drigolion Mesopotamia. Ac nid oes dim sicrwydd fod na Howell Harris na Daniel Rowlands wedi sangu eu traed o gwbl o fewn y cyffiniau.
O'r diwedd, daeth goleuni i'r ardaloedd a fuont mor hir yn y tywyllwch. Ac fel yr iachawdwriaeth ei hun, fe ddaeth o'r tu allan i'r ardaloedd eu hunain; cyrhaeddodd yma o'r tu hwnt i afon Abermaw. O fewn tair milldir i'r Abermaw, yn agos i'r ffordd yr eir oddiyno i Ddolgellau, y mae ffermdy o'r enw Maes-yr-afallen. Yno yr arferai yr Annibynwyr bregethu, a'r Methodistiaid hefyd yn achlysurol. Daeth y son am y pregethu oddiyno i ardal Llanfihangel, yn agos i Abergynolwyn. Crybwyllwyd eisoes mai William Hugh, Llechwedd, a ddeffrowyd i feddwl am fater ei enaid gyntaf yn y cwmpasoedd hyn. Yr oedd ef wedi ei eni a'i fagu yn Maesyllan, ac yr oedd o tan rhyw fath o argyhoeddiad crefyddol er pan oedd yn llanc ieuanc yn bugeilio defaid ei dad. Dywedai wrth ei fab, rywbryd cyn diwedd ei oes, y byddai ofn a braw yn meddianu ei feddwl mewn perthynas i'w gyflwr a'i fater tragwyddol y pryd hyny, nes yr oedd yn rhyfedd ganddo fod ei synwyrau heb eu dyrysu, ac nas mynai brofi eu cyffelyb drachefn er meddianu yr holl fyd. Tra yr ydoedd yn y stad meddwl hwn, neu, yn hytrach, wedi i'r teimlad hwn fyned heibio, clybuwyd yn ardal Llanfihangel fod pregethu yn Maes-yr-afallen, ac, meddai un John Lewis wrth William Hugh, "Dos di, William, i'w gwrando, ac i edrych pa beth sydd ganddynt; ti elli di wybod a oes ganddynt rywbeth o werth; ac os oes, minau a ddeuaf wed'yn." Cytunodd W. Hugh i fyned; ac ar ryw foreu Sabbath, cyfeiriodd ei gamrau tua Maes-yr-afallen. Y diwrnod hwnw, Benjamin Evans, gweinidog yr Annibynwyr yn Llanuwllyn, oedd yno yn pregethu. Mae yn lled eglur mai dyma y bregeth, Ymneillduol gyntaf a glywodd W. Hugh, ac yr oedd yn synu wrth weled dull plaen a dirodres yr addoliad. "Yr oeddwn yn golygu," meddai, "bod i wr o ddull a gwisg gyffredin esgyn i ben 'stôl a siarad â'i gyd-ddynion, yn beth tra simpl." Aeth odfa y boreu heibio heb iddo ddeall yr un gair o honi, na gwybod ynghylch pa beth yr ydoedd. Diau fod yr olygfa ddieithr o'i amgylch, tŷ anedd yn gapel, a stôl yn bulpud, wedi myned â'i feddwl y tro cyntaf hwnw. Yr oedd yr un gwr yn pregethu drachefn y prydnhawn, a'i destyn y tro hwn oedd Rhuf. i. 16, "Canys nid oes arnaf gywilydd o efengyl Crist, oblegid gallu Duw yw hi er iachawdwriaeth i bob un sydd yn credu." Yr oedd yr odfa hon yn un pur wahanol i deimlad William Hugh; tywynodd y goleuni, a theimlodd yntau nerth yr efengyl. Edrychai ar y tro hwn fel cyfnod hynod yn ei fywyd, a dywedai, Os oedd ganddo grefydd, mai mewn canlyniad i'w fynediad i Maes-yr-afallen y tro hwn y cafodd afael arni, a chofiodd y bregeth hono tra fu byw ar y ddaear. Cymerodd hyn le rywbryd cyn y flwyddyn 1777, oblegid y flwyddyn hono ymadawodd Benjamin Evans o Lanuwllyn i fyned i weinidogaethu i'r Deheudir.
Bu am rai blynyddau ar ol hyn heb ymuno â chrefydd. Ond o hyn allan elai i wrando yr efengyl bellder mawr o ffordd. Cerddodd rai gweithiau ar hyd nos Sadwrn i'r Bala, i wrando dwy bregeth ar y Sabbath, ac adref yn ol ar hyd y nos drachefn ar ol y ddwy bregeth, pellder, rhwng myn'd a dyfod, o 45 o filldiroedd. Aeth ef a'i gyfaill, John Lewis, un boreu Sabbath i Ddolgellau, gan hyderu fod yno rywun yn pregethu. Ond cyfarfod eglwysig oedd yno y boreu hwnw. Wedi aros i'r gwasanaeth dechreuol fyned drosodd, a deall mai cyfarfod neillduol oedd yno, aethant allan, gan feddwl wynebu tuag adref. Ond cyn iddynt fyned neppell o'r lle, wele genad yn eu goddiweddyd, ac yn eu hysbysu fod rhyddid iddynt aros os ewyllysient. Dychwelasant yn ol, a chawsant dderbyniad croesawgar i fod yn aelodau, a chyn hir cawsant y fraint o gyfranogi o Swper yr Arglwydd gyda'r gynulleidfa fechan yn Nolgellau.
Dywedir yn Methodistiaeth Cymru (T. 580) mai yn y flwyddyn 1780 y pregethwyd y bregeth gyntaf gan y Methodistiaid yn y bröydd hyn. Feallai nad yw yn hawdd bod yn sicr am y flwyddyn, ond mae yn lled sicr ei bod oddeutu y flwyddyn hon. Y pregethwr oedd yr hybarch Robert Jones, Rhoslan, a'r lle y pregethwyd hi, medd yr hanes, oedd "ar heol mewn pentref a elwir Abergynolwyn." Prin hefyd fod "heol" yn Abergynolwyn yr adeg foreuol hon. Yr oedd yno bentref o ryw fath, a diau mai yn nghanol y pentref y pregethwyd y bregeth. Digon posibl fod a fynai W. Hugh a John Lewis â dwyn y pregethwr cyntaf i Abergynolwyn, oblegid hwy ydynt y ddau y ceir eu hanes yn myned i wrando i leoedd eraill cyn hyn. Yr oedd Robert Jones, Rhoslan, yn arferol a dyfod i bregethu i'r Dyffryn a Dolgellau yn flaenorol, ac felly fe wyddai ryw gymaint o hanes y wlad. Fel hyn yr adrodda efe yr hanes am y bregeth nodedig hon:—
"Tro nodedig iawn a fu mewn pentref bychan a elwir Abergynolwyn. Anturiwyd yno i bregethu ar brydnhawn Sabbath. Erbyn dyfod yno, yr oedd golwg lidus, greulon, erlidgar ar y dorf liosog a ddaethai ynghyd, fel yr oedd yn aeth ac yn ddychryn wynebu arnynt, canys nid oedd odid un o honynt a welsai bregethwr, nac ychwaith broffeswr erioed yn unlle. Cafwyd llonydd gweddol i gadw y cyfarfod mewn modd annisgwyliadwy. Ond erbyn clywed pa fodd y cafwyd llonyddwch, canfuwyd fod llaw ddirgelaidd Rhagluniaeth yn sicr yn y tro. Digwyddodd fod gŵr yn byw yn yr ardal a elwid John Lewis; buasai hwnw dro neu ddau yn gwrando pregethu, ac yr oedd wedi ei dueddu i feddwl ei fod yn waith da. Yr oedd gan y gwr hwn fab-yn-nghyfraith (neu fab gwyn, fel y galwent ef) ag oedd yn aruthrol o gryf. Dywedodd yr hen wr wrtho fod y rhai'n a'r rhai'n yn bwriadu erlid ac anmharchu y gwr dieithr yno heddyw; 'ac,' ebe efe 'ni byddai raid i ti ond eu bygwth, mae yn sicr y byddant yn ddigon llonydd.' Bu y dyn yn falch o'i swydd; bygythiodd hwynt yn erwin, a pharodd ei arswyd yn nhir y rhai byw. Ni bu y cyfarfod heb radd o arddeliad arno. Ac o hyny hyd heddyw mae pregethu yn yr ardal, a gradd o lwyddiant ar y gwaith."—Drych yr Amseroedd, tudalen 72.
Mae yn lled eglur oddiwrth rediad yr hanes hwn mai y pregethwr ei hun sydd yn ei adrodd. Gellir casglu hefyd oddiwrth yr hanes mai hon oedd y bregeth gyntaf, neu un o'r rhai cyntaf a bregethwyd yn y cylchoedd, gan y dywedir nad oedd odid un o'r gwrandawyr a welsai bregethwr, nac ychwaith broffeswr yn unlle. Yn fuan ar ol y tro hwn, daeth eraill i'r ardal i bregethu. Ac yn ychwanegol at y waredigaeth ragluniaethol a gafodd Robert Jones, Rhoslan, hysbysir am dro arall cyffelyb. Yr oedd yr erlidwyr wedi ymgasglu ynghyd eto, a golwg ymladdgar a gwyllt arnynt, i geisio rhwystro y pregethWr. Ond pan ddaeth yr amser i ddechreu, a'r cynhyrfwyr yn ymbarotoi i'r frwydr, daeth un John Howell, o Nant-y-cae-bach, ymlaen, a dywedai, Dewiswch i chwi yr un a fynoch, ai bod yn ddistaw a llonydd, ynte droi o honoch allan o'r dyrfa ataf fi" Bu hyn yn foddion i'w tawelu, a dywedir y bu yno dawelwch bob tro wedi hyn. Nid oedd y John Howell hwn yn proffesu crefydd ar y pryd, nac wedi profi dim o ddylanwad y gair ar ei feddwl. Nid oedd wedi tueddu at grefydd o gwbl, ond tybiai nad oedd dim niwed yn y gwaith o bregethu. Ar ol hyn, pa fodd bynag, daeth yn broffeswr ac yn Gristion da, yn flaenor blaenllaw, ac yn weithgar gydag achos crefydd yn Abergynolwyn am lawer o flynyddoedd. Cyn pen hir wedi hyn, dechreuodd y pregethu ddyfod yn amlach yn yr ardal hon, a'r ardaloedd cylchynol. Mae y crybwyllion hyn am Abergynolwyn yn bur sicr o fod yn gywir, oblegid cafwyd hwy o enau W. Hugh ei hun, ac y maent wedi eu corffori yn hanes ei fywyd, yr hwn a ysgrifenwyd, fel y tybir, gan ei fab, mor bell yn ol a'r flwyddyn 1830.
Mewn cysylltiad â'r dechreuad bychan hwn yn Abergynolwyn, yr ydym yn cael hefyd ddechreuad y gwaith da yn ardal Corris, a hyny drwy gyfryngiad amlwg Rhagluniaeth. Yr oedd gwraig o'r enw Jane Roberts wedi symud i fyw tua'r pryd hwn i Rugog, ffermdy yn nghwr uchaf ardal Corris. Cyn hyny preswyliai yn Nannau, gerllaw Dolgellau, ac yr oedd wedi clywed, tra yr oedd yno, fod pregethu mewn tŷ anedd o'r enw Maes-yr-afallen, yn agos i'r Abermaw, a syrthiodd awydd arni i glywed y pregethu. "Ond rhag i neb ddychmygu i ba le yr oedd yn myned, hi a lanwodd sach â gwair, ac a'i gosododd dani ar geffyl, ac aeth felly i Maes-yr-afallen." Y pregethwr y tro hwnw oedd yr hen weinidog Methodistaidd adnabyddus, John Evans, o'r Bala. Bu y bregeth, yn ol pob tebyg, yn foddion tröedigaeth iddi, a chafodd y fath flas ar wrando fel nas gallai beidio myned i wrando drachefn. Ond ar ol iddi symud i Gorris, nid oedd pregethu yn yr ardal hono. Ond clywodd fod rhyw bregethwr i ddyfod i Abergynolwyn, o fewn 5 neu 6 milldir i'w chartref. Penderfynodd fyned yno, a chymhellodd ei merch, Elizabeth, yr hon oedd newydd briodi Dafydd Humphrey, Abercorris, i ddyfod ynghyda'i gwr gyda hi i'r odfa. Cafodd Dafydd Humphrey les ysbrydol i'w enaid drwy y bregeth hono, ac yn. y fan a'r lle gwnaeth "gyfamod a'r Gwr, i'w gymeryd ef yn Dduw, a'i bobl yn bobl, a'i achos yn waith iddo tra fyddai ar y ddaear." Mor rhyfedd ydyw ffordd Rhagluniaeth! O Maes-yr-afallen y daethai y tân dros ochr Cader Idris i ardal Abergynolwyn gyntaf; ac o'r un lle yr aethai gwreichion. heibio i balasdy gwych Nannau, gerllaw Dolgellau, a dygwyd hwy drachefn i Rugog yn ardal Corris, i fod yn foddion i gyneu tanllwyth o dân yno! Dyma y wawr wedi tori ar Gorris. Ac y mae yr hanes am y modd yr aeth yr achos. rhagddo yno i'w gael yn Methodistiaeth Cymru:—
"Yn mhen blwyddyn ar ol hyn y cafodd Dafydd Humphrey gyfleusdra gyntaf i wrando pregeth drachefn. Yr oedd gair yr Arglwydd yn werthfawr yn y dyddiau hyny.' Cynhelid yr odfa hon ar fawnog Ystradgwyn, a phrofwyd chwerwder erledigaeth yn hon hefyd. Ar ol hyn cafwyd un o hen bregethwyr cyntaf y Bala i ddyfod ar ryw Sabbath i ardal Corris, ar fin y ffordd fawr. Yr oedd rhywrai, ar ol clywed fod pregeth i fod yn yr ardal y Sabbath hwnw, wedi anfon offer aflonyddwch, sef llestri tin a phres i'w curo, fel ag i lesteirio i'r bobl glywed beth a ddywedid gan y pregethwr. Ond yr oedd blys cael clywed gan rywun yno, yr hwn a gipiodd y llestr pres o law y terfysgwyr ac a'u lluchiodd i'r afon. Aed i'w geisio eilwaith, ond bellach, ni ellid, gan yr agen a wnaed ynddo, wneyd nemawr ddefnydd o hono. Wedi hyn bu pregethu mor aml ag y gellid ei gael. Yn gyntaf yn Llain-y-groes, a thrachefn dros ysbaid dwy flynedd yn Ysgubor-goch. Ond yr oedd dygasedd yr hen sarph yn llesteirio i'r efengyl gael arhosiad hir yn un lle, eto yr oedd yn enill calon ambell un. Yn y flwyddyn 1790, yr oedd yno bump wedi cael blas ar fara y bywyd, sef Dafydd Humphrey a'i wraig, Jane Roberts, Jane Jones, a Betti Lewis. Wedi i ddrysau eraill gau, buwyd yn pregethu ar ben careg, wrth ddrws tŷ anedd, ar dir Dafydd Humphrey. Gelwid y ty hwn yr Hen Gastell; ac wedi ymadawiad y gŵr a'i preswyliai y pryd hyny, gosododd ef i wr arall am ychydig o ardreth, ar yr amod fod pregethu i fod ynddo."
Y bregeth ar fin y ffordd fawr oedd y bregeth gyntaf a bregethwyd gan y Methodistiaid yn Nghorris. Mae yr amser y sefydlwyd yr eglwys hon ar gael, o leiaf, dywedir yn bendant ei bod wedi ei sefydlu yn y flwyddyn 1790, ac y mae enwau yr aelodau cyntaf hefyd ar gael, yr hyn sydd o werth mawr. Y rheswm dros fod cymaint a hyn o'r hanes yn sicr ydyw ei fod wedi ei gael o enau un o sefydlwyr cyntaf yr eglwys, sef Dafydd Humphrey, ac wedi ei groniclo tra yr ydoedd ef yn fyw.
Nis gellir bod mor sicr am amseriad sefydliad yr eglwysi yn y rhan agosaf i'r môr o'r Dosbarth. Yn unig gellir dweyd mai yr adeg y sefydlwyd hwy, o'r bron i gyd, ydoedd oddeutu y flwyddyn 1790. Er hyny, ceir awgrymiadau yn tueddu i ddangos fod un neu ddwy o honynt wedi eu sefydlu mor foreu a'r flwyddyn 1787. Yr ardaloedd y gwawriodd goleuni arnynt gyntaf, gyda golwg ar amledd breintiau crefydd, oeddynt Llwyngwril a'r Bwlch. Digon o reswm am hyn ydyw fod y ddwy ardal uchod ar y cwr agosaf i afon Abermaw, dros yr hon y cludid y newyddion da gan y saint oeddynt wedi eu hachub o'r tuhwnt i'r afon hon. Rhydd pen-hanesydd y Cyfundeb, y diweddar Barch. J. Hughes, Liverpool, y dystiolaeth a ganlyn:—
"Nid hawdd ydyw penderfynu ymha le y dechreuodd pregethu gyntaf gan y Methodistiaid rhwng y Ddwy Afon; ac yn wir anhawdd ydyw gwybod, weithiau, gyda manyldra, am amseriad ei ddechreuad mewn ardal, oherwydd fod yr amgylchiadau a roddes yr ysgogiad cyntaf yn fynych yn guddiedig; a chan mor ddisylw oeddynt ynddynt eu hunain, ni chroniclwyd hwynt gan neb. Yr oedd gwawr Methodistiaeth, mewn llawer iawn o fanau, yn gyffelyb i wawr y boreu, yn araf ei ddyfodiad, ac yn ansicr ai lygedyn ei gychwyniad. Ymddengys gradd o'r ansicrwydd hwn mewn perthynas i'r ardaloedd a enwyd uchod." Teimlai ef ei hun anhawsder, a theimlai y gwyr da a anfonodd yr hanesion iddo o'r parthau hyn, pwy bynag oeddynt, yr un anhawsder, er eu bod hwy yn byw ddeugain mlynedd yn nes i'r amser y cymerodd yr amgylchiadau le nag yr ydym ni yn awr. Nid dyfod i wybod amseriad dechreuad pregethu, i'n tyb ni, ydyw y mwyaf anhawdd, ond dyfod i wybod am yr amser yn fanwl y ffurfiwyd yr eglwysi. Yr oedd rhyw gymaint o bregethu yn dechreu yn agos iawn i'r un amser yn yr holl ardaloedd, ond fe gymerwyd rhai blynyddau, wedi hyny, cyn y ffurfiwyd yr eglwysi. Ysgrifena John Jones, Penyparc, yn 1832, am ddechreuad crefydd yn y wlad: "Nid oedd fawr o bregethu efengylaidd yn yr holl fro y pryd hwnw [cyn 1790], oddieithr gan ambell un o bregethwyr y Methodistiaid, y rhai, megis ar ddamwain, a ddeuent heibio; ac ni byddai hyny, ar y dechreu, ond unwaith neu ddwy yn y flwyddyn." Yr oedd dyfodiad y pregethwyr heibio mor anaml yn y dechreu yn peri fod yr eglwysi yn hir yn cael eu ffurfio. Lewis Morris, yn hanes ei fywyd ei hun, a rydd y goleuni goreu am y modd yr oedd y tân yn cerdded. Y mae y dyfyniad canlynol yn dangos pa fodd yr oedd pethau o amgylch Llwyngwril, ei ardal enedigol, yn y flwyddyn 1788:— "Byddai ambell odfa yn cael ei chynal y pryd hyny gan y Methodistiaid Calfinaidd, mewn lle a elwir Gwastadgoed, tŷ un Sion William. Ni byddai ond ychydig iawn yn dyfod i wrando, a'r pregethwyr a'r crefyddwyr oeddynt yn cael eu herlid yn fawr. Gelwid pregethwyr yn "au-broffwydi," a'r gymdeithas neillduol eglwysig yn "weddi dywyll." Cafodd Siôn William ei dafiu allan o'r tŷ, am ei fod yn caniatau pregethu ynddo; ac efe a symudodd i le a elwir y Gors, a daeth pregethu yno hefyd. Ymysg y lliaws, yr oeddwn inau yn llawn gelyniaeth yn erbyn achos yr Arglwydd, ac yn gwrthwynebu y pregethu newydd â'm holl egni. Un prydnhawn Sabbath, daeth ychydig grefyddwyr o'r Abermaw, a phregethwr, sef John Ellis, i Lwyngwril, gyda y bwriad o gadw odfa yno, a chawsant addewid am le i bregethu mewn ty tafarn yn y pentref. Daethum i'r pentref y Sabbath hwnw, yn ol fy arfer, i ddilyn gwâg ddifyrwch, pan y dywedwyd wrthyf fi a'm cyfeillion nad oedd wiw i ni fyned i'r dafarn i yfed cwrw y Sul hwnw, gan fod yno bregethu. Pan glywais hyn, aethum yn llawn gwylltineb at y ty tafarn, a gelwais am y gŵr i'r drws, a dywedais wrtho, os ydoedd am roddi ei dy i bregethwyr a chrefyddwyr, ac nid i ni, yr ataliwn i iddo werthu cwrw yn gwbl, gan yr awn â phob achos neu gwrdd yfed i dy arall yn y pentref. Dychrynodd y dyn wrth hyn, gan y gwyddai fod genyf y dylanwad mwyaf ar fy nghymdeithion; ac efe a rwystrodd yr odfa, a gorfu i'r crefyddwyr fyned ymaith yn siomedig."
Yr oedd John Ellis, o'r Abermaw, wedi dechreu pregethu er's tair blynedd cyn hyn, a lled sicr ydyw mai nid hwn oedd y tro cyntaf iddo fod yn pregethu yn Llwyngwril. Tro neillduol oedd hwn a goffeir gan Lewis Morris, a gallwn gasglu yn bur gryf fod pregethu yn achlysurol wedi bod yn Llwyngwril o leiaf flwyddyn neu ddwy yn gynt. Amser ei ddechreuad yno felly oedd tua 1786. Yn Awst, 1789, yr argyhoeddwyd Lewis Morris, wrth ddychwelyd o races ceffylau Machynlleth. Oddeutu Gwyl Mihangel y flwyddyn hono yr aeth i'r Abermaw i wrando ar Mr. Williams, o Ledrod, ac y daeth i wybod fod gobaith iddo gael ei achub; ac yn fuan wedi hyn, cyn diwedd yr un flwyddyn, mae'n debyg, ymunodd â chymdeithas eglwysig y Methodistiaid yn yr Abermaw. Y casgliad, gan hyny, ydyw nad oedd y crefyddwyr ddim wedi ymffurfio yn eglwys yn un lle yn nes na'r Abermaw, yn niwedd y flwyddyn 1789, onide buasai Lewis Morris yn bwrw ei goelbren yn eu mysg. Er hyny, nid ydyw hyn yn ddigon o sicrwydd. Ond yn fuan iawn ar ol hyn, y flwyddyn ganlynol, fel y gellir tybio, ffurfiwyd eglwys yn Llwyngwril. Mae yn deilwng o sylw hefyd fod yr achos yn cydgychwyn yn y Bwlch, mewn derbyn pregethu, ac ymffurfio yn eglwys. Er fod y ddwy ardal ya lled agos i'w gilydd, yr oedd yr achos ar wahan yn y ddau le, o'r cychwyn cyntaf. Yn agos i'r un amser hefyd y dechreuodd yn Towyn, Bryncrug, ac Aberdyfi. "Oddeutu yr amser hwn," meddai Lewis Morris, "y daeth pregethu gyntaf yn y cysondeb a'r sefydlogrwydd o hono i'r ardaloedd rhwng y Ddwy Afon, Mawddach, a Dyfi. . . . . . Argyhoeddwyd un gwr cyfrifol o'r enw John Vaughan, o'r Tonfanau, ynghyd a'i wraig, ac agorasant eu drws i'r efengyl (yn y Bwlch); parhaodd Mr. Vaughan i redeg yr yrfa yn ffyddlon iawn hyd y diwedd, a'i weddw ar ei ol a fu yn garedig a haelionus iawn at yr achos crefyddol yn Nghefncamberth. Mr. Lewis Jones, o Benyparc, yn moreu pregethu yn yr ardal (Bryncrug) a agorodd ei ddrws i arch Duw; ac y mae ei fab, Mr. John Jones, yr un modd yn llafurus a ffyddlawn hyd heddyw (1846), fel gweithiwr medrus gydag amrywiol ranau achos Iesu Grist. Mr. Francis Hugh, yn Nhowyn, a fu yn gynorthwyol i'r achos yn foreu iawn, ac y mae ei deulu yn cadw y drws hwn yn agored hyd heddyw. Mr. Harri Jones, Nant-y-mynach, a'i wraig, yn fuan wedi hyn a agorasant eu drws i achos Iesu Grist, ac y mae y drws hwn hefyd yn agored i'r achos eto. Dyma y drysau cyntaf a agorwyd i'r efengyl yn y parthau hyn."
Crybwyllwyd droion am Maes-yr-afallen, fel ffynonell o'r hon y daeth y goleuni i lewyrchu i wahanol ranau y cwr yma o'r wlad. Hwyrach mai buddiol fyddai gair o eglurhad am gysylltiad crefydd â'r lle hwnw. Rhwng 1769 a 1777, yr oedd y Parch. Benjamin Evans yn weinidog gyda'r Annibynwyr yn Llanuwchllyn, ac arferai ddyfod i bregethu i blwyf Llanaber. O gylch y flwyddyn 1770, cofrestrodd gegin amaethdy Maes-yr-afallen i bregethu ynddi. Cadben William Dedwydd, gwr genedigol o Abergwaen, Sir Benfro, oedd perchenog a phreswylydd yr amaethdy hwn, ac yr oedd efe yn ewythr, brawd ei mam, i wraig Mr. Benjamin Evans. Yn flaenorol i hyn, ymbriodasai y Cadben Dedwydd âg aeres y Gorllwyn, gerllaw yr Abermaw, ac yr ydoedd yn wr crefyddol a dylanwadol. Cysylltiad perthynasol, yn ddiameu, a ddygodd weinidog anturiaethus Llanuwchllyn i gysylltiad â'r lle, a bu hyny yn foddion, yn llaw Rhagluniaeth Ddwyfol, i ledaenu crefydd yn yr ardaloedd cylchynol. Yn y flwyddyn 1777, ymadawodd Mr. Benjamin Evans o Lanuwchllyn i Hwlffordd, a bu yr Annibynwyr am o gylch 24 mlynedd wedi hyn heb neb yn llafurio yn yr ardal. Ond ymddengys y byddai y Methodistiaid yn pregethu yn achlysurol yn y lle. Modd bynag, gan fod yr ardal hon mewn congl neillduedig o'r wlad, a'r tŷ hefyd wedi ei gofrestru fwy nag ugain mlynedd cyn i'r Methodistiaid ddechreu cofrestru eu tai, cafwyd yma lonyddwch i addoli Duw mewn adeg foreuol, a bendithiwyd y cynulliadau crefyddol i bell ac agos.
Yn Ngwanwyn y flwyddyn 1863, cynhaliwyd cyfarfod llenyddol yn Nhowyn. Un o'r testynau ar gyfer y cyfarfod oedd, "Dechreuad a Chynydd Ymneillduaeth yn Mhlwyf Towyn, Meirionydd." Y buddugwr ar y testyn oedd gwr ieuanc, genedigol o dref Towyn, yn awr y Parch. D. C. Jones, Abergwili, Sir Gaerfyrddin. Y mae ef yn ŵyr i ysgogydd cyntaf Ymneillduaeth yn Nhowyn. Cawsai yr hanes gan lawer o hen bobl oeddynt yn fyw bum' mlynedd ar hugain yn ol, ac yr oedd wedi bod ei hun yn siarad â Lewis Morris, fel yr oedd pob linc yn y gadwen yn gyfan y pryd hwnw; heblaw hyny, yr oedd wedi cael llawer o'r hanesion o hen lawysgrif o eiddo ei daid. Trwy garedigrwydd Mr. Jones, cawsom y ffeithiau dyddorol a ganlyn:—
"Yr oedd gwr o'r enw Edward Williams, dilledydd, yn byw yn Porth Gwyn, Towyn, adnabyddus yn yr holl ardal fel un o'r rhai blaenaf yn yr Interludiau a chwareuid trwy y gymydogaeth y pryd hyny. Daeth galwad arno i fyned i Aberystwyth, i brynu brethyn galar-wisgoedd i deulu cyfrifol yn Aberdyfi. Wedi myned i'r dref, deallodd fod Cyfarfod Misol yn cael ei gynal yno gan y Methodistiaid. Penderfynodd fyned yno er cael defnyddiau difyrwch yn yr Interludiau wedi dychwelyd adref. Dafydd Morris oedd yn pregethu ar y pryd, tad yr enwog Ebenezer Morris, Twrgwyn, yr un gwr ag a ddaliodd y cawr o Goedygweddill, yn Machynleth, ac heb fod yn neppell oddiwrth yr un amser. Dychwelodd Edward Williams o Aberystwyth yn ddyn newydd, a chafodd addewid am bregeth yn ei dŷ yn Nhowyn, ymhen ychydig amser wedi hyn.
"Wedi cyraedd gartref, yr oedd yr olwg arno yn dra gwahanol i'r hyn ydoedd pan yn cychwyn i Aberystwyth—edrychai yn hynod bendrwm a phruddaidd. Dechreuodd losgi yr hen lyfrau oedd ganddo, yn nghanol rhegfeydd ei briod, a syndod ei gymydogion, oeddynt wedi cyrchu ato fel cynt i'w difyru.
"Bu am ychydig yn cadw ei dy i'r 'Cynghorwyr,' heb fod nemawr sylw yn cael ei dalu iddynt gan neb ond ei hunan. Ond ymhen enyd, daeth gwr lled gyfrifol, o'r enw Francis Hugh, yn ymlynwr wrth "deulu'r weddi dywyll." Chwanegwyd atynt yn fuan wed'yn, Daniel ac Evan Jones, o'r Dyffryn Gwyn, amaethwyr parchus, o fewn pedair milldir i'r dref, sef o ardal Maethlon. 'Ymdrecha di,' ebe Francis Hugh wrth Edward William, 'gael cynghorwr, mi ofalaf finau am fwyd iddo fo a'i geffyl.' Erbyn hyn, yr oedd y fintai fach yn dechreu casglu nerth. Ond nid hir y bu cyn i ystorm ddychrynllyd gyfodi yn eu herbyn. Rhoddodd yr hen foneddwr o'r Ynysmaengwyn y gloch allan trwy'r dref, y byddai i bwy bynag o'i denantiaid a roddai waith i Edward William, gael ei droi o'i dŷ neu ei dyddyn, ar hyny o rybudd. Ond, er fod bron yr holl wlad yn eiddo i'r boneddwr, dywedai E. W. yn aml ei fod wedi cael llawer mwy o waith o hyny allan nag erioed, a'i fod trwy hyny wedi bod yn llawer mwy galluog nag o'r blaen i wneyd daioni gydag achos crefydd.
"Byddai y pedwar hyn yn fynych yn cyfarfod i gyd-weddio, weithiau yn nghysgod y dasau mawn, ar lân y môr (byddai mawn yn cael ei dori yn agos i'r traeth, a'i dasu ar ben y clawdd llanw), bryd arall yn y Dyffryn Gwyn, neu ynte mewn ty bychan o'r enw Hen Felin, mewn cwm cudd, o fewn pum' milldir i Dowyn, a thua milldir a haner o Aberdyfi. Ystyrid John Lewis, yr Hen Felin, yn ddyn duwiol iawn ganddynt. Byddent wrthi yn gweddio weithiau drwy'r nos, ac yn gwawrio dydd arnynt yn dychwelyd adref, eto nid oeddynt yn cwyno oherwydd blinder. Tebygol mai y cyfarfodydd hyn yn Nyffryn Gwyn fu dechreuad yr achos yn nghapel Maethlon, ac mai y fintai fach a gyfarfyddent yn yr Hen Felin oedd dechreuad achos y Trefnyddion Calfinaidd yn Aberdyfi. Bu yr achos yn y lle diweddaf, meddai yr hanesydd yn yr hen law-ysgrif (Edward Williams), am amser maith heb neb yn aelodau yno, ond ychydig wragedd. Yr oedd y Gymdeithasfa [Cyfarfod Misol] erbyn hyn wedi neillduo Edward Williams, Daniel ac Evan Jones yn flaenoriaid, ac ar ysgwyddau y rhai hyn y gorphwysai yr achos yn Aberdyfi, yn benaf.
"Yr oedd gŵr ieuanc, talentog, yn byw y pryd hwn gyda'i dad yn Pen-y-parc, ger Bryncrug, yr hwn oedd newydd ddychwelyd o'r Ysgol o Lynlleifiad [Amwythig?] ac wedi ymwasgu at y fyddin fach yn Nhowyn. Cynhelid y society bob yn ail yn Nhowyn a Pen-y-parc. Y gyfrinach grefyddol yn Mhen-y-parc fu dechreuad yr achos gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yn Bryncrug, sydd wedi dyfod erbyn heddyw (1863) yn un o'r lleoedd mwyaf blodeuog yn y plwyf."
Ysgrifenwyd yr uchod, fel y crybwyllwyd, yn 1863, o dan amgylchiadau tra manteisiol i wybod yr hanes o'r cychwyn cyntaf. Mae y modd y dechreuodd yr achos yn Nhowyn yn weddol eglur oddiwrth y cofnodion hyn; yr unig goll ynddynt ydyw, nad yw y dyddiad y cymerodd y digwyddiadau le yn cael eu nodi. Un arall yn meddu manteision rhagorol, os nad y manteision goreu oll i wybod hanes yr ardaloedd, ydoedd John Jones, Pen-y-parc. Dywed ef fod Methodistiaeth yn ddyledus i raddau am ei gychwyniad yn ardaloedd Towyn, i hen wraig o'r enw Catherine Williams, yr hon a gadwai ysgol ddyddiol. Ychydig o hanes y wraig hon sydd ar gael; yn unig hysbysir ei bod yn yr ysgol ddyddiol yn egwyddori y plant dan ei gofal yn elfenau crefydd, a darfu iddi trwy hyny barotoi llawer ar ei hysgolheigion i dderbyn yr efengyl, ac i goleddu syniadau mwy tyner na phobl yr oes hono, am grefydd a chrefyddwyr. Hysbysir hefyd ddarfod i amryw o'r genethod fu'n cael eu haddysgu ganddi ddyfod yn "famau yn Israel," a bu ei meibion yn wasanaethgar i gynydd Methodistiaeth yn y fro wedi ei chladdu hi.
Yr ydym yn gweled, bellach, trwy yr amlinelliad blaenorol o'r hanes, pa fodd y dechreuodd yr achos yn ardaloedd y parthau hyn, a pha fodd yr ymledaenodd crefydd trwy yr holl wlad, o Gorris i lawr i Lwyngwril. Ni wyddis i sicrwydd, ac nis gellir gwybod, pa flwyddyn y sefydlwyd eglwys ymhob ardal. Ond y mae hyn yn eglur, fod yr efengylwyr Methodistaidd wedi bod yn pregethu ar hyd a lled y wlad, yn yr ardal hon a'r ardal arall, weithiau ar lân y môr, weithiau yn nghysgod gwrychoedd, pryd hyn yn nghysgod deisi mawn, bryd arall ar y ffordd fawr, dros ysbaid deng mlynedd o amser, o 1780 i 1790, heb fod crefydd eto wedi cael cartref arhosol yn odid fan. Deuai pregethwyr heibio yn awr a phryd arall, ac yn y dechreu ddim ond unwaith neu ddwy yn y flwyddyn, ac yn y manau y gwyddid fod rhyw rai yn tueddu at wrando, a chynhullid ychydig ynghyd i gadw odfa. Os byddai rhywrai, mewn rhyw fan wedi cael blas ar wrando, ceisid pregethwr i ddyfod i'w hardal, er mwyn i'w cymydogion hefyd gael clywed y newyddion da. Ac weithiau ceir y byddai crefyddwyr yn dyfod gyda y pregethwr, fel y gwelir eu bod yn dyfod gyda John Ellis, o'r Abermaw i Lwyngwril. Ond o'r flwyddyn 1790 ymlaen, am y ddwy neu dair blynedd nesaf, yr oedd y disgyblion wedi ymffurfio yn eglwysi bron ymhob man. Y mae y Parch. Robert Griffith, Dolgellau, yn coffhau yn ei Ddydd-lyfr am 1793 yr hyn a ganlyn,—" Cefais flaenoriaid y society yn Nolgellau yn dirion iawn, a byddwn yn cyfeillachu llawer â hwy. Byddwn yn arfer myned gyda hwy i gadw cyfarfodydd gweddiau, a societies, i Abercorris, Cwrt, Llanerchgoediog, Bwlch, Llwyngwril, Tŷ-Ddafydd (yn awr Sion.)"
Peth tra hynod ydyw fod ardaloedd rhwng y Ddwy Afon, llain o wlad sydd ar y terfyn rhwng y Gogledd a'r Deheudir, wedi cael eu gadael mor hir heb freintiau yr efengyl. Gwelir weithiau y cymylau yn cario y gwlaw heibio ambell ran o'r wlad, ac yn ei dywallt ar y rhan arall fyddo yn ei hymyl. Felly yma, aeth y Diwygiad Methodistaidd heibio o'r naill du, cariwyd y newyddion da am yr Iachawdwriaeth a fydd byth, o'r Deheudir i'r Gogledd, gan adael y cymydogaethau hyn yn amddifad o honynt am ddeugain neu haner can' mlynedd; ac nid oes llawer o sicrwydd fod yr un eglwys wedi ei sefydlu ynddynt hyd flwyddyn marwolaeth Rowlands, Llangeitho. Y mae traddodiad ddarfod i Morgan Llwyd, o Wynedd, broffwydo gan' mlynedd cyn toriad gwawr y diwygiad, pan wedi cael ei atal i bregethu yn Machynlleth, y byddai i'r efengyl adael y dref hono am amser hir, cyn y byddai i'r plant oedd yno yn chwareu ac yn dringo'r coed, ddyfod i oedran gwyr. Cadarnhawyd ei broffwydoliaeth am y dref ei hun, ac am ranau helaeth o'r wlad tua'r Gorllewin oddiwrth y dref. Mae yn wir hefyd na chafodd y rhanau yma o Sir Feirionydd ddim o ddoniau nerthol cedyrn cyntaf y Methodistiaid. Ni bu Howell Haries, na Daniel Rowlands, na Peter Williams, na Williams Pantycelyn, yn llefaru yma fel y buont yn ysgwyd rhanau eraill o Wynedd. A'r hyn sydd yn rhyfedd hefyd ydyw, fod y deffroad crefyddol wedi dyfod, pan y daeth, o gyfeiriad gwahanol i'r drefn arferol; fe gludwyd y tân o Drefecca a Llangeitho, oddiamgylch trwy y Bala, a siroedd y Gogledd, ac fel pe buasai arno ofn dyfod dros afon Dyfi, daeth yn ol dros afon Mawddach, o Maes-yr-afallen, ac o'r Abermaw. "Mor anchwiliadwy yw ei farnau ef! a'i ffyrdd mor anolrheiniadwy ydynt!"
Rhoddir manylion am bob lle eto, yn y benod ar ffurfiad a chynydd yr eglwysi. Terfynwn y benod hon trwy roddi ychydig grybwyllion am y ddau bregethwr cyntaf yn y dosbarth.
WILLIAM PUGH.—Yr enw wrth yr hwn yr adnabyddid ef, ac yr adnabyddir ef eto yn y wlad hon ydyw, William Hugh, Llechwedd. Saif y Llechwedd ychydig i fyny ar ochr bryn lled uchel, yn wynebu ar Eglwys y plwyf, Llanfihangel-y-Penant, a thua dwy filldir o Abergynolwyn. Ganwyd ef yn Maes-y-llan, Awst 1, 1749. Yr oedd yn fedrus mewn canu Salmau yn eglwys y plwyf cyn bod yn 5 oed. Argyhoeddwyd ef trwy weinidogaeth y Parch Benjamin Evans, Llanuwchllyn, yn Maes-yr-afallen. Dechreuodd bregethu oddeutu y fl. 1790. Bu am ysbaid o amser yn cadw Ysgol Rad, o dan arolygiaeth Mr. Charles. Bu dan erledigaeth fawr, a dirwywyd ef yn 1795 i £20 am bregethu yn ei dy ei hun, a thai pobl eraill. Yr oedd yn gerddor da, ac yn meddu ar lais peraidd, ac am ryw dymor efe a arferai arwain y canu yn Sasiynau y Sir. Yr oedd yn bregethwr cymeradwy, a bu yn ddefnyddiol gydag achos crefydd yn ei ardal ei hun a'r ardaloedd cylchynol. Efe oedd y llefarwr cyntaf oll a gyfododd ymhlith y Methodistiaid yn Nosbarth y Ddwy Afon. Bu farw Medi 14, 1829, yn 80ain mlwydd oed.
LEWIS MORRIS.—Ganwyd ef yn Nghoed-y-gweddill, yn agos i Lwyngwril, Mehefin, 1760. Yr oedd yn ddyn mawr o gorffolaeth, mwy nag odid neb yn y wlad. Efe oedd y penaf un yn ei ardal mewn campau a phob drygioni; ac yr oedd yn erlidiwr mawr ar grefydd. Cafodd ei argyhoeddi yn 1789, yn Machynlleth, yn dra damweiniol, pan yr oedd wedi myned yno i races ceffylau. Dywedai wedi myned adref ei fod yn ddyn colledig. Ei fam a ddywedai wrtho, "Tydi yn ddyn colledig! Nac ydwyt; nid wyt ti wedi lladd neb, na lladrata, na phuteinio, nid oes bosibl dy fod yn golledig." Dechreuodd bregethu yn y flwyddyn 1791, cyn pen dwy flynedd ar ol argyhoeddi. Wedi hyny, fe wnaeth lawer o ddrwg i achos y diafol, a llawer o dda i achos Iesu Grist. Yr oedd yn bur anllythyrenog yn nechreu ei weinidogaeth, ond gwnelai sôn am dano ei hun ymhob man lle yr elai, gan faint ei zel a'i ymroddiad gyda chrefydd yr Iesu. Deuai llawer i wrando arno ef na ddeuent i wrando ar neb arall. Ysgrifenodd hanes ei fywyd ei hun, rai blynyddau cyn marw, a chafodd or-oesi, fel yr arferai ddweyd, dair oes o bregethwyr. Mae yr hanes a rydd am dano ei hun, ac am y wlad yn nechreu ei oes, yn dra dyddorol. Cymerai arno ei hun gryn lawer o lywodraeth ac awdurdod yn Nghyfarfod Misol ei sir am dymor lled faith. Bu farw Mawrth 11eg, 1855, yn yr oedran patriarchaidd o 95.
PENOD IV
YR ERLEDIGAETH YN Y FLWYDDYN 1795
CYNWYSIAD.—Gwrthwynebiad i gofrestru y capelau—Gwedd newydd yr erledigaeth—Tro rhyfedd o erlid gerllaw Towyn—Galw y milwyr allan—Yr erlid yn dechreu yn Nghorris—Gosod dirwy o £20 ar William Hugh, Llechwedd, ac eraill—Y milwyr yn ceisio dal Lewis Morris—Yr achosion crefyddol yn sefyll—Tystiolaeth Robert Griffith, Dolgellau—Chwarter Sesiwn y Bala—Trwydded Edward William, Towyn—Lewis Morris yn pregethu yn Nhowyn—Methu dal yr anifeiliaid yn lanerchgoediog—Effeithiau yr erledigaeth—Barn y bobl am yr erlidwyr—Golwg gyflawn ar yr amgylchiadau.
HAN hynod a thra phwysig o hanes Methodistiaeth Sir Feirionydd ydyw yr erledigaeth chwerw a gymerodd le ymhen ychydig flynyddoedd ar ol sefydlu yr eglwysi cyntaf rhwng y Ddwy Afon. Bu crefydd yn hir, fel y crybwyllwyd, cyn cymeryd meddiant llwyr o'r rhan hon o'r sir, ond yma y cyfarfyddwyd â'r profedigaethau chwerwaf, am dymor byr, mae'n debyg, o un man yn Nghymru. Gorfuwyd i'r ardaloedd fu yn aros hwyaf heb yr efengyl, ddioddef y goruchwyliaethau trymaf yn herwydd yr efengyl. Cyfeirio yr ydys at yr erledigaeth ffyrnig a gymerodd le yn y flwyddyn 1795. Dechreuodd, mae'n wir, ryw gymaint cyn hyn, ac fe barhaodd rai blynyddau yn ddiweddarach, ond dyma y flwyddyn y cyrhaeddodd ei plwynt uwchaf. Daeth yr erlidwyr allan yn yr erledigaeth hon mewn gwedd newydd —gwedd nad oedd y Methodistiaid ddim wedi cael eu blino ganddynt o'r blaen, sef trwy gymeryd y gyfraith yn eu llaw i gosbi pregethwyr, a'r neb a'u derbynient i'w tai i bregethu. Hyd yr adeg yma, sef oddeutu y flwyddyn 1795, nid oedd neb yn perthyn i'r Methodistiaid yn y Gogledd wedi cymeryd trwydded i bregethu, yr hyn oedd y gyfraith yn ei ganiatau, a'r hyn hefyd oedd wedi cael ei wneuthur yn gyffredin gan enwadau eraill yr Ymneillduwyr. Ac nid oedd capelau na thai anedd ychwaith wedi cael eu trwyddedu gan y Methodistiaid. Ymddengys i'r priodoldeb o wneyd hyny fod dan sylw droion cyn hyn yn y Gymdeithasfa, ond yr oedd gwrthwynebiad cryf yn erbyn yn yr holl siroedd, am y rheswm nad oedd y Methodistiaid ddim yn ystyried eu hunain yn Ymneillduwyr. Yr oeddynt o'r dechreu, er's dros haner can' mlynedd, yn para i lynu o ran teimlad a chredo wrth Eglwys Loegr, er eu bod yn ymarferol wedi cilio allan o honi. Oherwydd eu hwyrfrydigrwydd i geisio amddiffyn y gyfraith drostynt, fe gymerodd eu gelynion y gyfraith yn eu llaw eu hunain i'w cosbi, ac yn yr ardaloedd hyn, yr amser a nodwyd, y dechreuodd y traha hwn. Hanesydd hynaf y Methodistiaid, y Parch. Robert Jones, Rhoslan, yn Nrych yr Amseroedd, a ddywed:—
"Bum yn rhyfeddu lawer gwaith, er maint a ddyfeisiwyd o ffyrdd i geisio gyru crefydd o'r wlad, trwy erlid mewn pregethau, ac argraffu llyfrau i'r un diben, taflu rhai allan o'u tiroedd, trin eraill yn greulawn trwy eu curo a'u baeddu yn ddidrugaredd, dodi rhai yn y carcharau, ymysg eraill, un Lewis Evan a fu yn y carchar yn Nolgellau flwyddyn gyfan, gyru eraill yn sawdwyr, &c., a chan faint o ddichellion a arferwyd, pa fodd na buasai rhai yr holl flynyddoedd yn defnyddio'r gyfraith i gosbi y pregethwyr, ynghyd â'r rhai oedd yn eu derbyn hefyd? Ond fe guddiwyd hyny oddiwrth y doethion a'r deallus trwy yi holl amser; a thrwy hyny, fe gafodd yr efengyl y wlad o'i blaen i daenu ei newyddion da yn y prif ffyrdd a'r caeau, trefydd, pentrefi, mynyddoedd, a glanau y moroedd, &c., yn ddirwystr, oddieithr y byddai ychydig erlid weithiau. Y cyntaf a ddefnyddiodd y gyfraith oedd rhyw wr bonheddig oedd yn byw yn Sir Feirionydd. Daliwyd un William Pugh, a gorfu arno dalu ugain punt o ddirwy. Ciliodd Lewis Morris i'r Deheudir rhag ei ddal, ac yno, rhoddodd. ei hun dan nodded y llywodraeth."—Tudalen 94, yr argraffiad diweddaf.
Y gwr bonheddig uchod oedd Mr. Edward Corbett, o Ynys- maengwyn. Efe, yn ol y dystiolaeth hon, oedd y cyntaf i gymeryd y gyfraith yn ei law i gosbi pregethwyr. O'r blaen, ymunai y boneddigion, yr offeiriaid, a'r werin â'u gilydd i ddirmygu, a llabyddio, a rhwystro pregethwyr a chrefyddwyr ymhob rhyw fodd, a phrawf o hyn ydoedd yr erlid mawr a fu ar y 45 a ddychwelent o Langeitho i Sir Gaernarfon. Yn awr, dechreuodd y boneddwr o Ynysmaengwyn eu poenydio mewn ffordd newydd, a meddyliodd y gallai roddi pen arnynt oll yn y ffordd hono. Yr oedd Mr. Corbett yn Ustus Heddwch, ac yn un o'r tirfeddianwyr mwyaf yn y wlad. Cadwai nifer mawr o gŵn hela, yn ol arfer boneddigion y wlad. A chan ei bod y blynyddoedd hyny yn amser o ryfel poeth a pharhaus. rhwng y deyrnas hon â Ffrainc, cadwai nifer o filwyr—gynifer a phedwar ugain," ebe Lewis Morris—o amgylch ei balas. Yr oedd yn elynol iawn i'r grefydd newydd yr oedd son am dani yn y wlad, ac yn greulon yn erbyn y pregethwyr a ddelent i dai i bregethu, yn gystal ag yn erbyn y bobl a'u derbynient i'w tai. Tybir mai dylanwad eraill arno a fu yr achos iddo gymeryd y ffordd newydd o erlid crefyddwyr, a myned i'r fath eithafion o erledigaeth. O'i ran ei hun, yr oedd, fel y ceir gweled eto, yn foneddwr hynaws a charedig yn ei ardal. Taenai yr offeiriaid bob chwedlau anwireddus am y Methodistiaid, galwent hwy yn bobl y "weddi dywyll," a dywedent mai y bobl fwyaf drygionus a dichellgar oeddynt, ac na byddai diogelwch i bersonau nac eiddo os gadewid hwy i fyned ymlaen i lwyddo, ac oblegid hyny, tybiai yntau ei fod yn gwneuthur gwasanaeth i'r wlad wrth eu cosbi.
Tro rhyfedd o erlid oedd hwnw a fu ar Benybryn, gerllaw Towyn. Coffheir am dano yn fynych gan hen bobl yn yr ardal,. ond amrywia yr adroddiad gryn lawer gan wahanol bersonau. Yn ol pob tebyg, fel hyn y digwyddodd:— Yr oedd Mr. William Jones, gŵr ieuanc a ofalai ar y pryd am eglwys yr Annibynwyr yn Machynlleth, yn pregetha ar Benybryn, Towyn, a daeth gweision Mr. Corbett, a haid o fytheuaid i'r lle i aflonyddu. Wedi i'r gwasanaeth ddechreu, chwythai arweinydd y cŵn y corn, gan ddisgwyl iddynt wneyd eu hoernadau, ond ni chymerai y cŵn sylw o hono; chwythai drachefn a thrachefn, ac o'r diwedd fflangellai â'i chwip, er hyny i gyd ni wnai y bytheuaid ddim swn, ac ni symudent mo'u tafod. Modd bynag, darfu i'r gweision a'r erlidwyr a'u canlynent amgylchu y pregethwr, gan wneuthur lleisiau ac oernadau eu hunain, a phob llwon a rhegfeydd, a bygythient ollwng y cŵn arno, i'w rwygo yn gariai oni roddai i fyny bregethu. Cymerodd hyn le oddeutu y flwyddyn 1789, oblegid y flwyddyn cynt y daethai Mr. William Jones i Fachynlleth, a bu farw ymhen dwy flynedd ; tybir i'r tro hwn effeithio ar ei iechyd.
Gosodai y boneddwr o Ynysmaengwyn weithiau gyflegrau a drylliau gyferbyn â'r manau y cynhelid gwasanaeth crefyddol, gan fygwth chwythu yn ddrylliau pwy bynag a ymgasglent yno. Gorfuwyd i'r Methodistiaid fyned a'u Cyfarfod Misol i Fryncrug unwaith oherwydd hyn. Ond cymerodd yr amgylchiad hwn le rai blynyddau yn ddiweddarach. Y tro cyntaf sydd yn hysbys iddo ddangos ffyrnigrwydd mewn erledigaeth oedd y tro hwnw ar Benybryn, uwchlaw tref Towyn. Ond mwy na thebyg ydyw fod yr ysbryd ynddo cynt, a gellir yn hawdd gasglu fod a fynai hyny rywbeth â bod crefydd wedi bod mor hir heb gael lle i roddi ei throed i lawr yn yr ardaloedd oddeutu. Wrth weled y pregethu yn myned ar gynydd, ac eglwysi yn cael eu ffurfio, ffyrnigodd y boneddwr yn fwy-fwy, daeth i ddeall fod y pregethwyr yn pregethu heb licence, ac mewn tai heb eu recordio, a galwodd ei filwyr allan i ddwyn pawb a allai i afael y gyfraith. Erbyn y flwyddyn 1795 yr oedd y storm fawr yn dechreu ymgasglu. Y flwyddyn hon ymosododd y boneddwr ar yr holl wlad yn ei gyffiniau, o Gorris i lawr i Dowyn. Hyd y gallwn ddeall, yn Nghorris y dechreuodd yr erledigaeth yn ei gwedd newydd. Yr oedd dau reswm dros. hyn. Elai yr achos crefyddol yn ei flaen yno yn well, a llwyddai yr adeg yma yn fwy nag yn un rhan arall o'r dosbarth; yr oedd hefyd un o'r pump cyntaf a ffurfiai yr eglwys. Fethodistaidd yn Nghorris, Jane Roberts, Rugog, yn byw ar dyddyn y boneddwr. Ceir yr hanes a ganlyn yn Methodistiaeth Cymru (I. 580.):-
"Yr oedd Jane Roberts a'i gŵr yn dal tyddyn o eiddo gŵr bonheddig, yr hwn oedd yn byw rai milldiroedd oddiwrthynt (10 neu 12 milldir). Yr oedd ei theulu yn lliosog, nid llai nag un ar ddeg o blant. Anfonwyd rhybudd, pa fodd bynag, i ymadael â'r tyddyn. Aeth y gwr at ei feistr tir i ymofyn am gael aros eilwaith yn y tyddyn, a chafodd addewid o hono, ar yr amod i'r wraig ymadael a'i chrefydd. Dychwelodd John Roberts adref, a gofynodd y wraig iddo,—
'Wel, John bach, sut y bu hi gyda'r gwr bonheddig?'
'Canolig,' ebe John, 'gallasai fod yn waeth.'
'A gewch chwi y tir eto?' gofynai y wraig.
'Caf,' ebe John, 'ond i ti ymadael â'r bobl yna.'
'Wel, John bach,' ebe Jane, 'os ydych chwi yn tybied mai gwell i chwi a'r plant fyddai i mi ymadael, ymadael a wnaf â chwi, ond nid â 'nghrefydd byth?' Ymddengys mai i brofi y wraig y dywedwyd hyn, oblegid ni bu raid iddi ymadael â'i thyddyn, a'i theulu, nac â'i chrefydd,"
Gwnaeth y boneddwr ymgais mwy penderfynol i gyraedd ei amcan yn yr ardal hon. Nid oedd yr Hen Gastell, sef y tŷ y cynhelid gwasanaeth crefyddol ynddo yn Nghorris wedi ei gofrestru, a chredai yntau y gallai ddwyn y rhai a ymgasglent ynddo i afael cyfraith. Ond yr oedd y ty hwnw ar dir gŵr penderfynol, sef Dafydd Humphrey, tad y diweddar Humphrey Davies, a thaid Mr. Humphrey Davies, U.H, Abercorris. Mae yn werth cael y dyfyniad canlynol eto,—
"Nid oedd yr Hen Castell, mwy na thai eraill y pryd hwn, wedi ei gofrestru yn ol y gyfraith i bregethu ynddo; a phenderfynai y gŵr bonheddig dreio beth a wnai dull arall o erlid tuag at lethu yr heresi newydd oedd yn ymdaenu mor arswydus ymhob man. Meddyliodd y mynai efe ddal gŵr y tŷ, a chynifer a geid yn ymgynull yno, a'u dirwyo oll, yn ol y gyfraith, o dan y Conventicle Act. Yr oedd deg neu ddeuddeg o'r milwyr hyn ar eu ffordd tua'r Hen Gastell, dan arfau, i ddal y crefyddwyr; ond daeth hyn i glustiau rhyw un a ewyllysiai yn dda iddynt, a rhedai hwn tra y gallai; un arall a gymerai y newydd ac a redai yr un modd, ac felly o un i arall, cerddai y newydd am ddyfodiad y milwyr, yn gynt na'r milwyr eu hunain. Pan glybu Dafydd Humphrey y newydd, brysiodd a chymerodd y pulpud o'r Hen Gastell, gan ei gario ar ei gefn, a'i guddio dan wellt yn y beudy. Yntau a ymguddiodd ei hunan mewn rhedyn yn ngolwg y ffordd, a gwelwn' meddai, 'y fyddin arfog yn dyfod dan saethu, nes oedd y mwg yn llenwi cwm Corris o ben bwygilydd. Anfonwyd un o'r gweision i ymofyn am danaf fi, a phan ddywedodd fy ngwraig nad oeddwn yn y tŷ, gorchymynodd i mi fyned at ei feistr dranoeth.' Ar hyn aethant ymaith, heb wneyd dim llawer o niwed mwy nag afradu cryn lawer o bylor. Tranoeth aeth Dafydd Humphrey at y gŵr mawr, ac wedi arwain y troseddwr i wydd ei arglwydd, gofynwyd iddo,—
'A wyt ti yn gosod y tŷ i bregethu ynddo?'
'Ydwyf, Syr,' oedd yr ateb.
'I bwy?' gofynai y boneddwr.
'I Vaughan Jones, Syr,' ebe yntau;
'Rhaid i Vaughan Jones ateb i'r gyfraith,' ebe y boneddwr.
Aeth a'r achos i'r Charter Session yn y Bala; ond nid oedd Vaughan Jones ar gael, ac nid oedd cyfreithiwr chwaith, erbyn hyn, a gymerai yr achos mewn llaw; felly disgynodd yr erlyniad yn ddirym i'r llawr."
Disgynodd yr erlyniad i'r llawr oherwydd fod y byrddau wedi troi yn erbyn y boneddwr yn Chwarter Sesiwn y Bala; ond cyn i hono ddyfod oddiamgylch yr oedd ef wedi gwneuthur hafoc o'r crefyddwyr, ac wedi creu dychryn yn eu plith ymhob man. Yn gynar yr un flwyddyn, gyrwyd milwyr o Ynysmaengwyn i ddal ac i ddirwyo eraill. Yr oedd William Hugh, Llechwedd, Abergynolwyn, un o bregethwyr cyntaf Gorllewin Meirionydd, wedi dechreu pregethu er's 5 neu 6 blynedd, a digwyddodd iddo fod yn cadw odfa mewn tŷ yn Nhowyn. Achwynwyd arno wrth y gŵr mawr, oedd yn chwythu bygythion. Anfonodd yntau 12 o filwyr i'w ddal. Cymerodd un o'r deuddeg arno fod yn glaf ar y ffordd, ac ymesgusododd; ond cyrhaeddodd yr un-ar-ddeg, yn arfog, at y Llechwedd preswylfod William Hugh, yn fore iawn, ar ddydd Gwener, yn nechreu haf 1795, ac a'i daliasant yn ei wely. Aeth yntau rhag blaen, wedi derbyn y wys, gyda hwynt at yr ynad, yr hwn a'i dwrdiodd yn dost, ac a'i dirwyodd i 20p. Bu yn alluog trwy gynorthwy ei wraig, a chyfeillion ereill, i'w talu y diwrnod hwnw, a chafodd fyned yn rhydd.
Ond nid oedd yr ystorm drosodd arno eto. Ataliwyd ef i bregethu ar ol hyn. Ymhen rhyw nifer o wythosau, aeth i ymweled â'i gyfeillion yn Nolgellau, y rhai wedi clywed am ei dywydd a fu lawen iawn ganddynt ei weled, a chymellhasant ef i ddweyd gair yn gyhoeddus. Ufuddhaodd yntau i'w cais, a phregethodd. Cyn nos dranoeth yr oedd y newydd wedi cyraedd clustiau yr Ustus Heddwch (yr oedd achwynwyr yn brysur iawn y dyddiau hyny) fod William Hugh wedi pregethu yn Nolgellau. Rhoddwyd gorchymyn allan i'w ddal yr ail waith, a phe buasid yn llwyddo y tro hwn, buasai y ddirwy yn 40p.
Ond cafodd wybod am y cynllun mewn pryd, a'r canlyniad fu iddo ddianc, ac ymguddio hyd y Chwarter Seswn nesaf oedd i'w chynal yn y sir. Nid oedd pall bellach ar gynddaredd yr erlidiwr mawr. Chwiliai a chlustfeiniai am unrhyw achwyn yn erbyn y saint, fel y llew yn y goedwig yn chwilio am ysglyfaeth. Heblaw gosod dirwy o 20p. ar William Hugh; gosododd ddirwy o 20p. ar Griffith Owen, Llanerchgoediog; 20p. ar Edward William, Towyn; ac 20p. ar dŷ yn Bryncrug, ond nid ydym yn gallu gwybod tŷ pwy oedd hwn; ac ymddengys fod Vaughan Jones, Corris, wedi cael ei rybuddio i dalu dirwy o 20p. Dichon mai y digwyddiad mwyaf rhamantus yn yr holl helyntion hyn ydyw, yr hanes am y llew o Ynysmaengwyn yn ceisio dal y cawr, Lewis Morris, Coedygweddill, ac yn methu. Adrodda Lewis Morris ei hun fod yn mwriad Mr. Corbett ei ddal er's tro. Yr oeddynt yn adnabod eu gilydd yn dda, a chyn tröedigaeth Lewis Morris, tra yr oedd, yn nhymor gwyllt ei ieuenctid, yn ben campwr chwareuon y wlad, yr ydoedd mewn ffafr mawr gyda'r boneddwr. Ond wedi iddo droi allan o'r fyddin ddu, a dechreu canmol y Gwaredwr trwy y wlad, daeth y boneddwr yn elyniaethus iawn tuag ato. Yr oedd unwaith wedi rhoddi y gorchymyn i'r cwnstabliaid ei ddal tra yr oedd yn pregethu yn Bryncrug ar nos Sabbath; daeth y swyddogion i'r lle gyda'r neges o'i ddal, a'i ddwyn o flaen y gwr mawr, ond wedi cyraedd yno, ni chyffyrddasant âg ef, a dywedir iddynt adrodd ar ol myned yn ol at eu meistr, mai ei ofn oedd arnynt. Fel y crybwyllwyd, yr oedd gan Mr. Corbett lawer o filwyr o'i amgylch, ac yr oedd gan yr ynadon y pryd hwnw awdurdod i bressio pobl, a'u gorfodi i fyned i'r rhyfel. Yr oedd yn wybyddus i Lewis Morris a'i gyfeillion, mai bwriad y boneddwr erlidgar, os llwyddai i'w ddal ef, oedd ei roddi ar fwrdd man-of-war, neu ei anfon yn filwr i faes y gwaed. Yn ngwyneb hyn, penderfynodd ei gyfeillion ei anfon i Lwyngwair, yn Sir Benfro, lle yr oedd Cadben Bowen yn preswylio, yr hwn oedd yn Ustus Heddwch, ac yn aelod gyda'r Methodistiaid. "Minau," ebe fe, "a aethum tuag yno yn ddioed." Dranoeth ar ol dal William Hugh, anfonwyd y milwyr allan i'w ddal yntau, ond digwyddodd yn rhagluniaethol ei fod eisoes wedi cychwyn oddicartref i gyhoeddiad yn Sir Drefaldwyn. Ar ei ffordd adref, aeth i'r Bala, ac erbyn hyny, yr oedd Mr. Charles a John Evans, ac eraill, mewn pryder mawr yn ei gylch, gan fod y newydd wedi cyraedd yno fod y milwyr allan yn chwilio am dano. Ac yno, perswadiwyd ef i beidio myned adref, ond i gychwyn yn ddiatreg i Sir Benfro.
"Ar y ffordd o'r Bala," ebe fe ei hun, "yr oeddwn yn myned trwy bentref Llanymawddwy; yr oedd yn enyd o'r nos a gwaeddais wrth y toll-borth yno; daeth y gŵr yn ei grys i agor y gate, ac a ofynodd i mi pa le yr oeddwn yn teithio. Ymlaen,' ebe finau. Y mae hi yn fyd garw tua Thowyn,' meddai ef mae yno ŵr bonheddig yn erlid pregethwyr y Methodistiaid; ac efe a rydd ddeugain punt am ddal un o honynt, gan fy enwi i, 'ac y mae milwyr yn chwilio yn ddyfal am dano.' Ymlaen yr aethum, a chyrhaeddais balas Llwyngwair mewn diogelwch, lle cefais dderbyniad croesawgar, a charedigrwydd mawr; ond ni chefais licence i bregethu cyn y chwarter Gwyl Mihangel, pan y daeth y Cadben Bowen gyda mi i Gaerfyrddin, ac a gafodd un i mi yno. Yn yr amser hwnw, sef o Wyl Ifan hyd Wyl Mihangel, ni bum yn segur. Ymhen tridiau wedi fy myned i Lwyngwair, cefais fy anfon i gyhoeddiad hen bregethwr o'r enw Sion Gruffydd Ellis, yr hwn oedd wedi myned yn afiach ar daith; a bum yn cadw y cyhoeddiad hwnw am bum wythnos, sef hyd Gymdeithasfa Llangeitho, yn Awst; ac yno mynwyd cyhoeddiad genyf i fyned trwy fanau na buaswn ynddynt o'r blaen, ynghyd â rhai lleoedd yr oeddwn wedi bod ynddynt yn flaenorol. Cefais y tiriondeb mwyaf oddiwrth fy nghyfeillion yn y Deheu."— Adgofion Hen Bregethwr, Traehhodydd 1847, tudal. 112.
Yr oedd Lewis Morris, yn ddiau, wedi gosod ei hun yn agored i beryglon dirfawr yn nechreuad y daith bon, ac yr oedd wedi arfer cyfrwysdra nid bychan yn ei fynediad trwy Lanymawddwy, a thrwy y toll-byrth ar hyd y ffordd. Gan ei fod yn ddyn mor hynod o ran maintioli ei gorff, a chryfder ei lais, y syndod ydyw iddo ddianc heb ddyfod i'r amlwg, a chael ei fradychu. Tra yr oedd ef yn aros mewn diogelwch, ac yn mwynhau breintiau crefydd yn y Deheudir, yr oedd y crefyddwyr o amgylch ei gartref, yn Sir Feirionydd, wedi eu dal gan ddychryn, ac ofnau, ac enbydrwydd, hyd yn nod am eu heinioes. Ac nid rhyfedd ei bod hi felly, gan fod y mwyaf cawraidd o honynt oll wedi ffoi. Nid oedd yr un capel hyd y flwyddyn hon wedi ei adeiladu trwy yr holl wlad, o afon Abermaw i afon Dyfi. Yr oedd yma naw neu ddeg o eglwysi wedi eu ffurfio er's pedair neu bum' mlynedd, a rhai o honynt, feallai, yn gynt. Mewn tai anedd y cynhelid y cyfarfodydd eglwysig, ac nid oedd yr un o'r rhai hyny eto wedi ei recordio. Tra yr oedd llid y boneddwr trahaus wedi enyn i'r fath raddau, ac yn tori allan ar dde ac ar aswy, yn ystod yr haf bythgofiadwy hwn, yr oedd wedi myned yn ddyryswch hollol ar y crefyddwyr, druain. Yr oedd tafodau y pregethwyr wedi eu distewi, a hwythau wedi cymeryd y traed i ffoi, a rhai o'r bobl a'u derbyniasent i'w tai wedi ffoi gyda hwy; ofnai eraill agor drws eu tai, rhag iddynt gael eu drygu yn eu hamgylchiadau trwy ddirwyon trymion; yr oedd arswyd a dychryn wedi meddianu yr holl wlad, o Dowyn i Gader Idris, ac o Arthog i Bennal, ac am dymor byr, yr oedd yr achos crefyddol wedi sefyll yn llwyr rhwng y Ddwy Afon. Dywedir hefyd i gapel Dolgellau gael ei gau i fyny am un Sabbath yr adeg yma, gan fel yr oedd arswyd wedi meddianu y pregethwyr. Erbyn hyn, yr oedd sôn am yr erledigaeth wedi cyraedd i'r cyrion y tuallan i'r ardaloedd, ac enynid cydymdeimlad cyffredinol â'r saint oedd yn cael eu gorthrymu mor greulon. Yn y Bala, yn neillduol, yr oedd y pryder a'r gofal a amlygid dros y rhai a erlidid yn fawr dros ben. Yr oedd y Parch. Robert Griffith, Dolgellau, yn ŵr ieuanc newydd ddechreu pregethu. Dengys y dyfyniad canlynol o'i Gofiant, yr hwn a ysgrifenwyd ganddo ef ei hun, beth oedd sefyllfa pethau yn yr ardaloedd hyn, a pha beth oedd y teimlad y tuallan i'r ardaloedd:—
"Tua'r amser hwn, yn y flwyddyn 1794, neu 1795, darfu i Mr. Corbett, o Ynysmaengwyn, ymroi i erlid y Methodistiaid; gorfododd i'r brawd William Hugh, Llanmihangel, dalu 20p. o ddirwy am bregethu heb licence; dirwyodd eraill am roddi eu tai i bregethu ynddynt heb eu recordio, ac eraill i bum' swllt yr un am wrandaw yn y cyfryw leoedd. Nid oedd y Methodistiaid hyd yn hyn yn eu harddelwi eu hunain fel Ymneillduwyr; feallai am fod amryw o'r offeiriaid yn perthyn i'r Corff, ac mai offeiriaid yn benaf oedd ei sylfaenwyr; ac fel hyn, nid oedd gan neb o'r pregethwyr licence i bregethu, canys nid oedd cyfraith i'w hamddiffyn ond fel rhai o dan y cymeriad o Ymneillduwyr. Ond yr amser hwn, gorfu ar yr holl bregethwyr yn y Gogledd gymeryd licence; a chofrestrwyd y capelau, ynghyd â thai anedd i bregethu ynddynt. Daeth llythyr o'r Bala i Ddolgellau yn hysbysu fod modd gochelyd talu y ddirwy am bregethu mewn tai oedd eto heb eu cofrestru, trwy gymeryd y llwon gofynedig cyn pen pum' niwrnod wedi cael y rhybudd cyfreithiol, os da yr wyf yn cofio, a pheidio pregethu yn y manau hyny hyd y Chwarter Sesiwn. Aeth y brawd Hugh Llwyd, un o flaenoriaid Dolgellau, a minau yn ddioed i Gorris, at Vaughan Jones, ac i Lanerchgoediog, at Griffith Owen, dau wr a rybuddiasid i dalu y ddirwy o 20p bob un; a phrydnhawn yr un diwrnod, aethom dros afon Mawddach i Lanenddwyn, at Mr. Owen, ac i Hendreforion, at Mr. Parry, dau ustus heddwch, i gymeryd y llwon angenrheidiol; ac felly yr aeth yr ystorm hono heibio. Yn wyneb hyny o erledigaeth, yr oeddym yn gweled rhai proffeswyr yn ofnus, ac yn anmhenderfynol pa beth a wnaent. Yr oedd yn amlwg y buasai yn well ganddynt i Hugh Llwyd a minau beidio galw yn eu tai wrth fyned heibio, gan na fynent ar hyny o bryd gymeryd arnynt mai Methodistiaid oeddynt. Ond yr oedd rhai eraill yn ymddangos yn wrol, ac yn ymddwyn yn garedig atom. Gobeithio yr wyf na welir byth erledigaeth yn Nghymru; ond meddyliais lawer gwaith wedi y tro hwn, os byth y cawn weled erledigaeth yn ein gwlad, y caem ein siomi am sefydlogrwydd llawer o broffeswyr, ac hwyrach y caem y siomedigaeth fwyaf ynom ein hunain." Y Drysorfa, 1847, tudal. 66.
Bellach nid oedd dim i'w wneyd ond disgwyl am Chwarter Sesiwn y Bala. Yr oedd y boneddwr o Ynysmaengwyn yn ustus heddwch, ond nid oedd dim heddwch i'r Methodistiaid oddiwrtho ef, na diogelwch ychwaith, heb son am heddwch. "Os tewi a son a wnai di y pryd hwn, esmwythdra ac ymwared a gyfyd i'r Iuddewon o le arall." Felly hefyd cyfododd ymwared i'r Methodistiaid o le arall. Gwnaethpwyd cais am drwyddedau i'r pregethwyr, ac am i'r tai lle y cynhelid pregethu gael eu cofrestru. Cymerodd Methodistiaid y Bala ran flaenllaw mewn dwyn ymlaen eu cynorthwy, yn enwedig Mr. Charles, a John Evans, yr hen bregethwr. Rhoddodd Mrs. Charles hefyd lawer o gynorthwy yn yr achos hwn, fel y gwnaeth yn achos capel Llanfachreth. Trwy eu hofferynoliaeth hwy sicrhawyd gwasanaeth cyfreithiwr i ddyfod i'r Bala i ddadleu achos y rhai a ofynent am drwydded. Mae yr hanes hwn yn cael ei adrodd yn Methodistiaeth Cymru (I. 584.):—
"Yn y cyfamser, yr oedd Chwarter Sesiwn yn y Bala gerllaw,. a darpariaeth wedi ei wneuthur i geisio yno amddifyniad y gyfraith, trwy alw am gyfreithiwr enwog, o Gaer y pryd hwnw, ac ar ol hyny o'r Cymnau, gerllaw Caergwrle, yr hwn oedd yn Ymneillduwr ei hun. Dangosai ynadon Sir Feirionydd bob anmharodrwydd i drwyddedu pregethwyr; ond hyny ni allent omedd i'r sawl a geisient, heb droseddu y gyfraith eu hunain; a phan rhoddwyd ar ddeall iddynt gan David Francis Jones, Ysw., y cyfreithiwr, fod yn rhaid iddynt naill ai rhoddi amddiffyniad y gyfraith i'r pregethwyr, neu fyned dan ei chosb eu hunain, nid oedd dim i'w wneyd ond plygu. Un o'r ustusiaid, yr hwn oedd barson Llandderfel, a ddywedai, 'Os rhaid i'm llaw arwyddo y papyrau hyn, y mae fy nghalon yn erbyn hyny.' 'Y cwbl sydd arnom ni eisiau,' ebe Mr. Jones, yw eich llaw; am eich calon, nid ydym ni yn gofalu dim am hono." Felly eu trwyddedu a gawsant; ac o hyny allan, anogwyd y pregethwyr i geisio trwyddedau mor wresog ag y gwaharddwyd hyny iddynt o'r blaen. Cofrestrwyd y tai pregethu hefyd. Yn y modd yma y cafwyd diogelwch rhag y ffurf yma hefyd o erlid. Ni ddefnyddid y dull hwn, tra y gellid cael y werin ffol i derfysgu a baeddu; ond wedi i'r Methodistiaid enill teimladau y werin o'u plaid, nid oedd ond ceisio eu llethu trwy rym cyfraith; ond nid oedd hyn bellach i'w gael, gan fod yr awdurdod a'u llethai hwy gynt, yn awr yn eu hamddiffyn;— y cleddyf a'u harchollai gynt, a archollai eu gorthrymwyr bellach. Y wlad hon, weithian, a gafodd lonydd."
Un o'r rhai oedd yn ymofyn am gael cofrestru ei dy o flaen ynadon Sir Feirionydd yn y Bala y diwrnod hwnw, ac a lwyddodd hefyd i gael trwydded, ydoedd Edward Williams, dilledydd, Towyn, yr hwn a ddirwywyd i 20p am ganiatau i William Hugh bregethu yn ei dŷ, ac a fu yntau hefyd ar ffo o hyny hyd y pryd hwn. Ychydig amser yn ol, cawsom y fraint o weled y drwydded hon fel yr ysgrifenwyd hi yn wreiddiol ar groen, a dangoswyd hi yn gyhoeddus i'r Gymdeithasfa a gynhaliwyd yn Towyn, yn y flwyddyn 1885. Y mae yn cael ei chadw fel trysor gwerthfawr gan rai o hiliogaeth yr hen bererin. Gwaith rhagorol, er mwyn coffadwriaeth yr hen Gristion, fyddai i'r teulu ei throsglwyddo i'w chadw yn Ngholeg y Bala, neu Aberystwyth. Wele gopi o honi air am air—
"Merioneth
to wit. |
} | Thomas a Becket Sessions, 1795, held before Rice Anwyl and Thomas Davies, Clerks |
That a Certain House called Porthgwyn, now in the occupation of Edward Williams, Taylor, situate in Towyn in the County of Merioneth, was this seventeenth day of July 1795, recorded as a place of religious worship for the use of the Protestant Dissenters according to the Statute in such case made and provided.
EDWARD ANWYL,
Dpty. Clerk of the Peace."
Un o'r ddau a enwir yn y drwydded hon ydoedd parson Llandderfel, yr hwn a ddywedai yn y llys, "Os rhaid i'm llaw arwyddo y papyrau hyn, y mae fy nghalon yn erbyn hyny." Ar ol hyn aeth yr ystorm fawr heibio. Nid oedd perygl i'r rhai oedd wedi cael y trwyddedau oddiwrth y gyfraith mwy, er nad oeddynt eto yn ddiberygl oddiwrth ddynion creulon. Y Sabbath cyntaf ar ol fy nyfod adref," ebe Lewis Morris, "aethum y boreu i Dowyn i bregethu. Erbyn myned yno yr oedd y milwyr ar yr heol, yr hyn na arferent fod ar y Sabbothau; a rhai o'm cyfeillion a'm cyngorasant i beidio cadw odfa, gan eu hofn, ond dywedais nad oedd wiw ildio bellach, ac nid oedd raid en harswydo, am fy mod tan gysgod amddiffyniad cyfraith Prydain Fawr. Felly cadw yr odfa wnaed, a llonyddwch a gafwyd. Yr oedd yr erlidwyr bellach yn analluog i wneuthur niwed i ni." Nid yn unig yr oedd y pregethwr tan amddiffyniad cyfraith Prydain Fawr, ond yr oedd y ty hefyd y pregethid ynddo, ac yr oedd y rhai a elent i mewn i'r tŷ i wrando, o tan amddiffyniad yr un gyfraith, fel na feiddiai squire y plwyf, na'i filwyr wneuthur niwed i neb o honynt. Tybed nad oedd yr ychydig grefyddwyr yn Nhowyn y boreu Sabbath hwnw yn teimlo yn debyg fel y teimlai yr Iuddewon, pan y daeth Petr o hyd nos i guro wrth dŷ Mair, mam Ioan, wedi dianc yn rhydd oddiwrth y pedwar pedwariaid o filwyr yn ngharchar Herod!
Tranoeth ystorm ydoedd. Wedi i'r dymestl fyned heibio, y gwyntoedd ostegu, a'r gwlawogydd beidio, y mae tawelwch yn dilyn, yr elfenau fel pe wedi blino yn ymladd, ac wedi myned oll i orphwyso a huno, a môr a thir wedi dyfod mor llonydd a llyn llefrith. Gellwch weled eich cysgod yn y llyn dŵr, a chlywed deilen rhedynen yn disgyn ar y llawr, gan faint y tawelwch sydd o'ch deutu. Eto i gyd, mae y dymestl wedi gadael ei hôl ar ddyn ac anifail, a natur drwyddi draw wedi ymddryllio, a bydd gwaith nid bychan i adgyweirio yn ol llaw. Felly y gwnaeth ystorm yr erledigaeth ruthr brawychus ar yr eglwysi bychain oeddynt wedi ymgasglu ynghyd ychydig amser yn flaenorol. Gwnaed y gwan-galon yn wanach, a gyrodd i gilio y rhai oeddynt eto heb eu gwreiddio yn y gwirionedd. Ond gwnaeth yr oruchwyliaeth arw y ffyddloniaid yn ffyddlonach, fel y mae y tân yn gwneyd yr aur yn burach. Yr oedd Edward William mor hoew a'r biogen ar hyd tref Towyn, ar ol cael ei dŷ wedi ei drwyddedu. Dangosodd fod plwc ynddo lawer tro ar ol hyn. Lluchiodd yr erledigaeth ei thonau dros Dowyn a'r amgylchoedd, mewn rhyw wedd neu gilydd, dros ryw gymaint o amser eto. Pan oedd un o'r cyfeillion yn myned a'r gloch trwy y dref, i gyhoeddi fod gwr dieithr yn pregethu yn y capel, daeth y boneddwr o'r Ynys ar draws y crier, a gorfu arno ffoi i'w gell. Ar hyn, aeth Edward William a'r gloch allan ei hun, ond ymaflwyd yn y gloch o'i law, a tharawyd ef â hi; ond yr unig anhap, yn ffodus, a ddigwyddodd y pryd hyn oedd, colli'r gloch, a dernyn o gantel yr het a aethai ymaith gyda'r ergyd. Fel hyn y cyfryngodd Rhagluniaeth, onide gallasai darn o'r pen fyned ymaith yr un modd. Daeth Mr. Jones, y cyfreithiwr o Gaer y crybwyllwyd am dano, i wybod am hyn, ac anfonodd gais at Edward William am iddo ganiatau y boneddwr yn ei law ef am y weithred. Ond nacawyd y cais, "Yr wyf wedi ei roddi," ebe E. W., "yn llaw uwch gŵr na chwi, Syr."
Yr oedd Griffith Owen, Llanerchgoediog, wedi ffoi pan y dirwywyd ef i 20p. Ac anfonodd Mr. Corbett ei stiward a chwnstabliaid i'w dyddyn, i geisio rhai o'r anifeiliaid i lawr i Dowyn, i'w gwerthu. Gan ei bod yn yr haf, yr oedd y gwartheg yn y ffridd; aethant hwythau i'r ffridd i'w hymofyn. Wrth eu gweled y dyfod yno ar y fath neges, yr oedd gwragedd crefyddol a duwiol yr ardal ar eu gliniau yn gweddio ar iddynt fethu yn eu hamcan. Llwyddodd eu gweddiau yn rhyfedd i roddi atalfa ar yr atafaeliad. Methasant a dal yr un o'r anifeiliaid; yr oedd y gwartheg a'u cynffonau i fyny yn y gwres, yn rhedeg i bob cyfeiriad; rhedai y cwnstabiaid yn llewis eu crysau, ac er eu llafur, a'u lludded, a'u chŵys, gorfu iddynt roddi i fyny, a dychwelyd adref yn eu cywilydd. Yr oedd Griffith Owen yn daid i Mr. Griffith Pugh, Berthlwyd, blaenor yn bresenol gyda y Methodistiaid yn Bryncrug.
Effeithiodd yr erledigaeth hon er drwg ac er da. Megis y bu yr ymraniad rhwng Harries a Rowlands, ddeugain mlynedd yn flaenorol, yn gwmwl du dros Gymru, yn achos i laweroedd ollwng eu gafael o'u proffes, ac i grefydd mewn llawer ardal ddiflanu yn llwyr, yr un modd, fe ddrygodd y dymhest hon achos y Gwaredwr am ysbaid rhwng y Ddwy Afon, a bu yn waith rhai blynyddau i adgyweirio y rhuthr a wnaed. Yr un pryd, bu yn foddion i beri i'r ychydig ffyddloniaid gredu yn gryfach nag erioed fod yr Arglwydd o'u tu. Am Gorris yr ysgrifenwyd yr hyn a ganlyn, a chofnodwyd yr hanes yn y flwyddyn 1840, tra yr oedd llygaid-dystion o'r amgylchiadau eto yn fyw.
"Wedi yr erledigaeth uchod, aeth yr olwg arnom yn isel iawn gan ein digalondid a'n hofnau; ond ni lwyr ddiffoddodd y tân sanctaidd yn eneidiau y ffyddloniaid. Pan geid ambell i bregethwr i'n plith, dygai yr hen wragedd damaid iddynt mewn napcyn, ac a'i gosodent mewn twll yn y mur tra parhai yr odfa; byddai hwnw yn lled flasus. Trwy y weinidogaeth yr amseroedd hyny, deffrowyd amryw am eu cyflwr, nes cynyddu o'r eglwys i o 15 i 20 o rifedi."
Ond pa fodd yr ymdarawodd y rhai a ddirwywyd mor drwm? Pobl dlodion oeddynt oll, ac yr oedd 20p yn swm mawr iddynt hwy i'w dalu eu hunain, heblaw yr amser oeddynt wedi golli trwy ffoi o'u cartrefi. O ba le y cafodd y bobl druain arian i dalu y dirwyon? Yr hanes a adroddir gan eu teuluoedd a'u perthynasau ydyw fod y Gymdeithasfa wedi eu talu. Yr oedd y Cyfundeb yn cynorthwyo y gweiniaid y pryd hwnw; ac hwyrach yn helaethach nag yn awr. Er nad oedd dim rheolau wedi tynu allan, pa fodd i estyn cynorthwy, yr oedd cariad ac ewyllys da yn ddigon o gymhellion i gynorthwyo mewn amgylchiadau o fath y rhai hyn. Ymddengys hefyd fod cydymdeimlad mawr yn cael ei amlygu at y gorthrymedigion gan y brodyr crefyddol yn Nolgellau a'r Bala. Yr oedd Cyfarfod Misol yn bod yr amser yma, y ddau ben i'r sir yn un, ond nid ydym wedi cael allan am ddim symudiad a wnaeth y Cyfarfod Misol fel y cyfryw yn y mater. Cylch eangach, sef y Gymdeithasfa, oedd yn rheoli mewn amgylchiadau o'r fath yma yn y blynyddoedd hyny.
Naturiol iawn ydyw gofyn y cwestiwn hefyd, Beth a ddaeth o'r erlidiwr? Dywed Lewis Morris am dano,—"Gellir sylwi na ddarfu i'r boneddwr hwn ddiweddu ei ddyddiau yn gysurus, yn ei feddwl nac yn ei ystad. Dywedir ei fod yn ei flynyddoedd olaf mewn ofn mawr rhag y Methodistiaid. Yn amser terfysg a fu yn Manchester yn 1817, dywedai, 'Beth os cwyd y Methodistiaid? Hwy a'm lladdant i yn sicr.' Nid oedd efe, druan gŵr, yn eu hadwaen, nac yn gwybod mai ysbryd addfwyn a llonydd a feithrinid ganddynt yn eu holl gymdeithasau; ond euogrwydd ei feddwl oedd yn creu bwganod i'w ddychrynu."
Ond y mae hanesion ar gael, a ffeithiau hefyd ymhlith y trigolion, wedi eu trosglwyddo o dad i fab, mai boneddwr caredig oedd Mr. Edward Corbett. Cael ei yru i erlid y Methodistiaid a gafodd gan eraill, y rhai a gludent bob chwedlau drwg iddo am danynt. Yr oedd achwynwyr yn brysur mewn gwaith o'r fath o gwmpas palas y boneddwr. Cares i William Hugh, Llechwedd, a achwynodd arno gyntaf; a'r ail dro dygwyd y newydd i'r Ynys cyn nos dranoeth ei fod wedi pregethu yn Nolgellau. Arferai y diweddar Humphrey Davies, Corris, yn fynych adrodd yr hyn a glywsai efe ei hun o enau y boneddwr, fel prawf ei fod yn cael ei dwyllo gan ei weision ei hun. Yr oedd H. D. un tro ar ymweliad ag Ynysmaengwyn ar neges cyn diwedd oes yr hen foneddwr. Arweiniwyd ef gan Mr. Jones, y goruchwyliwr, i'r ystafell lle yr oedd yr hen ŵr, yr hwn a ofynai, pan welodd Mr. Humphrey Davies, "Pwy yw hwn sydd gyda chwi, Mr. Jones?" "Gŵr o Gorris, wedi dod ar neges," ebe yntau. "O, gŵr o Gorris, ai e? Fi chwalu hen gapel Corris, a thaflu y pulpud dros y geulan i'r afon." Dywedai H. D. fod ei waed yn berwi wrth ei glywed, gan fel yr oedd yn teimlo nad oedd Mr. C. yn gwybod y gwir hanes.
Cynhaliwyd Cymdeithasfa yn Nhowyn, ymhen deuddeng mlynedd ar ol yr helyntion hyn, sef yn y flwyddyn 1807, y gyntaf erioed a gynhaliwyd yn y lle. Pryderai llawer ynghylch cynal y fath gyfarfod mor agos i balas y boneddwr, ac adroddir amryw hanesion ynglŷn â'r amgylchiad. Ymhlith eraill, dywedir i ŵr oedd yn cadw gwest-dŷ yn y dref fyned ato, i'w hysbysu am y cyfryw gyfarfod, ac nas gallai efe atal i'r Methodistiaid ddyfod i'w dy, ac heblaw hyny, y gwyddai mai hwy oedd y bobl agosaf i'w lle a ddeuent i'w dy ef. Arwyddodd yntau ei foddlonrwydd iddo wneyd fel y mynai. Diwrnod cyntaf y Gymdeithasfa aeth rhai o'r hen dylwyth chwedleugar i ddweyd fod llawer o bobl wedi dyfod i'r dref, ac y byddai yno lawer mwy dranoeth, gan feddwl yn sicr cael croesaw ganddo. Ond y cwbl a gawsant ganddo oedd, "Gwnant lawer o les i'r dref." Ymhen y flwyddyn bu Sasiwn yn y dref drachefn (cedwid Sasiwn yn flynyddol yn Nhowyn am amser maith ar ol hyn), a phwy y tro hwnw a anfonai gais at y pregethwyr am gael pregeth Saesneg ond merch y boneddwr. Cydsyniwyd a'i chais, pregethwyd pregeth Saesneg gan un o'r Methodistiaid, sef y Parch. Robert Ellis, y Wyddgrug, yn Nhowyn, yn y flwyddyn 1808. Safai y foneddiges ieuanc ar yr heol, a gwrandawai yn astud ar y bregeth drwyddi.
Prawf arall fod y boneddwr wedi cael ei arwain, i fesur, gan eraill i'r erledigaeth ydyw y geiriau a adroddai ef ei hun ymhen blynyddoedd ar ol hyn. Digwyddai fod prinder ymborth mawr yn y wlad, oddeutu 1817 neu 1818, ac eisiau bara yn gwasgu yn drwm ar y preswylwyr. Gan gredu y byddai hyny o ryw wasanaeth, anfonodd y gŵr boneddig am lwyth llong o haidd i Aberdyfi; a chymaint oedd yr awyddfryd am ei gael, fel y gwerthwyd y cwbl mewn deuddydd. Synodd y boneddwr at hyn; ni feddyliasai fod angen y tlodion mor fawr. A chan gyfeirio at yr amgylchiad, efe a dorodd allan i lefaru, gan ddywedyd; "Welwch chwi, pe buasai y Methodistiaid wedi gwneyd rhywbeth, cawswn wybod y cwbl gan y clepgwn, ond ni fu wiw ganddynt ddweyd fod y fath eisiau ar y tlodion!" Y mae yn deilwng o sylw fod hiliogaeth y boneddwr hwn wedi darfod oll o'r wlad er's dros 10 mlynedd. Yr erledigaeth hon, hefyd, fu yn foddion i beri i'r pregethwyr,. a'r capelau, a'r tai gael eu trwyddedu ymhob man—yn y siroedd eraill yn gystal a'r sir hon, ac i'r Methodistiaid alw eu hunain yn Ymneillduwyr. Rhydd y dyfyniad canlynol olwg gyflawn. ar yr amgylchiadau: " Deallodd Mr. Charles, mewn ymddiddan â'r cyfreithiwr parchus hwn, pryd yr adroddodd wrtho yr erledigaeth yr oedd y Methodistiaid dani oddiwrth foneddwr ac ustus heddwch yn y sir, fod C——t wedi troseddu y gyfraith ei hun, wrth ddirwyo pregethwyr, a'r rhai a'u derbynient i'w tai, gan na ranodd ef y dirwyon rhwng yr hysbyswyr a thlodion y plwyf yn ngwydd y dirwyedig. Cynygiodd y cyfreithiwr gymeryd y boneddwr mewn llaw, a'i gosbi i'r eithaf. Hyn nis boddlonai Mr. Charles iddo wneyd, nes O leiaf iddo gydymgynghori a'i frodyr; ac wedi iddo ddychwelyd, a gosod yr achos gerbron, barnwyd yn fwy Cristionogol, ac yn debycach o effeithio yn dda ar y boneddwr ei hun, yn gystal ag ar eraill, iddynt beidio ei fwrw i grafangau y gyfraith. "Pan oedd y boneddwr y soniasom gymaint am dano yn chwythu bygythion allan yn erbyn y Methodistiaid, a chyn iddo ddirwyo neb, yr oedd Cymdeithasfa yn y Bala, a chymerwyd yr achos i ystyriaeth, ai nid dyledswydd y Cyfundeb oedd gosod eu pregethwyr, a'r tai pregethu, yn ddioed dan nawdd y gyfraith, trwy Ddeddf y Goddefiad (Toleration Act)? Yr oedd. Mr. Charles, John Evans, ynghyd ag eraill, o'r farn mai hyny oedd eu dyledswydd; ond gwrthwynebid hyn yn gryf gan eraill, ac yn benaf y brodyr o Sir Gaernarfon, gan na fynent, er dim, gael eu cyfrif yn Ymneillduwyr. Y canlyniad fu i ddirwy o 20p. gael ei osod ar William Pugh; 20p. ar dŷ yn Nhowyn; 20p. ar dy yn Mryncrug; ac 20p. ar dŷ yn Llanerchgoediog. Parodd hyn, fel y gallesid meddwl, fraw a synedigaeth trwy y wlad. Deallwyd fod boneddwyr eraill yn bwriadu gwneyd yr un peth â C——t. Bu capel Dolgellau yn nghauad un Sabbath; mae'n debyg oblegid yr arswyd a ddaliasai y pregethwyr i fyned allan heb eu trwyddedu. Dygodd yr amgylchiadau hyn y mater mewn dadl i lwyr benderfyniad, a hyny yn bur fuan. Nid oedd eisiau rheswm, mwyach, o blaid Ymneillduaeth; yr oedd llais yr erledigaeth yn uwch na llais rheswm; ac o hyny allan, ni bu un petrusder mewn un fynwes i gymeryd trwydded, ar gyfrif fod yn rhaid ei chymeryd ar dir Ymneillduaeth. Ac yn y cyfwng hwn yr anfonwyd, fel y dywedasom eisoes, am David Francis Jones, i'r Bala; a thrwyddo y caed nodded gyfraith rhag y gorthrwm blin
hwn."—Methodistiaeth Cymru (I. 599).PENOD V
HANES YR EGLWYSI
CYNWYSIAD.—Abergynolwyn—Bwlch—Bryncrug—Llwyngwril—Llanegryn—Corris—Aberllyfeni—Ystradgwyn—Esgairgeiliog—Bethania—Towyn—Pennal—Maethlon—Abertrinant—Aberdyfi—Eglwys Saesneg Towyn—Eglwys Saesneg Aberdyfi.
N y benod hon, rhoddir crynhodeb o hanes yr eglwysi —eu ffurfiad, eu cynydd, a'u sefyllfa bresenol. Bu raid ymfoddloni ar ychydig o hanes eu ffurfiad, am fod yn anmhosibl dyfod o hyd iddo. Pob peth pwysig mewn cysylltiad â'r achos, hen a diweddar, y llwyddwyd i'w gael, ceisiwyd ei gyfleu yn ei le priodol, gan amcanu i ochel byrdra ar y naill law, a meithder ar y llaw arall. Ynglŷn â phob eglwys, ceir byr-hanes am ei swyddogion, oddieithr nifer o'r blaenoriaid hynotaf, i'r rhai y neillduwyd penod arnynt eu hunain.
ABERGYNOLWYN.
Er mwyn y rhai sydd yn anghyfarwydd â daearyddiaeth yr ardaloedd hyn, mae yn briodol crybwyll fod Abergynolwyn yn sefyll yn union yn nghanol y wlad a elwir Rhwng y Ddwy Afon; o'r bron yr un pellder sydd o'r lle i Gorris ar y naill law, ac i Dowyn ar y llaw arall, i orsaf Glandovey Junction ar un ochr, ac i orsaf Barmouth Junction ar yr ochr arall; a'r bryniau o bob tu yn cau y lle yn unigol arno ei hun. Enw yr ardal hyd yn ddiweddar, o leiaf yn y cylch Methodistaidd, ydoedd y Cwrt. Safai y capel cyntaf yn ymyl ychydig o dai a elwid Cwrt, ar ochr Llanfihangel i'r afon sy'n rhedeg heibio o lyn Talyllyn, ac ar yr ochr arall i'r afon, yr oedd ychydig dai yn myned wrth yr enw Abergynolwyn, ac nid oedd ond ergyd careg da rhwng y ddau le. Tuag ugain mlynedd yn ol, symudwyd y capel, neu yn hytrach adeiladwyd capel newydd yr ochr arall i'r afon. Yn y cyfamser, hefyd, mae y pentref wedi cynyddu yn bentref mawr o'i gymharu â'r hyn ydoedd, ac yn awr mae yr enw cyntefig wedi ymgolli yn yr enw adnabyddus Abergynolwyn.
Yn y pentref hwn, fel y gwelwyd yn ol yr hanes yn Nrych yr Amseroedd, y pregethwyd y bregeth gyntaf gan y Methodistiaid yn y wlad hon, a hyny yn y flwyddyn 1780. Yr oedd William Hugh, y Llechwedd, yn 31 oed y flwyddyn hono. Ymhen oddeutu dwy neu dair blynedd wedi hyn yr ymunodd ef a'i gyfaill, John Lewis, Llanfihangel, â chrefydd yn Nolgellau. Hwy eu dau yn ddiameu oedd y proffeswyr cyntaf yn yr ardal. Daeth pregethu yn fwy aml i'r fro wedi hyn. Y lle cyntaf y buwyd yn cynal moddion, ar ol bod yn pregethu ar y cychwyn yn yr awyr agored, oedd man a elwid Cerrig-y-felin, yr hwn le a gafwyd trwy gymwynasgarwch ewyllysiwr da i'r achos, yr hwn oedd yn byw yn Tynyfach. Ni cheir cofnodiad yn un man pa bryd y ffurfiwyd yr eglwys; ond gellir casglu oddiwrth yr amser yr oedd y ddau wr da, William Hugh a John Lewis, yn myned i Maes-yr-afallen a Dolgellau i wrando pregethu, ac oddiwrth y ffaith hefyd eu bod yn dyfod â phregethwyr i'w hardal eu hunain i bregethu, na buont yn hir heb ffurfio eglwys. Oddeutu 1785, blwyddyn dechreuad yr Ysgol Sul yn Nghymru, ydyw yr adeg fwyaf tebygol iddi gael ei ffurfio. Os felly, y hi a sefydlwyd gyntaf yn yr holl wlad, ryw ychydig o amser yn flaenorol i Lwyngwril a Chorris. "Ar ol marw y gŵr a ganiatasai le bychan i bregethu yn Cerig-y-felin," medd yr hanes, "anturiodd William Pugh dderbyn y pregethu i'w dŷ ei hun; a bu yr achos crefyddol (society) yn gartrefol yno dros liaws o flynyddoedd; ond byddai y pregethu yn cael ei gynal yn ei gylch, weithiau yn ei dŷ ef, ac weithiau mewn ystafell a gymerwyd i'r diben yn nghymydogaeth Abergynolwyn. Ymhen 25 mlynedd (neu feallai beth yn ychwaneg) o ddechreuad pregethu yno, adeiladwyd capel yn y Cwrt; ac ar ol hyn, o radd i radd, mudwyd eisteddfod y moddion yno oll yn gyffredinol." Y mae ardal Llanfihangel oddeutu dwy filldir o Abergynolwyn, yn nghyfeiriad Llanegryn. Yno yr oedd y crefyddwyr cyntaf yn byw; yn y Llechwedd, yn yr ardal hono, yr oedd cartref W. Hugh, y pregethwr, ac oblegid hyny yno y cynhelid y moddion am y 25 mlynedd cyntaf. Ond oherwydd fod y Cwrt yn fwy canolog i'r wlad oll, symudwyd yr achos yno yn 1805 neu 1806. Yr oedd y symudiad o Lanfihangel i'r Cwrt yn wrthwynebol i deimlad yr hen bregethwr, ac yn groes i'w foddlonrwydd y gwnaed y symudiad. Teimlai ymlyniad wrth ei ardal enedigol, a dywedai yn aml, "Byddaf foddlon i farw ond cael gweled capel wedi ei adeiladu yn ardal y Llan, a llwyddiant cyffelyb ar yr efengyl." Efe a fu y prif offeryn i gychwyn achos crefydd yn yr ardal, a chan hyny yr oedd yn naturiol i'w ymlyniad fod yn gryf wrthi. Dechreuodd bregethu ei hun oddeutu 1790, a chyn hyny yr oedd wedi llafurio llawer i gael eraill i'r ardal i efengylu.
Yn Tynyddol, yn ardal Llanfihangel, y ganwyd Mary Jones, y Gymraes fechan heb yr un Beibl, ac fe roddodd yr amgylchiad arbenigrwydd byth-gofiadwy ar yr ardal. Ganwyd hi yn y flwyddyn 1784, oddeutu yr un adeg ag y ffurfiwyd yr eglwys Fethodistaidd yn y lle. Pwy all ddweyd nad oedd y cydgyfarfyddiad hwn yn fanteisiol yn nhrefn Rhagluniaeth i ddwyn y canlyniadau pwysig a welwyd oddiamgylch! Yr oedd gwir grefydd yn beth dieithr yn y wlad, a'r ychydig grefyddwyr oedd i'w cael yn meddu ar zel anghyffredin. Gwnaeth eu zel a'u ffyddlondeb, yr hyn oedd lawer uwchlaw zel crefyddwyr yn gyffredin, argraff ddofn ar feddwl yr eneth yn nyddiau ei mebyd. Yr oedd ei rhieni, Jacob a Mari Sion, yn grefyddol. Ni oddefid i blant fod yn y cyfarfod eglwysig y pryd hyny, nac am lawer o flynyddoedd wedi hyny. Ond arferai Mary fyned gyda'i mam i'r cyfarfodydd eglwysig ar nosweithiau tywyll, i gario y lantern iddi, er pan oedd yn 8 oed, ac yn rhinwedd y gwasanaeth hwnw y gadewid iddi hi fod yn y society fel eithriad. Tebygol iawn hefyd fod yr eithriad hwn yn foddion i fwyhau ei hargraffiadau crefyddol pan yn blentyn. Pan oedd Mary Jones tua 10 oed, yr oedd John Ellis, Abermaw, yn cadw ysgol ddyddiol yn Abergynolwyn o dan Mr Charles, o'r Bala. Yr oedd John Ellis yn ŵr da a chrefyddol, ac fe sefydlodd Ysgol Sabbothol yno mewn cysylltiad a'r un ddyddiol. Dywedir mai Mary Jones oedd un o'r rhai cyntaf, a ffyddlonaf, ddilyn yr ysgol ddyddiol a Sabbothol, er fod ganddi tua dwy filldir o ffordd o'i chartref i Abergynolwyn. Hynodai ei hun yn neillduol yn yr Ysgol Sabbothol mewn trysori yn ei chôf ranau helaeth o'r Beibl. Yn y flwyddyn 1800, yr oedd Lewis William, Llanfachreth, yn cadw ysgol yn Abergynolwyn, yn ol ei dystiolaeth ef ei hun wrth Mr. R. O. Rees, Dolgellau, a Mary Jones yn yr ysgol gydag ef; a'r flwyddyn hono, yn 16eg oed, cerddodd yr holl ffordd i'r Bala at Mr. Charles i ymofyn am Feibl. Mae ei hanes hi ynghyd â'r canlyniadau a ddaeth o'r amgylchiad hwn yn ddigon hysbys. Ar ol hyn bu un William Owen yn cadw ysgol ddyddiol yn y Cwrt, ac yn ffyddlon hefyd gyda'r Ysgol Sabbothol, ychydig cyn adeiladu y capel cyntaf yn y lle. Aeth oddiyma i Aberystwyth.
Yn Tynybryn, o fewn chwarter milldir i le genedigol Mary Jones, y ganwyd Dr. William Owen Pughe, y Geiriadurwr enwog, yn y flwyddyn 1759. Ond yr oedd ef a'i rieni wedi symud o'r ardal i fyw cyn dechreuad Methodistiaeth yn mhlwyf Llanfihangel.
Y to cyntaf o grefyddwyr a fu yn offerynau i gychwyn yr achos yma a'i gario ymlaen am 25 mlynedd oeddynt,—William Pugh, Llechwedd; John Lewis, Llanfihangel; John Howell, Nantcawbach; Howell Thomas, Pennant; John Jones, Bodilan-fach. A rhaid enwi teulu Tynddol, Jacob a Mari Siôn, tad a mam y Gymraes fechan heb yr un Beibl. Yr ydys wedi gweled yn y benod ar Erledigaeth 1795, fod achos crefydd wedi bod yn y ffwrnes yma y flwyddyn hono. Dioddefodd yr eglwys lawn cymaint oddiwrth yr erledigaeth â'r un eglwys yn y dosbarth. Daliwyd y penaf o'r crefyddwyr, W. Hugh, yn ei dŷ ei hun gan y milwyr, a dirwywyd ef i 20p. Parodd hyn ofn a dychryn i ganlynwyr yr Iesu, a buont am beth amser mewn digalondid mawr. Er i'r pregethwr, a'r tŷ y pregethid ynddo, gael eu rhoddi dan amddiffyniad y gyfraith, parhaodd y rhai gweiniaid i fod dan lywodraeth ofn dros amryw flynyddau. Ac eto gwnaeth yr erledigaeth y rhai zelog yn fwy zelog. Howell Thomas, Pennant, a John Howell, Nantcawbach, oeddynt flaenoriaid cyntaf yr eglwys. John Howell oedd y dyn cryf a barodd i'r erlidwyr ffoi pan yr oeddynt ar wneyd ymosodiad ar y pregethwr yn un o'r odfeuon cyntaf yn Abergynolwyn, trwy ddyfod ymlaen a dywedyd y geiriau canlynol,-"Dewiswch i chwi yr un a fynoch, ai bod yn llonydd a distaw, ynte troi o honoch allan o'r dyrfa ataf fi." Ar ol y tro hwn daeth i broffesu crefydd. Gwelir ei enw ymhlith trustees amryw o gapeli yr ardaloedd, a adeiladwyd yn nechreu y ganrif hon. Yr oedd yn golofn gref o dan yr achos hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le tua'r flwyddyn 1820. Yr ail dô o ffyddloniaid gyda'r achos oeddynt,—Richard Jones, Llanfihangel; Richard Edwards, Nantcawbach; Richard Williams, Ceunantcoel; William Jones, Gelliddraenen; Owen Williams, Mriafal-fach; Lewis Pugh, Bryneglwys. Dyddiad y weithred, am y capel cyntaf, ydyw Rhagfyr 27ain, 1806, a'r flwyddyn hono neu y flwyddyn gynt yr adeiladwyd ef; John Thomas oedd perchen tai y Cwrt, a chanddo ef y cafwyd lle i adeiladu y capel. Prydles, 99 mlynedd; ardreth, swllt y flwyddyn. Yr oedd yn gapel hollol ddiaddurn; ei lawr yn bridd, ac heb ddim eisteddleoedd ynddo. Felly y parhaodd, mae'n debyg, am 25 mlynedd. Yn 1850, dywedir, mewn adroddiad o hanes y capelau, fod capel y Cwrt mewn cyflwr drwg iawn. Yn 1853 adgyweiriwyd ef. Mr. John Lloyd, Llanegryn, oedd yn arolygu yr adgyweiriad, trwy benodiad y Cyfarfod Misol. Yr oeddis yn Nghyfarfod Misol Pennal flwyddyn cyn hyny wedi penderfynu i eglwysi rhwng y Ddwy Afon gyfranu 30p. tuag at gapel y Cwrt, gan nodi swm penodol ar gyfer pob eglwys. Gwasanaethwyd ar ei agoriad y tro hwn gan y Parchn. Richard Humphreys, Dyffryn; David Davies, Penmachno, a Joseph Thomas, Carno. Yn amser y Diwygiad 1859 a 1860, ychwanegwyd llawer at yr eglwys, a thua yr un adeg cynyddodd y boblogaeth yn fawr iawn, mewn canlyniad i lwyddiant chwarel Bryneglwys, a bu raid adeiladu y capel drachefn. Yn 1866 adeiladwyd ef i'w faint presenol, fel y crybwyllwyd, mewn lle newydd, yr ochr arall i'r afon. Cafwyd y tir gan yr Aberdovey Slate Company, ar brydles o 999 o flynyddau, am ardreth o 10s. y flwyddyn. Y nifer all eistedd ynddo, yn ol Adroddiad o Feddianau y Cyfundeb, 1883, ydyw 358. Gwerth presenol y capel, 1000p. Yn 1845 adeiladwyd capel bychan Penmeini, yn ardal Llanfihangel, a thrwy hyny cyflawnwyd dymuniad yr hen efengylwr, W. Hugh, o'r Llechwedd, ymhen un mlynedd ar bymtheg ar ol ei farw. Yr amser hwn, a thros rai blynyddau wedi hyn, yr oedd yr ardal fechan hon yn fwy poblog, a'r gynulleidfa yn Penmeini yn fwy blodeuog na'r gynulleidfa yn Cwrt. Ond y mae Rhagluniaeth wedi rhoddi tro yn yr olwyn drachefn, ac erbyn hyn nid yw capel Penmeini ond llwydaidd yr olwg arno, a'r gynulleidfa yn fechan. Dylid crybwyll hefyd fod y capel ddechreu y flwyddyn hon (1887) wedi ei adnewyddu o'r tu mewn, a'i wneuthur yn dra chysurus. Buwyd lawer pryd yn son am symud y capel yn nes i'r Llan. Y mae Ysgol Sul hefyd yn cael ei chynal er's rhai blynyddoedd yn Bryneglwys, yn nghwr dwyreiniol yr ardal, a phregethir yno yn achlysurol.
Ar ol cychwyn yn dda bu llawer cyfnod o iselder ar yr achos yn Abergynolwyn, a hyny oherwydd tlodi a bychander rhif yr eglwys. Ar un adeg lled gynar yn ei hanes, bu agos i'r eglwys adael i'r Ysgol Sul fyned i lawr yn hollol. Yr oedd hyn yn amser William Hugh, ac efe fu yn foddion i'w gwaredu rhag ewbl ddiflanu. "Ar un achlysur, trwy bregethu yn y Cwrt, ar Zech. iv. 10., bu yn foddion i ail enyn awydd a zel yn ei frodyr o barth yr Ysgol Sabbothol, yr hon oedd bron a diflanu. Bendithiwyd y bregeth hon mewn modd neillduol, a diflanodd y caddug o ragfarn fel tarth boreuol o flaen pelydr gwresog yr haul." Cofia y Parch. Owen Evans, Bolton, ei fod yn nyddiau ei febyd yn myned gyda'i dad o Penmeini—pan oedd ei dad yn byw yno—i'r Cwrt, ir society, ar nosweithiau tywyll ganol yr wythnos, ac nid oedd dim ond dwy neu dair o hen wragedd heblaw hwy eu dau yn gwneyd i fyny y cyfarfodydd. Ceir fod y Cyfarfod Misol wedi cymeryd yr eglwys yn y Cwrt o dan ei ofal ar ol marw Richard Jones, Ceunant, tua 1848, a byddid yn penodi ar Lanegryn a Chorris, bob yn ail fis, i anfon brodyr yno i'w cynorthwyo i gynal cyfarfodydd gweddi a chyfarfodydd eglwysig. Wrth weled hyn yn para i gael ei wneuthur, dywedai Mr. Humphreys mewn Cyfarfod Misol unwaith, "Beth ydyw'r mater arnoch chwi yn y Cwrt acw, aeth pawb i'r nefoedd oddiacw gyda Richard Jones?"
Ond os oedd yr eglwys yn fechan mewn rhif, a'i haelodau yn "dlodion y byd hwn," yr oeddynt yn "gyfoethogion mewn ffydd." Am ei duwioldeb, yn yr oes o'r blaen, rhagorai yr eglwys hon ar holl eglwysi y saint. "Yr oedd yn y Cwrt lot o hen bobl dda ragorol, pan oeddwn i yno dros ddeugain mlynedd yn ol," ebe un hen frawd crefyddol wrthyf unwaith. "Mewn beth yr oeddynt yn rhagori?" gofynwn inau. Ebe yntau, "Mewn zel gyda chrefydd; mewn ffyddlondeb i ddilyn moddion gras; mewn taerineb mewn gweddi." Sonir yn ddieithriad gan bawb a adwaenent y lle lawer o amser yn ol, am dduwioldeb, a phrofiad, a chanu hen wragedd y Cwrt. Yr oedd yr hen wragedd nid yn unig yn fwy lliosog, ond yn fwy patriarchaidd eu dull na'r hen wŷr oedd yno. Y gwragedd fyddai ar y blaen gyda'r canu, a Mari Siôn, mam y Gymraes fechan heb yr un Beibl, fyddai yn arwain y canu. Crybwyllir am dani yn dechreu canu mewn hwyl orfoleddus oddeutu 1820, ac yn dyblu a threblu drachefn a thrachefn yr hen benill hwnw,—
"Am hyny dechreuwn mae 'n ddigon o bryd
I ganu caniadau i Brynwr y byd."
"Haner can mlynedd yn ol," ebe un o'r hen frodorion, yr oedd llawer iawn o hen wragedd duwiol iawn yn y Cwrt. Byddent yn canu y penill drosodd a throsodd drachefn, yn ymsymud fel y goedwig o flaen y gwynt, yn myned yn ol a blaen gyda'u gilydd, yn hollol reolaidd o ran mosiwns, ond pawb a'i floedd a'i chwch oedd hi gyda'r canu." Felly y byddent, nid ar amser diwygiad, ond yn gyffredin a phob amser. Yr oeddynt yn engraifft deg o hen grefyddwyr cyntaf y Methodistiaid. Rhai o'r hen wragedd hyn oeddynt,—Margaret Roberts, gwraig John Thomas: Mari Shôn, Ty'nddol; Mari Pugh; Mari Humphreys, gwraig Richard Jones, a Margaret Pugh, gwraig W. Pugh, Llechwedd; Catherine Lewis, mam y Parch. Lewis Jones, y Bala; Catherine Evans, mam y Parch. Robert Roberts, Dolanog; Sarah Dafydd, ac Ann Dafydd, ei chwaer, o'r Nant, ac amryw eraill. Bu yma hefyd yn yr amseroedd cyntaf ofal mawr gyda lletya pregethwyr. Eu llety cyntaf oedd gyda John Thomas, y Cwrt, y gŵr a roddodd y tir i adeiladu y capel cyntaf arno. Gwnaeth ef yn ei ewyllys fod i'w wraig, Margaret Roberts, eu cadw ar ol ei ddydd ef. Wedi i Margaret Roberts fyned yn hen, ymgymerodd Mary Pugh â chadw y pregethwyr. Rhoddodd Mary Pugh yn ei hewyllys fod i'w nith, Margaret Humphreys, eu cadw ar ol ei dydd hithau. Yr oedd gofal hen bererinion y Cwrt yn dra nodedig am lety i weision yr Arglwydd. Bu Samuel Jones, yr hen flaenor nefolaidd ei ysbryd o'r Gwynfryn, yn aros am ychydig yn ardal Llanfihangel pan oedd capel Penmeini newydd gael ei adeiladu. Richard Jones, Ceunant, a John Williams, Living, oeddynt y ddau flaenor oedd ef yn gofio yno. Elai i'r seiat i'r Cwrt. "Ychydig iawn," meddai, "oedd yn y seiat, a'r rhai hyny yn bobl dlodion iawn, ac yn hen bobl, rai o honynt dros 80 oed. Richard Jones oedd yn gwneyd pob peth yn holi y plant, ac yn eu canmol wrth eu holi. 'Wel,' meddai ar ol darfod gyda'r plant, fe holwn ni dipyn 'rwan ar y plant mawr,' ac yr oedd yn hynod gartrefol gyda hwy. Efe oedd yn dechreu y seiat trwy weddi, a gweddi ryfedd ydoedd; dywedai yn debyg i hyn: 'Arglwydd mawr, dangos dy drugaredd i ni—tyr'd atom—cadw ni—dyro fywyd i ni—gwna i ni gyfodi ar ein traed. 'Dyda' ni ddim am ofyn i ti am bethau mawr—dyda' ni ddim yn gofyn am bethau mawr genyt ti 'dyda' ni ddim yn gofyn i ti ein gwneyd ni yn frenhinoedd ac yn freninesau——gwell genym ni fod yn ein cabanau ein hunain—gwell genym ni fod yn ein bratiau— 'dyda' ni ddim am ofyn am gael bod yn frenhinoedd ac yo freninesau; ond dyro dy hun i ni—gwna ni yn blant i ti— tyr'd dy hunan i'n plith ni——gwna dy drigfanau gyda ni, Arglwydd mawr!'" (Amen, amen, amen.) "Yr oeddynt," ebe S. Jones, "yn bobl mwyaf annhebyg i fod yn frenhinoedd ac yn freninesau a welais i erioed;" a dywedai ei fod ef yn chwerthin ac yn wylo bob yn ail wrth ei wrando. Fel engraifft, eto o'r hen chwiorydd oedd yn byw yn y lle, rhoddir yr hanes yn canlynol am Sarah Dafydd. Yr oedd yn byw mewn tŷ wrthi ei hunan, gryn bellder o ffordd oddiwrth y pentref, ac oddiwrth y capel. Yr oedd yn amser casglu at y Feibl Gymdeithas, a disgwyliai Sarah Dafydd bob dydd i'r casglyddion alw gyda hi. Modd bynag, ni theimlai y ddau gasglydd awydd i fyned i ofyn dim iddi hi, gan ei bod yn dlawd ac yn unig, ac yn bell oddiwrth foddion gras, ac yr oeddynt yn myned heibio ei thŷ heb alw. Hithau, wedi eu canfod, a waeddai ar eu hol "Wele hai, d'oes bosib' eich bod am basio heibio heb alw yma! Beth sydd gynoch chi'? Casglu yr ydych at rywbeth mi wranta." "Ie, felly yr ydym; ond yr oeddym yn meddwl myned heibio i chwi; yr oedd arnom ofn dyfod ar eich gofyn." "Ofn dyfod ar fy ngofyn i! Debyg gen i nad oeddych ddim am daflu sarhad arnaf. Mi rof inau ryw geiniog i chwi, ac mae hono gystal a cheiniog rhywun arall." Dywed- ai un o'r casglyddion wrthi drachefu, "A fyddai ddim yn well i chwi symud i fyw yn nes i'r capel, yn lle bod yn y fan yma yn unig?" "Yn y fan yma yn unig! Dydw' i ddim yn unig; mae gen i gwmpeini gwell na neb o honoch chwi. 'Rydw' i yn cael llawer iawn o gymdeithas yr Arglwydd yma yn fynych iawn."
Yr oedd yr hen bobl hyn wedi cyffwrdd â'r tân cyntaf oedd yn perthyn i grefyddwyr cyntaf yr ardal, a chadwasant y tân heb ei golli tra buont hwy byw. Ar eu hol hwy cyfododd tô arall, heb feddu crefydd mor danbaid, na chariad brawdol mor gryfed â'r hen bobl. Wedi i'r eglwys gynyddu, ac i ddieithriaid ddyfod i'r lle i fyw, tua phymtheng mlynedd yn ol, oherwydd rhyw achos neu gilydd cyfododd anghydfod yn yr eglwys, yr hyn a derfynodd mewn ymraniad. Dechreuodd mewn peth digon bychan, fel y mae cynen rhwng brodyr yn dechreu yn gyffredin. Dichon mai goreu po lleied a ddywedir am dano, a llawenydd ydyw coffhau fod y rhwyg, i bob ymddangosiad allanol, er's tro mawr wedi ei gyfanu. Bendith fawr arall a ddygwyd oddiamgylch er's llai na phymtheng mlynedd yn ol oedd i'r eglwys fyned yn daith ar ei phen ei hun. Cymerodd hyn le yn 1873. Cyn hyny yr oedd tri lle yn gwneyd i fyny y daith, Abergynolwyn, Penmeini, ac Ystradgwyn, a gwyr pawb oedd yn adnabyddus o'r lle y pryd hwnw mai llafur a lludded mawr i'r pregethwr oedd myned drwyddi ar y Sabbath.
Bu yn perthyn i'r eglwys rai blaenoriaid gwir ragorol, heblaw y rhai cyntaf oll y crybwyllwyd eisoes am danynt. Richard Jones, Ceunant, am yr hwn y ceir mwy o hanes mewn penod ddyfodol; John Williams, Living, sydd yn flaenor yn Abertrinant; Samuel Williams, Bryneglwys, yr oedd yma. yn amser y Diwygiad, a symudodd wedi hyny i fyw i Rugog, Corris. Robert Lumley, yr hwn a symudodd yma o Aberllefeni, oedd yn wr crefyddol, gonest, a chydwybodol iawn yn ei holl ymwneyd â'i gyd—ddynion. Byddai yn fynych o dan eneiniad yn ei gyflawniadau crefyddol. Daeth trwy oruchwyliaethau blinion heb golli ei grefydd. Bu farw yn orfoleddus, gan roddi cwbl sicrwydd ei fod yn meddu gwir dduwioldeb. Mr. Hugh Pugh, a ddechreuodd bregethu wedi hyny, ag sydd yn awr yn byw yn y Gwynfryn. Un arall a fu yn flaenor gweithgar yma yr adeg yr oedd yr eglwys yn dechreu lliosogi yn ei nifer oedd Mr. Evan Ellis, masnachydd. Symudodd oddiyma i Lanbrynmair, wedi hyny i Ffestiniog, ac oddiyno i'r America.
John Vaughan, Maesyllan.—Amaethwr cyfrifol oedd ef. Bu yn llenwi y swydd o flaenor am dymor lled faith; gwelodd amser gwan ac amser cefnog ar yr eglwys, ac yr oedd yn ddolen gydiol rhwng yr hen bobl â'r tô ieuanc presenol. Efe oedd y brif golofn o dan yr achos dros ysbaid o amser; gofalai am holl amgylchiadau yr achos, a chydweithiai yn esmwyth gyda'r brodyr, gan adnabod ei le priodol ei hun hyd y diwedd. Bu yn nodedig o ffyddlon, a dygodd ei deulu i fyny yn grefyddol, y rhai sydd a'u hysgwyddau eto yn dyn o dan yr achos. Yr adnod a adroddai yn brofiad yn y seiat yn fynych ydoedd, "Oblegid yr Aifftiaid y rhai a welsoch chwi heddyw, ni chewch eu gweled byth ond hyny."
Evan Evans, Bryneglwys.—Daeth yma o Ffestiniog, oddeutu y flwyddyn 1875, i fod yn oruchwyliwr chwarel Bryneglwys, ac yn fuan ar ol ei ddyfodiad dewiswyd ef yn flaenor yn yr eglwys. Ymroddodd ar unwaith â'i holl egni i bob gwaith da yn yr ardal, ac enillodd barch a dylanwad mawr mewn byd ac eglwys. Yr oedd yn ŵr o berchen ffydd gref, ac yn llawn o awyddfryd a zel gyda phob symudiad er llesoli ei gyd—ddynion, a meddai allu tu hwnt i'r cyffredin i gynyrchu yr un ysbryd ag oedd ynddo ef ei hun yn mhobl eraill. Tra yn byw yn Ffestiniog, llanwodd gylchoedd pwysig gyda chymeradwyaeth mawr yn y lle poblog hwnw. Ac wedi ei symudiad yma bu ei gynydd mewn crefydd a defnyddioldeb, am y tymor byr o hyny i ddiwedd ei oes, yn eglur i bawb. Bu farw yn lled sydyn, a theimlai yr eglwys a'r ardal fod gweithiwr difefl wedi myned i'w orphwysfa.
Y blaenoriai presenol ydynt, Mri. Hugh Vaughan, Morris Jones, David Humphreys, a Meyrick Roberts. Mae y Parch. John Owen wedi ymsefydlu yn weinidog yma er Mehefin 1885. O'r ardal hon y cyfododd y pregethwr cyntaf yn y Dosbarth, William Hugh, Llechwedd. Cychwynodd tri eraill wedi hyny o'r eglwys yma oddeutu yr un flwyddyn (1872), y Parchn. William Williams, Dinasmowddwy; David Jones, yn awr o Lanllyfni, ac R. W. Jones, yn awr o Towyn.
Y Parch Ebenezer Jones.—Yma y treuliodd yn agos i'r ugain mlynedd olaf ei oes. Brodor ydoedd o Sir Aberteifi. Daeth i Gorris i gadw ysgol ddyddiol tua 1854. Ymhen ysbaid ar ol iddo briodi a myned i gadw teulu, rhoddodd yr ysgol i fyny, ac ymgymerodd â chadw shop yn yr ardal. Gwnaeth lawer o wasanaeth i grefydd yn Nghorris ac Aberllefeni a'r amgylchoedd yn ystod y 10 mlynedd y bu yn aros yno, gan fod gweinidogion a phregethwyr yn brinion y blynyddau hyn. Tra yn aros yn Nghorris yr ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth, yr hyn a gymerodd le yn Nghymdeithasfa Dolgellau yn y flwyddyn 1857. Y Parch. Griffith Ellis, M.A., Bootle, yr hwn oedd yn ei adnabod yn dda, a ddywed am dano: "Gorfuwyd ni lawer gwaith i deimlo gofid oherwydd rhyw bethau a wnai, ond ni chollasom i'r diwedd y gwir barch iddo, a'r serch calon tuag ato, â pha rai y meddianwyd ni tra yn aros o dan ei ddysgeidiaeth. Yr ydym yn teimlo parch calon i'w goffadwriaeth, a hyfryd ydyw genym ddwyn tystiolaeth i'w ddefnyddioldeb am lawer o flynyddoedd yn Nghorris a'r amgylchoedd. Yr oedd ganddo ddawn neillduol i gadw cyfarfod eglwysig. Dysgasai lawer o'r Beibl allan pan oedd yn ieuanc, a thra anfynych yr adroddid adnod gan neb na fyddai ef yn gwbl gartrefol yn ei chysylltiadau. Dyfynai ar unwaith yr adnodau yn ol a blaen iddi, fel y rhoddai bawb mewn mantais i gael gafael ar ei hystyr. Wrth dderbyn rhai ieuainc at Fwrdd yr Arglwydd yr oedd yn rhagorol. A chyflawnodd lawer o wasanaeth am ychydig iawn o gydnabyddiaeth. Efe am flynyddoedd a wasanaethai ymhob claddedigaeth; ac nid anfynych y byddai y blynyddoedd hyny yn cael y fraint o 'roddi yn rhad'." Clywid, hefyd, ei weinidogaeth yn cael ei hadrodd yn y cyfarfodydd eglwysig, yn y teithiau yr elai iddynt, ar ol iddo fod yno y Sabbath, mor fynych, os nad yn fynychach, nag eiddo gweinidogion eraill. Digwyddodd rhai pethau anghysurus cyn iddo ymadael o Gorris, a bu yn helbulus ac ystormus iawn arno drachefn yn Abergynolwyn. Yn yr anghydfod a fu yno, ymadawodd oddiwrth y Methodistiaid, ac ymunodd â'r Annibynwyr, ac mewn cysylltiad â'u henwad hwy y dibenodd ei oes. Cafodd ef a'i briod gystudd trwm yn y diwedd. Ond er mor arw fu y treialon chwerw yr aethant trwyddynt, yr oeddynt ill dau yn debyg iawn i'r aur wedi ei buro trwy dân erbyn i'r diwedd ddyfod. Ni welsom neb yn fwy tebyg i Gristion nag oedd Mrs. Jones yn ei chystudd olaf. Un o'i ddywediadau yntau yn ei ddyddiau diweddaf ydoedd, "Yr wyf yn awr wedi cymodi yn hollol â'r bedd, oblegid yr wyf yn gweled mai y bedd ydyw yr unig oruchwyliaeth i gwbl sancteiddio y corff, a'i wneuthur yn gymwys i'r nefoedd." Y Parch. John Roberts.—Daeth ef yma yn nghanol y flwyddyn 1875, trwy alwad eglwysi Abergynolwyn ac Ystrad-gwyn i fod yn weinidog iddynt. Yr oedd y pryd hwnw newydd orphen ei efrydiaeth yn Athrofa'r Bala. Genedigol ydoedd o ardal y Glyn, ger y Bala; wedi ei fagu mewn teulu crefyddol o'i febyd, ac megis yn ngolwg athrofa y proffwydi. Trwy ymroddiad a dyfalbarhad yn yr Athrofa, enillodd barch ei athrawon a'i gyd—efrydwyr. Dywedai y Parch. Dr. Edwards yn y Rhagymadrodd i'w Gofiant, "Ei fod yn un o'r pregethwyr ieuainc mwyaf rhagorol a fu yn yr Athrofa." Yr oedd yn grefyddol a nefolaidd ei ysbryd, ac yn ymroddedig i waith y weinidogaeth. Yn y Goleuad, yr wythnos ar ol ei farw, ymddangosodd y nodiadau canlynol:—"Yr oedd y lle mawr oedd ef fel hyn wedi ei enill yn mynwes y ddwy eglwys oedd dan ei ofal, mewn ysbaid mor fyr a thair blynedd a haner, yn dangos fod ynddo ragoriaethau tuhwnt i'r cyffredin. Od oes ar neb eisiau doethineb, gofyned gan Dduw.' Mae yn bur debyg ei fod ef wedi gofyn am dani; sut bynag am hyny, amlwg ydyw ei fod wedi ei chael. Yr oedd ei dalentau a'i gymwysderau i'r weinidogaeth yn amlwg i bawb. Meddai allu rhwydd iawn i siarad, ac yr oedd y gallu hwnw yn dyfod yn fwy effeithiol a dylanwadol. Hoff bwnc ei bregethau y misoedd diweddaf oedd Person Crist; ac am ei fod yn teimlo materion ei bregethau yn llosgi yn ei enaid ei hun, yr oedd ei bregethau yn cydio yn ei wrandawyr." Teg ydyw crybwyll, hefyd, fod yr amgylchiadau yr oedd eglwys Abergynolwyn ynddynt yr amser yr oedd ef yno yn ffafriol iawn i'w gynydd a'i lwyddiant; cafodd y gwynt a'r llanw o'i blaid. Ond er galar i'w gyfeillion, a cholled i'r eglwysi dan ei ofal, a siomedigaeth i'r wlad, hunodd yn yr Iesu, Tachwedd 27ain, 1878, yn 31 mlwydd oed.
BWLCH.
Ardal wledig ydyw y Bwlch, yn agos i fin y môr, haner y ffordd rhwng Towyn a Llwyngwril. Yn yr ardal hon y mae Bronclydwr, o barchus goffadwriaeth. Yr oedd llawn bedwar ugain mlynedd wedi myned heibio er pan fu farw yr apostol hybarch, Hugh Owen, cyn y dechreuwyd pregethu gyntaf gan y Methodistiaid yn ardaloedd rhwng y Ddwy Afon, ac yr oedd ôl llafur y gŵr da hwn, cyn belled ag yr elai arwyddion allanol, wedi darfod yn hollol yn yr ardal. Ac nid oes ychwaith y dydd heddyw na siw na miw am neb o'i ganlynwyr yn yr un lle yn y cwmpasoedd. Ond yr oedd y Bwlch yn un o'r lleoedd cyntaf i dderbyn y "newyddion da" trwy y Methodistiaid; yr oedd yn un o'r manau cyntaf i gychwyn gyda'r Ysgol Sabbothol; ac yma hefyd yr oedd yr achos gryfaf oll yn y Dosbarth, oddi eithr Bryncrug, am ysbaid yr haner can' mlynedd cyntaf ar ol ffurfiad yr eglwysi yn y wlad. Fel hyn y dywedir am y lle pan oedd hanes Methodistiaeth y wlad yn cael ei ysgrifenu ddeugain mlynedd yn ol,—" Yr oedd yma nifer bychan o bobl dlodion yn y gymydogaeth hon yn cydgychwyn gyda chrefydd â'r rhai blaenaf yn Llwyngwril, a hyny cyn fod moddion cyson yn cael eu cynal yn yr un o'r ddau le. I'r Abermaw y byddai yr ychydig broffeswyr hyn yn arfer myned i'r cyfarfod eglwysig; ac yno hefyd, gan amlaf, yr oedd yn rhaid myned i wrando pregethu, ac i gymuno, pan ar ddamwain y rhoddid cyfleusdra i hyny, trwy ddyfodiad un o'r offeiriaid Methodistaidd heibio o'r Deheudir." Yr oedd agosrwydd yr ardal hon yn gystal a Llwyngwril i'r Abermaw, yn peri fod y gwreichion yn disgyn yma gymaint a hyny yn gynt. Yn fuan wedi 1785, yr oedd John Ellis, Abermaw, yn dechreu pregethu, a diau y deuai i'r Bwlch i bregethu yn un o'r lleoedd cyntaf. Ymhen pum' mlynedd drachefn, yr oedd Lewis Morris yn dechreu pregethu, ac y mae ef yn dweyd ei hunau "mai oddeutu y pryd hwn y daeth pregethu gyntaf yn y cysondeb o hono i'r parth hwn o'r wlad." Dywed yn mhellach, hefyd, ei fod ef ei hun wedi cymeryd tŷ yn y Bwlch i gynal pregethu ynddo. Dywedir mai y lle y cedwid moddion gyntaf yn yr ardal oedd Tŷ Cerrig, lle y preswyliai hen ŵr o'r enw Sion Lewis, a Betti Lewis, ei wraig. Wedi hyny, cymerwyd tŷ heb ei aneddu, yn ymyl y capel presenol, i'r diben yn unig o gynal cyfarfodydd crefyddol. Y tŷ hwn, mae'n debyg, oedd yr un y cyfeiriai Lewis Morris ato, ac ynddo y buwyd yn addoli hyd nes yr aethant i'r capel.
Oherwydd prinder pregethwyr, a phrinder dynion yn y fan a'r lle i gynal moddion cyhoeddus, byddai rhai yn cerdded holl ffordd o'r Abermaw a Dolgellau i'r Bwlch ar y Sabbothau, i helpu i gynal cyfarfodydd gweddïau. Y mae y Parch. Robert Griffith, Dolgellau, yn dweyd ei fod yn myned yno gydag eraill, cyn iddo ddechreu pregethu yn 1792, neu 1793, a rhydd y disgrifiad canlynol o'r lle: "Yn y cyfryw gyfarfodydd, byddai pob un o honom yn gyffredin yn darllen rhan o'r Gair, ac yn ceisio esbonio a chynghori ychydig. Yr wyf yn cofio un tro yn y Bwlch, fod rhai yn dyfod i mewn ac yn myned allan ar hyd gydol y cyfarfod; deuent i'r golwg i weled pa beth yr oeddym yn ei wneuthur, ac wedi hyny, dychwelent ymaith. Yr oeddynt, debygid, mor anwybodus am gyfarfod gweddi, neu gyfarfod i addoli mewn tŷ annedd, a phe buasent byw yn Affrica."
Mewn adroddiad byr a ysgrifenwyd gan un o gyfeillion y Bwlch am ddechreuad yr Ysgol Sabbothol yn y lle, dywedir mai yn Tŷ Cerrig y dechreuwyd hi, ac mai Betti Lewis, gwraig y tŷ, oedd yn cario yr ysgol ymlaen; nid oedd neb ond y hi a fedrai ddarllen. Dywedir hefyd mai yn yr ysgol hon y bu Lewis Morris yn dysgu darllen ar ol ei dröedigaeth. A chaniatau fod hyn yn gywir, rhaid fod Ysgol Sul yn y Bwlch yn un o'r manau cyntaf yn y cylchoedd. Enwir y personau canlynol heblaw gwr a gwraig Tŷ Cerrig, fel y rhai fu a llaw gyntaf yn nechreuad yr Ysgol Sul:—John Vaughan, Tonfanau; William Dafydd, Llechlwyd; Edward Walis a Susan Walis, Bronclydwr; Sion Evan, Felinfraenen. Byddai y diweddaf yn myned o gwmpas y bryniau a'r caeau i gyrchu y plant i'r ysgol. Y mae coffa hefyd am Mr. Wallis hyd heddyw fel un a adawodd argraff dda ar ei gyd-oeswyr yn nechreuad crefydd yn y gymydogaeth. "Rhoddodd gyngor i mi a'm cyd-weision di-grefydd," ebai Owen Williams, Towyn, oedd ei hun yn llencyn o was gydag ef, "i beidio myned i Bryncrug nos Sabbath Gwylmabsant, Towyn; gwnaethom bob un o honom y cyngor, aethom i'n gwelyau, ac yr oedd ein cydwybod yn ddigon tawel pan ddeffroisom boreu dranoeth o ran halogi y nos Sabbath hono." Un o'r brodorion hynaf sy'n awr yn fyw a ddywed mai y tri cyntaf a ddechreuodd yr achos yn y Bwlch oeddynt, Dafydd Sion Jones, Sion Evan, Llechwedd Cefn, a William Dafydd, Llechlwyd. Ond yr oedd W. Dafydd yn rhy ieuanc i wneyd dim gyda'r achos pan ddechreuwyd pregethu yn yr ardal.
Ond rhaid rhoddi y lle blaenaf i John Vaughan, Tonfanau, a'i briod, fel y rhai a gododd achos crefydd i sylw gyntaf yn y rhan yma o'r wlad; hwy a fuont y colofnau cadarnaf i gynal yr achos. Mewn penod flaenorol rhoddwyd hanes am dröedigaeth hynod Mr. Vaughan, yn races ceffylau, ar Forfa Towyn. Yn union ar ol y tro hwn ymunodd ef a'i briod â chrefydd, a chysegrodd y ddau eu talentau a'u cyfoeth i wasanaeth crefydd. Gan fod Mr. Vaughan yn ŵr uwch ei sefyllfa na'r cyffredin, yn berchen ei dyddyn ei hun, a thiroedd o amgylch ei dyddyn, yr oedd ei ddylanwad yn cyraedd ymhell, ac yr oedd cysylltiad gŵr o'i fath ef âg achos yr Arglwydd Iesu y pryd hwnw yn foddion neillduol i enill y wlad o blaid crefydd. "Fe'i gwnaed ef yn ddisgybl gostyngedig yr addfwyn Iesu, a chyfrifwyd ef a'i wraig, a'u hunig fab, o hyny allan ymysg yr ychydig broffeswyr. Yr oedd dychweliad gwr mor gyfrifol a Mr. Vaughan at grefydd, yn foddion effeithiol i osod gradd o urddas a bri ar grefydd yn ngolwg y rhai a edrychent yn unig ar ymddangosiad pethau, ac a farnent yn ol y golwg. Nid bychan oedd y syndod ei weled ef, yn anad neb, yn troi yn Fethodist; eto felly y bu, a pharhaodd yn ffyddlawn hyd ddiwedd ei oes. Byddai ef a'i deulu ymhob moddion yn gyson a phrydlon. At yr amser yn gymwys ceid ei weled ef, a Mrs. Vaughan, a'r mab, yn cychwyn oddiwrth y tŷ; ac yn fuan ar eu hol gwelid yr holl weinidogion yn fintai fawr gyda'u gilydd, a hyny ar unrhyw awr o'r dydd, neu unrhyw ddydd o'r wythnos, neu unrhyw wythnos o'r flwyddyn. Mae yn rhaid fod rhywbeth mewn crefydd,' meddai ei gymydogion, 'onide ni wnai gŵr mor gall a Mr. Vaughan mo hyn.' Yr oedd yn ŵr tirion a chymydogol, a phob amser yn barod i wneuthur cymwynas i'w gymydogion." Bwriadai Mr. Vaughan symud o Tonfanau i fyw, oherwydd fod y lle, yr hwn sydd ar lan y môr, yn niweidiol i iechyd ei fab, ac adeiladodd balasdy hardd Cefncamberth, sydd ar y llechwedd, y tu gogleddol i'r reilffordd, ac mewn pellder cymedrol oddiwrth y môr, i'r diben i fod yn breswylfod iddo ef a'i deulu. Ond troes Rhagluniaeth yn groes i'w fwriadau; cyn i'r tad orphen ei gynlluniau, bu farw ei fab, yn 22ain mlwydd oed, er dirfawr alar i'w rieni a phawb a'i hadwaenai. Yr ydoedd yn ŵr ieuanc gostyngedig a hynaws, a thra gobeithiol gydag achos yr Arglwydd Iesu. Daliwyd Mr. Vaughan ei hun hefyd gan afiechyd, yr hwn a'i caethiwodd yn gwbl i'w dŷ, ac ar ol nychdod maith bu yntau farw heb gael myned gymaint ag unwaith i'w dŷ newydd. Yn Methodistiaeth Cymru dywedir "Ni chafodd Mr. Vaughan ei hun fyned gymaint ag unwaith i'r capel newydd, yr hwn y bu mor bryderus yn ei godi." Camgymeriad yw hyn a lithrodd i mewn rywfodd. Yr hyn sydd gywir ydyw na chafodd fyned gymaint ag unwaith i'w balasdy newydd, sef Cefncamberth. Yn hen fynwent Celynin y mae yr hyn a ganlyn yn gerfedig ar gareg ei fedd—"Underneath lies, in hopes of a joyful Resurrection, the earthly remains of John Vaughan, Esq., late of Cefncumberth, who departed this life on the 14th day of February, 1816, aged 58 years." Wele yn canlyn ran o Alarnad a gyfansoddodd Dafydd Cadwaladr, o'r Bala, ar yr achlysur:—
GAIR O GYNGOR.
Er cysur i Mrs. Vaughan o'r Cefn-camberth, ar ol ei Gwr a'i Mab.
Mae gras y nef yn gweithio'n brysur, |
Ac yna buont tan enogrwydd, |
Gyd a'r seintiau mewn gorfoledd, |
*****
Yn Cefncamberth y treuliodd Mrs. Vaughan weddill ei hoes, a bu hi byw hyd oddeutu y flwyddyn 1840. Bu yn famaeth dirion ac ymgeleddgar i achos yr Arglwydd hyd ddiwedd ei bywyd. Yr oedd yn wraig ddirodres a gostyngedig iawn. Ei hyfrydwch penaf oedd gwasanaethu i'r saint a gweision yr Arglwydd, ac yr oedd ei chlod yn y pethau hyn yn cyrhaeddyd ar led trwy Gymru oll. Cefncamberth oedd llety yr holl bregethwyr, ac nid ychydig oedd nifer y rhai a alwent yno yr oes hono, pan yr oedd cymaint o deithio rhwng De a Gogledd. Byddai yno rai pregethwyr yn aros beunydd, a bu hi yn dda iawn wrth y rhai tlotaf o honynt. Cadwai rai o'r cymydogion ar waith yn wastadol yn gwau hosanau, ac yn parotoi rhyw ddilledyn neu gilydd, er mwyn eu rhoddi yn rhoddion i'r pregethwyr y gwelai hi arwyddion o dlodi ar eu gwisg. "Yr oedd Mrs. Vaughan yn un o'r gwragedd hynod hyny na cheir hwynt ond anfynych mewn gwlad—un na chafodd Solomon ei chyffelyb ymysg mil." Bu yn dra haelionus i'r achos yn y Bwlch. Yn 1839, yr oedd ymdrech neillduol yn cael ei wneuthur i dalu dyled y capelau rhwng y Ddwy Afon, ac ymgymerodd y Parch. Richard Humphreys, a Mr. Williams, Ivy House, Dolgellau, i fyned o gwmpas i gasglu at hyn. Tra yr oeddynt yn hel addewidion yn gyhoeddus yn y Bwlch, rhoddodd Mrs. Vaughan ei phwrs i'r casglyddion, ac erbyn tywallt yr hyn oedd ynddo ar y bwrdd, daeth allan o hono haner cant o bunau. "Faint sydd arnoch eisiau yn ol? gofynai Mr. Humphreys iddi. "Nid oes arnaf fi eisiau dim yn ol ond y pwrs," ebe hithau. Edrychid ar y swm mawr hwn yn beth tra anghyffredin yr adeg hono, ac aeth son am y rhodd haelionus ymhell ac yn agos. Effeithiodd hyn hefyd i beri i eraill weled prydferthwch mewn haelioni. Adroddai y foneddiges haelionus, Mrs. Griffith Thomas, Aberystwyth, unwaith wrth y Parch. W. Davies, Llanegryn, mai wn oedd yr amgylchiad a droes ei meddwl hithau gyntaf at y gras o haelioni. Pregethai gwr o Sir Feirionydd ryw dro yn ei chlywedigaeth, ac adroddai am y weithred haelionus o eiddo Mrs. Vaughan. Anghofiodd Mrs. Thomas enw y pregethwr a adroddai yr hanes; ond nid anghofiodd byth yr hanes ei hun. "Mi welais," ebai, "y pryd hwnw y fath brydferthwch mewn haelioni crefyddol, fel y penderfynais ddilyn y cyngor a saethodd i'm meddwl ar y pryd, 'Dos a gwna dithau yr un modd.'" Gwnaeth Eglwys y Bwlch £39 15s. o gasgliad y tro hwn ar wahan i £50 Mrs. Vaughan. Felly, bu haelioni y wraig rinweddol hon yn foddion i gynyrchu haelioni yn ei hardal ei hun, yn gystal ag mewn ardaloedd pell oddiwrth ei chartref. Yr oedd rhinweddau Mrs. Vaughan, o Cefncamberth, yn ei dydd yn hysbys ymhlith miloedd Methodistiaid Cymru, ac y mae ei henw yn berarogl yn ei hardal enedigol hyd heddyw, yn agos i haner can' mlynedd wedi iddi hi huno yn yr Iesu.
Capel y Bwlch, fel yr ymddengys, oedd y cyntaf a adeiladwyd yn yr holl wlad hon. Yn ol y tystiolaethau a gafwyd gan y cymydogion, a'r tystiolaethau hyny wedi eu seilio ar eiriau un o'r rhai oedd a'r llaw benaf gyda'r achos o'r cychwyn cyntaf, adeiladwyd ef yn y flwyddyn 1795. Aeth tri brawd crefyddol i siarad â'u gilydd ynghylch adeiladu capel, sef Mr. Vaughan, Dafydd Sion Jones, a William Dafydd, Llechlwyd. Cynygiodd Mr. Vaughan iddynt ei wneyd ar ei dir ef ei hun. "Mi gwnawn i o yn nghongl y cae, yn ymyl Cefncamberth," ebe Dafydd Sion Jones. "Thâl hyny ddim byd," meddai W. Dafydd, "dydyw y fan hono ddim yn nghanol yr ardal." "P'le mae canol yr ardal?" gofynai yntau, "Wel, yn y Bwlch," ebe W. D. "Wel, mi awn ni at Owen Evan, Tyddynmeurig, i ofyn am le," ebe Mr. Vaughan. "Cewch yn union," atebai Owen Evan, "ond 'does gen i ddim ond fy oes i'w roi ar y tir." Mentro i gymeryd y tir a wnaethant ar air O. E. yn unig. Pan y cytunwyd i adeiladu capel mewn cynulliad o'r brodyr, "cododd Mr. Vaughan i fyny yn y cyfarfod, gan ddweyd fod caniatad i bawb roddi hyny a fynent, neu a allent, at adeiladu y capel, ac y talai yntau y gweddill. Felly hefyd y bu. Talwyd am bob peth wrth ei adeiladu." Ar ol hyn gwnaed gweithred am y tir, yr hon sydd wedi ei dyddio Ebrill 12fed, 1811. Ardreth flynyddol 1s. Yr oedd Mr. Charles, o'r Bala, yn un o'r ymddiriedolwyr. Modd bynag, ar ol marw Owen Evans, yr hyn a gymerodd le yn rhywle oddeutu 1850, daethpwyd i benbleth gyda'r capel. Haerai ei fab Morris Evans, mai ei eiddo ef oedd y capel, a gorfu i'r eglwys dalu 6p. o ardreth flynyddol am dano am gryn amser. Mewn adroddiad o ymweliad a wnaed â'r eglwys yn nechreu 1852, neu ddiwedd y flwyddyn flaenorol, dywedir eu bod "mewn trafferth efo eu capel yn gorfod talu mawr rent am dano." Wedi bod yn talu fel hyn 6p. o ardreth dros amryw flynyddoedd, prynwyd ef am 60p. Dyddiad y pryniad ydyw 1861. Adeiladwyd y capel i'r maint y mae yn bresenol yn 1865. Y nifer a all eistedd yn y capel yw 146. Gwerth presenol yr eiddo 350p.
Bu Lewis William yn cadw ysgol ddyddiol yn y Bwlch amryw weithiau o bryd i bryd. Yr oedd yma yn 1812, a chanddo fwy na 50 o blant yn yr ysgol. Mae y llythyr canlynol wedi ei ddyddio o'r Bwlch, pan yr oedd L. W. yno yn cadw ysgol:—
Chwefror 24ain, 1821.
At Gymedrolwr Cymdeithasfa Fisol Sir Feirionydd yn Cynwyd—
Mae hyn yn ol eich deisyfiad yn ddangosiad o foddion y Sabbothau y mis hwn yn Aberdyfi, Tŷ'nypwll, a Phennal. Mae y ddau Sabbath nesaf yn llawn, sef y 4ydd a'r lleg o Fawrth. Mae y lleill yn wag, sef 18fed a'r 25ain o Fawrth, a'r 10fed o Ebrill.
Hyn sydd oddiwrth Lewis Williams, dros y daith Sabbath. D.S.—Yr wyf wedi rhoddi y ddau Sabbath nesaf, un yn nhaith Sabbath y Bwlch, a'r llall yn Dyfi. Ond am y Sabbothau eraill, yr wyf yn bwriadu eu rhoddi yn y lleoedd y bydd eisiau yn Nghyfarfod Dau Fisol Sion, y Sabbath nesaf.—L. W."
Y mae ymysg papyrau L. W. amryw lythyrau tebyg i'r uchod. Dengys y rhai hyn, ynghyd â'r llythyr canlynol oddi— wrth John Jones, Penypare, at Lewis Williams i Dyddynmeurig, y dull yr oedd y brodyr yn cario yr achos ymlaen y pryd hwn:—
Ebrill 3ydd, 1821.
Brawd L. Williams,
Yr ydym yn amddifad iawn o gyhoeddiadau. Gwnewch ar a alloch i gyflawni ein diffyg eich hunan, a bod o bob cynorthwy i anog eraill. Nid oes genym yr un cyhoeddiad y Sul. Dymunwch ar Owen Evans i hysbysu y Cyfarfod Misol fod arnaf angen am arian capel Llanegryn i gyd cyn Calanguaf nesaf yn ddiffael. Mae 3p. 12. 6c. o lôg yn ddyledus i mi yn bresenol, a 15s. o ground rent, yr hyn sydd ynghyd yn 4p. 7s. 6c. Dymunaf gael y swm uchod, a'r hyn a allant o gorff yr hawl o'r society fisol bresenol.
JOHN JONES.
"D.S.—Yr ydwyf yn dymuno arnoch stepio i fyny at John Lloyd, i edrych a ydyw ef wedi ail ysgrifenu'r "Sillydd," a'i orphen yn barod i'r wasg, os ydych yn meddwl fel cylch y bydd iddo fod o ryw fuddioldeb i'r cyffredin ac onide yr wyf yn dymuno cael y copi adref. Yr wyf yn disgwyl y bydd i chwi sefyll at yr amodau a wnaethoch à mi mewn perthynas i'r Llyfr Hymnau. Mae'n gofyn iddo gael ei argraffu cyn association y Bala. Dymunaf arnoch ddyfod yma ddau o'r gloch y Sabbath nesaf, os na fydd i Hugh Jones gael rhywun arall.—J. JONES."
Yn Nghyfarfod Misol Towyn, Hydref 1854, y penderfynwyd i'r Bwlch a Llanegryn fod yn Daith Sabboth. Cyn hyny, y daith oedd, Sion, Llwyngwril, a'r Bwlch; a Llanegryn ac Abertrinant gyda'u gilydd dros ryw dymor.
Ar ol marw Mrs. Vaughan, bu yr achos yn lled isel yn y Bwlch, ac aeth y cyfeillion yn ddigalon. Ystyrid ef yn lle bod fel cynt yn lle cryf, yn un o'r lleoedd gwanaf. Collodd y pregethwyr eu cartref yn Cefncamberth, a buont yn cwydro o dŷ i dŷ, neu ynte yn myned yn eu cylch yn ol y drefn fisol, neu y" "system loerawl," fel y galwai y diweddar Barch, G. Williams, Talsarnau, hi. Modd bynag, mae yn yr ardal gyfeillion caredig iawn mewn lletya pregethwyr wedi bod ar ol dyddiau Mrs. Vaughan, ac yn bod eto. Er i'r achos weled cyfnodau o fyned i fyny ac i lawr yn ystod y deugain mlynedd diweddaf, y mae gwedd weddol lewyrchus arno yn awr, gan fod nifer o ddynion ieuainc gweithgar yn cydio o ddifrif yn y gwaith. Bu yr eglwys o dan ofal bugeiliol y Parch. Owen Roberts am y tymor y bu ef yn gweinidogaethu yn Llwyngwril; ac y mae yn bresenol o tan ofal y Parch. Richard Rowlands, er yr adeg y mae yntau yn trigianu yn Llwyngwril.
Bu yn perthyn i'r eglwys hon amryw gymeriadau amlwg am eu crefydd a'u duwioldeb. Hynodwyd y lle yn y cyfnod boreuol gan nifer o wragedd duwiol iawn. Byddai presenoldeb y rhai hyn yn foddion i wasgaru annuwiolion oddiwrth eu gilydd, pan ymdyrent yn agos i'r capel i gellwair, neu yn y meusydd i chwareu. Yr oedd dull yr hen wragedd hyn yn nefolaidd wrth ganu yn yr addoliad cyhoeddus. Wedi cael gafael yn yr emyn, ymsymudent gyda'u gilydd yn ol ac ymlaen, fel y cae gwenith o flaen awel o wynt. Hen gristion pybur, a barhaodd yn zelog hyd nes yr oedd yn hen ŵr, oedd Dafydd Sion Jones, Castell Bach. Mynych yr adroddai am y pellder yr arferai fyned yn nechreu ei grefydd i wrando yr efengyl. Elai o'r Bwlch i'r Bontddu i wrando pregeth ar ddydd gwaith. Yr oedd un William Evans, a breswyliai yn un o'r tai yn ymyl y capel ymysg y crefyddwyr cyntaf. Symudodd oddiyno i fyw i Towyn. Gweithiai i Mr. Corbett, Ynysmaengwyn, o gwmpas y palas. Yr oedd odfa yn un o'r ardaloedd cylchynol gan weinidog Ymneillduol pur enwog ar noson waith. Ac yr oedd ef a chydweithiwr iddo yn teimlo yn awyddus i fyned i wrando y bregeth ar ol noswylio, ond ofnent eu meistr, gan y gwyddent fod myned i wrando pregeth gan bregethwr Ymneillduol yn drosedd anfaddeuol. Myned a wnaethant, modd bynag, a thranoeth daeth Mr. Corbett at William Evans, yr hwn oedd yn dilyn ei orchwyl wrtho ei hun, a dywedai, "Aethost ti i wrando ar y Penaugryniaid neithiwr, rhaid i ti ymadael, 'does yna ddim gwaith i ti mwy." "Wel," ebe yntau, "os felly y rhaid iddi fod, nid oes dim i'w wneyd ond ymadael. Diolch yn fawr i chwi, syr, am a gefais i; mi fentra i Ragluniaeth y Brenin Mawr; efe sy'n llywodraethu y byd." Aeth y boneddwr at y gweithiwr arall oedd yn euog o gyflawni yr un trosedd o fyned i wrando ar y Penaugryniaid y noswaith gynt. Hwn, pan wybu ddarfod troi i ffordd ei gydweithiwr, a ffromodd yn arw, ac a wadodd yn bendant na fu ef ddim yn gwrando y bregeth. "Cei di fyn'd i ffordd, beth bynag," ebe Mr. Corbett, "mi welaf y medri di ddweyd celwydd." Felly fu, gorfu iddo fyned i ffordd, a galwyd ar William Evans yn ol, a chafodd aros yn ei le fel cynt oherwydd ei onestrwydd a'i eirwiredd.
William Dafydd, Llechlwyd, ac Owen Evan, Tyddynmeurig, oeddynt y ddau flaenor cyntaf. Bu y personau canlynol hefyd yn gwasanaethu y swydd:—
Humphrey Pugh, Tonfanau. Gŵr deallus a gwybodus, yn eangach ei syniadau, ac yn fwy ei ddylanwad na'r cyffredin. Efe oedd arolygwr yr Ysgol Sul am flynyddau, a chyflawnodd y swydd yn dra deheuig; oherwydd ei sirioldeb a'i ddeheurwydd llwyddai i gael pawb yn yr ysgol yn ufudd i wneyd yr hyn a geisiai. Yr oedd yn aelod o gommittee y Cyfarfod Misol yn 1847.
Lewis Pugh, Bodgadfan. Un o ardal Aberllefeni oedd ef o'i ddechreuad, ac yr oedd wedi dod i gysylltiad â chrefydd er yn ieuanc. Gwnaeth amryw o symudiadau yn ei fywyd, o'r naill ardal i'r llall, a pha le bynag yı elai rhoddai ei ysgwydd yn dyn o dan achos y Gwaredwr, a llanwodd y swydd o flaenor ymhob lle y bu yn aros. Er ei fod yn ddyn blaenllaw gyda'r byd, ei hyfrydwch penaf fyddai siarad am bethau crefydd gyda'r teulu, gyda'r gwasanaethyddion, a chyda'i gymydogion. Siaradai lawer am bethau crefydd â'i briod, Mary Pugh, yr hon oedd yn wraig dra chrefyddol. Un oedd yn y teulu yn was a ddywed ei fod yn cofio L. Pugh yn gofyn i'w briod, "A oedd hi yn gweled rhyw werth yn Iesu Grist fel Proffwyd?" "O! ydwyf, Lewis bach," ebe hithau, "fuaswn i na chwithau yn gwybod dim am Dduw a'i ddeddf, a'i anfeidrol gariad a'i ras, nac am bechod a'i ganlyniadau, nac am y nefoedd ychwaith, oni bai fod y Proffwyd Mawr wedi mynegu y pethau hyn i ni." "A ydych yn gweled rhyw werth ynddo fel Offeiriad?" "O! ydwyf, fuasai genyf fi ddim gobaith am fywyd oni bai iddo ef fel offeiriad offrymu ei hun yn aberth difai i Dduw." "A ydych yn gweled rhyw werth ynddo fel Brenin?" "O! pwy wna ein harwain, a'n llywodraethu, a'n gwaredu ond efe fel Brenin." Deuai i'r tŷ i ymofyn bwyd un tro, a gofynai i lefnyn o fachgen oedd yno yn was, "A wyt ti, dywed, yn gweled rhyw werth yn Iesu Grist fel ffynon?" Ni wyddai y bachgen beth i'w ddweyd, yna gofynai i'w wraig, "A ydych chwi, Mary, yn gweled gwerth ynddo fel ffynon?" "Wel, beth a wnaem ni yn ngwyneb ein llygredd mawr oni bai am y ffynon?" ebe hithau. Yna adroddai L. P. y penill:—
"Mae'r ffynon yn agored,
Dewch, edifeiriol rai."
Yr oedd yr hen bererin yn byw yn wastadol,—Sul, gwyl, a gwaith, gyda phethau crefydd. Byddai yn tori allan i orfoleddu wrth wrando pregeth, neu mewn unrhyw foddion y ceid tipyn o hwyl, ond yn fynychaf wrth ganu. Clywid ef yn gwaeddi, gogoniant,' 'gogoniant,' pan fyddai y gynulleidfa wrthi yn canu. "Clywais ef yn gorfoleddu," ebe un oedd yn bresenol, ar ddiwedd odfa pan oedd Daniel Jones, Llan— degai, yn y Bwlch yn pregethu ar ganol dydd gwaith, wrth ganu y penill hwnw:—
"Mae'r iachawdwriaeth fel y môr,
Yn chwyddo byth i'r lan."
Darfu i hen wraig arall ymuno âg ef, sef Margaret Jones, y Llabwst, a bu y ddau yn gorfoleddu, a'r gynulleidfa yn canu allan o bob hyd." Symudodd L. P. cyn diwedd ei oes i fyw i Dowyn, a dywed rhai o'r brodyr yno, na welsant neb erioed mwy duwiol nag ef. Mae ei deulu yn para ymysg y ffyddloniaid sydd eto yn aros yn y Bwlch.
Bu David Price, Bronyfoel, yn flaenor am lawer o flynydd— oedd; a Mr. Peter Price, Castell Fawr, cyn iddo symud i Aberdyfi.
Griffith Vaughan.—Mab ydoedd ef i Sion Fychan Fawr, Llwyngwril, a meddai ar zel a ffyddlondeb ei dad, Gwasanaethai fel husmon yn Cefncamberth yn amser Mrs. Vaughan, ac am flynyddau lawer ar ol ei dydd hi. Yr oedd ef yn ŵr hynod iawn ar ei liniau, yn enwedig pan y dechreuai sôn am drefn Duw i faddeu, ac y caffai afael yn yr adnod hono, "Pan ddarffo i'r Arglwydd olchi budreddi merched Sion, a charthu gwaed Jerusalem o'i chanol." Yr oedd un adeg wedi ei osod yn drysorydd yr eglwys, ac er mwyn cadw arian y weinidog— aeth yn ddiogel, ac ar wahan oddiwrth bob arian eraill, y lle y byddai yn eu rhoddi i gadw oedd yn y corn grut.
Samuel Evans.—Yr oedd yntau yn fab i hen flaenor enwog, Sion Evan, Tywyllnodwydd, Pennal, yr hwn y mae ei goffa— dwriaeth yn adnabyddus fel yr un a fu yn foddion i ddwyn achos y Methodistiaid gyntaf erioed i ardal Llanwrin, yn niwedd y ganrif ddiweddaf. Dygwyd Samuel Evans i fyny ar aelwyd grefyddol, lle yr oedd ei rieni, a'i frodyr, yn gewri yn egwyddorion ac athrawiaethau crefydd. Hynodid ef yn ddi— weddar ar ei fywyd fel un fyddai yn mwynhau y weinidogaeth y tuhwnt i'r cyffredin, ac am ei gwestiynau aml a mynych i'r pregethwyr yn nhŷ y capel. Yn niwedd ei oes, gwrandawai ar risiau y pulpud, a'i olwg yn gyson ac astud ar y llefarwr, ac arwydd sicr o'i foddhad yn yr hyn a draddodid ydoedd y byddai yn estyn ei dafod allan, a chadwai hi allan yn ddidor tra parhai yr hwyl. O fewn blwyddyn nea ddwy i ddiwedd ei oes, yr oedd wedi myned yn angenrhaid arno i wynebu at y plwy' am help i fyw. Wynebai ef yno, modd bynag, am fod yn rhaid iddo wneyd, a chyda sicrwydd yn ei deimlad ei hun mai am ychydig amser yr oedd arno angen am gynorthwy. "Rhoddwch," meddai wrth y relieving officer, "rhoddwch help am dipyn bach; am dipyn bach y mae arnaf fi eisiau help; raid i chwi ddim rhoi yn hir, fe fydda i wedi myn'd i dderbyn teyrnas yn bur fuan." Mae Samuel Evans, er's deng mlynedd, bellach, wedi myned i dderbyn y deyrnas.
Y blaenoriaid presenol ydynt Mri. James Thomas, a William Jones.
BRYNCRUG.
Safle Bryncrug ydyw dwy filldir o Lanegryn, dwy filldir o Dowyn, a phump o Abergynolwyn. Mae yr enw yn dra phriodol ar y lle—yn ol Dr. Owen Pughe, Bryn-y-Twmpath, ac yn ol dywediad yr hybarch Lewis Morris, Bryn-y-Crwth. Mae y pentref yn sefyll ar wastadedd, wrth odreu bryn hirgrwn, sydd yn cyfodi megis yn nghanol dyffryn Towyn, gan guddio Abergynolwyn o'r golwg y tucefn i'w dalcen gogleddol. Mewn cysylltiad â chrefydd, Bryncrug oedd y lle enwocaf am yr 20 mlynedd cyntaf o ddechreuad yr achos yn y Dosbarth. Dyma lle y cafodd crefydd y cartref cyntaf. Yr oedd yma gapel lawer o flynyddoedd o flaen un lle arall, ond y Bwlch unig. Yma yr oedd John Jones, Penyparc, yn byw, am yr hwn y ceir hanes helaeth mewn penod arall. Yr oedd gwr o'r enw Owen Pugh wedi adeiladu ychydig o dai yn y pentref. Yn un o'r rhai hyn yr oedd gwraig weddw yn byw, a elwid Betti Sion. Yn ei thŷ hi, debygid, y cynhelid y pregethu gyntaf yn y lle. Ryw foreu Sabbath yr oedd cyhoeddiad gŵr dieithr o'r Deheudir yma i bregethu. Yr oedd yn ŵr poblogaidd, ac yr oedd y si wedi myned am dano o amgylch yr ardal, a mwy nag arfer o bobl wedi dyfod i wrando. Penderfynwyd cynal yr odfa yn y cae wrth dalcen y tŷ. A thua chanol y moddion canfyddid dyn yn cerdded o amgylch, ac yn llusgo ysgadenyn coch wrth linyn. Yn ebrwydd, wele ddyn arall yn dyfod, sef helsman y boneddwr a drigai o fewn milldir i'r pentref, a haid o gŵn hela gydag ef, ac yn canu y corn yn arwydd i'r cŵn i ddechreu udo. Ond ni estynodd yr un o'r cŵn ei dafod, yr hyn oedd yn dra rhyfedd. Clywodd y gŵr boneddig am y digwyddiad, a galwodd gydag Owen Pugh, sef perchenog y tai oedd wedi eu hadeiladu ar brydles ar ei dir ef, a gofynodd iddo paham yr oedd yn caniatau i'w denantes i dderbyn y penaugryniaid i'w thŷ? Ei ateb oedd ei fod wedi cael benthyg arian i'w hadeiladu gan un oedd yn ffafriol i Ymneillduaeth. "Tyr'd a'r weithred i mi," meddai, "a rhoddaf arian i ti i dalu iddo." Felly fu. Collodd y gŵr feddiant o'r lle mewn canlyniad.
Dywedai Owen William, Towyn, yr hen bregethwr—ag yntau, y pryd hwnw, yn ei hen ddyddiau—yr hyn a ganlyn wrth Griffith Pugh, Berthlwyd, pan yn myned o'r capel ar fore Sabbath i Gwyddelfynydd i giniawa:— "Y fan hon, wrth y tŷ hwn, y clywais i y bregeth gynta' erioed. Yr oedd genyf feddwl uchel am bregethwyr y pryd hwnw, er nad oeddwn wedi clywed yr un erioed ond trwy hanes. Yr oeddwn yn fachgen pur ddrwg, ac mi 'roeddwn yn meddwl y byddent yn gwybod fy hanes, ac yn datguddio hyny ar goedd, a thrwy hyny ymguddiais yn nghysgod hen ŵr o'r enw Arthur Pugh, a dyna oedd pwnc y bregeth, sef traethu am wybodaeth y Brenin mawr. 'Fe wyr Duw,' meddai y pregethwr, rifedi gwallt dŷ ben di.' 'Wel,' ebe Arthur Pugh, yr hen ŵr yr oeddwn yn llechu yn ei gysgod, mae yn rhaid ei fod yn un ciwt iawn i wneyd hyny, beth bynag.'" Yr oedd Owen William tua chwech neu saith oed; cymerodd yr odfa hon le felly yn y flwyddyn 1790 neu 1791.
Adrodda Lewis Morris yn ei Adgofion, yr hanesyn canlynol a gymerodd le yn yr un llecyn, y flwyddyn hon, neu flwyddyn neu ddwy yn ddilynol iddi:— "Digwyddodd tro nodedig pan yr oeddwn ar un nos Sabbath yn pregethu yn Bryncrug, yn nhŷ gwraig weddw, o'r enw Betti Sion. Daeth hen wraig o'r gymydogaeth at y tŷ, ac a'm rhegodd am fy mod yn pregethu, a hi a regodd y bobl hefyd am eu bod yn gwrando arnaf. Ond yn y fan, yn nghanol ei chynddaredd, tarawyd hi yn fud; ni ddywedodd air byth mwyach; a hi a fu farw ymhen ychydig o ddyddiau!" Ac ychwanega Lewis Morris, "Yr oedd amgylchiad fel hyn yn creu arswyd mawr ar bobl y wlad, ac yn peri iddynt feddwl fod Duw y nefoedd yn amddiffyn pregethu, ac yn pleidio pobl y grefydd."
Nid oedd tŷ bychan y weddw dlawd hon yn lle manteisiol i gario yr achos ymlaen. Nid oes sicrwydd, ychwaith, fod yma eglwys eto wedi ei ffurfio. Y tebyg ydyw mai cadw odfa yn unig y byddai pregethwyr dieithr yn nhŷ yr hen wraig. Pregethwyr dieithr yn dyfod heibio ar dro bron yn unig fyddai y pregethwyr yr amser yma; nid oedd eto ond dau neu dri wedi dechreu pregethu yn yr oll o Orllewin Meirionydd. Modd bynag, fel y crybwyllwyd, collwyd y tŷ trwy gyfrwysdra dichellddrwg y boneddwr erlidgar. Feallai mai y lle cyntaf yr aed iddo i bregethu wedi hyn oedd Penyparc. Dywedir yn Methodistiaeth Cymru fod tŷ yn Bryncrug wedi cael ei ddirwyo i 20p., am fod pregethu ynddo yn 1795. Ond nid ydym wedi cael allan pa dŷ oedd hwn. Tua'r amser y collwyd tŷ Betti Sion y daeth John Jones, Penyparc, adref o'r ysgol, o'r Amwythig, ac y symudwyd yr achos i Penyparc. Yr oedd y pregethu, a'r moddion eraill, yn cael eu cadw yn y tŷ neu yr ysgubor yno. Cafodd John Jones ei eni yn Berthlwyd Bach, a symudodd ei rieni i Benyparc i fyw, a chymerwyd ganddynt Benyparc a Brynglas Bach ar brydles, am "rent isel," ebe G. Pugh, Berthlwyd. Mae yn ddiameu fod y brydles wedi ei chael cyn fod dechreu pregethu yn yr ardal. Yr hen bregethwr Lewis Morris, yn ysgrifenu oddeutu 1810, a ddywed: "Mr. Lewis Jones, o Benyparc, hefyd, yn more pregethu yn yr ardal, a agorodd ei ddrws i arch Duw; ac y mae ei fab, Mr. John Jones, yr un modd, yn llafurus a ffyddlawn hyd heddyw, fel gweithiwr medrus gydag amrywiol ranau o achos Iesu Grist." Yr ydym fel hyn yn gweled fod amgylchiadau wedi bod yn ffafriol i achos y Methodistiaid yn Bryncrug, o'r cychwyn cyntaf. Yr oedd teulu Penyparc yn deulu cyfrifol. Yr oedd gŵr y tŷ yn tueddu i fod yn grefyddol yn more crefydd yn yr ardal, ac yn "agor ei ddrws i arch Duw." Yr oedd ei fab, John Jones, yn ŵr ieuane o 21 i 24 oed y pryd hwn, wedi cael ysgol uwch na'r cyffredin, ac yn rhagori hefyd mewn talent. Nid yw yn wybyddus pa un a oedd wedi ymuno â chrefydd pan y daeth adref o'r ysgol o'r Amwythig. Yn ol tystiolaeth Edward Williams, Towyn, yr oedd yn cydgynal moddion â'r crefyddwyr cyntaf, oddeutu 1792, pan oedd y cyfarfod eglwysig yn cael ei gynal bob yn ail yn Towyn a Phenyparc. Yr ydym hefyd yn cael hanes y Parch. Owen Jones, y Gelli, pan oedd yn saith oed, yn yr ysgol gyda John Jones, ac felly yr oedd ef yn cadw yr ysgol beth bynag mor fore â'r flwyddyn 1794. Crybwyllir yn Methodistiaeth Cymru iddo orfod rhoddi yr ysgol i fyny am flwyddyn trwy orthrwm y boneddwr erlidgar, ac mai yn nhŷ un o'r crefyddwyr yn Nhowyn y bu yn ei chadw y flwyddyn hono. Pa fodd yr oedd hyn yn bod, a chan ei dad brydles ar Benypare? Fe fu J. J. yn cadw yr ysgol i ddechreu yn Rhydyronen, pentref bychan o fewn dau ergyd careg Benyparc. Digon tebyg mai y pryd hwn y gorfu iddo symud i Dowyn. Pa fodd bynag, am y rheswm fod gan y teulu brydles ar dŷ a thir Penyparc, yr oeddynt yn gallu rhoddi cymaint o gefnogaeth i grefydd, ac yno y bu yr achos yn cartrefu hyd nes yr adeiladwyd capel Bryncrug.
Dioddefodd yr eglwys hon lawer oddiwrth erledigaeth, gan fod safle yr ardal mor agos i gadarnle erlidiwr creulawn yr amseroedd hyn. Un o'r rhai a "erlidiwyd o achos cyfiawnder" yma oedd Mr. Foulkes, Machynlleth. Bu ef byw yn Machynlleth am dros ddeuddeng mlynedd ar ol symud yno o'r Bala, a'r deuddeng mlynedd hyny oedd y tymor mwyaf erlidgar ar grefydd a fu rhwng y Ddwy Afon. Adroddir amdano yn cael ei daflu i'r afon, ychydig uwchlaw y bont sydd yn nghanol pentref Bryncrug, a llusgwyd ef i fyny yr afon gan ddynion aflywodraethus a dibarch i ddynoliaeth a chrefydd. Yr oedd Mr. Foulkes yn foneddwr ymhob ystyr, yn meddu natur dda, yn llawn o deimlad crefyddol, ac awydd angerddol ynddo i wneuthur lles i'w gyd ddynion, er iddo dderbyn yr anmharch mwyaf oddiar eu llaw. Canmolai yr erlidwyr pan oeddynt ar y weithred o'i lusgo i fyny yr afon, a dywedai wrthynt yn y modd tyneraf, "Da mhlant bach i, da mhlant bach i; yr ydych yn gwneyd gwaith da iawn, yr ydych yn gwneyd gwaith da iawn." Trwy y dull tyner hwn y medrodd ddyfod allan o'u gafael. Bwriadai ddyfod yno wedi hyn, a bwriadai yr erlidwyr ei lusgo trwy yr afon drachefn, ond aeth Mr. Griffith Evans, Dolaugwyn, i Fachynlleth o bwrpas i'w berswadio i beidio dyfod yno, gan y gwyddai fod yno y fath gynlluniau am wneuthur niwed iddo. Yr oedd gwraig Mr. Evans, Dolaugwyn, sef nain y Parch. G. Evans, Cynfal gynt, yn wraig grefyddol, ac yn aelod o'r eglwys fechan yn Bryncrug. Yr oedd hefyd yn wraig uwch ei sefyllfa yn y byd na'r cyffredin, meddai ar dipyn o etifeddiaeth, a phreswyliai mewn palasdy. Aeth hi i Ynysmaengwyn, at Mr. Corbett, i geisio ei berswadio i beidio erlid Mr. Foulkes, ac adroddai wrtho fod y pregethwr yn ŵr haelionus anghyffredin, y byddai yn llenwi ei bocedau â phres cyn cychwyn oddicartref ddydd Sadwrn, er mwyn eu rhanu i bobl dlodion. Gan fod Mr. Corbett yn ŵr haelionus ei hun, dylanwadodd hyn gymaint arno nes peri iddo beidio erlid. Mr. Foulkes mwy. Ond er mai yma bu yr erledigaeth ffyrnicaf, fe drefnodd yr Arglwydd foddion neillduol, ac fe gododd offerynau arbenig, fel y daeth yr achos yn gryfach a mwy llewyrchus yn Bryncrug nag unman arall yn yr ardaloedd o gwmpas. Un o'r offerynau, a'r penaf yn ddiau oedd John Jones, Penyparc. Yr oedd ei sefyllfa ef yn y byd, a'i ysgolheigdod, a'i fedrusrwydd, a'i ymroddiad gyda phob rhan o achos crefydd yn gaffaeliad mawr, nid yn unig i Fryncrug, ond. i'r dosbarth yn gyffredinol. Yr oedd hen ŵr arall, duwiol a da, o'r enw Evan y Melinydd, yn Dolaugwyn, ac yn cydgychwyn yr Ysgol Sul â John Jones, Penyparc. Meddai ar dalent arbenig i ddysgu plant. Un arall o'r offerynau a ddylanwadodd ar yr ardal ydoedd y wraig dduwiol Catherine Williams, yr hon a fu yn cadw ysgol ddyddiol, ac yn holwyddori y plant mewn pethau crefyddol yn yr ysgol yn ddyddiol. Heblaw yr offerynau hyn, trefnodd yr Arglwydd foddion i gael lle i adeiladu capel yn Bryncrug yn gynharol iawn. Cafwyd y tir gan Mr. G. Evans, Dolaugwyn, taid y Parch. G. Evans, yn awr o Aberdyfi, priod yr hwn, fel y crybwyllwyd, oedd yn wraig gyfrifol a chrefyddol, ac yn aelod o'r eglwys yn Bryncrug. Adeiladwyd y capel yn y flwyddyn 1800, ar brydles o 99 mlynedd, am ardreth o ddeg swllt y flwyddyn. Mae y weithred wedi ei dyddio Medi, 1801. Yr ymddiriedolwyr oeddynt y Parchn. Thos. Charles, o'r Bala; John Jones, Edeyrn; John. Ellis, Abermaw; Richard Lloyd, Gwalchmai; William Hugh, a Lewis Morris; Mri. Harri Jones, Nantymynach, John Jones, Penyparc, a Daniel Jones, Dyffryn Gwyn. Safai y capel cyntaf yn union lle saif y capel presenol, ond ei fod, bid siwr, yn llai ei faint, ac yn hollol ddiaddurn. Cynwysai ddwy o eisteddleoedd, un o bob tu i'r pulpud, a'r gweddill yn llawr gwastad a meinciau ynddo. Yr oedd yr eisteddleoedd wedi eu darparu yn bwrpasol—un i deulu Dolaugwyn, a'r llall i deulu Penyparc. Parhaodd y capel yn y llun a'r maint hwn am ddeugain mlynedd. Ymddengys ei fod yn ddiddyled hollol 1839, oblegid casglwyd yn Mryncrug y flwyddyn hono at glirio dyled capeli y Dosbarth £74 8s. 6c., ac nid oeddynt yn cael dim yn ol o'r casgliad, ond addawyd y caent beth pan yr elent i ddyled eu hunain. Yn y flwyddyn 1841, anfonwyd Mr. John Jones, Geufron yn bresenol, i Gyfarfod Misol Talsarnau, i ofyn dros yr eglwys am ganiatad i helaethu y capel. Gofynid cwestiynau manwl yn y Cyfarfod Misol, megis, a oedd eisian ei helaethu, &c., ac aeth yn dipyn o siarad yn y cyfarfod ar y mater. "Oes, y mae eisiau ei helaethu," ebe Dafydd William, Talsarnau, "mae yn rhy fach pan fyddaf fi yno." Ac ar hyny, rhoddwyd y caniatad, a phenodwyd y Parch. Richard Humphreys i fyned yno i dynu ei gynllun. Helaethwyd ef y tufewn i'w furiau i'w faintioli presenol. Bu cryn drafferth i dalu ei ddyled y tro hwn. Yn Nghyfarfod Misol Aberdyfi, Mawrth, 1851, rhoddwyd £20 gan y Cyfarfod Misol i leihau y ddyled. Oddeutu y pryd hwn, daeth y tir y safai y capel arno yn feddiant i'r diweddar Mr. Foulkes, Aberdyfi, a throsglwyddodd yntau y tir a'r capel yn rhodd i'r Cyfundeb. Rhoddodd hefyd dir y gladdfa sydd wrth ymyl y capel am £40, ac yn ddiweddarach, fel ein hysbyswyd, cyflwynodd y tir hwn hefyd yn rhad i'r Cyfundeb.
Yn 1882, ail adeiladwyd y capel, neu yn hytrach, adeiladwyd ef y trydydd tro i'r ffurf hardd a chyfleus y mae ynddo yn bresenol. Aeth y draul yn £800. Nid oedd heb ei dalu yn niwedd 1885 ond £380.
Y mae hanes crefyddol yr eglwys hon yn cynwys llawer o addysgiadau. Yn y flwyddyn 1802, ymunodd Owen William, yr hen bregethwr a adnabyddid fel Owen William, Towyn, â'r eglwys yn Bryncrug, pan yn llanc 18 oed. "Nid oedd yn perthyn iddi y pryd hwnw," ebe efe, "ond dau heblaw fi heb fod yn wyr priod, sef Thomas Roberts, dduwiol iawn, Cae'r-felin, Llanwrin, ag oedd yn was yn Mhenyparc, a John Jones, llongwr, brawd y Parch. Hugh Jones, Towyn, ag oedd y pryd hwnw yn dilyn rhyw alwedigaeth ar y tir. Darfu i ni ein tri lunio cyfarfod i'w gynal yn wythnosol i'r diben o gynghori, rhybuddio, a dysgu ein gilydd, ac i'r naill ddywedyd wrth y llall bob peth a welem yn feius yn ein gilydd, ag y byddai yn dda diwygio oddiwrtho. Yr oeddym wedi ymrwymo o'r dechreu i dderbyn y naill gan y llall bob cyngor a cherydd a fernid yn angenrheidiol. Yr wyf yn meddwl i'r cyfarfod hwn ateb diben daionus; ond ni chefais i fod yno i'w fwynhau dros dri mis." Yr oedd rhieni y diweddar flaenor, Owen Williams, Aberdyfi, yn byw y pryd hwn yn Tŷ'n-y-maes. Ganwyd Owen Williams y flwyddyn yr adeiladwyd y capel cyntaf, ac arferai ddweyd ei fod yn cofio ei fam neu forwyn yn ei gario pan yn bedair oed i'r Ysgol Sul i Fryncrug. Clywsom ef yn dweyd hefyd fod gan ei fam feddwl mawr iawn o'r capel oedd newydd ei adeiladu yno. Yr oedd capel yn beth hynod ddieithr yn yr amser boreuol hwn. Yr Ysgol Sul yn arbenig fu yn foddion i roddi terfyn ar y nosweithiau llawen a'r gwylmabsantau. Parhaodd y rhai olaf yn hwy heb lwyr ddarfod na'r rhai cyntaf. Digwyddodd, medd yr hanes, i ferch ieuanc o'r gymydogaeth, yr hon oedd yn fedrus mewn dawnsio, ddyfod ar brydnhawn Sabbath i un o'r gwylmabsantau; a chan na ddaeth cynulliad ynghyd, ac iddi weled drws y capel yn Bryncrug yn agored, aeth i mewn i'r capel at y cyfeillion oedd yno yn cadw ysgol, a chafodd dderbyniad caredig. Derbyniwyd hi yn aelod o'r ysgol, a pharhaodd yn aelod o honi tra y gallodd ymlwybro iddi. Cafodd oes faith i wneyd hyn, sef pedwar ugain a deng mlynedd.
Mantais fawr i'r achos yn Mryncrug mewn llawer ffordd oedd, fod Rhagluniaeth wedi trefnu preswylfod J. Jones yn Penyparc, ac wedi ei gyfodi yn y fath amser, pan oedd y drws yn agor i grefydd ddyfod i mewn i'r wlad, ac ar gychwyniad cyntaf yr Ysgol Sul yn yr ardaloedd hyn. Trwy ei ddylanwad ef, cyfodwyd to ar ol to o'r darllenwyr goreu yn yr holl wlad, a gwreiddiwyd hwy hefyd yn fwy na'r cyffredin yn egwyddorion crefydd. Sefydlodd ef gyfarfod athrawon yn y lle, yr hwn a gynhelid ar noson yn yr wythnos, er mwyn dysgu yr athrawon yn egwyddorion crefydd, a'u cyfarwyddo yn eu gwaith priodol eu hunain fel athrawon. Ffurfiwyd llyfrgell hefyd yn y lle, at yr hon y talai pob athraw geiniog yn y mis. Yr oedd Bryn— crug, mewn adeg foreu iawn, yn rhagori ar bob lle yn y wlad mewn cynlluniau a threfniadau; ac fel hyn, cyrhaeddodd amryw o'r trigolion wybodaeth gyffredinol led helaeth. Yr oedd un o'r athrawon a ddilynai y cyfarfodydd hyn, o'r enw Evan Humphrey, wedi cyraedd gallu neillduol i ddeall ystyr lythyrenol y gair, ond nid llawer fyddai yn gymhwyso ar y gwirionedd at feddyliau ei ddosbarth. Yr oedd yn teimlo yn wan yn hyn, am nad oedd ei hun wedi ymuno â chrefydd. Ond parhaodd yn un o'r athrawon goreu ar hyd ei oes, er na ddarfu iddo o gwbl broffesu crefydd ei hun. Pe buasai dieithr-ddyn yn dyfod i'r cyfarfodydd a sylwi arno, buasai yn meddwl yn union ei fod yn grefyddol iawn wrth ei ddull yn gwrando, a'i Amen cynes, a'i lais peraidd yn canu. Ei ddull yn canu fyddai, un llaw o dan benelin y fraich arall, a llaw y fraich hono yn gafaelyd yn ei glust. Ymwelwyd ag ef ar ei glafwely, yn ei glefyd olaf, gan ei hen gyfaill, y Parch. Lewis William, a dywedai wrtho ei fod yn teimlo yn ofidus iawn ei feddwl na buasai wedi cyflwyno ei hun i bobl yr Arglwydd yn ei fywyd a'i iechyd, ond ei fod wedi cyflwyno ei hun i'r Arglwydd ganoedd o weithiau, ac nad oedd ganddo ddim i'w wneyd ond pwyso ar yr Iawn am fywyd tragwyddol.
Mor fore o'r flwyddyn 1799, yr ydym yn cael fod Mr. Charles, o'r Bala, yn cysgu yn Penyparc, ar ei ffordd i Gyfarfod Misol Abergynolwyn, a'i letywr, J. Jones, yn rhoddi iddo hanes Lewis William fel un tebyg o wneyd ysgolfeistr. Wedi hyny daeth Lewis William, yr ysgolfeistr, a'r blaenor o Benyparc yn gydnabyddus iawn a'u gilydd, a buont ill dau, fel Moses ac Aaron, y ddau ŵr penaf gyda dygiad yr achos ymlaen yn ei holl ranau yn Nosbarth y Ddwy Afon am flynyddoedd lawer. Bu Lewis William yn cadw ysgol ddyddiol yn Brynerug lawer gwaith yn ei dro. Cadwai yr ysgol yn y capel; ysgol rad ydoedd yn nyddiau Mr. Charles, a dyna fyddai yn cael ei galw wedi hyny dros lawer blwyddyn, er y byddai y plant yn talu rhyw ychydig o bres drostynt eu hunain. Nid oes cyfrif manwl o'r ysgol hon yn Brynerug ar gael, ond ceir rhestr o nifer y plant yn llawysgrif Lewis William ei hun am un chwarter, rywbryd cyn y flwyddyn 1820-eu henwau, eu presenoldeb yn yr ysgol, a'u taliadau. Yr oedd y nifer yn yr ysgol yn 77.
Mae y darn llythyr canlynol oddiwrth Lewis William at Ysgol Sabbothol Bryncrug yn dangos y rhan a gymerai ef gyda'r Cyfarfodydd Ysgolion, a'r sylw manwl a gymerid yn y cyfarfodydd hyny hyd yn nod o fanylion yr ysgolion:-
At Ysgol Sabbothol Bryncrug.
Yr wyf, yr annheilyngaf a'r anfedrusaf, tan rwymau dros y Cyfarfod Chwech Wythnosol, yr hwn a gynhaliwyd yn Pennal, Hydref 29ain, 1820, i'ch anerch mewn diolchgarwch fel ysgol am eich enwogrwydd mewn amryw bethau neillduol yn y chwech wythnos aeth heibio. Yr oedd golwg siriol ar yr achos yn holl ysgolion y cylch yn eu cyfrifon; ond i'ch cyfrifon chwi yr oedd y flaenoriaeth yn y tri pheth canlynol:-(1.) Un o'ch plith chwi a ddysgodd fwyaf o'r Beibl, sef ————— Mae llafur hon yn beth nodedig i sylwi arno, wrth ystyried ei hoedran, a natur ei chyneddfau. Mae yn ddigon er codi gwaed i'n hwynebau, ac i ystyried pa beth ydym yn ei wneyd â'n cyneddfau, ac i ddeisyf ar i Dduw faddeu i ni ein holl esgeulusdra, ac i godi dychryn yn ein meddyliau pa fodd y bydd arnom i wynebu y frawdle i gyfarfod yr eneth yma.
D.S. Mae y cyfarfod wedi ystyried fod yn ddyledswydd arnom i ddiolch i Dduw drosti, am ei gwaredu o'r cyfyngder y bu hi ynddo, sef cael fit o'r palsey, a'i galluogi i ddysgu cymaint o'r Ysgrythyrau, nes ydyw yn esiampl i ni i gyd fel cylch i'w dilyn."
Mae y gweddill o'r llythyr ar goll.
Yr oedd Lewis William yn cadw ysgol yn Bryncrug yn amser Diwygiad Beddgelert, am ranau o'r blynyddoedd 1818 ac 1819, a thorodd allan yn orfoledd mawr yn y capel gyda'r plant unwaith, ganol dydd gwaith, yn y cynhauaf gwair. Aeth L. W. i holi y plant yn yr Hyfforddwr, ac ymddengys fod J. Jones gydag ef yn yr ysgol y diwrnod hwnw. Yr oedd y drws yn gauad, a dywed rhai ei fod wedi ei gloi pan y torodd yn orfoledd mawr ar ganol yr holi. Y gwragedd yn clywed y plant yn gwaeddi, a ymgasglent ynghyd o bob cwr i'r pen- tref, ac ymdyrent o amgylch y capel; yn methu lân a deall y gwaeddi oedd o'r tu mewn i'r capel, tybient fod J. J. yn haner ladd y plant, a gyrasant gyda phob brys am eu gwyr i ddyfod yno o'r caeau gwair, hyd nes yr oedd y court o amgylch y capel wedi ei lenwi gan wyr a gwragedd, mewn pryder dirfawr ynghylch eu plant. A mawr oedd eu llawenydd pan ddeallasant nad oedd dim niwed wedi digwydd iddynt, ond mai gorfoleddu yr oeddynt hwy a'r ysgolfeistr gyda'u gilydd. Lledaenwyd y newydd am y gorfoledd yn ebrwydd trwy yr holl fro, a chrybwyllir am dano gan amryw o'r hen bobl hyd heddyw. Y mae rhai yn Bryncrug yn awr yn cofio gorfoledd mawr hefyd pan oedd Lewis William yn holi y gynulleidfa ar y Sabbath, tra yr adroddai y bobl yr adnod, "Ond efe a archollwyd am ein camweddau ni, efe a ddrylliwyd am ein hanwireddau ni; cosbedigaeth ein heddwch ni oedd arno ef; a thrwy ei gleisiau ef yr iachawyd ni." Mae yn dra sicr fod llawer o gymundeb wedi bod rhyngddo ef â'r nefoedd yn y capel hwn o dro i dro, ar y Sabbath, ac yn yr ysgol ddyddiol. Clywsom Mr. Jones, Ty mawr, Gwyddelfynydd gynt, yn adrodd am ymddygiad hynod yr hen bererin y tro olaf y bu yn pregethu yn Mryncrug. Yr oedd yn ei hen ddyddiau, a bron wedi colli ei olwg yn llwyr. Ymddangosai yn hynod anfoddlawn i fyned o'r capel nos Sul, fel pe buasai wedi cael rhyw ddatguddiad nad oedd ddim i ddyfod yno mwy. Cerddai yn ol a blaen, a'i ben i lawr, ar draws y capel o flaen y pulpud, yn hir wedi i bawb fyned allan, a dywedai mai dyna y tro olaf iddo weled yr hen addoldy. Wedi dyfod i'r drws, i gychwyn tua Gwyddelfynydd gyda Mr. Jones, troes yn ei ol drachefn, a'i wyneb unwaith eto i mewn i'r capel, a dywedai, "Ffarwell i ti yr hen gapel am byth; gwelais lawer o Dduw ynot ti erioed!"
Y blaenoriaid cyntaf fu yn gofalu am yr achos yn Bryncrug oeddynt J. Jones, Penyparc, a Harri Jones, Nantymynach. Cychwynodd y ddau eu gyrfa yn lled agos yr un amser, a buont yn cydweithio yn hir; H. J. yn gorphen ei oes Gorphenaf, 1824, a J. J. yn Gorphenaf, 1846. Enillodd y ddau radd dda fel diaconiaid, "hyfder mawr yn y ffydd sydd yn Nghrist Iesu," ac enwogrwydd nid bychan ymhlith yr eglwys filwriaethus. Siaredid yn y wlad am grefydd a hynawsedd y naill, ac am ysgo!heigdod a gwaith y llall, ac yr oedd yn ddywediad ymhlith eu cydnabod y byddai J. Jones yn troi a H. Jones yn llyfnu." Wrth edrych dros lyfr cofnodion yr. eglwys am 1845 a 1846, gwelir mai Margaret Jones, Penyparc, priod J. Jones, oedd trysorydd yr eglwys ar y pryd. Yr oedd disgyblaeth yn uchel yn yr eglwys hon. Dengys y llyfr uchod fod diarddeliadau wedi cymeryd lle yn ystod un flwyddyn oherwydd yr achosion canlynol:—Am anonestrwydd, pump neu chwech; am anwiredd, amryw; am esgeuluso moddion gras, amryw; am fyned i'r tai gyda bechgyn dibroffes ar y ffair; am dori amod; am gyfeillachu yn anghyfreithlon; am ymladd—diarddelwyd am yr oll o'r pethau hyn mewn un flwyddyn. Mor gynar a'r flwyddyn 1832, yr ydym yn cael enwau dau flaenor arall heblaw y rhai a nodwyd, sef—
John Williams, dilledydd wrth ei gelfyddyd. Dyn tawel, heddychlon, a zelog gyda chrefydd. Cymerai blaid y gwan, a byddai yn bwyllus with geryddu, a phob amser yn defnyddio adnodau o'r Beibl.
Thomas Lewis, gwr Mary Jones, yr hon a aeth i'r Bala at Mr. Charles i brynu Beibl. Un yn tueddu at fod ddiniwed ydoedd. Rhoddwyd disgyblaeth arno am ryw drosedd yn 1843. Ond dywed y rhai a wyddant am yr hanes mai bychan oedd y trosedd, a difwriad drwg ar ei ran ef, ond fel y byddai yr hen bobl yn arw am ddisgyblu am bob trosedd.
Owen Pugh hefyd oedd yn flaenllaw a gweithgar gyda'r achos, ac yn weddïwr mawr, ond nid wedi ei ddewis yn flaenor.
Yn Nghyfarfod Misol Pennal, Mawrth, 1811, derbyniwyd tri brawd arall yn flaenoriaid yn Bryncrug—Henry Jones, Gwyddelfynydd, yr hwn a ganmolid yn fawr fel dyn nodedig o ffyddlon gyda chrefydd. Dywedid pan oedd yn cael ei dderbyn i'r Cyfarfod Misol ei fod yn cadw dyledswydd deuluaidd yn ei dŷ dair gwaith yn y dydd. Ymadawodd o'r ardal yn 1848, a gair da iddo gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun, ac y mae arogl esmwyth ar ei ol hyd heddyw. Evan Evans a barhaodd yn ffyddlon gyda chrefydd hyd ddiwedd ei oes, a'i weddw a'i ferch a fuont ymhlith ffyddloniaid yr eglwys ar ei ol ef. John Jones, Geufron, sydd yn aros hyd y dydd hwn, ac eto yn un o flaenoriaid yr eglwys.
Griffith Pugh, Tynllwyn Hen, wedi hyny o Rydyronen, oedd yn flaenor yn Bryncrug. Bu fyw yn Llanfachreth cyn dyfod yma. Yr amser yr oedd dirwest yn dechreu, rhoddodd fenthyg ei wagen i gynal cyfarfod dirwest, er mwyn i'r areithwyr fyned iddi i areithio. Cafodd ei droi o'i dyddyn am hyny gan ei feistr tir. Gwnaeth amryw symudiadau ar ol gadael Llanfachreth, a bu farw yn Nolgellau.
Griffith Pugh, Berthlwyd. Yr oedd ef yn un o hen ysgolheigion J. J., Penyparc; wedi ei hyfforddi a'i addysgu yn dda mewn pethau crefydd er yn ieuanc; wedi cael mantais wrth draed ei hen athraw i ddyfod yn ddarllenwr da, ac i ymwreiddio yn egwyddorion crefydd. Yr oedd ganddo wybodaeth helaeth am ddull yr hen bobl o fyw a chrefydda. Perthynai iddo lawer o ddeheurwydd i gario ymlaen bob trefniadau mewn cysylltiad â'r achos. Prawf o'i fedr a'i ddeheurwydd oedd iddo lenwi y swydd o ysgrifenydd Cyfarfod Ysgolion y Dosbarth i foddlonrwydd am flynyddau. Yn ddiweddar y dewiswyd ef yn flaenor eglwysig, ac ni chafodd ond oes fer i gyflawni y swydd hon. Wedi bod yn wael a llesg am dros ddwy flynedd, bu farw Mawrth 28ain, 1888, yn 77 mlwydd oed. Gwnaethpwyd coffhad parchus am dano yn y Cyfarfod Misol dilynol, yn y Bwlch,
Dichon y bu yn yr eglwys swyddogion eraill na chafwyd eu henwau, a diameu y bu ynddi lu o rai ffyddlon na chrybwyllir am danynt. Ond y mae enwau y "ffyddloniaid" oll i lawr yn llyfr bywyd yr Oen." Bu yma rai gweithwyr da hefyd sydd wedi symud i ardaloedd eraill i fyw. Teilynga un teulu grybwylliad penodol. Daeth Mr. G. Jones o Glanmachles, Llanegryn, i fyw i Gwyddelfynydd, yn 1848. Yr oedd yn flaenor yn Llanegryn er's dros ddeng mlynedd cyn hyn, Bu ef, a'i briod, a'u mab, a'u dwy ferch yn dra ffyddlon gyda yr achos, ac yn gefn iddo ymhob ystyr hyd eu symudiad i Tŷ Mawr, Towyn, yn 1881. Yr oedd eu tŷ trwy yr holl flynyddau hyn, fel Bethania i'r Iesu, yn llety i holl weinidogion yr efengyl, gyda phob croesaw a serchogrwydd. Mri. David Davies, yn awr o Lanfyllin, a Rees Parry, yn awr o Bennal, fuont yn flaenoriaid yma dros lawer blwyddyn. Yn yr eglwys hon hefyd y bu y Parch. G. Evans yn gwasanaethu yn ffyddlon cyn ei symudiad yn 1886 i Aberdyfi. Blaenoriaid presenol yr eglwys ydynt :—Mri. John Jones, David Thomas, John Morgan, William Roberts, Brynglas, William Roberts, Bodlondeb.
Y Parch. Robert Griffith, Bryncrug. Gŵr cadarn, crwn o gorff, ac o feddwl cyfatebol. Genedigol ydoedd o Roslan, Sir Gaernarfon. Yn Nghymdeithasfa Pwllheli, clywodd y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn yn pregethu, a dywedai ynddo ei hun, "Tybed a oes dim modd cael myned i weini i'r fath un." Cafodd ei ddymuniad ei gyflawni; symudodd i'r Dyffryn, Meirionydd, i wasanaethu am dymor byr i le a elwir Llecheiddior, ac wedi hyny bu yn was yn y Faeldref, gyda Mr. Humphreys am flynyddoedd, ac yno enillodd air da, a ffurfiodd ei gymeriad am ei oes. Wedi priodi yn y Dyffryn, symudodd. i Cefndeuddwr, yn ardal Trawsfynydd, ac yno y dechreuodd bregethu. Wedi hyny ymadawodd i ardal Bryncrug, i le o'r enw Tyn'reithin, ac wedi hyny i Bronyffynon, lle y gorphenodd ei yrfa, Gorphenaf 20fed, 1876, yn 59 mlwydd oed, wedi bod. yn pregethu oddeutu 34 mlynedd. Ordeiniwyd ef i gyflawn. waith y weinidogaeth yn 1869. Gweithiodd yn galed a diwyd trwy anhawsderau i enill bywoliaeth iddo ei hun a'i deulu, ac yr oedd erbyn diwedd ei oes wedi cefnu, fel y dywedir, ar y byd. Yr oedd yn gyfaill cywir, ac yn ddyn hynaws a hoffus yn ei gwmni. Ei brif nodwedd oedd ei grefydd. Nid yn hawdd y gellid cael gwell disgrifiad o hono na'r geiriau a roddwyd ar ei gerdyn coffadwriaethol, "Yr oedd efe yn ofni Duw yn fwy na llawer." Yr oedd yn gadarn yn yr Ysgrythyrau, a defnyddiai hanesion y Beibl i bwrpas yn ei bregethau, ac yn y cyfarfodydd. eglwysig. Nid oedd yn proffesu ei fod yn meddu dawn mawr, ond yr oedd yn meddu profiad uchel o'r gwirionedd. Cymysglyd fyddai y pregethu ganddo yn aml, ond ambell dro elai y tuhwnt iddo ei hun o nerthol. Cafodd rai cyfarfodydd nerthol wrth holwyddori yn gyhoeddus. Crybwyllir am ddau dro yn arbenig, yn Nghorris ac yn Mhennal. Yr angylion yn gwasanaethu i'r saint oedd ganddo yn y lle olaf. "A fydd yr angylion gyda mi yn myned adref heno, dros Mynydd. Bychan?" gofynai. Byddant," ebe y bobl, nes codi pawb i hwyl addoli. Pan fu farw yr oedd pawb o un feddwl yn ei roddi yn y nefoedd, ac yn teimlo yn hiraethus ar ei ol.
Y Parch. Owen Williams (Towyn). Felly yr adnabyddid ef trwy ei oes, am y rheswm, mae yn debyg, fod Bryncrug a'r lleoedd eraill y bu yn preswylio ynddynt yn agos i Towyn. "Ganwyd fi," ebe fe, "Medi 11, 1784, yn Mhentref Bryncrug, plwyf Towyn, Sir Feirionydd. Yr oeddwn yn un o dri-ar-ddeg o blant-un-ar-ddeg o feibion a dwy o ferched. Cychwr oedd fy nhad ar yr afon Dysyni, yn cario cerrig calch a glo oddiwrth y llongau i fyny i'r wlad, a choed i lawr at y llongau. Bum inau yn dilyn yr alwedigaeth hono gyda fy nhad am chwe' blynedd, o pan oeddwn yn naw oed hyd nes oeddwn yn bymtheg, ddydd a nos, haf a gauaf, ac yn fynych mewn perygl, ac yn ofni colli fy mywyd. Cefais fyned i'r ysgol at Mr. John Jones, Penyparc. Dysgais ddarllen yn rhigl, ac ysgrifenu, ond nid llawer yn ychwaneg na hyny." Aeth i wasanaethu yn nhymor ei ieuenctid i Bronclydwr, ac yno yr oedd pan ddechreuodd bregethu. Owen, Bronclydwr, y gelwid ef am amser wedi iddo ddechreu pregethu. Cafodd argyhoeddiad grymus ryfeddol, a bu dan Sinai lawer o wythnosau cyn ymuno â chrefydd. Tra yn was yn Bronclydwr, yr oedd rhai yn Llanegryn wedi ei anog i ddechreu pregethu, ond dwrdiai pobl y Bwlch yn arw am hyny, a dywedai rhai o honynt nad oedd neb ond y diafol yn ceisio ganddo bregethu. "Gwyddwn inau," meddai yntau, "nad oeddynt yn dweyd y gwir; yr oedd gŵr y Pentrauchaf, yn Llanegryn, yn dweyd wrthyf am bregethu, a'i fod yn meddwl fod defnyddiau ynof, felly yr oedd un dyn beth bynag wedi meddwl am i mi bregethu." Tua'r pryd hwn yr oedd y Parch. John Elias, o Fôn, yn pregethu ar foreu Sabbath yn Bryncrug, a galwodd pobl y Bwlch gommittee ar ol, i roddi achos Owen William gerbron, ac yntau ei hun yno yn gwrando. A'r gwyn a roddid yn ei erbyn oedd ei fod wedi rhyfygu pregethu yn Llanegryn, ac wedi dal ati hi am awr. Nid llawer a ddywedai John Elias ar y mater, ond gofynodd un gwr, "Paham nad all Duw wneyd Owen yn bregethwr cystal a gwneyd rhywun arall?" A dywedodd John Elias wrtho, "Dos ati hi eto fy machgen bach i, a phregetha dŷ oreu." Felly pregethu wnaeth hyd ddiwedd ei oes; ond bu llawer o ups and downs arno gyda'r gwaith. Yr ydoedd yn helbulus gydag amgylchiadau y bywyd hwn, a'r olwg arno yn llwydaidd. Yr oedd yn feddyliwr cryf, ac yn bregethwr pur alluog, a bu yn rhyfeddo! o boblogaidd ar rai tymhorau o'i fywyd, yn enwedig mewn rhai rhanau o Gymru. Ond yr oedd ei lais yn aflafar a'i ddull yn anhyfryd. Cyfansoddodd a chyhoeddodd amryw lyfrau, y rhai a ddangosant lawer o allu. Y mae llawer o'i hanes a'i ddywediadau ar gael, a phe cesglid hwy ynghyd byddent yn ddyddorol ac yn hynod. Bu yn wasanaethgar gyda'r achos yn Bryncrug dros ranau helaeth o'i oes. Byddai," ebe un, "yn cadw cyfarfod egwyddori gyda'r bobl ieuainc, a gwnaeth ddaioni mawr trwy hyny. Pwnc oedd ei beth mawr ef—cyfiawnhad, a sancteiddhad," &c. "Er nad oedd Owen William," ebe un arall o'i gymydogion, yn hyfryd yn y byd i wrando arno, yr oedd tuedd pur fawr ynddo at adeiladaeth." Bu farw Ebrill 15fed, 1859, yn 75 oed, a chladdwyd ef yn mynwent capel Salem, Dolgellau.
LLWYNGWRIL.[3]
Oherwydd fod Llwyngwril ar gŵr gorllewinol y Dosbarth, ac heb fod nepell o'r Abermaw, fe drosglwyddwyd y tân dwyfol o'r tuhwnt i'r Afon Mawddach yn gynt, ac fe ddechreuwyd pregethu yma beth yn gynarach na'r ardaloedd cylchynol. Fe gafodd yr ardal y breintiau yn gyntaf, yn unig am fod ei sefyllfa ddaearyddol yn nes i'r Abermaw, o'r lle yr oedd y breintiau yn dyfod. Ymhob ystyr arall, ardal anghysbell ydoedd, a phobl yn preswylio eu hunain oedd ei phreswylwyr i fesur mawr cyn gwneuthur Rheilffordd Glanau Cymru. Ac fel gwledydd anghysbell yn gyffredin, yr oedd mwy o waith gwareiddio ar ei phreswylwyr hi. Bu amser pryd yr oedd trigolion yr ardal yn llai gwâr na thrigolion odid i ardal yn y sir. Wedi gwneuthur y reilffordd uchod, y mae Llwyngwril, yn ddaearyddol, gwladol, a chrefyddol wedi dyfod i'r byd, yn lle bod fel cynt allan o hono. Ond yn llawn bedwar ugain mlynedd cyn i'r agerbeiriant cyntaf wneyd ei ffordd trwy Lwyngwril, fe ddaeth yr efengyl yn ei dylanwadau nefol i newid gwyneb yr ardal. "Dechreuodd y pregethu yn Llwyngwril," fel y dywed Methodistiaeth Cymru, "tua'r flwyddyn 1787." Nid yw hyn yn hollol gywir; dechreuwyd pregethu yma, yn ol pob tebyg, dair neu bedair blynedd cyn hyny. Tua'r flwyddyn 1787, neu y flwyddyn ganlynol, tebygem, y cymerodd yr erledigaeth y rhoddwyd ei hanes yn tudalen 48 le. Cyn y flwyddyn grybwylledig, byddai ambell odfa yn cael ei chynal yn nhŷ un Sion William, Gwastadgoed, ond ni byddai ond ychydig yn dyfod i wrando, ac erlidid y pregethwyr a'r gwrandawyr yn dost. Cafodd Sion William ei droi o'i dŷ am ei fod yn caniatau pregethu ynddo; symudodd i le a elwir y Gors, a chynhelid pregethu yn ei dŷ yno hefyd. Mae yn deilwng o sylw nad oedd gan yr un enwad o Ymneillduwyr achos yn Llwyngwril pan ddechreuodd y Methodistiaid bregethu yno, ac na ddechreuodd yr un enwad arall achos yn y lle am ugain mlynedd wedi hyn. Yr oedd gan y Crynwyr achos wedi bod, a chynhalient y moddion yn y Llwyndu, yn agos i'r pentref. Yr oedd ychydig bersonau o'r brodyr hyn yn aros yr amser y dechreuwyd achos gan y Methodistiaid, ond darfuasant yn llwyr ymhen ychydig flynyddau ar ol hyny. Yn llan y plwyf, sef eglwys Celynin, yn unig y cynhelid y gwasanaeth crefyddol, lle byddai yr offeiriad yn pregethu, meddai un oedd yn byw yn yr ardal ar y pryd, bob yn ail Sabbath. Yr oedd Catechism yr Eglwys, y Pader, y Credo, a'r Gwersi Bedydd yn cael eu dysgu yno. Ond nid oedd nemawr yn y plwyf a fedrent ddarllen y Beibl." Y cyfryw ydoedd agwedd grefyddol, neu yn hytrach anghrefyddol yr ardal y blynyddoedd o flaen sefydliad yr Ysgol Sul.
Ond yr oedd "trwst cerddediad yn mrig y morwydd" y blynyddoedd hyn; cynhyrfiadau yn cymeryd lle mewn rhai ardaloedd, a'r ardaloedd hyny drachefn, mewn modd nas gwyddai neb dynion, yn dylanwadu ar ardaloedd eraill. Aethai y crefyddwyr oedd yn Abermaw a Maes-yr-afallen rai gweithiau dros yr afon i Lwyngwril, a rhai o ardal Llwyngwril drosodd atynt hwythau, fel y darfu i'r ychydig ddisgyblion, o dipyn i beth, wneuthur yr Iesu yn hysbys y naill i'r llall. Dywedir i John Ellis, Abermaw, fod am dymor yn cadw ysgol ddyddiol yn Llwyngwril, o dan Mr. Charles, ond nid oes sicrwydd pa un ai cyn y flwyddyn y rhwystrwyd ef i bregethu yn y tŷ tafarn ai wedi hyny. Nis gallai fod fawr cynt, oblegid nid oedd ond rhyw ddwy neu dair blynedd eto er pan ddechreuasai ysgolion rhad Mr. Charles. Modd bynag, y peth sydd sicr ydyw, mai yn y flwyddyn 1789 y cymerodd tröedigaeth Lewis Morris, y penaf o'r erlidwyr, le. Cyn hyn, byddai pregethu yn awr ac yn y man ers rhyw bum' neu chwe' blynedd, ond wedi y flwyddyn hon, dechreuodd y disgyblion a'r moddion amlhau. A dywedir mai gweinidogaeth John Ellis, Abermaw, L. Morris, Dafydd Cadwaladr, ac ambell bregethwr dieithr, a fendithiwyd i blanu Methodistiaeth yn yr ardal. Dywedir gan un o ddisgynyddion y blaenor cyntaf yn Llwyngwril, mai Mr. Charles, o'r Bala, a sefydlodd y cyfarfod eglwysig cyntaf yno, mewn tŷ bychan yn ymyl y capel presenol, ac mai saith oedd y nifer ar sefydliad yr eglwys gyntaf. Ond nid ydyw y dyddiad wedi ei gadw gan neb. "Bu gwedd isel ar yr achos am lawer bwyddyn; aeth drosto auaf trwm." Y mae rhai pethau pur hynod yn perthyn i rai o sylfaenwyr cyntaf yr achos yn y lle. Nid oedd blaenoriaid yn cael eu gosod ar eglwysi dros amryw flynyddoedd wedi hyn. Cymerai y rhai a deimlent zel gydag achos crefydd, yn feibion neu yn ferched, y swydd, neu yn hytrach y gwaith o flaenori arnynt eu hunain. Yr oedd yr ardal yn lle tlotach na'r cyffredin. Golwg felly fyddai ar y pentref, y tai, a'r trigolion, Tlodion oeddynt ganlynwyr yr Arglwydd Iesu yn Llwyngwril, yn fwy nag odid unrhyw fan, ac ni chafwyd neb yma yn gefn, fel y dywedir, i'r achos am faith flynyddau, hyd amser y diweddar Hugh Thomas, y Siop, a'i briod. Eto i gyd, cafwyd ymysg y tlodion hyn, rai nad oeddynt yn ol i neb yn y sir mewn ffyddlondeb a zel.
"Fel engreifftiau i osod allan iselder yr achos Methodistaidd yn y fro yma," ebe awdwr Methodistiaeth Cymru, yn ychwanegol at yr hyn a ddywedwyd, gellir crybwyll am ddau ŵr o'r un enw, a elwid, er mwyn eu gwahaniaethu, un yn Sion Vychan fach, a'r llall yn Sion Vychan fawr. Nid oedd y ddau ond tlodion iawn, ond eto fe ymddengys mai arnynt hwy, yn mron yn hollol, y disgynai gofal a chynhaliad yr achos dros ryw dymor. Arferai y ddau ŵr tlawd hyn fyw am wythnos heb enllyn ar eu bara, er mwyn cynilo ychydig o geiniogau i dalu costau ambell i bregethwr tlawd a ddeuai yn achlysurol atynt. Yr hyn a allai y trueiniaid hyn a wnaent:' ac nid oes amheuaeth na fydd mwy o gyfrif yn cael ei wneuthur yn y farn o'u gwasanaeth, nag a wneir o orchestion y rhai a adeiladodd Rufain, neu a ddarostyngodd Gaerdroia!"
Yr oedd Sion Vychan fach yn dad i William Vaughan, Ynysfaig, yr hwn a fu yn flaenor hyd yn lled ddiweddar yn Saron, y Friog; a Sion Vychan fawr yn dad i Griffith Vaughan, yr hwn oedd er's llai nag ugain mlynedd yn ol yn flaenor yn y Bwlch. Ar ysgwyddau y ddau Sion y bu yr achos yn Llwyngwril am amser maith, ac yr oedd y ddau, fel y crybwyllwyd, yn dlodion yn mhethau y byd hwn, ond yn "gyfoethogion mewn ffydd." Bu y ddau gyda'u gilydd, ac un arall yn cadw cyfarfod gweddi am ugain mlynedd i ofyn am ddiwygiad, ac ymhen yr ugain mlynedd fe dorodd y diwygiad allan. Yr oedd Catherine Owen, gweddw y diweddar hen flaenor adnabyddus, Hugh Owen, Capel Maethlon, wedi ei magu yn yr ardal hon. Yr oedd hi yn cofio myned i'r Ysgol Sul i Dyddyn Ithel, pan yn eneth fechan, a Sion Vychan fawr yn ei chario yno ar ei gefn am flwyddyn, a chaffai ei ginio bob Sul gan ei mam am hyny. Byddai Sion Vychan fach ac yntau yn myned i'r Bala bob yn ail, ar Sabbath cymundeb. Un adeg, yr oedd tro Sion Vychan fach i fyned yno, ond yr oedd heb ddim esgidiau am ei draed. "Ti gei fenthyg fy esgidiau i," ebe Sion Vychan fawr. "Y maent yn rhy fawr i mi," ebe yntau. "Wel, dyro wellt ynddynt," ebe y llall, "fe fyddant yn gynhesach i ti." Felly fu, rhoddodd wellt ynddynt, ac i'w daith fawr i'r Bala ag ef. Wedi ffurfiad yr eglwysi yma ac yn y Bwlch, i'r Abermaw yr elai yr aelodau dros ryw dymor i gael cyfarfod eglwysig, ac yn enwedig i'r cymundeb, pan y digwyddai i rai o wyr blaenaf y Deheudir ddyfod heibio.
Yr Ysgol Sul.
Y tebyg ydyw na ddechreuodd yr ysgol yma gyda dim cysondeb hyd rywbryd wedi dechreu y ganrif hon. Mewn beudy perthynol i ffermdy Tyddyn Ithel y dechreuwyd hi gyntaf. Bu hefyd yn cael ei chynal yn Coed-y-gweddill. Symudwyd hi wed'yn i'r hen Fragdŷ yn y pentref; ac wedi iddi fod yno am ysbaid, prynwyd hen anedd-dŷ, gyda'r bwriad o'i droi yn addoldy, ac yno y cadwyd yr ysgol. Golwg gyntefig oedd ar yr hen dŷ hwn ar y cyntaf; llawr pridd, a'r muriau wedi eu gwyngalchu; nifer o feinciau ar y canol ac wrth y muriau, a dim ond un lle y gellid ei galw yn set o gwbl, a gelwid hono yn briodol iawn yn set fawr. Yr oedd yr hen frodyr a ofalent am yr ysgol yn yr hen dŷ hwn yn bur wladaidd a syml yn eu ffordd. Un o honynt oedd Harri Jones, Prysgae. Ar ol rhoddi gwers i'w ddosbarth o blant yn yr A, B, C, elai yr hen frawd i gysgu, a thra fyddai ef yn yr agwedd hono, diangai y plant allan o un i un, a phan ddeffroai byddai yn hen bryd iddo fyned ar eu hol i'w hymofyn yn ol i'r ysgol. Pedwar o'r hen athrawon mwyaf blaenllaw a zelog oeddynt Sion Vychan fach, Sion Vychan fawr, Sion Evan, Coedmawr, a Sion William. Dywedir y byddai yn arferiad gan un o'r hen frodyr hyn, pan yn diweddu yr ysgol, i fyned i weddi o'i sefyll, a'i lygaid yn agored. Ei amcan oedd cadw golwg ar y plant direidus, er mwyn eu cadw mewn trefn. Os gwelai un o honynt yn camymddwyn, elai ato dan weddïo, a. rhoddai ysgydwad pur dda iddo, a cherddai yn ol i'r set fawr dan weddïo o hyd. Byddai yr hen dadau, er hyny, yn bur ffyddlon yn eu dull cartrefol eu hunain.
Yr Ysgol Ddyddiol.
Yr oedd yr ysgol ddyddiol y pryd hwn, pan y dygid hi ymlaen gan ysgol-feistriaid Mr. Charles, yn llaw-forwyn dra gwasanaethgar i grefydd, yn enwedig pan fyddai y gor-zelog a'r gor-dduwiol Lewis William yn athraw iddi. O tan ei ofal ef byddai yr ysgol ddyddiol y peth tebycaf o ddim y gwyddom am dano i'r ysgolion y darllenwn am danynt o dan arweiniad. y cenhadon mewn gwledydd paganaidd. Nis gwyddom am neb a fu yn Llwyngwril yn cadw ysgol ond John Ellis, Abermaw, hyd amser Lewis William. Yr oedd Lewis William yma. yn 1811 ac 1812, a gwnaeth waith mawr. Y mae amryw o'i bapyrau, tra bu yma y pryd hwn, ar gael, a thybiwn mai nid. annyddorol fyddai rhoddi dyfyniadau o honynt, er dangos pa fodd y cafodd y wlad ei lefeinio i dderbyn crefydd. Yn un o'i lythyrau at ymddiriedolwyr yr Ysgol Rad, yn y flwyddyn 1812, wedi ei ddyddio yn Llwyngwril, mae yn datgan ei ddiolchgarwch, yn gyntaf i'r Arglwydd am ei osod yn y swydd o athraw, yn ail iddynt hwythau am eu hynawsedd tuag ato, ac yna erfynia dros yr ysgolheigion am i'r ysgol gael ei pharhau am dri mis yn hwy:—
"Yr ydwyf yr annheilyngaf a'r anfedrusaf o bawb yn eich anerch a'r ychydig linellau canlynol, mewn dull o ddiolchgarwch. Dymunaf ar fy Nuw roddi i mi galon uniawn, ffyddlon, ddidwyll, ddeallus, ddeffrous, mewn diolchgarwch diball, yn benaf iddo Ef ei hun. Yr wyf yn teimlo ynof zel ac awydd i ddiolch am y Bod o Dduw, ac yn neillduol am ei fod yr hyn ydyw, sef yn Dad, Mab, ac Ysbryd, ac hefyd am ei briodoliaethau. Diolch ei fod yn Dragwyddol, Anghyfnewidiol, Hollbresenol, Hollwybodol, Hollalluog, Sanctaidd, Cyfiawn, Doeth, a Da; am ei gariad, ei amynedd, a'i wirionedd. Y mae fy nghalon yn llosgi ynof o lawenydd a gorfoledd wrth edrych ar y Personau Dwyfol, a'u perffeithiau o blaid achub pechadur colledig. Nis gallaf beidio coffhau ychydig o lawer o'r gair sydd yn gweinyddu i fy meddwl gysur, ac yn peri i fy nghalon lamu o lawenydd. . . . . Wrth edrych ar Dduw, ac ystyried yr hyn ydyw, yr wyf wedi myned i syndod, a fy meddwl wedi ei lyncu i fyny ganddo hyd onid wyf yn methu ymadael ag ef. Diolch, diolch am galon ddiolchgar. Llawer o ddefnyddiau diolchgarwch a gefais wrth edrych ar ei waith yn y greadigaeth ac mewn rhagluniaeth; ond yn bresenol, yr wyf yn boddi rhwng dau beth, sef Yr hyn yw Duw, a threfn yr iachawdwriaeth. O! na bai genyf ddoethineb, dawn, medrusrwydd, a gallu yr angel i ddiolch i Dduw [yna enwa y pethau y dylai ddiolch am danynt, a dyfyna adnodau afrifed yn corffori ei ddiolchiadau]. Ond mi af heibio iddynt oll yn awr at un peth, sef gwaith Duw yn fy ngosod a fy nghynal hyd yma er's blynyddoedd (dros 10) lawer bellach yn y fath oruchel, anrhydeddus, ac adeiladol sefyllfa i'w ogoneddu; ac hefyd er fy ngwneuthur yn ddefnyddiol i'm cyd-drafaelwyr i'r byd tragwyddol. Nid wyf yn gwybod am un sefyllfa yn y byd ag y mae yr holl bethau hyn yn cydgyfarfod yn fwy cryno nag yn hon. Rhyfedd, rhyfedd, ie, mi a ryfeddaf byth, os caf y fraint o fy ngwneuthur yn ffyddlon, a'm cyfrif felly gan fy Nuw. O! na bai genyf ddeall, dawn, ac ymadrodd i fynegu rhinweddau fy Nuw, mewn clodforedd a diolchgarwch am y mawrion oruchwyliaethau, a'i weithredoedd ef tuag ataf i'm gosod a'm cynal yn y sefyllfa hon, sef i hyfforddi yr anwybodus. Yr wyf yn cydnabod fy rhwynedigaeth yn fawr i bawb a fu yn llaw yr Arglwydd yn gynorthwy i mi yr holl amser yr wyf gyda y gwaith hwn. Ac yn eu plith yr wyf yn eich anerch chwithau mewn modd caredigol, fy anwyl gynysgaeddwyr haelionus, am eich ewyllys da i mi er pan fum gyda chwi [enwa Mr. D. Davies, Mr. Griffiths, a Mr. C. Lewis wrth eu henwau], ac yn neillduol am fy ngalluogi y chwarter hwn o'r flwyddyn â modd i gael fy nghynhaliaeth, i ddysgu yr anwybodus yn y pethau a berthyn i'w tragwyddol iachawdwriaeth, yr hyn yr wyf yn ei weled yn rhagorfraint i mi fwy nag a fedraf byth ei draethu.
"Hyn sydd oddiwrth eich annheilyngaf was,
"LEWIS WILLIAM."
Ysgrifena amryw lythyrau yn y flwyddyn 1812 at yr Ymddiriedolwyr, yn y rhai y rhydd eglurhad ar ei ddull o dderbyn yr ysgolheigion, yr addysg a gyfrenid, a disgyblaeth yr ysgol yn Llwyngwril.
"Yn eglurhad o'm dull at rai ar eu dyfodiad cyntaf i gynyg eu hunain i fod yn aelodau o'r Ysgol Rad, byddaf yn eu holi, a wnant hwy ymddwyn yn barchus, ac ufudd, ac ymdrechgar tuag at y pethau yr ydys yn ei ofyn oddiwrth Reolau yr Ysgol. Byddaf yn gofyn iddynt y cwestiynau canlynol— A ydynt yn rhoddi eu hunain i'm gofal i, i'w haddysgu yn y pethau a fyddaf yn ei weled fwyaf buddiol iddynt, er eu hadeiladaeth ysbrydol, a'u budd tymhorol; a wnant hwy fod yn ufudd yn yr hyn a ofynir ganddynt hyd eu gallu; a wnant hwy gydymagweddu a'r ysgolheigion eraill mewn canu, egwyddori, a gweddïo; a wnant hwy ddysgu Catechism yr Eglwys, ynghyd âg esboniad Mr. Griffith Jones arno; a fydd iddynt ddyfod i'r addoliad cyhoeddus bob Sabbath oni fydd rhyw achos cyfreithlon yn eu hatal; a wnant ateb yr offeiriad yn barchus a defosiynol yn ngwasanaeth yr Eglwys. A fydd iddynt ymdrechu cofio rhyw ran o'r pethau a glywsant yn yr addoliad; a wnant ymneillduo oddiwrth gyfeillach y rhai afreolus, anfucheddol, ac annuwiol; a wnant hwy ddysgu gweddïau i'w dweyd o flaen bwyd, ac ar ol bwyd; a fydd iddynt beidio esgeuluso un amser; a fydd iddynt dderbyn cerydd am eu beiau yn ol fel y bernir y bydd yr achos yn gofyn; a fydd iddynt ymddwyn yn ostyngedig ac yn barchus tuag at bawb ymhob man; a fyddant yn dirion fel brodyr a chwiorydd wrth eu gilydd. O dan amodau i wneyd y pethau hyn y maent yn cael eu derbyn yn aelodau o'r ysgol. Y mae yr ysgolheigion ar eu dyfodiad cyntaf i'r ysgol, i blygu ar eu gliniau, a dweyd gweddi yr Arglwydd, ac atolygu ar Dduw am fendith ar eu llafur. A'r un modd ar ddiwedd yr ysgol, byddwn yn cyd—uno gyda'n gilydd i ganu hymn neu salm, gwrandewir rhyw ran o'r Gair a fyddant wedi ei ddysgu allan, a gofynir drachefn ychydig o gwestiynau yn gyffredinol. . . .
. . . Disgyblaeth yr Ysgol. Yn gyntaf, cyn dechreu ymdrin â'r troseddwr, ar ol clywed am y cyhuddiadau, byddis yn adrodd rhanau o'r Ysgrythyr, megis y rhai canlynol— Na chydnabyddwch wynebau mewn barn (Deut. i. 17); Na ŵyra farn dŷ dlawd yn ei ymrafael (Ex. xxiii. 6); Nid da derbyn wyneb yr annuwiol, i ddymchwelyd y cyfiawn mewn barn' (Diar, xviii. 5). Ar ol i'r ysgolheigion adrodd rhyw nifer o'r Ysgrythyrau hyn, gorchmynir i'r troseddwr sefyll i fyny yn yr ysgol, ac yna gelwir y tystion ymlaen i sefyll gerllaw y troseddwr. Yna darllenir i'r tystion y rhanau hyn o'r Ysgrythyr Na chyfod enllib: na ddod dŷ law gyda yr annuwiol i fod yn dyst anwir' (Ex. xxiii. 11); 'Na fydd dyst heb achos yn erbyn dŷ gymydog, ac na huda â'th wefusau' (Diar. xxiv. 28). Ac ar ol darllen y rhanau hyn o'r Gair, erchir i'r tystion enwi y trosedd ynghyd â'r sicrwydd fod y troseddwr yn euog. Wedi i'r troseddwr gael ei brofi yn euog trwy dystiolaethau eglur a goleu, byddis yn profi y weithred yn bechadurus trwy ranau o'r Ysgrythyr. Ac yna byddis. yn barnu pa gosb a fydd yn addas ei rhoddi ar y troseddwr, yn ol natur y trosedd, a hyny trwy gydsyniad a barn yr ysgolheigion yn gyffredinol."
Mewn un llythyr dywed pa fodd y trefnai y plant yn ddosbarthiadau, yn ol eu graddau mewn dysgeidiaeth, gan ddechreu gyda y wyddor, ac oddiyno i sillebiaeth, a dechreuid y rhai hyn gyda geiriau unsill, yna dwy sill, yna tair sill, ac wedi hyny darllen yn y llyfrau bach. Ar ol gorphen y rhai hyn, dodid hwy i ddarllen yn y Testamentau; a'r gris olaf mewn darllen fyddai eu symud i'r Hen Destament. Dysgid hefyd yn yr ysgol y rhifnodau, yr atalnodau, a'r "nodau cyfeiriol," a "phob nodau sydd yn y Gair;" ystyr geiriau, ac elfenau cyntaf Gramadeg. Ond ni fyddai ond ychydig iawn byth yn myned mor bell a Rhifyddiaeth.
"Ond i fyned ymlaen i roddi ychydig o hanes yr ysgol. Yr oedd yn perthyn iddi dros 60; ac fe fu yr ysgolheigion yn dda wrthynt eu hunain, trwy barhau i raddau mawr o ffyddlondeb a diwydrwydd i ddyfod i'r ysgol, gan brynu yr amser, a pheth mwy a ellir ei ddweyd am lawer o honynt, hwy a ddefnyddiasant y cyfleusdra trwy ymdrech, a llafur, ac ufudd-dod i ddysgu yr hyn a orchymynwyd iddynt, neu a osodwyd iddynt yn ddognwaith; ac yn eu hymdrech fe fu llawer o lwydd ar eu llafur, fel y gellir dywedyd nad aeth eu llafur yn ofer. . . . Ond am eu llafur a'u llwydd mewn pethau mwy eu pwys, sef y pethau sydd yn perthyn mewn modd uniongyrchol er eu hadeiladaeth ysbrydol, y Catechism, ac amryw weddïau, i'w hymarfer ar amryw achlysuron, a llawer o'r Gair yn benodau a Salmau, a llawer o adnodau ar amryw o faterion, ynghyd ag amryw ranau o esboniad Mr. Griffith Jones ar y Catechism, yr hwn y byddai yn dda genyf ei ddysgu i gyd iddynt o'i gwr, ond yr anfantais i ymosod ar hyny mewn modd neillduol yn bresenol ydyw diffyg llyfrau; y modd y dysgasant y rhanau a ddysgasant oedd trwy eu hysgrifenu ar docynau o bapyr, a'u roddi iddynt i'w dysgu. Llawer o lafur a fu ac y sydd yn y gorchwyl hwn. Yr wyf yn cydnabod mewn diolchgarwch fy rhwymedigaeth i bawb a gymerodd yr Arglwydd yn ei law yn offerynau er fy nghynal o ran trugareddau naturiol, ac yn ddiweddaf oll i chwithau am eich ffafr a'ch anrheg i mi. I Dduw a'n Tad ni y byddo y gogoniant yn oes oesoedd. Y mae yr ysgolheigion sydd gyda mi yn eich anerch—LEWIS WILLIAMS."
Yr inspector a fyddai yn talu ymweliad â'r ysgol yn Llwyngwril ydoedd Mr. David Davies, yr hwn y byddai L. W. yn ei gyfarch fel "Fy anwyl ymweledydd" (neu visitor). Mae yr adroddiadau uchod yn engraifft o'r dull y cynhelid yr Ysgol Rad y pryd hwn yn yr ardaloedd cylchynol yn gystal ag yn Llwyngwril. Oddiwrth y cyfeiriadau yn ei lythyrau ymddengys fod yr ysgolfeistr y pryd hwn yn aelod o'r Eglwys Sefydledig yn Celynin, a'i fod ef a'r offeiriad yn cydolygu a'u gilydd gyda gwaith yr ysgol. Y mae Catherine Owen, capel Maethlon gynt, yn cofio L. W. yn cadw ysgol yn Llwyngwril, a'i fod yn myned i Ysgol Sul yr eglwys gyda'r offeiriad. Cofia hefyd am dano yn holi plant yn Eglwys Celynin ar y Sul, ac ar risiau y gallery yn adrodd wrth y plant yr hanes am wraig Lot, fel yr oedd wedi edrych o'i hol, a'i gwneuthur yn golofn halen, ac meddai "Mae haneswyr yn dweyd fod y golofn i'w gweled eto yn y wlad hono." Profa y ddau lythyr canlynol hefyd fod cysylltiad rhwng L. W. â'r eglwys :—
"To the trustees of the Welsh Circulating Charity School. This is to certify that Lewis Williams, of the parish of Celynin, in the County of Merioneth, and diocease of Bangor, is a member and regular communicant of the Church of England, of sober life and conversation, and is to the best of my knowledge and belief, of competent learning and ability to be appointed schoolmaster of the Welsh Circulating Charity School.
Witness my hand, this 28th day of November, 1812,
- THOS. JONES, Curate of Celynin."
To Mr. C. Lewis, Stationer, Cardigan.
Eto,—
To the Trustees of the Welsh Circulating Charity School.
- This is to certify that Lewis Williams has been diligent and attentive to the Welsh Circulating Charity School, established in this parish of Celynin, in the County of Merioneth,
from the 2nd January last to the present date, and that the children committed to his charge have been much improved, and have received great benefit from his constant care, attention, and assiduity to the said school. This is to certify also that it is the wish of the whole of the parishioners that the school may be continued in the said parish as long as it can be.
- "Witness my hand, this 13th day of June, 1812,
- "THOMAS JONES, Curate of Celynin."
- "Witness my hand, this 13th day of June, 1812,
[Y flwyddyn hon, sef 1812, fel y gwelir yn ysgrifau L. W., y rhai y daethpwyd o hyd iddynt ar ol ysgrifenu yr uchod, bu ef yn cadw ysgol mewn tri man yn mhlwyf Celynin, o dan lywodraeth ymddiriedolwyr ysgolion Madam Bevan. "Goddefodd Mr. Charles," ebai, "i blwyf Celynin fy nghael i gadw ysgol Madam Bevan; ond ni chawn mo honi mwy onid awn i'r Deheudir i'w chadw, yr hyn nad oeddwn yn dewis, oherwydd yr oedd rhyw rwymau caethion yn perthyn iddi, y rhai nad oeddwn yn ewyllysio myned iddynt." Rhydd hyn eglurhad ar ei gysylltiad â'r Eglwys Wladol yn y lle hwn y flwyddyn hon, ac ar ei gyfarchiadau manwl at yr ymddiriedolwyr.]
Mewn tŷ yr oedd yr achos yn Llwyngwril wedi cael ei gynal o'r dechreu hyd y pryd hwn, ac am agos i ugain mlynedd ar ol hyn. Yr oedd y tŷ wedi ei brynu a'i ddarparu gyna! y moddion. Dyddiad y weithred am y pryniad ydyw Hydref 18eg, 1819. Y pris 70p. Y flwyddyn yr adeiladwyd ef yn gapel y tro cyntaf oedd 1831. Yr oedd y Parch. Dafydd Rowland, Bala, yn un o'r pregethwyr oedd yn ei agor. Helaethwyd ef i'w faint presenol yn 1866. Rhoddwyd oriel arno drachefn yn 1876. Dyled heb ei thalu yn 1885, 75p. Y nifer a all eistedd yn y capel yw 225.
Er fod yr eglwys hon wedi ei sefydlu yn un o'r rhai cyntaf yn y cylchoedd, eto parhaodd am faith amser yn fechan ei rhif, ac yn dlodaidd ei hamgylchiadau. Nid oedd ei rhif yn 1845, y flwyddyn gyntaf y casglwyd ystadegau, ond 24, ac nid oedd iddi yr un blaenor y flwyddyn hono. Bu am dymor hir yr adeg hon heb neb wrth ei swydd yn blaenori ynddi. Dywedai Lewis Morris mewn Cyfarfod Misol rywbryd, "Y mae eisiau gwneyd blaenoriaid yn Llwyngwril." "Oes yno rai i'w gwneyd?" gofynid yn y cyfarfod. "Oes," atebai yntau, "mae yno ddau, ond mae un yn hen o ran oed, a'r llall yn ieuanc o ran crefyddwr." Penderfynwyd fel y canlyn mewn Cyfarfod Misol yn Tachwedd, 1846, Fod Mr. W. Davies, Llechlwyd, a Mr. G. Jones, Glanmachlas, i fyned amlaf y gellid i Lwyngwril, i roddi rhyw help i'r eglwys wanaidd sydd yno yn ei hamgylchiadau allanol." Nid oedd yr amser hwn ddim ond tri yn perthyn i'r eglwys a fyddai yn arfer cadw moddion yn gyhoeddus. Yr oedd yma gyfarfod pregethu yn cael ei gynal adeg bell yn ol, a chedwid ef un tro gan y Parchn. John Jones, Talsarn; Richard Humphreys, Dyffryn, a Glan Alun. Yr hyn a roddwyd i John Jones, Talsarn, am ddyfod yma i gadw cyfarfod pregethu oedd 5s., ond rhoddodd Sion William beth iddo o'i boced ei hun i dalu ferry afon Abermaw, er mwyn iddo beidio tolli ar y swm cyn myned dros yr afon. Ni bu yn yr eglwys ond ychydig nifer o flaenoriaid o'r dydd y sefydlwyd hi hyd heddyw. Ar ysgwyddau y ddau Sion Vychan y bu yr achos am y deugain mlynedd cyntaf. Duwioldeb a ffyddlondeb oedd hynodrwydd penaf Sion Vychan fawr. Dygodd ei blant i fyny yn grefyddol. Un o'r aelodau cyntaf o eglwys Pennal y mae yr ysgrifenydd yn gofio yn cael ei chladdu oedd merch iddo ef, o'r enw Ann Lewis. Dywedai gyda diolchgarwch ychydig cyn marw mai L. W. oedd wedi ei dysgu hi i ddarllen y Beibl gyntaf erioed. Byrach na'r cyffredin ei ddawn oedd yr hen ŵr S. Vychan fawr, ac felly yr ydym yn tybio na neillduwyd mo hono ef yn flaenor. Yr oedd ganddo ffordd hynod i weddio, terfynai ei weddi bob amser gyda'r geiriau canlynol:—"Hwda ni Arglwydd; cymer ni yn rhodd ac yn rhad, trwy Iesu Grist, Amen."
Sion Vychan Vach. Efe oedd y blaenor cyntaf yn Llwyngwril. Meddai lawer mwy o ddawn na'i frawd crefyddol o'r un enw ag ef. Perthynai iddo lawer iawn o hynodrwydd yn gystal a chrefyddolrwydd. Adroddai ei brofiad unwaith yn Nghyfarfod Misol Sion:—" 'Rwyf yn gweled fy lle yn bwysig iawn; rwyf yn gweled fy swydd yn bwysig iawn." Dyna a ddywedai beth bynag a ofynid iddo. "Gadewch i Sion Vychan Vach a'i swydd," ebe Mr. Charles, "y mae ef a'i swydd yn. dyfod ymlaen yn bur dda." Nid oedd ei wraig, Betti Sion, yn proffesu, ac erlidiai ei gwr yn dost. Cuddiodd ei esgidiau un tro pan oedd wedi meddwl myned i gyfarfod pregethu i Penrhyndeudraeth. Ni ddarfu hyny ei ddigaloni, ond cychwynodd yn ei glocsiau. Aeth hithau ar ei ol hyd at Ferry Abermaw, gan fwrw allan fygythion lawer; cydiai yn filain yn y cwch, ac wedi colli gafael o hono, lluchiai gerig ato i'r afon, a bygythiai os na ddeuai yn ol y rhoddai hi derfyn ar ei heinioes. "Gwell i chwi fyn'd yn ol," ebe y cychwr, "rhag i beth fel hyn ddigwydd." "Y diafol sy'n ei dysgu i ddweyd fel yna," ebe yntau, "mi af i wrando gweision Duw, ac mi gadawaf hi dan ofal y Gwr." Erbyn cyraedd y Penrhyn, mewn lludded mawr, clywai y pregethwr gwr dieithr o'r Deheudir—yn bloeddio, "Y maes yw y byd, a'r medelwyr yw yr angylion." Cafodd wledd iddo ei hun, fwy na digon o dâl am ei helbulon. Pan ddychwelodd adref, cafodd ei wraig yn ei dillad a'i hiawn bwyll, ac heb foddi ei hun yn llyn Gerwyn, fel y bygythiai. Breuddwydiodd freuddwyd hynod ar ol y daith hon i'r Penrhyn. Gwelai ei hun mewn cyfarfod pregethu mawr yn Llwyngwril; y bobl oll yn edrych tua'r drws, daeth lady i mewn mewn gwisg wen glaerwen, a choron o aur melyn ar ei phen; cerddai y lady yn ol a blaen, at hwn a'r llall, a dywedai wrth Sion, "Cymer gysur Sion, mi symudaf y rhwystr oddiar dy ffordd dithau!" Effeithiodd y breuddwyd yn fawr arno. "Beth tybed all fod y rhwystr?" meddai wrtho ei hun. Ymhen enyd wedi hyn, pan yn dychwelyd oddiwrth ei orchwyl ar ddydd gwaith, a moddion wedi dechreu yn y capel, clywai orfoleddu mawr, a phwy welai yn gorfoleddu ond Betti, ei wraig. "Wel," meddai, "dyma y breuddwyd wedi ei gyflawni, a'r rhwystr wedi ei symud!" Breuddwydiodd wedi hyn. Yr oedd ganddo gred mewn breuddwydion. Gwelai ei hun. yn agos i lyn y Gerwyn, uwchlaw i bentref Llwyngwril, mewn adeilad mawr, a swn mawr yn yr adeilad; beth oedd y swn ond pedair melin yn malu; erbyn myned atynt, yr oedd blawd ymhob melin: ond pan aeth at y bedwaredd, yr oedd. llawer mwy o flawd yn hono na'r tair eraill gyda'u gilydd. Y pedair melin ydoedd y pedair sect oedd yn Llwyngwril—y Methodistiaid, yr Annibynwyr, y Wesleyaid, a'r Bedyddwyr. A'i sect ef ei hun, bid siwr, oedd y felin yr oedd mwyaf o flawd ynddi. Yr oedd yr eglwys yn Llwyngwril unwaith yn meddwl codi dyn ieuanc i bregethu, ond yr oedd Sion Vychan Vach yn ei erbyn. Ryw noswaith, rhoddwyd y mater i lawr yn y seiat; yntau yn ddiau yn dipyn o frenin y pryd hwn, a ddadleuai yn gryf yn erbyn. Modd bynag, aeth yr eglwys yn gyfan yn groes iddo. "Rhaid i ni derfynu," meddai, pan welodd hyn, ac aeth i weddi ei hun. Yn ei weddi, dywedai wrth y Brenin Mawr fod yr eglwys yn cael ei rhwygo, fod pawb a elai heibio ar hyd y ffordd yn tynu ei grawn hi; y baedd o'r coed yn ei thurio, a bwystfil y maes yn ei phori. Ac yna dechreuodd ddiffodd y canwyllau. Aeth son am y weddi hon i bob man o amgylch. Dywedai Owen Evan, Tyddynmeurig, wrth rywun o Lwyngwril wedi hyn, pan yn son am y weddi, "Wyddost ti beth, fe gyrhaeddodd y weddi hono cyn belled â Phenyparc!" Er hyny, hen Gristion i'r carn oedd Sion Vychan Vach. Yr oedd dadleuon mawr cyn diwedd ei oes yn Llwyngwril, rhwng y gwahanol sectau; ac yr oedd yntau un diwrnod, wrth godi y glwydad yn y felin, yn dadleu yn boethlyd gydag un o'r Wesleyaid, pan y daeth perchen y felin i fewn, a dywedai, "Sion, Sion, yr wyt yı colli dŷ le." "Pwy bosibl i mi beidio," eb efe, "a'r dyn yma yn myn'd dan sylfaen fy enaid i?" Yn nhŷ Sion Vychan Vach y byddai y pregethwyr yn cael bwyd yn yr amser cyntaf. Un tro, yr oedd John Elias i fod yn Llwyngwril, pan ar daith yn pregethu, ac i fod yno yn y boren. Yr oedd y wraig, Betti Sion, mewn pryder mawr, yn methu gwybod beth a gai i ginio iddo. Y boreu hwnw, fel yr oedd ei mab John yn croesi y bont, yn nghanol y pentref, gwelai bysgodyn mawr wedi dyfod i fyny o'r môr, ac yn llechu yn nghysgod careg; diosgodd ei ddillad, torchodd lewys ei grys, a llwyddodd i'w ddal. Aeth ag ef adref i'w fam yn llon'd ei freichiau. "Wel, yn wir," ebe ei fam, "dyma y Brenin Mawr wedi gofalu am danom i gael cinio i Mr. Elias." A dywedai wrth Mr. Elias amser cinio, rhyw bysgodyn sydd gen i i chwi i ginio, nis gwn a ellwch wneyd rhywbeth ág ef." "Nid oes dim yn yr holl fyd a allasech gael yn well," ebe yntau. Bu yr hen bererin Sion Vychan Vach farw oddeutu y flwyddyn 1834, trwy foddi yn ddamweiniol yn yr afon. Yr oedd mewn gwth o oedran, ac yn llesg, ac oherwydd iddo fyned yn rhy agos i'r afon, syrthiodd iddi. Yr oedd yn yr ardal ŵr arall o'r enw Sion Vychan, ac a elwid, er mwyn ei wahaniaethu oddiwrth y ddau arall, yn Sion Vychan ganol. Bedyddiwr zelog ydoedd hwn, a bu lawer gwaith yn tynu y dorch mewn dadl â Sion Vychan Vach; a phan y clywodd am y dull y bu farw, gorfoleddai o lawenydd fod ei hen gyfaill wedi myned i'r nefoedd yn y ffordd iawn. "Wel, Wel," meddai, roeddwn i yn dweyd wrtho o hyd fod yn rhaid i bob un aiff i'r nefoedd fyned dros ei ben yn gyntaf."
Y ddau flaenor nesaf oeddynt John Davies, y Fegla, a William Davies ei frawd. Aeth W. Davies i'r America. Symudodd J. D. i'r Fegla Fawr, a bu yn flaenor yn nghapel Sion hyd ddiwedd ei oes. Henry Williams, brawd David Williams, y blaenor presenol, a ddewiswyd wedi hyny. Yr oedd ef yn ŵr crefyddol a gobeithiol. Bu farw 45 mlynedd yn ol, yn 25 oed. Bu yma amryw frodyr eraill yn ffyddlon gyda'r achos, ond heb eu neillduo i'r swydd o flaenoriaid. Un o'r cyfryw oedd Sion William, tad Henry a David Williams.
Hugh Thomas, y Shop. Yr oedd ef yn flaenor a enillodd iddo ei hun radd dda, ac am y 30 mlynedd diweddaf yr oedd yr achos yn Llwyngwril wedi ei gysylltu â'i enw ef, ac yn nheimlad llawer yn dibynu bron yn gwbl arno ef. Yr oedd yn ŵr o dymer naturiol dda, radlon, a llawen. Nid oedd yn proffesu crefydd pan y priododd, ond ni chafodd ei wraig, yr hon oedd yn aelod, mo'i thori allan yn ol yr arfer y pryd hwnw, am y rheswm fod Hugh Thomas mor debyg i ddyn crefyddol cyn dyfod at grefydd. Enilliwyd ef i fod yn grefyddwr cwbl oll yn fuan ar ol priodi. Ystyrid ef yn gefnog yn y byd, a braint fawr i eglwys Llwyngwril oedd ei gael i fod yn aelod o honi. Gwnai ef y casgliad i fyny ei hun pan fyddai yn fyr. Yr oedd ei dŷ yn llety pregethwyr o'r adeg y priododd hyd ddiwedd ei oes, a llawen iawn fyddai gan y pregethwyr droi i mewn yno, gan mor hawddgar a chroesawus y byddai ef a'i briod yn eu derbyn. Y mae lliaws o weinidogion y Gair nas gallant feddwl am Lwyngwril heb fod y ddau gyfiawn hyn yn dyfod i'w meddwl yr un pryd. Yr oedd Mrs. Thomas yn grefyddol, ac yn blaenori llawer yn yr eglwys cyn priodi. Mae y geiriau canlynol ar y cerdyn a ddangosai fod H. Thomas yn aelod o'r Cyfarfod Misol:—
"HUGH THOMAS,
Golygwr Cymdeithas y Methodistiaid Calfinaidd
Yn Llwyngwril, Sir Feirionydd.
Arwyddwyd gan
ROBERT PARRY, Llywydd.
W. DAVIES, Ysgrifenydd.
Cyfarfod Misol Towyn, Hydref 1af, 1860."
"Un o heddychol ffyddloniaid Israel" ydoedd. Ni bu neb erioed yn fwy parchus o'r efengyl a gweinidogion y Gair. Bu farw Mawrth 25ain, 1878, yn 73 mlwydd oed; a bu farw ei briod y mis Hydref cynt.
David Williams. Bu ef farw yn sydyn yn ngwanwyn y flwyddyn hon (1888). Derbyniwyd ef yn flaenor ac yn aelod o'r Cyfarfod Misol yr un amser a Hugh Thomas, sef Hydref 1860. Yr oedd wedi gwneuthur llawer o waith blaenor cyn hyny, fel ei dad o'i flaen. Gweithiai gyda chrefydd yn ddistaw, heb i neb ar y pryd wybod ei fod yn gweithio. Efe fyddai yn gofalu am y capel ac yn ei oleuo, a pharotoi i fyned i agor y capel yr oedd pan yn sydyn y cymerwyd ef yn glaf. Efe hefyd hyd yn ddiweddar a arferai arwain y canu. Yr oedd yn ŵr crefyddol iawn, yn weddïwr mawr, ac yn weithiwr. cyson gyda chrefydd. A thrwy y pethau enillasai ddylanwad mwy na'r cyffredin yn yr eglwys a'r ardal. Teimlad pawb o'i gymydogion oedd fod ei golli yn golled fawr.
Gwelodd Llwyngwril achos crefydd fel "myrtwydd yn y pant " dros driugain a deg o flynyddoedd; ond o amser y Diwygiad yn 1860 hyd yn awr, y mae gwell llewyrch wedi bod arno. Yr oedd y pregethwr adnabyddus Richard Jones, Tŷ Du, yn aelod gyda'r Methodistiaid yma yn moreuddydd ei oes; ond oherwydd cerydd eglwysig a roddwyd ar ei frawd, ymadawodd ef a'i deulu oddiwrth y Methodistiaid oddeutu 1804, yr hyn a arweiniodd i ffurfiad achos gan yr Annibynwyr yn Llwyngwril. Y blaenoriaid presenol ydynt Mri John Evans, Richard Owen, a David Parry. Bu y diweddar Barch. Owen Roberts yn weinidog yr eglwys am 13 mlynedd. Y mae y Parch. Richard Rowlands mewn cysylltiad gweinidogaethol â'r eglwys yn bresenol er 1882.
Y Parch. Owen Roberts. Genedigol oedd ef o ardal Llanrhochwyn, Trefriw. Yr oedd yn fab i John Roberts, hen filwr oedd yn bresenol yn mrwydr Waterloo. Chwarelwr oedd O. Roberts wrth ei gelfyddyd, a gweithiodd yn galed pan yn ddyn ieuanc i gynal ei fam weddw. Dechreuodd bregethu yn Nhrefriw, ac efe y pryd hwnw yn gweithio yn Nghwmorthin, un o chwarelau Ffestiniog. Cerddai 20 milldir yn fynych ar y Sabbath, a chychwynai bump o'r gloch y boreu ddydd Llun at ei ddiwrnod gwaith i Ffestiniog. Priododd ferch ieuanc rinweddol o ardal Bettws-y-coed, o'r enw Hanah Roberts. Yr oedd hi yn wraig dda, serchog, a chrefyddol. Dywedai ei phriod ar ol ei chladdu ei fod wedi cael braint fawr cael cydfyw ag un mor grefyddol. Buont il dau yn byw yn Bettws-y-coed ar ol priodi, ac yr oedd O. Roberts yn gweithio yn Rhiwbach. Symudasant i fyw i ardal Bethesda, Blaenau Ffestiniog, ac yntau yn gweithio ei waith o hyd yn y chwarel. Ni chafodd bron ddim ysgol ddyddiol, ac ni fu mewn athrofa. Eto yr oedd yn ddarllenwr mawr, yn feddyliwr mwy, ac yn ysgrifenwr sylweddol. Ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth yn Nghymdeithasfa Dolgellau, yn 1857. Oddeutu y pryd hwn, gosododd Cyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd ef yn fugail ar daith Rhiwspardyn. Yr oedd yn byw yn nhŷ capel Rhiwspardyn, ac yn gofalu am yr eglwys yno, a Rhydymain, a Carmel, Rhoddai yr eglwysi ychydig at ei gynal, a'r Cyfarfod Misol £15. Dyn tawel, addfwyn, ac o duedd ddistaw a meddylgar ydoedd. Pregethwr efengylaidd, a neillduol o gymeradwy er pan oedd yn ddyn ieuanc. Defnyddiai lawer o gymhariaethau yn ei bregethau; elai ymlaen yn arafaidd wrth draddodi, ac yn raddol cyfodai yn uwch nes y byddai y gwirionedd wedi cydio ynddo, ac yntau wedi cydio yn ei wrandawyr; yr oedd tôn ei lais hefyd yn fanteisiol iawn i enill tyrfa o bobl. Bu tymor ar ei weinidogaeth y byddai yn cael odfeuon hynod o rymus. Ond yn fuan ar ol ei ordeinio daeth cwmwl drosto, a bu raid ei atal am ysbaid o bregethu. Ond cymaint oedd awydd ei gymydogion iddo gael ei le yn ol, fel y llwyr adferwyd ef ymhen ychydig flynyddoedd. Rhoddodd eglwysi Llwyngwril, Saron, a Sïon alwad iddo, ac ymsefydlodd yn Llwyngwril yn y flwyddyn 1864. Bu farw yn orfoleddus Chwefror 23, 1877, yn 57 mlwydd oed.
LLANEGRYN
O ddechreuad y pregethu cyntaf gan y Methodistiaid yn y rhan yma o'r wlad yn 1780, gellir tybio fod ambell un yn mhlwyf Llanegryn, yn ystod y deng mlynedd dilynol, yn cael tueddu ei feddwl i wrando yr efengyl. Ychydig o gyfeillion crefyddol eu naws, fel rhyw loffion grawnwin, un yma ac acw." Dyna yr oll sy'n wybyddus am hanes crefyddol y plwyf rhwng. 1780 a 1790. Yr hanes cyntaf sier am y lle ydyw yr hyn a geir yn Methodistiaeth Cymru:—"Yr oedd i'r Methodistiaid achos bychan cyn hyn (1795) yn Llanegryn. Bu dyfodiad tad Cadben Edward Humphreys a'i deulu i fyw i Peniarth, yn mhlwyf Llanegryn, yn gryfhad mawr i'r ychydig broffeswyr ag oedd yno eisoes. Dywedir mai tri oedd yn proffesu yn y plwyf pan ddaeth y teulu hwn i Beniarth. Nid oedd gwr Peniarth ei hun yn proffesu, ond yr oedd ei wraig a'i fam-yn-nghyfraith, ac yr oedd yntau yn gwybod digon am Fethodistiaeth i beri iddo siarad yn dirion am dano, a bod yn barod i wneuthur- cymwynas iddo. Yn fuan ar ol dyfodiad y teulu hwn i Beniarth, cymerodd y wraig dy bychan yn mhentref Llanegryn. Y darluniad a roddir o'r tŷ hwn sydd debyg i hyn Tŷ wedi. ei adeiladu o bridd ydoedd; gwellt oedd ei do, a phridd oedd ei lawr. Ei holl ddodrefn ydoedd un fainc i eistedd a phulpud.. Ac nid pulpud cyffredin ydoedd chwaith. Gwnaed ef o ddau bolyn wedi eu curo i'r llawr pridd, ac ar y polion hyn yr oedd. ystyllen gref wedi ei hoelio, i ddal y Beibl. Ceryg wedi eu. tyru ar eu gilydd, ac wedi eu gorchuddio â thywyrch gleision sefyll arnynt.'" Ychwanegir hefyd, "yma y bu pregethu am rai blynyddoedd ar ol y flwyddyn 1783." Os yw hyn yn gywir, yr oedd pregethu amlach yma yn foreuach na'r ardaloedd cylchynol. Ond llawn mor debyg mai gwall argraffyddol sydd yma. "Yr oedd gwr Peniarth yn warden y plwyf, trwy fod y wardeiniaeth yn gysylltiedig â'r tyddyn. Fe fyddai aflonyddu weithiau ar yr addoliad yn y lle bach hwn,. ond nid cymaint ag a fuasai pe na buasai Mr. Humphreys yn warden; yr hwn fyddai ei hun yn achlysurol ymhlith y gwrandawyr. Yr oedd tafarnwr o'r enw Richard Anthony yn byw yn y pentref, yr hwn a roddai gwrw i ryw greadur haner call, am aflonyddu yr addoliad, a dywedir i Lewis Morris gael ei drin yn annuwiol rai troion yno,' ynghyd â rhywrai eraill."
Y mae yr hanes canlynol hefyd am yr un teulu, yr hwn y mae yn amlwg a ddigwyddodd ychydig yn flaenorol i 1795, yn ddyddorol:—
"Ni ddiangodd yr ardal hon yn llwyr oddiwrth ymosodiad y boneddwr y soniasom uchod am dano. Anfonodd, medd yr hanes, ddau geisbwl a writ ganddynt i ddal nain (?) Cadben Humphreys, ymysg eraill o grefyddwyr y fro. Yr oedd yr hen wraig yn byw mewn tŷ yn ymyl Peniarth, a chafodd wybodaeth trwy ryw foddion, fod y cyfryw rai yn dyfod i ymofyn am dani. Anfonwyd hi, gan hyny, i dy arall, lle yr oedd gwr a gwraig yn proffesu, ac yn denant i wr Peniarth. Bu y ddau geisbwl am ran o ddau ddiwrnod yn gwibio o amgylch y gymydogaeth, yn chwilio am dani, ac yn methu ei chael. Prydnhawn yr ail ddiwrnod, aeth Mr. Humphreys atynt, gan ofyn iddynt,—
'Pa beth, wyr da, sydd arnoch eisiau? Yr ydych yn bur debyg i ladron, neu ddynion yn llygadu am gyfle i wneyd drwg!
'Na, nid lladron m'onom,' ebe hwythau.
'Pa beth, ynte, all fod eich neges yn gwibio o amgylch tai pobl, os nad ydych ar feddwl drwg?'
'Y gwir ydyw,' ebe y dynion, 'y mae genym wŷs oddiwrth Mr. C——t, i ddal eich mam-yn-nghyfraith.'
Ni choeliai i ddim,' ebe yntau, 'nad esgus ydyw hyn a ddywedwch, i guddio eich drygioni; o leiaf ni choeliaf chwi, os na chaf weled y wŷs?'
Rhoddwyd y wŷs iddo i'w darllen, yntau a'i cymerodd ac a'i cadwodd gan fyned tua'r pentref, a'i dynion yn ei ganlyn, ac ofnent ymosod arno gan ei fod yn gryf o gorff, ac o gryn ddylanwad yn y gymydogaeth. Bu hyn yn foddion i ddyrysu yr amcan ar y pryd, ac yn fuan ar ol hyn, gosodwyd y gwahanol leoedd addoliad o dan nawdd y gyfraith, a rhoes y gŵr bonheddig ei amcan heibio."
Yn perthyn i'r un cyfnod yr oedd yr hen wraig y ceir ei hanes yn mynu dilyn moddion gras er gwaethaf gwrthwynebiad ei gŵr, ac yn myned iddynt yn ei chlocsiau. "Yr oedd yn ardal Llanegryn hen wraig yn un o'u nifer [sef yn un o'r rhai a ddilynent foddion gras trwy rwystrau], yr hon a wrthwynebid yn greulawn gan ei gŵr i fyned i'r cyfarfodydd crefyddol. Er ei hatal, arferai guddio ei hesgidiau; hithau, yn hytrach na cholli y moddion, a âi iddynt yn ei chlocsiau. Ac ymddengys mai nid 'ofer y bu ei llafur yn yr Arglwydd,' gan y dywedai yn orfoleddus wrth ei gŵr, ychydig cyn marw, 'Mae y clocsiau wedi cario'r dydd.'"
Y peth nesaf o ddyddordeb am Lanegryn ydyw yr hanes. am Lewis William yno yn cadw yr Ysgol Sul, ac ysgol ar nosweithiau gwaith, i ddysgu plant i ddarllen, pryd nas gallasai ef ddarllen dim ei hun. Ceir ei hanes yn helaethach mewn lle arall. Yr oedd L. W. yn cadw Ysgol Sul yn y modd hwn, oddeutu dwy flynedd yn flaenorol i 1800. Yr oedd y son am dano yn gwneuthur hyn wedi cyraedd i glustiau John Jones, Penyparc, oblegid tua'r flwyddyn 1799 yr oedd y gŵr hwnw yn adrodd yr hanes wrth Mr. Charles, o'r Bala, ac yn ei gymell iddo fel un a allai wneuthur ysgolfeistr gyda yr Ysgolion Rhad. cylchynol.
Dywed L. W. ei hun am yr ardal yr adeg yma, "Yr oedd yn Llanegryn y pryd hyn, un dyn pur dlawd, a dwy wraig, ac arwydd neillduol arnynt eu bod yn ofni yr Arglwydd. Enw y gŵr oedd Edward Jones. Enw un o'r gwragedd oedd Mrs. Jane Humphreys, gwraig gyfoethog a chrefyddol iawn; enw y llall oedd Elizabeth Evans, gwraig dlawd o bethau y byd hwn, ac yn dioddef erledigaeth fawr oddiwrth ei gŵr. Yr oedd hon yn nodedig o dduwiol, a bu o gysur a chymorth mawr i mi Byddai y rhai hyn yn ymgynull unwaith yn yr wythnos i ddarllen a chyd-weddio, a dweyd eu profiadau i'w gilydd, a chynghori eu gilydd i fyw yn grefyddol. Byddwn inau yn myned i'w plith, ac yn cael fy ngoddef ganddynt, a derbyniais yn eu cyfeillach lawer iawn o les a chysur crefyddol. Yr oeddynt hwy mewn undeb âg eglwys Dduw yn Bryncrug, ac yno yn derbyn yr ordinhad o Swper yr Arglwydd. Aethum gyda hwy i Fryncrug, a chefais fy nerbyn yno ar eu tystiolaeth hwy am danaf."
Ysgrifenwyd y paragraff canlynol gan y Parch. Owen William, Towyn, ac y mae yn sicr o fod yn gywir, gan ei fod yn llygad-dyst o'r hyn a ysgrifena:—"Yr oedd y pryd hwnw bump o grefyddwyr yn perthyn i'r Methodistiaid yn Llanegryn —pedwar o wyr, ac un ferch ieuanc; ac yr oedd yno Ysgol Sabbothol hefyd. O'r Bwlch y byddent yn cael cynorthwy i gadw yr ysgol. Darfu i bobl y Bwlch fy ngosod i fod yn Llanegryn bob Sabbath i ofalu am yr ysgol; yr oeddwn yn bur falch o'm swydd, a daeth yno ysgol led siriol, ac ymunodd rhai â'r society. Cedwid yr ysgol yn mharlwr Penybanc, tŷ tafarn; a byddem yn fynych yn cael pregeth ar y Sabbath, y boreu, neu ddau o'r gloch, a chyfarfod gweddi yn yr hwyr. Yr wyf yn meddwl mai yr amser mwyaf dedwydd a difyrus a aeth dros fy mhen ydoedd yr amser y bum yn golygu tipyn ar yr Ysgol Sabbothol yn Llanegryn." Yr oedd hyn oddeutu y flwyddyn 1805, ac yn Llanegryn y pryd hwn y dechreuodd Owen William bregethu. Gwelir mai yn araf iawn yr oedd yr achos yn cynyddu yn Llanegryn; tri oedd yn proffesu yn y plwyf cyn i deulu Cadben Humphreys fyned i fyw i Beniarth, yn flaenorol i 1795, fwy na deng mlynedd o amser cyn yr adeg y crybwylla O. W. am dani.
Hynodid y trigolion fel rhai mwy paganaidd ac anwybodus na'r cyffredin o'u cydoeswyr. Oddeutu 1793, deuai y Parch. Robert Griffith, Dolgellau, ac un neu ddau gydag ef o'r dref hono, i Lanegryn, i gynorthwyo i gynal cyfarfodydd gweddïau. Adroddai yn agos i ddiwedd ei oes am ymddygiad y bobl yn y cyfarfodydd hyn. Un tro, a hwy yn cynal cyfarfod gweddi mewn tŷ, yr oedd nifer o bobl wedi dyfod ynghyd, a'r merched oedd yno yn brysur wäu eu hosanau. Tra yr oedd un o'r ddau frawd arall ar ei liniau yn gweddio, yr oedd y bobl yn myn'd a dyfod allan, a'r merched a arosent wrthi hi yn gwäu hosanau, ac ofnai R. Griffith iddynt fyned allan i gyd cyn i'r brawd orphen gweddio, a dywedai ynddo ei hun, "Pe cawn i fyned ati hi, mi cadwn i hwy i fewn." Ond pan ddaeth ei dro, nid oedd pethau fymryn gwell, myned allan yr oeddynt ar ganol ei weddi yntau.
Bu yr eglwys yn Llanegryn yn derbyn cynorthwy i gario y moddion ymlaen am flynyddoedd meithion ar ol cychwyniad cyntaf yr achos yno, a hyny yn benaf oddiwrth eglwysi y Bwlch a Bryncrug, ac i'r lle olaf yr elai aelodau yr eglwys i'r cymundeb dros hir amser. Ystyriai yr eglwysi bychain cylchynol Jno. Jones, Penyparc, fel tipyn o frenin yn gystal a bugail arnynt. Dywed rhai fu yn byw yn yr ardal wedi hyn, fod parhau i fyned i'r cymundeb i Bryncrug, yn lle ymroddi i fod yn gwbl ar eu penau eu hunain, wedi bod yn wanychdod mawr i'r achos yn Llanegryn, ac effeithiodd ar y lle i fesur hyd heddyw. Y mae Mr. David Davies, mab i William Davies, Llechlwyd, yn cofio, pan yr oedd ef tuag wyth oed, ei dad yn dyfod i'r tŷ un noson waith ar ol bod yn Llanegryn yn cadw society. Yr oedd ei fam ar y pryd yn eistedd wrth y tân, yn gwäu, ac meddai W. D., "Fe ddaeth tri i'r seiat yn Llanegryn heno." Y wraig, gan ollwng yr hosan o'i llaw ar unwaith, a ddywedai, "Fe ddaeth yn wir? Oes genych ryw feddwl. honynt, William?" "Oes," atebai yntau, "mae genyf dipyn o feddwl o un o honynt, 'does genyf fawr feddwl o'r ddau arall." Felly yn union y troes pethau allan: ymfudodd yr un hwnw i'r America, a daeth wedi hyny yn bregethwr yno. Wele, gymaint o ddyddordeb a gymerai gwr a gwraig y Llechlwyd yn yr achos y pryd hwn! Ar ol hyn, daeth eu plant a'u hwyrion hwythau yn golofnau o dan achos crefydd, yn ngwahanol barthau y byd.
Adeiladwyd y capel cyntaf yn Llanegryn yn 1811; mae y weithred wedi ei dyddio Mai 13eg, y flwyddyn hono. Cafwyd tir yn nghwr y pentref, ar brydles o 99 mlynedd, am ardreth o 15s., gan Mr. David Davies, yr hwn oedd yn berchen y tyddyn a elwir y Trychiad. Yr oedd ef yn dad i'r blaenor blaenllaw gyda yr Annibynwyr yn Mhennal, Mr. Morris Davies, Cefnllecoediog. Yr ymddiriedolwyr oeddynt—Thomas Charles, B.A., William Hugh, Howell Thomas (Cwrt), Robert Griffith, Lewis Morris, Owen Evans (Tyddynmeurig), a John Jones, Penyparc. Nid oes wybodaeth pa faint oedd y draul. Yr oedd dyled ar y capel yn 1824, oblegid mewn llythyr at Lewis William, yr hwn oedd ar y pryd yn ysgolfeistr yn Nolgellau, dyddiedig Mawrth 30ain y flwyddyn hono, dywed John Jones, Penyparc, "Yr ydwyf yn dymuno arnoch hysbysu Mr. R. Griffith fod arnaf eisiau yr arian sydd ddyledus i mi oddiwrth logau a ground rent capel Llanegryn. Y swm ydyw £2 10s. 4c. Fe'm siomwyd amryw weithiau am danynt. A thalwch 13s. o honynt i John Peters at y Casgliad Bach. Mae fy merch yn hytrach yn waeth yr wythnos yma nag y bu, onide buasai yn dda genyf fod yn y Gymdeithasfa gyda chwi. Yr ydwyf yn mhellach mewn modd neillduol yn deisyf arnoch roddi eich cyhoeddiad yma—ni feddwn ni yr un Sabbath ond y nesaf a bydded i chwi o'ch hynawsedd fod yn anogaethol i eraill ddyfod. Yr ydym wedi bod yn dlawd iawn am foddion y mis diweddaf. Mae fy meddwl yn isel, a'm natur yn llesg, ynghyda gwaeledd fy unig ferch. Cofiwch am danom o flaen gorsedd gras. Wyf, eich profedigaethus frawd yn rhwymau yr efengyl, John Jones. D.S. Fe fydd i Humphrey y gwas ddyfod ddydd Iau i Ddolgellau. Rhoddwch y llyfrau a'r £2 arian iddo ef. Mae arnaf eisiau yr arian yn ddiffael i dalu y rhent ddydd Iau." Casglodd Llanegryn £40 at ddiddyledu capelau y Dosbarth yn 1839, ac nid yw yn ymddangos iddynt hwy dderbyn dim o'r casgliad cyffredinol, y tebyg wrth hyny ydyw eu bod hwy eu hunain yn ddiddyled y flwyddyn hono. Yn 1848 prynwyd y brydles am £30, ac oddeutu yr un flwyddyn adgyweiriwyd y capel. Yr oeddynt mewn dyled drachefn yn 1850, o £80. Yn 1878 gwnaed y capel o newydd, yn y maint y mae yn bresenol, ac aeth y draul yn £450. Cynwysa y capel le i 160 eistedd ynddo. Gwerth presenol y capel a'r eiddo perthynol iddo ydyw £675.
Y mae pob gwybodaeth am y tô o grefyddwyr cyntaf Llanegryn bron wedi llwyr ddiflanu. Ni wyddis am enwau ond rhyw ddau neu dri o deuluoedd fu a llaw gyda dygiad yr achos ymlaen am y deugain mlynedd cyntaf. Dywed Owen William mai dau o'r brodyr crefyddol yno a'u perswadiodd ef i ddechreu pregethu, a bod un o'r ddau yn flaenor, ond ni chawsom wybod pwy ydoedd y blaenor, na'r un o'r brodyr eraill. Gan nad oes hanes y ffyddloniaid yn Llanegryn, am y deugain mlynedd hyn, ar gof a chadw, nid oes dim i'w wneyd ond myned heibio iddynt mewn distawrwydd. Y mae un teulu, modd bynag, oedd ymhlith y ffyddloniaid yma yn nechreu y ganrif hon yn teilyngu sylw, sef teulu Vincent ac Elizabeth Jones, Talybont. Ymddengys nad oedd y gwr yn proffesu tra y bu yn aros yno, ond yr oedd Elizabeth Jones yn wraig nodedig o grefyddol. Y teulu hwn oedd yn lletya pregethwyr dros y nos y pryd yma, a chan fod Talybont filldir neu fwy oddiwrth Lanegryn, deuent a bwyd i'r pregethwyr i'r pentref. Yr oedd gan y teulu liaws o blant, a dygid hwy i fyny yn grefyddol gan eu mam. Bu dau o'r plant—Vincent ac Anne—farw yn dra ieuanc, o fewn ychydig ddyddiau i'w gilydd, mewn canlyniad i glefyd poeth oedd yn y tŷ. Ymddangosodd ychydig goffadwriaeth am danynt yn y Drysorfa, Gor., 1822, o'r hyn y mae a ganlyn yn ddyfyniad:—
"Yn fuan wedi i'r cyfarfodydd Chwechwythnosol gael eu sefydlu yn y cylch hwn, rhwng y Ddwy Afon, penderfynwyd yn un o honynt, fod i'r holl ysgolion gadw cyfarfodydd neillduol gyda'r rhai moesol o'r ysgolheigion; a golygwyd hwythau (Vincent ac Anne Jones) i fod yn aelodau o honynt. Ymhen ychydig, buddioldeb y cyfarfodydd hyny a ddaeth yn amlwg; ieuenctyd yr ardal a ymglymasant mewn undeb a'u gilydd, a chariad brawdol a flagurodd yn eu plith, a dygwyd llawer i'r agwedd hono, 'i gloffi rhwng dau feddwl.' Ac mewn cyfarfod o'r fath a enwyd torodd allan yn ddiwygiad grymus, ac yn y diwygiad hwn symudwyd y ddau hyn i'r eglwys."
Bu y ddau farw Mai, 1821, mewn gorfoledd mawr, Vincent yn 17 oed, ac Anne yn 22 oed. Diwygiad Beddgelert oedd hwn, a dyma flaenffrwyth y diwygiad yn yr ardal hon. Torodd allan, fel y gwelir, ymhlith y plant. Mor fawr oedd gofal arweinwyr yr Ysgol Sabbothol y pryd hwn, yn trefnu "i gynal cyfarfodydd neillduol gyda'r rhai moesol o'r ysgolheigion!" Nid oedd rhyddid i blant fod yn y society cyn hyn, ond gwelwyd fod yr Arglwydd yn bendithio yr ymgais gyntaf i lafurio gyda hwy. Yr oedd yr un peth yn cael ei wneyd yr un amser yn Nolyddelen, cwr pellaf yr un Cyfarfod Misol, pan yr oedd bechgyn Tanycastell yn blant, yr hyn a fendithiwyd mewn modd neillduol iddynt hwythau. Mor werthfawr, hefyd, i'r plant ydoedd fod esiampl grefyddol yn cael ei roddi iddynt yn eu cartref Symudodd y teulu hwn o Dalybont i Lanerchllin, ardal Maethlon, oddeutu 1825. Mab arall i Vincent ac Elizabeth Jones oedd y pregethwr adnabyddus, y Parch. William Jones, o Lanerchllin, Maethlon; a mab arall iddynt, hefyd, oedd John Jones, yr hwn a dreuliodd y rhan olaf o'i oes yn flaenor duwiol a gweithgar yn Aberdyfi. Byddai ei fam yn arfer rhoddi ei llaw ar ben John, pan oedd yn fachgen yn Nhalybont, bob amser cyn iddo gychwyn i races ceffylau Towyn, ac arferai John ddweyd, wedi iddo ddyfod yn ddyn, ac yn grefyddwr, mai clywed llaw ei fam ar ei ben a fu yn foddion ei dröedigaeth. Gwelir ychwaneg o hanes y wraig dra rhagorol hon mewn cysylltiad â Maethlon.
Wedi colli y teulu hwn o Lanegryn, cododd Rhagluniaeth un arall i ofalu am yr achos yma yn mherson Mr. Llwyd, y Siop. Yr oedd ef mewn amgylchiadau da, a chanddo dŷ helaeth a chyfleus yn nghanol y pentref. Heblaw hyny, yr oedd ganddo galon rydd, ac ni fu yn brin mewn unrhyw fodd tuag at achos yr Arglwydd Iesu. Gwir ofalai am yr achos yn ei bobpeth allanol; cadwodd y pregethwyr a'u ceffylau am lawer o flynyddoedd; gofalai am y cyhoeddiadau, ac am y llyfrau; cyhoeddai ar ddiwedd y moddion. Ond gadawai bethau ysbrydol yr achos i rywrai eraill. Ni ddewiswyd mo hono yn flaenor, ac yn wahanol i lawer, nid oedd arno eisiau cael ei ddewis. Dywedir mai efe a orchfygodd J. J., Penyparc, i gael yr eglwys yn Llanegryn i fod yn hollol arni ei hun, yn lle myned i Brynerug i'r cymundeb bob mis. Daeth Mr. Llwyd yma oddeutu 1820, a bu am ddeugain mlynedd, sef hyd ei farwolaeth, yn gefn mawr i'r achos.
Heblaw Mr. Llwyd, bu yr eglwys yn amddifad o ddynion blaenllaw mewn adeg foreuol yn ei hanes. Y blaenor cyntaf y cawsom ei enw ydoedd Evan Jones, un o'r ddau frawd o'r Dyffryn Gwyn yn cychwyn yr achos yn Maethlon. Gŵr duwiol iawn, ond heb allu na dylanwad i flaenori. Humphrey Pugh a fu yn flaenor yma cyn symud i'r Tonfanau, Sion Robert, Nantcynog, oedd ŵr da iawn, ac a ddewiswyd yn flaenor, fel y'n hysbyswyd, yn 1837, ond a wnaethai waith blaenor lawer o amser cyn hyny. Mae ei deulu ymhlith y rhai ffyddlonaf yn Llanegryn hyd heddyw.
Yn y flwyddyn 1836 y symudodd meibion a merched y Parch. Richard Jones, y Wern, o Rhosigor i Glanmachlas. Bu eu dyfodiad hwy yno yn foddion i roddi bywyd newydd yn yr achos. "Nid oedd neb yn flaenor yno y flwyddyn hono," ebe Mr. Jones, yn awr o'r Tymawr, Towyn, "ac yr oedd yr achos yn hynod o isel." Dywed, hefyd, yn mhellach, iddo ef fyned i'r society lawer gwaith, a neb yn dyfod yno i'w gyfarfod. Byddai yr eglwysi yn hwyrfrydig iawn i ddewis blaenoriaid y blynyddoedd hyny. Modd bynag, dewiswyd Mr. G. Jones yn flaenor yn Llanegryn y flwyddyn gyntaf wedi iddo ymsefydlu yn Glanmachlas, sef yn 1837. Bu ei frawd, Mr. John Jones, yn gynorthwy mawr i'r achos, ac yn flaenllaw gyda'r canu am hir amser. Efe ac Isaac Thomas oeddynt yn gofalu am arian y seti yn 1850. Mr. John Owen, yn awr o Penllyn, Towyn, a fu yn flaenor ffyddlon yma am flynyddoedd. Hugh Price, Ty'rgawen, a neillduwyd yn flaenor, ond bu farw yn lled fuan wedi hyny.
John Evans, Ty'ncornel.—Gŵr nodedig o ffyddlon; dilynai foddion gras yn gyson, er fod ganddo ddwy filldir o ffordd i'r capel. Gweithiodd yntau ddiwrnod hir cyn ei osod yn y swydd o flaenor, oblegid yn 1852 y neillduwyd ef. Bu ei weddw, yr hon oedd yn wraig dra chrefyddol, yn niwedd ei hoes, yn cadw ty capel yn Llanegryn. Y mae mab iddynt, Mr. Evan Evans, yn flaenor yn Abertrinant.
Robert Evans, Rhydygarnedd. Brawd oedd ef i'r John Evans crybwylledig. Dygwyd ef a'i frawd, a brodyr eraill i fyny yn Cefncaer, Pennal. Perthynai ei rieni i Eglwys Loegr, a dygent fawr zel drosti. Ymunodd Robert Evans â'r Methodistiaid pan yn 15 oed, mewn amser o ddiwygiad brwd gyda'r enwad hwnw yn Mhennal. Cafodd lawer o rwystrau i broffesu crefydd yn ei gartref, ac arferai son llawer hyd ddiwedd ei oes am y modd y darfu iddo orchfygu y rhwystrau. Mentrodd ef a'i frawd hŷn nag ef ofyn i'w tad a gaent gadw dyledswydd pan oeddynt yn llanciau. Ni omeddwyd hwy, er hyny elai y teulu ymlaen a'u gorchwylion yn ystod y ddyledswydd. Ond wrth ddyfalbarhau, a byw i fyny a'u proffes, aeth crefydd y llanciau yn drech na rhagfarn y rhieni. Ymhen blynyddoedd dewiswyd Robert Evans yn flaenor yn Mhennal. Dewiswyd ef drachefn gan yr eglwys yn Llanegryn, ac mewn Cyfarfod Misol yno, yn Mai 1852, ceir yr hysbysiad a ganlyn,—"Ymddiddanwyd â brodyr a ddewiswyd yno i flaenori, sef John Evans, Ty'ncornel; a Robert Evans ei frawd, a chadarnhawyd y dewisiad gan y Cyfarfod Misol." Nodwedd neillduol Robert Evans ydoedd zel a ffyddlondeb. Er ei fod yn byw agos i dair milldir oddiwrth y capel, byddai efe ymhob moddion o ras, Sabbothiol ac wythnosol, a byddai yno bob amser yn y dechreu. Yr oedd ganddo barch neillduol i foddion gras, ac i weinidogion y gair. "Nis gallai weled pa fodd y cydsafai parch i grefydd âg ymddygiad rhai crefyddwyr yn dirmygu gweinidogion yr efengyl." Rhoddai hefyd lawer o gymorth iddynt i bregethu trwy ei astudrwydd yn gwrando. Yr oedd yn weithiwr cyson yn ol ei allu gyda phob rhan o achos crefydd. Ychydig fisoedd cyn ei farw aeth ef ac un arall o gwmpas yr ardal i gasglu at ddyled y capel, ac wrth gyflwyno y swm a gasglasant i'r eglwys, dywedai, "Nid wyf am eich blino eto ynfu an am y gweddill; cewch orphwys yrwan am dipyn. Ond y mae arnaf eisiau gweled y capel yn ddiddyled; a blwyddyn i ddechreu haf nesaf, yr wyf yn bwriadu, os byddaf byw, ddyfod o gwmpas eto i ofyn eich ewyllys da, i ni gael clirio ymaith y gweddill." Ond cyn i'r amser hwnw ddyfod i fyny yr oedd ef wedi myned i dderbyn ei wobr. Bu farw Chwefror 4, 1883, yn 76 oed, wedi bod yn proffesu crefydd am 60 mlynedd, ac yn flaenor am 46 mlynedd.
William Jones, Cemmaes. Brodor oedd ef o Talsarnau. Trwy offerynoliaeth Mr. G. Jones, Tymawr, y pryd hwnw o Glanmachlas, y symudodd i fyw i Lanegryn. Argyhoeddwyd ef mewn cyfarfod pregethu yn Penrhyndeudraeth, o dan weinidogaeth y Parch. Robert Williams, Llanuwchllyn. Bu yn proffesu crefydd am 50 mlynedd, ac yn flaenor am tua 40 mlynedd, ac arhôdd ei fwa yn gryf hyd y diwedd. Yr oedd yn weddiwr mawr, ac yn ddirwestwr aiddgar. Ymunodd â dirwest yn y cychwyn cyntaf, a chadwodd ei ddirwestiaeth yn ddifwlch hyd y diwedd. Araeth ar ddirwest a gafwyd ganddo yn y seint olaf y bu ynddi. "Mi wn i," meddai, "beth sydd mewn tafarn gystal â neb o honoch chwi; mi fum i yn byw dros haner blwyddyn mewn tafarn; yno y clywais i fwyaf o gablu, yno y clywais i gymeryd enw y Bôd mawr yn ofer, yno y gwelais i hel mwyaf o feiau ar grefyddwyr." Bu farw Ebrill 5ed, 1885.
Edward Rees, y pregethwr.—Crydd oedd ef wrth ei alwedigaeth, ac yr oedd mewn amgylchiadau isel o ran pethau y byd hwn. Bu yn pregethu am flynyddoedd yn yr ardal hon; symudodd oddiyma i Ffestiniog, ac ymfudodd i America cyn hir ar ol y flwyddyn 1840.
Evan Morris.—Yr oedd yntau yn bregethwr. Bu yn gwasanaethu gyda John Jones, Penyparc. Priododd gyda gweddw oedd yn byw yn y Trychiad, Llanegryn. Wedi bod yma am ysbaid, symudodd i fyw gerllaw Dolgellau. Ymfudodd i America Mai 16eg, 1849, a chan ei fod yn isel ei amgylchiadau, cyfranodd y Cyfarfod Misol 40p. tuag at ei gynorthwyo i ymfudo. Rhoddwyd cynorthwy, hefyd, i Edward Rees i ymfudo.
Mae y Parch. W. Davies wedi ymsefydlu yma er y flwyddyn 1859, ac wedi gwneyd gwaith gweinidog yr holl flynyddoedd hyn. Yma oedd cartref genedigol y Parch. David Jones, Talygareg ond dechreuodd bregethu wedi myned oddicartref i Loegr.
Y blaenoriaid presenol ydynt Mri. Hugh Pugh, Rowland Davies, Edward Roberts, David Bennett, a Morris Roberts.
CORRIS.
Olrheinir dechreuad Methodistiaeth Corris yn rhwydd ac eglur yn ol i'r flwyddyn 1781. Trwy offerynoliaeth gwraig o'r enw Jane Roberts y torodd y wawr gyntaf ar yr ardal. Cawsai y wraig hon grefydd ychydig flynyddau cyn hyn, tra yr ydoedd yn preswylio yn Nannau, ger Dolgellau, trwy iddi fyned i wrando ar John Evans, y Bala, yn pregethu yn Maes-yr-afallen. Daeth i fyw ymhen ychydig wedi hyn i Rugog, Corris. Ac yn y flwyddyn uchod clywodd fod pregeth i fod yn Abergynolwyn, a pherswadiodd ei merch Elizabeth, a Dafydd Humphrey, y rhai oeddynt newydd briodi, i ddyfod gyda hi i wrando y bregeth, Aeth y tri gyda'u gilydd o Gorris i Abergynolwyn. Hon oedd yr ail bregeth yn ol pob hanes, a bregethwyd gan y Methodistiaid yn y rhan yma o Sir Feirionydd, a'r gyntaf, hyd y gellir gwybod, i neb yn Nghorris fod yn ei gwrando. Bendithiwyd y bregeth hon mewn modd neillduol i Dafydd Humphrey. Wrth ei gwrando, yn y fan a'r lle, gwnaeth gyfamod â'r Gwr i'w gymeryd ef yn Dduw, a'i bobl yn bobl, a'i achos yn waith iddo tra byddai ar y ddaear." O'r dechreuad hwn y tarddodd yr eglwys yn Nghorris, ynghyd â'r pedair eglwys a darddodd allan o honi hithau—Aberllyfeni, Ystradgwyn, Esgairgeiliog, a Bethania. Ysgrifenwyd hanes. Methodistiaeth yn y manau hyn gan y Parch. G. Ellis, M.A., Bootle, ac efe a'i cyhoeddodd yn llyfr mor ddiweddar a diwedd 1885, o dan y teitl, "Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd". Mae yr hanes wedi ei ysgrifenu ganddo ef o'r dechreuad mor gyflawn a manwl fel nas gellir rhagori arno; a chan ei fod wedi ei gyhoeddi mor ddiweddar, ni fwriedir yma ond rhoddi crynhodeb o'r pethau mwyaf angenrheidiol eu gwybod am ddechreuad a chynydd pob eglwys, fel y byddo yr oll o weithredoedd yr Arglwydd yn y parth hwn o'r wlad i'w cael gyda'u gilydd i'r oes sydd yn codi, i'w cadw mewn coffadwriaeth. Bydd felly, o angenrheidrwydd, lawer o'r ffeithiau a'r digwyddiadau a gofnodir am y pum' eglwys hyn i'w priodoli i lafur ffyddlawn Mr. Ellis, yr hwn a'u chwiliodd allan gyda dyfalwch, ac a'u hysgrifenodd gyda manylwch teilwng o hono ei hun. Cafwyd gwell mantais i wybod hanes boreuol yr achos yn Nghorris nag odid fan yn y sir, oblegid ysgrifenwyd ef yn y f. 1840, gan Mr. Daniel Evans, yr hwn oedd ar y pryd yma yn ysgolfeistr, a chyhoeddwyd ef yn y Drysorfa y flwyddyn hono. Y flwyddyn gynt y bu farw Dafydd Humphrey, sylfaenydd yr achos, a diameu fod yr holl amgylchiadau wedi eu cael gan y neb a'u hysgrifenodd o enau yr hen batriarch ei hun.
Ymhen y flwyddyn, ar ol bod yn gwrando y bregeth yn Abergynolwyn, y cafodd Dafydd Humphrey gyfle i wrando yr ail bregeth. Yr ydoedd hyn ar Fawnog Ystradgwyn, a phrofwyd erledigaeth blin a chwerw yn yr odfa hono. Dywed yr hanes yn 1781 y bu hyn, ond wrth gymharu yr amgylchiadau, rhaid dyfod i'r penderfyniad ei bod flwyddyn yn ddiweddarach. Yna, ymhen rhyw ysbaid, cafwyd un o hen bregethwyr y Bala ar ryw Sabbath i bregethu i ardal Corris, ar fin y ffordd fawr. Dywed Mr. Ellis mai Dafydd Cadwaladr oedd y pregethwr, ac mai tua 1781 neu 1782 yr oedd hyn. Yn 1780 y pregethodd Dafydd Cadwaladr ei bregeth gyntaf, yn Ngherig-y-druidion, ac fe fu bwlch o ddwy flynedd cyn iddo roddi cynyg ar bregethu drachefn, oherwydd iddo wangaloni ar ol y tro cyntaf. Os efe oedd y pregethwr a bregethai ar fin y ffordd fawr y tro hwn, rhaid mai newydd ddechreu pregethu yr oedd. Modd bynag, mae yn bur sicr mai hon oedd y bregeth gyntaf erioed a bregethwyd gan y Methodistiaid yn Nghorris. Ac y mae dau beth yn amlwg mewn cysylltiad à hi—gwrthwynebiad cryf yr ardalwyr i dderbyn yr efengyl, a chyfryngiad rhyfedd Rhagluniaeth ddwyfol i beri i'r efengyl orchfygu. "Yr oedd rhywrai, ar ol clywed fod pregeth i fod yn yr ardal y Sabbath hwnw, wedi danfon offer aflonyddwch, sef llestri tin a phres i'w curo, fel ag i lesteirio i'r bobl glywed beth a ddywedid gan y pregethwr. Ond yr oedd blys cael clywed gan ryw un yno, yr hwn a gipiodd y llestr pres o law y terfysgwr, ac a'i lluchiodd i'r afon. Aed i'w geisio eilwaith, ond bellach ni ellid, gan yr agen a wnaed ynddo, wneyd nemawr ddefnydd o hono." Am y saith neu wyth mlynedd nesaf, tebyg ydoedd yma i hanes yr ardaloedd cylchynol—pregethwr dieithr yn dyfod heibio yn awr ac yn y man, ac yn cael derbyniad i bregethu i'r tŷ hwn a'r tŷ arall. "Wedi hyn bu pregethu mor aml ag y gellid ei gael, yn gyntaf yn Llainygroes, a thrachefn, am ysbaid dwy flynedd, yn Ysguborgoch. Ond yr oedd dygasedd yr hen sarff yn llesteirio i'r efengyl gael arhosiad hir yn unlle; eto yr oedd yn enill calon ambell un. Yn y flwyddyn 1790 yr oedd yno bump wedi cael blas ar fara y bywyd, sef Dafydd Humphrey a'i wraig, Jane Roberts, Jane Jones, a Betti Lewis. Wedi i ddrysau eraill gau, buwyd yn pregethu ar ben careg, wrth ddrws tŷ anedd, ar dir Dafydd Humphrey. Gelwid y tŷ hwn yr Hen Gastell; ac wedi ymadawiad y gŵr a'i preswyliai y pryd hyny, gosododd ef i ŵr arall am ychydig o ardreth, ar yr amod fod pregethu i fod ynddo."—(Methodistiaeth Cymru, I., 580.)
Dyma yr adeg y sefydlwyd yr eglwys yn Nghorris wedi ei gofnodi, "y pryd hwn, oddeutu y flwyddyn 1790, y dechreuwyd cynal cyfarfod eglwysig," a'r pump a enwir uchod oedd yn gwneyd i fyny aelodau yr eglwys. Cafodd y crefyddwyr hyn, a'r rhai a ymunodd a'r eglwys ar eu hol brofi yn drwm oddiwrth erledigaeth yr amseroedd. Y mae hanes eu gorthrwm, a'r milwyr yn dyfod dan arfau i ymosod ar yr Hen Gastell, a Dafydd Humphrey yn brysio, ac yn cymeryd y pulpud a'i gario ar ei gefn i'w guddio yn y beudy, wedi ei roddi eisioes yn y benod ar yr erledigaethau yn 1795. Ac y mae geiriau yr hen Gristion am dano ei hun, tra yr ydoedd wedi ymuguddio yn y rhedyn yn ngolwg y ffordd, yn teilyngu eu hadrodd fil o weithiau drosodd,—"A gwelwn," meddai, "y fyddin arfog yn dyfod dan saethu, nes oedd y mwg yn llenwi cwm Corris o ben bwygilydd." Ychwaneg ar hyn i'w weled yn Hanes Methodistiaeth Corris, a Methodistiaeth Cymru.
Yr Ysgol Sabbothol oedd yn foddion arbenig i gryfhau yr eglwysi, pa le bynag yr oedd y cyfryw wedi eu sefydlu o'i blaen hi. Felly yn Nghorris. Ond tra y mae amser sefydliad yr eglwys yma yn wybyddus, nid oes sicrwydd am amser dechreuad yr Ysgol Sabbothol. Adroddir am y dull y dechreuodd fel hyn.—Yr oedd yn Sabbath hynod o wlawog, ac nid oedd pregethu yn yr Hen Gastell y diwrnod hwnw. Penderfynodd teulu Abercorris ymffurfio yn ddosbarth, ac i bob un a fedrai ddarllen gymeryd ei Feibl. Cawsant gymaint o flas ar y gwaith yn y dull hwn fel y penderfynasant gyhoeddi Ysgol yn yr Hen Gastell y Sabbath dilynol. Coffheir am dri o ysgolfeistriaid a fu yma yn cadw ysgol, o dan Mr. Charles, oddeutu y pryd hwn-Robert Morgan, Lewis William, Llanfachreth, a Dafydd Rhisiart. Diameu i bob un o'r tri fod yn gefnogol i gychwyn a chynal yr Ysgol Sabbothol. Un o'r hen bobl a ddywedai mai yr hyn fu'n gymhelliad i'r rhai a ofalent am yr achos i feddwl am yr Ysgol Sul ydoedd, dymuniad i gadw y plant rhag gollwng dros gôf yr hyn a ddysgasai Dafydd Rhisiart iddynt. Yn 1800 y bu Lewis William yn Nghorris y tro cyntaf. Oherwydd yr awydd angerddol oedd yn llosgi yn ei natur ef gyda'r gwaith hwn, ni allasai aros dri mis yn unlle heb godi Ysgol Sul. Y geiriau canlynol a roddant oleuni am y rhan a gymerodd ef yn y gwaith yma hefyd, "Bu y brawd Lewis Williams, Llanfachreth, yn llafurus a llwyddianus iawn, pan oedd yma, i gynorthwyo ein tadau i sefydlu Ysgol Sabbothol yn ein plith." Tueddir ni yn gryf i gredu mai efe a roddodd gychwyniad i'r Ysgol Sul mewn trefn reolaidd, a hyny yn 1800. Hen chwaer grefyddol-Jane Roberts, Shop Newydd-a adroddai bum' mlynedd yn ol iddi hi fod yn perthyn i'r Ysgol yn yr Hen Gastell, pan yn eneth pur ieuanc. "Ychydig iawn," ebe hi, "oedd eu nifer y pryd hyny. Yn eu plith, ac yn benaf o honynt, yr oedd Dafydd Humphrey, Richard Anthony, Sion Richard, a'u gwragedd, ynghyd âg Humphrey Dafydd. Yr oedd yno hen lanc hefyd, o'r enw Edward Meredith, yn cymeryd rhan flaenllaw gyda'r Ysgol." Yn ol y cyfrifon a dderbyniwyd yn 1821, yn y Cyfarfod Ysgol, y lle a ddysgodd fwyaf allan ydoedd Ysgol Corris. Tua yr un amser bu ymweliad â'r Ysgolion. Yr hyn a ddywedir am Ysgol Corris yn yr Adroddiad ydyw,—"Nid oes dim i'w ddweyd am yr Ysgol hon, ond ei bod yn esiampl i holl Ysgolion y cylch." Parhaodd trwy y blynyddoedd, a pharha hyd yn awr i feddu yr un cymeriad, o ran teyrngarwch, gweithgarwch, a chydweithrediad â threfniadau y cylch, a holl gylchoedd y Cyfundeb. Ni adeiladwyd capel yn Nghorris am fwy nag 20 mlynedd ar ol dechreuad yr achos. Yr oedd yr Hen Gastell wedi ei gofrestru, a theimlid pob diogelwch bellach i bregethu ynddo. Diameu hefyd fod yr hen le yn gysygredig yn meddyliau y trigolion, fel nad oedd arnynt frys i ymadael o hono. Nid ydym yn hollol sicr ychwaith pa flwyddyn yr adeiladwyd y capel cyntaf. Y mae a ganlyn yn gerfiedig ar fur y capel:-
Rehoboth
A adeiladwyd y tro cyntaf—1813;
" " " " Yr ail dro—1834;
" " " " Y trydydd tro—1869;
Yr hyn sy'n peri gwedd o anghysondeb ydyw, y dywedir yn yr hanes a ysgrifenwyd yn 1840, mai yn 1816 yr ymosodwyd at ei adeiladu. Dichon mai gwall argraffyddol ydyw yr olaf. Ymddengys i'r eglwys fod am beth amser cyn dechreu adeiladu mewn sefyllfa pur isel; syrthiodd rhyw ddigalondid ar y crefyddwyr, a buont am ysbaid heb gadw yr un cyfarfod eglwysig. Hysbysir hefyd fod yr amser hwnw gyfyngder a phrinder mawr ymhlith y trigolion. Ond ail-enynodd ysbryd gweithio yn eu tad hwy oll, sef Dafydd Humphrey; rhoddodd dir i adeiladu arno, a gweithiodd ef ei hun, a'i weision, a'i anifeiliaid; a chynyrchodd yr un ysbryd yn chwarelwyr yr ardal, nes peri iddynt hwythau weithio wrtho bob prydnawn Sadwrn. Dygwyd y capel fel hyn i ben, yr hwn a safai tua haner milldir yn is i lawr na'r hen Gastell, ac yn union lle y saif y capel presenol. Cyn pen hir wedi adeiladu y capel torodd allan yn ddiwygiad nerthol—Diwygiad Beddgelert, 1818, 1819—teimlwyd dylanwadau grymus yr Ysbryd Glan, ac ychwanegwyd at yr eglwys o 65 i 70. Dywedai D. H., mewn canlyniad i'r llwyddiant hwn, "Bum yn chwilio llawer am blant i'r Ysgol Sabbothol; wele hwynt yn awr agos i gyd yn yr eglwys; dyma ddigon o dal am lafurio blynyddoedd meithion." Rhifai yr eglwys ar ddiwedd y Diwygiad hwnw 80, ond syrthiodd y rhif drachefn i 60 trwy farwolaethau, symudiadau, a gwrtligiliadau. Cafodd crefydd oruchafiaeth ar yr ardal trwy y diwygiad hwn. Ystyrid y capel a adeiladwyd ychydig yn flaenorol yn gapel mawr, ac eang anghyffredin, mor fawr fel y dywedai rhyw frawd fod eisiau "troi ei haner yn gorlan defaid." Yr oedd angenrheidrwydd am i'r capel fod yn fawr bellach, oherwydd fod y boblogaeth yn cynyddu trwy agoriad y chwarelau; ac ymhen tair blynedd ar ol ei adeiladu yr ail dro, sef y flwyddyn y bu farw Dafydd Humphrey, rhifai yr eglwys o 180 i 190. Yr un flwyddyn 1839—blwyddyn jiwbili dyled y capelau rhwng y Ddwy Afon, casglodd Corris at y drysorfa hon £136 0s. 6c., a derbyniasant o honi £209. Naill ai nid oedd hyn yn eu dwyn hwy allan o ddyled yn llwyr, neu aethant i ddyled drachefn, oblegid ceir y penderfyniad canlynol yn nghofnodion Cyfarfod Misol Dolgellau, Ionawr, 1853,—"Hysbyswyd fod cyfeillion Corris wedi talu dyled eu capel yn llwyr y llynedd, a phenderfynwyd, Fod y cyfarfod hwn yn cyflwyno diolchgarwch iddynt am eu ffyddlondeb, ac yn enwedig i'r brawd Mr. Humphrey Davies, am ei garedigrwydd yn rhoddi y tir ato, a'r fynwent helaeth sydd yn perthyn iddo, yn rhad." Yn 1869, ymgymeryd âg adeiladu y trydydd tro, a'r ffrwyth ydyw y capel hardd presenol, yr hwn sydd yn addurn i'r fro. Er cymaint oedd y gorchwyl hwn, yr oedd y Cyfarfod Misol a gynhaliwyd yma Awst, 1885, yn gyfarfod jiwbili. Gwnaed yn hysbys ynddo fod dyled y capel oll wedi ei thalu, eu bod fel eglwys a chynulleidfa wedi talu bob blwyddyn at eu gilydd ryw gymaint dros £100, a bod yr holl swm oeddynt wedi dalu yn cyraedd i ymyl £2000. Y mae yr eglwys hefyd er's tuag wyth mlynedd yn ol wedi adeiladu tŷ eang a hardd i'r gweinidog. Y mae pedair eglwys, fel y crybwyllwyd, wedi tarddu allan o'r eglwys hon—Aberllefeni, Ystradgwyn, Esgairgeiliog, a Bethania. Rhif yr aelodau eglwysig yn 1790 ydoedd 5. Yn niwedd 1886, ymhen agos i gan' mlynedd, yr oedd y fameglwys a'r canghenau gyda'u gilydd yn rhifo 488. Yn 1820, y "Daith Sabbath" ydoedd—Corris, Llanfihangel, a Llanerchgoediog. Yn awr, y mae Corris ei hun wedi myned yn dair o "deithiau,"—Rehoboth, ac Esgairgeiliog; Aberllefeni, a'r Alltgoed; Bethania, ac Ystradgwyn. Rhoddir eto grynhodeb o hanes swyddogion yr eglwys. Bu eraill yn dra gwasanaethgar gyda yr achos, trwy yr holl dymhorau er y dechreuad. Ond y mae hanes y swyddogion fel rheol yn cynwys hanes yr eglwys yn lled gyflawn, oblegid ar eu hysgwyddau hwy y bu pwysau y gwaith yn gorphwys. Bendithiwyd yr eglwys hon â swyddogion enwog—dynion yn llawn o ffydd ac o'r Ysbryd Glân o'r cychwyn cyntaf. Ni bu yr un eglwys erioed o dan fwy o ddyled i'w blaenoriaid nag eglwys Corris. I ba beth y priodolir fod yr eglwys hon yn eglwys drefnus, weithgar, a llwyddianus, trwy yr holl flynyddoedd, ond i'r ffaith fod ei blaenoriaid hi wedi bod yn enwog a blaenllaw mewn pob rhinwedd a gweithredoedd da?
Dafydd Humphrey. Efe ydoedd sylfaenydd yr eglwys. Argyhoeddwyd ef pan oedd yn ddyn ieuainc 25 oed, wrth wrando pregeth yn Abergynolwyn—un o'r pregethau cyntaf a bregethwyd gan y Methodistiaid yn yr holl wlad. Gwnaeth gyfamod y diwrnod hwnw i newid dau achos â'r Arglwydd—i roddi ei achos ei hun i'r Arglwydd, ac i gymeryd achos yr Arglwydd yn waith iddo yntau—ac fe gadwodd at y cyfamodi hyd ddiwedd ei oes. Rhoddodd le i bregethu yr efengyl pryd, nad oedd neb yn yr ardal a feiddiai dderbyn pregethwr i dŷ, ac ymhen 30 mlynedd wedi hyny rhoddodd le i adeiladu capel ar ei dir ei hun. Safodd yn wrol o blaid crefydd yn yr erledigaeth ffyrnicaf, pan yr anfonwyd milwyr o dan arfau i'w ddal ef a'i gyd-grefyddwyr. Adroddwyd eisoes am dano yn cario y pulpud ar ei gefn, i'w guddio rhag y milwyr. Wedi i'r erledigaeth fyned heibio, ac i'w gydbroffeswyr fyned yn wan-galon, rhoddai ef ysbryd ac yni ynddynt i ddal i weithio yn y nos. Dau beth mawr a'i hynodai—zel a brwdaniaeth gyda chrefydd, a llwyr ymroddiad dros ei holl fywyd i wasanaeth crefydd. Adroddai un o'r brodyr, llai ei ffydd, ei brofiad yn y cyfarfod eglwysig un tro, ac meddai, "Mae arna i ofn y dyddiau yma nad ydw i ddim wedi dechreu yn iawn gyda chrefydd erioed; ond y mae yn gysur gen' i feddwl y caf ei hail ddechreu hi o'r newydd heno eto." "Twt, twt, twt," ebe Dafydd Humphrey, "y peth gwiriona' glywais i 'rioed; ail ddechra, ail ddechra, o hyd, o hyd! Mi wnes i gyfamod â'r Gwr unwaith yn y dechra, a gloewi'r cyfamod, gloewi'r cyfamod, y bydda i byth wed'yn. Pa eisio ail ddechra o hyd, o hyd! Twt, twt, twt!" Byddai yn mwynhau y weinidogaeth yn anarferol, porthai gwasanaeth a chwarddai a diolchai yn orfoleddus bob yn ail. Gwyliai y gynulleidfa hefyd, ac edrychai pwy fyddai yn teimlo dan y weinidogaeth. "Sylwai yn moddion gras pwy fyddai yn cael ei nodi dan y gair; yna, äi yn ddioed i ymofyn am y cyfryw i'r tŷ, gan ddweyd wrtho, Tyred, y mae efe yn dŷ alw di.'" Y mae hanes D. H. yn ei ddyddiau olaf yn dangos ei fod yn marw fel y bu fyw. Ei genadwri olaf at yr eglwys gyda dau o'r blaenoriaid ydoedd,— Dywedwch wrthynt oll am ymofyn am grefydd dda; mae crefydd llawer yn darfod yn angau." Wrth ei wyrion, y rhai y pryderai yn eu cylch dywedai, Byddwch fyw yn dduwiol; rhodiwch ar hyd canol llwybr barn. Gweddïwch a gwyliwch rhag i chwi byth adael eglwys Dduw." Ddeuddydd cyn ei farwolaeth, "galwodd am y brawd Rees Jones, Bermo (Y Parch. Rees Jones, Felinheli, wedi hyny), at ei wely a dywedodd wrtho; "Mewn perthynas i'r cyfeiliornadau sy'n codi y dyddiau hyn ynghylch gwaith yr Ysbryd Glan, dymunaf i chwi adael chwareu teg i'r TRI ddyfod i'r maes yn iachawdwriaeth pechadur. Cedwch ddigon o glychau o'u deutu; a gweddiwch lawer na chaffoch byth eich gollwng i'r fath dir a gwadu yr angen am ei waith." Bu farw Rhagfyr 19, 1839, yn 83 mlwydd oed.
Richard Anthony oedd un o flaenoriaid cyntaf Corris. Efe am amser oedd clochydd Talyllyn,——a dywedir iddo y pryd hwnw roddi terfyn hollol ar gyhoeddi arwerthiadau yn y fynwent ar y Sabbath. Gwr bychan o ddoniau, ond llawn o zel a ffyddlondeb.
Lewis Pugh, a Shon Rhisiard, Hen Shop. Symudodd Lewis Pugh oddiyma yn lled gynar. Bu yn trigianu mewn amryw ardaloedd, a dewiswyd ef yn flaenor eglwysig ymhob man lle yr elai, ac y mae son am dano fel un o'r rhai duwiolaf yr amseroedd hyny. Nid oedd S. R. yn flaenor, ond llanwodd le pwysig yn moreuddydd crefydd yn yr ardal. Meddai ar wybodaeth a donian mwy na rhai o'r blaenoriaid, ac yr oedd yn weddïwr heb ei fath. "Mi hoffwn, Dic bach," meddai unwaith wrth Richard Anthony, "allu gweddïo nes gwneyd plwy' Talyllyn yma yn nefoedd i bawb o'i fewn." Y rhai nesaf a etholwyd yn flaenoriaid oeddynt Humphrey Davies, a Rowland Evans, Aberllefeni, ond fe ddeuant hwy i gael sylw mewn penod arall.
Richard Owen, Ceiswyn, oedd un o'r ail dô o flaenoriaid. Daeth i fyw o ardal y Dyffryn, a bu ei ddyfodiad i Gorris yn gryfder i'r achos. Er fod ganddo bedair milldir o ffordd i'r capel, yr oedd ei ffyddlondeb yn dilyn y moddion yn ddiarebol, Edrychid ato yn barhaus gan yr eglwys fel gwr craff, doniol a gwybodus. Pan y symudodd i Bennal, teimlid fod bwlch mawr yn Nghorris ar ei ol. Ymhlith pethau eraill, adrodda y Parch. G. Ellis, M.A., Bootle, y sylw canlynol am dano,—"Daeth ei ddesgrifiad o Humphrey Davies, a Rowland Evans, yn cadw society yn dra adnabyddus; a theimlai pawb a'u hadwaenent nas gallesid cael ei gywirach. Dyna ddyn yn y gors.' Cynllun R. E. ydyw myned ato i wrando ei brofiad, i gydymdeimlo âg ef, ac i'w gysuro; ond cynllun H. D. ydyw sefyll ar y lan a gwaeddi arno, 'Dyna gareg yn dŷ ymyl, dyro dŷ draed arni, a thyr'd oddiyna.'"
William Jones, Tan'rallt. O Lanllyfni y daeth ef i'r ardal hon, ac yma yr ymunodd âg eglwys Dduw. Yr oedd yn oruchwyliwr ar un o'r chwarelau, ac fel y cyfryw yn ŵr cyfrifol, ac yn llenwi lle pwysig. Cadwodd ei le, mewn byd ac eglwys, yn ddifrycheulyd. Ymddengys mai nid yn y rhan gyhoeddus o'r gwaith yr oedd ef fwyaf yn y golwg. Arno ef y gorphwysai dwy gangen bwysig o waith blaenor—y swydd o drysorydd yr eglwys, a gofalu am ddechreu a diweddu y moddion; llanwodd y rhai hyn mor berffaith nas gallasai neb eu llenwi yn well. Pwy bynag fyddai yn siarad, y fynyd y delai yr amser i derfynu, rhoddai ef benill allan i'w ganu. Y mae ei blant a'i Wyrion a'u hysgwyddau yn dyn o dan yr arch.
William Richard, Tycapel. Blaenor a'i enw mewn coffadwriaeth parchus yn Nghorris ar gyfrif ei onestrwydd a'i grefyddoldeb. Wedi iddo symud i Gorris i fyw, dewiswyd ef yn flaenor gan yr eglwys yno yn 1836, a llanwodd ei swydd yn fyddlawn hyd ei farwolaeth, Mehefin 21, 1861. Rhai o'i ragoriaethau oeddynt, ei fedrusrwydd i borthi y praidd, ei sylwadau craff a phwrpasol yn y cyfarfodydd eglwysig, ei gynghorion buddiol i ieuenctyd, a'i lymder yn erbyn pechod. Mae ei blant ar ei ol yn dilyn llwybrau rhinweddol eu tad.
Owen Jones. Dyfod yma wnaeth yntau o Waunfawr. Meddai ar alluoedd cryfion, a dawn hwylus. Efe ydoedd yr ymadroddwr penaf yn y cyfarfod eglwysig ar nos Sabbath, Byddai ganddo asgwrn i'w gnoi ar ol pob pregeth; disgwylid am ei sylwadau, a byddent yn gyffredin yn rymus ac at y pwynt.
Robert Owen. Yn Ebrill y flwyddyn hon (1887), y bu ef farw. Bu yn grefyddwr da, ac yn weithgar gyda chrefydd yn Aberllefeni cyn symud i Gorris. Wedi ei droi yn lled gynar ar ei oes o'r ffordd ddrwg, ac iddo ymuno â'r eglwys, gwnaeth y goreu o'r ddau fyd, a llwyddodd i fesur helaeth gyda y naill a'r llall. Efe ydoedd trysorydd yr eglwys y tymor olaf o'i oes, ac nid oedd ei well i'w gael. Yn ei gystudd olaf, yn enwedig tua'r diwedd, cafodd brofiad lled sicr ei fod yn myned i "gael rhan o etifeddiaeth y saint yn y goleuni."
Bu Morris Jones, Aberllefeni; William Edwards, Ceinws; Richard Lumley, a Thomas Jones, Voelfriog, yn flaenoriaid yn yr eglwys hon, am y rhai y coffheir mewn lle arall. Y Parchn. John Jones, Brynteg, Arfon, ac Ebenezer Jones, fuont yn llafurus gyda chrefydd yma a'm dymor o'u hoes. David Davies, Geuwern, ydoedd yn bregethwr zelog, ac ymroddgar. O Rhiw, Ffestiniog, y daeth i'r ardal hon, i fod yn oruchwyliwr ar chwarel y Geuwern. Yr oedd yn ddyn cymeradwy a dylanwadol yr adeg y bu yn byw yma. Bu yn ymdrechgar iawn i ddilyn ei deithiau Sabbothol yma ac yn Ffestiniog. Cymerwyd ef ymaith yn lled sydyn trwy dwymyn boeth oddeutu y flwyddyn 1865.
Hugh Roberts. Pregethwr adnabyddus iawn yn Ngorllewin Meirionydd am y 27 mlynedd olaf o'i oes ydoedd ef. Ganwyd ef Awst 24ain, 1810, yn y lle a elwid "Incline y Dinas," rhwng Bangor a Bethesda. Symudodd i Gorris yn 1833. Dywedir iddo ymuno â dirwest y noswaith y ffurfiwyd y gymdeithas yn yr ardal, ac mai ei enw ef oedd y pedwerydd ar y llyfr. Efe, hefyd, yn ol ei dystiolaeth ei hun, a siaradodd yn gyhoeddus gyntaf yn Nghorris o blaid dirwest. Cafodd argyhoeddiad grymus wrth wrando pregeth yn Llwyngwern. Ymunodd â chrefydd gyda'r brodyr y Wesleyaid yn Nghorris, ac yn fuan dewiswyd ef yn flaenor yn yr eglwys yr oedd yn aelod o honi, a chyn hir wedi hyny dechreuodd bregethu, a chyda y Wesleyaid y bu yn pregethu am y pymtheng mlynedd cyntaf. Oherwydd rhyw amgylchiadau, daeth drosodd at y Methodistiaid, a derbyniwyd ef yn bregethwr; ac o'r flwyddyn 1856, bu yn pregethu yn gyson gyda chymeradwyaeth gyffredinol hyd ei farwolaeth, Mai yr 2il, 1882. Yn nghofnodion y Cyfarfod Misol cyntaf a gynhaliwyd wedi hyny, ceir yr hyn a ganlyn:— "Gwnaed sylwadau er coffadwriaeth am y Parch. Hugh Roberts, Corris. Dywedid am dano ei fod yn ddyn cywir a gonest yn ei ymwneyd â'r byd hwn, ac yn nodedig o ffyddlon gyda'i gyhoeddiadau Sabbothol. Teimlir colled mewn cylch eang ar ol ei weinidogaeth. Bendithiodd yr Arglwydd ei lafur i liaws mawr o wrandawyr."
Cyfododd cenhadwr ymroddgar a llwyddianus o'r eglwys hon, sef y Parchedig John Roberts. Derbyniwyd ef fel ymgeisydd am y weinidogaeth yn Nghyfarfod Misol Bryncrug, Hydref 4ydd, 1863. Wedi bod am bedair blynedd yn Athrofa y Bala, ac wedi hyny yn Mhrif Athrofa Edinburgh, aeth allan i'r maes cenhadol ar Fryniau Kassia, India'r Dwyrain, yn Medi, 1871.
Y mae yn deilwng o goffhad fod dirwest wedi bod mewn bri mawr yn Nghorris o gychwyniad cyntaf yr achos dirwestol, ac wedi cael lle pur amlwg hefyd mewn disgyblaeth eglwysig. "Cynhaliwyd y cyfarfod dirwestol (llwyrymataliol) cyntaf yn yr ardal hon, Tachwedd 5ed, 1836; a'r ail, Tachwedd 12fed, 1836, yn yr hwn yr oedd Dr. Charles yn bresenol, ac yn llosgi alcohol." "Y mae yn ffaith gwerth ei chroniclo, fod cylchwyl flynyddol cymdeithas ddirwestol Corris wedi ei chynal yn ddifwlch, oddieithr un flwyddyn, o'i sefydliad hyd yn awr (1885), ar Ddydd Iau Dyrchafael."—(Llythyr Mr. D. Ifor Jones, yn Llyfr Jubili y Diwygiad Dirwestol yn Nghymru.)
Amgylchiad arall tra hynod mewn cysylltiad â'r eglwys hon ydyw, fod llety y pregethwyr wedi bod yn yr un fan, a chyda yr un teulu o ddechreuad cyntaf pregethu yn yr ardal, er's rhyw gymaint dros gan' mlynedd o amser; a thri yn unig sydd wedi bod yn ben-teulu yn y tŷ lletygar hwn yr holl flynyddoedd uchod,—Dafydd Humphrey, y taid, o 1782 hyd 1839; Humphrey Davies, y tad, o 1839 hyd 1873; a Mr. Humphrey Davies, U.H., y mab, o 1873 hyd yn awr. Bu y Parch. Evan Jones, yn awr o Gaernarfon, yn weinidog rheolaidd yr eglwys hon o 1868 i 1872. Symudodd oddiyma i fod yn weinidog yr eglwys yn y Dyffryn. Drachefn, y Parch. W. Williams, o 1873 hyd ddechreu 1888, pryd y symudodd i Talsarn, ar alwad yr eglwys yno.
Blaenoriaid presenol yr eglwys ydynt, Mri. Humphrey Davies, U.H., John Roberts, Evan Williams, Edward Humphreys, Morris Thomas, a Humphrey Lloyd Jones.
ABERLLEFENI
Cangen ydyw yr eglwys yn Aberllefeni, wedi troi allan o eglwys Corris, ac felly, diweddar mewn cymhariaeth ydyw yr hanes a berthyn iddi hi. Yn 1839 yr adeiladwyd ysgoldy yma gyntaf. Yr hyn y gellir ei goffhau yn flaenorol i hyny ydyw hanes teithiau yr Ysgol Sul o dŷ i dŷ ar hyd y cymoedd. Ychydig oedd nifer y preswylwyr yn y cymoedd culion hyn cyn agoriad y chwarelau. Yr amgylchiad hwn a roddodd bwysigrwydd ar yr ardal. Yn ddiweddarach o tuag ugain mlynedd yr agorwyd y chwarelau yma na chwarelau Ffestiniog. Dywedir mai tri o ddynion oedd yn gweithio yn chwarel Aberllefeni yn 1824, a'u cyflog yn bymtheg swllt yr wythnos. O'r dyddiad hwn ymlaen, am y pymtheng mlynedd dyfodol, daeth llawer iawn o ddieithriaid i fyw i'r gymydogaeth hon a Chorris o Sir Gaernarfon. Yr hanes cyntaf am grefydd yr ardal ydyw yr hyn a ysgrifenwyd i'r Drysorfa, 1840,—"Yn oes yr Hen Gastell, sefydlwyd Ysgol Sabbothol yn Aberllefeni. Aeth hono yn dair; ac yn awr mae y Col. Jones (tad R. D. Pryce, Ysw., Arglwydd Raglaw Sir Feirionydd), Cyfronydd, Sir Drefaldwyn, wedi bod mor haelionus ag adeiladu ysgoldy yn yr ardal hono." Felly, yr oedd Ysgol Sabbothol yn cael ei chynal yn Aberllefeni cyn y flwyddyn 1816. Yn y Tỳ Uchaf y cedwid hi gyntaf, ac am hwyaf o amser, a cheid pregeth yno yn achlysurol. Yn "Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd," ceir yr hanes dyddorol a ganlyn mewn cysylltiad â'r lle hwn Digwyddodd rhai pethau digrifol yn y Tŷ Uchaf. Yr oedd Hugh Humphrey, o Lwydiarth, yn bresenol yn yr oedfa un tro. Crybwyllasom mewn penod flaenorol am ei gryfder corfforol; ac ffeiriau byddai weithiau yn gwneuthur gwrhydri fel ymladdwr. Cariai ffon fawr yn gyffredin, a dywedir iddo rai troion glirio heol Dinas Mawddwy ar ddiwrnod ffair. Y tro hwn adroddai y pregethwr hanes Joseph; ac yr oedd y cwbl yn dra newydd a dieithr i Hugh Humphrey. Yr oedd ei ffon yn ei law; ac wrth glywed y pregethwr yn adrodd y gamdriniaeth a dderbyniodd Joseph oddiwrth ei frodyr, nis gallai ymatal heb ddatgan syndod.
'Chlywais i 'rioed 'siwn beth,' meddai drachefn a thrachefn; ond wedi clywed y diwedd tarawodd ei ffon yn y llawr a dywedai yn uchel, Myn ——, 'daswn i yno."
Cynhelid Ysgol Sul gyda ffyddlondeb mewn manau eraill— yn Cwmcelli, y Fronfraith, a'r Waen. Byddai pregethu achlysurol ac ambell gyfarfod eglwysig yn y Felin, a'r rheswm pam y cynhelid ef yno oedd, am mai teulu y Felin oedd yr unig deulu cyflawn a berthynai i'r eglwys. O'r diwedd, gan fod trigolion yr ardal yn amlhau, teimlid angen am addoldy. Penodwyd Morris Jones, yr hwn oedd yn flaenor ac yn bregethwr, i roddi yr achos o flaen Col. Jones, Gyfronydd, perchenog y chwarel. A'r canlyniad fu i'r boneddwr yn dra haelionus adeiladu ysgoldy i'w weithwyr ar ei draul ei hun, a'r unig beth a ofynai i'r ardalwyr ei wneyd oedd cludo defnyddiau ato. Rhoddwyd caniatad hefyd gan y boneddwr i gynal pob gwasanaeth crefyddol yn gyson yn yr ysgoldy. Yr oedd hyn yn 1839. Er fod yr ysgoldy yn hollol ddiaddurn, gwnaeth y tro at wasanaeth yr ardalwyr yr adeg hono, ac felly y bu, oddieithr y rhoddwyd llawr coed yn lle cerrig iddo, am ugain mlynedd. Yn 1859 yr oedd wedi myned yn rhy fychan, helaethwyd a gwnaed ef yn fwy cysurus trwy roddi eisteddleoedd ynddo. Bron cyn ei fod wedi ei orphen cyrhaeddodd Diwygiad grymus y flwyddyn hono i'r ardal, a thorodd allan yn orfoledd, a dywedai chwaer grefyddol oedd yn bresenol yn y gorfoledd, "Dyma dwymniad iawn i'r capel newydd." Yn 1874 adeiladwyd y capel presenol yn Pensarn, haner milldir yn nes i Gorris na'r capel cyntaf. Agorwyd ef Gorphenaf 10,. y flwyddyn hono. Pregethwyd ar yr achlysur gan y Parchn. D. Davies, Abermaw, J. Pritchard, Amlwch, a G. Ellis, M.A., Bootle. Adeiladwyd tŷ helaeth wrth ochr y capel yr un pryd. Aeth yr eglwys i draul gydag adeiladu rhwng 1873 a 1880 o £915 10s. Oc. Talwyd holl ddyled y capel a'r tŷ mewn amser lled fyr, a chynhaliwyd Cyfarfod Jubili, Mehefin 26ain, 1881, pryd y pregethwyd gan y Parchn. R. Roberts, Dolgellau, a J. Ogwen Jones, B.A. Yn 1886, drachefn, adgyweiriwyd a harddwyd y capel gyda thraul o tua £80, yr hyn a dalwyd oll yr un flwyddyn. Y flwyddyn hon y mae yr eglwys yn adeiladu tŷ i'r gweinidog. Yr oedd gan y cyfeill— ion yn y lle hwn Gymdeithas Arianol, fel na thalwyd ganddynt ddim ond trifle o logau—£15 10s. Oc.—yr holl flynyddau hyn.
Y mae capel wedi ei adeiladu yn yr Alltgoed, blaen uwchaf y cwm, ddwy filldir yn uwch i fyny, yn nghyfeiniad Dinas Mawddwy o Aberllefeni. Agorwyd ef Tachwedd 26ain, 1871, pryd y pregethwyd gan y Parch. J. Foulkes Jones, B.A., Machynlleth, a W. Jones, Trawsfynydd. Yr oedd Mri. William Ellis ac Evan Griffith yn byw yn yr Alltgoed y pryd hwnw, a hwy fuont a llaw benaf gyda dygiad ymlaen yr adeilad. Y mae dyled hwn hefyd wedi ei llwyr glirio. Nid oes yma eglwys eto wedi ei ffurfio; perthyna yr aelodau i'r eglwys yn Aberllefeni, a chynhelir ysgol a phregeth bob Sabbath, heblaw moddion eraill yn achlysurol.
Pan yr adeiladwyd yr ysgoldy cyntaf yn Aberllefeni, yn 1839, yr oedd yr haid a berthynai i Gorris yn yr ardal hono o gwmpas 60 o rifedi." Perthyn i Gorris y buont am lawer blwyddyn cyn myned i fyw wrthynt eu hunain. Cynhelid ysgol a phregeth yn yr ysgoldy bob Sabbath, a moddion eraill yn Sabbothol ac wythnosol; yr oedd yno flaenoriaid da, ac yr oedd nifer gweddol gryf o honynt, eto aelodau yn Nghorris oeddynt dros lawer blwyddyn. I Gorris yr elai eu casgliadau, ac yn Nghorris y llywodraethid eu hachosion. Yn ol yr ystadegau, nid ymddengys iddynt ymffurfio yn eglwys yn hollol ar eu penau eu hunain hyd y flwyddyn 1857. Ar ddiwedd y flwyddyn hono y ceir eu cyfrifon gyntaf, fel y canlyn Gwrandawyr, 200; Ysgol Sabbothol, 170; mewn cymundeb, 88; casgliad at y weinidogaeth, £24 8s. 1c.; cyfanswm, £37 10s. 8c. Y mae wedi myned yn daith ar ei phen ei hun er y flwyddyn 1873. Etifeddodd yr eglwys hon fesur helaeth o gymeriad y pren y tarddodd allan o hono; yn gyffelyb i'r fam eglwys yn Nghorris y mae llawer o weithgarwch, ystwythder, ac ysbryd myned ymlaen ynddi hithau trwy y blynyddoedd. Ac fel rheswm cryf dros ei gweithgarwch, gellir dweyd fod yma hefyd ddynion yn llawn o ffydd ac o'r Ysbryd Glan" wedi bod yn blaenori yr eglwys. Bu nifer o frodyr a chwiorydd rhagorol yn cydgario yr arch yn y lle. Er hyny, teilynga rhai o'r cedyrn sylw mwy arbenig. Rowland Evans a Samuel Williams oeddynt ddau o'r rhai enwocaf. Cânt hwy sylw mewn lle arall. Richard Owen, Ceiswyn, wedi cael ei goffhau fel un o flaenoriaid Corris. Yr oedd pwysau yr achos ar y tri hyn y blynyddoedd cyntaf. Coffheir am enwau Thomas Hughes, Tŷ Uchaf, a Howell Jones, Gell Iago, fel rhai a lafuriodd lawer gyda'r Ysgol Sul a rhanau eraill o deyrnas yr Arglwydd Iesu.
Morris Jones. Yr oedd ef yn flaenor i ddechreu, ac yn bregethwr wedi hyny, ac ni bu yn llenwi y ddwy swydd ond prin chwe' blynedd. Bu farw megis ar darawiad trwy gyfarfod â damwain yn y chwarel, Ionawr 27ain, 1840. Yr oedd yn byw mewn amser pwysig ar grefydd yn yr ardaloedd hyn, ac fe wnaeth waith mawr, fel y mae ei enw yn berarogl yn yr holl fro hyd heddyw. Seren ddisglaer ydoedd, yn goleuo yn danbaid ac yn diflanu. Ymddangosodd cofiant iddo yn y Drysorfa am Chwefror, 1841. Rhyw ddeuddeg mlynedd fu ei dymor yn yr ardal hon; daeth yma o Sir Gaernarfon yn ddyn digrefydd, ofer, a gwyllt ei fuchedd. Yr oedd mor alluog yn ei anystyriaeth a'i annuwioldeb, fel y penderfynodd ysgrifenu llyfr yn erbyn yr athrawiaeth Galfinaidd; ond wrth chwilio y Beibl i'r diben hwnw, gwelodd mai Calfiniaeth oedd yn iawn. Cafodd dröedigaeth sydyn a thrwyadl wrth wrando y Parch. T. Owen, o Fôn, ac ymunodd â chrefydd. Dewiswyd ef yn flaenor yn Nghorris yn 1835, a'r flwyddyn ganlynol dechreuodd bregethu. Ni chawsai fyned i'r ddwy swydd hyn mor fuan oni bai fod gallu anghyffredin ynddo, a disgwyliad mawr wrtho. Efe oedd tad yr achos dirwestol yn Nghorris. Yr ydoedd yn daranwr yn erbyn meddwdod; yn areithiwr mor rymus a nerthol, fel yr ymunai pawb â dirwest a'u clywent ef unwaith. "Morris Jones, y pregethwr, oedd y dirwestwr cyntaf, ac ymunodd ychydig ag ef cyn cael cyfarfod." Nid yn unig efe a ardystiodd â'i law gyntaf, ond efe, mae'n ymddangos, oedd y cyntaf a'r mwyaf ei ddylanwad o blaid yr achos da hwn yn y cychwyn cyntaf yn yr ardaloedd. Torodd allan hefyd yn bregethwr grymus ar unwaith. Meddai ar allu meddyliol, cryf; ymroddodd i ddiwydrwydd a llafur dirfawr; perthynai i'w ysbryd ireidd—dra a difrifwch anghyffredin, a thrwy y pethau hyn, yr oedd y wlad wedi dyfod i gredu ei fod yn wr amlwg yn llaw yr Arglwydd i wneuthur daioni. Tra rhyfedd a dieithrol oedd y difrifwch a'r dylanwad a ddilynai y bregeth olaf a draddododd yn Llanwrin, y nos Sabbath olaf cyn ei farwolaeth. Y dydd Llun canlynol y cyfarfyddodd a'r ddamwain. Mae y bregeth ragorol hon wedi ymddangos yn y Drysorfa, ac yn llyfr y Parch. G. Ellis, M.A. Gadawodd bywyd, a gwaith, a marwolaeth Morris Jones ddylanwad ar y wlad a barhaodd yn hir yn ei effeithiau.
Robert Lumley. Dyn da, egwyddorol, a di-dderbyn-wyneb, a blaenor ymroddgar. Yr oedd yn glir ei syniadau am athrawiaethau crefydd, ac yn dra chrefyddol ei ysbryd. Symudodd i Abergynolwyn, a dewiswyd ef yn flaenor yno. Bu ystormydd anghydfod yn ysgwyd yr eglwys hono yn ei amser ef, ond daliodd Robert Lumley ei afael yn dyn yn ei grefydd, a bu farw yn orfoleddus.
Richard Jones, Blue Cottages. Gellir dweyd am dano ef yn ddibetrus ei fod yn "wr defosiynol ac yn ofni Duw." Heb fod yn fawr o allu na doniau, ond prydferth dros ben ei gymeriad. Rhoddodd dystiolaeth eglur i'w gymydogion mai pethau crefydd oedd ei bethau blaenaf, a bod gwasanaethu crefydd yn hyfrydwch mawr iddo. Wedi i'r hen flaenoriaid gael eu symud gan Ragluniaeth, disgynodd llawer o'r gwaith arno ef tra nad oedd ond blaenor lled ieuanc, a gogwyddodd yntau ei ysgwyddau ar unwaith i dderbyn y gwaith. Un o'r rhai mwyaf hyfryd yn gwrando'r Gair ydoedd; un o'r rhai goreu am gyngor i ieuenctyd, a'r mwyaf ei zel gyda phob rhan o waith yr Arglwydd. Rhoddir y dyfyniad canlynol fel engraifft deg o'i sylwadau yn y cyfarfod eglwysig nos Sabbath:—
"'Roeddwn i yn teimlo wrth wrando y buaswn yn mentro y Gwr pe buasai gen i fil o eneidiau. Mi fuaswn yn eu rhoddi iddo bob un. A bron nad oeddwn i, fel y clywais i am un, yn dymuno eu bod genyf er mwyn eu rhoddi iddo."
Bu Mr. Robert Evans yn flaenor gweithgar yma cyn iddo symud i lawr i Gorris; a Mr. E. Jones, Ffynonbadarn, cyn iddo yntau symud i Bethania.
Cyfodwyd tri i bregethu o eglwys Aberllefeni—y Parchedig G. Ellis, M.A., Bootle, yr hwn a dderbyniwyd fel ymgeisydd am y weinidogaeth yn Nghyfarfod Misol Bryncrug, Hydref, 1863; y Parch. John Owen, yn awr o Aberdyfi, a'r Parch. John Owen Jones, Llanllechid, Arfon.
Y gweinidog a fu mewn cysylltiad bugeiliol â'r eglwys hon gyntaf mewn undeb â Chorris ydoedd y Parch. Evan Jones, yn awr o Gaernarfon. Bu yma o 1868 i 1872. Ar ei ol ef, bu Mr. D. Ifor Jones yn cymeryd gofal yr eglwys am oddeutu blwyddyn. Wedi hyn, bu y Parch. John Owen yn weinidog yma a'r Alltgoed yn unig, o Mehefin 20fed, 1882, hyd ddiwedd Rhagfyr, 1885. Ac y mae y Parch. R. J. Williams, gynt o Ffestiniog, wedi ymsefydlu yma er dechreu 1887.
Y blaenoriaid ydynt, Mri. William Ellis, William Lewis, Evan Griffith, Hugh Evans, David Thomas, Morgan Morgan.
YSTRADGWYN.
Pantle ydyw Ystradgwyn, tua thair milldir o Gorris, wrth dalcen uwchaf llyn Talyllyn, ac wrth droed Cader Idris. Lle enwog am chwareu ac ofer-gampau yr oes cyn codi yr Ysgol Sabbothol oedd Mawnog Ystradgwyn. Gelwid gwastadedd yr ardal yn "fawnog" am ei bod unwaith yn lle i gynhauafu mawn; wedi hyny, daeth yn gommin, a'r pryd hwn y cerid ymlaen y chwareuon ynddo; ond parhawyd i alw y lle yn "fawnog" dros hir amser wedi iddo beidio a bod felly. Pan fyddai gan Lewis William, Llanfachreth, gyhoeddiad i bregethu yn Ystradgwyn, y Fawnog fyddai ganddo ef bob amser i lawr yn ei Ddyddiadur. Mae y lle wedi ei gau i fyny a'i wneyd yn dir llafur bellach er's dros 60 mlynedd. Y crybwylliad cyntaf a geir am grefydd mewn cysylltiad a'r ardal ydyw, mai ar Fawnog Ystradgwyn y bu Dafydd Humphrey yn gwrando yr ail bregeth a glywodd gan y Methodistiaid. Yr oedd hyn oddeutu 1782. Am ugain mlynedd lawn, ymddengys na wnaed dim yma ond cael ambell odfa yn awr ac yn y man. Sonir am ddwy o'r rhai hyn. Y Parchedig John Roberts, Llangwm, a erlidiwyd yn dost yma un tro, a bu raid iddo gilio o'r lle gan faint oedd nerth yr erlidwyr; ac nid oedd dim i'w wneyd ond ceisio pregethu mewn man arall lle cafodd fwy o dawelwch. Dro arall, yr oedd y Parchedig John Elias, o Fôn, yn pregethu allan ar y Fawnog. Ymddangosodd cwmwl du uwchben, yn bygwth gwlaw trwm. Pwyntiai John Elias a'i fys at y cwmwl, ac erfyniai ar yr Arglwydd am i'r cwmwl gilio. Credid fod ei weddi wedi cael ei hateb; yn ebrwydd, ciliodd y cwmwl, a chafodd John Elias odfa anarferol o rymus. Cyd—deithiai Mr. Charles, o'r Bala, â Dafydd Humphrey, Corris, rywbryd wedi dechreu y ganrif hon, o Gorris i Abergynolwyn, ac wedi dyfod i olwg Ystradgwyn, gofynai Mr. Charles i D. H., "Oes yr un ceiliog yn canu yn ardal Ystradgwyn yma, Dafydd ?"—Wrth geiliog yn canu, golygai yr Ysgol Sul—"Nac oes," oedd yr ateb. "Ow, ow," ebe Mr. Charles, "treiwch gael un, treiwch gael un." Yn fuan wedi hyn, trefnwyd i Lewis William fyned i'r ardal i gadw ysgol ddyddiol. Dafydd Humphrey fu yn chwilio am le iddo i'w chadw, ac fe lwyddodd iddi gael ei chynal yn Dolydd Cae. "Tad y diweddar Mr. John Owen—Owen Dafydd—a wnaeth y caredigrwydd hwn, a hyny yn benaf er mwyn pump o fechgyn oedd ganddo mewn angen am addysg. Yn y gegin y cynhelid yr ysgol; a byddai y wraig yn gwneyd gwaith y tŷ yn y nos, er mwyn rhoddi tawelwch i'r athraw gyda'i ddisgyblion yn ystod y dydd."—Hanes Methodistiaeth Corris. Yr Ysgol Sabbothol a fu yn foddion i ymlid y chwareuon â'r bêl droed allan o'r gymydogaeth. Yn ol hysbysrwydd a gafwyd ar ol gwneyd ymchwiliad manwl, tua phum' mlynedd yn ol, dechreuwyd hi oddeutu y flwyddyn 1806. Y tebygolrwydd yn awr ydyw, mai Lewis William fu'n foddion i roddi cychwyniad iddi, a hyny ar ol yr ymddiddan a fu rhwng Mr. Charles a Dafydd Humphrey. Cynhelid hi ar y cyntaf yn Dolydd Cae, ac anedd-dai eraill, hyd nes y cafwyd y capel. Enwir y brodyr ffyddlawn Dafydd Humphrey, Richard Anthony, Lewis Pugh, Shôn Rhisiard, Richard Owen, Ceiswyn—oll o Gorris, ynghyd âg Anne Jones, Cwmrhwyfor, fel rhai fu yn dra ffyddlon gyda hi yn ei chychwyniad. Yr oedd Anne Jones yn ferch i'r hen sant Harri Jones, Nantymynach, ac yn un o ddisgyblion ysgol Bryncrug. Wedi ei dwyn i fyny a'i hyfforddi yn yr Ysgrythyrau o'i mebyd, yn y teulu mwyaf crefyddol yn yr holl wlad, yr oedd hi, fel y gallesid disgwyl, yn wraig hynod o rinweddol. Ymhen amser wedi dechreu yr ysgol, coffheir am un ffaith nodedig mewn cysylltiad â hi, sef nad oedd ond tri yn gwneyd i fyny ei nifer— Anne Jones, Cwmrhwyfor, yn athrawes, a dau frawd, William a John Owen, Dolydd Cae, yn ddisgyblion. Bu y chwareuon ar y Fawnog, neu y commin, yn milwrio yn hir yn erbyn llwyddiant yr Ysgol. Ymgasglai ieuenctyd yr ardal i'r lle hwn ar y Sabbath, a pharhaodd y cynulliadau hyn yn hir yn dra lliosog. Arferid cynal odfeuon yn y pen isaf i'r Fawnog, o tan goeden gelyn. Erys yr hen goeden hyd heddyw yn yr un fan, yn goffadwriaeth o amseroedd rhyfedd y dyddiau gynt. Yr oedd un yn fyw yn ddiweddar yn cofio pregethu yma, ac yn cofio gweled y bechgyn, ar ol blino yn chwareu, yn dyfod at y gynulleidfa, gan roddi eu hunain i lawr ar eu lled-orwedd i wrando am ychydig, a phan ddarfyddai yr awydd i wrando, elent i chwareu drachefn, a hyny, bid siwr, cyn i'r pregethwr orphen pregethu. Yn ddiweddarach, a chyn bod son am yr un addoldy, yn Tŷ'n y Wins, anedd—dŷ wrth dalcen y capel presenol y buwyd yn pregethu ac yn cynal Ysgol Sabbothol am flynyddoedd gyda chysondeb. Un o'r hen frodyr a adroddai, amser yn ol, iddo fod yn gwrando ar y Parch. Lewis Morris yn pregethu yn Tŷ'n y Wins ar y mater, "Moses yn taro y graig." Yr oedd Lewis Morris yn ddyn mawr o gorff—y mwyaf yn yr holl wlad. Wrth bregethu, fe ddywedai, "Dyn mawr oedd Moses, yr un fath a fi; fe fuasai Moses yn taro y Gader yna," gan gyfeirio ei law at Gader Idris—"fe fuasai Moses yn taro y Gader yna nes y buasai digon o ddŵr yn dod allan o honi i ddiodi yr holl drigolion oddiyma i Dowyn."
Y flwyddyn y cafwyd prydles i adeiladu capel ydoedd 1832; ei hyd, 99 mlynedd; ardreth flynyddol, 28. Ond ymddengys i'r capel gael ei adeiladu yn 1828 neu 1829, yn yr un fan ag y mae yn bresenol, yn 8 lath bob ffordd. Erys y dydd heddyw yr un faint a'r un llun ag yr adeiladwyd ef gyntaf. Ymunodd â'r eglwys ar ei ffurfiad y pryd hwn o 30 i 35 o aelodau o Gorris. Elent wedi hyny am rai blynyddoedd i'r fam-eglwys. i gyfranogi o'r Ordinhad o Swper yr Arglwydd, a dywedir mai y Parch. John Peters, Trawsfynydd, a weinyddodd yr ordinhad hon gyntaf yn Ystradgwyn. Y tebyg ydyw na bu yr eglwys byth yn fwy Iliosog ei rhif nag ydoedd ar ei dechreuad, am y rheswm mai teneu ei phoblogaeth ydyw yr ardal, ac y mae yn myned yn deneuach, deneuach o hyd, fel y mae yr eglwys. erbyn hyn yn un o'r rhai lleiaf yn Ngorllewin Meirionydd. Bu yma lawer o ffyddlondeb gyda chrefydd y deugain mlynedd diweddaf, ac mae y ffyddlondeb hwnw eto yn parhau. Er hyny, bu yn hanes yr eglwys fechan hon rai ystormydd a blinderau, y rhai yn gyffelyb i ystormydd mewn natur, yn nghwrs. y blynyddoedd a aethant heibio, gan adael tywydd teg ar eu hol.
Ryw Sabbath, ymhen blynyddoedd wedi myned i'r capel i addoli, yr oedd y Parch. Evan Roberts, Abermaw, yma yn pregethu. Daeth un o'r hen frodyr blaenllaw i'r capel y tro hwnw, heb fod yn hollol hwylus yn ei iechyd, mae'n debyg, a shawl fawr am ei ben, wedi cylymu hono â llwmgwlwm ar ei wddf, ac eisteddai ar y fainc o flaen y pregethwr. Y testyn oedd, "A wyt ti yn credu yn Mab Duw?" Dywedai y pregethwr ar ei bregeth amryw weithiau, "Mae arnaf flys dyfod i lawr o'r pulpud yma i'r llawr i ofyn i chwi bob yn un ac un, A wyt ti yn credu?' Elai ymlaen i bregethu, a dywedai drachefn a thrachefn, yn ystod ei bregeth, fod arno awydd dyfod i lawr i ofyn y cwestiwn. O'r diwedd, atebai yr hen frawd a eisteddai o'i flaen, dros y capel, "Wel pa'm na ddoi di ynte, Evan, yn lle bwgwth dwad o hyd."
Ni bu blaenoriaid yr eglwys hon erioed yn lliosog, a cheir amryw flynyddoedd yn ei hanes heb yr un blaenor wrth ei swydd yn blaenori o gwbl. Y cyntaf a ddewiswyd, yn ol pob hanes a gafwyd, oedd dyn ieuanc da a chrefyddol, o'r enw Owen Evans. Buasai y gŵr hwn cyn hyn yn gwasanaethu gyda Sion Evan, Tywyllnydwydd, Pennal, a byddai arferol ag adrodd yn fynych am yr addysg grefyddol oedd wedi ei gael tra yn ngwasanaeth yr hen bererin duwiol hwnw. Aeth Owen Evans, yn fuan wedi ei neillduo yn ddiacon, i'r America, ac nid ymddengys i neb fod yn flaenor ar yr eglwys ond efe am yr ugain mlynedd cyntaf o'i hanes. Yn 1851 dewiswyd dau—Mr. John Owen, Tynymaes, sydd yn flaenor yma hyd heddyw; ac Evan Roberts, oedd yn was yn y Llwyn. Ymfudodd ef yn fuan i Awstralia, ac y mae er's blynyddoedd wedi gorphen ei yrfa yn y bywyd hwn. Ar eu hol hwy dewiswyd David Jones; yntau hefyd er's rhai blynyddoedd wedi ei symud at y mwyafrif. Yr oedd ef yn ŵr tra galluog o feddwl, yn un o'r Ysgrythyrwyr goreu yn yr holl wlad, ac yn y Cyfarfod Ysgolion a'r cyfarfodydd egwyddori ystyrid ef o flaen pawb. Wedi hyny y dewiswyd Richard Jones, ac yn olaf Mri. David Owen, Tynymaes, ac Humphrey Jones, Cildydd. Bu Richard Jones. farw Ionawr 7fed, 1888. Yr oedd yn ŵr hynod o afaelgar ar ei liniau. Yn amser y diwygiad wyth mlynedd ar hugain yn ol, cafodd ei drwytho mewn crefydd tuhwnt i'r cyffredin. Hynodid ef fel un di-rodres a di-dderbyn wyneb. Bu y diweddar Barchedig Humphrey Evans yma yn byw ac yn gweithio gyda'r achos am dymor rhwng 1840 a 1850. Cynhaliwyd amryw Gyfarfodydd Misol yn Ystradgwyn er's llawer o amser yn ol. Yr olaf a gynhaliwyd yma oedd yn Awst 1818. Nid oedd yr un blaenor ar yr eglwys, yn ol yr Ystadegau, y flwyddyn hono. Ymhlith gwaith y Cyfarfod Misol hwnw, o'r pump o bethau yn unig fu dan sylw rhwng y dydd cyntaf a bore yr ail ddydd, un ydoedd,—"Hysbysodd Mr. Humphreys ei fod ef am fyned o'r sir am ychydig yn y gauaf."
ESGAIRGEILIOG.
Ystyrir Esgairgeiliog fel yn perthyn yn nes i Gorris, ymhob rhyw fodd, nag i unlle arall, oblegid saif y pentref o fewn milldir a haner i'r lle diweddaf, ar y ffordd yr eir i lawr oddiyno i Fachynlleth. Yr eglwys yn y lle hwn oedd y drydedd i fyned allan o'r cwch cyntaf yn Nghorris. Dyddiad adeiladu y capel cyntaf yn y lle ydyw 1841, ac aeth ugain mlynedd. heibio wedi hyny cyn bod yr eglwys yn hollol arni ei hun. Hanes dechreuad yr Ysgol Sul ydyw hanes crefydd yma yn gwbl hyd adeg adeiladu y capel. Yn ol adroddiad a dderbyniasom o'r ardal bum mlynedd yn ol, dechreuwyd yr ysgol mewn bwthyn diaddurn, o'r enw Pant-teg. Arolygwyd hi yn y lle hwn yn hir gan William Jones, Tan'rallt, Corris, ond gallwn dybio ei bod wedi ei dechreu yma cyn i'r gwr hwnw ddyfod i'r wlad hon o Sir Gaernarfon. Oherwydd fod y bwthyn uchod yn rhy fychan, symudwyd hi i'r Tymawr. Ymhen. ysbaid wedi hyn, cynhelid hi yn Blaenglesyrch, lle y preswyliai Thomas a Jinny Peters, ynghyd â brawd i Jinny Peters, o'r enw David Jones. Yn absenoldeb Richard Lewis, y dechreuwr canu, arferai Jinny Peters godi y canu, a dywedir mai hi fyddai arferol o godi canu yn y seiat yn nghapel Seion, Llanwrin (terfyna Blaenglesyrch ar ardal Llanwrin). Bu yr ysgol yn nhŷ y ddau bererin hyn yn hir o amser ac am dymor pryd nad oedd neb ond gŵr y tŷ i ddechreu a diweddu yr ysgol;—a bu yn foddion gras i lawer o breswylwyr y Cwm. Dechreuwyd achos gan yr Annibynwyr yn Esgairgeiliog, ac adeiladwyd capel yn y flwyddyn 1824, ar dir Rhiwgwreiddyn. Galwyd enw y capel, "Achor" Yr oedd yr Ysgol Sul yma, dros ryw dymor, yn gynwysedig o Fethodistiaid ac Annibynwyr. Ond oherwydd rhyw amgylchiadau, fe ranwyd y llwyth, ac ymneillduodd y Methodistiaid i gynal yr ysgol i ffermdy Esgairgeiliog, lle yr oedd Edward Edwards yn cadw hafod i Dr. Evans, o'r Fronfelen. Cynhelid yr ysgol y blynyddoedd hyn, gan mwyaf, gan rai nad oeddynt yn proffesu crefydd, ac yn mhlith eraill a fu yn zelog gyda hi, enwir William Jones, Ysgubor Fach; Edward Edwards, Esgairgeiliog, ac un arall a letyai yn yr un tŷ, ewythr i Dr. Evans, yr hwn a gymerai ddyddordeb mawr mewn dysgu plant. Elai y cyfeillion canlynol i lawr o Gorris i gynorthwyo i gario gwaith yr ysgol ymlaen: Humphrey Davies, William Jones, Tan'rallt; William Richard, Tŷ capel; Hugh Humphrey, y Pentref, a'i fab Humphrey Hughes, Pandy.
Gwelodd yr ardal hon lawer tro ar fyd. Newidiwyd ei henw o'r bron ddeg o weithiau. Gelwid hi i ddechreu "Fatri Ceinws," am mai factory a adeiladwyd gan deulu y Ceinws oedd yr adeilad pwysicaf yn y lle. Ymhen amser wedi adeiladu amryw dai o amgylch y factory, gelwid y lle wrth yr enw "Pentre Cae'rbont," neu "Bentre'r Ceinws." Ar ol adeiladu capel Achor, enw y lle am beth amser a fu "Pentref Achor." Ac wedi adeiladu capel y Methodistiaid, galwyd y lle am flynyddoedd yn "Bentref Samaria," oherwydd y rheswm, mae'n debyg, fod y Methodistiaid wedi ymneillduo i addoli i'w teml eu hunain. Enw y lle yn awr yn y cylchoedd agosaf, ac yn nghylchoedd y Methodistiaid yn gyffredin ydyw, Esgairgeiliog. Ond yr enw eto o dan drefniadau y llythyrdy ydyw, Ceinws. [4]
Ond y modd yr aethpwyd ymlaen gyda'r achos, wrth weled yr ysgol yn cynyddu yn ffermdy Esgairgeiliog, teimlid angen am ysgoldy, er mwyn cael ambell bregeth ynddo yn gystal ag Ysgol Sul. Gofynwyd i Doctor Evans am dir i adeiladu addoldy arno. Addawodd yntau y caent le i adeiladu ysgoldy i gadw Ysgol Sul, ond nid oeddynt i gael pregethu ynddo. Ni wnai hyn mo'r tro gan y cyfeillion, ac yn y cyfyngder yr oeddynt ynddo, cawsant dir am bris rhesymol gan Mr. Thomas Edwards, Ceinws, ac heblaw hyny, addawodd £15 tuag at draul adeiladu y capel, er nad oedd efe ar y pryd yn aelod eglwysig. Rhoddodd y tir heb na gweithred na rhwymiad arno, ac felly y bu hyd o fewn pymtheng mlynedd yn ol, pan yr aed i ail adeiladu y capel. Yn yr hanes a ysgrifenwyd yn 1840, dywedir, "Mae ysgoldy yn awr ar waith yn ardal Esgairgeiliog, yn saith lath wrth wyth o faint." Yn 1841 yr agorwyd y capel, a galwyd ef wrth yr enw Ebenezer. Heblaw cynal Ysgol Sul, ceid pregeth bellach unwaith yn y mis, a moddion eraill yn achlysurol. Bob yn dipyn, cynhelid cyfarfod eglwysig, er nad oeddynt oll ddim ond aelodau yn perthyn i'r fam eglwys. Y mae amryw yn cofio yn dda, pan orphenai y cyhoeddwr yn Nghorris a chyhoeddi y moddion wythnosol ar y diwedd nos Sabbath, cyfodai John Jones, Gyfylchau, ar ei draed, a chyhoeddai, "Seiat nos Fercher yn Ebenezer." O dan arolygiaeth Corris y bu yr achos hyd amser y diwygiad, a thebyg ydyw mai oddeutu 1861 y ffurfiwyd Esgairgeiliog yn eglwys ar wahan. Ei chyfrifon ymhen dwy flynedd ar ol hyn, sef yn niwedd 1863 oeddynt,—mewn cymundeb, 50; gwrandawyr, 98; Ysgol Sabbothol, 84; casgliad at y weinidogaeth, £9 9s. 1c; cyfanswm, £33 15s. 7½c. Yn fuan wedi hyn, a hyd y flwyddyn 1873, bu Esgairgeiliog yn "Daith Sabbath" gydag Aberllefeni. O'r flwyddyn uchod hyd yn awr, y mae yn daith gyda Chorris. Buwyd fwy nag unwaith yn ceisio cysylltu Esgairgeiliog a Pantperthog a'u gilydd, ond yn fethiant y bu hyny byd yma. Yn 1874, adeiladwyd y capel yr ail dro yn yr un fan ag y safai y capel cyntaf. Mae yn gapel hardd a chyfleus; gall eistedd ynddo 146, ac y mae yn awr yn rhyddfeddiant i'r Cyfundeb. Erbyn hyn, y mae nifer yr eglwys a'r gynulleidfa yn llai nag y bu oherwydd symudiadau ac ymadawiadau o'r ardal. Eto, mae y nifer sydd yn aros yn dra ffyddlon a gweithgar gyda thynu i lawr ddyled y capel, a chyda phob symudiad a berthyn i'r achos ac i'r Cyfarfod Misol.
Dau flaenor cyntaf yr eglwys oeddynt, John Jones, Gyfylchau, a William Edwards, Ceinws. Dewiswyd hwy yn flaenoriaid yn Nghorris, cyn i'r eglwys hon fyned ar ei phen ei hun, a derbyniwyd hwy yn aelodau o'r Cyfarfod Misol, Awst 28ain, 1851. Daeth John Jones i fyw i'r Gyfylchau rai blynyddoedd cyn adeiladu y capel, ac arno ef yn hollol y blynyddoedd hyny yr oedd gofal yr Ysgol Sabbothol. Ar ei ysgwyddau ef hefyd y gorphwysai llawer o'r gwaith gydag adeiladu y ddau gapel y ddau dro. Yr oedd wedi gweithio gwaith oes lled dda cyn cael ei ddewis yn flaenor, ac efe a fu yn asgwrn cefn yr achos trwy yr holl flynyddoedd hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le tua chwe blynedd yn ol. Digon tebyg fod rhai pethau yn tynu yn ol oddiwrth ei ddylanwad. Ond a'i gymeryd oll yn oll, yr oedd yn ŵr o ddawn a gwybodaeth eangach o lawer na'r cyffredin, ac yr ydoedd yn gyflawn ymhob cylch gyda dygiad yr achos ymlaen. Nid yn aml y ceid gwell gwrandawr nag ef, a byddai ar uchelfanau y maes pan fyddai yr awel nefol yn chwythu. Ni byddai unrhyw ran o'r gwaith yn ol tra byddai John Jones yn bresenol, gan mor ddeheuig ydoedd gyda phob peth.
William Edwards, Ceinws, oedd un o "rai rhagorol y ddaear." Cymerwyd ef ymaith cyn hir wedi ei ddewis yn flaenor, er siomedigaeth i'w gyfeillion a cholled fawr i'r achos. Yr oedd ef yn fab i Thomas Edwards, y gŵr a roddodd dir i adeiladu y capel cyntaf. Mae y teulu hwn wedi bod, ac yn parhau hyd heddyw, fel "llwyth Lefi," yn dra pharod i gymeryd rhan bwysig gyda gwasanaeth y cysegr. Y mae coffadwriaeth Mrs. Ellin Edwards, Ceinws, yn barchus yn yr ardal, fel un a fu yn lletya gweision yr Arglwydd, ac yn gwasanaethu iddynt hyd ddiwedd ei hoes.
Y nesaf a ddewiswyd yn swyddog ar ol y ddau uchod, hyd eithaf ein gwybodaeth, oedd Mr. W. Lewis, sydd yn flaenor yn awr yn Aberllefeni. Wedi hyny Mr. John Evans; yn ddiweddarach, Mri. Thomas Morgan a William Edwards; ac yn ddiweddaf oll, Mr. John Owen.
Richard Lumley oedd yn flaenor yma y rhan ddiweddaf o'i oes. Symudodd amryw weithiau, a bu yn flaenor mewn amryw eglwysi. Dyn tawel, diargyhoedd, a chrefyddol ei ysbryd ydoedd ef. Nodweddid ei gymeriad gan lareidd-dra, ac "ysbryd addfwyn a llonydd."
BETHANIA (CORRIS)
Hon ydyw y gangen olaf a ymadawodd o eglwys Corris, ac nid oes mo'r ugain mlynedd er pan yr aeth yn hollol ar ei phen ei hun. Rhan o ardal Corris ydyw y lle hwn eto, a'r rhan uchaf o'r ardal yn yr ystyr fwyaf priodol o'r gair. Yr ymadrodd a arferir am y gymydogaeth yn fwyaf cyffredin yn y cylchoedd agosaf ydyw, Top Corris. Ac mewn cysylltiad â threfniadau sirol a gwladol dechreuir galw y lle yn awr yn Upper Corris. Mor bell yn ol ag 1840, cynhelid Ysgol Sul yn y rhan yma o'r ardal yn Tymawr, a Cwmeiddaw. Wedi hyny cedwid hi yn yr addoldy cyntaf a adeiladwyd gan y Wesleyaid yn y gymydogaeth, a elwid y Capel Bach. Adeilad bychan bach oedd hwn, yn ateb i'w enw, wedi ei adeiladu ar fin yr hen ffordd, wrth ymyl Tŷ'nyceunant, a bron yn y fan a'r lle y pregethwyd y bregeth gyntaf erioed gan y Methodistiaid yn ardal Corris. Cedwid yr ysgol yn y lle hwn oddeutu 1850. Yn y flwyddyn 1854, adeiladwyd capel gan y Methodistiaid, ychydig yn fwy na hwn, o fewn dau ergyd careg iddo, yr ochr arall i'r afon, ar fin y ffordd newydd sydd yn arwain o Fachynlleth i Ddolgellau, a galwyd ef Bethania. O'r pryd hwn allan, dechreuwyd galw y rhan hon o'r gymydogaeth yn Bethania, oddiwrth enw y capel. Yr oedd y capel hwn o dan reolaeth yr eglwys yn Nghorris, i gadw ysgol, a chyfarfod gweddi, ac ambell bregeth. Fel yr oedd y boblogaeth yn cynyddu, bu raid cael capel newydd eto, ac yn 1867 adeiladwyd y capel presenol wrth dalcen y llall. Gall 207 eistedd ynddo, a chyfrifid gwerth y capel, a'r meddianau cysylltiedig âg ef, yn 1883, yn 950p. Y rhai a ofalent am y capel a'r moddion ynddo yn flaenorol i hyn oeddynt, yn benaf, y brodyr ffyddlawn Evan Owen, y Voty, a William Jones, Hillsboro.' Y ddau wedi marw erbyn hyn er's tro. Thomas Hughes, Rhognant, hefyd, a fu yn ffyddlawn a blaenllaw gyda'r achos yma hyd ei farwolaeth. Ac anfonid brodyr yn awr ac yn y man i fyny o Gorris i gynorthwyo. Erbyn tua 1865, yr oedd Mr. Samuel Williams, Rugog, wedi dyfod i fyw i'r ardal. Llanwodd ef le mawr gyda'r achos ar unwaith, a chymerodd ei le i flaenori, gan ei fod yn hen swyddog eisoes. Eto, rhan o Gorris oeddynt. ymhob ystyr, ac ni ffurfiwyd hwy yn eglwys ar eu penau eu hunain am ddwy flynedd ar ol adeiladu y capel hwn. Fel hyn y ceir yn Nghofnodion Cyfarfod Misol Ebrill, 1869,— Rhoddwyd caniatad i gyfeillion Corris i wneyd hen gapel y Gaerwen yn ddau dŷ." Dengys y penderfyniad uchod mai Corris oedd yn rheoli amgylchiadau y capel y pryd hwn. Yn mhellach, ceir yn Nghyfarfod Misol Medi, 1869, tra yr ydoedd y Parch. W. Davies, Llanegryn, yn ysgrifenydd, y penderfyniad canlynol," Gofynwyd ar ran y cyfeillion sydd yn perthyn i gapel Bethania, Corris, am gael eu ffurfio yn eglwys ar eu penau eu hunain; ac wedi cael adroddiad o'r amgylchiadau, a nifer y cyfeillion sy'n perthyn i'r lle, cydsyniwyd â'r cais, a phenodwyd y Parchn. F. Jones, a Robert Owen, M.A., i fyned yno gyda golwg ar hyny." Eto, yn Nghyfarfod Misol Corris, Tachwedd yr un flwyddyn,—"Hysbyswyd gan y Parchn. F. Jones, a Robert Owen, M.A., iddynt fod yn Bethania, ar ei sefydliad yn eglwys ar wahan oddiwrth Rehoboth, a bod yr eglwys yr un adeg wedi dewis gydag unfrydedd mawr y brodyr Edward Humphreys a D. Richards, i fod yn flaenoriaid." Yr oedd yno felly yr adeg hon dri blaenor, cydrhwng y ddau hyn a Mr. S. Williams. Y mae Mr. Edward Humphreys wedi symud i Gorris, a Mr. D. Richards wedi symud er's tro i Gaerdydd. Yn niwedd 1870 y ceir cyfrifon eglwys Bethania gyntaf ar ei phen ei hun, fel y canlyn:—
Mewn cymundeb, 59; gwrandawyr, 190; Ysgol Sabbothol, 115; casgliad at y weinidogaeth, 31p. 8s. 5½c; cyfanswm, 80p. 11s. 10c. Yr ydoedd yn "Daith Sabbothol" y pryd hwn gyda Corriş. Yn 1873 yr aeth Bethania ac Ystradgwyn gyda'u gilydd. Nodweddir yr eglwys hon hefyd, yn gystal â'r canghenau eraill a darddodd allan o Gorris, gan weithgarwch digyffelyb; nid ydyw yn ail i'w chwiorydd a'i mam mewn gweithredoedd da yn ol ei gallu. Y mae yn perthyn i'r eglwys nifer fawr o blant a phobl ieuainc, y rhai sy'n cael eu hegwyddori yn rhagorol yn egwyddorion crefydd. Yn yr arholiadau, a materion Cymanfaoedd Ysgolion y dosbarth, enilla plant yr eglwys hon glod ac enw da iddynt eu hunain y blynyddoedd diweddaf hyn. Yr oedd yr eglwys dan arolygiaeth y Parch. Evan Jones tra yr ydoedd ef yn weinidog ar eglwys Corris. Ac y mae eto (1887) o dan ofal y Parch. W. Williams, er adeg ei ymsefydliad yntau yn yr ardal, yn 1873. Ychydig flynyddau yn ol, wrth weled y boblogaeth yn myned ar gynydd, prynodd yr eglwys ddarn o dir newydd, gyda'r bwriad o adeiladu capel helaethach; ond gan fod y boblogaeth yn awr yn lleihau, y mae adeiladu y capel hwn wedi ei oedi.
Er ieuenged yw yr eglwys, nid oes yr un o'i swyddogion cyntaf i'w gael ynddi heddyw. Symudodd rhai i leoedd eraill, yn nghwrs Rhagluniaeth, ac y mae dau wedi eu symud trwy farwolaeth. Abraham Lewis a ddewiswyd yma yn flaenor. Yr oedd yn ŵr ieuanc dymunol, gweithgar, ac addawol. Aeth oddiyma cyn hir i Cwmyglo, Arfon. Parhaodd ei gymeriad yn ddisglaer, a bu farw yn orfoleddus.
Samuel Williams, Rugog. Yr oedd ef yn un o'r blaenoriaid galluocaf a rhagoraf ar lawer cyfrif a fu yn y wlad yma erioed. Gwasanaethodd y swydd mewn pedair o eglwysi—Corris, Aberllefeni, Abergynolwyn, a Bethania. Ond gan mai ynglŷn a'r eglwys hon y diweddodd ei oes, ac y bu, feallai, o fwyaf o werth i achos crefydd, priodol ydyw gwneuthur coffhad am dano yma. Daeth i'r ardaloedd hyn o Sir Gaernarfon, yn ddyn ieuanc, oddeutu y flwyddyn 1825. Cafodd dröedigaeth wrth wrando ar Edward Rees yn pregethu yn ystabl y Fronfelen, oddiar Luc xiv. 24. Ymunodd â chrefydd yn fuan. Yr oedd ei wraig hefyd o gysylltiadau crefyddol, a rhwng y naill beth a'r llall, daeth yn ddyn defnyddiol o gychwyniad cyntaf ei grefydd. Dewiswyd ef yn flaenor yn eglwys Corris, yr un pryd a William Jones, Tanrallt, a derbyniwyd hwy yn aelodau o'r Cyfarfod Misol, Awst 31ain, 1843. Ond ynglŷn âg eglwys Aberllefeni y llafuriodd y darn cyntaf o'i oes, am ei fod yn byw yn Ffynonbadarn, yn rhan uchaf yr ardal hono, ac nid oedd Aberllefeni wedi ymwahanu oddiwrth Gorris am hir amser wedi iddo ef gael ei ddewis yn flaenor. Yr oedd yn byw yn Bryneglwys, Abergynolwyn, yr amser y torodd tân y Diwygiad mawr allan, a chyfranogodd yntau yn helaeth o hono. Bu yn nodedig o weithgar i gyfodi crefydd mewn eglwysi bychain, ac yr oedd ynddo gymhwysder arbenig i wneyd hyny. Meddai ar ffydd gref anarferol, nid ffydd gadwedigol yn unig, ond ffydd i fentro ymlaen gyda chrefydd trwy anhawsderau. Yr oedd yn berchen ar gymeriad cryf, tebyg i eiddo y patriarchiaid, yn "gadarn yn yr Ysgrythyrau," ac yn weddïwr mawr. Nid oedd ei ddawn yn rhwydd, ond wedi iddo wresogi a dechreu cael gafael yn ei fater, tynai y nefoedd i'r ddaiar ar ei liniau, ac yn ei brofiadau yn y cyfarfodydd eglwysig cyfodai y ddaiar i fyny i'r nefoedd. Gwnaeth lawer o wasanaeth o bryd i bryd dros y Cyfarfod Misol, ac un o'r pethau a wnelai yn fwyaf effeithiol oedd ymweled ag eglwysi y sir. Bu farw Medi 27ain, 1883, yn gyflawn o ddyddiau, ac wedi cyraedd llawn sicrwydd gobaith." Yr oedd ei brofiad yn niwedd ei oes yn ysbrydol a nefolaidd. Bu yn gystuddiol yn lled hir, ac anfonwyd cydymdeimlad oddiwrth ei frodyr yn y Cyfarfod Misol ato fwy nag unwaith. Mewn atebiad i un o'r llythyrau hyn, a anfonwyd ato ef a'i briod, yr hon oedd hefyd ar y pryd yn gystuddiol, anfonodd yntau y llythyr canlynol yn ol at ei frodyr:—
"Anwyl Frodyr,—Y mae genyf yr anrhydedd o gydnabod derbyniad cydymdeimlad y Cyfarfod Misol, â ni yn ein llesgedd a'n gwendid. Yr ydym yn dra diolchgar i chwi am eich cydymdeimlad. Mae wedi fy lloni yn fawr. Ni feddyliais fy mod yn deilwng o hono, ond daeth heb ei ddisgwyl. Y lleoedd mwyaf hapus genyf oedd y Cyfarfod Misol a'r seiat gartref. Ond yr ydwyf wedi colli y naill a'r llall am a wn i, ond dichon Duw eto fy nghynorthwyo i gael rhai seiadau ar y llawr, cyn myned i'r seiat annherfynol yn ngwlad y goleuni.
"Anwyl Frodyr,—Gan eich bod wedi bod mor garedig wrthyf, y mae arnaf awydd dweyd wrthych am y profiad hyfryd a gefais yn mis Ionawr diweddaf. Fel y dywedodd yr Ysgrifenydd, er fod cofion y Cyfarfod Misol yn gofion nodedig, er hyny, fod cofion y brawd hynaf yn fwy. Yr ydwyf yn cydweled ag ef yn hollol; mae fy mrofiad yn cyd-ddweyd, trwy fy mod wedi cael cymdeithas y brawd hynaf. Rhyw noswaith, ar ol myned i'r gwely, yn lled fuan, fel yr oeddwn yn dweyd ambell adnod a phenillion, pan ddaeth y penill canlynol i fy meddwl:—
Mae Duw yn llon'd pob lle,
Presenol yn mhob man,
Agosaf yw Efe
O bawb at enaid gwan.'
darfu iddo amlygu ei hun, yn llon'd y gwely, a phob lle am ysbaid o amser, fel yr oeddwn mor ddiddanus fel na chefais gwsg hyd y boreu. Yr oeddwn wedi cael gweddi newydd ddiwedd y flwyddyn, sef adnod yn Salm lxxi., "Na fwrw fi ymaith yn amser henaint, ac na wrthod fi pan ballo fy nerth" —fel pe buasai yr Arglwydd yn dweyd wrthyf mewn atebiad, Mi a ddeuaf atat i'r gwely, i'th ddiddanu.' Yr ydwyf wedi dyfod yn hoff iawn o'r Arglwydd, mor hoff ag y mae yn dda genyf feddwl mai Efe a fydd yr agosaf ataf pan fyddo y daiarol dŷ o'r babell hon yn cael ei datod. Mae wedi effeithio arnaf hefyd, fel nad yw nemawr o bwys genyf pa bryd y cymer hyny le. Diolch, O! diolch, mewn gwaed oer! Yr oeddwn yn meddwl y noswaith hono, pe buaswn yn myned yn ieuanc i ail ddechreu byw, na buasai yn ddim gwahaniaeth genyf pa swydd i'w chymeryd yn yr eglwys, ai pregethu, ai bugeilio, ai bod yn ddiacon, ai pa beth bynag y gelwid fi iddo, gan fod Duw yn llon'd pob lle. Terfynaf mewn cofion caredig atoch.
- Eich brawd,
- SAMUEL."
Y mae yn ffaith nodedig i'w chofio, mai can' mlynedd union i'r un flwyddyn, os nad i'r un dyddiau, yr oedd y tri a ddaethant y crefyddwyr cyntaf yn y wlad hon, yn cychwyn allan o'r un ffermdy i wrando y bregeth gyntaf erioed a draddodwyd gan y Methodistiaid yn yr ardaloedd hyn, ag yr aeth y llythyr hwn allan o hono i'r Cyfarfod Misol. Y fath gyfnewidiad mewn can' mlynedd!
Blaenoriaid presenol eglwys Bethania ydynt, Mri. Evan Edwards, Morgan Jones, William Williams, H. S. Roberts.
TOWYN
Nid Towyn oedd y man cyntaf i agor drws i'r efengyl yn y rhan yma o'r wlad. Yr oedd amryw fanau o fewn ychydig filldiroedd i'r dref wedi ei rhagflaenu yn y fraint hon, rhyw bedair neu bum' mlynedd, neu beth ychwaneg. Tuedd gyffredin y pregethwyr a'r crefyddwyr cyntaf oedd, osgoi y trefydd a'r pentrefydd, oherwydd fod y fantais yn fwy mewn amseroedd o erledigaeth, iddynt ymgynull ynghyd mewn manau anghyhoedd ac anghysbell. Caent mewn lleoedd felly fwy o lonyddwch i addoli. Yr oedd Towyn yn un o fanau glân y môr, a'i thrigolion yn meddu cymeriad trigolion glân y môr, yn erlidgar, ac i fyny â phob drygioni. Prawf o hyny ydoedd eu hymddygiad tuag at y fintai o grefyddwyr y sonia Robert Jones, Rhoslan, am danynt, yn Nrych yr Amseroedd, y rhai a ddychwelent o Langeitho ar hyd y tir trwy Aberdyfi a Thowyn. Er nad oeddynt ond yn myned trwy y dref, fel pererinion, yn heddychol a thangnefeddus, eto cyfododd y trigolion yn greulon yn eu herbyn, gan eu lluchio â cherig, a'u baeddu yn dost. Rhoddwyd hanes y fintai hon yn helaethach mewn penod flaenorol. Yr oedd y dref y pryd hwn yn dipyn o borthladd; rhedai y môr oddiwrth Bont Dysyni i ymyl y dref, a cherid ymlaen swm gweddol o fasnach trwy y badau a'r llongau; adeiledid llongau o gryn faintioli y tu cefn ac wrth ymyl y lle y safai hen gapel y Methodistiaid yn y Gwalia. Cyfodid mawn yn y morfa, a gwneid hwy yn deisi ar ben y clawdd llanw, yn nghysgod pa rai yr ymgasglai yr ychydig grefyddwyr cyntaf i gydweddio. Eto, trigolion glân y môr oedd y trigolion yn eu cymeriad a'u harferion. Yr oedd y races ceffylau hefyd, a gynhelid yn flynyddol, ar y morfa gerllaw y dref, lle yr elid drwy bob math o gampau annuwiol yr amseroedd, yn fynegiad tra chywir o ansawdd foesol isel pobl y lle. Heblaw hyny, o fewn milldir i dref Towyn yr oedd palas y teyrn-erlidiwr, gan yr hwn y cai y bobl, druain, bob cefnogaeth i ddilyn gwag-chwareuon, ac i gyflawni y pechodau a ddinystrient y corff' a'r enaid, a phob anghefnogaeth i grefydd ddyfod yn agos i'w tai. Rhydd y pethau hyn gyfrif fod y dref ychydig flynyddoedd ar ol yr ardaloedd o'i deutu yn croesawu y "newyddion da." Mor bell ag yr ydym wedi cael allan, y crybwylliad cyntaf am bregethu gan yr Ymneillduwyr yn nhref Towyn ydyw, yr hanes am yr odfa a gynhelid ar Ben y Bryn, gan y gwr ieuanc, Mr. William Jones, o Fachynlleth, pan y ceisiwyd rhoddi y cŵn hela i udo, er mwyn rhwystro y bregeth, yr hwn hanes a roddwyd o'r blaen yn y benod ar "Yr Erledigaeth." Daeth William Jones yn weinidog yr eglwys Annibynol yn Machynlleth, yn niwedd y flwyddyn 1788, a bu farw ymhen dwy flynedd. Felly, traddodwyd y bregeth gyntaf y mae hanes am dani yma oddeutu y flwyddyn 1789.
Yr hanes nesaf ydyw am dröedigaeth Edward Williams, dilledydd, y pioneer cyntaf gydag achos y Methodistiaid yn Nhowyn. Y tebyg ydyw i hyn gymeryd lle naill ai yn 1789 neu 1790. Cafodd ef addewid am bregeth yn ei dŷ ychydig amser ar ol ei dröedigaeth. Dywedir, hefyd, yn mhellach, am dano "Bu am ychydig yn cadw ei dŷ i'r Cynghorwyr,' heb fod nemawr sylw yn cael ei dalu iddo. Ond ymhen enyd, daeth gŵr lled gyfrifol, o'r enw Francis Hugh, yn ymlynwr wrth "deulu'r weddi dywyll." Dywed Lewis Morris, hefyd, yn Adgofion Hen Bregethwr: "Mr. Francis Hugh, yn Nhowyn, a fu yn gynorthwyol i'r achos yn foreu iawn, ac y mae ei deulu yn cadw y drws yn agored hyd heddyw (1846)." Felly, y ddau wr da hyn, yn ddiau, bia y clod o ddechreu yr achos yn Nhowyn. Gyda y rhai hyn yr oedd Daniel ac Evan Jones, Dyffryn—gwyn, a John Jones, Penyparc, yn ymgynull. A byddai y gymdeithas grefyddol (society) yn cael ei chynal bob yn ail yn Nhowyn a Phenyparc. Er hyny, ymgynull mewn rhan yn ddirgelaidd y byddent yn y naill le a'r llall, oherwydd fod y boneddwr gerllaw, yr hwn a feddai ddylanwad mawr ar y werin—bobl o'u deutu, yn gosod ei ofn arnynt. Hysbysir yn Methodistiaeth Cymru, a hyny, ni a dybiwn, oddiar dystiolaeth John Jones, Penyparc, ei hun, fod y boneddwr hwn wedi rhoddi terfyn ar y pregethu a'r moddion crefyddol yn Penyparc am dymor byr, ac wedi myned a'r ysgoldy oedd ganddo yn cadw ysgol ddyddiol oddiarno. Wedi colli yr ysgoldy yn Penyparc, cafodd fyned i Dowyn i gadw ysgol, i dŷ bychan oedd gan Francis Hugh. Bu yno am flwyddyn, o leiaf. Erbyn hyn, yr oedd tri wyr da yn Nhowyn, Edward Williams, Francis Hugh, a John Jones—y rhai a geisient bregethwyr yno ac i Aberdyfi, a chynhelid y moddion o tan y gwyrchoedd, neu wrth ochr y llongau, neu yn unrhyw le y ceid llonyddwch. Erbyn 1795, yr oedd y disgyblion wedi amlhau, yr hyn a barodd i'r boneddwr erlidgar oedd yn byw yn y gymydogaeth ffromi yn aruthr, a'r flwyddyn hono y cyrhaeddodd yr erledigaeth ei phwynt eithaf. Mewn canlyniad, gwnaed ymdrech gyffredinol trwy yr holl wlad i drwyddedu y tai i bregethu. Cafodd tŷ Edward Williams, yn y Porthgwyn, ei drwyddedu y flwyddyn hon. Hysbysir hefyd fod Tŷ Shoned," yn y Gwalia, wedi ei gymeryd i gadw moddion ynddo ar ol hyn am dymor. Ond er fod rhyddid cyfreithiol wedi ei sicrhau, ac amddiffyn y gyfraith wedi ei gael dros y pregethwyr a'r crefyddwyr, parhaodd yr erledigaeth a'r rhwystrau ar ffordd yr achos eto, i fesur helaeth, am ysbaid deng mlynedd, ac nid oedd yr achos am yr ysbaid hwnw ond megis myrtwydd yn y pant.
Yn nechreu y ganrif hon, ymddengys i ryw gymaint o ddeffroad crefyddol gymeryd lle yn Nhowyn, a chafodd yr achos symbyliad i fyned rhagddo. Un achos o'r deffroad hwn ydoedd dechreuad yr Ysgol Sabbothol. Ceir tystiolaeth o amryw fanau mai y Parch. Owen Jones, wedi hyny o'r Gelli, a fu yn offery i'w dechreu hi yn y dref. Yn 81, adroddai Hugh Edwards, Gwalia, hen flaenor parchus gyda'r Methodistiaid, yr ychydig ffeithiau canlynol. Tua'r flwyddyn 1803, daeth Mr. Jones i aros gyda'i rieni (y rhai a breswylient yn y Crynllwyn, heb fod yn nepell o'r dref) am ychydig amser wedi iddo orphen ei brentisiaeth fel saddler yn Aberystwyth, ac yn ŵr ieuanc llawn o zel ac awydd gwneuthur daioni, efe a ddechreuodd gadw ysgol nos yn nhŷ un Rhys Shôn, Gwalia. Dechreuid y cyfarfodydd trwy ddarllen a gweddïo, yn debyg fel y gwneir yn awr; ac o dipyn i beth, daeth yn arferiad i gynal yr ysgol ar brydnhawn Sabbath, yn yr un tŷ ac ar yr un cynllun. Y personau fuont fwyaf ffyddlon yn ei sefydliad oeddynt, William Dafydd, Glan y mor, Edward William, Shoned y Gwalia, John Jones, Penyparc, a Catherine Williams, Gwalia. Yr oedd gwrthwynebiad i'w chynal ar y Sul gan rai hen bobl grefyddol ar y dechreu.
Rhydd y Parch. Cadvan Jones, yn ei draethawd ar Ymneillduaeth Plwyf Towyn, yr hanes a ganlyn a gymerodd le ynglŷn â'r ysgol hon pan oedd yn ei mabandod: "Cof genyf glywed adrodd yr hanesyn canlynol gan un o'r rhai euog eu hunain, yr hwn a ddengys, i fesur, sefyllfa feddyliol y bechgyn oedd gan Mr. Jones o'i flaen, i geisio gwneyd rhywbeth o honynt. Daeth tua haner dwsin o lanciau i'r ysgol un prydnhawn Sul, a drwgdybiodd Mr. Jones eu bod wedi bod wrth eu hen a'u hoff waith o chwareu y bêl droed. 'Lanciau,' ebe fe, 'Yr ydych wedi bod yn tori y Sabbath eto, ac y mae y bêl gan un o honoch, yr wyf yn siwr.' Amneidiwyd arno i chwilio llogellau un o'r bechgyn. Aeth Mr. Jones ynghyd a'r gwaith. Gyrodd ei law i logell y bachgen, a theimlai rywbeth yn dra chwithig yno. Tynodd ei law yn ol can gynted ag y gallai, ond ychydig yn rhy ddiweddar; yr oedd wedi ei boddi hyd yr arddwrn mewn pwllfa o wyau gorllyd a ddigwyddai fod yn llogell y bachgen ateb rhyw ddiben direidus."
Yn yr un flwyddyn ag y cychwynwyd yr Ysgol Sul gan y Parch. Owen Jones, sef 1803, y ffurfiwyd eglwys gan yr Annibynwyr yn Nhowyn. Fel hyn yr adroddir gan un oedd yn bresenol yn ei sefydliad :—"Yn ffurfiad yr eglwys ymneillduedig yn Nhowyn, yr oedd Mr. Pugh (Brithdir), ac ysgrifenydd y cofiant hwn [y Parch. J. Roberts, Llanbrynmair] yn bresenol, a chanddynt hwy y gweinyddwyd Swper yr Arglwydd y tro cyntaf yn y dref, yn ol trefn yr Annibynwyr. Yr wyf yn meddwl fod hyn yn y flwyddyn 1803." Fe gofir fod eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yma wedi ei sefydlu wyth neu ddeng mlynedd yn flaenorol.
Nid oedd yr un capel wedi ei adeiladu i addoli ynddo o gwbl yn y dref am dros ddeng mlynedd wedi hyn. Yn ddamweiniol y cafwyd tir i adeiladu capel i'r Methodistiaid Calfinaidd. Yr oedd y môr cyn hyn, fel y crybwyllwyd, yn dyfod hyd at y dref. Oddeutu yr amser yma, pasiwyd deddf i sychu y morfa, ac i wneyd clawdd llanw gyda glân afon Dysyni. Gorphenwyd gwneuthur y clawdd llanw yn y flwyddyn 1807. Ac ar raniad tir y morfa, daeth peth o hono gerllaw hen gapel y Gwalia i ran Mr. Peter Peters, mab-yn-nghyfraith Francis Hugh. Cafwyd rhwym-weithred ar ddernyn o'r tir yma i adeiladu capel arno, am dymor o 99 mlynedd, yn ol 5s. o ardreth flynyddol. Dyddiad y weithred ydyw Mehefin 1af, 1814. Yn y flwyddyn 1842, trosglwyddwyd y tir yn feddiant i'r Cyfundeb am £5, ac yn Nghyfarfod Misol Aberdyfi, Chwefror 23ain, yr un flwyddyn, cyflwynwyd diolchgarwch gwresog y frawdoliaeth i Mrs. Peters, a'i merch, Mrs. Cadben Barrow, am eu caredigrwydd yn cyflwyno y tir yn rhydd-feddiant am y pris hwn. Y Parch. Hugh Jones, Towyn, mewn ychydig nodiadau o hanes ei fywyd ei hun, a ddywed,—"Pan ddaethum at grefydd gyntaf, cynhelid yr achos gan hen ŵr o'r enw Francis Hugh. Yn fuan wedi marw yr hen ŵr, cefais inau y fraint o gynal yr achos; a'r pryd yma, yr oeddym mewn angen am adeiladu capel. Bum yn gofyn am le i adeiladu gan amryw bersonau, ond gwrthodent fi oll. Ond yn rhagluniaethol, daeth ychydig o dir cymwys i feddiant mab-yn-nghyfraith Francis Hugh, a chaniataodd ef ein deisyfiad ar y telerau canlynol:—£10 i lawr, a 10s. [5s.] o ground rent; ac aethum inau gyda'r brys mwyaf i Benmachno, i'r Cyfarfod Misol, i fynegi y newydd, ac addawodd y Cyfarfod Misol £200 i'n helpu i ddwyn y draul. Dechreuwyd ag adeiladu y capel yn ddioed, a chefais lawer o gymorth gan Harri Jones, Nantymynach. Cynorthwyai fi i osod y gwaith coed a maen i'r seiri. Yr oeddwn i a'r Harri Jones uchod yn gyfeillion mawr—yr oeddwn yn teimlo serch ac anwyldeb mawr tuag ato, a gwyddwn fod ganddo yntau ofal mawr am danaf finau." Ychwanegwyd darn rywbryd at hen gapel y Gwalia, fel y dangosai y ddwy golofn oeddynt wedi eu gosod o flaen y pulpad, i ddal y tô i fyny. ddengys fod dyled y capel hwn wedi ei chlirio yn y flwyddyn 1839.
Ychydig sydd o hanes Lewis William, yr hen ysgolfeistr, mewn cysylltiad â Thowyn. Ond yr oedd ef yma yn cadw ysgol ddyddiol yn y flwyddyn 1818, a chanddo 92 o blant yn yr ysgol. Y mae enwau pob un o'r rhai hyn ar gael yn llawysgrif L. W., a'u hoedran, a'u "graddau mewn dysg." Amrywia eu hoedran o 5 i 14. Nid oedd dim ond 10 o honynt yn dysgu ysgrifenu; 7 yn darllen yn eu Beiblau; 26 yn eu Testamentau; 66 yn yr A B C, sillebu, a darllen yn y llyfr corn, Dim un yn yr ysgol wedi myned mor bell ag i ddysgu rhifyddiaeth.
Wedi i'r erledigaeth fyned heibio, ac i grefyddwyr amlhau, yr oedd llawer o bregethwyr dieithr yn teithio trwy Towyn. Adroddir hanesyn dyddorol gan y Parch. D. Cadvan Jones, am ymweliad cyntaf Mr. Williams, o'r Wern, a'r dref. "Aeth dau o'r brodyr a berthynent i'r Annibynwyr i'w gyfarfod, a chyfarfyddasant à gŵr ieuanc o edrychiad ysmala, dirodres, a difater, ar gefn merlyn bychan. Yr oedd y naill a'r llall o'r ddau aethant i'w gyfarfod yn lled ofni nad efe oedd y gŵr dieithr, gan nad oedd ymddangosiad pregethwrol ganddo. Boed a fo, gofynwyd iddo, 'Ai chwi yw y gŵr dieithr sydd i bregethu gyda'r dissenters heno? 'Ie,' ebe fe, 'beth am hyny? O, dim, syr, ond ein bod wedi dyfod i'ch cyfarfod.' Aeth ef a'r ddau arweinydd ymlaen, ac erbyn cyraedd y dref, digwyddodd amgylchiad eto o flach tŷ penodol a barodd iddynt ameu ai efe oedd y pregethwr. Modd bynag, ni ddywedasant ddim i amlygu eu drwgdybiaeth. Y noson hono, yr oedd Mr. Griffith Solomon i bregethu gyda'r Methodistiaid, a chafwyd trwy fawr gymell a chrefu, ganiatad i roddi y gŵr dieithri bregethu gydag ef, gan y tybiai yr ychydig frodyr na chaent neb i'w wrandaw pe cedwid y ddwy odfa ar wahan. Aeth y ddau arweinydd tua'r capel, ac yr oedd Griffith Solomon ychydig yn ddiweddar, a Mr. Williams wedi dechreu. Pan y daeth Griffith Solomon i mewn, edrychodd i fyny, rhuthrodd i'r pulpud, ac ymaflodd yn y gŵr dieithr yn ddiseremoni, a chymerodd ei le ef. Wel, wel,' ebe y ddau arweinydd ynddynt eu hunain, "does dim amheuaeth bellach nad twyllwr ydyw y gŵr ieuanc, ac y mae y Methodist yn ei 'nabod.' Yr oedd y Methodist yn ei 'nabod, a dyna'r pa'm y mynai y blaen. Cafwyd odfa y cofiwyd am dani byth gan y sawl a'i clywsant hi, ac er mawr lawenydd i'r ddau frawd, yr oedd yr hen Edward William, oedd mor wrthwynebol i adael i'w pregethwr gyd-bregethu â phregethwr y Methodistiaid, y cyntaf ar ei draed, ac yn uwch ei gloch na neb."
O'r adeg yr adeiladwyd y capel cyntaf am ysbaid ugain mlynedd, sef o 1814i 1834, bu yr achos yn gorphwys yn benaf ar ysgwyddau Hugh Jones a'i briod, a Miss Jones, Gwalia. Nodir 1834, am mai y flwyddyn hono y daeth Mr. W. Rees i fyw i Dowyn, a bu yr achos yn gysylltiedig â'i enw ef wedi hyn dros 40 mlynedd. Yr oedd Miss Jones yn chwaer i'r diweddar Barch. Owen Jones, y Gelli. Preswyliai hi wrth ochr y capel, a chan ei bod mewn amgylchiadau cysurus o ran moddion, a chanddi hefyd galon i weithio, bu yn gynorthwy mawr i'r achos yn Nhowyn Bu fyw i oedran teg, a pharhaodd ei ffyddlondeb hyd y diwedd. Hugh Jones ei hun a ddywed, "Wedi i fy anwyl wraig ddyfod i Dowyn, gellir dweyd iddi fod yn ymgeledd gymwys i weision yr Arglwydd am 32 mlynedd." Gwir a ddywedai yr hen bererin am ei briod ymroddgar. Tystiolaeth y wlad yn gyffredinol ydoedd ei bod hi yn wraig dra rhinweddol; nid yn ol i neb yn ei hoes am ei lletygarwch. Mynych y coffheid yn y wlad, tuag ugain mlynedd yn ol, ddarfod i Hugh Jones a'i briod haner gynal yr achos yn y dref, os nad mwy na hyny, am flynyddoedd meithion. Yr oedd y teithio mawr ymhlith y Methodistiaid yn ei fri uwchaf yr holl flynyddoedd y buont hwy ill dau yn cadw tŷ agored i bregethwyr. A chan fod Towyn ar ffordd llawer o'r De i'r Gogledd, ac o'r Gogledd i'r De, yr oedd nifer y pregethwyr a alwent yn eu tŷ am ymborth a llety yn ystod blwyddyn, yn llu mawr iawn. Nid gwaith bychan oedd "cadw mis" y pryd hwnw, ond i Hugh Jones a'i briod, nid mis ydoedd—llyncid y mis i fyny gan y flwyddyn, a'r flwyddyn gan y blynyddoedd. Amgylchiad pwysig yn Nhowyn am yn agos i haner canrif oedd y Gymdeithasfa flynyddol. Cynhaliwyd y gyntaf yn y flwyddyn 1807. Fel hyn y dywedir yn Methodistiaeth Cymru:—"Penderfynwyd cadw Cymdeithasfa yn Nhowyn ymhen tua deuddeng mlynedd ar ol hyn. Ni buasai yno yr un cyfarfod o'r fath erioed o'r blaen." Deuddeng mlynedd ar ol yr erledigaeth yn 1795 a feddylir. Cynhaliwyd y Gymdeithasfa gyntaf ar yr heol, oblegid nid oedd yr un capel o fath yn y byd yn y dref. Cynhelid hi yn flynyddol yn Medi neu Hydref, o'r adeg hon ymlaen, a dyma ddigwyddiad pwysicaf y flwyddyn ymhlith y Methodistiaid yn yr holl ardaloedd hyn. Yn un o'r Cymdeithasfaoedd hyn y daeth y Parch. Dr. Owen Thomas gyntaf i sylw yn y rhan yma o Gymru (yn 1842, fel y tybiwn), a gwnaeth argraff gofiadwy ar y wlad trwy ei bregeth rymus ar y geirian, "A'r tlodion yn cael pregethu yr efengyl iddynt." Paham y rhoddwyd y Gymdeithasfa flynyddol i fyny ddeugain mlynedd yn ol, nid ydym wedi cael gwybodaeth foddhaol. Yn Mehefin, 1885, y cynhaliwyd Cymdeithasfa Chwarterol reolaidd y Gogledd yma gyntaf. Cynhaliwyd y cyfarfodydd pregethu ar y maes yn ymyl y capel, a'r cyfarfod ordeinio yn yr un lle. Am y Gymdeithasfa hon, erys adgofion hyfryd, oherwydd yr hwylusdod a gafwyd gyda'r trefniadau, a'r llewyrch a fu ar y moddion.
Ymhen amser ar ol agor y rheilffordd drwy y lle, cynyddodd poblogaeth y dref, a chynyddodd rhif cynulleidfa ac eglwys y Methodistiaid yn gyfatebol, fel yr aeth hen gapel y Gwalia yn fwy na llawn, ac yr oedd ei safle yn rhy anghyfleus, a'r olwg arno yn rhy oedranus i gyfarfod chwaeth yr oes bresenol. Symudwyd lle y deml i fan tra chyfleus a dymunol, yr ochr arall i'r dref Rhoddwyd y tir yn rhad yn feddiant i'r Cyfundeb gan Mr. Hugh Thomas, yr hwn a fu yn hir yn drysorydd yr eglwys. Adeiladwyd y capel yn 1871. Aeth traul yr adeilad, a'r tŷ sydd yn gysylltiedig âg ef, yn £1500. Y flwyddyn hon (1887) rhoddir oriel o amgylch y capel, yr hyn a bâr iddo gynwys gryn lawer ychwaneg i eistedd.
Coffheir am enwau rhai aelodau a fuont dra gwasanaethgar i'r achos yn yr amser gynt, nad oeddynt yn swyddogion yn yr eglwys. Mae enw Francis Hugh wedi cael ei goffa gyda. pharch gan amryw o'i olynwyr, fel un o golofnau cyntaf yr eglwys. Ei deulu ar ei ol, Peter Peters a Cadben Barrow, a'u. gwragedd, a fuont yn dra ffyddlon i gynal yr achos ac i letya y proffwydi. Griffith Evans, gynt o'r Dolaugwyn, hefyd, oedd yn un o'r ffyddloniaid.
Edward Williams. Efe mae'n ymddangos oedd blaenor cyntaf yr eglwys. Efe a ddeffrowyd gyntaf yn y dref fel blaenffrwyth llu o waredigion yr Arglwydd. Efe fu dan yr erledigaeth fawr, ac y cofrestrwyd ei dŷ yn y Porthgwyn i bregethu yn 1795. Efe fu yn foddion i osod y sylfaen i lawr, ar yr hon y goruwchadeiladodd eraill. Ar gyfrif ei zel a'i wroldeb, fel pioneer yn y cychwyn cyntaf, teilynga gael bod ar ben rhestr ffyddloniaid yr eglwys. Cafodd oes hir, a pharhaodd ei zel yn ddiball i'r diwedd. Treuliodd ran olaf ei oes yn Aberdyfi. Ac fel prawf o'i agosrwydd yn byw at yr Arglwydd, dywedir iddo gael rhyw ddatguddiad am yr amser y byddai farw; daeth i Dowyn i ffarwelio â'i berthynasau, a dywedodd y byddai ymhen hyn a hyn o wythnosau wedi gadael y ddaear; ac megis y dywedodd, felly y bu. Oddeutu 1810, pan oedd Cymanfaoedd Ysgolion Cymru yn eu gogoniant, cynhelid cymanfa yn Nhowyn, ac ysgolion y cylch wedi dyfod ynghyd, yn cael eu holi gan y Parch. Owen Jones, y Gelli. Edward Williams oedd yn dechreu y cyfarfod cyhoeddus. Safai yn syth cyn dechreu darllen a dywedai, "Gwnewch ddal sylw i gyd; yr ydym yn myned i ddarllen gair yr Arglwydd; mae a fyno pob gair o'r benod yr ydym yn myn'd i'w darllen â phob un o honoch chwi sydd yn bresenol." Dyna yr hyn a effeithiodd gyntaf erioed ar un o'r plant ieuainc oedd yn y dyrfa, a ddaeth wedi hyny yn Gristion gloew. Ymddengys mai duwioldeb a zel oedd rhagoriaethau penaf yr hen Gristion hwn. Deuai Owen William, y pregethwr, o Fryncrug i Dowyn i gadw seiat weithiau. Tuedd yr hen bregethwr oedd myned yn ddwfn, at gorn ei wddf mewn athrawiaeth a duwinyddiaeth. Dyfod a phynciau ymlaen y byddai i'w trafod yn y seiat. "Pw, pw, pw!" ebe Edward Williams, "mae yn bosibl myned i'r nefoedd heb fyned ar ol pethau fel yna." Adroddai ei hun am dano ei hun un tro wedi bod yn Sasiwn Caergybi. Dilynodd un o'r pregethwyr wrth ddyfod adref, yr holl ffordd o Gaergybi i'r Abermaw, heb dderbyn dim bendith; ond yn y Bermo cafodd wledd i'w enaid wrth wrando yr un bregeth ag a glywsai amryw weithiau ar ei daith. Dengys hyn nad ydoedd yn wlith a gwlaw bob amser ar yr hen bobl. Tystiolaeth awgrymiadol un o drigolion hynaf Aberdyfi am yr hen bererin Edward Williams ydyw, y byddai yn ei hen ddyddiau ar Sabbath yr Ordinhad bob amser yn gofalu am roddi ei ddillad goreu am dano.
William Dafydd, Glanymor, oedd un o'r blaenoriaid hynaf. Coffheir am dano hefyd yn flaenllaw gyda chynhaliad yr Ysgol Sul. Honai efe berthynas â Catherine Williams, ysgogydd cyntaf y Methodistiaid yn y rhanau yma o'r wlad. Ychydig sydd o'i hanes hi ar gael, ond dywedir yn Methodistiaeth Cymru mai hi roddodd gychwyniad cyntaf i grefydd yn y parthau hyn, Richard Davies, mab i W. D., Glanymor, oedd yn flaenor, ond bu farw yn ieuanc.
Benjamin Williams. Mab oedd ef i Edward Williams; daeth i le y tad fel swyddog a bu ynddi hyd y diwedd. Y mae adgofion lawer am dano hyd heddyw fel Cristion da ac un o wyr bucheddol yr eglwys. Yr ydoedd yn fethiantus yn niwedd ei oes, ond bu fyw hyd amser y diwygiad diweddaf.
Hugh Edward. Hen Gristion diamheuol, ond wedi myned ymlaen mewn dyddiau cyn ei ddewis yn flaenor. Bu yn was gyda John Jones, Penyparc, gyda'r hwn y cawsai hyfforddiant yn y ffydd a threfniadau y Cyfundeb. Am ei dduwioldeb, nid oedd gan ei gymydogion yr un amheuaeth. Pan oedd yn glaf o'r clefyd y bu farw o hono, dywedai wrth gyfaill aethai i edrych am dano, Pryd bynag y clywch chwi fy mod i wedi myn'd, yn y nefoedd y byddaf fi."
John Daniel, Pantyneuadd, a ddewiswyd gan yr eglwys yn flaenor, ond a fu farw ymhen deng mis ar ol hyny, Ionawr 1886.
Mr. E. Newell a fu yn flaenor yn yr eglwys Gymraeg am flynyddoedd, ond ar ffurfiad yr eglwys Saesneg symudodd yno. Mr. W. Rees a Mr. Thomas Jones, Coethle, fuont ddynion blaenllaw yn yr eglwys. Ceir eu hanes yn y benod ar "Flaenoriaid Hynotaf y Dosbarth." Mr. Hammond oedd un arall o'r blaenoriaid, yr hwn a ymfudodd ychydig flynyddau yn ol i'r America. Y blaenoriad yn awr ydynt, Mri. G. Jones, D. Daniel, John Humphreys, J. Maethlon James, a Meredith Jones.
Bu y Parch. W. James, B.A., Manchester, yn weinidog ar yr eglwys hon mewn cysylltiad ag Aberdyfi, o 1863 i 1866. Y Parch. J. H. Symond ydyw gweinidog rheolaidd yr eglwys yn awr er y flwyddyn 1876.
Y PARCH. HUGH JONES. Bu enw yr hybarch weinidog yn gysylltiedig â'r achos crefyddol yn Nhowyn am gryn lawer yn hwy na haner canrif. Bu yn aelod o'r eglwys am ddeng mlynedd a thriugain, er pan yn 16 oed hyd yr adeg y bu farw, yn gyflawn o ddyddiau, yn mis Hydref, 1873. "Ganwyd fi," ebe fe, "yn y flwyddyn 1786, tua dechreu mis Rhagfyr, a bedyddiwyd fi yn y Llan, ar y 9fed o'r un mis. Enwau fy rhieni oeddynt, Hugh ac Elizabeth Jones. Yr oedd fy nhad yn gadben ar long o'r enw John & Ann.' Bu farw yn Mangor, ac a gladdwyd yn yr un lle pan oeddwn i oddeutu 7 neu 8 oed. Pan oeddwn yn 12 oed, prentisiwyd fi ar y môr am 4 blynedd gyda hen fate fy nhad.
"Pan yn Liverpool, newydd fyned i mewn un Sabbath, daeth fy mrawd John heibio i mi, a chymhellodd fi i ddyfod gydag ef i wrando ar Michael Roberts, y pryd hwnw yn ddyn ieuanc. Pregethai mewn hen warehouse. Yr ydoedd hyn yn ystod yr heddwch byr rhyngom â Ffrainc (1801). Wedi dychwelyd i'r llong, ceryddwyd fi gan y cadben am fyned gyda fy mrawd heb ofyn ei genad ef. Ar hyn, aethum i'r lân am ychydig ddyddiau. Cynghorwyd fi i orphen fy mhrentisiaeth gan hen ewythr i mi. Ar ol myned allan i'r môr, taflodd y cadben fy nillad i mi i'r deck, a gorchymynodd fi i fyned i'r forecastle, a darostyngwyd fi i'r swydd iselaf, sef coginio wrth y caboos, pryd yr oedd tri o'r prentisiaid yn iau na mi. Cymaint oedd fy nhrallod y pryd hwn, fel y temtid fi i ymadael â'r môr; ond cadwodd y Llywodraethwr Mawr ei law arnaf—a dilyn y swydd o goginio y bum y daith hono i Lundain, hyd nes y dychwelais i Liverpool; ac ar y fordaith olaf hon, buom agos iawn a cholli ar dir yr Iwerddon. Yn Liverpool, y tro olaf, diengais tuag adref, am fod fy iau yn rhy drom. Chwiliai y cadben a'r swyddogion am danaf. Yr oedd dynion y pryd hyny yn brinion, am fod y rhyfel rhyngom â Ffrainc wedi ail ddechreu. Yr oedd y llong pan ddiengais yn barod i gychwyn am Lundain, a dychwelodd i Liverpool yn ddiogel; ond ar yr ail fordaith i Waterford, collodd y cyfan—y llong a'r dwylaw ar dir Iwerddon. Wedi dychwelyd adref, prentisiwyd fi eilwaith gyda'm brawd-yn-nghyfraith yn skinner.
"Pan oddeutu 16 oed, ymaflodd rhywbeth yn fy meddwl, wrth wrando ar Ellis Roberts, Stay Little, Sir Drefaldwyn, a chloffwyd fi fel na allwn gicio y "bêl droed" ar y Sabbothau fel cynt. Ymdrechais fyned i "noswaith lawen" unwaith wed'yn, ond nid oedd dim blas i mi yno, a dychwelais adref. Fy mam, wrth fy ngweled wedi dychwelyd adref mor fuan a ofynodd, "Pa'm y dost ti mor fuan, y machgen i?" "Ffarwel iddynt am byth, mam," meddwn inau, "nid af iddynt byth mwy." A gallaf ddweyd i mi gael pleser can' mil purach yn eu lle. Wrth ddychwelyd o Sasiwn Caernarfon, mewn lle a elwir "Gwastad Meirionydd," yn ngolwg Dyffryn Towyn, daeth i fy meddwl, Pa beth i'w wneyd i godi crefydd yn y wlad? Tarawyd fi gan y geiriau hyny, "At bawb yn Rhufain, yn anwyl gan Dduw, wedi eu galw i fod yn saint;" a meddyliais mai ymarfer â phregethu ac â'r gair ydoedd Duw wedi ei drefnu i ddychwelyd pechaduriaid annuwiol i fod yn saint. Nid oedd yr un capel yn y dref y pryd hwn gan yr un enwad; a chedwid cyfarfodydd gweddïo a phregethu mewn tŷ bychan, yr hwn sydd yn sefyll hyd heddyw; ac yn y cyfarfodydd hyny dechreuais ddweyd tipyn bach oddiwrth benod a ddarllenwn, yr hyn beth a ddisgwyliai y brodyr i mi wneyd. Yr oeddwn yn cael fy nghymell yn fy meddwl i geisio cynghori tipyn ar y bobl yn barhaus; ac wrth ddychwelyd o'r wlad, ar gyfer lle bychan a elwid Felin Fwn, daeth yr adnod hono yn rymus i fy meddwl, "Ymdröant ac ymsymudant fel meddwyn, a'u holl ddoethineb a ballodd. Yna y galwasant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder." Ac felly yr oeddwn inau gyda golwg ar fyned i bregethu, yn rhyw droi ac ymsymud heb wybod beth i'w wneyd, a hyny o ddoethineb a feddwn wedi pallu, ac yn ofni yn fawr mai rhyfyg ynof ydoedd y fath waith. Ac oddeutu yr un adeg, mewn ffair yn Nolgellau, wrth weled y bobl yn ymladd ac yn terfysgu, daeth y geiriau hyny yn rymus i fy meddwl, "Dos, a dywed wrth y bobl hyn." Ac yn y dyddiau hyny aethum i gladdu cymydog i mi ydoedd wedi marw yn Aberystwyth, sef Mr. Robert Jones, brawd i'r diweddar Barch. Owen Jones, Gelli. Yr oedd hyny ar ddydd Sadwrn, yn mis Ionawr, 1814, a chymhellwyd fi gan gyfeillion i mi aros gyda hwy dros y Sul. Dywedent wrthyf fod y Parch. Ebenezer Richards i bregethu yn y dref am ddeg o'r gloch, ac yn nghapel y Garn am ddau. Aethum i a chyfaill i mi o Lanfred i'r dref i'w glywed, ac erbyn myned yno, ni ddaeth y pregethwr i'w gyhoeddiad. Aethum wedi hyny i gapel y Garn, ond ni ddaeth yno ychwaith; a rhai o'r cyfeillion wedi clywed fy mod yn dechreu dweyd tipyn tua'm cartref, a'm cymhellasant i fyned i'r pulpud, a phregethu i'r bobl, a minau, er yn anfoddlon, a aethum, a cheisiais ddweyd tipyn oddiwrth y geiriau hyny, "Ond pan ddaeth cyflawnder yr amser, yr anfonodd Duw ei Fab," &c. Cymerais ofal rhag mynegi hyn i'm cyfeillion gartref. Gwyddwn fy mod wedi tori y rheol, eisiau dechreu yn fy nghartref.
"Ar ol claddu fy anwyl fam bu yn fater gweddi genyf am flynyddoedd am i'r Arglwydd fy nghyfarwyddo i ddewis cynhares bywyd; ac yn Llandrillo y gwelais hi gyntaf. Bum yn ymweled â hi rai gweithiau. Daeth i fy meddwl o'r diwedd i ysgrifenu ati, i ofyn a wnai hi briodi—ar iddi ystyried y peth yn ddifrifol, ac ymgynghori â'r Arglwydd. Cefais ateb yn ol yn fuan yn dweyd ei bod hi yn cydsynio. Adroddai wrthyf ar ol hyn, iddi wedi derbyn fy llythyr agor y Beibl, a'r gair y disgynodd ei llygaid hi arno ydoedd atebiad Abigail i weision Dafydd, pan anfonwyd hwynt i'w cheisio yn wraig i Dafydd Wele fi yn llawforwyn i olchi traed gweision fy Arglwydd.' . . . . .
"Nis gallaf lai na chanfod llywodraeth yr Arglwydd ar fy nghyfeillion yn Nhowyn. Dangosasant lawer o sirioldeb tuag ataf yn eu rhoddion, i'm gwneyd yn gysurus yn ngwyneb fod fy nghof a'm golwg yn pallu. Gallaf ddweyd mai fy mhrofiad ar ddiwedd fy nhaith ydyw, gradd o syched am gymdeithas â'r Arglwydd cael ei weled Ef megis ag y mae, a bod byth yn debyg iddo.
Yr wyf yn teimlo rhwymau arnaf i fod yn ddiolchgar i'r Arglwydd am fy nghynal am 63 o flynyddoedd, heb fod yn ddolur llygaid i'm brodyr; a'm dymuniad a'm gweddi ydyw ar iddi fyned yn fwy goleu ar fy meddwl, a chael mwy o adnabyddiaeth o'r Arglwydd Iesu, a mwynhau mwy o gysuron cryfion yr efengyl."
Yr oedd yr hen bererin yn syml, yn ddidwyll, ac ymostyngar i ewyllys yr Arglwydd ar hyd ei fywyd. Bu mewn cysylltiad â masnach ran fawr o'i oes, ac yr oedd yn gefnog yn y byd. Mewn hen lyfr yn ei lawysgrif ef ei hun, gwelir fod ei gyfrifon masnachol a'i bregethau yn frith draphlith, darn o'r cyfrifon ar un tudalen, a darn o'r bregeth ar y tudalen arall. Yr oedd ei gymeriad yn uchel fel dyn gonest yn ei gysylltiadau â'r byd. Humphrey Davies, Corris, a ddywedai am dano yn y Cyfarfod Misol ar ol ei farw, "Yr oedd o a minau yn dipyn o oposisiwn i'n gilydd gyda phethau y byd yma, ond welais i ddim byd erioed yn llai na Christion yn Hugh Jones." Oherwydd ei gywirdeb fel dyn, a'i dduwioldeb fel Cristion, yr oedd ei ddylanwad yn fawr yn more a chanol ei oes yn ei dref a'i wlad ei hun. Fel un engraifft o'i ddylanwad, adroddir am dano yn darostwng cythrwfl mawr oedd un tro wedi tori allan mewn ffair yn Nhowyn, o flaen tŷ tafarn a elwir y Goat. "Pa le mae Hugh Jones?" ebe y bobl, "pe buasai ef yma, fe fuasai yn gwneyd trefn arnynt—lle mae o?" Ymhen enyd dacw H. J. yn dyfod i lawr oddiwrth ei dŷ, ac i ganol y dyrfa oedd yn y cyffro. Gwelid ei ddwylaw i fyny gan y bobl a edrychent ar y cyffro, ond nid oedd modd clywed yr hyn a ddywedai gan faint y swn oedd yno. Modd bynag, bu yn foddion i atal yr ymladd, ac i wasgaru y dorf. Adroddir aml i hanesyn cyffelyb am dano gan yr hen bobl, fel gŵr gwir grefyddol, a llawn eiddigedd i wneuthur daioni i'w gyd—ddynion. Rhoddodd lawer iawn o help i yru achos crefydd yn ei flaen mewn adeg isel arni, yn y wlad oddeutu yn gystal ag yn nhref Towyn. Bu yn cyd-oesi fel pregethwr am 20 mlynedd â'r Parch. Richard Jones, Wern, yr hwn a wnai ymhlith ei gyfeillion y sylw canlynol am dano, "Y mae ar Hugh Jones helynt garw gyda Dosbarth y Ddwy Afon bob amser; mae arno eisiau cychwyn achos newydd neu godi capel yn rhywle o hyd." Diameu na buasai achos y Methodistiaid ddim y peth ydyw heddyw yn y Dosbarth, oni bai fod Hugh Jones wedi bod ynddo yn byw. Nid oedd ond pregethwr o'r doniau bychain ar hyd ei oes, eto yr oedd golwg urddasol ar ei berson, ac yr oedd ei ffyddlondeb tuhwnt i'r cyffredin. Aeth yn ol yn ei amgylchiadau bydol, ac yn niwedd ei oes yr oedd wedi colli ei olwg, er hyny parhai i ddyfod yn gyson i'r moddion i wrando, a phan y digwyddai i'r pregethwr dori ei gyhoeddiad, ni byddai raid ond taro llaw ar ysgwydd Hugh Jones, a dweyd wrtho yn ei eisteddle o dan y pulpud na ddaeth y pregethwr ddim i'w gyhoeddiad, neidiai i fyny ar ei union i'r pulpud i bregethu. Arhôdd ei fwa yn gryf hyd y diwedd. Bu farw yn 87 mlwydd oed, wedi bod yn pregethu yr efengyl am 60 mlynedd.
PENNAL
Ardal ydyw Pennal ar gwr eithaf Sir Feirionydd, yn gwynebu i'r De, ac afon Dyfi yn ei gwahanu oddiwrth siroedd Aberteifi a Threfaldwyn. Mae gwaelod yr ardal, am beth pellder oddiwrth afon Dyfi, yn wastadedd, a'r bryniau yn haner cylch o'r tu arall iddi, yn ei chysgodi oddiwrth wynt y Gogledd a'r Gorllewin. Saif y pentref o fewn agos i 4 milldir i Machynlleth, a 6 milldir i Aberdyfi, a'r ffordd fawr yr hen Turnpike Road—sydd yn arwain o'r naill i'r llall, yn myned drwyddo. Nid oes bron ddim o hanes Methodistiaid yr ardal, yn yr amser boreuol, wedi ei gofnodi yn un man. Yr oedd ugain mlynedd o'r ganrif hon wedi myned heibio cyn bod yma gapel, ac anhawdd ydyw cael fawr o'r hanes yn flaenorol i hyny. Aeth yr ugain mlynedd cyntaf y tybir fod yma achos agos oll ar goll, am na chofnodwyd dim o'r hanes. Nis gellir cael allan, ychwaith, o gwbl pa bryd y ffurfiwyd yr eglwys. Gellir casglu na chymerodd hyn le yn fore, oherwydd agosrwydd yr ardal i Fachynlleth, a hysbys ydyw fod erledigaeth chwerw wedi bod yn y dref hono, fel na ddechreuwyd achos yno gyda chysondeb nes oedd yn lled agos i ddiwedd y ganrif ddiweddaf. Ond fel yr oedd yr erledigaeth yn llacio, a'r drws yn agor i'r efengyl yn Machynlleth, agorid y drws hefyd yn yr ardaloedd o amgylch y dref. A'r adeg hon y dechreuodd pregethu yn achlysurol yn Mhennal.
Coffheir yn Methodistiaeth Cymru am un o grefyddwyr cyntaf Machynlleth yn myned i Bennal i wrando pregeth. Y pedwar cyntaf o Fethodistiaid yn y dref hono oeddynt, Griffith Simon, Dafydd Meredith, Ellis Richard, a John Pugh. Cafodd Griffith Simon lawer iawn o erledigaeth, ac yr oedd ei wraig ei hun yn ei erlid. Yr oedd ef un bore Sabbath wedi penderfynu myned i odfa a gedwid yn Mhennal; deallwyd ei fwriad gan ei wraig, a chuddiodd ei esgidiau o'r tu ol i ryw lestri gwerthfawr yn y cwpbwrdd. Daeth yntau yn y bore, cyn iddi hi godi o'r gwely, o hyd i'r esgidiau, a diangodd gyda phob prysurdeb i'w ffordd. Hwn yw y cyfeiriad cyntaf at bregethu yn Mhennal, a gallasai y digwyddiad gymeryd lle yn rhywle o 1780 i 1790. Yr unig gyfeiriad arall a geir yn Methodistiaeth Cymru at yr ardal ydyw a ganlyn,—"Pan oedd Dafydd Cadwaladr yn pregethu unwaith yn Mhennal, ger Machynlleth, daeth yno yswain a meddyg i aflonyddu. Dynwaredent y pregethwr wrth iddo ddarllen ei destyn, gan ateb eu gilydd a chwerthin yn wawdlyd, a gofyn i'r pregethwr, Pwy a ddywedodd hyna wrthyt ti?' Ceisiai rhywrai yn y gynulleidfa ganddynt dewi, ond gwaeth yr aent hwythau. Bellach, cerddodd anniddigrwydd trwy y gynulleidfa diffoddwyd y canwyllau, a dechreuwyd gwasgu y boneddwyr yn dost. Deallodd y gwyr bellach mai doethach oedd cilio ac ymgeisio am y drws; ond nid mor hawdd oedd dianc. Safai dynion cryfion rhyngddynt ag allan, gan osod eu bryd ar wasgu yr aflonyddwyr, nes rhoddi digon iddynt ar eu hystranciau drwg; a rhwng rhai yn eu gwasgu, ac eraill yn y tywyllwch yn eu troedio, clybuwyd hwy yn llefain yn groch am arbed eu bywyd. Ymhen rhyw ysbaid gollyngwyd hwy ymaith, ac i'r tŷ tafarn gerllaw yr aethant i lechu, wedi colli pob awydd i aflonyddu ar gyfarfodydd o hyny allan. Bu farw yr yswain yr haf canlynol." Y mae maen coffadwriaeth yn eglwys y plwyf, yn dangos i'r yswain farw yn 1809. Bu farw y meddyg hefyd yr un flwyddyn. Y meddyg hwn oedd Dr. Pugh, y conjurer y soniwyd am dano o'r blaen. Nid oedd y weithred hon ar derfyn ei oes ond dangosiad o'r hyn ydoedd ar hyd ei fywyd. Efe oedd pen-erlidiwr yr ardal. Ddeunaw mlynedd cyn hyn, tra yr oedd Mr. William Jones, Machynlleth, pregethwr gyda'r Annibynwyr, yn Mhennal yn pregethu, bygythiai Dr. Pugh ef â marwolaeth, os byth y deuai yma drachefn. Rhyw ddiwrnod, ymhen amser wedi hyny, elai Mr. W. Jones i Bennal fel o'r blaen, gan fwriadu croesi Afon Dyfi. Pan yn dechreu ymddiosg, er gwneyd hyny, pwy welai ar y lan arall ond y bygythiol Dr. Pugh. Gan fod Mr. Jones yn ddyn gwanaidd ei iechyd, ac yn beryglus iddo fyned ar ei draed trwy y dwfr, gorchymynodd iddo aros fel y gallai ef ei gario trosodd. Felly, yn lle ei ladd, fel y bygythiai, bu y tro hwn yn well na'i air—cariodd ef dros yr afon. Yr oedd Dr. Pugh yn daid i'r diweddar Barch. H. Pugh, Mostyn, ac fel yr hysbyswyd eisioes, yn haner brawd i William Hugh, y Llechwedd, y pregethwr cyntaf gyda'r Methodistiaid yn y wlad hon. Oherwydd ei fod yn wr poblogaidd gyda rhyw ddosbarth o bobl, ac yn fwy gwybodus na'r cyffredin, gwnaeth lawer o'i gymydogion yn erlidgar fel efe ei hun. Darluniai y pregethwyr fel y cymeriadau isaf mewn bod. "Huwcyn bach," ebai wrth Hugh Rowland, ei gymydog, "nid ydynt yn ddim byd ond yr hyn a ragfynegodd ein Hiachawdwr (dyna ei air) am danynt, 'gau-athrawon,' 'ser gwibiog,' 'y rhai sydd yn ymlusgo i deiau, ac yn dwyn yn gaeth wrageddos llwythog o bechodau,' y rhai sydd yn llwyr-fwyta tai gwragedd gweddwon, a hyny yn rhith hir weddïo.'" Hen erlidiwr arall o'r enw Edward Wood a ddywedai, "Mae y pregethwyr yn rhy ddiog i weithio, ac yn rhy wan-galon i sefyll ar ben y ffordd fawr." Wedi marw yr yswain a'r meddyg yr oedd yr erlid cyhoeddus wedi tori asgwrn ei gefn. Eto, byddai oferwyr a segurwyr, a rhai Eglwyswyr zelog, yn ymgasglu yn fintai o amgylch porth y fynwent, i ddisgwyl y Methodistiaid allan o'r moddion (gerllaw porth y fynwent yr oedd y tŷ lle yr ymgynullent i addoli). er mwyn cael y cyfle i'w gwawdio a'u gwatwar. Parhaodd hyn hyd oni orchfygwyd yr ardal gan grefydd, yn y Diwygiad yn 1818 ac 1819.
Y ddiweddar Mrs. J. Jones, Upper House, Machynlleth, yr hon oedd yn ferch i'r hybarch Mr. Foulkes, a'r hon oedd wedi cyraedd gwth o oedran pan fu farw, ddechreu y flwyddyn hon, a adroddai ychydig amser yn ol iddi glywed ei mam laweroedd o weithiau yn adrodd yr hanesyn canlynol. Yr oedd Mr. Foulkes yn bregethwr cymeradwy gyda'r Methodistiaid, ac yn cadw siop o gryn faintioli yn Machynlleth. Ryw ddiwrnod, tra yr oedd Mrs. Foulkes yn y siop, daeth agent Mr. Edwards, Talgarth Hall, Pennal, boneddwr oedd yn berchen y rhan fwyaf o'r wlad o gwmpas ei balas, i mewn a dywedai, "Mae Mr. Edwards yn rhoddi gorchymyn nad ydyw Mr. Foulkes. ddim i ddyfod i Bennal i bregethu eto." Wel, dear me," ebe Mrs. Foulkes, "the gospel must be preached mae yn rhaid i'r efengyl gael ei phregethu," "Wn i beth am hyny," ebe yr agent, "mae fy meistr yn dweyd nad ydyw Mr. Foulkes ddim i ddyfod i Bennal i bregethu eto." "Wel, wel," atebai Mrs. Foulkes drachefn, "mae yn rhaid i ni gael y tai wedi eu recordio i bregethu ynddynt." "Wn i beth am hyny," ebe yr agent drachefn, "mae fy meistr yn dweyd nad ydyw Mr. Foulkes ddim i ddyfod i Bennal i bregethu mwyach." Ysgrifenodd fy mam dranoeth i'r Bala at Mr. Charles," ebe Mrs. Jones, "i adrodd yr hanes, ac fe fu hyny yn ddechreuad yr ymgais a wnaed i drwyddedu y pregethwyr, ac i recordio y tai." Mae yr hanes hwn yn bur sicr o fod yn gywir, ac fe welir oddiwrth yr helyntion oedd yn y wlad y pryd hwnw i hyn gymeryd lle yn 1795, neu y flwyddyn cynt, ac y mae yn cytuno â'r amser yr oedd Mr. Foulkes yn byw yn Machynlleth. Mae yn cadarnhau hefyd ffaith arall a gofnodir yn Methodistiaeth Cymru, sef ddarfod i arswyd feddianu y Methodistiaid yn yr holl siroedd, oherwydd aethai y si allan fod yn mwriad boneddigion eraill heblaw Mr. Corbett i gosbi y pregethwyr am na feddent drwydded i bregethu, na hawl i bregethu mewn tai heb eu trwyddedu. Mae hyn felly yn sicrwydd fod pregethu yn Mhennal yn 1795.
Yr un y ceir ei enw gyntaf ynglyn â chrefydd gyda'r Methodistiaid yn yr ardal ydoedd Sion Morris, gwehydd, ac efe fu yn blaenori gyda'r achos am yr ugain neu y pum' mlynedd ar hugain cyntaf. Y ddau agosaf ato oeddynt, Sion Evan, Tywyllnodwydd, ac Arthur Evan, y crydd. Pan oedd yr yswain a'r meddyg yn erlid yn y flwyddyn 1808, gellir tybio fod cryn nifer o bobl yn gwrando ar y pryd, a bod crefydd wedi enill tipyn o nerth yn yr ardal, gan iddynt allu gorchfygu squire y gymydogaeth a'r meddyg. Heblaw hyny, daeth Sion Evan i fyw i Tywyllnodwydd yn 1805, ac yr oedd ef wedi bod ar y blaen gyda chrefydd am 20 mlynedd yn flaenorol, yn ardal Llanwrin, o'r lle y symudodd i Dywyllnodwydd. Efe ddaeth a phregethu gyntaf i ardal Llanwrin, ac yr ydoedd wedi dangos gwroldeb mawr yn yr hyn a wnaethai gyda chrefydd yno. Nid yw yn debyg y buasai gŵr o'i fath ef yn oedi dim heb sefydlu cymdeithas eglwysig yn Mhennal. Gall fod yr eglwys wedi ei ffurfio rai blynyddau cyn hyn, ond dyma y lle pellaf yn ol y gellir ei holrain, sef oddeutu 1805. Cynhelid y gwasanaeth crefyddol am 15 mlynedd wedi hyn mewn tŷ bychan yn nghanol y pentref, o dan yr un tô â'r Post Office presenol. Addolai yr Annibynwyr mewn tŷ yr ochr arall i'r ffordd, ac yr oedd y ddau dŷ o fewn ychydig latheni i'w gilydd. Mae y rhybudd canlynol a roddwyd i'r perchenog, wedi ei arwyddo gan Arthur Evan, y blaenor, yn dangos yr amser y symudwyd o'r tŷ i fyned i addoli i'r capel:—
To Captain Thurston.
"At the expiration of my present year's holding, I shall quit and deliver up to you the possession of that house or tenement, now used as a chapel, situate in the village of Pennal, in the County of Merioneth, which I now hold under you. As witness my hand this 22nd day of September, 1820. —A.E."
Cafwyd tir i adeiladu capel yn nghwr y pentref, lle saif yr hen gapel presenol, ar brydles o gan' mlynedd ond un, gan Mr. John Jones, masnachwr, Machynlleth, am ardreth flynyddol o ddeg swllt ar hugain. Dyddiad y brydles ydyw 1820. Yr oedd yr Annibynwyr wedi adeiladu eu capel bedair blynedd yn flaenorol. Adeiladydd y capel oedd Edward Rees, Caerllan bach. Cedwid y cyfrifon gan Lewis William, Llanfachreth, yr hwn oedd yma yn cadw ysgol, ac mae yr oll sydd ar gael o'r cyfrifon ar ychydig ddalenau, ymysg ei bapyrau ef. Y draul, hyd y gellir gweled, oedd 99p. 19s. Derbyniai ef y rhan fwyaf o'r swm hwn gan Richard Humphreys a Capt. Griffith, Abermaw, dros y Cyfarfod Misol. Ni buasid byth yn gwybod yr un iot ynghylch adeiladu y capel cyntaf hwn, ond fel y daethpwyd yn ddamweiniol o hyd i bapyrau yr hen ysgolfeistr ffyddlon. Yr oedd yr achos yn Mhennal yn wan, a'r eglwys yn analluog i gasglu ond ychydig yr adeg yma, a thros ryw ysbaid o amser wedi hyn, fel y dengys y llythyr canlynol a ysgrifenodd Lewis William, Llanfachreth, at Gyfarfod Misol y Bala:—
"Fy Anwyl Frodyr a Thadau, sydd yn gynulledig yn Nghymdeithasfa Fisol Sir Feirionydd, yn y Bala—Mae cyfeillion Pennal wedi erfyn arnaf ofyn a gaiff Josuah Bywater, o'r Barmouth, y capel i gadw ysgol. Maent hwy yn foddlon, os caiff ganiatad gan y Cyfarfod Misol.
"Yn mhellach, y maent yn gofyn yn ostyngedig a gânt eu cynorthwyo i dalu y llog sydd ar y capel, oherwydd y maent hwy wedi gwneyd yn ffyddlon, yn ol eu gallu, y flwyddyn ddiweddaf, ac er hyny y mae dros bunt o'r llog heb ei dalu, ac y mae i'w dalu y mis nesaf eto 2p 10s. Os gellwch eu cynorthwyo, chwi a wnewch garedigrwydd i achos yr Arglwydd yn Mhennal. D.S., addawyd yn Nghorris, yn y Cyfarfod Misol, i dalu 20p. o gorff yr hawl mor fuan ag y gellid, er mwyn lleihau eu baich. Byddai yn dda gan yr un a'i rhoddodd ar y llog eu cael yn bresenol, os oes modd. Yr oeddwn yn meddwl, wrth addunedu gosod y deisyfiadau uchod ger eich bron, bod yn y Cyfarfod Misol fy hun, ond fe'm lluddiwyd gan Ragluniaeth trwy afiechyd fy ngwraig.
"Anwyl dadau, gwrandewch ar eu cwyn, er mwyn achos yr Arglwydd sydd yn eu plith, ac enw yr Arglwydd sydd arnynt. Y neb a'u hadwaenant, ac a ŵyr am yr achos yn eu plith, a wyddant eu bod yn wrthddrychau addas i dosturio wrthynt mewn trugaredd, trwy eu cynorthwyo yn yr achos mwyaf. Tangnefedd Duw, yr hwn sydd uwchlaw pob deall,' a fyddo yn eich plith. Hyn yw deisyfiad eich annheilyngaf was yn yr Arglwydd,
Helaethwyd y capel hwn drachefn yn 1850, ar draul o 80p. Ac yr oedd 40p. o'r ddyled heb ei thalu pan yr aed i adeiladu. y capel presenol, ddeunaw mlynedd yn ol. Cedwid Ysgol Sabbothol yn yr amser cyntaf mewn amryw dai yn yr ardal—Pompren, Tywyllnodwydd, a'r Ffatri Uchaf. Pan oedd Lewis. William yma, yn mis Chwefror, 1820, tynwyd allan nifer o benderfyniadau mewn cyfarfod athrawon, gyda golwg ar gymwysderau athrawon, a'u dyledswyddau, megis, eu bod i ddyfod ynghyd at yr awr apwyntiedig, i beidio ysbeilio amser yr ysgol trwy feithder wrth ddechreu a diweddu, i adael i'r ysgoleigion ledio penillion ar ganol a diwedd yr ysgol, a bod yr arolygwr i alw athraw pob dosbarth ar y diwedd, ac iddo yntau a'i ddosbarth fyned allan gyda'u gilydd, &c. Y daith Sabbothol ar y cyntaf oedd, Pennal, Maethlon (Tŷ'nypwll), ac Aberdyfi. Wedi hyny, bu Pennal ac Aberdyfi am dymor gyda'u gilydd. Mae pob un o'r ddau le yn awr yn daith arno ei hun, er y flwyddyn 1856. Nifer y cymunwyr y flwyddyn hono yn Mhennal oedd 73, a'r nifer yn Aberdyfi, 100. Blaenoriaid cyntaf yr eglwys oeddynt, Sion Morris, Sion Evan, Tywyllnodwydd, a Dafydd Evan, ei fab, Arthur Evan, y crydd, Lewis Jones, Ynys; Morgan William, Cyllellog; ac mewn amser diweddarach, Robert Evans, Ynys; John Jones, Esgirgoch; Morgan Jones, Esgirweddan; a Hugh Jones, Gelligraian.
Sion Morris, gwehydd, y blaenor cyntaf. Dyn bychan o gorff, crwn, heini ar ei droed. Byddent yn ei golli o'r pentref am ddyddiau weithiau, heb wybod i ba le yr oedd wedi myned, ond dywedai y bobl wrth eu gilydd ei fod wedi myned i Gyfarfod Misol, neu Sasiwn, i rywle, i chwilio am bregethwyr. Ceir ei enw ef a Gwen Morris, ei wraig, yn cyfranu at yr ysgol gylchynol yn bur foreu. Preswyllai mewn tŷ bychan, tlawd, y tlotaf yn y pentre, sef y tŷ a'r corn hir, a safai lle y mae y Graiandy yn awr, ac a dynwyd i lawr wrth adeiladu capel presenol y Methodistiaid. Bu Mr. Charles, o'r Bala, yn cysgu unwaith yn ei dŷ. Wedi iddo fyned i'r gwely, gofynai Sion Morris iddo, "Oes genych chwi ddigon o dan eich pen, Mr. Charles?" Os nad oedd ganddo ddigon, yr oedd yr hen flaenor yn barod i dynu dilledyn oddiam dano ei hun, er mwyn codi pen Mr. Charles yn uwch i fyny.
Sion Evan, Tywyllnodwydd.—Gŵr cadarn yn yr Ysgrythyrau, egwyddorol yn yr Hyfforddwr, ac yn dra awyddus am i bawb ddyfod yn grefyddwyr. Bu iddo fawr ofal calon am achos crefydd yn Llanwrin, cyn dyfod i lawr yma. Dywedir na ddeuai neb i'w dŷ, ac na chyfarfyddai â neb ar y ffordd, na soniai wrthynt am grefydd, a hyny nid mewn rhagrith, ond o wir ofal am danynt. Gair a ddywedodd ef wrth fugeilio defaid ar y mynydd a ddaliodd gyntaf ar feddwl David Jones, wedi hyny o Nantymynach, gŵr a fu yn flaenor gweithgar yn Abertrinant. Rhoddodd gyngor i Mr. David Rowland, Llwynteg, pan yr oedd yn llanc ieuanc yn ei dŷ yn gweithio, a barodd iddo ei gofio hyd heddyw. Yr oedd ef yn hen ŵr wrth ei ddwy ffon, ac ebe fe, "Dafydd bach, cofia'r adnod yma yn y tai y byddi yn gweithio, a lle bynag y byddi di, Bydded ymadroddion fy ngenau, a myfyrdod fy nghalon yn gymeradwy ger dŷ fron, O Arglwydd, fy nghraig a'm prynwr.' Yr oedd Dafydd Evan, ei fab, fel yntau, yn flaenor ac yn ŵr cadarn yn yr Ysgrythyrau.
Arthur Evan, y crydd.—Brodor o Bennal, symudodd i Mallwyd, a daeth yma drachefn i dreulio diwedd ei oes. Dyn crefyddol, distaw, a diymhongar, a gweithiwr diwyd ymhob cylch. Elai i Maethlon i helpu i gynal y moddion, ac oherwydd ei fod yn weddïwr mor rhagorol, mawr fyddai y disgwyliad am dano. Ystyrid ef yn fwy crefyddol na neb yn y wlad, a thystiolaeth gref i brofi hyny ydyw y ffaith a ganlyn. Pan oedd David Rowland yn fachgen bychan, heb ddyfod eto i feddu syniad uwch na syniad plentyn, os digwyddai iddi fod yn fellt a tharanau, rhedai gan ofn i'r gweithdy, at Arthur Evan, ac unwaith y byddai wrth ochr yr hen Gristion, teimlai yn berffaith ddiogel, ac ni hidiai ddim wedy'n pa faint fyddai erchylldra y mellt a'r taranau. Mae ei enw ef wrth Weithred Gyfansoddiadol y Cyfundeb, yn y flwyddyn 1827, wedi ei sillebu yn ol tafodiaith yr ardal, Arthir Evans, Pennal, County of Merioneth, Shoemaker.
Ymfudodd Lewis Jones a Morgan William i'r America. Symudodd Robert Evans hefyd o'r Ynys i Rhydygarnedd, Llanegryn, a pharhaodd yn flaenor zelog yno hyd ddiwedd ei oes. Yr oedd John Jones yn dad i'r Parch. Evan Jones, Caernarfon. Symudodd yntau i Benegoes, a bu farw mewn oedran Patriarchaidd, a'r fendith ar ei ben. Yr oedd Morgan Jones, Esgirweddan, a Hugh Jones, Gelligraian, yn ddau frawd, ac yn amaethwyr mwyaf cyfrifol yr ardal. Rhoddai eu sefyllfa dda yn y byd fwy o fantais iddynt wasanaethu crefydd na neb a fu yn blaenori yn yr eglwys o'u blaen. Buont ill dau yn arwain yr achos am flynyddoedd, hyd nes y lluddiwyd iddynt gan angau i barhau. Yma y neillduwyd Mr. Richard Owen, Machynlleth, yn flaenor, mewn oedran tra ieuanc. Bu Richard Owen ei dad hefyd yn ffyddlon (iawn gydag achos crefydd hyd ddiwedd ei oes. Dau o ffyddloniaid eraill, ond heb fod yn flaenoriaid, oeddynt, Edward Rees, saermaen, a Peter Jones. Bu Edward. Rees yn godwr canu am lawer o flynyddoedd. Canai â'i law ar ochr ei ben, nes tynu yr holl gynulleidfa i hwyl canu yn null yr hen bobl. Mab oedd ef i hen glochydd y plwyf, a rhoddai yn fynych y geiriau canlynol allan i'w canu yn y cyfarfodydd gweddi, a chanwyd llawer arnynt yn nghapel Pennal:—
"Gogoniant i'r Tad
Yn rhwyddair a'r Mab rhad,
A'r Ysbryd Glân pur;
Rho'wn iddo bob mawrhad,
Tragwyddol fythol Fod;
Clod, clod
Dilyth fawr a bendith,
Fyth, fyth iddo'n bod.
Peter Jones a Sian William, ei wraig, oeddynt golofnau mewn zel a ffyddlondeb. Bu gorfoledd mawr un tro yn eu tŷ, yn amser Diwygiad Beddgelert, a chan fod y tân ar lawr, yr oedd gwreichion o'r tân naturiol wedi eu lluchio ar hyd y tŷ, oherwydd fod y gorfoleddwyr yn neidio mor afreolus, hyd nes y dygwyd y tŷ a'r preswylwyr i ymylon dinystr. Mawr oedd gofal Sian William gyda y merched a'r gwragedd, ar ol i'r gorfoledd fyned heibio, yn rhoddi eu hetiau a'u gwisgoedd yn eu lle, &c. Cymerai y chwaer hon lawer o drafferth i wneyd y pregethwyr yn gysurus; pan y tröent i'w thŷ ar ol dyfod o Maethlon y Sabbath, ni chaent fyned i'r capel at yr hwyr heb iddi dynu pob ysmotyn o lwch a baw oddiar eu hesgidiau. Byddai hi a'i phriod ar ben drws y tŷ y noson y byddai y blaenoriaid yn gwneyd cyfrifon y capel ar ddiwedd y flwyddyn, yn disgwyl clywed am lwyddiant yr achos, gan fawr obeithio eu bod wedi cael y ddau pen i'r llinyn ynghyd. Nid oedd Peter Jones ond byr ei wybodaeth, a byddai Hugh Evan yn ei gorectio yn y seiat wrth ddweyd ei brofiad, "Sut yr wyt ti yn dweyd, Peter ?" "D'wad di yn well, Huwcyn, os medri di," atebai y llall.
Un arall o rai rhagorol y ddaear a ddiweddodd ei oes yn aelod o'r eglwys hon oedd Thomas Roberts, yr hwn a adnabyddid fel hen ddriver John Elias, o Fôn. Bu yn was yn Fronheulog, Llandderfel, am 52 mlynedd. Rhoddai Mr. Davies, Fronheulog, ei gerbyd i John Elias i deithio siroedd De a Gogledd Cymru, a Thomas Roberts fyddai yn drivio y cerbyd. Pan y cyfarfyddodd Mr. Elias a'r ddamwain foreu Sasiwn y Bala, ar ei ffordd o'r Fronheulog, yr oedd yr hen frawd yno y pryd hwnw, ond arferai ymorchestu tipyn mai nid efe oedd yn gyru y cerbyd ar y pryd; yr oedd wedi myned o flaen y cerbyd i'r Bala, i drefnu y wageni ar y Green. Ond efe fu yn gwasanaethu am wythnosau ar Mr. Elias ar ol y ddamwain, ac efe fu yn ei anfon adref wedi iddo wella. Pan y deuai Mr. Elias i'r Fronheulog wedi hyn, arferai anfon o'i flaen, "Anfonwch Tomos i'm cyfarfod, gyda cheffyl llonydd." Ymffrostiai Thomas Roberts yn ei swydd o ganlyn John Elias, a chredai nad oedd neb tebyg iddo yn y byd. "Mi glywais," meddai, "Dr. Chalmers, a dynion mawr eraill, ond John Elias oedd y pregethwr mwyaf glywais i erioed." Ni bu dim ond dau, yn ol ei syniad ef, yn y byd erioed yn fwy nag ef; Iesu Grist yn gyntaf; yr Apostol Paul yn ail, a John Elias yn drydydd. Pan yr oedd yn glaf yn ei wely o'r clefyd y bu farw o hono, gofynwyd iddo, " Pwy hoffai weled gyntaf wedi myned i'r nefoedd ?" "Mr. Elias," atebai, dan godi ei ddwylaw i fyny, "'rwyf yn meddwl y byddwn yn fwy hyf arno ef nag ar yr Arglwydd Iesu." Bu farw Ionawr 19eg, 1879, yn 89 oed.
Yn yr ardal hon y diweddodd y Parch. Richard Humphreys, o'r Dyffryn, ei oes. Daeth yma yn Mehefin, 1858, trwy ymbriodi â Mrs. Evans, Gwern Iago, a bu farw Chwefror 15fed, 1863. Parhaodd yn ei wres, a'i gariad, a'i bwyll, a'i ofal am yr achos goreu hyd y diwedd, ac y mae llawer o'i ddywediadau ar gof a chadw gan rai o bobl yr ardal hyd heddyw. Bu ei weddw, Mrs. Humphreys, yn garedig iawn i achos crefydd ar ol ei ddydd ef. Yr oedd hi yn fam yn Israel. Gwir ofalai am yr achos yn ei holl ranau, a llawenhâi yn fawr weled pob symudiad ymlaen gydag ef. Bu yn help mawr i'r efengyl, nid yn unig oherwydd ei sefyllfa gefnog yn y byd, ond trwy roddi ei phresenoldeb yn moddion gras, a thrwy roddi parch i weinidogion y Gair. Yn llyfr cofnodion yr eglwys, ceir yr hyn a ganlyn am dani:—"Bu yn trigianu yn yr ardal am oddeutu 30 mlynedd, a chymerai bob amser ran flaenllaw gydag achos crefydd yn y lle. Aeth trwy lawer o brofedigaethau y byd, ac yr oedd hyny wedi ei haddfedu a'i chymhwyso i ogoniant. Cafodd ei bendithio â llawer o dalent a llawer o ras. Teimlir colled ar ei hol yn yr eglwys." Bu farw Mai 22ain, 1880.
Yn y flwyddyn 1869 adeiladwyd y capel presenol. Rhoddwyd y tir yn rhodd gan Mr. Hugh Jones, Gelligraian. Aeth y draul i'w adeiladu, heblaw hyny, rhwng pob peth, dros 1000p. Ymhen naw mlynedd ar ol hyn, yn 1878, yr oedd y ddyled wedi ei llwyr glirio. Ddwy flynedd ar ol agor y capel, nifer yr aelodau eglwysig oedd 83. Erbyn y flwyddyn y cliriwyd y ddyled, yr oedd eu nifer yn 120.
Cynhaliwyd Ysgol Sul yn Panteidal, haner y ffordd o Bennal i Aberdyfi, am bum' mlynedd, o 1866 i 1871. Elai cyfeillion o Bennal yn benaf yno i gynorthwyo i'w chario ymlaen. Pregethid hefyd yn achlysurol yn yr un lle. Oherwydd colli y tŷ, a diffyg cefnogaeth, rhoddwyd y moddion yno i fyny.
Yn 1879, adeiladwyd ysgoldy prydferth a elwir y Bryniau, oddeutu milldir o bentref Pennal, yn nghyfeiriad Aberdyfi, yn benaf at wasanaeth yr Ysgol Sul. Cafwyd y tir yn rhodd gan y diweddar C. F. Thurston, Ysw., Talgarth. Bu y draul yn agos i 200p. Nid oes o'r ddyled yn aros yn awr ond 25p.
Cyfododd dau bregethwr o'r eglwys hon: y Parch. John Evans, yr hwn sydd yn awr wedi ymsefydlu yn weinidog yn Llanfaircaereinion. Yn mis Tachwedd, 1878, y cymerwyd llais yr eglwys gyda golwg ar ei gychwyniad. Mr. William Evans, yn bresenol efrydydd yn Mhrifysgol Edinburgh; cymerwyd llais yr eglwys o berthynas iddo yntau Rhagfyr 1af, 1881.
Bu ysgrifenydd yr hanes hwn mewn cysylltiad gweinidogaethol â'r eglwys am ddeunaw mlynedd, o 1865 i 1883. Y mae Mr. Hugh Ellis wedi ymsefydlu yn weinidog yr eglwys er mis Ebrill, 1888.
Y blaenoriaid yn awr ydynt Mri. David Rowland, Rees Parry, Richard Jones, David Evans, a Hugh Jones.
MAETHLON.
Dyffryn cul, prydferth, tawel, ydyw Maethlon, yn gorwedd rhwng y bryniau, y tu cefn i Aberdyfi, a'r hen ffordd rhwng Towyn a Phennal yn arwain drwyddo. Pellder oddeutu dwy filldir o Aberdyfi; tair o Dowyn, a phump o Bennal. Gelwid y lle amser maith yn ol, ac weithiau eto, Cwm Dyffryn-gwyn; pryd arall Cwm y Ddau Ddyffryn, am fod yr ardal, o'r mynydd i'r môr, yn cynwys dau ddyffryn, neu ddau wastadedd—gwastadedd y Dyffryn-gwyn, a gwastadedd y Dyffryn-glyn-cul. Geilw y Saeson y lle yn Happy Valley. Mae poblogaeth yr ardal agos iawn yr un nifer a phoblogaeth Ynys Enlli. Yr un nifer ydoedd yn hollol yn Ystadegau Eglwysig Gorllewin Meirionydd a Lleyn ac Eifionydd ychydig flynyddau yn ol. Yn bresenol, holl boblogaeth yr ardal ydyw o gwmpas 90. Y Methodistiaid a sefydlodd achos gyntaf erioed yn lle, a hwy yn unig sydd wedi bod yn ei gario ymlaen hyd yn hyn, er fod yno deuluoedd yn perthyn i enwadau eraill wedi bod yn byw ar wahanol amserau. Rhydd y teuluoedd hyn eu presenoldeb yn y moddion, a'u cynorthwy hefyd tuag at waith yr Arglwydd ymhob modd.
Dechreuwyd cynal moddion crefyddol yn yr ardal yn bur foreu, oddeutu deng mlynedd cyn diwedd y ganrif ddiweddaf, a deng mlynedd ar hugain cyn adeiladu y capel cyntaf. Yr oedd dau frawd yn byw yn Dyffryn-gwyn, Daniel ac Evan Jones, y rhai ynghyd â'u teulu oeddynt yn hynod grefyddol, ac ymunasant â'r Ymneillduwyr cyntaf oedd i'w cael yn yr ardaloedd. Rhoddodd Edward Williams, y crefyddwr cyntaf yn Nhowyn, dystiolaeth ysgrifenedig o hyn cyn ei farw. Elai Daniel ac Evan Jones i lawr i Dowyn i gyd-gynal moddion gyda yr ychydig grefyddwyr oedd yno, ac elent hwythau i fyny oddiyno i gyd-gynal moddion yn Dyffryn-gwyn. Buont hwy eu dau, a'r ddau grefyddwr cyntaf o Dowyn, a John Lewis, Hen Felin, y crefyddwr cyntaf yn Aberdyfi, yn cyd-weddïo llawer gyda'u gilydd, weithiau yn eu tŷ eu hunain, neu yn yr Hen Felin, neu yn nghysgod gwrychoedd, neu ar lan y môr. Y cynulliadau hyn yn Dyffryn-gwyn fu dechreuad yr achos yn Maethlon, ac fe ddywedir i'r ddau ŵr da hyn recordio eu tŷ i bregethu ynddo. Byddent yn cynal addoliad teuluaidd yn gyson yn eu tŷ. Yr oedd Daniel ac Evan Jones yn amaethwyr cyfrifol, ac yn fwy deallus na'r cyffredin. Yn ol tystiolaeth Edward Williams, neillduwyd y ddau yn flaenoriaid gan y Cyfarfod Misol, a gosodwyd hwy i ofalu am yr achos yn ei gychwyniad cyntaf yn Maethlon ac Aberdyfi. Ond oherwydd yr erledigaeth fawr a gyrhaeddodd ei phoethder yn 1795, dylanwadodd gelyniaeth teulu yr Ynys ar berchenog Dyffryn-gwyn, ac ymhen amser gorfu i'r tenantiaid ymadael oblegid eu crefydd. Symudodd Daniel Jones i ardal Tregaron, yn Sir Aberteifi, a gweithiodd Rhagluniaeth yn rhyfeddol o'i du. Bu ef a'i deulu ar ei ol yn dra ffyddlon i grefydd yn y sir hono.
Wedi cael rhybudd i ymadael o'r Dyffryn-gwyn, oherwydd yr erledigaeth, dywedai Daniel Jones wrth ei wraig, "Wel, mae yn rhaid i ni ddewis un o ddau beth, un ai ymadael â Dyffryn-gwyn, neu ymadael â chrefydd. Pa un oreu i ni ei wneyd?' "Pa un oreu?" ebe ei wraig, "ydych chwi yn petruso, Daniel? Nid wyf fi yn petruso dim; nid oes dim doubt genyf fi am fynyd; mi wn i mai crefydd ddewisaf fi, aed Dyffryn-gwyn lle yr elo." Daniel Jones ei hun a adroddai yr hanesyn hwn, ymhen llawn deugain mlynedd wedi iddo gymeryd lle.
Ar ol ysgrifenu yr uchod, daethpwyd o hyd i'w gofiant yn y Drysorfa, Rhagfyr 1855, gan John Rees, Tregarn. Cytuna y Cofiant â'r sylwadau hyn, ond dywedir yn ychwanegol iddo "symud o Maethlon, yn y flwyddyn 1806, i'r Garnedd—fawr, fferm yn agos i Dregaron, hen drigle Sion Dafydd Daniel, hen bregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd; a Thregaron a'r cymydogaethau cylchynol a gawsant fwynhau ei lafur defnyddiol o hyny hyd ddiwedd ei oes hirfaith. Bu farw Mai 13, 1849, yn 91 mlwydd oed." Dywedir hefyd i ddirwy gael ei gosod arno gan y boneddwr o Ynysmaengwyn, am iddo fyned i wrando pregeth mewn tŷ anedd, a "gorfu i Daniel Jones, ynghyda dau eraill, dalu y ddirwy."
Bu Evan Jones, y brawd arall, yn cadw ysgol ddyddiol am ysbaid yn Aberdyfi. Treuliodd weddill ei oes yn ardaloedd y Bwlch a Llanegryn. Evan Jones oedd enw mab iddo yntau, yr hwn a ddygwyd i fyny yn grydd, a bu yn gweithio ei grefft am dymor yn Arthog. Ymhen amser rhoddodd y gwaith crydd heibio, ac aeth yntau i gadw ysgol. Bu am flwyddyn neu ddwy yn cadw ysgol yn Mlaenau Ffestiniog. Gydag ef, rhyfedd sôn yn hen gapel Bethesda, y cafodd ysgrifenydd yr hanes hwn y chwarter o ysgol cyntaf erioed! Y cymwysder penaf ynddo fel ysgolfeistr yn nghyfrif y rhai fu a llaw yn ei argymell i'r brodyr yn Ffestiniog oedd, ei fod yn ddyn crefyddol, ac ar y cymwysder hwnw y rhoddai y brodyr yno y pwys mwyaf. A'r côf penaf sydd gan ei ysgolheigion am dano fel ysgolfeistr ydyw, tôn grefyddol ei lais, a'i gydwybodolrwydd i ddefnyddio y wialen pan fyddai y plant yn blant drwg. Llanwodd ddisgwyliadau ei gefnogwyr a'i gyflogwyr yn llawn, trwy droi allan yn ysgolfeistr crefyddol, ac yn yr ystyr hwn gadawodd argraff dda ar y plant fu dan ei ofal. Cafodd yr hen ysgolfeistr gonest fuddugoliaeth ardderchog ar angau. Bu farw yn Arthog, oddeutu ugain mlynedd yn ol. Ychydig fynydau cyn marw, slipiodd dros erchwyn ei wely, ac aeth ar ei liniau, ac yna i'w wely yn ol, a chan godi ei fraich i fyny a'i throi o gwmpas ei ben dywedai, "Ai dyma ydyw marw! dyma ydi o! A oes dim mwy mewn marw na hyn!' A chyda iddo ddweyd y geiriau ymadawodd â'r byd trallodus hwn i'r gwynfyd. Huna gyda'i dadau yn y gladdfa sydd yn nghanol tref Towyn.
Ar ol i'r noddfa yn Nyffryn-gwyn gael ei chwalu, ac i'r cewri oedd yno yn byw symud o'r ardal, bu moddion gras a'r Ysgol Sabbothol yn erwydro o dŷ i dŷ, heb gartref arhosol yn un man am lawer o flynyddoedd, ac mae yn bur sicr i'r achos yn Maethlon weled llawer tro ar fyd, a llawer tymor o i fyny ac i lawr, am yr ysbaid maith o ddeng mlynedd a thriugain. Wedi ymadawiad y ddau Jones o Ddyffryn-gwyn, bu yr eglwys yn hir heb flaenor; nid oedd neb yn yr ardal yn y tymor cyn adeiladu y capel a allai gymeryd y blaen gyda chrefydd. Ysgrifena y Parch. Hugh Jones, Towyn, yn hanes ei fywyd:— "Wedi hyny (sef wedi 1802) dechreuais gadw Ysgol Sul ar hyd y tai cymydogaethol, sef Pant yr Owen, Alltlwyd, Minffordd, Dyffryn-gwyn, a Thŷ'nypwll. Y pryd hwnw, nid oedd cymaint ag un crefyddwr o lân y môr i Fwlch Towyn." Tebyg yw fod yr hen ŵr, Hugh Jones, yn methu yn y dyddiad; nid oedd Daniel Jones wedi ymadael y pryd hwn. Mae rhai o'r tai y buwyd yn cadw moddion ynddynt bellach, er's llawer blwyddyn wedi eu tynu i lawr i'w sylfeini. Digwyddodd pethau rhyfedd a dyddorol yn y tai hyn. Mewn tŷ bychan yn ymyl Felin Llynpair—nid oes prin olion y tŷ hwn i'w weled yn awr yr oedd Ysgol Sul yn cael ei chadw, a byddai rhai o Dowyn a manau eraill yn dyfod yno i arwain yr ysgol. Un Sabbath, nid oedd neb wedi dyfod o'r lleoedd hyn, ac nid oedd yno neb a allai gario yr ysgol ymlaen. Gan ei bod hi felly, gofynodd rhywun a oedd yno neb wnai ganu, ac fe ddaeth rhywun ymlaen ganu. Gofynodd rhywun drachefn a oedd yno neb wnai ddawnsio, ac fe ddaeth rhyw ferch ymlaen i ddawnsio. A dyna fu yno y prydnhawn Sabbath hwnw yn lle ysgol, canu a dawnsio. Cymerodd hyn le oddeutu y flwyddyn 1808, pan yr oedd y diweddar Mr. Owen Williams, Aberdyfi, yn wyth oed, yr hwn oedd yn bresenol ei hun, a chanddo ef y cawsom yr hanes.
Hynod iawn y gofal a fu i gael ysgol ddyddiol i'r ardal, a hyny mewn adeg bur foreuol. Y mae rhai yn awr yn fyw sydd yn cofio tri neu bedwar o ysgol-feistriaid wedi bod yn cadw ysgol cyn y flwyddyn 1820 yn Tŷ'nypwll, lle a adwaenir yn yr oes hon fel beudy Erwfaethlon. Bu Lewis Williams, Llanfachreth, yno yn cadw ysgol amryw weithiau. Gwneid ymdrech i gael ysgol.gan benau-teuluoedd yr ardal, a charedigion o'r tuallan. Mae y dyfyniad canlynol i'w gael mewn llythyr oddiwrth John Jones, Penyparc, ysgrifenydd y Cyfarfod Ysgolion, at gyfarfod chwechwythnosol Llwyngwril, a gynhelid Ebrill, 1819:—"Yr ydys yn gobeithio y bydd i'r cyfarfod gofio am ei chwaer fechan sydd megis heb fronau iddi, sef ysgol y Dyffryngwyn, a'i chynorthwyo fel cylch i ddanfon yr athraw yno, am ryw faint o amser a farnoch yn addas. Nid oes yno yn bresenol yr un ysgol wythnosol, na neb y Sabbothau, ond a gaffont ar haelioni eraill. Mi a fum yno y Sabbath diweddaf, ac yr oeddwn yn gorfod tosturio wrth eu eri a'u tlodi yn ngwyneb eu parodrwydd a'u haddfedrwydd i dderbyn addysg. Maent wedi cael cynygiadau am athrawon wythnosol o fanau eraill, ond ni wnant ddim penderfyniad gyda neb hyd nes y clywont oddiwrthym ni, oherwydd fod eu llygaid arnom yn fwy na neb arall. Hwy a roddant bob cynorthwy ar a allont, mae yn debyg, at yr ysgol, ac felly mae eu hachos yn galw am ein hystyriaeth mwyaf difrifol ar frys. Un o ddibenion penaf sefydliad yr ysgol ydoedd cynorthwyo manau gweiniaid, a hyn hefyd (ond cael golwg efengylaidd arni) yw ei gogoniant penaf. O! am gael ein bedyddio âg ysbryd apostol mawr y cenhedloedd! Nid ydym i geisio yr eiddom ein hunain, ond lleshad llaweroedd." Mae yr hyn a ganlyn hefyd wedi ei gofnodi gan Lewis Williams, Llanfachreth "Tachwedd 9fed, 1819, cynhaliwyd cyfarfod athrawon y daith Sabbath yn Aberdyfi. Ymhlith pethau eraill, penderfynwyd yn y cyfarfod ar gynyg ar gael athraw i gadw ysgol am y flwyddyn nesaf, rhwng Dovey a Thŷ'nypwll, os gellid cael modd i'w gynal. Ac ar yr amser hyn, fe amododd Mr. John Ellis, Evan David, John Richard, John Williams, Lewis Jones, os na byddai yn faich trwm iawn, i fod yn gynorthwyol i'r gwaith, fel y byddai yr achos yn gofyn; a hwy a roisant amodau y tro hwn o'r hyn a roddent yn chwarterol am y flwyddyn, ac os byddai eisiau yr ychwanegent. Penderfynwyd y pris a fyddai ar ol y plant—3c. am rai yn dechreu; 4c. am rai yn ysgrifenu; 5c. am rai mewn rhifyddiaeth, yn chwarterol. Penderfynwyd y cai y neb a fynai ddyfod i mewn i roddi eu henwau yr un ffordd a'r enwau uchod, i fod yn olygwyr ar yr achos, ac i fod yn enillwyr neu yn golledwyr arno, a hyny yn ol eu hamodau. Deisyfwyd ar i L. W. osod rheol pa fodd i fyned a'r gwaith ymlaen." Yna, ceir amryw reolau wedi eu tynu allan gan L. W., megis, Fod pawb a roddent eu henwau i lawr i fod yn ymddiriedolwyr yr ysgol, ac i ofalu am gyflog yr athraw; fod cyfarfod ddwy. waith yn y chwarter gan yr ymddiriedolwyr i ystyried achos yr ysgol; fod yr athraw i gadw cyfrif manwl o'r ysgolheigion, a'u graddau mewn dysg, i'w roddi i'r ysgrifenydd; fod y trysorydd i dalu yn chwarterol i'r athraw. Ceir hefyd y swm a roddid ar bob teulu yn ol rhifedi y plant. Ysgrifena J. J., Penyparc, at L. W., Mawrth 25ain, 1823—"Yr ydwyf yn gobeithio na ddarfu i chwi ddim gorphen penderfynu i beidio dyfod i gapel Maethlon. Fe fydd i Hugh Jones fyned oddiamgylch yr ardal ymhen wythnos, i gasglu at y Beiblau; fe fydd iddo ef fynu gwybod ansawdd yr achos yn fanylch. Mawr yw ein hawydd ni i chwi ddyfod yno er mwyn yr achos. Ond nid oes dim eisiau mwy i chwi ryfygu, na'r rhai sydd yn eich peryglu felly, na'ch tynu i un math o brofedigaeth. Os na ddarfu i chwi hollol benderfynu gyda hwy, gadewch y peth yn agored am wythnos neu naw diwrnod, fel y gweler yr eithaf o hono. Mae rhai yn meddwl y gellwch gael pethau angenrheidiol natur yno—Os bydd genym ymborth a dillad, ymfodd lonwn ar hyny'—ac yn golygu mai gwell ydyw peidio gwasgu yn rhy dyn ar yr ardal am chwanegiad y gwyddoch am dano, ac felly y gwnai dynion a dynoliaeth hardd yn well na'u haddewidion. . . . . Ond os ydych chwi wedi penderfynu dyfod, y mae'n cert ni yn dyfod i'r dref (Dolgellau), ac fe ellir dyfod a rhyw ychydig o bethau ynddi i chwi yma. Gadewch i mi gael clywed gair oddiwrthych gydag Humphrey, y Genad. —Ydwyf, yr eiddoch yn ddiffuant, Jno. Jones." Cyfeirir yma at "bethau angenrheidiol natur," ac at y gert i gludo celfi yr ysgolfeistr. Y mae Lewis Vaughan, Aberdyfi, yn cofio L. W. yn symud i Bryndinas, yn ardal Maethlon, a'i lyfrau a'i holl ddodrefn yn dyfod gydag ef mewn car llysg. Fel hyn y treuliodd 24 mlynedd o amser, yn symudol o le i le, a'i feddianau oll yn cael eu symud gydag ef. Byddai yn fynych yn cael ei ymborth yn rhad yn y tai yr arosai. Bu Hugh Angel hefyd yn cadw ysgol yn nghapel Maethlon, ac yn cael ei fwyd bob yn ail tri mis yn Erwfaethlon, Bryndinas, Dyffryn-gwyn, a Gwyddgwian. Mae y pethau hyn yn ddyddorol oblegid eu hynafiaeth, ac hefyd am eu bod yn dangos y modd yr oedd addysg a chrefydd yn cael eu cario ymlaen yn yr ardaloedd hyn y pryd hwnw.
Yr enw wrth ba un yr adnabyddid yr ardal mewn cylch crefyddol cyn adeiladu y capel oedd Tŷ'nypwll, am mai yn y tŷ o'r enw hwnw y buwyd yn cynal moddion crefyddol, ac ysgol ddyddiol a Sabbothol hwyaf. Ac yr ydoedd yn daith Sabbath am lawer o amser gydag Aberdyfi a Phennal. Yn y fl. 1821 yr adeiladwyd y capel cyntaf. Cafwyd lle i adeiladu ar dir Erwfaethlon ar brydles o 99 mlynedd, am ardreth o ddau swllt. Nid oes ond ychydig o hanes y cyfnod hwn ar gael. Yr adeg yma, nid. oedd ond un penteulu yn proffesu crefydd yn yr holl gwm. Aeth y Parch. Hugh Jones, Towyn, a John Roberts, Dyffrynglyngil, o amgylch yr ardal i gasglu at y capel. Bu tipyn o ddadl, pa un ai capel Dyffryn ai capel Maethlon fyddai ei enw. A'r hyn a drodd y fantol i'w alw yn gapel Maethlon oedd, am mai ar dir Erwfaethlon yr adeiladwyd ef. Ac o hyny allan cafodd yr ardal ei henw oddiwrth enw y capel. Buwyd lawer adeg wedi myned i'r capel mewn cryn helynt i ddwyn yr achos ymlaen, oherwydd prinder proffeswyr i gynal moddion. Un tro, John Vaughan, Bryndinas, oedd yno į weddïo y cwbl. Dywedai y codwr canu wrtho, "Lediwch chwi benill mor amal ag y mynoch chwi, mi gana i." Felly y gwneid, darllenai yr un un benod, a gweddïai ar ol canu pob penill. Dywed un arall ei fod yn cofio mai gwraig Llanerchilin, a John ei mab, fyddai yr unig ddau i arfer moddion yn gyhoeddus; dechreuai un a diweddai y llall. Daeth y teulu hwn i fyw i Lanerchllin o Talybont, Llanegryn, ryw bryd wedi 1821. Bu y gwr, Vincent Jones, am flynyddau lawer heb broffesu, ond daeth yn broffeswr cyn diwedd ei oes. Yr oedd y wraig, fel y gwelwyd ei hanes mewn cysylltiad â'r achos yn Llanegryn, yn un hynod am ei chrefydd. Y hi am dymor a gymerai y rhan gyhoeddus yn y cyfarfodydd gweddïau yn gyson yn Maethlon. Yr amser hwn arferai yr eglwys fyned i Aberdyfi i'r cymundeb.
Nid ydyw yn degwch i basio heibio heb gofthau am lafur y Parch. Hugh Jones, Towyn, yn Maethlon. Efe fu a'r llaw benaf mewn adeiladu y capel cyntaf. Efe ddechreuodd gadw seiat yno yr adeg yma, oblegid yr oedd wedi myned i lawr er pan y dechreuwyd hi gyntaf, a bu ef yn dyfod i'w chadw am flynyddoedd bob tair wythnos neu fis. Efe hefyd fyddai yn disgyblu, ac yn derbyn at yr ordinhad. Derbyniodd un tro 16 gyda'u gilydd. Sicrheir y buasai yr ardal wedi ei cholli i'r Methodistiaid y pryd hwn oni bai am ffyddlondeb di-ail Hugh Jones. Byddai rhyw gais ganddo ef beunydd at y Cyfarfod Misol o berthynas i'r achos bychan yn Maethlon.
Aeth yr achos yma fel hyn yn ei flaen, o dòn i dòn, rhwng byw a marw, hyd amser Diwygiad 1859-1860, pryd y derbyniodd adgyfnerthiad mawr. Mae yn briodol sylwi hefyd mai i Maethlon y daeth y diwygiad hwnw gyntaf o un man i Ogledd Cymru. Ychydig cyn hyn yr oedd y lle yn anarferol o galed a digrefydd; yr oedd set o wasanaethyddion wedi dyfod i'r ardal, anystyriol a thu hwnt i'r cyffredin o annuwiol. Gymaint oedd yr anystyriaeth a'r aflywodraeth fel yr ofnai yr ychydig grefyddwyr oedd yn aros fod yr Arglwydd yn anfon ei farnau ar y wlad. Yr amser hwn hefyd nid oedd yr eglwys ond wyth mewn nifer. Dechreuodd y Diwygiad, modd bynag, mewn ffordd yn ddiarwybod i'r bobl eu hunain. Yr oedd Thomas James, Gwyddgwian, yr hwn oedd frodor o Sir Aberteifi, wedi bod yn myn'd a d'od i'r sir hono, lle yr oedd y tân yn goddeithio i raddau mawr, ac yntau ei hun trwy hyny wedi ei danio gan y gwres. Cynhelid cyfarfod gweddi yn y capel yn fore un Sabbath, pryd yr oedd rhyw afael mwy na'r cyffredin yn y gweddïo a'r canu. Y Parch. Robert. Williams, Aberdyfi, oedd yn pregethu yno am 10 y Sabbath hwnw. Tra yr oedd yn agoshau at y capel, oblegid daethai y bore hwnw o'i dŷ ei hun yn Aberdyfi, safai ar y bont gerllaw, a sylwai fod rywbeth tra gafaelgar a nefolaidd yn y canu; teimlai rywbeth fel trydan yn myned trwyddo, nes ei godi i agwedd ysbrydoledig yn y fan. Torodd yn orfoledd mawr yn y capel y boreu hwnw. Dyma y tro cyntaf i Mr. Williams gael ei drwytho gan y diwygiad. Bu y Sabbath yn ddechreuad cyfnod newydd ar grefydd yn ardal. Toddodd y caledwch a'r anystyriaeth o flaen y dylanwad dwyfol; dychwelwyd llawer at grefydd, ac mae yr ardal yn gwisgo gwedd grefyddol o hyny hyd heddyw. Aeth llawer o flynyddoedd heibio wedi hyn heb fod yr un enaid o fewn y fro na byddai yn mynychu moddion gras. Mae rhif yr aelodau eglwysig yn awr yn 34. Yn ystod y chwe' blynedd ar hugain diweddaf cafodd yr eglwys y cymeriad o fod yn eglwys weithgar. Yn adroddiad gweinidog yr eglwys am ei lafur yno yn y flwyddyn 1869, yr hwn a ddarllenwyd yn y Cyfarfod Misol, ceir a ganlyn,—"Mae yr holl ardal yn dyfod i wrando yr efengyl heb ddim un yn esgeuluso. Mae dwy ran o dair o'r eglwys ar gyfartaledd yn dyfod ynghyd i'r society ganol yr wythnos, a byddant oll yn adrodd y pregethau a'u profiadau yn rhwydd. Bydd y meibion sydd mewn oed hefyd oll yn cymeryd rhan gyhoeddus yn y gwahanol gyfarfodydd. Cynhelir cyfarfod darllen un noswaith bob wythnos yn nhymor y gauaf, a bydd mwyafrif yr Ysgol Sul yn y cyfarfod hwnw." Yn y Cyfarfod Ysgolion a fu yno y flwyddyn hon (1887) dywedai yr arolygwr, nad oedd ond un yn yr ardal heb fod yn aelod o'r Ysgol Sul. Un peth hynod yn hanes yr eglwys ydyw, aeth pedair blynedd ar ddeg agosaf i'w gilydd heibio heb i ddim un o aelodau yr eglwys farw. Yr oedd colofn y marwolaethau yn yr Ystadegau eglwysig yn Maethlon yn 0 am bedair blynedd ar ddeg. Ar y dydd cyntaf o Ionawr, 1885, agorwyd y capel presenol. Un waith o'r blaen y buwyd yn agor capel yn yr ardal er creadigaeth y byd. Adeiladwyd ef yn y lle yr oedd yr hen gapel. Y cynllunydd oedd Mr. David Owen, Machynlleth. Yr adeiladydd, Mr. David Davies, Pennal. Y mae yn gapel hardd o fewn ac oddiallan, ac yn un o'r rhai mwyaf cysurus i lefaru ac i wrando o fewn y sir. Yr oedd yr holl draul gyda'r capel, a'r ychwanegiadau a wnaed ar y tŷ yn £313, ac fe dalwyd pob dimai o'r ddyled ddiwrnod ei agoriad, heb gael dim help o un mau ond yr hyn a wnaeth yr ardal ei hun, a'r hyn a gasglasant gan eu cymydogion a'u cyfeillion. Pregethwyd yn yr agoriad gan y Parchn. W. Thomas, Dyffryn, W. Williams, Corris, a J. Hughes, M.A., Machynlleth.
Y blaenoriaid a fu yma ar ol adeiladu y capel cyntaf oeddynt, John Jones, Llanerchllin; symudodd yn fuan i Aberdyfi. Robert Lewis, Fadfa; symudodd i Abertrinant. John Daniel, Erwfaethlon; ymfudodd ef a'i deulu i'r America. Bu John Vaughan, Brindinas, yn gwneyd gwaith blaenor am flynyddoedd, ond nid aeth i'r Cyfarfod Misol i gael ei dderbyn. Thomas James, Gwyddgwian, brawd i'r diweddar Barch. John James, Graig. Yr oedd ef yn llawn zel a gweithgarwch am y tymor y bu yn aros yn yr ardal. Symudodd i Sir Aberteifi, Daeth Hugh Owen, ac y mae yn awr yn aros yn Llundain. Tycapel, i'r ardal oddeutu yr un amser ag ef, a dyma y pryd y dechreuodd llewyrch ar yr achos. Robert Joncs, Erwfaethlon. Bu ef farw Rhagfyr 13eg, 1869, yn 43 oed. Dyn ieuanc egwyddorol a chrefyddol; cadarn yn yr athrawiaeth, ac yn neillduol o hyddysg yn yr Ysgrythyrau. Yn ei wybodaeth o'r Beibl, yr oedd yn rhagori ar bron bawb yn y wlad. Bu yr achos crefyddol yn cael gofalu am dano am flynyddoedd gan y ddau flaenor rhagorol, Hugh Owen, Tycapel, a William James, Dyffrynglyngil, am y rhai y ceir ychwaneg o hanes mewn penod arall.
Parch. Edward Roberts, Dyffrynglyngil.—Mab oedd ef i John Roberts, o'r lle uchod, a anwyd yn y flwyddyn 1814. Daeth i'r seiat o dan argyhoeddiad dwys, oddeutu 15 oed. Dewiswyd ef yn flaenor yn Maethlon yn 20 oed. Yn fuan, wedi hyny dechreuodd bregethu, a'i bregeth gyntaf oedd ar y geiriau, "Amser blinder yw hwn i Jacob, ond efe a waredir o hono." Aethi Athrofa y Bala; ond oherwydd afiechyd, gorfu iddo ddychwelyd adref ymhen wyth mis. Bu farw Rhagfyr 27ain, 1840. Yr oedd yn wr ieuanc hynod o grefyddol.
Parch. Humphrey Evans, Dyffryngwyn.—Daeth yma ychydig ar ol y flwyddyn 1850, a bu ei arhosiad yn y lle am tua 10 mlynedd, mewn adeg yr oedd yr eglwys yn ychydig mifer. Adnabyddid ef fynychaf wrth yr enw Humphrey Evans, Ystradgwyn, neu Humphrey Evans, Maethlon. Ond symudodd yn niwedd ei oes i fyw i Ddolgellau, ac yno y bu farw yn 1864. Dyn gonest, cywir, didderbynwyneb ydoedd. Triniai bawb yn ol eu natur a'u tymherau eu hunain, a dywedai ei feddwl yn blaen wrth bawb yn bersonol, ac wrth bregethu. Deuai ei ragoriaethau i'r golwg wrth gadw y cyfarfod eglwysig, ac wrth gyfranu yr Ordinhad o Swper yr Arglwydd. Adroddir hanesyn nodweddiadol o hono wrth fedyddio yn Maethlon. Yr oedd yn y Dyffryngwyn was o'r enw Isaac, dyn o Taliesin, Sir Aberteifi, a'i rieni yn perthyn i'r. Bedyddwyr, felly yr oedd Isaac heb ei fedyddio. Gofynai. H. E. iddo a garai ef iddynt ei fedyddio yn Maethlon. Yntau a ddywedai nad oedd yn dewis gwneyd hyn heb yn gyntaf ymgynghori â'i rieni. Wedi bod gartref, cafodd ganiatad gan. ei rieni. Yna aed i'w fedyddio yn y capel, a dywedai Humphrey Evans: "Nid yw Isaac yr un fath â ni; wedi ei ddwyn i fyny gyda y Bedyddwyr y mae ef, ac y maent hwy, fel y gwyddoch chwi, yn hoff iawn o ddŵr, a chan eu bod mor hoff o ddŵr, mi ddefnyddia i gymaint sydd yma o hono," a thywalltodd y dŵr oll ar ei ben. Dro arall, yr oedd yn bedyddio Morgan Jones, y bugail, yntau hefyd o Sir Aberteifi, ac wedi ei ddwyn i fyny gyda'r Bedyddwyr. Ar ol ei fedyddio,. dywedai H. E.,—"Wel, dyna ti wedi dy fedyddio; fe elli di fyn'd yn ol at dy bobl eto, ac iddynt hwythau fod eisiau dy fedyddio, ond cofia di na fydd hyny ddim yn fedyddio; fedyddir byth ond hyny monot ti——un ffydd, un bedydd os cei di dy drochi eto, fydd hyny ddim ond trochi fel trochi dafad."
John Jones, mab i John Daniel, Erwfacthlon, a ddechreuodd bregethu yn Macthlon, a chafodd ganiatad i fyned i Athrofa y Bala yn Nghyfarfod Misol Mawrth 30ain, 1843. Ymfudodd yn fuan wedi hyny i'r America. David Williams, Gwyddgwian, a fu yn ffyddlon gyda'r achos yma; efe am dymor oedd yn codi y canu. Ymfudodd yntau i America, a dechreuodd bregethu yno. Yma hefyd y dechreuodd y Parch. Owen Evans, Bolton, bregethu, mewn oedran tra ieuanc.
Y Parch. William Jones, Llanerchllin.—Adnabyddid ef yn agos i'w gartref wrth yr enw uchod, enw y ffermdy lle y preswyliai, ond mewn cylchoedd eangach, wrth yr enw William Jones, Maethlon, enw yr ardal. Symudodd ei rieni i'r ardal
hon o Talybont, Llanegryn, pan oedd ef yn ddyn ienanc. Yr oedd ei fam yn gyfnither i John Jones, Penyparc, ac megis y crybwyllwyd yn hanes Maethlon a Llanegryn, hynodid hi tu hwnt i bawb yn ei hoes oherwydd ei chrefydd a'i duwioldeb. Cafodd plant Talybont addysg grefyddol dda gan eu mam, ac yr oeddynt yn ffrwyth addfed wedi eu hachub ymhlith ieuenctyd cyntaf yr ardaloedd hyn, ar flaen llanw Diwygiad mawr Beddgelert. Yr oedd W. Jones felly yn un o'r rhai a gychwynodd tua'r wlad well o "dan awelon nefol" y diwygiad. Dewiswyd ei frawd John yn flaenor yn Maethlon, yn fuan wedi eu symudiad i'r ardal hon, ac yn union wedi hyny, sef tua 1827, dechreuodd William Jones bregethu. Parhaodd yn gyson yn y gwaith hyd ddiwedd ei oes dros ysbaid 28 mlynedd. Bu farw yn nghanol ei ddyddiau, ar ol uwchlaw blwyddyn o gystudd, Mawrth 21, 1855, yn 52 oed. Tridiau cyn ei ymddatodiad dywedai wrth y Parch. Humphrey Evans, ei gymydog a'i gyd-lafurwr yn y weinidogaeth, "Wel, Humphrey bach, dyma fi wedi myned i'r cyfyngder mawr; yr ydwyf yn Rhosydd Moab; byddaf yn yr Iorddonen yn fuan bellach." "Pa fodd yr ydych yn teimlo?" gofynid iddo. "Mae pobpeth wedi ei settlo," atebai yntau; nid oes genyf ddim i'w wneyd ond marw bellach. Dywedwch ar ol i mi fyned fod marw yn elw mawr i mi." Yr oedd yn ddyn siriol, mwynaidd, caredig, ac yn hynod o fedrus i dynu sylw plant a phawb, gyda'i lais soniarus a thoddedig. Yn ei ddull enillgar i gyfarch cynulleidfa rhagorai ar ei gydoeswyr. Llafuriodd lawer yn yr Ysgol Sabbothol, a'r Cyfarfodydd Ysgolion, yn ardaloedd ei gartref. Rhoddai ei ddawn rwydd, a'i lais soniarus, fantais fawr iddo fel holwyddorwr cyhoeddus. Safai yn uchel ymysg lliaws ei gyfeillion fel cyfaill tirion, ac fel gwasanaethwr da yn ngwinllan yr Arglwydd Iesu. Y diweddar Barch. Roger Edwards, Wyddgrug, a ddywedai yn dra chywir am dano, "Yr oedd yn ymadroddwr rhwydd, a chanddo lais mwyn ac ystwyth, ac yr oedd ei ymddygiadau yn hynod o serchog yn mhobman, ac yr oedd yn gymeradwy iawn gartref ac oddicartref. Pe cawsai hamdden i ymroi i lafurio yn y weinidogaeth, gallasai yn ddiau gyraedd defnyddioldeb mawr, a chryn enwogrwydd." Y mae mab iddo yn byw yn yr hen gartref eto. Mab iddo ef hefyd ydyw y blaenor gweithgar, Mr. W. Jones, Aberdyfi.
Blaenoriaid presenol Maethlon ydynt Mri. Lewis Jones, Richard Jones, Evan James. Bu yr ysgrifenydd mewn cysylltiad â'r eglwys o 1865 hyd 1883. Ac y mae eto yn para i fyned yno i gadw cyfarfodydd eglwysig.
ABERTRINANT
Yr enw boreuol ar y lle hwn, yn wladol a Methodistaidd ydoedd Llanerchgoediog, a'r enw a welir yn argaffedig gyntaf am y daith Sabbath ydyw "Llanerchgoediog, Llanfihangel, a Corris." Wrth yr enw hwn yr â yr ardal eto ar lafar gwlad. Pan yr adeiladwyd yno gapel y cafodd y lle yr enw newydd. Adeiladwyd y capel ar lecyn lle mae tair aber fechan, neu dri nant yn cydgyfarfod, ac yna yr enw—Aber-tri-nant. Ardal wledig ydyw, yn sefyll oddeutu haner y ffordd rhwng Bryncrug ac Abergynolwyn. Ac o ran y wedd allanol, a nifer y trigolion, erys yn awr yn debyg i'r hyn ydoedd gan' mlynedd yn ol.
Y crybwylliad cyntaf am Fethodistiaeth ardal Llanerchgoediog ydyw, ei bod yn un o'r manau yr ymwelai y brodyr o Ddolgellau â hwy, i'w cynorthwyo i gynal cyfarfodydd gweddïau a societies, yr hyn gymerodd le oddeutu 1793. Y flwyddyn ganlynol, ymunodd Harri Jones, Nantymynach, â chrefydd, yr hwn a ddaeth yn brif golofn yr achos yn yr ardal, ac yn un o'r dynion mwyaf defnyddiol gydag achos yr Arglwydd yn yr holl wlad. Y flwyddyn ganlynol i hon, sef blwyddyn yr erledigaeth fawr, 1795, rhoddwyd dirwy o £20 ar ŵr o'r enw Griffith Owen, Llanerchgoediog, am gynwys pregethu yn ei dŷ heb ei recordio yn ol y gyfraith. "Aeth y brawd Hugh Lloyd, un o flaenoriaid Dolgellau, a minau," ebe y Parch. Robert Griffith, Dolgellau, "yn ddioedi i Gorris, at Vaughan Jones, ac i Lanerchgoediog, at Griffith Owen, dau wr a rybuddiasid i dalu y ddirwy o £20 bob un, i gymeryd y llwon angenrheidiol, ac felly yr aeth yr ystorom hono heibio."
Ar ol y digwyddiad hwn, ni cheir fawr o ddim hanes sicr am: yr eglwys hon dros ysbaid 30 neu 35 mlynedd. Eto, yr oedd yma achos o hyd er y dechreu cyntaf, oblegid dywedir yn hanes bywyd Harri Jones, Nantymynach—yr hwn a ysgrifenwyd, mae'n debyg, gan J. Jones, Penyparc, y mwyaf hysbys o: bawb yn hanes yr ardaloedd hyn—fod y gŵr da hwnw, er yn flaenor yn Bryncrug hyd ddiwedd ei oes, yn gofalu cadw moddion ddwywaith y Sabbath yn Llanerchgoediog. Ar y cyntaf, nid oedd yno fawr neb ond ef a'i deulu yn aelodau crefyddol. Ac wedi i'r aelodau gynyddu, perthyn i eglwys Bryncrug yr oeddynt, a pharhaent i fyned i lawr yno ddau o'r gloch y Sabbath, ac i'r cyfarfod eglwysig nos Wener am lawer o flynyddoedd. Yn y flwyddyn 1817, yr oedd Robert Jones, Rhoslan, ar daith rhwng y Ddwy Afon, ac yn pregethu ar ddydd Sadwrn yn yr ardal hon; Nantymynach ydyw yr enw sydd ganddo yn ei Ddyddiadur am y lle, a derbyniodd swllt fel cydnabyddiaeth. Yn y flwyddyn 1818, yr oedd Lewis William, Llanfachreth, yma yn cadw ysgol ddyddiol, ac yr oedd ganddo 30 o blant yn yr ysgol. Y flwyddyn hono hefyd yr oedd cyfarfod athrawon taith Sabbath Bryncrug yn cael ei gynal yn Llanegryn, ac yn y cyfarfod hwnw, pasiwyd penderfyniad gan yr athrawon, i ddiolch 1 Harri Jones, Nantymynach, blaenor ysgol Llanerchgoediog, am ei bresenoldeb yn y cyfarfod, ac am ei wasanaeth i'r Ysgol Sabbothol." Dengys hyn mai efe oedd arolygwr yr ysgol, ac efe yn wir oedd pobpeth yr achos yn y lle hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le Gorphenaf, 1823. Anfonodd un o gyfeillion y lle, Mr. Howell Jones, Doldyhewydd, ychydig o hanes dechreuad yr Ysgol Sabbothol yn Abertrinant i ni ryw bedair blynedd yn ol. Dywed ef ar ol gwrando a sylwi ar y traddodiadau yn yr ardal, mai yn meudy Nantymynach y dechreuwyd cadw yr ysgol, oddeutu dechreu y ganrif hon. A dywed yn mhellach nad oedd Harri Jones ar y cyntaf yn bleidiol i'r ysgol, er rhagored gŵr ydoedd, ond wedi iddo gael ei enill o'i phlaid daeth yn gefn mawr iddi. Cafodd llanciau yr ardal ar eu meddwl i gychwyn Ysgol Sul o honynt eu hunain, a chynorthwyent y porthwr i ollwng y gwartheg allan o'r beudy, ac wedi ei lanhan eisteddent ar bren y preseb, i gario ymlaen waith yr ysgol. Y nifer a ddaeth ynghyd y tro cyntaf oedd chwech, ond cynyddasant cyn hir i oddeutu ugain. Nid oedd neb yn eu plith yn proffesu, ac felly dechreuent ar waith yr ysgol heb weddïo, dim ond trwy ddarllen a chanu yn unig. Ar ol i Harri Jones ymuno â'r ysgol, symudwyd hi o feudy Nantymnynach, i un o'r tai sydd yn ymyl y capel presenol, yr hwn a gymerwyd o dan ardreth flynyddol, ac yn y tŷ hwnw y buwyd yn addoli hyd ar ol marwolaeth Harri Jones. Cynydd a llwyddiant yr Ysgol Sul a barodd iddynt benderfynu adeiladu capel. Oddeutu yr amser hwn hefyd, feallai, yr aethant yn eglwys ar wahan yn hollol i Bryncrug, a dywedir fod rhif yr aelodau o 15 i 20 pan yn symud o'r tŷ anedd i'r capel.
Dyddiad gweithred y capel am y tro cyntaf ydyw, Mai 12ed, 1832. Ac mae yn sicr mai oddeutu y pryd hwnw yr adeiladwyd ef. Hyd y brydles, 99 mlynedd; yr ardreth, chwe swllt yn y flwyddyn. Prynwyd y brydles i fyny yn 1871, am 30p., ac y mae y lle feddiant i'r Cyfundeb yn awr. Tua'r un adeg, hefyd, sicrhawyd mynwent yn perthyn i'r capel. Gorphenwyd clirio y ddyled y tro cyntaf yn 1839. Casglodd y gynulleidfa at y ddyled y flwyddyn hono 16p. 8s., i'w gyflwyno i'r casgliad cyffredinol, a chyflwynwyd yn ol iddi hithau 41p. 5s. 6c. Yn y flwyddyn 1876, adnewyddwyd a helaethwyd y capel, gyda thraul o oddeutu 100p. Gall eistedd ynddo, 112. Gwerth presenol y capel a'r eiddo perthynol iddo, 293p. Harri Jones, Nantymynach, oedd yr unig flaenor a fu yn gofalu am yr achos yn Abertrinant am 30 mlynedd o'i gychwyniad cyntaf. Blaenor neu olygwr ar eglwys Bryncrug ydoedd ef, a'r gangen fechan yn Abertrinant yn gwbl dan ei ofal. Ar ol ei farw ef, daeth ei fab, Morris Jones, yn flaenor yn ei le, ac yr ydoedd yntau yn fab teilwng i dad teilwng. Gellid meddwl fod y mab yn rhagori ar y tad mewn rhyw bethau, oblegid yn ei amser ef yr adeiladwyd y capel cyntaf yn yr ardal. Teilynga teulu Nantymynach fwy o sylw na'r cyffredin oherwydd eu cysylltiad â'r achos. Heblaw tŷ Griffith Owen y cyfeiriwyd ato, Nantymynach oedd cartrefle achos crefydd yn yr ardal am oddeutu deng mlynedd a thriugain; yno yr oedd llety y pregethwyr o'r dechreu, ac yno y buont hyd farwolaeth Morris Jones, ac i sicrhau yr un fraint i'r teulu, gwnaeth Morris Jones yn ei ewyllys iddynt gael bod yno ar ol ei ddydd ef, tra byddai byw ei briod. Ac fe gyflawnwyd yr ewyllys. Priododd Mrs. Jones drachefn un o'r enw David Jones, o Fachynlleth. Aelod gyda'r Annibynwyr oedd ef, ac am ychydig ar ol priodi elai i Fryncrug, at ei bobl ei hun. Ymhen peth amser, dywedai wrth Hugh Owen, y Tyno, "Daf fi ddim at y Sentars eto, mae yn gam â'r wraig a'r plant bach acw i mi fyn'd." Cafwyd Mr. Humphreys, o'r Dyffryn, yno i dderbyn Mr. Jones at y Methodistiaid, yr hwn a ddywedai wrth ei dderbyn, "Dydym ni ddim yn eich rhwymo chwi i beidio myned at eich pobl eto yn awr ac yn y man." "O na, Mr. Humphreys," ebe yntau, "nid oes arnaf fi ddim eisiau myned byth mwy—yn gwbl oll bellach." Neillduwyd ef yn flaenor yn 1852. Parhaodd y tŷ yn llety pregethwyr am flynyddoedd wedi hyn, hyd nes y symudodd y teulu o'r ardal i fyw. Bu John Jones, un o feibion y briodas hon, yn flaenor cymeradwy yn y Dyffryn, ac y mae dau eraill o'r meibion yn ffyddlon gyda'r achos yn America.
Yn Mai, 1840, yr oedd y brodyr Hugh Owen a John Humphreys yn cael eu neillduo i fod yn flaenoriaid yn Abertrinant. Symudodd Hugh Owen i Maethlon, ac ynglyn â'r lle hwnw yr oedd yn fwyaf adnabyddus. John Humphreys, Tymawr, oedd ei gydswyddog yn Abertrinant y pryd hwn.
Robert Lewis, o'r Fadfa, yn agos i Maethlon, a ddiweddodd ei oes fel blaenor yn yr eglwys hon. Bu adeg arno yr oedd yn isel iawn ei ysbryd, ond yn y cyflwr hwnw daeth yr adnod ganlynol i'w feddwl, "Ti a gedwi mewn tangnefedd heddychol yr hwn sydd a'i feddylfryd arnat ti," a thrwy offerynoliaeth yr adnod hon ymadnewyddodd drwyddo, ac ar ol hyn bu farw fel tywysog. Yr oedd yn byw yn nhŷ'r capel, ac yn amser y diwygiad yn fethiantus ac yn analluog i fyned i'r moddion. Clywai y pregethu o'r tŷ, a gorfoleddai yn ei wely gymaint a neb yn y capel.
Bu Mr. Evan Ellis yn flaenor yma am ysbaid cyn iddo symud a chael ei ddewis yn Abergynolwyn.
Edward Jones, Tanycoed, a neillduwyd i'r swydd o flaenor ymhlith y set ddiweddaf a ddewiswyd. Gŵr tawel, tangnefeddus, doeth, a chrefyddol oedd efe. Symudodd i fyw i Dowyn, a bu farw yn gynar yn y flwyddyn 1885.
Byddai Cyfarfodydd Misol yn cael eu cynal yn Abertrinant amser yn ol. Ymddengys mai yr olaf fu yma oedd yn 1850, pryd y llywyddai y Parch. Robert Williams, Llanuwchllyn. Nid oedd ond un blaenor yn yr eglwys y flwyddyn hono. Yn y blynyddoedd rhwng 1844 a 1864, nid oedd yma ond an blaenor y rhan fynychaf, ac weithiau heb ddim un. Cyn y Diwygiad Cyffredinol, 1860, yr oedd yr achos yn isel iawn yn Abertrinant—nid oedd ond dau neu dri a arferai gynal moddion yn gyhoeddus—ond teimlwyd pethau grymus yno yr adeg hono. Enillodd yr eglwys nerth ac yni yn yr adfywiad, ac y mae wedi cadw y nerth a'r yni hyd heddyw. Daeth yr ardal yn gyfan oll i broffesu crefydd. Yr oedd yno un heb ildio i aros yn y seiat yn niwedd y diwygiad, sef William Roberts, Coedygo, ac oherwydd ei fod wedi ei adael yr unig un a elai allan o'r gynulleidfa, teimlai yn bur anesmwyth ei hun, a thynai sylw pawb ato. Ond pan oedd y Parch. E. Morgan, Dyffryn, yno yn pregethu ar y geiriau, "Efe a eiriolodd dros y troseddwyr," arosodd yntau ar ol. Aeth Mr. Morgan ato a gofynodd iddo, "Oeddych chwi yn meddwl aros er's talm?" "Oeddwn wir, Mr. Morgan," ebe yntau, "yr oeddwn mewn profedigaeth fawr, fwy nag allech feddwl. Yr oedd y plant yma, a fy ngeneth i fy hun, yn dweyd y buasai yn ddrwg iawn arnaf os na arhoswn ar ol. Yr oedd genyf ffrindia' yn Nolgellau, ac yn Llwyngwril, aethum yno i ofyn eu cyngor, ac yr oeddynt i gyd yn dweyd fod yn well i mi aros. O'r diwedd, gofynais i Sian Ellis yma, y mae genyf gymaint o feddwl o honi hi â neb,—dyma hi yma i chwi, a phawb yn dweyd y byddai yn well i mi aros." "A ydych chwi yn meddwl eich bod chwi yn bechadur?" gofynai Mr. Morgan, "Ydwyf, yn bechadur mawr iawn, Mr. Morgan, y mwyaf sydd yn y lle yma, mae pawb sydd yma yn gwybod hyny." Ni raid dweyd fod llawenydd a gorfoledd mawr yn ngwydd pawb oedd yn bresenol y Sabbath hwnw, wrth weled yr olaf un wedi bwrw ei goelbren yn eglwys Dduw. Nos Lun ar ol y Sabbath, yn y cyfarfod gweddi, gofynwyd i William Roberts am ledio penill a myned i weddi. "Gwna i fel y medra i, Hugh Pugh," ebe yntau, a rhoddodd y penill canlynol allan:—
"Pechadur wyf a redodd yn gyflym tua'r tân,
Trugaredd yn gyflymach a redodd o fy mlaen;
Ymleddais â thrugaredd nes iddi 'nghael i lawr,
Trugaredd aeth yn drechaf, 'rw'n foddlon iddi'n awr."
Canu a chanu y penill y buont, a dyblu a threblu, drachefn a thrachefn, nes i'r hen ŵr flino, ac aeth ar ei liniau i weddïo cyn iddynt orphen canu.
Fel y crybwyllwyd, y mae eglwys Abertrinant yn meddu hoewder a gweithgarwch mwy na'r cyffredin byth er amser y diwygiad. Diameu i lawer fod yn wasanaethgar i achos crefydd heblaw y rhai a nodwyd uchod. Teilwng ydyw crybwyll am hen chwaer oedd yn bwy yn nhŷ y capel. Os byddai yn digwydd bod yn Sabbath cymundeb, mor gynted ag y cyrhaeddai y gweinidog i'r tŷ at yr odfa ddau o'r gloch, ac yr eisteddai, gofalai y chwaer hon am ddweyd yn ei glust, "Mae yr ordinhad i fod ar ol y bregeth." Chwareu teg iddi am roddi cymaint a hyn o rybudd i'r gweinidog. Dechreuodd un bregethu o'r eglwys hon, Mr. Hugh Pugh, yn awr o'r Gwynfryn. Blaenoriaid presenol yr eglwys ydynt, Mri. John Williams, Evan Evans, John Roberts, a John Price: ac y mae y lle yn daith Sabbath gyda Bryncrug.
ABERDYFI
Bu Aberdyfi yn hwy nag odid o le yn y cylchoedd hyn heb yr un tŷ addoliad. Nid oedd yma nac eglwys wladol na chapel Ymneillduol gan neb cyn y flwyddyn 1828, ac yn niwedd y flwyddyn hono yr agorwyd y capel cyntaf erioed yn y lle gan y Methodistiaid Calfinaidd. Mae yn wir fod y Wesleyaid wedi dechreu adeiladu capel flwyddyn neu ddwy cyn hyn, ond cyfarfuwyd â rhwystrau, fel na agorwyd eu capel hwy hyd y flwyddyn ar ol 1828. Bychan a dinôd oedd y lle yn flaenorol i'r adeg yma, ac ychydig oedd nifer y trigolion. Y mae llawer o bobl yn awr yn fyw sydd yn cofio y lle heb ond ychydig iawn o dai, a'r rhai hyny yn salw a llwydaidd yr olwg arnynt. Cynyddodd y boblogaeth yn raddol, heb fod gweithfeydd na dim o'r fath yn yr amgylchoedd yn peri y cynydd. Ymhen rhyw gymaint o amser ar ol 1830, fe ddarfu y diweddar Mr. Owen Williams, ac un arall, wrth gasglu at y Feibl Gymdeithas, rifo y trigolion a'u cael yn 500, ac o'r nifer hwn yr oedd mwy o ferched nag o feibion o 50. Yn awr mae y boblogaeth o 1100 i 1200. Yn y flwyddyn 1827 y gwnaethpwyd y ffordd fawr o Bennal, trwy Aberdyfi, i Dowyn, yr hyn a fu yn fantais fawr i'r lle, oblegid cyn hyny nid oedd y ffordd iddo o bob cyfeiriad ar y tir ond anhygyrch. Cynyddodd y lle yn fawr, hefyd, tuag amser gwneuthuriad rheilffordd glanau Cymru. Cydnabyddir fod yr hinsawdd yma yn dra chynhesol, ar gyfrif fod y pentref yn gwynebu haul y boreu, ac yn cael ei gysgodi gan y bryniau o'r tucefn rhag gwynt y Gogledd, ac y mae felly yn fanteisiol iawn i bobl weiniaid auafu, yn gystal ag yn at-dyniad i ymwelwyr o bob. gradd yn yr haf.
Er fod Aberdyfi, hyd yr amser y cyfeiriwyd ato, yn ddinod a llwydaidd yr olwg arno, eto, bu yn lle nid anenwog mewn cysylltiad â hynafiaethau a hanesiaeth yr oesoedd a aethant heibio. Yr oedd unwaith yn brif borthladd môr-gilfach Ceredigion. Y mae yn bresenol, hefyd, yn prysur gyfodi i sylw yn yr ystyr hwn. Bu hen gewri y Cymry, yn wleidyddwyr, rhyfelwyr, beirdd, a llenorion, yn chwareu rhan bwysig yma. Gan fod y lle ar derfynau y De a'r Gogledd, dioddefodd yn arw lawer tro oddiwrth gadgyrchiadau a wneid gan Dywysogion y Taleithiau i feddianu hawliau a thiriogaethau y naill a'r llall. Dywedir hefyd i long Hispaenaidd ddyfod i borthladd Aberdyfi yn 1597, gyda'r bwriad o anrheithio y trigolion. Ac ymddengys oddiwrth ryw linellau sydd ar gael, fod y newydd am dani wedi ymdaenu yn ebrwydd ar led, a bod y beirdd wedi codi i fyny yn llu i fwrw allan eu taer ddymuniadau am i'r llong hon gyfarfod a'r un dynged a'r Spanish Armada yn 1588, yr hyn hefyd a gymerodd le, gan i'r gwynt ei hyrddio yn ol i'r môr cyn iddi lanio. Crybwyllir y pethau hyn yn unig i roddi rhyw syniad am y porthladd yn yr oesoedd a basiodd.
Y mae sicrwydd fod yn Aberdyfi "achos" amser maith cyn adeiladu y capel cyntaf, yn 1828. Yr oedd wedi dechreu mewn rhyw wedd ddeugain mlynedd yn gynt. Yr hanes cyntaf ar gael o berthynas i'w ddechreuad ydyw, am un o'r enw John Lewis, yr Hen Felin, yn derbyn pregethu i'w dŷ. Efe, ynghyd ag Edward Williams, Towyn, a'r ddau Jones, o— Dyffryngwyn, oeddynt y pedwar cyntaf yn mhlwyf Towyn a ymunasant â'u gilydd i gyd-weddïo, mewn unrhyw fan y caent dawelwch a llonyddwch. Y mae sicrwydd eu bod yn cyd-gyfarfod ac yn derbyn pregethu i'w tai ryw gymaint o amser yn flaenorol i 1795—feallai rai blynyddoedd yn gynt. Y mae, neu yn hytrach yr oedd yr Hen Felin mewn cwm cul, hynod o'r neillduedig, sydd yn arwain i fyny oddiwrth balasdy Trefry, rhyw filldir o bellder o Aberdyfi, y ffordd yr eir i Bennal, ac o fewn cyraedd golwg o'r ffordd fawr bresenol. Mae yr adeilad wedi ei dynu i lawr er's llawer blwyddyn, a dim ond rhan o hono yn aros. Dyma y lle y dechreuwyd yr achos yn Aberdyfi. Clywodd y bobl hynaf sydd yn fyw yn awr lawer o son am Mr. Foulkes, Machynlleth, a Mr. Charles yn dyfod i bregethu i'r Hen Felin. Y mae traddodiad y byddai Mr. Foulkes a'r dagrau ar ei ruddiau yn perswadio pechaduriaid tywyll y lle hwn, er cymaint y diystyrwch a'r anmharch a ddangosid tuag ato. Dywedir fod haid o erlidwyr unwaith wedi dyfod i lawr o Dderwenlas, gan feddwl ei rwystro a'i luchio â cherig, ond pan welsant ei foneddigeiddrwydd a'i ddagrau iddynt ildio, a gadael iddo fyned ymlaen bregethu. Bu William Hugh, Llechwedd, hefyd, yma yn cadw ysgol ddyddiol o dan Mr. Charles. Heblaw yr ychydig grybwyllion hyn, nid oes dim o hanes yr Hen Felin na'i phreswylydd ar gael.
Y lle y cedwid y moddion wedi hyn ydoedd, yn y Tŷ Coch, Penhelig. Yr oedd y lle hwn gryn lawer yn nes i bentref Aberdyfi. Yr un teulu oedd yn perchenogi yr Hen Felin a'r Tŷ Coch, sef hynafiaid y diweddar Rector Griffiths, Merthyr, a hwy felly roddodd ganiatad i agor y drws gyntaf i'r efengyl yn Aberdyfi. Ann Bowen, a Dafydd Ellis, ei gwr, oedd yn byw yn y Tŷ Coch. Yr oedd y wraig hon yn nodedig o grefyddol, ac felly enwir hi o flaen ei gwr. Nid oedd ef yn proffesu, ac eto yr oedd yn ffafriol i'r pregethu oedd yn ei dŷ. Gwneid yr eglwys a'r gynulleidfa i fyny bron yn gwbl yr adeg foreuol hon o wragedd crefyddol, a phan y gwelai Dafydd Ellis hwy yn dyfod dros y banciau ar foreu Sul, dywedai wrth ei wraig, Ann Bowen, "Tyr'd, Nanci bach, mae gwragedd y clogau yn dyfod." Gwraig dduwiol iawn arall oedd Sian Hugh. Bu hi yn cadw ysgol ddyddiol yn Aberdyfi am ryw gymaint o amser. Y ddwy chwaer hyn, Ann Bowen a Sian Hugh, fyddai yn cadw y cyfarfod eglwysig, un yn ei ddechreu a'r llall yn ei derfynu trwy weddi, a phob moddion yr un fath, ond y pregethu yn unig. Adroddai y diweddar Barch. Foulk Evans, Machynlleth, yn agos i ddiwedd ei oes, yr hanes am y tro cyntaf y daeth i Aberdyfi. Yr oedd wedi dyfod yr holl ffordd o Lanuwchllyn, a chedwid seiat yn Aberdyfi nos Sadwrn. Synai yn fawr iawn weled merched yn gwneyd pob peth yno yn gyhoeddus, ac oherwydd ei fod yn ddyn ieuanc, teimlai yn hynod swil yn eu plith. Y tymor y bu y moddion yn cael eu cynal yn Tŷ Coch, mae'n debyg, ydoedd ychydig o ddiwedd y ganrif ddiweddaf, ac ychydig o ddechreu y ganrif hon.
Bu pregethu ac Ysgol Sul dros ryw dymor yn y Volgraig, ffermdy yn agos i haner y ffordd o Aberdyfi i Bennal. Bu Lewis Williams, Llanfachreth, yno yn cadw ysgol ddyddiol, ac y mae llythyr maith o'i eiddo ar gael wedi ei ddyddio yn y Volgraig, Awst 1811. Llythyr ydyw at un o ymddiriedolwyr ysgolion Madam Bevan, yn cynwys ei olygiadau gyda golwg ar yr ysgolion hyny, ac yn gwrthod ar y pryd y cynygiad i fod yn ysgolfeistr ar un o honynt. Ceir, hefyd, fod y moddion wedi bod yn cael eu cynal mewn tŷ yn mhen uchaf pentref Aberdyfi. Yr oedd John Hughes, Pontrobert, yn gweddïo unwaith yn y tŷ hwn, ac ar ganol y weddi fe darawodd y bwrdd a'i ddwrn, nes diffodd y ganwyll. Cafodd gelynion crefydd wybod am y tro, a dywedent y weddi hono—"Dyna weddi dywyll yn sicr."
Wedi hyn, symudwyd y moddion i ystafell a elwid y Store-house, ac yma y buwyd yn addoli am oddeutu ugain mlynedd, hyd nes yr adeiladwyd y capel. Yr oedd y moddion wedi dyfod bellach i ganol y pentref, a'r lle mwyaf manteisiol i'r boblogaeth. Math o oruwch-ystafell oedd y Store-house, wrth ymyl y môr, ac yn gwynebu y porthladd. Dywedai y diweddar Owen Williams ei fod yn cofio bod mewn Ysgol Sul ynddi tra yn ieuanc, pan y daeth llong i mewn i'r porthladd yn amser yr ysgol ar y Sul, a chododd yr holl ysgolheigion o'u lleoedd, gan adael eu llyfrau a'u Beiblau, ac aethant at y ffenestr, i edrych ar y llong yn dyfod i mewn i'r porthladd. Peth lled ryfedd ynglŷn â'r achos yma ydyw, iddo gael ei gario ymlaen am fwy na deng mlynedd ar hugain o'i gychwyniad heb yr un blaenor wedi ei osod ar yr eglwys. Gwragedd a merched oedd yn gwneyd i fyny y rhan liosocaf o lawer o aelodau yr eglwys yr holl amser hwn. Amrywiai nifer yr eglwys cyn y flwyddyn 1820 o 12 i 20. Wrth edrych dros restr yr aelodau, gwelir nad oedd dim ond dau ddyn yn perthyn i'r eglwys rai o'r blynyddoedd uchod; ac am un flwyddyn, ni cheir ond un dyn: merched oedd yn yr eglwys oll ond un. A phan oedd rhifedi yr eglwys wedi cyraedd 40, yr oedd 30 o'r nifer hwn yn ferched, a 10 yn feibion. Dyma enwau aelodau yr eglwys yn 1809— John Williams, Jane Williams, Mary Morris, Anne Ellis, Jane Hugh, Margared Watkin, Jane Daniel, Anne Ellis, Ellinor Morris, Ellinor Kelley, Mary Peters, Margared Peters, Anne Peters, Margared Ellis. Ni chafwyd yr enwau yn foreuach na'r flwyddyn hon, a chan na cheir enw Anne Bowen yn eu plith, y tebyg ydyw ei bod hi erbyn hyn wedi marw. Yn y rhestr ar ddechreu 1812, John Williams ydyw yr olaf, a'r merched i gyd o'i flaen. Yr ydym yn cael fod amryw o'r chwiorydd a enwir yn y rhestr uchod yn cymeryd rhan flaenllaw gyda'r achos am flynyddau wedi hyn. A gadael allan y pregethu, yr hyn a wneid gan y pregethwyr a lanwent y Sabbothau, ac a ddelent heibio ar eu taith, merched oedd yn gwneyd yr holl wasanaeth gyda'r achos yn Aberdyfi, yn allanol ac ysbrydol. Hwy oedd yn cadw y cyfrifon, yn galw enwau yr aelodau, yn derbyn y casgliadau, yn chwilio am gyhoeddiadau, yn talu i'r llefarwyr, yn gofalu am dalu rhent yr ystafell, am ganwyllau, a phob taliadau eraill. Y mae llyfrau eu cyfrifon am amryw flynyddau ar gael. Gwir nad oedd ganddynt yr un drefn ddeheuig yn hyn, na'r un drychfeddwl am book-keeping, oblegid mae eu cyfrifon frith drafflith, y taliadau a'r derbyniadau ar yr un tudalen, yn ol yr amser y derbynid ac y telid yr arian. Fel engraifft o'u dull o gario pethau ymlaen, ceir, ymhlith eraill, yr items canlynol ymysg eu cyfrifon:—"I Anne Ellis ar ol llefarwyr, 8s. O½c.; Casgliad Bach a chanwyllau, 5s. 3c.; i Mary Morris am ddiod, 3s. 7c.; ceirch, 6c.; Mary Morris wedi rhoddi i'r llefarwyr, 2s.; Margared Peters wedi rhoddi i'r llefarwyr, 4s. 9c,; dyled i Paly, 3s.; ar ol diod, a'r ceffylau, 16s. 7c.; ar ol llefarwyr, 1s. 2c.; dyled ar ol llefarwyr i Paly Morris, 5s.; talu ar ol cyfarfod mawr llefarwyr, 7s.; am wair, 4s. 6c.; am ddiod, 4s." Ceir unwaith un wedi rhoddi 10s. at glirio yr achos; pryd arall, ysgrifenir fod y llyfr yn rhydd. Dyma eto y symiau a dalent i'r pregethwyr a ddeuent yma i bregethu ar y Sabbath ac ar eu taith—Robert Griffith, (Dolgellau), 1s.; John Hughes (Bontrobert), 1s.; John Evans a'i gyfaill, 2s.; Robert Owen, 1s.; Isaac James, 1s.; Foulk Evan (Llanuwchllyn), 1s.; William Hugh, 1s.
Ar ol 1820 mae yr eglwys yn dechreu cynyddu, ac mae Lewis Williams, yr ysgolfeistr, yn ceisio rhoddi pethau mewn trefn, trwy osod rhai o'r dynion i ofalu am y casgliadau. Tynwyd allan gynllun i'w osod o flaen ymwelwyr oeddynt i ymweled â'r eglwys, a dyma ragymadrodd Lewis Williams i'r cynllun "Cynygiad ar drefn i gario yr achos ymlaen yn Aberdyfi, yn ei ranau allanol, a sefydlwyd mewn cydgynulliad a gynhaliwyd yno Mai 7fed, 1821, os bydd i chwi, ein hanwyl ymweledyddion, ei gymeradwyo." Yr oedd pedwar o gasgliadau sefydlog i ofalu am danynt, y Casgliad Misol, Casgliad y Rhent, y Casgliad Chwarterol, a'r Casgliad Bach. Y cynllun y cyfeirir ato oedd, fod dynion penodol i ofalu am bob un o'r casgliadau hyn, a threfniadau yn cael eu gosod pa fodd i'w derbyn, i'w cadw, ac i'w talu, ac yr oeddynt i wneuthur cyfrif a setlo bob haner blwyddyn os nad yn amlach, a "Lewis. Williams i fod yn gynorthwyol at bob casgliad hyd eithaf ei allu." Diben casgliad y rhent oedd i dalu am y Store-house, yr hyn oedd yn 4p. y flwyddyn. Yr oedd y ddau olaf i'w talu yn gyson yn y Cyfarfod Misol. Elai y Casgliad Chwarterol i dalu dyled y capelau yn y sir, neu, feallai, yn y Gymdeithasfa yr adeg yma, a'r swm o Aberdyfi oedd 8s. y chwarter; a swm y Casgliad Bach, sef yr un a'r Casgliad Misol, yr hwn a delir yn y Cyfarfod Misol bob mis hyd yn bresenol, oedd 6c. Yr oedd hefyd yr hyn a elwid Casgliad yr Ysgol, sef y swm o 28. 6c. yn chwarterol, ac a delid yn rheolaidd yn y Cyfarfod Misol. Ac yr oedd Lewis Williams wedi ei benodi i dalu y rhai hyn dros yr eglwys i'r Cyfarfod Misol er y flwyddyn 1816, pryd nad oedd neb ond y chwiorydd yn gofalu am yr achos. "Mehefin 15, 1816, mewn cydgynulliad fe benderfynwyd i mi weinyddu dros yr eglwys yn Aberdyfi yn y Cyfarfod Misol, i dalu eu casgliadau yn eu hamser priodol, &c." Pan yn rhoddi gofalon pethau allanol yr eglwys i ofal y meibion, nid oes son am dalu diolchgarwch i'r chwiorydd, y rhai a fu mor ffyddlon a diwyd gyda holl amgylchiadau yr achos am gynifer o flynyddau, yr hyn yn sicr a ddylesid ei wneuthur. Ond er na roddwyd diolchgarwch yn ffurfiol iddynt y mae eu henwau yn barchus. ac yn berarogl oherwydd y gwaith a wnaethant gydag achos yr Arglwydd yn ei fabandod yn Aberdyfi.
Gwnaeth L. W., hefyd, waith mawr yn Aberdyfi, fel gofalwr manwl am yr achos yn ei holl ranau, canys bu yno yn cadw ysgol lawer o wahanol gyfnodau yn ystod y tymor rhwng 1800 ac 1824. Lle bynag yr arosai ef, byddai pob gewyn o hono ar waith yn gwneuthur "daioni i bawb, ond yn enwedig i'r rhai sydd o deulu y ffydd." Anhawdd, os nad anmhosibl, cael neb mor debyg ag oedd ef i Timotheus, "Yr hwn a wir ofala am y pethau a berthyn i chwi." Yr oedd serch y trigolion wedi ymglymu cymaint wrtho, fel, pryd bynag yr elai i Aberdyfi, i bregethu, unrhyw adeg ar ei oes wedi hyn, y byddai yr hen bobl yn barod i'w gofleidio. Prawf o'i ddirfawr fanylwch ydyw y papyrau y mae wedi gadw am waith yr Arglwydd yma a manau eraill rhwng y Ddwy Afon. Pan yr oedd yma yn cadw ysgol yn 1817, anfonwyd llythyr ato oddiwrth flaenoriaid Salem, Dolgellau, i erfyn arno ddyfod yno i gadw ysgol. Mae yntau yn ateb y llythyr hwnw Ionawr 17eg, y flwyddyn hono, ac mae y dyfyniad canlynol o'i lythyr yn dangos ei onestrwydd dihafal:—"Mae taerni fy anwyl ysgolheigion yn Aberdyfi, ynghyd â fy anwyl gyfeillion yn mron tori fy nghalon. A golwg ar iselder yr achos yn ein plith, ac y byddaf inau wrth symud yn foddion i'w iselhau yn is, nis gwn beth a wnaf. Nis gallaf ddisgwyl cael rhan yn ngweddïau fy mrodyr a'm chwiorydd, i ddyfod i'ch plith chwi yn bresenol (yr hyn yr wyf yn ei gyfrif yn fraint fawr), ac o ganlyniad y mae arnaf ofn y bydd gŵg Duw arnaf, ac os felly, nis gallaf fod o un buddioldeb yn eich plith. Ystyriwch y mater." Ymha le y cyfarfyddir â dyfnach hunanymwadiad, ac uniondeb amcanion mwy rhagorol? Ymhlith ei gofnodion ceir sylwadau ar bersonau a dderbynid i'r eglwys yn Aberdyfi, ac a ddisgyblid yn yr eglwys, &c. Medi 7fed, 1821, ysgrifena, "Nifer y personau yn y society yn Aberdyfi, 32. Mae un wedi cael ei ddiarddel yn ddiweddar am feddwi, ac y mae wedi cynyg ei hun yn ol Medi 7fed; fe ganiatawyd iddo ryddid i fod ar drial am ryw ysbaid o amser. Y tro hwn, fe ddaeth gwraig arall i'r society, na bu erioed o'r blaen, ac arwydd boddlongar a graddau o oruchwyliaethau yr Ysbryd Glan ar ei chyflwr. Rhoddwyd rhyddid iddi i ddyfod i'r cydgynulliad, ac anogaethau iddi i lynu wrth y moddion, ac y caid ymddiddan â hi eto mewn modd o roi derbyniad i fod yn gyflawn aelod o'r eglwys." A ganlyn sydd engraifft o roddi tocyn aelodaeth y pryd hwnw:—
"Mae eglwys Dduw yn Aberdyfi yn dymuno llwydd Jane Davies yn lle bynag yr elo, ac ar iddi gael ei derbyn i ymgeledd yr eglwys, mewn hyfforddi, ceryddu, a diddanu; ac yn tystiolaethu ei bod yn aelod yn Aberdyfi gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ac iddi air da gan bawb hyd y gwyddom, a chan y gwirionedd ei hun. Am hyny, derbyniwch hi atoch. A hyn, dros yr eglwys, trwy
Yn y flwyddyn, 1827, dechreuwyd adeiladu y capel. Perthyn i ystad Ynysmaengwyn yr oedd bron yr oll o Aberdyfi, a theulu a'u llaw yn erbyn y Methodistiaid, fel y gwelwyd, oedd y teulu hwn. Diameu mai hyn fu yr achos iddynt fod mor hir yma heb adeiladu capel. O'r diwedd cafwyd lle i adeiladu yn nghanol y pentref, gan olynydd yr hwn fuasai gynt yn gymaint erlidiwr. Caniatawyd prydles tros 99 o flynyddoedd, am ardreth o 5s. yn y flwyddyn. A gwnaed y capel i gynwys eisteddleoedd i 134. Er fod y lle yn nghanol y pentref, lle diwerth iawn ydoedd, oblegid rhedai afon drwyddo i lawr i'r ôr, ac aethpwyd i draul fawr i gau yr afon i fyny, gan ei bod yn rhedeg drwy y lle yr oeddynt i adeiladu y capel arno. Yr oedd Mr. Owen Williams yn ddyn ieuanc, 27ain oed, y flwyddyn hono, a newydd ymsefydlu yn Aberdyfi. Arno ef y disgynodd y gorchwyl o fyned i'r Cyfarfod Misol i ofyn caniatâd i'w adeiladu. Adroddai yn nechreu y flwyddyn y bu farw yr hanes am dano yn myned i Gyfarfod Misol Dolyddelen ar y neges, pellder rhwng myned a dyfod o 100 milldir. Yr oedd Dolyddelen ac Aberdyfi yr adeg hon yn perthyn i'r un Cyfarfod Misol. Cysgai yn Nolgellau noswaith wrth fyned, ac yn Nhrawsfynydd, yn nhŷ yr hen bregethwr John Peters, wrth ddychwelyd. Yn y Cyfarfod Misol yr oeddynt yn ei holi yn fanwl pa le yr oeddynt yn myned i adeiladu y capel, am ei faint, pwy oedd yn myned i'w adeiladu, a pha le yr oeddynt yn cael arian. "Ac yn y Cyfarfod Misol hwnw," meddai, "yr oedd achos Cadwaladr Owen, a David Jones, Caernarfon, yn dod ymlaen iddynt gael dechreu pregethu."
Gwaith mawr oedd adeiladu capel y pryd hwnw. Yr oedd yn rhaid talu am bob manylion, nid i gontractor fel yn awr, ond i bob gweithiwr yn bersonol, talu am lifo y coed, talu am durnio pob post, a cholofn, a ffon yn y grisiau, talu am gludo hoelion, talu am losgi calch, talu am ei bwyso, &c. Yr oedd yn rhaid adeiladu ystabl hefyd, a thair stall ynddi. Aeth y draul rhwng pob peth gryn dipyn dros 400p. Yr oll a gasglwyd at y draul yn Aberdyfi oedd, 32p. 2s. 9c. Casglwyd ato yn Nhowyn, 4p. 10s. 9c.; yn Llundain, 4p. 7s. 6c. Y cyfan, 43p. 11s. Cariodd pob ffermdy yn Nghwm Maethlon ddefnyddiau at adeiladu y capel, ac y mae cyfrif wedi ei gadw am bob diwrnod a phob ceffyl a fu o'r Cwm yn gweithio wrth y gwaith. Cadben John Ellis oedd y trysorydd a'r ysgrifenydd, a chadwodd gyfrifon manwl o'r cyfan ynglyn a'r adeiladu—y derbyniadau a'r taliadau. Y mae beddrod y gŵr da hwn, ynghyd a'i briod, Anne Ellis, yr hon a fu yn ddiacones ffyddlon am lawer o flynyddoedd yn Aberdyfi, yn ymyl y porth, yn mynwent Towyn. Wrth gofio y gwasanaeth a wnaeth y ddau hyn i grefydd, nid hawdd ydyw myned heibio i'w beddrod heb deimlo parch i'w llwch. Yn hen Oleuad Cymru, Rhagfyr, 1828, ceir yr hanes canlynol am agoriad y capel:—
"Ddydd Mawrth, yr lleg o Dachwedd, 1828, agorwyd addoldy y Trefnyddion Calfinaidd, yn Aberdyfi, Swydd Feirionydd. Y mae y tŷ addoliad hwn yn hollol gyfleus i'r trigolion, ac yn hynod o luniaidd a hardd. Ei fesur o fewn y muriau yw 33 troedfedd wrth 30. Dechreuwyd yr addoliad am 10 o'r gloch gan Mr. R. Humphreys, Dyffryn, a phregethodd Mr. J. Jones, Glanleri, Swydd Aberteifi, ar Esaiah, xxviii. 16; a Mr. R. Jones, Trawsfynydd, ar Act. ii. 43. Am 2, dechreuodd Mr. R. Jones, a phregethodd Mr. R. Griffith, Dolgellau, ar Heb. ii. 6; a Mr. J. Roberts, Llangwm, ar Act. V. 29—33. Am 6, dechreuwyd gan Mr. W. [H.] Jones, Towyn, a phregethodd Mr. R. Humphreys, Dyffryn, ar Ioan v. 39; a Mr. John Roberts, Llangwm, ar Exodus xii. 5.
Yr oedd y gwrandawyr yn lliosog ar yr achlysur hwn, fel mai o'r braidd y cynhwysid hwy o fewn i'w furiau, a chafwyd lle i farnu, trwy fod y pregethu mor wlithog, mai da i ni oedd bod yno.—J. Williams, Dolgellau."
Syniad yr hen bobl am gapel lluniaidd a hardd oedd ei fod yn square; yr oedd y capel hwn bron yn hollol felly. Mae ei furiau yn aros yn awr, dybygid, fel yr oeddynt y pryd hwnw. Defnyddir ei waelod yn bresenol yn Market Hall; ac yn y llofft uwchben y cynhelir yr holl foddion perthynol i'r eglwys Saesneg. Rhoddwyd gallery ar y capel hwn yn 1855, gyda thraul o 120p., a'r tro hwn talwyd yr oll ar ei orpheniad. Wedi adeiladu y capel y tro cyntaf, cynyddodd yr achos yn fawr; daeth amryw o grefyddwyr da, a rhai cefnog arnynt yn y byd, yma i fyw, ac o'r dydd hwnw allan, daeth yr achos yn gryf o'i gymharu â'r hyn oedd wedi bod o'r blaen.
Y blaenor cyntaf yn Aberdyfi oedd John Williams, neu fel gelwid ef yn gyffredin, Sion William y carpenter. Dewiswyd ef rywbryd cyn diwedd y flwyddyn 1826. Yr oedd wedi bod gyda'r achos yn hir cyn hyny. Efe, fel y tybir, oedd yr un dyn a wnai i fyny yr eglwys gyda y chwiorydd pan y ceir eu henwau gyntaf; efe, hefyd, oedd yn arwain y canu yn y Storehouse. Yn union ar ol ei ddewis ef, teimlodd yr eglwys ei bod wedi gwneyd camgymeriad na buasai yn dewis Owen Williams gydag ef, a gofynwyd am ganiatad y Cyfarfod Misol i'w wneuthur yntau yn flaenor cyn diwedd yr un flwyddyn, a derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol yn Abermaw, yn mis Mawrth, 1827. Bu ef yn cymeryd mwy o ran gyda'r achos na neb arall o'r amser hwn hyd ddydd ei farwolaeth. John Jones, brawd y Parch. W. Jones, Llanerchllin, a fu yn flaenor yma am flynyddoedd. Dyn crefyddol, pwyllog, trwm ei, farn, a mawr ei ddylanwad. Owen Jones, Leaden Hall, a ddaeth yma o Sir Fflint yn ŵr cefnog o ran pethau y byd, ac yn flaenor gweithgar. Mr. Foulkes, mab i'r diweddar Barch. Mr. Foulkes, Machynlleth, a ddaeth yma i breswylio rywbryd tuag 1850. Yr oedd ef yn wr cyfoethog, a bu yn gefn mawr i'r achos am dros ugain mlynedd. Rhoddai yn haelionus o'i gyfoeth at achosion crefyddol, fel y mae arfer ei deulu wedi bod ymhob man, a chynorthwyai bregethwyr a gweinidogion a ddeuent yma â phethau angenrheidiol at gynal dyn. Edward Williams, sylfaenydd yr achos yn Towyn, a fu yn flaenor yma y rhan olaf ei oes. Derbyniwyd Richard Hughes a Lewis Williams yn aelodau o'r Cyfarfod Misol, fel blaenoriaid, yn 1850. Yr oedd Richard Hughes yn llawn zel a gwres gyda rhanau ysbrydol yr achos, a mawr oedd y chwithdod a deimlwyd ar ei ol. Lewis Williams yn ddyn heddychol, parod i gydweithredu ymhob peth, Bu farw yn orfoleddus, mewn llawn sicrwydd o'r nefoedd. John Williams, y Custom House, oedd yn ddyn ieuanc tra chrefyddol, ac yn flaenor gobeithiol yn mlynyddoedd olaf ei oes. Dygwyd ef i fyny ar aelwyd Fethodistaidd, a rhoddodd arwyddion, pe yr estynasid ei oes, y buasai yn dyfod yn ddyn pwysig a defnyddiol. Mr. David Williams, yn awr o'r Custom House, Porthmadog, a fu yn flaenor gweithgar yn Aberdyfi.
Y Parch. Robert Williams. Daeth yma o Fanchester, yn niwedd 1842, neu ddechreu 1843. Ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth yn 1844. Dywedir fod gan Mr. Humphreys, y Dyffryn, a Mr. Williams, Ivy House, Dolgellau, law yn ei symudiad o Manchester yma, er lles iddo ei hun, ac er mantais i'r achos yn y pen yma i'r sir. Nid oedd ar y pryd yr un pregethwr gyda'r Methodistiaid yn byw yn Aberdyfi, ac ni bu yma neb yn arhosol erioed o'r blaen. Yn fuan wedi dyfod yma dechreuodd gadw shop, a thrwy ei ddiwydrwydd ef a'i deulu daeth ymlaen yn y byd, fel yr ydoedd cyn diwedd ei oes mewn sefyllfa weddol gysurus. Bu ei ddyfodiad yma yn rhagluniaethol iawn ar lawer cyfrif. Ymroddodd i weithio. gyda'r achos yn ei holl ranau, ac enillodd yn fuan ddylanwad mawr yn yr eglwys, a'r pentref, a'r holl gylchoedd y troai ynddynt. Ei dd ar hyd ei oes oedd llafurus, difrifddwys, duwiolfrydig. Bu am 15 mlynedd yn un o dair prif golofn o dan yr achos yn Nghyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd—y tair oeddynt efe, a Mr. Humphreys, a Mr. Morgan a chyn diwedd ei oes yr oedd yn ddyn pwysig yn Nghymdeithasfa Gogledd Cymru. Pob swydd bwysig gyda'r achos yn y sir, dros lawer blwyddyn, arno ef y disgynai, a phob achos dyrus iddo ef y rhoddid ef i'w drin. Byddai dan eneiniad dwyfol yn gyffredin yn ei weinidogaeth gyhoeddus. Cafodd ei drwytho. yn niwygiad 1859, 1860, tuhwnt i liaws ei frodyr, ac yn y tymor hwnw yr oedd yn anarferol o rymus a phoblogaidd. Pregethai bron ymhob cyfarfod mawr trwy y wlad, a byddai arddeliad a dylanwad anarferol ynglyn a'i weinidogaeth lle bynag yr elai, ac ychydig yn Nghymru, am yr amser hwn, a fu yn foddion i enill mwy o eneidiau at y Gwaredwr nag efe. Yr oedd ei gymeriad crefyddol, a duwiolfrydedd ei ysbryd, yn peri ei fod yn fwy cymwys nag odid neb i weinyddu disgyblaeth eglwysig. Y mae llawer o engreifftiau tra hynod o hono yn myned trwy y gorchwyl hwn ar gof a chadw yn y wlad. Nid oedd yn ddengar yn ei ymwneyd â'i gyd-ddynion, eto oherwydd ei grefyddoldeb dwfn teimlid ei fod yn ddyn cywir a hollol ddidderbynwyneb cyn belled ag yr oedd disgyblaeth eglwysig yn gofyn hyny. Gosododd urddas ar grefydd yn Aberdyfi a'r ardaloedd cylchynol am yr ugain mlynedd y bu yn byw yno. Ond torwyd ef i lawr yn dra chynar. Bu farw Tachwedd 24, 1862, yn 53 mlwydd oed. Cyrhaeddodd y son am ei angladd ymhell ac agos, gan mor fawr ac anrhydeddus ydoedd.. Tywysog a gŵr mawr yn Israel oedd y dwthwn hwnw wedi cwympo." Bu ei weddw byw yn hir ar ei ol, a rhoddodd hi a'i theulu lawer o gynorthwy i gario yr achos ymlaen yn Aberdyfi. Mae y teulu oll erbyn hyn wedi cyraedd i'r wlad well.
Y Parch. Griffith Anwyl.—Dygwyd ef i fyny gyda'r brodyr y Wesleyaid, a bu yn hir yn bregethwr cynorthwyol gyda hwy. Yn Awst 1848, cynygiodd ei hun i'r Methodistiaid; ac yn Bryncrug, Hydref, yr un flwyddyn, derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol. Yn 1851 derbyniwyd ef yn aelod o'r Gymdeithasfa. Yr oedd efe yn ateb yn hollol i'w enw—gŵr anwyl iawn ydoedd gan bawb. Yr oedd yn gywir yn ei ymwneyd â'r byd, yn ddirwestwr zelog, yn wladwr da, yn gymydog caredig, yn rhoddi gair da i bawb, ac yn cael gair da gan bawb; yn onest, yn ddihoced, yn grefyddol. Bu farw yn y flwyddyn 1865, a theimlid galar ar ei ol trwy holl gylch ei adnabyddiaeth.
Ymhen ychydig ar ol y Diwygiad Mawr yn 1859, 1860, teimlid angen am gapel newydd. Cafwyd addewid am dir ar etifeddiaeth yr Ynys, yr hwn oedd yn front y pentref, yn lle bod yn ei gefn, megis yr oedd yr hen gapel. Ond y mae gair o eglurhad ar safle y capel presenol yn angenrheidiol. Nid trwy fodd ond trwy anfodd y cyfeillion yn Aberdyfi y bu raid cael y grisiau hirion a serth sydd yn arwain i fyny i'w haddoldy. Wedi cael addewid am y tir yn y front, ac hefyd yn y lle mwyaf cyfleus a dymunol, dylanwadwyd ar agent ac etifedd yr Ynys gan Eglwyswyr gor-zelog, i rwystro y Methodistiaid i adeiladu eu capel yn gydwastad â thai y brif heol. Mewn canlyniad i byn, er gwneuthur pob cais oedd yn bosibl i gael adeiladu ar y gwaelod, bu raid gwthio y capel i'r back ground, ac adeiladu rhes o risiau blinion i hen a methedig i ddringo i fyny i gysegr yr Arglwydd, a thalu ardreth uchel heblaw hyny. Aeth y draul i adeiladu oddeutu 1400p., ac yr oedd y ground rent yn 16p. y flwyddyn. Prynwyd y lle yn rhydd-feddiant yn 1876 am 264p. Aed i dreuliadau eraill o tua 700p. Agorwyd y capel yn y flwyddyn 1864. Y gweinidogion fu yn gwasanaethu yn ei agoriad oeddynt, y Parchn. O. Thomas, Llundain, D. Charles, E. Morgan, Dyffryn, a D. Davies, Abermaw. Gorphenwyd clirio yr holl ddyled erbyn Chwefror 1882, pryd y cynhaliwyd Cyfarfod Misol, yr hwn oedd yn gyfarfod jiwbili, ac ynddo y cyhoeddwyd y capel yn hollol ddiddyled.
Bu amryw weinidogion mewn cysylltiad gweinidogaethol â'r eglwys Y Parch. W. James, B.A., o 1863 i 1866; y Parch. Francis Jones o 1866 i 1874. Bu y Parch. D. Charles, D.D., yn byw yma hefyd o 1875 i 1879. Nid oedd ef mewn cysylltiad gweinidogaethol â'r eglwys, ond gweithiodd yn egniol gyda phob rhan o'r achos, yn enwedig gyda'r plant. Yr oedd wedi llwyddo i dynu torf o blant ynghyd, i'w dysgu yn y cyfarfodydd wythnosol, ac yn y Band of Hope, ac yr oedd wedi enill eu serch yn rhyfeddol. Yr oedd ef yn wr dysgedig, duwiol, a sanctaidd, ac yn byw ar ddiwedd ei oes mewn cymundeb agos a'r nefoedd. Bu farw yn dra sydyn yn niwedd 1879, a bu galar mawr ar ei ol. Y Parch. R. E. Morris, B.A., a fu yn weinidog ar yr eglwys o 1882 i 1885. Yn niwedd 1885, ymsefydlodd y Parch. John Owen yma, i ofalu am yr eglwys Gymraeg a Saesneg.
Cadben John Lewis.—Bu yn flaenor yr eglwys hon am oddeutu 18 mlynedd. Dewiswyd ef i'r swydd tra yr ydoedd gyda'i orchwylion ar y mor, ac ni chafodd gyfle i fod lawer gyda'i frodyr yn yr eglwys, hyd nes ydoedd yn ddiweddar ar ei oes. Dyn distaw, hynaws, a'i fryd ar wneuthur daioni. Yr oedd ei sefyllfa yn y byd, a'i gymeriad rhagorol fel gwladwr a Christion, yn peri ei fod yn un o'r dynion pwysicaf yn Aberdyfi. Yr oedd yn nodedig o barod i bob gweithred dda, a deuai yn fwy ymroddedig i grefydd fel yr agosâi i ddiwedd ei ddyddiau. Anfynych y gwelir colli neb a gair mor uchel iddo gan fyd ac eglwys. Bu farw Rhagfyr 28ain, 1887.
Y blaenoriaid presenol ydynt, Mri. William Jones, William Lloyd, Morris Rowland, Peter Pryce, a David Hughes.
EGLWYS SAESNEG TOWYN.
Y mae dechreuad achosion Saesneg yn beth diweddar yn hanes Methodistiaeth Sir Feirionydd. Towyn oedd y lle y dechreuwyd achos rheolaidd ac y ffurfiwyd eglwys Saesneg gyntaf yn y sir. Ac fel y mae dechreu pob symudiad pwysig yn ddyddorol, felly hefyd hanes dechreuad yr eglwys Saesneg gyntaf hon. Y sylw cyhoeddus cyntaf a roddwyd i'r mater ydoedd yr hyn a ganlyn, a geir ymysg gweithrediadau Cyfarfod Misol Dolgellau, Ionawr 3 a'r 4, 1865, —"Sylwyd ar yr angenrheidrwydd am godi achosion Saesneg yn y trefydd, gan fod agoriad y Railway yn debyg o fod yn achlysur i lawer o Saeson ymsefydlu ynddynt. Gofynai Mr. Newell, o Dowyn, am gydsyniad a chefnogaeth y Cyfarfod Misol, i sefydlu achos o'r fath yn Nhowyn; cynygiai ef am gael capel haiarn i gychwyn yr achos, ac os byddai i'r Arglwydd Iwyddo eu hymdrechion gyda hyn, y gellid adeiladu capel mwy parhaus wedi hyny, a symud y capel haiarn i gychwyn achos drachefn mewn rhyw le arall. Cymeradwywyd iddynt agor subscription list yn Nhowyn, ac anog eu cyfeillion ymhob man i gyfranu tuag ati, i dreio dwyn hyn oddiamgylch." Yr oedd gan Mr. Newell, mae'n ymddangos, gynllun o gapel haiarn ellid ei bwrcasu am gan' punt, i gynwys cant o bobl. Nid oedd dim cymeradwyaeth, pa fodd bynag, na help i'w gael y pryd hyn, o Dowyn nac o un man arall, ond mewn geiriau yn unig.
Yn mis Chwefror, 1868, tra yn adeiladu masnachdy, penderfynodd Mr. Newell i'r ystafell uwchben fod yn Assembly Room, ac iddi fod at wasanaeth Achos Saesneg yn y dref. Pryd yr oedd eraill yn dadleu ac yn gwrthwynebu, dechreuodd ef weithio a dwyn y mater yn ffaith fyw o flaen llygaid y rhai a edrychent yn ysgafn ar yr anturiaeth. Apeliodd at yr eglwys Gymraeg i benodi personau i fyned i sefydlu yr achos. Yn methu gyda hwy, gwnaeth ail gais at y Cyfarfod Misol, cynulledig yn Seion, Mai 1868. Bu siarad maith yn y cyfarfod hwn, a chytunwyd i bleidio yr anturiaeth yn Nhowyn, ac i wneyd yr hyn a ellid gyda yr achos mewn manau eraill. Ar sail cymeradwyaeth y Cyfarfod Misol, ac yn llawn o ysbryd ffydd, anturiodd Mr. Newell ymlaen i gwblhau yr ystafell, a'r Sabbath, y 14eg o Fehefin, 1868, fe ddechreuwyd yr achos. Pregethodd y Parch. Evan Roberts, Cemaes, yn awr o'r Dyffryn, fore a hwyr, a chadwyd ysgol am ddau. Pregethodd yr ysgrifenydd yno y Sabbath canlynol. Felly aethpwyd ymlaen heb ballu mwy. Mae y paragraph canlynol a ysgrifenodd Mr. Evan Morgan Jones, ysgrifenydd yr eglwys, ymhen tair blynedd wedi hyn, yn werth ei gadw:—"Ymhen ychydig fisoedd, Mr. Newell yn teimlo ei unigrwydd—hyd yma nid oedd neb ond ef a'i deulu, ac un brawd wedi myned allan, neb. ond ei hunan i ddechreu a diweddu yr ysgol, na neb i ddechreu y canu ond yn achlysurol,—a daer ddymunodd drachefn, mewn cyfarfod eglwysig Cymraeg, am gynorthwy, nid arianol, ond ar iddynt hebgor ychydig nifer i fyned allan i gynorthwyo yn y gwaith, megis un i ddechreu y canu, ac eraill yn nygiad y moddion ymlaen. Parodd y cais hwn gryn ymdrafodaeth mewn pwyllgorau. Fe ddylid dweyd yma fod yr eglwys Gymraeg hefyd mewn ymdrafodaeth at alw bugail. Yn y pwyllgorau byn cyfodwyd y cwestiwn o barhad yr achos Saesneg neu beidio, ac os ystyrid hyny yn briodol, a gai yr achos ran o'r fugeiliaeth. Ond mor gryf ydoedd y teimlad yn erbyn y symudiad newydd fel y gomeddid rhan yn y fugeiliaeth, ac nid ymgymerid ychwaith ag appwyntiad personau o'r eglwys i fyned allan i gynorthwyo, ie, mwy na hyn, fe basiwyd penderfyniad fod i'r achos Saesneg gael ei dori i fyny am y gauaf, os nad o gwbl. Ni effeithiodd y gwrthwynebiad hwn i darfu nac i lwfrhau Mr. Newell, oblegid yr oedd yn hollol argyhoeddedig o'r priodoldeb a'r angenrheidrwydd o gael moddion gras i'r Saeson nid yn unig i'r ymwelwyr, ond i'r nifer oedd erbyn hyn wedi ymsefydlu yn y dref. Cynhyrfodd hyn gydymdeimlad dwfn mewn ychydig bersonau â'r symudiad, a bu yn foddion i bedwar o bobl ieuainc (tair merch ac un mab) fyned allan yn wirfoddol i gynorthwyo yn y gwaith." Gwir hefyd ydyw, i'r eglwys Gymraeg roddi cwbl ganiatad i'r brodyr a'r chwiorydd hyn a ymadawsant o'u gwirfodd.
Nid oedd ffydd y Cyfarfod Misol ychwaith ond digon cyfyng, oblegid addaw ei gefnogaeth yr oedd gan dybio na byddai yn ddoeth nac yn angenrheidiol cadw yr achos ymlaen yn y gauaf, o leiaf am rai blynyddoedd. Ond disgynodd yr ysbryd mor nerthol ar yr ychydig gyfeillion yn Nhowyn, nes iddynt deimlo eu bod wedi dechreu ar waith rhy dda i'w roddi i fyny na haf na gauaf. Aethpwyd ymlaen fel hyn hyd ddiwedd y flwyddyn gyntaf. Yn Nghyfarfod Misol Ionawr, 1869, ymhen chwe' mis ar ol dechreu yr achos yn ffurfiol, penodwyd pwyllgor i fyned i Dowyn i wneyd ymchwiliad i holl amgylchiadau yr achos. Cyflwynodd y pwyllgor eu hadroddiad i'r Cyfarfod Misol dilynol yn Aberdyfi, a chymeradwywyd ef. A ganlyn yw yr adroddiad, ynghyd â sylwadau ychwanegol a ymddangosasant yn y Drysorfa, Mai 1869:—
Adroddiad y Cyfeisteddfod a benodwyd i wneyd ymchwiliad
i ystâd yr Achos Saesneg yn Nhowyn.
"Yn ol penderfyniad Cyfarfod Misol Dolgellau, ni a aethom i Dowyn, dydd Sadwrn, Ionawr 16eg, i wneyd ymchwiliad i sefyllfa yr Achos Saesneg yn y lle. Daeth Mr. Newell a dau neu dri o'r brodyr sy'n cynorthwyo i gario yr achos ymlaen, ynghyd â Mr. Rees, i'n cyfarfod.
"Mae y moddion yn cael eu cadw yn yr Assembly Room, ystafell brydferth, yr hon sydd wedi ei pharotoi a'i dodrefnu yn gyfleus ar draul Mr. Newell ei hun. Dechreuwyd yr achos yn mis Mehefin, 1868. Cynhelir, fel rheol, ddwy bregeth y Sabbath, ac ysgol. Ni bu yr un Sabbath o hyny hyd yn awr heb ryw gymaint o bregethu. Mae yr ystafell yn ddigon eang i gynwys 150. Yn yr haf byddai yn llawn, yn enwedig ar nos Suliau, Yn misoedd y gauaf rhifedi y gwrandawyr ydyw o 40 i 50. Fel esiampl, yr oedd y rhif ar ddau Sabbath agosaf at eu gilydd yn mis Ionawr fel y canlyn—Yr ail Sabbath o'r mis, boreu, 24; nos, 50. Y trydydd Sabbath, boreu, 29; nos, 44. O'r rhai hyn, yr oedd yr haner, o leiaf, yn Saeson. Rhoddwyd enwau i'r pwyllgor yn agos i 40—0 Saeson uniaith, y rhai sydd yn arfer dyfod i wrandaw yn eu tro. Mae yn yr ysgol bedwar o ddosbarthiadau, oll gyda'u gilydd yn rhifo tua 25. Nid oes yr un o'r Saeson ar hyn o bryd yn aelod eglwysig. Mae 11 o aelodau o'r eglwys Gymraeg yn dilyn y moddion Saesneg yn gyson, i'r rhai y rhoddwyd caniatad gan eglwys y Gwalia. Er's amryw fisoedd bellach, mae y society yn aros yn ol bob nos Sabbath, ac wedi cyfarfod rai gweithiau ganol yr wythnos, ond hyd yma y maent yn perthyn i'r eglwys Gymraeg, ac yn myned i'r capel Cymraeg i dderbyn y Cymundeb.
"Cynhelir yr achos yn benaf trwy roddion gwirfoddol y gwrandawyr. Buwyd bedwar Sabbath yn y dechreu heb wneyd casgliad o gwbl. Yn awr, mae trysorfa yn agored yn agos i ddrws yr ystafell i'r neb a ewyllysio i fwrw ei roddion i mewn pan yn dyfod ynghyd i addoli unrhyw adeg; ac ar y cynllun hwn yn unig y gwneir pob casgliad. Yn misoedd yr haf, cyrhaeddai y casgliad uwchlaw 2p. y Sabbath; yn awr y mae, wrth reswm, yn llai, eto yn ganmoladwy a chalonogol iawn. Fel engraifft, yr oedd y swm y ddau Sabbath a enwyd yn Ionawr, ar ddiwedd y naill ddiwrnod yn 19s. 10c., ac ar ddiwedd y llall yn 18s. Derbyniwyd 5p., hefyd, yn rhoddion gan ewyllyswyr da at yr achos. Rhoddodd rhai pregethwyr eu gwasanaeth yn rhad; a rhai ran o'r tal yn ol; ac anfonodd cyfeillion eraill o bellder ffordd eu rhoddion, am eu bod yn teimlo yn gynes eu calon at yr anturiaeth, ac yn awyddus am ei gweled yn llwyddo. Trwy ffyddlondeb y gynulleidfa, a charedigrwydd cyfeillion eraill, cafwyd digon o arian i gynal yr achos o'r dechreu hyd yn awr, a gwelir oddiwrth y cyfrifon fod dros 1p. yn ngweddill mewn llaw. Ond gan fod y Cyfarfod Misol wedi addaw sefyll wrth gefn yr anturiaeth, yr oeddym fel pwyllgor yn cydweled y dylid rhoddi 10p, yn gynorthwy i'r cyfeillion am yr amser aeth heibio, i gyfarfod treuliadau mewn parotoi yr ystafell, goleuni, &c.
"Wedi cyfarfod yn Nhowyn, cawsom olwg fwy llewyrchus a gobeithiol ar yr achos nag oeddym yn ddisgwyl. Teimlwn oll yn rhwymedig ac yn dra diolchgar i Mr. Newell a'i gyd-weithwyr, am eu penderfyniad i anturio ymlaen gyda'r achos da hwn, gan hyderu eu bod yn gwneuthur ewyllys Pen Mawr yr eglwys, ac y bydd bendith a llwyddiant ar eu llafur. Dywedid nad oedd yn fuddiol rhoddi yr achos i fyny yn y gauaf, am fod cynifer yn dyfod i wrando, ac am eu bod yn dangos parodrwydd i gyfranu mor haelionus. Pe buasid yn gwneuthur felly buasai y Saeson sydd yn arosol yn y lle yn debyg o ameu cywirdeb yr amcan, trwy feddwl mai gwneuthur daioni i'r dieithriaid yn unig oedd mewn golwg. Yr un pryd, mae yn amlwg ddigon fod colled fawr i'r eglwys Gymraeg ar ol yr holl gyfeillion sydd wedi ei gadael. Eto, os o'r Arglwydd y mae y peth hwn, fe all ef yn hawdd wneyd y golled i fyny, a pheri llwyddiant ar y ddau achos. Yr oedd yn ddymuniad gan y cyfeillion perthynol i'r achos Saesneg gael rhyddid o hyn allan i gadw society, a gweinyddu yr ordinhadau yn eu plith eu hunain; ac wedi gwneyd ymchwiliad o'u tu hwy, ac o du yr eglwys yn y Gwalia, teimlem yn barod. iddynt gael eu dymuniad, gan eu bod hwy eu hunain yn ymgymeryd â'r cyfrifoldeb. Eu penderfyniad ydyw myned ymlaen gyda'r un zel a'r un ysbryd ffydd ag sydd wedi eu meddianu o'r dechreu, gan ddymuno i frodyr haelionus yn yr efengyl eu cynorthwyo; a chan obeithio y bydd i'r Hwn bia yr achos mawr ymhob iaith, ac ymhob lle, eu bendithio.—Ionawr 27, 1869.
"Aelodau y pwyllgor oeddynt.—y Parchn. D. Davies, Abermaw; D. Evans, M.A., Dolgellau; W. Davies, Llanegryn; R. Owen, M.A., Pennal; a F. Jones, Aberdyfi; Mri. G. Jones, Gwyddelfynydd, ac E. Griffith, Dolgellau.
"Wedi darllen yr adroddiad uchod yn y Cyfarfod Misol, pasiwyd penderfyniad iddynt gael rhyddid i fod yn eglwys ar eu penau eu hunain. Ac yn ol yr arfer ar y cyfryw achlysuron, penodwyd dau frawd, sef y Parchn. D. Evans, M.A., Dolgellau, ac R. Owen, M.A., Pennal, i fyned i Dowyn i hysbysu hyn i'r eglwys, ac i'w cydnabod yn ffurfiol fel eglwys yn ol eu dymuniad. Cymerodd cyfarfod i'r diben hwn le Chwefror 12fed. Daeth nifer lled dda o'r Saeson ynghyd, a lliaws o'r capel Cymraeg, ac amryw o drigolion y dref, fel, rhwng pawb, yr oedd y gynulleidfa yn weddol fawr, hyny ydyw, yr oedd yr ystafell yn rhwydd lawn. Yr oedd yr hen bererin, y Parch. Hugh Jones, yn bresenol, yn y corff ac yn yr ysbryd, a'r Parch. G. Evans, Cynfal, hefyd."
Un-ar-ddeg, fel y crybwyllwyd, oedd nifer yr eglwys pan ffurfiwyd hi gyntaf, ac nid oedd nifer yr holl aelodau a ddaethant allan o'r eglwys Gymraeg, yn ystod y pedair blynedd a haner cyntaf, ond pedwar ar ddeg. Yn Gorphenaf, 1869, ymsefydlodd y Parch. Owen Edwards, B.A, yn eu plith fel bugail.
Ymhen dwy flynedd wedi cychwyn yr achos, oherwydd fod yr ystafell lle y cynhelid moddion yn anghysurus o lawn yn yr haf, cymhellwyd y cyfeillion i gael capel. Ac yn mis Mai, 1870, cymeradwywyd y symudiad gan y Cyfarfod Misol. Sicrhawyd tir yn nghanol y dref, am ardreth flynyddol o £6, ac ar y 14eg o Dachwedd, 1871, agorwyd y capel. Mae yn deilwng o sylw ddarfod i'r symudiad gynyrchu bywyd newydd yn yr achos Cymraeg. Yn ebrwydd adeiladodd y Cymry gapel newydd hardd, ac o hyn ymlaen mae yr achos yn y ddwy eglwys wedi myned ar gynydd. Yr oedd y draul o adeiladu y capel Saesneg, ynghyd â'r llogau, a'r ardreth flynyddol, &c., erbyn diwedd 1872, yn £693 18s. 8c. Ac yn ystod yr amser yna, trwy gael help oddiwrth gyfeillion, ac oddiwrth y Gymdeithasfa, talodd yr eglwys £395 17s. 6c. Wedi hyny, aethpwyd i lawer o draul ychwanegol, trwy brynu y tir yn rhydd feddiant, a phethau eraill, ac er y cwbl, y mae y capel, a'r eiddo perthynol iddo er's blynyddoedd yn ddiddyled. Y nifer all eistedd ynddo yw 210. (Gwerth presenol yr eiddo £800). Rhoddodd y Cyfarfod Misol £10 flwyddyn am dair blynedd o leiaf tuag at gynorthwyo yr achos. Wedi hyny, cafodd yr eglwys help o drysorfa yr Achosion Saesneg; ymhen ychydig, daeth yn hunan-gynhaliol, a bu am flynyddoedd felly hyd eleni (1887).
Rhydd y paragraff canlynol wybodaeth am swyddogion cyntaf yr eglwys:—"Amlygodd Mr. Newell daer ddymuniad, o dro i dro, ar i'r eglwys ddewis ychwaneg o ddiaconiaid (hyd yma nid oedd neb ond ef yn unig yn y swydd). Yn Ionawr, 1872, cydsyniodd y frawdoliaeth, ac yn unol â'u cais, apwyntiwyd dau weinidog i ddyfod yma i'w cynorthwyo, pryd y bu dewisiad unfrydol a rheolaidd ar y personau canlynol i fod yn ddiaconiaid yr eglwys—Mr. Edwin Jones, Dr. J. F. Jones, Mr. Superintendent Hughes, Mr. Bowstead, a Mr. E. Morgan Jones."
Ffaith hynod mewn cysylltiad â dechreuad yr achos Saesneg yn Nhowyn, ac na ddigwyddodd i neb sylwi arni hyd ddwy flynedd yn ol, ydyw, iddo gael ei ddechreu yn yr un llecyn ar y dref ag y dechreuwyd yr achos Cymraeg. Yn y Porthgwyn y safai y tŷ a gofrestrwyd yn Chwarter Sesiwn y Bala i bregethu ynddo yn ol y gyfraith, yn 1795. Yn union yn yr un fan, sef yn y Porthgwyn, yr adeiladwyd yr Assembly Room yn 1868, i gychwyn yr achos Saesneg cyntaf yn y dref, a'r ochr arall i'r heol, o fewn ychydig latheni i'r tŷ cofrestredig yr adeiladwyd y capel Saesneg cyntaf gan y Methodistiaid Calfinaidd yn Sir Feirionydd.
Mae yn deilwng coffhau mai y gwr fu yn brif offeryn i ddechreu yr achos Saesneg yn Nhowyn ydoedd Mr. Evan Newell, Esgian Hall. Wedi dyfod yma i breswylio o Sir Drefaldwyn, ryw ddeg neu ddeuddeg mlynedd cyn hyny, teimlai yn ddwys oherwydd hollol amddifadrwydd y Saeson o'r efengyl yn eu hiaith eu hunain. Apeliodd am gynorthwy i gychwyn yr achos drachefn a thrachefn, ac wedi tair neu bedair blynedd o geisio yn ofer, ymgymerodd a'r anturiaeth ei hunan yn 1868. Gwr ydoedd ef yn llawn o anturiaeth, o yni, ac o ffydd. Gweithiodd yn ddiwyd a di-ildio gyda'r symudiad, nes gweled eglwys wedi ei ffurfio yn rheolaidd, gweinidog wedi ei sefydlu i ofalu am yr eglwys, capel hardd wedi ei adeiladu, a'i ddyled bob dimai wedi ei thalu. Heblaw diwydrwydd diball i gael eraill i weithio, bu yn dra haelionus at achos crefydd y blynyddoedd y bu mewn cysylltiad a'r eglwys hon. Gweithiodd eraill hefyd o'r dechreuad yn deilwng o ddisgyblion ffyddlon yr Iesu, ond tra fyddo yr achos Saesneg yn Nhowyn ac yn Sir Feirionydd mewn bod, bydd enw Mr. Newell yn haeddu cael ei goffhau fel y prif ysgogydd yn ei gychwyniad. Ymfudodd er's tua phum' mlynedd yn ol i Dakota, Unol Daleithiau America. A hyfryd ydyw hysbysu ei fod ef, a'i fab-yn -nghyfraith, Mr. Evan Morgan Jones, yr hwn hefyd a fu yn dra. gweithgar gydag eglwys Saesneg Towyn, yn rhoddi eu llaw a'u hysgwydd wrth achos yr efengyl yn y Gorllewin pell.
Heblaw y Parch. O. Edwards, B.A., bu y Parch. O. Jones, M.A., Drefnewydd, yn awr o America, ac wedi hyny y Parch. J. H. Symond, mewn cysylltiad gweinidogaethol â'r eglwys. Y gweinidog yn awr ydyw y Parch. R. H. Morgan, M.A. Mr. Townley, Lee Hurst, boneddwr a ddaeth yma o Liverpool, a fu yn flaenor yr eglwys, ac yn gefn i'r achos ymhob cysylltiad am agos i ddeng mlynedd. Yr oedd efe, ynghyd â Mr. Bowstead, gwr arall a fu yn flaenor yr eglwys, ond sydd yn awr wedi ymfudo i Australia, yn Saeson uniaith. Mr. Edwin Jones, Bryn-arvor, a'i deulu fuont o gynorthwy mawr i'r achos o'i ddechreuad. Wedi cael colledion trymion trwy symudiadau, nid oes yn yr eglwys yn awr (1887) ond dau flaenor, Mr. Edwin Jones, a Mr. Hugh Thomas.
EGLWYS SAESNEG ABERDYFI
Oddeutu y flwyddyn 1870 buwyd yn cynal moddion Saesneg yn y capel Cymraeg, am dymor neu ddau, er mwyn y Saeson a ymwelent â'r lle yn yr haf. Gwelwyd nad oedd hyny yn ateb y diben, ac ni pharhawyd y moddion. Y cam cyntaf a roddwyd tuag at ffurfio achos oedd, y penderfyniad canlynol a fabwysiadwyd gan Gyfeisteddfod Sirol yr Achosion Saesneg, ac a gymeradwywyd gan y Cyfarfod Misol yn y Bontddu, Mawrth 28, 1881, —"Ein bod yn penodi y Parch. R. Owen, M.A., Pennal, Mr. William Jones, Aberdyfi, a Mr. Edwin Jones, Towyn, i edrych ar fod achos Saesneg yn cael ei ddechreu yn Aberdyfi mor fuan ag y byddo modd." Ymwelodd y brodyr hyn â'r lle yn uniongyrchol, i wneuthur ymchwiliad gyda'r Saeson, ac i ymgynghori â'r cyfeillion Cymraeg. Canlyniad yr ymweliad hwn fu, i gommittee neu gyfarfod brodyr o'r eglwys Gymraeg gael ei gynal pryd y cytunwyd ar y ddau benderfyniad canlynol.(1). Fod achos Saesneg i gael ei sefydlu trwy gynal moddion rheolaidd yn Saesneg. (2). Fod y personau canlynol yn cael eu penodi i gynorthwyo a chymeryd gofal yr achos, Mri. Edward Bell, Edward Davies, a John Evans; Miss Ann Williams, Miss Margaret Jane Morris, Miss Lizzie Lewis." Aethpwyd a gwybodaeth o'r hyn a wnaed i'r Cyfarfod Misol dilynol yn Llanfrothen, Mai 2il, ac yno penderfynwyd fel y canlyn "Wedi cael adroddiad y brodyr a anfonasid gan Gyfarfod Misol Bontddu i Aberdyfi, i edrych i mewn i'r rhagolygon gyda golwg ar sefydlu Achos Saesneg yn y lle, penderfynwyd, ein bod fel Cyfarfod Misol yn anog swyddogion y lle i gychwyn yr achos yn ddioedi; ein bod yn ymrwymo i fod yn gynorthwy iddynt i'w gynal am flwyddyn; ein bod yn anog yr eglwysi i fod yn oddefgar tuag at y gweinidogion fydd yn galw eu cyhoeddiadau yn ol mewn trefn i'w gwasanaethu; a'n bod yn anfon cais i'r Gymdeithasfa am gynorthwy iddynt."
Cymerwyd yr Assembly Room, uwchben y Market Hall, am rent blynyddol i gario yr achos ymlaen, ac yno y mae yr holl foddion wedi eu cadw o hyny hyd yn awr. Dechreuwyd yr achos, a phregethwyd gyntaf yn y lle gan y Parch. J. H. Symond, Towyn, Mai 15, 1881. Penodwyd y Parch. R. H. Morgan, M.A., a J. H. Townley, Ysw., Towyn, gan y Cyfarfod Misol i sefydlu yr eglwys yn ffurfiol. Y noswaith yr ymwelwyd â'r lle gan y brodyr hyn, ymunodd y personau canlynol fel aelodau cyflawn a'r eglwys—Mr. Edward Bell, Mr. Edward Davies, Miss Ann Williams, Miss Margaret Jane Morris, Miss Lizzie Lewis, Mr. John Owen, Mrs. Anne Owen, Miss Annie Owen, Mr. Lazarus Jones, Mr. Henry Jones, Mrs. Margaret Evans, Mrs. Gittins, Mr. T. Cleg, Mrs. Cleg, Mrs. Mary Rees —15 o gyflawn aelodau, a 12 o blant. Derbyniwyd mewn casgliadau o'r diwrnod y dechreuwyd yr achos hyd ddiwedd yr un flwyddyn, sef o Mai 15 hyd Rhagfyr 25, 1881, 17p. 17s. 4 c. Taliadau 41p. 17s. Oc. Yr oedd yn bresenol o Saeson uniaith Mai 15, 1881, boreu 3; nos 17. Mai 22, boreu 11; nos 22. Rhagfyr 25, boreu 10; nos 14. Ymhen y flwyddyn, sef Mai 14, 1882, boreu 17; nos 26. Mai 13. 1883, boreu 15; nos 24. Rhagfyr 30, 1883, boreu 24; nos 49. Ystadegau ar ddiwedd 1882,-gwrandawyr 55; aelodau 15; plant 14; Ysgol Sul 41. Eto ar ddiwedd 1886,-gwrandawyr 58;. aelodau 18; plant 22; Ysgol Sul 46. Y mae yr eglwys hyd yma wedi derbyn cynorthwy arianol yn flynyddol o Drysorfa yr Achosion Saesneg. Ni wnaethpwyd yma ddewisiad o ddiaconiaid hyd fis Ionawr 1887. Y pryd hwn dewiswyd i'r swydd yn rheolaidd, Mr. Edward Bell, Mr. Edward Davies, a Mr. John Davies. Angen mawr presenol yr eglwys ydyw, cael capel i gario y moddion ymlaen, yn lle yr Assembly Room. Hyd yn hyn, pa fodd bynag, y mae gwedd lwyddianus ar yr achos.
Priodol ydyw crybwyll fod yr eglwys Gymraeg yn Aberdyfi wedi rhoddi pob hwylusdod a chefnogaeth i gychwyn yr achos Saesneg. Am y pedair blynedd cyntaf, dechreuai y Cymry y moddion am haner awr wedi naw yn y boreu, er mwyn rhoddi cyfle i'r neb a ewyllysiai fyned i'r moddion Saesneg am un-ar-ddeg. Ymhen amser a ddaw, bydd coffa parchus, yn ddiameu, am ffyddlondeb y brodyr a'r chwiorydd a roddasant eu hamser a'u llafur gyda'r achos hwn yn ei gychwyniad. Teg ydyw cadw mewn cof hefyd wasanaeth Mr. W. Jones, blaenor yr eglwys. Gymraeg, a'i briod, i'r eglwys Saesneg yn ystod y blynyddoedd cyntaf. Bu ef yn dra gweithgar, trwy lawer o anhawsderau yn ceisio pregethwyr i lenwi y Sabbothau, hyd nes yr etholwyd brodyr i fod yn swyddogion rheolaidd yr eglwys. Ei hoffus briod hefyd, yr hon ar ddechreu y flwyddyn 1887 a gymerwyd i ogoniant, a ddangosodd garedigrwydd Cristionogol, trwy roddi ei thŷ gyda sirioldeb mawr yn llety i lawer o weinidogion yr efengyl. Rhoddodd y Parch. R. E. Morris, B.A., ei wasanaeth i'r eglwys tra y bu yn weinidog yr eglwys Gymraeg. Y gweinidog sydd yn gofalu am dani yn awr ydyw y Parch. John Owen.
PENOD VI
——————
YR YSGOL SABBOTHOL.
CYNWYSIAD.—Y lleoedd y cychwynwyd hi gyntaf—Yr ysgolion dyddiol cylchynol—Llythyr John Jones, Penyparc—Yr Ysgol Sul am yr 50 mlynedd cyntaf—Llythyr L. W. at ysgol y Cwrt— Rheolau yr Ysgol Sabbathol—Adrodd pwnc—Y pedwar cyfnod o gynydd yr ysgol—Y Cyfarfodydd Ysgolion—Eu sefydliad— Eu newid o chwech-wythnosol i ddau-fisol—Cymanfa Ysgolion Bryncrug—Y gofalwyr am y Cyfarfodydd Ysgolion—Y Gymanfa Ysgolion—Pa bryd ei sefydlwyd yn rheolaidd—Y rhesymau dros ei lwyddiant—Swyddogion y Cyfarfodydd Ysgolion.
YN dechreu y ganrif hon, sef cyn y flwyddyn 1800, ychydig oedd wedi cael ei wneyd gyda yr Ysgol Sul yn y Dosbarth rhwng y Ddwy Afon. Yn wir, yr oedd 20 mlynedd o oes yr Ysgol Sabbothol yn Nghymru wedi myned heibio cyn bod yma ond ychydig wedi ei wneyd gyda hi. Digon o reswm am hyn ydyw, nad oedd o fewn y Dosbarth ddim cymaint ag un eglwys wedi ei sefydlu yn 1785, blwyddyn dechreuad yr ysgol yn Nghymru. Yr ydys wedi crybwyll fod achos crefydd wedi ei wanychu, a chrefyddwyr eu digaloni yn fawr trwy yr erledigaeth fu yn yr ardaloedd hyn yn 1795, a diameu i'r helyntion hyny lesteirio y gwaith gyda yr Ysgol Sul. Yn y lleoedd canlynol y dechreuodd yr ysgol gyntaf:—Bwlch, Llwyngwril, Llanegryn, Abergynolwyn, Bryncrug. Mae yn sicr fod ysgolion yn y lleoedd hyn cyn y flwyddyn 1800; ac mae yn bur debyg fod un wedi ei dechreu yn Nhowyn, ac feallai yn Nghorris. Nid oes fawr ddim o'i hanes ar gael yn yr un o'r manau hyn yn flaenorol i'r dyddiad uchod; eto, yr oedd rhyw gymaint o'r gwaith wedi ei ddechreu. Yr oedd William Hugh a Lewis Morris wedi bod yn pregethu yn y Dosbarth am ddeng mlynedd o'r ganrif ddiweddaf, a'r tebyg ydyw fod dynion o'r fath ysbryd a zel a hwy wedi bod yn effro gyda gwaith yr ysgol yr amser hwn. Heblaw hyny, yr oedd William Hugh yn un o ysgolfeistriaid Mr. Charles. Yr oedd John Ellis, Abermaw, hefyd, yn un o'r ysgolfeistriaid hyny, a bu ef yn cadw yr ysgol gylchynol yn Llwyngwril ac Abergynolwyn, a digon tebyg i eraill fod yn cadw yr ysgol hono yn y gwahanol ardaloedd. Yr oedd John Jones, Penyparc, wedi dechreu cadw ei ysgol yntau rywbryd cyn 1794. Bu ef yn flaenllaw gyda phob symudiad er llesoli yr ardalwyr hyn ar hyd ei oes, ac nid oes dim yn fwy tebyg na'i fod yn un o'r rhai cyntaf i roddi cychwyniad i'r Ysgol Sul. Crybwyllir am dano, yn hanes Lewis William, fel wedi ei dechreu rywbryd cyn hyn. Ac yn wir, mae y ffaith i John Jones, Penyparc, fod yn cadw ysgol ddyddiol lwyddianus, am yr holl flynyddoedd hyn, yn yr amser boreuol hwn, yn un rheswm cryf, fel y ceir gweled eto, dros fod y Dosbarth hwn o'r sir wedi bod mor flaenllaw gyda gwaith yr Ysgol Sul yr haner cyntaf o'r ganrif bresenol. Yn ystod y ddwy flynedd olaf o'r ganrif ddiweddaf, oherwydd ei dosturi tros anwybodaeth ieuenctyd pentref Llanegryn, yr anturiodd Lewis William ar y gwaith hwn yno. Penderfynodd geisio sefydlu ysgol ar y Sabbath, a rhai o nosweithiau yr wythnos, i'w haddysgu i ddarllen. Ni chawsai ei hun ddiwrnod erioed o ysgol ddyddiol na Sabbothol; ac nis gallai ddarllen bron air yn gywir. Nis gwyddai fod dim tebyg i Ysgol Sabbothol wedi ei sefydlu y pryd hwnw trwy yr oll o Orllewin Meirionydd, ond gan John Jones, Penyparc." Ychydig grybwyllion fel y rhai hyn yn unig sydd ar gael am yr Ysgol Sabbothol yn y Dosbarth hyd ddechreu y ganrif bresenol.
I—YR YSGOLION DYDDIOL CYLCHYNOL
"Friend, You are requested by Mr. Davies to meet him on the 31st, inst., at 11 o'clock in the forenoon, at Dinas-mowddu, to be remitted, where the Masters are to meet; you must remember of the List, &c. Let me know which way you intend going. I rest yours,—Bywater."
Oddiwrth y llythyr hwn gellir casglu fod yr ysgolfeistriaid yn cael eu talu o un gronfa gyffredinol.[5] Ond ceir engreifftiau hefyd o ymdrechion lleol yn cael eu gwneuthur beth yn foreuach na hyn. Yn 1808 ymddengys fod y cynorthwy a dderbynid o Loegr at Ysgolion cylchynol Mr. Charles bron wedi darfod. A hyn y cytuna y cyfrifon canlynol a geir yn ysgrifau L. W. am y cymydogaethau hyn yn helpu eu gilydd i gynal yr ysgol—
"Coffadwriaeth am yr hyn a dderbyniwyd at gynal yr ysgol yn y flwyddyn 1808,—
Bryncrug | — | £2 / 8s /0c |
John Jones (Penyparc) | — | £1/1/0 |
Dyfi | — | £2/10/6 |
Pennal | — | £2/6/9 |
John Morris (Pennal) | — | £0/6/0 |
Corris | — | £0/10/6 |
Cwrt | — | £1/1/0 |
Towyn | — | £0/16/6 |
Llwyngwiil | — | £0/10/0 |
Mr. Vaughan, Bwlch | — | £1/1/0 |
Cyfanswm | — | £12/11/3 |
Gellir tybio fod cynydd lled gyflym wedi ei wneuthur yn nheimlad y rhan yma o'r wlad o blaid yr ysgol gylchynol. Yr oedd yr eglwysi wedi eu henill erbyn yr adeg yma i wneyd eu rhan yn lled haelionus tuag at ei chynal. Gwneid y casgliad yn chwarterol, weithiau yn gyhoeddus yn y moddion, bryd arall elid o amgylch yr ardal i gasglu. Ambell waith, gosodid yn ngofal y personau a benodid i gasglu at yr ysgol gylchynol, i gymell pawb i ddyfod i'r Ysgol Sul, fel na adewid neb mewn ardal yn gyffredin heb gael y cymhelliad hwn. Byddai y rhieni yn talu rhyw gymaint dros eu plant yn yr ysgol gylchynol y pryd hwn, heblaw yr hyn a gesglid yn y gwahanol ardaloedd, yn enwedig os byddent am ddysgu Saesneg. Mewn rhai engreifftiau ymrwymai yn ardaloedd, neu bersonau mewn ardal, ymlaen llaw am gyflog yr ysgolfeistr. Byddai yr ysgolfeistriaid yn lletya yn fynych ar gylch yn y gwahanol ffermdai. Ac ar y cyntaf buont yn cael eu llety, a llawer o'u lluniaeth yn rhad; ceir engraifft o hyn yn yr hanes am Maethlon. Cymerid gofal neillduol y pryd hwn i osod gwedd grefyddol ar yr ysgol ddyddiol fel yr Ysgol Sabbothol. Rheolau syml iawn oedd ei rheolau yn aml. Mewn cyfarfod o athrawon y Dosbarth ceir y sylw canlynol,—"Bwriwyd golwg ar Ysgol y Cylch. Ystyriwyd fod ei hamser ar ben yn Llanegryn, Gorphenaf 4ydd, a'i bod i ddechreu un ai yn Llanerchgoediog ai Brynerug—hyn i gael ei derfynu rhwng John Jones a Harri Jones y Sul nesaf." Yn debyg i hyn y buwyd yn cario pethau ymlaen am y chwarter cyntaf o'r ganrif. Yr oedd dynion blaenaf yr ardaloedd, ar ol marw Mr. Charles, yn parhau i weithredu yn ol ei gynlluniau ef. Ysgrifenwyd y llythyr canlynol gan John Jones, Penyparc, at ysgolfeistr y cylch:—
"Brawd Lewis William,—Bydded hysbys i chwi y penderfyniadau a wnaed yn y cyfarfod brodyr nos Fawrth, y 19eg o Fedi, 1820, yn nghylch yr Ysgol Gylchynol,—1. Daeth chwech o gynrychiolwyr tros yr ysgolion canlynol i ymofyn am yr ysgol, Towyn, Dyfi, Pennal, Bwlch, Bryncrug, Llanegryn. 2. Rhoisant alwad unfrydol am yr ysgol; darllenwyd eich llythyr
chwi. 3. Penderfynwyd am roddi i'r athraw 4p. y chwarter am ddysgu Cymraeg heb derfyn i'r rhifedi; ac i'r athraw gael rhyddid i gymeryd cymaint ag 20 i ddysgu Saesneg (os bydd galw), ac i gyfarwyddwyr yr ysgolion gael haner y pris oddiwrth y rhieni fel y cynygiasoch, ac i'r athraw gael yr haner arall. 4. Tynwyd lots pa rai o'r ysgolion a drefna rhagluniaeth gyntaf i gael yr ysgol; a daeth y lot (1) i Dowyn, (2) Dyfi, (3) Bwich, (4) Pennal. 5. Barnwyd y dylid casglu cyflog chwech wythnos cyn dyfodiad yr athraw i bob lle.
"D S.—Fod yr ysgol i fod gwarter ymhob lle, ac i ryw berson neu bersonau ymrwymo i'r athraw dros y rhai Cymraeg am ei gyflog, ac felly fod pob lle megis ar ei ben ei hun.—Oddiwrth eich annheilwng frawd, Jno. Jones, Ysg. y Cylch."
II—YR YSGOL SABBOTHOL AM YR 50 MLYNEDD CYNTAF O'I HANES
Wedi cychwyn Ysgol Sul mewn ardal, fel canlyniad yr ysgol ddyddiol a'r ysgol ddechreu y nos, i lawr y byddai yn myned drachefn, y rhan amlaf, ac ni fu fawr o sefydlogrwydd iddi yn unman o fewn y Dosbarth hyd rywbryd wedi dechreu y ganrif bresenol. Yr hyn fu yn foddion i roddi cychwyniad gwirioneddol iddi ydoedd,—1. Arosiad y Parch. Owen Jones (Gelli), am ychydig yn awr ac yn y man gyda'i deulu yn Nhowyn o 1803 i 1808. 2. Penodiad L W. fel ysgolfeistr cylchynol yn yr ardaloedd. 3. Yr ysgol sefydlog oedd gan John Jones, yn Penyparc. Diameu i'r pethau hyn fod yn brif symbyliad iddi yn ei mabandod. Ceir hanes sefydliad un, sef ysgol Sion, ymhlith papurau L. W. Yr oedd Sion hyd yn gymharo! ddiweddar yn perthyn i ddosbarth ysgol rhwng y Ddwy Afon. Sefydlwyd yr ysgol hon, yn ol cofrestr yr hen athraw ffyddlon, yr hwn a gadwai yr ysgol ddyddiol yn yr ardal ar y pryd, Mehefin 20, 1813. Pa un ai ail gychwyn, ai dechreu y tro cyntaf oedd hyn, nid yw yn hollol sicr, ond rhoddir yr hanes gan L. W. fel un yn dechreu am y tro cyntaf erioed. Ar ol darllen, canu, a gweddïo, dosbarthwyd yr ysgol yn ddwy ran, sef yn athrawon ac yn ysgolheigion. Neillduwyd deuddeg yn athrawon ac athrawesau, ac y mae eu henwau oll ar gael; trefnwyd 5 o ddosbarthiadau meibion, a 7 o ddosbarthiadau merched. Wedi hyny galwyd ar yr athrawon o'r neilldu i ethol arolygwr, ac ar L. W. ei hun y syrthiodd y coelbren. Wedi ei benodi ef, ac i'r dosbarthiadau ddewis eu hathrawon a'u hathrawesau yn gyhoeddus, rhoddodd yr arolygwr orchymyn iddynt oll i weithredu. Ceir ganddo hanes manwl o weithrediadau yr ysgol am yr ail a'r trydydd Sul ar ol ei sefydliad, y benod a ddarllenid, a'r penill a genid ar ddechreu a diwedd yr ysgol bob tro.
Cyfarfyddid â gwrthwynebiadau mawrion dros rai blynyddoedd yn y dechreu, i gynal ysgol ar y Sabbath, a phlant yn unig fyddai yn ei gwneyd i fyny mewn llawer man am gryn amser. Wedi ei dechreu gollyngid hi i lawr yn fynych o ddiffyg cefnogaeth i'w chynal. "Ni pharhawyd yn ffyddlon," ebe yr hen bregethwr Owen Williams, Towyn, "gyda'r Ysgol Sabbothol yn Bryncrug yn hir. Gollyngwyd hi i lawr, a gadawyd pawb yn rhyddion, a'u ffrwynau ar eu gwarau, i wneyd pob drwg yn un chwant." Ond ail ymaflyd yn y gwaith drachefn a thrachefn, er gwaethaf anhawsderau, y byddai ffyddloniaid yr ysgol, nes bob yn dipyn, trwy amrywiol oruchwyliaethau y Llywodraethwr mawr, yr enillwyd y wlad o'i phlaid. Mae y llythyr canlynol yn engraifft o'r anhaws— derau, yn ddiweddarach ar oes yr ysgol, a gyfarfyddai yr hen bobl i'w chario ymlaen —
"Anwyl Frawd,
Mi gefais genadwri gan y Cyfarfod Chwechwythnosol yn Llwyngwril, i'w thraddodi i ysgrifenydd y cyfarfod, sef John Jones, iddo ef ysgrifenu atoch, oherwydd fod y cyfarfod wedi clywed eich bod wedi rhoddi yr Ysgol Sabbothol i fyny, i gael gwybod beth oedd yr achos o hyny. Ond fe ddeisyfodd ef arnaf fi anfon atoch drosto ef, gan fy mod yn clywed y modd yr oeddis yn ymdrin â'r achos yno. Nid fy hoff waith yw gwneuthur, dywedyd, nac ysgrifenu dim a fyddo o natur geryddol (er ei fod yn fuddiol), eto, yr wyf wedi methu anufuddhau i ddeisyfiad yr ysgrifenydd y waith hon. Fe ystyriwyd y mater gyda golwg ar eich absenoldeb, mewn modd tirion ac addfwyn; fe goffhawyd eich bod wedi cael cenadwri gan y cyfarfod yn Nhowyn, i'w thraddodi i ysgol Corris, oherwydd nad oedd neb oddiyno yn y cyfarfod; fe gafwyd eich bod yn ffyddlon, ac fe'ch cydnabyddwyd mewn diolchgarwch. Rhoddwyd yr un genadwri i David Humphrey, Abercorris, i'w thraddodi i chwithau ar yr un achos. Ond ar ol hyn fe amlygwyd eich bod wedi rhoddi yr ysgol heibio, ac fe gymerwyd y genadwri oddiwrth y cenhadwr, ac fe orchmynwyd ysgrifenu llythyr atoch mewn modd caredig. Gofynwyd a oeddych wedi ystyried a oedd dysgu "y rhai nis medrant," a "hyfforddia blentyn yn mhen ei ffordd" yn ordinhad ddwyfol? Ystyriwyd beth a allai fod yr achlysur i roi yr ordinhad hon heibio mwy na phregethu. Ni chafwyd fod dim yn achos digonol ond diffyg lle, a hyn nid oedd yn achos genych chwi. Dywedwyd y gallai fod genych achos digonol yn eich meddwl. Os na fyddech wedi ail ddechreu yr ysgol cyn y cyfarfod nesaf, yr hwn a gynhelir yn Nghorris, os byddech mor addfwyn, a gostyngedig, ac ewyllysgar i'r gwaith, a datguddio eich meddwl i'r cyfarfod trwy fod yno eich hun os gellwch, neu anfon, ond gwell eich cael eich hun; nid yn neillduol i'ch ceryddu, nac ychwaith i'ch hyfforddi, ond i dderbyn addysg ac adeiladaeth oddiwrthych. A hyn oddiwrth y Cyfarfod Chwechwythnosol,
Y lle hwn a roddasai yr ysgol heibio, yn ol pob tebyg, ydoedd Abergynolwyn, neu y Cwrt, fel y gelwid ef y pryd hwnw. Ychydig yn flaenorol ymwelsid ag ysgolion y cylch, ac yn yr adroddiad am yr ysgol hon, dywedid mai golwg adfeiliad a dirywiad a gawsid arni, a hyny am nad oedd blaenor (arolygwr) ynddi, i edrych ar ei hol. Yn y cyfarfod chwech wythnosol y rhoddasid yr adroddiad crybwylledig, deisyfwyd ar Richard Jones (Ceunant) i ymgymeryd a'r gwaith fel blaenor yr ysgol, oblegid yr oedd tystiolaeth wedi ei chael ei fod ef yn gymeradwy gan yr ysgol yn yr amser a aethai heibio. "Gobaith y cyfarfod hwn oedd iddo gael ei osod yn flaenor, ac y bydd iddo gymeryd y swydd, fel y gallo y Cyfarfod Chwechwythnosol ddibynu am gyfrifon o oruchwyliaeth yr ysgol." Dywedir yn Nghofiant William Hugh, ddarfod i'r pregethwr ffyddlon hwn, oddeutu yr adeg yma, roddi bywyd yn yr Ysgol Sabbothol yn Abergynolwyn, pan yr ydoedd bron a darfod yn y lle. Yn yr adroddiad o ymweliad a'r ysgolion y pryd hwn, hefyd, crybwyllir fod personau wedi eu penodi "i gynorthwyo yr athrawon i gael trefn yn ysgolion Pennal a Thowyn i geisio gosod rhyw rai yn olygwyr neu yn flaenoriaid ynddynt, a hyny mor fuan ag y byddo yn bosibi, beth bynag cyn y Cyfarfod Chwechwythnosol nesaf." Rhoddir cipolwg i ni fel hyn ar y modd y dygid pethau ymlaen gyda'r Ysgol Sabbothol yn y blynyddoedd cyntaf ar ol ei dechreuad. Dangosid llawer o fanylwch yn gystal a ffyddlondeb gan gefnogwyr cyntaf yr ysgol. Ond yr hyn sydd dipyn o syndod ydyw, ni chadwyd dim cyfrifon rheolaidd a threfnus o'r ysgolion hyd ar ol y Diwygiad yn 1860, o leiaf, nid oes dim cyfrifon ar gael ond a gafwyd yn ddamweiniol ymysg papyrau L. W. a J. J., Penyparc. Cofnodir a ganlyn yn un o'r Cyfarfodydd Daufisol cyntaf a gynhaliwyd,—"Nifer y penodau y derbyniasom gyfrif o honynt am y ddau fis hwn, 822; adnodau, 13,997. Yr oedd Towyn, Tynypwll, a'r Cwrt yn ol heb ddyfod a'u cyfrifon i mewn. Yr ysgol ddysgodd fwyaf o'r Beibl oedd Corris; o'r Hyfforddwr, Bryncrug. Personau a ddysgodd fwyaf o'r Beibl, Mary Richard, o Gorris; Egwyddorion, Evan Jones, Bryncrug."
Gwnaethpwyd ymdrech mawr yn y cylch hwn, yn ystod y chwarter cyntaf o'r ganrif bresenol, i osod yr Ysgol Sabbothol i weithio ar dir cadarn, ac i dynu allan reolau sefydlog perthynol iddi. Ac ymddengys i lawer o'r trefniadau a'r rheolau a ffurfiwyd yma gael eu mabwysiadu, nid yn unig yn rhanau eraill o Sir Feirionydd, ond yn holl siroedd y Gogledd hefyd. Y mae ar gael, mewn pamphledyn, yn llawysgrif John Jones, Penyparc, gyfres faith o Reolau a ffurfiwyd ganddo ef ei hun. Y wyneb—ddalen sydd debyg i hyn,—"Rheolau Ysgolion Sabbothol y Trefnyddion Calfinaidd, o fewn Cylch Towyn. Ffurfiwyd a phenderfynwyd ar reolau yr athrawon, gan gynrychiolwyr yr ysgolion gwahanol, mewn cyfarfod yn Aberdyfi, Mawrth 1af, 1818. Penderfynwyd rheolau yr ysgolheigion mewn Cyfarfod Daufisol gan ddirprwywyr yr Ysgolion Cyfunawl yn Nhywyn, Mawrth 26ain, 1820. Trefnwyd ac adolygwyd hwynt gan gynrychiolwyr y Cylch yn Mryncrug, Mehefin 17eg, 1822." Yn Nghymdeithasfa yr Wyddgrug, Mawrth, 1836, mabwysiadwyd rheolau unffurf i'r holl Ysgolion Sabbothol drwy holl siroedd Gwynedd; ac y mae y rhai hyny yn dra thebyg i'r rheolau oeddynt wedi eu ffurfio flynyddau yn gynt yn Aberdyfi, Towyn, a Bryncrug. Gwnaeth y gŵr hwn, sef John Jones, Penyparc, sydd wedi huno bellach er's dros ddeugain mlynedd, waith mor fawr gyda'r Ysgol Sul, am yr haner can mlynedd cyntaf o'i hanes, fel y teilynga ei enw gael ei drosglwyddo i lawr i'r oesau a ddêl fel un o'i chymwynaswyr penaf. Mewn llythyr at Gyfarfod Chwechwythnosol Seion, dyddiedig Chwefror 12fed, 1820, dywed, "Mae yn gysurus gweled y graddau sydd o lewyrch ar y rhan hon o'r gwaith. Hyn sydd yn eglur, fod yr Arglwydd o'i du, ac yn rhoddi llawer o arwyddion o'i foddlonrwydd yn yr ymdriniad âg ef. Bydded i hyn ddyfod a ni i ryfeddu yn y llwch, ein bod wedi taro at achos ag y mae Duw mawr y nefoedd o'i blaid. Bum yn meddwl fod arnom eisiau sylwi yn fanylach ar foesau yr ysgolheigion, ac ymdrechu i gael rhyw lwybr i wobrwyo a dangos ein cymeradwyaeth i'r rhai fyddo yn rhagori ac yn cynyddu ymhob rhinwedd." Yna enwa amrywiol bethau y dylid cael yr ysgolheigion i dalu sylw iddynt. Anfonodd anerchiad maith hefyd at Gyfarfod Ysgolion Corris, dyddiedig Gorphenaf 6ed, 1833, ar "Y prif ddiben a ddylai athrawon yr Ysgolion Sabbothol bob amser ei olygu yn eu holl lafur." Mae yr anerchiad, yr hwn sydd yn llaw-ysgrif J. J. ei hun, ac yn gyfeiriedig at Mr. Humphrey Davies (hynaf), Corris, yn dra chynwysfawr, ac yn hynod o addas i amgylchiadau pob oes, ac nid hawdd yw ysgrifenu dim y blynyddoedd hyn yn fwy pwrpasol. Wele rai o'r sylwadau. 1. Y prif ddiben ddylai fod genym ydyw ceisio bod yn offerynol i droi llawer i gyfiawnder. 2. Bod yn foddion i gynyrchu yn yr ysgolheigion argyhoeddiad o bechod, edifeirwch tuag at Dduw, a ffydd tuag at ein Harglwydd Iesu Grist. 3. Dylai y penodau fyddo i'w darllen fod dan sylw yr athrawon yr wythnos flaenorol. 4. Ymgeisio i gyraedd y gydwybod yn gystal a goleuo y deall. 5. Buddiol fyddai i'r athrawon ymdrechu i geisio defnyddio pob moddion a manteision i'w haddasu eu hunain i addysgu eraill. 6. Gochel prysurdeb i symud plant a phobl ieuainc i'r llyfrau uwchaf cyn meistroli y llyfrau dechreuol. 7. Gofalu rhoddi esiamplau da i'r rhai fyddo dan addysg, gan y medr plant ddarllen bywydau eu hathrawon yn well o lawer na'u llyfrau. 8. Gochel sarugrwydd ar un llaw, ac ysgafnder ar y llaw arall. 9. Rhoddi esiampl o ddiwydrwydd o flaen y disgyblion. Cofio nad oes genym ond un diwrnod i lafurio am eu lleshad tragwyddol, nac ychwaith ond ychydig amser ar y dydd hwnw, pan y mae gan Satan a phechod chwe diwrnod, a phob awr o bob diwrnod. Ni ddylai athrawon Ysgolion Sabbothol yn anad neb golli dim amser, ond ystyried eu hunain yn weithwyr, nid wrth y dydd, ond wrth y mynyd. 10. Nis gallwn gyflawni dyledswyddau perthynol i'n swydd, na bod yn sicr o lwyddiant ar ein hymdrechion, heb gymorth dwyfol. Am hyny ychwanegwn at addysgiadau ac esiamplau WEDDI.
Un o'r elfenau mwyaf pwysig yn ngwaith yr ysgol am haner can mlynedd oedd adrodd pwnc, neu fel y byddai rhai hen bobl yn dweyd, adrodd point. Fe fyddai pwnc yn cael ei roddi i'r ysgol, a chwestiynau yn cael eu rhoddi ymlaen llaw, a hysbysrwydd pa ddosbarth neu bersonau oedd i ateb. Felly byddai gwaith penodol yn cael ei roddi i bob un yn yr ysgol. Dyma engreifftiau o bwnc ysgol a roddai L. W., yn y fl. 1811, i ysgolion Llwyngwril, Bwlch, a Bryncrug. Proffwydoliaeth am Grist oedd y pwnc. "O ba deulu y deuai Crist? I ateb, John William a Jane Peter. Fath un a fyddai ei fam? I ateb, Evan Evan ac Ann Pugh. Lle y genid ef? I ateb, D. Davies a Betty Jones. Am yr un a godai ei sawdl yn ei erbyn ef. I ateb, John Jones a Pegy Rees." Rhan arall bwysig iawn i beri i ieuenctyd ddysgu y Beibl allan oedd, adrodd penodau a Salmau ar ddechreu yr ysgol, o flaen pregeth, ac yn y cyfarfodydd gweddïo. Ni fyddai yr un cyfarfod, na bach na mawr, o'r Sasiwn i lawr hyd at y cyfarfod gweddi, na byddai rhywun yn adrodd penod allan. Cynghori hefyd fyddai yn cael lle mawr, ac adrodd y Deg Gorchymyn. Dyma dri pheth oeddynt yn hanfodol i waith yr ysgol yn y dyddiau gynt—adrodd pwnc, adrodd penod allan ar ddechreu yr ysgol, ac adrodd y Deg Gorchymyn ar ddiwedd yr ysgol.
Fe fu amryw bersonau yn wasanaethgar a defnyddiol gyda gwaith yr Ysgol Sabbothol yn y dosbarth hwn am yr haner cyntaf yn gystal a'r haner olaf o'r can' mlynedd diweddaf. Ond o'r holl bersonau a weithiodd yn rhagorol trwy anhawsderau mawrion, bu tri yn nodedig o amlwg am yr haner cant cyntaf o oes yr ysgol, ac yr oedd y tri yn cael eu coffhau yn ystod Gwyl y Canmlwyddiant, ddwy flynedd yn ol, fel y tri chedyrn blaenaf yn y fyddin. Y personau hyny oeddynt y Parch. Owen Jones, Gelli, y Parch. Lewis Williams, Llanfachreth, a John Jones, Penparc. Gweithiodd llawer eraill yn dda, ond y tri hyn weithiodd fwyaf. Meddai y Parch. Owen Jones ar allu tuhwnt i'r cyffredin i holwyddori yn gyhoeddus, a rhoddai ei zel a'i frwdaniaeth adgyfodiad a bywyd yn yr ysgol lle bynag y byddai. Yr oedd ef gyda gwaith yr Ysgol Sul yn ei elfen, fel pysgodyn yn y môr, neu aderyn ar ei hedfa. Sir Drefaldwyn a gafodd fwyaf o'i wasanaeth, gan mai yno y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes gyhoeddus. Ar rai adegau, yn enwedig yn y blynyddoedd cyntaf ar ol ei symudiad yno i fyw, deuai i'r sir hon i holwyddori yr ysgolion yn gyhoeddus, pan oedd y Cymanfaoedd Ysgolion cyntaf yn anterth eu gogoniant, ac y mae rhai o'r hen bobl sydd yn fyw yn awr yn cofio yn dda y fath fywyd a gynyrchodd y pryd hwnw yn y rhan yma o winllan yr Arglwydd Iesu. Ceir gweled yn mhellach ymlaen mai efe a fu yn offeryn i roddi cychwyniad i'r Cyfarfodydd Ysgolion. Yr oedd cylch gwasanaeth John Jones, Penyparc, yn eang, yn gyson, a pharhaus. Bu Lewis Williams yn cadw yr ysgol ddyddiol gylchynol yn yr holl ardaloedd hyn, a hyny lawer gwaith yn yr un lle, o dro i dro, rhwng 1800 ac 1825. Y mae yn syndod meddwl am y gwaith mawr a wnaeth ef i achos crefydd yn ddidrwst a diymffrost am y chwarter cyntaf o'r ganrif. Cyn belled ag y mae Dosbarth rhwng y Ddwy Afon a Dosbarth Dolgellau yn myned, y mae Lewis Williams yn haeddu colofn goffadwriaeth cân uwched a'r uwchaf o arweinwyr crefydd yn Nghymru.
Y pedwar cyfnod y bu cynydd ar yr Ysgol Sabbothol yn yr haner can' mlynedd cyntaf o'i hanes oeddynt —1. Tymor cyntaf y Cymanfaoedd Ysgolion oddeutu 1808, gan gynwys yr adeg y dygwyd cyflawnder o'r Gair sanctaidd i'r wlad mewn canlyniad i sefydliad Cymdeithas y Beiblau; —2, ordeiniad gweinidogion y Methodistiaid yn 1811; 3, diwygiad mawr Beddgelert 1818—1820; 4, Jiwbili yr Ysgol Sabbothol yn 1832. Ceir fod y pedwar amgylchiad uchod wedi dylanwadu rhyw gymaint yn yr ardaloedd hyn, er cryfhau y sefydliad. Ond tra sicr ydyw mai yr hyn a elwid Diwygiad Beddgelert a roddodd y cyfnerthiad mwyaf grymus iddi o ddim byd a ddigwyddodd o'r dechreu hyd yn awr. Flynyddoedd a ddaw, yn y dyfodol, mae yn bur sicr yr edrychir ar y Can'mlwyddiant sydd newydd fyned heibio fel cyfnod yn ei hanes y rhoddwyd camrau grymus ymlaen.
III—Y CYFARFODYDD YSGOLION.
Ymddengys yn lled sicr mai Dosbarth rhwng y Ddwy Afon a gafodd yr anrhydedd o roddi y cychwyniad cyntaf i'r cyfarfodydd hyn yn Nghymru. Nid ydym wedi gweled yn hanes. Mr. Charles ddim byd sicr mewn cysylltiad â hwy, dim ond yn unig grybwylliad fod tebygrwydd mai efe a'u sefydlodd. Ond ni welsom ddim byd yn rhoddi sicrwydd pa bryd, pa le, na pha fodd y sefydlwyd hwy ganddo ef. Yn Nghynhadledd Can'mlwyddiant yr Ysgolion Sabbothol yn Nolgellau, Mai, 1885, wrth siarad ar y Cyfarfodydd Ysgolion, gwnaeth un o'r siaradwyr grybwylliad mai yn Nosbarth Towyn y sefydlwyd hwy. Ac mewn adolygiad ar yr Adroddiad o'r Gynhadledd yn y Lladmerydd, am Gorphenaf yr un flwyddyn, ceir y sylw canlynol Da genym ei weled (sef un o'r siaradwyr a siaradodd ar y Cyfarfodydd Ysgolion) yn cywiro crybwylliad a wneir yn Llyfr Can'mlwyddiant Ysgol Sabbothol Cymru, gan Mr. Levi, am Mr. Charles fel sylfaenydd y sefydliad a elwir 'Y Cyfarfod Ysgol. Mae yn wybyddus mai yn Nosbarth Towyn Meirionydd y dechreuwyd cynal Cyfarfodydd Ysgolion, ac mai y diweddar Barch. O. Jones, Gelli, oedd eu sylfaenydd." Yr oedd y gŵr Parchedig o'r Gelli, fel y crybwyllwyd, yn enedigol o'r Crynllwyn, gerllaw Towyn, ac wedi iddo ddyfod yn gyhoeddus gyda gwaith yr Ysgol Sul, ymwelai yn awr ac eilwaith â'i ardal enedigol, a'r adegau hyny enynai zel yn ei gymydogion o blaid ei hoff orchwyl. Dychwelodd i Dowyn yn gwbl oll, gan ddechreu cario ymlaen fasnach yn y gelfyddyd y dysgwyd ef ynddi, yn 1808, ac arhosodd yma am flwyddyn neu ragor. Ei fywgraffydd, y Parch. John Hughes, Bontrobert, yr hwn oedd yn berffaith hyddysg yn ei hanes, a'r hwn hefyd a wyddai hanes crefydd yn y wlad y blynyddoedd byn oreu o bawb, a rydd y wybodaeth bendant a ganlyn:—"Yn yr ysbaid y bu yn byw yn Nhowyn, y rhoddodd ef y cychwyniad cyntaf ar y Cyfarfodydd Chwechwythnosol a Daufisol, yn achos yr Ysgolion Sabbothol. Er i'r cyfryw gyfarfodydd fyned i lawr am flynyddoedd yn yr ardaloedd hyny, wedi ei symudiad efo Dowyn, eto yn fuan wedi iddo ddyfod i fyw i Sir Drefaldwyn, trwy gydgordiad a chydweithrediad amryw o'i frodyr, sefydlwyd y cyfryw gyfarfodydd, ac y maent yn parhau hyd heddyw, nid yn unig yn Swydd Drefaldwyn, ond trwy Gymru yn gyffredinol, ymhlith y Methodistiaid Calfinaidd."
Y mae y paragraff uchod yn dangos yn eglur, debygwn, y lle, yr amser, a chan bwy y sefydlwyd y Cyfarfodydd Ysgolion. Yr ydym yn cael eu bod wedi cael y cychwyniad cyntaf yn Nosbarth Towyn, wedi eu sefydlu drachefn yn Swydd Drefaldwyn, ac yna trwy Gymru yn gyffredinol.[6] Aethant i lawr yn Nosbarth Towyn am dymor, feallai, o chwech neu saith mlynedd. Yn mhapurau L. W. ni cheir cyfeiriad atynt o gwbl yn y blynyddoedd 1811 a 1812, ond yn unig at gyfarfod a gynhelid yn fisol i holi yr ysgolion yn unigol ar bynciau a roddid iddynt. Ac y mae hyn yn profi y dywediad yn Nghofiant y Parch. O. Jones. Ni cheir eu hanes yn ail ddechreu, ond yr oeddynt yn bod Ionawr, 1817, o dan y cymeriad o Gyfarfodydd Chwechwythnosol y Cylch. A'r mis hwn yr oedd arolygiaeth yn cael ei wneyd ar y gwahanol ysgolion, a phrawf hefyd fod cryn waith wedi ei wneuthur drwyddynt eisoes, oddiwrth yr hyn y mae yn rhaid dyfod i'r casgliad eu bod wedi eu hail gychwyn flwyddyn neu ddwy, o leiaf, cyn y dyddiad uchod. Mae y llythyr a ysgrifenodd L. W. un o ddyddiau cyntaf y flwyddyn 1817 yn profi mai nid peth newydd oedd y cyfarfodydd hyn. Gellir felly, yn lled sicr, roddi dyddiad eu dechreuad yr un flwyddyn ag y bu farw Mr. Charles, sef 1814. A hwn oedd y Cyfarfod Ysgol cyntaf yn Ngorllewin Meirionydd. Yn nechreu 1819 y ffurfiwyd y cyfarfodydd hyn gyntaf yn Nosbarth Trawsfynydd a Ffestiniog, yn ol cyfrifon Mr. Morris Llwyd, Cefngellgwm. Ac yn 1817 y cawsant eu sefydlu yn Eifionydd, yn ol tystiolaeth bendant Mr. Ellis. Owen, Cefnymeusydd. Modd bynag, mae yn bur sicr fod bywyd a gweithgarwch digyffelyb yn perthyn i holl waith yr Ysgol Sabbothol am y pum' mlynedd cyntaf ar ol ail ddechreu y cyfarfodydd hyn. Yr oedd y blynyddoedd hyny—blynyddoedd Diwygiad Beddgelert—yn flynyddoedd deheulaw yr Arglwydd yn Nghymru.
Yr hanes nesaf ar gael am y Cyfarfodydd Ysgolion yn y Dosbarth hwn ydyw, yr ymdrafodaeth a gymerodd le o berthynas i'r newidiad yn yr amser o'u cynal—o chwech-wythnosol i ddau fisol. Y mae manylion yr ymdrafodaeth hon i'w cael yn mhapyrau L. W., ac yn ei lawysgrif ef ei hun. Mae yr hanes yn ddyddorol, gan ei fod yn dangos y modd y symudai y brodyr ymlaen gyda'r gwaith yr amser hwn, ac felly, fe'i rhoddwn ef yma yn llawn:—
"Cynygiad ar gael gwell trefn ar y cyfarfodydd sydd yn perthyn i'r Ysgolion Sabbothol yn y rhan nesaf i'r mor o Sir Feirionydd. Sef ar y pedwar dosbarth,—1. Rhwng y Ddwy Afon, Abermaw a Dyfi; 2. Dyffryn; 3. Trawsfynydd; 4. Dolgellau. Y sylw cyntaf ar hyn a fu mewn Cyfarfod Ysgolion ardaloedd Dolgellau, yn Buarthyrë, Gorphenaf 20, 1820. Penderfynwyd yno ar yr achos i anfon i'r dosbarthiadau eraill, i ddeisyf arnynt anfon cenhadwr dros eu dosbarth i gyfarfod blynyddol Dolgellau, Medi 24, i fwrw golwg ar gael diwygiad ar y drefn i gadw Cyfarfodydd y Dosbarthiadau.
CYFARFOD BLYNYDDOL DOLGELLAU, MEDI 24, 1820.
Penderfyniadau a wnaed yno at gael diwygiad ar drefn i gadw Cyfarfodydd y Dosbarthiadau uchod.
1. Na byddo dim ond un o'r Dosbarthiadau i gadw eu cyfarfod ar yr un Sabbath, oherwydd os byddai mwy nag un ar unwaith, byddai yn anhawdd cael offerynau i'w cadw; ac os ceid, byddai hyny yn drygu moddion Sabbothol mewn lle arall. 2. Fod y dalaeth i fod yn unffurf yn amser ei chyfarfodydd, sef bob yn ddau fis, fel na byddo y naill ddim yn myned ar ffordd y llall. Nid oedd cenhadon cylch rhwng y Ddwy Afon ddim yn gallu penderfynu yn bresenol, a ddeuai eu cylch hwy yn unffurf o berthynas i'r amser, oherwydd eu bod hwy wedi cael gorchymyn na newidient y drefn, o chwech-wythnosol i ddau fisol, am y byddai hyny yn lleihau breintiau y cylch—oherwydd fod y cylch mor fawr, ni ddeuai y cyfarfod ond anaml iawn i bob lle, os byddai bob dau fis. Ond addawsant y gwnaent cu goreu i gael y Dosbarth yn foddlon i fod yn unffurf yn yr amser, os caent gyfarfod arall o'r enw cyfarfod achlysurol y daith Sabbothol. Penderfynwyd y caent yn ewyllysgar, ond iddynt hwy ofalu am offerynau i'w gadw, ac na byddai iddynt ei gadw ar yr un amser a'r cyfarfodydd eraill. 3. Bod i'r dalaeth gadw ei chyfarfodydd yn yr un mis. (1) Dosbarth Rhwng y Ddwy Afon i gadw eu cyfarfodydd y Sul cyntaf o'r mis; (2) Dyffryn yr ail Sul o'r mis; (3) Trawsfynydd y trydydd Sul; (4) Dolgellau y pedwerydd Sul, neu yr olaf o'r mis. A'r drefn hon i fod bob yn ddau fis. 4. Penderfynwyd ar bersonau i gadw y cyfarfodydd, ac i fod yn olygwyr arnynt. Sefydlwyd un ymhob Dosbarth, ac i bob un fod yn ofalus am ei Ddosbarth ei hun—i fod ymhob cyfarfod os byddai modd, ac i alw am un o'r lleill i'w gynorthwyo yn y gwaith, a bod gan y naill awdurdod ar y llall i alw am gynorthwy, os byddai Cyfarfod Misol y sir yn foddlon. 5. Bod hyn gael ei ofyn yn Nghymdeithasfa Dolgellau, yn y rhan hyny o'r moddion a fyddo yn perthyn i'r achos yn y sir. Y personau a enwyd oeddynt,—
1 Dosbarth y Ddwy Afon, Lewis Williams.
2 Dosbarth y Dyffryn, Richard Humphreys.
3 Dosbarth Trawsfynydd, Richard Jones.
4 Dosbarth Dolgellau, Richard Roberts."
Buarthyrë, lle y cychwynwyd yr ymdrafodaeth i'r trefniadau hyn, ydoedd ffermdy yn y bryniau pell, rhwng Hermon ac Abergeirw. Nid oedd yr enw adnabyddus Gorllewin Meirionydd mewn bod y pryd hyn; gelwid y cylch eang hwn y rhan agosaf i'r mor o Sir Feirionydd. Nid oedd dim cymaint a sôn yn yr ymdrafodaeth ychwaith am Ffestiniog boblog a brigog; llyncid y lle gor-bwysig, ac yn awr mawr ei freintiau, i fyny yn llwyr ac yn hollol yn y lle pellenig hyd yn ddiweddar, Trawsfynydd Safai dosbarth rhwng y Ddwy Afon ar flaen y rhestr, ac yr oedd y dosbarth hwn yn gwingo yn erbyn i'r Cyfarfod Ysgol fod mor anaml ag unwaith bob dau fis. Buwyd yn dra ffodus i ddyfod o hyd i'r penderfyniadau hyn, gan eu bod yn rhoddi gwybodaeth i ni am y cyfarfodydd dau—fisol, ac am eu ffurfiad i'w sefyllfa arhosol. Un peth a welir yn amlwg ynddynt ydyw, fod y Methodistiaid y pryd hwn yn Drefnyddion gwirioneddol, a'u bod yn llawn awyddfryd, nid am eu lleshad eu hunain, ond lleshad eu gilydd, a lleshad yr achos yn gyffredinol. Peth arall a welir ydyw, fod yr offerynau, neu y pregethwyr i ofalu am y cyfarfodydd yn anaml iawn o'u cymharu â'r hyn ydynt yn awr. Mor bwysig oedd gwaith yr Ysgol Sabbothol yn ngolwg y tadau hefyd, fel yr oeddynt yn dwyn eu trefniadau ynglŷn â'r gwaith i'w cadarnhau gan y Gymdeithasfa. Erys y Dosbarthiadau Ysgolion yr un fath yn awr ag yr oeddynt driugain ac wyth o flynyddau yn ol, oddieithr fod Trawsfynydd wedi ei lyncu yn ol drachefn gan Ffestiniog, a bod y dosbarth hwn, oherwydd lliosogrwydd y boblogaeth, wedi myned yn fwy na llon'd ei ddillad, ac wedi ad-drefnu ei hun rhyw ddeng mlynedd yn ol i dair adran. Yn 1820, yr oedd y pedwar dosbarth yn unffurf ymhob peth, a'r naill ddosbarth yn gwybod hanes y llall, a'r naill yn barod i helpu y llall mewn pob hyfforddiant a chynorthwy. Wedi hyny, collasant bron bob gwybodaeth am eu gilydd, ac aeth pob un i gadw business ei hun, ac i gadw ei gyfrifon ei hun. Ni wyddai y naill ddosbarth ddim o helyntion y llall am flynyddau lawer hyd 1870, pryd y penodwyd ysgrifenydd i'r Ysgol Sabbothol o fewn cylch y Cyfarfod Misol. Y flwyddyn hono, tynwyd allan gyfrifon unffurf i'w cadw gan bob dosbarth, a chadarnhawyd hwy gan y Cyfarfod Misol. O hyny hyd yn awr cyhoeddir y cyfrifon yn flynyddol, ac y mae erbyn hyn lawer mwy o wybodaeth yn un rhanbarth beth a wneir yn y rhanbarth arall. Ac y mae y Cyfarfod Ysgolion rhwng y Ddwy Afon wedi bod, yr ugain mlynedd diweddaf, yn llawn mor weithgar a llewyrchus, os nad yn fwy felly, nag yn yr un dosbarth yn y sir.
IV—Y CYMANFAOEDD YSGOLION
Y mae i bob peth yn y byd hwn ei dymor. Tymor cyntaf y Cymanfaoedd Ysgolion ydoedd yn 1808. Trwy gydgyfarfyddiad amryw bethau mewn Rhagluniaeth, yr oedd zel a brwdaniaeth gyda y rhan yma o waith yr Arglwydd wedi cyfodi i bwynt uchel y flwyddyn hon. Cynhelid rhai Cymanfaoedd lliosog yn yr awyr agored, am nad oedd adeiladau digon eang i'w cael tuag at eu cynal. Yn 1808 y cynhaliwyd y Gymanfa hynod ar ben mynydd Migneint, yn gynwysedig o. ysgolion Ffestiniog ac Ysbytty, pryd yr oedd 300 o ddeillaid yr Ysgolion Sabbothol yn bresenol, ac y torodd allan yn orfoledd mawr cyn i'r ysgolion ymwahanu. Hon ydoedd y Gymanfa Ysgolion hynotaf, yn ddiau, a fu yn Sir Feirionydd o'r dechreu hyd yn awr. Ni cheir hanes am yr un Gymanfa neillduol yn y dosbarth rhwng y Ddwy Afon mewn amseroedd. boreuol, ond yr un y bu y Parchn. Robert Jones, Rhoslan, Owen Jones, a W. Pugh, yn ei chynal yn Bryncrug, yn 1808. Eto, adrodda hen bobl y wlad iddynt weled cyfarfodydd lliosog o ddeillaid yr Ysgol Sul lawer gwaith, a'r holwyddori cyhoeddus. ynddynt gan y Parchn. O. Jones, y Gelli, Lewis Williams, a. Robert Owen, Nefyn, o dan yr eneiniad dwyfol.
Peth cymhariaethol ddiweddar ydyw y Gymanfa Ysgolion flynyddol, rhwng y Ddwy Afon, wedi ei sefydlu yn rheolaidd yn 1858. Ni bu iddi erioed gael ei chynal yn gyson a rheolaidd yma cyn hyn. Mae yn wir fod dau gyfarfod tebyg i Gymanfa wedi eu cynal yn gynt. Cynhaliwyd y cyntaf yn Mhennal, yn 1864, yr hwn a ganmolir yn fawr hyd heddyw, yn yr hwn y tynodd y Parchn. G. Ellis, M.A., Bootle, a John Roberts, Kassia, sylw neillduol, pan yn fechgyn tra ieuainc. Enillodd Mr. G. Ellis y brif wobr, ac areithiodd ef a Mr. John Roberts yn y cyfarfod. Yr ail a gynhaliwyd yn Nhowyn, Gwener y Groglith, 1865. Yn ol y rhaglen, yr enw ar hwn oedd, Cyfarfod Cystadleuol perthynol i Ysgolion Sabbothol y Methodistiaid Calfinaidd yn Nosbarth Towyn." Aethpwyd i ddyled gyda'r cyfarfod hwn, a bu wedi hyny fwlch o dair blynedd heb yr un cyfarfod. Amlwg ydyw fod y cyfarfodydd hyn wedi eu trefnu gan y Cyfarfod Ysgolion. Y Parch. W. Davies, Llanegryn, oedd yn llywyddu y cyfarfod cyntaf yn Mhennal. Cynhaliwyd y cyfarfod blynyddol rheolaidd cyntaf yn Abergynolwyn, Medi laf, 1868. Yr enw ar hwn oedd, Cymanfa Ysgolion Dosbarth y Ddwy Afon. Y Llywyddion oeddynt y Parchn. William Davies, Llanegryn, ac Ebenezer Jones, Abergynolwyn. Dywedai un o'r llywyddion yn ei sylwadau agoriadol "Yr ydym wedi cael cyfarfodydd rywbeth yn debyg o'r blaen, ond yn awr yr ydym yn sefydlu Cymanfa Ysgolion ar gynllun mwy eang, ac ar sylfaeni mwy parhaol, ac yr ydym yn credu y bydd iddi barhau bellach tra byddo y Methodistiaid mewn bod." Edrychai rhai ar y sylw hwn gyda llygaid a chalon angrhediniol. Modd bynag, mae y Gymanfa wedi parhau i gael ei chynal yn ddifwlch bob blwyddyn hyd yn awr. Ymhen blynyddoedd a ddaw, diameu y bydd rhaglen y gyntaf a gynhaliwyd, yr hon sydd ar gael a chadw, yn llawn dyddordeb. Cynhaliwyd y Gymanfa hyd yma ar gylch yn yr ysgolion liosocaf, ac mae y lleoedd sydd yn ei derbyn yn garedig yn dwyn y draul eu hunain mewn ymborth a llety, a'r holl ysgolion yn cyd-gyfranu at dreuliau eraill y Gymanfa. Cynhelir dau gyfarfod cyhoeddus, y prydnhawn a'r hwyr, a chyfarfod yn y boreu o swyddogion y Cyfarfod Ysgol, cynrycholwyr yr ysgolion, a gweinidogion y dosbarth, i fwrw golwg dros y cyfrifon, i ddewis swyddogion, ac i drefnu gwaith yr ysgolion am y flwyddyn ddilynol. Yr ydys wedi amcanu o'r dechreu i ddyfod ag amrywiaeth i mewn iddi, a chymerir llawer o drafferth gan y personau sydd yn trefnu y gwaith bob blwyddyn i wneuthur hyn. Bu llawer o broffwydi y blynyddoedd cyntaf yn proffwydo ei marwolaeth, ac fe gafodd lwgfa
hefyd rai gweithiau yn ei mabandod, fel pob creadur ieuanc. Ond nid yn unig y mae wedi parhau heb ei rhoddi i lawr, ac heb i'w harweinwyr feddwl unwaith am ei rhoddi i lawr, ond y mae bellach er's cryn amser yn enill nerth flwyddyn ar ol blwyddyn. Ac nid oes i'w gael yn y rhan yma o'r wlad yr un cyfarfod yn ystod y flwyddyn mor boblogaidd ag ydyw. Cedwir i fyny fesur mawr o frwdfrydedd yn y rhan fwyaf o'r ysgolion o berthynas iddi. Feallai fod dau reswm o leiaf i'w cael dros ei llwyddiant yn y dosbarth hwn ragor dosbarthiadau eraill yn y sir. Un rheswm ydyw, yr amrywiaeth a berthyn iddi, a'r ymgais a wneir i roddi gwaith i lawer, ac hyd y gellir i bawb. Gwneir gwaith mawr yn ystod y flwyddyn ar ei chyfer. Yn y Gymanfa ddiweddaf, er engraifft, rhoddwyd yn yr oll 290 o Dystysgrifau am ddysgu allan—am ddysgu y Rhodd Mam 43: yr Holiedydd Bach 25; Tonic Solffa 80; y naw penod cyntaf o'r Hyfforddwr 40; yr oll o'r Hyfforddwr 82. [Yn y Gymanfa a gynhaliwyd ar ol hyn yn Abergynolwyn yn 1888, dosbarthwyd yn yr oll 329 o Dystysgrifau]. Y rheswm arall dros ei llwyddiant ydyw, fod yn digwydd bod yn y dosbarth nifer dda o ddynion medrus ac ymroddgar, yn weinidogion, pregethwyr, blaenoriaid, ac ysgolfeistriad yr ysgolion dyddiol, y rhai a roddant law wrth law ac ysgwydd wrth ysgwydd yn gryf o blaid y symudiad. Eleni (1887), cynhelid y Gymanfa yn Llanegryn, Llun Sulgwyn, yr hon o ran lliosogrwydd pobl, o leiaf, oedd yn dra llwyddianus. Cyrchai deiliaid yr ysgolion iddi o bob cyfeiriad, mewn wageni, certi, ceir, ar geffylau ac ar draed. Nid oedd yn y lle yr un adeilad digon mawr i'w chynal, a chan fod y tywydd yn ffafriol cynhaliwyd y cyfarfodydd y prydnhawn a'r hwyr yn yr awyr agored. Yr oedd yr olygfa y diwrnod hwnw yn dwyn ar gof yr hanesion am yr hyn a gymerai le, mewn gwahanol ranau o'r wlad, bedwar ugain mlynedd yn ol, pan oedd y zel gyda y Cymanfaoedd Ysgolion yn ei lawn nerth, yn nyddiau Mr. Charles o'r Bala. Ac wrth dalu diolchgarwch i gyfeillion Llanegryn am eu croesaw llawn i'r Gymanfa, dymunai Mr. David Rowland, Pennal, fendith iddynt hyd y bedwaredd-genhedlaeth- ar-ddeg-ar-hugain-ar-ol-y-ganfed.
V—SWYDDOGION Y CYFARFOD YSGOLION
Yr ydym wedi gweled i sicrwydd mai Lewis Williams, wedi hyny o Lanfachreth, oedd y pregethwr a ofalai am y cyfarfodydd yn 1820. Efe yn ddiameu oedd y gofalwr o'r cychwyn cyntaf, a'r flwyddyn uchod gosodwyd ef yn rheolaidd yn ei swydd. Bum' mlynedd wedi hyn yr oedd ef yn ymsefydlu yn Llanfachreth, ond y tebyg ydyw ei fod yn arolygu llawer ar y Cyfarfodydd Ysgolion yn y dosbarth hwn drachefn, hyd oddeutu y flwyddyn 1840. Y Parchn. Richard Roberts, Dolgellau, a William Jones, Maethlon, oeddynt yn holwyddorwyr rhagorol, ac arnynt hwy y disgynodd llawer o'r gwaith ar ol L. W. Yn y flwyddyn 1859 yr oedd dau yn y swydd o ofalwyr, sef y Parchn. Ebenezer Jones, Corris, a Robert Griffith, Bryncrug. Ar eu hol hwy bu y Parch. W. Davies, Llanegryn yn ofalwr, am 6 neu 7 mlynedd. Gan na chadwyd dim cyfrifon rheolaidd hyd yn ddiweddar, nis gellir cael enwau y swyddogion ond yn anmherffaith.
Ysgrifenydd y Cyfarfod Ysgol o'r cychwyn cyntaf yn ddi-ddadl ydoedd John Jones, Penyparc. Cyfeirir ato felly yn awr ac eilwaith yn ysgrifau Lewis Williams, yr hwn a'i galwai ef "Ein hanrhydeddus a'n parchus ysgrifenydd." Llanwodd y swydd hyd nes iddo fethu gan henaint, a bu ei dymor ef gyda y gwaith yn hwy o lawer na neb arall. Er ei fod yn fedrus a manwl fel ysgrifenwr, ymddengys na ddarfu iddo ddim cadw llyfr cofnodion o hanes y cyfarfodydd, yr hyn sydd erbyn hyn yn golled. Clywsom un oedd yn ysgrifenydd yn ddiweddarach nag 1850 yn dweyd na chedwid dim cofnodion yn ei amser ef ond a roddid i lawr yn y Dyddiadur ar y pryd. Bu y personau canlynol yn ysgrifenyddion ar ol J. J.-Lewis Vaughan, Bryndinas: Evan Roberts, Fachgoch; Hugh Thomas, Towyn; Griffith Pugh, Berthlwyd; Thomas James, Gwyddgwian. Bu G. Pugh, Berthlwyd, yn y swydd am ddau dymor, ac am 7 mlynedd gyda'u gilydd un tymor, a rhoddwyd iddo anrheg gan ysgolion y dosbarth am ei ffyddlondeb. Y gofalwr yn rhinwedd ei swydd ydoedd llywydd y cyfarfod bob amser hyd 1877, pryd y barnwyd yn ddoeth i ddewis llywydd yn ychwanegol. Er y flwyddyn 1863 cadwyd cofnodion rheolaidd, ac o hyny hyd yn awr, mae y personau canlynol wedi bod yn swyddogion:—
Gofalwr
1866—1867, Owen Roberts, Llwyngwril.
1868—1869, Francis Jones, Aberdyfi.
1870—1871, Evan Jones, Corris.
1872—1876, Robert Owen, M.A., Pennal.
1876—1881, William Williams, Corris.
1882—1883, R. W. Jones, Abergynolwyn.
1884—1885, John Owen, Aberllefeni.
1886—1887, Robert Owen, M.A., Pennal.
1888 — R. J. Williams, Aberllefeni.
Ysgrifenydd
1863—1871, Evan Ellis, Abergynolwyn.
1871—1872, R. W. Jones, Abergynolwyn.
1873—1879, H. Lloyd Jones, Corris.
1880—1881, Richard Jones, Gwyddelfynydd.
1882—1883, J. Maethlon James, Towyn.
1884—1885, H. S. Roberts, Bethania.
1886—1887, Edward Rowland, Pennal.
1887—1888, J. R. Thomas, Abergynolwyn.
Llywydd
1877—1879, Evan Evans, Bryneglwys.
1880—1881, Thomas Jones, Caethle.
1882—1883, D. Ifor Jones, Corris.
1883—1884, H. Lloyd Jones, Corris.
1885 — Evan Evans, Gesail.
1886—1887, Edward Humphreys, Corris.
1888 — W. Roberts, Bodlondeb, Bryncrug.
Trysorydd.
1877—1887, Humphrey Davies, U.H., Corris.
1887—1888, Hugh Vaughan, Cae'rberllan.
PENOD VII. RHAI O FLAENORIAID HYNOTAF Y DOSBARTH
CYNWYSIAD—Harry Jones, Nantymynach—William Davies, Llech— lwyd—Owen Evan. Tyddynmeurig—John Jones, Penyparc— Richard Jones, Ceunant—Humphrey Davies, Corris—Rowland Evans, Aberllyfeni—Owen Williams, Aberdyfi—William Rees, Towyn—Thomas Jones, Corris—Hugh Owen, Maethlon—William. James, Maethlon.
Harry Jones, Nantymynach
AE hyny o hanes sydd i'w gael am y gŵr hwn yn rhoddi rhyw gipolwg i ni ar bethau fel yr oeddynt. yn y dechreuad. Dilynai ef yn bur agos i sodlau y crefyddwyr cyntaf. Yr oedd yn un o'r blaenoriaid cyntaf, ac hefyd yn un o'r rhai a ddechreuodd letya pregethwyr gyntaf yn y bröydd hyn. Derbyniodd angylion i'w dŷ, ac fel Abraham, rhoddodd orchymyn "i'w blant ac i'w dylwyth ar ei ol, gadw o honynt ffordd yr Arglwydd." Gorchymynodd yn bendant iddynt gadw y drws yn agored i weision yr Arglwydd. Cyrhaeddodd ei orchymyn a'i esiampl yn bellach na Nanymynach, oblegid mae ei deulu, hil epil, yn para i "ddilyn lletygarwch." Ymunodd Harry Jones â chrefydd, fel y gellir casglu oddiwrth ychydig o'i hanes, oddeutu y flwyddyn 1794. Treuliodd haner cyntaf ei oes mewn difyrwch gwag, trwy ddilyn chwareuon yr amseroedd, a mynychu y gwylmabsantau. Yn ei argyhoeddiad, teimlai wrthwynebiad cryf i'r athrawiaeth am y pechod gwreiddiol, a syniai mai peth afresymol oedd galw baban yn bechadur. Ond wedi iddo weled ei gyflwr ei hun yn golledig, ffurfiodd farn uniongred o hyny allan am y pechod gwreiddiol. Gwrando pregeth yn Nhowyn ar y geiriau, "ac o'r neilldu i'w ddisgyblion efe a eglurodd bob peth," a fu yn foddion i beri iddo ymuno â chrefydd. Ar ol ymuno, teimlai anhawsder i ymarfer â dyledswyddau cyhoeddus crefydd, yn enwedig y ddyledswydd deuluaidd. Ond ar ol dechreu, dywedai ei hun yn fynych fod yn anhawddach esgeuluso na chyflawni y ddyledswydd, ac ni fyddai cynhauaf, ffair, na marchnad yn ei atal i gynal y ddyledswydd deuluaidd. Fel meistr, ymddygai yn dirion at ei wasanaethyddion, gofalai am eu lles ysbrydol, ac arferai roddi rhanau o'r gair iddynt y nos, er mwyn iddynt eu cofio, a'u hadrodd ar ddyledswydd boreu dranoeth. Yr oedd ganddo ddull gwahanol i'r cyffredin, hefyd, i ddysgu ei blant i fod yn grefyddol. Pan fyddai yn myned i geryddu un o honynt, cymerai ef i ystafell o'r neilldu, a'r plant eraill gydag ef i fod yn dystion; yna rhoddai y wialen heibio, ac äi ar ei liniau i ofyn bendith ar y cerydd; ac yn y dull hwn, amcanai argraffu ar eu meddyliau mai eu lles personol oedd ganddo mewn golwg wrth eu ceryddu. Yr oedd ei wraig, Margaret Jones, yn nodedig o grefyddol, a chydunai â'i phriod i hyfforddi y gwasanaethyddion, i geryddu y plant, ac i letya gweinidogion yr efengyl.
Llanerchgoediog (Abertrinant) ydoedd ardal gartrefol Harry Jones, ac yr oedd moddion crefyddol yn cael eu cynal mewn tŷ anedd yn yr ardal hono, er cyn iddo ef ymuno â chrefydd. Cynhelid ysgol a chyfarfod gweddi yno y Sabbath, ac er mai ef ei hun fyddai y rhan fynychaf yn ei gynal, deuai y bobl ynghyd fel pe buasai yno bregethwr dieithr. Aelodau o eglwys Bryncrug oedd hyny o broffeswyr oedd yn Llanerchigoediog, ac yr oedd Harry Jones yn gyd-olygwr â John Jones, Penyparc, yn yr eglwys hono. Yr oedd Bryncrug yn gyfoethog, mewn ystyr grefyddol, trwy gael dau flaenor mor enwog. Heblaw gofalu am yr achos bychan yn Llanerchgoediog, elai Harry Jones i Fryncrug unwaith y Sabbath, ac i'r cyfarfod eglwysig bob nos Wener. Rhagorai mewn, doniau i flaenori yn yr eglwys, sef mewn gwroldeb i ddisgyblu, mewn tynerwch i hyfforddi, ac mewn byrdra i fyned trwy ei holl gyflawniadau crefyddol; elai yn uniongyrchol at ei orchwyl, a deuai heb ymdroi i ben ei siwrnai, ac arferai ddweyd yn fynych, "mai diffyg min ar ein harfau yw yr achos ein bod mor anniben yn cyflawni ein gorchwylion."
Rhoddai sylw neillduol i Ragluniaeth Duw, ac ymddiriedai ynddi am bethau tymhorol ac ysbrydol. Hoff ganddo fyddai adrodd am y tro hynod gyda chadwraeth ceffyl John Ellis, Abermaw. Digwyddodd y tro hwnw ryw gymaint o amser yn flaenorol i'r flwyddyn 1810. Aeth John Ellis i Lundain i bregethu am dri mis. Cymerodd Harry Jones ei geffyl i'w borthi am yr ysbaid hwnw, yr hwn oedd dymor i'w borthi yn y tŷ. Yr oedd yr haf blaenorol wedi bod yn sych iawn, a phorthiant anifeillaid y gauaf o ganlyniad yn hynod brin, a bernid fod y porthiant yn brinach ganddo ef na llawer o'i gymydogion. Ond er eu mawr syndod, nid oedd nemawr dyddynwr yn yr ardal heb ddyfod ato ef i geisio gwair ar galanmai!
Yr oedd ei ddiwedd yn dangnefedd llawn, fel y gallesid disgwyl i ŵr mor perffaith ac uniawn. Trefnodd ei dŷ cyn marw, ac ymhlith pethau eraill, pan y gofynodd ei fab iddo pa fodd yr ydoedd, atebai, "Cymylog ydyw ar fy meddwl, ond er fod amheuaeth yn awr yn fy nghuro i lawr, eto, wrth droi yn ol i edrych ar y dyddiau gynt, yr wyf yn credu fod cyfamod tragywyddol wedi ei wneuthur a mi." Bu farw Gorphenaf 8fed, 1823, yn 64 oed, a bu galar mawr ar ei ol. Y rhai a'i hadwaenent a ddywedant ei fod yn fwy ei ddylanwad yn yr oes hono na neb yn yr ardaloedd.
William Davies (William Dafydd), Llechlwyd
Yn hen fynwent Celynin, cei a ganlyn ar y beddrod lle yr huna: "Er coffadwriaeth am William Davies, Llechlwyd, yr hwn a fu farw Ebrill 19eg, 1854, yn 77 mlwydd oed." Ganwyd ef felly yn 1777, blwyddyn y tair caib, fel yr arferai ef ei hun ei galw. Yr oedd yn un o'r tri neu bedwar cyntaf o flaenoriaid a fu gan y Methodistiaid yn y dosbarth hwn o'r wlad. Nid yw yn hysbys pa bryd y neillduwyd ef i'r swydd, ond yr oedd yn gwneyd gwaith blaenor lawer o amser cyn ei neillduo, os bu neillduo arno o gwbl. Dechreuodd weithio gyda chrefydd yn dra ieuanc. Ymddengys iddo yntau gael ei ddwyn at grefydd, fel llawer yr amseroedd hyny, trwy ffordd bur anghyffredin. Yn y Castell Fawr y ganwyd ac y dygwyd ef i fyny. Gwraig weddw oedd ei fam, a chanddi amryw blant heblaw efe. Un tro, rhoddai y fam arian i'r merched ac i William, i fyned i Lwyngwril i noswaith lawen. Cychwynodd y merched yn lled gynar, ac ymhen amser aeth William ar eu hol. Erbyn iddo ef gyraedd i Lwyngwril, yr oedd y drws lle cedwid y noswaith lawen wedi ei gau. Clywai yntau swn canu a dawsio oddimewn. "Wel, wel," meddai wrtho ei hun, "thal hi ddim byd; rhaid rhoddi cyfrif eto am hyn." Ac aeth adref. "Dyn, dyn, dyma lle yr wyt ti, Will, yn lle bod yn yr interlude!" ebe ei fam wrtho. "Daf fi byth yno 'chwaneg, mam," atebai yntau. Y tebyg ydyw mai hyn fu foddion i'w argyhoeddi.
Elai bellder mawr i wrando pregethau pan yn llanc ieuanc. Un boreu Sul, yn blygeiniol iawn, yr oedd yn parotoi i gychwyn o'r Castell Fawr i fyned i Ddolgellau, erbyn yr odfa 10 o'r gloch. Cyfodai yn foreu iawn. Ei chwaer a ddywedai wrth ei glywed yn codi mor foreu: "Dyna'r bachgen yn myn'd eto; rhaid i ni dreio ei rwystro, yn wir, mam. Os daw ef a'r Methodistiaid yna yma, fe fyddant wedi ein difetha; maent yn llwyr fwyta tai gwragedd gweddwon." "Taw son, fy ngeneth i," ebe ei mam, "y mae yn fachgen da iawn i mi." Yr oedd yr hen wraig yn Eglwyswraig gydwybodol yn ei ffordd. Daeth y chwiorydd, wedi hyn, yn Fethodistiaid, ac yn grefyddwyr da. Efe oedd un o'r rhai mwyaf zelog a gweithgar gydag adeiladu capel cyntaf y Bwlch, tra nad oedd y pryd hwnw ond 18 oed. Cerddodd lawer yn moreu ei oes i Lanegryn, a'r lleoedd bychain o amgylch, i gynorthwyo i gynal cyfarfodydd gweddïau, a chyfarfodydd eglwysig. Efe oedd yn codi y canu yn y Bwlch trwy ei oes, yn cyhoeddi, ac yn arolygu yr Ysgol Sul. Pan y byddai myn'd yn y canu, cyfodai ei law i fyny, fel pe buasai yn rhoddi arwydd fod y gynulleidfa yn myned yn nes i'r nefoedd. Meddai ar lawer o ddylanwad yn ei ardal, er rhoddi i lawr arferion drwg yr oes yr oedd yn byw ynddi. Daeth ei hiliogaeth yn wasanaethgar i grefydd mewn gwahanol gylchoedd. Wyres iddo ef ydoedd Mrs. Roberts, a fu yn genhades yn Mryniau Khassia, sef priod y Parch. Hugh Roberts, yn awr o Sir Fflint.
Owen Evan, Tyddyn Meurig.
Cymydog oedd ef i William Davies, Llechlwyd, a pherthyn i gapel y Bwlch yr oedd y ddau. Yr oedd Owen Evan yn hyn mewn dyddiau, ond yn ieuangach fel crefyddwr. Er hyny, cydweithiodd y ddau gyda'r un achos, yn yr un eglwys, am haner can' mlynedd. Ni chawsom ddyddiad ei enedigaeth na'i farwolaeth, ond yn unig ddarfod iddo fyw hyd oddeutu 1850. Ystyrid ef yn ŵr mwy cyfrifol na'r cyffredin yn ei wlad, oblegid yr oedd Tyddyn Meurig yn feddiant iddo. Yr oedd yn 30 oed yn dyfod at grefydd. Dywedir yn Methodistiaeth Cymru fwy nag unwaith, ddarfod i esiampl Mr. Vaughan, Tonfanau, (y gwr mwyaf cyfrifol yn yr ardal), yn cofleidio crefydd, dueddu ei feddwl yntau i ddyfod yn grefyddwr. "Trwy ganfod Mr. Vaughan yn ymaflyd mor egniol a dirodres yn achos yr efengyl, ac addiar feddwl uchel am ei gallineb, plygodd meddwl Owen Evan, Tyddyn Meurig, i ddyfod i wrando, ac yn raddol enillwyd yntau i gofleidio yr efengyl, ac i roddi ei wddf yn ngwasanaeth yr Arglwydd Iesu, a bu dros lawer o flynyddoedd yn flaenor ffyddlawn yn eglwys y Bwlch." Creda y cymydogion, wedi clywed yr hanes yn cael ei adrodd o dad i fab, mai wrth wrando John Evans, New Inn, yn Llwyngwril, neu Abermaw, y cafodd ei argyhoeddi, a dywedir i'w argyhoeddiad fod yn nerthol iawn. Yr oedd ol yr argyhoeddiad arno trwy ei oes,
canys crefyddwr trwyadl ac amlwg ydoedd. Rhagorai ar bawb yn y wlad fel gweddïwr, ac oherwydd ei alluoedd meddyliol cryfion, a'i ddoethineb, a'r naws grefyddol oedd ar ei ysbryd, meddai allu tuhwnt i'r cyffredin i gynal cyfarfodydd eglwysig. Un a fu yn Tyddyn Meurig yn forwyn a ddywedai iddi lawer gwaith weled Owen Evan yn gwlychu y llawr a'i ddagrau wrth gadw dyledswydd deuluaidd ar foreuau Sabbath. Tystiolaethau fel hyn a'r cyffelyb a glywid yn fynych am dano a roddant gyfrif am ei ddylanwad a'i ddefnyddioldeb gyda chrefydd. Nid un o'r rhai hyny, ychwaith, oedd efe, a weddïant am i'r efengyl fyned "ar adenydd dwyfol wynt," ac na wnant ddim eu hunain tuag at iddi lwyddo. Gweithred ganmoladwy o'i eiddo oedd rhoddi tir i adeiladu capel y Bwlch, ac fe'i rhoddodd am swllt yn y flwyddyn o ardreth. Peth dieithr oedd hyn yr adeg hono; hon oedd y rhodd gyntaf o'r natur yma, oblegid capel y Bwlch oedd y capel cyntaf a adeiladwyd yn yr holl wlad o amgylch. A thueddir ni i gredu ei fod wedi rhoddi y rhodd hon cyn dyfod yn grefyddwr ei hun.
Dyn cryf, lusty, gydag ysgwyddau llydain ydoedd: pencampwr mewn chwareuon ac ymladdfeydd cyn iddo gael crefydd. Adroddir hanesyn am dano, yr hwn a ddengys ei fod yn feddianol ar hunan-feddiant diail. Dychwelai adref un tro, ar ol ei wneyd yn flaenor, o Ddolgellau, ar hyd y Ffordd Ddu. Yr oedd sôn mawr fod lladron yn ysbeilio y ffordd hono. Erbyn dyfod i lawr rhyngddo â Llanegryn, mewn lle cul, tywyll, ar y ffordd, gwelai ryw greadur yn cyfodi o fol y clawdd, ar lun dynes, a mantell fawr am dani. Cychwynodd ymlaen gydag ef, a chydgerddent, a siaradent ambell air â'u gilydd. Ond nid oedd dim i'w gael gan y creadur a'r fantell am dano. Gofynai O. E., "O ba le yr oedd yn ddyfod?" "O draw yna." "I ba le yr oedd yn myned?" "Ymlaen yna." O'r diwedd, disgynodd O. E. oddiar ei geffyl, gan gyd-gerdded â'r creadur dieithr, a gwelai erbyn hyn ei fod yn llawer mwy o gorffolaeth nag ef ei hun. Ond yn y groesffordd. gyntaf, cymerodd y ddynes, neu y dyn a'r fantell y traed i fyned ymaith. Yr oedd hunan-feddiant O. E. wedi ei wan-galoni, ac ni wnaed dim niwed iddo.
Yr oedd O. E. yn ddyn deallus, trwm, dylanwadol, ac yn meddu cymhwysder arbenig i fod yn flaenor. Tueddai i fod yn ddistaw, ac i beidio siarad yn rhy fynych; ond pan siaradai, byddai hyny bob amser i bwrpas. Y sylw canlynol a wnaeth am y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn, a ddengys ei fod. yn ŵr craff a meddylgar. Yr oedd ef ac un arall wedi bod yn genhadau dros y Cyfarfod Misol i'r Dyffryn, i gynorthwyo yr eglwys i ddewis blaenoriaid, Yn yr etholiad hwnw, Richard. Humphreys a ddewiswyd gan yr eglwys yn flaenor. Wrth ddychwelyd adref, dywedai O. E. wrth gyfaill iddo, "Bu. eglwys y Dyffryn yn bur hapus yn ei dewisiad neithiwr; cawsant ddyn ieuanc gobeithiol yn flaenor; yr wyf fi yn credu fod defnyddiau pregethwr ynddo." Yr oedd O. E. yn dad i'r diweddar Barch. Humphrey Evans, ac yn daid i'r Parch. Owen. Evans, Bolton.
John Jones, Penyparc
Ffermdy ydyw Penyparc, o fewn chwarter milldir i bentref Bryncrug. Yr oedd y lle yn adnabyddus iawn am yr haner cyntaf o'r ganrif hon, am mai yno y preswyllai John Jones. Efe a ystyrid y dyn pwysicaf o bawb ymhlith y Methodistiaid rhwng y Ddwy Afon, o ddechreuad cyntaf crefydd am haner can' mlynedd o amser, ar gyfrif ei ysgolheigdod, ei fedrusrwydd i gyfranu addysg yn wythnosol a Sabbothol, ac oherwydd ei ymroddiad llwyr i grefydd yn ei hamrywiol gylchoedd. Mab ydoedd i Lewis Jones, Penyparc, un o'r rhai cyntaf a agorodd ei ddrws i grefydd yn Bryncrug. Ganwyd ef yn Berthlwyd Fach, yn 1769. Cymerodd ei rieni brydles ar Benyparc, a symudasant yno i fyw. Yr oeddynt mewn amgylchiadau cysurus, fel y gallasent roddi addysg well na'r cyffredin i'w mab, a gwnaeth yntau ddefnydd da o honi. Nid oedd ynddo. gymhwysder i fod yn amaethwr. Y chwedl ganlynol a ddengys hyny. Yr oedd yn aredig ar y fferm un tro gydag aradr bren, o'r hen ffasiwn, a rhyw bwt o swch ar ei phen, a bachgen o'i flaen yn gyru y ceffylau. "Ho, fachgen," meddai, dal atat, nid oes genyf yr un gwys." Ar ol myned i'r pen, dywedodd y bachgen wrtho, "Meistr, meistr, nid oes yr un swch ar yr aradr!" Gan nad oedd cymhwysder ynddo at ffermio, a chan ei fod wedi cael ysgol dda yn yr Amwythig, ymgymerodd â chadw ysgol ddyddiol. Dechreuodd ei chadw oddeutu yr adeg yr oedd yr eglwysi cyntaf yn yr ardaloedd hyn yn cael eu ffurfio, oblegid yr ydym yn cael fod Parch. Owen Jones, y Gelli, gyda ef yn yr ysgol yn 1794.
Yr oedd John Jones, a Dafydd Ionawr, y prydydd, yn gyfoedion, wedi eu geni yn agos i'r un adeg, ac yn preswylio yn y ddau dyddyn agosaf; y naill yn Eglwyswr, a'r llall yn Fethodist Calfinaidd. Gwnaeth Dafydd Ionawr brydyddiaeth i John Jones, ac yr oedd yntau yn falch iawn o honi. Deallai navigation yn well na llawer yn yr oes hono, ac fe fyddai bechgyn y môr yn dyfod ato, o Aberystwyth, Aberdyfi, a'r Abermaw. Adroddir hanesyn am dano yn y cysylltiad hwn sydd yn dangos y ffordd y daeth i ymgymodi â sefydliad Athrofa y Methodistiaid yn y Bala. Naw mlynedd cyn ei farw y sefydlwyd yr Athrofa. Yr oedd ef yn un o'r hen bobl, ac nid oedd y cyfryw, fel rheol, yn gweled angen am Athrofa. Modd bynag, yn fuan wedi ei sefydliad, yr oedd rhai o'r efrydwyr ar eu ffordd o'r Bala i Sir Aberteifi, ac yn lletya yn Penyparc. Aeth yr hen ysgolhaig i holi yr efrydwyr am eu gwybodaeth, ac am navigation, ei hoff bwnc. Daeth yr efrydwyr i fyny a'i holiadau, gan eu bod yn alluog i'w hateb yn llawn. Mawr oedd llawenydd yr hen athraw wrth weled yr efrydwyr yn ateb ei holiadau ar forwriaeth, a bu hyny yn foddion i'w enill o blaid yr Athrofa. Yr oedd John Jones yn dduwinydd galluog, ac ystyrid of yn gryn dipyn o awdurdod yn y ffordd hono ymhlith ei gydoeswyr. Gwnaeth holiadau manwl ar holl bynciau y Gyffes Ffydd, a chyhoeddwyd hwy yn y Drysorfa o fis i fis; ac os nad ydym yn camgymeryd, trwy anogaeth y Gymdeithasfa y gwnaeth hyn.
Ystyrid ef yn ysgrifenwr o radd uchel yr amseroedd hyny. Y mae ei enw i'w weled yn fynych mewn cyfrolau o'r hen Drysorfa a Goleuad Cymru, yn ysgrifenu mewn rhyddiaeth a barddoniaeth. Cyhoeddodd rai llyfrau a chofiantau. Efe oedd awdwr y Silliadur, llyfr elfenol at wasanaeth yr Ysgol Sul, a bu defnyddio mawr arno yn ystod ei fywyd, ac ar ol ei farwolaeth, ac nid oedd ei ragorach i'w gael y pryd hwnw, beth bynag.
Ond y lle y bu ef yn dra defnyddiol, a'i wasanaeth yn anmhrisiadwy werthfawr ydoedd yn ei gartref, ac yn y Dosbarth rhwng y Ddwy Afon. Bu yn cadw lle diacon a gweinidog yn ei eglwys gartref am yn agos i 60 mlynedd. Y tebyg ydyw mai efe oedd y cyntaf oll yn y wlad hon a ddewiswyd yn flaenor eglwysig. Mynych y byddai y daith heb yr un pregethwr y Sabbath, a phan y digwyddai hyny, cymerai J. J. benod neu Salm i'w hesbonio, ac i roddi cynghorion oddiwrth i'r gwrandawyr. Gwnai yr un peth hefyd gyda y lleoedd bychain cylchynol. "Yr oedd," ebe un oedd yn aelod o eglwys Bryncrug yn ei amser, "yn arw am fyned yn erbyn pechod, a chadw disgyblaeth i fyny, a byddai yn hollol ddidderbyn wyneb wrth ddisgyblu. Dywedai am saint y Beibl, wedi iddynt syrthio i ryw fai, a chael eu ceryddu, y byddent ar eu gwyliadwriaeth i ochel y pechod hwnw mwyach." Ebe yr un person drachefn, "Holi yr ysgol yn bur ddwfn y byddai; rhoddai orchymyn pendant i bawb gau eu llyfrau, a dywedai os byddent am eu defnyddio, 'mai yr hwyaf ei wynt am dani hi. Nid mewn dawn yr oedd ei ragoriaeth, ond yn ei gynlluniau a'i ofal am yr achos, a'i ymroddiad i wasanaethu crefydd ymhob modd. Yr ydoedd yn haelionus hefyd yn ol ei amgylchiadau. Bu Penyparc yn gartref i bregethwyr, teithwyr, a fforddolion dros amser maith. Pan oedd y Parch. Richard Humphreys a Mr. Williams, Ivy House, yn yr eglwys yn casglu at ddiddyledu y capelau, wedi traethu ar y mater, elai Mr. Humphreys o gwmpas i ofyn am addewidion, ac meddai, yn ei ffordd wreiddiol ei hun, Wel, money now, John; y chwi sydd i addaw gyntaf!" "Mae fy oes bron wedi dirwyn i'r pen," ebe yntau, "gwell i mi wneyd cymaint allaf," ac addawodd 10p. Ymwelai yn fynych âg Ysgolion Sabbothol y cylchoedd, i hyrwyddo eu sefydliad a'u dygiad ymlaen, ac i ddysgu yr ysgolion i ddarllen yn gywir, trwy gadw at yr atalnodau, a rhoddi y pwysleisiad yn briodol wrth ddarllen, ar yr hyn bethau y rhoddai ef bwys mawr.
Un o drigolion hynaf Corris a ddywed ei fod yn ei gofio yn ymweled â'r Ysgol Sul yno, ac iddo ar y diwedd alw holl ddynion yr ysgol ynghyd yn un cylch mawr, er mwyn eu profi yn gyhoeddus mewn darllen; a phan y byddai un yn methu, rhoddai gyfle i'r lleill ei gywiro, ac elai y rhai fyddent yn methu i lawr yn y rhestr, a'r rhai fyddent yn cywiro i fyny, a'r goreu am ddarllen, o angenrheidrwydd, a safai ar ben y rhestr yn y diwedd. Efe oedd ysgrifenydd y Cyfarfod Ysgolion yn y dosbarth, a pharhaodd yn ei swydd nes iddo fethu gan henaint. Aeth llawer o'i lyfrau a'i bapurau ar goll, ac felly collwyd cyfrifon yr ysgolion am y deugain mlynedd cyntaf o'i hanes. Ond daeth ychydig o'i ysgrifau i'r golwg yn ddiweddar, y rhai oeddynt wedi eu trosglwyddo i ofal y diweddar G. Pugh, Berthlwyd. Cedwid y rhai hyn mewn bag bychan o groen gwyn, pwrpasol at ei gario o amgylch, ac yn ysgrifenedig o'r tuallan iddo—"Llyfrau, Pynciu, &c., i'r Ysgolion Sabbothol, J. J." Holwyddoreg ydyw y rhan fwyaf o'r rhai hyn, yn cynwys canoedd o ofyniadau ar wahanol bynciau, megis Dirwest, y Swper Sanctaidd, Gweddi, &c., ac amryw ganeuon ar faterion Ysgrythyrol. Ceir hefyd ymhlith papyrau L. Williams, Llanfachreth, amryw o'i lythyrau, y rhai a ddangosant y dyddordeb a gymerai yn achos yr eglwysi cylchynol. Ac yr ydoedd ef yn un o'r siaradwyr a'r trefnwyr yn y Cymdeithasfaoedd Chwarterol yn ei ddydd.
Un peth, modd bynag, a dynai dipyn oddiwrth ei liaws rhagoriaethau ydoedd, afrywiogrwydd ei dymer. Dywedid y byddai yn un pur lym a garw yn ei ffordd, yn enwedig gyda'r plant yn yr ysgol ddyddiol. Un o brif erthyglau credo ysgolfeistriaid ei oes of oedd, bod yn rhaid defnyddio y wialen fedw. Aeth ef rai troion i eithafion pell gyda'r mater hwn, ac oherwydd iddo gael y gair o fod yn curo y plant, atelid rhai rhag myned i'r ysgol ato. Ceir arwyddion hefyd ei fod am ei ffordd ei hun i raddau gormodol gyda dygiad yr achos ymlaen yn rhai o'r eglwysi cylchynol. Cafodd llawer o'r rhai fu yn ei wasanaeth fel gweision a morwynion, mae'n wir, le da i feithrin eu crefydd, ond nid oedd ef yn un o'r rhai tirionaf bob amser tuag at ei wasanaethyddion. Yr oedd yn ddiwrnod ympryd unwaith, ac aeth y gwas, sef Evan Morris, y pregethwr, ato yn y boreu, a gofynodd: "Beth gaf i'w wneyd heddyw?" Amser dyrnu ydoedd. "Wel," ebe yntau, "beth wyt yn feddwl a wnei di: mae yn anodd i ti wneyd dim byd yn well i ymprydio na myned i'r 'sgubor i ddyrnu."
Ond er y ffaeleddau hyn, bu o wasanaeth mawr i grefydd yn ei oes, safai yn uchel yn marn ei gydoeswyr, a choffheir ei enw yn fynych hyd heddyw gan yr hen bobl. Dywed awdwr Methodistiaeth Cymru am dano,—"Ymysg eraill a fu yn ddefnyddiol yn y parthau hyn, y mae yn deilwng gwneuthur sylw arbenig o'r hybarch John Jones, Penyparc, yr hwn sydd wedi gorphwyso oddiwrth ei lafur er's blynyddoedd rai. Fe fu y gŵr hwn yn cadw ysgol am faith flynyddau. . . . Rhoddid iddo gyfleusdra yn y modd yma i egwyddori a rhybuddio plant ei ardal; defnyddiodd yntau y cyfleusdra, bu yn ddiwyd a ffyddlon dros amser maith gyda'i orchwyl; a bendithiwyd ei lafur mewn llawer dull, ac i lawer un o'r trigolion." Golygydd y Traethodydd, y diweddar Barch. Roger Edwards, a wnaeth y sylw canlynol am dano yn y Traethodydd am 1847. "Yr ydym yn deall yn awr fod yr hen bererin hybarch, Mr. John Jones, o Benyparc, wedi gorphen ei yrfa, a myned i dangnefedd er's rhai misoedd bellach; ac y mae yn syn genym na welsom gymaint a chrybwylliad am ei farwolaeth mewn na Thrysorfa nac un lle arall. Nid gŵr cyffredin yn ei oes oedd Mr. Jones. Yr oedd yn Gristion disglaer, yn wladwr da, yn ddarllenwr mawr, yn ieithydd ac ysgrifenydd medrus, yn ddiacon gweithgar, ac yn athraw defnyddiol. A'i gymeryd ymhob peth nid hawdd y ceid ei gyffelyb." Yn llyfr cofnodion Cyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd, Awst 4ydd, 1816, ceir y sylw canlynol,—
"Coffhawd am farwolaeth yr hen athraw ffyddlon a duwiol, Mr. John Jones, Penyparc, gerllaw Towyn—a dymunwyd ar yr ysgolion feddwl am brynu y Silliadur gwerthfawr a wnaeth at wasanaeth yr Ysgol Sabbothol. Rhoddwyd hefyd ar Mr. Williams, a Mr. R. O. Rees, Dolgellau, i ysgrifenu coffadwriaeth am dano i'r Drysorfa." Eto, yn Nghyfarfod Misol y Bwlch, Mai 25ain, 1848, "Anogwyd ar fod i'r cyfeillion a benodwyd arnynt yn Nghyfarfod Misol Llanelltyd, Awst, 1846, i feddwl am gyflawni y gorchwyl a ymddiriedwyd iddynt o ysgrifenu i'r Drysorfa goffadwriaeth am y diweddar anwyl frawd, Mr. John Jones, Penyparc," Drachefn, yn Nghyfarfod Misol Dolgellau, Mawrth 29ain, 1849, "Dymunwyd ar y Parch. Mr. Morgan, i wneuthur Cofiant i'r hen frawd Mr. John Jones, Penyparc, a'i anfon i'r Drysorfa, am na wnaed gan y brodyr a benodwyd i hyny o'r blaen." Ond er penderfynu deirgwaith, ni ysgrifenwyd dim hyd heddyw. Ac y mae yn anhawdd yn yr amser pell hwn ar ol ei farwolaeth ysgrifenu llawer mewn trefn am y gwaith a wnaeth. Digon yw y crybwyllion hyn i ddangos y sefyllfa uchel y safai ef ynddi yn ngolwg ei gydwladwyr ar gyfrif y gwasanaeth a wnaethai gyda theyrnas yr Arglwydd Iesu. Yr oedd John Jones, yn ei glefyd olaf yn bur isel ei feddwl. Dywedai y brawd oedd yn gwylied gydag ef, na byddai i'r Arglwydd ddim ei adael ac yntau wedi bod mor ffyddlon. "O fy mywyd diffrwyth!" meddai yntau. "Yr oedd y wlad yma fel anialwch pan y dechreuais i fy mywyd; gymaint o fanteision a gefais i wneyd daioni, ac mor lleied a wnaethum!" Y mae yr ysgrifen ganlynol ar gareg ei fedd yn mynwent blwyfol Towyn:—
COFFADWRIAETH
Am y diweddar John Jones, A. Y.,
Penyparc.
Yr hwn a ymadawodd a'r bywyd hwn
Y 27ain o Gorphenaf, 1846, yn 77ain oed.
Ac a gladdwyd yma mewn gobaith am orfoleddus
Adgyfodiad i fywyd a gogoniant tragwyddol.
"Efe oedd wr ffyddlawn, ac yn ofni Duw yn fwy na llawer."
———————
Richard Jones, Ceunant, Abergynolwyn.
Yr oedd ef yn un o flaenoriaid mwyaf hynod ei oes ar gyfrif ei dduwioldeb, ei sêl grefyddol, a'i ddywediadau cynwysfawr. Perthynai i'r ail do o ffyddloniaid yr eglwys yn y Cwrt. Yr oedd yn ddyn yn ei fan pan y ganwyd Mary Jones, a phreswyllai y ddau yn yr un cwr o'r ardal. Ganwyd ef oddeutu y flwyddyn 1770, a bu fyw nes yr oedd yn agos i 80 oed. Nid oes wybodaeth pa bryd y daeth at grefydd, na pha bryd y gwnaed ef yn flaenor. Sicr ydyw ei fod yn ddyn pwysig yn yr ardal yn lled gynar, canys yr oedd gofal yr Ysgol Sul arno cyn 1816. Yr oedd hefyd wedi clywed a gweled â'i lygaid fawrion weithredoedd Duw yn nechreuad crefydd yn yr ardaloedd cylchynol, fel y rhai hyny o genedl Israel a welsant bethau anhygoel yn yr Aifft, ac yn y Môr Coch. Asiedydd (joiner) oedd wrth ei gelfyddyd. Ac y mae dywediad tarawiadol o'i eiddo pan yn dilyn ei waith fel y cyfryw wedi myned yn hysbys trwy Gymru er's llawer blwyddyn. Dengys y dywediad fel y mae y duwiolion yn crefydda, ac yn mwynhau crefydd yn yr adegau mwyaf prysur gyda'u gorch- wylion beunyddiol. Yr oedd Richard Jones, a'i fab, un diwrnod yn llifio coed gyda'u gilydd ar y march lli, pryd y sylwai y mab ar ei dad yn chwerthin ar ganol llifio. "Beth yr ydych yn chwerthin, nhad?" gofynai y mab. "Gweled yr Arglwydd Iesu yr oeddwn," ebe yntau, "yn dadleu ac yn ymresymu gyda y Phariseaid a'r Saduceaid, ac yn eu concro nhw i'r llawr bob tro."
Hynodid ef tu hwnt i'r cyffredin, hyd ddiwedd ei oes, gan fywiogrwydd, a zel, a duwiolfrydedd. A'r lle y deuai ei fywiogrwydd a'i zel i'r golwg yn fwyaf neillduol fyddai yn yr Ysgol Sul, a chyda'r plant. Gwnelai ei hun yn blentyn gyda'r plant, yn hen wr dros ddeg a thri ugain oed, a'i ymadroddion gyda hwy fyddent yn debyg i'r rhai hyn,—"Dowch y mhlant bach i, chwareuwch ati hi; ymroddwch i ddysgu gymaint fyth a alloch; yr ydych yn blant da, y plant goreu welais i erioed a'm llygaid." Yr oedd mewn blinder mawr un adeg wedi clywed fod tŷ yn yr ardal heb yr un Beibl ynddo. "Tŷ heb yr un Beibl ynddo yn ardal y Cwrt," meddai yn gyhoeddus yn yr Ysgol Sul, "fu 'rodsiwn beth a hyn! Beth a wnawn ni? Rhaid i ni fyn'd a Beibl yno rywsut." Aed ar unwaith o gwmpas i geinioca, a rhoddwyd Beibl yn y tŷ hwnw.
Perthynai iddo ddiffuantrwydd a phlaendra yr hen bobl i'r graddau pellaf. Dywedai yn blaen a didderbyn-wyneb ffaeleddau a diffygion ei gymydogion. Yr oedd ei wraig, hefyd, o gyffelyb feddwl ac ysbryd, a gwnaeth y ddau lawer i ddarostwng drwg arferion y gymydogaeth. Gwr cyfrifol yn yr ardal a ddywedai ar ol ei farw: "Yr oedd genyf barch mawr i Richard Jones; yr oedd ef yn dweyd pethau wrthyf yn blaen yn fy ngwyneb."
Yr oedd Mr. Evans, Maesypandy, amaethwr lled fawr yn yr ardal, wedi mabwysiadu syniadau y Plymouth Brethren, a lledaenai y cyfryw syniadau ymhlith yr ardalwyr, a thrwy hyny yr oedd wedi cynyrchu, i ryw fesur, deimladau gwrth-weinidogaethol. Achosai hyn flinder i Richard Jones. Parhai Mr. Evans i'w blagio, trwy ddweyd fod arno eisiau i'r holl enwadau fod yn un; dioddefai yntau hyn oll yn dawel, gan ei fod fel gweithiwr yn dibynu tipyn ar y gŵr uchod am ei fywoliolaeth. Rhyw dro, yn nghanol cwmpeini lliosog amser cneifio, elai Mr. E. dros yr un peth, a gwnelai helynt fawr o gael yr holl enwadau yn un. "Hwyrach, wir, Mr. E., mai chwi sydd yn eich lle," ebai R. J., "ond yr wyf fi yn meddwl mai yn llwythau yr ydym i fod: pawb yn ol ei lwyth, a than ei luman ei hun. Yn debyg iawn fel y mae y ffermydd yma. Oni fuasai un ffarm fawr yn beth rhyfedd iawn? Gwartheg pawb wedi dyfod at eu gilydd; buches pawb, teirw pawb, lloi pawb, defaid a geifr pawb; oni fuasai yn anodd iawn gwybod pru'n fuasai pru'n, ac eiddo pwy fuasai pwy. Yr wyf fi yn credu mai fel y maent y mae hi oreu, digon o gloddiau a gwrychoedd rhwng ffermydd pawb."
Yr oedd ganddo ffydd fawr mewn Rhagluniaeth, a deuai y ffydd hono i'r golwg wrth gyfranu at achosion crefyddol. Yr oedd ef ac un arall unwaith yn casglu at Gymdeithas y Beiblau, yn agos i le yn yr ardal a elwir Craig y Deryn. Mewn tŷ yn y lle hwnw, dywedai mor dda ar gyfranu at achos crefydd, fel yr oedd wedi dylanwadu ar ŵr y tŷ. Teimlai y gŵr awydd i roddi y goron olaf oedd ganddo, ond dywedai fod arno ei heisiau i dalu y dreth. "Wel, os felly y mae hi," ebe R. J., "dyro hi y ngwas i; trystia y gŵr; gad rhwng y gŵr â'r dreth." Felly fu, fe'i rhoes hi. Dranoeth, daeth boneddwr a boneddiges heibio, a gofynasant i'r gŵr a roddodd y goron yn y casgliad ddyfod gyda hwy i'w harwain i ben Craig y Deryn, a rhoddasant ddau haner coron iddo. Fel hyn, cafodd y gŵr y goron yn ol ar ychydig iawn o drafferth. Yn yr un seiat ag y bu ef yn gweddïo y weddi ryfedd hono yn ei dechreu, y coffhawyd am dani yn hanes eglwys y Cwrt, yr oedd hen chwaer grefyddol yn dweyd ei phrofiad. Yr adnod a adroddai yn brofiad ydoedd, "Meddyliau ofer a gaseais, a'th gyfraith di a hoffais." A chwynai yn fawr oherwydd ei chalon ddrwg, a'i meddyliau crwydredig. Dyma Richard Jones i fyny yn union, a dywedai, "Ie, yn wirionedd i, fel yna y mae hi yn bod, mae pawb o'r saint yn teimlo yr un peth; ond, wyt ti yn peidio rhoddi lle i'r meddylian ofer, Gweno bach? Mae acw ddwy goeden yn ymyl ein tŷ ni, ac mae y brain yn dyfod iddynt i nythu o hyd. Fedra' i ddim eu cadw nhw oddiacw, ond mi fyddaf yn ceisio fy ngoreu eu rhwystro i nythu acw. Wyt ti yn ceisio rhwystro i'r meddyliau ofer yna lochesu, a chael lle i nythu ?"
Meddyliodd unwaith am gadw cyfrif am flwyddyn, er gweled pa faint oedd ei swydd fel blaenor yn gostio iddo. Prynodd lyfr, ac yr oedd yn llawn fwriadu cadw cyfrif manwl am y cwbl yr arian oedd yn ei gyfranu, yr amser oedd yn ei golli, a'r ymborth oedd yn ei roddi i'r pregethwyr a letyant yn ei dŷ.. Ond un diwrnod, fel yr oedd wrtho ei hun yn synfyfyrio beth a roddai yn y llyfr gyntaf, daeth y gair hwnw i'w feddwl, "Heb gyfrif iddynt eu pechodau." "Wel, wel," meddai wrtho ei hun, "os fel yna y mae hi, ni chyfrifaf finau ddim." Ac felly fu, ni roddodd un ddimai i lawr yn y llyfr ar ol ei brynu.
Adroddai Mr. John Griffith, Abergynolwyn, ei fod yn ei gofio yn dda y nos Sabbath olaf y bu yn y capel, llai na phythefnos cyn ei farw, ei fod mewn hwyl nefolaidd a Seraphaidd. Cyfarfod gweddi oedd yno, a dangosai yr hen ŵr ei bod hi yn orfoleddus ar ei enaid. Yr oedd wedi cael gafael yn y penill a genid, a dechreuai ail fyned drosto drachefn a thrachefn. Nid dwywaith a theirgwaith, ond seithwaith, a mwy na hyny, yr elai dros linellau olaf y penill, a neidiai i fyny bob tro wrth ail ddechreu. Pan yn ymyl diwedd y llinell, gadawai i'r gynulleidfa fyned ymlaen, cymerai yntau ei wynt, a chyda eu bod wedi darfod, neidiai i fyny bellder oddiwrth y llawr, fel gŵr ieuanc wedi adnewyddu ei nerth, a chyfodai ei freichiau yn uwch na hyny tua nen y capel, gan ail ddechreu y linellau drachefn a thrachefn. Dyna fel y dibenodd addoli yr Arglwydd ar y ddaear. Bu farw yn 1848, oddeutu 78 mlwydd oed. A dywedid ar y pryd, gan fod Richard Jones wedi marw y byddai farw achos y Methodistiaid yn y Cwrt. Ond profodd y dywediad fod dynion y pryd hwnw, fel bob amser, yn ffaeledig.
Humphrey Davies, Corris
Mae ei hanes ef yn fwy adnabyddus i'r oes bresenol nag odid yr un o'r diaconiaid y coffheir am danynt yn y benod hon, oherwydd ei fod wedi byw hyd yn lled ddiweddar, ac hefyd am fod bywgraffiad helaeth o hono wedi ymddangos eisioes. Ond nid ydyw rhestr y Blaenoriaid Hynotaf yn gyflawn heb iddo ef fod yn eu plith. Mab ydoedd i Dafydd Humphrey, blaenor cyntaf eglwys y Methodistiaid yn Nghorris, yntau hefyd yn flaenor hynod ac enwog. Ganwyd H. D. yn 1790, a theimlodd yr argraffiadau crefyddol cyntaf ar ei feddwl mewn diwygiad ymysg y plant, pan oedd yn 5 mlwydd oed. Ond er ei fod wedi ei fagu yn fucheddol ar yr aelwyd fwyaf crefyddol, ac er iddo deimlo argraffiadau crefyddol ar brydiau, ymhen tair blynedd ar ol iddo briodi, sef yn 1818, yr ymunodd ef a'i briod â'r eglwys. Gwelodd grefydd o'r fath oreu yn y teulu pan yn blentyn, a daeth at grefydd yn ngwres y Diwygiad mwyaf grymus a fu yn Nghymru erioed: nid rhyfedd gan hyny fod crefydd wedi gwreiddio yn ei natur. Dewiswyd ef yn flaenor cyn pen 18 mis wedi iddo ymuno â'r eglwys. Fel hyn y dywedir o berthynas i'r amgylchiad hwn yn Methodistiaeth Corris, gan y Parch. G. Ellis, M.A., "Yr ydym yn credu mai dyma y rhodd fwyaf a estynwyd gan Dduw i Fethodistiaeth Corris o hyny hyd yn awr. Bychain iawn oedd galluoedd a doniau y ddau swyddog oeddynt yno o'i flaen, sef ei dad, Dafydd Humphrey, a Richard Anthony, ac i'w law ef o ganlyniad y disgynodd ar unwaith y gorchwyl o borthi y praidd. Ac nid ydym yn credu y bu o'r dechreuad hyd yn awr adeg mor bwysig ar yr eglwys Fethodistaidd yn Nghorris a'r adeg hono, pan yr oedd ynddi uwchlaw tri ugain o ddychweledigion
newyddion, oedd yn edrych i fyny at H. D. am ymgeledd ac arweiniad. Ond yr oedd ei gymwysderau mor amlwg i'r gwaith, a'i ymroddiad iddo mor fawr, fel y dyrchafwyd yr eglwys yn fuan i dir cwbl wahanol i ddim a gyraeddasid ganddi erioed o'r blaen. Ac nid ydym yn credu i neb lanw mewn unrhyw eglwys le pwysicach nag a lanwyd ganddo ef yn eglwys Corris o 1820 i 1850."
Dau beth a grybwyllir yn y dyfyniad uchod, a gynwysant gymeriad Humphrey Davies yn llawn, ac a roddant gyfrif am y lle mawr a lanwodd fel un o flaenoriaid mwyaf dylanwadol Sir Feirionydd, cymhwysder ac ymroddiad. Y cymwysderau arbenig ynddo fel swyddog eglwysig oeddynt—ei dduwioldeb, ei benderfyniad, a'i allu diball i fod yn ddiwyd a llafurus. Gwnaeth y goreu o'r ddau fyd. Ni bu neb erioed yn fwy diwyd gyda'i orchwylion bydol, ac nid oedd hyny yn ei rwystro yn y gradd lleiaf gyda chrefydd. Yn hytrach bu ei ddiwydrwydd gyda'r byd yn fantais iddo i wasanaethu yn well mewn pethau ysbrydol. Llafuriodd yn ddiwyd a'i ddwylaw fel y byddai ganddo beth i'w gyfranu i'r neb fyddai mewn eisiau. Er enill cyfoeth, cadwyd ef rhag cybydd-dod trwy fod yn haelionus at achos yr Arglwydd. Erioed ni fu gwell engraifft o flaenor yn gosod ei ddelw ar eglwys. Y mae ei ol i'w weled ar eglwys Corris hyd heddyw, yn ei ffyddlondeb a'i gweithgarwch gyda phob rhan o achos crefydd. Ystyrid ef yn un o flaenoriaid tywysogaidd y sir am dymor maith. Byddai yn fynych yn llywydd y Cyfarfod Misol, yn cynrychioli y sir yn y Cymdeithasfaoedd, ac yn llenwi pob cylch pwysig oedd i flaenor i'w lenwi. Yr oedd ei briod hefyd yn un o heddychol ffyddloniaid Israel. Cydgyfarfyddai ynddi lawer os nad yr oll o'r rhinweddau Cristionogol. Nid y lleiaf o honynt oedd ei gofal am achos crefydd, a'i ffyddlondeb i wasanaethu ar weinidogion yr efengyl. Bu y Tynewydd y lle y preswylient—yn gartref clyd i bregethwyr tra y bu y ddau byw.
Cadwodd H. D. y blaen ar hyd ei oes gyda phob symudiad daionus. yn ei ardal, fel Rhyddfrydwr ac Ymneillduwr trwyadl, fel dirwestwr, arweinydd yr Ysgol Sabbothol, ac un o brif gefnogwyr addysg ddyddiol. Er myned yn hen mewn dyddiau, parhaodd yn ieuengaidd ei ysbryd; symudai ymlaen gyda'r ieuenctyd, yn ei hen ddyddiau, fel llanc ieuanc ugain oed. Rhydd y modd y daeth yn ddirwestwr beth goleuni ar ei gymeriad, ac ychwanega glod at ei goffadwriaeth, oblegid fe welir yn eglur mai dyn ydoedd, nid yn caru ei leshad ei hun, ond lleshad llaweroedd. Ar y cyntaf, nid oedd yn zelog o blaid dirwest. Ond wrth wrando un yn areithio unwaith, ac yn darlunio y modd y bydd y pysgod yn yr afon yn fynych yn llechu yn nghysgod y gareg fawr, gwelodd y gymhariaeth, a phenderfynodd na byddai iddo ef byth fod yn gareg fawr i neb lechu yn ei gysgod. Ardystiodd ar unwaith, ac o hyny allan daeth y dirwestwr mwyaf zelog yn y wlad. Diameu na bu neb o ddechreuad Methodistiaeth hyd yn awr yn foddion i gyfodi crefydd yn y rhan yma o'r wlad yn fwy nag ef. Cyrhaeddodd ei ddylanwad trwy holl gylch y Cyfarfod Misol. Efe a'r Parch. Richard Jones, Wern, a anfonwyd dros y Cyfarfod Misol i gymeryd llais eglwys Dolgellau, pan oedd y diweddar Barch. Roger Edwards yn dechreu pregethu, ac adroddai Mr. Edwards yn ddiweddar ar ei oes fod y geiriau canlynol a ddywedodd H. D. wrtho y noswaith hono wedi glynu yn ei feddwl byth,— "Gofalwch, fy machigen, am wneyd y ffordd i fod yn gadwedig yn glir iawn i bechadur ymhob pregeth. Cofiwch bob amser y gall rhywun fod yn eich gwrando am y tro diweddaf cyn myned i'r farn. Byddwch yn siwr o ddweyd digon am fywyd ymhob pregeth."
Ymadawodd â'r byd hwn Rhagfyr 26ain, 1873, ac efe uwchlaw 83 mlwydd oed. Yn ei angladd tywysogaidd, y Parch. J. Foulkes Jonas, B.A., Machynlleth, ymysg eraill, a wnaeth y sylwadau canlynol, "Gŵr yn caru Duw ydoedd,—gŵr heddychol a thirion, Un wedi llywodraethu yn dda; ac am hyny yn haeddu parch dau-ddyblyg. Dylem fod yn falch a diolchgar am rai o'r fath yma; ond nid yn aml y maent i'w cael. Nis gellid bod yn nghwmni Humphrey Davies am bum mynyd heb wybod fod achos Iesu Grist yn agos iawn at ei galon; ie, fel canwyll ei lygad. Gwnai y peth lleiaf. Fel y disgyblion gynt yn cyrchu ebol i'r Arglwydd Iesu, gwnaeth yntau yr un peth lawer gwaith."
Rowland Evans, Aberllefeni.
Un o gyfoedion Humphrey Davies, ei gymydog a'i gydlafurwr, wedi ei eni rhyw ddwy flynedd ar ei ol, a'i ragflaenu i'r orphwysfa oddeutu pedair blynedd. Genedigol ydoedd o Lanwrin, a chafodd fod am ychydig yn yr ysgol yn Nghorris gyda Lewis William. Cafodd y fraint unwaith o adrodd penod yn gyhoeddus i Mr. Charles, o'r Bala, yr hwn, meddir, a wnaeth y sylw ar y pryd, "Y mae rhywbeth yn y bachgen hwn." Yr oedd yn 18 oed pan y cafodd argyhoeddiad, ac wrth wrando y Parch. John Hughes, Pontrobert, yn pregethu yn Cemmaes, ar nos Nadolig, yn y flwyddyn 1810 y bu hyny. Dyma yr adeg y dechreuodd fod mewn trallod ynghylch mater ei enaid. Hynodid ef yn mlynyddoedd cyntaf ei grefydd fel un llafurus a gweithgar gyda yr Ysgol Sabbothol. Wedi priodi, ymsefydlodd am ryw dymor yn ardal Eglwys Fach, Sir Aberteifi, a phan oedd yn chwech ar hugain oed, dewiswyd ef yn flaenor yn nghapel y Graig.
Oddeutu 1822, neu y flwyddyn ddilynol, symudodd i Felin Aberllefeni, i gymeryd ei gofal dros Humphrey Davies, ac yma y treuliodd weddill ei oes. Nid oedd eglwys wedi ei sefydlu yn Aberllefeni am flynyddau lawer wedi iddo ef fyned yno i fyw. Dewiswyd R. E. yn flaenor yn Nghorris, a bu ef ac Humphrey Davies yn hir yn gyd-swyddogion. Cydweithiai y ddau yn y modd goreu, a rhagorai y ddau ar flaenoriaid y wlad yn gyffredin. Eto, yr oeddynt yn ddau gymeriad gwahanol iawn i'w gilydd. Y naill yn llwfr ac ofnus, a'r llall yn ffyddiog a mentrus. Ond er hyny yr oedd
Rowland Evans yn ŵr cymwys iawn i gadw cyfarfod eglwysig. Yr oedd ei wybodaeth o'r Ysgrythyrau yn eang a thrwyadl; ei dduwioldeb yn ddwys, a'i argyhoeddiadau yn ddyfnion; ac heblaw hyny, yr oedd wedi gweled aml a blin gystuddiau, y rhai, yn ddiameu, oeddynt yn foddion i roddi min ar ei brofiad. ei hun. Cafodd eglwys Corris gewri i'w dysgu mewn pethau crefydd yn yr oes o'r blaen. . Ond yn Aberllefeni, yn ystod yr ugain mlynedd olaf ei oes, y daeth Rowland Evans yn fwyaf adnabyddus. Symudodd ef o Gorris pan yr oedd yr eglwys yn symud i fyny ac yn ymsefydlu yno gyntaf; yr oedd felly wedi cyd-dyfu gyda'r eglwys, ac ystyrid ef yn dad i'r achos ymhob modd. Mawr oedd gofal Rhagluniaeth yn trefnu un fel efe yn arweinydd i'r eglwys yn ei mabandod. Anhawdd oedd cael neb mwy cymwys a mwy diogel fel arweinydd. Yr oedd yn dduwinydd galluog, yn weddïwr mawr, ac yn areithiwr medrus. Mor siriol ac aiddgar y byddai yn gwrando y weinidogaeth. Mor ddeheuig ac effeithiol yn cymhwyso y gwirionedd yn yr eglwys. ar nos Sabbothau. Yr oedd sefydlogrwydd a dwysder ei gymeriad personol yn cario dylanwad mawr ar yr ardal, ond mwy na hyny, yr oedd yn siaradwr effeithiol ar bob peth mewn cysylltiad â chrefydd. Yr oedd son am dano ymhell ac yn agos fel pynciwr a holwyddorwr. Bu lawer gwaith yn ymweled â'r ysgolion ac yn areithio yn y Cyfarfodydd Ysgolion, ac yno yr oedd wedi hen enill y cymeriad o ddyn trwm, os nad y trymaf oll o y cylch, yn yr athrawiaeth. Yr oedd ei ddull arafaidd ac ofnus yn rhwystr iddo fod yn arweinydd oddicartref, ond fel areithiwr ar fater neu bwnc, nid oedd neb a'i curai. Ond gartref y deuai ei ragoriaethau ef i'r golwg, yn ei ardal a'i eglwys ei hun. Safai yn wrol dros y gwirionedd a thros ddisgyblaeth eglwysig; gofalai yn dyner am y bobl ieuainc; rhoddai gysur a phob ymgeledd i'r hen a'r methedig. Edrychid i fyny ato hyd ddiwedd ei oes yn Aberllefeni fel tywysog. Ond bu yntau farw ar yr 11eg o Chwefror, 1870. "Nid oes dim dadl," ebai ei hen gyfaill Humphrey Davies wrth gyfeirio at ei farwolaeth, "nad i'r nefoedd yr aeth Rowland Evans, ond ni bu nefoedd yn fwy amheuthyn i neb erioed nag iddo ef." Ceir hanes llawer helaethach am dano ef ac Humphrey Davies, gan y Parch. G. Ellis, M.A., yn Methodistiaeth Corris.
Owen Williams, Aberdyfi
Ganwyd ef yn Tŷ'nymaes, Bryncrug, yn y flwyddyn 1800. Yr oedd ei dad yn Eglwyswr, a'r pryd hwn edrychai gyda rhagfarn ar yr Ymneillduwyr; ond ar ol Diwygiad Beddgelert cafodd yntau ei argyhoeddi, ac ymunodd â'r Methodistiaid. Yr oedd ei fam yn un o'r gwragedd crefyddol cyntaf fu yn dilyn achos Iesu Grist yn Nosbarth y Ddwy Afon, ac ymddengys ei bod hi yn nodedig o grefyddol. Yr oedd gan Owen Williams feddwl mawr o grefydd ei fam. Dywedai iddo weled pan yn blentyn y dagrau yn rhedeg i lawr ei gruddiau lawer gwaith wrth ddarllen y Beibl ar ei phen ei hun. Y flwyddyn y ganwyd ef yr adeiladwyd capel Bryncrug y tro cyntaf, a hwn oedd yr ail gapel a adeiladwyd gan yr Ymneillduwyr yn yr holl wlad. Un haf, pan yr oedd ef yn blentyn pur fychan, yr oedd yn gynhauaf anghyffredin o wlyb. Cyn diwedd y cynhauaf, digwyddodd iddi fod yn ddiwrnod teg ar y Sabbath, a chan nad oedd y pen teulu yn grefyddwr, yr oedd yn rhaid i'r teulu oll fyned allan i rwymo yr ŷd; a chofiai O. Williams yn dda weled ei fam yn wylo yn arw oherwydd ei bod yn gorfod myned allan i drin yr ŷd, gan yr ystyriai hi hyny yn dori y Sabbath. Pan oedd tua chwech oed symudodd ei rieni i fyw i'r Fadfa, oddeutu haner y ffordd rhwng Towyn ac Aberdyfi. Cafodd felly fantais i wybod holl hanes y wlad o amgylch ei gartref, a gallai adrodd hanes pawb a phob peth yn y fro o ddechreuad y ganrif. Treuliodd bum' mlynedd o'i oes pan yn ddyn ieuanc yn Aberystwyth, o 1820 i 1825, a bu agos yr holl amser hwnw yn arwain y canu gyda'r Methodistiaid yn
y dref hono. Er ei fod wedi ei fagu o dan aden crefydd, ymddengys mai yn Aberystwyth yr ymunodd â'r eglwys, trwy i'r hen flaenor Richard Jones un diwrnod ymaflyd yn ei fraich, a gofyn iddo a oedd dim awydd ynddo i ymuno â chrefydd; i'r hyn yr ufuddhaodd yn ebrwydd. Diameu fod dechreuad ei wasanaeth mor foreu gyda chrefydd i'w briodoli i fesur mawr i dduwioldeb, a chynghorion, ac esiampl ei fam.
Daeth i Aberdyfi, i ymgymeryd â masnach ei hun yn y flwyddyn 1826. Y flwyddyn hono nid oedd yn y lle na llan na chapel o fath yn y byd. Mae'n wir fod eglwys wedi ei sefydlu gan y Methodistiaid yma er's llawer o flynyddoedd, ond nid oedd yr un blaenor wedi bod erioed hyd yn hyn ar yr eglwys. Yr haf cyntaf ar ol ei ddyfodiad ef i Aberdyfi y gwnaed y dewisiad cyntaf. Yn ol ei adroddiad ei hun, efe oedd un o'r ddau gyntaf a ddewiswyd, ac yn nechreu y flwyddyn ddilynol y derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol yn Abermaw, a'r Parch. John Roberts, Llangwm, oedd un o'r ddau a arwyddodd docyn aelodaeth iddo. Yn y flwyddyn 1827 yr adeiladwyd y capel cyntaf yn Aberdyfi, ac aeth O. W. yr holl ffordd i Gyfarfod Misol Dolyddelen i ofyn caniatad i'w adeiladu. Yr oedd ef a'r achos yn Aberdyfi wedi cyd—dyfu gyda'u gilydd. Yn 1840 priododd Miss C. Humphreys, nith i Cadben John. Ellis, gyda'r hwn y cawsai hi ei dwyn i fyny. Yr oedd tŷ Cadben Ellis wedi bod yn gartref i'r achos yn Aberdyfi dros. lawer o flynyddoedd. A bu y nith a'i phriod yn cadw cartref i weinidogion yr efengyl am amser maith wedi hyny. Ac y Mae yn deilwng o sylw iddynt ddwyn eu plant i fyny oll yn grefyddol. Yr oedd Owen Williams yn ddolen gydiol rhwng crefyddwyr cyntaf y wlad â'r oes bresenol. Gwelodd a chlywodd Mr. Charles o'r Bala ddwywaith yn ei oes. Bu yn cyd-oesi â thair oes o bregethwyr, ac â phob tô o flaenoriaid yn y rhan o Sir Feirionydd yr oedd yn byw ynddi. Bu ei enw yn gysylltiedig hefyd a'r prif ddigwyddiadau yn Aberdyfi, yn wladol a chrefyddol, am 60 mlynedd. Yr oedd yn berchen gwybodaeth eang am bersonau a phethau, ac am amgylchiadau y byd yn gyffredinol. Yr oedd tuedd ei feddwl yn athronyddol, hoffai wybod y paham a pha fodd am bob peth. Cyrhaeddodd ei wybodaeth trwy ddarllen, a thrwy sylwi a myfyrio llawn cymaint a hyny. Tueddai yn naturiol at fod yn bwyllus ac arafaidd, ac nid yn fuan yr ymgymerai ag unrhyw anturiaeth heb wybod yr hyn a ellid ol a blaen iddi. Ond coron ei ragoriaeth oedd ei grefydd. Daliodd ei grefydd bob tywydd, ac yr oedd tua'r diwedd yn addfedu fwy fwy i'r wlad well. Yr oedd yn Gristion, llenor, duwinydd, a chrefyddwr da. Bu yn arwain y canu yn Aberdyfi I am flynyddau meithion, hyd nes iddo ballu gan henaint. Pan oedd yn ei lawn nerth gyda chaniadaeth y cysegr yr oedd yn un o'r rhai goreu yn y wlad byddai son mawr am dano ymhell ac agos. Yr oedd dau beth sydd i'w cael ond pur anfynych mewn cerddor wedi cydgyfarfod ynddo ef—cryfder a pheroriaeth. Byddai yn well gan lawer ei glywed ef yn canu, na chlywed chwareu ar yr organ oreu. Llafuriodd lawer pan yn ieuanc gyda chaniadaeth y cysegr, ynghyd â holl amgylchiadau yr achos. Wedi rhanu y sir yn ddau Gyfarfod Misol, yn 1840, mae ei enw i'w weled yn fynych ar bwyllgorau mewn cysylltiad a Chyfarfod Misol y Pen Gorllewinol. Bu farw nos Sabbath, Ebrill y 12fed 1885, yn agos a chyraedd pen ei flwydd o 85 oed.
William Rees, Towyn
Genedigol oedd ef o Ddolgellau, ac yr oedd yn frawd i'r diweddar R. O. Rees. Dilynai y society pan yn blentyn gyda'i frawd a'i chwiorydd, ond fel llawer plentyn arall, aeth allan. Dygwyd ef i fyny yn egwyddorwas gyda Mri. Williams a Davies, Dolgellau. Wedi bwrw ei brentisiaeth, aeth am ychydig i Manchester, wedi hyny i Liverpool. Yn Liverpool y daeth i'r seiat. Yr oedd yr house-keeper lle y lletyai yn grefyddol, ac yn bresenol yn y cyfarfod eglwysig y noson yr ymunodd ef â'r eglwys, a gwnaeth iddo gadw dyledswydd y noson hono, i'r hyn yr ufuddhaodd. Collodd ei iechyd, a daeth adref i Ddolgellau. Gan dybio y buasai Towyn yn lle manteisiol i ddyn ieuanc gwanaidd ei iechyd, gosodwyd ef i ofalu am siop oedd gan Mri. Williams a Davies yn y lle. Dyma y ffordd yr arweiniodd Rhagluniaeth ef i Dowyn. Cymerodd hyn le oddeutu y flwyddyn 1834. Ymhen amser ymgymerodd â'r fasnach ei hun, ac ar ol hyn daeth i gysylltiadau crefyddol drachefn, trwy ymbriodi â Miss Jones, merch i'r diweddar Barch. Owen Jones, y Gelli. Y mae Mrs. Rees yn aros hyd y dydd hwn, ac yn parhau i ddangos llawer o garedigrwydd at achos y Gwaredwr. Ymhen blwyddyn neu ddwy wedi iddo ddyfod i Dowyn dewiswyd ef yn flaenor yr eglwys, ac efe yn ddyn ieuanc tua 23 oed. Yr amcan, mae'n ymddangos, i'w ddewis 'mor ieuanc oedd, am y tybid y byddai yn gymorth i gadw cyfrifon, gan ei fod wedi cael addysg, canys nid oedd yr hen flaenoriaid oedd yn Towyn yn medru ar lyfr. Troes ef allan, modd bynag, yn flaenor rhagorol, nid i gadw cyfrifon yn unig, ond i gario pobpeth crefydd ymlaen, ac i fod ar y blaen gyda'r achos yn ei holl ranau. Daeth allan ar unwaith fel dyn hollol ymroddedig i waith yr Arglwydd yn y rhan yma o'r wlad. Ac efe a gadwodd y blaen hyd oni luddiwyd ef gan angau i barhau.
Yr oedd ynddo ragoriaethau fel dyn na cheir mo honynt ond anfynych mewn byd nac eglwys. Nis gellir mewn crynhodeb fel hyn o'i hanes ond nodi y prif rai o honynt. Hynodid ef o ran harddwch ei ymddangosiad. Yr oedd yn ddyn tal, lluniaidd, a boneddigaidd yr olwg arno; siriol ei wynebpryd, ystwyth ei ysbryd, serchog ei ymddiddanion. Yn berffaith onest a chywir yn ei fasnach; yn nodedig o gymwynasgar i'w gymydogion; yn ffyddlon i'w rwymedigaethau—gadawai helyntion a thrafferthion masnach os byddai rhywbeth yn y capel, ac yno ag ef, bydded a fo. Yn niwedd ei oes, wedi rhoddi ei fasnach heibio, yr oedd yn ei elfen yn gwasanaethu crefydd yn ei holl gylchoedd. Fel engraifft o'i benderfyniad i wneuthur yr hyn oedd iawn, daeth yn ddirwestwr trwyadl am y rheswm a ganlyn—Cawsai ar ddeall rywbryd fod rhyw ddyn yn y dref yn gwrthod dyfod yn ddirwestwr "am nad oedd Mr. Rees yn ddirwestwr;" clywodd yntau hyny, a phenderfynodd o hyny allan i fod yn llwyrymwrthodwr, a chadwodd yn drwyadl at ei benderfyniad. Bu yn glaf am ysbaid lled faith unwaith, ac aeth yr eglwys i weddïo yn daer am iddo gael ei adferu. Yn y cyfarfod eglwysig cyntaf y daeth iddo ar ol gwella, diolchai yn gynes i'r brodyr a'r chwiorydd am weddïo drosto. Byddai yn hynod o deimladwy wrth drin pob achos yn yr eglwys. Tynai ddwfr o lygaid rhai hyd yn nod wrth holi yr Hyfforddwr. Yr oedd yn awyddus iawn i adferu rhai wedi myned ar gyfeiliorn, ac yn dra medrus i wneuthur hyny. Rhoddwyd iddo bob swydd o ymddiried yn y dref lle y preswyllai, a gelwid arno i gymeryd rhan ymhob cyfarfod cyhoeddus.
Fel blaenor yn eglwys Towyn, ac aelod o Gyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd, llanwodd le anrhydeddus am dros 40 mlynedd. Syrthiodd cyfrifoldeb yr achos yn Nhowyn yn benaf arno ef yr holl amser yna. Gwnaeth waith mawr i'r eglwys, trwy ofalu am yr achos yn ei holl ranau; gwasanaethodd "swydd diacon yn dda," ac enillodd iddo ei hun "radd dda;" a thrwy ei lafur a'i ddyfal barhad cyrhaeddodd "hyfder mawr yn y ffydd sydd yn Nghrist Iesu." Ffydd, sicrwydd ffydd, a hyder mawr yn y ffydd oeddynt linellau amlwg yn nghymeriad Mr. Rees. Ei olwg siriol, ei dymer hynaws, a gwresog-rwydd ei ymadroddion, a barai ei fod yn wastad yn gymeradwy ymhlith lliaws ei frodyr. Dichon nad oedd yn gymaint diwygiwr a llawer un, ac feallai nad oedd yn gweled yn glir i'r dyfodol i gymeryd camrau breision ymlaen, ac i dori i dir newydd, ond nid oedd yn ol i neb mewn zel pan y gwelai y cwmwl yn codi, a'r golofn yn cychwyn. Yn ystod y blynyddoedd cyntaf ar ol ei ddewis yn flaenor, yr ydys yn gweled ei enw yn fynych ar lyfr cofnodion y Cyfarfod Misol gyda holl symudiadau pwysicaf y sir, ac yn llenwi y lleoedd uwchaf a berthynai i'w swydd; a thua deugain mlynedd yn ol yr oedd ef a dau eraill o flaenoriaid y dosbarth (un o ba rai sydd eto yn fyw) yn dywysogion ymysg henuriaid yr eglwysi, ac ystyrid Mr. Rees yn dywysog wedi myned o hono yn hynafgwr. Bu yn gwasanaethu ar ran y Feibl Gymdeithas yn Nhowyn a'r ardaloedd cylchynol am flynyddoedd lawer. Efe a osodwyd yn drysorydd yr Achos Cenhadol o fewn cylch y Cyfarfod Misol ar ol dydd Mr. Williams, Ivy House, ac yr oedd gwaith y swydd hon yn hynod gydnaws â'i ysbryd. Pan fyddai eisieu dweyd gair o blaid y genhadaeth yn y Cyfarfod Misol, rhoddai ef ar unwaith dân yn y cyfarfod gyda'i eiriau gwresog; ac un o'r pethau olaf a ddywedodd wrth Mr. Griffith, Dolgellau, cyn marw ydoedd, "Gwnewch gymeryd gofal o'r Achosion Cenhadol yn ein rhan ni o Sir Feirionydd." Efe oedd un o'r rhai a anfonid yn fynych i ymweled âg eglwysi y sir, ac nid oedd neb a gaffai rwyddach derbyniad yn yr eglwysi, na neb ychwaith a wnai y gwaith yn fwy pwrpasol a thrwyadl. Yr oedd ef a'r Parch. Robert Parry, wedi bod unwaith yn ymweled âg eglwysi Ffestiniog, ac yn Nghyfarfod Misol Talsarnau, rhoddent adroddiad o'r ymweliad. Galwai ei gyfaill ar Mr. Rees i ddechreu, ac fel hyn y dechreuodd,—"Cawsom fyned i weled y chwarel fawr hono, ac yno yr oedd y gweithwyr yn gweithio, rhai yn curo, rhai yn rhoi powdwr yn y tyllau. Ond er yr holl weithio yr oedd yn rhaid cael y tân cyn y gellid chwalu dim ar y graig; y tân ar y powdwr oedd yn dryllio ac yn chwalu y graig i lawr. Felly ninau, rhaid i ni gael y tân o'r nefoedd; wnawn ni ddim byd o honi hi heb y tân; ond os cawn ni y tân i lawr, hwnw wnaiff y gwaith." Yr un ffunud â Mr. Rees! Wedi'r cwbl, dywediadau ac ymadroddion dyn ei hun ydyw y desgrifiad goreu oll o hono.
Mewn erthygl yn y Goleuad, yr wythnos gyntaf ar ol ei farw, darllenir "Y lle yr oedd ef yn disgleirio fwyaf gloew a chyson o bob man ydoedd yn y cynulliadau eglwysig, a'r cyfarfodydd gweddïau gartref. Dyma beth sy'n wybyddus i'r holl eglwys y modd y bu yn eu cynghori, ac yn eu cysuro, bob un o honynt, fel tad ei blant ei hun. Er mwyn i'r rhai oedd heb ei adwaen gael rhyw engraifft o'i ddywediadau, cymerer y rhai canlynol:— "O na wyddwn pa le y cawn ef,' meddai Job. Yr oedd ef ar y pryd wedi colli ei ychain, a'i ddefaid, a'i gamelod, a'i weision, a'i feibion, a'i ferched; ond nid oedd Job yn gofyn am gael ail afael yn yr un o'r rhai hyn, ond 'O na wyddwn pa le y cawn ef. Yr oedd yn teimlo y byddai ar i fyny wed'yn ond cael ail afael ar ei Dduw." Adeg arall, dywedodd, "Mynwch, fy mhobl anwyl i, ddyfod i berthynas â Duw fel plant iddo. Peth yn dal ydyw perthynas. Pan oeddwn i yn fachgen, byddwn yn digio fy mam, ac yn ei gorfodi i fy ngheryddu; ond waeth i chwi beth, yr oedd y berthynas yn dal." Dro arall, wedi i weinidog adrodd ei fod yn clywed fod llawer yn cael eu dychwelyd mewn rhyw fan o'u ffyrdd drygionus at yr Arglwydd, a hyny trwy offerynau distadl iawn, a'i fod yn ofni nad oedd ef yn cael y fraint o ddychwelyd neb. "Wel," ebai Mr. Rees, rhaid i chwi gofio fod Penarglwyddiaeth yn y peth. Ond wed'yn, un gwaith ydyw tori y coed i lawr, peth arall ydyw eu llifio, a'u plaenio, a'u haddurno, a'u gwneyd yn ddodrefn, a'u polisho yn fit i'w dangos mewn drawing room; ac os nad ydych chwithau yn cael y fraint o dori y coed i lawr, pwy wyr na bydd llawer o ddodrefn y drawing room above ag ôl eich gwaith chwi arnynt." Yn y society nos Sul, ar ol y bregeth, adeg arall, dywedai, "Mor barod ydyw y Brenin Mawr i roddi i ni y pethau sydd arnom eisiau; mae y tad yn dangos yr afal i'r plentyn bach—afal brongoch, braf, yn ei droi, ac yn ei ddal rhwng ei fysedd, er mwyn i'r plentyn bach fod yn fwy awyddus am dano. Felly y mae ein Tad nefol yn dangos y bendithion, ac yn eu cymell hwy i ni, yn eu codi hwy i fyny yn y moddion a'r weinidogaeth, er mwyn ein cael ni yn awyddus i'w ceisio." Gwnaethpwyd sylwadau er coffadwriaeth am dano yn y Cyfarfod Misol cyntaf ar ol ei golli, ac y mae yr hyn a ganlyn i'w weled yn adroddiad y cyfarfod hwnw: "Yr oedd Mr. Rees yn dywysog ymhlith ei frodyr. Yr oedd yr Arglwydd wedi ei lwyddo mewn pethau tymhorol, ac yr oedd ei enaid wedi lwyddo yn fawr. Yr oedd yn ddyn cywir a defnyddiol mewn gwlad ac eglwys. Elai ar ei union i'r nefoedd ymhob cynulliad crefyddol, a meddai ar fedr tuhwnt i'r cyffredin i ganmol y Gwaredwr. Yr oedd yn fawr yn y dirgel, yn fawr yn y weddi deuluaidd, ac felly yn fawr yn yr amlwg. Cyrhaeddodd ddylanwad yn ei ardal ac yn y Cyfundeb, a hyny oblegid ei grefydd a'i foneddigeiddrwydd." Bu farw Medi 1879, yn 68 mlwydd oed, ac y mae hyd heddyw deimlad o chwithdod a cholled ar ei ol ymysg ei gyd-drefwyr a'i gydgrefyddwyr.
Thomas Jones, Voel Vriog, Corris.
Yn Caethle, gerllaw Towyn, yr oedd yn preswylio y saith mlynedd olaf o'i oes; ond adnabyddid ef yn fwyaf cyffredin wrth yr enw sydd uwchben yr ysgrif hon. Mab ydoedd i Meredith Jones, Penybont, Corris. Ganwyd ef oddeutu y flwyddyn 1823. Cafodd ei ddwyn i fyny yn blentyn yn yr ardal rhwng Corris a Machynlleth; ac yn ol ei dystiolaeth ef ei hun, tra yr oedd yn llanc ieuanc, ac hyd yn nod wedi iddo dyfu i oedran gŵr, yr oedd yn fwy difeddwl a difater na'r cyffredin. Rhoddodd ei gymydog, yr ysgrythyrwr a'r Cristion cywir, Richard Jones, Bronyraer, fenthyg Geiriadur Mr. Charles iddo, ac wrth ddarllen y llyfr hwnw y daeth i feddwl gyntaf fod dim pleser ac adeiladaeth i'w gael heblaw mewn oferedd a phleserau y byd hwn. Wedi iddo briodi, ac ymsefydlu, fel y dywedir, yn y byd, dechreuodd ymroddi o ddifrif gyda'r byd a chrefydd, ac fe lwyddodd yn fawr yn y naill a'r llall. Dechreuodd ei fywyd yn ngwaelod pentref Corris. Cafodd, mae'n wir, fagwraeth a meithriniaeth dda i'w grefydd gyda'r hen grefyddwyr, a'r hen flaenoriaid ffyddlon yno. Gweithiai yn y chwarel y rhan gyntaf o'i oes, mewn lle a elwid "Tŷ Engine Magnus." Y tymor hwn, llafuriodd lawer i gyraedd gwybodaeth, trwy ddarllen y Traethodydd, a thrwy y dadleuon brwd a gymerent le rhwng y gweithwyr. Gwnaeth amryw o symudiadau yn ystod ei fywyd, a'r cwbl gan fyned rhagddo. Nid digwyddiad oedd ei symudiadau; yr oedd yn amcan ganddo ynddynt i gyd, i wneuthur yr oll er lles a mantais i achos crefydd. Bu am 18 mlynedd yn Galltyrhiw; 18 mlynedd drachefn yn Voel Vriog; a 7 mlynedd yn Caethle. Tra yr oedd yn dal y fferm fechan Galltyrhiw, gweithiai am gyflog yr un pryd, a bu yn hynod lafurus er mwyn iddo gael symud i le mwy. Adroddai hanes am dano ei hun yn y tymor hwn sydd yn werth ei gadw mewn coffadwriaeth. Yr oedd ei briod yn gweithio yn ddiwyd a chaled gyda y fferm gartref, ac yntau yn gweithio yn y chwarel. Yr oedd yn fyd gwan iawn, y cyflogau yn fach, ac nid oedd modd cael y cyflog ond bob rhyw dri mis, fel yr oeddynt mewn cryn ymdrech i gael dau ben y llinyn ynghyd. Mewn canlyniad, ofnai y byddai raid iddo dynu yn ol yn y casgliad misol yn y capel. Y wraig ac yntau un tro a siaradent a'u gilydd ar y mater, a dywedai ef ei fod yn ofni mai rhoi llai fyddai raid iddynt. "Na," meddai y wraig, "gadewch i ni beidio tynu yn ol, gwell i ni dreio eto am dipyn i beidio rhoi llai yn y casgliad, beth bynag." Ac o'r dydd hwnw allan, fe drodd Rhagluniaeth o'u plaid: dechreuasant lwyddo yn y byd, a llwyddo a wnaethant o hyny i'r diwedd. Fel yr oedd ef yn symud o'r naill le i'r llall, yr oedd crefydd ar ei mantais yn ei holl symudiadau; dangosai llyfr yr eglwys yn union y pryd yr elai ar gynydd yn mhethau y byd. Yr Arglwydd oedd yn ei lwyddo yn dymhorol ac ysbrydol, ac yr oedd yntau yn gweled llaw yr Arglwydd ymhob peth, ac yn "anrhydeddu yr Arglwydd â'i gyfoeth, ac â'r peth penaf o'i holl ffrwyth."
Ceid fod rhagoriaethau ei gymeriad yn llawer. Yr oedd yn ŵr o farn, ac yn ŵr o gyngor, yn gymydog yn ngwir ystyr y gair, ac fel y dywedir yn yr Ysgrythyr, wedi ei berffeithio i bob gweithred dda." Un o fil ydoedd fel cymydog. Ewyllysiai yn dda i bawb, hoffai weled pawb yn llwyddo, a gwnai ei oreu ei hun tuag at i bawb lwyddo. Dyn siriol, caredig, cymwynasgar ydoedd, a'i gyfarchiad wrth eich cyfarfod ar y ffordd neu yn y tŷ yn enill eich calon a'ch ymddiried. Elai lawer o'i ffordd ei hun i wneuthur lles i eraill. Meddai ffydd gref mewn Rhagluniaeth, a chredai ac ymhyfrydai mewn gweled dynion yn ymdrechu yn dymhorol ac ysbrydol. Ni chlybuwyd bron un amser gymaint o gwyno ar ol colli cymydog ag ydoedd ar ol ei golli ef.
Fel crefyddwr drachefn, cyfodai ar adegau uwchlaw iddo ei hun, ac uwchlaw ei gyfeillion. Crefydd oedd y peth penaf iddo ef. A'r wedd neillduol ar ei grefydd oedd gwaith. Yr oedd yn weithiwr difefl, ac yn filwr da i Iesu Grist. Dyn o ddifrif ydoedd gyda phob peth, a dyn a wnaeth y goreu mewn modd amlwg o'r ddau fyd. Byddai o ddifrif ar ei liniau mewn gweddi, yn y cyfarfod eglwysig, yn gwrando y weinidogaeth, ac yn cynghori ei gyd-dynion. Cyfodai ei deimladau yn uchel yn ei holl gyflawniadau crefyddol, ond y nodwedd amlycaf o bob peth ynddo oedd gwaith. Elai rhagddo o hyd mewn gweithgarwch. Methai yntau fel pawb weithiau. Nid oedd heb ei golliadau; a pha le y ceir dyn felly? Modd bynag, pa un bynag ai methu ai peidio, yr oedd efe am fyned rhagddo, mewn haelioni, mewn trefniadau, mewn cynydd gyda phob achos da, ac i hyrwyddo teyrnas yr Arglwydd Iesu yn y byd. Dechreuad a diwedd ei ddiwrnod gweithio oedd—Ymgysegriad.
Bu yn llenwi y swydd o flaenor am oddeutu 30 mlynedd, y rhan fwyaf o honynt yn Nghorris; dewiswyd ef i'r swydd hefyd yn Nhowyn. Yr oedd efe yn mawrhau y swydd o flaenor, ac fe roddes urddas ar y swydd. Wedi colli yr hybarch dad a'r blaenor adnabyddus, Humphrey Davies, Abercorris, syrthiodd y fantell yn naturiol ar Thomas Jones. Yntau, fel Eliseus, a gymerodd y fantell i fyny, a chyda hi a gyflawnodd waith ei swydd yn ofn yr Arglwydd. Blaenor yn blaenori ydoedd efe ymhob peth. Yn hyn cadwodd ar y blaen yn ei oes; byddai yn chwilio am waith i'w wneuthur, ac yn barhaus yn cynllunio pa fodd i'w wneuthur. Mewn rhagdrefnu a rhagofalu, rhoddai esiampl i liaws ei frodyr, ac yn hyn bron na ragorai ar y rhai rhagoraf o honynt. Un o'r Trefnyddion Calfinaidd ydoedd mewn gweithred a gwirionedd, ac yn ystod yr ugain mlynedd olaf o'i oes efe oedd un o'r Trefnyddion goreu a feddai Sir Feirionydd. Cafwyd ynddo weithiwr digymar ymhob cylch yn ei eglwys gartref, yn y Cyfarfod Dosbarth, yn y Cyfarfod Ysgolion, yn y Gymanfa Ysgolion, ac yn y Cyfarfod Misol. Tra byddai rhai yn ofni myned ymlaen, ac eraill yn cwyno nad oedd dim modd myned ymlaen, byddai ef fel gwir ddiwygiwr yn cynllunio pa fodd i fyned yn bellach yn ei flaen. Nodwedd ragorol iawn ynddo fel blaenor yn eglwys Dduw oedd, ei fod bob amser yn barod i wynebu anhawsderau. Ni byddai byth yn cilio o'r ffordd pan ystyriai mai myned ymlaen fyddai ei ddyledswydd. Elai trwy dywyllwch a rhwystrau, gan ymddiried yn Nuw. Yn cyflawni ei swydd fel diacon yn yr eglwys, yr oedd yn debyg iawn i'r hyn a ddywedir am un o ddiaconiaid cyntaf yr Eglwys Gristionogol yn llawn o'r Ysbryd Glân ac o ffydd." Cynyddai o hyd ymhob gras a rhinwedd, a chymerwyd ef ymaith yn anterth ei nerth. A dyna sydd yn adlewyrchu yn ddisglaer eto ar ei gymeriad, yr oedd yn fwy awyddus i weithio dros Grist yn niwedd ei oes nag y bu erioed. Tystiolaeth pawb a'i hadwaenent, a thystiolaeth y gwirionedd ei hun ydoedd, ei fod yn was da a ffyddlawn, ac wedi gweithio ei ddiwrnod fel un o'r rhai ffyddlonaf o'r ffyddloniaid. Boreu Sabbath, Gorphenaf 13eg, 1884, hunodd yn dawel yn yr Iesu.
Hugh Owen, Maethlon
Un o "gywion yr estrys" oedd ef, yn amddifad er yn ieuanc o dad a mam. Daeth at grefydd pan yn fachgen 14 mlwydd oed, yn amser Diwygiad Beddgelert. Gwasanaethu yr oedd ar y pryd yn ardal Rhiwspardyn. Yr oedd yr hen ŵr, ei feistr, yn greulon yn erbyn iddo fyned i'r society. Rhoddai glo ar ddrws y tŷ, a bu raid i Hugh fyned i'r beudy i gysgu lawer noswaith, yn ol ei dystiolaeth ei hun, am ei fod yn dewis dilyn pobl yr Arglwydd. Ymhen blynyddoedd wedi hyn, bu yn gwasanaethu mewn awyrgylch dra chrefyddol, gyda Dafydd Humphrey, Abercorris, ac yn Tyddyn Meurig, gydag Owen Evans, dau o brif grefyddwyr y wlad. Cafodd ei briod ei dwyn i fyny yn sŵn crefydd o'i mebyd, a dygwyd hi tan ddylanwad crefydd yn foreu, a hono yn grefydd rymus y diwygiad. Ar ol chwe' blynedd o'u bywyd priodasol, aeth y ddau i fyw i'r Tyno, Abertrinant. Nid oedd neb yn flaenor yn yr eglwys hono pan yr aethant yno. Yn Llanegryn, Mai 25ain, 1840, derbyniwyd Hugh Owen yn aelod o'r Cyfarfod Misol fel blaenor yn Abertrinant. Bu yn yr ardal hono 18 mlynedd yn wasanaethgar i achos crefydd. Yn 1851, symudodd i Maethlon, i fyw i dŷ y capel, a bu yno drachefn 20 mlynedd. Nid oedd nifer yr aelodau eglwysig yn Maethlon y flwyddyn y symudodd ef yno ond wyth. Ychydig Sabbothau yn flaenorol i'w symudiad yno, yr oedd yr ordinhad o Swper yr Arglwydd wedi ei gweinyddu i ddim ond pedwar. I fyny ac i lawr yr oedd yr achos wedi bod yn Maethlon er's rhai degau o flynyddoedd; ac wedi iddo ef fyned yno y dechreuodd pethau ddyfod i drefn. Un o ragorolion yr oes sydd wedi myned heibio ydoedd Hugh Owen. Cariai nodweddion yr oes hono i lawr i'r oes bresenol yn ei berson ei hun fel Cristion yn gystal ag fel swyddog eglwysig. Yr oedd ei argyhoeddiadau crefyddol yn ddyfnion, tuhwnt i'r cyffredin, a'i wybodaeth o grefydd a'i hegwyddorion o radd uchel. Gwyddai yn dda pa beth oedd bod o dan Sinai ryw adeg ar ei oes; gwyddai gystal a hyny pa beth oedd dianc at y groes. Yn ei ddull o wrando yr efengyl, ac yn ei brofiadau yn y cyfarfodydd eglwysig, ceid gweled yn eglur fod yr awelon lleiaf o Galfaria yn cynhyrfu ei holl natur, Byddai ei lygaid yn gochion wrth wrando y weinidogaeth, oherwydd ei lawenydd anrhaethadwy yn clywed am drefn gras yr efengyl. Gwledd i'r gwrandawyr ac i'r llefarwr fyddai edrych arno ef yn gwrando. Yn y cyfarfod eglwysig drachefn, byddai yn ei lawn elfen, fel pysgodyn yn y môr, pan y clywai rai o'r brodyr a'r chwiorydd yn canmol yr iachawdwriaeth fawr a'r prynedigaeth trwy Grist. Ei air neillduol yn y cyfarfod eglwysig fyddai "Y Cyfryngwr Mawr." Unwaith y caffai afael yn yr ymddiddan, clywid ef cyn y diwedd yn myned at ei Waredwr, ac yn dyfod a'i hoff ymadrodd allan drachefn a thrachefn, gyda chynhesrwydd a gynhesai y cyfarfod oll, Y Cyfryngwr Mawr, y mhobol i."
Fel blaenor eglwysig, yr oedd yn engraifft deg o'r stamp oreu o'r hen flaenoriaid, yn enwedig y rhai hyny a fu yn gofalu am eglwysi bychain y wlad. Nid yn y cyhoedd y rhagorai, ond yn ei gylch cartrefol, yn ei ofal neillduol am y praidd yn ei eglwys ei hun, am fod yn bresenol ymhob cyfarfod er esiampl i eraill, am ei gynghorion a'i rybuddion, am fyned ar ol y rhai crwydredig, am gael pawb yn yr ardal i broffesu crefydd, ac i rodio yn gyson a'u proffes. Byddai ganddo yn wastad rywbeth i'w ddwyn i sylw y gweinidog a'i gyd-swyddogion am hon a hon, neu hwn a hwn, yn yr eglwys, neu yn y gynulleidfa. Fel yr hen flaenoriaid, tueddu y byddai at fod yn fanwl a llym mewn disgyblaeth. A byddai weithiau yn lled arw a gerwin yn ei ymadroddion. Yr oedd geneth o forwyn o dan ddisgyblaeth yn yr eglwys un tro, oherwydd iddi fyned ar gyfeiliorn gyda rhyw drosedd neu gilydd; ac ar ol galw sylw at ei hachos, yr oedd y cwestiwn o flaen yr eglwys pa beth a wneid iddi. "Y mae hi yn llefain (wylo) yn arw," ebe Thomas James, y blaenor arall, "feallai fod hyn yn ddigon iddi; nid aiff ddim yr un ffordd eto." "Dwn i pru'n," ebe Hugh Owen, yr oedd Orpah yn wylo, ond yn ol i'w gwlad yr aeth hi wed'yn." Hawdd iawn fyddai gan bawb basio heibio y gerwindeb oedd ynddo gan mor amlwg oedd ei grefydd. Dygodd ei blant i fyny yn rhai cryfion fel yntau yn egwyddorion yr efengyl. Bu yn foddion yn ei oes, trwy rybuddio a chynghori, i gadw llawer rhag cerdded y ffordd lydan. Er ei fod yn perthyn i'r hen dô o flaenoriaid, yr oedd mor ystwyth ei farn fel yr ymgymerai gyda phob parodrwydd â phob symudiad newydd gyda chrefydd. Cariai feddwl uchel am ddynion blaenaf ein Cyfundeb, am y Gymdeithasfa, a'r Cyfarfod Misol, ynghyd a'u holl drefniadau. Prawf o hyn ydoedd y byddai bob amser y deuai yr ymwelwyr heibio, yn trefnu i ddarparu yn neillduol ar eu cyfer, trwy baentio neu wyngalchu y capel, neu gael rhywbeth newydd oddifewn neu oddi-allan i'r adeilad, a derbyniai hwy fel angylion ac fel goruchwylwyr ar etifeddiaeth Duw. Arferai, hefyd, fyned i gyfarfod y pregethwr. Llawer a ddangosant ffyddlondeb trwy fyned i ddanfon y pregethwr yn ei ffordd tuag adref wrth ymadael; ond elai Hugh Owen ar drot i'w gyfarfod, gan ei gyfarch gyda haner gwehyriad, a'i arwain yn groesawgar i dŷ y capel. Symudodd cyn diwedd ei oes i Benrhyndeudraeth, a dewiswyd ef yn flaenor yn y Pant. Bu farw yn orfoleddus yn 1875, yn 71 mlwydd oed.
William James, Maethlon.
Ganwyd ef yn y flwyddyn 1806, yn ardal Ponterwyd, Sir Aberteifi. Bugeilio defaid oedd ei waith yn nechreu ei oes; a thra wrth y gwaith hwnw ar y mynydd, pan yn llanc 18 oed, yr argyhoeddwyd ef. Wedi ymsefydlu yn y byd, a dechreu cadw teulu, symudodd i fyw i ardal y Graig, yn agos i Glandyfi. Yno y dechreuodd ei grefydd ddyfod i'r golwg mewn gweithgarwch digyffelyb, yr hwn a barhaodd yn ddiflino hyd derfyn ei oes. Cymeriad gloew ydoedd, yn dal yn loew o ba cyfeiriad bynag yr edrychid arno, a rhagorai mewn llawer o bethau, mewn gwybodaeth drwyadl o'r Ysgrythyrau, mewn duwioldeb personol, mewn haelioni crefyddol, mewn gweithgarwch gyda holl wasanaeth crefydd. Gwnaeth y goreu o'r
ddau fyd, a llwyddodd, i fesur helaeth, gyda y naill a'r llall. Yr oedd y byd yn llwyddo a chrefydd yn llwyddo gyda'u gilydd iddo ef. Yr oedd ganddo fferm fawr, gwasanaethyddion lawer, trafferthion fwy na mwy, dwy filldir o ffordd i'r capel, a hyny yn orifyny a goriwared, ac eto ni fyddai moddion crefyddol yn y capel trwy y flwyddyn round na fyddai ef ynddynt, os byddai gartref ac yn iach; ac ni fyddai yno neb mor barod ei feddwl i gydio mewn pethau crefydd. Yr oedd yn ei elfen yn darllen ac yn holi ynghylch pynciau. Y fath syndod oedd hyny, ac yntau yn ngafael â'r byd trwy gydol ei oes, ac yn dwyn teulu mawr i fyny. Ei brif lyfrau oeddynt, James Hughes, y Geiriadur, Gurnal, a Dr. Owen. Tybir nad oedd ond un lleygwr yn y sir wedi meistroli yr epistolau cystal âg ef. Arferai ddweyd mai yr hyn a barodd iddo ddechreu astudio yr epistolau oedd y dadleuon Calfinaidd ac Arminaidd a ffynent yn y wlad pan oedd ef yn ddyn ieuanc.
Bu yn flaenor eglwysig am yn agos i haner can' mlynedd—am bedair blynedd ar ddeg, neu rywle o gwmpas hyny, yn y Graig, Sir Aberteifi; am bedair blynedd ar ddeg yn Mhennal, ac am un mlynedd ar hugain yn Maethlon. Ymhlith blaenoriaid Gorllewin Meirionydd, yr oedd efe yn dywysog ac yn ŵr mawr. Nid oedd mor gyhoeddus ac amlwg yn y Cyfarfod Misol, a chyda threfniadau allanol yr achos, a llawer, ond fel blaenor eglwysig yn y cylchoedd cartrefol, yr ydoedd mor gymwys a blaenllaw a neb. Credai yn gryf mewn gwaith, ac awyddfryd ei enaid fyddai myned ymlaen, ac nid aros yn yr unfan. Pan yr oedd yn preswylio yn Mhennal, yr oedd y Parch. Richard Humphreys yn byw yno yn mlynyddoedd olaf ei oes y ddau o gyffelyb ysbryd, ac yn gyfeillion mawr. Adroddir rhai hanesion dyddorol am danynt. Yr oedd gweinidog yn y daith un Sabbath, ac wedi galw i edrych am Mr. Humphreys yn ei waeledd, yr hwn a ofynai i'r gweinidog, "Ymha le yr oeddych yn lletya neithiwr?" "Yn yr Ynys," ebe yntau, "gyda Mr. James, teulu caredig iawn ydynt hwy." "O ie," atebai Mr. Humphreys, "hynod iawn—they are made to be civil." Yr oeddynt ill dau wedi bod yn y Cyfarfod Misol, ac y mae yr hanes canlynol am danynt wedi cyraedd adref i Bennal i'w weled yn Nghofiant Mr. Humphreys—"Yr oedd ef ac un o flaenoriaid eglwys Pennal wedi bod yn Nghyfarfod Misol Dolgellau, a bu ymdriniaeth helaeth yn y cyfarfod hwnw ar y fugeiliaeth a chynhaliaeth y weinidogaeth; teimlodd blaenor yn ddwys, ac aeth adref a'i galon yn llosgi o zel dros y fugeiliaeth, ac yn y cyfarfod eglwysig dechreuodd roddi adroddiad, ac wrth ei glywed mor zelog ofnai Mr. Humphreys i'w zel wneyd niwaid i'r achos, gan y gwyddai nad oedd pawb yn yr eglwys yr un deimlad â hwy eu dau; a phan y clywai Mr. E., y blaenor, yn poethi wrth roddi ei adroddiad, dywedai yn ei ddull tawel ei hun, 'Gently William, gently'. Yna, arafai Mr. James am fynyd; ond ail dwymnai ei ysbryd drachefn, a dechreuai lefaru yn arw. Gwaeddai Mr. Humphreys eilwaith, 'Gently, gently, William;' a dyna lle y bu y ddau—y blaenor yn gyru, ac Humphreys yn dal rhag iddo fyned ar draws y rhai oedd yn methu symud yn ddigon buan o'r ffordd." Mewn canlyniad i'r drafodaeth hon, cyfododd W. James yn swm ei daliad misol at y weinidogaeth, ac ni thynodd byth yn ol, ond yn hytrach elai ymlaen beunydd yn ei gyfraniadau. A'r flwyddyn y cyfododd yn ei gyfraniad at y weinidogaeth, llwyddodd yn annisgwyliadwy yn ei amgylchiadau tymhorol, a phriodolai ef ei hun y llwyddiant hwnw i ofal rhagluniaeth am dano mewn canlyniad iddo ymhelaethu yn y casgliad misol.
Yr oedd W. James yn ddyn o argyhoeddiadau crefyddol dyfnion, byth er adeg ei argyhoeddiad, a bu hyny yn gymhwysder mawr ynddo i fod yn flaenor eglwysig. Gweinidog yr eglwys a'i clywsai rai gweithiau yn cyfeirio at eiriau o'r Beibl a ddylanwadodd yn fawr arno yn ei dröedigaeth. Yn ystod ei gystudd olaf, cymerodd yr ymddiddan canlynol le rhwng y gweinidog ac yntau foddion eich tröedigaeth?" "Pa un oedd yr adnod a fu yn "Yr adnod hono yn Matt. x. 29, "Cymerwch fy iau arnoch, a dysgwch genyf, canys addfwyn ydwyf a gostyngedig o galon, a chwi a gewch orphwysdra i'ch eneidiau." "A ydych yn cofio pwy oedd yn pregethu arni?" "O, nid oedd neb yn pregethu arni, dyfod i fy meddwl ar y mynydd a wnaeth." "Pa beth oedd eich oed y pryd hwnw?" "Llefnyn o fachgen tuag ugain oed, a'r ysgogyn balchaf a droediodd y ddaear erioed." Pawb a adwaenent W. James a wyddant nad oedd neb yn yr holl wlad yn fwy gwylaidd a gostyngedig nag ef am weddill ei oes, beth bynag oedd cyn ei argyhoeddiad. Dichon fod a fyno yr olwg a gafodd y pryd hwn ar y Ceidwad â pheri iddo ymgydnabyddu â'r hanes am dano yn y gair dwyfol. Anfynych y ceid neb yn yr un o siroedd Cymru yn fwy cadarn yn yr Ysgrythyrau. Pryd bynag y cyfarfyddai â gweinidog, neu bregethwr, neu flaenor, neu unrhyw ddyn crefyddol, byddai ganddo adnod eisiau cael esboniad arni, neu bwnc eisiau cael ychwaneg o oleuni arno; nid am nad oedd ganddo farn ei hun, ond am mai dyna lle yr oedd ei feddwl a'i fyfyrdod parhaus. Pan ddeuai y pregethwr i dŷ y capel, byddai ganddo gowlaid o gwestiynau i'w gofyn iddo. Yn y Cyfarfodydd Ysgolion gorfodid rhoddi y brake arno yn aml, onidê ni chai gweddill yr ysgol gyfle i ateb.
Yr oedd yn un o'r blaenoriaid goreu i gynghori yn yr eglwys ac i drin profiadau y saint. Ond nid oedd neb cadarnach ei feddwl mai gwaith gweinidog ydyw arwain mewn pethau ysbrydol; a'r hyn a allodd ef i beri fod gweinidogion ar yr holl eglwysi fe'i gwnaeth. Rhoddid y cyfle iddo bob amser i agor y seiat; gwnai yntau hyny mewn ychydig sylwadau byr ac at y pwrpas; ac ar y diwedd drachefn, nid araeth fyddai ganddo, ond sylw yn unig, a thrwy y sylw, tarawai yr hoel ar ei phen. Er ei fod yn hen mewn dyddiau, yr oedd mor ieuanc ei ysbryd fel y gallai gydfyned â phob symudiad o eiddo y Cyfundeb gyda'r parodrwydd mwyaf. Rhoddai bob parch i weinidogion yr efengyl, y lleiaf fel y goreu o honynt, a hyny oblegid eu swydd a'u gwaith. Mawr fyddai ei ofal trwy y blynyddoedd am iddynt gael chwareu teg, trwy eu cludo yn ol a blaen yn y daith y Sabbath; a mawr oedd ei bryder amser agor y capel newydd, y dydd cyntaf o'r flwyddyn 1885-ac efe ei hun yn ei wely-am fod y gweinidogion yn cael eu cludo a'u cydnabod am eu gwasanaeth. Un o'i ragoriaethau neillduol fel blaenor bob amser oedd, y byddai yn rhag-ofalu am bob peth a berthynai i'r achos. Meddyliai a chynlluniai yn barhaus am rywbeth i'w wneyd—disgyblu pan y byddai galw am hyny, ac adgyweirio pan y byddai eisiau adgyweirio. Ac ni chai casgliad byth fod ar ol heb ei wneuthur, a'i wneuthur yn ei amser. Tuag at roddi grym yn ei waith ac- yn ei swydd o flaenor, yr oedd ganddo gymeriad o'r tu cefn. Safai yn uchel yn ngolwg pawb, fel amaethwr a chymydog, ac- yr oedd teimlad anrhydeddus ynddo gyda golwg ar wneuthur tegwch rhwng gŵr a gŵr mewn masnach. Yr oedd fel Abram, yn esiampl i bawb yn y wlad am hyfforddi ei blant a thylwyth ei dŷ, a gorchymyn iddynt rodio yn ffordd yr Arglwydd. Bydd y dylanwad da a adawodd ar yr ardal lle yr oedd yn byw yn parhau yn ddiameu am hir amser. Yr oedd yn hollol hyderus am ei gyflwr yn ei gystudd olaf, Ond fel hyn y dywedai wrth un oedd yn ymweled âg ef wythnos cyn y diwedd: "Nid wyf yn mwynhau rhyw lawer ar hyn o bryd o ran hyny; pan yr oeddwn yn iach ac yn gallu gwneyd tipyn gyda chrefydd, y pryd hwnw y byddwn yn mwynhau pethau crefydd." Dyna yn hollol ddisgrifiad o'i holl fywyd-crefydd yn ei gwaith oedd ei grefydd ef. Bu farw Chwefror 16eg, 1885, yn 79 mlwydd oed. Rhoddwyd ei weddillion i orwedd yn ymyl capel Maethlon.PENOD VIII.
BYR HANESION YCHWANEGOL.
CYNWYSIAD.—Golwg gyffredinol ar yr hanes—Addysgiadau— Cymeriad rhagorol y crefyddwyr cyntaf—Eu gwaith yn cynorthwyo y gwan yn esiampl i'r oes hon—Engraifft hynod o amddifyniad dwyfol—L. W. yn Llanegryn—Mary Jones—Talu dyled y capelau yn 1839—Y Teithiau Sabbothol—Y Pregethwyr—Cyfrifon deugain mlynedd—Ymweliad â'r eglwysi.
MAE yr hanes a roddwyd yn y tudalenau blaenorol am eglwysi y Methodistiaid yn y rhanbarth hwn o Sir Feirionydd, er yn dra anmherffaith, yn dangos crynhodeb o'r gwaith mawr a wnaethpwyd gydag achos y Cyfryngwr, yn yr amser aeth heibio. Nid ydyw yr hanes, mae'n wir, ond crynhodeb o'r pethau a welwyd ac a glybuwyd gan y tadau, ac a wnaethpwyd ymhlith pobl yr Arglwydd hyd y pryd hwn. Casglwyd y prif ffeithiau am hanes pob lle, mor bell ag y gellid eu cael, a gadawyd allan y pethau y tybid nad oeddynt o fuddioldeb cyffredinol. Hyn sydd sicr, fod llawer o bobl grefyddol, ymroddedig, duwiolfrydig, wedi eu darparu i deyrnas nefoedd yn yr ardaloedd a'r cymoedd yr ydym ni yn awr yn byw ynddynt. Treuliasant hwy eu bywyd i ddigaregu y ffordd, i wasgaru y tywyllwch, ac i blanu gwir grefydd yn y wlad, a thra phriodol yn y cysylltiad hwn ydyw geiriau yr Ysgrythyr, "A chwithau a aethoch i mewn i'w llafur hwynt." Yr hybarch enwog Ddoctor Edwards, o'r Bala, ar ryw amgylchiad, a ddywedai, fod dilyn yn ol traed y saint, sangu y ddaear a sangasant hwy, cerdded y llwybrau y buont hwy yn eu cerdded, yn foddion arbenig i enyn zel a chryfhau ffydd y duwiolion, "Byddaf fi," ebai, "ambell waith yn hen gapel y Bala, yn cofio fy mod yn sefyll yn yr un lle ag y bu Mr. Charles, a John Evans, ac enwogion eraill yn sefyll, o dan arddeliad amlwg y nefoedd, a bydd cofio hyny yn rhoddi nerth a grym adnewyddol yn fy ysbryd." Nid yn unig yr ydym ni yn cael mwynhau o ffrwyth llafur y tadau, ond yr ydym yn rhodio y cymoedd a'r llwybrau y buont hwy yn eu rhodio, ac yn sangu y llanerchau y buont hwy yn eu sangu o'n blaen, a'r Arglwydd yn gwneuthur pethau mawrion trwyddynt. Y mae myfyrio ar eu llafur, ac ystyried eu ffydd a'u hymarweddiad hwy, yn sicr o fod yn foddion o ras i eglwysi y saint ar bob amserau.
Tra rhyfedd, hefyd, ydyw helyntion yr amseroedd gynt. I ni sydd yn meddu breintiau a goleuni yr "oes oleu hon," ymddengys amgylchiadau ein gwlad mor ddiweddar a chan' mlynedd yn ol yn ddieithriol. Nid ydyw can' mlynedd yn ein cario yn ol ond megis ychydig o'i gymharu â'r amseroedd pell, pell ymhlith oesoedd y byd. Ac eto, mor agos atom o ran amser, dim ond megis oes gŵr,—hynod mor wahanol ydoedd y wlad oll, y trigolion mewn dygn anwybodaeth a thywyllwch, hen ac ieuanc yn credu pob ofergoelion, ac oll yn dilyn llwybrau pechadurus ac annuwiol. Yr hyn a ddygodd y cyfnewidiad mawr o amgylch oedd y diwygiad crefyddol a ddechreuodd yn yr ardaloedd hyn oddeutu yr un adeg a dechreuad yr Ysgol Sabbothol yn Nghymru. Pa mor ddiolchgar y dylem ni deimlo, am fod ein llygaid yn gweled y pethau yr ydym yn eu gweled, a'n clustiau yn clywed y pethau yr ydym yn eu clywed!
Ond beth ydyw yr addysgiadau i ni oddiwrth yr hanes hwn am y cyfnod o gan' mlynedd? Beth yn ychwaneg a allwn wybod am fawrion weithredoedd Duw yn ein gwlad? Yr ydym yn gweled ei oruchwyliaethau Ef yn nechreuad a chynydd crefydd mewn modd amlwg. Dechreuodd yr achos yn fychan. Ymddangosodd seren foreu y Methodistiaid, pan ddechreuodd William Hugh, Llechwedd, Llanfihangel, fyned i wrando yr efengyl y tuallan i'w ardal ei hun, ychydig amser yn flaenorol i 1780. Torodd y wawr, ymdaenodd y goleuni, ac o fewn rhyw bymtheg mlynedd, yr oedd wedi dyfod yn ddydd. Yr oedd y cyffroad y blynyddoedd cyntaf yn fawr. Digwyddai llawer o bethau hynod mewn cysylltiad â moddion distadl ynddynt eu hunain: cyfarfyddai dynion hyfion ac annuwiol âg argyhoeddiad uniongyrchol, ac megis yn wyrthiol; dilynai dylanwadau nerthol y weinidogaeth trwy offerynau gwael; ymddangosai Ysbryd Duw yn gweithio trwy ffordd anghyffredin i ddwyn pethau mawrion i ben, ac i beri planu gwir grefydd yn y wlad. Cyffyrddai y naill grefyddwr â'r llall, a cherddai y tan dwyfol ymlaen o'r naill ardal i ardal arall, nes o'r diwedd gymeryd meddiant llwyr o'r holl ardaloedd. Yn y cyffroad cyntaf, ac yn mhlaniad yr eglwysi, lle y preswyliai ychydig bobl, y rhai oeddynt wedi eu hargyhoeddi am eu hanghenion ysbrydol, y mae llaw Rhagluniaeth ddwyfol yn eglur yn yr amlwg. Rhoddi ystyriaeth briodol i'r pethau hyn a fyddai yn sicr o gynyrchu ynom ysbryd addolgar.
Ystyriaeth arall yn llawn o addysgiadau ydyw, cymeriad rhagorol y crefyddwyr cyntaf. Fel ymhob oes, ac ymhob gwlad, lle y gwreiddiodd yr efengyl ac y sefydlwyd crefydd Crist, bu yma hefyd o'r dechreu golofnau cryfion yn cynal achos yr Arglwydd, trwy barch ac anmharch, trwy glod ac anghlod, tra fyddai weithiau yn nos ac weithiau yn ddydd. Yr oedd delw y cyfnod cyntaf yn amlwg ar grefyddwyr y cyfnod hwnw. Rhai oeddynt hwy wedi dyfod trwy argyhoeddiadau dyfnion a dwysion-wedi eu symud o dywyllwch a chaddug annuwioldeb i ryddid yr efengyl ac o ganlyniad yn gallu gweled mor fawr oedd y gwahaniaeth rhwng cyflwr colledig a chyflwr o ras; ac yr oedd eu llawenydd a'u gorfoledd yn anrhaethadwy, oherwydd y waredigaeth a ddaethai iddynt hwy ac i'w gwlad. Yr oedd eu tröedigaeth mor drwyadl, a grym duwioldeb ynddynt mor ddiledrith, fel ag i wneuthur y llinell rhyngddynt hwy a'r byd di-broffes yn llawer amlycach nag ydyw yn awr. Ceid yn fynych arwyddion o allu yr iachawdwriaeth yn gweithredu megis yn ddigyfrwng, i gyfateb i amgylchiadau yr oes, er achubiaeth y rhai gynt oeddynt amlwg yn blant y diafol. Bryd arall, deuai rhai o hyd i wir grefydd pan y deuent am y tro cyntaf i gyffyrddiad a dilynwyr Crist, fel y marw yn cael ei fywhau wrth gyffwrdd âg esgyrn Eliseus. Canlyniad naturiol y fath bethau ydoedd, nid yn unig eu bod hwy yn grefyddwyr o'r iawn ryw eu hunain, ond eu bod hefyd yn sicr o adael eu hol ar y wlad. Yr oedd eu crefydd yn heintus ac yn ymosodol. Un o arwyddion yr oes apostolaidd ar grefyddwyr cyntaf Cymru oedd, eu bod yn ymwasgu at eu gilydd. Yr oeddynt fel yr apostolion hefyd yn dra amlwg yn y gras o helpu eu gilydd, ac yn arbenig o helpu y gwan. Dyma, fe ddichon, y gras y rhagorent uwchaf ynddo—Dygwch feichiau eich gilydd." Y peth cyntaf y mae gwir grefyddwyr yn ei wneyd ar ol cael crefydd eu hunain ydyw, cael eu cymydogion a'u cyd-ddynion i feddiant o'r un grefydd. Felly y gwnaent hwythau. Wedi sefydlu achos bychan mewn rhyw fan, yr ydym yn eu cael, bron yn ddieithriad, yn myned i gynorthwyo achosion gwanach mewn lleoedd cyfagos, weithiau bob yn ddau a dau, dro arall bob yn un. Hyd yn nod pan na byddai achos ardaloedd eraill yn wanach na'u hachos hwy eu hunain, byddent, er hyny, yn myned o'r naill fan i'r llall i gynorthwyo i gynal cyfarfodydd gweddïo, ac i gadw societies. Rhai heb fod yn bregethwyr na blaenoriaid a wnaent hyn yn y dechreu, yn unig am fod cariad Crist yn eu cymell. Y brodyr o Ddolgellau a ddeuent, er pelled y ffordd, i gynorthwyo ardaloedd rhwng y Ddwy Afon i gynal y moddion. Laweroedd o weithiau y cychwynodd Sion Vychan Vach, â thamaid yn ei logell, o Lwyngwril ar foreu Sabbath i roddi cynorthwy drwy ddarllen, gweddïo, a chynghori, yn yr ardaloedd cymydogaethol, ac ni ddychwelai adref hyd hwyr y nos. Y Bwlch a fu yn cynorthwyo llawer ar Lanegryn. Llanegryn a Chorris drachefn, mewn amser diweddarach, a roddent eu cynorthwy bob yn ail fis i Abergynolwyn, Pennal a Thowyn a roddasant lawer o help yn yr un modd i Maethlon. Am yr haner canrif cyntaf, yr elfen amlycaf o rinwedd Cristionogol yn eu plith ydoedd, eu bod yn cynorthwyo eu gilydd, ac yn arbenig yn cynorthwyo y lleoedd gweiniaid.
Bu amddiffyn yr Arglwydd yn dra amlwg dros ei bobl a'i achos yn y blynyddoedd cyntaf, ac effeithiodd hyny i ladd llawer ar y gwrthwynebiad i'r "grefydd newydd" fel y gelwid hi. Mewn amgylchiadau afrifed y cafwyd engreifftiau o'r amddiffyniad dwyfol yn ein gwlad. Yn ychwanegol at y crybwyllion a wnaed am hyn o fewn terfynau eglwysig y rhan- barth hwn, ceir hanes yn Methodistiaeth Cymru, I. 548, am waredigaeth nodedig i un o'r hen gynghorwyr, Dafydd Cadwaladr, fel y tybir, yn ardal Llanegryn:—
"Yr oeddwn," medd y gŵr ei hun, "yn dyfod ar foreu Sabbath o Aberdyfi i Lanegryn i bregethu. Pan oeddwn yn dyfod ar hyd y traeth tua Thowyn, Meirionydd, gwelwn ddyn yn dyfod i'm cyfarfod, a chan sefyll o fy mlaen gofynodd i mi, "Ai chwi yw y gŵr sydd yn myned i Lanegryn heddyw?' 'Ie,' atebais inau. 'Wel, fe'ch lleddir chwi yn sicr; y maent yn penderfynu gwneyd; a mi a ddaethum yn un swydd i fynegu i chwi.' Yn sicr, yr oedd ei ddywediad yn hynod o effeithiol. Rhedai i'm meddwl yn ddiorphwys. Pa beth os rhagrithiwr ydwyf! Yna, os lladdant fi, yn uffern y byddaf yn y fan! Yna safwn enyd, ac ail feddyliwn, a disgynwn ar y penderfyniad nad oeddwn yn rhagrithiwr, ac mai braint fawr i mi a fyddai cael marw yn ferthyr i achos a thros enw Iesu Grist. Hyn a barai i mi fyned ymlaen yn wrol. Canlynodd y gŵr fi am lawer o filldiroedd, nes dyfod dros bont Syni; yna, efe a safodd, a dywedodd, 'Wel, druan, mi a welaf mai i Lanegryn y mynwch chwi fyned, ac yn wir, mae yn ddrwg genyf i ddyn fel chwi gael ei ladd. Ni ddeuaf fi yn mhellach, onide ni allaf ddisgwyl ond yr un driniaeth a chwithau; dyma i chwi ddwy geiniog; ewch i'r tŷ tafarn a gelwch am eu gwerth o gwrw; ac os llwyddwch i gael teulu y dafarn o'ch plaid, ni bydd i chwi lawer o berygl, ond, yn wir, penderfynu eich lladd y mae y bobl. Ffarwel i chwi.'
Aethum yn fy mlaen, a gwnaethum â'r ddwy geiniog fel y'm haddysgwyd; a phan ddaeth yr amser i ddechreu, mi a aethum ac a sefais ar ben rhywbeth, a dechreuais yr odfa. Edrychai y bobl ar y cyntaf yn lled hyll, ond rywfodd mi gefais lonydd hollol i bregethu. Yn fuan ar ol i mi ddarfod, wele ddyn, trwsiadus yr olwg arno, yn esgyn i ben y clawdd, ac yn dywedyd, 'Bobl, ni wn i ddim am y Methodistiaid, ond dyn iawn yw hwn! Y mae hwn yn dywedyd y Beibl. Mi fedra i y Beibl gystal a neb, ac mi wn na ddywedodd hwn ddim ond y Beibl, am hyny mi fynaf chwareu teg iddo. Gyda hyn aeth pawb i'w gartref."
Lewis William yn Llanegryn
Y mae dwy ffaith mewn cysylltiad â'r Ysgol Sul yn Nosbarth y Ddwy Afon, sydd yn llawn mor hynod a dim a geir yn yr oll o Gymru. Un ydyw, L. W. yn cadw Ysgol Sul yn Llanegryn, heb fedru darllen dim ei hun; y llall, hanes Mary Jones yn myned i'r Bala, i brynu Beibl gan Mr. Charles. Ni fyddai yn gyfiawnder pasio heibio i'r rhai hyn heb roddi crynhodeb byr O honynt, er eu bod wedi eu cyhoeddi o'r blaen. Heblaw hyny, y mae y ddwy ffaith mor ramantus, fel y dylai cenedl y Cymry ymgydnabyddu â hwy ymhob rhyw ffordd. Crybwyllwyd am danynt rai gweithiau yn y tudalenau blaenorol, ond rhoddir yr hanes yn helaethach yma. Oddeutu dwy neu dair blynedd yn flaenorol i 1800, pan yn gweini fel gwas fferm gyda pherthynasau iddo, yn y Trychiad, Llanegryn, teimlai L. W. yn ddwys dros anwybodaeth ieuenctyd yr ardal, a phenderfynodd geisio sefydlu ysgol ar y Sabbath, a rhai o nosweithiau ganol yr wythnos, i'w dysgu i ddarllen. Ni chawsai erioed ddiwrnod o ysgol ddyddiol, ac nis gallai ei hun ddarllen bron air ar lyfr yn gywir. Dywedir na fu erioed cyn hyn mewn Ysgol Sul; ond y tebyg ydyw y gallai ei fod wedi gweled un, ac wedi bod ynddi rai gweithiau. O leiaf, yr oedd Ysgol Sabbothol wedi ei sefydlu yn Mryncrug, gan John Jones, Penyparc. Anturiodd yntau geisio gan ieuenctyd ei ardal wneyd yr hyn nas gallai wneyd ei hun. Ond y cyfryw ydoedd ei fedr i drin plant, fel yr ymdyrent ato i'r ysgol. Dysgai y wyddor i'r rhai lleiaf, trwy eu cael oll i'w chydganu ar y dôn, "Ymgyrch Gŵyr Harlech," a ddysgasai ei hun pan gyda'r militia rai blynyddau yn flaenorol. Adroddir am y cenhadwr enwog Robert Moffat, iddo yntau gymeryd yr un cynllun gyda phaganiaid duon Affrica; dysgai y wyddor Saesneg iddynt trwy eu cael i'w chanu ar dôn genedlaethol Scotland, "Auld Lang Syne."
Ond prif gamp L. W. oedd y ddyfais i allu dysgu y dosbarth uchaf, ac yntau heb allu darllen ei hun. Llwyddodd ryw gymaint gyda hyn drwy fyned cyn yr ysgol ar y Sul a nosweithiau gwaith at chwaer grefyddol, Betti Ifan—yr hon rywfodd a fedrai ddarllen yn dda—i gael gwers ei hun yn y gwersi oeddynt i ddyfod dan sylw yn yr ysgol y tro nesaf. Brydiau eraill, cymerai nifer o ysgolheigion o blith y darllenwyr goreu o Ysgol Waddoledig Llanegryn, a rhoddai hwynt i ymryson darllen am wobr fechan. Testyn yr ymryson fyddai y wers oedd i fod dan sylw yn yr ysgol y tro canlynol. Efe fyddai y beirniad! Craffai yn fanwl arnynt yn seinio pob llythyren, ac yn y modd hwn, megis yn wyrthiol, llwyddodd i gyraedd gradd o wybodaeth fel ag i benderfynu pwy fyddai bia y wobr. "Yr oedd eisiau dechreu a diweddu y cyfarfod drwy weddi. Y ddyfais a arferai ar y cyntaf i gadw ei arabiaid ieuainc anwaraidd yn llonydd a distaw, iddo allu gweddïo oedd, gwneyd iddynt fyned trwy y gwahanol ymarferiadau milwrol, neu fel y galwai ef y gwaith, chwareu soldiers bach, fel y dysgasai ef ei hun gyda'r militia. Pan y deuent at y stand at ease, a'r attention, safent oll yn llonydd, ac wele yn y fan weddi fer drostynt i'r nef. Ar ddiwedd y cyfarfod ychwanegid y quick march"—allan."
Yr amser hwn yr oedd Cyfarfod Misol yn Abergynolwyn, a Mr. Charles i fod ynddo. Ar ei ffordd yno, lletyai Mr. Charles y noswaith flaenorol yn Penyparc, a holai John Jones a wyddai ef am yr un dyn ieuanc arall yn y parth hwnw a wnai athraw yn ei ysgolion ef. Atebai yntau fod rhyw ddyn ieuanc yn Llanegryn yn llafurus gyda'r plant, ond nas gallai ddarllen ei hun. "Dyn ieuanc yn gallu addysgu plant i ddarllen, heb allu darllen ei hun!" ebe Mr. Charles.
Felly y maent yn dweyd," oedd yr ateb. Ar ol ychydig siarad pellach, anfonwyd am y dyn ieuanc i ddyfod i gyfarfod Mr. Charles i Abergynolwyn dranoeth. Daeth L. W. yno, a'i wedd a'i wisg yn wladaidd, a chymerodd yr ymddiddan canlynol le rhyngddynt:—
"Wel, machgen i, y maent yn dweyd dŷ fod ti yn cadw ysgol yn Llanegryn acw ar y Sabbothau a nosweithiau yr wythnos, i addysgu y plant i ddarllen. A oes llawer o blant yn dyfod atat ti i'r cyfarfodydd?"
"Oes, Syr, fwy nag a allaf eu dysgu nhw, Syr."
"A ydyn' nhw yn dysgu tipyn gen' ti!" " Rydw i'n meddwl fod rhai o honyn nhw, Syr."
"A fedri di dipyn o Saesneg ?"
"Fedraf fi ddim ond ambell air a glywais i gyda'r militia, Syr."
"A fedri di ddarllen Cymraeg yn dda?"
"Fedra' i ddarllen bron ddim, Syr; ond rydwi'n ceisio dysgu 'ngora', Syr."
"A fuost ti ddim mewn ysgol cyn dechreu gweini?"
"Naddo, Syr; che's i ddiwrnod o ysgol erioed, Syr."
"A fyddai dy dad a dy fam ddim yn dy ddysgu i ddarllen gartref?"
"Na fyddan', Syr; fedrai 'nhad na'm mam ddim darllen yr un gair eu hunain, Syr,"
Agorai Mr. Charles y Beibl ar y benod gyntaf o'r Epistol at yr Hebreaid, a dymunai arno ddarllen yr adnodau blaenaf.
"Duw we—wedi iddo—le—lef—lefaru la—lawer gwaith, a llawer—modd,—gynt—wrth y—tad—au,—trwy y pro—proff —(proffwydi, sisialai John Ellis, o'r Abermaw, yn ei glust o'r tu cefn iddo)—yn—y—d—ydd—iau—di—wedd—af hyn a le—lef—lefarodd wrth—ym ni yn ei Fab.—"
"Dyna ddigon machgen i, dyna ddigon. Wel! Sut yr wyt ti yn gallu addysgu neb i ddarllen, mae tuhwnt i fy amgyffred i. Dywed i mi, 'machgen i, sut yr wyt ti yn gwneyd i addysgu y plant acw i ddarllen?"
Rhoddai yntau iddo fanylion y dull a gymerai—y cydganu yr A, B, C,—y gwersi parotöl gyda Betti Ifan—ymryson darllen bechgyn y Grammar School—y chwaren soldiers bach, a'r cyfan.
Ar anogaeth y pen-addysgwr o'r Bala, aeth i'r ysgol am tua chwarter blwyddyn, at John Jones, Penyparc; a dyna yr oll o addysg ddyddiol a gafodd erioed. Yr oedd y syniad yn bod mai y radd uchaf mewn darllen oedd gallu darllen fel "person." Ai yntau yn fynych, er mwyn perffeithio ei hun yn y ffordd hon hefyd, i eglwysi Llanegryn a Thowyn, i glywed y "person" yn darllen. A thua'r flwyddyn 1799, cyflogodd Mr. Charles ef yn athraw i'w ysgolion, am 4p. y flwyddyn, yr hyn a fu yn ddechreuad ei yrfa lwyddianus.
Mary Jones
Y mae ei hanes hi yr engraifft oreu ellir gael o'r modd y mae canlyniadau mawr yn dyfod o ddechreuad bychan. Gallwn ddweyd yn y dechreu mai ei mynediad hi o Abergynolwyn i'r Bala, i ymofyn am Feibl, a fu yn achlysur i esgor ar sefydliad y Feibl Gymdeithas Frytanaidd a Thramor. Ganwyd Mary Jones, fel y crybwyllwyd mewn cysylltiad â hanes yr eglwys yn Abergynolwyn, yn Tŷ'nddol, o gylch dwy filldir o bentref Abergynolwyn, yn y flwyddyn 1784. Pan oedd tua 10 oed, sefydlodd Mr. Charles un o'i ysgolion yn mhentref Abergynolwyn, o dan ofal John Ellis, o'r Abermaw. Cyn hir wedi hyn, mewn canlyniad i sefydliad yr ysgol ddyddiol, sef- ydlwyd yno Ysgol Sabbothol, ac hyd y goddefai amgylchiadau ei rhieni, y rhai oeddynt dlodion, cafodd Mary y fraint o ddilyn y ddwy ysgol. Nid oedd Beiblau i'w cael mewn tai tlodion yn y dyddiau hyny; y Beibl agosaf y gallai hi ei ddefnyddio oedd, un mewn ffermdy tua dwy filldir o ffordd o'i chartref. At y Beibl benthyg hwnw yr elai yr eneth fechan bob wythnos, i ddysgu ei benodau ar ei chof erbyn yr ysgol ar y Sabbath. Bu am flynyddau yn casglu pob ceiniog a gaffai, er mwyn i'r ceiniogau dd'od yn ddigon o swm iddi brynu Beibl o'i heiddo ei hun. Wedi i'r swm gyraedd y pris y clywsai y gallai gael Beibl, aeth i'r Llechwedd, at William Hugh, i'w holi ymha le yr oedd un i'w gael. Ei ateb ef iddi oedd, nas gallai gael yr un ar werth yn nes na'r Bala, ac ofnai fod yr oll o'r Beiblau a gawsai Mr. Charles o Lundain wedi eu gwerthu er's misoedd. Ond yn ngwyneb pob rhwystrau, anturiodd hi yr holl daith i'r Bala, i wneuthur cais am yr hyn yr oedd ei chalon er's amser yn dyheu am dano.
Ar foreu teg, yn ngwanwyn y flwyddyn 1800, cychwynodd i'w thaith bell-rhwng 25 a 30 milldir-tua'r Bala Cawsai fenthyg wallet i gludo ei thrysor adref, os caniatai y nefoedd a Mr. Charles iddi gael ei dymuniad. Yr oedd ganddi esgidiau i'w rhoddi am ei thraed i fyned i'r dref. Cariai y rhai hyn yn y wallet ar ei chefn, a cherddai yr holl ffordd yn droednoeth. Erbyn cyraedd pen ei thaith yr oedd yn hwyr y dydd-yn rhy hwyr iddi weled Mr. Charles, gan mai ei arfer ef ar hyd ei oes oedd, " yn gynar i'r gwely a chynar i godi." Yn ol cyfarwyddyd William Hugh iddi cyn cychwyn, ymholodd am dŷ Dafydd Edward-hen bregethwr parchus-ac yntau wedi clywed ei hanes a gymerodd y dyddordeb mwyaf ynddi:-
"Wel, fy ngeneth i, mae yn rhy hwyr i ni gael gweled Mr. Charles heno; mae yn arfer myned i'w wely yn gynar, ond bydd yn codi gyda'r wawr yn y boreu. Cei gysgu yma heno, ac ni a awn ato mor fuan ag y cyfyd boreu yfory, er mwyn i ti allu cyraedd adref nos yfory." Cyn toriad y wawr dranoeth, cyfeiriai Dafydd Edward a Mary tua thŷ Mr. Charles. Gwelent oleu yn y study. Curodd Dafydd Edward y drws, ac agorodd Mr. Charles ef ei hun. Wedi i Dafydd Edward roddi eglurhad ar eu hymweliad boreuol, holai Mr. Charles yr eneth am ei hanes personol, a'i gwybodaeth Ysgrythyrol, a pha fodd y llwyddasai i gyraedd gwybodaeth mor helaeth o'r Beibl, a hithau heb yr un ei hun. Adroddodd hithau yr hanes am y cerdded i'r ffermdy, ddwy filldir o'i chartref, bob wythnos am y chwe' blynedd blaenorol, i ddarllen a thrysori yn ei chof benodau o'r Beibl benthyg, a'r casglu gofalus o'i cheiniogau tuag at wneyd i fyny y swm oedd ganddi yn ei llogell i brynu Beibl ganddo ef. Effeithiodd yr hanes hynod yn ddwys ar Mr. Charles, a dywedai :" Mae yn ddrwg dros ben genyf weled yr eneth fechan wedi dyfod yr holl ffordd o Lanfihangel yma, i geisio am Feibl a minau heb yr un iddi gael. Mae yr holl Feiblau a gefais o Lundain i gyd ar ben er's misoedd, ond rhyw ychydig o gopiau sydd yma i gyfeillion yr wyf wedi addaw eu cadw iddynt. Beth a wnaf am Feiblau Cymraeg eto, nis gwn Dywedai Mr. Charles y geiriau hyn gyda theimlad dwys, a thrywanent glustiau a chalon yr eneth ieuanc fel cynifer o bicellau llymion, ac oherwydd ei siomiant dwfn, torodd allan i wylo dros y tŷ. Effeithiodd ei wylofain hi ac eiriolaeth yr hen bregethwr, Dafydd Edward, drosti, gymaint ar Mr. Charles, fel y methodd ei gwrthod. "Wel, fy ngeneth anwyl i" meddai wrthi, "mi welaf y rhaid i ti gael Beibl; er mor anhawdd ydyw i mi roddi un heb siomi cyfeillion eraill, mae yn anmhosibl i mi dŷ wrthod." Yna estynai Mr. Charles Feibl i Mary, ac estynai Mary iddo yntau yr arian am dano.
Wylai yr eneth fwy o lawenydd yn awr nag y gwnai o dristwch o'r blaen. Yr oedd ei dagrau yn heintus. Effeithient ar bawb oedd yn yr ystafell. Wylai Mr. Charles; wylai Dafydd Edward yn yr olwg ar ei dagrau hi. "Os ydyw yn dda genyt ti, fy ngeneth i, gael Beibl," ebe Mr. Charles, "mae yn dda iawn genyf finau ei roddi i ti. Darllena lawer arno, a dysga lawer o hono ar dŷ gôf, a bydd yn eneth dda." "Dafydd Edward" ychwanegai Mr. Charles, "onid ydyw y fath olygfa a hon yn ddigon i hollti y galon galetaf-geneth ieuanc, dlawd, ddeallus, yn gorfod cerdded fel hyn yr holl ffordd o Lanfihangel yma-dros 50 milldir rhwng cerdded yma ac yn ol; ac yn droednoeth, hefyd, a ddywedasoch chwi onide, i geisio am Feibl! Mae y Gymdeithas er lledaenu Gwybodaeth Gristionogol, a arferai argraffu Beiblau a Thestamentau Cymraeg, er dechreu y ganrif ddiweddaf, wedi gwrthod yn benderfynol argraffu dim un Beibl na Thestament ychwaneg i ysgolion Cymru. Ond mae yr eneth fechan ddeallus yma wedi effeithio mor ddwys arnaf, fel nas gallaf byth orphwys nes cael rhyw lwybr arall i gyfarfod âg angen mawr ein gwlad am Air Duw." Ymhen pedair blynedd wedi hyn, fel y mae yn wybyddus, y sefydlwyd y Feibl Gymdeithas.
Gwnaeth Mary Jones ddefnydd da o'i Beibl, a chyfranodd lawer o'i phrinder, trwy ei hoes, tuag at ledaenu Beiblau i baganiaid y byd. Treuliodd ran olaf ei hoes yn mhentref Bryncrug, gerllaw Towyn, a bu farw "mewn llawn sicrwydd gobaith," Rhagfyr 28ain, 1866, yn 82 mlwydd oed. Tua saith mlynedd yn ol, sef wedi cyhoeddi hanes ei bywyd yn llyfr bychan, penderfynwyd gwneyd rhywbeth i anrhydeddu ei choffadwriaeth, a thrwy danysgrifiadau a wnaethpwyd yn Ysgolion Sabbothol Dosbarth y Ddwy Afon, ynghyd â chynorthwy ychydig o gyfeillion eraill, cyfodwyd cofgolofn fechan ar ei bedd lle nad oedd careg wedi ei rhoddi o'r blaen-yn y fynwent berthynol i gapel y Methodistiaid yn Bryncrug, ac y mae yn gerfiedig arni, yn Gymraeg a Saesneg, grybwylliad am ei thaith gofiadwy i'r Bala yn 1800. Nid yw y golofn ond bechan, am na chyrhaeddai yr arian i roddi un fwy. Y mae llawer o gyrchu eisoes i bentref Bryncrug gan ymwelwyr o Loegr, i weled ei beddfaen. Ar ol ei marw, y mae ei Beibl hefyd wedi creu iddo ei hun hanes. Ar ei gwely angau, cyflwynodd hi ef i'w gweinidog, y Parch. Robert Griffith, Bryncrug, yr hwn a'i cyflwynodd drachefn i Mr. R. O. Rees, Dolgellau. Yntau a'i cyflwynodd i Bwyllgor Athrofa y Bala, i'w gadw yn Llyfrgell yr Athrofa. Ar ol llawer cais oddiwrth Bwyllgor y Feibl Gymdeithas yn Llundain, ildiodd Pwyllgor yr Athrofa, o'r diwedd, iddo gael ei drosglwyddo i'w gadw yn Llyfrgell y Fam Gymdeithas, er coffadwriaeth am yr amgylchiad a arweiniodd i'w sefydliad.
Olrheiniodd Mr. R. O. Rees, Dolgellau, hanes yr eneth fechan heb yr un Beibl i'w ddechreuad. Ysgrifenodd yr hanes mewn dull swynol, ac anarferol o ddyddorol; ac yn Ionawr, 1879, cyhoeddodd ef yn llyfr bychan, o dan y teitl, "Mary Jones, y Gymraes fechan heb yr un Beibl." Er pan gyhoeddwyd ef, cafodd gylchrediad cyflym ac eang, tuhwnt i bob disgwyliad. Mewn ol-ysgrifen o'r argraffiad cyntaf, dywed yr awdwr, "Eisoes y mae ceisiadau wedi eu derbyn oddiwrth swyddogion y Feibl Gymdeithas yn amryw o wledydd y Cyfandir, megis Ffrainc, Itali, Germany, a Holland, am ganiatad i gyhoeddi cyfieithiadau o'r hanes gyda'r darluniau, yn ieithoedd y gwledydd hyny." Yn y flwyddyn 1885, yr oedd wedi ei gyfieithu o'r Gymraeg i wyth o ieithoedd eraill. Mae yr hanes dyddorol wedi ei gyhoeddi hefyd mewn amrywiol ffyrdd yn Saesneg. Rai misoedd yn ol yr oedd y Sunday School Union yn rhoddi allan hysbysiad:—"Mary Jones and her Bible"-Cantata for the use of Sunday Schools. A dechreu y flwyddyn hon yr oedd hysbysiad yn dyfod o swyddfa y Feibl Gymdeithas, fod 80,000 o gopïau o'r llyfr wedi eu hargraffa gan y Gymdeithas yn yr iaith Saesneg yn unig.
Talu Dyled y Capelau yn 1839.
Crybwyllwyd droion mewn cysylltiad a'r eglwysi, am yr ymdrech a wnaethpwyd y flwyddyn uchod i dalu dyled y capelau. Teilynga yr ymdrech hono sylw ychwanegol, oherwydd fod yr egwyddor o'r naill yn cynorthwyo y llall, i'w gweled mor amlwg ynddi, ac, hefyd, am ddarfod i'r ymdrech gael ei choroni â llwyddiant perffaith. Rhoddwyd y cynllun ar waith gan ddau ŵr da, sydd yn sefyll yn uchel mewn parch hyd heddyw yn Sir Feirionydd. Yn y daflen isod, ceir cyfrif o'r arian a dderbyniwyd ac a dalwyd tuag at ddileu dyledion ar gapelau y Methodistiaid yn y dosbarth rhwng y Ddwy Afon, yn dechreu Mawrth 1af, 1839 ac a gasglwyd gan y Parch. Richard Humphreys a William Williams, Ysw., Ivy House, Dolgellau. Gwnaed y casgliad yn fanwl ymhob ardal-o lan afon Mawddach i lan afon Dyfi. Aeth y ddau ŵr a grybwyllwyd o amgylch i gasglu addewidion, y rhai oedd i'w talu yn fisol o hyny hyd ddiwedd y flwyddyn hono, Mr. Williams gymerodd y drafferth fwyaf gyda hyn. Y mae y swm a gasglwyd ymhob lle, ac enw pob un a gyfranodd ymhob lle, ynghyd â'r swm ar gyfer ei enw, wedi eu cadw yn ofalus hyd yn awr. Rhoddodd y Cyfarfod Misol ei gefnogaeth wresog i'r anturiaeth, oherwydd penderfynwyd yn y Bontddu, Mawrth 2Sain, 1839: "Fod i'r blaenoriaid gyhoeddi yn y capelau, mai ar ol y cyfarfod gweddi, bob nos Lun cyntaf o'r mis, y byddant yn derbyn yr addewidion tuag at dalu dyledion y capelau, ac hefyd yn cymeryd addewidion ychwanegol. Yn ol y cynllun yr oedd pob cynulleidfa i gyflwyno ei chasgliad i un gronfa gyffredinol, a'i dyled oll i'w thalu allan o hono; ac yr oedd pob cynulleidfa i gasglu yr un ffunud, pa un bynag a oedd mewn dyled ai peidio. Y canlyniad fu i'r anturiaeth droi allan yn gymaint o lwyddiant fel ag i glirio yn llwyr holl ddyled y cylch, gan adael swm yn weddill.
Ar ol talu y dyledion hyn, cymerodd yr ymddiddan canlynol le rhwng offeiriad A- âg Edward Williams, hen flaenor cyntaf Towyn. Nid oedd llawer o amser er pan adeiladesid Eglwys Wladol A-, ac yr oedd peth o'i dyled yn aros eto heb ei thalu. "Yr ydych chwi wedi cael colled fawr," ebe yr offeiriad, trwy farwolaeth Cadben Ellis (gŵr blaenllaw a haelionus i achos y Methodistiaid.)" Ydym," ebe Edward Williams, "ond y mae hyn yn gysur mawr i ni, yr ydym wedi talu dyledion ein holl gapelau rhwng y Ddwy Afon." "Yr ydych yn wir," ebe yr offeiriad, "yr ydym ni yn methu talu dyled un adeilad " "Rhyfedd iawn," ychwanegai Edward Williams, "a chenych chwi y mae hyrddod Nebaioth' i gyd!"
Y TEITHIAU SABBOTHOL
Yn 1836.
1. Corris, Ystradgwyn, Cwrt. 2. Pennal, Maethlon, Aberdyfi. 3. Towyn, Bryncrug. 4. Trinant, Llanegryn. Bwlch, Llwyngwril, Sion.
Yn 1886.
1. Corris, Esgairgeiliog. 2. Aberllefeni, Ratgoed. 3. Bethania, Ystradgwyn.4. Abergynolwyn, Penmeini 5. Pennal, Bryniau. 6. Aberdyfi. 7. Towyn, Maethlon. 8. Bryncrug, Abertrinant. 9. Llanegryn, Bwlch. 10, Towyn Saesneg. 11. Aberdyfi Saesneg. Y mae Llwyngwril a Sion yn perthyn yn awr i Ddosbarth Dolgellau. Yn 1836, rhif y teithiau oedd 5, a rhif y capelau,, 11. Yn 1886, mae rhif y teithiau yn 11, a rhif y capelau a'r ysgoldai yn 18—heb gyfrif Aberdyfi Saesneg, lle y cynhelir yr achos hyd yma mewn ystafell ardrethol.
Y GWEINIDOGION A'R PREGETHWYR
Yn 1836.
1. Lewis Morris, Sion. 2. Owen Williams, Bryncrug. 3. Hugh Jones, Towyn. 4. Evan Roberts, Sion. 5. William. Jones, Maethlon. 6. Evan Morris, Bryncrug. 7. Edward. Rees, Llanegryn. 8. Edward Roberts, Maethlon.
Pedwar yn unig oedd eu rhif yn 1820; Lewis Morris, William Hugh, Hugh Jones, Towyn, Owen Williams, Towyn, (Bryncrug).
Yn 1886
Gweinidogion—William Davies, Llanegryn; J. H. Symond, Towyn; Robert Owen, M.A, Pennal; Griffith Evans, Bryncrug; William Williams, Corris; John Owen, Aberllefeni;. Richard Rowlands, Llwyngwril. Pregethwyr—R. W. Jones, Abergynolwyn; R. E. Morris, B.A., Aberdyfi; John Evans, Pennal; Owen Parry—Owen, Pennal; John Owen, Abergynolwyn; William Evans, Pennal; John Vaughan, Towyn.
CYFRIFON EGLWYSIG DEUGAIN MLYNEDD
YMWELIAD A'R EGLWYSI
Yn amser y tadau, fel yn bresenol, byddai yr arferiad dda o ymweled âg eglwysi y sir, gan swyddogion o benodiad y Cyfarfod Misol, yn cymeryd lle yn awr ac yn y man. Yr ymweliad pellaf yn ol, y mae dim o hono wedi ei gadw, ydyw yr un a wnaed yn niwedd y flwyddyn 1851. Fel hyn y mae yr hyn sydd ar gael o'r ymweliad hwnw:—
Llwyngwril. Y merched braidd ar ol—ddim mor ffyddlon ag y byddai dda—defnyddir arian yr eisteddleoedd at fwyd i'r pregethwyr.
Bwlch. Golwg dlodaidd, ddigalon—yn teimlo fel pe byddai yr achos yn myned i farw—heb ddim pobl ieuainc—y gynulleidfa a'r Ysgol Sabbothol yn bur deneu— mewn trafferth efo eu capel, yn gorfod talu mawr rent am dano.
Llanegryn. Siriol a ffyddlon—Ychydig o blant yn arfer dyfod ynghyd i'r society, hyny feallai o eisiau ymgeleddu mwy arnynt—Dirwest i fyny.
Abertrinant. Heb yr un blaenor, ac eto, yn rhyw ddal ati hi.
Bryncrug. Golwg bur ffafriol ar y cyfan—yn bur ffyddlon.
Towyn. Golwg braidd yn isel—diffyg undeb crefyddol rhwng ychydig bersonau, yr hyn sydd yn lled niweidiol i grefydd yn y lle yn bur dda a deheuig efo y rhanau arianol—y capel yn bur hardd.
Maethlon. Naw ydyw eu rhifedi oll, ac wyth yn bresenol ar y pryd—yn bur siriol—yn dyfod at eu gilydd yn bur gyson —yn dweyd eu profiadau oll bob tro—yr Ysgol Sabbothol yn dda y gymydogaeth yn dyfod yn aml yn lled gryno i foddion gras.
Aberdyfi. Siriol a chysurus—rhai yn esgeuluso, ac eraill yn bur ffyddlon—y gynulleidfa yn cynyddu yn raddol—eisiau codi gallery yno.
Pennal. Y mwyaf siriol o'r cwbl—aml un yn dyfod atynt o'r newydd y gynulleidfa yn cynyddu—undeb da rhyngddynt a'u gilydd yn ffyddlon er cyd—gynal yr achos yn y lle.
Corris. Cyfrifon manwl—yn ddirwestwyr oll—yn ffyddlon gyda phob moddion o ras—yn cael arian yr eisteddleoedd ymlaen yn meddwl talu dyled y capel yn fuan—Aml un o'r newydd yn dyfod atynt.
Cwrt. Yn siriol a ffyddlon efo eu gilydd—yn defnyddio arian yr eisteddleoedd at y weinidogaeth—cwyno braidd efo'r Ysgol Sabbothol o eisiau athrawon at y rhai ieuainc.
Ystradgwyn. Llawer yn absenol, ac yn arfer felly—golwg well ar yr achos nag a fu—mwy o ysbryd gweithio mewn rhai—wedi cael clock a lampau—y gymydogaeth yn dyfod i gyd. i'r ysgol yn meddwl talu dyled eu capel yn fuan—eithr wedi gostwng yn mhrisiau yr eisteddleoedd.
PENOD. IX.
———————————
GWYL CANMLWYDDIANT YR YSGOL SABBOTHOL
IGWYDDIAD mawr y flwyddyn 1885 mewn cysylltiad â chrefydd yn Nghymru ydoedd, "Gwyl Canmlwyddiant yr Ysgol Sabbothol." Yr oedd bwriad er's rhai blynyddau ymhlith y Methodistiaid Calfinaidd, i osod arbenigrwydd neillduol ar y flwyddyn hon, trwy wneuthur coffa cyhoeddus am ddechreuad sefydliad a wnaeth ddaioni mor fawr i'r genedl, ac i anrhydeddu enw sylfaenydd y sefydliad, yr 'Anfarwol Charles o'r Bala." Bu yr amgylchiad yn foddion i greu deffroad trwy holl wersylloedd y Cyfundeb. Ac nid yn un man yr ymgymerwyd â'r symudiad gyda mwy o frwdfrydedd nag yn y rhanbarth hwn o'r wlad. Mewn cydsyniad â'r trefniadau a wnaethid yn flaenorol, ymgynullodd holl ysgolion y dosbarth i Aberdyfi, ar y diwrnod penodedig, sef dydd Mercher, Mehefin 17eg, i gadw yr wyl. Yr oedd y Gymanfa Ysgolion Flynyddol i gymeryd lle ddechreu yr un mis, ac i fod yn ei thro yn Bethania, Corris, ond barnwyd fod Aberdyfi yn lle mwy cymwys i gynal gwyl y Canmlwyddiant, a symudwyd y gymanfa i'w chynal mewn cysylltiad a'r wyl yno. Rhoddwyd dau gyfarfod cyhoeddus yn ystod y dydd at waith yr wyl, ac y Mae gwaith y ddau gyfarfod i'w weled yn gryno yn y rhaglen oedd wedi ei thynu allan ddiwedd y flwyddyn flaenorol:—
CYFARFOD Y PRYDNAWN
Llywydd. Mr. Griffith Jones, Tymawr, Towyn
1. Gorymdaith o'r holl ysgolion, i gychwyn oddiwrth y capel am ddau o'r gloch. Cynhelir y cyfarfod cyhoeddus yn yr awyr agored.
2. Tôn—"Mae Maddeuant i Chwi" (Sankey).
3. Holwyddori plant yr ysgolion yn Hanes Iesu Grist, gan y Parch. W. Williams, Corris.
4. Anerchiad gan Mr. David Rowlands, Pennal, i'r plant, a chyflwyno y Tystysgrifau.
5. "Anthem yr Ysgol Sabbothol" (Jenkins).
CYFARFOD YR HWYR.
Llywydd. Y Parch. W. Davies, Llanegryn.
1. Ton-"Aberdare."
2. Anerchiad gan y Llywydd.
3. Anerchiad gan y Parch. R. E. Morris, B.A., ar "Y Bibl Cymraeg."
4. Tôn "Ein Cadarn Dwr."
5. Anerchiad gan y Parch. W. Williams, Corris, ar "Gysylltiad Mr. Charles â'r Ysgol Sabbothol."
6. Hanes yr Ysgol Sabbothol yn y dosbarth, gan y Parch. R. Owen, M.A., Pennal.
7. Anthem-"Yr Arglwydd Ior."
8. Anerchiad gan y Parch. J. H. Symond, Towyn, ar "Gysylltiad Addysg Deuluaidd âg Addysg yr Ysgol Sul."
9. Anerchiad gan y Parch. J. Owen, Aberllefeni, ar "Ein gwaith yn y dyfodol."
10. "Haleliwia" Chorus.
Gan fod y gymanfa flynyddol a'r wyl yn cael eu cynal yr un adeg, yr oedd llawer iawn o waith i fyned trwyddo. Nos. Fawrth, Mehefin 16eg, cynhaliwyd cyfarfod cynwysedig o athrawon, cynrychiolwyr yr ysgolion, a gweinidogion y dosbarth, i fwrw golwg dros y cyfrifon, ethol swyddogion, a gwneuthur trefniadau am y flwyddyn ddyfodol. Dydd Mercher y cynhaliwyd y cyfarfod cyhoeddus cyntaf, am ddeg o'r gloch. Llywyddwyd gan Mr. H. Ll. Jones, C.M., Corris. Dechreuwyd y cyfarfod gan y Parch. G. Evans, Bryncrug. Rhanwyd yn agos i 7p. yn wobrwyon am lafur y flwyddyn, rhwng oddeutu 56 o bersonau, y rhai fu yn cystadlu mewn traethodau, adroddiadau, arholiadau, barddoniaeth a cherddoriaeth, heblaw nifer fawr o dystysgrifau a roddwyd am ddysgu allan. Ond at—dyniad mawr y diwrnod ydoedd Gwyl y Canmlwyddiant. Yr oedd yn ddiwrnod hafaidd, fel dyddiau goreu canol Mehefin. Mawr oedd disgwyliad y dref am weled digwyddiadau y dydd; y teimlad wedi cyfodi yn gyfatebol i'r parotoadau a wnaethid yn flaenorol, ac i'r sôn a gerddasai ymlaen llaw am y llawenydd oedd i lenwi calon pobl Cymru ar y fath amgylchiad dedwydd yn eu hanes. Yn foreu ar y dydd, dechreuodd yr ysgolion ddyfod i'r dref, dan ganu a chario eu banerau. Am ddau o'r gloch y prydnhawn, ymgyfarfu yr holl ysgolheigion,—oddeutu 1800 mewn nifer,—a ffurfiwyd yn orymdaith, pob ysgol yn cael ei blaenori gan ei baner ei hun: y gweinidogion a'r pregethwyr yn mlaenaf, yna yr ysgolion yn ol trefn y wyddor, a'r plant yn gyntaf ymhob ysgol. Aethpwyd ymlaen i'r cwr dwyreiniol i'r dref i ddechreu, ac yn ol ar hyd y dref i'r pen gorllewinol. Canwyd amryw donau yn ystod yr orymdaith. Rhoddai yr heol hir, trwy yr hon y teithiai yr orymdaith, ar hyd glân y môr, ynghyd â'r amrywiol droadau sydd yn y dref, fantais i gael golwg fawreddog arni, a sicr iawn ydyw nad â yr olygfa hardd y diwrnod hwnw ddim o gôf canoedd o ddeillaid yr Ysgol Sul tra byddont byw. Wedi gorymdeithio trwy y dref, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus ar y maes agored, o flaen y Corbet Arms, yn agos i orsaf y rheilffordd. Gosodwyd y gwageni oedd wedi dyfod a phlant yr ysgolion i'r wyl yn esgynlawr, ac yn lle i eistedd ynddynt, a chymerai y dorf ei lle yn gylch crwn o amgylch. Holwyddori, canu, traddodi anerchiadau pwrpasol i'r amgylchiad, a rhanu y tystysgrifau oedd gorchwyl hyfryd y cyfarfod hwn, yn ol y drefn, a chan y brodyr a nodwyd uchod. Cynhaliwyd cyfarfod yr hwyr yn y capel, yr hwn oedd wedi ei orlenwi gan wrandawyr. Yr oedd yr holl anerchiadau a draddodwyd yn y cyfarfod hwn yn rymus a gafaelgar, a'r gwrandawiad yn astud. Gosodwyd y cantorion yn y gallery, ac arweiniwyd y canu, yr hwn oedd yn dra godidog, gan Mr. H. LI. Jones, Corris. Dau beth a dynent sylw arbenig yn y cynulliad oeddynt,—hanes yr Ysgol Sabbothol yn y dosbarth am y can mlynedd a aethai heibio, a'r anerchiad grymus a draddodwyd ar "Ein gwaith yn y dyfodol." Mewn adroddiad o weithrediadau yr wyl a ymddangosodd mewn newyddiadur ar y pryd, ceir y sylw canlynol, "Gallwn ddweyd yn eofn na welsom y teimlad a'r dyddordeb mewn un cyfarfod erioed yn dyrchafu mor reolaidd, ac yn cyraedd y fath bwynt ag a wnaeth yn y cyfarfod hwn." Diameu i argraffiadau gael eu gwneyd yn y cylch hwn o'r wlad, trwy yr wyl gofiadwy hon, na ddileir mo honynt yn hir. Yr oedd yn perthyn i gylch Cyfarfod Ysgolion y dosbarth flwyddyn yr wyl 19 o ysgolion, heblaw dwy eraill nad ydynt eto wedi ymuno â'r Cyfarfod Ysgolion, sef ysgol Saesneg Towyn ac ysgol Saesneg Aberdyfi. Nifer yr ysgolheigion, 2292; cyfartaledd y presenoldeb, 1463; cyfartaledd presenoldeb y cant, 65—4; arolygwyr, 24; athrawon, 231; athrawesau, 73. Dysgwyd allan o adnodau, 380,854; cyfartaledd i bob aelod, 170—1; Hyfforddwr, 1158; Rhodd Mam a'r Holiedydd Bach, 1490; Deg Gorchymyn, 1057; penillion, 11,579.
Terfynwn trwy y geiriau y terfynwyd yr adroddiad o hanes yr Ysgol Sul yn Aberdyfi noson yr wyl,—"Y mae llawer o rwystrau i ddyfod ar ffordd yr Ysgol Sul eto, ond nid yw y rhwystrau ddaw
Un gronyn uwch, un gronyn mwy
Na hwy a gwrddaist draw.'
Fe ddaw yn Nghymru anffyddwyr i ddweyd yn ei herbyn, ond mae yr Hwn sydd wedi ei llwyddo hyd yma yn abl i'w llwyddo yn y dyfodol. Fe gyfyd llawer cwmwl du yn y can' mlynedd sydd yn dyfod, ond mae yr Hwn sydd yn marchog ar nef y nefoedd yn ddigon galluog i chwalu pob cwmwl. Yr hyn yr ymgysurai Israel ynddo mewn cyfyngderau fyddai, cofio yr hyn oedd Duw wedi ei wneuthur i'w tadau—ystyried 'y dyddiau gynt, blynyddoedd yr hen oesoedd.' Yn ngwyneb eu hanawsderau, dyna fyddent hwy yn ei ddweyd, 'Y mae Arglwydd y lluoedd gyda ni; ymddiffynfa i ni yw Duw Jacob.' Mae yr Arglwydd wedi gwneuthur gweithredoedd nerthol trwy yr Ysgol Sabbothol yn ein gwlad. Y mae wedi bod gyda'r hen bobl yn Nghymru mor wirioneddol âg yr oedd gydag Israel yn myned trwy y Môr Coch, ac yn meddianu gwlad Canaan. Gadewch i ninau lynu wrth Arglwydd Dduw ein tadau, a dadleu ei addewidion grasol Ef i'w bobl."
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
RHAN II
—————————————
DOSBARTH DOLGELLAU
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
PENOD I.
——————
Y DOSBARTH A'I DREFNIADAU.
MAE yn lled anhawdd gwybod pa bryd y dechreuwyd cynal y Cyfarfodydd Dosbarth. Yr hyn a fwriedir yma ydyw, gwneuthur ychydig sylwadau yn unig am yr hyn sydd yn wybyddus o berthynas iddynt, fel rhagarweiniad i hanes yr eglwysi sydd yn dilyn. Amlwg ydyw fod y cynllun o drefnu y sir yn ddosbarthiadau wedi ei fabwysiadu er's amser pell yn ol. Yn 1840 y rhanwyd Sir Feirionydd yn ddau Gyfarfod Miso!; ond yr oedd Gorllewin Meirionydd wedi ei ranu yn bedwar dosbarth ryw gymaint yn fwy nag ugain mlynedd yn flaenorol i hyny. Y tebyg ydyw mai mewn cysylltiad â'r Cyfarfodydd Ysgolion y gwnaed y dosbarthiad i ddechreu, ac yr oedd y rhai hyn wedi eu sefydlu yn y pen hwn o'r sir, fel y gwelwyd, yn rhywle oddeutu 1816, neu beth yn gynt. Yr hanes cyntaf am y pedwar dosbarth, fel y cyfryw, ydyw yn 1820, pan oedd trefniad y Cyfarfodydd Ysgolion yn cael ei adolygu yn Nghymdeithasfa Dolgellau y flwyddyn hono. Cymerwyd mantais ar y rhaniad a wnaethid ar yr ysgolion er mwyn cyfleusdra i gynal Cyfarfodydd Ysgolion bob chwech wythnos neu ddeufis, i fod yn rhaniad ar yr eglwysi i ddibenion cyffelyb, sef i swyddogion eglwysig ymgyfarfod yn awr a phryd arall i ymgynghori o berthynas i'w hachosion hwythau. Er, hwyrach, y byddai swyddogion ychydig o eglwysi agosaf at eu gilydd yn ymgyfarfod yn flaenorol i hyn. Y mae pedwar dosbarth y rhan yma o'r sir yn aros yn awr fel yr oeddynt driugain a deg o flynyddau yn ol, oddieithr rhyw ychydig iawn o gyfnewidiadau a wnaethpwyd o dro i dro. Y mae yn ddealledig nad yw yn rheolaidd i eglwys ymadael oddiwrth un dosbarth ac ymuno â dosbarth arall, heb gydsyniad a chaniatad y Cyfarfod Misol.
Cafodd y Cyfarfodydd Dosbarth eu bodolaeth o angenrheidrwydd, megis ag y dywedir mai angen yw mam pob dyfais. Y crybwyllion cyntaf ar gael am danynt ydyw, yr hyn a welir yn ysgrifau Lewis Williams, Llanfachreth, a John Jones, Penypare. Hwy eu dau oedd y cynllunwyr a'r trefnwyr yn y rhanau hyn o'r sir. Yr enwau ar y cyfarfodydd dosbarth yn eu hysgrifau hwy ydynt, "Cyfarfod o swyddogion eglwysi y Cylch," neu, "Gyfarfod y brodyr yn ardaloedd Towyn a Dolgellau." Ceir cofrestr o'r cyfryw gyfarfodydd ymysg papyrau L. Williams. Dywed efe, Y cyfarfod cyntaf yn yr amser presenol a gynhaliwyd yn Nolgellau, Gorphenaf 29ain, 1814. Nid oedd hwn yn gyfarfod dosbarth rheolaidd, oblegid prin y gellir meddwl fod y dosbarthiadau eto wedi eu ffurfio. Nid oedd yn holl Ddosbarth Dolgellau, ychwaith, y pryd hwn, fwy na phump o eglwysi, os oedd eu nifer gymaint a hyny. Eto, yr oedd hwn yn gyfarfod cynwysedig o henuriaid eglwysi y cylch. Darllenwyd ar ei ddechreu rhan olaf o'r 20fed benod o lyfr yr Actau, lle y ceir fod Paul yn galw benuriaid yr eglwys ynghyd, i'w cynghori a'u cyfarwyddo. Ystyrid gan y brodyr yn Nolgellau, y diwrnod crybwylledig, fod y cyfarfod hwnw yn gynllun o "gyfarfod brodyr neu henuriaid." Ymgynghorwyd ynghylch y pethau a ddygid gerbron yn y cyfarfod hwn, a'r cyfarfodydd cyffelyb oeddynt i'w ddilyn, a phenderfynwyd ar y materion canlynol: 1. Bwrw golwg ar y cyhoeddiadau. 2. Fod materion y Cyfarfodydd Misol i gael sylw yn y cyfarfodydd hyn. 3. Fod pawb i roddi hanes y cymdeithasau neillduol y perthynant iddynt, fel blaenoriaid neu henuriaid, er cael gwybod pa un ai isel ai llwyddianus fyddo yr achos yn y gwahanol ardaloedd. 4. Fod achosion dyrus o ddisgyblaeth i'w dwyn i'r cyfarfodydd hyn, ac os na ellid eu penderfynu yma, fod iddynt gael eu cyflwyno i'r Cyfarfodydd Misol. 5. Fod caniatad i'r blaenoriaid ddweyd eu profiadau. 6. Bwrw golwg pwy all fyned i'r Cyfarfod Chwarterol ynghyd â'r Cyfarfod Misol nesaf. 7. Fod rhyw fater yn cael ei roddi i'w ystyried erbyn y cyfarfod dilynol." Dyna y materion y rhoddwyd sylw iddynt ac y trefnwyd yn eu cylch yn nghyfarfod yr henuriaid yn Nolgellau, y diwrnod crybwylledig, yn y flwyddyn 1814, a'r hwn a elwir ganddynt hwy y cyfarfod cyntaf. Cynhaliwyd yr ail gyfarfod yn y Bontddu, ac mae yn debyg mai yn ol cynllun y cyntaf y cynhelid yr holl gyfarfodydd y blynyddoedd hyny. Ymysg ysgrifau a llythyrau John Jones, Penyparc, ceir crybwyllion am gyfarfodydd cyffelyb yn cael eu cynal yn ardaloedd Towyn, yn ystod deugain mlynedd cyntaf y ganrif bresenol.
Heblaw y pethau a grybwyllwyd, anhawdd ydyw cael dim o hanes y cyfarfodydd hyn yn amser y tadau. Yr oll y gellir bod yn sicr yn eu cylch ydyw, eu bod yn cael eu cynal mewn rhyw wedd neu gilydd er's cryn lawer o amser. Wrth holi y bobl hynaf, y rhai sydd wedi bod yn swyddogion yn eglwysi y sir er's haner can mlynedd, yr hyn a ddywedant ydyw, fod y cyfarfodydd dosbarth yn cael eu cynal cyn iddynt hwy gofio. Pa beth ydyw eu hanes mewn siroedd eraill, nid ydym mor sicr. Hyn sydd yn lled amlwg, fod cryn wahaniaeth mewn gwahanol siroedd, yn y rhif o gyfarfodydd dosbarth a gynhelir mewn blwyddyn, ac yn y dull o'u cynal.
Y mae amser wedi dwyn cyfnewidiadau ymlaen yn hyn fel pob peth arall. Beth bynag am ansawdd grefyddol yr hen gyfarfodydd, gwneir llawer mwy o waith, yn enwedig gwaith allanol yr eglwysi, yn y dyddiau presenol, nag a wneid ynddynt yn nyddiau y tadau. Beth bynag hefyd oedd zel a gweithgarwch Methodistiaid cyntaf y sir, llithrasant hwy ymhen blynyddoedd i fesur o oerfelgarwch. Haner can mlynedd yn ol, a chryn lawer yn ddiweddarach na hyny, nid ymddengys y cynhelid dim ond un cyfarfod dosbarth yn flwyddyn, a hwnw yn agos i'w diwedd. Anfynych yn ystod y tymor hwn y gwelir cyfeiriadau atynt yn nghofnodion y Cyfarfodydd Misol. O leiaf, ni cheir crybwyllion am danynt yn agos mor fynych ag mewn blynyddoedd diweddar. Yr oedd dau fater, dybygid, yn cael sylw ynddynt yn amser y tadau, y parheir i'w cymeryd yn faterion yn ein dyddiau ni, sef,—Ystyried pwy o'r brodyr yn y weinidogaeth a elwid i gael eu hordeinio, a bwrw golwg dros yr achos yn eglwysi y cylch. Ond yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf gwneir mwy o waith ynddynt na hyn, a chynhelir hwy, fel rheol, yn llawer amlach nag unwaith yn y flwyddyn. Golyga hyn fod y gwaith yn y Cyfarfodydd Misol y blynyddoedd diweddaf wedi dyfod yn llawer trymach nag yr arferai a bod, ac oblegid hyny, trosglwyddir rhan o'r gwaith i'w wneuthur yn y Cyfarfodydd Dosbarth, er, ar yr un pryd, nad oes dim yn meddu awdurdod safadwy heb ei ddwyn i'r Cyfarfod Misol, a'i gadarnhau yno. Y tebyg ydyw y gwneir mwy o waith eto yn y Cyfarfod Dosbarth fel y cerdda blynyddoedd ymlaen.
Wedi gwneuthur y sylw byr hwn am yr hyn sydd yn wybyddus o berthynas i'r dosbarth, gellir hysbysu fod y cynllun o ysgrifenu hanes yr eglwysi yn ddosbarthiadau wedi ei fabwysiadu, am y tybid y byddai yr hanes felly yn fwy dealladwy, yn hytrach na chymeryd yr eglwysi, un yma ac un acw.
PENOD II
——————
HANES YR EGLWYSI
CYNWYSIAD.—Salem—Bontddu—Llanfachreth—Sion—Llanelltyd —Rhiwspardyn—Rehoboth—Abergeirw—Hermon—Carmel—Silo —Saron—Bethel—Eglwys Saesneg Dolgellau.
SALEM, DOLGELLAU.
CYNWYSIAD.—Hanes boreuol—Yr Ysgol Ddyddiol a L. W.— Yr Ysgol Sabbothol—Y Cymanfaoedd—Yr Eglwys yn Nghapel Salem—Y Blaenoriaid—Y Pregethwyr.
AE Dolgellau wedi llenwi lle mawr yn hanes crefydd, ymhlith Methodistiaid Gorllewin Meirionydd o'r dechreuad, ac ar y cyfrif hwn, y mae yn perthyn i'r eglwys hon restr helaethach o ddigwyddiadau i'w cofnodi na'r un eglwys arall yn y rhan yma o'r sir. Yn rhagluniaethol, hefyd, y mae mwy o'i hanes hi, yn yr amser boreuol, ar gof a chadw nag sydd i'w gael am yr eglwysi eraill. Y dref hon ydoedd canolbwynt yr achos a berthynai i Gyfarfod Misol. rhan Orllewinol y Sir, a chan fod ynddi nifer o ddynion deallus a blaenllaw yn byw trwy yr holl flynyddau, cadwyd yma rai pethau dyddorol mewn cysylltiad â chrefydd y wlad mewn côf-lyfrau. Ond y wybodaeth sicr am y modd yr oedd pethau yn y dechreuad ydyw, yr hyn a ysgrifenodd Mr. Charles yn y Drysorfa Ysbrydol, tua diwedd y ganrif ddiweddaf, fel ffrwyth yr ymddiddan a fu rhyngddo ef a'r Hybarch John Evans, o'r Bala. Buwyd yn dra ffyddlon hefyd i anfon hanes helaeth oddiyma i'r Parchedig John Hughes, pan ydoedd yn ysgrifenu "Methodistiaeth Cymru," oddeutu 1850. Fel hyn y dywed John Evans, o'r Bala, wrth Mr. Charles:—
"Gallaf roddi i chwi beth hanes am hyny," sef am gychwyniad crefydd yn rhai o ardaloedd y wlad. "Dechreuad crefydd yn Nolgellau a'i chylchoedd, oedd trwy ddyfodiad gwraig grefyddol yno, yn nghylch A.D. 1766, i gadw ysgol. Ei henw oedd Jane Griffith; ganed a magwyd hi yn yr Erw Bach, yn Nolbenmaen, yn Swydd Gaernarfon. Byddai y wraig hon yn ymddiddan yn aml â'r sawl a wrandawent arni, am ddrwg pechod, a chyflwr truenus dyn trwy y cwymp. Ymwasgodd ychydig o dlodion, trwy hyn, i ymgyfeillachu â hi. Cyn pen hir ymadawodd y wraig oddi yno; ond ei chyfeillion ni fedrent fod yn llonydd yn hwy heb air y bywyd; ymofynasant am rai i bregethu iddynt, ac yn fuan daeth llefarwyr o Swydd Gaernarfon, ac o'r Bala, i weinidogaethu iddynt; ond yr oedd mawr berygl iddynt am eu heinioes; oherwydd yr oedd y wlad a'r dref wedi cyffroi yn anferth i wrthwynebu y ffordd newydd o gynghori dynion mewn tai cyffredin a'r prif-ffyrdd, yn lle yr holl chwareuon a'r oferedd arferedig yn y wlad ymhob man yn eu dyddiau. Y brodyr yn Bala a gymerasant dan amod weithred (lease) dros flynyddoedd, dŷ a elwir Pant-y-Cra, ynghylch milldir o dref Dolgellau, i bregethu ynddo. Ar ddydd Sabbath, yr oedd un Mr. T. Foulkes, o'r Bala, wedi addaw dyfod yno i gynghori; taenodd y swn am hyn a'r led; pan ddaeth yr amser, tyrodd pobl y wlad a'r dref yno, yn bygwth os doi efe yno, y dienyddient ef, ac y claddent ef mewn pwll mawnog gerllaw. Pan glywodd rhai o'r cyfeillion am fwriad gwaedlyd y dorf fileinig, aethant i gyfarfod y gŵr ac a'u hataliasant rhag dyfod yno. Pan, trwy hyny, y siomwyd yr erlidwyr, rhuthrasant ar y tŷ, a thynasant ddarn o hono i lawr; ond wedi hyny, yn ofni cael drwg, mewn amser hwy a'u hadgweiriasant drachefn. Daeth cynghori iddo eilwaith, ac o fesur ychydig ac ychydig, anturiwyd pregethu yn y dref. Un diwrnod, yr oedd tri gwr o'r deheudir yn pregethu yno; cynhyrfodd yr holl dref yn unfryd i erlid, cadwasant y ddwy bont yn nau ben i'r dref, fel na chaent fyned allan o honi heb eu baeddu, os nid eu lladd ganddynt. Y cyfeillion a gymerasant y ceffylau, ac a aethant ymlaen, y lleill o'r brodyr a ddygasant y pregethwyr ar eu traed trwy yr afon uwchlaw y bont, ac felly y diangasant y tro hwnw yn ddiogel, oddieithr un o'r cyfeillion,. yr hwn a gafodd ddyrnod â chareg ar ei ben, nes y syrthiodd i lawr, ac ar hyny ffodd yr erlidwyr, gan dybied eu bod wedi ei ladd. Tro arall, daeth un o ganlynwyr Howel Harris o Drefecca yno, ac a ryfygodd bregethu ar gyhoedd y farchnad; ond. bu dda ganddo gipio ei geffyl a ffoi gyda phrysurdeb. Cododd. yr holl erlidwyr ar ei ol, a mynent, gan gymaint eu llid a'u. cynddaredd, ei ddryllio yn dipiau-daeth un gŵr a thryfer yn. ei law ar fedr ei redeg ef â hono; yr oedd llidiart o'i flaen, a daeth gwraig y gŵr a'r dryfer yn ei law ac hagorodd iddo, ac felly, trwy ddiogelwch yr Arglwydd arno, y diangodd y tro. hwnw a'i fywyd yn ysglyfaeth ganddo."—Y Drysorfa Ysbrydol.
Dyma y dechreuad. Amser maith cyn y dechreuad hwn, bu Vavasor Powell, ymhlith manau eraill, yn pregethu yn Nolgellau. Ac ar ei ol ef Hugh Owen, Bronelydwr, o fendigedig goffadwriaeth, a'i olynydd Mr. Kenrick, a fuont yn efengylu yn y dref, ac am dymor yn cynal moddion yn rheolaidd mewn tŷ a adnabyddir hyd heddyw wrth yr enw, "Ty Cyfarfod." Ond pa faint bynag o ddaioni a wnaeth yr efengylwyr daionus hyn yn y dref, ymddengys fod amrywiol ddigwyddiadau wedi cymeryd lle yn nghylchdroadau Rhagluniaeth i beri fod yr amser y daeth y wraig Jane Griffith yma i gadw ysgol, yn fwy manteisiol i ddwyn pethau mawrion o amgylch mewn cysylltiad â theyrnas yr efengyl. Yr oedd yr efengyl wedi dechreu llwyddo mewn manau o amgylch, megis yn y Bala a Sir Gaernarfon. O ymyl Brynengan, ardal a fu yn enwog am ei chrefydd yn moreuddydd Methodistiaeth, y daethai y wraig hon, yr hyn yn bur sicr a rydd gyfrif am yr ysbryd crefyddol rhagorol oedd ynddi. Y mae un hanesyn hynod yn cael ei adrodd am dani mewn cysylltiad a'i hymadawiad o Ddolgellau. Gorfodaeth roddwyd arni i ymadael, oblegid ei chrefydd. Aeth y si allan ei bod yn cynal cyfarfodydd i gynghori a rhybuddio y trigolion am eu cyflwr, ac un tro cynlluniai haid o erlidwyr i ymosod ar y tŷ lle y cyfarfyddai, gan fygwth ei lladd. Yn gwybod am eu bwriad, cipiwyd hi ymaith gan un o'r enw Miss Edwards, ac a'i cuddiodd mewn cist flawd. Rhuthrodd yr ymosodwyr yn ffyrnig i'r tŷ, a chwiliasant am dani ymhob man ond yn y gist flawd. Wedi iddynt ymadael o'r tŷ, cymerodd Miss Edwards (yr hon, gyda llaw, oedd yn gyfnither i Mr. John Griffith, Abermaw) hi o dan ei nodded, ac anfonodd hi ymaith ran o'r ffordd rhyngddi â'r Bala.
Y mae yn lled sicr i'r ddau udgorn mawr cyntaf—Howel Harris a Daniel Rowlands—fod yn pregethu yn Nolgellau, er nad yw yr hanes am eu hymweliad ond hynod brin. Tybir mai tua'r flwyddyn 1760 yr ymwelodd y cyntaf o'r ddau â'r dref, ac fel hyn y rhed yr hanes:—"Fe fu Howel Harris yn y dref hon yn pregethu. Yr oedd ganddo am dano hugan fawr lâs, wedi ei botymu hyd y gwddf. Pan ddechreuodd bregethu, dechreuodd y bobl derfysgu yn arswydus, ac ymosod arno trwy ei luchio, a llefain, a rhwystro clywed ei lais gan y bobl. Galwai arnynt yn uchel a gwrol yn enw y Goruchaf i fod yn llonydd, ond ni wrandawent. Yna efe a ymddiosgai o'r hugan lâs, gan ddangos ei wisg filwraidd, a gorchymyn distawrwydd yn awdurdodol yn enw brenin Lloegr. Ar hyn, dychrynodd yr erlidwyr, a chiliasant o'r ffordd Yr oedd hyn yn ystod y tair blynedd y bu Howel Harris yn gwasanaethu fel milwr o dan y Llywodraeth, pan y bu rhyfel poeth yn erbyn y deyrnas hon. Dyna rydd gyfrif am y wisg filwraidd oedd am dano. Yr unig grybwylliad am Daniel Rowlands ydyw, iddo fod rai troion yn pregethu yn y dref, ac y byddai yn arfer lletya yn nhŷ un o'r enw Ann Evans. Adroddai y wraig hon wrth ei phlant a'i hwyrion, y byddai Evan Evans, ei thad hi, yn myned yn gwmni iddo yn ei deithiau i Sir Gaernarfon.
Yn ol pob hanes a geir o bob cyfeiriad, bu crefyddwyr cyntaf Dolgellau o dan erledigaethau trymion am faith flynyddau. Nid yn unig yr oedd yr erledigaeth yn boethach, ond parhaodd yn hwy yma nag odid fan. Deuai pregethwyr heibio ar eu tro o'r Deheudir, o Sir Gaernarfon, ac o'r Bala, a chaent yn fynych ddihangfa gyfyng am eu heinioes. "Rhy faith," ebe Robert Jones, Rhoslan, yn Nrych yr Amseroedd, "pe gellid cofio, fyddai adrodd am lawer o'r helyntion a'r erledigaethau a ddioddefodd llawer yno (yn Nolgellau) o hen bererinion cywir; pa rai, gan mwyaf, sydd yn awr (1820) yn gorphwys yn dawel oddiwrth eu llafur. Gorfu iddynt tros rai blynyddoedd fyned yn ddistaw iawn i'r dref yn y nos, a chadw yr odfeuon cyn dydd, a myned ymaith ar doriad y wawr, cyn i'r llewod godi o'u gorweddfaoedd. Byddai un yn aros i fyny trwy y nos, i fyned o amgylch i alw pawb oedd yn caru gwrando, i ddyfod ynghyd at yr amser. Llwyddodd Duw ei waith yn rhyfedd yno, yn ngwyneb pob stormydd." Ni feiddiai y pregethwyr ddyfod i'r dref rai prydiau, ac ni feiddiai hyny o grefyddwyr oedd yno eu derbyn rhag ofn yr erlidwyr. Cynhalient y moddion mewn tai, neu mewn cilfachau y tu allan i'r dref, am y caent fwy o lonyddwch mewn lle felly. Cynhelid moddion crefyddol yn yr Esgeiriau, tyddyn bychan tua chwarter milldir o'r dref, uwchben ceunant a elwir Ceunant Stuckley. Yr oedd y teulu a breswylient yma yn grefyddwyr, a rhoddent eu tŷ yn agored i bregethu ynddo. Un tro, pan oedd y Parch. Peter Williams i bregethu yn y tŷ hwn, rhuthrodd yr erlidwyr i'r tŷ, diffoddasant y canwyllau, torasant y dodrefn, a bwriasant hwy i lawr y ceunant, a gorfu i'r crefyddwyr foi am eu bywyd. "Boreu dranoeth, caed y dodrefn drylliedig, a'r llestri llaeth, yn ngwaelod y ceunant." "Un o'r crefyddwyr cyntaf oedd Robert Sion Oliver. Y mae rhai yn fyw yn bresenol (1850) yn cofio ei farw. Byddai hwn ac amryw eraill yn arfer myned fin' nos i'r ceunant hwn i gynal cyfarfodydd gweddio. Yr oedd torlan fawr yn crogi uwchben rhan o'r ceunant, ac odditan y dorlan hon yr ymgyfarfyddent; yr oedd yn lle distaw a chuddiedig. Trwy ryw foddion neu gilydd, daeth yr ymguddfa hon, a'r gwaith a gyflawnid ynddi, yn wybyddus i'r erlidwyr; ac ar ryw dro, pan yr oeddynt wedi ymgyfarfod, aeth y gelynion ar eu hol, a chan sefyll ar y llechwedd uwchben y ceunant, bwrient gerig mawrion gyda rhuthr arswydus, ar antur i'r ceunant, heb ddisgwyl amgen na archollid y gweddiwyr yn drwm, os na leddid rhai o honynt. Ond yr oedd y dorlan y llechent odditani yn eu cuddio, a'r cerig yn chwyrnellu heibio dros eu penau i'r nant. Wedi rhyw enyd o fwrw y meini, daeth rhai o'r erlidwyr i lawr i chwilio am danynt, ac i ym- ofyn eu helynt, a hyny ar y pryd yr oedd Robert Sion Oliver yn gweddio; a phan y clywsant ef yn y tywyllwch yn gweddio syrthiodd arnynt fraw aruthrol, a ffoisant ar frwst mawr, gan waeddi, Y Mawredd mawr, y mae y dyn yn medru darllen gweddïau heb yr un ganwyll."—Methodisliaeth Cymru, I. 507.
Crybwyllwyd amryw weithiau, yn hanes eglwysi rhwng y Ddwy Afon, am Maes-yr-Afallen, fel lle y bu crefyddwyr o wahanol ranau y wlad, un adeg, yn cyrchu iddo. Cofrestrodd y Parch. Benjamin Evans, gweinidog gyda'r Annibynwyr yn Llanuwchllyn, fel y sylwyd, ran o'r tŷ hwn i bregethu ynddo, a deuai yno ei hun yn achlysurol i weinidogaethu, dros saith mlynedd o amser, o 1770 i 1777. Yr oedd y manteision i addoli yn y lle hwn yn ddeublyg—ceid amddiffyn cyfraith y wlad dros y tŷ, ac yr oedd y lle yn neillduedig, ac allan o gyraedd yr erlidwyr. Y mae yr amser hefyd y bu pregethu o dan amddiffyniad y gyfraith yn y tŷ hwn, yn cyfateb yn hollol i'r adeg yr oedd y rhwystrau gryfaf yn erbyn y Methodistiaid. Naturiol ydoedd casglu fod y crefyddwyr yn Nolgellau wedi gwneuthur defnydd da o'r cyfle hwn i fyned i Maes-yr-Afallen i addoli, ac fe ddywedir y byddai y gwyr yn myned yno i'r moddion—pellder o chwe milldir—ar ol cadw noswyl, a'r gwragedd ar ol rhoddi y plant i orphwys.
Wele rai o'r lliaws engreifftiau o anhawsderau a gyfarfyddodd crefyddwyr Dolgellau, a'r triniaethau chwerwon a gawsant yn ystod y 30 mlynedd cyntaf o ddechreuad yr achos yn y dref. Ac fe gofir na roddwyd cychwyniad o bwys i'r achos cyn 1766.
"Cof genyf," ebe Mr. Charles, "fy mod yn yr ardaloedd hyny yn pregethu allan unwaith, ac wedi dechreu pregethu, canfyddwn ryw nifer o'r teulu erledigaethus hyn yn nesu ataf, a thyweirch neu gerig yn eu dwylaw, ar fedr eu tawlu ataf; pan ganfyddodd un o'r dyrfa hyn, gŵr tal, corffol, neidiodd i fyny, a safodd rhyngof â'r perygl, a pharodd i mi draethu yr hyn oedd genyf i'w draethu i'r bobl yn ddibryder." Digwyddodd hyn yn lled ddiweddar, sef yn rhywle yn tynu at ddiwedd y ganrif ddiweddaf, o leiaf wedi i Mr. Charles ddyfod i fyw i'r Bala.
Yr hanes am Catherine Owen yn sefyll yn y ffenestr, rhwng y pregethwyr â'r erlidwyr, ydyw un o'r digwyddiadau mwyaf hynod o holl orchestion crefyddwyr y dref. Haedda yr hanes hwn gael ei groniclo drosodd a throsodd drachefn, a'i' drosglwyddo i'r oesau a ddaw, fel esiampl o wroldeb a gwrhydri un o ganlynwyr ffyddlon yr Iesu yn Sir Feirionydd. "Fel hyn y bu am y tro hwnw," ebe Robert Jones, Rhoslan. "Yr oedd y cyfeillion yn Nolgellau wedi cael eu herlid yn echryslon y nos Sul o'r blaen, ac un wedi cael ei daro â chareg, fel y bu yn hir mewn llewyg; er nad oedd yno y tro hwnw neb yn pregethu. Y nos Sabbath canlynol, daeth yno ddau i bregethu; a chwi ellwch feddwl na allai natur lai nag ofni. Pa fodd bynag, wedi ymgasglu o'r gwrandawyr i'r tŷ, eisteddodd y wraig, sef Catherine Owen, yn y ffenestr oedd ar gyfer y pregethwyr, gan ddywedyd yn siriol iawn, 'Ni chant eich taro oni tharawant chwi trwyddof fi'. Bu hyn yn rym i feddwl y pregethwyr, wrth ei gweled mor ddisigl yn ei hymddiried yn yr Arglwydd. Cafwyd llonyddweh y tro hwn heb ei ddisgwyl." Y mae rhai o deulu y wraig hon a'u hysgwyddau o dan yr achos yn Nolgellau hyd heddyw; ac nid y lleiaf o'u breintiau ydyw gallu dweyd eu bod yn dal perthynas âg un a safodd mor ddewr dros y gwirionedd. "Yr oedd gradd o ysbryd yr hen ferthyron," ebe John Evans, o'r Bala, "yn cael ei roddi i'r crefyddwyr hyn ar achlysuron i sefyll dros yr efengyl, yn ngwyneb y peryglon mwyaf."
Dywed Mr. Hughes yn Methodistiaeth Cymru, mai y bregeth gyntaf a bregethwyd wrth oleuni dydd yn Nolgellau oedd, gan Mr. Griffiths, gweinidog gyda'r Annibynwyr, o Gaernarfon. Ond nid yw yn rhoddi y dyddiad. Daeth cyfreithiwr o Gaerlleon i'r dref, yr hwn a glywsai am yr erlid mawr oedd wedi bod ar y crefyddwyr, a theimlai yn eiddigeddus dros iddynt glywed yr efengyl yn ol argyhoeddiad eu cydwybod. Wedi deall am y creulonderau a'r ffyrnigrwydd a ddangoswyd tuag atynt, penderfynodd roddi prawf ar y cyfryw greulonderau, er boddlonrwydd iddo ei hun, cyn iddo ymadael o'r dref. Y ffordd a gymerodd ydoedd, ymholi a oedd pregethwr yn y lle a roddai gais ar bregethu. Cafwyd fod y gŵr a enwyd, sef Mr. Griffiths, o Gaernarfon, yn y dref, ac yn foddlawn i bregethu. Y gorchwyl nesaf oedd chwilio am dŷ iddo bregethu ynddo, oblegid ofnai pawb wneuthur hyn yn ngoleu dydd. Hyn hefyd a gafwyd, trwy i un John Lewis agor drws ei dy i'r amcan, ac addefai yntau fod math o gryndod wedi ei feddianu o'r fynyd yr addawodd roddi ei dy hyd nes y dechreuwyd yr odfa. Rhodiai y cyfreithiwr o amgylch y drws, gan gymell y bobl i fyned i mewn, a rhoddai ei was hefyd ar wyliadwriaeth i edrych pwy fyddai yn aflonyddu. Ond ni ddaeth neb i aflonyddu y tro hwn, oherwydd eu bod yn ofni gŵr y gyfraith, mae'n debyg; a dywedir y bu pregethu yn nhy John Lewis lawer gwaith wedi y tro hwn. Dyna fel yr adroddir am y bregeth gyntaf a bregethwyd yn y dref yn ngoleuni dydd. Nis gwyddom pa fodd i gysoni hyn â'r ffaith ddarfod i Howel Harries a Daniel Rowlands fod yn pregethu yn y dref, os na chymerodd y digwyddiad hwn le cyn eu hymweliad hwy. Ond mwy tebyg ydyw fod yr erledigaeth wedi dyfod yn fwy ffyrnig ar ol ymweliad Harris a Rowlands, ac na feiddiai neb bregethu yn y dref liw dydd yn y tymor hwn, a bod y bregeth a bregethwyd gan Mr. Griffiths, o Gaernarfon, yn cyfeirio at ryw adeg tua diwedd y tymor ffyrnig crybwylledig.
Bu pregethu, fel y crybwyllwyd, yn nhŷ John Lewis am ysbaid o amser. Yr oedd y gŵr hwn yn berchen ar nerth meddwl a nerth braich, yn gystal a'i fod yn meddu ar grefydd, fel y dengys yr hanesyn canlynol. Yr oedd dau o fechgyn hyfion, meibion i fasnachwr dylanwadol yn y dref, yn sarhau a phoenydio y crefyddwyr a gyfarfyddai yn ei dŷ. Un tro, wedi deall fod y ddau o gwmpas y tŷ yn aflonyddu, aeth allan, a rhoddodd wasga erwin iddynt. Achwynasant hwythau wrth eu tad am y drinfa hon, ac ebe y tad dranoeth wrth John Lewis, "Pa fodd y meiddiwch chwi faeddu fy mhlant i?" "Cedwch chwithau eich plant gartref," ebe John Lewis. "Paham yr wyt ti yn cynwys hereticiaid yn dy dŷ ynte," ebe y masnachwr. "Nid hereticiaid monynt," ebe John Lewis. Aeth yn gryn daeru rhwng y ddau, a heriodd y masnachwr John Lewis i ymladd ag ef. Derbyniwyd yr her, a chytunasant i gyfarfod yn y fan a'r fan, yr adeg a'r adeg, i ymladd. Ond ni fentrodd y gŵr mawr ymlaen i ymladd, a dyma fu diwedd trahausder y bechgyn hyfion hyn: cafodd y crefyddwyr lonydd oddiwrthynt hwy boed o fyno.
Lle arall y buwyd yn pregethu llawer ynddo yn y dref ydoedd tŷ David Owen, y gwydrwr. Mae y tŷ hwn, a'r rhai a breswylient ynddo wedi eu hanfarwoli yn nheimlad pobl Dolgellau. Catherine Owen, gwraig y tŷ, megis yr eglurwyd, oedd yr hon a safodd yn y ffenestr, rhwng yr erlidwyr â'r rhai a draethent air yr Arglwydd. Nid oedd David Owen ei hun, pa fodd bynag, yn proffesu crefydd y pryd hwn, ond sicr ydyw ei fod yn teimlo ymlyniad cryf wrth grefydd, hyd yn nod yr adeg hon, onide ni fuasai yn agor ei dŷ i'r crefyddwyr yn ngwyneb y fath anhawsderau a pheryglon. Engraifft o'r perygl y gosodai ei hun a'i dŷ ynddo, ydyw yr hyn a ddywed hen ŵr oedd yn fyw yn 1850, sef iddo fod, pan yn blentyn, mewn odfa yn y tŷ, "a bod yr erlidwyr y pryd hwnw wedi myned i'r fynwent, yr hon oedd gyferbyn â'r tŷ, a lluchient gerig mawrion ar do y ty, y rhai oedd yn tyrfu fel taranau uwchben y pregethwr a'r gynulleidfa, nes y bu raid rhoddi heibio bregethu." Adroddir am dro arall penderfynol iawn o eiddo y gŵr hwn. Tra yr oedd cyfarfod eglwysig yn cael ei gynal yn y parlwr, ac yntau wrtho ei hun yn y gegin, ymosodai y dyhirod yn ffyrnig ar y tŷ, gan luchio cerig ar y to, a llaid at y ffenestri, nes peryglu diogelwch y rhai oedd oddimewn. Pallodd amynedd David Owen, cymerodd ei ddryll yn ei law, a bygythiodd yn benderfynol y saethai efe bob un o honynt oni roddent i fyny niweidio ei dŷ; ar hyny yr erlidwyr a ffoisant ymaith mewn ofn mawr.
Wrth ei weled yn cael ei gamdrin fel hyn yn barhaus, a'i dŷ yn cael ei niweidio, cynghorwyd D, Owen i roddi y rhai blaenaf o'r terfysgwyr yn ngafael y gyfraith; â hyn y cytunodd yntau. Dygwyd yr achos ymlaen i'r Sesiwn yn y Bala. Gwnaed parotoadau erbyn y trial, ac yr oedd gan yr erlidwyr blaid gref —y mawrion, a gwyr y gyfraith oll o'u plaid, tra nad oedd gan y crefyddwyr, o'r tu arall, ddim ond y gwirionedd yn unig o'u tu,—"Dygwyd yr achos o flaen y Grand Jury, a galwyd yr erlynyddion ymlaen, ac wedi eu cael gerbron, gofynwyd yn wawdlyd iawn iddynt, Pa mor aml y byddent yn arfer myned i'r weddi dywyll?—Pa bryd y byddent yn arfer diffodd y canwyllau yn eu cyfarfodydd?—a nifer o holiadau disynwyr o'r fath. Wedi rhith o ymholiad i'r achwyniad, ac ymgynghori a'u gilydd, dygasant ymlaen y rheithfarn, "No true bill," gan fwrw yr achos heibio megys yn annheilwng o un sylw pellach. Erbyn hyn yr oedd sefyllfa y crefyddwyr yn waeth nag o'r blaen. Wedi apelio at y gyfraith, a chael gwrthodiad llwyr i'w cais, gellid disgwyl pa mor eofn y byddai eu gwrthwynebwyr bellach, a pha mor beryglus y byddai eu sefyllfa hwythau.
Troisant oddiwrth y Neuadd, wedi clywed rheithfarn y boneddwyr, gyda chalon drom, heb wybod pa beth bellach ellid ei wneyd. Ymollyngasant i wylo yn dost; ac yn eu trallod aethant at John Evans, y Bala, a gosodasant eu cwyn o'i flaen, . gan ddywedyd mor drallodedig oeddynt, a gofyn ei gyfarwyddyd ef cyn dychwelyd adref. Ac yn wir, yr oeddynt yn rhy ddigalon ac ofnus ymron i ddychwelyd adref oll, gan y disgwylient y byddai eu herlidwyr yn eu disgwyl; y rhai, wedi gweled na chydnabyddai y gyfraith ddim o achwyniaeth y penau-cryniaid yn erbyn neb, a fyddent yn hyfach a ffyrnicach nag erioed; fel rhai wedi cael rhyddid y gyfraith i wneyd i'r crefyddwyr druain y sarhad a fynent. 'Peidiwch a wylo,' ebe John Evans, 'a pheidiwch chwaith a myned adref; aroswch yn y dref hyd y bore, a ni a edrychwn ai nid oes modd eich hamddiffyn'."—Methodistiaeth Cymru. I. 513.
Ond torodd gwawr ar eu hachos o ganol tywyllwch. Ac fel hyn y bu. Yr oedd boneddwr yn aros yn Mhlasyndre, yr hwn oedd berthynas i Mrs. Lloyd, mam y Parch. Simon Lloyd o'r Bala. Dylanwadodd John Evans ar Mrs. Lloyd, a Mrs. Lloyd ar y boneddwr hwn, i gymeryd achos y crefyddwyr o Ddolgellau i fyny drachefn. Ymddangosai iddo a'r unwaith fod cam wedi ei wneyd yn y mater; aeth i'r llys, a llwyddodd rywfodd, i ail agor yr achos oedd wedi ei roddi heibio, heb wneuthur ymchwiliad priodol iddo y diwrnod cynt, ac mae'r hanes yn dweyd iddo roddi cerydd llym i'r Grand Jury, a gofyn iddynt, pa fodd y meiddient ar eu llw ymddwyn fel y gwnaethent mewn achos mor eglur. Y canlyniad fu i'r byrddau gael eu troi. Dychwelwyd rheithfarn wrthwynebol, a'r tro hwn o blaid y gorthrymedig. Erbyn hyn yr oedd pethau wedi newid yn fawr iawn mewn ychydig o amser. Y crefyddwyr wedi cael llwyr oruchafiaeth. "Cerddodd y newydd yn gyflym i Ddolgellau, ac aeth amryw o'r prif erlidwyr i ffordd. Anfonwyd gweision y Sirydd gyda'r crefyddwyr i Ddolgellau, ac anfonwyd y crier trwy y dref, i hysbysu yr amddiffyniad a roddid drostynt, os meiddiai neb eu gorthrymu mwy."
Fel y gellid yn naturiol dybio bu hyn yn foddion i dori grym yr erledigaeth greulawn oedd hyd yma wedi bod yn teyrnasu yn y dref. Ni feiddiai y gwrthwynebwyr bellach, rhag ofn y gyfraith, fod mor hyfion i niweidio personau a meddianau. Mae'n wir nad oedd yr ysbryd erlidgar wedi treio dim, ond yn hytrach ei enyn trwy yr oruchafiaeth hon a enillasid gan ddilynwyr yr Arglwydd Iesu; teflid pob dirmyg ar grefydd a chrefyddwyr, a gosodid pob rhwystr ar eu ffordd am flynyddau wedi hyn, a pharhaodd yr ysbryd erlidgar, fel yr ydys wedi gweled, yn yr ardaloedd cylchynol dros ryw gymaint o amser wedi dyfodiad Mr Charles i fyw i'r Bala.
Adroddir hanesyn arall o natur wahanol i'r uchod a fu yn effeithiol i leddfu cryn lawer ar yr erledigaeth, yr hwn, feallai, a gymerodd le heb fod ymhell oddiwrth yr un amser. Tro caredig a boneddigaidd oedd hwn o eiddo Mr. Jones, Llangan, tuag at un a fuasai gynt yn afflonyddu ac yn anmharchu pregethwyr. Ar rai achlysuron, erbyn hyn, byddai cryn nifer yn ymgasglu i wrando, yn enwedig ar wyr dieithr o'r Deheudir, mwy na ellid gynwys yn gysurus yn yr un ty. Pregethid y troion hyn, os byddai y tywydd yn rhoi, allan ar risiau, yn ymyl tŷ Ann Evans. Tra yr oedd Mr. Jones, Llangan, yn pregethu un tro oddiar y grisiau hyn, gwnai un gwr lawer o drwst ar yr heol. Er ceisio rhwystro y moddion, gyrai ferfa olwyn yn ol ac ymlaen, yn union o flaen y pregethwr, nes peri dyryswch tra mawr i'r llefarwr a'r gwrandawyr. Y tro nesaf yr oedd Mr. Jones yn pregethu yn y dref yr oedd y gŵr hwn yn y carchar, bron yn ymyl y fan y safai ef i bregethu; yr oedd y cöf yn fyw am dano yn tyrfu gyda y ferfa olwyn y tro o'r blaen; mynegwyd i Mr. Jones mai yn y carchar gerllaw yr oedd yn awr, a'i deulu yn y dref yn dioddef yn fawr oddiwrth dlodi ac angen. Yntau a hysbysodd y dyrfa, eu bod yn ddiau yn cofio am y trwst a fu ar yr heol y tro o'r blaen, a bod y gŵr a'r gŵr yn y carchar, a'i deulu yn dioddef eisiau, ac a erfyniodd ar ryw un fyned a het o amgylch i ofyn am eu hewyllys da i'r teulu. Cafwyd rhoddion ewyllysgar i'r amcan, a dylanwadodd y tro yn fawr iawn i doddi calon yr erlidwyr, yn fwy, meddir, nag odid ddim byd arall.
Mae yr hanes canlynol a rydd Mr. Hughes am ddewisiad y blaenoriaid cyntaf yn Nolgellau yn ddyddorol:" Y lle cyntaf yn y dref i ymsefydlu ynddo, dybygid, oedd mewn tŷ ardrethol, yn nghyntedd Plasyndre. Tŷ bychan, distadl, ydoedd, ond yr oedd o dan ddylanwad y Miss Edwards y soniasom eisoes am dani. Yn y tŷ hwn y sefydlwyd cymeithas eglwysig gyntaf; ac yma y dewiswyd y blaenoriaid, neu henuriaid eglwysig, gyntaf. Fe soniai rhai o'r hen bobl, hyd yn ddiweddar, am weddi hynod Robert Sion Oliver ar yr achlysur o ddewis blaenoriaid. Rhedai rhyw gyfran o honi yn y wedd a ganlyn: O Arglwydd, rhyw ddau neu dri o bobl druain, dlodion, oeddym ni 'does fawr; yn awr, yr ydym yn llawer mwy. Y mae i ni yrwan FLAENORIAID.—Bendigedig, Arglwydd, am FLAENORIAID.—Llwyddiant iddyn' 'nhwy;— llwyddiant iddyn' 'hwy! &c. Ymddengys fod y weddi ddirodres hon â rhyw danbeidrwydd ynddi ar y pryd, yr hwn ni ellir ei ddisgrifio, a'r hwn ni ellir, ychwaith, ei lwyr anghofio."
Hyd yma y cyrhaedda gwybodaeth am ffurfiad yr eglwys. Nis gellir dweyd pa bryd y cynhaliwyd y cyfarfod eglwysig cyntaf, na pha nifer a berthynai i'r eglwys, yn unig ceir mai "dau neu dri o bobl druain dlodion" oeddynt. Yr oeddynt yn symud ymlaen yma tuag at drefn, hyd y gellir gweled, yn foreuach nag un lle arall yn y rhan Orllewinol o'r sir, os nad oedd Penrhyndeudraeth wedi eu rhagflaenu. Yr oedd yma eglwys a blaenoriaid cyn adeiladu yr un capel. Y mae ychydig o hanes adeiladu y capel cyntaf ar gael, ac fel hyn y ceir ef yn Methodistiaeth Cymru:"Rywbryd tua'r flwyddyn 1787, neu ychydig o flaen hyny, cafwyd cyhoeddiad Mr. Jones, Llangan, i bregethu yn Nolgellau, ac er fod ysbryd erlid wedi lleihau llawer wrth a fuasai gynt, eto nid oedd wedi cwbl farw. Y tro hwn, pan oedd Mr. Jones yn pregethu ar yr heol, dybygid, fel y gwnaeth y troion o'r blaen, daeth un o'r hen blant a thresi (chains) yn ei ddwylaw, gan eu tincian yn eu gilydd, a thrwy hyny rwystro y gynulleidfa i gael gwrando. Ar hyn, gwaeddodd Mr. Jones y mynai gael capel yn Nolgellau, costied a gostiai. Y pryd hwnw yr oedd y Deheudir yn cynorthwyo y Gogledd yn y gorchwyl o adeiladu capelau; a thrwy offerynoliaeth Mr. Jones, Llangan, a charedigrwydd brodyr yn y Deheubarth, y caed modd i'w adeiladu; cafwyd darn o dir gan wr bonheddig a berthynai i'r Crynwyr, am yr hwn y talwyd 20p; ac ar y darn tir hwn, adeiladwyd capel." Prynwyd y lle i adeiladu y capel flwyddyn yn gynt nag a nodir uchod. Dyddiad y weithred ydyw Tachwedd 28ain, 1786. Dr. Henry Owen oedd y boneddwr a werthodd y tir i'r Methodistiaid. Yr oedd yn sefyll ar y tir dri neu bedwar o hen dai, a rhoddwyd 121p. 10s. am yr oll. Yr ymddiriedolwyr oeddynt, Thomas Charles, Thomas Foulkes, John Evans, o'r Bala; Hugh Lloyd, a John Lewis. Y ddau olaf oeddynt flaenoriaid yr eglwys yn Nolgellau. Hwy eu dau, ynghyd a'r tri ŵyr enwog o'r Bala, yn ddiau oeddynt â'r llaw benaf yn mhryniad y tir, ac yn adeiladaeth y capel. Parhai cyfeillion y Bala yn ffyddlon i'r eglwys yn Nolgellau, megis yr oeddynt wedi bod agos i 20 mlynedd yn flaenorol, pan yn cymeryd Pantycra dan amod-weithred i bregethu ynddo. Diameu, hefyd, i lawer o gynorthwy arianol ddyfod o'r Bala at adeiladu y capel. Nid oedd yr ychydig grefyddwyr oedd yn Nolgellau eto ond tlodion. Yr oedd yn rhaid dibynu bron yn gwbl am y cymorth o'r tu allan i gyffiniau y dref. Yr hanes a roddwyd am hyn ddeugain mlynedd yn ol ydyw, mai "trwy offerynoliaeth Mr. Jones, Llangan, a charedigrwydd brodyr y Deheubarth, y caed y modd i'w adeiladu." Ymddengys fod cynorthwy wedi ei gael hefyd oddiwrth Cymdeithasfa y Gogledd. Yn nghofnodion Cymdeithasfa y Bala, Mehefin 13eg, 1787, ceir a ganlyn: "Talwyd i glirio capel Dolgelle, 17p. 4s. 9½.c." Eto, Cemaes, Rhagfyr 1787—" I Ddolgelle, i dalu y llog i Dr. Owen, 3p." Nid oes dim yn ychwaneg yn wybyddus am na thraul na dyled y capel hwn. Nid oes fawr o hanes yr achos ynddo ychwaith ar gael. Dywedir mai llawr pridd, a muriau plaen, oedd y tumewn iddo. Buwyd yn addoli ynddo am dros 20 mlynedd, sef hyd y flwyddyn 1809. Yn ystod yr ugain mlynedd hyn, cynyddodd yr achos yn fawr, a bu llawer o wir addoli yn yr hen gapel. Cynhaliwyd ynddo gynhadleddau llawer Cymdeithasfa. Yma y sefydlwyd yr Ysgol Sabbothol—yn ol Lewis William, Llanfachreth, yn 1801. Yr oedd y casgliad cenhadol yma, yn 1799, yn 16p. 12s. 6c. A bu llawer o'r ail do o'r cewri Methodistaidd yn pregethu ynddo.
Ceir crybwyllion na ddylid eu hanghofio am flaenoriaid Dolgellau yn ystod blynyddoedd cyntaf eu hanes yn y capel hwn, gan ddau o'r pregethwyr cyntaf a gyfododd i bregethu yn y rhan Orllewinol o Sir Feirionydd. Yn 1791 y dechreuodd Lewis Morris bregethu. Ac yn y Cyfarfod Misol cyntaf y bu sylw ar ei achos, ymddengys nad oedd pawb yn hollol gydsynio iddo gael bod yn bregethwr. Adrodda yntau fel rhan o'r drafodaeth hono,—"Hen frawd oedd yn blaenori yn Nolgellau a ofynodd i mi ddyfod yno ar nos Sabbath; a dywedais wrtho nad oedd genyf ddim i'w ddweyd wrth grefyddwyr, y rhai oeddynt yn gwybod mwy, ac ymhob modd yn rhagorach na myfi. Wrth bwy y mae genych beth i'w ddweyd?' meddai yntau. Atebais mai ceisio achub dynion annuwiol oddiar y ffordd lydan yr oeddwn. Mae llawer o'r fath ddynion yn dyfod i'n capel ni,' ebe yntau. Felly aethum yno ar nos Sabbath, pryd y daeth lliaws i wrando arnaf, canys yr oedd llawer o honynt yn fy adnabod o'r blaen. Y tro hwn cymerais destyn o'r Beibl, sef Act. ii. 47. Bu brodyr Dolgellau yn gefnogaethol i mi yn y Cyfarfod Misol ar ol yr odfa hon." Yr oedd y Parch. Robert Griffith wedi ei eni a'i fagu yn Nolgellau, ac yn 17eg oed pan adeiladwyd y capel cyntaf. Aeth am ychydig flynyddau pan yn ieuanc i breswylio i Liverpool. Dychwelodd yn ol, ac mewn ychydig nodiadau o hanes ei fywyd ei hun dywed:— "Fel hyn, yn mis Mai, y flwyddyn hono (1793), ymsefydlais yn Nolgellau, lle y ganwyd ac y magwyd fi. Yr oedd y pryd hyn gryn ddiwygiad yn Nolgellau; yr oedd achos crefydd gyda'r Methodistiaid yn llawer mwy siriol nag y gwelswn i ef, pan yr oeddwn yno o'r blaen. Er nad oedd y proffeswyr yn gyffredin ond pobl isel eu sefyllfa, ac yn cael eu cyfrif yn rhai pur wael, fel ysgubion y byd;' eto, yr oedd yr Arglwydd yn eu harddel fel ei bobl, a hwythau yn ei ddilyn yntau, ac yn ceisio sefyll yn erbyn llygredigaethau eu cymydogaeth. Er mai chwerthin am eu penau yr oedd llawer, yr oedd cydwybodau y gwatwarwyr yn tystio mai y bobl a wawdid ganddynt oedd yn eu lle. Cefais flaenoriaid y society yn Nolgellau yn dirion iawn, a byddwn yn cyfeillachu llawer â hwy. Byddwn yn arfer myned gyda hwy i gadw cyfarfodydd gweddïau, a societies, ar y Suliau, i Aber—Corris, Cwrt, Llanerchgoediog, Bwlch, Llwyngwril, Ty—Ddafydd (yn awr Sion), Bontddu, Llanelltyd, Llanfachreth." Mor debyg i wir Gristionogion! Yr oedd crefyddwyr y Bala wedi helpu llawer ar grefyddwyr Dolgellau yn eu gwendid; y maent hwythau yn union wedi cael eu cefnau atynt, yn myned ac yn helpu manau eraill yn yr un amgylchiadau.
Llwyddiant oedd ar yr achos yn Nolgellau y blynyddoedd hyn. Helaethwyd y capel bach, ymhen ucha y dref, trwy roddi oriel (gallery) arno. Er gwneuthur hyn, aeth eto yn fuan yn rhy fychan. Ac ar y 12fed o Fai, 1808, mae y Methodistiaid yn prynu lle capel arall, ac ar unwaith yn adeiladu Salem, yn y maint a'r ffurf y mae yn bresenol. Mae y modd y sicrhawyd y tir i adeiladu y capel hwn mor hynod a rhagluniaethol, fel y mae yn werth cofnodi yr adroddiad air am air fel y ceir ef yn Llyfr Cronicl y Cyfundeb:— "Llygadai y brodyr, er's peth amser, am le arall i adeiladu capel mwy; ond nid oedd un Ilygedyn o dir yn y golwg, yn un man cyfleus, ac yr oedd y gobaith i'w gael i'r diben hwn yn brin iawn, er talu ei lawn werth am dano. Cyhoeddwyd, pa fodd bynag, fod lle i gael ei werthu, yr hwn, os gellid ei gael, a fyddai yn gyfleus a dymunol iawn; ond ofnid yn fawr pan y deallid y diben, na cheid mohono, heb roddi am dano lawer iawn mwy na'i werth. Yr oedd y gwerthiad ar auction mewn tafarndy. Aeth dau fasnachwr cyfrifol, sef Mr. Thomas Pugh, a Mr. Edward Jones, y rhai oeddynt o nifer y brodyr crefyddol, i'r arwerthiad, yn bryderus eu calonau; pryd yr oedd eraill o'r brodyr yn gweddio am eu llwydd. Yr oedd llawer o foneddwyr y dref a'r gymydogaeth wedi dyfod i'r arwerthiad, ac yn cynyg yn awyddus am y tir, nid cymaint oddiar wrthwynebiad i'w gilydd, nac hwyrach oddi ar awyddfryd i'w gael iddynt eu hunain, ond yn benaf, os nad yn gwbl, rhag ei feddianu gan y Methodistiaid. Yr oedd dros ddau cant o bunau eisoes wedi ei gynyg am y tir, gan Mr. Pugh, pryd y dywedodd yr arwerthydd, os na roddid iddo gynygiad uwch cyn pen deng mynyd, y byddai y tir yn eiddo i Mr. Pugh. Gyda'i fod yn dywedyd hyn, aeth dau gi i ymladd â'u gilydd yn yr ystafell, a thynwyd sylw pawb ond Mr. Pugh, yr hwn oedd a'i lygad ar ei oriawr yn ddyfal, at y cŵn. Aeth y deng mynyd heibio, a pharhâi y cŵn i ymladd; ond pan aethai pymtheng mynyd heibio, galwodd ar yr arwerthydd i sylwi ar yr amser, a chofio ei addewid. Er mawr syndod iddo, ac er dirfawr siomedigaeth i'r boneddigion, yr oedd yr adeg trosodd, a'r tir yn eiddo Mr. Pugh; Wel,' ebe yntau, dyna dir i'r Methodistiaid i adeiladu capel.' Pe gwybuaswn i hyny,' ebe rhyw foneddwr yn y fan, mi a godaswn gan punt yn ychwaneg ar ei bris."—Methodistiaeth Cymru, I. 577. Mawr oedd llawenydd y Methodistiaid fod y tir wedi dyfod i'w meddiant, a bod y ffordd yn glir bellach i adeiladu capel helaethach. Byddai yr hen bobl yn y dref yn arfer son llawer wrth eu plant hyd yn ddiweddar, am ofal rhagluniaeth drostynt yn y tro hwn, am yr arwerthiad, am y boneddigion yn cynyg yn eu herbyn, ac am y cŵn yn ymladd nes drysu eu cynlluniau. Y swm a roddwyd am y tir oedd £235. Yr oedd y mesuriad yn fawr, gan ei fod yn cynwys y fynwent a'r holl dir sydd mewn cysylltiad â'r lle yn bresenol, ynghyd a darn a werthwyd at y Rock Cottage. Dechreuwyd adeiladu y capel yn union, ac yr oedd yn barod Mai 1809. Dywedir mai efe oedd y capel mwyaf yn Ngwynedd ar y pryd, a byddai ambell bregethwr yn dwrdio yn arw am i bobl Dolgellau ryfygu gwneuthur capel mor fawr, Gwerthwyd yr hen gapel ynghyd a'r tai perthynol iddo i'r Annibynwyr am £500. Oddeutu y pryd hwn y ffurfiwyd eglwys gan yr Annibynwyr yn y dref. A bu y ddau enwad yn cyd-addoli yn hen gapel y Methodistiaid am flwyddyn, hyd nes y daeth capel Salem yn barod. Bellach, wedi ymsefydlu yn yr addoldy eang, llwyddodd eglwys y Methodistiaid yn fawr. O hyny allan daeth yn achos cryf, ac y mae Dolgellan wedi bod o'r pryd hwnw hyd yn awr yn ganolbwynt achos crefydd yn y rhan Orllewinol o Sir Feirionydd. Fel y cyfryw y mae yn bri- odol edrych ar symudiadau yr achos yma gyda graddau mwy o fanylrwydd.
Yr Ysgol Ddyddiol a Lewis William
Yr oedd cysylltiad agos rhwng yr ysgol ddyddiol â chrefydd tua diwedd y ganrif ddiweddaf, a dechreu y ganrif bresenol. Ac yr oedd dyfodiad L. W. i ardal, i gadw ysgol, yr un peth o'r bron a dyfodiad diwygiad crefyddol i'r ardal hono. Byddai cryn lawer o ymladd yn y gwahanol ardaloedd am dano, a hyny oblegid ymlyniad y plant wrtho, a'r dylanwad crefyddol a adawai ar y plant ymhob man lle yr elai. Cyfodai Ysgolion Sabbothol lle bynag y byddai yn aros, neu ail gyfodai y rhai fyddai wedi myned i lawr. Byddai yr addysg a gyfranai bron yn gwbl yn addysg grefyddol. Bu yn Nolgellau ar wahanol adegau yn cadw ysgol ddyddiol. Yr oedd yma yn 1801, pryd, fel y ceir gweled eto, y gwnaeth waith canmoladwy ynglŷn â'r Ysgol Sabbothol. Drachefn, yn 1815 ac 1817. Dechreuodd ar ei waith, y flwyddyn olaf a enwyd, Mawrth 3ydd, a pharhaodd ei gysylltiad â'r ysgol hyd Hydref yr un flwyddyn. Yr oedd Mr. Charles wedi marw y pryd hwn er's tair blynedd, ond parhai L. W. i fyned i gadw ysgol yn ei gylch drwy alwad yr ardaloedd. Yr eglwys yn Salem oedd yn galw am dano yr adeg hon. Ymhlith ei bapyrau, y mae rhai llythyrau ar gael, wedi eu hysgrifenu dros y brodyr yn Nolgellau gan Mr. Edward Pugh (yr hwn oedd yn dad i Mr. Eliazer Pugh, Liverpool), yn taer erfyn arno ddyfod. "Peidiwch oedi heb yru ateb efo R. R., pa amser y deuwch, os ydych yn meddwl y gellwch ddyfod. A pheidiwch a meddwl am aros ddim yn hwy na Chymdeithasfa Abermaw fan bellaf. Ac os yw Aberdyfi neu Towyn am eich rhwystro, a chwithau am aros, peidiwch a bod heb ddangos eich meddwl. Hyn, dros y gymdeithas, oddiwrth Edward Pugh." Mae yntau yn ateb fel hyn:—
- "At Ymddiriedolwyr, neu Olygwyr, yr Ysgol Rad, Capel Salem, Dolgellau.
"Mi a dderbyniais eich caredig anerchiad Ionawr 15fed, yr hwn a barodd lawenydd a thristwch i mi. Llawenydd wrth glywed am eich llwyddiant yn yr achos. Yr wyf yn teimlo fy meddwl yn llawn o ddiolchgarwch i'r Arglwydd, ac i chwithau fel offerynau, ac i lawer eraill sydd yn ewyllyswyr da i'r achos, ac yr wyf yn deall eu bod yn lliosog. Yr wyf, yr annheilyngaf o bawb, yn ewyllysgar, hyd eithaf fy ngallu, i fod yn ffyddlawn wasanaethwr i chwi yn yr achos. Ond y brys sydd arnoch i'r ysgol gael ei dechreu, a'r achos o hyny, a barodd dristwch ma i fy meddwl, oherwydd nad wyf yn ewyllysio tori neu ddrysu eich bwriadau daionus chwi. Er nad wyf yn anewyllysgar, eto mae yn hollol groes i fy meddwl, ac yn bechadurus, yn ol fy marn i, i mi ymadael oddiyma cyn gorphen y chwarter. Ac un o'r rhesymau sydd genyf i beidio ymadael oddiyma ydyw, fy mod wedi addaw bod yma chwarter; ac os amgen, mi a fyddaf yn dorwr amod, ac o ganlyniad, yn achos o lawer o gablu. Hyn oddiwrth eich annheilyngaf wasanaethwr, Lewis William. Aberdyfi, Ionawr 17, 1817."
Nifer y plant gydag ef yn yr ysgol yr adeg hon oedd 103. Yr oedd 65 o'r cyfryw heb gyraedd ddim pellach na diwedd y llythyrenau. Nid oedd ond 26 yn dysgu ysgrifenu, a 7 yn dysgu rhifyddiaeth. Yr oedd yma drachefn yn 1822, ac ymddengys iddo aros yma y tro hwn hyd Mawrth 30ain, 1824. Y mae rhestr faith o enwau y plant oedd gydag ef yn yr ysgol y tro hwn ar gael, rhai o honynt yn enwau adnabyddus, ac yn eu plith y mae enw y diweddar Barch Roger Edwards, Wyddgrug. Dichon iddo fod yn preswylio yn y dref heblaw yr adegau a nodwyd, a sicr ydyw iddo wneuthur llawer o ddaioni bob tro y bu yma.
Yr Ysgol Sabbothol
Gwnaeth yr Ysgol Sabbothol waith ardderchog yn Nolgellau. Nid yn unig bu yn foddion addysg ac iachawdwriaeth i dô ar ol tô o ieuenctyd a gyfododd yn y dref, ond o honi hi yr anfonid gweithwyr trwy yr holl flynyddau i gynorthwyo ysgolion y wlad ymhob cyfeiriad o amgylch y dref. Ysgrifenodd y diweddar Mr. David Jones ei hanes o'r dechreuad hyd 1862, a'r diweddar Mr. R. O. Rees a roddodd lawer o'i hanes mewn cysylltiad à Lewis William. Iddynt hwy eu dau yr ydym yn ddyledus am y ffeithiau a gofnodir am yr ysgol yn y dref. Dechreuwyd hi gan John Ellis, Abermaw, un o ysgolfeistriaid Mr. Charles, rywbryd yn niwedd y ganrif o'r blaen. Ond cododd gwrthwynebiad cryf oddiwrth y blaenoriaid, ac aelodau blaenaf yr eglwys, fel y bu gorfod ei rhoddi i fyny. Ail gychwynwyd hi gan L. W., tra yr oedd ef yn aros yn y dref, yn ystod yr "heddwch byr," yn 1801. Cyfarfyddodd yr hen bererin â rhwystrau mawrion i'w sefydlu. Yr oedd swyddogion y capel ar y cyntaf yn benderfynol yn ei herbyn. Arferid cynal society am naw o'r gloch y boreu; yr oedd gwasanaeth yn y llan am 11, pryd na byddai dim math yn y byd o foddion gan neb o'r Ymneillduwyr; a chyfarfod gweddi neu bregeth am 2 a 6. Felly nid oedd yr un awr i'w chael i gadw yr ysgol. Penderfynodd L. W. ei chynal am 6 o'r gloch y boreu. Nid oedd neb o'r brodyr a'i cynorthwyai; efe oedd yr arolygwr a'r athraw, efe oedd yn dechreu a diweddu yr ysgol, yn ledio penill ac yn dechreu canu, yn holwyddori ac yn dysgu y plant. Aeth y rhwystrau yn fwy eto. Symudodd y gwrthwynebwyr y society i chwech o'r gloch y boreu; symudodd yntau yr ysgol i 4 o'r gloch y boreu! Deuai o 60 i 80 o blant iddi ar yr oriau plygeiniol hyn. Plant gan mwyaf o'r factories a gweithydd eraill y dref a wnai i fyny yr ysgol. Ond daeth Mr. Charles i'r dref, a dadleuodd yn zelog dros ei hoff sefydliad, a llwyddodd iddi cael ei chynal fel moddion rheolaidd am 9 o'r gloch y boreu. Ni chlybuwyd am ddim rhwystrau oddiwrth y penaethiaid ar ol hyn. Daethant o un i un i fod yn zelog o'i phlaid. Y cyntaf a ddaeth. i roddi cynorthwy iddi oedd Edward Richard, y blaenor. Daeth. eraill ar ei ol. "Cawn yr hen ddisgybl, Thomas Pugh, yno, yn dechreu canu, Edward Jones a Sion Lewis yn dysgu y plant, a Sion Ellis, o'r Bwlchcoch, yn agoryd yr Ysgrythyrau." Ar ol dyfod dros y gwrthwynebiad mawr cyntaf enillodd yr ysgol nerth, ac yn ystod y blynyddoedd dyfodol aeth rhagddi yn y dref hon yn fwy nag un man. Mewn adroddiad am yr Ysgol Sabbothol yn addoldy capel Salem am 1829, gan y Parch Roger Edwards, dywedir fod rhif yr athrawon yn 37; athrawes— au 34; cyfan 71. Nifer mwyaf yr ysgol y flwyddyn hono oedd 411; a'r nifer leiaf 377. Dywedir hefyd yn yr un adroddiad, "y mae yr ysgol mor lliosog, fel pan ei cynhelir nad oes un eisteddle yn wag yn addoldy helaeth Capel Salem." Rhifedi cyflawn yr ysgol drachefn yn 1862 oedd 496.
Rhydd Mr. David Jones enwau lliaws o bregethwyr wedi cyfodi o'r ysgol hon. Dywed mai ynddi hi ymagwyd y Parchn. John Jones (Idrisyn); Rowland Hughes, gweinidog gyda'r Wesleyaid; Lewis Roberts, gweinidog gyda'r Bedyddwyr. Y rhai a ddechreuodd yma gyda'r Methodistiaid—Parchn. Richard Roberts, (?) Roger Edwards, John Williams, Morris Davies, M.R.CS, L.R.C.P., a L.S.A., o Gaernarfon; William Davies, Llanegryn—Yr oedd ef yn un oedd yn sefydlu y Gymdeithas Lenyddol a elwid "Cymdeithas un o'r gloch;" David Jones, Gar- egddu; a Hugh Roberts, gynt o Cassia; yn ddiweddarach E. J. Evans, yn awr o Walton, Liverpool; ac yn ddiweddarach drach- efn, sef yn 1887, derbyniwyd Cadwaladr Jones yn aelod o'r Cyf- arfod Misol.
Un o'r pethau neillduol a berthynai i'r Ysgol Sul yma am lawer blwyddyn, ac a fu yn ddiau yn un o'r moddion i'w gwneuthur mor flodeuog a grymus, ydoedd yr arbenigrwydd a roddid ar osod athrawon ac athrawesau yn eu swydd. Cynhelid cyfarfod pwrpasol i'r amcan. Ar ol i ryw nifer gael eu neillduo a'u cymeradwyo gan y cyfarfod athrawon, penodid brawd i draethu ar "Natur Swydd Athraw," brawd arall i ofyn cwestiynau i'r rhai a etholasid, ac un neu ddau arall i roddi cynghorion iddynt. Wrth fwrw golwg dros y gwaith trwyadl a wnelid yn y modd hwn anhawdd yw peidio gofyn, "y tadau, pa le maent hwy? y proffwydi, a ydynt hwy yn fyw byth?" Coffheir eto am enwau y rhai fu'n fwyaf blaenllaw gyda'r ysgol. Ond dylid feallai grybwyll un engraifft a geir yn adroddiad 1829, canys dyna yr adeg yr oedd yr Ysgol Sul wedi cyraedd yr oes euraidd, "Nid anmhriodol fyddai coffhau yma am Mr. David Davies, yr hwn sydd newydd ymadael â ni (ac sydd yn bresenol yn Liverpool). Yr oedd ei barodrwydd, ei fywiogrwydd, a'i fedrusrwydd gyda gwaith yr ysgol yn amlwg iawn; ac efe yn benaf a fu yn offeryn i ddwyn yr ysgol i'w threfn bresenol."[Gwel Cronicl yr Ysgol Sabbothol, Medi 1882, tu dal. 211; a'r Drysorfa, Mawrth 1831. tudal. 83.]
Y Cymanfaoedd
Y Gymdeithasfa Chwarterol gyntaf a gynhaliwyd yn Nolgellau oedd y flwyddyn yr adeiladwyd y capel cyntaf, sef yn 1787. Mewn adroddiad o'r Hen Gymdeithasfaoedd, ceir fod yma un drachefn yn Rhagfyr, 1788. Wedi adeiladu capel Salem, cynhelid Cymdeithasfa yn y dref yn rheolaidd bob blwyddyn am yn agos i ddeugain mlynedd. Cynhelid hwy i ddechreu ar yr heol, wedi hyny ar y maes. Byddai ymdriniaeth helaeth ar yr Ysgol Sabbothol yn nghynadleddau y Gymdeithasfa flynyddol hon yn wastad. Nid oes neb all ddweyd maint y daioni a wnaethpwyd trwy y Cymdeithasfaoedd Chwarterol a blynyddol yr amser gynt, trwy wasgaru bywyd ac adnewyddiad yn ngwahanol eglwysi a chynulleidfaoedd y wlad, a thrwy y dylanwadau nerthol a ddilynai y pregethu yn yr awyr agored. Nid ychydig oedd traul a thrafferth y cyfeillion yn Nolgellau gyda'r holl Gymdeithasfaoedd a gynhaliwyd yno o dro i dro. Mae y gras o letygarwch wedi bod yn dra helaeth yn y dref er dyddiau Mr. Charles. Bendithiodd Rhagluniaeth lawer o deuluoedd y dref a thrysorau y bywyd hwn. Yr oedd y ddwy fendith fawr yn cydredeg yr Arglwydd yn bendithio teuluoedd y Methodistiaid a phethau tymhorol, ac yn agoryd eu calonau i'r gras o letygarwch a haelioni. Nid oedd yr un lle yn Ngorllewin Meirionydd, hyd yn gymharol ddiweddar, yn alluog o ran cyfleusderau a manteision i roddi derbyniad i'r Gymdeithasfa Chwarterol. Felly pan ddisgynai ei thro i ddyfod i'r rhan hon o'r sir, yn Nolgellau y disgynai bob amser. O ganlyniad mae nifer y Cymdeithasfaoedd a gynhaliwyd yn y dref o'r dechreuad yn fawr iawn.
Yma y cynhaliwyd Cymdeithasfa Chwarterol yr haf 1870, pryd, fel y mae yn gofus gan lawer hyd heddyw, y traddododd y Parch. E. Morgan, Dyffryn, araeth rymus a hyawdl ar "Hanes yr achos yn Ngorllewin Meirionydd." Prif fater yr anerchiad ydoedd, (1) cymharu yr achos o fewn cylch y Cyfarfod Misol yn 1870 â'r hyn oedd yn 1850; (2) dangos fel yr oedd bugeiliaeth eglwysig wedi llwyddo, ac mai i hyny yr oedd cynydd a llwyddiant crefydd yn y rhan yma o'r wlad i'w briodoli. Cariodd yr anerchiad gymaint o ddylanwad ar y Gymdeithasfa fel y penderfynodd ei argraffu yn adroddiad arno ei hun. Hwn oedd y tro cyntaf yn y Gogledd i roddi hanes yn y Gymdeithasfa am yr achos yn y sir lle y cynhelid hi. Ac yn y Gymdeithasfa ddilynol, yn Mhwllheli, penderfynwyd, "fod y Cyfarfodydd Misol i benodi brodyr i roddi adroddiad am sefyllfa yr achos yn y sir y byddo y Gymdeithasfa ynddi, ac fod hyn i fod ymhob Cymdeithasfa." Cynhaliwyd Cymanfa Gyffredinol y Cyfundeb yn Nolgellau Mehefin 17-19, 1873.
Yr Eglwys yn Nghapel Salem
Yn y flwyddyn 1808, fel y crybwyllwyd, yr adeiladwyd capel Salem. Aeth y draul i'w adeiladu oddeutu £1500, ac y mae y ddyled ar ddiwedd 1809 yn £980. Gorphenwyd talu y ddyled hon yn 1833, yn y modd a ganlyn. Gwneid casgliad cyhoeddus yn y Gymdeithasfa flynyddol a gynhelid yn y dref yn mis Hydref am 18 mlynedd. Yr oedd y casgliad cyhoeddus yn Nghymdeithasfa 1809 yn £25 7s. 61c. Ond ymddengys fod y casgliad a wneid fel hyn yn myned yn llai fel yr oedd y blynyddoedd yn cerdded; y swm yn 1827, y flwyddyn olaf y gwnaed y casgliad yn y modd hwn ydoedd £5 2s. 10c. Ffynhonell arall trwy ba un y telid y ddyled oedd, gydag arian yr eisteddleoedd. Nid oeddynt yn llawer, ond dyma bron yr unig ymdrech leol a wnelid y blynyddoedd hyn, yma ac mewn lleoedd eraill, i glirio y ddyled. Erbyn hyn yr oedd y casgliad chwarterol o ddimai yr aelod a wneid yn yr holl eglwysi yn cael ei drosglwyddo i'r Cyfarfod Misol ac nid i'r Gymdeithasfa, a byddai y Cyfarfod Misol yn cynorthwyo i dalu dyled yr holl gapelau y byddai dyled arnynt, bach a mawr fel eu gilydd. Bu yn lled hael i dalu dyled capel Salem. Derbyniodd y cyfeillion yma £20 o Gyfarfod Misol Ffestiniog yn 1810; ac amryw symiau wedi hyny o dro i dro hyd 1826, pryd y der- byniasant £50 o Gyfarfod Misol Trawsfynydd, a hwn oedd y swm olaf a dderbyniwyd o'r ffynhonell hon. Wedi i'r cynorthwy ballu o'r Cyfarfod Misol, ac oddiwrth y casgliad cyhoeddus yn y Gymdeithasfa, gwnaethant ymdrech yn eu plith eu hunain, a daethant yn fuan iawn yn rhydd o'r ddyled. Yr oeddynt yn gwbl rydd o ddyled yn 1839, a'r flwyddyn hono casglasant yn Salem yn unig £297 9s. tuag at glirio dyled capelau rhwng y Ddwy Afon. Aethant i ddyled drachefn wedi hyny, gyda'r fynwent, adeiladau oddiallan, a thrwy draul lled fawr i adnewyddu y capel o bryd i bryd, ac y maent eto heb ddyfod yn ddiddyled.
Adeiladwyd ysgoldy Llyn Penmaen yn 1863. Ac yn Nghyfarfod Misol Trawsfynydd yr un flwyddyn penderfynwyd, "Ein bod yn ymddiried gofal yr achos yn y lle i gyfeillion Dolgellau, ac yn eu hanog i ymdrechu cael pregethu yno mor aml ag y byddo modd." Rhoddwyd y tir yn rhodd gan Mrs. Jones, Penmaen. Disgynodd y draul ar y pryd, a'r gofal o hyny hyd yn awr ar Salem. Yn Nghofnodion Cyfarfod Misol Bontddu, Ebrill 4, 1887, ceir y penderfyniad canlynol,—"Derbyniwyd yr hysbysiad gyda llawenydd, fod Edward Griffith, Ysw., U.H., Springfield, Dolgellau, yn cyflwyno capel oedd wedi ei brynu yn mhen uchaf y dref, yn rhodd ac yn rhad i'r Cyfundeb, i fod at wasanaeth yr Ysgol Sul a moddion eraill; a chyflwynwyd diolchgarwch gwresocaf y Cyfarfod Misol iddo am ei rodd haelionus." Adeilad oedd hwn wedi bod yn perthyn i enwad arall. Yr oedd yn werth fel y cyflwynodd Mr. Griffith ef i'r Cyfundeb £150, a rhoddodd Salem £80 o gostau i'w adgyweirio y flwyddyn ddiweddaf. Y mae yn awr mewn sefyllfa dda, ac ynddo Ysgol Sabbothol yn cael ei chynal yn rhifo 74, o dan nawdd ac arolygiaeth Salem; cynhelir cyfarfodydd gweddi hefyd, a cheir pregeth ynddo yn awr ac yn y man.
Y flwyddyn 1815 ydyw yr amser y ceir enwau a rhif yr aelodau eglwysig yn Nolgellau gyntaf, a hyny mewn taflen ymysg ysgrifau Lewis William. Ac fel hyn yr oedd y rhif y flwyddyn hono—meibion 43; merched 70; cyfan 113. Edrycha y nifer yn fychan pan gofir fod mwy na chwe' blynedd er pan adeiladesid capel mawr Salem, a deugain mlynedd neu ychwaneg feallai er pan oedd yr eglwys wedi ei sefydlu yn y dref. Ond sicr ydyw mai ychydig oedd nifer proffeswyr crefydd ymhob man hyd y diwygiad mawr, 1817—18. Yn y flwyddyn 1877 sefydlwyd dwy eglwys gyfan allan o Salem, sef Bethel a'r Eglwys Saesneg, mewn canlyniad i'r ddau gapel hyn gael eu hadeiladu yn ychwanegol yn y dref. Yn canlyn gwelir y rhif yn nghapel Salem ar dri amser gwahanol, gan gymeryd fel yr ail gyfrif y flwyddyn flaenorol i fynediad yr eglwysi yn Bethel ac yn y capel Saesneg allan o hono:—
Cymunwyr | Ysgol Sul | Gwrandawyr | |
1815 | 113 | — | — |
1876 | 361 | 614 | 900 |
1886 | 304 | 445 | 660 |
Pe rhoddid y ddwy eglwys eraill at Salem yn y cyfrif diweddaf fel y ceir y rhif yn yr Ystadegau safai fel y canlyn-Cymunwyr 518; Ysgol Sul 741; gwrandawyr 1025. Gwelir fod y cynydd yn fawr yn ystod deng mlynedd o amser. Am weithgarwch Eglwys Salem trwy yr holl flynyddau, teilynga bob clod. Bu ei haelioni yn fawr tuagat yr achos Cenhadol o'r dechreuad. Sefydlwyd yma gynllun newydd mor foreu â'r flwyddyn 1829, yr hwn a ddygwyd i'r dref gan y Mri. Davies a Williams, masnachwyr, sef cynal cyfarfod cenhadol unwaith yn y mis, ar ol y bregeth nos Sabbath. Penodir brodyr o'r eglwys ymlaen llaw i areithio yn y cyfarfod. Y mae yma drysorydd i'r meibion a thrysoryddes i'r merched, a'r un modd i'r bechgyn a'r genethod, a gwelir yn fynych gydymgais canmoladwy i ragori y naill ar y llall yn swm y casgliad. Dygodd y cynllun ffrwyth daionus er's llawer o amser, ac y mae yn para yn llwyddianus hyd yn awr. Dangoswyd haelioni hefyd yn wastad gan yr eglwys hon tuag at y tlodion. Yma yr arferid cynal y Cyfarfod Misol blynyddol yn mis Ionawr, dros dymor maith, hyd nes yn lled ddiweddar y trefnwyd iddo fod bob dwy flynedd. Yn y dref hon, hefyd, megys y crybwyllwyd, yr arferid cynal yr holl Gymdeithasfaoedd chwarterol. Ac y mae yma do ar ol to o bobl gryfion ac ewyllysgar wedi bod yn gweithio gyda theyrnas yr Arglwydd Iesu.
Yn 1831 y gwnaethpwyd y fynwent y tu cefn i'r capel, ac y claddwyd y cyntaf ynddi. Cafodd capel Salem ei gofrestru i briodi Ionawr 1840. Priodwyd y par cyntaf ynddo, sef Evan Owen, Llwyngwril, ac Ann Evans, Dolgellau, Mai 16eg y flwyddyn hono, gan y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn. Yr ail briodas a gymerodd le ynddo ydoedd Medi 22, 1841, sef Roger Edwards, Wyddgrug, ac Ellin Williams, Dolgellau.
Parheir i gynal cyfarfod athrawon yma er's amser boreuol iawn, ar ol y bregeth boreu Sabbath, sef cyfarfod darllen, yn ol yr ystyr diweddar i'r gair. Amser yn ol ffurfiwyd Cymdeithas y Gwyr Ieuainc, a chynhelid ei chyfarfodydd am un o'r gloch y Sabbath. Traddodid anerchiadau yn y cyfarfodydd hyn gan y bobl ieuainc ar bynciau crefyddol ac athrawiaethol. Bu y gymdeithas am dymor yn flodeuog, a gwnaeth ddaioni mawr i liaws oedd yn aelodau o honi y pryd hwnw.
Y mae Salem wedi bod ar y blaen i eglwysi y sir gyda chynhaliaeth y weinidogaeth a bugeiliaeth eglwysig. Yma y dechreuodd y symudiad hwn yn ei gysylltiad â'r rhan hon o'r sir, a'r diweddar Barchedig Edward Morgan, Dyffryn, ydoedd pioneer y symudiad. Bu ef yn weinidog rheolaidd yr eglwys o Awst 1847 hyd Hydref 1849. Wedi hyny rhoddodd yr eglwys alwad i'r Parch. John Griffith, Nant, Sir Gaernarfon, a nos Fawrth, Ionawr 4, 1859, cynhaliwyd cyfarfod ei sefydliad, pryd y traddodwyd araeth ar ddyledswydd yr eglwysi i'w gweinidogion gan y Parch. Edward Morgan, Dyffryn, ac anerchiad i'r gweinidog gan y Parch. Dr. Edwards, Bala. Symudodd Mr Griffith yn gynar yn 1863, i gymeryd gofal eglwys Jerusalem, Bethesda, Arfon. Bu y Parch. David Evans, M.A., Gelligaer, yn awr o'r Abermaw, yn weinidog yr eglwys o 1864 i 1875. Ac y mae y Parch. R. Roberts wedi ymsefydlu yma yn weinidog rheolaidd er 1875. Y rhai sydd yn gwasanaethu swydd diacon yn yr eglwys yn bresenol ydynt Mri. E. Griffith U.H., Humphrey Jones, J. Meyrick Jones, Richard Williams, Richard Jones. Yn canlyn ceir cofnodiad bywgraffyddol am:—
Y BLAENORIAID.
Hugh Lloyd, currier, a John Lewis, glover. Y ddau hyn oeddynt y blaenoriaid cyntaf. Mae enwau y ddau i'w cael wedi arwyddo gweithred y capel cyntaf gan y Methodistiaid yn y dref fel ymddiriedolwyr. Am danynt hwy yr oedd Robert Sion Oliver yn diolch mor gynes i'r Arglwydd yn ei weddi hynod. Nid oes llawer o'u hanes i'w gael erbyn hyn; ond mae yn ddigon sier fod y ddau yn dra ffyddlon gyda'r achos. Yr oedd Hugh Lloyd yn un o'r rhai a aeth i Gorris a Llanerchgoediog i gynorthwyo y gorthrymedigion oedd wedi cael eu dirywio yn erledigaeth fawr 1795. Bu ef farw Rhagfyr 3ydd, 1801, yn 43 mlwydd oed. Mae disgynyddion y ddau flaenor cyntaf hyn yn parhau yn ffyddlon gyda'r achos yn Salem hyd heddyw.
Thomas Pugh.—Yr oedd ef yn foneddwr Cristionogol, a'r cyntaf o'r cyfryw a fu wedi hyny yn Nolgellau, ac a ystyrid yn dywysogion ymhlith blaenoriaid y Methodistiaid. Bu yn foddion arbenig i gyfodi crefydd i sylw yn y dref, oherwydd ei rodiad gweddus, ei grefydd bur, a'i sefyllfa uchel yn y byd, Aeth i Lundain pan yn lled ieuanc, a bu yn farsiandwr llwyddianus yno am nifer o flynyddoedd. Yno yr ymunodd mewn priodas, Mai 29, 1787, â Miss Mary Evans, yr hon oedd yn enedigol o Lanrwst. Y mae cofnodiad i Mr. Charles fod yn eu tŷ yn 1792, yn bedyddio merch iddynt, ac yn eu tŷ hwy y byddai y gŵr parchedig yn lletya pan yn ymweled â'r brif ddinas. Mr. Charles, hefyd, a ddylanwadodd ar Mr. Pugh i ddyfod i fyw i Sir Feirionydd, yr hyn a gymerodd le tua diwedd 1795. Yr oedd yma felly yn lled fuan ar ol agor y capel cyntaf gan y Methodistiaid yn y dref. Agorodd ei ddrws ar unwaith i letya gweision yr Arglwydd, ac un o'r pethau pwysicaf a gofiai ei blant,—un o ba rai oedd priod y diweddar Barch. David Jones, Treborth, wedi tyfu i fyny ydoedd, y croesaw mawr a roddid i bregethwyr ar aelwyd eu rhieni. Yr oedd y gras hwn mor amlwg yn yr anedd hon, fel y dywedir iddo ddylanwadu ar deuluoedd eraill y dref i feithrin lletygarwch. Prynodd Mr. Pugh geffyl hefyd, yn benaf, ebe Mr. Humphreys o'r Dyffryn, at wasanaeth yr achos goreu, yr hwn y rhoddai ei fenthyg yn fynych i gludo pregethwyr, y rhai a draethent yr efengyl o ardal. i ardal. A dywedir i'r ceffyl hwn "gario pynau trymion iawn, a chael croesaw gwair llwyd ystabl ty'r capel ugeiniau o weithiau." Yr oedd Mr. Pugh yn weithiwr rhagorol gyda phob rhan o achos crefydd, ac yn dra haelionus; yn gyfaill mynwesol hefyd i Mr a Mrs Charles, o'r Bala. Yr oedd gyda Mr. Charles yn Llundain yn 1811, mewn cyfarfod mawr o blaid yr achos cenhadol, ac ysgrifena oddiyno at ei wraig i'r Bala, Medi 10fed y flwyddyn hono,—"Meddyliwn na fu fy nghalon erioed haner digon agored i gyfranu at achos Mab Duw. Diwygiad, diwygiad, sydd eisiau yn fawr iawn ymhob parth, yn enwedig mewn cyfranu i helaethrwydd at achos yr efengyl. Rwyf yn gweled Mr. Charles bob dydd, ond nid oes gyfleusdra i ymddiddan ag ef. Mae efe yn iach, ac hefyd yn llawen, dybygwn, ac felly y gwelwch bawb yma ag sydd yn caru llwyddiant efengyl Crist." Yr oedd hyd yn ddiweddar adgofion am Mr Pugh ymhlith hen bobl y dref, fel un nefolaidd ei ysbryd, a'r dagrau yn llifo dros ei ruddiau pan yn gweddio. Efe, fel y crybwyllwyd, oedd a'r llaw benaf mewn prynu tir capel Salem, ond bu farw yn fuan wedi hyny, Ionawr 1, 1812. Mae ei feddrod yn mynwent Dolgellau, ac yn gerfiedig ar ei fedd—faen, "Yma y gorwedd hen ddisgybl, gyda'r hwn y lletyem." Edward Jones.—Siopwr ydoedd ef yn y dref, ac yr oedd gydag achos y Methodistiaid er yn lled foreu. Bu yn flaenor yn yr hen gapel. Ceir ei enw gyda Mr. Thomas Pugh yn prynu tir i adeiladu capel Salem. Erys ei deulu yn golofnau gyda'r achos hyd heddyw. Wyr iddo ef ydyw Dr. Edward Jones, U.H., Caerffynon.
Edward Richard.—Oriadurwr wrth ei gelfyddyd. Henadur a blaenor ymhob ystyr o'r gair. Bu yn llenwi y swydd yn hir, mewn amser yr oedd yr achos yn cyfodi o'r pant i fryn llwyddiant. Efe oedd y cyhoeddwr yn ei amser. Efe hefyd a osodwyd gan y Cyfarfod Misol i ofalu gydag adeiladu capel Llanfachreth, pan oedd yr erledigaeth yno yn ei llawn rym. Dywedwyd am dano mewn cyfarfod cyhoeddus perthynol i'r Ysgol Sabbothol ar ol ei farw:— "Gorfu i ni deimlo dyrnod eto yn marwolaeth yr hynafgwr parchus, Edward Richard. Gallesid ei alw ef gyda phriodoldeb yn dad yr Ysgol Sabbothol yn ein plith. Dywedir iddo fod am ysbaid o amser yn unig bleidiwr iddi yn Nolgellau, sef pan ei sefydlwyd yma gyntaf, a pharhaodd yn ffyddlon tuag ati hyd y diwedd." Bu farw Awst 5ed, 1829, yn 71 mlwydd oed.
Roger Edwards.—Yr oedd ef yn dad i'r Parchedig Roger Edwards. Cymerwyd ef ymaith yn nghanol ei ddydd Ion. 10fed, 1831, yn 52 mlwydd oed. Ystyrid ef yn un o'r rhai rhagoraf o ran ei gymeriad a fu yn y dref erioed. "Y duwiol a'r defnyddiol Roger Edwards" y gelwid ef. Yr oedd yn feddianol ar gymwysderau nodedig gyda gwaith yr Ysgol Sul, ac i flaenori mewn pethau ysbrydol yn yr eglwys. Cynghorwr grymus ydoedd yn y naill a'r llall, a mynych y clywid y geiriau canlynol ganddo ar ddiwedd ei gynghorion, "Gwerth enaid, byrdra amser, a meithder tragwyddoldeb." Yr oedd yn esiampl dra rhagorol o henadur eglwysig, gan ei fod "oran ei ysbryd yn un bywiog a nefol, o ran ei ddawn yn un gwlithog ac effeithiol, ac o ran ei fywyd yn un dichlynaidd a duwiol." Cofir am dano fel un a osodai gymaint o'i ofn ar anuwiolion y dref, fel y cilient o'r ffordd pryd bynag y goddiweddai ef hwy yn gwneuthur drwg.
John Jones (skinner) ydoedd un o flaenoriaid tywysogaidd Salem, mewn tymor diweddarach na'r rhai a grybwyllwyd. Ganwyd ef yn y lle a elwid y Pandy, yn 1787. Bu am dymor pan yn ieuanc yn Worcester, ac elai i addoli yno i gapel Arglwyddes Huntington. Wedi iddo ymsefydlu yn Nolgellau, tua'r fl. 1818, dewiswyd ef yn ddiacon yn nghapel Salem. Bu yn ymroddedig iawn i achos crefydd hyd ddiwedd ei oes. Ei briod hefyd oedd yn wraig dra rhinweddol a chrefyddol er yn ieuanc. Y ddau hyn oeddynt yn enwog yn eu dydd am eu rhinweddau teuluaidd ac eglwysig. Eu tŷ a fu yn gartref i achos crefydd, ac i lu mawr o efengylwyr oedd yn cyd-oesi â hwy. Dywed bywgraffydd Mr. John Jones, yn y Drysorfa, y flwyddyn ganlynol i'w farwolaeth, "Am letygarweh, drachefn, ni phetrusaf ddywedyd na bu mo'i well yn hyn, yn ol ei allu, o ddyddiau Abraham hyd yn awr; canys derbyniodd ryw doraeth o weision Crist i'w dy o dro i dro, a hyny heb un math o ddetholiad arnynt; eithr cymerai hwynt drwodd a thro fel y caffai efe hwynt." Wedi proffesu Crist am 40 mlynedd, a bod yn flaenor am oddeutu 34 mlynedd, hunodd mewn tangnefedd Ionawr 29ain, 1852.
Evan Morris.—Annibynwr ydoedd ef o deulu, ac yr oedd yn frawd i Meurig Ebrill. Dyn tawel, llariaidd, a hynod o grefyddol. Bu yn aelod crefyddol am 50 mlynedd; yn ddiacon am tua 30; ac yn arwain y canu yn Salem am flynyddau lawer. Bu farw Awst 13eg, 1859, yu 81 mlwydd oed.
Ellis Williams.—Ganwyd ef yn 1781. Bu yn Nghaernarfon am beth amser yn gweithio gwaith glover, a daeth yn ol i Ddolgellau yn ddyn ieuanc. Yr oedd yn swyddog yn Salem yn 1814, a cheir ei enw yn un o'r rhai a arwyddodd Weithred Gyfansoddiadol y Cyfundeb. Bu am dymor yn drysorydd y Cyfarfod Misol, pan oedd y ddau ben i'r sir yn un. Digon o reswm dros ei fod yn wr pwysig gyda'r achos ydyw, iddo fod yn llenwi y swydd hon. Edrychid arno yn Nolgellau fel dyn o awdurdod. Ond byddai yn cario ei awdurdod weithiau yn llawn ddigon pell. Arferai gribo yn drwm ar adegau. Bu farw Hydref, 1855, yn 74 oed. Eduard Jones, (Dyffryn).—Yr oedd yn athraw yn yr Ysgol Sul yn yr hen gapel. Dewiswyd ef yn flaenor yn fuan wedi adeiladu Salem. Symudodd i'r Dyffryn, a dewiswyd ef yn flaenor yno yn 1828; ceir ei hanes yn helaethach mewn cysylltiad â'r eglwys yno.
Thomas Jones, Druggist.—Gŵr deallus, a defnyddiol gyda'r achos, a dylanwadol yn y dref. Yn ei dy ef y byddai llawer o'r pregethwyr yn lletya. Bu yn llwyddianus yn ei alwedigaeth tra parhaodd i'w dilyn. Ond aeth i drin fferm i'r Glyn, Talsarnau, a throes yr anturiaeth hono yn aflwyddianus. Mae ei weddw a'i ferch yn aros hyd heddyw, ac yn ffyddlon i achos crefydd.
Thomas Jones, Pantyronen.—Bu ef yn flaenor yn flaenorol yn Llanelltyd. Symudodd oddiyno i berthyn i Salem yn 1843. Gŵr da a hawddgar, meddir, ond iddo wneuthur rhai troion yn ei oes heb fod yn y ffordd ddoethaf. Gorfodaeth roddwyd arno i symud o Lanelltyd, ac mae yr amgylchiadau yn haeddu cael eu cofnodi. Anfonodd y Parch. Robert Griffith, Dolgellau, ddeiseb iddo o blaid y Corn Law, yr hon oedd y pryd hwnw yn cael ei dadleu o flaen y Senedd, gan ddymuno arno fyned o amgylch ardal Llanelltyd i gael y trigolion i'w harwyddo. Gwnaeth yntau yn ol y dymuniad. Clywodd ei feistr tir. Syr R Vaughan, aeth ato ar unwaith, a rhoes rybudd iddo i ymadael a'i dyddyn, a gorchymynodd yn bendant heblaw hyny nad oedd y tenant newydd i brynu yr un geiniogwerth o'i eiddo ar ei ymadawiad. Cyrhaeddodd y newydd am y camwri a'r trallod yr oedd ynddo i glustiau Mr. Casson, hen foneddwr crefyddol o Ddolgellau, ac aeth ato a dywedodd wrtho am ymddiried yn Rhagluniaeth, ac o berthynas i'w eiddo ar y tyddyn, os byddai raid, y deuai ef ei hun yno i'w brynu. Ac yn unol a'i addewid, aeth yno pan ddaeth yr amser i ymadael i fyny, ond erbyn hyn yr oedd T. Jones wedi gwerthu ei anifeiliaid a'i eiddo oll, a chael pris da am danyut. Felly, gofalodd Rhagluniaeth am dano, ac yr oedd ganddo dipyn wrth gefn pan yr ymadawodd a'r byd hwn yn y flwyddyn 1865.
Griffith Davies—Dechreuodd ei yrfa gyda dechreuad y ganrif, oblegid ganwyd ef yn 1800. Mab ydoedd i Griffith Davies ac Elinor Humphreys, o Ddolgellau. Daeth i gysylltiad â chrefydd gyda rhyw blant eraill, yr hyn yn ddiau a gymerodd le yn fuan ar ol sefydliad yr Ysgol Sabbothol yn y dref. Yn ddigon naturiol, edrychai bob amser wedi hyny gyda dyddordeb ar gywion yr estrys. Nid oedd yn un o'r rhai a gafodd dröedigaeth amlwg, yn hytrach tyfu wnaeth ei grefydd yn raddol. Derbyniwyd ef yn gyflawn aelod pan yn 18 oed, yn mhoethder y diwygiad mawr a gynhyrfai y wlad ar y pryd. Bu yn flaenor yn eglwys Salem am o fewn ychydig fisoedd i 50 mlynedd. Dygodd lawer o arferion y tadau gydag ef i'r oes bresenol. Bu yn crefydda gyda'r tô cyntaf bron o grefyddwyr y dref, yn gwrando ar ddwy neu dair cenhedlaeth o bregethwyr, ac yn cydweithio â phrif ddiaconiaid yr eglwys. Ac un o heddychol ffyddloniaid Israel y cyfrifid ef bob amser. Yr oedd yn ddefnyddiol, gweithgar, a chymeradwy ymhob cyfnod ar ei oes. Ysgrifenwyd yr hyn a ganlyn am dano, wedi ei fynediad oddiwrth ei lafur at ei wobr,—"Ni phetruswn ei alw yn model deacon, ac nid ydym yn meddwl y tramgwydda neb arall wrthym am roddi y flaenoriaeth hon iddo. Cyfunodd am lawer o flynyddoedd ynddo ei hun yr henuriad a'r diacon. Heblaw gwasanaethu byrddau y ty, porthodd braidd Duw â gwir faeth ysbrydol gyda medrusrwydd a ffyddlondeb mawr. Yr oedd ynddo bron bob cymhwysder tuag at gyflawni y swydd yn anrhydeddus—gwybodaeth helaeth o athrawiaethau crefydd, parodrwydd ymadrodd, ysbryd pwyll a barn, tymer gyfunwedd, ffyddlondeb diball, ac uwchlaw y cyfan, duwioldeb mawr ac amlwg." Nid oedd yn un a fynychodd lawer ar y Cymanfaoedd a'r Cyfarfodydd Misol. Mewn gwasanaethu crefydd gartref y rhagorodd. Byddai fel colofn, gadarn, gref yn y moddion Sabbothol ac wythnosol, a rhoddai urddas ar bob moddion trwy ei bresenoldeb, a'i gyfiawniadau crefyddol. Yr ydoedd mor llawn o'r Ysgrythyrau, mor ddwfn ei brofiad, ac mor ddefosiynol ei feddwl, ac felly yn hynod o gyfaddas a pharod i ymdrin â phrofiadau y saint yn y cyfarfodydd eglwysig.
Oriadurwr ydoedd wrth ei alwedigaeth, a bu yn dra diwyd a llwyddianus yn ei orchwylion bydol. Hynodid ef fel masnachwr o ran ei onestrwydd a'i gywirdeb, fel yr enillodd ymddiried y dref a'r ardaloedd. Dyn byr, crwn, cadarn o gorffolaeth ydoedd; hynod ei ymddangosiad, ond hollol naturiol a boneddigaidd. Rhoddai yr olwg arno argraff ar feddwl pawb ei fod yn ddyn o feddwl dyfnach na'r cyffredin. Rhoddai agwedd ei gorff hefyd, a'i ddull o siarad, lawer o help i argraffu yn ddwfn ar y meddwl yr hyn a ddywedai mewn ymddiddan ac yn y cynulliadau cyhoeddus. Mor dywysogaidd fyddai yr olwg arno yn dyfod i'r addoliad, a chymaint o gynorthwy a roddai i'r llefarwyr trwy ei ddull astud o wrando, a'i ebychiadau cynes.
Fel arwydd o'r ymddiried a roddai ei frodyr ynddo, gosodwyd ef yn y swydd o drysorydd y Cyfarfod Misol, yr hon a lanwodd am dymor maith gyda ffyddlondeb mawr. Dewiswyd ef i'r swydd hon yn mis Mawrth, 1847. Ac yn y flwyddyn 1880, oherwydd henaint a llesgedd, rhoddodd ei ymddiriedaeth i fyny. Ar yr achlysur cyflwynwyd iddo Anerchiad wedi ei argraffu ar vellum, a'i osod mewn frame euraidd brydferth. Gwnaed y cyflwyniad yn gyhoeddus yn Nghyfarfod Misol Rhydymain. Mewn cysylltiad ar cyflwyniad, ei hen gyfaill, y Parch. Roger Edwards, a wnaeth y sylw canlynol:— Er yn ieuanc yr oedd efe yn enwog fel un tra chyfarwydd yn yr Ysgrythyrau, ac eang a dwfn ei wybodaeth dduwinyddol, wedi darllen y dadleuon athrawiaethol yn yr hen Seren Gomer, dan olygiaeth y Parch. Joseph Harries, ac yn un o'r rhai blaenaf yn nghyfarfodydd Cymdeithas Dduwinyddol capel Salem, a gynhelid rhyw 55 mlynedd yn ol. Ei hyddysgrwydd ysgrythyrol a geir yn darawiadol iawn pan y sieryd yn y cyfarfodydd eglwysig, a hawdd y gellir canfod gwres calon ynglyn â goleu pen yn ei gydnabyddiaeth o'r gwirionedd."
Mawr fyddai y syndod ei glywed yn fynych yn y cyfarfod eglwysig, ar nos Sabbath, yn adrodd yr Ysgrythyrau, yn enwedig Epistolau Paul, gyda'r fath helaethrwydd a rhwyddineb. Yr oedd yn berffaith hyddysg yn eu cynwys, ac ymollyngai i'w hadrodd y naill ar ol y llall yn hollol ddirybudd a dibarotoad. Yn y peth hwn yr oedd o flaen ei holl frodyr yn ei oes. Hunodd yntau gyda'r tadau Gorphenaf 13eg, 1884, yn 84 oed.
Hugh Jones.—Mab ydoedd ef i Edward Jones, un o flaenoriaid cyntaf Salem, ac a symudodd oddiyma i'r Dyffryn. Dygwyd ef felly i fyny ar aelwyd grefyddol, a chafodd ei hyfforddi yn y ffydd er yn ieuanc. Oherwydd rheolau caeth y Methodistiaid mewn cysylltiad a'r seithfed reol yn y Gyffes Ffydd, collodd ei aelodaeth am dymor, a theimlai hyd ddiwedd ei oes mai niwed a wnaeth yr hen bobl trwy gadw yn rhy dýn at y rheol. Modd bynag, daeth yn ddyn pwysig a defnyddiol iawn gyda chrefydd. Bu yn cario ymlaen fasnach ar ei gyfrifoldeb ei hun dros amser maith, a llwyddodd yn rhyfeddol yn ei amgylchiadau. Bu yn ddiwyd, a manwl, a chydwybodol yn ei orchwyl. Cyfrifid ef yn un o'r rhai mwyaf cywir a theg yn ei ymwneyd â'i gyd—ddynion o neb fu yn y byd erioed. Rhoddid yr ymddiried llwyraf iddo gan bawb o'i gymydogion. Dyn tawel, distaw, diymhongar, ydoedd bob amser. Gwnelai ei waith mewn distawrwydd, ac ni chai neb ei weled na'i glywed byth yn udganu o'i flaen. Gwrandawai yr efengyl fel pob peth arall a wnai o ddifrif, ac ysgrifenodd lawer o bregethau, gan ei fod wedi ymgydnabyddu a'r gelfyddyd o law fer.
Dewiswyd ef yn flaenor yn eglwys Salem Medi 6, 1863, a dau frawd eraill o'r un eglwys gydag ef. Wedi hyn y daeth fwyaf i'r golwg gyda chrefydd. Yr oedd yn meddu cymwysderau arbenig i fod yn swyddog yn yr eglwys ar gyfrif ei synwyr cryf, ei bwyll, a'i gydwybodolrwydd. Perchid ef yn fawr gan ei frodyr crefyddol yn gystal ag yn ei gysylltiadau masnachol. Bu yn llenwi dwy swydd yn perthyn i'r Cyfarfod Misol, sef trysorydd Trysorfa y Gweinidogion, a thrysorydd yr arian perthynol i'r Ysgol Sabbotho!, ac nid oedd modd cael neb i lenwi: y swyddi hyn yn well. Bu farw yn lled sydyn, Awst laf, 1882, yn 69 mlwydd oed.
Richard Morris.—Brodor o Ddolgellau oedd yntau, ac ystyrid ef yn ŵr da a chymeradwy ymysg ei gydnabod. Bu am bum mlynedd a deugain mewn swydd o ymddiried gyda'i orchwylion bydol, a dangosodd bob cywirdeb a gonestrwydd ynddi. Rhagorai ar y cyffredin fel athraw yn yr Ysgol Sul. Parhaodd yn iraidd ei ysbryd hyd ddiwedd ei oes, a rhoddodd ei ysgwyddau yn dyn o dan yr arch. Yn y diwygiad, 20 mlynedd yn ol, derbyniodd adnewyddiad arbenig i'w grefydd. Yn ddiweddar ar ei oes y dewiswyd ef yn flaenor, ond cyflawnodd ei waith yn y swydd gydag ymroddiad. Bu farw mewn tawelwch, gan orphwys ar drefn fawr yr iachawdwriaeth, Ionawr 1886.
David Jones, Eldon Square.—Yn y Goleuad Tach; 14, 1874, cofnodwyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le wythnos union yn flaenorol. Yn y rhifyn hwnw rhoddwyd cryn lawer o'i hanes, a'r wythnos ganlynol ymddangosodd erthygl ar ei gymeriad. Crynhodeb o'r hyn a geir yno a roddir yma. Gŵr prin 60 mlwydd oed ydoedd pan y gorphenodd ei yrfa, ac yr oedd yr oll o'i fywyd wedi bod yn grefyddol. Ymunodd ei rieni â chrefydd tua'r amser y ganwyd ef. Derbyniwyd yntau yn aelod eglwysig yn 14 oed, ac ni fu ddiwrnod allan o'r eglwys. Dygwyd ef i fyny yn swn yr efengyl, a chafodd fanteision i ymgydnabyddu â phethau goreu crefydd. Ymddengys iddo er yn fore ymroddi nid yn unig i fod yn grefyddol, ond i wneuthur ei oreu gyda chrefydd. Fel dyn gweithgar, defnyddiol, ymroddedig i bob gweithred dda, anhawdd oedd cael ei ragorach. Heblaw ei waith yn ei swydd fel blaenor, mewn tri pheth yr oedd ei ddefnyddioldeb yn hysbys i bawb—yn yr Ysgol Sul, gyda dirwest, a chyda chaniadaeth y cysegr. Yr oedd yn yr Ysgol Sabbothol er yn ieuanc, ac yn athraw fel yr Apostol Paul, mawrhaodd ei swydd. Ni bu neb erioed yn fwy yn ei elfen, nac yn fwy llwyddianus gyda'r gwaith hwn. Dywedir mai yr hyn a barai iddo fod mor llwyddianus fel athraw oedd, ei fywiogrwydd, ei zel, ei yni, a'i fyddlondeb. Yr oedd yr elfenau hyn ynddo hefyd yn ei wneuthur yn holwyddorwr galluog. Ond cyrhaeddodd ei ddefnyddioldeb yn mhellach na'r ysgol yr oedd yn athraw ynddi. "Bu yn ddefnyddiol iawn am flynyddau lawer yn Nosbarth Ysgolion Dolgellau fel ysgrifenydd y dosbarth am dymor maith, fel ymwelydd mynych a'r ysgolion, ac fel llywydd y dosbarth am rai blynyddau. Yn y cymeriadau hyn daeth yn ddyn i'r wlad oddiamgylch yn gystal ag i'r dref."
Peth arall y rhagorai yn fawr ynddo, os nad yn fwyaf o ddim, ydoedd fel dirwestwr. Ymunodd a dirwest yn y cychwyn cyntaf. Rhoddodd y diwygiad mawr dirwestol yn 1837 gychwyniad ynddo i fod yn weithiwr diball hyd ddydd ei farwolaeth gyda phob achos er llesoli ei gyd-ddynion. Efe, meddir, oedd prif golofn dirwest yn y dref. Yn ei dy ef cedwid llyfr dirwest, yn barod bob amser i feddwon y dref droi i mewn i ardystio â'u llaw. Fel y dywedir am y Gwaredwr ei fod yn "gyfaill pechaduriaid," felly y dywedid am David Jones ei fod yn yr ystyr yma yn gyfaill y meddwon. Ei amcan a'i awyddfryd penaf oedd, achub y meddwon, a gwaredu pob dyn ieuane rhag rhodio llwybrau y meddwon. Meddai ar yni, a brwdaniaeth, a medr tuhwnt i fesur i lesoli ei gyd-drefwyr yn yr achos hwn. Am 30 mlynedd bu yn arwain y canu yn nghapel Salem, ac ar ddiwedd y tymor hwn cydnabyddodd yr eglwys ei wasanaeth, trwy roddi anrheg iddo am ei ffyddlondeb. Bu am dymor hwy hefyd yn goleuo y capel. Ac nid oedd neb parotach nag ef i wneuthur pob gwaith a berthynai i'r eglwys. Pan fyddai rhyw orchwyl eisiau ei wneuthur, a phawb wedi ymesgusodi, troid ato ef a gofynid-"Dafydd Jones, a wnewch chwi?" "Mewn mynyd, os na wnaiff neb arall," fyddai yr ateb bron bob amser.
Medi 6, 1863, dewiswyd ef yn flaenor eglwysig, ond yr oedd yntau fel llawer wedi gwneuthur gwaith blaenor flynyddau lawer cyn hyny. Fel hyn y dywedai un o'i gyd—flaenoriaid am dano, "A chymeryd golwg gyflawn a'r holl gylch ei ddefnyddioldeb, ymddengys i ni yn ddieithriad y mwyaf anhawdd i Ddolgellau ei hebgor i'r Nefoedd o'i holl drigolion. O'r olyniaeth anrhydeddus o ddiaconiaid y bendithiodd Duw ei eglwys yn Salem â hwynt, ni roddodd yr un mwy ffyddlon a defnyddiol yn ei ddydd na'r brawd anwyl hwn." Daeth ei yrfa i'r pen yn sydyn, er galar i eglwys Salem, ac i'r dref oll. Byddai crefydd bob amser yn amlwg yn ei deulu. Mab iddo ef ydyw y Parch. D. Jones, Garegddu.
William Williams, Ivy House.—Ganwyd ef yn Plas Clocaenog, gerllaw Rhuthyn, yn y flwyddyn 1798. Yr oedd ei dad, Ellis Williams, yn amaethwr cyfrifol, a rhoddwyd pob manteision dysgeidiaeth i'r mab pan yn ieuanc. Gwnaeth yntau y defnydd goreu o honynt; ymberffeithiodd yn y canghenau o addysg a fu yn ddefnyddiol iddo fel masnachwr llwyddianus; yr oedd yn dra chydnabyddus yn yr iaith Saesneg, yn gyfrifydd parod, ac yn meddu ar lawysgrif ragorol. Treuliodd ei brentisiaeth fel draper yn y Bala, gyda Mr. Gabriel Davies, yr hwn oedd yn un o brif fasnachwyr brethynau Gogledd Cymru. Pan oedd yn aros yn y Bala, yr oedd yr anfarwol Mr. Charles yn fyw, yr hwn a alwai yn achlysurol yn y siop, ac a roddai symbyliad i'r prentis ieuanc â rhyw air cefnogol. Parodd y gydnabyddiaeth bersonol hon â Mr. Charles iddo ei edmygu yn anarferol trwy ei oes, a bu yn foddion i deyrngarwch at Fethodistiaeth wreiddio yn ei natur ieuanc ef ei hun. Yma hefyd,. yr adeg hon, yr oedd Mr. D. Davies, Mount Gardens, Liverpool, yn egwyddorwas yn yr un siop, ac yn fuan, fe ffurfiwyd cyfeillgarwch rhwng y ddau ŵr ieuanc a barhaodd trwy eu hoes. Gan eu bod ill dau yn llawn bywyd ac yni, ac wedi eu cymhwyso yn dda at fasnach, penderfynodd Mr. Gabriel Davies agor masnach yn Aberystwyth, ac anfonodd hwy yno i'w chario ymlaen. Nid oedd y naill na'r llall yn aelodau eglwysig ar y pryd, ond yr oeddynt yn fechgyn o gymeriad da, ac yn llawn zel gyda'r Ysgol Sabbothol a'r achos cenhadol. Wedi llwyddo yn fawr gyda'r fasnach yn Aberystwyth, yn 1821, ymsefydlodd Mri. Williams a Davies fel drapers yn Nolgellau. Er nad oeddynt eto yn aelodau eglwysig, rhoddasant eu tŷ yn agored i achos crefydd. Hwy, hefyd, fel y crybwyllwyd, fuont yn foddion i sefydlu y cyfarfod cenhadol misol yn Salem. Llwyddasant yn y byd mor gyflym, fel yr aeth eu masnachdy yn rhy gyfyng, ac yn 1826 adeiladasant y "Shop Newydd" bresenol. Yn fuan ar ol hyn ymunodd Mr. Davies â'r eglwys, ac yn 1830 ymadawodd o Ddolgellau i Liver- pool.
Yn y flwyddyn 1833 priododd Mr. Williams â Miss Alice Lloyd, o Ffestiniog, ac am dymor dygodd y fasnach ymlaen ar ei gyfrifoldeb ei hun. Profodd Mrs. Williams yn rhodd anmhrisiadwy i'w phriod; cariodd hi ddylanwad mawr ar yr achos yn Salem, ac ar y dref yn gyffredinol. Yr oedd yn un o'r boneddigesau mwyaf llednais yn yr holl wlad, ei haelioni at bob achos, a'i gofal am y tlodion yn ddiarebol. Byddai ei llygaid a'i chalon hi bob amser yn agored, a llawer pregethwr a gafodd ei anrhegu ganddi â gwisg deilwng i'w swydd. Erys ei choffadwriaeth yn berarogl hyd heddyw. Mrs. Williams a ymunodd â'r eglwys gyntaf, a chyn hir enillodd ei hysbryd duwiolfrydig hi ei phriod. Yr oedd ef yn weithiwr da gyda chrefydd o'r blaen, ond ar ol hyn dyblodd ei ddiwydrwydd. Yr oedd y fath gymwysderau ynddo at bob gwaith fel yr enillodd ymddiried llwyr ei frodyr ar unwaith. Ac yr oeddynt yn rhoddi braidd ormod o swyddi iddo cyn ei ddewis yn swyddog. Ni a'i cawn yn cael ei anfon i amryw Gymdeithasfaoedd gyda Mr. Humphreys o'r Dyffryn, ac yn cael ei nodi ar rai pwyllgorau pwysig, a hyny cyn bod yn aelod o'r Cyfarfod Misol. Yn y cyfnod hwn, anfonwyd ef dros y Cyfarfod Misol i Gynhadledd a gynhelid yn Aberystwyth, i wneuthur ymchwiliad i achos o anghydwelediad rhwng y Cyfundeb â Chymdeithas Genhadol Llundain. Dengys golebiaeth a gymerodd le rhyngddo ef â Mr. Davies, Fronheulog, ei fod yn aelod pwysig of honi.
Yn 1836 ymneillduodd oddiwrth ei fasnach, a threuliodd y gweddill o'i fywyd yn Ivy House, gan ymgysegru yn hollol i achos crefydd yn gyffredinol. Yn nechreu y flwyddyn 1844 y. dewiswyd ef yn flaenor, ac y derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol. Ond gymaint o waith oedd wedi ei wneyd cyn hyny i'r Sir ac i'r Cyfundeb! Bron nad ydyw ei weithredoedd da yn rhy liosog i ddechreu eu henwi. Ond wele rai o honynt. Efe oedd y prif symudydd i gael yr Ysgol Frytanaidd gyntaf i Ddolgellau, ac i gael yr adeilad newydd mewn cysylltiad â chapel Salem, a chyfranodd £85 at yr amcan. Dechreuwyd yr ysgol hon yn 1840. Prynodd y tir drachefn, lle yr adeiladwyd yr Ysgoldy hardd sydd yn awr yn perthyn i'r Bwrdd Ysgol, ac ac a'i cyflwynodd yn rhodd at yr un amcan. Pwne mawr cenhadaeth ei fywyd oedd addysg. Byddai Mr. Morgan yn arfer dweyd mai £300 Mr. Williams at y Gronfa, a'i £500 at yr. adeilad a roddodd y gefnogaeth gryfaf iddo ef i gychwyn gyda'r casgliad mawr hwnw. Efe hefyd a sefydlodd Ysgoloriaeth Charles yn y Bala. Rhoddodd gynorthwy arianol i bregethwyr ieuainc, ac anrhegion o lyfrau i ugeiniau. Yr oedd yn Ymneillduwr egwyddorol; am 30 mlynedd efe oedd y prif symudydd o blaid egwyddorion Rhyddfrydol, ac oherwydd ei fedrusrwydd, efe y rhan amlaf fyddai yn llywyddu y cyfarfodydd, pryd yr- ymladdwyd llawer brwydr galed. Ymhyfrydai mewn cynllunio ac ysgrifenu rhywbeth beunydd mewn cysylltiad â'r achos crefyddol yn y dref. Mae hanes cyflawn am holl symudiadau yr achos yn Salem wedi ei gadw ganddo, casgliadau y Cyfarfod Misol, hefyd, ac ystadegau lled gyflawn am flynyddau rai cyn iddynt gael eu hargraffu gyntaf yn 1849. Penodid ef yn aml yn ysgrifenydd neu drysorydd casgliadau y Gymdeithasfa, a bu yn un o ysgrifenyddion Athrofa y Bala bron o'r dechreu hyd amser y Gronfa. Os byddai eisiau man of business at unrhyw orchwyl, i Ivy House yr elid i chwilio am dano. Flynyddau yn ol yr oedd "Mr. Williams, Ivy House" yn air teuluaidd trwy yr holl Gyfundeb. "Yr oedd ei dy yn llety y fforddolion, ac yn swyddfa y Cyfundeb Methodistaidd. Nid anfynych, yn enwedig ar ddydd Sadwrn, y byddai y lle yn haner llawn o ddieithriaid, rhai yn bregethwyr, ac eraill yn flaenoriaid; rhai wedi dyfod i ymgynghori ynghylch gweithredoedd capeli, eraill ynghylch prynu tir i godi capel; eraill i holi am gyhoeddiad pregethwyr dieithr; eraill i drefnu cyfarfod pregethu; eraill heb un diben uwch ac heb broffesu diben uwch na chael ciniaw ar eu ffordd i rywle pellenig."
Bu Mr. Williams yn briod ddwywaith, ond ni bu iddo blant o gwbl. Ei ail wraig oedd Mrs. Jones, mam Mrs. Edward Griffith, Springfield. Yr oedd hithau hefyd yn gysegredig i'r achos mawr. Bu yn Ivy House am dros 20 mlynedd, ac yn dangos yr un caredigrwydd i grefydd yn ei holl gysylltiadau ag a wnaethid yno o'r blaen. Gorphenodd y boneddwr Cristionogol ei yrfa mewn tangnefedd, Tachwedd 2, 1874.
Robert Oliver Rees.—"Bendithiodd Duw ei eglwys yn Salem ag olyniaeth anrhydeddus o ddiaconiaid"—ydynt eiriau Mr. Rees ei hun, ac y mae yn anhawdd nodi yr un o blith y rhestr o ddechreuad Methodistiaeth yn y dref yn fwy galluog, gweithgar, a ffyddlon nag efe. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1817. Yr oedd ei rieni ar y pryd yn cadw tafarn, a'i dad yn aelod o eglwys y plwyf. Yn y dafarn uchod y sefydlwyd Cymdeithas y Cymreigyddion, yr hon a fu am flynyddau lawer yn un o'r cymdeithasau mwyaf llwyddianus yn Nghymru. Yr oedd hon yn ei gogoniant pan oedd Mr. R. O. Rees yn fachgen o 4 i 10 oed, a chafodd cymdeithas â'r beirdd a'r llenorion, a gyfarfyddent yn nhŷ ei rieni bob wythnos, ddylanwad mawr ar ei feddwl ieuanc, fel y bu dros ei holl oes yn gefnogol iawn i lenyddiaeth Gymreig, ac yn un o brif gyhoeddwyr Cymreig y genedl. Er mai i'r eglwys yr elai y tad, yr oedd tuedd y plant oll at fyned i'r capel. Y mae enwau Robert Oliver, a William ei frawd, a'u chwiorydd ar lyfrau capel Salem pan oeddynt yn ieuainc iawn. Yr oeddynt yn zelog gyda'r Ysgol Sabbothol a chyfarfodydd y plant, ac mewn amser enillwyd hwynt oll i ymgyflwyno i grefydd, ac i wneyd eu cartref gyda'r Methodistiaid. Cawn fod Mr. Rees yn cael ei dderbyn yn gyflawn aelod pan yn ŵr ieuanc dwy ar bymtheg oed, ac o hyny allan yn gysegredig hollol i grefydd. Nid oedd o gyfansoddiad cryf, ac ni fyddai byth yn cymeryd rhan yn chwareuon y plant. Ond os na allai oherwydd eiddilwch ragori mewn campau, byddai bob amser ar ben y rhestr yn ei ddosbarth yn y Grammar School. Ac un diwrnod mae ei athraw a'r person yn dyfod at ei rieni, ac yn dweyd ei fod wedi myned mor bell ymlaen mewn dysgeidiaeth fel na fyddai o un fantais iddo aros yno yn hwy, ond os byddai iddo ymgyflwyno i'r weinidogaeth mewn cysylltiad â'r Eglwys Wladol, y byddai iddynt hwy ei anfon i Rydychain, a gofalu am yr holl draul.
Yr oedd ei rieni yn falch o'r cynygiad ac yn llawn awydd am iddo yntau ei dderbyn. Ond ei wrthod a wnaeth ef yn benderfynol. Pan yn Llundain gwnaed ymosodiadau arno drachefn, ac y mae yntau yn ysgrifenu llythyr at ei fam, Gorphenaf 28, 1840. ac yn peri iddi ddweyd wrth J. Jones, sef y clochydd yn Nolgellau ar y pryd, "I will make my letter more compact and complete and show my reasons. for my opinion, so that they may not think I am half a Dissenter. I think that there is free will in the choice of our religion, wherever else our will is bound. But though I don't consider myself bound by Cyffes Ffydd, or anything else, to be a Methodist against my will, still I am a sincere Methodist and thoroughly convinced Calvinist after all, for so I think my Bible teaches me. I am bound to say so and to act so or insult my reason and my conscience, and so act the part of a hypocrite' Dengys y dyfyniad uehod o'i lythyr at ei fam pa mor drwyadl Ymneillduwr ydoedd y pryd hwn.
Cafodd ei rwymo yn egwyddorwas o feddyg gyda Dr Evans, Dolgellau, am 5 mlynedd, ond cyn pen tair blynedd gwelwyd nad oedd o gyfansoddiad digon cryf i fyned ymlaen fel meddyg, a daethpwyd i gytundeb gyda Dr. Evans i'w ryddhau. Yna cyflwynwyd ef i Mr. H. Humphreys, Aberystwyth, fel chemist. Tra oddicartref yr adeg yma mae ei lythyrau at ei fam o Aberystwyth, a Liverpool, a Llundain yn llawn o hanesion am symudiadau yr achosion crefyddol, ac yn dangos ei fod ef ei hun, yn hollol ymroddedig i grefydd.
Ar ol bod fel hyn rai blynyddau oddicartref, mae yn ymsefydlu yn Nolgellau yn y flwyddyn 1842 fel Chemist a Bookseller. Ni bu ond ychydig amser nad oedd wedi enill ei le, a hwnw yn lle pwysig, yn y dref ac yn eglwys Salem. O hyn allan mae yn dechreu rhagori fel athraw, fel holwyddorwr, ac yn llawn zel gyda dirwest, y Band of Hope, addysg, y Feibl Gymdeithias, a phob symudiad a dueddai i ddyrchafu a moesoli ei gyd-drefwyr. Yn fuan wedi ymsefydlu yn Nolgellau y mae yn dyfod i'r golwg fel llenor galluog. Un o'r rhai cyntaf i'w adnaood yn. yr ystyr yma, ydyw Dr. Edwards, o'r Bala. Y mae yn ei gyflogi yn un o ysgrifenwyr y Traethodydd, a hyny ar ei gychwyniad cyntaf. Mae yn anfon ato yn 1846, ac yn gofyn am erthygl ar Moffat, ac yna ar y Cenadaethau, ac wedi cael prawf arno fel ysgrifenydd, mae yn anfon iddo hanes cyflawn am y Traethodydd, y testynau a'r ysgrifenwyr &c, ac yn niwedd ei lythyr dywed, "But I must insist upon one condition, that you write an article for the Traethodydd without delay. I am in earnest about it, and it will be a heavy blow and great disappointment if you refuse. Send me an article for every other number on some general subject, either literary o'r scientific." Yn ei gys- ylltiad â'r wasg, gwnaeth Mr. Rees yn ddiamheuol ei ôl ar ei wlad yn y cyfnod yr oedd yn byw ynddo. "Fel ysgrifenwr, yr oedd ei enw yn adnabyddus trwy Gymru, a diameu ei fod yn un o'r lleygwyr Cymreig galluocaf. Cyhoeddodd amryw lyfrau Cymreig, a golygodd liaws eraill. Golygodd weithiau Dafydd Ionawr, ac ysgrifenodd hanes bywyd y bardd. Cyhoeddodd gyfieithiad o 'Gysondeb y Pedair Efengyl,' gan Robinson, at yr hwn yr ychwanegodd Nodiadau Eglurhaol o'i waith ei hun. Yn ddiweddarach, cyhoeddodd 'Gofiant Ieuan Gwynedd,' a golygodd weithiau barddonol Cranogwen. Ond feallai fod y llyfr diweddaf oll a gyhoeddodd, 'Hanes Mari Jones, y Gymraes fechan heb yr un Beibl,' wedi enill iddo fwy o fri nag unrhyw un o'i weithiau blaenorol." Y mae i'r llyfr hwn, megis y crybwyllwyd o'r blaen, gylchrediad anarferol o fawr, ac y mae wedi ei gyfieithu i liaws o wahanol ieithoedd. Cydnabyddwyd ei lafur gyda hyn, ynghyda'i wasanaeth cyffredinol i'r Feibl Gymdeithas gan y Fam Gymdeithas yn Llundain. Ychydig fisoedd cyn diwedd ei oes, anfonwyd am dano i gyfarfod o Gyfarwyddwyr y Gymdeithas, a chyflwynwyd iddo un o'r Beiblau harddaf yn anrheg er coffadwriaeth o'r amgylchiad. Ar y Beibl y mae anerchiad yn ysgrifenedig, yr hwn sydd wedi ei arwyddo gan lywydd y Gymdeithas, Iarll Shaftesbury, a'r ysgrifenyddion.
Yn nechreu y flwyddyn 1854 dewiswyd Mr. R. O. Rees, yn flaenor yn eglwys Salem, ac yn Abermaw, y mis Mawrth canlynol derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol. Gwasanaethodd y swydd yn yr eglwys hon gyda difrifwch ac ymroddiad, ac mae yn bur sicr nad oedd yr un dyn mwy duwiolfrydig ei yspryd yn perthyn i'r eglwys nag efe. Ac wedi adeiladu capel Bethel yn 1877, efe ydoedd un o golofnau cadarnaf yr eglwys yno. Dangosodd ei gariad at y Gwaredwr trwy gyfranu yn haelionus at wahanol achosion crefyddol ar hyd ei oes. Yn ychwanegol at yr hyn a gyfranodd yn y dref, a'r ardaloedd cylchynol, ac at y gwahanol gymdeithasau, argraffodd 1000 o copïau o'Hanes Mari Jones' yn y Casiaeg, i'w cyflwyno yn anrheg i'r Gymdeithas Genhadol Dramor. Ni byddai yn cymeryd rhan yn y Cyfarfodydd Misol a'r Cymdeithasfaoedd, ond byddai yn well ganddo, fel yr arferai ddweyd, fyned yn ei ffordd fach ei hun i ymweled âg Ysgolion Sabbothol Dosbarth Dolgellau. Yn y cylch hwn, fel y ceir gweled ei hanes yn helaeth yn y benod ar yr Ysgol Sabbothol, y bu ei wasanaeth yn fwyaf gwerthfawr o un man y tu allan i'w dref enedigol. Cymerwyd ef yn lled sydyn oddiwrth ei waith at ei wobr,. Chwefror 12, 1881.
Y PREGETHWYR.
Y Parch. Edward Ffoulk. Perthyna i'w hanes ef ddau hynodrwydd; efe oedd y cyntaf o'r pregethwyr adnabyddus a ddechreuodd bregethu yn Ngorllewin Meirionydd; ei oes ef oedd yr hwyaf yn y weinidogaeth o'r holl restr. Dechreuodd bregethu yn 1789, a bu farw Ebrill 3, 1855, yn 92 mlwydd oed, wedi bod yn pregethu dros 66 o flynyddau. Efe oedd y pregethwr hynaf er's peth amser cyn ei farw a berthynai i'r Methodistiaid Calfinaidd. Yr oedd yn frawd i'r Parch. Evan Ffoulk, Llanuwchllyn, ac yn ewythr i'r Parchn. Ffoulk Evans, Machynlleth, a Robert Evans, gynt o'r Roe, ac yn berthynas hefyd i amryw weinidogion a phregethwyr eraill. Ganwyd a magwyd ef yn Llanuwchllyn,. lle hynod er yn fore am wybodaeth ysgrythyrol, ac yr oedd yntau er yn ieuanc wedi ymgydnabyddu â'r gair. Ni chafodd dröedigaeth hynod, fel llawer yr oes hono, ond enillwyd ef yn raddol i fod yn un o ganlynwyr yr Iesu. Priododd ferch i glochydd Llanfachreth, a symudodd yno i fyw. Yr oedd yn dra chydnabyddus a helyntion crefydd yn yr ardal hono o'r dechreuad, cyn iddo ef ei hun ddechreu pregethu. Gyda ei dad yn nghyfraith, y clochydd, y trigai am ysbaid ar ol priodi, a thrwy ei ddylanwad ef yr agorwyd drws y hwnw i'r Methodistiaid gael pregethu a chynal societies ynddo, pryd nad oedd yr un tŷ arall i'w gael. Dechreuodd bregethu ei hun o dan yr amgylchiadau mwyaf anfanteisiol, yn unig am fod cariad Crist yn ei gymell, a chafodd brofi pwysau trymion erledigaeth yr amseroedd. Y mae yn hysbys, yn ol dywediad Lewis Morris, iddo fod yn gorphwys ychydig ganol dydd. Ac fel hyn y bu. Trwy garedigrwydd Mr. Thomas Pugh, un o flaenoriaid Dolgellau, cafodd ei benodi yn was Sheriff (yr oedd pob gwas Sheriff y pryd hyny yn cael pâr o ddillad newyddion). Yn ol arferiad yr amseroedd cynhelid ball ar ddiwedd y sessiwn, a daeth tro E. Ff. i gadw drws y ball—room. Cafodd ei ddenu gan un o'r boneddigion i gymeryd gwydriad, ac yn anwyliadwrus fe ymunodd yn y ddawnsfa. Dyna y trosedd. Nid hir y bu heb bregethu; adferwyd ef drachefn. Wedi hyny yr oedd ei zel a'i ymroddiad i'r gwaith yn cynyddu gyda'i ddyddiau. Pregethai yn fywiog, dilynai y Cyfarfod Misol yn gyson, a byddai bob amser yn ei le yn nghynulliad yr eglwys gartref. Un o'r rhai a'i hadwaenai oreu a ddywedai am dano, "Yr oedd efe yn perchen doniau rhwydd, ac yn dduwinydd da, ac arferai bregethu yn rheolaidd o ran materion, ac yn gyffrous o ran dull; ac er i'w dymer lem fywiog ei arwain i rai profedigaethau ar ryw dymhorau yn ei oes, yr oedd pawb a'i hadwaenai yn ei gydnabod yn Gristion yn wir, yn yr hwn nad oedd dwyll."
Y Parch. Robert Griffith—Llanwodd y gweinidog parchus hwn le mawr yn Nolgellau, ac yn yr oll o Sir Feirionydd am haner canrif lawn. Y mae iddo le arbenig mewn cysylltiad a dechreuad a chynydd yr achos Methodistaidd yn y dref. Mab ydoedd i Griffith a Margaret Roberts, o dafarn y Tŷ Mawr, Dolgellau. Ganed ef Hydref 13, 1770. Cafodd ysgol dda pan yn ieuanc, ac wedi hyny dygwyd ef i fyny yn y gelfyddyd o wneuthur hetiau. Ysgrifenodd ei hun ychydig o hanes dechreuad ei oes. Fel hyn y dywed am ei argraffiadau crefyddol cyntaf,—"Un o'r pethau mwyaf neillduol yr ydwyf yn ei gofio a ddechreuodd dueddu fy meddwl at radd o sobrwydd, ac i sylwi ar fy ffyrdd, oedd myned i wrando yn ddamweiniol ar y pregethwyr a ddeuent yn achlysurol i'n tref; rhai yn perthyn i'r Bedyddwyr, ond yn amlaf i'r Methodistiaid. Byddwn yn cael rhyw bleser neillduol wrth wrando ar bregethwr doniol; weithiau mi a gawn fwy o bleser nag mewn dim arall bron. Ond byddwn yn ceisio dilyn pleserau cnawdol ar yr un pryd; eithr byddai y rhai hyny weithiau yn myned yn hollol ddiflas i mi, hyd oni byddwn yn gorfod eu gadael, fel y gwartheg hyny yn gadael eu lloi gan frefu ar eu hol. Un noson, mewn dawns—gyfarfod, digwyddodd i mi fyned allan ar y canol, ac edrych i fyny ar y lleuad a'r ser, pan ar unwaith y daeth ynfydrwydd y pleser o ddawnsio i fy meddwl yn y fath fodd grymus, fel y bu raid i mi, yn lle myned ymlaen gyda'm cymdeithion llawen, dalu y shot, myned adref, gan alaru na allwn gael pleser yn y ddawns." Yr oedd rhywbeth a wnelai crefydd â'i feddwl yn nyddiau ei ieuenctid, er na chafodd ddim hyfforddiant crefyddol, a chydnabydda yn onest ddarfod i'r Arglwydd yn ei oruwchlywodraeth fawr ei atal rhag myned ar gyfeiliorn. "Byddwn yn dal sylw ar y pregethwyr," meddai, "yn son am yr Arglwydd yn llefa wrth ddynion, a bod y diafol yn temtio; ond ni fedrwn ddychmygu pa fodd yr oedd y naill na'r llall yn bod." Wedi methu yn ei ddisgwyliad o gael myned yn exciseman, penderfynodd fyned i weithio i Liverpool. "Er nad oeddwn yr amser hono yn gwybod am hanes Jacob pan yn myned o'i wlad, yr oeddwn mewn rhan yn bur debyg iddo, sef yn addunedu gwasanaethu Duw os rhoddai efe i mi ymborth a dillad." Cyrhaeddodd ben ei daith, ond crwydredig fu ei feddyliau am ysbaid o amser. Ymben oddeutu tair blynedd, pa fodd bynag, ac efe yn 21 oed, gwnaeth benderfyniad i ymuno â chrefydd. "Ar ryw nos Sabbath yn mis Tachwedd, 1791, perswadiwyd fy meddwl yn rymus i ymuno â phobl yr Arglwydd; ac wrth ddychwelyd adref, wedi bod yn gwrando y pregethau, dywedais yn fy zel a'm cariad cyntaf wrth ddau o'm cydwladwyr, y rhai oeddynt gyfeillion i mi, fy mod yn meddwl myned i'r society y nos Lun canlynol." Hyny a wnaeth. Ac o'r pryd hwnw hyd Ebrill 1793, bu yn cyfranogi o freintiau y gymdeithas eglwysig yn Liverpool. "Yn mis Mai y flwyddyn hono," meddai, "ymsefydlais yn Nolgellau, lle y ganwyd ac y magwyd fi."
Yn union ar ol ei ddychweliad, fel yr ydys wedi crybwyll rai gweithiau, elai gyda chyfeillion o Ddolgellau i wahanol ranau y wlad i gynal cyfarfodydd gweddïau. Prinder pregethwyr yn y Sir a barai iddynt wneuthur hyny. Yn fuan perswadiwyd ef i ddechreu pregethu. Er mwyn iddo gael help i ddeall meddwl yr Arglwydd yn y gorchwyl pwysig hwn, efe a ddywed y byddai yn ceisio dal sylw ar gynghorion y rhai mwyaf ysbrydol a deallus. "Gall y goreu o ddynion gamgymeryd," ebai, "ac y mae 'gan bob pen ei opiniwn.' Pan y dangosodd John Bunyan ei Daith Pererin gyntaf i'w gyfeillion, yr oeddynt yn dweyd,
'John, print it; others said, Not so;
Some said, It may do good; others said, No.'
Ond erbyn hyn, mae pawb o ddeall ymysg pob enwad yn barod i gyd—ddywedyd â Mr. Toplady, 'Bydd Taith Pererin Bunyan o ddefnydd gwastadol i bobl Dduw cyhyd ag y parhao haul a lleuad.' Yn gyffelyb y mae gyda phregethwyr; rhai am iddynt fyned ymlaen, ac eraill yn barnu y dylent aros yn ol." Ar ol dechreu pregethu parhaodd yn ddidroi yn ol hyd y diwedd, gan ymddibynu am ei fara beunyddiol ar ei alwedigaeth fydol. Daeth yn fuan yn gymeradwy iawn fel pregethwr, oblegid ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth yn Nghymdeithasfa y Bala, Mehefin 1814. Dyma yr ail dro i ordeiniad gymeryd lle yn y Gogledd. Yr oedd Mr. Charles yn bresenol yn yr ordeiniad hwn; hoffai ef Robert Griffith yn fawr ar gyfrif ei fod yn ŵr o ddeall cryf a chwaeth dda. Yr hanes. am dano o'i ordeiniad ymlaen ydyw, iddo lafurio yn yr efengyl am 30 mlynedd ymron yn hollol rad, gan wir ofalu am achos Duw yn y sir yn gystal ag yn ei gartref ei hun. Oherwydd fod. gweinidogion ordeiniedig yn brinion, efe a elwid i weinyddu yr ordinhadau yn yr holl wlad o amgylch am flynyddau lawer.
Fel pregethwr, ymresymu y byddai, fel pe yn siarad a chyfeillion wrth y tân—"Yr wyf yn diolch i ti nad wyf fi fel y mae dynion eraill." "Ie, yn siwr, fe ddylai dynion eraill ddiolch nad ydynt fel tithau!" Eto, "Y bobl yn anghrediniol, a Iesu Grist yn rhyfeddu at eu hanghrediniaeth. Yr wyf fi wedi. rhoddi corff i chwi: tybed na roddaf ddillad hefyd? Ydych chwi yn meddwl, wedi i mi roi peth mor fawr a chorph i chwi, na roddaf dipyn o ddillad am dano?" Dyna ei ddull. Safai yn uchel yn ngolwg pawb o chwaeth a barn dda.
"Yr oedd yn ŵr hybarch yr olwg arno, o faintioli corfforol cyffredin, o wynepryd tirion, a chanddo lygaid gloywon a chall; yr oedd yn meddu mwy na chyffredin o synwyr a phwyll, ac nid. hawdd oedd ei gyffroi." Yn niwedd ei oes byddai yr olwg arno yn batriarchaidd. Teithiai bob amser ar geffyl; gwisg dda am dano; cloak fawr dros hono bron yn ei guddio ef a'i anifail. Ystyrid ef yn un da iawn am gadw at ei gyhoeddiad, a byddai yn hynod o gyson i ddechreu y cyfarfod eglwysig yn brydlon. Pan y tarawai y clock saith o'r gloch, gwisgai ei wydrau, a. dechreuai ei hun pwy bynag fyddai yn bresenol.
Hynodid ef yn y cyfarfod eglwysig am ei ofal arbenig am y plant, a'r bobl ieuainc. Byddai yn ei elfen gyda hwy, a hwythau gydag yntau. Meddai allu fwy na'r cyffredin i hyfforddi ac adeiladu yr eglwys mewn gwybodaeth a chrefydd. Yr oedd yn ŵr blaenllaw a dylanwadol, nid yn unig yn y dref, ond yn Nghyfarfod Misol ei sir hefyd. Ei onestrwydd a'i ddiffuantrwydd oeddynt hysbys i bawb o'i gydoeswyr. A'r hyn a'i gwnelai yn ŵr tra galluog mewn cymdeithas oedd ei ffraeth-eiriau a'i atebion parod, llawer o ba rai a gofir hyd heddyw gan ei gymydogion.
Priododd ddwy waith; y tro cyntaf yn 1797; ar ail dro yn 1830. Cyfarfyddodd â phrofedigaeth fawr yn y rhan olaf o'i oes; oblegid rhyw anghydwelediad, bu am ychydig amser heb fod yn perthyn i'r Methodistiaid. Yr hyn a ddywed ei fyw-graffydd,. y Parch. Roger Edwards, am hyn ydyw, "Digon tebyg y gallai fod byrbwylldra o bob ochr; a gwir yr hen air, 'Nid yw y goreu o ddynion ond dynion ar y goreu." Nid oedd yr holl helynt. na mwy na llai na bod chwedlau wedi cael eu taenu, nid am dano ef ei hun, ond am un oedd yn dal perthynas ag ef, y rhai ni phrofwyd ac o bosibl nad oedd modd eu profi. Daeth ef yn ol at ei frodyr yn bur fuan, ac mewn parch mawr y diweddodd. ei oes yn eu plith. Bu farw Gorphenaf 22, 1844, yn 74 mlwydd oed, ac erys ei enw yn uchel fel un a weithiodd ei ddiwrnod yn dda yn ngwinllan ei Arglwydd.
Y Parch. Richard Roberts.—Deng mlynedd ar hugain yn ol, yr oedd ef yn un o'r rhai mwyaf adnabyddus yn Sir Feirionydd. Bu yn llenwi cylch o ddefnyddioldeb am dymor maith, mewn adeg yr oedd crefyddwyr yn ychydig, a phregethwyr yn brinion yn y sir. Erbyn hyn, y mae cenhedlaeth newydd wedi cyfodi ar ol iddo ef fyned i'r orphwysfa.
Ganwyd ef Tachwedd 14eg, 1786. Ei gartref yn nyddiau ei febyd oedd Hafodfedw, gerllaw Llanelltyd. Yr oedd ei dad yn ŵr crefyddol, ac yn un o ddilynwyr cyntaf y Methodistiaid yn y wlad; er hyny, gwyllt ac afreolus oedd ef yn nyddiau ei ieuenctid. Daeth at grefydd pan o 18 i 20 mlwydd oed. Yr oedd wedi bod yn gwrando ar Edward Foulk yn pregethu yn y Ganllwyd. Teimlai yn bur anesmwyth am ddyddiau, ac i geisio cael tawelwch i'w feddwl, aeth i "noswaith lawen" a gynhelid yn Ty'nygroes. Pan ar ganol dawnsio, gwelai yr ystafell yn suddo dano, a dychrynodd gymaint fel yr aeth allan ar unwaith yn nghanol gwawdiaeth pawb oedd yn bresenol. Yn fuan ar ol hyn, ymunodd â'r eglwys yn Nolgellau, a dechreuodd yn uniongyrchol wneyd yr hyn a allai gyda'r Ysgol Sabbothol. Hanes arall am dano a roddir yn llawysgrif L. W. ydyw, mai yn yr Ysgol Sul yr argyhoeddwyd ef. Ond nid yw hyny mewn un modd yn anghyson â'r hyn a ddywedwyd uchod. "Clywais ef yn dweyd," ebe L. W., "bod arno ddyled i wneyd a allai gyda'r ysgol, oherwydd yn yr Ysgol Sabbothol y cafodd ef weled y perygl o fod yn un o'r cyfryw ag a fydd ar aswy law y Barnwr yn y dydd olaf. Yr wyf yn cofio y tro mewn hen dy yn Llanelltyd a elwid Tanllan. Yr oedd cyn y tro crybwylledig yn un o'r rhai yr oedd arnaf fwyaf o ofn ei weled yn dyfod i'r ysgol ddyddiol; byddai yn ymddangos mor hyf, ac yn gymaint uwchlaw i mi, nes y byddwn yn methu dweyd dim wrtho, ond byddwn yn dirgel weddio drosto. Clywais ef yn dweyd wedi hyny fod arno yntau fy ofn inau." Dywed yr hen ysgolfeistr amryw bethau eraill mewn cysylltiad ag argyhoeddiad R. R. Buont yn cysgu gyda'u gilydd yn Hafodfedw heb ddweyd yr un gair y naill wrth y llall, gan ofn eu gilydd, "ond wedi hyny," ebai, "buom lawer noswaith efo ein gilydd heb allu cysgu fawr oherwydd ein hanwyldeb o'n gilydd, a thrwy ymddiddan am bethau crefyddol." Tystiolaeth yr athraw hefyd ydyw, fod Richard Roberts yn ddiatreg ar ol ei argyhoeddiad, fel Saul o Tarsus,. wedi ymroddi i ffyddlondeb gyda'r Ysgol Sul yn Llanelltyd, y Ganllwyd, Buarthyré, a Llanfachreth. "A bu o hyny allan o fawr les a chynorthwy i'r Ysgol Sabbothol, ac i minau, a'r Arglwydd yn bendithio ei lafur. Nid oedd genyf neb o gyffelyb feddwl, ac ni bu neb o gymaint o help i mi gyda'r Ysgol Sabbothol yn ardaloedd Dolgellau." Bu dan addysg am tua blwyddyn gyda'r Parch.—Jones,. Lodge, yn agos i'r Bala, yr hwn oedd Reithor Llanfor, ac yn berthynas iddo, gyda'r amcan o'i ddwyn i fyny yn berson. Ond gan nad oedd yn awyddus am fyned ymlaen yn y cyfeiriad hwnw, dychwelodd adref.
Dechreuodd bregethu yn nechreu y flwyddyn 1815, ac yn Rhagfyr yr un flwyddyn, derbyniwyd ef gan y Cyfarfod Misol fel pregethwr; ac ar yr un pryd ag ef, y Parch. Lewis Williams, Richard Jones, Bala, Daniel Evans, Harlech, a John Peters, Trawsfynydd. Y lle cyntaf y bu yn pregethu ynddo. ydoedd, ffermdy Bwlchrhoswen, yn mhlwyf Llanfachreth, gyda L. Williams. Mynodd L. W. bregethu gyntaf, ac er mawr siomiant i'w gyfaill, aeth a'i destyn a'i bregeth, sef y Salm gyntaf; a bu raid iddo yntau syrthio ar un arall. Modd bynag, daeth drwyddi yn well na'r disgwyliad, oblegid fe waeddodd ryw hen ŵr dall oedd yno, yr hwn a dybiai fod y gynulleidfa a'r pregethwyr wedi ymwasgaru:—"Yn wir, mi gurodd Dic ddwy ên yr ysgolfeistr heno." Teithiodd yn achlysurol trwy Dde a Gogledd Cymru, a bu ar amryw ymweliadau â Liverpool a Manchester. Ordeiniwyd ef i gyflawn. waith y weinidogaeth yn Nghymdeithasfa Machynlleth, Mehefin 9fed, 1853.
Pan ar ei daeth i'r De, pregethodd yn Aberystwyth ar y testyn, "Dos, gwerth yr olew, a thal dy ddyled" (2 Bren. iv. 7); ac ar ei ddychweliad yn ol ymhen rhai wythnosau trwy y dref, daeth ato fasnachwr cyfrifol gan roddi £1 yn nghil ei ddwrn, a a dywedyd wrtho fod ei bregeth wedi dwyn lles iddo ef ei fod wedi derbyn hen ddyled o gryn swm dranoeth wedi y bregeth gan un oedd yn ei gwrando. Clywodd ei gyfeillion ef yn dweyd, ddarfod i lawer geisio ganddo wedi hyny bregethu y bregeth hono—ysgrifenid y cais gyda chalk y tu mewn i'r pulpudau, ond ni fyddai ef yn ufuddhau ar y cyfryw achlysuron. Pregethai yn ymarferol, ac ysgrythyrol, ac ar adegau yn rymus iawn, a bu yn ddiameu yn foddion tröedigaeth i lawer. Y mae gan ei deulu lyfrau yn cynwys dros 400 o'i bregethau wedi eu hysgrifenu yn hynod o fân. Penau y bregeth y bu cymaint o son am dani, sef ar y testyn "gwerth yr olew, a thal dy ddyled," ydynt—I Amryw ffyrdd y mae dynion yn myned i sefyllfa nas gallant wneuthur cyfiawnder. II Bod yr Arglwydd yn dyrchafu rhai drachefn i sefyllfa y gallant wneuthur cyfiawnder. III Dyledstrydd orchymynedig.—"tal dy ddyled." Gwnaeth lawer o waith gyda'r plant yn niwygiad 1859; ac yr oedd yn neillduol o zelog gyda Dirwest, gweithiai yn egniol dros lwyrymwrthodiad pan oedd egwyddorion cymedroldeb a llwyrymwrthodiad yn cael sylw arbenig yn y wlad. A chymeryd ei oes oll yn oll, yr oedd yn un gweithgar a defnyddiol.
Yn y Dyddiadur am 1862, ceir yr hyn a ganlyn ymysg y dau ar farwolaethau pregethwyr, "Mai 17, 1861, y Parch. Richard Roberts, Dolgellau, yn 76 mlwydd oed, wedi treulio 46 mlynedd yn ngwaith y weinidogaeth, yn ddiargyhoedd yn ei holl fuchedd, ac yn ddiofid i'w frodyr. Bu yn teithio yn achlysurol trwy holl Gymru, a chofir yn hir am liaws o'i destynau a'i bregethau, trwy y rhai y gwnaed llawer o les mewn amrywiol fanau. Yr oedd yn gyfarwydd iawn yn yr Ysgrythyrau, ac yr oedd hyd y diwedd yn astudio a chyfansoddi pregethau. Yn ei gartref byddai yn gyson yn holl foddion gras, ac yn ffyddlawn gyda phob achos da. Bu yn ddiwyd, cywir, a difefl yn ei gysylltiad a'r byd; ac ni byddai byth yn dangos teimlad angharuaidd neu genfigenllyd os byddai brodyr ieuangach yn y weinidogaeth yn derbyn mwy o sylw nag efe. Cymerwyd ef yn glaf wrth ddychwelyd o Gyfarfod Misol; a phan yr oedd cnawd a chalon yn pallu, yr oedd ei ffydd a'i obaith yn Nghrist yn dal yn gadarn a diysgog."
Y Parch. John Williams.—Preswyliai yr ugain mlynedd olaf ei oes yn Waukesha, Wisconsin, U.D. Ganwyd ef yn Manchester. Ei fam, yr hon oedd yn Saesnes o genedl, a fu farw pan oedd yn bump oed. Wedi hyny, dygwyd ef i fyny gan ei ewythr, Ellis Williams, Dolgellau, a phreswyliodd yma am tua phedair blynedd ar ddeg ar hugain. Yma y dechreuodd bregethu. "O berthynas i mi fy hun," meddai mewn llythyr at yr ysgrifenydd, "derbyniwyd fi yn aelod cyflawn o Gyfarfod Misol y sir yn Dolyddelen, Mai 1834, ac yn ddilynol i hyny, yn mis Mehefin, yr un flwyddyn, yn gyflawn aelod o'r holl Gyfundeb. Cychwynodd y symudiad yn fy nghylch yn Nolgellau, ar ddiwedd 1832." Cyn ei ymfudiad i'r America, bu yn byw am naw blynedd yn Dyffryn, man genedigol ei ail wraig, yr hon oedd yn chwaer i'r diweddar Hugh Jones, draper, Dolgellau, a'r hon, meddir, oedd yn "wraig o gyneddfau naturiol cryfion anghyffredin, o wybodaeth eang, ac o dduwioldeb diamhenol."
Y gwasanaeth cyhoeddus penaf a wnaeth yn y wlad yma oedd, ei waith fel ysgrifenydd Cyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd. Bu yn y swydd o Mai 8, 1846, hyd Mawrth 8, 1854. Nid oedd yn bosibl cael ei well i gyflawni y swydd hon. Mae ei gofnodion yn fanwl, cyflawn, a chryno. Yn ystod tymor ei ysgrifenyddiaeth casglodd lawer o ffeithiau mewn cysylltiad â'r achos i'w rhoddi yn Llyfr y Cofnodion. Yn Nghyfarfod Misol Abermaw, Mawrth 1854, ar ei gychwyniad i'r America, cwynai y brodyr oll oblegid eu colled am dano fel brawd, fel pregethwr, ac yn enwedig fel ysgrifenydd manwl a ffyddlon i'r Cyfarfod Misol. Ac fel arwydd o'u parch iddo, penderfynwyd fod i'r trysorydd ei anrhegu âg 8p o Drysorfa y Cyfarfod Misol.
Wedi ymfudo i'r America, bu yn weinidog yr eglwys Fethodistaidd yn Ebensburg, Penn., am bum mlynedd. Symudodd oddiyno i Pittsburg, lle yr arhosodd am flwyddyn; am y pum' mlynedd nesaf bu yn gweinidogaethu yn Freedom, Swydd Cattarangus, Efrog Newydd. Yn 1866, ymsefydlodd yn Waukesha, lle bu yn hynod ddefnyddiol hyd ddiwedd ei oes. Bu yn ysgrifenydd y dosbarth yno am gryn nifer o flynyddoedd, yr hon swydd a gyflawnodd gyda'r gofal a'r taclusrwydd oedd mor nodweddiadol o hono. Oddeutu mis cyn marw ysgrifenai at ysgrifenydd Cyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd, "Carwn i chwi fy nghofio at y frawdoliaeth yn y Cyfarfod Misol, ynghyd âg eglwysi y Methodistiaid yn ac oddiamgylch Dolgellau." Y Sabbath olaf y bu fyw pregethodd yn nghapel Jerusalem, yn hynod o wlithog, a'r wythnos wed'yn yr oedd wrthi yn parotoi pregeth at y Sabbath dilynol; ond cymerwyd ef ymaith yn hynod sydyn, Ebrill 30ain, 1887, yn 81 mlwydd oed.
Y Parch. Roger Edwards, D.D. Yn y Wyddgrug y treuliodd ef dymor mawr ei oes, ond gan mai yn Nolgellau y dechreuodd ei yrfa gyhoeddus, rhoddir yma grynhodeb o hanes y cyfnod hwnw. Ganwyd ef yn y Bala, Ionawr 10fed, 1811, ond symudodd ei rieni i fyw i Ddolgellau, pan nad ydoedd ond tri mis oed. Ei dad oedd yn flaenor tra amlwg yn nghapel Salem, ond a fu farw yn nghanol ei ddyddiau. Dechreuodd y Parch. Roger Elwards fod yn weithgar a defnyddiol gyda chrefydd pan yn llanc ieuanc. Efe oedd ysgrifenydd "Seiat y Plant, ac am dymor yn ysgrifenydd yr Ysgol Sabbothol. Daeth ei dalent a'r elfen wasanaethgar a hynodai ei oes i'r golwg yn ieuengach na'r cyffredin. Pregethodd ei bregeth gyntaf yn Nolgellau o flaen y Parch. Richard Jones, Wern, nos Sabbath, Rhagfyr 5ed, 1830, cyn bod yn llawn 20 oed. Bu yn cadw ysgol yn Nolgellau y pryd hwn am yn agos i dair blynedd, ac ymroddodd ar unwaith i bob gwaith crefyddol. Yn nechreu 1835, symudodd o Ddolgellau i'r Wyddgrug, ac yno yr ymsefydlodd hyd ddiwedd ei oes. O hyny i'r diwedd mae ei fywyd gweithgar a llafurus yn hysbys. Bu yn ysgrifenydd y Sasiwn am 32 mlynedd; yn olygydd y Drysorfa am dros 40 mlynedd. Golygodd amryw lyfrau pwysig; casglodd a chyfansoddodd amryw eraill. Bu yn llenwi yr holl swyddi a berthynai i'r Cyfundeb. A'i gymeryd oll yn oll, y tebyg ydyw mai efe oedd y mwyaf gwasanaethgar i achos y Methodistiaid o bawb yn ei oes. Bu farw Gorphenaf 19eg, 1886, yn 76 mlwydd oed.
BONTDDU.
Hawlia y Bontddu, yn ol pob tebyg, yr ail le mewn hynafiaeth ymysg eglwysi dosbarth Dolgellau. Adeiladwyd y capel yma yn ail o ran amser, sef yr agosaf i'r capel cyntaf yn Nolgellau. Ond y mae bron yr oll o hanes boreuol yr Eglwys. wedi myned ar gyfrgoll. Nid ymddengys fod dim ond un frawddeg o'i hanes yn y cyfnod hwn wedi ei chadw trwy yr argraff-wasg, sef yw hono, "Mae hen achos gan y Methodistiaid yn yr ardal hon, dan yr enw Bontddu, hyd heddyw." Ysgrifenwyd y frawddeg yna ddeugain mlynedd yn ol, ac y mae yn cyfeirio at le arall yn y gymydogaeth y bu llawer o bregethu ynddo yn lled foreu. O fewn oddeutu milldir i Bontddu, yn nes i'r Abermaw, y mae ffermdy o'r enw Maesafallen, y lle enwocaf oll yn y cylchoedd hyn, mewn cysylltiad â. chrefydd, ar gyfrif ei hynafiaeth. Rhoddwyd crynhodeb o hanes y lle wrth ysgrifenu am yr achos rhwng y Ddwy Afon. Gan fod yr achos yn y Bontddu wedi tarddu o'r fan hon, y mae gair o berthynas i'r lle yn angenrheidiol eto. O gylch canol y ganrif ddiweddaf, yn ol Hanes Eglwysi Annibynol Cymru, perchenog a phreswylydd Maesafallen oedd Cadben William Dedwydd, gwr genedigol o Abergwaun, Sir Benfro, yr hwn a fu yn seren oleu yn awyrgylch crefydd yn y rhan yma o'r wlad. Yr un adeg, yr oedd y Parch. Benjamin Evans yn gweinidogaethu gyda'r Annibynwyr yn Llanuwchllyn. Yr oedd y Cadben Dedwydd yn berthynas agos i wraig B. Evans. Oddeutu 1770 cofrestrodd Mr. Evans gegin Maesafallen i bregethu ynddi, a byddai yn dyfod yma yn fynych i gyhoeddi y newyddion da hyd 1777, pryd yr ymadawodd o Lanuwchllyn i Hwlffordd. Oherwydd diffyg gweithwyr, gadawyd y maes hwn am dros ugain mlynedd. Diau mai y pregethu a fu yma ydoedd cnewyllyn yr achos a ddechreuwyd wedi hyny yn y Bontddu. Cafodd yr ardal y fantais fawr o glywed yr efengyl yn cael ei phregethu cyn bod rhyddid na thawelwch i bregethu yn unman arall o fewn y cyffiniau. A'r hyn sydd debygol ydyw, mai yn ystod yr ugain mlynedd dilynol i 1777 y ffurfiwyd achos yma gan y Methodistiaid. Dywedir yn mhellach am Maesafallen, "Deuai rhai o bregethwyr y Methodistiaid hefyd yno i bregethu. Rhoddai hyn gyfleusdra i grefyddwyr Dolgellau gael ambell bregeth; ac er fod y ffordd ymhell, fe ddeuai llawer o honynt yno, y gwyr ar ol cadw noswyl oddiwrth eu gwaith, a'r gwragedd hefyd, ar ol rhoddi y plant i orphwys— i wrando yr efengyl; 'yr oedd gair yr Arglwydd yn werthfawr yn y dyddiau hyny!'" Methodistiaeth Cymru, I, 509. Cyfarfyddir âg ambell un eto o'r hynafgwyr a'r hynaf—wragedd a glywodd yr hen bobl yn adrodd, mai mewn cwch dros Lyn Penmaen y byddent yn myned o Ddolgellau yno, am fod y ffordd hono yn ferach, yn gystal ag yn fwy dirgelaidd.
Yr ydys yn lled sicr fod eglwys wedi ei sefydlu yma cyn 1800. Yn y flwyddyn hono, medd Lewis William, y daith Sabbath oedd—Bontddu, Llanfachreth, a Dolgellau. Yr unig daith yn y dosbarth. Eto gellir casglu nad oedd yr eglwys wedi ei ffurfio ond ychydig amser cyn y dyddiad uchod, oblegid â'r eglwys yn Nolgellau, ac nid yn y Bontddu, yr ymunodd Hugh Barrow, Tynant, pan y daeth at grefydd, yr hyn a gymerodd le oddeutu 1796. Dywedir y byddai ef y pryd hwnw yn myned i Ddolgellau, i'r cyfarfod eglwysig am naw o'r gloch boreu Sul, i'r Bontddu at ddau, ac yn ol i'r dref at chwech yn yr hwyr. Gallai yr un pryd fod yr eglwys wedi ei sefydlu rai blynyddau yn flaenorol i'r dyddiad crybwylledig. Ond hynyma yn unig ellir gael am ddechreuad yr achos.
Adeiladwyd y capel cyntaf yn 1803; dyddiwyd y weithred Mehefin 21 y flwyddyn hono. Ymddiriedolwyr—Hugh Barrow, Robert Griffith, John Griffith, John Ellis, Bermo, Thomas Pugh, Owen Dafydd, Thomas Charles. Rhoddodd Mr. William Jones, perchenog a phreswylydd Bryntirion, y tir ar brydles o 99 mlynedd, am swllt o ardreth flynyddol. Yr oedd ef yn wr cyfrifol yn yr ardal, ac yn uwch ei amgylchiadau na'r cyffredin. Efe oedd y prif ysgogydd gydag adeiladu y capel, a phriodolid dwyn traul yr adeiladaeth iddo ef, oblegid nid oes dim gwybodaeth am na thraul na dyled yn perthyn i'r addoldy fel yr adeiladwyd ef gyntaf. Yn ychwanegol at ei sefyllfa dda yn y byd, yr oedd Mr. Jones yn ŵr hynaws a charedig; ceir ei hanes yn ymgymeryd â'r cyfrifoldeb penaf gydag ysgol ddyddiol yr ardal, yn amser Lewis William. Ymhen amser newidiodd ei farn, gadawodd y Methodistiaid, ac ymunodd â'r Wesleyaid, a dywedir iddo adeiladu capel drachefn iddynt hwythau yn y Bontddu. Bu adnewyddu a helaethu ar hen gapel y Methodistiaid amryw weithiau. Ac yn ei ddull diweddaraf, cyn symud i'r capel presenol, ychydig dros ugain mlynedd yn ol, ei gynllun ydoedd, hir un ffordd a chul y ffordd arall, y pulpud yn yr ochr, a chorph y gwrandawyr ar y dde a'r aswy i'r llefarwr. Yn 1864 prynwyd y brydles a'r ardd o flaen yr hen gapel am £30; a'r flwyddyn ganlynol adeiladwyd y capel presenol, i gynwys lle i 200, ar y draul o oddeutu £500. Yr un flwyddyn hefyd adeiladwyd ysgoldy Caegwian, yr hwn a gynwys le i 100 i eistedd. Rhoddwyd am y tir yno 5p. 7s. Oc. ac aeth y draul rhwng pobpeth yn £103. Mae y capel a'r ysgoldy yn awr (1888) wedi eu clirio oddieithr £100. Yn raddol y cliriwyd y ddyled, trwy y casgliad dydd diolchgarwch am y cynhauaf, arian yr eisteddleoedd, ac yn benaf trwy fyned a'r box casglu o amgylch yn yr Ysgol Sabbothol.
Bum' mlynedd ar hugain yn ol ysgrifenodd rhyw frawd oedd yn gydnabyddus a'r ardal, Hanes Byr am Ysgol Sabbothol y Bontddu. Fel hyn y dywed mewn ychydig o frawddegau,— "Sefydlwyd yr Ysgol Sabbothol yn ardal y Bontddu rywbryd yn y flwyddyn 1803. Dechreuwyd ei chynal yn y capel. Y peth a arweiniodd i'w sefydliad oedd, dyfodiad gŵr dieithr o Sir Gaernarfon i'r cymydogaethau hyn, o'r enw John Jones, chwarelwr wrth ei alwedigaeth. Bu yn gweithio yn chwarel Cefncam am oddeutu blwyddyn, a lletyai yn Cwmmynach Isaf. Byddai yn dyfod i'r Bontddu bob Sabbath, ac yn myned o amgylch i gymell pobl i ddyfod i'r ysgol. Dywedir mai ei rhif pan ei sefydlwyd oedd chewch. Nid oes dim byd neillduol ynglyn a'r hanes yma." Ni bu yn hollol heb ddim neillduol yn perthyn iddi ychwaith, hyd yn nod yn ei blynyddoedd cyntaf. Ymhen rhyw ddeuddeng mlynedd ar ol ei dechreuad buwyd yn meddwl am ei rhoddi i fyny. Cynhaliwyd cyfarfod athrawon o bwrpas i ymgynghori pa un ai ei rhoddi i fyny ynte ei chario ymlaen a wneid. Yr oedd Lewis William yma ar y pryd yn cadw ysgol ddyddiol, ac nid oedd dim o'r fath beth a rhoddi dim byd i fyny yn ei gredo ef; cystal y gellid disgwyl gweled Cader Idris yn symud oddiar ei gwadnau, neu afon y Bermo yn rhedeg yn ei hol tua'r mynydd, a'i weled ef yn rhoddi yr Ysgol Sul i fyny. Trwy ei bresenoldeb a'i ddylanwad, y penderfyniad y daethpwyd iddo yn y cyfarfod y noson hono oedd ei chario ymlaen deued a ddelai.
Ymysg y rhai a fu yn flaenllaw gyda'r achos yma, enwir Richard Edwards, Muriau Cochion, a Catherine Edwards, ei chwaer, fel y rhai hynotaf o'r crefyddwyr cyntaf. Owen Dafydd a Hugh Barrow hefyd oeddynt ser disglaer y cyfnod cyntaf. Yr oedd hen grefyddwyr yr eglwys hon yn hynod ar amryw gyfrifon am eu duwioldeb, am eu hymlyniad wrth eu gilydd a'u parch i'w gilydd, am eu ffyddlondeb yn dilyn moddion gras. Preswyliai rhai teuluoedd yn y cymoedd pell, a chanddynt lawer o filldiroedd o bob cyfeiriad i ddyfod i'r capel, er hyny ni chollai yr un o honynt byth mor cyfarfod eglwysig wythnosol. Y côf gan y rhai hynaf sydd yn fyw yn awr am danynt ydyw, eu bod yn nodedig am eu duwioldeb, eu hymddiried yn y naill a'r llall, a'u hymroddiad i grefydd. "Rhai rhagorol y ddaear" mewn graddau anghyffredin o uchel oeddynt. Y mae hanes cyfarfodydd eglwysig a gynhaliwyd yma yn 1807 yu nodweddiadol o'r cymeriad a roddir iddynt, yn gystal ag yn addysgiadol i grefyddwyr ymhob man, ar bob amserau. Bu L. W. yma yn cadw ysgol ddyddiol amryw weithiau o dro i dro, ac am y chwarter yn yr haf yr oedd yma y flwyddyn hon y mae wedi cadw cofnodion manwl o'r cyfarfodydd eglwysig, o ba rai y rhoddwn ychydig engreifftiau, fel y gellir gweled y dull y dygid seiadau ymlaen yr amser hwnw.
Y CYD-CYNULLIAD YN Y BONTDDU YN 1807.
"Y dull yr oeddid yn myned ymlaen yn y rhan hyny o addoliad Duw, sef y cydgynulliad, yn y Bout—ddu, yn y flwyddyn 1807; a'r pethau neillduol oedd yn cael eu dwyn ymlaen yn ein plith er adeiladaeth. Y cydgynulliad cyntaf oedd ar Mehefin 26ain, yn dechreu am 7 o'r gloch y prydnhawn.
Yn gyntaf, fe ddarllenwyd rhan o'r Gair Sanctaidd, sef y 3edd. benod o'r Ephesiaid, a thrachefn fe ganwyd penill o hymn, sef hwn:—
Nid oes un gwrthrych yn y byd,
Yn deilwng o fy serchi a'm bryd;
Mae tynfa'm henaid canaid cu
At drysor tragwyddoldeb fry.'
Yn ganlynol fe aed i weddio ar i Dduw ein bendithio. Nis gallwn lai na meddwl y llwyddwyd yn y tro. Wedi hyn ni a godasom ac a eisteddasom, a'r gair a sefydlodd yn fwyaf neillduol yn ein meddwl y tro hwn oedd, y 18fed adnod yn y 3edd benod o'r Ephesiaid, ac oddiwrtho ni a farnasom fod arnom eisiau yn neillduol ein gwreiddio a'n seilio mewn cariad.
Ni a feddyliasom oni chaem ein gwreiddio mewn cariad, na cheid dim ffrwyth arnom, ac felly y byddai i'r Tad dynu pob cangen ddiffrwyth ymaith (Ioan xv. 2). Ni a farnasom fod hyny yn beth dychrynllyd os byddai iddo gymeryd lle yn ein plith.
2 Ac oni chaem ein gwreiddio mewn cariad, nas gallem sefyll yn ngwyneb yr ystormydd o demtasiynau a phrofedigaethau oddiwrth y byd, y cnawd, a'r diafol; ac y byddem o rifedi y rhai a fyddent yn ngwyneb y brofedigaeth yn cilio. (Luc xiii. 13). Ni a ddychrynasom yn fawr rhag ein bod heb ein gwreiddio mewn cariad, wrth edrych ar y gair yn Matt. xiii, 20, 21, "Ar hwn a hauwyd ar y creigleoedd yw yr hwn sydd yn gwrando'r gair, ac yn ebrwydd trwy lawenydd yn ei dderbyn &c." Ac hefyd yr adnod hon a'n dychrynodd, 2 Thes. ii, 10, "Am na dderbyniasant gariad y gwirionedd, fel y byddent gadwedig." A ni a ddarfum farnu hefyd fod y morwynion ffol, y cyfryw ag sydd yn cael yr enw yn Matt, xxv, heb eu gwreiddio. mewn cariad; ac ni a ofnasom rhag ein bod o'u rhifedi. Hefyd ni a feddyliasom fod y gwas anfuddiol sydd yn cael son am dano yn yr un benod, yn gyfryw nad oedd wedi ei wreiddio na'i seilio mewn cariad, oddiwrth iddo farnu ei feistr yn ŵr caled. Meddyliasom na wnaethai cariad byth felly. Ac hefyd fod yr holl rai hyny yr un modd heb eu gwreiddio a'u seilio mewn cariad sydd yn niwedd yr un benod, y rhai nad oeddynt wedi ymddwyn yn addas tuag at Dduw a'i achos a'i bobl yn y byd; ac yn hyn ni a welsom y perygl yn fawr rhag ein bod o rifedi y rhai hyny a ant i gosbedigaeth dragwyddol. Ni a farnasom hefyd fod y prenau diffrwyth y sonir am danynt yn Matt. vii. 19, yn cyfeirio at yr un peth, ac mai anghariad yw y drain a'r ysgall, neu o leiaf y gellid cymeryd hyny, oherwydd ni a feddyliasom mai anghariad yw y peth mwyaf pigog, ac nas gellid casglu dim ffrwyth da lle y byddai. Meddyliasom hefyd fod y rhai hyny yn yr 22ain adnod yn ol o'u gwreiddio a'u seilio mewn cariad, er eu bod yn proffesu eu hunain eu bod wedi proffwydo yn enw yr Arglwydd, a gwneuthur gwyrthiau lawer yn ei enw ef. Casglem hyn oddiwrth dystiolaeth yr Arglwydd Iesu, gan ei fod yn dweyd nas adwaenai ef mohonynt. Dyna ddarfu i ni feddwl oedd hyny, dim cyfeillach na chymdeithas wedi bod rhyngddynt âg ef erioed, ac fe ddarfu i ni farnu fod cyfeillach a chymdeithas rhwng y rhai sydd wedi eu gwreiddio a'u seilio mewn cariad â'r Arglwydd.
3. Ni a farnasom nad oedd dim ar a allem ni ei wneuthur yn y byd er dim lles a buddioldeb i ni, os byddem heb ein. gwreiddio mewn cariad, yn ol tystiolaeth Paul, I Cor. xiii. 1, 2, 3.
4 Ni a welsom ei ardderchowgrwydd yn fawr yn yr adnodau hyn yn yr un benod—4, 5, 6, 7, 8, 13; ac oni chaem ein seilio mewn cariad, na byddai ein holl adeiladaeth yn ddim gwell na'r tŷ ar y tywod (Matt. vii, 26).
Yn ganlynol ni a farnasom mai peth ag yr oedd yr holl saint wedi ei gael oedd hyn, sef eu gwreiddio a'u seilio mewn cariad, a'u bod yn amgyffred i ryw raddau beth yw y lled, a'r hyd, a'r dyfnder, a'r uchder (Ephes. iii. 18). Ac yn y fan hon ni a ddychrynasom rhag ein bod yn fyr o gael y peth ag yr oedd yr holl saint yn feddianol arno. Ond hyny a'n cysurodd, ein bod eto yn y fan y cawsant hwy ef, ac y gallem ddweyd, pwy a wyr na welir ni y peth nad ydym. Ac i'r diben o ddod o hyd i wybod cariad Crist, yr hwn sydd uwchlaw gwybodaeth, ni a farnasom y gallai fod er budd neillduol i ni ymdrechu cael allan yr Ysgrythyrau sydd yn datguddio ac yn dweyd am gariad Duw, erbyn y cydgynulliad nesaf."
AIL GYD-GYNULLIAD, GORPHENAF 3YDD. 1807.
"Ni a'i dechreuasom ef trwy ddarllen rhan o'r Gair, sef Ioan
xv., ac yn ganlynol, ni a ganasom yr hymn hwn:—Tra rhaid i mi wisgo'r arfau,
Dwyn y groes trwy orthrymderau,
Rho dy gwmni, dyna ddigon,
Nes myn'd adre' i wisgo'r goron.'
Ni a awn heibio yn bresenol i lawer o bethau buddiol ac adeiladol, yn mherthynas i ffydd a'i ffrwythau, yn nechreu y cydgynulliad hwn, heb son am danynt yn y fan hon. Felly cerddodd yr amser, ni a aethom ymlaen at y pethau oedd dan ein hystyriaeth er y cyfarfod o'r blaen, ac i'r diben o'u cael yn fwy cyson, ni a ofynasom bump o gwestiynau, i'w hateb trwy yr Ysgrythyrau. Y cwestiynau oedd y rhai hyn:—
1 A ydyw cariad yn briodoledd yn Nuw!
2 Pa fath un ydyw cariad Duw?
3 A oes gan gariad Duw wrthddrychau neillduol?
4 A oes budd neillduol i'r cyfryw wrthddrychau i'w gael oddiwrth gariad Duw?
5 Pa fodd y datguddiodd Duw ei gariad tuagat y cyfryw wrthddrychau?
[Yna atebir y cwestiynau yn llawn, trwy ddyfynu nifer mawr o adnodau ar bob un."]
Fel hyn y cerid y cyfarfodydd eglwysig ymlaen wythnos ar ol wythnos, hyd yn nod yn mhoethder prysurdeb misoedd yr haf. Nid hawdd ydyw penderfynu pa un i synu ato fwyaf, ai hyddysgrwydd y crefyddwyr hyn yn yr Ysgrythyrau, ai crefyddolrwydd eu hysbryd, ai manylwch digyffelyb L. W. yn cofnodi hanes y cyfarfodydd. Enwau y rhai a fu yma yn gwasanaethu swydd diacon, fel y cafwyd hwy oddiwrth y swyddogion presenol, ydynt:—
Owen Dafydd. Gwydd wrth ei gelfyddyd. Cydnabyddir mai efe oedd diacon cyntaf yr Eglwys, a gwelir ei fod yn un o ymddiriedolwyr y capel cyntaf. Yr oedd yn ddiarebol am ei dduwioldeb a'i ffyddlondeb. Bu yn y swydd yn hir. Ymadawodd â'r byd hwn oddeutu 1837.
Hugh Barrow. Yr ail flaenor, a'r hynotaf ar rai cyfrifon yn yr holl gylchoedd hyn. Ganwyd ef yn 1770, ac yn fuan ar ol priodi, sef tua diwedd 1796, ymunodd ef a'i briod Margaret Barrow, âg Eglwys Crist gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Nolgellau. Yn fuan bwriodd ei goelbren i ofalu am yr eglwys fechan yn y Bontddu, er ei fod yn byw yn Tynant, yn agos i Lanelltyd (nid oedd eto achos wedi ei sefydlu yn y lle olaf). Tua'r pryd hwn cauodd y drws lle y derbynid pregethwyr yn y Bontddu, ac agorwyd drws Tynant iddynt, a bu yn llydan agored hyd nes y bu farw y ddau hen bererin a drigent yno. Bu Tynant yn gartref clyd i weinidogion y gair, ac yn fath o half—way house yr holl amser hyn. Byddai y gŵr, a'r wraig, a'r plant am y cyntaf yn croesawu y cenhadon hedd. Bendithiwyd y tŷ, fel tŷ Obededom, a byddai y penteulu yn dweyd yn fynych fod y bendithion tymhorol a ddaethai iddynt wedi dyfod oherwydd iddynt dderbyn pregethwyr yr efengyl i'w tŷ. Yr oedd Hugh Barrow yn gryf a chadarn mewn dau beth—yn yr athrawiaeth, ac yn erbyn pechod. Balchder oedd y pechod y curai arno fynychaf. Byddai yr ordd fawr i fyny yn wastad ganddo i daro hwn. Galwai Dafydd Davies, Cowarch, heibio un diwrnod ar ei ffordd o sasiwn y Bala. Nid oedd Hugh Barrow wedi gallu bod yno ei hun, ond holai yr hen bregethwr yn fanwl am y peth yma a'r peth arall, a gofynai, "Sut yr oedd hi yn y cyfarfod ordeinio?" "Yr oedd yno lawer o blant y diafol," ebe yr hen bregethwr, gan olygu wrth hyny y pregethwyr ieuainc oedd yn troi qu pi. Yr oedd H. B. hefyd yn gryf a chadarn yn yr athrawiaeth. Dywedai am Eiriadur Mr. Charles yn ngeiriau Dafydd Cadwaladr:—
"Y Dr. Morgan, a'r hen Salsbri
Ddaeth a'r trysor goreu i ni;
Ac ar eu hol ni chafodd Cymru
Gyffelyb i'th Eiriadur di."
Bu yr hen flaenor farw mewn parch a dylanwad anghyffredin Ebrill 25, 1852, a'i briod Medi 10 yr un flwyddyn.
Dafydd Owen. Mab teilwng ymhob ystyr i'r duwiol Owen Dafydd, blaenor cyntaf y Bontddu. Symudodd oddiyma yn 1845 i Sion, a threuliodd ddiwedd ei oes yn y Dyffryn. Troes allan, fel y ceir gweled ei hanes eto ynglyn a'r eglwysi eraill, yn un o'r cymeriadau mwyaf trwyadl. Efe oedd trysorydd yr eglwys yma am rai blynyddau, ac wrth gyflwyno y llyfr i'w olynydd ar ei symudiad i fyw i Arthog, ysgrifena, "Daliwch sylw, nid aeth dim mwy nag a gasglwyd at gynal y weinidogaeth rhoddwyd y gweddill a gasglwyd at hyn i fyned at achosion eraill, yr hyn mae'n debyg nad oedd weddus."
Hugh Pugh. Dywedai hen bregethwr wrtho ef ar ei neillduad i'r swydd, "Cofia Hugh, rhaid i ti siarad pan y dymunet ti dewi, a thewi pan y dymunet ti siarad."
William Williams (hynaf), Bwlch Coch, ac Edward Parry a neillduwyd i'r swydd o flaenoriaid Chewfror 1844. Cyn hir ar ol hyn dewiswyd W. Williams, (ieu). Bwlch Coch, a William Barrow, wedi hyny o Lanelltyd. Yn ddiweddarach bu John Jones, o'r Bontddu yn flaenor yma. Y rhai sydd yn y swydd yn bresenol ydynt Mri. W. Williams, Hugh Price, John Parry, Owen Jones, Rees Jones, ac Owen Edwards.
Dyna yr oll o restr y blaenoriaid mor gywir ag y cafwyd hi o'r lle rai misoedd yn ol. Enwir o blith y chwiorydd yr amser gynt Pegy Sion a Jiny Llwyd fel y rhai hynotaf. Bu eraill hefyd yn wasanaethgar i hyrwyddo y gwersyll yn ei flaen. Ac yn yr amseroedd diweddaf, dylid coffàu yn arbenig wasanaeth ffyddlon Mr. Roderick Humphreys a'i briod yn lletya pregethwyr er's amser maith hyd y pryd hwn.
Deugain mlynedd yn ol, a chyn hyny, ychydig a roddid gan yr eglwys hon yn gystal ag eglwysi eraill cyffelyb iddi, i'r rhai fyddai yn eu gwasanaethu yn yr efengyl—swllt, deunaw ceiniog, a dau swllt y Sabbath—a cheir yn llyfr yr eglwys y byddai Mr. Humphreys, a Mr. Rees Jones, Abermaw, yma yn pregethu yn fynych, ac ar ol eu henwau hwy y mae dwy O gron. Ond yr amser aeth heibio oedd hyn. Bum mlynedd ar hugain yn ol, pan oedd y gwaith aur yn llwyddo yn yr ardal, yr oedd yr eglwys a'r gynulleidfa yn lliosog, ond y mae lleihad yn y boblogaeth wedi effeithio i beri gwanhau yr achos.
Daeth y Parch. D. Jones, yn awr o Garegddu, yma i lafurio fel gweinidog yn 1862, a bu ei arosiad am ysbaid tair blynedd, pryd y symudodd i Lanbedr. Dechreuodd y Parch. J. Davies. ar ei lafur yma a Llanelltyd yn 1865, a bu yn ffyddlon a gwasanaethgar i'r achos hyd 1883, pryd y rhoddodd ei le i fyny. Y mae y Parch. E. V. Humphreys yn awr mewn cysylltiad gweinidogaethol â'r ddwy eglwys er 1885. Cafwyd yn garedig help ganddo ef i gasglu yr hanes hwn. Genedigol o'r ardal hon ydyw y Parch. O. E. Williams, RhosLlanerchrugog. Dechreuodd bregethu yn Llundain, ond holwyd ef yn Nghyfarfod Misol Aberdyfi, Chwefror 1878, a rhoddwyd caniatad idio fyned i Athrofa y Bala y flwyddyn hono.
LLANFACHRETH
Nid oes neb wedi talu sylw i hanes Methodistiaeth Sir Feirionydd heb wybod am Lanfachreth. Mae y lle mewn ystyr grefyddol yr hynotaf o un man yn y sir ar gyfrif yr erledigaeth chwerw a brofodd yr ardalwyr, a'r rhwystrau anhygoel a gafwyd i ddwyn achos yr Arglwydd ymlaen, yn niwedd y ganrif ddiweddaf a dechreu y ganrif bresenol. Am ba achos y mae i'r eglwys hon hanes meithach na'i chwiorydd a'i chymydogesau. Yn dra fFodus, mae y prif ffeithiau am y dechreuad yma wedi eu cofnodi. Yr oedd y cofiadur anghymarol, Lewis William, yn byw yn Llanfachreth pan oedd Methodistiaeth Cymru yn cael ei ysgrifenu, a chasglodd ac anfonodd ef y pethau hynotaf i'r awdwr ar y pryd. Eto, nid yw yr hanes sydd wedi ei gyhoeddi yn y gyfrol hono yn cyraedd ond yn unig dros ugain mlynedd o amser, o'r pryd y dechreuwyd pregethu yn yr ardal hyd yr adeg yr adeiladwyd y capel y tro cyntaf, sef o 1783 i 1804. Mae yr hyn a gofnodir yma yn cynwys rhai manylion ychwanegol, ynghyd a'r hanes o'r dyddiad diweddaf i lawr i'r amser presenol.
Pedair milldir ydyw yr ardal o dref Dolgellau, ac mewn safle
yn hytrach o'r neilldu, i gyfeiriad y mynyddoedd, fel nad oedd
dim yn sefyllfa y gymydogaeth i beri bod yr efengyl wedi cael
dyfodiad bore i'r lle. Y flwyddyn y pregethwyd gyntaf gan y
Methodistiaid yma oedd 1783, mewn lle a elwir Llyn-pwll-y-gela,
a hysbysir mai William Evans, Fedw Arian, gerllaw y Bala,
oedd y pregethwr. Cymerodd hyn le pan oedd pawb yn y
gymydogaeth yn ofni derbyn pregethwyr a phregethu i'w tai.
Y gŵr a agorodd ei dŷ gyntaf oedd Evan James, yr hwn oedd
yn byw yn Tynyffridd, oddeutu milldir o bentref Llanfachreth.
Mae teulu y gŵr hwn yn golofnau o tan yr achos eto, ac un o
honynt, sef Mr. Griffith Evans, Ffriddgoch, yn flaenor yn yr
eglwys. Gwynebodd Evan James rwystrau mawrion trwy agor
drws ei dŷ i'r efengyl, a deuai helbulon am ei ben o bob
cyfeiriad. Codai erledigaeth chwerw yn ei erbyn oddiwrth ei
gymydogion, ac hefyd oddiwrth dylwyth ei dŷ ei hun. "Un
tro, fe ddaeth Mr. Foulkes, o'r Bala, a rhyw offeiriad o'r enw Mr.
Williams [y Parch. Peter Williams] gydag ef. Ymddygodd yr
erlidwyr yn ffyrnig tuag atynt, a thynwyd Mr. Foulkes i lawr, a
bu gorfod arno dewi. Tra yr oedd hyn yn cymeryd lle,
yr oedd yr offeiriad o'r Deheudir yn y ty. Aeth un John Lewis
o Ddolgellau ato, a gofynodd iddo, a oedd digon o wroldeb
ynddo i roddi ei einioes dros Iesu Grist, os byddai raid. Yntau
a atebodd fod. Yna aeth allan tua'r gynulleidfa, y rhai pan
welsant arno wedd offeiriad a ofnasant, gan ddywedyd, 'Offeiriad ydyw;" a chafodd lonydd i bregethu.'[7] Cyfarfyddai Evan
James â rhwystr blin ac anniddig arall. Yr oedd ei wraig, y
pryd hwn, o leiaf, yn ddieithr i'r efengyl, ac amlygai anfoddlonrwydd pendant i'w gŵr wario dim o'i arian tuagat draul y
pregethwyr. "Nid oedd yn anfoddlon iddo dreulio rhyw
gymaint am gwrw, neu ryw ddiod feddwol arall, gan y tybid
yn gyffredin y pryd hwnw fod buddioldeb mawr ynddi. Yr oedd Evan James yn arfer myned yn fynych, dros y plwyf, i
ryw barth o'r Deheudir, a thelid iddo am ei amser, ynghyd â'i
gostau. Caniateid iddo ryw gyfran at ddiod ar hyd y ffordd;
ond y gyfran hon a gedwid yn ofalus ganddo, gan yfed dwfr o'r
ffynon, yn lle eu gwario; felly cadwai y wraig yn ddiddig, a
darparai ar gyfer â rhyw gostau gwir angenrheidiol gydag achos
Duw." Mae yr hanes sydd wedi ei gadw am y gŵr da hwn yn
terfynu ar hyn. Oddiwrth yr ychydig sydd wedi ei gofnodi
gwelir ei fod yn seren ddisglaer yn llewyrchu mewn amser
tywyll. Ond byr amser y bu y pregethu yn ei dŷ ef.
Y lle nesaf y rhoddwyd lloches i achos y Methodistiaid oedd yn nhŷ John Pugh, y clochydd. Yr oedd y John Pugh hwn yn dad-yn-nghyfraith i'r pregethwr tra adnabyddus, Edward Foulk, Dolgellau. Hynod yn yr oes hon ydyw clywed mai tŷ y clochydd oedd yr unig le mewn ardal y pregethid gan yr Ymneillduwyr; hynod hefyd ydyw fod clochydd yn dad-yn- nghyfraith i bregethwr Methodistaidd; a hynotach fyth ydyw fod Cyfarfod Misol wedi ei gynal yn nhŷ y clochydd yn Llanfachreth. Ond gwelir oddiwrth ysgrifau L. W., mai Edward Foulk a'i wraig oedd wedi cael y tŷ hwn i'r Methodistiaid; yr oedd ef yn byw gyda'i dad-yn-nghyfraith ar y pryd, cyn iddo ddechreu pregethu. Clywodd yr offeiriad fod y clochydd yn rhoddi ei dy i'r Methodistiaid i bregethu ynddo, yr hyn nis. gallai ar un cyfrif ei oddef. A'r canlyniad a fu ei droi oi swydd. Rhoddwyd hysbysiadau fod eisiau clochydd newydd. Arweiniodd hyn drachefn i ganlyniadau lled bwysig, sef i wanychu yr Eglwys yn y Llan, ac i gryfhau achos yr Ymneillduwyr. Yr oedd gan yr offeiriad ŵr neillduol mewn golwg i fod yn glochydd; cyhoeddwyd vestry i wneyd y dewisiad; ond syrthiodd dewisiad y plwyfolion ar ŵr arall. Wrth hyn ffromodd yr offeiriad yn aruthr, a haerai mai ganddo ef yr oedd yr hawl i ddewis clochydd. Aethpwyd i ddadleu ar y mater, digiodd y plwyfolion, a dywedent nad aent i'r Llan i wrando mwy. Haerai gŵr o ddylanwad, yr hwn oedd yn berchen tir ei hun yn mhen uchaf y plwyf, fod y plwyfolion wedi cael eu sarhau, a chynygiodd dir i'r Ymneillduwyr i adeiladu capel arno. Y cynygiad hwn a dderbyniwyd gan yr Annibynwyr, ac adeiladasant gapel yn Rhydymain, yr hwn oedd y capel cyntaf gan unrhyw enwad yn y plwyf. Adeiladwyd y capel hwn yn y flwyddyn 1788. Pum' mlynedd yn flaenorol, fel y gwelwyd, y traddodwyd y bregeth gyntaf gan y Methodistiaid yn Llanfachreth, ond yr oedd y naill beth a'r llall yn peri fod yr achos wedi cynyddu llawer erbyn hyn. Bu troad y clochydd o'i swydd am roddi ei dŷ yn agored i dderbyn pregethu ynddo, a dewisiad un arall yn ei le, yn foddion i ddieithrio y plwyfolion oddiwrth yr eglwys, ac i beri fod Ymneillduaeth yn enill nerth.
Yn amser y ffrwgwd uchod gyda'r clochydd, nid oedd gan y Methodistiaid yr un capel yn y plwyf, ac ni chawsant yr un am dros bymtheng mlynedd wedi hyn. A mawr fu yr helynt cyn y caed y capel cyntaf yma o dan dô.
Y mae yn angenrheidiol hysbysu mai yr achos o'r helyntion blin, a'r erledigaeth chwerw a ddilynodd am flynyddau meithion oedd, fod boneddwr o fri yn byw o fewn oddeutu milldir o'r pentref, yr hwn oedd yn berchen yr oll o'r bron o'r plwyf, a'r plwyfolion i gyd, oddieithr ychydig eithriadau, yn dibynu arno am eu bywoliaeth. Yr oedd y boneddwr hwn yn elyn trwyadl i Ymneillduaeth, ac wedi gwneuthur diofryd y mynai gau allan bob enwad Ymneillduol am byth o'r plwyf. A thuag at wneyd hyny, yr oedd wedi penderfynu gwneuthur pob ymgais i sicrhau pob modfedd o dir yn y plwyf yn eiddo iddo ci hun. Modd bynag, yr oedd y tŷ yr addolai y Methodistiaid ynddo y pryd hwn yn eiddo gŵr arall, ond yr oedd wedi myned yn dŷ anghysurus, ac yn wael ei lun. Gan ei fod felly, daeth i fryd ei berchenog ei werthu. Meddyliai y boneddwr yn ddios ei brynu, er mwyn rhwystro i'r Methodistiaid ei gael. Pan ddeallwyd hyn, dygwyd yr achos i Gyfarfod Misol y sir, a phenderfynwyd yno ar unwaith ei brynu. Prynwyd ef drostynt gan un o'r enw Ellis Jones, gŵr oedd ar y pryd mewn proffes yn aelod o'r Cyfundeb; ond yn lle ei drosglwyddo i'r Methodistiaid, gosododd ef iddynt dan ardreth flynyddol o 3p.
Mae yr hanes o hyn hyd amser agoriad y cape!, yn 1804, i'w weled yn ysgrifau L. W., copi o'r hwn a anfonodd i awdwr Methodistiaeth Cymru, oddeutu deugain mlynedd i eleni. Gan ei fod mor ddyddorol, rhoddir ef i lawr fel y mae yn argraffedig yno:—
"Ymddengys amgylchiadau lled hynod yn mhryniad y tŷ bychan hwn, a'r ardd a berthynai iddo—y fath, feallai, na ddylid eu gadael allan yn ddisylw. Yr oedd y gwr a'i prynodd dros y Cwrdd Misol, ar y pryd y gwnaeth efe hyny, yn aelod yn y Cyfundeb, ac yn perchen meddianau bydol. Eto, nid hir y bu ar ol hyn heb ddangos mai nid Israeliad yn wir, yn yr hwn nid oes dwyll,' ydoedd. Yn lle rhoddi y pryniad i fyny i'r Cyfarfod Misol, yn ol ei addewid, gomeddodd ei ollwng o'i feddiant, ond gosododd ef i'r Methodistiaid dan ardreth o 3p. y flwyddyn, sef llog y 60p. a gostiodd y tŷ iddo. Wedi i rai blynyddoedd fyned heibio, ac i'r prynwr golli ei broffes, a'i feddianau bydol, daeth gorfod arno werthu y tŷ hwn hefyd. Pan glywodd y gŵr boneddig fod y lle eto ar werth, penderfynodd ei brynu; gorchymynodd i ŵr fyned drosto at y gwerthwr ar ddiwrnod penodol, i'r diben i'w brynu. Ond y diwrnod cyn i hyn gymeryd lle, daeth y gyfrinach i glustiau cyfaill i'r achos crefyddol. Galwodd ato dri o gyfeillion eraill, gan eu hysbysu nad oedd dim amser i'w golli, os mynent gael y tŷ crybwylledig i'w meddiant. Bwriodd hyn y brodyr i drallod a phenbleth blin:—nis gwyddent pa beth a wnaent. Gwyddent yn dda os collent y lle hwn, nad oedd nemawr obaith y ceid un man arall yn y plwyf, ac y llethid yr achos crefyddol mewn canlyniad.
"Wedi gweddïo am gyfarwyddyd, ac ymgynghori â'u gilydd, penderfynasant ar fod dau o honynt, sef Mr. Lewis Evans, a Mr. John Dafydd, Dolyclochydd, i fyned yn foreu dranoeth at y gwerthwr, a phrynu y lle, os gallent. Treuliwyd y noson hono mewn pryder digwsg, ac yn foreu dranoeth, aeth Mr. Lewis Evans at y gŵr (yr hwn a gymerai arno fod yn gryn gyfaill iddo), ac a'i hysbysodd fod ei dyddyn ef wedi ei werthu, ac y byddai raid iddo ymadael â'r gymydogaeth, yr hyn oedd yn beth blin iawn ganddo, am nad oedd un lle arall yn ymgynyg iddo; ac mai da fuasai ganddo gael rhyw le bychan i fyw ynddo yn Llanfachreth, yn hytrach nag ymadael o'r gymydogaeth. Nid wyf finau yn dewis i chwi ymadael,' ebe y gwr, ac os gwna y tŷ bach a'r ardd sydd genyf yn Llanfachreth ryw wasanaeth i chwi i aros ei well, mi a'i gwerthaf i chwi.' Am ba faint?' ebe Lewis Evans. Enwyd swm go fawr, llawer mwy na'i werth; ond wedi hir siarad, cytunwyd am dano, rhoddwyd ernes arno, a chafodd Lewis Evans y gweithredoedd gydag ef i'w gartref. Bellach ni chafwyd un rhwystr i drosglwyddo y lle i ymddiriedolwyr at achos y Cyfundeb.
"Gwnaeth y boneddwr bob ymdrech a allai i gael y tŷ oddiar Lewis Evans, ac nid oes amheuaeth na allasai elwa llawer ar y pryniad a wnaeth; ond hyn ni fynasai ei wneyd ar un cyfrif, gan y golygai hyny yn dwyll o'r fath adgasaf. Y mae y ffaith yn adnabyddus ddigon, pa gyfrif bynag a roddir am dani, fod y gŵr a'i prynodd gyntaf, er elwa ar y lle, wedi myned yn dlawd, a'r gŵr a'i prynodd ddiweddaf, gan wrthod gwobr anghyfiawnder, wedi aros mewn cyfrif a dylanwad, o ran meddianau bydol, a phroffes grefyddol, hyd heddyw.
"Pan glywodd y gŵr boneddig fod y Methodistiaid wedi sicrhau eu meddiant yn y darn tir, efe a deimlodd i'r byw, ac a ffromodd yn aruthr, gan fygwth, 'Os codant gapel yn y lle, mi a fyddaf yn waeth wrthynt na chi cynddeiriog.'
Yr oedd y boneddwr, debygid, wedi gosod ei galon ar gael y plwyf yr oedd ef yn byw ynddo yn gwbl rydd oddiwrth Ymneillduaeth, ac na fyddai yr un capel gan blaid yn y byd o'i fewn. Gofynodd lawer gwaith i Mr. Lewis Williams, pregethwr yn y Cyfundeb, yr hwn sydd yn awr (1850) yn byw yn yr ardal, ai ni wnai y Methodistiaid ddim gwerthu y darn tir drachefn iddo ef. I hyn yr atebid bob amser, nad oedd obaith am hyny, oddieithr i'r gwr boneddig roddi darn arall o dir yn ei le, a hyny mewn llanerch gyfleus i drigolion yr ardal.
"Gan bwy," gofynai yntau, "y mae yr hawl i benderfynu yr achos hwn?"
"Nid yw yr hawl yn llaw yr un dyn unigol," oedd yr ateb.
Gofynai drachefn: "Ai nid yw Mr. Charles, neu Mr. Lloyd, o'r Bala, ddim yn ben arnynt?"
"Nac ydynt, ond y maent yn weinidogion o barch a dylanwad mawr yn y Cyfundeb."
"Pa fodd," gofynai y boneddwr drachefn, "y gallaf gael cynyg ar brynu y darn tir?"
"Mae gan y Methodistiaid, Syr R," ebe Lewis Williams, gyfarfod bob mis, yn rhyw fan neu gilydd yn y sir, yn yr hwn y penderfynir pob achos o'r fath"
"Pa fodd, ynte," ebe y boneddwr eilwaith, "y byddai oreu i mi wneyd cais at brynu y lle ?"
"Trwy anfon cenad, Syr R—, i'r Cyfarfod Misol."
Y genad a anfonwyd, sef John Dafydd, Dol-y-clochydd, yr
hwn oedd ŵr o denant iddo, ac yn aelod o'r Cyfarfod Misol.
Efe a osododd ei neges yn ffyddlawn o flaen y cwrdd misol,
ond y brodyr a gytunasant na werthent y tir, ond y newidient
ef am un arall a fyddai yn gyfleus i'r bobl, eithr yn mhellach
oddiwrth lan y plwyf, os mwy dewisol fyddai hyny gan y gŵr
boneddig. I'r cynyg hwn yr oedd y genad wedi ei ddysgu
eisoes i ateb, na wnai ei feistr ddim newidiad—mai ei farn
sefydlog ydoedd, nad oedd eisiau yr un capel yn y plwyf, ond
bod yr eglwys yn ddigon. Rhoddwyd ar Mr. Lloyd, o'r Bala,
i ysgrifenu llythyr at y gwr boneddig, i'w gyfarch yn barchus,
ac i hysbysu iddo benderfyniad y Cyfarfod Misol. Ni wnaeth
y boneddwr un cais ar ol hyn am brynu y lle. Rhoes rhyw rai
a fynent dduo y Methodistiaid y gair allan ei fod wedi cydsynio, ar ol hyn, i wneuthur cyfnewid am le arall; ond y gwirionedd
ydyw na fu dim o'r fath beth, eithr chwedl ddisail hollol ydoedd,
wedi ei dyfeisio er mwyn cyfiawnhau y gŵr mawr, a difrio y
crefyddwyr.
Aeth yr hen dy a brynasid yn rhy fychan, ac yn rhy adfeiliedig i ymgynull ynddo; ac yr oedd dirfawr angen am le gwell. Ond pa fodd y dechreuid adeiladu?—gan fod y gŵr boneddig yn penderfynu y cai pob un a wnai ddim tuag ato, neu a âi iddo i addoli ar ol ei godi, deimlo pwys ei ddialedd, os digwyddai fod mewn un modd yn dibynu ar y gŵr boneddig;—mawr oedd y benbleth yn y gymydogaeth, ac yn wir ymhlith y brodyr yn y Cyfarfod Misol. Ni fynent ar un cyfrif fod yn anffyddlawn i achos crefydd yn yr ardal hono, ar y naill law, a theimlent yn bryderus ar y llaw arall, rhag y byddent yn achlysuro colledion, a chyfyngder trwm, ar drueiniaid tyner eu cydwybodau, a fwynhaent eu bywoliaeth dan aden y gŵr boneddig. Bernid, pa fodd bynag, fod yn "rhaid ufuddhau i Ddnw yn fwy nag i ddynion," ac mai eu dyledswydd oedd ysgogi ymlaen, gan adael y canlyniadau i ddoeth ragluniaeth Duw.
Ymddangosodd rhwystr arall yn fuan. Pa le y ceid cerig i adeiladu y capel? Yr oedd gan y boneddwr, mae'n wir, gloddfa gyfleus, lle yr oedd digonedd i'w cael, ond ni cheid careg oddi yno, er gofyn yn ostyngedig. Yr oedd gŵr arall yn perchen tir yn y gymydogaeth, a cherig yn y tir, heb fod ymhell. Gofynwyd caniatad gan y gŵr hwn i godi cerig, a chydsyniodd yntau, ac mewn canlyniad codwyd llawer o gerig yn barod i'w cludo i'r lle priodol, ond trwy ddylanwad y barwnig gyda y perchenog, tynodd ei gydsyniad yn ol, ac ni cheid codi ychwaneg o gerig o'r gloddfa, na chludo y rhai a godasid eisoes.[8] Bellach yr oedd yn gyfyng iawn ar y bobl. Yr oedd yr hen dŷ yn ymollwng, a'r gynulleidfa yn galw am le helaethach a gwell, ond nid oedd defnyddiau i'w cael, gan yr arferai y boneddwr ei holl ddylanwad a'i allu i rwystro codi capel yn y plwyf. Yn y benbleth flin hon, aeth rhai o'r brodyr i'r Bala, i adrodd eu helynt wrth Mr. Charles, ac i ofyn ei gyfarwyddyd. Bwriedid weithiau adeiladu y capel o goed i gyd; ac yn ystod yr ymddiddan â Mr. Charles, yr oedd y bwriad hwn ymron wedi esgor ar benderfyniad hollol, sef i wneyd yr adeilad o goed. Ond yr oedd Mrs. Charles yn clywed yr ymddiddan, a gofynai, "A oedd gwir eisiau capel yn Llanfachreth?" Atebwyd, "nad oedd un amheuaeth am yr angen am dano." "Wel," ebe hithau, "Os yw yr Arglwydd yn ewyllysio ei gael yno, y mae yno gerig i'w adeiladu." Ac er nad oedd dim tebygolrwydd eto pa le y ceid hwy, anogai Mrs. Charles iddynt dynu yr hen dŷ i lawr, a dechreu ar yr adeilad gyda'r defnyddiau a fyddent yn y lle.
Dychwelodd y brodyr adref gyda'r penderfyniad o wneyd fel yr anogwyd hwy; a dechreuasant chwalu yr hen adeilad, a chloddio sylfaen i'r adeilad newydd. Ac wrth dori y sylfaen, torodd gwawr gobaith arnynt;—deallasant yn fuan fod yno ddigon, a mwy na digon o gerig yn y tir, nid yn unig i adeiladu capel, ond tŷ hefyd i berthyn iddo. Trwy yr amgylchiad hwn gwaredwyd y trueiniaid o'u penbleth, a siomwyd eu gwrthwynebwyr yn ddirfawr; ac nid hyny yn unig, ond effeithiodd yn rhyfeddol ar yr ardal. Edrychai y trigolion ar yr amgylchiad fel arwydd amlwg o amddiffyniad yr Arglwydd ar ei achos ei hun. Bellach nid oedd rhwystr i ddygiad yr adeilad ymlaen, yr hyn a wnaed dan arolygiad y brawd ffyddlon Mr. Edward Richard, o Ddolgellau."—Methodistiaeth Cymru I 606. Rhyfedd yr helbulon yr aeth trigolion yr ardal drwyddynt dros ysbaid o 50 mlynedd! A rhyfedd, hefyd, fel yr oedd pob dyfais o eiddo dynion a diafol yn methu llethu achos crefydd yn y lle! I'r fath raddau y rhoddodd y boneddwr ei fygythiad mewn grym, ac y cariodd ei awdurdod allan, fel y rhoes orchymyn i droi hen ŵr a hen wraig a dderbynient elusen plwyfol o'u tŷ, am y dywedid y cynhelid cyfarfodydd crefyddol ynddo, gan ddywedyd, "nis gallaf oddef pregethu mewn un tŷ y mae genyf fi un awdurdod arno." O'r tu arall, gofalodd rhagluniaeth am yr hen wr a'r hen wraig, trwy drefnu iddynt gael preswylfod mwy cyfleus ac agos i foddion gras. Ymhen amser, pa fodd bynag, llareiddiodd yr ystorm. Yn raddol y cymerodd hyn le, trwy i'r rhai oedd yn gwrthwynebu weled mai llaw yr Arglwydd oedd drechaf. Rhydd L. W. ddwy engraifft o'r modd y newidiodd meddwl y boneddwr yr ydym yn son am dano. Yr oedd dau frawd yn byw yn yr ardal, y rhai yr oedd y boneddwr yn hoff iawn o honynt. I un o'r ddau cynygiodd dyddyn mewn lle yn agos i'r pentref, os addawai rwystro ei wraig i fyned i gapel y llan, a rhoddi anifail neu gerbyd iddi, os ewyllysiai, i fyned i rywle arall i addoli. Dywedai y gŵr nas gallai rwystro ei wraig, gan fod ei hymlyniad gymaint wrth y capel, ac nis goddefai ei hiechyd iddi fyned i unlle arall. Wrth weled eu cymeriad gonest a diysgog, ildiodd y boneddwr. Y gŵr a'r wraig hyn oeddynt Edward a Jane Pugh, Caecrwth. Mewn amgylchiad arall, daethai achwyniad i glustiau Syr R fod hen wasanaethyddes iddo, o'r enw Mrs. Lewis, yr hon oedd yn byw mewn tŷ o'i eiddo yn Nolgellau, yn derbyn pregethwyr i'w thŷ. Galwodd yntau am dani ato—yr oedd ganddo barch mawr iddi, a hithau iddo yntau—a dywedodd os na byddai iddi beidio derbyn pregethu i'w thŷ, nas gallai ei goddef i aros ynddo. I'r hyn yr atebodd, nad oedd hyny ddim yn wir, ond ei bod hi yn cadw ei thy yn dy gweddi, a bod yn well ganddi heb yr un tŷ na thŷ heb weddi. Ar hyn, tewi a son a wnaeth. Trwy gyffelyb bethau, yn raddol, gadawodd lonydd iddynt, a gwaredodd Duw ei bobl a'i achos oddiwrth eu cyfyngderau.
Yr oedd y barwnig, meddir, yn foneddwr hynaws a charedig mewn llawer o bethau. Preswyliai yn ei wlad, ac ymysg ei denantiaid, a rhoddai waith i weithwyr tlodion, er mwyn iddynt gynal eu hunain a'u teuluoedd uwchlaw angen. Oni bai ei wrthwynebiad i Ymneillduaeth, buasai ei goffadwriaeth yn ei wlad yn llawer uwch. Dywedir hefyd nad oedd yn erbyn i'r Ymneillduwyr fyned i addoli at eu pobl mewn lleoedd eraill, ond ei fod wedi gosod ei fryd ar gadw ei blwyf ei hun yn glir oddiwrthynt. A'r hyn sydd i'w weled mewn amgylchiadau o'r fath yn gyffredin, cafwyd allan fod llawer o'r anghydfod hwn yn cyfodi oddiwrth y ffaith fod llu o hustyngwyr a chynffonwyr yn Llanfachreth, yn barod ar bob adeg i gario chwedlau anwireddus i glustiau yr uchelwr. I brofi hyn adrodda yr un hanesydd, sef L. W., yr hanesyn a ganlyn, ac enwa hefyd yn ei ysgrifau y person y cyfeir ato,———— "Un tro, fe ddychwelodd adref (sef y boneddwr) yn annisgwyliadwy, pryd nad oedd neb yn y teulu yn disgwyl am dano. Y noson hono hefyd yr oedd pregeth yn y capel. Yr oedd y brif forwyn yn yr odfa, as eraill o'r is-wasanaethyddion, fel nad oedd neb wrth y tŷ o'i weinidogion i'w dderbyn, fel y byddid arferol. Ond yr oedd yno ryw un yn barod i'w cyhuddo, yr hwn a aeth at y boneddwr, a chyda thafod athrodgar a ddywedodd, "Maent hwy, Syr R—— wedi myned i'r bregeth," gan ddisgwyl, yn ddiameu, yr edychid yn uchel arno ef ei hun am ei ragoriaeth, ond yr ateb a gafodd yn ddiflas iawn oedd, O, nid oes ynot ti gymaint o ddvioni a hyny."—Methodistiaeth Cymru.
Yr oedd L. W., yr hwn a gasglodd yr hanes blaenorol, yn llygad-dyst o'r rhan fwyaf o lawer o'r amgylchiadau a gofnodwyd ganddo. Yr oedd Edward Foulk, Dolgellau, ei gymydog, hefyd yn fyw pan yr oedd yn ysgrifenu—yntau wedi gweled â'i lygaid a chlywed â'i glustiau yr holl hanes o'r cychwyn cyntaf, a thystion eraill lawer. Felly, fe gafwyd digon o sicrwydd am y ffeithiau a'r amgylchiadau.
Pan aeth L. W. i Lanfachreth y tro cyntaf, yn 1800, yr oedd yr ysgol ddyddiol, a moddion crefyddol yn cael eu cynal mewn darn o hen dy bychan, a gwael yr olwg arno, ar yr un llanerch yn hollol ag y saif y capel presenol arno. Ac, meddai ef ei hun, "Yr oedd yno yn rhywle o amgylch 30 wedi ymuno i arddel Iesu Grist, ac yr oedd rhwng y naill a'r llall oddeutu naw milldir o ffordd." Yr hyn a olyga ydyw fod naw milldir o bellder rhwng y rhai pellaf a'u gilydd. Ac un daith Sabbath oedd yr holl ddosbarth y flwyddyn hono, sef Bontddu, Llanfachreth, a Dolgellau. Darlunia ef yr ardal fel lle hynod o anwaraidd ac annuwiol. Hen arferion ofer a gwag y wlad i'w cael yma yn eu rhwysg mwyaf. A byddai, ebe fe, son am drigolion plwyf Lanfachreth yn ymladd â'u gilydd, ac â phlwyfydd eraill. Nosweithiau llawen, chwareu cardiau, ymladd ceiliogod, cocyn saethu, dawnsio, pitchio, coetio, rafflo, y bel droed a'r chwareu bandi—dyma welodd L. W. pan aeth gyntaf i Lanfachreth, y flwyddyn gyntaf o'r ganrif bresenol. "Mi a glywais ddynion sydd yn cofio yn adrodd," ebe un arall o'r hen bregethwyr, "y byddai yn anhawdd gan lawer yn awr goelio gymaint o lanciau y cymoedd o amgylch Llanfachreth a ymgasglent at eu gilydd i'r glynoedd encil a dirgel ar y Sabbothau, i ymosod ac i ymroddi o ddifrif a'u holl egni i'r chwarëyddiaethau hyn." Ar y Sabbath y byddai y pethau hyn yn anterth eu nerth; plant a chanol oed, a hen bobl, yn ymdyru i ymddifyru ac ymorchestu ynddynt. Nid oedd, yn ol tystiolaeth L. W., y pregethu ynddo ei hun. wedi llwyddo eto i dori grym yr arferion hyn ond i raddau bychain. Yr ysgol ddyddiol, a'r Ysgol Sabbothol, ynghyda phregethu yr efengyl gyda'u gilydd a fu yn foddion yn raddol i'w rhoddi i lawr. Ni byddai y pregethu ar y Sabbath yn agos i gyson, am na ellid cael pregethwyr i lenwi hyny o deithiau oedd yn y sir, ac yn niffyg pregethu cyfarfod gweddi fyddai yn aml yn y daith yr oedd Llanfachreth yn rhan o honi. Defnyddiodd L. W., ynghyd â rhai crefyddwyr da eraill, lawer ffordd i roddi i lawr arferion llygredig yr oes, megis trwy gymell plant a phobl ieuainc i ddyfod i'r ysgol wythnosol a Sabbothol, rhoddi anogaethau mewn modd personol i roddi heibio arferion drwg, gan ddangos y niwed a'r perygl o honynt, rhoddi materion yn yr Ysgol Sul i chwilio am adnodau yn gwahardd y pechodau oeddynt amlwg yn y wlad, ac adrodd y rhai hyny yn gyhoeddus, nes y byddai y rhai euog yn cywilyddio, cynal cyfarfodydd gweddio yr un adeg ac yn yr un man ag y byddai ieuenctyd gwylltion wedi trefnu eu cyfarfodydd pechadurus hwythau. Dygir tystiolaeth bendant hefyd i lwyddiant y Gymdeithas Ddirwestol, ar ei chychwyniad cyntaf, yn ychwanegol at y pethau uchod, fel yr hyn a fu yn foddion arbenig i ddileu arferion pechadurus y wlad.
Parhaodd yr arferiad o gyhoeddi hysbysiadau gwladol ac arwerthiadau yn y fynwent ar y Sabbath yma hyd yn lled ddiweddar. Y mae dynion cymharoi ieuainc yn cofio clywed y clochydd yn eu cyhoeddi tra yr elai y bobl allan o'r eglwys. Rhoddai orchymyn i'r gynulleidfa sefyll ar y fynwent, a dywedai yn swyddogol,—"Hois! fe berwyd i mi hysbysu i chwi fod rhyw ddyhiryn, neu ddyhirod, wedi tori i mewn i'r tŷ tatws, Nanau, a phwy bynag a ddaw a hysbysrwydd i Syr R. Vaughan a gaiff dâl da am ei waith." Dro arall, rhedai y clochydd allan yn gyntaf, gyda bod y gwasanaeth drosodd, a chan sefyll rhwng drws yr eglwys a phorth y fynwent, galwai ar y bobl i wrando, "Hois! fe berwyd i mi hysbysu i chwi fod oxiwn yn y fan a'r fan, ddydd Mercher nesaf; gwerthir yno y defaid, y gwartheg, y lloi, a'r moch, a'r ceffylau, a'r gêr hwsmonaeth,—a Duw a gadwo y Brenin!" O'r diwedd, pa fodd bynag, darfyddodd yr arferiad hwn hefyd, yn debyg i ymadawiad y gog yn mis Mehefin, heb yn wybod i neb pa bryd na pha fodd.
Gwnaed y weithred am y tir i adeiladu y capel cyntaf y bu cymaint o helynt yn ei gylch, Mai 12, 1804, a thalwyd am y tir £93. Yr oedd y capel yn hollol square, 8 lath o hyd ac 8 lath o led, ac yn hollol ddiaddurn; llawr pridd, ac ychydig o feinciau. Yn y gauaf arferid casglu brwyn, a'u taenu ar y llawr, er cynesrwydd i'r traed. Oddeutu 1848 estynwyd dwy lath arno un ffordd, a rhoddwyd seti ynddo, am y draul o tua £60. Yn fwy diweddar, prynwyd adeilad a wnaed yn gydiol â thy y capel, ac ar ol hyn bu dyled o £57 yn aros yn hir, heb neb yn gwneuthur dim osgo at ei thalu. O'r diwedd rhoddodd amaethwr cyfrifol yn yr ardal gynygiad i'r eglwys, y gwnai ef bob pedwar swllt ar ddeg a wnai hi yn bunt. Cymerwyd y cynygiad i fyny, a daethpwyd ar unwaith yn rhydd o'r ddyled. Bendithiwyd yr amaethwr crybwylledig, hefyd, yr hwn oedd y pryd hwnw yn hen mewn dyddiau, âg ysbryd i gyfranu yn helaeth at achosion eraill. Yn 1868, drachefn, adnewyddwyd y capel yn drwyadl o'r tu fewn, i'r ffurf y mae ynddo yn bresenol, ar y draul o £160.
Aeth yr achos yma, fel y gwelwyd, trwy brofiad tanllyd yn ei ddechreuad, a chyfarfyddodd ag ystormydd yn awr a phryd arall o hyny hyd yn bresenol. Yr oedd Carmel, a rhan o Hermon, unwaith yn perthyn i'r eglwys hon. Er hyny, ni bu erioed yn lliosog. Y nifer yn 1848, oedd 52, a'r nifer fwyaf y digwyddodd i ni weled yn perthyn iddi ydoedd 65, a hyny flwyddyn neu ddwy ar ol y diwygiad diweddaf. Erys rhif y cymunwyr rywbeth yn debyg i'r hyn oedd haner can mlynedd yn ol, er fod poblogaeth yr ardal lawer yn llai, ac er fod y gwrthwynebiadau i'r Methodistiaid yn parhau yn gryfion. Bu yn perthyn i'r eglwys hon ddynion gwrol, pobl fel y dywedir ag asgwrn cefn ganddynt, rhai yn glynu wrth egwyddorion trwy y tew a'r teneu. Ond diameu mai yr hyn fu yn achos iddi ddal ei thir cystal yn yr amser aeth heibio oedd, cysylltiad Lewis William â hi am faith flynyddau. Ymsefydlodd ef yn arhosol yn yr ardal yn 1824, ymhen yr ugain mlynedd union wedi adeiladu y capel cyntaf yn y lle. "Wedi i Ragluniaeth fy nhywys," ebai, "i lawer o fanau gyda'r ysgol ddyddiol a Sabbothol, hi a'm tywysodd trwy anfoniad Mr. Charles i Lanfachreth, o gylch y flwyddyn 1800. Nis gallaf ddweyd gynifer o weithiau y bum yn Llanfachreth, o anfoniad Mr. Charles, weithiau am fis, pryd arall am ddau, a rhai gweithiau am chwarter blwyddyn. Yr achos o fyrdra yr amser oedd, y mawr alw fyddai am yr ysgol ddyddiol i fanau eraill, er mwyn sefydlu a chynorthwyo yr Ysgol Sabbothol. Ond wedi marw Mr. Charles, a thra bum yn cadw ysgol, yr oeddwn yn myned ar alwad yr ardaloedd, ac iddynt hwy roi cyflog i mi, neu ddwyn fy nhraul, ac ychydig fyddai hyny mewn llawer o fanau y bum ynddynt. Ond galwyd arnaf i Lanfachreth i fod yno am flwyddyn, i gadw ysgol Gymraeg a Saesneg (yr oeddwn wedi dechreu cyn hyn yn y modd hwn, er fy mod yn anfedrus iawn). Darfu i ryw bersonau fyned dan rwymau i mi am £5 y chwarter, a derbyniais hwynt. A bum yno ychydig yn ychwaneg ar ewyllys da. Ond yr oeddwn yn fy nheimlad i raddau mawr wedi colli ewyllys da preswylydd y berth, er pan oeddwn wedi ymadael o fod dan ofal Mr. Charles. Byddai dda genyf weled y Sabbath yn dyfod, oblegid byddai gradd o'r hen gysuron a'r dylanwad yn ac ar yr Ysgol Sabbothol. Mi a ymadewais o Lanfachreth, i fyned i le arall, ar alwad yn ol yr un drefn, a bum mewn amryw fanau am dymhorau yn ol y cytundeb a wneid. Yr oeddwn wedi dyfod i Ddolgellau yn ol y drefn hon, ac ar y pryd mi a briodais wraig, yr hon fu ac sydd yn ymgeledd gymwys i mi, ac nid yw yn rhyfyg i mi ddweyd, ac i achos yr Arglwydd yn Llanfachreth am lawer o flynyddau. Tros 20 mlynedd y bu yr achos yn ei gofal, mewn rhoi bwyd i bregethwyr &c.
Yr achlysur i mi fyned y waith hon i Lanfachreth oedd, fod ty y capel wedi myned heb un golwg i neb fyw ynddo, ac angenrheidrwydd mawr am rhyw un i dderbyn yr achos crefyddol. Trwy fod rhai cyfeillion yn gofyn a ddeuwn, darfu i mi a'm hanwyl wraig gydsynio i fyned. Ac i mi gadw ysgol ddyddiol, a chymeryd tal gymaint a geid am ddysgu y plant, a byw a'r hyny os gallem. Acthom yno y flwyddyn gyntaf ar yr amod i dalu £2 o rent am y tŷ, a chael y capel i gadw ysgol, a 4c. y pryd am fwyd y pregethwyr. Gwnaethom gyfrif ymhen y flwyddyn, ac yr oedd hyn yn dyfod yn £2 Ss. Oc. er nad oedd ond 4c. y pryd, oblegid yr oedd yr amser hwnw lawer o bregethwyr yn teithio. Darfu i ni lwfio yr wyth swllt, a dywedyd y cymerem ni y tŷ am fwyd y pregethwyr. Buom felly am dros 20 mlynedd. Gwelsom yn fuan na allasem ddim byw ar a gaem oddiwrth yr ysgol, ac aethom i ddechreu gwerthu blawd yn nhŷ y capel, ac wedi hyny aethom i ddechreu gwerthu amryw bethau eraill."
Dengys ei eiriau ef ei hun y ffordd yr arweiniwyd ef i Lanfachreth, a'r cysylltiad a fu rhyngddo â'r achos wedi iddo fyned yno. Rhydd hanes yn mhellach am drafodaeth fu rhyngddo a'r Cyfarfod Misol, a'r cytundeb a wnaed o'r ddeutu iddo gael adeiladu tŷ bychan o'r tu cefn i dŷ y capel, ac adeiladau eraill, y rhai gostiodd iddo dros £100. Yn ddilynol, drachefn, adeil- adodd dŷ a shop trwy y draul o £300., ac ebe yr hen bererin, "llafuriasom yn galed i gael bod ynddi-ddyled." Yn y rhestr o enwau llefarwyr yn ei bapurau, dros y rhai y telid iddo 4c. y pryd am fwyd, yn nhŷ y capel, heblaw y rhai oedd yn byw yn Sir Feirionydd, ceir enwau enwogion, megis, Cadwaladr Owen, Morgan Howells, a Henry Rees. Un bregeth a geid y Sabbath yn ddieithriad, ond chwyddai y pregethu teithiol nifer y pregethau mewn blwyddyn yn lled fawr. Pregethai ef ei hun yn y daith yn fynych, ond ni byddai yr un flyrling i lawr ar gyfer bwyd y pregethwr y Sul hwnw. Yn yr un llyfr ceir crybwyllion am amryw daliadau, ac arian a roddasai yn fenthyg, ac unwaith, "treth y brenin 10c." Yr amser yr oedd ef yn nghyflawnder ei nerth, yr oedd achos y Methodistiaid yn fwy blodeuog yn Llanfachreth nag unlle yn y cylchoedd, oddieithr Dolgellau yn unig. Yn y cyfnod cyn ei fynediad ef yno, bu y cyfeillion mewn mawr drafferth yn cario pethau ymlaen, oblegid y bygythion parhaus a chwythid o'r palas gerllaw. Diwygiadau crefyddol, meddir, ac yn enwedig y diwygiad yn 1817-18, a barodd i bobl yr Arglwydd orchfygu y stormydd enbyd a ymosodent arnynt. Yn y diwygiad crybwylledig llithrai y bobl i'r capel, a'u plant hefyd, er gwaethaf pob rhybuddion i'r gwrthwyneb. Erioed yn un man ni wiriwyd y ddiareb yn well, "trech gwlad nag Arglwydd." Yn hytrach, Arglwydd yr holl ddaear oedd yma yn gwneuthur pethau mawrion trwy ei bobl. Anhawdd ydyw traethu yr holl waith a wnaeth L. W. yn ystod y 38 mlynedd y bu yn byw yn Llanfachreth. Yn 1825 yr ydym yn ei gael yn sefydlu cyfarfod athrawon ac athrawesau arbenig, yr hwn a gynhelid bob mis, ac weithiau yn amlach. Ymhlith penderfyniadau y cyfarfodydd hyn ceir,—"L. W. i fod. yn ysgrifenydd, a John Dafydd yn gymedrolwr." "Fod yr ysgrifenydd i sefyll yn lle y cymedrolwr, i basio y penderfyniadau trwy godiad llaw yr athrawon a'r athrawesau." "Fod cyfarfod athrawon i fod bob bore Sabbath ag y byddo ysgol y bore, am 8 o'r gloch." "Derbyniwyd y genadwri o Gyfarfod Daufisol Bontddu, sef fod cyfarfod gweddi i'w gynal o fewn holl ysgolion y cylch am 7 o'r gloch (boreu) Sabbath Mehefin 12fed, i weddio am i'r Ysbryd Glan arddel y moddion er dychwelyd eneidiau." "Fod egwyddori yn gyhoeddus i fod mewn un odfa yn y ddau fis o bellaf, ar benod o'r Hyfforddwr neu fater." "Fod enwau yr athrawon a'r athrawesau i gael eu galw yn gyhoeddus, er cael gwybod pwy fydd yn bresenol ac yn absenol, a gofyner am yr achos o'u habsenoldeb." Mewn cyfarfod blaenoriaid yr un flwyddyn, ymlith eraill, ceir y ddau benderfyniad canlynol," (1) Fod Robert Griffith i edrych am borfa i'r ceffylau, ac i'r society dalu; (2) i ymofyn a phob aelod nad oedd yn cyfranogi o'r ordinhad y tro diweddaf, cyn y byddis yn cyfranogi y tro nesaf, i gael gwybod beth oedd yr achos, ac i geisio ei symud ymaith."
Rhoddir yr engraifft ganlynol i ddangos brawdgarwch Cristionogol yr Ymneilduwyr tuag at yr Eglwys Sefydledig yn Llanfachreth yn y blynyddau aethant heibio, er yr holl driniaethau a dderbyniasent hwy o dro i dro oddiwrth ddeiliaid yr Eglwys hono. Hyd amser marwolaeth Syr R. Vaughan, oddeutu 1843, un bregeth fyddai yn y llan, am 11 y bore un Sul, ac am 2 y Sul arall. Elai y Methodistiaid i'r gwasanaeth i'r eglwys am un a'r ddeg ar ol eu moddion hwy eu hunain; a'r Sul y byddai y bregeth am 2, ni byddai moddion yn nghapel Llanfachreth na Charmel, er mwyn i bawb fyned i'r eglwys. Oddeutu y flwyddyn 1838 y dechreuwyd achos gan yr Annibynwyr yn Llanfachreth. Yn Hanes Eglwysi Annibynol Cymru dywedir, "Y gallu crefyddol mwyaf yn Llanfachreth y dyddiau hyny oedd y Methodistiaid. Yr oedd ganddynt Ysgol Sabbothol boblogaidd ac enwog, ac mae yn ymddangos mai o Ysgol Sabbothol y Trefnyddion Calfinaidd y torodd y blaguryn Annibynol allan gyntaf." Mae hynyna yn gywir. Dywedir yn mhellach, fod yno amryw bersonau yn gogwyddo at y golygiadau a elwid y system newydd, y rhai a ddiystyrid gan awdurdodau yr ysgol, a bod hen flaenor wedi codi ar ei draed un Sabbath, a chyhoeddi yn awdurdodol, nad oedd yr un athrawiaeth i gael ei dysgu yn eu hysgol hwy heb gytuno â'r hyn a gyhoeddid o'r pulpud, ac mai dyna fu yr achos i'r encilwyr adael y Methodistiaid. Nid ydyw hynyna yn gywir yn ol tystiolaeth bendant rhai oeddynt yn aelodau o'r ysgol ar y pryd. Yr achos neu yr achlysur oedd hyn. Yr oedd dosbarth o feibion yn perthyn i'r Ysgol Sul, y rhai a ystyrient eu hunain yn dipyn o ddynion, wedi colli eu hathraw, a hawlient gael rhyw berson penodol o'u dewisiad eu hunain (sef Mr. John Jones, yn awr blaenor eglwys y Methodistiaid yn Rhydymain) yn athraw arnynt. Anfonasant eu cais i'r cyfarfod athrawon am ei gael. Ond nid ystyriai y cyfarfod athrawon yn briodol i Mr. John Jones fod yn athraw arnynt. Ffromasant lwythau, ac mewn canlyniad aethant i gynal ysgol i le a elwid Caetanglwys, ac o dipyn i beth ymffurfiasant yn achos. Ymddengys yr hanes hwn yn fwy tebyg i gywir ar y wyneb; heblaw hyny, y mae tystiolaethau ddigon i'w gadarnhau. Ond nid ydyw y naill hanes na'r llall yn adlewyrchu llawer o glod ar yr encilwyr. Ychydig sydd o hanes ar gael am y rhai fuont ffyddlon a dewr gyda'r achos yma. Yr oedd Lewis Evans, Caeglas, yn un o honynt. Nid ymddengys ei fod ef yn flaenor. Ond teilynga dwy weithred o'i eiddo gael eu cofio. Efe ddaeth a'r Ysgol Sul yma yn y flwyddyn 1800. Efe a brynodd le i adeiladu y capel cyntaf, ac a wrthododd elw anghyfiawnder, er mwyn ei sicrhau i'r Methodistiaid. Y Blaenoriaid:—
John Dafydd, Dolyclochydd, oedd y cyntaf. Bu iddo yntau law yn sicrhau y tir i adeiladu. Er ei fod yn denant i'r tirfeddianwr mawr a geisiai lethu yr achos, safodd ei dir yn wrol dros y gwirionedd. Anfonwyd ef yn genad dros ei feistr i'r Cyfarfod Misol, ac ymddygodd yn onest tuagat y ddwy ochr. Ystyrid ef ar y blaen gyda'r achos tra fu byw. Cafodd fyw i fyned yn hen, a bu yn ffyddlon hyd y diwedd.
Edward Thomas. Daeth allan yn un o'r rhai cyntaf i bleidio yr Ysgol Sul. Gwnaeth lawer i'w chynorthwyo yn y canghenau a'r cymoedd o amgylch. Yr oedd ef yn uwch na llawer o ran ei ddeall a'i allu; yr oedd hefyd yn siaradwr da, ac oblegid hyny yr oedd yn ddywediad gan bobl y lle, "Edward Thomas ar ei draed, a Robert Griffith ar ei liniau."
Sion Robert, yr Hendre. Gŵr tawel, boddlongar, heddychlawn. Bu raid iddo symud i fyw oddiwrth ymyl y llan, oherwydd fod perthynas iddo yn dal tyddyn o dan y tirfeddianwr gwrthwynebol i'r Methodistiaid, a symudodd i fyny y Cwm, sef i'r Hendre. Cadwodd ef a'i deulu gartref i Fethodistiaeth yno dros amser maith. Bu yn flaenor am 50 mlynedd, a bu farw yn 1863.
William Griffith, Dolchadda. Gŵr duwiol a ffyddlon oedd yntau. Yn niwedd ei oes yr oedd wedi colli ei olwg Er hyny deuai i'r Ysgol Sul, ac ychwaneg, bu yn athraw ynddi, ac arferai holwyddori hyd y diwedd.
William Griffith, Caecrwth. Daeth ef yma o ardal Cwm Cynfal, Ffestiniog. Yr oedd yn amaethwr cyfrifol, ac yn ŵr pwysig ar lawer cyfrif; tueddai yn ol dull yr hen bobl i fod yn drwm wrth ddisgyblu. Bu farw Mawrth 17, 1862, yn 65 oed.
Robert Griffith, Caeglas, a Griffith Pugh, Tanyfoel. Gwasanaethodd y ddau swydd diacon yn dda; ceir hanes y blaenaf ynglyn â Carmel, a'r olaf ynglyn â Bryncrug.
John Pugh, Glasdir, a Rees Pugh, Tyddynbach, oeddynt ddau frawd, ac yn ddiaconiaid yr eglwys. John Pugh yn gymeriad gloew ar hyd ei oes, yn ddyn duwiol, ac yn tueddu at fod yn addfwyn fel swyddog. Bu farw Awst 28, 1864, yn 59 oed. Rees Pugh yn ddiweddar yn dyfod at grefydd, ond troes allan yn ddyn rhagorol o dda. Dywedai ei brofiad yn y Cyfarfod Misol olaf cyn ei farw gydag arddeliad neillduol. Bu farw Gorphenaf 24, 1869.
Robert Jones, Galltcarw, a fu yn y swydd o flaenor am ychydig, ond bu farw yn ieuanc. Ceir coffadwriaeth am dano yn y Drysorfa 1870, tu dal. 115.
Dyna y rhestr o'r swyddogion fel y rhoddwyd gwybodaeth i'r ysgrifenydd am danynt. Heblaw ffyddloniaid eraill, bu Evan Richard yn flaenllaw gyda'r achos yma am hir flynyddau, ac a fu farw yn ddiweddar yn llawn o ddyddiau. Richard Williams hefyd, y gŵr oedd yn byw yn y Shop ar ol L. W., a fu yn weithgar iawn gyda'r achos, a'i briod, a'u plant a ddangosasant lawer o garedigrwydd trwy letya pregethwyr yn eu tŷ.
Y blaenoriaid presenol ydynt, Mri. Griffith Evans, Humphrey Jones, Griffith Griffiths, Daniel Williams, William Owen. Bu y Parchn. Owen Roberts mewn cysylltiad gweinidogaethol â'r eglwys o 1870 i 1875; W. Lloyd Griffith 1877—82; John Evans 1885—87.
Y PARCH. OWEN ROBERTS
Llanwodd ef le pwysig yn y cylch yr oedd yn troi ynddo, a theg ydyw rhoddi coffadwriaeth lled helaeth am dano. Ganwyd ef yn Pantypiod, ger Llanfachreth, Medi 8fed, 1830. Dygwyd ef i fyny yn yr alwedigaeth o of, yr hon alwedigaeth a ddilynai ei dad a'i daid o'i flaen. Ysgrifenodd ei hun ychydig o'i hanes ar ddarnau o bapurau yma ac acw. Fel hyn y dywed am ei argraffiadau crefyddol cyntaf:—"Nid oedd fy rhieni yn proffesu crefydd, ond yn wrandawyr cyson ar y Methodistiaid. Er hyny, arferwn i fyned i'r sociely er yn blentyn, a gallaf dystio fod argraffiadau crefyddol ar fy meddwl er yn dra ieuanc, a pharhau i fyned a ddarfu i mi hyd yn 12eg oed. Y pryd hwn dechreuais fyned yn fwy esgeulus o'r gyfeillach grefyddol, gan ddilyn rhai o'm cyfoedion nad oedd fynent ddim â chrefydd. Eto byddwn ar adegau yn teimlo yn hynod o anesmwyth, ac yn bwriadu tori pob cysylltiad â fy nghyfoedion digrefydd. Pan oddeutu 15eg oed, cefais fy nal gan ddychryn mawr; teimlais fy mod yn bechadur colledig. Yr oedd y weinidogaeth yn fy ysgwyd, fel yr oeddwn yn colli blas ar ddilyn fy nghyfoedion gwylltion, ac yn addunedu cynyg fy hunan i'r society yn ol, ond yn methu am gryn amser a chyflawni. Ond ryw nos Sabbath, mewn cyfarfod gweddi yr oedd un brawd yn gweddio dros y rhai oedd yn cloffi rhwng dau feddwl. 'Arglwydd mawr, meddai, 'tor y ddadl heno'. Teimlais fy hunan fel yn derbyn rhyw ollyngdod, a phenderfynais gynyg fy hun i'r Arglwydd, ac i'w bobl, a'r society ganlynol ceisiais am le yn yr eglwys. Cefais bob ymgeledd gan y frawdoliaeth. Derbyniwyd fi yn gyflawn aelod, ac anogwyd fi i geisio codi y ddyledswydd deuluaidd gartref, a chaniatawyd hyn i mi gan fy rhieni."
Eto, am yr amser y dechreuodd bregethu, a'r modd y dechreuodd, Byddai brodyr o Lanfachreth, y pryd hwnw, yn myned ar nos Sabbothau i'r gymydogaeth lle mae capel Hermon yn awr, i gadw cyfarfodydd gweddiau. A byddwn weithiau yn cael fy nghymell gan y blaenor a fyddai yn fwyaf mynych yn dyfod gyda mi, i ddarllen penod ac i wneuthur ychydig sylwadau wrth fyned ymlaen. Gwnawn felly rai gweithiau, a byddai yn dyfod yn weddol ambell waith, ac yn eithaf tywyll bryd arall. Yn y cyfnod yma bu farw fy nhad (Ebrill 12, 1848), a chan mai fi oedd yr hynaf syrthiodd gofal y business arnaf yn fwy. Ond trwy fod yr hen dad duwiol Lewis William mor gynes yn fy nghymell i ddal ymlaen, parhau a ddarfu i mi, ac felly rhyw lithro yn bregethwr heb, wybod yn iawn fy mod yn myned." Ysgrifena drachefn ar ddalen arall: Myfi, Owen Roberts, a ddechreuais ar y gwaith mawr a phwysig o gynghori, yn mis Gorphenaf 1848, yn fy 18fed flwyddyn o fy oedran, yn nghapel Llanfachreth, trwy gymhelliad William Griffith, o'r Caecrwth, ffarmwr a blaenor perthynol i'r capel uchod."
Y pryd hwn gwnaeth gyfamod i ymgysegru, gorff ac enaid, yn llwyr ac am byth, i wasanaeth yr Arglwydd, ac ysgrifenodd y cyfamod mewn llyfr. Aeth i Athrofa y Bala ddiwedd haf 1852. Ond ni chafodd fod yno ond dwy flynedd. Gan fod ei dad a'i fam wedi marw, disgynodd gofal cartref yn gwbl arno ef. Digalonodd hyn ef yn fawr; anmharodd ei iechyd fel nas gallai bregethu gyda dim cysondeb am flynyddau, a bu fwy nag unwaith yn meddwl taflu pob peth i fyny. Ar ol y Diwygiad, pa fodd bynag, cymerodd cyfnewidiad le yn ei ysbryd, ac yn ei amgylchiadau tymhorol gyda hyny. Cymerodd dyddyn i'w amaethu, a gadawodd y gwaith gof. Chwefror 5ed, 1864, ymbriododd â Miss Jane Isaac, Gwyddelwern. Wedi hyn ymroddodd i waith y weinidogaeth. Ymhen oddeutu pum' mlynedd bu dau o'i blant farw o fewn pythefnos i'w gilydd, ac ebe fe ei hun, "Effeithiodd yr amgylchiad yn ddirfawr arnaf. Effeithiodd ar fy nghorff Ond y mae yn dda iawn genyf ddywedyd iddo effeithio yn dda ar fy ysbryd. Yr wyf yn gallu edrych i lanerch y brofedigaeth fel llanerch y fendith. Cefais afael mewn adnodau o'r Beibl y pryd hyny sydd yn aros gyda mi hyd heddyw, ac yn rhoddi llawer o gysur i'm meddwl. Dyma un o honynt, 'Fel hyn y dywed yr Arglwydd dy waredydd, Sanct Israel; Myfi yw yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn wyf yn dy ddysgu di i wellhau, gan dy arwain yn y ffordd y dylit rodio. Esaiah xlviii. 17'."
Oddeutu 1869, galwyd arno i fugeilio eglwysi Abergeirw a Hermon, ac yn ddilynol Llanfachreth hefyd. Hydref 1870, safodd yr Arholiad Cymdeithasfaol, a Gorphenaf 1872, ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth. Effeithiodd hyn arno drachefn i beri iddo fod yn fwy ymroddedig i'r gwaith. Bellach," meddai, "nid oes genyf ond ymgais at ymgysegru yn fwy llwyr i'r gwaith mawr."
Dengys y dyfyniadau uchod o'i hanes ganddo ef ei hun ei fod yn "Israeliad yn wir, yn yr hwn nid oes dwyll." Treuliodd ei oes heb ddyfod yn gyhoeddus iawn, yr un pryd, yr oedd yn oes dra defnyddiol. Gwendid corfforol, anystwythder naturiol ei lais, a'r amgylchiadau a'u rhwystrodd i lwyr ymroddiad yn nechreu ei oes, ynghyd â thuedd reddfol ei natur i ymgadw o'r golwg, a fu yn atalfa iddo ddyfod yn adnabyddus mewn cylchoedd eangach. Bu yn un o'r dynion mwyaf gwasanaethgar yn ei wlad ei hun, fel gwladwr a chymwynaswr. Gwnaeth lawer o wasanaeth i'w gymydogion fel meddyg anifeiliaid, fel cynghorwr mewn amgylchiadau dyrus, &c. Os byddai eisiau rhyw gyfarwyddyd, yn wladol neu eglwysig, yn holl gylchoedd ei ardal, ato ef yr elid i ymofyn am dano. Trwy y pethau hyn a'u cyffelyb, yr oedd wedi cael gafael gref yn serch ei gydwladwyr. Llafuriodd lawer ynghylch dosbarth y Cyfarfod Ysgolion. Nid aeth trwy ei oes, mae'n wir, heb i rai ei wrthwynebu yn Llanfachreth; eto, . yr oedd ei gymeradwyaeth yn uchel yn yr eglwysi oedd dan ei ofal, yn neillduol y ddwy eglwys uwchaf yn y cwm, pa rai a wasanaethodd yn ganmoladwy o ffyddlon, yn Sabbothol ac wythnosol, trwy dywydd garw ac ystormydd, haf a gauaf.
Cychwynodd i'w daith, am y tro olaf i Harlech, ddydd Sadwrn, erbyn Sabbath Tachwedd 28ain, 1875. Pregethodd foreu Sabbath oddiar Exodus xiii. 17, 18. Dywedai un o flaenoriaid Harlech mewn llythyr yn fuan ar ol hyn, "Yr oedd rhyw eneiniad dwyfol, amlwg, yr yr odfa hon o'i dechreu i'w diwedd-dyna oedd tystiolaeth amryw oedd yn bresenol. Nid anghofiaf yr argraff a wnaeth byth." Pregethodd drachefn yn Llanfair am ddau, ond methodd y nos. Symudodd cyn diwedd yr wythnos i Ddolgellau, i dŷ ei chwaer, lle y bu farw. Yr oedd yn dawel a hyderus yn ei gystudd, a phan y gofynodd ei briod a oedd ganddo ddim i'w ddweyd, cyfeiriai A'i fys a dywedai, Edrychwch i fyny." Yr oedd ei gladdedigaeth yn anarferol o liosog; yr holl wlad o amgylch ei gartref wedi dyfod i wneuthur arwyl mawr am dano. Yn ymyl capel Llanfachreth, a cherllaw cofgolofn y ffyddlon Lewis William, y mae cofadail wedi ei chyfodi ar ei feddrod yntau, ac yn gerfiedig arni:—
Er côf am
Y Parch. Owen Roberts, Tyisaf,
o'r lle hwn. Bu farw Rhagfyr 9fed, 1875,
Yn 45 mlwydd oed.
Bu yn weinidog ffyddlon gyda'r Trefnyddion Calfinaidd o'r
19eg flwyddyn o'i oedran hyd ei farwolaeth. Yr oedd hefyd
yn wladwr a chymwynaswr rhagorol.
Y gofadail hon a gyfodwyd gan ei edmygwyr.[9]
Y PARCH. LEWIS WILLIAMS.
Y mae ei enw ef wedi ei grybwyll drachefn a thrachefn mewn cysylltiad â chrefydd yn y rhan hon o'r Sir, ond teilynga yn fwy na neb gael sylw helaethach na chrybwyll ei enw. Nid oes yr un dyn y mae yr eglwysi, yr ysgrifenwyd eu hanes yn y gyfrol hon, o dan fwy o deyrnged i barchu ei goffadwriaeth. Da y gwnaeth Ysgolion Sabbothol dosbarth Dolgellau yn rhoddi enw Lewis Williams ochr yn ochr âg enw Mr. Charles, ar eu baner flaenaf, yn Ngwyl Canmlwyddiant 1885. Cyfiawn haeddai gael bod yr agosaf i'r cymwynaswr byd-enwog o'r Bala. Mewn zel angerddol i wneuthur daioni, llafur diorphwys, ffyddlondeb diarebol, saif ar flaen rhestr dyngarwyr ei wlad, ac eglwysi y Methodistiaid yn Sir Feirionydd sydd yn mwynhau o ffrwyth ei lafur. Cafwyd y crynhodeb a roddir yma yn ei ysgrifau ef ei hun, ac yn y byr—hanes a ysgrifenodd Mr. R. O. Rees, yr hwn a ddywed am dano,—"Dyn bychan oedd Lewis Williams ymhob ystyr naturiol—bychan ei gorph, bychan ei enaid, bychan ei ddoniau. Ond pob gïeuyn a gewyn yn ei gorff bychan, a phob cyneddf a dawn yn ei enaid llai, yn eu llawn waith yn wastadol mewn rhyw lwybr neu gilydd yn ngwasanaeth ei Greawdwr a'i Dduw."
Ganwyd ef yn Mhennal, yn 1774, mewn lle a elwid Gwastadgoed. Nid oes gareg ar gareg o'r tŷ hwn yn aros er's llawer blwyddyn. Y mae capel presenol y Bryniau wedi ei adeiladu yn nghwr y cae, ac o fewn ychydig latheni i'r lle y safai. Enw ei dad oedd William Jones, a'i fam Susan Jones. Pan oedd yn ddwy flwydd oed, symudodd ei rieni i'r Hendy, yn agos i'r Henfelin, Aberdyfi, ac ymhen y flwyddyn symudasant i'r Hafod, oddeutu tair milldir i Dowyn. Bu farw ei dad pan oedd yn 4 oed, a gadawyd ef a'r plant eraill gyda'u mam weddw. Rhydd L. W. ddarluniad o ddull y wlad o fyw pan yr oedd yn blentyn, ac o'r modd yr oedd ei fam yn llafurio i fagu ei phlant. "Byddai yn gwneyd cymwynasau i'r cymydogion," meddai, "ac yn cael ei thalu yn bur dda, a phan elai yn gyfyng iawn, anfonai ei chwyn at y plwyf, sef Dolgellau, ac nid wyf yn gwybod iddi gael ei gomedd erioed o'r hyn a geisiai. Ni bu yn cael dim yn benodol o'r plwyf, ond byddai yn cael rhoi ei hachos yn eglwys Dolgellau i geinioca iddi. Byddai yn cael cymaint a 10s., ac o hyny i 15s. lawer tro mewn modd o ewyllys da." Pan oedd yn 16eg oed ymunodd â "Milisia Sir Feirionydd, yn amser rhyfel Boneparte." Wedi ei ryddhau am dymor oddiwrth y rhwymedigaeth hon, a dychwelyd adref, prentisiwyd ef yn grydd, gydag un John Jones, o'r Cemaes, Sir Drefaldwyn.
Tra yr oedd yn Cemaes y pryd hwn, yn llanc tua 18 oed, yr argyhoeddwyd ef, ac y bwriodd ei goelbren ymysg pobl yr Arglwydd. Teimlai awydd i ymuno â chrefydd, ond ofni a chilio yn ol y byddai. "Bum lawer tro wrth ddrws yr addoldy, yn benderfynol o fyned i'r cydgynulliad, ond yn methu myned, ac yn troi yn fy ol tua chartref." Mewn cyfarfod gweddi yn y Ty Uchaf, Mallwyd, ar fore Sabbath, digwyddai fod yn gwrando ar Mr. Jones, Mathafarn, wedi hyny Dolfonddu, yn darllen Rhuf. v., ac yn esbonio rhanau o honi. Pan y darllenai y gŵr y geiriau, felly, gan hyny, megis trwy gamwedd un y daeth barn ar bob dyn i gondemniad," cafodd olwg yn y fan arno ei hun fel un colledig. Syrthiodd i lewyg, a chariwyd ef allan fel un marw. Ond wedi dyfod ato ei hun, a dywedyd pwy oedd, a pha beth oedd yr achos o'i lewyg, dangosodd y cyfeillion garedigrwydd mawr iddo. Aeth erbyn 2 o'r gloch i wrando pregeth i Mathafarn. Y geiriau fu'n foddion i beri iddi oleuo arno oeddynt, "Gwir yw y gair, ac yn haeddu pob derbyniad, ddyfod Crist Iesu i'r byd i gadw pechaduriaid, o ba rai y penaf ydwyf fi." "Dyma y dydd yr agorwyd fy llygaid i weled fy ngholledigaeth, ond diolch byth! i weled Ceidwad hefyd, ac o hyny hyd yn awr nid wyf wedi colli fy ngolwg ar y naill na'r llall yn gyffredin, ond ei bod yn fwy neu lai eglur ar rai prydiau na'u gilydd." Ymhen tuag wythnos wedi hyn, penderfynodd gynyg ei hun i eglwys y Methodistiaid a ymgynullai mewn tŷ anedd yn Nghwmllinau. Yr oedd ganddo haner coron yn ei feddiant, a llawn fwriadai roddi hwnw am gael myned i'r seiat, gan addaw ychwaneg rhagllaw yn ol yr hyn a allai.
"Ar nos y society aeth at ddrws y ffermdy lle y cyfarfyddid. Safai am ysbaid yno mewn cyfyng-gyngor. Anturiai o'r diwedd daro y drws â llaw grynedig. Wele frawd yn agoryd, Beth sy' arnat ti eisio yma, machgen i?' 'Eisio dwad i'r seiat, os ca'i; dyma i ch'i haner coron—y cwbl sy' gen'i yn y byd—am ddwad, os ca'i? 'Dwad, 'machgen anwyl i, cei; cadw dy haner coron; cei groeso calon gyda ni am ddim?
Gofynwyd iddo yn y cyfarfod, 'Beth pe bai Iesu Grist yn ceisio gen' ti wneyd rhywbeth drosto yn y byd, a wnaet ti hyny?'
O! gwnawn yn y fan, beth bynag a geisiai Iesu Grist gen' i.'
Rees Lumley, Dolcorslwyn, oedd y gwr a ofynodd hyn iddo, ac ymddengys ei fod wedi gofyn y cwestiwn ddwy neu dair gwaith mewn gwahanol ffyrdd. Teimlai yntau ar hyd ei oes fod rhwymau arno i wneuthur yr hyn a allai gyda chrefydd, oblegid yr amod hwn a wnaeth y noswaith y cyflwynodd ei hun i'r Arglwydd ac i'w bobl.
Yn fuan ar ol hyn galwyd arno at y Militia drachefn, yn ol ei ymrwymiad. Bu yn crwydro gyda hwy yn Sandown Castle, Dover, Cornwall, Penzance, a dychwelasant yn ol i'r Bala. Yna rhyddhawyd hwy i fyned bawb i'w gartref, gan iddi fyned yn heddwch. Daliodd afael yn ei grefydd yn ei holl grwydriadau, a gwnaeth ddaioni hefyd i'w gymdeithion digrefydd. Ar ei ddychweliad aeth i'r Cemaes, i orphen ei ymrwymiad fel prentis o grydd. Oddiyno symudodd i Aberdyfi, ac ymhen ychydig cyflogodd am haner blwyddyn i weithio ar y tir, yn Closbach, Llanegryn. Dywed mai dyma y lle y bu agosaf iddo golli ei grefydd, oherwydd nad oedd crefydd yn y teulu. Ei symudiad nesaf oedd at berthynas iddo, i'r Trychiad, yn agos i bentref Llanegryn. Gwnaeth ymrwymiad yn ei gyflogiad y tro hwn, i gael rhyddid crefyddol. Tra yr oedd yn aros yn y lle hwn y cyflogwyd ef gan Mr. Charles, i fod yn ysgolfeistr yr ysgolion cylchynol. Yr hanes dyddorol hwnw a roddwyd eisioes mewn cysylltiad â chrefydd yn yr ardal hono. "Bum dan ofal Mr. Charles," ebai, "am dros 15 mlynedd, ac yr oedd yn fyd da arnaf gyda'r ysgol." Cyflogodd gyda Mr. Charles yn y flwyddyn 1799, ac efe yn 25 oed. Bu yn symudol gyda'r gwaith hwn o'r naill ardal i'r llall, gan ddychwelyd yn ol lawer gwaith i'r un ardal, am bum mlynedd ar hugain. Yr oedd yn ei elfen yn gwasanaethu o dan Mr. Charles, ac yr oedd ei barch iddo yn ddifesur. Ni bu neb erioed yn mawrhau ei swydd yn fwy nag y mawrhai ef y swydd o ysgolfeistr. Efe a ystyrid ar y cyntaf y lleiaf oll ei fanteision o ysgolfeistriaid Mr. Charles, ond troes allan yn un o'r rhai mwyaf llwyddianus, os nad efe oedd y penaf o honynt. Beth bynag am ei allu a'i fanteision blaenorol, meddai ar ddull llwyddianus i ddenu plant a phobl. Tra bu yn cadw ysgol ddyddiol o ardal i ardal, sefydlodd Ysgolion Sabbothol, a gofalodd am achos crefydd yn ei holl ranau, allanol ac ysbrydol. Ei fanylwch gyda y rhanau allanol, a'i ysbrydolrwydd gyda'r rhanau ysbrydol, a barai ei fod yn ofalwr heb ei ail.
Yn y flwyddyn 1807 y dechreuodd L. W. bregethu, cyn belled ag y gallai ef ei hun wybod, ac yn 1815 derbyniwyd ef gan y Cyfarfod Misol yn bregethwr rheolaidd. Pregethwr diarebol fychan oedd yn nghyfrif ei gydoeswyr, a chan lawer ystyrid ef yn llai "na'r lleiaf." Cafodd, er hyny, rai odfeuon grymus, a bu ei weinidogaeth yn foddion i beri i aml un droi oddiwrth ei bechodau at yr Arglwydd. Ond fel un yn gwir ofalu am achos crefydd y rhagorodd ef yn ngwinllan yr Iesu. Cylch arbenig ei ddefnyddioldeb oedd yr Ysgol Sabbothol. Parhaodd trwy gydol ei oes i wneuthur rhywbeth gyda y rhan yma o'r winllan dilyn cyfarfodydd daufisol, ymweled â'r ysgolion, trefnu "pynciau," cynal Cymanfaoedd. Llwybr y gwnaeth lawer o ddaioni ynddo yn nechreu ei oes ydoedd fel llyfrwerthwr. Bu yn foddion i ddosbarthu llawer o lyfrau crefyddol, trwy gylch y wlad y symudai ynddi, pan nad oedd yr un llyfrwerthwr na'r un dosbarthwr i'w gael yn yr holl gyffiniau. Trwy ei offerynoliaeth ef, yn nyddiau Mr. Charles, y lledaenwyd y Drysorfa Ysbrydol, y Geiriadur, yr Hyfforddwr &c. Yr oedd ganddo law yn un o'r casgliadau cyntaf at y Feibl Gymdeithas yn yr ardaloedd hyn yn 1805, ac y mae enwau a thanysgrifiadau a wnaed yr adeg hon i'w cael ymysg ei ysgrifau. Rai blynyddau cyn diwedd ei oes llwyr gollasai ei olwg, eto elai o amgylch o dŷ i dŷ, i gasglu tuagat y Feibl Gymdeithas, yn hen ŵr dros ei 80 oed. Ymrestrodd yn un o'r rhai cyntaf o dan faner Dirwest yn 1836. Pa gymdeithas bynag a sefydlid, a pha symudiad bynag a roddid ar droed er llesoli y wlad, byddai ef y cyntaf un i'w bleidio. Bu farw Awst 14eg, 1862, yn 88 mlwydd oed. Gosodwyd cof-golofn ar ei fedd trwy gasgliadau cyffredinol yn holl Ysgolion Sabbothol Dosbarth Dolgellau, ac fel y gweddai iddi fod, y hi yw y gof-golofn uwchaf yn Llanfachreth. A ganlyn yw ei anerch ymadawol, a sibrydodd yn nghlust Mr. R. O. Rees un o'r Sabbothau olaf cyn ei ymadawiad, i'w gyflwyno i Gyfarfod Ysgolion y Dosbarth, a gynhelid yn y cyffiniau y Sabbath hwnw: "Cofiwch fi yn serchog iawn at y brodyr i gyd.— Dywedwch wrthyn nhw mai fy erfyniad olaf i am byth arnynt ydyw am i bawb weithio eu goreu gyda'r Ysgol Sul—perwch i bawb feddwl yn llawer iawn gwell—o Iesu Grist fel talwr. Dyma fi—rydw i wedi bod yn ceisio gwneyd rhyw 'chydig iawn—fel y gallwn i—yn ei wasanaeth am agos i 60 mlynedd —y talwr goreu 'rioed—arian parod bob amser a welais i— byddai'n rhoi rhyw deimlad i mi yn y fan—'y mod i'n ei blesio fo—Dallsai fo byth roi tâl gwell gen'i gael na hyny. —Dyma 'ngwasanaeth i yma ar ben—'does arno fo yr un ddimai o ddyled i mi——Beth bynag sy' geno fo i'w roi i mi eto yn y byd mawr yr ydw i'n myn'd iddo fo—gras!—gras!—gras! Yma gorchfygwyd ei lais gwan gan ei deimladau. Ni ychwanegodd air mwy at ei genadwri i mi, ond sibrwd ymlaen ynddo ei hun, 'Gras!—gras!—gras !—"' —gras!"
SION (Arthog)
Enw yr ardal hon ar y cyntaf mewn cysylltiad â'r Methodistiaid oedd "Ty Dafydd," oddiwrth enw y gŵr a roddodd ei dŷ i gynal yr achos ynddo. Cynhelid y moddion crefyddol cyntaf y mae dim hanes am danynt (heblaw y moddion a fu yn Pantphylip, yn amser Hugh Owen, Bronclydwr), mewn lle a elwir Capel Ellis. Adeilad yw hwn ar ochr y ffordd fawr, ychydig uwchlaw Arthog, i gyfeiriad Dolgellau, a ddefnyddid y ganrif ddiweddaf fel math o "Chapel of Ease" perthynol i'r Eglwys Wladol. Ond gan mai yn awr ac yn y man yn unig y byddai gwasanaeth ynddo, deuai rhai Methodistiaid o Ddolgellau, ac yn eu plith Hugh Lloyd, i gynorthwyo yr ychydig grefyddwyr yma mewn cynal cyfarfodydd gweddi, ac yn Capel Ellis y cynhelid hwy. Cedwid yr agoriad yn nhŷ Richard Lewis, Erwgoed. Un Sabbath, modd bynag, wedi i'r cyfeillion ddyfod i lawr o Ddolgellau, cawsant y lle wedi ei gloi, a'r meistr tir wedi rhoddi gorchymyn i Richard Lewis na roddai yr agoriad iddynt. Cynhaliwyd y cyfarfod gweddi y tro hwnw allan ar y "clwt glas" o flaen Capel Ellis. Ar ddiwedd y cyfarfod aethpwyd i ymgynghori pa beth a wneid rhagllaw, ac atebodd un Dafydd Robert fod ganddo ef dŷ yn feddiant iddo ei hun, y caent ddyfod yno i gadw y moddion. Felly y cytunwyd. Yna daeth yn arferiad i alw y lle wrth yr enw "Tŷ Dafydd." Peth anghyffredin yn yr oes hono oedd fod dyn cyffredin yn meddu tŷ o'i eiddo ei hun. Ond digwyddodd fel hyn yn rhagluniaethol, i'r drws gael ei agor yn yr ardal hon i'r efengyl. Yr oedd yr achos yn dechreu yma yn y wedd hon arno, o leiaf, yn 1792. Dywed y Parch. Robert Griffith, Dolgellau, ei fod yn myned pan yn ddyn ieuanc, cyn dechreu pregethu, gyda chyfeillion eraill, y flwyddyn ddilynol i Tŷ Ddafydd, i gynorthwyo i gynal cyfarfodydd gweddiau. Ty bychan ydoedd, yr hwn, gyda llaw, sydd yn aros hyd heddyw. Y mae wedi ei adeiladu yn ngodreu y graig, ar fin y ffordd, yn union gyferbyn â Gorsaf bresenol Arthog. Hen ŵr dall oedd Dafydd Robert, yn cadw cwch i gludo nwyddau dros yr afon, a'i ferch bob amser gydag ef, yn rhwyfo y cwch. Yr oedd y gamlas y pryd hwnw yn cyraedd o'r afon i ymyl ei dy. Ac y mae traddodiad yn yr ardal fod yr hen wr wedi cludo Mr. Charles unwaith yn ei gwch i'w dŷ i bregethu, ac wedi rhwymo y cwch gyda rhaff wrth bost y gwely. Bu yr achos yn cael ei gynal yn y tŷ hwn o leiaf 15 mlynedd. Y mae yn cael ei adrodd yn lled gyffredin gan hen bobl hynaf yr ardal, y rhai a glywsant yr hanes gan eu tadau, nad oedd neb yn perthyn i'r eglwys hon a fedrai ddarllen. Eu cynllun oedd, gadael i Robert Richard, Fegla Fawr, yr hwn oedd yn ddarllenwr da, ddyfod i'r cyfarfod eglwysig i ddarllen yn y dechreu, yna elai allan o'r cyfarfod ar ol darllen, gan nad oedd yn proffesu crefydd.
Dyddiad gweithred capel cyntaf Sion ydyw Hydref 26, 1806. Prydles 60 mlynedd; ardreth flynyddol, deg swllt. Richard Lewis, Erwgoed, a fedrodd gael lle i adeiladu, trwy ryw gymwynas a wnaethai i Lewis Evans, aer Garthyfog. Yr ymddiriedolwyr oeddynt—John Davies, Prisca, John Vaughan, College, Lewis Morris, Thomas Charles, Bala, Robert Griffith, Dolgellau, John Ellis, Abermaw, Richard Lewis, Erwgoed, a Robert Richard, Fegla Fawr. Hynod o'r hynafol oedd y capel yn ei wedd gyntefig llawr pridd ar ei waelod, ac heb yr un sêt fawr, na bach ychwaith, mae'n debygol. Gwnaed helaethiad arno yn 1839, trwy estyn un talcen iddo allan. Wedi hyn, yr oedd yr areithfa yn ei ochr, a'r bobl ar dde ac aswy y llefarwr, ac yntau hyd at glicied ei ên yn y pulpud, er iddo sefyll ar ben blocyn gyda hyny. A dyma'r wedd fu arno am agos i 30 mlynedd. Prynwyd y capel, sef y tir o dano, yn y flwyddyn 1857, am £100. Yn 1868 cymerwyd cam ymlaen, trwy adeiladu capel newydd. Aeth yn dipyn o ddadl ynghylch y lle i osod y newydd i lawr—rhai eisiau iddo fod yn yr hen le, ac eraill eisiau ei symud haner milldir yn uwch i fyny, yn nghyfeiriad cloddfa Arthog. Y pryd hwn y cynygiodd y Parch. G. Williams, Talsarnau, mewn cynulliad yn Nolgellau, wrth benderfynu anfon cenhadon yno dros y Cyfarfod Misol, i geisio cael y pleidiau i gydweled, fod i'r cenhadon gynal cyfarfod gweddi yn y lle, gan ychwanegu, "os nad oes digon o râs yn Sion, y mae digon yn y nefoedd." Ond adeiladu y capel yn y lle newydd a wnaed, ar y draul o £600, a thrwy ymdrech y cyfeillion y mae y ddyled wedi ei llwyr dalu er's blynyddau. Nid ydyw yr holl hanes am ddygiad ymlaen yr achos yma wedi myned yn gwbl ango. Tybia rhai o'r hen bobl hynaf fod yr Ysgol Sabbothol wedi dechreu yn Nhŷ Ddafydd. Ond yn y benod ar hanes yr ysgol yn Nosbarth rhwng y Ddwy Afon, rhoddwyd manylion am dani yn cael ei sefydlu gan Lewis Williams, yn y flwyddyn 1813. Bu yr hen ysgolfeistr yma yn cadw ysgol ddyddiol amryw adegau, a'r enw yn ei lyfrau ef ar yr ardal bob amser ydyw, "Blaenau Plwy Celynin." Y mae wedi cofnodi ei fod yn dechreu yr ysgol yma "Chwefror 17, 1813, ar yr amod i Lewis Morris, Richard Lewis, Thomas Jones, a Griffith Davies, i fod yn feichiafon am £6 o gyflog yn y chwarter." Yr oedd yma hefyd yn nechreu 1812, pryd y gwnaed ymchwiliad manwl i ansawdd yr ardal, o berthynas i nifer y trigolion uwchlaw 7 oed a fedrai ddarllen, a'r nifer ni fedrai ddarllen &c. "Rhifedi holl bobl yr ardal 253; yn medru darllen 151; heb fedru darllen, 102; penau teuluoedd, 77; teuluoedd heb Feiblau ynddynt 20. Casglwyd at y Feibl Gymdeithas £6 15s. 8½c." Yna ceir enwau pump o bersonau fel tystion i gywirdeb y cyfrifon uchod.
Ar ol Dafydd Robert, y gŵr a roddodd ei dŷ i gynal y moddion ynddo, hysbysir am deulu arall a wnaeth wasanaeth mawr tuagat gychwyn a chynal yr achos yn y lle dros lawer o flynyddoedd, sef Richard Lewis, Erwgoed, a Jane Lewis, ei wraig. Yr oedd y rhai hyn yn daid a nain i'r Parchn. E. J. Evans, Llanbedr, ac R. Evans, Harlech. Treuliasant ill dau oes faith i wasanaethu crefydd yn ngwir ystyr y gair. Yn eu tŷ hwy bob amser yr arhosai y pregethwyr, a charient fwyd iddynt i dŷ y capel, pan yr elent at Lwyngwril. Canmolir Jane Lewis fel mam yn Israel ac un nodedig am ei duwioldeb. Un arall o'r chwiorydd hynod am ei chrefydd oedd Betty Dafydd, Ty'r capel. Byddai y ddwy hyn, yn nghyda chwiorydd eraill, ar un adeg, yn cynal cyfarfod gweddi merched. Bu gwedd isel ar yr achos yma ar wahanol amserau. Yr oedd felly, medd ein hysbysydd, yn flaenorol i 1840. Oddeulu y pryd hwnw y daeth y Parch. Evan Roberts i'r ardal o'r Abermaw, a gŵr o'r enw Evan Jones (yr hwn a weithiai yn ei wasanaeth fel crydd). Yr oedd yr olaf yn meddu llawer o gymwysderau at y gwaith, yn deall cerddoriaeth, ac yn athraw defnyddiol yn yr Ysgol Sul. Rhoddwyd ychydig o'i hanes ynglyn âg eglwys Maethlon. Daeth Ellis Jones hefyd yma o Lanelltyd oddeutu yr un adeg. Yr oedd y symudiadau hyn yn gaffaeliad mawr i'r achos yn Sion. Mr. Elias Pierce, 20 Palm Grove, Birkenhead, yr hwn sydd yn frodor o'r ardal hon, mewn nodiadau helaeth o'i adgofion am y lle pan oedd yn ieuanc, a ddywed:—
Un bregeth a geid ar y Sabbath, sef am 10, ysgol am 2, a chyfarfod gweddi am 6. Yn y cyfarfod gweddi tri o frodyr a elwid at y gwaith. Byddai y cyntaf a'r olaf yn darllen penod, ac fel rheol, yn canu cyn ac wedi darllen, a byddai y weddi yn para yn fynych am ugain mynyd. Gofelid am i'r ddau hyn fod yn ddarllenwyr gweddol, ond am y canol, ni ofelid pa un a fedrai ddarllen ai peidio, ac ni fyddai neb yn teimlo angen am lyfr hymnau. Byddai gan y brodyr mwyaf anllythrenog ddau neu dri o benillion ar eu côf, a byddem ninau, y bechgyn direidus, yn dechreu dyfalu pa benill a geid. Heblaw y tri blaenor, yr oedd yno amryw o frodyr yn meddu graddau helaeth o gymwysderau i gymeryd rhan yn y gwaith cyhoeddus, ac nid wyf yn cofio gweled neb yn anufuddhau pan y gelwid arno. Enw y dechreuwr canu oedd Ellis William, hen lanc lled bigog ac anhawdd ei drin yn fynych, ond yr oedd yn hynod o fedrus fel cerddor, ac yn feddianol ar y llais mwyaf soniarus. Nid yn fynych y gwelid Lewis Morris (y pregethwr) yn y seiat, gan ei fod yn byw mewn lle pur anghysbell, ond pan y deuai cymerai yr arweiniad i'w law ei hun yn hollol, ac os byddai achos o ddisgyblaeth ger bron, gwnai fyr waith, a thra effeithiol. Unwaith yr oedd gŵr a gwraig yn arfer ffraeo a'u gilydd, a daeth L. Morris yno i drin eu hachos, ac ar ol dweyd yn llym ar y pechod o gweryla, dywedai:— Cerdd allan Wmffra, cerdd dithau ar ei ol o, Nelly,' heb ofyn arwydd o gwbl gan yr eglwys.
Arferai y pregethwyr, gan mwyaf, letya yn Erwgoed, ac weithiau ceid pregeth yno nos Sadwrn. Y pregethwr mwyaf poblogaidd genym ni y bechgyn oedd, John Williams, Llecheiddior, ac wedi iddo ddyfod i drigianu i Lanfachreth, deuai i Sion yn lled fynych, a chan ein bod wedi deall ei fod yn bur hoff o gocos, byddem yn gofalu am fyned i'r traeth i hel cocos erbyn swper nos Sadwrn, a'u hanfon i John Williams, i Erwgoed. Ac fel cydnabyddiaeth am hyn o wasanaeth, caem ninau farchogaeth ei geffyl glas, 'Simon,' dranoeth, bob yn ail ar ein ffordd i Lwyngwril, at yr odfa 2. Yr oedd yn arferiad genym fyned i Lwyngwril at 2 gyda'r pregethwyr a ystyrem ni yn rhai enwog."
Heblaw y pesonau a nodwyd, yr oedd Edward Jones, joiner, tad Richard Jones, blaenor a'r dechreuwr canu presenol, yn flaenllaw gyda'r achos. David Lewis, Fegla Fawr, ac un o'r enw Richard Jones, a gymerent ran yn fynych yn y moddion cyhoeddus. Gŵr arall llawn mor flaenllaw â'r un o'r rhai a enwyd oedd John Pierce, tad Mr. Pierce, Birkenhead. Yn ychwanegol at ei dduwioldeb diamheuol, ystyrid ef y mwyaf galluog o'r holl frodyr. Yr oedd yn ddarllenwr ac yn fyfyriwr mawr ar hyd ei oes, a byddai bob amser ar y blaen gyda phob diwygiad. Arferai yn gyffredin esbonio y benod a ddarllenai yn y cyfarfod gweddi, ac yr oedd yn feddianol ar ddawn gweddi neillduol. Ceid ganddo hefyd sylwadau gwerthfawr yn y seiat. Dywedai Mr. Humphreys, Dyffryn, wrtho unwaith—"Yr wyt ti, John, ryw led llaw neu ddwy yn uwch Calfin na mi." A dywediad Lewis Morris oedd y dylasai ei enw fod yn John Calvin. Oherwydd rhyw anghydwelediad bu ef am ychydig amser gyda'r Bedyddwyr. Ac ar ol iddo ddychwelyd yn ol at y Methodistiaid dywedai Dafydd Rolant, y Bala, am dano, "Y mae pob peth oedd yn fai yn John Pierce wedi myned hefo'r dŵr tra bu gyda'r Bedyddwyr."
Pan ddechreuodd y brodyr y Bedyddwyr achos yn yr ardal hon a Llwyngwril, yr oedd cryn nifer yn eu canlyn ar y cychwyn. O leiaf, elai llawer i edrych ar y ddefod o drochi,' fel y gwelir yn gyffredin gydag unrhyw symudiad newydd mewn cymydogaeth. Un boreu Sabbath, yr oedd y pregethwr poblogaidd, Dafydd Rolant, y Bala, yn pregethu yma, pryd y gweinyddid yr ordinhad o fedydd yn gyhoeddus gan yr enwad crybwylledig, a'r bobl wedi myned i edrych ar y ddefod, yntau a ddywedai uwchben ei gynulleidfa fechan ei hun,— "Wel, 'does yma ddim ond y gwenith heddyw, mae yr ûs wedi myned i edrych ar y mân ûs yn myn'd hefo'r dŵr." Yn Llwyngwril y prydnhawn, drachefn, yr oedd y ddefod o drochi yn cymeryd lle, a llawer wedi gadael capel y Methodistiaid, ac meddai yr hen batriarch ar ganol ei bregeth, "By be sy' ar y bobol! Pe bae nhw yn myn'd trwy gymaint o ddŵr ag sydd oddiyma i Bwllheli, fydda' nhw damad cymwysach wed'yn i deyrnas nefoedd !"
Yn yr ardal hon y treuliodd Lewis Morris, yr hen bregethwr enwog, y rhan helaethaf o'i oes, yr hwn a fu farw Mawrth 11eg, 1855, yn 95 mlwydd oed. Rhoddwyd ei hanes mewn penod flaenorol. Nid ymddengys iddo adael llawer o'i ôl ar yr ardal, oblegid teithio y wlad i bregethu y byddai ef, a threulio llawer o'i amser oddicartref, fel bron yr oll o'r hen bregethwyr. Nid oedd yn bosibl felly iddynt wneuthur llawer o ddaioni gartref, yr hyn ymhen blynyddoedd a droes yn golled i'r Methodistiaid mewn llawer man. Bu Rowland Davies (Rolant Dafydd), y pregethwr, yma yn hir yn gofalu am yr achos, ac yn byw, os nad ydym yn camgymeryd, yn nhŷ y capel. Gwelir oddiwrth lyfrau y Cyfarfod Misol ddarfod i'w weddw dderbyn cynorthwy arianol ar ol ei farwolaeth. Daeth Evan Roberts yma o'r Abermaw rhwng 1835 ac 1840. Symudodd i Sir Drefaldwyn yn nechreu 1854. Bu un pregethwr ieuanc a berthynai i'r eglwys hon farw 24 mlynedd yn ol.
Evan Jones— Ei dad oedd Ellis Jones, gŵr defnyddiol gyda'r achos yma, ac a fu farw ychydig o flaen ei fab; ei fam, yr hon sydd yn ferch i'r hen ddiacon, Hugh Barrow, Llanelltyd, a erys hyd y dydd hwn. Dygwyd Evan Jones i fyny yn pupil teacher yn Nolgellau. Bu yn Ngholeg Athrawol Bangor, ac am ychydig yn cadw ysgol yn Ponterwyd, Sir Aberteifi, ac yn Porthmadog. Dechreuodd bregethu, ac Awst, 1864, aeth i Athrofa y Bala, ond ni bu ei arosiad yno ond mis. Ymaflodd afiechyd yn ei gyfansoddiad, dychwelodd o'r Athrofa, a bu farw yn fuan. Gŵr ieuanc da ei air ymhob cylch y bu yn troi ynddo.
Robert Richard, Fegla Fawr.—Efe oedd blaenor cyntaf yr eglwys. Ni chafwyd hanes am ei neillduad i'r swydd, nac am ei farwolaeth. Efe oedd yr un a fyddai yn myned i'r cyfarfodydd eglwysig i ddarllen penod yn y dechreu cyn iddo ymuno â chrefydd. Efe, hefyd, oedd un o ychydig nifer a ymrwyment am gyflog yr ysgolfeistr yn amser L. W. Sonir hefyd am un Robert Morris wedi bod yn flaenor yma mewn adeg foreu.
John Lewis.—Efe a ystyrid y blaenor bron o ddechreu yr achos hyd ei farwolaeth. Bu yn llenwi y swydd am oddeutu 50 mlynedd, a diweddodd ei oes yn 1873. Yr oedd ganddo fedr (tact) i fod ar y blaen. Cerddodd lawer i Gyfarfodydd Ysgolion a Chyfarfodydd Misol, am y rheswm, ebe fe, nad ai neb arall i'r cyfarfodydd hyn.
John Davies. Daeth yma o Lwyngwril, a chan ei fod yn flaenor yno, galwai John Lewis sylw at hyn mewn cyfarfod eglwysig, a dymunai iddo weithredu fel blaenor yn Sion, a'r hyn y cydsyniwyd trwy godiad llaw. Parhaodd yn y swydd yn ddibrofedigaeth i'w frodyr hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le Mehefin 26ain, 1881, yn 80 mlwydd oed.
Dafydd Owen. Daeth yma o Bontddu, oddeutu 1845. Gosodwyd yntau yn y swydd trwy godiad llaw. Gan ei fod yn byw yn y Penrhyn, yn agos i Ferry Abermaw, bu ef a'i deulu yn ffyddlon i groesawu pregethwyr, trwy eu lletya, a'u cyfarwyddo ol a blaen dros yr afon. Safai yn uchel ei gymeriad yma, fel yn y lleoedd eraill y bu yn byw ynddynt. Symudodd oddiyma i'r Dyffryn.
Bu y tri hyn yn blaenori yr eglwys gyda'u gilydd am dymor maith. Yn y Cyfarfod Misol a gynhelid yma Mai 1853, rhoddai y Parch. Robert Williams, Aberdyfi, yr hwn oedd yn olygwr ar yr eglwys ar y pryd, hanes yr achos yn y lle, a dywedai, "Fod Dafydd Owen yn un ar ei ben ei hun, yn barchus, ac heb ddim gan neb i'w ddweyd yn ei erbyn:— John Davies wedi bod mewn rhyw dipyn o rwystrau a phrofedigaethau efo'r byd er's blynyddoedd, ond yn arwyddo yn awr i gael y lan—John Lewis wedi cael tywydd na chlybuwyd am ei fath yn yr oes hon yn cwrdd â neb."
John Jones, Cefncoed, a ddewiswyd yn flaenor Mawrth 1878, ac a fu farw Ebrill 20, 1880, wedi bod yn y swydd am ddwy flynedd a mis. Lewis Pugh, Ynysgyffylog, a fu yn flaenor yma am dymor, lawer o amser yn ol, ac a symudodd i'r Bwlch; Richard Jones hefyd, yr hwn a symudodd i Gorris, a fu yn y swydd yma.
Gweddus ydyw crybwyll am garedigrwydd teulu Ynysfechan i'r achos. Y blynyddoedd diweddaf y maent hwy wedi bod yn gefn mawr iddo ymhob ystyr, ac yno y lletya y pregethwyr oll er's amser maith. Y mae Mr. Jones, yr hwn sydd yn awr yn hynafgwr, ac yn analluog i fyned o'i dy, wedi ei neillduo yn flaenor er y flwyddyn 1871.
Y blaenoriaid eraill ydynt Mri. Evan Jones, a ddewiswyd yn 1870; Richard Jones, Arthog Terrace, yn 1878; Lewis Evans yn 1883.
Mae Sion wedi myned yn daith gyda Rehoboth er y flwyddyn 1867, ac o hyny allan mae yma ddwy bregeth y Sabbath. Yn y flwyddyn 1863 ymgymerodd y Parch. Owen Roberts, a bod yn weinidog ar eglwysi Sion, Llwyngwril, a'r Bwlch. Telerau ei gytundeb â'r eglwysi oeddynt; Ei gyflog—Sion 15p, Llwyngwril £5, Bwlch £3, y Cyfarfod Misol £10—£33. Ei waith —pregethu yn nhaith Sion a Llwyngwril 12 Sabbath yn y flwyddyn, ac unwaith yn y mis yn y tri lle ar noson waith. Cynal society yn y tri lle unwaith bob wythnos, oddieithr yr wythnos y byddo yn pregethu ynddynt, a chaniateid iddo beidio cynal society ond mewn dau le wythnos y Cyfarfod Misol. Parhaodd cysylltiad O. Roberts â Sion hyd 1872, ac â'r ddau le arall ynghyd a Saron hyd ei farwolaeth. Y flwyddyn hon (1888) mae eglwysi Sion a Rehoboth wedi rhoddi galwad unfrydol i Mr. John Wilson Roberts.
LLANELLTYD.
Yn Tanllan y cyfarfyddid i addoli yma y blynyddoedd cyntaf ar ol ffurfio achos yn y lle. Capel bychan oedd hwn, ychydig islaw eglwys y plwyf, o'r tu deheu iddi, ac wedi ei sicrhau yn feddiant i'r Cyfundeb. Yn fwy cywir dylid dweyd mai hen dŷ oedd Tanllan ar y cyntaf, ond wedi ei droi gan y Methodistiaid i wasanaethu fel capel. Bu cyfeillion Dolgellau yn cynorthwyo i brynu a thalu am y lle hwn. Erys llawn cymaint o dywyllwch o amgylch dechreuad yr achos yma ag un man yn y dosbarth. Y mae bron yn sicr nad oedd yma ddim moddion yn y byd yn y flwyddyn 1800, oblegid tystiolaeth L. W., fel y gwelwyd, ydyw mai un daith oedd yr holl ddosbarth y flwyddyn hono, sef Bontddu, Llanfachreth, a Dolgellau. Ac ystyrid lle yn ddigon agos i'r dref, i bawb fyned yno i foddion gras. Mae yn debyg mai Ysgol Sul ddechreuwyd yn yr ardal gyntaf, ac fe ddywedir mai Richard Roberts, Hafod fedw, wedi hyny y Parch. Richard Roberts, Dolgellau, oedd ei gwir gychwynydd hi. Efe yn sicr oedd yr un a'i dygodd i ffurf reolaidd a pharhaus. Ond dywed L. W. ei fod ef yn cadw Ysgol Sul yn hen dŷ Tanllan pan yr argyhoeddwyd Richard Roberts, yr hyn a raid fod wedi cymeryd lle yn rhywle o gylch 1805. Dywed hefyd fod Robert Ellis, Hafodfedw, tad Richard Roberts yn ŵr duwiol, ac yn un o'r crefyddwyr cyntaf yn y wlad. Byddai arferol a myned i Langeitho ar Sabbath y cymundeb. Sicr ydyw fod y gŵr hwn yn un o'r proffeswyr cyntaf a ymunodd â chrefydd yn nhref Dolgellau. A'r eglwys yn Nolgellau yr ymunodd Richard Roberts ar ol cael ei argyhoeddi, yr hyn sydd yn brawf ychwanegol nad oedd yr un eglwys wedi ei sefydlu yn Llanelltyd y pryd hwnw. Yr oedd yr Ysgol Sul, modd bynag, wedi cyraedd cryn enwogrwydd yma cyn diwedd y flwyddyn gyntaf y ffurfiwyd Cyfarfod Ysgolion y Dosbarth. Ysgrifena L. W. fel y canlyn:- Dolgellau, Hydref laf, 1817. "At Ysgol Llanelltyd, oddiwrth Gyfarfod Daufisol Bontddu. Ein hanwyl gyd lafurwyr gyda gwaith yr Arglwydd yn athrawon ac ysgolheigion—yr ydym yn ystyried ein bod tan rwymau i'ch cydnabod mewn diolchgarwch ger bron Duw am iddo eich cynysgaeddu â'r fath helaeth ddoniau i ddysgu y Gair ac egwyddorion crefydd, oherwydd mai chwi a ragorodd y ddau fis hyn mewn dysgu—(1) fel Ysgol; o'r Bibl 141 o benodau, a 2719 o adnodau; (2) un o'ch ysgol chwi a ddysgodd fwyaf, Margaret Barrow; (3) un o honoch chwi hefyd a ddysgodd fwyaf o'r Hyfforddwr, John Jones. Ewch rhagoch fel y caffom achos i'ch anerch y tro nesaf yn helaethach na'r tro hwn. Hyn oddiwrth Gyfarfod Daufisol ardaloedd Dolgellau, trwy eich ufudd wasanaethwr L. W., cynorthwyydd ysgrifenydd y cyfarfod."
Yr unig adgofion am achos crefydd yn hen gapel Tanllan ydynt ychydig o ddywediadau yr hen bregethwyr, y rhai a argraffwyd ar feddyliau y plant oedd yn eu gwrando. Pregethai yr hen bregethwr o'r Deheudir, Edward Gosslet, yno ryw adeg ar falchder, ac wedi ei gynhyrfu wrth weled y colours yn ngwisgoedd rhai o'r merched ieuainc oedd yn y cyfarfod dywedai, Pan fyddwch yn llwyddo gyda'r byd, mae gŵr y tŷ yn mynd a'r ebol bach i'r ffair i'w werthu, ac yn cael £8 am dano; tranoeth aiff y wraig i'r dref i brynu gwerth punt o artificials, i blesio mab hynaf y diafol." Un o chwiorydd hynaf yr eglwys a adroddai fod pregeth o eiddo y diweddar Barch. John Hughes, Liverpool, wedi gadael argraff dda ar feddwl y gwrandawyr. Pregethai am fawredd Duw yn ei weithredoedd, ac meddai, "Yr wyf fi fy hun i briodoli fy mod y peth ydwyf, am y byddwn yn myned yn llaw fy nhad i'r capel pan yn blentyn, a thrwy iddo ef adrodd wrthyf am y sêr y gwnaed yr argraffiadau crefyddol cyntaf ar fy meddwl." Yr un chwaer a adroddai fod Ffoulk Evans yn Llanelltyd rywbryd yn cadw seiat, gyda grym a llewyrch neillduol. Siaradai ag un o'r crefyddwyr, a phwyntiai a'i fys—"Y mae genyt ti rywbeth fydd yn aros pan fydd Cader Idris yna yn neidio oddiar ei gwadnau i'r mor." Trwy gyffelyb bregethau a chyfarfodydd y gwreiddiodd ac y cynyddodd crefydd yn y wlad.
Byddai yn arferiad gan y Methodistiaid yn Llanelltyd yn wastad, amser yn ol, fyned i'r gwasanaeth i eglwys y plwyf am un-ar-ddeg boren Sabbath; a phan fyddai gwasanaeth yr Eglwys yn digwydd bod y prydnhawn, rhoddent heibio foddion y capel yn llwyr er mwyn myned yno. Caredigrwydd mawr arall hefyd a wnaeth y Methodistiaid oedd, symud eu lle addoliad oddiwrth yr eglwys i'r man y mae y capel yn bresenol. Gwnaethant hyn yn gwbl i gyfarfod â dymuniad rhai personau a berthynent i eglwys y plwyf. Priodol iawn y gellir gofyn, Pa ad-daliad a dderbyniodd yr Ymneillduwyr yn yr ardal hon am eu caredigrwydd yr holl flynyddau aethant heibio i'r Eglwys Wladol? Tra gwahanol y mae wedi bod yma i dalu da am dda hyd yn hyn. Y mae hon yn un o'r ardaloedd yn Nghymru y bu gorfod i'r Anghydffurfwyr ddioddef llawer oddiwrth dra-arglwyddiaeth yr Eglwys.
Ar y cyntaf, yr oedd Llanelltyd yn un o dri neu bedwar lle gyda Dolgellau yn gwneyd i fyny daith Sabbath. Yn 1840, y daith oedd, Llanelltyd, Carmel, a Rhiwspardyn. Yn ddiweddarach y cysylltwyd y lle a'r Bontddu.
Adeiladwyd ysgoldy Tynycoed, yr hwn a elwir Soar, yn y flwyddyn 1846. Saif y lle rhwng Llanelltyd a'r Bontddu. Cangen ydyw hyd yn hyn, heb ymffurfio yn eglwys o gwbl, ond yr aelodau yn perthyn i Lanelltyd. Cafwyd prydles am y tir am 99 mlynedd, a haner coron o ardreth flynyddol. Yn 1837 y sefydlwyd Ysgol Sul yma gyntaf. Ellis Jones, John Owen, Maesgarnedd, a Robert Sion, Llanelltyd, yw yr enwau a geir ynglyn â'i sefydliad. Arferai y cyfeillion hyn fyned i ardal Tynycoed, i gynorthwyo mewn cynal cyfarfodydd gweddi, ac un tro wedi ymneillduo ar y ffordd i ofyn am wedd wyneb yr Arglwydd, cawsant gyfarfod gweddi hynod, a dywedir mai ar y llanerch y buont yn gweddio y codwyd capel Soar. Cafwyd y tir i adeiladu trwy offerynoliaeth gwr ieuanc oedd yn was gyda Mr. Jones, offeiriad oedd yn byw yn Borthwnog, yr hwn oedd yn berchen ar dyddyn o'r enw Maestryfar. Yn Tynycoed y cynhelid yr ysgol hyd nes yr adeiladwyd yr ysgoldy. Evan ac Ann Pugh oedd yn byw yno pan ddechreuwyd yr ysgol yn y lle, a'r wraig yn unig oedd yn gyflawn aelod ar y pryd. Dechreuwyd cadw cyfarfod eglwysig yma tuag 1860. Y tri a wnaent waith blaenoriaid ac a ofalent am yr achos o'r dechreu oeddynt Abram Pugh, Griffith Dafydd, a Richard Owen. A'r tŷ sydd wedi bod yn nodded i'r achos yn y blynyddoedd diweddar ydyw Maestryfar. Adnewyddwyd ychydig ar yr ysgoldy amryw weithiau. Ond yn 1886 gwnaed cyfnewidiad trwyadl ynddo o'r tu fewn, a rhoddwyd to newydd arno, ac aeth yr holl draul yn £47 13s. Oc. Mae yma un bregeth y Sabbath y rhan fynychaf, ac ysgol, a chyfarfod gweddi; cyfarfod eglwysig bob wythnos, a chyfarfod gweddi undebol rhwng y Methodistiaid a'r Annibynwyr bob pythefnos, er's 10 mlynedd.
Y mae yn perthyn i Lanelltyd restr lled faith wedi bod yn gwasanaethu swydd diacon. Y cyntaf oedd,—
Richard Morris. Ystyrid ef yn hynod am ei dduwioldeb, ac yr oedd yn ddychryn i annuwiolion yr ardal. Adroddir am dano ef a Hugh Barrow yn dychwelyd adref o Ddolgellau ar nos Sabbath, wedi cael hwyl nefolaidd yn y moddion yno, ac iddynt ill dau dreulio y nos i weddio o dan goeden wedi cyraedd i ymyl eu cartref. Nid anghofiodd yr un o'r ddau y nos hono tra buont byw. Bu R. Morris farw yn 1824, yn 40 mlwydd oed.
Thomas Jones. Efe oedd a'r llaw benaf yn symud yr achos o'r hen gapel i'r capel presenol. Symudodd i Ddolgellau i fyw tua 1844.
Edward Thomas. Yr oedd yn flaenor pan y symudodd yma o Lanfachreth. Trwy ei dduwioldeb a'i ffyddlondeb cyr- haeddodd ddylanwad mawr. Ynddo ef mewn modd neillduol y gwiriwyd y gair, "Ni frysia yr hwn a gredo." Ar ol gwas- anaethu swydd diacon yn dda bu farw yn orfoleddus. John Owen, Maesygarnedd a fu yn flaenor da yma, ond a ymfudodd i'r America er's llawer blwyddyn. Gwasanaethodd grefydd yn ffyddlon wedi myned i'r ochr arall i'r môr, a bu yn foddion i sefydlu eglwys Fethodistaidd yn ardal Caledonia, ger y Portage, Wisconsin.
Elias Williams a David Pugh a dderbyniwyd gyda'u gilydd yn aelodau o'r Cyfarfod Misol, Mehefin 1816. Yr oedd y cyntaf yn ŵr medrus a galluog; yn ysgrifenwr a siaradwr hwylus. Cyrhaeddodd ei ddefnyddioldeb yn bellach na'r cylch cartrefol; bu rai gweithiau yn gwneuthur gwasanaeth i'r achos yn y dosbarth. D. Pugh oedd ŵr distaw, gwastad, ffyddlon. Bu farw yn 1876, yn 79 mlwydd oed.
William Barrow.—Dewiswyd ef yn flaenor yn y Bontddu, a derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol, Mawrth 27, 1846. Yr oedd yn ŵr da a defnyddiol, zelog dros yr Hyfforddwr, yr Ysgol Sabbothol, a dirwest; plaen ac unplyg ei gymeriad, a dichlynaidd ei rodiad. Bu farw yn 1886, yn yr oedran mawr o 88.
Evan Jones, Hengwrt, a dderbyniwyd i'r Cyfarfod Misol Ionawr, 1858. Symudodd yn niwedd ei oes i Ddolgellau, a dewiswyd ef yn flaenor yno. Gwasanaethodd yr eglwys gyda ffyddlondeb mawr.
Robert Edwards.—Bu ef farw yn nghanol y flwyddyn 1886, heb fod yn y swydd o flaenor ond am dymor cymharol fyr. O ddyn cyffredin, yr oedd ef ar lawer ystyr yn anghyffredin. Yr oedd yn wreiddiol yn ei sylwadau, ac yn llafurus i gyraedd gwybodaeth. Cynyddai a deuai yn fwy defnyddiol o hyd i'r diwedd.
Mri. Robert Roberts a Thomas Griffith a ddewiswyd i'r swydd yn 1875; y cyntaf wedi symud i Rehoboth, a'r olaf wedi symud yn awr i Lwyngwril. Bu llawer eraill yn gwasanaethu yr achos yn ffyddlon yma heblaw y rhai a nodwyd. Y Parch. Richard Roberts, yn yr amser cyntaf; wedi hyny, y Parch. W. Davies, yn awr o Lanegryn; Mrs. Williams, Ty'ny -celyn; Mrs. Jones, Hengwrt; a Miss Roberts, Bwlchygwynt. Gweddus ydyw crybwyll, hefyd, gan eu bod wedi symud i le arall, am wasanaeth a charedigrwydd Mr. Thomas Griffith, y Post Office, a'i briod, yn lletya pregethwyr am lawer o flynyddoedd.
Y blaenoriaid presenol ydynt, Mri. William Pugh, Richard Roberts, Richard Evans, a William Edwards.
Bu y Parch. D. Jones, Garegddu, yn weinidog rheolaidd yr eglwys hon o 1862 i 1865; a'r Parch. J. Davies, o 1865 i 1883. Y mae y Parch. E. V. Humphreys mewn cysylltiad a'r eglwys yn awr er 1885.
Hugh Barrow a John Jones yn cadw seiat yn Llanelltyd.—
Yr oedd H. Barrow—ysgrifena y Parch. D. Jones, Garegddu, yr hwn a anfonodd y cofnodiad i'w roddi gyda hanes yr eglwys hon yn byw yn Tynant, lle rhwng Bontddu a Llanelltyd, a byddai wrth ei fod yn flaenor o gryn zel a gweithgarwch, yn myned i'r ddwy seiat, sef i Lanelltyd a'r Bontddu. Yr oedd John Jones yn ddiacon yn nghapel y Gwynfryn, ac yn wr darllengar, goleu yn yr Ysgrythyrau, ac ymhell o flaen ei gydnabod mewn profiad a gwybodaeth. Bragwr ydoedd, a byddai ar adegau yn dyfod i'r Hengwrt, gerllaw Dolgellau, i fragu, ac ar yr adegau hyny deuai i'r cyfarfod eglwysig i Lanelltyd a Dolgellau, a mawr fyddai y balchder o'i weled, a chlywed ei sylwadau tarawgar; a rhoddid ef y rhan fynychaf i gadw seiat pan y deuai.
Yr oedd John Jones un tro wedi dyfod i'r seiat i Lanelltyd, a chymhellai H. Barrow ef i fyned o gwmpas i wrando profiadau. Aeth yr hen wr yn union. Gofynai i hwn, ond nid oedd dim profiad i'w gael; gofynai i un arall, ond nid oedd dim yn dyfod; aeth heibio i bob un ac ni chafodd ddim gan neb. Yr oedd fel Gilboa ar bawb o'r gwyddfodolion; a chan mai felly yr oedd pethau, aeth i'r sêt fawr at H. Barrow, a dywedodd, "Wel, nid wyf fi yn cael dim, Hugh, gan neb, nid oes yma yr un gair i'w gael; feallai y byddai yn well i ni ein dau ddweyd ein profiadau wrth ein gilydd," ac eisteddodd i lawr yr ochr arall ar gyfer H. Barrow. "O'r goreu," meddai H. Barrow, dechreua di John Jones, mi ddeuda ina dipyn wedy'n." Ar hyn, dechreuodd John Jones ddweyd ar ei eistedd, ac adrodd yr hyn a wnelsai yr Arglwydd i'w enaid; a darluniai yr olwg newydd oedd wedi ei gael ar ogoniant Person y Gwaredwr, a'r Iawn, ei hoff bynciau, nes oedd llygaid H. Barrow yn ddagrau, a'i lestri bron ag ymddryllio. Ond dweyd a dal i ddweyd yr oedd John Jones, nes o'r diwedd y llefodd H. Barrow allan, "Wel, aros bellach, gad i minau ddweyd gair." A dechreuodd H. Barrow, a daliodd yntau i adrodd ac adrodd y pethau daionus yr oedd wedi eu mwynhau, nes y dywedai John Jones, "Wel, aros, gad i minau yrwan;" a dechreuai y llall, nes y bu y ddau hen bererin yn adrodd i'w gilydd am amser maith, a'r cyfarfod y tuallan i'r sêt fawr yn foddfa o ddagrau, a'r lle yn "fynydd y gwedd-newidiad" mewn gwirionedd. "Fel yna y mae hi, on'te, Hugh," meddai John Jones, a seliai H. Barrow y dystiolaeth ol ei brofiad ei hun. A Hugh wedy'n yn apelio at John Jones, nes yr oedd y bobl yn cael prawf fod y ddau hen Cristion yn gallu "tynu dwfr o ffynhonau yr Iachawdwriaeth," pan yr oedd ffynhonau eraill wedi myned yn hesp. Cyn y diwedd llefodd rhywun o ganol y capel mewn gorfoledd, a phe buasid yn myned o amgylch y pryd hwnw, diau y cawsid fod y dyfroedd wedi cyraedd hyd at y rhai oedd tuallan i'r sêt fawr. Ni ddeuai y ddau gedyrn hyn byth i'r cyfarfod eglwysig heb fod eu llestri yn llawnion, ond deuent yno wedi bod yn ei gymdeithas Ef, yn diferu o'r "eneiniad oddiwrth y Sanctaidd hwnw," nes y byddai yn disgyn ar hyd ymyl eu gwisgoedd.
RHIWSPARDYN.
Saif capel Rhiwspardyn ar ochr y ffordd fawr sydd yn arwain o Ddolgellau i Ddinasmawddwy, o fewn o dair i bedair milldir i'r lle cyntaf, ac ar y groesffordd sydd yn troi i gyfeiriad Corris. Yr Ysgol Sabbothol fu dechreuad yr achos yn y lle, yr hon.a gedwid am o leiaf 20 mlynedd cyn adeiladu y capel. Ysgrifenodd y diweddar Mr. R. O. Rees, Dolgellau, hanes yr ysgol hon mewn cofnod-lyfr, a gedwir hyd heddyw yn Rhiwspardyn, i groniclo digwyddiadau mewn cysylltiad â'r sefydliad. A chrynhodeb o'r hyn a ysgrifenodd ef yn 1865, ynghyd a rhai ffeithiau ychwanegol, ydyw yr hyn a roddir yma am ddechreuad yr achos.
Y lle cyntaf, adnabyddus yn awr, y cynhelid unrhyw foddion crefyddol yn yr ardal oedd Pantycra. Y person oedd yn byw yno ar y pryd oedd Richard Jones, clytiwr (cobbler) wrth ei gefyddyd. Cynhelid yno gyfarfodydd gweddi gan yr ychydig grefyddwyr oedd yn byw yn yr ardal. Denai brodyr o Ddolgellau i fyny yn achlysurol i'w cynorthwyo yn y cyfarfodydd hyn. Yn Pantycra, hefyd, y byddai y pregethu, pryd bynag y byddai rhyw bregethwr, o ryw enwad, yn y cyfleusdra i roi odfa yn yr ardal. Y lleoedd yr elai trigolion yr ardal i addoli yn rheolaidd oedd i gapel yr Annibynwyr yn y Brithdir, ac i'r dref. Nid oedd un Ysgol Sabbothol wedi ei sefydlu eto yn yr ardal; ai yr ychydig bersonau a aent i'r ysgol, i ysgolion y Brithdir a'r dref. Cyn hir, dechreuwyd cynal cyfarfodydd gweddi, ac weithiau odfa, yn yr Hafodoer. Yno y dechreuwyd cynal Ysgol Sabbothol gyntaf yn yr ardal. Sefydlwyd hi, ebe Mr. R. O. Rees, tuag 1810, gan Griffith Richards, Penycefn, yr hwny doedd, er's rhai blynyddoedd, yn arddwr yn Caerynwch. Dywed rhai, hefyd, fod yr ysgol wedi ei dechreu yn Nghwm Hafodoer mor foreu ag 1805 A hyn y cytuna tystiolaeth yr hynafgwr Richard Roberts, sydd yn byw yn awr yn nhy capel Rhiwspardyn. Y mae ef yn cofio ysgol yn cael ei chadw yn Hafodoer, yn 1806, yn nhy Richard Roberts. Yr oedd Griffith Richards, y gwr a sefydlodd yr ysgol, yn perthyn i'r Barwn Richards. Yr oedd yn ŵr hynod yn ei oes am ei ffyddlondeb gyda phob rhan o deyrnas Crist, ac am ei ddawn gwreiddiol a'i ysbryd gwresog mewn gweddi. Bu yn bleidiwr ffyddlon i'r ysgol tra bu ef yn aros yn Nghaerynwch. Tuag 1813 priododd, a symudodd oddiyno i Ddolgellau. Yr oedd y pryd hwn yn aelod gyda'r Trefnyddion Calfinaidd. Wedi dyfod i fyw i Ddolgellau, ymunodd â'r Bedyddwyr, gyda'r rhai y parhaodd yn aelod diargyhoedd hyd derfyn ei oes, yn cael ei fawr barchu gan bawb am ei dduwioldeb. Ei brif gynorthwywyr yn nygiad yr ysgol ymlaen ar y cyntaf oeddynt, gŵr y tŷ lle cynhelid hi, Richard Roberts, a Rees Williams, o'r Gorwyr. Tuag 1812, symudwyd yr ysgol i fwthyn tlawd, a safai ar y lle y saif capel Rhiwspardyn yn awr. Yno, hefyd, o hyny allan, y cynhelid y cyfarfodydd gweddi, a'r odfeuon achlysurol, yn yr ardal. Labrwr tlawd oedd yn byw yn yr hen dŷ y pryd hwn. Talai cyfeillion yr achos ryw gydnabod arianol iddo—rhent y tŷ, fel y tybir—am wasanaeth y tŷ. Y prif offeryn yn ailgychwyn yr ysgol yn hen dy Rhiwspardyn oedd Hugh Vaughan, asiedydd (joiner), yr hwn a ddaeth i weithio i'r ardal, ac a deimlai yn ddwys oherwydd iselder yr Ysgol Sabbothol, ac amddifadrwydd yr ardal, yn enwedig yr ieuenctyd, o fanteision crefyddol. Yr oedd yn enedigol o Gelynin, a'r pryd hwnw yn gweithio gydag asiedydd o Ddolgellau, ac yn cartrefu yno, ac yn aelod o gapel Salem. oedd ef yn berthynas yn ol y cnawd i'r naill neu y llall, os nad i'r ddau, Sion Vychan, o Lwyngwril. Cawsai achos crefydd, a'r Ysgol Sabbothol hefyd, symbyliad cryf mewn adeg foreuol, yn ei ardal enedigol, yn amser Lewis Morris; a chan ei fod yntau ei hun o deulu zelog, nid rhyfedd iddo deimlo yn awyddus am blanu yr ysgol yn Nghwin Hafodoer. Trwy ei daerni ef cymerodd ysgol Capel Salem ei chwaer fechan yn yr hen dŷ yn Rhiwspardyn dan ei gofal. Dygid holl draul cynhaliad yr ysgol yn y tŷ hwn gan ysgol y dref, ac anfonid brodyr am ysbaid gyda Hugh Vaughan i'w gynorthwyo. Ymysg y ffyddloniaid hyn yr oedd Ellis Williams, Evan Morris, John Jones, William Owen, glazier, Thomas Jones, druggist, John Lewis, Bwlchcoch, Griffith Davies, &c. Yn 1813 priododd H. V., Sarah Vaughan, ac aeth i fyw i Factory Clywedog, lle yr arhosodd hyd ddiwedd ei oes. Ai brodyr fel cynt o'r dref i'w gynorthwyo yn Rhiwspardyn. Aent o amgylch y ffermydd cyn amser yr ysgol bob Sabbath, i gymell pawb, yn enwedig yr ieuenctyd, i ddyfod iddi. Dywed y diweddar Mr. David Jones, Dolgellau, i Ysgol Sul gael ei chynal am ryw ysbaid yn Clywedog, yn nhŷ Hugh Vaughan, a bod effeithiau daionus iawn wedi ei dilyn yno. Ond yn ol yr hanes a rydd Mr. Rees, parhawyd i'w chynal yn hen dŷ Rhiwspardyn hyd 1818, pryd yr ymadawodd John Pugh oddiyno. Nid oedd yr hen dy ond bwthyn adfeiliedig ac anolygus nodedig, er hyny gwnaed ef yn lle cysegredig a byth-gofiadwy i lawer a gyfarfyddent ynddo, trwy i'r Arglwydd yn fynych ddyfod yno, yn ngherbyd yr iachawdwriaeth. Ymhen ychydig flynyddau ar ol hyn, achubodd Hugh Vaughan y cyfle i gael gan eglwys Salem, mewn undeb â'r brodyr yn Rhiwspardyn, i adeiladu y capel presenol yno. Y golofn bwysicaf, yn nesaf ato ef, yn cynal yr Ysgol Sabbothol a ddechreuodd yn yr ardal hon oedd Rees Williams, o'r Gorwyr, gŵr o synwyr cryf a gwybodaeth ysgrythyrol tuhwnt i'r cyffredin, ac athraw ffyddlon yn yr ysgol yn Rhiwspardyn, hyd ei symudiad oddiyno i fyw i Ddolgellau ymhen blynyddau lawer. Oherwydd ei fod yn ysgrifenwr da, byddai yn cynorthwyo llawer ar William Jones, y blaenor, gyda'r llyfrau, ac yn gweithredu fel ysgrifenydd yr eglwys, er nad ydoedd yn flaenor ei hun. Cododd yr Arglwydd, o dro i dro wedi hyny, weithwyr fyddlon ymysg y meibion a'r merched o blaid yr Ysgol Sul, a'r achos yn gyffredinol. Yr wyf yn cofio," ebe John Jones, y blaenor presenol, "chwech neu saith o rai a fyddent yn arfer a gweddio yn gyhoeddus yn y capel yn amser H. Vaughan Robert Richards, Farrier; Rees Williams, Glanyrafon, a brawd iddo, Peter Williams, Beudyglas; John Edwards, Ty'nycornel; William Jones, Tyntwll; Griffith Pugh, Dolysbyty, wedi hyny o Tanyfoel, Llanfachreth; Evan Ellis, a fu wedi hyny yn swyddog gweithgar yn eglwys Hermon. Y mae coffadwriaeth y cyfiawnion yma yn fendi- gedig yn fy ngolwg." Wedi i Rees Williams symud o'r ardal i Ddolgellau, bu Ellis Edwards, Penybryn, yn gweithredu fel ysgrifenydd i'r eglwys, a byddai Hugh Pugh, Caregygath, yn gweithredu gyda'r un gorchwyl, hwythau eu dau hefyd a fuont yn zelog a ffyddlon gyda'r achos yn Rhiwspardyn. Ymysg y merched, gallwn nodi yn arbenig Miss Anne Jones, Plas Gwanas, wedi hyny Mrs. Roberts, Brynadda, Sir Gaer- narfon, a mam Mr. John Bryn Roberts, A.S. Bu hi yn athrawes dra defnyddiol, ac yn noddwraig werthfawr i'r ysgol a'r achos yn gyffredinol am flynyddau lawer, hyd oni symudodd rhagluniaeth hi oddiyma ar ei phriodas. Bu o gynorthwy mawr gyda'r achos yn allanol, yn cynorthwyo yr hen frodyr gyda chadw y cyfrifon, a'r cyffelyb. Y mae llawer o'r cyfrifon yn amser adeiladu y capel i'w gweled eto yn ei llawysgrif hi ei hun. Ar ol ei symudiad i Sir Gaernarfon, daeth yn adnabyddus trwy yr holl gylch Methodistaidd fel un o rai mwyaf rhinweddol a rhagorol y ddaiar; a bu hi a'i phriod yn lloches i grefydd Crist ar hyd eu hoes. Sarah Vanghan, hefyd, yr hon a fu farw Medi 3ydd, 1866, yn 86 mlwydd oed, a barhaodd yn ei diwydrwydd gyda'r Ysgol Sabbothol hyd ei bedd.
Dyddiad prydles y capel ydyw Mai 1832. Ond y mae sicrrwydd oddiwrth lyfrau yr eglwys, ei fod wedi ei adeiladu bedair blynedd yn flaenorol, sef yn 1828. Telid yn flynyddol 22s. o ardreth am y tir. Aeth traul adeiladaeth yn rhywle oddeutu £200. Hugh Vaughan oedd y prif offeryn i ddwyn y gwaith hwn o amgylch, ac nid anturiaeth fechan oedd adeiladu capel y pryd hwnw. Gwaith araf-deg a thrafferthus ydoedd, pan y gwelir oddiwrth y cyfrifon daliadau tebyg i'r rhai hyn-talu am goed o Liverpool i wneuthur pen y capel, talu am eu cario i'r Bermo, o'r Bermo i Lyn Penmaen, ac o Lyn Penmaen at y capel; talu am falk flawydd i wneyd y drysau a'r ffenestri; talu am bolion o Ddolserau; am flaggs o Ddinasmawddwy; am lechau i doi o Aberllefeni; am bwysau wrth y ffenestri o'r Amwythig; am wydr a shasses o Gaergybi; am lifio coed; am flew am ben calch, a mil a mwy o bethau cyffelyb. Nid ymddengys fod dim nerth yn yr ardal i dalu dim o'r ddyled. Yr oll y buwyd yn alluog i'w grynhoi ynghyd yr amser yr adeiladwyd y capel oedd £42 11s. 10c., yr hwn swm a gasglwyd trwy docynau o wahanol fanau gan 17 o gasglwyr. Byddent yn gwneuthur casgliad at y ddyled yn fynych yn y gynulleidfa, ond ni byddai hwnw yn dyfod ond i ychydig syll- tau. Ac unwaith, ymhen rhyw bedair blynedd ar ol adeiladu y capel, derbyniasant rodd o £10 oddiwrth eglwys Salem, Dolgellau. Pan y daeth y flwyddyn i dalu holl ddyledion y capelau rhwng y Ddwy Afon, sef y flwyddyn 1839, cliriwyd dyled Rhiwspardyn hefyd yn glir ymhlith y trwp. Casglwyd ganddynt hwy eu hunain i'r gronfa gyffredinol £47 15s. Bc., a derbyniasant allan o honi £102 19s. Oc.
Yr oedd eglwys reolaidd wedi ei ffurfio er's rhyw gynifer o flynyddau cyn adeiladu y capel yn hen de Rhiwspardyn. Dywedir ar seiliau da mai John Jones, un o flaenoriaid presenol yr eglwys, oedd y cyntaf a fedyddiwyd ynddi, a hyny gan y Parch. Robert Griffith, Dolgellau. Cymerodd hyn le o leiaf bum mlynedd cyn adeiladu y capel. Ychydig oedd eu rhif am amser maith, a thlodion oeddynt o ran pethau y bywyd hwn. Ymhlith crybwyllion eraill, dywed Mr. John Jones, Tyddynygareg, "Yn nechreu y flwyddyn 1836, sefydlwyd yr achos dirwestol yma, a gwnaeth les dirfawr yn ein plith. Nid yn gymaint, feallai, o sobri y meddwon, ag o atal rhai rhag meddwdod, ynghyd â glanhau a phuro yr aelodau eglwysig oddiwrth yr arferiad o ddiota a chyfeddach. Oddeutu y blynyddoedd 1840-1844, bu y Parch. William Jones, Rhyd-ddu, yn aros yn y gymydogaeth. Yr oedd chwarel yn cael ei gweithio y pryd hwnw ar fynydd Gwanas, a bu Mr. Jones yn oruchwyliwr arni y blynyddau a nodwyd. A chan ei fod yn bregethwr mor rhagorol, bu yn foddion i godi yr achos yn Rhiwspardyn i'r safle uchaf y bu ynddi erioed. Byddai yn pregethu yn fynych yn yr ardal, a mawr fyddai y cyrchu o'r gwahanol fanau i'w wrando. Daeth llawer at grefydd yn ein hardal yn ystod yr amser y bu yn aros yn ein plith, pa rai fuont yn addurn i grefydd hyd ddiwedd eu hoes. Hefyd, daeth Mr. Jones a llawer o ddynion da gydag ef o Sir Gaernarfon, fel rhwng pob peth, yr oedd yr aelodau eglwysig y pryd hwn o 60 i 70 o nifer."
Ond wedi i'r chwarel hon sefyll, daeth cyfnewidiad pur fawr ar yr ardal. Ymadawodd llawer o'r bobl, a syrthiodd achos crefydd eto i sefyllfa isel. Yn 1848, sef ymhen ugain mlynedd wedi adeiladu y capel, rhif y cymunwyr oedd 34; gwrandawyr, 80: Ysgol Sabbothol, 60. Ac nid oedd eu holl gasgliadau ond 7p. 14s. 6c. Tua'r pryd hwn hefyd rhoddwyd caniatad gan Gyfarfod Misol a gynhaliwyd yn y Dyffryn, i'r brodyr yn Rhiwspardyn i ostwng prisiau eisteddleoedd eu capel o 6d. i 4c. Nid oedd rhyddid yn yr amser gynt i gyfodi na gostwng prisiau yr eisteddleoedd, na defnyddio yr arian a dderbynid oddiwrthynt yn unrhyw fan, ond wrth reol a chyfarwyddyd y Cyfarfod Misol. Amddeng mlynedd drachefn wedi yr amser yr ydym yn son am dano, parhaodd yr achos yma yn hynod o isel ymhob ystyr, a byddai brodyr o Ddolgellau yn dyfod i fyny eto i gynorthwyo i gynal cyfarfodydd gweddi ar nos Sabbothau. Nid oedd y blynyddau hyn ond un blaenor ar yr eglwys, sef William Jones, Ty'ntwll. Ond tra yr ydoedd yn hynod dywyll fel hyn ar yr achos, cyfododd gwawr o le arall. Yn ngwyneb fod llawer o eglwysi gweiniaid y sir yn dioddef oddiwrth amddifadrwydd bugeiliaeth eglwysig, a golwg wywedig arnynt, cymerodd y Cyfarfod Misol sylw difrifol a phenderfynol o'u hachos. Yr oedd Rhiwspardyn, Seion, Llwyngwril, a'r Bwlch yn cael y sylw cyntaf yn y peth hwn. Wedi i'r achos fod dan ystyriaeth am ddau neu dri mis, yn Nghyfarfod Misol Tanygrisiau, Tachwedd, 1857, penderfynwyd sefydlu y Parch. Owen Roberts, y pryd hwnw o Bethesda, Ffestiniog, yn weinidog yn Rhiwspardyn, ac wele yn canlyn gopi o'r cytundeb a wnaed ar y pryd ag Owen Roberts:—
Cytundeb a wnaed â'r Parch. Owen Roberts, Rhiwspardyn, 1857.
Cytunodd y Cyfarfod Misol â'r Parch. Owen Roberts i fod yn weinidog a bugail ar eglwysi Rhiwspardyn, Silo, a Carmel, ac hefyd Ystradgwyn, a'r Cwrt. Y mae bregethu yn nhaith Rhiwspardyn am 9 Sabbath yn y flwyddyn, a 3 Sabbath yn nhaith Ystradgwyn a'r Cwrt; ac i fod yn nghyfarfodydd eglwysig Spardyn, a Silo, a Carmel bob wythnos, ac mor aml ag y gall yn nghyfarfod eglwysig Ystradgwyn, ac hefyd yn y Cwrt pan y gallo. Bod iddo fod yn olygwr ar gyfrifon a chasgliadau eglwysig y pedwar lle uchod, ac ymhob modd i fod yn weinidog a bugail, i'w dysgu a'u harwain i fyw yn dduwiol yn ol Gair Duw. Ei gyflog am y gwasanaeth uchod sydd i fod yn £30 yn y flwyddyn, yn nghyda'r tŷ sydd wrth Gapel Rhiwspardyn i fyw ynddo, yr hwn a fernir sydd yn werth £3 10s. 0c. yn y flwyddyn. Y mae efe i ofalu hefyd am lanhau capel Rhiwspardyn, a chadw y tŷ ac oddeutu y tŷ a'r capel yn weddus ac mewn trefn. A thuag at wneyd i fyny y cyflog uchod, y mae cyfeillion Rhiwspardyn i dalu 3p. yn y flwyddyn; Silo i dalu 3p. Carmel i dalu 3p; ac Ystradgwyn a'r Cwrt i dalu 3p, a bod yr elw a geir oddiwrth werthiant y Drysorfa, yn y pen yma o'r Sir, i gael ei gymhwyso at yr achos hwn, a bod yr hyn a fydd yn eisiau wedi hyny i wneyd y swm yn 30p. i gael ei gymeryd o'r casgliad cenhadol bob blwyddyn.
Daeth Owen Roberts a'i deulu i Rhiwspardyn ar y 23ain o fis Chwefror, 1858. Y mae cyflog O. R. i gael ei dalu yn chwarterol."
Dyma ddechreuad cyntaf y Genhadaeth Sirol. Dylid coffhau, hefyd, fod yr eglwysi uchod wedi ymuno i roddi galwad i Owen Roberts. Trwy garedigrwydd Mr. Williams, Ivy House, a chyfeillion eraill o Ddolgellau, helaethwyd tŷ capel Rhiwspardyn, a gwnaed ef yn gysurus i weinidog fyw ynddo. Felly gwawriodd ar yr achos yma, yr oedd y praidd yn hoffi y gweinidog, a'r gweinidog yn hoffi y praidd, siriolodd y bobl, a bu adnewyddiad ar grefydd yn yr ardaloedd. Ond cyn hir, daeth cwmwl dros y gweinidog, fel y crybwyllwyd yn fyr yn ei hanes, mewn cysylltiad â Llwyngwril. Yn y cyfwng y buont yn awr heb weinidog, torodd y Diwygiad allan, a chwanegwyd llawer at nifer yr eglwys. Teimlent eu hangen yn fawr drachefn am gynorthwy i ofalu am y dychweledigion. Fel un step tuag at wneyd eu hangen i fyny, aethpwyd i ddewis blaenoriaid, neu yn hytrach, flaenor. A'r tro hwn, hyd y gwyddom, oedd y tro cyntaf yn hanes yr eglwys am yn agos i 40 mlynedd o amser, yr ychwanegwyd nifer y blaenoriaid o un i ddau. Mr. Hugh Pugh, Tyddynmawr, a ddewiswyd yn ddiacon yn 1860, ac efe sydd wedi bod yn dal y swydd o ysgrifenydd yr eglwys o hyny hyd y pryd hwn. Yn haf y flwyddyn 1862, daeth y Parch. Evan Roberts, yn awr o'r Dyffryn, yma i gymeryd gofal yr eglwys. Ond wedi gwasanaeth llwyddianus am oddeutu blwyddyn, ymadawodd yntau, tua chanol 1863, i fyned i Cemaes, Sir Drefaldwyn. Wedi bod am dymor eto heb neb yn eu bugeilio, rhoddodd yr eglwysi hyn alwad drachefn i'r Parch. J. Eiddon Jones, yn awr o Lanrug, Ymgymerodd ef â bugeiliacth Rhiwspardyn, Silo, a Carmel, yn Gorphenaf, 1866. Rhoddodd Carmel i fyny yn 1868, neu y flwyddyn ganlynol, ond bu yn Rhiwspardyn a Silo hyd ddiwedd Hydref, 1870. Er ei fod yn enedigol o un cwr i'r daith, bu yn gymeradwy a defnyddiol yn ystod amser ei weinidogaeth yn y lle. Byddai yn cerdded gyda chysondeb i Rhiwspardyn, i gynal cyfarfodydd eglwysig, cyfarfodydd canu, cyfarfodydd darllen, a chyfarfodydd gyda'r plant ganol yr wythnos. Eu tystiolaeth yn yr eglwys yma ydyw iddo wneuthur llawer o les gyda'r plant a'r bobl ieuainc. Efe a ddaeth a'r drefn o ganu gyda'r Tonic Sol-ffa i'r ardal gyntaf crioed. Y pryd hwn, hefyd, aethpwyd ynghyd âg ail wneyd y capel oddimewn. Yr oedd dau deimlad yn bod o berthynas i'r gwaith hwn; yr hen bobl eisiau gwario dim ond ychydig, y bobl ieuainc a'r gweinidog eisiau gwneyd y gwaith yn drwyadl, costied a gostio. Methai yr hen bobl a chydweled i wneuthur dim i'r adeilad, oherwydd eu parch i "hen gapel Hugh Vaughan." Cynllun y bobl ieuaine a orfyddodd, a hwnw a droes allan y goreu o ddigon yn y pen draw. Aeth y draul oddeutu 90p. Yn 1868, cwblhawyd y gwaith, a chyn diwedd y flwyddyn hono, casglwyd yn ymyl 50p., gan adael dyled o 40p., ac ymhen dwy flynedd, cliriwyd yr oll. Y mae y capel yn awr, er nad yw yn fawr, yn gysurus a da.
Hugh Vaughan oedd y blaenor cyntaf. Yr oedd wedi ei ddewis yn Salem, Dolgellau, cyn iddo symud o'r dref, ac yr oedd efe fel Moses yn arwain yr holl eglwys o Ddolgellau i Rhiwspardyn. Efe oedd yr unig flaenor yma o'r dechreu hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le Tachwedd 8fed, 1835, yn 56 mlwydd oed. Pan adeiladwyd y capel y tro cyntaf, efe ydoedd y "pen saer celfydd" gyda'r adeilad, ac enaid a bywyd yr holl symudiad, blaenor yr eglwys, arolygwr yr ysgol, a thad yr achos yn y lle hyd ei fedd. Nid yn unig yr oedd yn gofalu am adeiladu y capel cyntaf, ond efe a weithiodd y gwaith coed a'i law ei hun: ac fe wnaeth y gwaith mor dda ac mor drwyadl fel yr oedd hyn yn ddadl gref gan lawer o bobl y lle ugain mlynedd yn ol yn erbyn ail wneyd dim ar y capel. "Colled fawr i'r achos, megis yn ei fabandod," ebe un o'i gydnabod, oedd ei golli ef, oblegid yr oedd ef yn da, yn llawn o ffydd ac o'r Ysbryd Glan; yn hynod o lym yn erbyn drygau yr oes, ac yn llawn awydd am wasanaethu ei Arglwydd mewn cysylltiad â'r achos ymhob modd." Ebe un arall,—"Bydd coffadwriaeth Hugh Vaughan yn fendigedig ac yn berarogl hyfryd yn yr ardal hon am oesau i ddyfod, fel Cristion disglaer, gwyliedydd effro, llafurwr ffyddlon, ie, fel apostol Cwm yr Hafodoer."
William Jones, Tyntwll—Bu yr eglwys am bum' mlynedd ar ol marw H. V. heb yr un blaenor. Dewiswyd W. Jones yn 1840. I'r Brithdir yr arferai fyned yn ddechreuol i addoli. ond cafodd ei anog i ddyfod i Rhiwspardyn, i ddechreu canu, a pharhaodd i arwain y canu am flynyddoedd, hyd nes y daeth Llyfr Tonau Ieuan Gwyllt i arferiad. Gŵr tawel, llariaidd, tangnefeddus ydoedd. Bu pwysau yr achos yn gorphwys ar ei ysgwyddau ef mewn adeg isel ar grefydd yn yr ardal—efe oedd unig flaenor yr eglwys am ugain mlynedd lawn a diameu y gellir dweyd am dano iddo fod yn ffyddlawn yn yr holl dy. Bu farw Ionawr 25ain, 1871. Yn y Cyfarfod Misol ar ol ei farw, gwnaed coffhad parchus am dano yn y geiriau canlynol: "Rhoddid canmoliaeth uchel iddo fel Cristion a blaenor, ac un yr oedd ei ffyddlondeb wedi enill iddo air da gan bawb a'i hadwaenai; ac oherwydd ei brofiad a'i ddoethineb, edrychai ei gydnabod i fyny ato fel patriarch." Y blaenoriaid presenol ydynt, Hugh Pugh, John Jones, a Hugh Hughes. Yn yr eglwys hon y dechreuodd y Parch. Richard Evans, Harlech, bregethu. Y mae y Parch. H. Roberts, Siloh, mewn cysylltiad gweinidogaethol a'r eglwys er y flwyddyn 1870.
REHOBOTH.
Un o'r lleoedd gweiniaid ydyw Rehoboth wedi bod o'r dechreuad. Er mwyn yr anghyfarwydd, yr ydys yn hysbysu y saif y capel hwn yn agos i gwr uchaf glyn cul, sydd yn ymwthio at odreu Cader Idris, rhwng Dolgellau ac Arthog. Fel taith Sabbothol, bu o'r dechreu am dymor maith mewn cysylltiad â Dolgellau; yn awr, er 1867, y mae mewn cysylltiad ag Arthog. Adnabyddid y lle cyn adeiladu y capel, a thros amser wedi hyny, wrth yr enw Hafod-dywyll, oddiwrth y ffermdy y cynhelid y moddion ynddo. Mewn cofnodiad byr a wnaed 25 mlynedd yn ol, dywedir fod Ysgol Sul wedi ei sefydlu yma i ddechreu oddeutu 1800, mewn ffermdy a elwid Tyddyn, lle yr oedd gŵr o'r enw Robert Prichard yn byw ar y pryd. A thybir mai dyfodiad William Hugh i gadw ysgol ddyddiol i'r ardal fu yn achlysur iddi gael ei sefydlu. Aeth yr ysgol i lawr, trwy i'r teulu lle y cedwid hi symud o'r ardal, ac ymddengys y bu llawer o flynyddau wedi hyny heb yr un Ysgol Sul yma o gwbl. Cynhelid hi, cyn cael y capel, yn Hafod-dywyll, lle y preswyliai John Jones, tad y Parch. Richard Jones, a ymfudodd i'r America. A dywedir y bu yn cael ei chynal am 16 mlynedd yn nhŷ tad John Jones, yn flaenorol i hyny. Yr hyn sydd yn sicr ydyw, ei bod yn cael ei chynal yn Hafod-dywyll oddeutu 1830, a'i bod yn lled liosog, oblegid fod poblogaeth yr ardal lawer yn fwy y pryd hwnw nag ydyw yn awr.
Adeiladwyd y capel cyntaf gan y Methodistiaid yn yr ardal yn y flwyddyn 1833. Dyddiwyd y weithred Tachwedd 1af, y flwyddyn hono; prydles, 99 mlynedd; ardreth, haner coron. Cynhaliwyd cyfarfod ei agoriad Hydref 17eg yr un flwyddyn, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn. Cadwaladr Owen, Lewis Morris, William Jones, Edward Rees, ac Edward Foulk. Talwyd am eu gwasanaeth cydrhyngddynt 11s. 6c. Y personau fu yn gweithio fwyaf gyda'r adeiladu, cyn belled ag y gwyddis, oeddynt John Jones, Hafod-dywyll, a Lewis Evans, Tynant. Nid yw yn wybyddus pa faint oedd traul yr adeiladaeth, ond y mae sicrwydd i'r ddyled gael ei chwbl glirio yn 1839. Casglwyd tuag at hyny y flwyddyn hono 19p. 13s. 6c., a thalwyd gronfa gyffredinol i dalu dyled y capelau 70p. 13s. 4c. Oddeutu yr amser yr adeiladwyd y capel y ffurfiwyd yr eglwys. Y cyfrif cyntaf ar gael o nifer yr aelodau yw 13.
Yn 1851, eu rhif oedd 11. Yn 1860, daeth eu rhif tua 40. Cymerodd symudiadau le wedi hyny, ac aeth wyth i berthyn i Ddolgellau, wedi adeiladu ysgoldy y Penmaen. Tra yr oedd y lle yn daith gyda Dolgellau, Hafod-dywyll oedd llety y pregethwyr bob amser. O'r adeg yr ymgysylltodd âg Arthog, yn 1867, Cae Einion sydd wedi bod yn gartrefle parhaus iddynt, ac y mae y croesaw a'r caredigrwydd a geir yno yn ddigon hysbys i'r tô presenol o bregethwyr.
Erbyn hyn y mae y cyfeillion yma wedi cael capel newydd hardd a chysurus i addoli ynddo. Yr oedd yr hen gapel mewn cilfach dywyll ac oer; ni fyddai haul yn tywynu o'i fewn ddydd yn y flwyddyn. Ac un prawf o ddwyfoldeb yr efengyl ydyw, ei bod wedi gallu byw yn y fath le am 50 mlynedd. Nid gorchest fechan i eglwys mor lleied ei nifer oedd yr anturiaeth o adeiladu capel newydd. Cynhaliwyd cyfarfod o gyd-ymgynghoriad; yn hwn yr oedd tri neu bedwar am adnewyddu yr hen gapel, ond y gweddill am gael capel newydd. A'r penderfyniad i gael un newydd a gariodd y dydd. Rhoddwyd lle i adeiladu, ynghyd â darn lled helaeth o dir at fynwent, yn rhad ac yn rhodd gan ŵr o'r gymydogaeth, Mr John Griffith, Callestra, ar yr amod i'r fynwent fod yn rhydd i'r ardal yn gyffredinol. Am y weithred gymydogol a Christionogol hon, talodd y Cyfarfod Misol eu diolchgarwch gwresocaf. Cafwyd swm gwell na'r disgwyliad o addewidion yn yr ardal, a disgwylid bod yn abl i dalu haner y draul wrth agor y capel. Wedi dechreu gyda'r gwaith, pa fodd bynag, daeth cyfeillion o'r tu allan i helpu, un gyda 1p., arall 2p., arall 5p., arall 10p., ac arall gyda 15p. Ac i'w cynorthwyo i orphen, rhoddodd y Cyfarfod Misol 30p. Felly, agorwyd y capel yn gwbl ddiddyled, a theimlad y cyfeillion oedd fod llaw yr Arglwydd yn amlwg gyda'r gwaith. Yr holl draul oedd £250, heblaw y gwaith a wnaeth y cyfeillion eu hunain gydag ef. Cynhaliwyd cyfarfod i agor y capel Mehefin 9, 1884, a chymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan y Parchn. W. Jones, Trawsfynydd, W. Thomas, Dyffryn, R. Evans, Harlech, H. B. Williams, Wrexham, J. Davies, Bontddu, a T. J. Thomas, Dolgellau. Yr oll yn rhoddi eu gwasanaeth yn rhad.
Cyfododd un pregethwr o'r ardal hon, sef y Parch. Richard Jones, Hafod-dywyll. Bu yn flaenor am ryw gymaint o amser pan yr oedd yn ddyn ieuanc. Aeth i Athrofa y Bala oddeutu y flwyddyn 1843, a rhywle yn agos i'r amser hwnw, gallwn dybio, y dechreuodd bregethu. Ymfudodd i'r America oddeutu ugain mlynedd yn ol. Preswylia yn awr yn ardal Red Oak, Iowa. Parha yn wr llafurus gyda phob rhan o achos yr Arglwydd, a phregetha fel y bydd galwad am dano. Bu yr eglwys yma am flynyddau lawer, ar wahanol amserau, heb ddim ond un blaenor yn perthyn iddi.
Lewis Evans, Tynant.—Dewiswyd ef yn flaenor yn Salem, Dolgellau, a derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol Ebrill 25, 1833. Pan ffurfiwyd eglwys yn Rehoboth, neu yn hytrach yn Hafod—dywyll, yn fuan wedi ei ddewisiad yn Salem, arhosodd yma, ac efe a fu yn flaenor cyntaf yr eglwys, a'i hunig flaenor am lawer o amser. O blith llawer o'i weithredoedd da gyda'r achos, hysbysir am un ffaith hynod. Yr oedd wedi addaw y swm o 5p. at dalu dyled y capel. Talodd haner y swm, ond nis gwyddai yn y byd o ba le i gael yr haner arall. Ac yr oedd ei bryder a'i drallod yn eu cylch yn gymaint fel y methai a chysgu yn ei wely y nos. Yr adeg hon, digwyddodd ystorm echrydus o fellt a tharanau, a gwlaw trwm, pryd yr oedd y teulu oll, yn dad, mam, a phlant, wedi ymgasglu i'r tŷ. Tra yr ymarllwysai y gwlaw i lawr, dyna guro wrth ddrws y Tynant. Boneddwr a'i deulu oedd yno yn ewyllysio cael dod i mewn, i ochel yr ystorm. Caniatawyd iddynt ddyfod yn ebrwydd, a chawsant bob caredigrwydd ac ymgeledd, a chynorthwy i sychu eu dillad gwlybion. Wrth fyned ymaith, estynai y boneddwr 1p. i Lewis Evans, a 1p. i Anne Evans ei wraig, a 10s. rhwng y plant. Dyna yr haner can swllt wedi dyfod! Torodd Lewis Evans allan i wylo. Y boneddwr yn methu deall hyn (oblegid nis medrai ef Gymraeg, ac ni fedrai L. E. Saesneg) a barodd i'w arweinydd ofyn paham yr oedd yn wylo. Mynegwyd iddo yr holl hanes, a'r pryder yr oedd y teulu ynddo i allu talu eu hadduned at y capel. "Wel," ebai y boneddwr, "yr wyf finau yn swyddog eglwysig, a gwn ryw gymaint am bryder gydag achos yr Arglwydd—dyma i chwi 50s. i dalu eich adduned at y capel, a chedwch y lleill at anghenion teuluaidd." Felly dyna Ragluniaeth wedi gofalu am y 5p. yr oedd yr hen Gristion wedi en haddaw mewn ffydd at achos y Gwaredwr! Gŵr hynod o dangnefeddus oedd Lewis Evans. Pan y rhoddid sen iddo, fel y rhoddir yn aml i swyddog eglwysig, ni roddai ef yr un sen yn ol. Ei air a fyddai "myned tros gamwedd yw y peth goreu." Parhaodd yn ffyddlon gyda'r achos hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le yn 1864.
John Lewis, Dyffrydan.—Yn ddiweddar bu ef yn flaenor. Er nad oedd wedi cael fawr o fanteision addysg, bu yn weithgar gyda'r achos, a chyflawnodd ei swydd yn ffyddlon. Yr oedd yn athraw da hefyd ar y plant tra fu byw. Teimlid colled fawr ar ei ol fel crefyddwr a blaenor. Bu farw Ebrill 16, 1886. Ni chafwyd sicrwydd am flaenoriaid fuont feirw heblaw y ddau hyn. Bu Mr. Ellis Williams sydd yn awr yn Saron yn llenwi y swydd yma am rai blynyddau. Yr unig un yn y swydd yn awr ydyw y blaenor gweithgar ac adnabyddus, Mr. David Evans, Cae Einion.[10] Y mae yr eglwys y flwyddyn hon, mewn undeb â Sion, wedi rhoddi galwad i Mr. John Wilson Roberts, o Arfon, i'w gwasanaethu yn yr efengyl.
ABERGEIRW.
Lle neillduedig ac anghysbell ydyw Abergeirw. Saif rhwng y bryniau moelion, oddeutu 10 milldir o Ddolgellau, a 7 o Drawsfynydd. Oherwydd fod yr ardal, a'r cymoedd cylchynol, hyd yn nod yn yr hen amser, allan, fel y dywedir, o'r byd, yr oedd y trigolion o dan anfantais fawr i gael na diwylliant, na dysg, nac efengyl. Er hyny eyrhaeddodd swn yr efengyl yma yn lled foreu, o leiaf yn nyddiau Mr. Charles. Y mae